[verse 8] Weithiau y codai'r deifr yn sryn:
weithiau fel glyn panhylent,
Lle y ••refnaist iddynt bannwl cau,
ac weithiau y gorphwysent.
[verse 9] Gosodaist derfyn lle yr arhont,
ac sel nad elont drosto:
Ac na ddelont hwy fyth dros lawr
y ddaiar fawr, iw chuddio.
[verse 10] Rhoes Duw ffynnon i bob afon,
a phawb a yfant beunydd:
A rhed y ff••ydau rhyd y glynu,
a rhwng pob bryn a'i gilydd.
[verse 11] Yfant yno anfeiliaid maes,
assynnod myng-laes gwylltion,
Heb ymadael a llawr y nant,
hyd onid yfant ddigon.
[verse 12] Ac adar awyr dont gar llaw,
i leisiaw rhwng y coedydd:
Yn canu ei fawl o bren i bren,
cethlyddiaeth lawen vfydd.
[verse 13] Dwfr ar fynyddoedd lle ni ddaw,
fo wlych â glaw oddiarno:
A'r gwastad tir efe a'i gwlych,
bob grwn a rhych i ffrwytho.
[verse 14] Parodd i'r gwellt dyfu wrth raid
anifeiliad: a'r llysiau,
Er da i ddyn: Lle rhoes o'r llawr,
ymborthiant mawr rhag angau.
[verse 15] A gwin llawena calon dyn,
ag olew tywyn wyneb.
A bara nerthir calon gwr,
mewn cyflwr digonoldeb.
[verse 16] Preniau 'r Arglwydd o sugn llawn,
o'i vnic ddawn y tyfan.
Sef y coed cedrwydd brigog mawr,
a roes e'n llawr y Liban.
[verse 17] Lle y mae nythod yr adar mân,
mewn preniau glân cadeir-ir:
Lle mewn ffynnidwydd glwyswydd glyn,
mae ty'r aderyn trwynhir.
[verse 18] Y mynydd vchel a'r bryn glâs,
yw llwybr y danas fychod:
Ogof y doll-graig a wna les,
yn lloches i'r cwningod.
[verse 19] Fe roes i'r lleuad i chwrs clau,
a'i chyfnewidiau hefyd:
A'r haul o amgylch y byd crwn,
fo edwyn hwn ei fachlyd.
[verse 20] Tywyllwch nos a roed wrth raid,
i fwyst filiaid y coedydd.
[verse 21] Y llewod rhuant am gael maeth
gan Dduw, ysclyfaeth beunydd.
[verse 22] A chwedi cael yr ymborth hyn,
pan ddel haul attyn vnwaith,
Ymgasglant hwy i fynd iw ffau,
ac iw llochefau eilwaith.
[verse 23] Y pryd hwn cyfyd dyn iw waith,
ac iw orchwyliaith esgyd;
Ac felly yr erys tan yr hwyr,
lle y caiff yn llwyr ei fywyd.
[verse 24] O Dduw, mor rhyfedd yw dy waith
o'th synwyr berffaith dradoeth!
Gwnaethost bob peth â doethder dawn,
a'r tir sy lawn o'th gyfoeth.
[verse 25] A'r llydan for, y deifr ymmysg,
lle aml yw pysc yn llemmain:
Lle yr ymlusgant, rif yr od,
bwystfilod mawr a bychain.
[verse 26] Yno yr â y llongau glân
dros y Leuiathan heibio.
Yr hwn a osodaist di, lle y mae
yn cael ei chwrae yntho.