Llyfr y resolusion yr hwnsydd yn dysgv ini bawb : wneuther ein goreu a rhoi cwbl o'n Gristianogion hynny ydyw'ar ymadael a'n drwy fuchedd, a throi at ddaioni a duwioleb / wedi ei gyfiethu yn Gy mraeg gan y Dr. I.D. ...

About this Item

Title
Llyfr y resolusion yr hwnsydd yn dysgv ini bawb : wneuther ein goreu a rhoi cwbl o'n Gristianogion hynny ydyw'ar ymadael a'n drwy fuchedd, a throi at ddaioni a duwioleb / wedi ei gyfiethu yn Gy mraeg gan y Dr. I.D. ...
Author
Bunny, Edmund, 1540-1619.
Publication
yn Llundain :: gan I.R.,
1684.
Rights/Permissions

This keyboarded and encoded edition of the work described above is co-owned by the institutions providing financial support to the Early English Books Online Text Creation Partnership. Searching, reading, printing, or downloading EEBO-TCP texts is reserved for the authorized users of these project partner institutions. Permission must be granted for subsequent distribution, in print or electronically, of this text, in whole or in part. Please contact project staff at eebotcp-info@umich.edu for further information or permissions.

Subject terms
Christian life.
Cite this Item
"Llyfr y resolusion yr hwnsydd yn dysgv ini bawb : wneuther ein goreu a rhoi cwbl o'n Gristianogion hynny ydyw'ar ymadael a'n drwy fuchedd, a throi at ddaioni a duwioleb / wedi ei gyfiethu yn Gy mraeg gan y Dr. I.D. ..." In the digital collection Early English Books Online 2. https://name.umdl.umich.edu/A30113.0001.001. University of Michigan Library Digital Collections. Accessed May 20, 2024.

Pages

Page 1

Y RHAN GYNTAF O'R LLYFR HWN.

PEN. I. Amcan a Rhannau 'r llyfr hwn, ynghyd â rhybudd angenrheidiol i'r darlleydd.

AMcan ac ergyd priodol y llyfr hwn yw annog yr hwn sydd Gristion mewn enw, i fod yn Gristion mewn gwirionedd, or hyn lleiaf, vngwir feddylfryd ei galon ei hun. Ac o herwydd bod deubeth yn anghenrhei∣diol i'r perwyl hwnnw, am hynny y dosperthir y llyfr hwn yn ddwy ran. Yn y rhan gyntaf y dan∣gosir rhesymau tradwysion, ac achosion trachadarn i annog dyn i roi cwbl o'i fryd a'i feddwl ar fod yn Gristion da. Yn yr ail rhan y tynnir ymaith yr holl rwystrau y mae ein gelynion ysprydol (y byd, y cnawd, a'r cythrael) yn arfer o'i gosod o'n blaen, i luddias i ni roi 'n bryd a'n meddwl ar hynny; am eu bod yn gwybod yn dda mai ar hynny y mae ein holl wasanaeth ni i Dduw yn sefyll. Oblegid y neb ni roddo ei fryd vn amser ar wneuthur daioni, ac ar ymadael a'r peryglus gyflwr y mae ynddo tra fo mewn pechod, y mae hwnnw ym mhell oddiwrth wneuthur y peth ni roes erioed ei fryd ar ei wneu∣thur.

Page 2

Ond y neb sydd weithiau yn rhoi ei fryd ar wneuthur hynny, er nas gàd ei wendid a'i freuolder iddo ei gwplau pan roddo ei fryd arno; etto y mae 'r bryd a'r ewyllys hwnnw yn gymmeradwy gan Dduw, ac y mae ei feddwl a'i galon ynteu ar âl hyn∣ny yn barottach i roi ei fryd drachefn ar ei wneuthur, a thrwy râs Duw i'w wneuthur hefyd. Ond y neb a fo o'i wirfodd yn gwrthwynebu 'r amcanion da a roddo yr yspryd Glan yn ei galon ef, ac a fo mor anfoesol a diystyru ei Arglwydd sydd yn curo wrth ddrws ei galon a'i gydwybod ef; y mae 'r cyfryw vn yn annog digllonedd Duw yn ei erbyn yn fawr, ac yn myned fynychaf yn galettach galettach beunydd, hyd oni rodder ef i fynu i feddwl anghymmeradwy, yr hwn yw'r drws nessaf i golledigaeth dragywy∣ddol. Rhuf. 1.26. Dat. 3.20. Acts 7.

2. Vn peth gan hynny sy raid i ni rybuddio 'r dar∣lleydd o'i blegid, cyn myned ym mhellach, ar iddo gymmeryd mawr ofal am ochelyd vn ddichell o'r▪ rhai pennaf sy gan ein gelyn ysprydol ni, i dynnu myrddiwn o eneidiau beunydd i vffern: sef yw hynny, eu hofni a'i dychrynu rhac na gwrando na darllein dim ac a fo gwrthwyneb iw meddwl a'i he∣wyllys hwy eu hunain. Felly y dychryna efe yr occrwr rhag darllein vn llyfr a fo'n dysgu iddo dalu 'r llôg ar occr yn ei ól, yr anllad rhac darllein vn traethawd yn erbyn anlladrwydd: y bydol rhac dar∣llein llyfrau ysprydol a grybwyllont am dduwioldeb a dyfosiwn da. Ac dymma y rheswm y mae efe fy∣nychaf yn ei arfer i ddenu dynion i hynny: Ti a weli medd efe, nad wyt ti etto barod i ymadael á'r fuchedd yr wyt yn byw ynddi; ac am hynny ni wna darllein y cyfryw lyfrau ond blino dy gydwybod di, a'th fwrw di mewn trymder a thristwch, ac am hyn∣ny na ddarllein mo honynt hwy ddim. Dymma, meddaf ddichell gyfrwys sy gan Satan, i ddallu

Page 3

awer o ddynion ac iw hudo i golledigaeth: yr vn modd ac y mae yn hawdd ir hebogydd ddwyn lla∣wer o weilch lle y mynno, tra fo y mwgwd ar eu llygaid, yr hyn nis gallai byth ei wneuthur pe gada∣wai iddynt gael ei golwg yn rhydd.

3. Pettai anwybodaeth yn abl escus tros bechod, têg y gallai hynny fod yn achos i ddynion i fyw yn annuwiol: ond y mae 'r cyfryw anwybod ac sydd. o wirfodd calon dyn, yn hyttrach yn chwanegu ar 〈◊〉〈◊〉 pechod, ac ar ddrwg gyflwr y pechadur hefyd. Oblegid, am y cyfryw ddyn y dywed yr yspryd glân trwy fawr ddirmyg, Efe a beidiodd a bod yn gall i wneuthur daioni, Psal. 36.3. megis pe dywe∣dai, ni fynnai ddysgu gwneuthur daioni. A thra∣chefn, Am i ti ddiystyru gwybodaeth, minneu a'th ddiystyraf ditheu, Hos. 4.6. Ac am yr vnrhyw ddynion y dywaid yr yspryd glân mewn lle arall Y maent yn treulio eu dyddiau mewn daioni, ac mewn moment y desgynnant i'r bedd, Dywedant hefyd wrth Dduw, Cilia oddi wrthym, canis nid ydym yn chw∣ennych gwybod dy ffyrdd di, Job 21.13. Ymogeled pob dyn gan hynny rhac y ddichell hon, a bydded fodlon, o'r hyn lleiaf, i ddarllein llyfrau da, ac i ymarfer â chwmpeini duwiol, ac à chyfryw foddion eraill ac a allo wellhau ei fuchedd ef; er na bo etto yn ei fryd eu canlyn: ie er ei fod yn clywed ynddo ei hun wrthwyneb i wneuthur hynny. Oblegid nis gall y pethau hynny byth wneuthur dim niwed iddo, ond hwy allant wneuthur iddo fawr lles: ac fe allai y gall y gwrthwyneb y mae efe yn ei ddioddef yn ei feddwl wrth arfer o'r pethau hynny yn erbyn ei ewyllys, beri i'r Arglwydd trugarog sydd n gwe∣led ei gyflwr blin ef, roddi iddo yr orchafiaeth arno ei hun o'r diwedd, a danfon iddo lawer mwy o ddi∣ddanwch a chyssur yn y pethau yr oedd o'r blaen yn e diflassu, nag oedd o anfodd ac anewyllys ganddo

Page 4

iddynt ar y cyntaf. Oblegid efe a all Duw wne thur hynny yn hawdd, yn vnig drwy newidio ei blâs genau ni ag vn defnyn bâch o'i nefol râs, a gw neuthur y pethau hynny yn flasus ac yn beraidd, 〈◊〉〈◊〉 rhai'r oeddym ni o'r blaen yn eu clywed yn chwer∣won ac yn ddiflas.

4. Am hynny, megis yr ewyllysiwn fod i bob ma enaid o ddyn ac a ddarllenno y llyfr hwn, ei ddar∣llein â meddwl gwastad wedi ymroi yn gwbl yn llaw Dduw, a rhoi ei fryd ar wneuthur y peth a rodd 'r yspryd glàn yn ei feddwl ef, pe rhôn iddo a cho∣lli ei holl ddifyrrwch bydol wrth hynny: (yr hyn sydd anghenraid i bawb ei wneuthur, ar a fynno fod yn gadwedig) felly os bydd i vn nas gallo wneuthur hynny allan o law, etto mi a gynghorwn iddo, yn anad dim, geisio 'r maes ar ei feddwl ei hun cyn be∣lled a bod yn ddioddefgar i ddarllein y llyfr hwn hyd y diwedd, ac i edrych beth a ellir ei ddywedyd yn erbyn y pethau a gynnhwysir ynddo, er nas rho∣ddo gwbl o'i fryd a'i feddwl ar eu gwneuthur. O∣blegid nid wyf yn ammeu nas gall Duw gynnhyrfu calonnau y rhai hyn cyn y delont i ddiwedd y llyfr, i newidio eu meddwl, ac i ymroi yn ostyngedig i hyfryd wasanaeth eu Harglwydd a'i Hiachawdur, fel y gallo Angelion nef lawenychu a gorfoleddu am eu hynnill hwy drachefn, megis am y ddafad a go∣llasai. Luc. 15.

Page 5

PEN. II. Mor anghenrhaid yw i ni ystyried a myfyrio yn ddifrif ar ein cyflwr ein hunain.

Y mae'r Prophwyd Ieremi, yn ôl hir gwyno rhac yr aflwydd a'r gofid oedd ar yr luddewon yr mser hynny am eu pechodau, yn dangos yr achos o ynny yn y geiriau hyn; Y tiri gyd a anrheithiwyd, am nad oes neb yn cymmeryd at ei galon, Jer. 12.11. Gan arwyddoccau wrth hynny, pe buasai yr Iudde∣won yn ystyried yn ddwys ac yn ddifrif y fuchedd 'r cyflwr yr oeddynt ynddo cyn dyfod o'r difrod nawr hwnnw arnynt, y gallasent ddiangc rhagddo, el y diangodd y Ninifeaid wrth gymmeryd rhy∣ydd gan Ionas, er bod y cleddyf eusys wedi ei dyn∣u, a llaw'r Arglwydd wedi ei hystyn allan i'w di∣strywio hwy o fewn deugain nhiwrnod. Mor an∣ghenrhaid ac mor bwysfawr ydyw ystyried y pe∣hau hyn. Yn arwydd o'r hyn beth y cyfrifid yn flan wrth gyfraith Moses bob anifail ni chnoai ei gil: ac felly yn ddiammau y mae pob enaid ger ron Duw, yr hwn nid ystyrio yn ei galon ac ni hnoo ei gil, trwy fynych fyfyrio, ar y peth a fy∣ddai raid iddo ei wneuthur yn y bywyd hwn. Lev. 11. Deut. 14.

2. O herwydd, o ddyffyg y cyfryw ystyried a myfyrio y mae cymmaint o bechodau ac amryfuse∣ddau yn y byd, ac y mae llawer mil o Gristiano∣gion yn cael gweled eu bod ym mhorth vffern cyn ddynt ammeu dim o'r cyfryw beth, wrth adael eu arwain trwy ddyffryn y fuchedd hon, a hùg ac a gorchudd diofalwch a difrawch ac anystyr tros eu lly∣gaid, megis anifeiliaid i'r lladdfa, ac heb gael erioed

Page 6

weled eu perygl eu hun, hyd oni bo rhywyr ceisio help ac ymwared rhagddo.

3. O herwydd hyn y mae 'r yscrythur lân mor ofalus yn ein hannog ni i ystig fyfyrio ac i ddyfa ystyried beth a ddylem ei wneuthur, i geisio ein ha∣chub ni oddiwrth y perygl y mae eisieu ystyried a myfyrio yn ein tywys ni iddo.

4. Y mae Moses wedi darfod iddo ddangos i'r bobl ei gennadwri oddiwrth Dduw ynghylch holl gyfrannau 'r gyfraith, yn gosod hyn yn angwhaneg ger eu bronnau hwy oddiwrth Dduw, megis peth o'r angenrheittiaf Deut. 6.6. sef, Bydded y geiria hyn yn dy galon di, Ac yspyssa hwynt i'th blant a chrybwyll am danynt pan eisteddych yn dy dŷ, a phan gerddych ar y ffordd, a phan orweddych i gysgu, a phan gyfodech i fynu: a rhwym hwynt yn arwydd ar dy law, a byddant yn rhactalau rhwng dy lygaid. Scrifenna hwynt hefyd ar bŷst dy dŷ ac ar dy byrth. A thrachefn mewn lle arall y dywaid yr vn geiriau, ac y gorchymmyn ym mhellach fel hyn; Dysgwch hwynt i'ch plant, fel y gallont hwythau fyfyrio arnynt. Deut. 11.19. Yr vnrhyw orchymmyn a roddes Duw ei hun 1 Josua, pan ddewiswyd ef gyntaf i lywodraethu 'r bobl, Ios. 1.8, 9. Nac ymadawed llyfr y gyfraith hon o'th enau, eithr myfyria ynddo ddydd a nôs, fel y cedwych ar wneuthur y hyn oll sydd scrifennedig ynddo: Ac yn y man y mae Duw yn dangos pa lês a wnai hynny iddo, Yna y llwyddi yn dy ffyrdd, ac yna y ffynni; canys yr Arglwydd dy Dduw a fydd gydâ thi, i ba le bynnac yr elych. Wrth yr hyn y mae efe yn arwyddoccâu nad yw dyn heb fyfyrio ar Gyfraith Dduw, ond myned ar gyfei∣lorn, ac megis vn dall heb wybod i ba le y mae yn myned.

5. S. Paul wedi darfod iddo osod ger bron ei yscolhaig Timotheus beth yw iawn ddyledswydd E∣glwyswr,

Page 7

sydd yn rhoi hyn o gyngor iddo yn angw∣haneg, 1 Tim. 4.15. Myfyria ar y pethan hyn, ac arhos ynddynt: Ystyria hwynt yn ddwys, gwyl pa bwys a pha ddefnydd sydd ynddynt. A pha le byn∣nac y mae 'r yscrythur lân yn dangos pa fath sy a wr doeth, dedwydd, cyfiawn, (oblegid yr vn yw'r tripheth hyn yn yr yscrythur lân, can nad oes gwir ddoethineb a dedwyddwch ond cyfiawnder) vn o'r pethau pennaf y mae yn ei ddywedyd am dano ydyw, ei fod ef yn myfyrio ar Gyfraith Dduw ddydd a nôs. Psal. 1. Ac am esamplau allan o'r yscrythur lân, i ddangos pa fodd y byddai gwyr da gynt yn arfer o fyfyrio, hawdd fyddei imi ddangos llawer o honynt, megis am Isaac yr hwn a ai allan i'r meusydd i fyfy∣rio, Gen. 24.63: a'r brenhin Ezechias, yr hwn a riddfannodd megis colommen, Esa. 38.14. hynny yw▪ mewn distawrwydd, rhyngtho a'i galon ei hun, heb glywed llais ei eiriau. Ond nid oes vn esampl ben∣nach yn y defnydd ymma nag esampl Dafydd, yr hwn, ym mhob man gan mwyaf, sydd yn cofio el ddyfal a'i ddibaid fyfyrdod, gan ddywedyd wrth Dduw fel hyn. Myfyriais am dy orchymmynion 〈◊〉〈◊〉 rhai a hoffais, Psal. 119.47. Felly y mae 'r Groeg a'r Lladin yn cyfieithu 'r gair. A thrachefn, Pan i'th gofiwyf ar fyngwely, Myfyriaf am danat yng∣wiliadwriaethau'r nos (neu fel y mae eraill yn ei gyf∣iaithu, Myfyriaf am danat y boreau) Psal. 63.6. A thrachefn, Mor gu gennyf dy Gyfraith, hi yw fy myfyrdod beunydd, ie, ac ar hyd y dydd hefyd. Psal. 119.97. Ac mor wresog ac mor daerlw yr oedd efe yn arfer o fyfyrio, y mae efe ei hun yn ei ddan∣gos, pan yw yn dywedyd am dano ei hun, Gwreso∣godd fy nghalon o'm mewn, tra oeddwn yn myfyrio en∣nynnodd tân. Psal. 39.3.

6. Y pethau hyn a gadwodd yr yspryd glân mewn cof am y gwyr hynny gynt, i yrru cywilydd ar∣nom

Page 8

ni sydd Gristianogion, y rhai er ein bod yn llawer mwy rhwymedig nâ hwynt hwy i fod yn wresog mewn myfyrdod, oblegid i ni dderbyn do∣niau mwy gan Dduw; etto yr ydym ni yn byw mor segurllyd, y rhan fwyaf o honom, ac nad ydym ni agos vn amser yn myfyrio nac am Gyfreithiau a gorchymmynion Duw, nac am ddirgeledigaethau ein ffydd, nac am fuchedd a marwolaeth ein Iachaw∣dur Christ, nac am ein dylêd ein hunain tu ag atto ef; chwaethach ystudio a myfyrio ar hynny beunydd fel y gwnai'r brenhinoedd sanctaidd hynny, er maint eu gwaith a'i llafur yn llywodraethu eu gwledydd.

7. Pwy sy o honom ni heddyw yn gwneuthur cy∣freithau, a gorchymmynion, a chyfiawnderau Duw (canis felly y mae 'r yscrythur lân yn eu galw) yn fyfyrdod beunyddol iddo, fel y gwnai 'r brenhin Dafydd? Ac nid y dydd yn vnig y gwnai efe hynny, ond y nôs hefyd, fel y tystiolaetha efe am dano ei hun mewn lle arall. Pa sawl vn o honom ni sydd yn gollwng llawer dydd, a llawer mis dros ei ben, heb vnwaith na myfyrio na meddylio am y pethau hyn? Ie Duw a wnel nad oes llawer o Gristianogion yn y byd, heb wybod beth ydyw 'r cyfryw fyfyrdo∣dau. Yr ydym ni yn credu ysgatfydd, ddirgelion ffydd Grist, sef bod vffern, a bod nêf, a bod tâl am ddaioni, a chospedigaeth am ddrygioni, ac y daw dydd barn, ac y bydd rhaid gwneuthur cyfrif, a'r cyffelyb: ond am nad ydym nac yn cnoi ein cil ar y pethau hyn drwy ddwys fyfyrio arnynt, nac yn eu treulio yn ein calonnau trwy wrês myfyrdod; nid ydynt yn helpio dim arnom tu ag at fyw yn dduwiol, mwy nag y mae 'r feddyginiaeth a roddo gwr yn ei bocced yn helpio ei iechyd corphorol ef.

8. Pa ddyn o'r byd a fyddai mor hawdd gantho anturio pechu (fel y mae gan lawer, y rhai sy 'n

Page 9

yfed pechod cyn rhwydded ac yr ŷf yr anifeiliaid ddwfr) ped ystyriai y mawr berygl sydd o bechu, a'r golled am râs Duw a'i ffafor a'i ewyllys da, a haeddu digofaint tragywyddol, a pheri o bechod i Fab Duw ei hun ddioddef marwolaeth, a'r anfei∣drol boenau vffernol a fydd yn gospedigaeth dragy∣wyddol am bechu? Ac er bod pob Christion yn cre∣du y pethau hyn, ac yn cydnabod â hwynt, etto o herwydd bod y rhan fwyaf o ddynion heb eu hysty∣ried hwy yn iawn yn eu calonnau, nid ydynt hwy yn cyffroi dim arnynt, ond y maent yn arwein yr wy∣bodaeth honno ganthynt megis tan glo yn eu calon∣nau, heb na chlywed na gwybod vn gronyn oddiwr∣thi, megis vn a fyddai yn dwyn tan gydag ef mewn allestr, ac heb gael dim gwrês oddiwrtho, eisieu taro 'r gallestr; neu vn a fyddai 'n dwyn gantho ber∣aroglau mewn blwch, ac heb gael dim arogl oddi∣wrtho eisieu ei rwbbio.

9. Ac weithan i ddyfod yn nês at y defnydd pre∣ennol yr ydym ar fedr ei ddatcan yn y llyfr hwn; a ddyn byw ni roddei ei fryd yn gwbl ar wasana∣thu Duw yn gywir, ac i ymadael â holl orwagedd 〈◊〉〈◊〉 byd pettei yn ystyried fel y dylai, y pwysfawr re∣ymmau a'r achosion a allai ei gynnhyrfu ef i wneu∣hur hynny; sef, y mawr wobr a gaiff efe am wneu∣hur hynny, ar anfeidrol berygl sy iddo onis gwna? Ond o herwydd (fel y clywsoch) nad oes odid o vn ym mysg mil yn ystyied y pethau hyn, ac o happiei ddo eu hystyried, nis gwna ond yn ysgafn, heb gymmaint o astudrwydd a chydwybod ac y mae 'r pethau yn eu haeddu: a hynny sy 'n peri i gynnifer o ddynion fyned beunydd i golledigaeth, ac i gyn lleied fod yn gadwedig, am eu bod, o eisieu ystyri∣ed, heb roi eu bryd vn amser ar fyw fel y dylent, ac fel y mae galwedigaeth Christion yn gofyn ar eu dwylo hwy. Megis y gallwn ninnau hefyd gwyno

Page 10

gydâ Ieremi, fel y clywsoch o'r blaen, fod tir ein Christianogaeth ni wedi myned yn anrhaith, am nad yw dynion yn ystyried yn eu calonnau.

10. Ystyried yw'r agoriad sydd yn egori drw ystafell ein calonnau ni, lle y mae llyfrau ein holl gyfrif ni ynghadw: Ie ystyried ydyw drych, •••• echrê llygad a golwg ein henaid ni, â'r hwn y ma 'r enaid yn ei weled ei hun, ac yn canfod ei holl gy∣flwr trwyddo; sef ei gyfoeth, a'i ddoniau daionus, a'r ffordd y mae 'n rhodio ynddi, a pha fodd y ma 'n ei cherdded, ai yn fuan, ai yn araf; a'r pennod a'r diben y mae 'n cyrchu atto. Ac heb yr ystyried hyn nid yw 'r enaid ond rhuthro fel dall yn wysg el ben ym mhlith miloedd o ddrain a mieri, a thram∣gwyddo ar bob cam a gerddo i ryw anghymmhe∣surwydd neu ei gilydd, a phob amser mewn perygl o ryw fawr farwol aflwydd. A pheth rhyfedd yw gweled, fod pob dŷn yn ei fatterion a'i negesau by dol yn gwybod ac yn cydnabod, na s gall na dechreu, na gwneuthur, na gorp•••• gwaith yn y byd heb ei ystyried; ac etto yn y gwaith mawr hwn ar ge∣isio ynnill teyrnas nef, nid oes agos neb nac yn arfer o ystyried, nac yn tybied fod yn rhaid iddo ysty∣ried.

11. Pettai ddyn yn amcanu myned i daith neu si∣wrnai, er na bai ond, o Loegr i Constantinopl, pe rhôn iddo a cherdded y ffordd vnwaith neu ddwy o'r blaen, etto ni cherddai gam o honi heb ei hys∣tyried yn ddwys ac yn fynych; yn enwedig heb ystyried pa vn a wnai ai bod ar y ffordd ai na bai, pa fodd y byddai'n cerdded ai yn fuan ai yn araf, a pha faint fyddei rhyngtho a phen ei siwrnai; ar cyffelyb bethau. Ac wyti yn meddwl (fo mraw anwyl) myned o'r ddaiar hon i'r nefoedd, a hynny tros gynnifer o fryniau, a phantiau, ac anialwch a lleoedd peryglus ni cherddaist erioed o'r blaen

Page 11

heb ystyried vnwaith beth yr wyt arno? Yr wyti yn camgymmeryd yn fawr, os wyti yn tybied hyn∣ny: canys rheitiach o lawer i ti wrth ystyried yn y daith nefol nag yn yr vn ddaiarol, o herwydd bod mwy o drawsffyrdd, a mwy o beryglon yn y naill nac yn y llall, gan fod pob dyfyrrwch yn y byd hwn, a phob trachwant, a phob ofer feddwl, a phob golwg gwammal, a phob llais a demptio, a phob cythrael ar y ddaiar, a phob elwig or eiddo (a'r rhei'ny yn aml) megis lladron yn cynllwyn am danat i'th ys∣peilio ac i'th ddifetha ar y ffordd hon tu a'r nef.

12. Am hynny mi a gynghorwn i bob vn a siwr∣neio ar y ffordd hon, edrych yn dda yn ei gylch, ac o'r hyn lleiaf vn waith yn y dydd, ystyried ei gy∣flwr ei hun, a chyflwr y trysor sydd gantho mewn llestr brau, fel y dyweid S. Paul, a'r trysor hwnnw yw ei enaid ef, yr hwn o eisieu ystyried a ellir ei golli cyn hawsed a'r tlws lleiaf a siomgaraf yn y byd, fel y ceir gweled yn ôl hyn wrth y pethau a ddy∣wetwyf er mwyn helpio dyn i ystyried, yr hyn sydd raid iawn i mi ac i bob Christion arall wrtho, er mwyn gwneuthur ein gwasanaeth yn gymmera∣dwy gan Dduw. O herwydd ped ystyriai fy enaid i neu'r eiddo arall, yn ddwys ac yn ddifrif, ychydig o lawer o bethau a wyr eu bod yn wir; ni byddei bossibl iddo na wellhaei, a bod yn anfodlon i'w fu∣chedd o'r blaen, a'i diflasu a'i ffieiddo. Mgis, ped ystyriei yn ddwys ei ddyfod i'r byd hwn er mwyn cymmeryd gofal am wasanaethu Duw, a'i fod ef er hynny yn edrych yn vnig, neu yn fwya dim, am orwagedd y byd: pettai yn ystyried y bydd rhaid iddo roi cyfrif yn y dydd diweddaf am bob gair ofer, Mat. 12.36. ac etto nad ydyw yn gwneu∣thur cyfrif yn y byd o lawer gweithred ddrwg v mae yn ei wneuthur, chwaethach o'i eiriau; petai yn ystyried na chaiff vn putteinwr, na godinebwr, nac

Page 12

enlynaddolwr, na thorrwr priodas, na masweddwr, na gwrrywgydiwr, na lleidr, na chybydd, na meddw, na dis•••••• a chribddeilwr, etifeddu teyrnas Dduw; a'i fod ynu yn meddwl y dichon fyned yno er ei fod yn byw yn y beiu hynny: pettai yn ystyried fod vn pechod yn ddigon er colli miloedd o bobl ar vnwaith, ac etto er bod arno fawrllwyth o becho∣dau ei fod ynteu yn tybied y gall ddiangc, 1 Cor. 6.9, 10. Eph. 5 5. Gen. 6. Gen. 19. ped ystyriai fod y ffordd i'r nef vn anhawdd, yn gûl, ac yn boe∣nus, fel y dyweid Duw ei hun, a'i fod yntau yn ty∣bied y gall fyned i mewn yno, er byw mewn digrif∣wch, a melyschwant y byd, Mat. 7.14. ped ystyriai ddarsod i'r holl Sainct Duwiol a fu erioed, (megis Apostolion Christ, a'i fam ef ac eraill) ddewis byw mewn caledfyd, mewn llafur poenus, buddiol i era∣ill, mewn ymprydio, gweddio, a chospi eu cyrph a'r cyffelyb, a'i bod er hynny yn byw mewn ofn a dychryn rhag barnedigaethau Duw; ac ynteu heb wneuthur cymmaint a meddwl am yr vn o'r pethau hyn, ond canlyn ei blesser a'i ddifyrrwch, ac er hyn∣ny nid yw yn ammeu nad yw dda ei gyflwr, 1 Cor. 4. 2 Cor. 4. & 6, & 11, & 12. 1 Cor. 9. Phil. 2. ped ysty∣riei fy enaid i (meddaf) neu yr eiddo arall y pethau hyn yn ddwys ac yn ddifrif, neu y rhan leiaf o fil o bethau eraill a ellid eu hystyried, y mae 'n ffydd Gristianogawl yn dyscu i ni eu bod yn wir; ni chy∣feiliornai mewn perygl diobaith, fel y mae llawer o eneidiau Christianogion, o eisieu ystyried ei gyflwr ei hun

13. Beth a bair i ladron gael can wyr synhwyrol dybieid am danynt eu bod allan o'i côf, am fod yn lladdrata, a hwythau yn gweled crogi cymmaint o ddynion am lad••••d, ger bron eu llygaid, ond am nad ydynt yn ystyried hynny? A'r vnrhyw achos sy'n peri i'r gwyr doetha 'n y byd gael eu cyfrif

Page 13

ger bron Duw a dynion da, yn anfad ffyliaid ac yn waeth nag ynfydion cynhwynol; am eu bod, a hwythau yn adnabod gorwagedd y byd, ac yn gwy∣bod y perygl sydd o fyw mewn pechod, er hynny yn canlyn y byd yn gymmaint, a chynlleied eu har∣swyd i bechu. Luc. 12.20. Pettei gyfraith wedi ei gwneuthur, trwy awdurdod dyn, ar fod i bwy bynnag a feiddiei yfed gwin, ddal ei law yn y man tros hanner awr yn tân, neu mewn plwm berwedig; yr wyfi yn tybied y byddai anhawdd gan lawer yfed gwin, er eu bod with naturiaeth yn ei garu: ac etto er bod cyfraith wedi ei gwneuthur gan dragywydd∣ol fawredd Duw y gorfydd i bwy bynnag a wnelo bechod ddioddef ei ferwi yn dragywyddol yn nhân vffern, heb na diben nac esmwythdra; y mae llawer er hynny o eisieu ystyried y pethau hyn heb ddim mwy eu hofn i bechu, nag i fwytta neu i y∣fed.

14. I dynnu at y diwedd, y mae ystyried yn beth anghenrhaid iawn ei wneuthur, yn enwedig yn ein dyddiau ni, pan ydys yn gwneuthur cymmaint cyfrif o orwagedd ac oferedd, ac y tybir mai gwir ddo∣ethineb ydyw; ac nad yw'r gwrthwyneb ond gwir ffoledd, a diystyr wiriondeb. Ond nid oes gennyf ddi•••• ammeu, drwy help Duw a chymmhorth iawn ystyried, na's datcuddiaf i'r darlleydd synhwyrol yn eglur ddigon, yr amryfusedd sydd yn hyn o beth, oddieithr ei fod yn ddall o'i wirfodd, neu o wir gyndynrwydd gwedi ymroi i gaethiwed ei elyn ys∣prydol: o blegid y mae rhai o'r cyfryw ddynion yn y byd: am y rhai y mae Duw yn dywedyd, megis yn ymofidio trostynt, ac yn tosturio wrth eu cyflwr, Esa. 28.15.18. Hwy a wnaethant gyfam∣mod ag angeu, a chyngrair ag vffern: hynny ydyw; ni fynnant ddyfod allan o'r perygl y maent ynddo, ond eu bwrw eu hun bendramwnwgl i golledigaeth

Page 14

dragywyddol, yn gynt nag ystyried eu cyflwr ac felly ynnill iddynt eu hunain fywyd tragywyddol a gogoniant nef. Oddiwrth y cyndynrwydd angheuol hwnnw, yr Arglwydd o'i drugaredd a'n diango ni bawb ar sy 'n perthyn iddo ef.

PEN. III. Er mwyn pa achos a diwedd y crewyd dyn ac y gosodwyd ef yn y byd hwn.

