[verse 19] Yn Horeb gwnaethant dawdd-lun llo
ac iddo ymgrymmasant:
[verse 20] I lun llo a borai wellt mân,
y troesan eu gogoniant.
[verse 21] Anghofient wrthiau Duw ar hynt,
(a fuasai gynt achubwr.
Yngwlâd yr Aipht. 22. Mor coch, tir Ham,
heb feddwl am eu cyflwr.
[verse 23] Dwedodd mai eu difetha wnai
oni bai iw was Moesen
Drwy sefyll o'i blaen iw lid maith
droi ymaith eu drwg ddilen.
[verse 24] Dirmygent hwy y prydferth dir,
ac iw air gwir ni chredent:
[verse 25] Ond yn eu pebyll grwgnach tro,
ac arno ni wrandawent.
[verse 26] Yno y derchafodd Duw ei law,
iw cwympiaw dwy'r anialwch:
[verse 27] Rhyd tiroedd a phobloedd anghu,
iw tanu mewn distyrwch.
[verse 28] A Baal Peor aent ynghyd,
ymgredu i gyd ag efo:
Ebyrth y meirwon a fwytent,
a Duw a roddent heibio.
[verse 29] Fal hyn digiasant f'Arglwydd Dduw
â chyfryw goeg ddychmygion:
Yntau anfonodd bla'n eu mysg,
fal dynaderfysg greulon.
[verse 30] Yna cyfododd Phinehes,
mewn cyfiawn wres i ddial:
A phan roes hwn ei farn yn dda,
Duw ar y pla rhoes attal.
[verse 31] A chyfrifwyd y weithred hon,
yn weithred gyfion yntho,
O oes, i oes (drwy air Duw Ion)
pan ddelai son am dano.
[verse 32] Ac wrth lan dwfr M••••ib••ah gynt,
yno 'y cyffroynt 〈…〉〈…〉
Lle'y digient Dduw â'r 〈◊〉〈◊〉 ffraeth,
am hyn bu'n waeth i Foesen.
[verse 33] Wrth gythruddo yspryd y Sanct,
hwy a barasant hefyd
Iw enau draethu gair ar fai,
ar na pherthynai'i ddwedyd.
[verse 34] Ni laddent chwaith bobloedd y wlâd
wrth archiad Duw y lluoedd,
[verse 35] Ond ymgymyscu â hwynt yn gu,
a dysgu eu gweithredoedd.
[verse 36] Gwasanaethu eu duwiau gau,
y rhai fu faglau iddyn.
[verse 37] Aberthu eu plant, yn fâb, yn ferch,
o serch i'r cythraul eulyn.
[verse 38] A thywall tasant wirion waed,
dan draed gau-dduwiau Canaan.
Y tir (wrth aberthu eu plant)
â gwaed llygrasant weithian.
[verse 39] Felly o'i gweithredoedd eu hun,
yn vn ymhalogasant.
Put teinio wrth ei cwrs a'i bryd,
ac felly cyd-lygrasant.
[verse 40] Wrthynt enynnodd Duw mewn dig
am hyn â ffyrnig gyffro.
Câs a ffiaidd felly yr aeth
ei etifeddiaeth gantho.
[verse 41] O'r achos hyn eu rhoddi a wnaeth
dan bob cenhedlaeth gyndyn,
Mewn cyflwr câs dan estron blaid,
a'i câs yn feistraid arnyn.
[verse 42] Eu gelynion aethant yn ffrom,
a'i llaw fu droma ffyrnig,
Felly y darostyng wyd hwy,
a mwyfwy fu eu dirmig.