PSAL. XIX.
DAtgan y nefoedd fowredd Duw,
yr vnrhyw gwna'r ffurfasen:
[verse 2] Y dydd i ddydd, a'r nos i nos,
sy'n dangos cwrs yr wybren
[verse 3] Er nad oes ganthynt air nac iaith,
da y dywaid gwaith Duw lywydd,
Diau nad oes na môr na thir,
na chlywir eu lleferydd.
[verse 4] Aeth eu sain hwy drwy yr holl fyd,
a'i geiriau hyd eithafoedd.
Yr haul teg a'i gwmpas sydd bell,
a'i babell yn y nefoedd.
[verse 5] O'r hon y cyfyd ef yn rhôd,
fel priod o'i orweddfa,
Iw gwrs cyrch drwy lawenydd mawr,
fel cawr yn rhedeg gyrfa.
[verse 6] O eithaf hyd eithafoedd nef
y mae ef a'i amgylchiad:
Ac ni all dim (lle rhydd ei dro)
ymguddio o'i oleuad.
[verse 7] Dysg yr Arglwydd sydd berffaith ddawn
a dry i'r iawn yr enaid,
Felly rhydd ei wir dystiolaeth
wy bodaeth i'r ffyddloniaid.