WEithian gan hynny yn Enw 'r Hollalluog Dduw, a thrwy gymmorth ei lân yspryd ef, ystyried pob Christion o ddyn ac sydd yn chwennych iechydwriaeth enaid a chorph, yn ddwys ac yn ddifrif, yn gyntaf dim, megis y gwna marsiandwr pan êl tros for i wlad ddieithr, neu me∣gis y gwna capten a ddanfono ei dywysog ar ryw negesau o bwys, pan ddêl i'r lle a appwyntiwyd iddo: hynny ydyw, meddwl am ba achos y daeth yno, paham y danfonwyd ef yno, ac i ba beth, i amcanu pa beth, i wneuthur pa beth, ac i gyflaw∣ni pa beth, a pha beth a ddisgwyl ac a ofyn yr hwn a'i danfonodd ef yno ar ei law ef pan ddêl adref. Oblegid diammau y gwna ystyried y pethau hynny iddo fod yn ofalus am edrych am y pethau y danfon∣wyd ef o'i plegid, ac nid ymofalu am bethau ni pherthyn iddo. Y cyffelyb bethau a fynnwn i Gristi∣on eu hystyried, ac ymofyn ag ef ei hun, pa ham ac er mwyn pa achos a diwedd y creodd Duw ef, ac a'i danfonodd ymma i'r byd hwn? i wneuthur pa beth? i dreulio ei oes mewn pa beth? ac fe gaiff

Page 15

weled nad i ddim arall, ond yn vnig i wasanaethu Duw yn y bywyd hwn. Tan yr ammod hwnnw y crewyd ni, ac er mwyn hynny yn vnig i'n pryn∣wyd ni, fel y prophwydodd Zacharias o'r blaen, fel y byddei i ni wedi ein gwared oddiwrth ddwylo ein gelynion, ei wasanaethu ef mewn sancteiddrwydd a chyfiawnder holl ddyddiau ein heinioes. Luc. 1.74.

2, O hyn y canlyn yn gyntaf, gan mai gwasana∣ethu Duw yn y bywyd hwn, yw'r achos a'r di∣wedd y rhoed ni yn y byd o'i blegid; wrth hynny beth bynnag a wnelom, neu a amcanom, neu y treu∣liom ein hamser arno, ar a fo na gwrthwyneb nac am∣mherthynol i'r achos a'r diwedd hwnnw, sef gwasa∣naethu Duw yn vnig, pe rhon i ni allu wrth hynny ynnill holl deyrnasoedd y byd; etto nid yw ond llw∣yr waggedd ac oferedd, a ffoledd, a gwaith ofer; a pheth a wna i ni ryw ddydd ofidio, ac edifarhau, a chywilyddio o'i blegid, o herwydd nad hynny yw'r peth y daethom ni i'r byd o'i achos, na'r peth y go∣fynnir i ni gyfrif am dano yn y dydd diweddaf, oddieithr i gael ein barnu am dano.

3. Yn ail y canlyn, os gwasanaethu Duw ydyw'r vnig achos a'r neges y daethom ni i'r byd o'i blegid, a bod pob creadur daiar ol arall wedi ei roi yn y byd i'n gwasanaethu ni, fel y byddei i ninnau wasanaethu Duw: ni a ddylem ninnau na ddymunem o'r creadu∣riaid eraill, nac o gyfoeth nac o dlodi, nac o iechyd nac o glefyd, nac o barch nac o ammharch, na mwy na llai, nac a fo da ar ein lles ni tu ag at wasanaethu Duw; oblegid pwy bynnag a geisio ychwaneg o'r creaduriaid hynny nag a wasanaetho i'r perwyl hyn∣ny, y mae efe yn cilio oddiwrth yr achos a'r diwedd y daeth i'r byd o'i blegid.

4. Wrth hyn y gall Christion gofalus gael peth cydnabyddiaeth am ei gyflwr gydâ Duw, a bwrw amcan pa vn a wna ai bod ar y ffordd vnion ai na

Page 16

byddo. Oblegid os edrych ef yn vnig neu yn ben∣naf dim at y pennod y daeth efe ir byd yma er'e fwyn, hynny ydyw gwsanaethu Duw; os bydd e ofalon ef a'i feddyliau, a'i amcanion, a'i lafur, a'i ymddiddanion, yn rhedeg yn vnig ar y peth hyn; ac nabo matter ganddo am greaduriaid eraill, megis anrhydedd, cyfoeth, dysg, a'r cyffelyb; ond hyd y bônt yn anghenrhaid iddo i'r perwyl hynny; os efe a dreulia ei ddyddiau a'i fywyd (meddaf) mewn astudrwydd ar wasanaethu Duw, yna diammeu ei fod yn ddyn o'r happusaf ac o'r dedwyddaf, ac y daw efe yn y diwedd i deyrnas Dduw.

5. Ond os gwyl efe ei fod mewn cyflwr gwrthw∣yneb i hynny, ai fod heb edrych am y peth y dan∣fonwyd efe ymma o'i blegid, na bod ei galon a'i fe∣ddwl ar wasanaethu Duw, ond yn hyttrach ar orwa∣gedd y byd, megis goruchafiaeth, golud, digrifwch, dillad gwychion, tegwch pryd, adeiladau teg, neu ryw beth arall ni pherthyn ir perwyl hwnnw: os efe a dreulia ei amser (meddaf) ynghylch y coegbethau hynny, a bod ei ofalon, a'i feddyliau, a'i ymddi∣ddanion, a'i ddifyrwch, yn fwy yn y pethau hyn, nag ynghylch y neges mawr arall y danfonwyd ef yma o'i achos, yna y mae mewn helynt enbyd, yr hon a dywys yn vnion i golledigaeth, os efe ni ne∣widia ei helynt. Oblegid diammeu ydyw, am bwy bynnag nid edrycho am y gwasanaeth y danfonwyd ef i'w wneuthur, na chaiff efe byth mor tâl a'r gwobr sydd wedi ei addo am y gwasanaeth hwn∣nw.

6. Ac o herwydd bod y rhan fwyaf o'r byd, nid yn vnig o'r rhai digréd, ond hefyd o'r Christiano∣gion, allan o'i lle yn y pwngc yma, ac heb edrych am y peth y crewyd hwy er ei fwyn, ac y danfon∣wyd hwy yma oi achos: am hynny y mae Christ a'i dduwiol Sain yn crybwyll mor dost am y nifer

Page 17

bychan sydd mewn cyflwr iechydwriaeth, ie ym myse Christianogion, ac o herwydd hynny, y trae∣thasant amryw ymadroddion y rhai y mae cig a gwaed yn tybied eu bod yn galed, ac mai digon prin y maent yn wir, er bod yn ddir y cyflawnir hwynt, megis hyn, Haws yw i gamel fyned trwy grau'r nodwydd ddur, nac i wr goludog fyned i mewn i deyr∣nas Dduw, Luc. 13.24. Mat. 19.24. Y rheswn o'r ymadrodd hwnnw, a'i gyffelyb, yw hyn, Na's gall y gwr goludog sydd yn edrych am bentyrru go∣lud, roi ei fryd a'i fedd•••• ar y peth y daeth efe i'r byd o'i blegid, ac am hynny nas dichon byth fyned i deyrnas nef, oddieithr i Dduw wneuthur gwyrthiau, ac felly peri iddo ddiystyru ei olud, a'i arfer yn vnig at wasanaeth Duw. Ac y mae Duw weithiau yn gwneuthur y fath wyrthiau, fel y mae ini esampl anaml ei chyffelyb, yn yr Efengyl, am Zacheus, yr hwn er ei fod yn wr goludog iawn, yn y man pan ddaeth Christ i'w dy ef, ie yn enwedig i'w galon ef trwy flydd, a roes hanner ei dda i'r tlodion, ac os gwnaethai gam â neb drwy drawsder, y mae 'n addo ei dalu adref ar ei bedwerydd. Luc. 19.

7. Ond wrth hyn y gellir gweled gofidus gyflwr llawer mil o Gristianogion yn y byd, y rhai sy cyn belled oddiwrth dreulio eu holl amser a'i llafur yng∣wasanaeth Duw, ac nad ydynt hwy agos vn amser yn meddwl am dano, ac os ydynt, nid yw hynny ond diofal iawn ac yscafala. O Dduw pa sawl mil o wyr a gwragedd sydd yn y byd yn dwyn enw Christianogion, heb dreulio vn awr o'r pedeir ar hugain yngwasanaeth Duw: pasawl mil sy'n blino eu meddyliau ynghylch negeseuau bydol, a lleied sy'n cymmeryd gofal am wasanaethu Duw? Pa nifer sydd yn cael ac yn cym∣meryd ennyd ac amser i fwyta, ac i yfed, ac i gysgu, ac i wneuthur yn llawen, ac i'w trwsio eu hunain ac i'w paentio yngolwg y byd, ac etto heb gael dim

Page 18

amser i'w dreulio ar y peth mwyaf a rheitiaf, sef gwasanaethu Duw? Pa nifer fydd yn treulio 'r dydd o'r pen bwygilydd, ac wythnosau, a misoedd, a blynyddoedd, yn hebocca, ac yn hela, ac mewn di∣fyrrwch arall, heb wneuthur dim cyfrif o wasana∣ethu Duw? Beth a ddaw o'r bobl hynny? Pa beth a ddywedant hwy ddydd farn? pa escus a gânt hwy?

8. Pettai wâs i farsiandwr, wedi iddo dreulio llawer o flynyddoedd o'r tu hwnt i'r môr, pan dde∣lei adref yn rhoi cyfrif i'w feistr ddarfod iddo dreu∣lio hyn a hyn o amser yn canu, a hyn a hyn yn dawn∣sio, a hyn a hyn mewn maswedd, a'r cyffelyb; pwy ni chwarddai am ben ei gyfrif efe? Ond os gofynnei ei feistriddo ym mhellach pa faint o amser a dreuliasai ynghylch ei farsiandiaeth ynteu a'i nege∣sau; ac atteb o'r gwas na threuliasai ddim, ac na feddyliodd efe vnwaith nac am danynt hwy, nac am dano ynteu, pwy ni thybygai fod y cyfryw wâs yn haeddu pob math ar gospedigaeth a chywilydd? Ac yn siccr mwy fydd eu cywilydd a'i gwaradwydd hwy ddydd farn, y rhai a osodwyd yma ar neges cymmaint ac yw gwasanaethu Duw, a hwythau er hynny yn ei esgeuluso, ac yn rhoi cwbl o'i hastudrw∣ydd, a'i poen, a'i meddyliau ar goegbethau ofer y byd hwn: yr hyn sydd cyn belled oddiwrth yr hyn a ddylent hwy ei wneuthur, a phettei wyr a fai we∣di eu gosod i redeg gyrfa am gamp o werth anfei∣drol, yn troi oddiwrth y nôd, a rhai yn mynd tros y ffordd ar ôl gwybed, neu yscafnblu yn y gwynt; a rhai eraill yn sefyll ar y ffordd ac yn casclu tom yddaiar. A pha fodd, meddwch chwi, yr haeddai y rhai hynny dderbyn cymmaint gwobr ac a amca∣nesid i roi iddynt?

9. Am hynny, anwyl Gristion, od wyti synhwy∣ol, ystyria dy gyflwr tra caffech amser, Gal. 6.3, 4.

Page 19

canlyn gyngyr yr Apostol, hola dy weithredoedd, a'th ffyrdd, ac na thwylla ddim honot dy hun. Ti a elli etto gael grâs i wellhau dy fuchedd, am fod goleu dydd y bywyd hwn etto yn parhau: fe ddaw erchyll nôs yr angeu i'th oddiwes di ar fyrr, ac yno ni bydd mwy amser i wellhau. Pa les a wna dy holl boen a'th drafferth a gymmeraist i geisio cyfoeth y byd, i ti yn yr awr honno? a pha ddiddanwch a gei di oddiwrtho, pan ddywetter wrthyt ti fel y dywedodd Christ wrth vn o'th gyffelyb di yn yr Efengyl, pan oedd wedi dyfod i vchder a brigyn ei hapusrwydd, O ynfyd, y nôs hon y dygir dy enaid o ddiarnat, ac yno eiddo pwy fydd y pethau a barottoa∣istti, ac a gesglaist ynghyd? Luc. 12.20. Cred fi, fy mrawd anwyl, oblegid ni ddywedaf i ti ddim an∣wir, Mwy o gyssur a diddanwch a gai di yr amser hwnnw oddiwrth vn awr a dreuliaist ti yngwasanae∣thu Duw, nag oddiwrth ganmhlynedd a dreuliaist yn ceisio goruchafiaeth i ti dy hun ac i'th dŷ yn y byd hwn. A phe gellit ti yr awron wybod oddiwrth y blin gyflwr y bydd dy enaid truan di ynddo 'r amser hwnnw, am esceuluso yr vnpeth hwn a ddylesit ti fwyaf feddwl am dano; ti a hepcorit beth o'th am∣ser cysgu, a pheth o'th amser bwytta, i wneuthur iawn am esgeulusdra 'r amser a aeth heibio. Y rha∣gor sy rhwng y doeth a'r ynfyd yw hyn, bod y na∣ill yn ymbarottoi yn erbyn drwg cyn ei ddyfod, a'r llall pan fo rhyhwyr.

10 Dyro dy fryd gan hynny, Gristion daionus, tra caffech amser: dyro dy fryd yn ddioed ar fynd ynghylch y gorchwyl mawr i'th anfonwyd ymma o'i blegid; hwnnw yn vnig sydd orchwyl o bwys, a gorchwyl anhepcor; ac nid yw gorchwylion eraill ond gwagbethau coegion ac oferedd, ond hyd y ma∣ent yn perthyn i'r gorchwyl hwnnw. Na choelia mo'r byd, yr hwn y mae dy lachawdur Christ yn

Page 20

ei ffieiddio am gyfeiliorni yn y pwngc ymma, ac y mae ei Apostol Ioan yn cyhoeddi ei fod yn elyn i Dduw, Io. 7.7. 1 Joh. 2. Dywed o'r diwedd wrth dy Iachawdr, Yr wyf yn cyfaddef wrthyt ti, ô Ar∣glwydd, yr wyf yn cyfaddef, ac ni's gallaf wadu, nad ymofelais i etto am y peth i'm gwnaethost o'i blegid, ac i'm prynaist o'i achos, ac i'm rhoddaist yma o'i her∣wydd: yr wyf yn gweled fy amryfusedd, ni allaf gelu fy anfad fai, ac yr wyf yn diolch i ti ddeng mil o weithiau, roi o honot i mi'r gras i weled hynny, tra gallwyf trwy nerth dy râs di ei wellhau; yr hyn trwy dy sanctaidd râs sydd yn fy mryd ei wneuthur, a ne∣widio fy muchedd allan o law; ac yr wyf yn attolwg ar dy dduwiol fawredd, megis y rhoddaist i mi hyn o oleuni a deall i weled fy mherygl, ac y-cynnhyrfaist fy nghalon i roi fy mryd ar wellhau; felly cadw a chynnal dy gymmorth bendigedig tu ag attaf, fel y gallwyf gyflawni yr hyn yr wyf yn ei amcanu, i'th an∣rhydedd di ac iechdwyriaeth fy enaid, Amen.

PEN. IV. Am y diwedd a'r achos y gwnaed dyn o'i ble∣gid, yn naillduol: ac am ddau beth a ofyn∣nir yn enwedig ar law dyn yn y fuchedd hon.

GWedi darfod crybwyll yn y bennod o'r blaen ain y diwedd y gwnaed dyn o'i blegid yn gyffredinol, a dangos mai i wasanaethu Duw y gw∣naed ef; cymmhesur oedd bellach (am fod y peth

Page 21

o bwys a defnydd mawr) ddangos yn neillduol ac yn hyspysach, ym mha beth y mae gwasanaeth Duw yn sefyll, fel y gallo pob Christion farnu o honaw ei hun pa vn a wna ai bod yn gwneuthur y gwasanaeth hwnnw, ai nad ydyw: ac felly gweled ydyw fo 'n gwneuthur y pethau y danfonwyd ef i'r byd o'i ple∣gid, ai nad ydyw.

2. Yn gynta peth gan hynny rhaid yw deall fod yr holl wasanaeth y mae Duw 'n ei ofyn ar law Christion o ddyn yn y fuchedd hon, yn sefyll mewn dau beth, y naill yw Gochelyd y drwg, a'r llall yw Gwneuthur y da. Ac er bod y ddeubeth hyn yn ddyledus arnom ni cyn dyfod Christ i'r byd, (fel y mae Dafydd yn dangos wrth roi gorchymmyn cy∣ffredinol, Cilia oddiwrth ddrwg, a gwna dda: a'r prophwyd Esai, Peidiwch â gwneuthur drwg, a dys∣gwch wneuthur da) Psal. 34.4. Esa. 1.16, 17. etto y mae mwy o achos a rheswm i'w gofyn hwynt ar ddwylo Christianogion, am eu bod hwy trwy angeu a dioddefaint eu hiachawdur, yn cael grâs a gallu i fod yn abl mewn rhyw fesur i wneuthur y ddeubeth hynny, y rhai nid oedd y Gyfraith yn rhoi grâs i'w gwneuthur, er ei bod yn gorchymmyn eu gwneu∣thur.

3. Ond nyni, y rhai a brynodd Crist, ac a gaw∣som ganddo ef nid yn vnig adnewyddu'r gorchym∣myn hwnnw am wneuthur y ddeubeth hyn, ond he∣fyd nerth a gallu trwy ei râs ef i'w gwneuthur: yr ydym Ni yn rhwymediccach trwy ddyled a rheswm, iw gwneuthur nâ'r rhai o'r blaen, oblegid hynny oedd ffrwyth bendigedig dioddefaint Christ, fel y dywaid S. Petr, Fel gwedi ein marw i bechod, y byddem byw i gyfiawnder: 1 Pet. 2.24. Neu fel y mae S. Paul yn eglurach yn ei ddangos fel hyn, Ymddangosodd grâs Duw, yr hwn sydd yn dwyn iechydwraieth i bob dyn, gan ein dysu ni i wadu annuwioldeb a chwantau

Page 22

bydol, ac i fyw 'n sobr, ac yn gyfiawn, ac yn ddu∣wiol, yn y byd sydd yr awrhon, Tit. 2.11, 12.

4. Y ddeubeth hynny a glywsochwi ydyw gwa∣sanaeth Duw, y danfonwyd ni i'r byd hwn o'i blegid, sef i wrthwynebu pechod, ac i ddilyn gweithredo∣edd da. O achos y cyntaf o'r ddau i 'n gelwir ni yn filwyr, ac y gelwir ein bywyd ni yn filwriaeth ar y ddaiar. 2 Cor. 10.4. 2 Tim. 2.3. Oblegid fel y mae milwyr bob amser yn cynllwyn i wrthwy∣nebu eu gelynion, felly y dylem ninnau i wrthwy∣nebu pechod a'i brofedigaethau. O achos yr ail i'n gelwir ni yn llafurwyr, ac yn oruchwilwyr, a'r cyffe∣lyb: oblegid fel y mae y rhai hyn yn edrych yn ddy∣fal ar ei helw a'r hynnill, a chynnyrch ei golud yn y byd hwn, felly y dylem ninnau edrych am wneuthur gweithredoedd da, er gogoniant i Duw, a bûdd i eraill ymma yn y fuchedd hon. 1 Tim. 6.18.

5. Felly dymma 'r ddau bwngc bennaf a ddylei Gristion fyfyrio arnynt, a'r ddau orchwyl bennaf y dylai weithio ynddynt beunydd, a'r ddau droed y mae iddo gerdded a hwynt yngwasanaeth Duw, a'r ddwy asgell y mae iddo ehedeg i fynu â hwynt tu ac at fuchedd Gristianogol. A phwy bynnag sy ag vn o'r rhai'n yn niffyg gantho, er bod y llall ganddo, ni all efe ymddyrchafael at wir dduwioldeb, mwy nag y gall aderyn hedeg ni bo ganddo ond vn asgell. Ni thal dim i ddyn fod heb wneuthur drwg, oni bydd iddo hefyd wneuthur daioni, ac ni thal dim iddo wneuthur daioni, oni bydd iddo fod heb wneuthur drygioni hefyd. Y diweddaf o'r ddau hyn sydd e∣glur wrth bobl Israel, y rhai yr oedd eu haberthau a'i hoffrymmau, a'i gweddiau, a'i gweithredoedd da eraill, yn fynych yn ffiaidd ger bron Duw, er ei fod ef ei hun yn eu canmol ac yn eu gorchymmyn; am fod y rhai oedd yn eu gwneuthur hwy yn byw mewn pechod ac anwiredd, fel y mae 'r prophwyd

Page 23

Esay yn ei ddangos yn helaeth, Esa. 1. Y cyntaf a ddangosir yn amlwg ddigon wrth ddammeg y mor∣wynion angall, y rhai er eu bod yn lân oddiwrth bechod, er hynny am na wiliasant, hwy a gaewyd allan. Ac ar ddydd y farn ddiweddaf y dywed Christ wrth y rhai colledig, Am na ddilladasoch fi, am na roesoch i mi fwyd, am na wnaethoch y gweithredoedd eraill o gariad perffaith, oedd ddy∣ledus arnoch yn eich galwedigaeth; am hynny, ewch oddiwrthyf rai melldigedig i'r tan tragywyddol yr hwn a barotowyd i ddiafol ac i'w angylion. Matth. 25.41. Wrth hynny y mae pob vn o'r ddau yn anghenrhaid i gristion wrtho i wasanaethu Duw: ac mor anghenrhaid ac na wna lles y naill heb y llall. Ac am y cyntaf o'r ddau, yr hwn yw gwrthwynebu pechod, fe a orchymynnir i ni ei wrthwynebu hyd angeu, ie hyd golli ein gwaed, os bydd rhaid hyn∣ny, Heb. 12.4. Eph. 6.11. ac mewn amryw leo∣edd o'r yscrythur lân y mae yspryd Duw yn ewylly∣sio ini ymbarottoi ac ymdacclu i wrthwynebu 'r cy∣thrael yn wrol, yr hwn sydd yn ein temptio ni i be∣chu, Iac. 4.7. 1 Pet. 5.9. ac ni a ddylem ei wrth∣wynebu mor gwbl ac mor berffaith ac nad ymro∣ddom o'n bodd a thrwy wybod, i wneuthur vn pe∣chod, nac ar air, nac ar weithred, nac ar feddwl calon: yn gymmaint a bod pwy bynnag a gydsynio yn ddirgel yn ei galon ar wneuthur pechod pe cai amser, a chyfle, a gallu i'w wneuthur, trwy farn yr yscrythur lân yn euog o bechod, yn gystal a phet∣tai eisus wedi gwneuthur y weithred. Mat. 5.28. A thu ac at am yr ail, yr hwn yw gwneuthur gwei∣thredoedd da, y mae Duw yn ein hannog i'w gw∣neuthur yn aml, yn ddyfal, yn llawen, ac yn ddi∣baid; canys fel hyn y dyweid yr Scrythur, Beth bynnag a ymaelo dy law ynddo i'w wneuthur, gwa a'th hell egni. Preg 9.10. A thrachefn, Rhodiwch

Page 24

yn addas i'r Arglwydd, i bob rhyngu bodd, gan ddw∣yn ffrwyth ym mhob gweithred dda, Col. 1.10. A thrachefn y dywaid S. Paul, Tra fom yn cael amser cyfaddas, gwnawn dda i bawb, Gal. 6.10. A thra∣chefn yn yr vn lle, Na ddiogwn yn gwneuthur daio∣ni, canys yn ei iawn bryd y medwn, oni ddiffygiwn. Ac mewn man arall y mae 'n ewyllysio i ni fod yn siccr, ac yn ddiymmod, ac yn helaethion yngwaith yr Arglwydd yn oestadol, a ni yn gwybod nad yw ofer ein llafur yn yr Arglwydd. 1 Cor. 15.58.

6. Wrth hyn y gellir gweled, frodyr anwyl, mor berffaith o greadur ydyw Christion da, hynny ydyw, fel y mae S. Paul yn dywedyd am dano, mai Gwaith Duw ydyw, wedi ei greu yn Ghrist Iesu i weithredoedd da, y rhai a ddarparodd Duw iddo ro∣dio ynddynt, Eph. 2.10. Wrth hyn, meddaf, y gwelir mor berffaith o fuchedd yw buchedd Christi∣on: yr hon yw gwrthwynebu pob pechod yn ddi∣baid, mewn meddwl, gair, a gweithred; a gw∣neuthur a chyflawni pob gweithred dda, ar a fo pos∣sibl iddo feddwl am dani. O Dduw, ond buchedd angylion yw 'r cyfryw fuchedd, ie mwy na buchedd angylion, oblegid nad oes i'r angylion, gan eu bod eisus mewn gogoniant, na themptasiwn pechod i'w wrthwynebu, na gweithred dda ar a allont eu gw∣neuthur (fel y dwedom felly) er mwyn chwanegu ar eu gogoniant.

7. Pe bucheddai Gristianogion yn ôl eu dylêd bonno, sef gwneuthur o honynt gwbl ac a allent o ddaioni, ac na chydsynient vn amser â drygioni, pa raid fyddei agos wrth vn gyfraith fyd? ond llywo∣draeth wych fyddei Gristianogaeth? Pwy ni bydd ryfedd gantho esamplau llawer o'n hên dadau duwiol ni, yn y rhai y dywedir bod cymmaint o ddisymlr∣wydd a diniweidrwydd, cymmaint o wirionedd, ac o gydwybod, ac o eluseni, ac o burdeb, ac o rin∣wedd,

Page 25

ac o grefydd a defosiwn da? A'r achos oedd am eu bob vn o honynt (fel y rhoddai Duw'r grâs iddo) roddi ei fryd yn astud ar y ddau bwngc hynny o ddyled Christion, ac ar wneuthur eu goreu ar eu cyflawni. A ninnau, am nad ydym yn edrych am y pethau hyn, ydym wedi myned mor ddrwg-fu∣cheddol, a chymmaint ein hanwiredd ac a fu 'r cen∣hedl-ddynion a'r rhai digred erioed. Ac etto yr vn Duw ydyw Duw yn wastad, ac ni dderbyn efe ond yr vn cyfrif ar ein dwylo ni, ac a dderbyniodd ar law ein hên dadau ni, am gyflawni 'r ddwy ran hyn o'n dyled tu ac atto ef. Pa beth wrth hynny a ddaw o honom ni y rhai nid ydym yn byw yn yr yn o'r ddwyran yn gyffelyb iddynt hwy? Ac os ystyriwn y pethau hyn ym mhellach bob vn ar ei ben, pwy yn y dyddiau hyn, o'r Christianogion cyffre∣din sydd yn cymmeryd poen yn y byd yn y rhan gyn∣taf, sef yn gwrthwynebu trachwantau pechod; di∣ammeu fod llawer o ddirgel wasanaethwyr Duw yn gwneuthur hynny, ond o'r rhai sy'n dwyn enw Chri∣stianogion ac sydd amlaf yn ymdrin yn y byd, pwy o honynt hwy, meddaf, sydd yn ei wneuthur? Y trachwant yma, a'r tuedd naturiol sydd ynom i be∣chu, yr hwn sy wedi ei adael ynom megis gweddilli∣on o'n clwyf naturiol yn gospediga∣eth am bechod ein cyntad Addaf, hwnnw, meddaf, sydd wedi ei adael ynom ni ar ôl ein bedyddio, ad ago∣nem, hynny ydyw i ymdrech ag ef ac i'w wrthwynebu. Ond ôch Dduw, leied o Gristianogion sydd fel y dy∣lent yn gwrthwynebu drwg-feddyliau yr trachwant hwnnw: Pwy sydd vn amser vn holi ei gydwybod o'i blegid? Pwy nid yw synychaf yn cyttuno yn ei feddwl a'i galon, â phob meddylfryd a fo dim di∣fyrrwch na digrifwch bydol yn ei ganlyn, fel y mae

Page 26

cybydd-dod, llid, dial, balchder, serch i anrhy∣dedd, ac yn bennaf o gwbl, anlladrwydd ac eraill o fryntion bechodau 'r cnawd; a hynny er eu bod yn gwybod wrth a ddywedodd ein Iachawdur Christ ei hun, fod cyttundeb a chydsyniad y meddwl a'r galon, (o ran sylwedd pechod) gymmaint a phe gw∣neid y weithred, ac yn gwneuthur yr enaid yn euog o golledigaeth dragywyddol. Mat. 5.28.

8. Peth rhyfedd ei ystyried ydyw, a pheth a allal beri i ddyn synnu wrth feddwl am dano, faint y go∣fal, a'r ofn, a'r diwydrwydd, a'r boen, a gymme∣rai yr hên wyr duwiol gynt yn gwrthwynebu pe∣chod; a lleied a gymmerwn ninnau yr awrhon. Iob gyfiawn, er nad oedd iddo ond llai o achos i ofni nag sydd i ni, a ddyweid am dano ei hun; Ofnais fy holl weithredoedd, (o Arglwydd) am fy mod yn gwybod nad arbedi di mo'r rhai a becho yn dy erbyn, Job 9.28. Ond y bren∣hin duwiol gan Ddafydd, yr hwn a brofasei eisus, drymmed oedd law Dduw am gyttuno yn y galon â phechod, y mae efe yn dangos ei fod yn fwy ei ofal a'i ofn, pan yw yn dywedyd, Yr ydwyf yn myfyrio 'r nôs, yr ydwyf yn ymddiddan â'm calon, fy yspryd sydd yn chwilio yn ddyfal, neu fal y mae rhai yn ei gyfieithu, mi a ysgubais, ac a lanweithiais fy yspryd o'm mewn, Psal. 77.6. Pa ddyfal chwilio a holi ar galon, a meddwl, a chydwybod, oedd hyn gan fren∣hin? Ac nid oedd hyn i gyd ond i geisio gochel a gwrthwynebu pechod. Ac felly y gwnai S. Paul, yr hwn a holai ei gydwybod mor ddichlyn, ac a wrthwynebai bod temptasiwn mor ddyfal ac mor ddiwyd, ac y gallai ddywedyd am dano ei hun, nad oedd ef yn gwybod ei fod yn euog o ddim yn ei we∣inidogaeth. 1 Cor. 4.4. er ei fod yn cyfaddef mewn man arall ei fod ef trwy ordinhâd Duw yn eael gan

Page 27

y cythrael demptasiwnau garwflin chwerwdost yn y cnawd, 2 Cor. 12.9. Etto trwy râs Christ efe a'i gwrthwynebodd ac a'i gorchfygodd i gyd oll. Ac fel y gallai gyflawni hynny yn well, y mae yn gyffe∣lyb ei fod ef yn cymmeryd help a chymorth iawn ymprydio, a thaer weddio, a dyfal wilio, a thost gospi ei gorph a'i wastadol a'i lafurus fowrboen yn ei alwedigaeth, am yr hyn y mae yn crybwyll yn ei epistolau. 2 Cor. 6. & 11. 1 Cor. 9.27. Ac felly y byddai gwyr Duwiol eraill, wrth ei esampl ynteu, yn arfer o gymmeryd y cyffelyb help a chymorth, fel y bai haws iddynt wrthwynebu temptasiwnau pe∣chod pan fyddai raid. Ac o'r cyfryw y gallwn ym∣ma adrodd llawer o esamplau allan o'r hen Dadau: y rhai a allai beri iddyn ryfeddu a dychrynu ac osni (o bai nac ofn na dychryn yn ei galon ef) wrth we∣led y ddygn boen a'r dirfawr ddyfalwch a gymmerai yr hên Gristianogion hynny gynt, i wilied ar bob di∣chell o'r eiddo 'r cythraul, er lleied fai, ac i wrth∣wynebu pob temptasiwn a drwg feddwl i bechu, er lleied fyddaint: a ninnau heb feddwl vnwaith am y cyfryw beth, na gwneuthur cyfrif yn y byd nac o ddrwg feddwl, nac o gyttundeb calon i bechu, nac o air, nac o weithred: ond ymroi yn rhwydd i bob peth ac y mae ein trachwantau ein hunain yn ein har∣wein iddo; a llyngcu pob bach ac y mae 'r cythrael yn ei osod i ni, ac yssu yn dra chwannog bob abwyd gwenwynig ac a gynnygio ein gelyn i ni er mwyn de∣strywio ein heneidiau, os ni a'i clywn yn felys ac yn beraidd. A hynny am wrthwynebu pechod.

