Ad te Domine. Psal. xxviij.
Gweddi trosto ei hun, yn erbyn rhai trahaus ar Dduw a dyn: a bendithio'r eglwys.
ATtad (Ion fy nerth) y rhof lef,
Duw nef na fydd di fyddar:
Os tewi, rhag fy mynd mor drist,
a bod mewn cist dan ddaiar.
[verse 2] O Arglwydd, erglyw fy llais i,
a derbyn weddi bruddaidd;
Pan gottwyf fy nwy law o bell,
Duw, tua'th gafell sanctaidd.
[verse 3] Ac na ddarostwng fi, fy Ior,
dan ddwylo'r annuwolion
Y rhai sy'n arwain minau mel,
a rhyfel yn eu calon.
[verse 4] Yn ol bwriad eu calon gau,
a'r twyll ddyfeisiau eiddynt,
Yn ol eu drwg weithredoedd hwy,
Duw tâl eu gobrwy iddynt.
[verse 5] Am na 'styriant weithredoedd Duw,
ef a wna ddiffryw arnynt:
Am na welent ei wyrth a'i râd,
ni wna adeilad honynt.
[verse 6] Bendigaid fytho'r Arglwydd nef,
fe glybu lef fy ngweddi.
[verse 7] Yr Arglwydd yw fy nerth, a'm rhan,
a'm tarian, a'm daioni.
Ymddiriedais iddo am borth,
a chefais gymorth gantho.
Minnau o'm calon, drwy fawr chwant,
a ganaf foliant iddo.