Llyfr y resolusion yr hwnsydd yn dysgv ini bawb : wneuther ein goreu a rhoi cwbl o'n Gristianogion hynny ydyw'ar ymadael a'n drwy fuchedd, a throi at ddaioni a duwioleb / wedi ei gyfiethu yn Gy mraeg gan y Dr. I.D. ...

About this Item

Title
Llyfr y resolusion yr hwnsydd yn dysgv ini bawb : wneuther ein goreu a rhoi cwbl o'n Gristianogion hynny ydyw'ar ymadael a'n drwy fuchedd, a throi at ddaioni a duwioleb / wedi ei gyfiethu yn Gy mraeg gan y Dr. I.D. ...
Author
Bunny, Edmund, 1540-1619.
Publication
yn Llundain :: gan I.R.,
1684.
Rights/Permissions

This keyboarded and encoded edition of the work described above is co-owned by the institutions providing financial support to the Early English Books Online Text Creation Partnership. Searching, reading, printing, or downloading EEBO-TCP texts is reserved for the authorized users of these project partner institutions. Permission must be granted for subsequent distribution, in print or electronically, of this text, in whole or in part. Please contact project staff at eebotcp-info@umich.edu for further information or permissions.

Subject terms
Christian life.
Cite this Item
"Llyfr y resolusion yr hwnsydd yn dysgv ini bawb : wneuther ein goreu a rhoi cwbl o'n Gristianogion hynny ydyw'ar ymadael a'n drwy fuchedd, a throi at ddaioni a duwioleb / wedi ei gyfiethu yn Gy mraeg gan y Dr. I.D. ..." In the digital collection Early English Books Online 2. https://name.umdl.umich.edu/A30113.0001.001. University of Michigan Library Digital Collections. Accessed May 20, 2024.

Pages

PEN. X. Am y gwobr a'r tal anrhydeddus ahaelionus, a osodir o flaen pawb a wasanaetho Dduw yn gywir.

FE fyddai ddigon y rhesymmau, a'r ystyriaethau a osodwyd i lawr yn y bennod o'r blaen, i gy∣ffroi calon vn Christion a fai a rheswm ynddo, i roi ei fryd ar wasanaethu Duw, yr hyn yr wyf yn cryb∣wll am dano, ac yn chwennych yn gymmaint dy berswadio di i'w wneuthur, ddarllennydd hawdd∣gar, a hynny er llês i ti dy hun. Ond am nad yw calonnau pawb o'r vn ddull yn hyn o beth, ac na thynnir ac na chynnhyrfir pawb trwy 'r vn moddi∣on; fy amcan ydyw yma ystyried pa lês a pha yn∣nill a ddaw i ni oddiwrth hynny, o herwydd bod pob dyn gan mwyaf wrth naturiaeth yn tynnu at ei lês ai elw. Ac am hynny yr ydwyf yn gobeithio y bydd mwy o rym yn hynny tu ac at ddwyn i ben y peth yr ydym yn ei geisio, nag mewn dim arall

Page 119

ac a ddywetpwyd etto. Fy meddwl gan hynny yw traethu am y llês ar elw sydd yn dyfod o wasanaethu Duw, a'r ynnill a geir oddiwrth hynny, a'r taledi∣gaeth da, a'r gwobr helaeth haelionus a rydd Duw i'w weision, yn hyttrach nag un meistr arall, ar a all∣er ei wasanaethu. Ac er bod ofn y gospedigaeth a gawn ni, onis gwasanaethwn ef, yn ddigon er ein gyrru ni i roi ein bryd ar ei wasanaethu ef; a bod y doniau anfeidrol a gawsom ni gantho ef, yn ein denu ac yn ein gwahodd ni i wneuthur hynny, er mwyn dangos ein bod yn ddiolchgar iddo (ac am y ddeubeth hynny y crybwyllwyd peth o'r blaen:) etto, ddarllennydd daionus, mi a fyddaf fodlon, i roi i ti hyn o rydd-did, os myfi nis dangosaf fod y peth yr wyf yn ei ofyn ar dy law di, yn well ar dy lês di ac yn fuddiolach i ti, nâ dim arall yn y byd ar a ellych di feddwl am dano; ni cheisiaf mo'th rwymo di i'w wneuthur, er dim ac a ddywedais i etto i'r perwyl hwnnw. Oblegid, fel y mae Duw ym mhob peth arall yn Dduw helaeth er fawredd, yn llawn haelioni, a chymmwynasgarwch, a bren∣hinol haelder; felly y mae efe yn y peth yma, yn anad vn peth arall. Oblegid er nad yw dim a wne∣lom ni, neu a allom ei wneuthur, ond vnion ddyled arnom iddo ef, ac heb heuddu dim o hono ei hun; etto o'i fawr ddaionus haelioni, nid yw efe yn ga∣dael vn tippyn o'n gwasanaeth ni iddo ef, heb ei ob∣rwyo'n helaeth, hyd yn oed phiolaid o ddwfr oer. Mat. 10.42.

2. Fe a orchymmynnodd Duw i Abraham aber∣thu iddo ef ei vnig fab Isaac, yr hwn yr oedd efe yn ei garu yn gymmaint: ond pan oedd efe yn ba∣rod i wneuthur hynny, Duw a ddywedodd wrtho, Na ddod dy law as y llangc, ac na wna ddim iddo; digon gennyfi weled dy vfydd dod di, O herwydd mi awn weithian dy fod di yn ofni uw, gan nad a••••e∣liaist

Page 120

dy fab, oddiwrthyfi. Ac am nas gwrthodaist oi wneuthur, J mi fy hun y tyngais, medd yr Ar∣glwydd, y bendithiafi dy di, ac yr amlhâaf dy hâd di, fel sêr y nefoedd, ac fel y tywod sydd ar lan y môr; ac yn eu mysg hwy y bydd vn yn Grist, ac yn lachawdr i'r byd. Gen. 22.12. Ond têg oedd y taliad yma am gyn lleied o boen? Y brenhin Dafydd a ddechrenodd ryw ddiwrnod feddwl yntho ei hun, ei fod ef yn awr yn preswylio mewn tŷ o ged∣rwydd, a bod arch Duw yn aros mewn pabell o fewn y cortynnau: am hynny efe a roes ei fryd ar adeila∣du tŷ i'r Arch. Ac fe fu 'r meddwl a'r amcan hwn∣nw mor cymmeradwy gan Dduw, ac y gyrrodd efe 'r prophwyd Nathan atto ef yn y man, i wrthod gantho hynny, ac etto i ddywedyd iddo, yn gym∣maint ac iddo roi ei fryd ar y peth, y gwnai 'r Ar∣glwydd iddo ef dŷ neu yn hyttrach frenhiniaeth, iddo ef ac i'w heppil ar ei ôl, yr hon a barha ai byth ac ni thynnai efe byth ei drugaredd oddiwrchi, pa bechodau ac anwireddau bynnag a wnaent hwy, 2 Sam. 7.1.11, 15. Psal. 89.29. A'r addewid yma a welwn ni ei fod yr awrhon wedi ei gyflawni yn E∣glwys Grist, yr hon a gyfododd o'r tylwyth hynny. I ba beth y dangoswn i lawer o'r fath esamplau? Y mae Christ ei hun yn rhoi i ni addysg gyffredinol o hyn, wrth alw 'r gweithwyr, a thalu iddynt eu cyflog mor vnion; a phan yw yn dywedyd am da∣no ei hun, Wele fi yn dyfod ar frys, a'm gwobr sydd gydâ mi, i dalu i bawb yn ôl ei weithredoedd, Mat. 20. Datc. 22.12. Wrth yr hyn y mae'n amlwg, nad yw Duw yn gadael poen yn y byd a gymme∣rer yn ei wasanaeth ef heb dalu yn dda am dani. Ac er ei fod ef (fel y dangosir yn ôl hyn mewn lle cyfaddas) yn talu yn y byd yma hefyd, a hynny yn helaeth ddigon; etto (fel y gwelir wrth y ddwy e∣sampl hynny) y mae efe yn oedi ei daledigaeth pen∣naf,

Page 121

hyd oni ddêl efe ei hun yn niwedd y dydd, hynny ydyw, yn ôl y fuchedd hon, yn adgyfodiad y rhai cyfiawn, fel y dyweid efe ei hun mewn man arall, Luc. 14 14.