9. Bellach am yr ail pwngc, ynghylch ymarfer beunydd o weithredoed da, y me 'n amlwg ein bod ni i gyd gan mwyaf yn ddiffygiol yn y pungc hwn. Mi a ddangosais o'r blaen fl y mae 'r Scrythur lan yn gorchymmyn i ni wneuthur gweithredoedd da, yn wastadol, ac yn ddyfal ta caffom amser, a lliw

Page 28

dydd i'w gwneuthur hwy: oblegid, fel y dyweid Christ, Y mae 'r nos yn dyfod, pryd na allo neb wei∣thio, Io. 9.4. Mi a allwn ddangos hefyd fel yr oedd llawer o Sainct Duw a'n hên dadau ninnau, yn ddy∣fal iawn ac yn ofalus yn eu dyddiau am wneuthur gweithredoedd da, fel y mae 'r llafurwr yn ofalus am fwrw ei hâd yn y ddaiar tra fo'r hin yn dêg, ac fal y mae 'r marsiandwr yn gofalu am wario ei arian tra fo'r farchnad yn dda, Gal. 6. Phil. 2. Hwy a wyddent yn dda na pharhaei 'r amser yn hir oedd iddynt hwy i weithio ynddo; ac am hynny yr oe∣ddynt yn cymmeryd poen tra caent amser; ni or∣phywysent hwy vn amser ond myned rhagddynt o'r naill weithred dda i'r llall, gan wybod yn dda beth yr oeddynt yn ei wneuthur, ac mor gymmeradwy gan Dduw oedd y gwasanaeth hwnnw.

10. Pettai heb ddim arall i brofi eu rhyfeddol ofal a'i diwydrwydd hwy yn hyn o beth; etto y mae 'r coffadwriaethau a adawsant hwy ar eu hol o'i helusenau yn dystiolaeth ddi∣gon amlwg o hynny; sef yr a∣neirif o eglwysi a adeiladwyd, ac a gynnysgaeddwyd â hela∣eth fawr gyfoeth i gynnal ei gweinidogion; cynnifer o ys∣golion o ddysg; cynnifer o bynt, o briffyrdd, ac o ddaioni arall o'r cyffelyb. Y gweithredoedd elu∣sengar hynny (heb law miloedd eraill o rai neillduol a chyffredin, dirgel ac amlwg) a ddaeth allan o byr∣sau ein hên dadau duwiol ni, y rhai yn fynych a roe∣sant nid o'i helaethrwydd yn vnig, ond a arbedent hefyd allan o'i geneuau a'i boliau ei hunain beth i'w wario ar weithredoedd da, er gogoniant i Dduw, a llês i eraill: A ninnau cyn belled oddiwrth roi dim o'n hangenrheidiau, ac na allwn hepcor dim o'n

Page 29

gweddill a'n gormodedd tu ac at y cyfryw weithre∣doedd; haws gennym ni o lawer ddwyn yr hyn a roes eraill, a'i wario ar ein gweilch a'n cŵn, a'n ha∣nifeiliaid eraill, neu ar bethau a fo gwaeth; nag ar dorri newyn ac eisiau ein cydfrodyr tlodion.

11. Och Dduw, frodyr anwyl, mor ddiofal, ac mor ddiddarbod, ac mor ddifatter am ein iechydwri∣aeth a'n damnedigaeth, yr ydym ni wedi myned. Y mae S. Paul yn llefain amom am weithio allan ein hie∣chydwriaeth ein hunain drwy ofn a dychryn, Phil. 2.12. ac er hynny nid oes neb yn gwneuthur cyfrif yn y byd o hynny. Y mae S. Petr yn ein rhybuddio ni yn ddwys ac yn ddifrif, i fod yn ofalus am wneuthur ein galwedigaeth, a'n hetholedigaeth yn siccr trwy weithredoedd da: ac etto pwy agos sy'n meddwl am danynt, 2 Pet. 1.5.6, 7. &c. Y mae Christ ei hun hefyd megis yn rhoi diasbad yn y geriau hyn, Yr wyf yn dywedyd i chwi, gwnewch i chwi (yn y byd hwn) gyfeillion o'r golud anghyfiawn, fal pan fo eisieu arnoch i'ch derbyniont i'r tragywyddol bebyll: ac er hyn i gyd nid ydym ni yn cyffroi gronyn: mor fusgrell ac mor feirwon ydym i bob daioni. Luc. 16.9.

12. Pettei Dduw yn ein hannog ni i wneuthur gweithredoedd da er mwyn llês iddo ei hun, neu er mwyn elw yn y byd a allai ddyfod iddo ef odd wrth ein gwaith ni yn gwneuthur daioni; etto ni a ddy∣lem wrth bob rheswm wneuthur cymmaint a hynny o gymmwynas iddo, gan nad oes gennym ni ddim ar sy gennym ond a gawsom o'r blaen ar ei law haelio∣nus ef. Ond gan nad yw efe yn gofyn hynny ar ein dwylo ni am fod yn rhaid iddo ef wrthynt, ond er llês a thwrn da i ni ein hunain, ac er mwyn cael talu i ni am danynt hwy gydag elw; y mae yn fwy o lawer yr achos i ni i wrando arno. Pettei wr honest o'r byd yn erfyn arnom wneuthur rhyw beth, ac ar

Page 30

ei honestrwydd yn addaw ein bodloni ni yn helaeth am ei wneuthur, ni wnaem ni lai nâ'i goelio ef yn hawdd: ond er bod Duw yn yr Scrythur lân yn gw∣neuthur i ni aneirif o addewidion ar dalu i ni yn he∣laeth am wneuthur daioni, (sef y cawn ni fwytta gydag ef, ac yfed gydag ef, a theyrnasu gydag ef, a meddiannu nef gydag ef, Luc. 22.29. Rom. 8. Datc. 22.14.) etto nid yw hynny i gyd abl i gynn∣hyrfu gronyn arnom ni i wneuthur gweithredoedd da. Ond am fod y pethau hyn yn cynnhyrfu ein hên dadau ni i ddaioni, megis rhai yr oedd eu calonnau o fettel feddalach nag y mae yr eiddom ni; am hyn∣ny yr oeddynt hwy yn dwyn ffrwyth cyn helaethed ac y dangosais i chwi.

13. Or cwbl ac a ddywedais y gall Christion du∣wiol gasglu 'r pethau hyn, yn gyntaf mor druan ac mor ofidus yw cyflwr y byd yn y dyddiau hyn, gan fod cynnifer o'r rhifedi bychan sy'n dwyn enw Chri∣stianogion, yn debyg i fyned i golledigaeth, eisiau cyflawni'r ddau brif-bwngc yma o'i galwedigaeth. Yn ail y gall weled yr achos a bair fod mor anfeidrol y rhagor sydd rhwng gwobr y da a'r drwg yn y fu∣chedd a ddaw, yr hyn sydd ryfedd gan lawer: ond mewn gwirionedd y mae y rhagor hwnnw ar wobr or fath gyfiawnaf ac o'r fath resymmolaf, gan fod cymmaint o ragor rhwng buchedd y da a'r drwg tra sônt yn y byd hwn. Oblegid y mae 'r da nid yn vnig yn gwneuthur ei oreu ar ochel pechu, ond hefyd wrth ochel pechu yn cynnyddu bob awr beu∣nydd mewn ffafor gydâ Duw: ac y mae 'r diofal a'r drwg wrth ymroi o gyttundeb ei galon i'w dra∣chwant ei hun, nid yn vnig yn colli ffafor Duw, ond hefyd yn chwanegu pechod at bechod heb rifedi. Y mae 'r gwr da heb law ei fod yn gochel pechu, yn gwneuthur hefyd aneirif o weithredoedd dâ, o'r hyn lleiaf mewn ewyllys calon, lle ni bo gallu i'w gy∣flawni

Page 31

ar weithred. Ond yr annuwiol, nid ydynt hwy nac ar ewyllys nac ar weithred yn gwneuthur dim daioni, ond yn hyttrach ceisio yn lle hynny wneuthur drygioni. Y mae 'r gwr duwiol da, yn rhoi cwbl o'i fryd, a'i feddwl, a'i galon, a'i eiriau, a'i weithredoedd, ar wasanaethu Duw, a'i weision er ei fwyn ynteu. Ond yr annuwiol sydd yn rhoi cwbl o'i fryd, a'i egni, a'i allu ar wasanaethu gor∣wagedd ac oferedd y byd a'r cnawd, Fel, megis ac y mae 'r duwiol yn cynnyddu beunydd yngwasa∣naeth Duw, am yr hyn y mae Duw yn rhoi iddo ynteu gynnydd grâs yn y byd yma, a gogoniant yn y nef: felly y mae 'r annuwiol ynteu o amser i am∣ser, ar feddwl, neu air, neu weithred, neu ar bob vn, yn pentyrru pechod a damnedigaeth ar ei war∣tha ei hun; am yr hyn y mae dialedd yn ddyledus, a chynnydd poenau yn vffern. Felly y mae pob vn yn wrthwÿneb eu helynt iw gilydd, yn treulio eu hoes tros vgain neu ddêg ar hugain neu ddeugain o flynyddoedd, ac felly o'r diwedd yn marw. Ac onid yw resymol, gan fod cymmaint o ragor rhwng helynt buchedd pob vn o'r ddau, fod cymmaint rha∣gor hefyd, neu fwy, rhwng tâl a gwobr pob vn o'r ddau? Yn enwedig gan fod Duw yn Dduw mawr, ac yn arfer o dalu gwobr mawr am bethau bychain, naill ai o gogoniant tragywyddol, a'i o boenau tragywyddol. Yn drydydd ac yn ddiwe∣ddaf y gall y Christion dyfal gofalus gasglu o'r hyn a ddywetpwyd, faint yw'r achos iddo i wneuthur cyngor S. Paul, hynny yw, bod i bob dyn brofi a holi ei waith ei hun; ac felly bod yn abl i farnu am dano ei hun, ym mha gyflwr y mae yn sefyll, Gal. 6.4, ac os wrth ei holi ei hun y caiff weled nad yw ar yr iawn, yna bod iddo ddiolch i Dduw am wneu∣thur iddo cymmaint o gymmwynas a datcuddio iddo ei berygl, tra fo iddo amser a chyfle i wellhau ei fu∣chedd.

Page 32

Diammau fod llawer yn myned i golledi∣gaeth beunydd trwy gyfiawnder Duw yn eu hanfad anwybodaeth eu hun, y rhai pe buasent heb gael ond hyn o ffafor, sef cael gweled y pwll cyn iddynt fyrthio ynddo, fe allei y gallesynt ei ochel. Arfer ditheu (fy anwyl frawd) drugaredd Duw er llês i ti dy hun, ac nid i chwanegu ar dy ddamnedigaeth. Os ti a ganfyddi, wrth dy holi dy hun fel hyn, na buost ti fyw hyd yn hyn mewn buchedd wir Gristi∣anogawl, dod gwbl o'th fryd ar ddechreu bellach, ac na fwrw ymaith mo'th enaid gwerthfawr, yr hwn a brynodd Christ mor ddrûd; ac y mae efe yn ba∣rod iawn i'w gadw, ac i'w gynnysgaeddu â grâs ac â gogoniant tragywyddol, pe dydi a'i rhoit ar ei law ef, a bod yn fodlon i vniawni dy fuchedd wrth ei sancteiddiaf, a'i esmwyth, a'i felys ber orchym∣mynion ef.

PEN. V. Y tost gyfrif a fydd rhaid i ni ei wneuthur i Dduw am y pethau a ddywetpwyd vch∣od.

YM mhlith cynneddfau eraill ar wâs synhwyrol dymma 'r hon a ddylid ei gadael yn bennaf, sef bod iddo ystyried pa gyfrif a ofynnir gantho am bob peth a osodwyd tan ei law ef; ac yn nesaf, pa fath wr yw ei feistr ef, ai esmwyth ai tôst, ai mwyn ai garw, ai difraw ai manwl yn ei gyfrif; hefyd pa vn a wna ei feistr ai bod yn abl iw gospi ef wrth

Page 33

ei ewyllys, os efe a'i caiffyn feius, ai na bo; ac yn ddiweddaf pa fodd y gwnaeth ei feistr ag eraill yn y cyfryw bethau: Oblegid, os bydd efe gwâs syn∣hwyrol, efe a wŷl fel y gwnaeth ei feistr o'r blaen, ac wrth hynny fe fydd ynteu fwy ei ddyfalwch yn y pethau a roddwyd tan ei law ef.

2. Y cyfryw ddoethineb a ddymunwn ei bod gan Gristion, yn y pethau a ddywerpwyd o'r blaen, sef ynghylch y diwedd a'r achos y danfonodd Duw ni ymma o'i blegid, a'r ddau bwngc arbennig, a glyw∣soch fod arnom ni fod yn ofalus am eu cadw yn y byd hwn; hynny yw, bod yn rhaid i ni ystyried pa gy∣frif a ofynnir ar ein dwylo ni am y pyngciau hynny, pa fodd y gofynnir, pwy a'i gofyn, dosted y go∣fynnir, a pha berygl a fydd arnom os ceir ni yn es∣geulus ac yn ddiffygiol yn ein cyfrif.

3. Ond fel y gallom ddeall hynny yn well, rhaid i ni edrych yn gyntaf, wrth ba drefn, ac â pha ce∣remoniau ac amgylchion y gorchymmynnodd Duw i ni 'r pethau hyn, ac y gwnaeth ac y cyhoeddodd efe 'r Gyfraith hon, i ddangos pa fodd y mae i ni ymddwyn tu ag atto ef, a'i wasanaethu. Oblegid er rhoi o honaw ef yr vn gorchymmyn i Addaf wrth ei wneuthur ef, a'i blannu wedi hynny wrth naturi∣aeth ynghalon pob dyn, cyn iddo ei scrifennu, (fel y tystia S. Paul, Rom. 2.15.) etto er mwyn ei ddan∣gos yn eglurach, ac er mwyn ein hargyoeddi ninnau o bechod yn helaethach, (fel y dengis yr vn Apostol) efe a gyhoeddodd yr vn gyfraith yn yscrifennedig ar lechau ym mynydd Sinai, a hynny mor llawn o ddy∣chryn ac arwyddion eraill o'i fawrhydi (fel y dyweid yr vn Apostol at yr Hebraeaid. Heb. 12.21.) ac y gallai beri i'r rhai a'i torro synnu arnynt yn fawr. Darllenned y neb a fynno, yr amyn vnfed bennod vgain o Exo∣dus, ac yno y caiff weled pa ymbarottoi a fu cyn cyhoeddi 'r gyfraith. Yn gyntaf fe alwodd Duw

Page 34

Foesen i fynu i'r mynydd, ac yno y mae yn cyfrif llawer o gymwynasau a wnaethai efe i feibion Israel, ac yn addaw iddynt lawer ychwaneg, os hwy a gadwent y Gyfraith a roddai efe iddynt; Moesen a aeth yn ei ôl at y bobl, ac a ddûg ei hatteb hwy at Dduw y cadwent hwy 'r Gyfraith. Yna y parodd Duw i'r bobl ymsancteiddio erbyn y trydydd dydd a golchi eu dillad, ac na byddai i neb ymgystlwn â'i wraig, ac a barodd orchymmyn iddynt, na byddai i neb o honynt, tan boen marwolaeth, ryfygu dyfod i fynu i'r mynydd ond Moesen ei hun, a pha beth bynnag a feiddiai gyffwrdd a'r mynydd, bod ei la∣byddio i farwolaeth. Pan ddaeth y trydydd dydd, yr oedd yr angylion (fel y mae S. Stephan yn deallt) yn barod i gyhoeddi'r Gyfraith. Acts 7. Yr ytcyrn a seinient yn vchel yn yr awyr: taranau mawr a dor∣rodd allan o'r wybren, ynghyd â mellt creulon, a chymmylau erchyll, a niwl dudew, a mwg ofna∣dwy yn codi o r mynydd. Ac ynghanol hyn oll o fawrhydi, a dychryn ofnadwy, Duw ei hun a lefa∣rodd, lle y clywai pawb, Myfi yw'r Arglwydd dy Dduw, a'th ddug di allan o dir yr Aipht; Myfi yn vnig a wasanaethi: ac fel y mae 'n canlyn; lle y dangosir yn berffaith ac yn gwbl beth yw ein dylèd ni yn y byd hwn, a hynny a alwn ni yn gyffredin DEG GORCHYMMIN DVW.

4. A'r holl ddychryn a r mawrhydi hwnnw, y mae 'r Apostol ei hun, fel y dywedais, yn ei ddeall fel hyn, sef y dylem ninnau fod arnom ofn ac ar∣swyd mawr rhac torri 'r Gyfraith hon, a roes Duw i ni drwy gymmaint o ofn a dychryn: ac wrth hyn∣ny hefyd yr arwyddocceid y gofynnir cyfrif tost dychryn-llawn ddydd farn am dorri 'r Gyfraith hon, gan ddarfod ei chyhoeddi ar y cyntaf drwy gym∣maint o ddychryndod ac ofn. Canys felly y gwe∣lwn ni bob amser, am gyfreithiau tywysogion bydol,

Page 35

fod yn fwy 'r ofn a'r dychryn wrth gospi rhai am eu torri, nag wrth en cyhoeddi. A hyn a all fod yn rheswm cadarngryf i beri i Gristion edrych am wneuthur a ddylai

5. Yn ail, os ystyriwn mor dóst yr arferai Duw o gospi rhai a dorrei ei Gyfraith ef, yn gystal cyn ei scrifennu a chwedi ei scrifenu, ni a gawn weled fod i ni ddigon o achos i ofni: megis y gospedigaeth ryfeddol a roed ar Addaf, ac ar gynnifer myrddiwn o'i heppil, am ei vn pechod ef; darfod boddi 'r holl fyd ar vnwaith; darfod llosgi Sodoma a Gomorrah a thân a brwmstan o'r nef; ddarfod gwrthod Saul; a rhoi dygn gospedigaeth a'r Ddafydd, a'r cyffelyb, 1 Sam. 28. 2 Sam. 12. Y cospedigaethau hyn a roes Duw cyn drymmed, am bechodau llai o bwys, a llai o rifedi nâ 'n pechodau ni, a hynny ar y rhai yr oedd iddo mwy o achos i'w harbed nag sydd iddo in harbed ni; y rheini meddaf, a all fod yn rhybydd i ni, i ddangos beth sydd i ni i'w ddisgwyl ar law Ddvw am dorri'r Gyfraith ymma a roes efe i ddys∣gu ini ei wasanaethu ef yn y byd yma.

6. Yn drydydd, os ystyriwn ymadroddion ac ymddygiad ein Harglwydd a'n meistr Christ yn y peth hyn, ni a gawn etto weled mwy o achlysur i ni i ammeu 'n cyflwr ein hunain; yr hwn er ei ddy∣fod i'r byd i'n prynu ni, ac i faddeu i bawb, yn llawn llarieidd-dra, ac addfwynder, a gostyngeiddrwydd, a gwarder, a thrugaredd; etto yn y pwngc yma o gymmeryd cyfrif, nid yw efe arfer o ddangos ei fod ond yn dost ac yn galed iawn, a hynny nid vnig ar ciriau, ac yn ei ymddiddanion cyfeillgar rhyng∣tho a'i ddiscyblon, ond hefyd trwy esamplau, a dammhegion, i'r perwyl hynny. Canys felly mewn vn ddammeg y mae efe yn damnio y gwas truan hwnnw i vffern (lle bydd wylofain a rhincian dan∣nedd, lle ni bydd marw 'r pryf ac ni ddiffydd y tan)

Page 36

am na buasai yn chwanegu 'r dalent a roesid atto, Mat. 25. Ac yno y mae Crist yn cyfaddef am da∣no ei hun, ei fod ef yn wr tôst caled, yn medi lle nis hauodd, ac yn casglu lle nis gwascarodd, ac yn disgwyl elw ar ein dwylo ni am y dalent a roes efe ini ym menthyg, ac heb gymmeryd yr eiddo ei hun heb elw: ac wrth wneuthur hynny y mae efe megis yn bygwth y bydd efe tostach o lawer wrth y rhai a gamdreulio eu talentau, fel y mae y rhan fwyaf o honom ni yn gwneuthur. Hefyd, y mae efe yn damnio 'r gwas a gafodd efe 'n cysgu: y mae efe 'n damnio 'r dyn truan a gymmhellwyd i ddyfod i'r nei∣thior, heb ddim achos ond am na bai ganddo wisg priodas am dano: y mae yn damnio 'r pum mor∣wyn angall, am nad oedd ganddynt olew yn eu lam∣pau, ac am nad oeddynt barod, yn vnion ar yr awr, i fyned i mewn gydag ef, ac ni fyddei wiw gantho eu hadnabod pan ddeathant wedi hynny: ac yn ddi∣weddaf, y mae efe yn addo damnio pawb a wnel an∣wiredd, fel y tystia S. Matthew, 13.41, 42. Mat. 25. Mat. 22.

7. Hefyd, pan ofynnodd rhyw bennaeth iddo, pa fodd y gallai fod yn gadwedig, ni roddai efe iddo ddim gwell gobaith, er ei fod yn dywysog (ac yn∣teu yn ceisio iechydwriaeth wrth ei weithredoedd) ond hyn yn ynig, Os mynni fyned i mewn i'r bywyd, cadw 'r gorchymmynion. Luc. 18. Ac wrth ymddi∣ddan a i ddisgyblon amser arall ynghylch yr vn peth, nid yw efe yn rhoi iddynt hwy amgen rheol nâ hyn, O cerwch fi cedwch fyngorchymmynion, Joan. 14.15. Megis pe dywedai, er cwpled yr ydych yn ddiscy∣blon i mi, ac er cued gennif chwi, etto os chwi a dorrwch fy ngorchymmynion, ni bydd mwy na chariad na chymdeithas rhyngom. Acy mae S. Ioan, yr hwn a wyddei ei feddwl ef oren yn y peth hyn, yn esponi ei eiriau ef i'r deall hwnnw, lle y mae 'n

Page 37

dywedyd, Pwy bynnag sydd yn dywedyd, Mi a ad∣waen Dduw, at ynten heb gadw ei orchymmynion ef, celwyddog ydyw, a'r gwirionedd nid yw ynddo, 1 Jo. 2.4. Ac ym mhellach etto, er mwyn tynnu pob gobaith oddiwrth ei ddiscyblon, y gellynt ryngu ei fodd ef mewn ffordd yn y byd ond trwy gadw ei orchymmynion, y mae efe yn dywedyd mewn man arall, na ddaeth efe i dorri 'r Gyfraith ond i'w chy∣flawni, ac yn y man ar hynny y mae yn dywedyd, Pwy bynnag gan hynny a dorro on o'r gorchymmynion lleiaf hyn, efe a elwir yn lleiaf yn nheyrnas nefoedd. Mat. 5.17.19. Ac o'r achos hwnnw y mae efe wrth ymadael a'r byd, yn y geiriau diweddaf a ddywe∣dodd efe wrth ei Apostolion yn dywedyd, Am iddynt ddyscu i ddynion gadw pob peth a'r a orchym∣mynnasai efe iddynt, Mat. 28.26.

8. Ac wrth hyn y gellir gweled mor dôst oedd feddwl Crist am y cyfrif a fydd rhaid ei wneuthur ynghylch cadw ei orchymmynion ef yn y byd hwn. Yr hyn hefyd a ellir ei gasclu wrth yr hyn a ddywe∣dodd efe pan ofynnid iddo ai ychydig o nifer fyddei y rhai cadwedig, lle y mae efe yn eu cynghori hwynt i ymdrech am fyned i mewn trwy 'r porth cyfyng: o herwydd y ceuir allan lawer, ie o'r rhai a fwyttasent ac a yfasent gydag ef, ac a gawsent fwynhau pre∣sennoldeb a chwmpeini ei gorph bendigedig ef, ac heb fatter ganddynt am fym yn ôl ei orchymmynion ef, Luc. 13.23, 24, 27. Ac wrth hynny y mae efe yn arwyddoccau na wna efe gyfrif yn y byd o gymdeithas a chydnabod yn y dydd diweddaf; ac am hynny y mae efe yn dywedyd wrth y dŷn a wna∣ethai efe yn iach ar lan y llynn yn Ierusalem, Wele ti a wnaethbwyd yn iach, na phecha mwyach, rhag dig∣wydd i ti beth a fyddo gwaeth, Ioan. 5.14. Ac y mae yn ein rhybuddio ni 'n gyffredinol yn Efengyl S. Matthew, ar i ni gyttuno a'n gwrthnebwr ar frys

Page 38

tra fom ar y ffordd gyd ag ef, hynny yw, gwneu∣thur ein cyfrif yn y fuchedd hon; os amgen, ni a gawn dalu 'r ffyrling eithaf yn y fuchedd a ddaw. Mat. 5.25, 26. Ac yn dostach y dywaid mewn man arall y bydd rhaid i ni roddi cyfrif ddydd farn am bob gair segur a ddywedom, Mat. 12.36.

9. Ac am y dydd farn hwnnw y mae efe yn ein rhybuddio ni ym mlaen llaw, ac yn dywedyd i ni, mewn llawer o leoedd yn yr Scrythur lân, dosted a pheryccled fydd, fel y gallem ymbarottoi tu ag at∣to; ac felly vniawni ein bucheddau tra caffom amser yn y byd hwn, fel y gallom ddyfod ger bron yn y dydd hwnnw, heb nac ofn na pherygl, ie yn hyt∣trach, yn llawn cyssur, a diddanwch, a llawenydd: pan ddêl cymmaint o filoedd o bobl annuwiol yno ger bron, i'w gwaradwydd a'i gwarth tragy∣wyddol.

10. Ac o herwydd nad oes dim mor gymmwys i ddangos dosted a fydd Crist wrth gymmeryd cyfrif y dydd diweddaf, ac ydyw trefn a dull y farn ddi∣weddaf, yr hyn a ddangosir yn ddyfal yn yr yscry∣thur lan; fe fydd perthynol iawn i ni ystyried hyn∣ny. Ac yn gyntaf peth y mae 'n rhaid i ni ddeall fod dwy farn wedi eu hordeinio i ni yn ôl marwola∣eth: y naill a elwir yn farn neillduol, wrth yr hon y mae pob dyn ar ei ben ei hun yn y man ar ôl yma∣dael â'r byd, yn cael barn o'r neilldu, naill ai i boe∣nau, ai i ogoniant, yn ól ci weithredoedd yn y fu∣chedd hon, fel y dywaid Christ ei hun. Ac o hyn∣ny y mae i ni esampl yn Lazarus a'r glwth goludog, y rhai a gymmerwyd ymmaith yn y man ar ôl eu marw, y naill i boenau, a'r llall i orphywysdra, fel y tystia S. Luc. 16. A chyndynrwydd mawr fy∣ddei ammeu hyn, fel y dywaid S. Awstin. Y farn arall a elwir yn farn gyffredinol, am y bydd honno i bob dyn yn niwedd y byd, pan gyhoedder y farn

Page 39

ddiweddaf ar bob dyn a fu erioed fyw yn y byd, naill ai i dderbyn gwobr, ai i gael cospedigaeth, yn ôl y gweithredoedd a wnaethant yn y bywyd hwn, pa vn bynnag ai da, ai drwg, ac na bydd byth mwy sôn am gyfnewid eu cyflwr hwynt, nac am esmwythau ar-boenau 'r naill, nac am ddibennu go∣goniant y llaill. Mat. 25.

11. Ac ynghylch y gyntaf o'r ddwy farn hyn, er bod yr hên dadau (yn enwedig S. Awstin) yn casglu ac yn ystyried y bydd ynddi amryw bethau tôst ac ofnadwy iawn, megis yn gyntaf mynediad ein henaid ni allan o'r corph ger bron gorseddfaingc Duw, a hynny tan gad wraeth angylion da a drwg; yn ail, yr ofn a fydd ar yr enaid rhag pob vn o'r ddeufath angylion hynny; yna, mor ddieithr ddi∣symmwth fydd gan yr enaid y lle y bydd ynddo; wedi hynny, mor ofnadwy fydd presennoldeb Duw, a'r holi tôst a fydd arno, a'r cyffelyb: etto, o her∣wydd bod yn rhaid ystyried y rhan fwyaf o'r pe∣thau hyn yn yr ail farn gyffredinol hefyd; mi af heibio i'r rhai hynny yr awron, ac a ddangosaf am∣ryw resymmau o'r eiddo 'r tadau duwiol pa ham y mae Duw wedi ordeinio bod ail barn gyffredinol, ac ynteu wedi darfod iddo yn y farn gyntaf, roi i bawb o'r neilldu yn ôl ei haeddedigaeth. Y rheswm cyntaf yw, fel y byddai gorph dyn yn ôl ei gyfodi o'r bêdd, yn gyfrannog o gospedigaeth neu o ogoni∣ant ynghyd â'r enaid, fel y bu gyfrannog gydag ef o rinwedd neu o gamwedd yn y fuchedd hon. Yr ail yw, fel megis ac yr ammharchwyd ac y gwar∣thruddiwyd Christ ar gyhoedd ymma yn y byd hwn, felly y gallai yn helaethach o lawer ddangos ei faw∣redd a'i allu yn y dydd diweddaf yngwydd ei holl greaduriaid, ac yn enwedig yngwydd ei elynion. Y trydydd yw, fel y gallai 'r duwiol a'r annuwiol dderbyn eu tal a'i gwobr ar gyhoadd, er mwyn cael

Page 40

o'r naill ychwaneg o warth, a gofid a thorr-calon, ar llaill ychwaneg o lawenydd a gorfoledd, er eu bod fynychaf yn cael yn y byd hwn eu gorthrechu gan yr annuwiol. Y pedwerydd yw, Nad ydyw y rhai annuwiol wrth farw yn dwyn gyda hwynt mo'i holl haeddedigaeth a'i drygioni, am eu bod yn ga∣dael yn eu hôl naill a'i eu hesampl ddrwg, ai eu plant ai eu cyfneseifiaid a ddarfu iddynt hwy eu lly∣gru, ai eu llyfrau neu ryw bethau eraill a all mewn amser lygru eraill. Ac oblegid na wnaed y pethau hynny etto, ond eu bod heb wneuthur hyd ar ôl eu marwolaeth hwy, ni allant hwy mor gymmhesur gael eu barnu am y pethau hynny yn y man; ond fel y digwyddo 'r drwg y rhoesant hwy gynt e∣sampl i'w wneuthur, felly y chwanegir ar eu poe∣nau hwythau. A'r vn peth a ellir ei ddywedyd am y rhai duwiol, yn gymmaint a bod S. Paul (os mynnwch gael esampl) yn cael chwanegu beunydd ar ei ogoniant, ac felly y caiff hyd ddiwedd y byd, o blegid fod rhai beunydd yn cynnyddu mewn daio∣ni oddiwrth ei scrifennadau a'i esampl ef; ac am yr vn achos y chwanegir ar boenau y rhai annuwiol. Ond yn y dydd diweddaf y bydd diben ar ein holl weithredoedd ni, ac yna y cair gweled yn amlwg pa beth sydd i bob dyn i'w gael, wrth gyfiawnder a thrugaredd Duw.

12. A thuag at am yr ail farn gyffredinol i'r holl fyd, yn yr hon y Dwg Duw, fel y dyweid yr Scry∣thur Ian, bob gweithred i farn, a phob peth dirgel, pa vn bynnag fyddo ai da ai drwg, Prog. 12.14. Rhuf. 2.16, & 14.10. 2 Cor. 5.10. y mae am∣ryw bethau i'w hystyried yn ei chylch, ac amryw wyr dysgedig yn rhoi y rhei'ny ar lawr mewn am∣ryw foddion; ond yn fy nhŷb i ni ellir eu dangos yn well, nac yn oleuach, nac yn ddwysach, nag y mae 'r Scrythur lân yn eu dangos, yr hon sydd yn

Page 41

yspyssu i ni holl ddull a threfn y farn honno a'i go∣gylcheddau, a'r ymbarottoi a fydd o'i blaen, a hyn∣ny mewn geiriau llawn o arwyddoccâd, yn y modd y canlyn.

