PSAL. XVIII.
O lôr fy 'ngrym caraf di 'n fawr
fy'nghreiglawr, tŵr fy'mwared:
[verse 2] Fy Nâf, fy nerth, fy nawdd, fy Nuw,
hwn yw fy holl ymddiried.
[verse 3] Pan alwyf ar fy Iôr hynod,
i'r hwn mae clôd yn gyfion,
Yna i'm cedwir yn ddiau
rhag drygau sy'nghaseion.
[verse 4] Gosidion angau o bob tu
oeddynt yn cyrchu i'm horbyn,
A llifodd atonydd y fall
yn ddiball, er fy nychryn.
[verse 5] Pan ydoedd fwyaf oth y bedd,
a gwaedlyd ddiwedd arnaf,
Ag arfau angau o bob tu,
a'm câs yn nefu attaf:
[verse 6] Yna y gelwais ar fy Nêr,
ef o'r vchelder clywodd,
A'm gwaedd a ddaeth hyd gar ei fron,
a thirion y croesafodd.
[verse 7] Pan ddigiodd Duw, daeth dayar grŷn,
a sail pob bryn a siglodd:
A chyffro drwy'r wlâd ar ei hŷd,
a'r hôll fyd a gynhyrfodd.
[verse 8] O'i enau tân, o'i ffroenau tarth,
yn nynnu pob parth wybren:
[verse 9] A chan gymylau dan ei draed,
du y gwnaed y ffursafen.
[verse 10] Ac fal yr oedd ein Iôr fel hyn,
vwch Cherubyn yn hedeg:
〈◊〉〈◊〉 vwch law adenydd y gwynt,
mewn nefol helynt hoywdeg.
[verse 11] Mewn dyfroedd a chymylau frŷ,
mae'i welu heb ei weled:
[verse 12] Ac yn eu gyrru'n genllysg man,
a marwor tân i wared.
[verse 13] Gyrrodd daranau, dyna 'i lef,
gyrrodd o'r nef gennadon.
[verse 14] Cenllysg, morwor tân, mellt yn gwau,
fal dyna'i faethau poethion,
[verse 15] Distrywied dy gâs: felly gynt
gan chwythiad gwynt o'th enau,
Gwasgeraist di y moroedd mawr,
gwelwyd y llawr yn olau.
[verse 16] Felly gwnaeth Duw a mi'r un modd,
anfonodd o'r vchelder,
Ac a'm tynnodd o'r lle yr oedd
i'm hamgylch ddyfroedd lawer.
[verse 17] Fe a'm gwaredodd Duw fal hyn,
oddiwrth fy'ngelyn cadarn,
Yn rhydrwm i mi am ei fod:
rhof finnau glod hyd ddydd farn.
[verse 18] Safent o'm blaen ni chawn ffordd rŷdd,
tra fum yn nŷdd fy'ngofid:
Ond yr Arglwydd ef oedd i'm dal,
a'm cynal yn fy ngwendid.
[verse 19] Fy naf ei hun a'm rhoes yn rhydd,
se fy waredydd i mi:
Ac o draserch i mi y gwnaeth,
na bawn i gaeth ond hynny,
[verse 20] Yr Arglwydd am gobrwya'n ôl
fy ngwastadol gyfiawnder.:
Ac yn ôl glendîd fy nwy law,
tâl i'm a ddaw mewn amser.
[verse 21] Can's ceisiais ffyrdd fy Arglwydd nêr,
ni wneuthym hyder ormod,
Na dimsceler erbyn fy nuw
gochelais gyfryw bechod.
[verse 22] Can's ei ddeddfau, maent ger fy mron
a'i hollawl gyfion farnau:
Ac ni rois heibio'r vn or rhai'n,
hwy ŷnt fy nghoel fain innau.
[verse 23] Bum berffaith hefyd o'i flaen, ag
ymgedwais rhag byw'n rhyddrwg,
[verse 24] A'r Arglwydd gobrwyodd fi'n llawn
yr hyn fu'n iawn iw olwg.
[verse 25] I'r trugarog trugaredd rhoi,
i'r perffaith troi berffeithrwydd:
[verse 26] A'r glân gwnei lendid, ac i'r tyn
y byddi gyndyn Arglwydd.
[verse 27] Can's mawr yw dy drugaredd di,
gwaredi'r truan tawel:
Ac a ostyngi ga•• dy fron,
rai a golygon vchel.
[verse 28] Ti a olem'nghanwyll i,
am hynny ti a garaf,