3. Ac am y taledigaeth ymma sydd ynghadw i wasanaethwyr Duw yn y fuchedd a ddaw, y mae i ni yr awr hon ystyried, pa beth ydyw, a pha fath ar beth ydyw, a pha vn a wna a i bod yn talu yr llafur a'r boen y mae gwasanaeth Duw yn ei ofyn, ai nad ydyw. Ac yn gynta' dim, os ni a gredwn yr Scrythur lân sydd yn galw y taledigaeth hwnnw yn Deyrnas, ac yn Deyrnas nefol, ac yn Deyrnas dragywyddol, ac yn Deyrnas fendigedig: rhaid i ni gyfaddef yn ddiau fod y tâl a'r gwobr hwnnw yn rhyfeddol o faint, Mat. 25.34. 2 Pet. 1.11. Ob∣legid nid ydyw Tywysogion bydol yn arfer o roi teyrnasoedd i'w gwasanaethwyr yn dâl am eu llafur a'i gwasanaeth. A phettynt hwy yn eu rhoi, neu yn abl i'w rhoi; etto ni allai y rhai a roent hwy fod yn deyrnasoedd nefol, nac yn rhai tragywyddol, nac yn rhai bendigedig: Yn ail os rhown goel ar yr hyn a ddyweid S. Paul am y taledigaeth hwnnw, Na welodd llygad, ac na chlywodd clust, ac na dda∣eth i galon dyn, faint ydyw, I Cor. 2.9. Ps. 31.19. ac y mae 'n rhaid i ni wrth hynny dybied yn fwy o hono, oblegid i ni weled llawer o bethau rhyfedd yn ein dyddiau; a chlywed pethau rhyfeddach, ac y gallwn feddwl am bethau rhyfeddol iawn ac anfei∣drol. Pa fodd wrth hynny y gallwn ni ddyfod i ddeall faint a gwerthfawroceed yw 'r taledigaeth yma? diau na all vn tafod ar a grewyd, na thafodau dynion nac angylion, ei adrodd, nac vn meddwl er dderbyn, nac vn deall ei gyrhaeddyd a'i amgyffred. Fe a ddywedodd Christ ei hun, Na's gwyr neb beth ydyw, ond yr hwn sydd yn ei dderbyn: ac am hynny y mae efe yn yr vn man yn ei alw'r Manna cuddi∣edig,

Page 122

edig, Datc. 2.17. Er hynny, fel y dywedir am ryw Geometrydd da, yr hwn pan gafodd hŷd tro∣ed Hercules ar fryn Olympus, a fesurodd ac a dyn∣nodd bortreiad ei holl gorph ef, wrth fesur ei dro∣ed: felly y gallwn ninnau wrth ryw bethau sy wedi ei gosod ar lawr yn yr Scrythur lân, ac wrth ryw bethau eraill sydd yn cyttuno â hi, fwrw amcan beth yw y taledigaeth hwnnw, er na bo 'r amcan ddim tebyg i'r peth ei hun.

4. Mi a ddangosais o'r blaen fel y mae 'r Scry∣thur lân yn galw 'r taledigaeth hwnnw yn deyrnas nefol, dragywyddol, fendigedig: wrth yr hyn yr arwyddocceir, y bydd rhaid i bawb a gynnhwyser yno fod yn frenhinoedd. I'r vn defnydd y gelwir ef mewn lleoedd eraill yn goron gogoniant, yn or∣sedd mawrhydi, yn baradwys, yn lle o hyfrydwch, yn fywyd tragywyddol, Datc. 2.10. Darc. 3.21. Y mae S. Joan Efangylwr; pan oedd wedi ei ddeol, a'i yrru allan o'i wlad, wedi iddo drwy ryw ragor∣fraint gael peth gwybodeath a phrawf, o'r lle hwn∣nw; yn cymmeryd arno ei bortreiadu, trwy ei gyffelybu i ddinas; a dangos fod yr holl ddinas o aur pûr, a chaer fawr vehel iddi o'r maen gwerth∣fawr, a elwir Jaspis; a bod i'r gaer hon ddeuddeg sail, wedi eu gwneu∣thur o ddeuddeg amryw fain gwerth∣fawr, y rhai y mae efe yno yn eu henwi: a deuddeg porth, o ddeuddeg maen gwerth∣fawr a elwid Margarit; ac ym mhob porth yr oedd vn Margarit cyfan: a heol y ddinas oedd we∣di ei phalmantu ag aur pùr, yn gymmysgedig o ber∣lau, ac o fain gwerthfawr: a goleuni 'r ddinas hon∣no yw disgleirdeb, a llewyrch Christ ei hun, yn ei∣stedd yn ei chanol hi: ac o'i orsedd-faingc ef y doei afon o ddwfr y bywyd, disglair fel y grisial, i lonnychu'r ddinas: ac ar ddeutu glau yr afon y

Page 123

tyfai bren y bywyd, yn dwyn ffrwyth yn wastadol ddibaid: ac nid oedd dim nos yn y ddinas honno, a dim halogedig nid ai i mewn iddi: ond y rhai sydd o'i mewn hi a deyrnasant ynddi, medd efe, byth by∣thoedd, Dat. 21.11. &c. Dat. 22.

5. Wrth y portreiad hwn trwy gyffelybiaeth o'r pethau cyfoethoccaf a gwerthfawroccaf yn y byd hwn y mynnei S Ioan i ni ddeall, y pris a'r gwerth, a'r gogoniant, a'r mawrhydi sydd yn y dedwy∣ddwch a barottowyd i ni yn y nef. Ac er (fel y dangosais o'r blaen) mai tywysogawl dref-tadaeth ein lachawdr Christ ydyw, a theyrnas ei Dâd, a thra∣gywyddol drigias y fendigedig drindod a barotto∣wyd er cyn dechreuad y byd, i osod allan ogoniant, ac i ddangos gallu yr hwn nid oes na meidr, na me∣sur, na diben ar ei allu a'i ogoniant: ni a allwn dy∣bied yn dda gydâ S. Paul, na all na thafod ei drae∣thu, na chalon ei feddwl.

6. Pan gymmero Duw arno wneuthur rhyw beth i ddangos mewn modd, ei allu, a'i ddoethineb, a'i fawredd hyd yr eithaf; meddyliwch ynoch eich hu∣nain pa fath beth fydd hwnnw. Fe ryngodd bodd iddo ryw amser wneuthur rhyw greaduriaid i'w wa∣sanaethu ef yn ei wydd ei hun, ac i fod yn dystion o'i ogoniant ef: ac ar hynny ag vn gair efe a greodd yr Angylion, o herwydd eu rhifedi a'i perffeithrw∣ydd mor ddieithr ac mor rhyfeddol, ac y pair i dde∣all dyn synnu wrth feddwl am dano. Oblegid, tu ac at am eu rhifedi, yr oeddynt agos yn aneirif, yn rhagori ar rifedi holl greaduriaid y byd hwn, fel y mae amryw wyr dysgedig, a rhai o'r hên dadau yn tybied: er bod y prophwyd Daniel, yn ôl arfer yr Scrythur lân, yn gosod rhifedi pennodol yn lle rhi∣fedi ammhennodol, pan yw yn dywedyd am yr An∣gylion. Mil o filoedd a'i gwasanaethent, a myrdd fyrddiwn a safent ger ei fron, Dan. 7.10. Ac am

Page 124

berffeithrwydd eu naturiaeth, cyfryw ydyw (gan eu bod, fel y dyweid yr Scrythur, yn ysprydion, ac yn dân fflamllyd) a'i bod yn rhagori ar holl grea∣duriaid y byd hwn, mewn gwybodaeth naturiol a gallu, a'r cyffelyb. Pa anfeidrol fawredd y mae hyn yn ei ddangos ei fod yn y ereawdr.

7. Yn ol hyn, wedi darfod i lawer o'r angylion hyn gwympo, fe ryngodd bodd i Dduw greu crea∣dur arall oedd lawer is nâ hwnnw, i gyflawni lleo∣edd y rhai a gwympasai; ac ar hynny efe a greodd ddyn o delpyn o bridd, fel y gwyddoch chwi, ac a appwyntiodd iddo fyw tros amser mewn lle pell o∣ddiwrth y nef, yr hwn a wnaethid i'r perwyl hyn∣ny, a hwnnw yw'r byd: yr hwn sydd le i'w gyn∣wys ef ac i'w brofi tros amser, a chwedi hynny a ddistrywir. Ac etio, wrth greu'r byd darfodedig hwn (yr hwn nid yw ond lluest yn perthyn i'w drig∣fa dragywyddol ef) pa allu, pa haelioni, pa fawr∣hydi a ddangosodd ef? Pa fath nefoedd mor rhyfe∣ddol a greodd ef? Pa rifedi anfeidrol o ser, a goleu∣adau eraill a ddyfeisiodd efe? Pa fath elfennau, a defnyddiau a luniodd efe? Ac mor rhyfeddol y cymmhwysodd efe 'r cwbl ynghyd? Y mor o'r tu allan i'r llaill yn fawr ei fordwy, a'i ryferthwy a'i donnau yn ymdaflu ac yn ymdreiglo, ac ynteu yn llawn o aneirrif rywogaethau o bysgod: yr afo∣nydd yn rhedeg trwy'r ddaiar, fel gwythenni yn y corph, ac heb fod vn amser yn hŷsp, nac yn llifo tros y ddaiar: y ddaiar hitheu, cyn llawned o bob math ar greaduriald, ac nad yw dyn yn rhaid iddo wrth y ganfed ran o honynt, ond eu bod yn aros i ddangos llaw lawn, a braich cadarn y Creawdr. A hyn i gyd, fel y dywedais, a wnaethbwyd mewn moment, ag vn gair yn vnig: a hynny i'w mwyn∣hau tros amser bychan wrth y tragywyddoldeb sydd i ddyfod. Pa beth wrth hynny, dybygwn ni, fydd