13. Yn y dydd hwnnw y bydd arwyddion yn yr haul, a'r lleuad, a'r sêr, Luc. 21.25 yr haul a dy∣wyllir, a'r lleuad ni rydd ei goleuni, a'r sêr a syrth o'r nef, a nerthoedd y nefoedd a ysgydwir; y nefoedd a ânt heibio gyd â thwrwf, a'r defnyddiau gan wir wrês a doddant, a'r ddaiar a'r gwaith a fyddo ynddi a losgir, Mar. 13.24. 2 Pet. 3.10. a'r ddaiar a gryn o'i lle, ac a fydd megis ewig wedi ei tharfu, ac fel dafad heb neb a'i coleddo, Esa. 13.13, 14. bydd ing ar genhedloedd gan gyfyng-gyngor, a'r môr a'r tonnau yn rhuo, a dynion yn llewygu gan ofn, a dis∣gwyl am y pethau sydd yn dyfod ar y ddaiar, Luc. 21. Yna'r ymddengys arwydd mab y dyn yn y nef, ac yna y galara holl lwythau'r ddaiar, a hwy a welant fab y dyn yn dyfod ar gymmalau 'r nef, gydâ nerth a go∣goniant mawr, Mat. 24.30. Ac yna mewn moment ar darawiad llygad, efe a ddenfyn ei angylion a mawr sain vdcorn, a gwaedd a gawr ar hanner nôs, a hwy a gasglant ei etholedigion ef ynghyd, o'r pedwar gwy∣nt, o eithafoedd y nefoedd hyd en heithafoedd hwynt, 1 Cor. 15.52. Mat. 25.6. A rhaid i bawb ym∣ddangos ger bron brawdle Christ fel y derhynio pob vn y pethau a wnaethpwyd yn y corph, yn ôl yr hyn a wnaeth, pa vn bynnag ai da ai drwg, 2 Cor. 5.10. ac efe a oleua ddirgelion y tywyllwch, ac a eglura fw∣riadau 'r calonnau, a'r pethau a ddywedpwyd yn y glûst mewn stafelloedd is bregethir ar bennau tai: ac fe fydd rhaid rhoi cyfrif am bob gair segur a ddy∣wedo dynion, 1 Cor. 4.5. Luc. 12.3. Mat. 12.36. ac efe a farn ein cyfiawnderau ni. Yna y saif y cy∣fiawn mewn hyder mawr o flaen ei orthrymwyr, a'r rhai a ddiystyrasant ei lafur ef, Psal. 75.3. A'r an∣nuwiol

Page 42

pan welont hyn, a fyddant mewn dychryn ac ofn mawr, ac a ddechreuant ddywedyd wrth y mynyddoedd a'r creigian, Syrthiwch arnom, ac with y bryniau cuddiwch ni o ŵydd yr hwn sydd yn eistedd ar yr orseddfaingc, ac oddiwrth lid yr Oen: canys daeth dydd mawr ei ddigter ef, a phwy a ddichon se∣fyll? Dat. 6.16. Yna y didola Christ y defaid oddi∣wrth y geifr, ac a esyd y defaid ar ei ddeheulaw, a'r geifr ar yr asswy, ac a ddyweid wrth y rhai a fo ar ei ddeheulaw, Deuwch chwi fendigedigion fy nhad, meddiennwch y deyrnas a barottowyd i chwì er seiliad y byd: canys bum newynog, a chwi a roesoch i mi fwyd; bu arnaf syched, a rhoesoch i mi ddiod; bum ddieithr, a dygasoch fi gydâ chwi; bum noeth, a dilladasoch si; bum glâf, ac ymwelsoch â mi: bum yngharchar, a daethoch attaf. Yna 'r ettyb y rhai cyfiawn iddo, gan ddywedyd, Pa bryd i'th welsom yn newynog, ac ith borthasom; neu yn sychedig ac y rhoesom i ti ddiod? a pha bryd i'th welsom yn ddiei∣thr, ac i'th ddygason gydâ ni; neu yn noeth, ac i'th ddilladasom? A pha bryd i'th welsom yn glaf, neu yngharchar, ac y daethom attat? A'r brenhin a ettyb ac a ddywed wrthynt, yn wir meddaf i chwi, yn gymmaint a'i wneuthur o honoch i vn o'r rhai hyn fy mrodyr lleiaf, i mi y gwnaethoch. Yna y dyweid efe wrth y rhai a fyddant ar y llaw asswy, Ewch oddi∣wrthyf rai melldigedig i'r tân tragywyddol, yr hwn a barottowyd i ddiafol, ac i'w angylion: canys bum ne∣wynog, ac ni roesoch i mi fwyd; bu arnaf syched, ac ni roesoch i mi ddiod; bum ddieithr, ac ni 'm dyga∣soch gyda chwi; bum noeth, ac ni 'm dilladasoch; yn glaf ac yngharchar, ac nid ymwelsoch â mi. Yna yr attebant hwythau hefyd iddo, gan ddywedyd, Ar∣glwydd, pa bryd i'th welsom yn newynog, neu yn sy∣chedig, neu yn ddieithr, neu yn noeth, neu yn glaf,

Page 43

neu yngharcar, ac ni weinasom i ti? Yna 'r ettyb efe iddynt, gan ddywedyd, yn wir meddaf i chwi, yn gymmaint ac na's gwnaethoch i r vn o'r rhai lleiaf hyn, nis gwnaethoch i minnau. A'r rhai hyn a ânt i gos∣pedigaeth dragwyddol, a'r rhai cyfiawn i fywyd tragy∣wyddol. Mat. 25.

14. Dywedwch i mi bellach ond ofnadwy yw 'r darpar yma tu ag at ddyd i farn? gwelweh faint yw 'r achosion i ofni ac i ddychrynu? Fe ddaw dydd farn, mêdd yr yscrythur, pan fo dynion, ond odid, yn cysgu; fe ddaw gyd a sŵn erchyll, gan lais vd∣cyrn, a thrwst dyfroedd, a chynnwrf y pedwar def∣nydd. Pa fath noswaith fydd honno, dybygi di, pan weler y ddaiar yn crynu, y mynyddoedd a'r dyffrynnoedd yn symmud allan o'i lle, yr haul wedi tywyllu, y fleuad wedi colli ei llewyrch, y sêr yn syrthio i lawr o'r wybren, a'r holl ffurfafen yn holl∣ti 'n ddrylliau, a'r holl fyd yn llosgi yn dân po∣eth.

15, Ai possibl i dafod yn y byd allu hyspyssu dim yn eglurach nag y mae Christ a'r Apostolion a'r prophwydi yn hyspyssu y peth hyn? Pa ddyn bydol ni chryn ei galon yn ei gorph gan y dychryn anfei∣drol drol hwn? Ai rhyfedd yw clywed dywedyd bod y rhai cyfiawn, a'r angylion hefyd yn ofni 'r pethau hyn? Ac yno, fel y dywaid S. Petr, Os prin y bydd cadwedig y cyfiawn, pa le yr ymddengys yr annuwiol a'r pechadur? 1 Pet. 4.18. Och mor ofnadwy fydd y diwrnod hwnnw i'r Christion difraw, diofal, yr hwn a dreuliodd ei amser yn y byd yma mewn lla∣wenydd a difvrrwch, pan welo mor anfeidrol fydd yr ofn a'r dychryn, a maint fydd y trueni a'r aflwydd a fydd yn barod i ruthro arno!

16. Ond heb law 'r holl bethau creulon tôst hyn a fydd o flaen y farn; fe fydd llawer o bethau eraill mor erchyll eu hystyried a hwytheu; megis gweled

Page 44

yr holl feddau yn egori pan ganer yr vdcorn, ac yn rhoi i fynu eu holl gyrph meirwon a dderbyniasant er dechreuad y byd; gweled holl wyr a gwragedd y byd, brenhinoedd a brenhinesau, tywysogion a gwyr mawr, yn sefyll yno yn noethion yngŵydd holl greaduriaid Duw; gweled amlygu eu holl be∣chodau hwy, a datguddio eu hanwireddau cuddiedig, y rhai a wnaethant hwy o fewn eu stafelloedd dir∣gel yn eu llysoedd; a'i cymmhell a'i gyrru hwythau i roi cyfrif am fil o bethau a fuasai ddiystr ganddynt eu rhybuddio o'i plegid yn y byd hwn, sef pa fodd y treuliasant eu hamser, pa fodd y gwariasant eu go∣lud, pa fodd yr ymddygasant tu ac at eu brodyr, pa fodd y darfu iddynt farwolaethu a gorchfygu eu gw∣yniau cnawdol, pa fodd y darfu iddynt lywodraethu eu hewyllysion, pa fodd yr vfyddhasant i weithre∣diad yr Yspryd glan yn eu calonnau, ac yn ddiwe∣thaf, pa fodd yr arferasant holl ddoniau Duw yn y byd hwn.

17. O, frawd anwyl, nyd yw bossibl gallu dan∣gos mor werthfawr o dryssor fydd cydwybod dda yn y dydd hwnnw: hi a fydd gwell na deng mil o'r byd hwn; oblegid ni thyccia golud yr amser hwn∣nw; ni lygrir y barnwr ag arian, ni thyccia gwaith neb o'n caredigion yn eiriol trosom ni y dwthwn hwnnw, na gwaith angylion ychwaith, y rhai y bydd eu gogoniant yr amser hwnnw, fel y dywed y prophwyd, i rwymo brenhinoedd a chadwynau, a phendefigion a gefynnau heiyrn; i wneuthur arnynt y farn scrifennedig: yr adderchawgrwydd hyn fydd iw holl sainct ef, Psal. 149.8. Och, beth a wna 'r holl bobl ddoethio hynny yr amser hwnnw, y rhai fydd yr awrhon yn treulio eu hamser mewn llawe∣nydd a ddifyrrwch, ac ni chlywant arnynt gymme∣ryd dim poen yn gwasanaethu Duw? pa ymadferth a wnant hwy yn y cyfyngder hynny? tu a phle

Page 45

yr ymdroant? gan bwy y ceisiant help? Hwy a gant weled pob peth yn eu cylch yn galw am ddia∣ledd arnynt hwy, a phob peth yn rhoi achos iddynt i ofni ac i ddychrynu; ac na bydd dim a roddo iddynt ronyn gobaith neu gyssur. Vwch eu pennau y bydd eu barnwr yn ddigllon am eu hanwiredd hwy; is eu llaw y bydd vffern yn agored, a'r pair berwedig yn barod i'w derbyn hwy; ar y tu dehau y bydd eu pechodau yn eu cyhuddo hwynt; ar y tu asswy y bydd y cythreuliaid yn barod i wneuthur tragwy∣ddol farn Duw arnynt hwy; o'i tu mewn y bydd eu cydwybod yn eu cnoi; ger llaw iddynt y bydd yr holl eneidiau colledig yn ochain ac yn cwynfan; o'i hamgylch y bydd yr holl fyd yn llosgi. O Ar∣glwydd Dduw, pa beth a wna 'r pechadur truan pan fo 'r holl ofidiau hyn yn ei amgylchu? pa fodd y gall ei galon ef ddioddef y cyfyngderau hyn? pa ffordd a gyrch efe? myned yn ôl nid possibl iddo, a myned ym mlaen nid ydyw abl iw ddioddef. Pa beth ynteu a wna efe ond (fel y dywedodd Christ, Luc. 21.26.) edwi a digalonni, a llewygu gan ofn, a cheisio marw ac heb gael, chwennychu marw, a marwolaeth yn cilio oddiwrtho, a gwaeddi ar y my∣nyddoedd am syrthio arno, ac ar y bryniau am ci guddio, a hwythau yn naccau gwneuthur iddo cym∣maint a hynny o gymmwynas, Datc. 9.6. Dat. 6.16. ac fo a gaiff sefyll yno fel dyn truan, diga∣rad, diobaith, hyd oni chaffo glywed y farn ofnadwy ni throir byth yn ei hol, Ewch chwi rai melldigedig i'r tan tragywyddol.

18. A phan ddarffo rhoi 'r farn, ystyriwch mor ofidus fydd y waedd a'r floedd a fŷdd yu y man ar ol hynny, gan y rhai da yn llawenychu ac yn canu mawl a gogoniant i'w hachubwr, a chan y rhai drwg yn cwynfan, ac vn cablu, ac yn melldigo dydd eu genedigaeth. Ystyriwch dosted y bydd y

Page 46

drwg ysprydion vffernol yn ymedliw a'r eneidiau truain colledig a fo wedi eu rhoi weithian yn yscly∣faeth dragwyddol iddynt hwy: mor chwerw fydd eu gwawd a'i gwatwor hwy am ben yr eneidiau tru∣ain hynny wrth eu dwyn i'r poenau tragywyddol. Ystyriwch y didoli a fydd yr amser hwnnw ar dadau a mammau oddiwrth eu plant, ar gyfeillion a cha∣redigion, oddiwrth ei gilydd, a hynny yn dragy∣wyddol, heb obaith byth cael gweled y naill y llall: a pheth arall a fydd cymmaint gofid a'r mwyaf (os gwir a ddyweid rhai, y cawn ni adnabod ei gilydd cyn belled a hynny) ni bydd i'r mab a fo 'n mynd i'r nef dosturio wrth ei dâd neu ei fam a fo yn myned i vffern, ond yn hyttrach bod yn llawen ganddynt hynny am ei fod yn troi 'n ogoniant i Dduw wrth wneuthur cyfiawnder. Pa fath ddidoli fydd hyn, meddaf? pa fath ganu yn iâch? pwy ni thorrei ei galon y dydd hwnnw wrth ymadael ac ymddidoli felly, pe gallei galon dorri yr amser hwnnw, ac felly cael diwedd ar ei gofid a'i phoenau? Ond ni all hyn∣ny fod. Ple yna y bydd ein holl blesser a'n difyrr∣wch ni? I ba le 'r aeth ein holl ddigrifwch a'n didda∣nwch ni? a'n gwychder yn ein dillad, ein disgleirio mewn aur, y parch a gawsom trwy gael gistwng a bod yn bennoeth i ni, ein holl fwydydd dainteth, ein holl fusig a'n melysgerdd, ein holl drythyllwch an ysmalhawch, ein cyfeillon a'n cymdeithion digrif diddan a fyddei arfer o chwerthin ac o ddifyrru 'r amser gydâ ni? I ba le 'r aethant hwy? O frawd anwyl, mor chwerw fydd holl blesser a difyrrwch y byd yr amser hwnnw? Mor ofidus fydd gennym feddwl am danynt? Mor ofer y cawn ni weled bod ein parch a'n golud a'n cyfoeth gynt? Ac yn y gwr∣thwyneb, mor llawen fydd y dyn hwnnw, a fu ofa∣lus am fyw yn dda ac yn rhinweddol yn y byd hwn, er maint y boen a gafodd yn gwneuthur hynny, a'r

Page 47

dirmyg yn y byd. Dedwydd o greadur fydd efe ei eni, ac ni ddichon vn tafod ond Duw ddangos faint ei ddedwyddwch ef.

19. Ac i ddibennu 'r cwbl oll, nid rhaid i ni ond y diben a wnaeth Christ, ystyriwn hawsed i ni yr awr hon ag ychydig boen, ochel perygl y dydd hwn∣nw, a darfod i'n barnwr trugarog a'n hiachawdr ddangos y perygl hwnnw i ni ym mlaenllaw, fel y gallem fod yn ofalus am geisio ei ochel. Oblegid fel hyn y dibenna efe yn ol ei holl fygythion, Ym∣ogelwch, gwiliwch, a gweddiwch; canys ni wyddoch pa bryd y bydd yr amser. A'r hyn yr wyf yn eu dy∣wedyd wrthych chwi, yr wyf yn eu dywedyd wrth bawb, Gwiliwch. Mar. 13.33. Ac mewn man arall, we∣di darfod iddo gyfrif yr holl bethau o'r blaen, rhag i neb a mmeu nas deuent i ben, y mae 'n dywedyd, Nef a daiar ant heibio, ond fy ngeiriau i nid ant heibio ddim. Ac yno y mae 'n rhoi 'r cynghor hwn, Edrychwch chwithau arnoch eich hunain rhag gorch∣fygu eich calonnau a'i trymhau trwy lothineb, a me∣ddwdod, a gofalon y bywyd hwn, a dyfod y dydd hwnnw arnoch yn ddisymmwth. Canys efe a ddaw fel magl ar wartha pawb oll ac sydd yn trigo ar wy∣neb yr holl ddaiar. Byddwch chwithau wiliadwrus, a gweddiwch bob amser, ar gael eich cyfri 'n deilwng i ddiangc rhag y pethau hyn oll sydd ar ddyfod, ac i sefyll ger bron Mab y dyn. Luc. 21.3. Ond ca∣riadus y cynghôr hwn gan Grist? A allai ein tad ein hun roi i ni gynghor carediccach? Pwy a ddy∣munai rybudd teccach a mwynach, a dwysach? Ai possibl i neb wedi hynny allu dywedyd, Nis gwy∣ddwn i? Yr vn cyffelyb rybudd y mae S. Petr yn ei roi ar yr vn achos, 2 Pet. 3.10. lle mae yn dywe∣dyd, Dydd yr Arglwydd a ddaw megis lleidr y nos, yn yr hwn yr â 'r nefoedd heibio gyda thwrwf, a'r defnyddiau gan wir wrês a doddant, a'r ddaiar. a'r

Page 48

gwaith a fyddo ynddi a loscir. A chan fod yn rhaid i'r pethau hyn i gyd ymollwng, pa fath ddynion a ddy∣lech chwi fod mewn sanctaidd ymarweddiad a duwi∣oldeb, yn disgwyl ac yn brysio at ddyfodiad dydd Duw. Y brysio yma megis i gyfarfod dydd farn, y mae S. Petr yn crybwyll am dano, nid yw ddim ond yr hiraeth a ddylei fod arnom am ddydd farn; a'r hi∣raeth hwnnw nis gall fod ar neb o honom nês i ni yn gyntaf ymwrando a'n cyflwr ein hunain, a gwell∣hau ein buchedd yn ddioed ddi-ohir. Am hynny odiaeth y dyweid y gwr doeth, Eccles. 18.19, 20. Cyn afiechyd cymmer feddyginiaeth; a chyn barn hola di dy hun, ac yn amser gofwy ti a gai drugaredd gan Dduw. Ac a'r geiriau hynny y cytuna geiriau S. Paul, Pe iawn farnem ni ein hunain, ni 'n bernid. 1 Cor. 11.31. Ond am nad yw neb yn ei iawn farnu ei hun a'i fuchedd, hynny sy'n peri bod cyn lleied o bobl yn ymbarottoi erbyn y farn honno, a bod cyn lleied yn wiliadwrus, a chymmaint yn gorwedd mewn trymgwsg, heb wybod dim oddi∣wrth y perygl y maent ynddo. Yr Arglwydd Dduw a roddo i ni 'r gras i edrych yn well yn ein cylch. Amen.

Page 49

PEN. VI. Ystyried beth yw naturiaeth pechod, a phecha∣dur; er mwyn dangos nad yw Duw yn an∣ghyfiawn, er ei fod cyn dosted ac y dywet∣pwyd yn y bennod o'r blaen.

RHag bod i neb le i achwyn fod yn rhy dost y cyfrif a ofyn Duw ar ein dwylo ni yn y dydd diweddaf, a bod yn rhydost y farn a ddangos∣wyd yn y bennod o'r blaen: da fyddai yn y bennod yma ystyried yr achos pa ham y mae Duw cyn do∣sted yn erbyn pechod, ac yn erbyn pechaduriaid, fel y gellir gweled wrth a ddywetwyd o'r blaen, ac wrth gwbl o'r Scrythur lan, lle y mae efe agos ym mhob man yn datcan ei ddygn gas, a'i lid, a'i ddi∣gofaint yn erbyn pob vn o'r ddau; megis lle y dy∣wedir am dano ei fod yn casau holl weithredwyr an∣wiredd, a bod yn gas ganddo 'r annuwiol a'i annuwi∣oldeb, Psal. 5.5. Dihar. 15.8. A bod holl fu∣chedd pechaduriaid, a'i meddyliau a'i gweithredo∣edd, a phob daioni ar a wnelont hwy, yn ffiaidd yn ei olwg ef, tra fònt hwy yn byw mewn pechod: a pheth sy fwy, nas gall efe ddioddef i bechadur ei glodfori na chymmeryd ei dystiolaethau ef yn ei enau, fel y tystia 'r Yspryd glan, Psal. 50.16. Ac am hynny nid dim rhyfedd iddo fod cyn dosted wrtho ddydd y farn, ac ynteu yn ei gasau ac yn ei ffi∣eiddio yn gymmaint yn y bywyd yma.

2. Fe ellid dangos llawer o resymmau am y peth hyn, megis torri gorchymmynion Duw, anniolch∣garwch pechadur tuac atto am ei ddoniau, a'r cy∣ffelyb; y rhai a allai ddangos yn ddigon goleu gy∣fiawned

Page 50

yw ei ddigofaint ef tu ac at bechadur. Ond y mae vn rheswm vwch law'r cwbl yn egori gwrei∣ddyn y peth; a hynny ydyw yr anfad lwyrgam a wneir â Duw ym mhob pechod a wnelom ni o'n gwirfodd a thrwy wybod, yr hyn fydd gymmaint cam, a dirmyg, ac ammharch, ac na ddioddefai vn gwr mawr y cyfryw ar law ei ddeiliaid: a llai o lawer y bydd i Dduw, yr hwn yw Duw y maw∣redd, eu dioddef cyn fynyched ac y gwna dynion hwynt iddo.

3. Ac fel y gallom ddeall faint yw 'r cam hwnnw, rhaid i ni wybod, am bob gwaith ac y bôm yn gw∣neuthur pechod, fod ein calonnau ni a'n deall, er nad ydym yn dal ar hynny, megis yn ymresymmu o'n mewn ni ac megis yu gosod ger em bronau ni, o'r naill du pa fûdd a pha lês a ddaw i nî oddiwrth y pechod yr ydym ar fedr ei wneuthur, a'r llês hwn∣nw yw 'r plesser a'r difyrrwch yr ydym yn ei gael wrth bechu; ac o'r tu arall pa beth yw digio Duw, hynny ydyw, colli ei gariad a'i ewyllys da ef wrth y pechod hwnnw, os ni a'i gwnawn: ac felly yr ydym ni yn ein meddyliau a'n calonnau megis yn rhoi Duw yn y naill ben i'r clorian; a'r plesser yr ydym ni yn ei gael wrth bechu, yn y pen arall; a ninnau megis yn sefyll yn y canol yn bwrw ac yn ystyried pa vn drymmaf o'r ddeupen, ac o'r diwedd yn dewis ein plesser a'n difyrrwch ac yn gwrthod Duw: hynny ydyw yr ydym ni yn dewis yn hyt∣trach golli cariad Duw a'i râs a chwbl ac a dal ef, na cholli byrr blesser a dyfyrrwch pechu. Beth all fod fryntach na hyn? Pa fodd byth y gwnaem ni mwy o ddirmyg ar Dduw, na dewis y plesser gwa∣elfrwnt hwn o flaen ei fawredd ef? Ond gwaeth yw hynny, a mwy cam nag a wnaeth yr Iuddewon wrth ddewis Barabbas y Ileiddiad, a gwrthod Christ ei hachubwr? Ac yn ddiau, er maint oedd pechod

Page 51

yr Iuddewon, etto mewn dau beth y mae 'r pechod ymma megis yn rhagori ar yr eiddynt hwy: y naill yw, nad oedd yr Iuddewon wrth ddewis yn gwybod pwy yr oeddynt yn ei wrthod, fel yr ydym ni; y Ilall yw, na wrthodasant hwy Grist ond vnwaith, a ninnau yn ei wrthod ef yn fynych, ie bob dydd, a phob awr ac ennyd, pan fòm o'n gwir fodd ac o ewyllys ein calonnau yn ymroi i bechu.

4. Ai rhyfedd wrth hynny, fod Duw cyn dosted a chyn llymmed wrth y rhai drygionus, yn y byd a ddaw, a hwythau mor ddirmygus ddiystyr ganthynt ef yn y byd ymma? Yn siccr mae 'n fawr malais pechadur tu ag at Dduw, ac y mae efe nid yn vnig yn ei ammherchi ef wrth ddistyru ei orchymmyni∣on, ac wrth ddewis y creaduriaid gwaelaf a gwae∣thaf o'r byd o'i flaen ef; ond y mae hefyd yn dwyn cas dirgel yn ei galon tu ac atto, ac yn cynfigennu wrth ei fawredd ef, ac yn chwennych, pes gallei, ei dynnu ef i lawr oddi ar ei orseddfaingc, neu, o'r hyn lleiaf, yn dymuno na bai vn Duw i roi cosp am bechod yn ol y fuchedd hon. Ymwrandawed pob pechadur ag eigion ei gydwybod yn hyn o beth, oni byddei bodlon ganddo gael o'i enaid farw gyda'i gorph, ac na byddai anfarwol; ac na byddei ar ol y fuchedd hon na chyfrif, na barnwr, na chospedi∣geth, nac vffern, ac felly na byddai vn Duw, fel y gallai efe gymmeryd ei blesser yn ddiofal wrth ei ewyllys ei hun yn y byd ymma?

5. Ac o herwydd bod Duw (ac ynteu yn chwilio 'r calonnau a'r arennau) yn gweled eu meddwl brad∣wraidd hwy tu ac atto pe rhon a'i fod yn llechu o fewn ymyscaroedd eu calonnau hwy, er llyfned fy∣tho eu geiriau: am hynny y mae efe yn cyhoeddi yn yr Scrythur lan eu bod hwy yn elynion iddo, ac yn cyhoeddi rhyfel a gelyniaeth yn eu herbyn hwy. Ac yno, dybygwch chwi, ym mha gyflwr y mae

Page 52

'r truain ad ddynion hyn, y rhai nid ydynt ond gwa∣el bryfed y ddaiar, pan fo iddynt i ymladd yn erbyn y cyfryw elyn, ac sydd yn peri i'r nefoedd grynu, er na's gwnelo ond edrych arnynt. A rhag i ti dybied na bo hynny gwir, gwrando beth y mae efe yn ei ddywedyd, beth y mae efe yn ei fyg vth, beth y mae efe yn ei dadsain yn eu herbyn hwy. Wedi darfod iddo, trwy enau 'r prophwyd Esai, gyfrif llawer o'i pechodau ffiaidd hwy ger ei fron ef (sef eu bod yn caru rhoddion, ac yn dilyn gwobrau, ac yn gorthrymmu 'r truan a'r tlawd, a'r cyffelyb) y mae ynteu yn ffieiddio y rhai a wna 'r pethau hyn∣ny, gan ddywedyd, Fel hyn y dyweid yr Arglwydd, Arglwydd y lluoedd, cadarn, Ddaw Israel; Aha, mi a ymgyssuraf ac fy ngwrthwynebwyr, ac a ymddialaf ar fy ngelynion, Es. 1.23.24. A'r prophwyd Dafydd, fel yr oedd efe yn wr mawr ei gariad gyd a Duw, ac yn cael gwybod llawer o'i gyfrinachau ef; felly y mae efe yn aml yn datcan ac yn adrodd dosted yw meddwl Duw a maint yw ei ddigofaint yn erbyn pe∣chaduriaid, ac yn eu galw hwy yn elynion iddo, yn llestri ei ddigofaint ef, a chwedi eu hordeinio i ddistryw a cholledigaeth dragywyddol; ac yno y mae yn cwyno na choelia'r byd mo hynny, gan ddy∣wedyd, Gwr annoeth ni ŵyr, a'r ynfyd ni ddeall hyn, Psal. 92.6. Beth yw hynny? Pa fodd y mae pechaduriaid yn ol iddynt godi i fynu, a gweithre∣dwyr anwiredd wedi yr ymddangosont i'r byd yn myned i golledigaeth dragywyddol? A pha beth yw 'r achos o hynny? Y mae efe yn atteb yn y man ac yn dywedyd, Gwers. 9. Canys wele dy elynion O Arglwydd, vvele, dy elynion a ddifethir, gvvascerir holl vveithredvvyr anvviredd. Wrth hyn y gwelwn fod pob pechadur yn elyn i Dduw, a Duw iddo yn∣teu; ac y gwelwn pa ham y mae hynny. Ond er mwyn dangos yn eglurach fod barn Duw yn gyfiawn,

Page 53

er ei thosted, ystyriwn beth yw maint a mesur ei ddigllonedd ef yn erbyn pechod, a pheth yw ei chyrraedd, a pheth yw ei therfynau, a phth a wna ai bod iddi derfynau ai nad oes: fel y mae mewn gwirionedd, yn anfeidrol, hynny ydyw heb na metr na mesur, nac ymyl nac eithaf. Ac i adrodd y peth fel y mae mewn gwirionedd, pettai holl dafo∣dau 'r byd wedi eu gwneuthur yn vn tafod, a holl ddeall yr holl greaduriaid, o ddynion ac o angylion, wedi ei wneuthur yn vn deall; etto ni allai y taiod hwnnw fynegi, na'r deall hwnnw amgyffred faint yw digofaint calon Duw yn erbyn pob pechod ar yr ydym ni yn ei wneuthur trwy wybod. A'r rheswm o hyn sydd yn sefyll mewn dau beth. Yn gyntaf, o herwydd cymmaint ac y mae Duw yn rhagori ar∣nom ni mewn daioni, o gymmaint a hynny y mae efe yn caru daioni ac yn cassau pechod yn fwy nag yr ydyn ni: ac am ei fod ef yn anfeidrol ei ddaioni, am hynny y mae ei gariad ef tu ac at ddaioni, a'i gâs tu ac at bechod, yn anfeidrol hefyd; ac o'r a∣chos hynny y mae 'r tâl sy gantho ynghadw i bob vn o'r ddau, yn anfeidrol ynteu; i'r naill yn y nef, ac i'r llall yn vffern.

6. Yn ail, ni a welwn beunydd, mai po mwyaf a pho ardderchoccaf fyddo 'r gŵr y gwneler bai yn ei erbyn, mwyaf y cyfrifir y bai: oblgid nid yr vn bai yw rhoi dyrnod i wasanaethwr, a rhoi dyrnod o'r vn faint i dywysog; y mae rhagor mawr rhyng∣ddynt, a rhagor rhwng y gospedigaeth y maent yn ei haeddu. Ac am fod pob pechod vr dym ni yn ei wneuthur trwy wybod, yn vnion yn erbyn Duw ei hun, fel y dangoswyd vchod, a bod ei ardder∣chawgrwydd ef yn anfeido; am hynny y mae bai ac euogrwydd pob cyfryw bechod yn anfeidrol he∣fyd, ac am hynny yn haeddu ca anfeidrol, a chos∣pedigaeth anfeidrol ar law duw. Wrth hyn y

Page 54

gellir gweled rheswm am lawer o bethau y mae Duw yn eu dywedyd ac yn eu gwneuthur yn yr Ys∣crythur lân, ac y mae Athrawon dysgedig yn eu dys∣gu, ynghylch y gospedigaeth sydd am bechod, y rhai y tybia doethineb y byd eu bod yn ddieithr, ac yn anhygoel iawn. Megis yn gyntaf, y gospediga∣eth fawr ofnadwy honno o dragywyddol ddamne∣digaeth a roir ar gynnifer mil, a chynnifer myrddi∣wn o angylion a grewyd i ogoniant, ac ynddynt berffeithrwydd agos i anfeidrol, a hynny am vn pe∣chod yn vnig, yr hwn ni wnaed ond vnwaith, nac mo hynny ond ar feddwl yn vnig, fel y tybia rhai dysgedig. Yn ail, y gospedigaeth dôst a roed ar ein hynafiaid ni Adda ac Efa a'i holl hiliogaeth, am fwytta o ffrwyth y pren gwaharddedig: am yr hwn bechod, heb law 'r gospedigaeth a roed ar y rhai a'i gwnaeth, ac ar holl greaduriaid y byd, a'i holl blant a i heppil ar eu hol, o flaen dyfodiad Christ a chwedi hynny, (oblegid er ein bod ni wedi ein gwared oddiwith fod yn euog o'r pechod hwnnw, etto y mae 'r cospedigaethau bydol a roed am dano, yn aros etto; megis newyn, a syched, ac anwyd, a chlefydau, a marwolaeth, a mil o ofidiau heb law hynny) ac heb law colledigaeth dragywyddol ar aneirif o ddynion: heb law hyn i gyd, meddaf, (ae fe dybygai reswm dŷn fod hyn yn ddigon tôst) ni ellid dyhuddo a bodloni digofaint a chyfiawnder Duw, on byddei i'w fab ef ei hun ddyfod i'r byd, a chymmeryd ein cnawd ni arno, a thrwy ei boenau ei hun wneuthur iawn i Dduw. A chwedi iddo ddyfod i wared, a'i ddarostwng ei hun i gyfiawnder ei Dad yn ein cnawd ni, or bod y cariad oedd gan e Dad iddo yn anfeidrol; etto fel y gallai Dduw ddangos faint a thosted oedd ei gas a'i gyfiawnder yn erbyn pechod, ni pheidiodd efe a rhoi 'r gospediga∣eth honno ar ei anwyl fendigedig fab ei hun; hyd

Page 55

yn oed yr amser yr oedd efe yn athrist hyd angeu, ac mewn ymdrech meddwl, a'i chwŷs fel defnynnau gwaed yn discyn ar y ddaiar, ac ynteu yn llefain, O Dâd os yw bossibl, aed y cwppan hwn heibio i mi fel nad yfwyf ef, Luc. 22.44. Mar. 14. Matth. 26.27. A thrachefn yn fwy tosturus o lawer pan oedd ar y groes, Fy Nuw, fy Nuw, pa ham i'm gwrthodaist? Er hyn i gyd, meddaf, ni waredodd ei Dâd mo hono ef, ond rhoi iddo ddyrnod ar ddyr∣nod, a chosp ar gôsp, a phoenau ar boenau, hyd oni roes i fynu ei enioes a'i enaid yn llaw ei Dâd: Yr hyn sydd beth rhyfeddol i ddangos i ni faint yw dig∣llonedd Duw yn erbyn pechod.

