Dominus illuminatio. Psal. xxvij.
Ffydd Dafydd tuag at Dduw, tra orfu arno fod allan o'r orsedd: a'i gysur i bawb yn eu blinder.
YR Arglwydd yw fy ngolau'gyd,
a'm iechyd: rhag pwy'r ofnaf?
Yr Arglwydd yw nerth fo'es: am hyn,
rhag pwy doe ddychryn arnaf?
[verse 2] Pan ddaeth rhai anfad, sef fy nghas,
o'm cwmpas er fy llyngcu,
Llithrasant a chwympasant hwy,
ni ddaethant mwy i fynu.
[verse 3] Niddoe ofn ar fy nghalon gu,
pe cyrchai llu i'm herbyn:
Neu pe codai gâd y modd hwn,
mi ni wanffyddiwn ronyn.
[verse 4] Vn arch a erchais ar Dduw nâf,
a hynny a archaf etto:
Cael dyfod i dy 'r Arglwydd glân,
a bod a'm trigfan yntho:
I gael ymweled a'i Deml deg,
a hyfryd osteg ynthi
Holl ddyddiau f' einioes: sef wyf gaeth
o fawr hiraeth am dani.