Page 125

y drigfa a barottowyd i'r tragywyddoldeb hwnnw? Os yw lluest y gwâs distatlaf o'r eiddo ef, (yr hon nis gwnaed ond i barhau tros amser, ac megis i fwrw cawod heibio) mor frenhinol, mor wychdeg, ac mor hardd, a chymmaint ei fawrhydi, ac y gwelwn ni fod y byd hwn; pa beth dybygwn ni ydyw llys y brenhin ei hun, a wnaed i barhau yn dragywy∣ddol, iddo ef ac i'w garedigion i deyrnasu ynghyd ynddo. Mae'n rhaid i ni dybied ei fod yn gym∣maint, ac y gallai ddoethineb a gallu ei wneuthurwr gyrhaeddyd ei wneuthur ef; hynny ydyw yn an∣ghyfartal, ac yn anfeidrol vwch law pob mesur. Y brenhin Ahasuerus, yr hwn oedd yn teyrnasu yn Asia, ar gant a saith ar hugain o daleithiau; i ddan∣gos ei allu a'i gyfoeth i'w ddeiliaid, a wnaeth wledd, fel y dyweid yr Scrythur lân, yn ei ddinas frenhinol Susa; i holl dywysogion, a rhaglawiaid, a gwyr mawr ei lywodraeth ef, dros gant a phedwar vgain o ddyddiau o'r vntu. Y mae 'r prophwyd Esai yn dywedyd y gwna ein Duw ni Arglwydd y lluoedd, wledd i'w holl bobl ar fryn a mynydd y nef; gw∣ledd o basgedigion breision, ac o loywwin puredig, Es. 25.6. A'r wledd hon fydd mor reiol ac y bydd i fab Duw ei hun, Arglwydd pennaf y wledd, fod yn fodlon i ymwregysu ac i wasanaethu ynddi, me∣gis y mae efe yn addaw a'i air ei hun, Luc. 12.37. Pa fath wledd, wrth hynny, fydd hon? Mor reiol fydd? Mor llawn o fawrhydi? Yn enwedig gan ei bod yn parhau nid yn vnig tros gant a phedwar vgain o ddyddiau, fel gwledd Ahasuerus; ond tros fwy na chant a phedwar vgain mil fyrddiwn o oeso∣edd; ac nid dynion yn gwasanaethu arni, ond An∣gylion, a mab Duw ei hun: ac nid i ddangos gallu a chyfoeth cant a saith ar hugain o daleithiau, ond i ddangos gallu a chyfoeth Duw ei hun, Brenhin y brenhinoedd, ac Arglwydd yr arglwyddi, yr hwn

Page 126

y mae ei allu a'i gyfoeth heb ddiben arnynt, ac yn fwy nag a all ei holl greaduriaid ef na meddwl na deall? Mor ogoneddus gan hynny fydd y wledd hon? Mor orfoleddus fydd llawenydd yr wyl-wledd hon? Och mor anhappus, ac mor ynfyd ydyw mei∣bion dynion, a hwythau wedi ei geni i'r fath fraint ammheuthyn ardderchog, acetto nas gellir eu dwyn nac i'w ystyried, nac i'w garu, nac i wneuthur cy∣frif o honaw.

8. Y mae pethau eraill i'w hystyried a all ddan∣gos maint y dedwyddwch hwn: megis hyn, os rhoes Duw cymmaint o hyfrydwch, a doniau comfforddus yn y bywyd hwn ac a welwn ni eu bod yn y byd, yr hwn er hynny i gyd, nid yw ond y wlad yr y∣dym ni yn wyr deol ynddi, a bro ein alldudaeth ni, a mangre pechaduriaid, a glyn y gofid ar trueni, dy∣ffryn wylofain ac amser i edifeirwch a dagrau, a chwynfan: pa beth a wna efe yn y bywyd a ddaw, i'r rhai cyfiawn, i'w garedigion, yn amser llawe∣nydd, ar ddydd priodas ei fab, Datc. 19.7, Yr oedd ystyried hyn yma yn beth crŷf gan S. Austin, yr hwn yn yr ymddiddan cyfrinachol rhwng ei e∣naid a Duw, a ddywedodd fel hyn, ô Arglwydd, os wytti yn rhoi cym∣maint o ddoniau aneirif i'r corph gwa∣el hwn eiddom ni, o'r ffurfafen, ac o'r awyr, ac o'r ddaiar, ac o'r môr, o'r goleuni a'r tywyllwch, o'r gwrês a'r cysgod, o'r gwlith a'r cawodydd, o'r gwyntoedd a'r glawo∣gydd, o'r adar a'r pysgod, o'r anifeiliaid ac o'r co∣edydd, ac amlder y llysiau, ac amryw blanhigion, a thrwy weinidogoeth dy holl greaduriaid: ô Ar∣glwydd da, pa fath bethau a barottoaist ti i ni yn ein cartref nefol, lle y cawn dy weled di wyneb yn wy∣neb? Os wyti yn rhoi i ni bethau cymmaint yn ein carchardy ni, pa bethau a roi di i ni yn dy frenhin∣llys

Page 127

dy hun? Os wyti yn rhoi cymmaint o bethau yn y byd hwn i ddynion dà a drwg ynghyd, pa beth sy gennyt ti wedi ei roi i gadw i'r rhai da yn vnig yn y byd a ddaw? Od oes cymmaint difyr∣rwch a llawenydd yn y dyddiau wylofain yma, pa fath lawenydd fydd ar ddydd y briodas? od oes cymmaint o bethau hyfryd yn ein carchardy ni, pa fath bethau, meddwch chwi, fydd i ni yn ein gw∣lad? Oh fy Arglwydd a'm Duw, Tydi sydd Dduw mawr, a mawr yw amlder dy haeledd a'th ddaioni di. Ac fel nad oes diben ar dy fawredd, na rhifedi ar dy ddoethineb, na mesur ar dy haeledd: felly nid oes na diben na rhifedi, na mesur, ar dy dale∣digaethan ir rhai sy'n dy garu di, ac yn ymladd tro∣sot. Hynny a ddywaid S. Awstin. Psal. 31.19.

9. Ffordd arall i fwrw amcan ar y dedwyddwch yma, yw ystyried yr addewidion mawr y mae Duw yn eu gwneuthur yn yr Scrythur lân, er anrhy∣deddu a gogoneddu dyn yn y bywyd a ddaw: Y Sawl a'm hanrhydeddo i medd Duw, mi a'i gogone∣ddaf ef, 1 Sam. 2. Ac y mae 'r prophwyd Da∣fydd megis yn cwyno fod Duw yn anrhydeddu ei garedigion yn gymmaint. Yr hyn y gallasai efe ga∣el achos mwy i'w ddywedyd pe buasai efe byw yn amser y Testament newydd, a chlywed addewid Christ, yr hwna grybwyllais am dano o'r blaen y cai ei weiston ef eistedd i lawr i wledda, ac y byddai ynteu ei hun yn gweini, ac yn gwasanaethu arnynt yn nheyrnas ei Dâd, Luc. 12. Pa synhwyr a all am∣gyffred a deall faint yw 'r anrhydedd yma? Ond et∣to fe ellir mewn rhan ei ddychymyg a bwrw amcan arno, wrth yr hyn a ddywaid ef, y cânthwy eistedd i farnu gyd ag ef, yn farnwyr, fel y dywaid S. Paul, nid yn vnig ar ddynion, ond hefyd ar yr Angylion, Mat. 19.28. 1 Cor. 6. Fe ellir bwrw amcan arno hefyd, wrth yr anrhydedd mawr iawn, y mae Duw

Page 128

ar amseroedd yn ei rol i'w weision, ie yn y byd hwn: er eu bod hwy wedi eu gosod ynddo i'w di∣ystyru, ac nid i'w hanrhydeddu. Beth am faint yr anrhydedd a'r parch a wnaeth efe i Abraham, ger bron cynnifer o frenhinoedd y ddaiar, Pharao, Abi∣melech, Melchizedec, a'r cyffelyb: Beth am yr an∣rhydedd a wnaeth efe i Foesen ac i Aaron, yn wy∣neb Pharao, a'i holl lŷs, trwy'r arwyddion rhyfe∣ddol a wnaethant hwy? Beth am yr anrhydedd rha∣gorol dros ben a wnaeth ef i'r gwr sanctaidd Josua pan fu iddo, 'wrth orchymmyn Josua ac yngwydd ei holl lu beri i'r haul ac i'r lleuad sefyll ynghanol y ffurfafen, y rhai yn hynny, fel y dywaid yr Scry∣thur an, a fuant vfydd i leferydd dŷn, Jos. 10. Peth am yr anrhydedd a wnaeth efe i Esai, yngwŷdd y brehhin Ezecias, pan wnaeth ef ir haul fyned yn ei ol ddeg o raddau yn y nef, Es. 38. Beth am yr annuydedd a wnaeth efe i Elias yngwydd Ahab an∣nuwiol, pan roes efe yr nefoedd yn ei law ef, a go∣ddef iddo ddywedyd na syrthiai na glaw na gwlith ar y ddainr tros ennyd o flynyddoedd, ond trwy air ei enau ef yn vnig? 1 Bren. 17. Beth am yr anrhy∣dedd a wnaeth efe i Elisaeus yngwydd Naaman y pendefig o Syria, yr hwn a iachàodd efe, a'i air yn vnig oddiwrth ei waban-glwyf: a'i esgyrn ef, yn ôl ei farwolaeth, a gyfodasant y marw i fyw, trwy gy∣ffwrdd ahwy 'n vnig, 2 Bre. 5. ac 13.21. Yn ddiweddaf, i wneuthur pen ar ddwyn esamplau yn hyn o beth, beth am yr anrhydedd godidog a wnaeth efe i holl Apostolion ei fab, fel y byddai i gynnifer ac y rho∣ent eu dwylo arnynt, gael eu hiachau oddiwith bob math ar wendid, fel y dywaid S. Luc. Ie, a mwy na hyn hefyd, fe wnai hyd yn oed gwregysaù a napcyn∣nau S. Paul yr vn peth: a mwy na hynny he∣fyd, cynnifer ac a ddaethant o fewn cysgod Sainct Petr a iachêid o'i clefydau, Act. 5. Act. 19.