7. Mi a allwn yma ddwyn ar gôf i chwi bechod Esau yn gwerthu ei etifeddiaeth a'i enedigaeth-fraint am ychydig fwyd: am yr hwn y dyweid yr Apo∣stol, Na chafodd efe le i edifeirwch, er iddo trwy ddagrau ei thaer geisio hi, Heb. 12.17. Hefyd pe∣chod Saul, er nad oedd ei bechod ond vn pechod, a hwnnw nid am iddo wneuthur dim oedd wahar∣ddedig, ond am iddo adael heb wneuthur yr hyn a orchymmynnasid, am na laddasai efe Agag brenhin Amalec, a phob peth o'r eiddo, fel yr archesid iddo, etto fe a'i bwriodd Duw ef ymaith am hynny, er ei fod o'r blaen yn enneiniog iddo ac yn was detho∣ledig, ac fe a fethodd gantho gael maddeuant am y pechod hwnnw, er i Samuel ac ynteu alaru ac ymo∣fidio yn fawr am y pechod hwnnw, neu o'r hyn lleiaf, am ddarfod i Dduw ei wrthod ef. 1 Sam. 15. & 16.

8. Mi a allwn hefyd ddwyn esampl y brenhin Dafydd, yr hwn er i Dduw fadden iddo ei ddau bechod ar ei edifeirwch, etto er maint oedd galar Dafydd tros ei bechodau, fe a'i ceryddodd Duw ef yn dost iawn, trwy farwolaeth ei fab, a hoi arno ynteu ei hun drallod gwastadol tra fu fyw. A hyn

Page 56

i gyd i ddangos ei gas tu ac at bechod, ac felly in dychrynu ninnau rhac pechu.

9. Ac o hyn y tŷf yr holl ymadroddion caled chwerw sydd yn yr yscrythur lân am bechaduriaid, y rhai am eu dyfod o enau 'r yspryd glan, ac am hynny yn wir ddiammau, a allent roi achos da i'r rhai sy'n byw mewn pechod i ofni, megis lle y dy∣wedir, Y tân a'r mor, a dannedd bwystfilod, ac yscor∣pionau, a gwiberod, a marwolaeth, a gwaed ac ym∣ryson, a'r cleddyf, a gorthrymder, a newyn, a chy∣studd, a ffrewyll: y pethau hyn oll a wnaed er dia∣ledd a dinistr ar yr annuwiol, ac er eu mwyn hwy y bu'r diluw, Eccl. 39.29, 20. & 40.9, 10. A thrachefn, Ar yr annuwolion y glawia efe faglau, tân, a brwmstan, a phoethwynt ystormus: dymma ran eu phiol hwynt: Psal. 11.6. A thrachefn, Adwei∣nir yr Arglwydd wrth y farn a wna: yr annuwiol a faglwyd yngweithredoedd eu dwylo eu hun. Y rhai drygionus a ymchwelant i vffern, a'r holl genhedlo∣edd a anghofiant Dduw, Psal. 9.16, 17. Hwy a fyddant fel y man-us yr hwn a chwâl y gwynt ym∣maith. Psal. 1.4. Duw a dery ei elynion ar garr yr ên, ac a dyrr ddannedd yr annuwolion, Psal. 3.7. Efe a ddryllia eu dannedd yn eu geneuau, ac a'i tawdd hwynt fel y dyfroedd rhedegog; a hwy ant ym∣maith fel malwoden dawdd, Psal. 58.6. Yr Arglw∣ydd a chwardd am ben yr annuwiol, canys gwel fod ei ddydd ef ar ddyfod: Efe a dyrr freichiau 'r an∣nuwolion, a'i cleddyf a â'n eu calon eu hunain. Ge∣lynion yr Arglwydd fel brasder wyn a ddiflannant; yn fwg y diflannant hwy. Y pechaduriaid a dder∣ffyddant o'r tir, ac ni bydd yr annuwolion mwy, Psal. 37. Hwy a gydgwympant yn eu rhwydau eu hun, Psal. 141.10. A thi a gei weled pan ddife∣ther hwynt. Blinder eu gwefusau a'i gorchuddia: marwor a syrth arnynt, a hwy a fwrir yn tan, ac

Page 57

mewn ceu-ffosydd, fel na chyfodant; a'r drwg a hela 'r traws i ddistryw. Wele, dydd yr Arglwydd a ddaw, yn greulon, a digofaint, a dicter llidiog, i wneuthur y wlad yn ddiffaethwch, as i ddifa ei phechaduriaid allan o honi, Ef. 13.9. A'r cyfiawn a lawenycha pan welo ddial, ac a ylch ei draed yngwaed yr annu∣wiol. Psal. 58.10. Y rhai hyn, a mil o wersi yn ychwaneg allan o'r Scrythur lan, y rhai yr wyf yn eu gadael heibio, y mae yspryd Duw yn eu had∣rodd yn erbyn pechaduriaid, y rhai a allai ddangos i ni pa gyflwr tostur y mae pechaduriaid ynddo, ac mor annhraethawl yw digofaint Duw yn eu herbyn hwy, tra font yn aros mewn pechod.

10. O'r holl bethau hyn y mae 'r Scrythur lan yn casglu vn peth a ddylem ni ei ystyried yn ddwys ac yn ddifrif; nid amgen na hyn, Cywilydd pobloedd yw pechod: A thrachefn, Yr hwn sydd hôff ganddo ddrygioni, sydd yn casau ei enaid ei hun, Dih. 14.34. Psal. 11.5. Neu fel y mae 'r Angel Raphael yn ei adrodd mewn geiriau cynnhebyg, Y rhai sydd yn gwneuthur pechod sydd elynion i'w heneidian eu hunain, Tob. 12.10. Am hynny y maent yn go∣sod ger bron pawb, y gorchymmyn cyffredinol, tost, angenrheidiol hwn, tan boen y gospedigaeth a ddangoswyd o'r blaen, Ffô oddiwrth bechod megis, rhag wyneb sarph, Eccles. 21.2. Ac medd Tobit wrth ei fab, Mogel byth roi dy feddwl ar bechu, nac ar dorri gorchymmynion yr Arglwydd, Tob. 4.5. Oblegid er lleied o gyfrif y mae 'r byd yn ei wneuthur o hyn, gan yr hwn, fel y dyweid yr Scrythur, Y canmolir y pechadur am ewyllys ei galon, ac y bendithir yr an∣nuwiol, yr hwn y mae 'r Arglwydd yn ei ffieiddio: Psal. 10 3. etto diam∣mau ydyw, gan fod yspryd Duw yn ei adrodd, Yr

Page 58

hwn sydd yn gwneuthur pechod, o ddiafol y mae: ac am hynny efe a gaiff dderbyn ei ran gyda 'r cy∣threuliaid yn y dydd diweddaf, 1 Joh. 3.8. Joh. 8.44.

11. Ac onid yw hyn ddigon, frawd anwyl, i be∣ri i ni roi 'n câs ar bechod, a bod arnom beth ofn rhag pechu? Onid yw'r pethau hyn i gyd yn ddigon crŷf er dryllio calonnau y rhai sy 'n byw mewn pe∣chod, ac yn ei wneuthur beunydd heb nac ystyried nac ofni gronyn? Pa gyndynrwydd, a pha gale∣dwch calon yw hyn? yn wir ni a welwn ddarfod i'r Yspryd glan brophwydo 'r gwirionedd am danynt hwy, lle y mae 'n dywedyd fel hyn, O'r groth yr ymddîeithrodd yr annuwiol oddiwrth Dduw, o'r bru y cyfeiliornasant, Psal. 58.3. eu gwyn a'i cynddaredd sydd fel gwyn sarph; ac y maent fel y neidr fyddar, yr hon a gae ei chlustiau, ac ni wren∣dy ar lais y rhinwyr, er cyfarwydded fyddo 'r swynwr. Y wŷn a'r ynfydrwydd yma yw gwyn a chyndda∣redd pechaduriaid anhydyn, y rhai sy 'n cau eu clu∣stiau fel seirph, oddiwrth yr holl swynion a'r cyfare∣ddion bendigedig y mae Duw yn eu gwneuthur i∣ddynt i geisio eu troi hwy atto; sef yw hynny, oddi∣wrth yr holl feddyliau da a'r ysprydoliaeth a ddanfo∣no Duw yn eu calonnau hwy, oddiwrth holl waith eu cydwybodau hwy eu hunain yn gwrthwynebu ac yn ofni pechu; oddiwrth holl fygythiau 'r Scrythur lan; oddiwrth holl rybuddion gwasanaethwyr Duw, ac oddiwrth bob peth arall ac y mae Duw yn ei wneuthur i geisio eu dwyn hwy i fod yn gadwe∣dig.

12. Och Duw, pwy trwy wybod a wnai vn pechoder ynnill mil o'r holl fyd, ped ystyriai yr an∣feidrol golledion, a'r niweidion, a'r aflwydd, a'r gofidiau sydd yn dyfod o wneuthur vn pechod?

Page 59

Oblegid yn gyntaf, y mae'r neb sy 'n pechu felly, yn colli 'r grâs Duw a rodded iddo, yr hon yw y rhodd fwyaf ac a all Duw ei rhoi i greadur yn y by∣wyd hwn; ac wrth hynny y mae 'n colli pob peth ar oedd yn dyfod gyda 'r gras hwnnw; megis rhin∣weddau a doniau 'r yspryd glan, y rhai oedd yn gw∣neuthur yr enaid yn hardd yngolwg ei briod, ac yn ei arfogi yn erbyn dygyrch y cythraul, a chynllwy∣nion y gelyn. Yn ail y mae efe 'n colli cariad Duw a'i ewyllys da, ac wrth hynny yn colli ei dadol nawdd, a'i ofal, a'i ymgeledd ef; ac yn ynnill bod yn elyn iddo. A pheth yw maint y golled honno, ni a allwn fwrw wrth gyflwr vn o ŵyr llŷs brenhin bydol, a fai wedi colli ffafr ac ewyllys da ei dywy∣sog, a chwedi myned yn elyn iddo. Yn drydydd, y mae efe 'n colli ei dreftadaeth, a'i glaim, a'i ditl yn nheyrnasnef, (yr hon sydd ddyledus trwy ras, fel y••••dengys yr Apostol S. Paul, Rhuf. 6.) ac wrth hynny mae 'n ei ddifuddio ei hun o bob braint ac o bob cymmwynas ac sydd yn canlyn hynny yn y by∣wyd yma; hynny yw, y braint a'r goruchafiaeth sydd o fod yn blentyn i Dduw, a chyfundeb y Sainct, nawdd ac ymddiffyn ac ymgeledd yr Angylion, a'r cyffelyb. Yn bedwerydd, y mae efe 'n colli llony∣ddwch, a llawenydd, ac esmwythder cydwybod dda; a'r holl ffafor, a'r ewyllys da, a'r diddanwch, a'r cyssur, y mae 'r yspryd glan yn arfer o'i danfon ym meddyliau y rhai cyfiawn. Yn bummed, y mae 'n colli 'r tal oedd yn dyfod iddo am ei holl weithre∣doedd da a wnaeth efe er pan ei ganwyd, a chwbl ac y mae efe yn eu gwneuthur, a chwbl ac a wnel efe tra fo 'n aros yn y cyflwr hwnnw. Ezec. 18.24. Yn chweched, y mae 'n ei wneuthur ei hun yn euog o boenau tragywyddol, ac yn rhoi ei henw-i mewn yn llyfr colledigaeth, ac wrth hynny yn ymrwymo i bob anghyflwr ac sydd ddyledus i'r rhai colledig,

Page 60

hynny ydyw, cael tan vffern yn dreftadaeth iddo, bod ym meddiant diafol a'i angylion, bod yn gaeth i bob pechod ac i bob temtasiwn i bechu, a bod ei enaid (oedd o'r blaen yn deml i'r yspryd glan, yn drigfa i'r fendigedig drindod, ac yn orphywysfa i'r angylion i ymweled ag ef) o hyn allan yn nyth i scorpionau, yn bwll carchar i'r cythreuliad, a'i fod ynteu yn gyfaill i'r rhai colledig. Yn ddiweddaf, y mae efe yn ymddidoli oddiwrth Grist, ac yn ym∣wrthod a'r rhan oedd ddo gyda Christ, ac yn ei wneuthur ei hun yn elyn i Christ, trwy ei sathru ef dan ei draed, a'i ail croes-hoelio ef, halogi ei waed ef, (fel y dyweid yr Apostol) wrth bechu yn erbyn yr hwn a fu farw tros bechod, Heb. 10. Hebr. 6. Rhuf. 6. Ac am hynny y mae 'r vn Apostol yn dat∣gan barn ryfeddol yn erbyn y cyfryw, yn y geiriau hyn, Os o'n gwirfodd y pechwn, ar ol derbyn gwybo∣daeth y gwirionedd, nid oes aberth tros bechodau wedi ei adael mwyach; ond rhyw ddisgwyl ofnadwy am far∣nedigaeth, ac angerdd tân, yr hwn a ddifa 'r gwrth∣wynebwyr, Heb. 10.26. & 6.4. A'r hyn y cyt∣tuna geiriau S. Petr, lle mae 'n dywedyd, Gwell fu∣asai iddynt fod heb adnabod ffordd cyfiawnder, nâ chwedi ei hadnabod, troi oddiwrth y gorchymmyn san∣ctaidd a draddodwyd iddynt. 2 Pet. 2.21.

13. Weithian aed y rhai bydol ac ymddigrisant mewn pechod cymmaint ac y mynnont, escusodant eu pechod ac ymddiffynnant ef twy gellwair a di∣grifwch, a dywedant, Nid yw balchder ond cam∣pau gwr bonheddig; Nid yw glothineb a meddw∣dod ond rhan cydymmaith da; nid yw drythyllwch ac anlladrwydd ond nwyf ieuengtid; a'r cyffelyb: hwy a gânt weled ryw ddydd na chymmerir mor fath escusodion ganddynt, ac a gânt weled y try 'r fath gellwair a digrifwch a hwnnw yn wylo ac yn ochain: hwy a gânt wybod na fyn Duw mor cell∣wair

Page 61

ag ef, ac mai 'r vn Duw yw efe byth, ac y gofyn ef gyfrif cyn dosted ganddynt hwy, ac a ofynnodd ef gan eraill o'r blaen; er nad gwiw gan∣ddynt hwy yr awrhon gadw cyfrif yn y byd oi bu∣chedd, ond yn hyttrach troi 'r cwbl yn gellwair ac yn ddigrifwch; a thybied yn eu calonnau pa fodd bynnag y gwnaeth Duw ag eraill o'r blaen, y bydd ef mor dirion a maddeu 'r cwbl iddynt hwy. Ond nid felly y mae 'r Scrythur lân yn ymresymmu, ond mewn modd amgen o lawen; a hynny a fynnwn i bob Christion synhwyrol ei ystyried.

14. S. Paul wrth gyffelybu pechodau 'r Iudde∣won a'n pechodau ninnau, sydd yn ymresymmu fel hyn, Onid arbedodd Duw y canghennau naturiol, 'mogel nad arbedo ditheu chwaith; Ac ar hynny y mae 'n rhoi y rhybudd hwn, Na fydd ditheu vchel∣fryd, ond ofna, Rhuf. 11.20, 21. Drachefn, fel hyn yr ymresymma 'r Apostol ynghylch yr hen gy∣fraith a'r newydd, Yr hwn a ddirmygai Gyfraith Moses, a roid i farwolaeth heb drugaredd trwy ddau neu dri o dystion: pa faint mwy cospedigaeth, dyby∣gwch chwi, y bernir haeddu o'r hwn a sathrodd Fab Duw dan draed trwy bechu o'r gwaith goddeu, ac a farnodd yn aftan waed y cyfammod, a'r hwn y sanctei∣ddiwyd ef, ac a ddifenwodd yspryd y gras, Heb. 10.28. Yn yr vn modd yn ymresymma Sanct Petr, a S. Iud ynghylch pechod yr Angylion a'n pechod nin∣nau. 2 Pet. 2. Jud. 6. Iob 4.18. Onid arbedodd Duw 'r Angylion a bechasent ond eu taflu i vffern, a'i rhoddi mewn cadwyn au tragwyddoltan dywyllwch, hyd farn y dydd mawr, diau nad arbed ef mo honomni. A thrachefn, 2 Pet. 2.11. Onid yw'r Angylion, y rhai sy yn rhagori arnom ni mewn gallu a nerth, yn abl i ddioddef dygn-dost farn Duw yn eu herbyn hwy, pa beth a wrawn ni?

Page 62

Drachefn mewn lle arall y' mae 'n ymresymmu fel hyn, Os braidd y bydd y cyfiawn cadwedig, pa le 'r ymddengys yr annuwiol a'r pechadur? 1 Pet. 4.18. Wrth y samplau hynny i'n dysgir ninnau i ymresym∣mu yn yr vn modd, ac i ddywedyd fel hyn, os cos∣podd Duw mor dost vn pechod yn yr Angylion, ac yn Addaf, ac yn eraill, pa beth a ddisgwiliaf a wneuthum gynnifer o bechodau yn ei erbyn ef? Os damniodd Duw gynnifer o ddynion am lai o be∣chodau nag a wneuthum i pa beth a wna efe i mi am fwy o bechodau nag a wnaeth eraill? Os darfu i Dduw gyd-ddwyn â myfi yn hwy nag â llawer era∣ill a dorrodd f ymmaith heb roi iddynt amser i edi∣farhau, pa reswm iddo gyd-ddwyn â myfi yn hwy nag â hwynt hwythau? Os ceryddwyd Dafydd ac eraill mor dôst, yn ôl maddeu iddynt eu pechodau, pa gospedigaeth a haeddwn i yn y byd ymma neu yn y byd a ddaw, am wneuthur cymmaint o becho∣dau cyn drymmed? Os gwir a ddywedodd ein Ia∣chawdr fod y ffordd yn gùl ac yn anhawdd, a'r porth yn gyfyng i ddynion i fyned i'r nêf, ac y bydd haid iddynt roi cyfrif am bob gair segur cyn eu myned yno; pa beth a ddaw o honof fi sydd yn byw mor esmwyth, ac heb gadw cyfrif yn y byd am fy ngweithredoedd, chwaethach am fy ngeiriau? Os oedd gwyr da gynt yn cymmeryd y fath boen yn ffordd eu hiechydwriaeth, ac er hynny, fel y dy∣weid S. Petr, braidd y bydd y cyfiawn gadwedig; ym mha gyflwr yr ydwyfi, yr hwn nid wyf yn cymmeryd pon yn y byd, ond byw mewn pob math ar blesser a difyrrwch bydol?

15. Dyma 'r rhesymau sy wiriaf, a buddiolaf i ninnau, wrth y rhai y gallem yn haws ystyried ein pergl ein hun, ac ofni peth ar farn Duw, ac eisiau hynny sy'n peri gwneuthur y rhan fwyaf o'r pe∣chodau a wneir ym mysg Christianogion: oblegid

Page 63

felly y mae 'r Scrythur lân, wrth ddangos yr acho∣sion o'r annuwioldeb sy ym mhlith dynion, yn go∣sod y ddau yma yn bennaf. Yn gyntaf, truth y byd, am fod yn canmol pechadur am ewyllys ei galon, yn ben∣dithio 'r annuwiol, yr hwn y mae 'r Arglwydd yn ei ffieiddio, Psal. 10.3. Ac yn ail, am nad ydyw Duw yn ei holl feddyliau ef, a bod barnedigaethau Duw allan o'i olwg ef, Psal. 10 4, 5. Ac o'r gwrthwyneb wrth grybwyll am dano ei hun y mae yn dywedyd, Psal. 18.21. Mi a gedwais ffyrdd yr Arglwydd, ac ni chiliais yn annuwiol oddiwrth fy Nuw. Ac yn man y mae 'n dangos beth oedd yn peri iddo hynny; Oherwydd ei holl farnedigaethau ef oedd ger fy mron i. A thrachefn, mi a ofnais rhag dy farnedigaethau, A thrachefn, me∣ddyliais am dy farnedigaethau, Psal. 119.30. A maint y llês a wna 'r ofn hwn, y mae 'n dan∣gos yn yr vn man, lle mae 'n gofyn yr ofn hwn yn daer ac yn ddifrif ar law Dduw, ac yn gweddio fel hyn, Try∣wana fy nghnawd i a' th ofn, Psal. 119.120. A Sainct Paul, wedi darfod iddo ddangos i'r Corin∣thiaid y bydd rhaid i ni i gyd ymddangos ger bron brawdle Christ, sydd yn cau ar y cwbl fel hyn, A ni gan hynny yn gwybod hyn, ofni yr Arglwydd yr ydym yn ei berswadio i ddynion, 2 Cor. 5.11. A Sainct Petr, wedi darfod iddo ddangos mawredd Duw, a Christ yn teyrnasu 'n y nef, ar hir draethawd, y mae efe o r diwedd yn cau ar y cwbl fel hyn, Ac os ydych yn ei alw ef yn Dad, yr hwn heb dderbyn wyneb sydd yn barnu pob dyn yn ôl ei wei∣thred, ymddygwch mewn ofn tros amser eich ymdei∣thiad yma ar y ddaiar, 1 Pet. 1.17. Dyna wes angenrheidiol i bob dyn, ond yn enwedic i'r rhai sydd o herwydd eu pechodau a'i drwg fuchedd, yn aros mewn anfodd a digofaint Duw, a phob awr (fel

Page 64

y dywetpwyd) tan gynddaredd barn Duw; ac os syrthiant vnwaith tani, nid oes fodd i'w throi yn ôl, ac nis gellir ei dioddef: ac y mae cyn hawsed syr∣thio tan gynddaredd barn Duw, a chymaint o ffyrdd i syrthio tani, ac sydd i syrthio i farwolaeth, ac y mae ffyrdd marwolaeth yn aneirif, yn enwedig i'r rhai trwy annuwioldeb a gollasant nawdd ac ymddi∣ffyn ac ymgeledd Duw, ac felly cymmorth ei Angy∣lion hefyd, a chwedi myhed tan feddiant cythreuli∣aid y tywyllwch, y rhai nid ŷnt yn gwneuthur dim arall ond ceisio eu distrywio hwy enaid a chorph, a hynny mor ddyfal ac mor ddiwyd ac y gallont. Pwy gan hynny, a fai a dim synhwyr ganddo, nid ofnai yn y cyfryw gyflwr? Pwy a fedrai na bwytta, nac yfed, na chysgu yn esmwyth nes iddo, trwy wir edifeirwch, ddadlwytho ei gydwybod o bob pe∣chod? Fe allai garreg fechan a gwympai 'n ei ben ef oddiar y tŷ, neu gephyl wrth drippio dano yn marchogaeth, neu ei elyn wrth gyfarfod ag ef ar y ffordd, neu gryd neu glefyd a ddoai arno wrth fw∣ytta neu yfed ychydig mwy nâ digon, neu ddeng mil o'r cyfryw bethau, y rhai y mae efe beunydd a phob awr ac ennyd mewn perygl oddiwrthynt, ddwyn ei einioes oddiarno, a'i ddwyn ef ir fath gyflwr ac na allai holl greaduriaid y byd byth ei wa∣red ef allan o hono. Pwy wrth hynny nid ofnai? Pwy ni chrynei, ac ni ddychrynai?

16. Duw o'i drugaredd a roddo i ni ei fendigedig ras, i'w ofni ef megis y dylem, ac i wneuthur y fath gyfrif o'i gyfiawnder ef, ac y mae efe, wrth ein by∣gwth ni â hi, yn chwennych i ni ei wneuthur. Ac yno nid oedwn ni mo'r amser, ond ymroi yn gwbl i'w wasanaethu ef, tra fai wiw gantho gymmeryd 〈◊〉〈◊〉 gwasanaeth ni, a maddeu i ni ein holl bechodau, 〈◊〉〈◊〉 ymro•••• ni vnwaith o ewyllys ein calonnau i'w wasaaethu ef▪

Page 65

PEN. VII. Angwhaneg o reswm i amddiffyn cyfiawnder barnedigaethau Duw, ac i ddangos ein hae∣ddigaeth ninnau, a hynny wrth ytyried mawredd Duw, a'i ddoniau haelionus tu ag attom ni.

ER nad yw y rhan fwyaf o Gristianogion, o achos annuwioldeb eu buchedd, yn gallu dyfod i'r cyflwr yr oedd Dafydd ynddo pan ddywe∣dodd ef wrth yr Arglwydd, Dy farnedig aethau, O Arglwydd, sy hoff gennyf, Psal. 119. fel y ma∣ent hwy mewn gwirionedd yn hoff gan bawb ac fy'n byw'n dduwiol, ac sy ganddynt dystiolaeth cydwy∣bod dda; etto fel y gallom ddywedyd o'r hyn lleiaf gyda 'r vn prophwyd, Barnau 'r Arglwydd ydynt wirionedd, cyfiawn ydynt i gyd oll, Psal. 19.9. A thrachefn, Cyfiawn ydwyt ti, ô Arglwydd, ac vniawn yw dy farnedigaethau, Psal. 119.137. Mi a dybi∣ais yn dda osod rheswm neu ddau etto ar lawr yn y bennod ymma, fel y galler gweled yn eglurach, faint yw 'n pechodau ni tu ac at Dduw wrth bechu fel yr ydym, ar mor vniawn yw ei sarnedigaeth ynteu a'i gyfiawnder tu ac attom ninnau am be∣chu.

2. Ac yn gyntaf rhaid i ni ystyried maint yw Mawredd y neb yr ydym ni 'n pechu 'n ei erbyn: oblegid diammau ydyw, fel y dywedais o'r blaen, mai mwyaf yw 'r bai a'r pechod, a thostaf, po mw∣yaf ac anrhydeddusaf fo 'r neb y gwneler y bai a'r pechod yn ei erbyn, a pho gwaelaf a distarlaf fo 'r neb a'i gwnêl. Ac o'r achos hwn y mae Duw, er

Page 66

mwyn peri i ni ofni pechu, yn ei alw ei hun yn fy∣nych wrth henwau yn arwyddoccau mawredd, me∣gis y dywed efe wrth Abraham, Myfi yw Duw holl∣alluog. A thrachefn, Yr nef yw fy ngorseddfaingc, a'r ddaiar yw lleithig fy nhraed. A thrachefn efe a orchymmynnodd i Foesen ddywedyd wrth y bobl yn ei enw ef, y gennadwri hon, Na chaledwch eich gwarr mwyach, canys yr Arglwydd eich Duw chwi yw Duw y duwian, ac Arglwydd yr Arglwyddi, Duw mawr cadarn ac ofnadwy, yr hwn ni dderbyn wyneb, ac ni chymer wobr. Gen. 17. Isa. 66. 1. Deut. 10.16.

3. Ystyria dithau yn gyntaf, Gristion, mor an∣feidrol yw mawredd yr hwn a ddarfu i ti bryf truan gwael daiarol, mor fynych ac mor ddirmygus wneu∣thur yn ei erbyn yn dy fywyd. Ni a welwn yn y byd hwn na faidd ac na lefys neb wneuthur yn erbyn mawredd tywysog bydol, ie na dywedyd gair yn ei erbyn o fewn ei wlad a'i lywodraeth: a pha beth yw mawredd holl dywysogion y ddaiar wrth y fil∣canfed ran o fawredd Duw, yr hwn a'i air a wnaeth nêf a daiar a'r holl greaduriaid sydd ynddynt; ac a hanner gair a all eu distrywio hwy drachefn: yr hwn y mae 'r holl greaduriaid a wnaeth, yr An∣gylion, y nefoedd, a'r holl ddefnyddiau heb law hynny, yn ei wasnaethu, ac heb feiddio gwneu∣thur yn ei erbyn. Y pechadur yn vnig sydd yn myned mor hŷ ar ei fawredd ef a bod heb ofni gw∣neuthur yn ei erbyn ef, yr hwn y mae 'r Angylion yn ei foliannu, a'r llywodraethau yn ei addoli, a'r galluoedd yn crynu rhagddo, a nef y nefoedd yng∣hyd a'r Cherubin a'r Seraphin beunydd yn ei anrhy∣deddu ac yn ei glodfori.

4. Meddw! ditheu, frawd anwyl, am bob gwaith ao yr wyt ti yn pechu, dy fod ti megis yn taro y Duw mawr hwn yn ei wyneb, Yr hwn, fel v dy∣waid

Page 67

S. Paul, sydd yn trigo yn y goleuni ni ellir dy∣fod atto, yr hwn ni's gwelodd vn dyn bydol, ac ni's dichon edrych arno, 1 Tim. 6.16. Joan 1.18. 1 Jo. 4.12. sel y gwelir hefyd wrth esampl S. Ioan Efangylwr, yr hwn a syrthiodd i lawr yn farw gan wir ofn pan ym∣ddangosodd Christ iddo, fel y mae efe ei hun yn tystio∣laethu, Datc. 1. A phan ddeisyfodd Mosen gael gweled Duw vnwaith yn ei oes, a hynny yn ostyngedig iawn, ef a gafodd atteb gan Dduw na allai vn dyn ei weled ef a byw: ond etto (er mwyn bodloni ei ddeisyfiad ef, a dangos iddo o ran mor ofnadwy ac mor ogoneddus o Dduw ydoedd) efe a ddywedodd wrth Foesen y cai efe weled peth o'i ogoniant ef: ond efe a ddywedodd hyn yn ychwaneg, y byddei raid i Foesen ymguddio mewn agen yn y graig, a chael ei orchuddio â llaw Duw ei hun yn lle ymddi∣ffyn iddo, tra fai Dduw (mewn rhyw fesur o'i faw∣redd) yn myned heibio iddō yn ei ogoniant. Ac wedi iddo fyned heibio, Duw a dynnodd ymmaith ei law, ac a adawodd iddo weled y tu cefn iddo yn vnig, yr hwn er hynny oedd ofnadwy iawn i edrych arno. Exod. 33.20.

5. Y mae 'r prophwyd Daniel hefyd yn dangos∣pa ddull oedd a'r fawredd y Duw hwn, fel y gwel∣sai ynteu ar weledigaeth, yn y geiriau hyn, Dan. 7.9. Mi a edrychais hyd oni osodwyd y gorseddfeydd, a'r hen. ddihenydd a eisteddodd: ei wisg oedd cyn wynned a'r eira, gwallt ei ben fel gwlan pur, a'i orseddfa yn fflam dan, a'i olwynion yn danpoeth: afon danllyd oedd yn rhedeg, ac yn dyfod al∣lan oddi ger ei fron: mil o filoead a'i gwasanaethent a myrdd fyrddiwn a safent ger ei fron: y farn a eistedd∣add, a'r llyfrau a agorwyd ger ei fron ef Datc. 20.12. Hyn i gyd a llawer ychwaneg sy wedi ei roi i lawr yn yr Scrythur lan, i ddwyn ar gôf i ni, ac

Page 68

i'n rhybuddio, faint yw mawrhydi y tywysog hwnnw y mae pechadur yn gwneuthur yn ei er∣byn.

