Confitemini Domino. Psal. cv.
Mae fe yn canmol daioni Duw, am ei dewis hwy yn bobl iddo, gan wneuthur iddynt ddaioni er mwyn ei addewid.
CLodfored pawb yr Arglwydd nef,
ar ei enw ef y gelwch,
A'i weithredoedd ymmysc pobloedd,
yn gyhoedd a synegwch.
[verse 2] Cenwch ei gerdd, clodforwch hwn,
a'i ddidwn ryfeddodau.
[verse 3] Y rhai a gais ei enw, (y Sant)
llawenant yn eu c'lonnau.
[verse 4] Ceisiwch yr Arglwydd a'i nerth mawr,
a'i fodd bob awr yn rhadlon,
[verse 5] Cofiwch ei holl ryfeddodau,
a barn ei enau cyfion.
[verse 6] O hâd Abraham ei wâs fo,
o feibion Iaco 'r ethol:
[verse 7] Ef yw'n Duw, a'i farn ef aeth
dros holl diriogaeth fydol.
[verse 8] Bob amser cofiodd ei gyn-grair,
ei air, a'i rwym ammodau
[verse 9] Ag Abraham, Isaac, a'i hil,
a mil o genedlaethau.
[verse 10] Fe roes i Iaco hyn yn ddeddf,
ac yn rwym greddf dragwyddol.
[verse 11] Ac i Israel y rhoes lân
wlâd Canan yn gartrefol.
[verse 12] Pan oedd yn anaml iawn eu plaid,
a hwy 'n ddieithriaid ynddi;
[verse 13] Ac yn rhodio o'r wlâd i'r llall,
yn dioddef gwall a chyni:
[verse 14] Llesteiriodd iddynt gam yn dynn:
o'r achos hyn brenhinoedd
A geryddodd ef yn eu plaid:
a'i air a gaid yn gyhoedd,
[verse 15] A'm eneiniog na chyffyrddwch;
na ddrygwch fy mrhophwydi.
[verse 16] Galwodd am newyn ar y tir,
yn wir dug fara' honi.