Page 129

Ond yw hwn yn anrhydedd mawr, ie yn y byd hwn! A fu erioed nac ymmerodr, na brenhin, na thwy∣sog, na gwr mawr, a allai ymffrostio ddarfod iddo wneuthur y cyfryw barch i neb? Ac os gwnaeth Christ hynny, ie yn y byd hwn, i'w weision, ac ynteu yn dywedyd nad yw ei deyrnas ef o'r byd hwn: pa anrhydedd a dybygwn ni ei fod gantho ynghadw iddynt yn y byd a ddaw, lle bydd ei deyrnas ef, a lle y coronir ei holl weision ef megis brenhinoedd gydag ef? Jon. 18. 2 Tim. 4. Datc. 4.

10. Peth arall y mae 'r dyfeinwyr yn ei osod ar lawr i ddangos ac i hyspyssu maint y dedwyddwch yma yn y nef: a hynny ydyw, bod ystyried tri lle a appwyntiwyd i ddyn wrth ei greadigaeth. Y cyn∣taf yw croth ei fam, yr ail yw'r byd presennol, a'r trydydd yw Caelum empyreum, y nef, yr hwn yw mangre dedwyddwch yn y fuchedd a ddaw. Wei∣thian am y tri lle hyn, rhaid i ni gynnal y fath ra∣gor gwahanredol rhyngddynt i gyd, (trwy bob rhe∣swm) ac a welwn ni yn eglur eu bod rhwng y ddau gyntaf. Felly, edrych beth yw y rhagor sydd rhwng yr ail a'r cyntaf; yn yr vn mesur y bydd rhaid bod y rhagor rhwng y trydydd a'r ail, neu yn hytrach ychwaneg o lawer: gan nad yw'r holl ddai∣ar i gyd ond megis pwngc neu ditl bychan wrth y maint rhyfeddol sydd yn y nefoedd. Wrth faint y rhagor yma gau hynny, y mae'n rhaid i ni ddywe∣dyd, beth bynnag y mae 'r holl fyd yn ei ragori ar groth vn wraig, yr vn faint y mae mangre 'r ded∣wyddwch yn rhagori ar yr holl fyd yma, mewn te∣gwch, a hyfrydwch, a mawrhydi. A chymmaint ac y mae dyn sy'n byw'n y byd, yn rhagori ar ddyn bach ynghroth ei fam, mewn nerth corphorol, a thegwch, a synhwyr, a deall, a dysg, a gwyboda∣eth: hynny, a mwy o lawer y mae 'r Sainct yn y nef yn ei ragori ar ddynion y byd hwn, yn yr hll

Page 130

bethau hyn, ac mewn llawer o bethau eraill hefyd. A chymmaint ac a fyddei o chwithdod gan ddyn ddy∣chwelyd i groth ei fam; cymmaint a fyddei ar enaid wedi ei ogoneddu am ddychwelyd yn ei ol o'r nef i'r byd hwn. Hefyd nid yw'r naw mis bywyd yn∣ghroth y fam cyn lleied wrth oes dyn yn y byd hwn, ac ydyw yr oes hwyaf ar y ddaiar wrth y bywyd tragywyddol yn y nef. Ac nid yw dallineb, ac an∣wybod, a thrueni arall dyn bach ynghroth ei fam, mewn vn modd i'w cyffelybu i ddallineb, ac anwy∣bod, a thrueni arall dyn yn y bywyd hwn; wrth y goleuni, a'r wybodaeth eglur, a'r ddedwyddwch arall sydd yn y fuchedd a ddaw. Fel y gellir wrth hyn hefyd wybod, peth amcan ar y defnydd yr ydym yn sôn amdano.

11. Ond i ystyried y peth yn neillduolach, mae 'n rhaid gwybod y bydd i'r gogoniant nefol hwn ddwy ran, y naill yn perthyn i'r enaid, a'r llall yn perthyn i'r corph. Yr hon sydd yn perthyn i'r e∣naid, sydd yn sefyll ar weled Duw, fel y ddangosir yn ol hyn. Yr hon a berthyn i'r corph, sydd yn sefyll ar y cyfnewidiad a'r gogoneddiad fydd ar ein cnawd ni, yn ôl yr adgyfodiad cyffredin, trwy'r hyn y gwisg y corph llygredig yma eiddom ni, anllygre∣digaeth, fel y dywaid Sainct Paul, ac yr a o farwol yn anfarwol, 1 Cor. 15. Ein holl gnawd hwn ei∣ddom ni, meddaf, yr hwn sydd yr awrhon drallo∣dus, a gorthrwm, a blin i'r enaid; yr hwn sydd yr awrhon yn cael ei flino ag amryw aflwydd; yn hyrwym i lawer o gyfnewidiau, yn cael ei folestu a chynnifer o glefydau, wedi ei halogi a llawer o lygredigaethau, yn llawn o drueni ac adfyd aneirif; a wneir y pryd hynny yn ogoneddus, ac o'r fath berffeithiaf, i barhau byth, heb gyfnewid, ac i deyr∣nasu gyda 'r enaid heb drangc heb orphen. Oble∣gid fe fydd wedi ei wared oddiwrth y trymder mus∣grell

Page 131

yma sydd yn bwys arno yn y byd hwn; ac oddiwrth bob math ar glefydau a gofidiau 'r bywyd hwn, ac oddiwrth bob trallod a thrafferth a berthyn i hynny, megis pechu, bwytta, yfed, cysgu, a'r cyffelyb. Ac efe a osodir mewn cyflwr hoyw odia∣eth o iechyd nid adfeilia byth. Mor hoyw-wych fydd, ac y dyweid ein lachawdr Christ, Yn y dydd hwnnw y llewyrcha y rhai cyfiawn fel yr haul, yn nheyrnas eu Tâd, Mat. 13.43. Dyma ymadrodd rhyfedd gan Grist, ac yn neall dŷn, agos yn anghre∣dadwy, y llewyrcha ein cyrph ni, wedi eu pydru, ac yr ant mor ddisglair a'r haul, lle y bydd o'r gwrthwyneb, gyrph y rhai damnedig mor ddu, ac mor erchyll a'r budreddi. Felly hefyd, yr holl syn∣hwyrau a gant wybod fod yn odidowgach ei grym hwy nag y gallai fod byth yn y byd hwn, fel y dan∣gosir yn ôl hyn, o herwydd fe fydd llawn pob rhan; a phob synhwyr a phob aelod, a phob cymmal, o gomffordd godidog, yr vn modd ac y poenir pob vn o honynt yn y rhai damnedig. Ac yma y dygaf eiriau Anselmus, am eu bod yn dan∣gos y peth yma yn rhagorol, Yr holl gorph gogoneddus, medd efe, a lenwir a helaeth∣rwydd o bob math ar ddyfyrrwch, y llygaid, y clu∣stiau, y ffroenau, y genau, y dwylo, y gêg, yr ys∣gyfaint, y galon, y cylla, y cefn, yr esgyrn, y mêr, a'r ymysgaroedd eu hunain: a phob rhan o honynt a lenwir a'r fath annrhaethawl ddigrifwch a pher∣eidd-dra, fel y gellir dywedyd yn ddigon gwir, Yr holl ddyn a lawn-ddigonir, a feddwir, a fwydir, a brasder tŷ Dduw; ac ag afon dy hyfrydwch y diodir ef: Canys gydâ'r Arglwydd y mae ffynnon y bywyd, ac yn ei oleuni ef y gwelwn oleuni, Psal. 36.8, 9. Ac heb law hyn i gyd, y mae yn cael tragywyddoldeb, trwy'r hon y siccrheir ef, na bydd byth marw, ac na newid byth ei ddedwyddwch; yn ôl yr hyn a ddy∣waid

Page 132

yr Scrythur, Y cyfiawn a fydd byw byth. yr hyn yw vn o ragor-freiniau pennaf y corph gogo∣neddus; o herwydd trwy hyn y tynnir ymmaith bob gofal ac ofn, ac y symmudir oddiwrthym bob perygl ac enbydrwydd o gael na niweid na sar∣haed.

12. Ond bellach i ddyfod at y rhan honno o dded∣wyddwch a berthyn i'r enaid, yr hon yw y rhan ben∣naf, mae'n rhaid i ni ddeall, er bod llawer o bethau yn dyfod ynghyd yn y dedwyddwch yma, i gyflaw∣ni ac i berffeithio 'r gwynfyd: etto nid yw ffynnon y cwbl ond vn peth yn vnig, a hynny a eilw 'r dy∣feinwyr, visio Dei beatifica, Cael gweled Duw, yr hyn sydd yn ein gwneuthur ni yn dded∣wydd. Haec sola est summum bonum no∣strum, medd S. Awstin, Cael gweled Duw yw 'n daioni pennaf ni a'n dedwy∣ddwch. Yr hyn y mae Christ hefyd yn ei ddywedyd, pan yw efe yn dywedvd wrth ei. Dad. Hyn yw 'r bywyd tragywyddol, bod i ddyn dy adnabod di, yr vnig wir Dduw, a'r hwn a ddanfonaisti, Jesu Grist. Joan. 17.3. Ac y mae S. Paul hefyd yn dangos mai Cael gweled Duw wyneb yn wyneb, yw ein dedwy∣ddwch ni, a S. Ioan mai Cael gweled Duw megis y mae, 1 Cor. 13.12. 1 Io. 3.2. A'r rheswm o hyn ydyw, am fod pob difyrrwch a bodlonrwydd yn y byd (y rhai nid ŷnt ond gwreichion a rhannau wedi eu danfon oddiwrth Dduw) yn gynnwysedig oll yn Nuw ei hun, a hynny yn llawer perffeithi•••••• a go∣didowgach nag y crewyd hwynt yn eu ••••turiau eu hunain: megis hefyd y mae holl berffeithrwydd ei greaduriaid ef yn gyflawnach ynddo ef nag ynddynt hwy. Ac o hyn y canlyn bod ym mhwy bynnag ac a gynnhwyser i gael gweled Duw, ac i ddyfod yn ei wydd ef, holl ddaioni a pherffeithrwydd creadu∣riaid y byd wedi eu cyssylltu ynghyd, a'i presentio