6. Meddwl bellach, fy mrawd anwyl, dy fod ti yngweled y brenhin mawr ymma yn eistedd ar or∣seddfaingc ei fawredd, a cherbydau tanllyd, a go∣leuni anhydraeth, ac aneirif o fyrddiwnau Angylion yn ei gylch, fel y dengys yr Scrythur lân. Meddwl hefyd, yr hyn sydd wiriaf peth, dy fod di yn gwe∣led holl greaduriaid y byd yn fefyll yn ei wydd ef, ac yn crynu rhag ei fawredd, ac yn ofalus iawn am wneuthur y peth y creodd efe hwynt i'w wneuthur; fef y nefoedd i ymsymmud oddmgylch, y daiar i ddwyn cynnheiliaeth i'r cr••••duraid byw, a'r cy∣ffelyb. Meddwl hefyd dy fod di yn gweled yr holl greaduriaid hyn, er maint neu er lleied fyddont, a'i goglud ac a'i gogwydd ar allu a rhinwedd Duw, trwy 'r hyn y maent yn sefyll, yn symmud, ac yn bod: a bod yn dyfod ac yn deilliaw oddiwrth Dduw at bob creadur yn y byd, ie at bob cyfran o bob creadur ac sydd a bod ac ymsymmud yuddo, ryw belydr o'i rinwedd ac o'i allu ef; megis y gwelwn ni fod o'r haul aneirif o belydr yn dyfod trwy 'r awyr. Ystyria, meddaf, nas gall vn rhan o vn creadur yn y byd, nac o'r pyscod yn y môr, nac o'r glaswellt ar y ddaiar, nac o'r dail ar y coed a'r gwydd, nac vn gyfran o ddyn ar wyneb y ddaiaren, na thyfu, na symmud, na bod, oni bydd i ryw gaingc neu belydr o rinwedd, fod yn dyfod atto yn wasta∣dol oddiwrth Dduw. Felly, mae 'n rhaid i ti fe∣ddwl fod Duw megis haul gogoneddus yn sefyll yn y canol, a bod yn dyfod oddiwrtho ef aneirif o be∣lydr a goferoedd o rinwedd at bob creadur ac sydd nac yn y nef, nac ar y ddaiar, nac yn yr awyr, nac yn y dwfr; ac at bob rhan o bob vn o honynt: ac oddiwrth pelydr hyn o'i rinwedd ef y mae i'r holl

Page 69

greaduriaid eu bywyd a'i bod; a phettai efe yn at∣tal vn o'r pelydr hynny, fe barai hynny i ryw grea∣dur neu ei gilydd yn y man fyned yn ddiddim. Hyn, meddaf, os ti a'i hystyri ynghylch mawredd Duw, a'r ofn anfeidrol sydd ar bob creadur rhagddo ef, ond yn vnig ar bechadur, (oblegid y mae 'r cythreu∣liaid yn ei ofni ef, fel y dwaid S. laco, Yr••••. 19.) ni ryfeddi di ronyn fod Duw yn rhoi cospedigaeth cyn dosted am bechod. Oblegid mi a wn yn siccr fod cywilydd y byd yn peri i ni fod yn fwy 'n go∣fal rhac gwneuthur yn erbyn y câr llescaf a feddom, nac ydyw gofal y drygionus rhac gwneuthur yn er∣byn Duw. Ac dyna ddirmyg anesgorol ar fawredd mor ardderchog.

7. Ond os bydd i ni gydâ myfyrio ar fawredd Duw, ystyried hefyd yr aml ddoniau y mae efe yn eu rhoi i ni, ni a gawn weled fod ein bai ni yn ei erbyn ef yn llawer mwy: oblegid peth ffiaidd wrth naturiaeth, yw gwneuthur cam a sarhâd â'r neb a wnaeth i ni ddaioni. Ac ni bu erioed etto, na ddo ym mysg yr anifeiliaid direswm, galon mor greulon ac nas gellid ei hynnill â hawddgarwch ac a thwrn da; ond ym mysg dynion, haws o lawer yw ynnill calonnau trwy haelioni a chymmwynasau, yn en∣wedig os bydd yn dyfod oddiwrth y gwyr mwyaf, y rhai er nas dangosant eu cariad a'i caredrgrwydd tu ac attom ond mewn rhoddion a chymmwynasau bychain, etto y mae hynny yn gwneuthur calonnau y rhai a'i derbynio yn rhwymedig iawn i'w caru hwythau drachefn.

8. Ystyria ditheu, Gristion da, y cymmwyna∣sau anfeidrol a'r tyrnau da a dderbyniaist ar law 'r Duw mawr hwn, y rhai a wnaeth efe i ti i geisio dy ynnill di iw garu ef, ac i geisio gennyt beidio a gw∣neuthur yn ei erbyn ef na cham na sarhad. Ac er na's gall vn tafod dyn nac angel ddangos hanner y

Page 70

doniau a dderbyniaist ti ganddo, na 'i gwerth, nac a pha fawr gariad ac ewyllys calon y rhoes efe hw∣ynt i ti: etto fel y bo haws eu cadw mewn côf, mi a adroddaf rai o'r pyngciau cyffredinol pennaf o ha∣elioni Duw, fel y galler wrth y rhai hynny adnabod y llaill.

9. Yn gyntaf dim gan hynny efe a roes i ti dy greadigaeth a'th wneuthuriad, ac a'th wnaeth di o ddiddim ddefnydd ar ei lun a'i ddelw ei hun, a hyn∣ny er mwyn gorchwyl mor anrhydeddus a chael ei wasanaethu ef yn y byd yma, a theyrnasu gyd ag ef yn y byd a ddaw, ac a roes i ti yn y byd hwn yr holl greaduriaid i wneuthur gwasanaeth i ti, ac i fod tan dy lywodraeth. A thi a gait wybod amcan faint yw 'r gymmwynas honno, pe meddylit fod arnat eisieu coes, neu fraich, neu lygad, neu ryw ran arall o'th gorph, ac i ryw vn o'i haelioni roddi i ti yr hyn oedd yn niffyg gennyt: neu pettai arnat eisiau vn o'th bum synwyr, a'th fod heb weled neu heb gly∣wed, ac i ryw vn roi i ti dy weled a'th glywed, dy∣wed i mi oni chyfrifit ti hynny yn gymwynas fawr? Oni thybygit ti dy fod yn rhwymedig iawn iddo am hynny? Ac os tybygit fod vn o'r pethau hynny yn rhôdd fawr, pa gyfrif a ddylit ti ei wneuthur o gael dy holl gorph ar vnwaith yn rhodd ac yn rhad?

10. Chwanega at hyn hefyd, fel y dywedais, na wnaeth efe mo honot ti ar lun dim arall, ond ar ei lun ei hun; ac na wnaeth efe mo honot ti i ddim a∣rall, ond i fod yn was parchedig iddo yn y byd yma, ac i fod yn gyfrannog gydag ef o frenhinol ogoniant yn dragywydd yn y byd a ddaw: ac iddo wneu∣thur hyn i ti a thitheu heb fod ond telpyn o bridd a chlai yn y blaen. Meddwl bellach faint oedd y ca∣riad y daeth hyn i gyd oddiwrtho. Ac etto ysty∣ria ymmhellach, fel y gwnaeth efe yr holl fyd

Page 71

hardd-wych-deg hwn er dy fwyn di, a holl greadu∣riaid y byd i'th wasanaethu di yn ei wasanaeth ef; y nefoedd i wneuthur gwahaniaeth rhwng pry∣diau ac amserau, ac i roi goleuni i ti; y ddaiar, a'r awyr a'r dwfr, i ddwyn i ti rywogaethau a∣neirif o greaduriaid i fod yn gynheiliaeth i ti, ac i wneuthur gwasanaeth i ti; a'th wneuthur ditheu yn arglwydd ar y cwbl, i'w cymmeryd hwy ac i'w mwynhau wrth dy raid i'th ddiddanu ac i'th wasa∣naethu. Ac ond haelionus y doniau hyn? Ac ond cywilyddus o anniolchgarwch ydyw troi 'r rhoddion hynny i ammherchi ac i wneuthur cam a rhoddwr mor garedig, fel yr wyt ti yn gwneuthur, trwy arfer ei roddion ef i'th wasanaethu mewn pe∣chod.

11. Ond etto ystyria ychydig pellach ddawn dy brynedigaeth, yr hyn sydd fwy o lawer na 'r holl ddoniau o'r blaen: hynny ydyw, wedi darfod i ti golli 'r holl ddoniau a roesai Dduw i ti o'r blaen, a'th wneuthur dy hun yn euog o gospedigaeth tragywyddol, lle bwriasid yr Angylion am y pechod a wnaethent o'r blaen; i Dduw ddewis dy brynu di, ac nid yr Angylion, a rhoi ei fab ei hun i far∣wolaeth trosot ti, i wneuthur iawn tros dy bechod ti. O Dduw, pa galon a all feddwl faint y dawn a'r haelioni hyn? Meddwl ddarfod i ti dy hun yn ddyn truan tlawd wneuthur anfad fai yn erbyn brenhin mawr, ynghyd a rhyw wr mawr o'i ben∣defigion pennaf ef; ac i'r brenhin ddigio yn fawr wrthyth chwi eich dau, ac er hynny maddeu i ti a rhoi 'r gwr mawr i farwolaeth: ac ym mhellach he∣fyd, gan nad oedd vn ffordd ond vn i achub dy fy∣wyd di, rhoi 'r gospedigaeth angeu oedd ddyledus i ti, ar ei fab a'i aer ei hun, er dy fwyn di: oni thybygit ti fod y brenhin hwnnw yn dy garu di yn fawr? oni thybygit ti dy fod yn rhwymedig iawn

Page 72

i'r Tywysog ieuangc hwnnw, a ymgynnygiei ac a y mroddai i gyfiownder ei Dad i ddioddef angeu trosot ti bryf gwae, ac nid tros y pendefig hwnnw (fel na fynnei farw tros yr Angylion) ac i roi ei ben yn y cebystr am dy feiau di yn vnig? Oedd bossibl i ti glywed ar dy galon fod yn elyn i'r gwr hwnnw byth wedi, nac i wneuthur yn ei erbyn ef o'th fodd, na thrwy wybod? Ac etto hynny yw 'n cyflwr ni, a rhwy medicach o lawer ydym i Grist ac i'w Dad, a ninnau er hynny i gyd, y rhan fwyaf o honom, beunydd yn ei ddigio ef, ac yn ei ammherchi, ac yn gwneuthur cam a farhaad ag ef trwy bechu.

12. Ac etto y mae ychwaneg o ddoniau Duw tu ac attom ni heb son amdanynt, nid amgen na'n gal∣wedigaeth ni a'n cyfiawnhaad, 1 Cor. 1.26. ein gal∣wedigaeth a'r hon y galwodd efe nyni o anffyddlon∣deb ac anghrediniaeth i radd a chyflwr Christianogi∣on, ac felly a'n gwnaeth ni yn gyfrannogion o'n pry∣nedigaeth, yr hon nid yw 'r angrhedadyn gyfran∣nogion o honi. Oblegid er iddo ef dalu 'r iawn tros bawb yn gyffredinol, etto ni roes efe ddim o ffrwyth y brynedigaeth honno i bawb, ond yn vnig i'r rhai y gwelodd ei dduwiol ddaioni ef yn dda ei roddi. Ar ôl hynny y canlynodd ein cyfiawnhaad ni, trwy 'r hon y cawsom ni nid yn vnig ein rhyddhau oddi∣wrth yr holl bechodau a wnaethom o'r blaen, ac o∣ddiwrth yr holl gospedigaeth a'r poenau oedd ddy∣ledus am danynt; ond hefyd cael harddu, a theg∣hau, a chyfoethogi ein heneidiau a'i fendigedig ras ef, ynghyd a'r rhinweddau a elwir defeiniol, ffydd, gobaith, a chariad perffaith, ac ynghyd a doniau 'r yspryd glan; a thrwy ei ras ef i'n gwneir yn gyfi∣awn ac yn vnion yngolwg Duw, ac y rhoir i ni ditl a chlaim ym mendigedig dreftadaeth teyrnas nef. Rhuf. 8.30.

Page 73

13. Ar ôl y rhai hyn y canlyn rhifedi mawr o ddoniau ynghyd, a'r rhai hynny bob vn o honynt o anfeidrol bris a gwerth; y rhai a roddwyd i ni we∣di ein gwneuthur yn blant ac yn garedigion anwyl i Dduw. Cyfryw w dawn y Sacramentau bendige∣dig a rodded i'n diddanu ac i'n cynnal ni, y rhai nid ydynt ond megis pibellion i ddwyn gras Duw attom ni; yn enwedig y ddau Sacrament ymma a berthyn i bawb, sef Sacrament y bedydd, a Sacrameut ei fendigedig gorph ef a'i waed. Sacra∣ment y Bedydd i lanhau ac i buro 'n heneidiau ni oddiwrth bechod, a'r llall i borthi ac i ddiddanu ein heneidiau ni wedi darfod eu glanhau. Y cyntaf sydd ymdrochfa a golch wedi ei wneuthur o waed Christ ei hun, i olchi ac i drochi ein harchollion a'n gweliau ni yn∣ddo; a'r llall sydd megis dilledyn comfforddus cy∣foethog i orchuddio ac i achlesu ein heneidiau ni we∣di darfod eu golchi. Yn y cyntaf yr ordeiniodd Christ ei briod yr Eglwys yn ei le ei hun i ddatgan ac i ddeclario maddeuant pechodau yn ei enw ef: yn y llall efe a'i gadawodd ei hun, a'i gig a'i waed ei hun, yn y Sacrament i fod yn ymborth gwerthfawr, i lawenychu ac i gynnal ein heneidiau ni.

14. Heb law hyn i gyd y mae etto ddawn arall a'r hwn y mae Duw yn ein cadw ni oddiwrth amryw beryglon, y mae eraill yn syrthio iddynt, a'r rhai y syrthiasem ninnau iddynt oni bai fod bendigedig law Dduw yn ein cynnal ni, megis oddiwrth ryfyg a gormodd hyder, heresi, ac anffyddlondeb, a lla∣wer o bechodau trymion eraill; ac yn enwedig oddiwrth angeu a cholledigaeth, y rhai a ddarfu i ni er ys talm eu haeddu am ein pechodau. Ac y mae hefyd ddoniau yr ysprydoliaethau da a'r rhybu∣ddion, a'r rhai y bu i Dduw yn fynych guro wrth ddrws ein cydwybodau ni oddimewn, a'n rhybu∣ddio

Page 74

ni trwy gymmaint o ffyrdd a moddion oddiall∣an; nid amgen na llyfrau da, pregethau da, cyng∣horion da, cwmpeini da, esamplau da gan eraill, a chant o foddion eraill, y rhai y mae efe yn fynych yn eu harfer i geisio ein hynnill ni a'n heneidiau i'w dragywyddol deyrnas, drwy ein hannog ni i ym∣wrthod â'n buchedd bechadurus, ac ymroi i'w fen∣digedig a'i hyfryd wasanaeth ef.

15. Yr holl ddoniau a'r cymmwynasau godidog ardderchog hyn, os ni a'i mesurwn nac wrth eu pris a'i gwerth eu hunain, nac wrth gariad y galon y maent hwy yn dyfod oddiwrthi, hwy a ddylent ein cynnhyrfu ni yn fawri fod yn ddiolchgar i'r neb a'i rhoes hwynt: a'r diolchgarwch hwnnw fyddei roi cwbl o'n bryd a'n meddwl o'r diwedd ar ei wasnae∣thu ef yn ddiffuant, ac i wneuthur rhagor rhwng ei gariad ef a'i ewyllys da a phob peth bydol marwol arall. Ac onis medrwn gael gennym em hunain wneuthur hynny: etto o'r hyn lleiaf na bo i ni mwy ei ddigio ef a'n pechodau a'n hanwireddau.

16. Nid oes naturiaeth mor arw ac mor greulon yn y byd, fel y dywedais o'r blaen, na's dichon rhoddion a chymmwynasau ei meddalhau, a'i denu, a'i hynnill: ac y mae historiau yn mynegi esamplau rhyfedd o hynny, hyd yn oed ym mysg anifeiliaid direswm, megis am ddiolchgarwch y llewod, a'r cŵn, a'r eyffelyb, tu ac at eu meistreid a'r rhai a wnai gymmwynas iddynt, Yn vnig y pechadur cyn∣dyn, ym mysg yr holl greaduriaid gwylltion, yw 'r hwn nis gall na chymmwynasau ei gynnhyrfu, na cha∣redigrwydd ei feddalhau, nac addewi∣dion ei ddenu, na rhoddion ei ynnill, i wasnaethu 'n ffyddlon ei Arglwydd a'i feistr Duw.

17. Y pechadur mwyaf ac sydd yn y byd, er na roddo i'w wâs ond vgain fflorin yn y flwyddyn, neu

Page 75

i'w ddeiliad ond tyddyn bychan i fyw arno, ac onis gwasanaethant hwy ef wrth amnaid am hynny, ef a gwyna yn dôst eu bod hwy yn anniolchgar iawn: ond os hwy a geisiant trwy salis wneuthur yn ei er∣byn ef, ac ymgyssylltu â'i elyn yn ei erbyn ef, oni byddei hynny yn ei olwg megis peth ni bai neb abl iw ddioddef? Ac er ei fod ef ei hun yn gwneuthur mwy o anniolchgarwch a cham tuac at Dduw, etto ef a dybia nad yw hynny beth yn haeddu ei ystyri∣ed, ond peth a ellir cael maddeuant am dano yn hawdd. Ie mae efe yn anniolchgarach o lawer tu ac at Dduw, ac ynteu wedi cael gan Dduw fil am vn o'r doniau a'r cymmwynasau a all dyn marwol ei ro∣ddi i ddyn arall: oblegid efe a dderbyniodd gan Dduw bob peth a chwbl oll, y bara y mae 'n ei fw∣ytta, y ddaiar y mae 'n ei cherdded, y goleuni y mae 'n ei weled, a'i lygaid hefyd i weled: yr haul, a phob peth ac sydd o'r tu mewn ac o'r tu allan i'w gorph: a chydâ hynny ei yspryd a'i feddwl a'i holl ddoniau ysprydol, y rhai y tâl pob vn o honynt fwy na mil o gyrph; mi a ddywedaf hefyd ei fod efe yn gwneuthur mwy o gam a Duw, am ei fod ef, er maint ac er amled doniau Duw iddo, yn gwasanae∣thu gwir elyn Duw, a pheunydd yn gwneuthur pe∣chod ac anwiredd, y rhai y mae Duw yn eu cassau yn fwy nag y gall vn galon ddaiarol gassau ei gelyn marwol, oblegid mai pechod mewn gwirionedd a erlidiodd ei fab ef ein lachawdr, â chyfryw elyni∣aeth ac a ddûg ei werthfawroccaf einioes oddiarno, ac a'i hoeliodd ef yn dynn wrth bren y groes.

18. A rhac y dygn anniolchgarwch, a'r llwyr gam hwn, y mae yn gorfod ar Dduw ei hun gwy∣no mewn llawer o leoedd o'r Scrythur lan, megis lle mae 'n dywedyd, Hwy a dalasant i mi ddrwg dros dda, Psal. 35.12. Ac yn dostach o lawer mewn man arall, lle mae efe yn galw 'r nefoedd

Page 76

yn dyst o'i hanwiredd hwy, ac yn dywedyd, O chwy∣chwi nefoedd, synnwch wrth hyn, ac ofnwch yn aru∣throl, Ier. 2.12. Megis pe dywedai trwy ddull dieithr ar ymadrodd, Ammhwyllwch nefoedd, gan ryfedded ac mor anhygoel ydyw annuwioldeb dyn tu ac attafi Canys felly y mae efe yn hyspyssu 'r peth yn helaethach mewn man arall, Gwrandewch nefoedd, clyw ditheu ddaiar, mi a fegais ac a feithri∣nais feibion, a hwy awrthryfelasant i'm herbyn. Esa. 1.2. Ond tostur yr achwyn ymma gan Dduw yn erbyn pryfed daiarol o'r gwaelaf ac o'r distatlaf? Ac etto y mae Duw yn hyspyssu 'r anwiredd yma yn helaethach; trwy amryw esamplau a chyffelybia∣ethau; Yr ŷch medd efe, a edwyn ei feddiannudd, a'r assyn breseb ei berchennog, ond Israel nid edwyn fi, fy mhobl ni ddeall. Gwae'r genhedlaeth bechadurus, pobl lwythog o anwiredd, hâd y rhai drygionus, mei∣bion yn llygru: gwrthodasant yr Arglwydd, digiasant Sant Israel, ciliasant yn ôl. Pa achwyn a ddichon fod tostach na hwn? Pa fygwth a all bod mor of∣nadwy a'r gwae yma sydd yn dyfod o enau 'r hwn all ein cospi ni wrth ei ewyllys ei hun?

19. Am hynny, anwyl frawd, od oes i ti ddim gras, paid a bod yn anniolchgar i Dduw yn hwy; paid a gwneuthur yn erbyn yr hwn drwy gynnifer o ffyrdd a achubodd dy flaen di a chymmwynasau ac a doniau; paid a thalu drwg dros dda, a chas am gariad, a dirmyg am dadol ewyllys da tu ac attat. Efe a wnaeth i ti ac erot ti gwbl ac allai, efe a roes i ti gwbl ac wyt, ie mewn ffordd, gwbl ac a dâl yn∣teu ei hun hefyd, ac mae'n ei fryd heb law hynny dy wneuthur di yn gyfrannog o'i holl ogoniant yn y byd a ddaw, ac heb ofyn dim ar dy law di am hyn i gyd ond bod i ti ei garu ef, a bod yn ddiolchgar iddo. O anwyl frawd, oni chlywi ditheu arnat wneuthur cymmaint a hynny iddo ynteu? Pa ham

Page 77

na wnei di iddo ef cymmaint ac a fynnit titheu i arall ei wneuthur i ti, am lai na 'r fil-canfed ran o'r do∣nieu a gefaist di ganddo ef? Oblegid mi a allaf ddy∣wedyd yn hydda, pettit ti heb roi i ddyn ond elusen wrth dy ddrws, y tybygit ti ei fod ef yn rhwyme∣dig i'th garu di am hynny, er na byddai ynot ddim ond hynny yn haeddu cariad. Ond y mae gan dy Arglwydd Dduw, heb law ei ddoniau hyn, aneirif o achosion eraill i beri i ti ei garu ef, sef pob rhyw achosion ac sydd gan ddim yn y byd i ynnill cariad, ac aneirif eraill yn ychwaneg; oblegid pettai gwbl o berffeithrwydd holl greaduriaid nef a daiar, a allai ynnill cariad, wedi ei roi i gyd yn vn, sef eu holl degwch hwy a'i holl rinweddau, a'i holl ardderchaw∣grwydd, a'i holl ddaioni, a'r cyffelyb; etto y mae dy Arglwydd di a'th Achubwr, yr hwn yr wyti yn ei ddirmygu, yn rhagori ar y cwbl yn anfeidrol: oblegid y mae efe nid yn vnig yn gwbl o'r pethau hynny i gyd, ond hefyd tegwch ei hun ydyw ef, rhinwedd ei hun, doethineb ei hun, pereidd-dra ei hun, ardderchawgrwydd ei hun, daioni ei hun ydyw ef, a'r ffynnon hefyd y mae cwbl o'r rhai hynny yn tarddu allan o honi, yn rhannau ac yn gy∣frannau, at ei holl greaduriad ef.

20. Bid cywilydd arnat titheu, Gristion daionus, o herwydd dy anniolchgarwch ymma tu ac at Ar∣glwydd cymmaint, a chystal, a chyn haeled, a dyro gwbl o'th fryd o hyn allan, ar wellhau dy fu∣chedd a'th ymddygiad tu ac atto ef. Dywed gyd a 'r prophwyd, oedd iddo lai o achos i ddywedyd hy∣ny nag i ti, Er mwyn dy enw, Arglwydd, maddeu sy anwiredd, canys mawr yw, Psal. 25.11. Mi a wn nad oes dim, O Arglwydd, yn dy anfodloni di yn gymmaint, nac yn sychu ffynnon dy drugaredd di yn fwy, nac yn rhwymo dy ddwylo di rhac gw∣neuthur daioni, yn gymmaint ac y mae anniolchga∣rwch

Page 78

y rhai sy'n derbyn daioni a chymmwynasau ar dy law di, yn yr hyn y rhagorais i ar bawb eraill hyd yn hyn o'm hoes; ond mi a'i gwneuthum, O Arglwydd, mewn anwybod, eisieu ystyried dy ddo∣niau a'th ddaioni di tu ac attaf, a pha gyfrif a ofynni di ar fy llaw i am danynt hwy. Ond yr awrhon, gan ryngu bodd i ti fy nghyfrif i yn deilwng o hyn oth ras yn angwhaneg, i allu gweled ac adnabod fy nghyflwr am ddiffyg fy hun, yr wyf yn gobeithio y bydd i mi o hyn allan, trwy fod dy ras di i'm cy∣farwyddo, fy nangos fy hun yn well plentyn tu ac attati. O Arglwydd, yr wyf fi o'r diwedd wedi fy ngorchfygu wrth ystyried dy gariad di tu ac attaf, a pha fodd y gallaf glywed ar fy nghalon wneuthur mwy yn dy erbyn di, a thitheu trwy gynnifer o fo∣ddion yn achub fy mlaen i a'th ddoniau, ie pan nad oeddwn i yn meddwl am eu gofyn? A allaf fi byth mwy fod yn berchen dwylo i bechu yn dy erbyn di, a thitheu wedi rhoi dy ddwylo dy hun i'w hoelio ar y groes tros fy mhechodau i? Na allaf ddim, gor∣modd cam fyddei hynny yn dy erbyn di, Arglwydd; ac ôch gwae finneu ddarfod i mi ei wneuthur cyn fy∣nyched o'r blaen. Ond trwy dy fendigedig gym∣morth di, yr wyf yn gobeithio na ddychwelaf yn fy ôl at y cyfryw anwiredd o hyn allan. Ac ar hynny, Arglwydd, y dymunaf arnat er mwyn dy drugaredd, o'th fendigedig orsedd yn y nef, ddy∣wedyd Amen.

Page 79

PEN. VIII. Pa dyb a fydd cennym ni am y pethau hyn, wrth farw, a pha fodd y cawn ni yr amser hwnnw glywed oddiwrthynt.

Y mae 'r Yscrythur lân yn ein dysgu ni, ac yr y∣dym ni yn gweled beunydd, fod elw ac ynnill, a goruchafiaeth, a phlesser a difyrruch y byd, yn perchennogi calonnau llawer o dynion mor gwbl, a'i bod yn eu dal mewn cadwynau, a swynion ac a chyfareddion cyn gryfed, gan ddarfod i ras Duw ymwrthod a hwynt yn ôl eu cyfiawn haeddedigaeth eu hun; ac nas gall dim, dyweded dyn wrthynt y peth a fynno, a bygythied arnynt cymmaint ac a fynno, a dyged yn eu herbyn yr holl Scrythur lan, o ddechreu Genesis hyd ddiwedd Datcuddiad Ioan (lle nid oes dim nad ydyw yn erbyn pechod a phe∣chaduriaid) ni thyccia dim iddynt, gan eu bod yn y cyfryw gyflwr gofidus a bod naill ai heb gredu ai heb wneuthur cyfrif yn y byd o ddim ac a ddywetter wrthynt yngwrthwyneb i'w cynnefin fuchedd eu hu∣nain, neu i geisio peri iddynt roi eu bryd ar ymadael a hi. Ac o hyn y mae i ni aneirif o esamplau yn yr Scrythur lan; megis am Sodoma a Gomorha, a'r di∣nasoedd o'i hamgylch, y rhai ni fynnent wrando ar y rhybudd a roddai y gŵr duwiol Lot iddynt. Gen. 19. A Pharao ynteu, yr hwn nid oedd abl dim i'w gynn∣hyrfu, ac a fedrai Foesen ei wneuthur, na thrwy ar∣wyddion, na thrwy ymadroddion. Exod. 6. A Judas he∣fyd, yr hwn nis gallai ddim ac a wnai ei fistr iddo na thrwy dêg na thrwy fygwth, beri iddo newidio ei feddwl oddiwth y drwg y rhoesai ei fryd ar ei wneu∣thur, Ond yn enwedig y prophwydi a ddanfonid

Page 80

gan Dduw, o amser i amser, i geisio tynnu 'r bobl oddiwrth eu drwg fuchedd ac felly oddiwrth y plàau a'r dialeddan oedd yn dyfod ar eu gwartha; hwynt hwy sydd yn tystiolaethu yn helaeth am y peth hyn, wrth achwyn ym mhob man fod cyn ga∣letted calonnau 'r bobl ac nad oedd yr holl gyngho∣rion a'r pregethau, a'r addewidion, a'r bygythiau, yr oeddynt hwy yn eu dangos iddynt, yn cynhyrfu gronyn arnynt hwy. A bydded y prophwyd Za∣chari yn dyst tros y ewbl yn hyn o beth, yr hwn sydd yn dywedyd fel hyn am bobl Israel, ychydig of flaen eu dinistrio, Fel hyn y llefara Arglwydd y lluoedd, gan ddywedyd, Bernwch farn gyfion, gw∣newch dugaredd a thosturi bob vn iw frawd, ac na orthrymmwch y weddw, a'r ymddifad, a'r dieithr, a'r anghenog; ac na feddyliwch ddrwg yn eich ca∣lonnau bob vn iw gilydd. Ac yn y man y dyweid ym mhellach, E'r hynny hwy a wrthodasant wrando, ac a roesant ysgwydd anhydyn, ac a drymhasant eu clustiau rhag clywed; ac a wnaethant eu calonnau yn Adamant rhag clywed y Gyfraith, a'r geiriau a an∣fonodd Arglwydd y lluoedd drwy ei yspryd, yn llaw y Prophwydi gynt: am hynny y daeth digofaint mawr oddiwrth Arglwydd y lluedd, Zech. 7.9. &c.

2. Wrth hynny, dymma 'r arfer sydd ac a fu erioed gan y rhai bydol, a'r rhai annuwiol gwrtho∣dedig, sef caledu eu calonnau fel carreg Adamant, ya erbyn pob peth ac a ddy weder wrthynt am well∣hau eu buchedd, a cheisio cadw eu heneidiau. Tra font yn cael iechyd a hawddfyd, ni fynnant adnabod Duw; fel y mae efe yn achwyn mewn man arall: Etto, fel y dyweid y prophwyd, fe wna Duw i'r dynion hyn ryw ddiwrnod ei adnabod ef; A hynny yw, pan Adwaenir yr Arghwydd wrth y farn a wna. Psal. 9.16. A hynny fydd ar ddydd marwolaeth, yr hwn yw 'r drws nesaf i'r farn, fel y tystia 'r A∣postol

Page 81

Gosodwyd i ddynion farw vnwaith, ac wedi hynny bod barn. Heb. 9.

3. Hwnnw, meddaf, yw dydd Duw, yr hwn fydd ofnadwy iawn, a gofidus, a llawn o drallod i'r annuwiol, yn yr hwn y gwna Duw wybod ei fod ef yn Dduw cyfiawn, ac y tál efe i bob dyn yr hyn a wnaeth yn y corph, yn ôl yr hyn a wnaeth, pa vn byn∣nag ai da ai drwg, 2 Cor. 5.10. fel y dyweid yr Apostol: neu fel y dywaid y prophwyd, ef a wna wybod ei fod efe yn Dduw of nadwy, ac na ddichon neb sefyll o'i flaen pan ennynno ei ddigofaint; a'i fod yn gyfryw vn ac a dyrr ymmaith yspryd tywyso∣gion, ac sydd of nadwy i frenhinoedd y ddaiar, Psal. 76.7. Ar y dydd hwnnw, sef dydd marwolaeth, fel y bydd cyfnewid mawr ym mhob peth arall, o∣blegid ein llawenydd ni a droir yn alar, ein chwer∣thin yn wylo, ein difyrrwch yn ofid, ein hyder yn ofn, ein gwroliaeth yn llyrfder, ein balchder yn anobaith, a'r cyffelyb: felly yn enwedig y bydd cyfnewid mawr yn ein meddyliau ni, a'n tŷb, a'n barn, oblegid doethineb Duw, am yr hon y cry∣bwyllais yn y pennodau o'r blaen, a'r hon, fel y dyweid yr Scrythur, a gyfrifir yn ffolineb gan ddo∣ethion y byd hwn; a ymddengys yr amser hwnnw yn ei rhith a'i chyffelybrwydd ei hun, ac yn ei gwir ddull ei hun, ac y cydnebydd ei gelynion pennaf nad oes wir ddoethineb ond y hi; ac nad yw holl gnawdol ddoethineb y rhai bydol ond llwyr ffolineb, fel y mae Duw yn dywedyd am dani.

