PSAL. XX.
GWrandawed di yr Arglwydd Nêr,
pan ddêl cyfyngder arnad,
Enw Duw Iacob, ein Duw ni,
a'th gadwo di yn wastad.
[verse 2] O'i gysegr rhoed yt help a nerth,
a braich o brydferth Sion:
[verse 3] Cofied dy offrwm poeth a'th rôdd,
bo'rhain wrth fodd ei galon.
[verse 4] Rhoed ytty wrth dy fodd dy hûn,
dy ddymun a'th adduned:
Dy fwriad iach a'th arfaeth tau,
a'th weddiau gwrandawed.
[verse 5] Yn enw ein Duw gorfoleddwn
yn hyf, a chodwn faner:
A'th ddeisyfiadau gwnaed yn rhwydd,
yr Arglwydd o'r uchelder.
[verse 6] Yr Arglwydd gweryd (felly gwn)
o'i gysegr drwn ei eneiniog:
Gwrendy ei arch, gyrr iddo rym,
yn gyflym ac yn gefnog.
[verse 7] Rhai ar gerbydau rhônt eu pwys,
rhai ar feirch ddwys ymddiried:
Minneu ar enw'r Arglwydd Dduw,
mai hwnnw yw'n ymwared.
[verse 8] Hwy a'mroesant-a syrthiasant,
yn eu nerth eisoes yno:
Codasom a safasom ni,
o Dduw, a thi i'n llwyddo,
[verse 9] Cadw ni Arglwydd a'th law gref,
boed brenin y nef drosom:
Gwrandawed hwnnw arnom ni,
a'n gweddi pan y llefom.