Page 133

iddo ef ar vnwaith. Megis pa beth bynnag sydd hyfryd gan na'r corph na'r enaid, y mae efe yo yn ei fwynhau yn gwbl, wedi eu cylymmu ynghyd megis yn vn ysgub, ac y mae hynny â'i bresennol∣deb yn ei orchfygu ef ym mhob rhan o'i enaid a'i gorph; megys nas gall efe na dychymmyg, na dy∣muno, na meddwl am lawenydd yn y byd, nad ydyw efe yn ei gael yn ei lawn berffeithrwydd: yno y mae yn cael pob gwybodaeth, pob doeth∣ineb, pob tegwch, pob cyfoeth, pob bonedd, pob daioni, pob dyfyrrwch, a phob peth heb law hynny ac sydd yn haeddu na'i garu, na rhyfeddu wrtho, neu yn gweithio hyfrydwch a bodlonedd. Holl alluoedd y meddwl a lenwir a'r golygiad yma ar Dduw, a bod yn ei wydd ef, a'i fwynhau; holl synhwyrau 'r corph a ddigonir. Duw a fydd yn ddedwyddwch cyffredinol i w holl Sainct, yr hwn sydd yn cynnwys ynddo bob math ar ddedwy∣ddwch neillduol, heb drangc heb orphen, heb ri∣fedi, heb na meidr, na mesur. Efe a fydd yn ddrych i'n llygaid ni, yn fusig ac yn felys-gerdd i'n clustiau ni, yn fel i'n geneuau ni, yn balm hyfryd o'r pe∣reiddiaf i'n haroglau ni: efe a fydd yn oleuni i'n deall ni, yn fodlonrwydd i'n hewyllys ni, yn bara tragywyddoldeb i'n cof ni. Ynddo ef y cawn ni fwynhau pob ymrafael fath ar amseroedd sydd yma yn hyfryd gennym ni, a holl degwch y creaduriaid sydd yma yn ein llithio ac yn ein denu ni: a phob digrifwch a llawenydd sydd yma yn ein bodloni ni. Wrth weled Duw, medd vn o'r Doctoriaid, y cawn ni wybod, y cawn ni garu, y cawn ni lawe∣nychu, y cawn ni glodfori. Ni a gawn wybod hyd yn oed cyfrinachoedd a barnedigaethau Duw; y rhai sydd eigion gorddyfnder diwaelod. Nia gawn wybod achosion, a naturiau, a dechreuad, a gwrei∣ddyn a chychwynfa a diwedd pob creadur. Ni a

Page 134

gawn garu yn anghyfartal, ni a gawn garu Duw o herwydd yr aneirif o achosion cariad a gawn eu gweled yn∣ddo, a charu ein cyfeillon cymmaint a ni ein hunain, am y cawn ni weled fod Duw yn eu caru hwy yn gymmaint a ninau, a hynny am yr vn achos ac y mae efe yn ein caru ninnau. Ac o hyn y canlyn, y bydd ein llawenydd ni heb arno na meidr na mesur, Psal. 36.8. am y cawn ni lawenydd neillduol am bob peth ac yr ydym ni yn ei garu yn Nuw, y rhai sy aneirif; a hefyd am y cawn ni lawenychu o achos dedwyddwch pob vn o'n cyfeillion, yn gymmaint ac o achos yr eiddom ein hunain: ac wrth hynny ni a gawn cynnifer o fathau gwahanredol ar ddedwy∣ddwch, ac a fyddo i ni o gyfeillion gwahanredol yn gyfrannogion o'r dedwyddwch hwnnw: a chan fod y rhai hynny yn aneirif, nid rhyfedd ddywedyd o Grist, Dôs i mewn i lawenydd dy Arglwydd, ac nid Aed llawenydd dy Arglwyed i mewn i ti': oblegid nas gall vn galon ac a grewyd dderbyn cyflawnder a maint y llawenydd yma, Mat. 25.21, 23. O hyn y canlyn yn ddiweddaf, y cawn ni foliannu Duw heb na diben na diffygio, a hynny â'n holl ga∣lon â'n holl nerth, â'n holl alluoedd, â'n holl ran∣nau, yn ôl yr hyn a ddyweid yr Scrythur lân, Gwyn fyd preswylwyr dy dŷ di, O Arglwydd, yn wastad i'th foliannant, byth bythoedd, Psal. 84.4.

13. Am y gwynfydedig weled yma a'r Dduw, y mae 'r tâd duwiol S. Awstin yn yscrifennu fel hyn, Gwyn fŷd y rhai glan o galon, canys hwy a gant we∣led Duw, medd ein Iachawdr; wrth hynny, y mae gweled Duw, frodyr anwyl, yn ein gwneuthur ni yn wyn∣fydedig; y mae golwg, meddaf, yr hwn ni welodd llygad yn y byd yma, ac ni chlywodd clust, ac nid aeth i mewn i galon dŷn. Y mae golwg

Page 135

sydd yn rhagori ar bob tegwch pethau bydol, me∣gis aur, arian, coedydd, maesydd, y môr, yr a∣wyr, yr haul, y lleuad, y sèr, yr Angylion: oble∣gid mai oddi wrth y golwg hwnnw y mae 'r holl bethau hyn yn cael eu tegwch, Ni a gawn ei weled ef wyneb yn wyneb, medd yr Apostol, ac a gawn ei adnabod ef, megis i'n hadwaenir ninnau, 1 Cor. 13.12. Ni a gawn adnabod gallu 'r Tâd, ni a gawn adnabod doethineb y Mâb, ni a gawn adnabod daioni yr Yspryd glân, ni a gawn adnabod na∣turiaeth anghy frannol y fendigediccaf Drindod. A'r golwg yma ar wyneb Duw yw llawenydd yr An∣gylion, a'r holl Sainct yn y nef. Y golwg yma yw gwobr bywyd tragywyddol, hwn yw gôgoniant yr ysprydion bendigedig, a'i dyfyrrwch tragywyddol, a'i coron anrhydedd, a'i hynnill ar ddedwyddwch, a'i hesmwythyd cyfoethog, a'i lle tirion hyfryd, a'i llawenydd oddi fewn ac oddi allan, a'i duwiol baradwys, a'i Jerusalem nefol, a'i dedwyddwch bywyd, a'i llawnder gwynfyd, a'i tragywyddol lawenydd, a'i tangnefedd Dduw yr hwn sydd vwch law pob deall. Y golwg hwn ar Dduw yw llawn ddedwyddwch dyn, a'i hollawl ogoneddiad; sef ca∣el gweled yr hwn a wnaeth nef a daiar; cael gwe∣led yr hwn a'th wnaeth, ac a'th brynodd, ac a'th ogoneddodd di. Oblegid wrth ei weled, ti a'i molienni, Oblegid efe yw tref-tadaeth ei bobl; efe yw perchennogaeth eu dedwyddyd hwy; efe yw'r gwobr y maent yn disgwyl am dano, Myfi yw dy wobr mawr iawn, medd efe wrth Abraham, Gen. 15. O Arglwydd, yr wyti yn fawr, ac am hynny nid rhyfedd by fod di yn wobr mawr. Dy weled di gan hynny, a'th fwynhau, yw 'n holl gyflog ni, a'n holl wobr, a'n holl lawenydd a'n dedwyddwch, yr ydym yn disgwyl am dano, gan ddafod i ti ddywe∣dyd,

Page 136

dyd, Hyn yw 'r bywyd tragywyddol, dy weled a'th adnabod di yr vnig wir Dduw, a'r hwn a ddanfonaisti Jesu Grist. Joan. 17.3.

14. Gan ddarfod bellach ddangos dwy ran gy∣ffredinol y dedwyddwch nefol, y naill yn perthyn i'r enaid, a'r llall i'r corph; nid yw anhawdd bwrw amcan pa ragorol lawenydd a bair pob vn o'r ddwy ran, pan gyssyllter hwy ynghyd, pan ddêl bendi∣gedig ddiwrnod ein gogoneddiad ni. Oh y llawe∣nydd sydd vwch ben pob llawenydd, yn rhagori ar bob llawenydd, a heb yr hwn nid oes dim llawe∣nydd; pa bryd y caf fi fyned i mewn i ti, medd S. Awstin, Pa bryd y caf dy fwynhau di, i gael gweled Duw, yr hwn sydd yn trigo ynot ti? Oh dragywyddol deyrnas! Oh deyrnas pob tragywyddoldeb: Oh oleuni heb ddiwedd! Oh dangnhefedd Dduw yr hwn sydd vwch law pob deall! lle mae eneidiau 'r Sainct yn gorphywys gyda thi: a llawenydd tragy∣wyddol sydd ar eu pennau; y maent wedi goddiwes llawenyd a hyfrydwch, a phob gofid a griddfan a ffoawdd ymaith oddiwrthynt, Esa. 35.10. & 51.11. Oh mor ogoneddus o deyrnas yw 'r eiddot ti, Ar∣glwydd, yn yr hon y mae 'r holl Sainct yn teyrnasu gyda thi, wedi eu gwisgo â goleuni fel dilledyn, ac ar eu pennau goronau o aur coeth, Psal. 104.2. Psal. 21.3. Oh deyrnas tragywyddol wynfyd, lle 'r wyti, ô Arglwydd, gobaith yr holl Sainct, a choron a thalaith eu gogoniant tragywyddol, yn eu llawenychu hwy o amgylch, ath welediad bendige∣dig. Yn y deyrnas yma eiddot ti, y mae llawe∣nydd anfeidrol, a digrifwch heb brudd-der, ac ie∣chyd heb dristwch, a bywyd heb lafur, a goleuni heb dywyllwch, a dedwyddwch heb dawl, a phob daioni heb ddim drwg: lle y mae ieuengtid yn ei odau, heb heneiddio byth, bywyd heb ddiben,

Page 137

tegwch heb ddiflannu byth, cariad heb oeri byth, iechyd heb ballu byth, llawenydd heb beidio byth. Ni chlywir byth oddiwrth dristwch, lle ni chlywir cwyno byth, lle ni welir byth achos prudd-der, lle nid rhaid ofni afrwydd-deb byth; Am eu bod hwy yn dy feddiannu di, o Arglwydd, yr hwn wyt ber∣ffeithrwydd eu dedwyddwch hwy.

