Afferte Domino. Psal. xxix.
Erchi i gedyrn gydnabod a'r Arglwydd ei fod yn hollalluog: a dwyn y taranau a'i nerthoedd eraill, i arwyddo hynny.
RHowch i'r Arglwydd, a rhowch yn chwyrn,
chwi blant y cedyrn, foliant:
Cydnabyddwch ei barch, a'i nerth,
mor brydferth, a'i ogoniant.
[verse 2] Rhoddwch i enw yr Arglwydd glod,
heb orfod mwy mo'ch cymmell,
Addolwch Arglwydd yr hell fyd:
mor hyfryd yw ei Babell!
[verse 3] Llais yr Arglwydd sydd vwch dyfr∣oedd,
Duw cryf pair floedd y daran.
Vwch dyfroedd lawer mae ei drwn,
nid yw ei swn ef fychan.
[verse 4] Llais yr Arglwydd, pan fytho llym,
a ddengys rym a chyffro:
A llais yr Arglwydd a fydd dwys,
fel y bo cymwys gantho.
[verse 5] Llais yr Arglwydd a dyr yn fân
y Cedrwydd hirlân vnion,
Yr Arglwydd a dyr, yn vswydd,
y Cedrwydd o Libânon.
[verse 6] Fel llwdn vnicorn neu lo llon
fe wna'i Libanon lammu,
[verse 7] A Sirion oll: llais ein Ior glân
a wna'i fflam dân wasgaru.
[verse 8] Llais yr Arglwydd, drwy ddyrys lyn,
a godai ddychryn eres:
Yr Arglwydd a wna ddychryn fflwch
drwy holl anialwch Cades.
[verse 9] Llais yr Arglwydd y piau 'r glod,
pair i'r ewigod lydnu:
Dinoetha goed: iw deml iawn yw
i bob rhyw ei foliannu.
[verse 10] Yr Arglwydd gynt yn bennaeth oedd,
ar y llif-ddyfroedd cethrin:
Yr Arglwyd d fu, ef etto sydd,
ac byth a fydd yn frenin.
[verse 11] Yr Arglwydd a rydd iw bobl nerth,
dwry brydferth gyfanneddwch.
Yr Arglwydd a ryddei bobl ymhlith
ei fendith, a hir heddwch.