4. Hyn y mae 'r Serythur lân yn ei osod ar lawr yn amlwg, wrth ddangos yr ymadroddion, a'r ym∣ddiddanion, a'r cwynfan fydd gan y rhai bydol yn y dydd diweddaf, pan elont i ddywedyd am y rhai duwiol a ddiystyrent hwy yn y byd ymma, Nyni ffyliaid a feddyliasom fod eu buchedd hwy yn ynfy∣drwydd, a'i diwedd yn ammharchus; ond yr awr∣hon

Page 82

hwy a gyfrifir ym mysg meibion Duw, ac y mae eu rhan hwy ym mysg y Sainct, Nyni a gyfeili∣ornasom allan o ffordd y gwirionedd, ac ni thywyn∣nodd llewyrch cyfiawnder i ni, ac ni chododd haul cy∣fiawnder arnom: ni a ymflinasom yn ffordd anwiredd a distryw, ac arodiasom trwy ynialwch anhyffordd, ond ffordd yr Arglwydd nid adnabuom. Doeth. 5.4. Hyd ymma y mae geiriau 'r Scrythur, wrth y rhai y gallwn weled faint y cyfnewid fydd ar ein tŷb a'n barn, a'n meddwl ni yn y dydd diweddaf, a'r rha∣gor sydd rhwng y tŷb a'r meddwl fydd gennym yr amser hwnnw am bethau bydol, a'r meddwl sydd gennym yr awrhon am danynt: ac y gallwn weled pa gyfaddef a wnawn ar ein ffolineb, pa gydnabod a'n camsynied, pa ofid calon am y boen a gymme∣rasom yn ofer, ac mor ofer fydd i ni yr amser hynny edifarhau am wyro allan o'r ffordd. Och nad ysty∣riei dynion y pethau hynny yr awrhon. Ni a ym∣flinasom, meddant hwy, yn ffordd anwiredd a di∣stryw, ac a rodiasom trwy anialwch anhyffordd. Beth am eglured y mae yn dangos y cyflwr y bydd y rhai bydol truain ynddo yr amser hwnnw, y rhai sy yma beunydd yn curo eu hymmennyddiau, ac yn eu llwyr∣flino eu hunain yn canllyn oferedd a gwagedd, ac vs a llŵch y byd hwn, ac er hynny fynychaf yn fwy eu poen a'i llafur ynghylch y gwag-bethau hyn∣ny, nag ydyw poen y rhai cyfiawn yn ceisio teyrnas ••••f? A phan ddelont hyd at y dydd diweddaf, yn wr eu blinder a'i lludded ar ól eu llafur a'i poen yn y byd yma; y maent yn gweled nad oedd eu holl lafur ond colledig, na'i holl drafferth a'i trallod ond ofer. Oblegid am y tippyn golud a gawsant hwy yn y byd hwn, ac yr ymdrechasant mor dôst am dano, ni wna fo ronyn llês iddynt, ond yn hy∣trach eu poeni a'i blino yn ddirfawr. Ac fel y galler deall hyn yn well, rhaid yw ystyried fod tri pheth

Page 83

yn bennaf a flina ac a boena 'r cyfryw ddynion ar ddydd eu marwolaeth; ac yn y tri pheth hynny y cynnhwysir cwbl o'r llaill.

5. Y cyntaf yw 'r boen anesgorol y mae dynion fynychaf yn ei dioddef wrth ymadawiad yr enaid a'r corph, y rhai a fu cyd o amse yn byw ynghyd fel dau gyfaill gariadus, yn vn ei cariad a'i difyrrwch, ac am hynny yn anhawdd iawn ganthynt ymadael â'i gilydd, oni bai fod yn ddir ac yn anghenrhaid i∣ddynt ymadael. Y boen a'r gofid hwnnw a ellir ei ddeall wrth hyn; pettem ni yn gyrru bywyd allan o'r rhan leiaf o'r corph, pettai ond ein bŷs bâch (fel y gwna 'r meddygon pan fônt yn marweiddio rhyw ran glwyfus o'r corph i gael gantho dorri allan) pa boen ddirfawr sydd raid i ddyn ei dioddef cyn ei marweiddio? pa wynio cynddeiriog sydd raid iddo ei oddef? Ac os yw cymmaint ein gofid ni wrth far∣weiddio vn rhan fechan o'r corph, meddyliwch faint fydd y gofid wrth farweiddio 'r holl gorph, a hynny o'i anfodd. Oblegid ni a welwn yr angeu yn gyntaf yn cymmell y bywyd i ymadael â'r rhannau eithaf o'r corph, sef bysedd y traed a'r dwylo, wedi hyn∣ny y coesau a'r breichiau; ac felly y mae pob rhan yn marw, y naill ar ôl y llall, hyd oni yrrer y by∣wyd yn vnig i'r galon, yr hon sy 'n dal allan yn hwy∣af, o herwydd mai y rhan bennaf ydyw, ond o'r diwedd hi a gymmhellir hitheu i ymroi, er maint fo ei phoen, ac er maint fo 'r gwrthwyneb ganthi i ymroi. Ac mor fawr ac mor gryf ydyw 'r boen honno, fe ellir gweled wrth fod llinynnau 'r galon yn torri gan faint ac mor anesgorol ydyw 'r poenau marwol hynny. Ond cyn y gyrrer hi cyn belled a gorfod arni ymroi, nid oes vn dyn a ddichon ddan∣gos greuloned a thosted yw 'r ymdrech sydd rhyng∣thi ac angeu, a pha ing a chyfyngder sydd raid iddi eu dioddef pan ddél gloes angeu atti. Meddyliwch

Page 84

petai ryw frenhin galluog mewn heddychol feddi∣ant o ryw ddinas dêg, ac yn byw mewn pob math a'r hawddfyd a difyrrwch ynddi, a'i holl gymmy∣dogion o'i amgylch yn ei garu, ac yn addo ei gym∣morth pa bryd bynnag y byddai raid iddo; a dy∣fod o'i elyn marwol yn ddisymmwth ar ei vchaf, ac amgylchynu ei ddinas ef, ae ynnill y naill ymddi∣ffynfa ar òl y llall, y naill gaer ar ôl y llall, y naill dŵr ar ol y llall; a gyrru 'r brenhin yn vnig i ryw dŵr bach o fewn y ddinas, a'i amgylchu ef yno hefyd, wedi euro i lawr ei holl ymddiffynfeydd ef, a llâdd ei holl wŷr yngwydd ei lygaid: pa ofn, a pha gy∣fyngder, a pha ofid fyddei an y brenhin hwnnw? Onid edrychai efe allan yn fynych trwy dyllau ffe∣nestri yr ŵr, i edrych a ddoai ei garedigion a'i gymmodogion i'w helpio ai na ddaent? Ac o gwelai fod pawb o honynt yn ei wrthod, a'i elyn ar dorri i mewn atto, oni byddai dostur a blin ganddo ei gy∣flwr, dybygwch chwi? Ac yn y cyflwr hwnnw y mae ir enaid truan yn amser gloes angeu: pan fo'r corph yr oedd efe yn teyrnasu ynddo megs brenhin gwych pan oedd yn ei flodau, mewn pob math ar ddifyrrwch, wediiw elyn yr angau ei guro ilawr a'i ddadymchwel: y breichian a'r coesau, a'r aelo∣dau eraill, oedd megis caerau yn gadernid ac yn ym∣ddiffyn iddo tra oedd mewn iechyd, wedi eu gorch∣fygu, a'i curo i lawr, ac ynteu 'r enaid wedi ei yrru i'r galon yn vnig megis i'w ymddiffynfa eithaf, ac yno yn cael gosod arno mor greulon, ac nas gall ddal allan nemor o ennyd; a'i hoff garedigion, y rhai a ddywedai yn dêg wrtho yn ei wynfyd, ac a addawent iddo bob rhyw help a chymorth, sef ieu∣engtid, a physygwriaeth, a chynnorthwyau dynol eraill, yn ei wrthod yn llwyr; a'r gelyn ynteu yn gyfryw ac nas gellir na heddychu ag ef, na chael cyngrair gantho, a phob nos a dydd yn gosod ar y

Page 85

twr bâch hwnnw y mae ef ynddo, a hwnnw wei∣thian yn dechreu siglo, a chrynu, a mynd yn ddry∣lliau; ac ynteu bob awr yn disgwyl pa bryd y daw 'r gelyn i mewn atto yn gynddeiriog ac yn ofnadwy. Pa fath gyflwr, dybygwch chwi yw hwn ar yr e∣naid cystuddiedig? Nid yw ryfeddod yn y byd os a'r doeth yr amser hwnnw yn ynfyd, a'r dewr yn llwrf, pan ddel arno y fath ofid blin a chyfyngder ac a welwn ei bod yn dyfod ar y rhai bydol, fel nas gallont wneuthur na threfn na dosparth iawn yn y byd nac o'i golud by dol, nac o'i dlèd tu ag at Dduw yn yr awr honno; o achos y ddygn boen sydd yn gorthrechu en heneidian hwy, fel y dy∣weid S. Awstin (neu ryw vn arall tan ei enw ef) yr hwn hefyd sy'n rhoi i ni rybudd gorchestol, pettai i ni cymmaint o râs a'i ganlyn; Pan fych di yn dy glefyd diweddaf, ac ar dy wely angeu, frawd anwyl (medd efe) ôch mor anhawdd ac mor flin fydd i ti edifarhau am y pe∣chodau a wnaethost; a pham yw hynny, ond am y bydd holl feddyl-fryd dy galon di ar y man lle y bo mwya'r dolur aruat? Llawer o rwystrau a fydd yn llestair i ddyn yn yr awr honno feddwl am edifarhau, megis y dolur a'r boen a fo yn ei gorph, ofn angeu, gweled ei blant ger ei fron (a'r rhei'ny weithiau yn peri i'w tadau dybied eu bod yn golledig; o'i hachos) ei wraig yn cwynfan ac yn wylo, y byd; yn gwneu∣thur truth iddo, y cythraul yn ei demptio, a'r phy∣sygwyr yn ei wenhiethio i geisio elw oddiwrtho, a'r yffelyb. A chred, fi, o ddyn pwy bynnag wyt a ddanllennych hyn, y cai di ar fyr o amser weled y bydd yr holl bethau hyn yn wir ynot tidy hun: ac am hynny mi a ddymunaf arnat edifarhau cyn dyfod y dydd hwnnw ar dy warthaf: gosod dy dŷ mewn trefn, a gwna dy ewyllys a'th lythyr cymmyn tra fych gwr i ti dy hun, oblegid os oedi dihyd y dydd

Page 86

diweddaf, ti a gai dy arwain lle nis mynnit. Ac dy∣na eiriau S. Austin.

6. Yr ail peth a wna angeu yn ofnadwy ac yn ofidus gan y rhai bydol, yw bod yn rhaid iddo yma∣dael yn ddisymmwth; a hynny byth bythoedd, â'r holl bethau yr oedd efe yn eu hoffi fwyaf yn y byd hwn, ei gyfoeth, a'i feddiannau, a'i anrhydedd, a'i swyddau, a'i adeiladau têg, a'i holl oludoedd, a'i ddillad gwychion, a'i dlysau gwerthfawr, a'i wraig, a'i blant, a'i geraint, a'i gyfeillon, a'r cy∣ffelyb; o achos y rhai yr oedd yn ei dybied ei hun yn ddedwydd yn y byd ymma, ac ynteu yr awrhon yn cael ei gippio oddiwrthynt yn ddisymmwth, heb obaith cael na'i gweled na'i mwynhau byth ond hynny. Och mor flin ac mor ofidus fydd hynny. Ac am hynny y dywaid yr Scrythur lân, O angeu, mor chwerw yw meddwl am danat ti, i'r dyn fyddo yn byw mewn heddwch yn yr hyn sydd ganddo; i'r gwr a fyddo dihelbul, a llwydiannus ym mhob peth. Ecc. 41.1. Megis pe dywedid, nid oes chwerw∣der na gofid mwy yn y byd i'r cyfryw vn nâ me∣ddwlam farw yn vnig chwaethach mynd i ymdrech marwolaeth, a hynny allan o law, pan ddywetter wrtho, fel y mynega Christ ddarfod dywedyd wrth y gwr goludog mawr yn yr Efengyl, yr hwn oedd wedi llenwi ei ysguboriau, ac wedi dyfod i vchder ei ddedwyddyd, O ynfyd y nos hon y gofynnir dy e∣naid oddi gennit, ac yno eiddo pwy fydd yr holl be∣thau a barotoaist. Luc. 12.20.

7. Ammhossibl, meddaf, i vn tafod yn y byd ddangos mor ofidus fydd cyflwr y gwr bydol yn awr angeu, pryd na allo dim o'r golud a gasglodd efe erioed ynghyd, trwy gymmaint o boen a tra∣fferth, er maint oedd ei oglud arno a'i ymddiried ynddo; wneuthur iddo ronyn llês mwyach, ond yn hyttrach ei boeni a'i flino wrth feddwl am dano, ac

Page 87

ystyried y bydd rhaid iddo adael y cwbl i eraill, a myned ei hun i roi cyfrif pa fodd y casglodd, a pha∣fodd yr arferodd efe ei olud, ac wrth hynny ond odid cael damnedigaeth dragywyddol, ac eraill yn y cyfamser yn byw mewn llawenydd a digrifwch yn y byd hwn, ar y pethau a ddarfu iddo ef eu cas∣glu, a'r rheiny heb feddwl ond ychydig am dano ef, a gofalu llai drosto ef pan fo yn llosgi ysgatfydd yn y tan anniffoddadwy, o achos y golud a adawodd efe iddynt hwy. Dyma beth tostur gofidus, ac sydd abl i ddwyn ar lawer dyn fawr ddolur calon a chyfyngder yn yr awr ddiwethaf, pan orffo arno adael holl lawenydd y byd, ac ysgar a phob difyr∣rwch ac a'i holl olud byth bythoedd. Och mor do∣stur ac mor flin fydd yr ymadael hwnnw! Beth a ddywedi di y dwthwn hwnnw, pan ddêl darfod ar dy holl ogoniant, a'th holl gyfoeth, a'th holl rodres di? Beth fyddi di gwell yr amser hynny er dy fod yn byw yn barchedig yn y byd, mewn ffafor tywy∣sogion, a phawb yn dy glodfori, ac yn dy ofni, ac yn dy berchi, ac yn dy dderchafu; gan fod y cwbl bellach wedi darfod am danynt, a thitheu heb allael byth mwy mo'i mwynhau?

8. Ond y mae etto 'r trydydd peth a wna fwy o ofid a thrallod i'r rhai bydol wrth farw na 'r holl be∣thau eraill, a hynny ydyw ystyried beth a ddaw o honaw ef, gorph ac enaid, wedi hynny. Eccl. 10. Ac am ei gorph, digon erchyll fydd iddo feddwl y bydd iddo gael seirph, a bwystfilod, a phryfed (fel y dyweid yr Scrythur) yn etifeddiaeth, hynny y∣dyw y bydd dir y teflir ef allan i fod yn ymborth, i bryfed: y bydd rhaid i'r corph hwnnw oedd 'yn cael ei drin mor foethus o'r blaen, ag amryw ddain∣tethion o fwydydd, â chlustogau a gwelau manblu, ac a dillad mor wychion ac mor ddillynion, ac am∣ryw addurnau eraill, y rhai nid oedd iawn dyby∣gent

Page 88

hwy, i'r gwynt chwythu, nac i'r haul dywyn∣nu arnynt: y corph hwnnw yr oedd cymmaint balchder o'i degwch, a thrwy 'r hwn y gwnaed cymmaint o oferedd a phechodau, y corph hwnnw oedd gynnefin â phob math ar foethau, ac ni allai ddioddef dim gerwinder, na cherydd yn y byd, fydd raid iddo yr awrhon gael ei wrthod gan bob dŷn, a'i adel yn vnig i gael ei yssu gan bryfed. Yr hyn beth, er nas gall na fago ofn ac erchylldod yng∣halon dŷn wrth farw, etto nid yw hynny ddim wrth y meddyliau erchyll ofnadwy a fydd gantho o achos ei enaid; sef pa beth a ddaw o hwnnw, ac i ba le yr â yn ol ymadael a'r corph: ac yno wrth ystyri∣ed y bydd rhaid iddo fyned ger bron brawdle Christ, i gael ei farnu ganddo, naill ai i fwynhau gogoniant annrhaethadwy, ai i ddioddef poenau anesgorol; y daw arno ystyried ym mhellach faint yw 'r perygl o hynny, pan êl i edrych pa gyffely∣brwydd sydd rhwng cyfiawnder a bygythion Duw, a osodwyd i lawr yn yr Scrythur lâu, a'i fuchedd ynteu ei hun: yna y dechreu efe holi 'r tŷst, yr hwn yw ei gydwybod ef ei hun, ac y caiff weled ei bod yn barod i roi aneirif o achwynion yn ei erbyn ef pan ddel ger bron brawdle cyfiawnder Duw.

9. Ac yna frawd anwyl, y dechreu gofid a thru∣eni dŷn. Oblegid nid oes odid o ymadrodd tôst yn yr holl Scrythur lan, na ddaw yn ei gof ef yr am∣ser hwnnw, i beri iddo ofni a dychrynu ar y munud hwnnw, megis y rhai hyn, Os ewyllysi fyned i mewn i'r bywyd cadw 'r gorchymmynion, Mat. 19.17. Yr hwn sydd yn dywedyd ei fod yn adnabod Duw, ac heb gadw ei orchymmynion ef, celwyddog ydyw, a'r gwirionedd nid yw ynddo, 1 Joan. 2.4. Llawer a ddywedant wrthyf yn y dydd hwnnw, Arglwydd, Arglwydd, oni phrophwydasom yn dy enw di? ac oni

Page 89

fwriasom allan gythreuliaid yn dy enw di; ac oni wnaethom wyrthiau lawer yn dy enwedi? Ac yna yr addef af iddynt (medd Christ) Nid anabûm chwi eri∣oed, Ewch ymaith oddiwrthyf, chwi weithredwyr an∣wiredd, Mat. 7.22. Nid gwrandawyr y Gyfraith sy gysiawn ger bron Duw, ond gwneuthurwyr y gy∣fraith a gyfiawnheir, Rhuf. 2.13. Ewch ymaith oddiwrthyf rai melldigedig i'r tân tragywyddol, yr, hwn a barottowyd i ddiafol ac iw angylion, Matth. 25.41. Oni wyddoch chwi na chaiff y rhai anghyfi∣awn etifeddu teyrnas Dduw. Na thwyller chwi, ni chaiff na godineb-wyr, nac eulyn-addol-wyr, na thor∣wyr priodas, na maswedd-wyr, na gwr-ryw-gydwyr, na lladron, na chybyddion, na meddwyr, na difenwyr, na chribddeilwyr, etifeddu teyrnas Dduw, 1 Cor. 6.9. Os byw fyddwch yn ol y cnawd, meirw fy∣ddwch, Rhuf. 8.13. Gal. 5.19. Ac amlwg yw gweithredoedd y cnawd, y rhai yw torri priodas, go∣dineb, aflendid, anlladrwydd, delw-addoliaeth, swyn gyfaredd, casineb, cynnhennau, gwynfydau, llid, ym∣rysonau, ymbleidio, heresiau, cynnsigennau, llofru∣ddiaeth, meddwdod, cyfeddach, a'r pethau cyffelyb i'r rhai hyn; am y rhai yr wyf yn rhag-ddywedyd wrthych, megis y dywedais o'r blaen, na chaiff y rhai sy'n gwneuthur y cyfryw bethau etifeddu Teyr∣nas Dduw. Rhaid i ni oll ymddangos gr bron braw∣dle Christ, fel y derbynio pob vn, y pethau a wnaeth∣bwyd yn y corph, yn ôl yr hyn a w••••eth, pa••••m byn∣nag ai da ai drwg: a phob vn a dderbyn yn ol ei weithredoedd, 2 Cor. 5.10. Dat. 20.12. Nid ar∣bedodd Duw yr angylion a bechasnt, 2 Pet. 2.4. Rhaid yw rhoi cyfrif ddydd farn am bob gair segur a ddywedo dynion. Os braidd y bydd y cy••••••wn cad∣wedig, pa le 'r ymddengys yr annuwiol a r pechadur, 1 Pet. 4.18. Y chydig yw y rhai sy 'n cel y ffordd gûl; ac yn myned i mewn i'r porth cyyng. Ychydig

Page 90

a ddetholir; Ychydig a fydd cadwedig. Ac an∣hawdd yw i'r goludog fynedi mewn i Deyrnas nefo∣edd. Mat. 7.14. Mat. 22.14. Luc. 13.23. Mat. 19.23, 24.

10. Yr holl bethau hyn, meddaf, a mil yn ych∣waneg ynghylch tosted barn Duw, a'r cyfrif a ofyn∣nir yn y dydd hwnnw, a ddaw ynghof y rhai by∣dol wrth farw; a'n gelyn ysprydol (yr hwn yn ein bywyd a wnaeth ei oreu ar gadw 'r pethau hyn al∣lan o'n golwg ni, fel y byddai haws iddo beri i ni bechu) a esyd gwbl o hyn a llawer yn ychwaneg yr amser hwnnw ger ein bronnau ni, ac a helaetha ac a daera bob peth hyd yr eithaf, ac a ddwg ein cydwybod ni ein hunain yn dŷst trosto ar bob peth. A chan na all yr enaid truan sydd yn ymadael wadu dim o hynny, nid yw bossibl na bydd dirfawr ei ofn ef: fel yr ydym ni yn gweled beunydd fod y cyfryw ofn ar wyr da duwiol. Y mae S. Ierom yn dywe∣dyd am y gŵr duwiol Hilarion, pan oedd ei enaid, wrth ystyried y pethau hyn, yn of∣ni yn fawr fyned allan o'r corph; yn ôl hir ym∣drech, efe a gymmerodd galon yn y diwedd, ac a ddywedodd wrth ei enaid, dôs allan fy enaid, dôs allan; pa ham yr wyti yn ofni; yr wyti yn gwa∣sanaethu Christ er ys deng mhlynedd a thriugain, ac a oes arnat ti yr awrhon ofn marw? Ac od oedd cymmaint ofn ar wr mor dduwiol a hwnnw wrth ymadael, ac ynteu wedi gwasanaethu Duw mewn purdeb buchedd, a zêl berffaith tros deng mhlynedd a thriugain; pa ofn, dybygwch chwi fydd ar y rhai ni ddarfu iddynt wasanaethu Duw yn gywir ond prin vn diwrnod yn eu holl fywyd, ond yn hyttrach treulio eu holl flynyddoedd mewn pechod a gorwagedd y byd? Oni bydd angenrhaid bod ofn a chyfyngder mawr ar y gwyr hyn wrth ymadael a'r byd?

Page 91

11. Yn awr, frawd anwyl, gan fod y pethau hyn felly, hynny ydyw, gan fod ymadawiad mar∣wolaeth mor ofnadwy, ac mor beryglus, ac er hyn∣ny mor ammhossibl ei ochel; a bod cynnifer o ddy∣nion beunydd yn myned yn golledig, ac yn colli 'r maes yr amser hwnnw, yr hyn nis gellir ei wadu; a bod yr yscrythurau sanctaidd, a hen dadau duwi∣ol, yn tystiolaethu i ni hynny trwy esamplau a cho∣ffad wriaethau eraill; pa ddyn a fai a dim synhwyr yn ei ben, ni ddysgai fod yn ddoeth, wrth bery∣glon rhai eraill? A pha greadur a fai a rheswm gan∣tho, ni ochelai, ac nid edrychai yn ei gylch, ac yn∣teu wedi cael rhybudd mor amlwg ac mor oleu, faint yw ei berygl? Os wyti Gristion, ac os wyti yn credu yn ddiau, y pethau y mae ffydd Grist yn eu dysgu i ti; yr wyti yn gwybod ac yn credu yn sccr, o ba radd bynnag, o ba oedran bynnag, o ba gryfder bynnag, o ba fraint a chyflwr bynnag, yr wyti yr awrhon; y bydd rhaid i titheu dy hun sy yn darllein y pethan hyn yn iach ac yn llawen, ac yn tybied nad ydynt hwy yn perthyn fawr i ti; ryw ddiwrnod, a hynny ysgatfydd yn y man ar ol dar∣llein y pethau hyn, gael dy hun brofi 'r pethau hyn yr wyt yn eu darllain: hynny ydyw, y bydd rhaid i ti trwy alar a gofid gael dy yrru i'th wely, ac yno yn ol dy holl ymdrech a phiccellau angeu, y bydd rhaid i ti roi i fynu dy gorph yr wyti 'n ei garu cym∣maint, i fod yn abwyd i bryfed; a'th enaid i gael barn gyfiawn a a wnaeth yn y bywyd hwn.

12. Meddwl ditheu fanwylyd, yr hwn wyt he∣ddyw yn hoyw ac yn heini, fod y dengmhlynedd, neu yr vgain mhlvnedd neu y ddwy flynedd, neu ysgatfydd y ddeufis ••••dd i ti etto yn ol o'th oes we∣di dyfod i ben, a'th fod ti yr awr hon wedi yme∣styn ar dy wely, a chwedi dy orfod a'th flino gan boen a dolur, a bod dy garedigion enawdol yn dy

Page 92

gylch yn wylo ac yn vdo, dy physygwyr wedi ca∣el eu cyflog ac ymadael â thi, a'th roi ditheu i fy∣nu; a'th fod titheu yn gorwedd yno yn fud ac yn aflafar mewn poen dosturus, yn disgwyl o fynud i fynud am gael y dyrnod diwethaf gan yr angeu. Dyweid i mi, pa lês a wnai holl ddifyrrwch a go∣lud y byd i ti yn yr awr honno? Pa gyssur fyddei i ti dy fod gynt yn anrhydeddus yn y byd; dy fod gynt yn gyfoethog a chwedi pwrcasu llawer, a'th fod mewn swyddau, ac mewn ffafor tywysogion; a'th fod yn gadael dy blant a'th dylwyth yn gyfoethogi∣on, a darfod i ti gael y gorfod ar dy elynion, a bod yn fawr dy rwysg yn y byd? Pa esmwythdra, a pha gomffordd fyddei i ti dy fod gynt yn dèg dy bryd, yn wychion dy ddillad, yn wr glan o gorph, yn discleirio mewn aur? Onid mwy o flinder a gofid a wnai 'r holl bethau hyn i ti yr amser hwnnw, nag o lês? Canys yno y cait ti weled ofered y coeg be∣thau hyn: yno y dechrenai dy galon di ddywedyd o'th fewn; Och mor ddygn yw fy ynfydrwydd a'm dallineb i: wele, dyma ddiben ar fy holl ddifyr∣rwch i a'm llwyddiant; fe ddarfu bellach fy holl la∣wenydd i, am holl ddifyrrwch, a'm holl ddidda∣nwch, a'm holl ddigrifwch: pa le y mae fy ngha∣redigion i a'm cyfeillion a fyddei arfer o gyd chwer∣thin a mi? pa le y mae fy ngweision a fyddei yn gweini i mi, a'm plant a fyddei yn fy llawenychu? Pa le y mae fy holl feirch a'm cerbydau y gwnawn fawr rodres a hwynt? Pa le y mae 'r ymbennoe∣thi a'r ymostwng y byddei'r bobl i mi, a'r mawr∣barch a roid i mi? Pa le mae 'r lluoedd a fyddai yn fy nghanlyn ac yn erlyn arnaf am negeseu? Pa le y mae fy holl drythyllwch i, a'm nwyfiant a'm ysmalbawch? Pa le y mae fy holl felysgerdd a'm canu, a'm holl dai gwychion, a'm holl wleddoedd a'm daintethfwyd costfawr? Ac yn anad dim, pa

Page 93

le y mae fy holl garedigion anwylgu, a gymmerent arnynt na'm gwrhodent byth? Ond y maent hwy i gyd yr awrhon wedi myned ymaith, a'm gadael innau ymma yn vnig i roi cyfrif am y cwbl, ac ni wna yr vn o honynt hwy cymmaint a mynd gyda myfi i'r farn, na dywedyd vn gair yn fy mhlaid i.

13. Gwae finnau fyth na ragwelswn i'r dydd yma yn gynt, a ymbarottoi yn well erbyn ei ddyfod: hi aeth yn rhyhwyr weithian, ac yr wyfi yn ofni ddarfod i mi bwrcasu damnedigaeth dragywyddol am ychydig fyrr ddifyrrwch bydol, a cholli gogo∣niant annhraethadwy am orwagedd ac oferedd. Oh dedwydd a thra happus yw y rhai sy yn byw fel na bo rhaid iddynt ofni 'r dydd hwnnw. Yr awrhon y gwelaf fi y rhagor sydd rhwng diwedd y da a'r drwg, ac nid rhyfedd gennyf fod yr Scrythur yn dywedyd am y naill, Psal. 116.15. Gwerth-fawr yngolwg yr Arglwydd yw marwolaeth ei Sainct; ac am y llaill mors peccatorum pessima, Drwg iawn yw marwolaeth yr annuwiol. O na buaswn i fyw mor dduwiol ac y bu rhai fyw, ac na buaswn i yn cre∣sawu yr aml ysprydoliaethau da a ddanfonodd Duw yn fy nghalon i, i geisio gennyfi fyw'n dduwiol; neu na wnaethwn y gweithredoedd da a allaswn eu gwneuthur; mor felus ac mor gyssurfawr fuasent hwy i mi yr awr hon yn fy mawr ddygn gyfyngder diwe∣thaf yma.

14. Y meddyliau a'r ymadroddion hyn, frawd anwyl, beth bynnag wyti yr awrhon, sydd dir eu bod yn dy galon di yn awr angeu, oddieithr i ti yr awrhon ochelyd hynny trwy wellhau dy fuchedd, a hynny yn vnig a all roi cyssur i ti yn y dydd trist hwnnw. Oblegid am y rhai da y dywaid y barnwr ei hun, Luc. 21.28. Pan ddechreuo 'r pethau hyn ddyfod edrychwch i fynu, a chodwch eich pennau, ca∣nys y mae eich ymwared chwi oddi wrth drallod a

Page 94

thrafferth y byd hwn, yn nesau. Ac y mae 'r pro∣phwyd yn dywedyd am y gwr duwiol, a wnaeth weithredoedd da yn y bywyd hwn, y bydd yr am∣ser hwnnw, Gwyn ei fyd ef: ac y mae 'n dangos yr achos o hynny, Oblegid yr Arglwydd a'i gwared ef yn y dydd drwg, ac a'i nertha ef ar ei glas-wely, ac a gyweiria ei holl wely ef yn ei glefyd, Psal. 41. A hyn yn ddiammau a ddywedir yn benu if am we∣ly angau dyn a'i ymadawiad o'r byd; oblegid y gwe∣ly hwnnw, o'r holl welyau eraill, yw'r gwely tri∣staf a mwyaf ei ofid, fel y dywedais o'r blaen, pan nad ydyw ddim ond pentwrr o bob math ar dristwch a gofid ynghyd, yn enwedig i'r rhai a dynnir iddo cyn eu bod yn barod iddo, megis fynychaf y maent hwy i gyd hb fod, y rhai o ddydd i ddydd sy'n oedi gwellhau eu buchedd, ac heb gymmeryd gofal am fyw yr awrhon yn y cyfryw fodd ac y dymunent wrth ymadael a'r byd ddarfod iddynt fyw.

PEN. IX. Y Poenau sydd wedi eu hordeinio am bechod yn ol y fuchedd hon.

YM mysg yr holl foddion y mae Duw yn eu harfer tu ac at feibion dynion i geiso eu cy∣ffroi hwynt i roi eu bryd yn gwbl ar well∣hau eu buchedd, y cryfaf a'r cadarnaf gyda 'r bobl gyffredin, yw ystyried y poenau a barotoodd Duw i bechaduriaid gwrthryfelgar, ac i'r rhai a oseddo ei ochymmynion ef. Ac am hynny y mae efe yn ar∣fer

Page 95

o hynny mor fynych, fel y gellir gweled trwy 'r holl Brophwydi, y rhai nid ydynt agos yu gw∣neuthur dim ond bygwth plaau a dinistr ar bechadu∣riaid. A'r, modd hwn yn fynych a dycciodd yn well na dim arall ac a ellid ei arfer, a hynny o achos y cariad naturiol sydd gan bawb o honom ni arnom ein hunain, a'r ofn fydd ynom ni rhag bod perygl arnom ein hunain. Felly yr ydym ni yn darllein nad oedd dim a allai gyffroi 'r Nineseaid, cym∣maint a dwedyd iddynt o'r blaen pa perygl oedd vwch eu pennau. A S, Ioan fedyddiwr, er ei fod yn dyfod mewn modd disyml diystyr, etto wrth bregethu i'r bobl mor erchyll oedd y dialedd oedd ar ddyfod, a bod y fwyall wedi ei gosod eisus ar wrei∣ddyn y prenniau, i dorri i lawr iw fwrw yn tàn bob vn ar ni ddygai ffrwyth da, a gwellhau ei fuchedd, efe a wnaeth i'r Publicanod, ac i'r milwyr ofni, er eu bod yn bobl o fettel galed, a chyrchu atto wrth glywed y gennadwri dost honno, a gofyn iddo pa beth a wnaent er mwyn cael gochel y cospedigae∣thau hyn. Luc. 3.9.