15. Ped ystyriem ni 'r pethau hyn, fel y gwnai 'r gwr Duwiol yma, ac eraill o'i gyffelyb, diam∣mau y cynneuai ac yr ennynnai ynom ni fwy o gari∣ad i'r dedwyddwch hwn a barottowyd i ni, nag sydd ynom; ac felly ni a ymdrechem yn well nag yr y∣dym i geisio ei ynnill. Ac fel y bo i ti glywed mwy o fyw ynot, ddarllenydd hawddgar, ynghylch hyn o beth, ystyria gyda myfi, Pa ddiwrnod llawen fydd hwnnw yn dy dŷ di, wedi darfod i i fyw mewn ofn Duw, a'i wasanaethu ef hyd ddiw••••d dy bere∣rindod; a chael dyfod o'r diwedd, trwy gyfrwng angeu, i ymadael a'th drueni ac a'th lafur a meddi∣annu anfarwoldeb: ac yn y traidd ar ymadawiad hwnnw, pan fo eraill yn dechreu ofni, tydi a gai ddyrchafu dy ben mewn gobaith, fel y mae Christ yn addaw, am fod amser dy ymwared a'th iechydwria∣eth di yn nesau, Luc. 21.28. Dyweid i mi pa fath ddiwrnod, dybygidi, fydd hwnnw, pan fo dy e∣naid di yn myned allan o garchar, ac yn cael ei gyr∣chu a'i ddwyn i babell nef, ac yn cael ei dderbyn yno gyda minteioedd a byddinoedd anrhydeddus y lle hwnnw: gydâ 'r holl ysprydion gwynfydedig hynny y mae son am danynt yn yr Scrythur lan, sef yw y rhai hynny, tywysogaethau, a galluoedd, a nerthoedd, ac arglwyddiaethau, a thronau, ac An∣gylion, ac archangylion, a Cherubiaid a Seraphi∣aid, a hefyd gyda sanctaidd Apostolion a disgyblion Christ, a'r padrieirch a'r prophwydi, a'r merthy∣ron, a'r gwirioniaid, a chonssessoriaid, a holl Sainct

Page 138

Duw; y rhai a orfoleddant i gyd oll wrth dy go∣roni di a'th ogoneddu. Pa lawenydd a fydd i'th e∣naid di y dythwn hwnnw, pan bresentier ef yng∣wydd yr holl rai vchel-swydd hynny, ger bron gor∣seddfaingc a mawrhydi y fendigedig Drindod, a dangos ac yspyssu dy holl weithredoedd da di, a'th lafur a ddioddefaist er cariad ar Dduw, ac er mwyn ei wasanaeth ef? Pan osoder ar lawr yn y senedd a'r gymmanfa anrhydeddus honno, dy holl weithre∣doedd da di, a'th holl boen a gymmeraist yn dy al∣wedigaeth, a'th holl eluseni, a'th holl weddiau, a'th holl ymprydiau, a'th holl ddiniweidrwydd bywyd, a'th holl ddioddefgarwch wrth gael cam, a'th holl ddianwadalwch yn dy adfyd, a'th holl gymmedrol∣der, a'th gymmesurwydd mewn bwyd a diod, a holl rinweddau da dy holl fywyd? Pan gyfrifer hwy oll, meddaf, yno, a'i canmol oll, a'i gobrwyaw oll, oni chai di weled grym a llês buchedd dda rin∣weddol? Oni chyfaddefi di'r pryd hynny fod gwa∣sanaeth Duw yn ynnillfawr ac yn anrhydeddus? O∣ni byddi di lawen yr amser hwnnw, a bendithio 'r awr y rhoist dy fryd gyntaf ar ymadael a gwasanaeth y byd, a myned i wasanaethu Duw? Oni thybygi di dy fod yn rhwymedig iawn i'r neb a'th gyngho∣rodd ac a'th annogodd di i wneuthur hynny? gwnei yn wir.

16. Ac etto mwy na hyn hefyd, pan fych di mor agos i'th ymadawiad oddi yma, ac ystyried i ba fath borthladd diogelwch y daethost, ac edrych yn dy ôl ar y peryglon y daethost heibio iddynt, y rhai y mae eraill etto ynddynt; fe fydd i ti achos mwy o lawer i lawenychu. Oblegid ti a gai weled yn amlwg, mor aneirif o amserau y gallasai ddarfod am danati yn y daith honno, oni bai ddarfod i Dduw fod a'i law drosot ti yn ddiwyd iawn. Ti a gai we∣led y peryglon y mae eraill ynddynt, yr angeu a'r

Page 139

ddamnedigaeth y mae llawer o'th garedigion a'th gydnabod di wedi syrthio iddynt, y tragywyddol boenau vffernol a haeddodd llawer a fyddei arfer o chwerthin ac o fod yn llawen gyd â thi yn y byd. Yr hyn i gyd a chwanega ddedwyddwch dy fendi∣gedig gyflwr di. Ac weithian o'th ran di dy hun, ti a elli fod yn ddiogel, yr wyt ti allan o bob math ar berygl yn oes oesoedd. Nid rhaid mwy weithi∣an wrth nac ofni, na gwilied, na llafurio, na gofa∣lu. Di a elli fwrw heibio dy holl arfau bellach, yn well nag y gallai meibion Israel, wedi iddynt ynnill gwlâd yr addewid. Oblegid nid oes mwy vn ge∣lyn i'th gyrchu di, ac i osod arnat: nid oes mwy vn sarph ddichellgar i'th dwyllo di: y mae pob peth yn heddychol, y mae pob peth yn esmwythdra, pob peth yn llawenydd, pob peth yn ddiogelwch. Nid rhaid i S. Paul mwy lafurio yngweinidogaeth y gair, nac ymprydio, na gwilio, na chospi ei gorph. Fe all yr hên Ierom dduwiol bellach beidio a'i boeni ei hun ddydd a nôs i geisio gorchfygu ei elyn ysprydol. Dy vnig waith di a'th orchwyl wei∣thian fydd llawenychu, a gorfoleddu, a chanu Hal∣lelujah i'r oen a'th ddug di i'r dedwyddwch hwnnw, ac a'th geidw di yntho, byth ac yn dragywydd. Pa gomffordd fydd cael gweled yr oen hwnnw yn eistedd ar orseddfaingc ei fawrhydi? Os daeth y doethion o'r dwyrain cyn belled ffordd i'w weled ef yn y preseb, a bod mor llawen ganthynt ei weled ef yno, pa beth fydd cael ei weled ef yn eistedd yn ei ogoniant? Os llammodd Ioan fedyddiwr wrth ei bresennoldeb ef ynghroth ei fam, pa beth a wna ei bresennoldeb ef yn ei frenhinol a'i dragywyddol deyrnas? Y mae yn rhagori ar bob go∣goniant arall y mae 'r Sainct yn ei gael yn y nef, Medd S. Awstin, gael o ho∣nynt

Page 140

eu cynnwys i gael gweled wyneb gogoneddus Christ, a derbyn pelydr gogoniant oddiwith ddis∣gleirdeb ei fawredd ef. A phe bai raid i ni ddio∣ddef poenau bob dydd, ie poenau vffern tros amser, er mwyn cael gweled Christ, a chael ein cyssylltu mewn gogoniant at rifedi 'r Sainct, ni byddei hynny ddim wrth y tal a geid am dano. O na wnaem ni gyfrif cymmaint o hyn yma, ac a wnai 'r gwr san∣ctaidd hwnnw; ni byddem ni byw fel yr ydym, ac ni chollem ni mor gwobr hwnnw er mwyn y fath goegoethau ac y mae y rhan fwyaf o ddynion yn ei golli o'i plegid.

17. Ond i fyned rhagom etto ymmhellch i ystyried y peth hyn, meddwl heb law hyn i gyd, pa lawenydd sydd gan dy enaid di y dwthwn hwn∣nw, gael cyfarfod a'i holl dduwiol garedigion yn y nef, a thad ac a mam, a brodyr ac a chwiorydd, a gwraig ac a gwr, ag athraw, ac a disgyblion, a chymmydogion ac a chyfneseifiaid, a chydtylwyth ac a chydnabod; a chael y croesaw, a'r llawenydd, a'r mwyn ymgofleidio, a fydd yno, o'r hyn, fel y dy waid S. Cyprian, y bydd llawenydd annrhaethawl. Rhoer at hynny, y beunyddol wle∣dda, a'r gorfoledd anghyfartal a fydd yno, pan ddelo brodyr a chwiorydd newydd i mewn, y rhai sy 'n dyfod yno o amser i amser, a chanddynt anrhaith eu gely∣nion y cawsant y gorfod arnynt yn y byd hwn. Ond pa olwg comfforddus fydd gweled llenwi ei∣steddleoedd yr angylion a gwympodd, a gwyr ac a gwragedd, o ddydd i ddydd! a gweled gosod co∣ronau gogoniant ar eu pennau hwy, a hynny mewn amryw foddion, yn ôl eu hamryw orfodaeth hwynt: vn am ferthyrdod a chyffessu enw Christ, yn erbyn yr erlidiwr: vn arall am ei ddiweirdeb yn y cnawd: vn arall am dlodi a gostyngeiddrwydd, yn erbyn y

Page 141

byd: vn arall am lawer goruchafia••••••, yn erbyn y cythraul, 2 Tim. 2.12. Datc. 2. & 3. & 4. Yno y caiff gogoneddus fintai yr Apostolion, (medd Cyprian sanctaidd) yno y caiff nifeiri llawen y pro∣phwydi, yno y caiff aneirif liaws y merthyron dder∣byn coronau am eu marwoluethau a'i dioddefaint. Yno y caiff y gorfoleddus wyryfon, a orchfygasant chwant y cnawd, drwy nerth eu hymgynnal; yno y caiff yr elusenwyr da, a borthasant y tlawd yn haelionus, ac a drosglwyddasant eu golud bydol (yn ôl gorchymmyn Duw) i drysordy 'r nef; dder∣byn eu dyledus a'i priodol wobrau. Oh fel yr ym∣ddengys rhinwedd dda yn y dydd hwnnw! Oh mor fodlon fydd gweithredoedd da gan y rhai a'i gwna∣eth! Ac ym mhlith yr holl lawenydd a'r bodlon∣rwydd hwnnw, nid lleiaf fydd gweled yr eneidiau truain a ddêl yno yn ddisymmwth, allan o drueni a gofidiau 'r bywyd hwn, yn sefyll yn synn, ac me∣gys heb wybod oddiwrthynt eu hunain, gan y gyf∣newyd yma, a'r anrhydedd disymmwth a wneir iddynt. Pe bai ddyn tlawd a fai allan o'i ffordd, yn crwydro ei hunan ar y mynyddoedd ynghanol noswaith dywyll dymhestlog, ym mhell oddiwrth gwmpeini, mewn eisiau am arian, a'r glaw yn ei guro, a'i taranau yn ei ddychrynu, a'r oerfel yn ei fythu, a chwedi blino gan ei daith, ac agos yn dydd∣u gan newyn a syched, ac agos i anobeitheio gan liaws gofidiau; pe bai 'r cyfryw ddyn, meddaf, yn ddisymmwth, ar darawiad llygad, yn cael ei osod mewn palas teg, helaeth, cyfoethog, yn llawn o bob math ar oleuadau disglair, a thân gwresog, a aroglau peraidd, a bwydydd dainteiddiol, a gwe∣lyau esmwythglyd, a difyr felys gerdd, a gwis∣goedd dillynion a chwmpeini anrhydeddus, a'r cwbl wedi ei barottoi iddo ef, ac yn disgwyl am ei ddy∣fodiad, i wasanaethu arno, i'w anrhydeddu, ac i'w

Page 142

enneinio ac i'w goroni yn frenhin tros byth; pa beth a wnai 'r dŷn tlawd hwn, meddwch chwi? pa fodd yr edrychai ef? pa beth a fedrai efe ei ddywedyd? yr wyf yn tybiaid yn siccr na fedrai efe ddywedyd dim, ond yn hyttrach wylo yn ddistaw o wir lawe∣nydd, gan na allai ei galon ef amgyffred disym∣mwth ac anfeidrol faint y llawenydd hwnnw.

18. A hynny i gyd, a llawer mwy a fydd i'r enei∣diau llwyr dded-wydd a ddel i'r nef. Canys ni bu erioed na'r tawel-oer gysgod mor hyfryd ar ddydd tesog, poeth, llosgadwy; na'r ffynnon loyw-ddwfr i'r ymdeithydd tlawd ynghanol ei ddygn syched ga∣nol dydd o haf; na gorphywys ar wely man-blu esmwyth i'r gwâs lluddedig, y nôs ar ôl ei waith; nag a fydd yr esmwythdra yma yn y nef, i'r enaid blinedig a ddêl yno. Oh na fedrem ni ddeall hyn, na fedrem brintio hyn yn ein calonnau, frawd an∣wyl; a ddilynem ni goeg-bethau'r byd fel yr ydym? a esgeulusem ni'r pethau hyn fel yr ydym? Yn siccr y dŷb wan wael sydd gennym am y llawenydd yma, sydd yn peri i ni fod mor oer yn ei geisio. Oble∣gid pe gwnaem ni y fath bris a chyfrif ar y tlws hwn, ac a wnai marsiandwyr eraill o'n blaen ni, y rhai oedd gyfarwyddach a doethach nâ nyni; ni a gynnygiem am dano fel y cynnygiasant hwythau, neu o'r hyn lleiaf ni byddem ni mor esgeulus a ga∣dael i fyned heibio y peth yr oeddynt hwy mor o∣falus yn ymgais am dano. Y mae'r Apostol yn dy∣wedyd am Grist, efe a osododd y llawenydd ger ei fron, ac a ddioddefodd y groes, Heb. 12.2. Dy∣na gyfrif mawr yr oedd efe yn ei wneuthur o'r peth, pan brynai ef mor brid. Ond pa gyngor y mae efe yn ei roi i eraill ynghylch yr vn peth? Dim ond hyn, Dôs a gwerth gymmaint oll ac a feddych, a phryn y tryssor yma, Mat. 13.45. A pha beth y mae S. Paul yn ei ddywedyd am dano ei hun, ond

Page 143

ei fod efe yn cyfrif pob peth yn dom, wrth geisio pry∣nu 'r tlws yma, Phil. 3.8. Yscolhaig S. Paul, Ig∣natius ynteu, beth y mae efe yn ei gynnyg am dano? Gwarandewch ei eiriau ef ei hun. Deued tân, a chrôg, a dannedd anifeiliaid, a dryllio fy esgyrn, a chwartorio fy aelodau, ac yssi∣go fy nghorph, a holl boenau vffern arna∣fi i gyd ar vnwaith, os câf fi fwynhau y tryssor nefol yma. A S. Awstin yr esgob duwiol, beth y mae ynteu yn ei gynnyg am dano? Chwi a glywsoch o'r blaen y byddai efe bodlon i ddioddef poenau bob dydd, hyd yn oed poenau vffern, er mwyn ynnill y llawenydd hwn. O Arglwydd Dduw, pa ragor oedd rhwng y Sainct duwiol hyn a nyni? Mor wrthwyneb oedd eu tyb a'i barn hwy i nyni yn y pethau hyn! Pwy bellach a ryfedda fod Duw yn barnu doethineb y byd hwn yn ffolineb, a bod y byd yn cyfrif doethi∣neb Duw yn ffolineb? O feibion dynion, medd y prophwyd, pa hŷd yr hoffwch wegi, ac yr argeisi∣wch gelwydd? Psal. 4.2. Pa ham yr ydych yn ym∣gofleido â gwelltach, ac yn diystyru aur? Ie gwell∣tach, meddaf ac vs gwael, a chyfryw ac a ennyn dân yn eich tai chwi o'r diwedd, ac a fydd yn gw∣ymp ac yn golledigaeth tragywyddol i chwi.

19. Ond bellach i dynnu at y diben yn y peth hyn, er bod y peth ei hun yn anniben; ystyried Christion i ba beth y ganwyd ef, a pha beth y mae efe yn bossibl i'w gael os efe a'i mynn. Efe a an∣wyd yn etifedd i deyrnas nef, teyrnas heb ddiwedd arni, teyrnas heb fesur arni, teyrnas dedwyddwch, teyrnas Duw ei hun: efe a aned i fod yn gydeti∣fedd ag Jesu Grist Mab Duw, i deyrnasu gyd ag ef, i orfoleddu gyd ag ef, i eistedd mewn barn a maw∣rhydi gyd ag ef, i farnu Angylion nef gyd ag ef. Pa ogoniant mwy a ellid meddwl am dano, oni bai

Page 144

gael bod yn Dduw ei hun? Fe a dywelltir am ei ben ef yr holl lawenydd, a'r holl gyfoeth a gynnhwy∣sir yn y nef. Ac i wneuthur yr anrhydedd hwn etto yn fwy, yr Oen gogoneddus sydd yn eistedd ar or∣seddfaingc y mawredd, a'i lygaid fel fflam dân, a'i draed fel pres coeth, a'i wyneb yn disgleirio yn oleu∣ach nâ'r maen gwerthfawr, yr hwn y daw taranau a mellt o'i orseddfaingc byth bythoedd, yr hwn y rhydd y pedwar henuriad ar hugain eu coronau i lawr ger ei fron; yr oen hwn, meddaf, a gyfyd, ac a'i hanrhydedda ef a'i holl wasanaeth, Luc. 12.37. Pwy ni wna gyfrif o'r etifeddiaeth frenhinol hon? Yn enwedig gan fod i ni yr awrhon amser mor gy∣faddas i'w cheisio ac i'w chael hi trwy ddawn ein prynedigaeth, a thrwy'r grâs a bwrcaswyd i ni wrth ein prynu.

20. Dyaid i mi bellach ddarllennydd hawdd∣gar, pa ham na dderbyni di y cynnyg yma y mae efe yn ei wneuthur i ti? Oni wnai di gyfrif o'r deyr∣nas yma eiddo ef? Pa ham na phryni di y gogoni∣ant yma gantho ef er cyn lleied o boen ac y mae efe yn ei ofyn gennyti? Yr wyf yn dy gynghori di, medd Christ, i brynu gennyfi aur wedi ei buro trwy dân, fel i'th gyfoethoger, Datc. 3.18. Pa ham na chanlyni ei gyngor ef, frawd anwyl, ac ynteu yn gyngor marsiandwr nid oes yn ei fryd mo'th dwyllo di? Nid oes dim mwy gofidus gan ein Iachawdr Christ, na bod dynion yn ceisio trwy gymmaint o boen bryn∣nu gwêllt yn yr Aipht, lle y gwerthai efe iddynt aur pûr yn well newid; a'i bod yn prynu dwfr y pwll, â mwy o boen nag a ofynnai efe am ddeg cymmaint o loyw ddwfr allan o'r ffynnon ei hun. Nid oes gwr o'r annuwiolaf yn y byd, nad yw yn cymmeryd mwy o boen yn ynnill vffern, fel y dan∣gosir yn ôl hyn, nag y mae 'r mwyaf ei boen o wa∣sanaethwyr Duw yn ei gymmeryd i geisio ynnill nef.

Page 145

21. Ond na chanlyn di mo'i ffolineb hwy fy mrawd anwyl, oblegid ti a gei eu gweled hwy yn dioddef yn dôst am hynny ryw ddiwrnod, pan fo dy galon di yn ddigon llawen nad oes i ti gyfran yn y byd gydâ hwynt. Elont hwy 'n awr a threuliant eu hamser mewn oferedd, a digrifwch, a difyrrwch y byd. Adailadant balassau, prynant swyddau a brei∣niau, a chwanegant y naill ddarn o dir at y llall: gwibiont ar ôl goruchafiaeth ac anrhydedd, ac adei∣ladant gestyll yn yr awyr: fe ddaw 'r diwrnod, os coeli di Grist ei hun, pan fo i ti ychydig achos i wyn∣fydu ac i gynfigennu wrth eu dedwyddyd hwy. Luc. 6.25. Os hwy a chwedleuant yn wael am o∣goniant a chyfoeth y Sainct yn y nef, heb wneuthur cyfrif yn y byd o'r rhai hynny wrth yr eiddynt eu hunain, ond eu diystyru am na chyfrifir difyrrwch cnawdol yn eu mysg; na wna di fawr gyfrif o'i geiriau hwy, am nad yw 'r dyn anianol yn derbyn nag yn deall y pethau sy o yspryd Duw, 1 Cor. 2.14. Pettai eu meistr yn addo i gephylau wledd fawr, ni fedrent hwy feddwl am well gwledd na chael eu gwala o ebran, o ŷd a dwfr; am nad ydynt hwy yn adnabod seigiau gwell na 'r rhai hynny: felly y gwyr hyn, am nad ydynt hwy gydnabyddus ond a budr-bwll eu cnawdol ddyfyrrwch eu hun, ni fe∣drant hwy ddyrchafu mo'i meddyliau at ddim a fo vwch na hynny. Ond mi a ddangosais i ti o'r blaen, ddarllennydd tirion, ryw ffyrdd i ystyried ac i fe∣ddwl am bethau a fo mwy, er bod yn ddir i ni, fel i'th rybuddiais yn fynych, gyfaddef gyda S. Paul, na all calon dŷn na deall na meddwl y rhan leiaf o honynt: ac nid yw anghyffelyb mai o'r achos hyn∣ny y gwaharddwyd i S. Paul adrodd y pethau a wel∣sai ac a glywsai, pan gymmerwyd ef i fynu yn rhy∣feddol i'r drydedd nef. 1 Cor. 2.9. 2 Cor. 12.

Page 146

22. I ddibennu weithiau, y mae 'r gamp a'r gyngwystl yma wedi ei gosod i, fynu i'r rhai a redo, fel y dywaid S. Paul, ac ni choronir neb, ond yn vnig y rhai a ymdrecho, fel y mae 'r vn Apostol yn dysgu. 1 Cor. 9.24. 2 Tim. 2.4. Nid pwy bynnag a ddywedo wrth Grist, Arglwydd, Arglwydd a â i mewn i deyrnas nefoedd, ond yr hwn sydd yn gwneu∣thur ewyllys ei Dâd ef yr hwn sydd yn y nefoedd, Mat. 7.21. Er bod y deyrnas yma eiddo Christ wedi ei gosod o flaen pawb, etto ni chaiff pob dyn ddyfod i deyrnasu gyd a Christ, ond yn vnig y rhai a fo bodlon i ddioddef gyda Christ. Dy ran di gan hynny yw eistedd i lawr, ac ystyried yn ôl cyngor dy lachawdwr, pa beth a wei, a oes gennyti cym∣maint o arian ysprydol, ac a fo ddigon i adeiladu 'r twr hwn, ac i fyned i'r rhyfel hon, ai nad oes: hynny ydyw, a oes gennyti ynot cymmaint o ewy∣llys da, a gwroliaeth sanctaidd, a chlywed arnat ddioddef poen gyda Christ (os poen y gelwir hyn∣ny, ac ynteu yn hyttrach yn hyfrydwch) fel y gal∣lech di felly deyrnasu gyd ag ef yn ei deyrnas, Luc. 14.27, 28. Hyn yw'r Questiwn, ac dyma holl derfyn y peth, ac at hyn y perthyn pob peth ac a ddywedpwyd yn y llyfr hwn o'r blaen, pa vn byn∣nac a'i am dy ddiwedd neillduol di, ai am fawrhy∣di, a haelioni, a chyfiawnder Duw; ac am y cyfrif a ofyn efe gennyt ti; a hefyd am y gospedigaeth a'r taledigaeth sy wedi eu rhoi i gadw i ti: Fy amcan; meddaf, yn hyn i gyd, yw ceisio peri i ti fesuro y naill ran, ar llall hefyd, ac felly rhoi dy fryd ar e∣drych pa beth a wnait, ac na ollyngyt mo'th amser heibio mewn diofal esgeulusdra, fel y gwna llawer heb ganfod byth mo'i hamryfusedd a'i camsynnied, hyd oni byddo rhyhwyr ei wellhâu.

23. Er cariad ar Dduw gan hynny, frawd anwyl, ac er y cariad sy gennyt i'th enaid dy hun, ysgwyd

Page 147

ymaith y diofalwch peryglus yma, yr hwn y mae cig a gwaed yn arfer o suo i ddynion i gysgu ynddo: a dôd gwbl o'th fryd, o ddifrif dy galon, ar edrych am dy enaid, erbyn y fuchedd a ddaw. Cofia yn fy∣nych y dywediad gwiw hwnnw, Hoc momentum, un∣de pendet aeternitas, Mynudyn a moment o amser yw 'r byd hwn, etto arno ef y saif holl dragywyddol∣deb bywyd ac angeu 'r byd a ddaw. Onid ydyw ond mynudyn, ac os ydyw fynudyn o gymmaint pwys, pa fodd y mae dynion y byd yn ei ollwng heibio mor ddiofal ac y maent.

24. Mi a allaswn yma ddwyn aneirif o resymmau ac ystyriaethau i gynnhyrfu dynion i roi eu bryd yn gwbl ar wasanaethu Duw; ac yn siccr ni by ddei vn llyfr o'r mwyaf ddigon i gynnwys cymmaint ac a ellid ei ddywedyd am y peth hyn. Oblegid nid yw 'r holl greaduriaid sy tan y nef, ie yn y nef ei hun, ac yn vffern hefyd; nid yw 'r cwbl, meddaf, o'r cyntaf hyd y diweddaf, ond megis rhesymmau i an∣nog ac i berswadio dyn i hynny; nid yw 'r cwbl ond megis llyfrau a phregethau, a'r cwbl yn prege∣thu ac yn llefain (rhai drwy eu cospedigaeth, rhai drwy eu gogoniant, rhai drwy eu tegwch, a'r cwbl drwy eu creedigaeth a'i gwneuthuriad) y dylem ni, yn ddioed ac yn ddiohir, roi ein bryd ar wasanae∣thu Duw; ac nad yw pob peth arall amgen nâ gwa∣sanaethu ein gwneuthurwr a'n prynwr, ond oferedd oll, ac ynfydrwydd oll, ac anwiredd oll, a thrueni oll. Ond etto er hynny, fel y dywedais, mi a dy∣biais yn dda ddethol yr ychydig bethau hyn a osod∣wyd i lawr, i ystyried arnynt, megis y pethau pen∣naf ym mhlith y llaill, a allai weithio ynghalon gwir Gristion. Ac onis gall y rhai hyn weithio ynot ti, ddarllennydd hynaws, nid oes fawr obaith y gwnai ddim arall i ti mor llês. Ac am hynny, yma y di∣weddaf y rhan hon, ac a adawaf ychydig bethau et∣to

Page 148

i'w dywedyd yn yr ail rhan, er mwyn tynnu ym∣maith y cyfryw rwystrau, ac y mae ein gwrthwy∣nebwr ysprydol yn arfer o'i gosod yn erbyn y gwaith da yma, megis yn erbyn y cam cyntaf o'n lechyd∣wriaeth ni. Ein Harglwydd Dduw, a'n Iachawdr Iesu Grist, yr hwn a fu fodlon i dalu ei waed ei hun, i ni; a roddo i ni ei râs, i wneuthur y fath gyfrif o honi ac y mae pwys y peth ei hun yn ei ofyn, ac na bo i ni trwy esgeulusdra, golli ein cyfran o honi. Amen.

Notes

Do you have questions about this content? Need to report a problem? Please contact us.