2. Pan ddarpho i ni gan hynny ystyried am far∣wolaeth, a thost farn Duw sydd yn dyfod ar ól mar∣wolaeth, yn yr hon y mae i bob dŷn dderbyn yn öl ei weithredoedd yn y bywyd hwn, fel y dyweid yr yscrythur lan, 2 Cor. 5. nessaf peth i ni i'w ysty∣ried ydyw yr poenau a osodwyd i'r rhai a gaffer yn feius yn y cyfrif hwnnw; fel y gallei hynny, onis gwna dim arall, ddwyn Christianogion i roi eu bryd ar wasanaethu Duw. Oblegid, fel y dangosais o'r blaen, od oes gan bawb wrth naturiaeth gariad arno ei hun, a chwant i gadw ei esmwythdra ei hun; wrth hynny fe ddylei fod yntho hefyd ofn rhag pob perygl a allai beri iddo gwympo i ddygn drueni ac aflwydd. Hyn y mae S. Bernard yn ei egluro yn orchestol yn ôl ei arfer; Oh ddyn (medd efe) pe

Page 96

rhon i ti a bod wedi bwrw heibio bob cywilydd ac a ddylei fod mewn creadur mor ardderchog ac wyti; oni chlywi di oddiwrth dristwch yn y byd, mwy nag y mae y rhai cnawdol yn ei glywed, etto na choll byth mo'th ofn hefyd, yr hwn sydd hyd yn oed mewn anifeiliaid. Yr ydym ni yn arfer o lwy∣tho assyn, ac o'i flino a gwaith, ac nid gwaeth gan∣ddo, am nad yw ond assyn; ond pe bait ti yn ei w∣thio ef yn tân, neu yn ei daflu mewn clawdd, fe a wnai oreu dim fyth ac a allai ar ochel hynny, am fod yn hoff ganddo fyw, ac yn ddrwg gantho farw. Ofna ditheu; ac na fydd lai dy synwyr nag anifail. Ofna farwolaeth; ofna 'r farn; ofna vffern. Yr ofn hwn a elwir yn ddechreuad doethineb, ac nid yn gywilydd, neu yn dristwch: am fod yspryd ofn yn gryfach i wrthwynebu pechod, nag yspryd cy∣wilydd, neu dristwch: ac am hynny y dywedir, Meddwl am dy ddiwedd, ac ni phechi di byth. Hyn∣ny ydyw, meddwl am y gospedigaeth dragywy∣ddol sydd am bechu yn ôl y fuchedd hon. A hynny a ddyweid S. Bernad. Dihar. 9. Eccles. 7.36.

3. Yn gyntaf gan hynny, i ddywedyd yn gyffre∣dinol am y poenau sydd ynghadw erbyn y fuchedd a ddaw; pettai yr Scrythur làn heb ddangos i ni yn yspysol faint ydynt, etto y mae llawer o resymmau a allai beri i ni gredu eu bod hwy yn dost, ac yn o∣fidus, ac yn anhawdd dros ben eu dioddef. Canys yn gvntaf, fel y mae Duw yn Dduw yn ei holl wei∣thredoedd, hynny ydyw, yn fawr, yn rhyfeddol, ac yn ofnadwy; felly yn enwedig y mae efe yn dan∣gos hynny wrth roi cospedigaeth am bechod, ac o'r achos hynny y gelwir ef yn Dduw 'r cyfiawn∣der, ac yn Dduw 'r dial. Am hynny, gan fod ei holl weithredoedd eraill ef yn llawn mawredd, ac yn rhagori llawer ar ein deall ni, ni a allwn wybod hefyd, fod ei law ef wrth gospi yn rhyfeddol. Y

Page 97

mae Duw ei hun yn dysgu i ni ymresymmu felly, pan yw yn dywedyd, Onid ofnwch chwi fi? oni chrynwch ger fy mron i, yr hwn a osodais y tywod yn derfyn i'r môr, trwy ddeddf dragywyddol, fel nad elo tros hwnnw; er i'r tonnau ymgyrchu, etto ni thyccia iddynt derfysgu, etto ni ddeuant tros hwunw. Jer. 5.22. Megis pe dywedai, Os ydywyfi yn rhy∣feddol, ac yn rhagori ar eich deall chwi, yn y mor, ac yn fy ngweithredoedd eraill a welwch chwi beu∣nydd; y mae i chwi achos da i'm hofni i, os ysty∣riwch y bydd fy ngwaith i yn cospi, yn gyffelyb i'r rhai hynny.

4. Ni a allwn fwrw amcan arall ar fawr a thost gyfiawnder Duw, wrth ystyried ei anfeidrol druga∣redd annrhaethadwy ef, yr hon sydd o'i wir naturia∣eth ef, ac heb na meidr na mesur arni, mwy nag ar ei dduwdod ef, felly y mae ei gyfiawnder ef hefyd. A'r ddau hyn, sydd megis dau fraich i Dduw, yn cofleidio, ac yn cusanu 'r naill y llall, fel y dyweid yr Scrythur lân, Psal. 85.10. Am hynny, megis mewn dyn bydol, os caem fesur y naill fraich iddo, fe fyddai hawdd i ni wybod mesur y llall; felly wrth weled samplau rhyfeddol beunydd o drugaredd Duw tu ac at y thai edifeiriol, ni a allwn wybod wrth hynny mor dost yw ei gyfiawnder ef tu ac at y rhai a roes efe i gadw i'w cospi yn y fuchedd a ddaw, a'r rhai o'r achos hynny y mae efe yn eu ga∣lw yn yr Scrythurau, yn llestri digofaint, neu yn llestri i ddangos ei ddigofaint arnynt. Rhuf. 9.22, 23.

5. Y trydydd rheswm i beri ini gredu faint yw ei gospedigaeth ef, yw rhyfeddol ymmynedd, a dioddefgarwch Duw yn y byd hwn, megis pan yw yn dioddef i amryw ddynion fyned rhagddynt o be∣chod i bechod, o ddydd i ddydd, o flwyddyn i flwy∣ddyn, o oes i oes; ac i dreulio 'r cwbl mewn

Page 98

ammharch a distyrwch ar ei fawredd ef, gan chwa∣negu camwedd at gamwedd, a gwrthod pob cyn∣gor, ac annog, ac ysprydoliaeth dda a phob moddi∣on caredig a fettro ei drugaredd ef ddyfeisio eu cyn∣nyg iddynt i geisio ganddynt wellhau.

A pha ddyn o'r byd a allai ddioddef hyn? Neu pa galon dŷn marwol a all ddangos y fath ddioddef∣garwch a hyn? A phe gallai hyn i gyd ddiangc heb dost gospedigaeth ar y rhai cyndyn yn y byd a ddaw; fe ellid tybied bod hynny yn wrthwyneb i gyfraith cyfiawnder ac vnioudeb, a bod y naill fraich i Dduw yn hwy nâ'r llall. Y mae S. Paul yn cyfwrdd â'r rheswm yma yn ei Epistol at y Rhufeiniaid, lle y mae efe yn dywedyd, Oni wyddosti, o' ddyn, fod daioni Duw yn dy dywys di i edifeirwch. Ac yr wyt titheu wrth dy galedrwydd, a'th galon ddiedi∣ferirol, yn trysori i ti dy hun ddigofaint, erbyn dydd digofaint, a datguddiad cyfiawn farn Duw; yr hwn a dâl i bob vn yn ol ei weithredoedd, Rhuf. 2.4. Y mae efe yma yn arfer y geiriau hyn, Trysori digo∣faint, i arwyddoccau, mai megis ac y mae 'r cy∣bydd yn trysori ac yn pentyrru arian ar arian beu∣nydd, i wneuthur ei bentwr yn fwy; felly y mae 'r pechadur diedifeiriol yn pentyrru pechod ar be∣chod; a Duw ynteu yn y gwrthwyneb, yn pen∣tyrru digofaint ar ddigofaint, a dialedd ar ddialedd, hyd oni bo llawn ei fesur i'w dalu iddynt yn y di∣wedd; Mesur ar fesur, fel y dyweid y prophwyd, i gael talu i ni adref, yn ôl lliosowgrwydd ein ffieidd dra, Es. 27.8. A hyn yr oedd Duw yn ei feddwl pan ddywedodd efe wrth Abraham, Na chyflawne∣sid otto anwiredd yr Amoriaid, Gen. 15.16. a he∣fyd yn llyfr y datguddiad wrth Joan yr Efangylwr, pan ddibennodd efe 'r llyfr hwnnw yn y modd hyn, Yr hwn sydd anghyfiawn, bydded anghyfiawn etto; a'r hwn sydd frwnt, bydded frwnt etto: canys wele,

Page 99

yr wyf yn dyfod ar frŷs, a'm gwobr sydd gyd a mi, i roddi i bob vn fel y byddo ei waith, Dat. 22.11, 12. Wrth y geiriau hyn y mae Duw yn arwyddoccau fod ei waith ef yn dioddef ac yn cyd-ddwyn a phe∣chaduriaid yn y byd yma, yn arwydd o'i dost gos∣pedigaeth ef yn y fuchedd a ddaw; yr hyn y mae 'r prophwyd Da ydd hefyd yn ei ddangos, lle mae efe wrth son am bechadur diofal yn dywedyd fel hyn: Yr Arglwydd a chwardd am ei ben ef, canys efe a wêl fod ei ddydd ef ar ddyfod, Psal. 37.13. Y dydd yma, yn ddiammau, yw 'r dydd cyfrif, ac amser cospedigaeth yn ôl y fuchedd hon; canys felly y mae Duw yn ei yspyssu ei hun yn helaethach mewn lle arall, yn y geiriau hyn, Titheu fab dyn, fel hyn y dyweid yr Arglwydd Dduw wrth dir Israel, Diwedd, diwedd a ddaeth ar bedair congl tir. Da∣eth yr awr hon ddiwedd arnat, ac mi a anfonaf. fy nig arnati; ac mi a th farnaf di yn ôl dy ffyrdd ac a roddaf dy holl ffieidd-dra arnat. A'm llygad ni'th arbed ti, ac ni thosturiaf; eithr rhoddaf dy ffyrdd arnat ti, a'th ffieidd-dra fydd yn dy ganol di, fel y gwypoch mai myfi yw'r Arglwydd. Fel hyn y dy∣weid yr Arglwydd, Drwg, drwg vnig, wele, a dda∣eth Y diwedd a ddaeth, daeth y diwedd, y mae 'n gwilio am danat; wele, efe a ddaeth. Daeth y bo∣regwaith attat; daeth y amser; ages yw'r dydd terfysg. Weithiau ar fyder y tywalldaf fy llid ar∣nal, ac y gorphennaf fy nig wrthyt; ac mi a'th far∣naf di yn ol dy ffyrdd, ac a roddf dy holl ffieidd-dra arnat. Am llygad ni th arbed, ac ni thosturiaf wrthyt; rhoddaf arnat yn ol dy ffyrdd, a'th ffieidd-dra fydd yn dy ganol di; a thi a gai wybod mai myfi 'r Arglwydd sydd yn taro. Hyd yn hyn y mae ymadrodd Duw ei hun, Ezec. 7.2. —

6. Wrth hynny, gan ein bod ni weithian yn de∣all yn gyffredinol, fod yn ddiau y bydd cospedigae∣thau

Page 100

Duw yn y byd a ddaw, yn fawr ac yn dôst i bob rhai a gwympo iddynt, ac o'r achos hynny y dywaid yr Apostol, Peth of nadwy yw syrthio yn nwy∣lo 'r Duw byw, Heb. 10.31. ystyriwn beth yn ne∣illduol pa fath boenau a chospedigaethau fyddant hwy.

7. Ac yn gynta' dim, am y lle sydd wedi ei ap∣pwyntio i fod cospedigaeth y rhai colledig ynddo, ac a elwir yn gyffredin Vffern, y mae yr Scrythur lân mewn amryw ieithoedd, yn arfer amryw en∣wau arno, a'r cwbl er mwyn dangos ac yspyssu mor dost fydd y poenau sydd raid eu dioddef yno. Yn lladin y gelwir ef INFERNƲS, hynny ydyw, lle odditanodd, neu tan y ddaiar; fel y mae y rhan fwyaf o'r hên dadau yn ei gyfieithu. Ond pa vn bynnag a wnel ai bod tan y ddaiar, ai na bo, siccr iawn ydyw ei fod yn lle mor wrthwyneb i'r nef ac y gall fod, a'r nef a ddywedir ei bod i fynu oddiarnodd. A'r henw yma a arferir i arwyddoc∣câu mor druan ac mor dostur y gwthir, ac y teflir y rhai damnedig i lawr i'w sathru tan draed Duw a dynion da byth bythoedd. Canys felly y dywaid yr Scrythur lâu. Wele ddydd yr Arglwydd yn dyfod, yn llosgi megis ffwrn; a'r holl feilchion, a holl weith∣wyr anwiredd a fyddant sofl. A chwychwi, y rhai ydych yn ofni fy enw i a fethrwch yr annuwolion, a hwy a fyddant yn lludw tan wadnau eich traed chwi. Mal. 4.1, 2 3.

8. Y gair Hebraeg y mae'r Scrythur lân yn ei arfer am vffern, yw 〈 in non-Latin alphabet 〉〈 in non-Latin alphabet 〉 Sheol, yr hyn a arwy∣ddocca bwll mawr neu geuffos ddofn, Esa. 14.15. Ac yn y deall hwnnw y gelwir hi hefyd yn llyfr y datguddiad, yn llynn mawr, neu yn gerwyn fawr digofaint Duw; A thra∣chefn y gelwir hi yn llynn yn llosgi gan dân a brwm∣stan.

Page 101

Datc. 14.19. ac 21.8. Yn y Groeg, y mae 'r Scrythur lân yn arfer o dri gair i arwyddoc∣cau yr vn lle, y cyntaf yw 〈 in non-Latin alphabet 〉〈 in non-Latin alphabet 〉 Hades, a arferir yn yr Efengyl, ac a arwyddoccaa medd Plutàrch, lle heb oleuni yntho. Yr ail yw 〈 in non-Latin alphabet 〉〈 in non-Latin alphabet 〉 Zophos, yr hwn a arwyddoccaa tywyllwch, Ac yn y deall hwnnw y geilw Job hi, Tir tywyllwch a chysgod angeu, Tir tywyllwch fel y fagddu, a chysgod angeu, a heb drefn; lle mae 'r goleuni fel y tywyllwch. Ac am hynny y gelwir hi yn yr Efengyl, Y tywy∣wylwch eithaf. Y trydydd enw Groeg yw 〈 in non-Latin alphabet 〉〈 in non-Latin alphabet 〉 Tartaros, yn Sainct Petr, 2 Pet. 2.4, 17. A'r gair hwnnw sydd yn cael ei dadogaeth o'r Ferb 〈 in non-Latin alphabet 〉〈 in non-Latin alphabet 〉 Tarasso, yr hyn a arwyddoccaa dychrynu ac ofni; a thrallodi, a blino, a molestu, ac aflonyddu; a'r he∣nw hwnnw sydd yn dangos fod yn vffern annrhefn erchyll ar boenau, fel y dywed Job am dani ei bod yn lle heb drefn, lle mae erchylldod, a dychryn tra∣gywyddol yn aros ac yn trigo. Job 10.21, 22.

9. Y gair Chaldaeg, yr hwn sydd hefyd yn yr Hebraeg, ac a adewir yn y Groeg, yw Gehenna, Mat. 5.22. yr hwn y mae Christ ei hun yn ei ar∣fer gyntaf, i arwyddoccau lle y rhai damnedig, fel y dywed S. Hierom ar y ddegfed bennod o Efengyl S. Matthew: A'r gair hwn a gyfansoddir o'r gair Gee, a'r gair Hinnom, ac a arwyddoccaa ddyffryn sydd gyfagos i Jerusalem, a elwir dyffryn Hinnom, lle byddai hên ddelw-addolwyr yr Iuddewon yn arfer o losgi eu plant eu hunain yn fyw er anrhydedd i'r cythraul, ac yn lleisio ag vtgyrn, ac a thympa∣uau ac ag offer cerdd vchel-sain eraill, tra fyddent yn eu llosgi, rhag clywed llais a llefain eu plant: Ac i'r lle hwnnw yn ol hynny y byddid arfer o fwrw pob brynti, a thom, a chelaneddau meirwon, a'r cyffelyb fudreddi. Ac y mae'n gyffelyb iawn i'n

Page 102

Iachawdr arfer y gair hwn am vffern, yn hytrach na geiriau eraill, er mwyn arwyddoccau y gofidus losgi sydd ar eneidiau yn y lle hwnnw, a'r llefain a'r gwaeddi tostur sydd gan y rhai a boenir yno; a'r lleisiau a'r germain erchyll anhawddgar sydd gan y rhai sy'n eu poeni, ac mor ddrewllyd, fudr, ffieidd-frwnt ydyw'r lle yma, yr hwn hefyd y mae'r Scrythur lan mewn lleoedd eraill yn dangos ei ddull tan enwau nadroedd, a seirph, a dreigiau, a gwiberod, ac aspiaid, ac yscorpionau, a phryfed gwenwynig eraill, fel y cewch chwi weled yn ol hyn.

10. Gan ddarfod i mi ddangos enwau'r lle hwn, ac wrth hynny dangos peth o'i naturiaeth a'i ddull; y mae 'n canlyn bod i ni ystyried pa fath boenau y mae dynion yn eu dioddef yno. Ac i ddangos hyn∣ny, rhaid i ni wybod, megis y mae nef ac vffern yn wrthwyneb i'w gilydd, a chwedi eu hordeinio i ddau fath ar bobl wrthwyneb i'w gilydd, ac am achosion gwrthwyneb iw gilydd; felly y mae iddynt naturiau, a chynneddfau, a swyddau gwrthwyneb i'w gilydd; megis beth bynnag a ddweder am dded∣wyddwch y naill, fe wasanaetha hynny yn hydda i ddangos gwrthwyneb annedwyddwch y llall. Me∣gis pan yw S. Paul yn dywedyd am y nef, Na we∣lodd llygad, ac na chlywodd clûst, ac na ddaeth i ga∣lon dŷn y pethau a ddarparodd Duw ir rhai di ca∣rant ef, 1 Cor. 2.9. wrth y geiriau hynny y gallwn ni wybod fod yn gymmaint poenau y rhai damne∣dig. Drachefn, pan yw 'r Scrythur lan yn dywe∣dyd fod dedwyddwch y rhai sy'n y nef yn dded∣wyddwch perffaith, yn cynnwys pob math ar dda∣ioni, fel nas gellir meddwl am yn fath ar hyfry∣dwch nad oes ganddynt hwy: rhaid i ni dybied yn y gwrthwyneb y bydd rhaid i drueni y rhai damne∣dig, fod yn drueni perffaith, yn cynnwys pob math

Page 103

ar ofid ac a all fod, heb vn yn eisiau: Fel megis ac y mae dedwyddwch y rhai duwiol yn anfeidrol ac yn gyffredinol, felly hefyd y mae gofid ac anghy∣flwr yr annuwiol yn anfeidrol ac yn gyffredinol. Yn y fuchedd hon nid yw yr holl drueni, a'r an∣ghyflwr a'r poenau sydd yn digwydd ar ddyn, ond neillduol, heb fod yn gyffredinol; fel y gwelwn ni fod vn dŷn a'i boen ac a'i ddolur yn ei lygaid, ac arall a'i ofid yn ei gefn: y rhai er nad ydynt ond poenau neillduol, ydynt er hynny weithiau mor dost, ac mor ddygn, ac nad yw bywyd dyn abl i'w gwrthwynebu, ac ni fynnei ddyn fod arno eu dioddef yn hir, er ynnill mwy nâ llawer o fydoedd ar vnwaith. Ond beth pettai ddŷn, dybygwch chwi, yn dioddef ei boeni ym mhob rhan o'i gorph ar vnwaith, yn ei ben, yn ei lygeid, yn ei dafod, yn ei ddannedd, yn ei wddf, yn ei gylla, yn ei fol, yn ei gefn, yn ei galon, yn ei ystlysau, yn ei for∣ddwydydd, yn ei goesau, yn ei draed, ac ym mhob cymmal yn ei gorph heb law hynny: beth pettai ddŷn, meddaf, yn dioddef ei boeni yn greulon, ac yn dwyn y dygn ofid ym mhob rhan o'i gorph ar vnwaith, heb na thorr, nac esmwythdra; pa ofid a thrueni a allai fod fwy nâ hyn, pa olwg dostu∣rach? Pettit ti yn gweled ci yn gorwedd yn yr heol yn dioddef y fath boenau, mia wn na ellit ti amgen nâ thosturio wrtho. Bellach ystyria ditheu pa ra∣goriaeth sydd rhwng dioddef y poenau hyn dros wythnos, ai dioddef yn dragywyddol byth; pa ragor sydd rhwng eu dioddef hwynt ar wely es∣mwyth, a'i dioddef hwynt ar yr alch boeth, neu yn y ffwrnais ferwedig: pa ragor sydd rhwng eu dioddef hwynt ymmysg caredigion a allai gyssuro, a diddanu, ac ymgeleddu dyn, a'i dioddef hwynt ym mysg cythreuliaid vffern, ni wnaent ond ei fflan∣gellu a'i boeni. Ystyria hyn, meddaf, ddarllen∣ydd

Page 104

hynaws, ac os byddai well genyt gymmeryd poen fawr, nâ dioddef y gofidiau hynny yn y by∣wyd yma; bydd fodlon i gymmeyd ychydig boen, yn hyttrach nâ dioddef y llaill yn y byd a ddaw.

11. Ond i ystyried y pethau hyn ym mhellach, nid yn vnig yr holl rannau hyn o'r corph, y rhai a fu megis yn arfau ac yn offer i wneuthur pechod, a boenir ar vnwaith, ond hefyd pob vn o'r synhwy∣rau oddi fewn ac oddi allan, a boenir hefyd a'i boe∣nau nailltuol ei hun, a'r poenau hynny yn wrthwy∣neb i'r peth oedd hoffaf, a difyrraf, a digrifaf gan bob vn o honynt yn y byd hwn. Megis pe dywedid fel hyn, y cai y llygaid gwammal hoywon eu poe∣ni a'i cospi, trwy weled golwg erchyll ofnadwy ar gythreuliaid; y clustiau tyner, a llais ac a drygnad gerwin yr ysprydion damnedig; yr aroglau mur∣sennaidd, a drewi ac a drygfawr gwenwynig brwm∣stan a brynti anesgorol; y chwaith a blas y genau mwythus blyssig, a dygn wangc a rhaib newyn a syched; a holl rannau 'r corph sydd a bywyd yn ddynt, a than llosgadwy. Drachefn, y tŷb a'r meddwl a boenir trwy ddeall a gwybod oddiwrth y poenau y mae yn eu dioddef, ac a orfydd arno eu dioddef; y côf trwy gofio a meddwl am y ples∣ser a'r difyrrwch a gafodd gynt; y deall trwy ysty∣ried y dedwyddwch a gollodd, a'r trueni a'r an∣ghyflwr a ddaeth iddo. O Gristion truan, pa beth a wnei di ynghanol cymmaint o ofidiau tost.

12. Peth rhyfedd, a pheth, medd vn o'r hên dadau, abl i yrru dŷn a fai a dim rheswm gantho, allan o'i bwyll; yw ystyried yr hyn a ddatguddiodd Duw i ni, yn yr Scrythur lan, ynghylch y poenau hyn; ac etto leied y mae dynion difraw 'r byd hwn yn eu hofni: Oblegid yn gyntaf, y mae nid yn vnig y rhesymmau a ddangoswyd o'r blaen, ond amryw bethau eraill a ellir eu hystyried yn yr Scrythur lan;

Page 105

yn dangos i ni mor gyffredinol, mor amryw, ac mor anfeidrol yw 'r poenau hynny. Megis lle y dywedir am y rhai damnedig, A hwy a boenir ddydd a nos, yn oes oesoedd, Dat. 20.10. A thra∣chefn wrth grybwyll am Babylon yn vffern, Rho∣ddwch iddi ofid a galar, Dat. 8.7. Wrth yr hyn yr arwyddoceir, bod yn arfer poenau vffern, nid er mwyn ceryddu, ond er mwyn poeni y rhai a ddêl yno. Ac y mae poenau, ie yn y byd hwn, cymmaint a chyn dosted ac y medro synhwyr dyn eu cyrhaedd a'i dyfeisio: Meddwl ditheu, o by∣ddai i Dduw roi cwbl o'i feddwl ar ddyfeisio poe∣nau (fel y gwnaeth efe am boenau vffern) pa fath boenau a fyddei y rhai hynny a ddyfeisiai ei ddoe∣thineb anfeidrol ef?

13. Os medrai efe wrth wneuthur elfen a def∣nydd y tan i'n comfforddi ni yma ar y ddaiar, ei wneuthur ef mor ofnadwy ac ydyw, fel na synnai ddŷn ddal ei law yn vnig ynddo tros vn diwrnod, er ynnill teyrnas; pa fath dan, dybygwch chwi, a barotoodd efe yn vffern, yr hwn a wnaed, nid i fod yn gomffordd, ond i boeni ac i gospi y rhai a ddêl iddo? Y mae llawer o ragor rhwng ein tan ni yma a'r tan hwnnw, ac am hynny gwir a ddywedodd yr hên dadau am dano, nad yw ein tan ni yma, ond megis eilun tan a baentid ar bared, neu ryw dan dychymmyg, wrth y tan hwnnw. Oblegid ein tan ni a wnaed, fel y dywedais, i fod yn gom∣ffordd, a'r llall i boeni. Y mae 'n rhai i'n tan ni gael ei borthi yn wastad a than-wydd, ac onid ê ef a ddiffydd, a'r tan hwnnw yn llosgi yn wastad, heb ei borthi. Y mae 'n tan ni yn rhoi goleuni, a hwnnw heb roi dim. Y mae 'n tan ni allan o'i le naturiol priodol, ac am hynny yn ceisio esgyn, ac yn ymgais ar i fyn, a myned ymaith oddiwrth ym ni, fel yr ydym ni yn gweled: ond y mae 'r tan

Page 106

hwnnw yn ei le naturiol ei hun, lle y gwnaed ef, ac am hynny y mae efe yn aros yno yn wastadol byth. Y mae ein tan ni yn yssu ac yn difa 'r defnydd a ro∣dder ynddo, ac felly ar frŷs yn diweddu 'r boen: a'r tân hwnnw yn poeni, ac heb ddifa 'r peth a fw∣rier ynddo, fel y byddo 'r boen yn dragywyddol. Ein tan ni a ddiffoddir a dŵr, ac a byla lawer os bydd oer yr awel o'i amgylch; ond nid oes dim a ddiffydd nac a byla 'r tan hwnnw. Yn ddiweddaf, mor ddieithr ac mor anghredadwy ydyw 'r tan hwnnw, ni allwn weled wrth eiriau 'n Iachawdr Christ, y rhai y mae efe mor fynych yn eu hadrodd, Yno y bydd wylofain, a rhincian dannedd, Mat. 13 42. Wylo sydd yn dyfod o achos y boethfa ar llosgi an∣esgorol sydd yn y tan hwnnw, oblegid bod y bo∣en wrth ddioddef berwi a llosgi yn peri gollwng dagrau yn gynt nag vn boen arall, fel y gellir gwe∣led pan roddo vn beth poeth yn ei enau yn ddisym∣mwth, neu pan losco ryw fan arall ar ei gorph. A rhingciau neu ysgyrnygu dannedd (fel y gwyr pawb) fydd yn dyod oddiwrth oerni ac anwyd mawr.

Meddwl ditheu pa fath dan yw hwn sydd yn pe∣ri gwres ac oerni anesgorol ar vnwaith. O Dduw galluog, mor ddieithr o Dduw ydwyt ti! Mor rhyfeddol ac mor ofnadwy wyt yn dy holl weithre∣doedd, a'th ddychymmygion! Mor haelionus wyt i'r, rhai sy yn dy garu ac yn dy wasanaethu di! Ac mor dost wyt i'r rhai sydd yn diystyru dy orchym∣mynion! A ddychymmygaist ti fodd i beri i'r rhai a fo yn gorwedd yn y pwll tan a brwmstan, gael eu poeni hefyd a dyn anwyd oer anesgorol! Pa syn∣wyr ddynol a feidr ddeall pa fodd y gallai hynny fod? Ond dy frnedigaethau di, o Arglwydd, dyfn∣der hed waelod ydynt; ac am hynay mi a adawaf hyn ar dy rag eliad di yn vnig ac a'th foliannaf yn dragywyddo! o'i blegid.

Page 107

14. Heb law 'r poenau cyffredinol sy raid i bawb ac sy yn y lle hwnnw eu dioddef, y mae 'r Scry∣thur lan yn dangos y bydd yno hefyd boenau neill∣duol i bob vn ar ei ben ei hun, yn ôl modd a maint pob pechod' ac anwiredd o'r eiddo pob pechadur. Oblegid i'r perwyl hynny y dywaid y prophwyd Esai wrth Dduw, Ti a'i berni fesur wrth fesur, Esa. 27.8. Ac y mae Duw yn dywedyd am dano ei hun, Mi a osodaf farn wrth linyn, a chyfi∣awnder wrth bwys, Es. 28.17. A hyn∣ny yw meddwl holl fygythion Duw ar bechadu∣riid lle y mae efe yn dywedyd y tal efe hyd adref, i bob vn o honynt yn ôl eu gweithredoedd bawb o'r neilldu, yn ol dychymmygion eu calonnau eu hunain, Datc. 20.12. Ac yn y deall yma y dywe∣dir yn llyfr y ddatguddiad am Babylon, yn ol ei thaflu i'r llynn tân a brwmstan, Cymmaint ac yr ymo∣goneddodd hi, ac y bu mewn moethau, y cymmaint a∣rall rhoddwch iddi o ofid a galar, Datc. 18.7. Am hynny o'r lle hwn y casglai 'r hên dadau sanctaidd, y bydd amrafael boenau am amrafael bechodau yn y lle hwnnw. Fel y mae rhagor rhwng pechod a phechod, felly y bydd amrafa∣el boenau; medd yr hên Ephraim: i'r godinebwr y bydd vn fath ar boenau ac i'r lleiddiad fath arll, ac i'r lleidr fath arall, ac i'r meddw fath arali, ac i'r celwyddog fath arall. Me∣gis pettid yn sathru 'r balch tan draed, i dalu iddo am ei falchder; a gorfod i'r glwth ddioddef newyn anghyfartal, ac i'r meddw ddwyn syched anesgorol, a chael o'r genau moethus ei lenwi â bwstl, ac o'r corph tyner ei serio a'i losgi â heiyrn poethion.

15. Y mae 'r Yspryd glan yn dangos y fath beth, lle y mae efe yn crybwyll yn yr Scrythurau am y gwr bydol annuwiol, Ei fwyd a dry yn ei

Page 108

ymysgaroedd: bustl aspiaid ydyw o'i fewn ef: efe a yngcodâ gyfoeth, ac efe a'i chwyda: Duw a'i tynn allan o i fol: efe a sugn wenwyn aspiaid; tafod gwiber a'i lladd ef. Efe a dâl hyd adref am yr hyn a wnaeth, ac ni ddifir ef, ond efe a gaiff ddioddef yn ol lliosowgrwydd ei ddychymmygion ei hun. Pob tywyllwch fydd cuddiedig yn ei ddirgeloedd ef: tan heb ei chwythu a'i hyssa ef. Dymma ran dyn an∣nuwiol gan Dduw, Job. 20.14. Wrth y geiriau hyn, a'i cyffelyb, y dangosir yn oleu, y caiff y hai bydol, bob vn ei naillduol a'i briodol boenau, am eu glythineb, am eu daintethion a'i ammheu∣thyn foethus-fwyd, am eu trais a'i traha, a'r cyffe∣lyb. A'r poenau hynny fyddant mwy nag y gall vn tafod daiarol eu hadrodd: fel y gellir gweled wrth y geiriau dirfing ofnadwy y mae'r Scrythur lân yn eu harfer yma i'w hyspyssu hwynt.

16. Heb law hyn, y mae 'r Scrythur lân yn dan∣gos i ni y bydd y poenau hynny nid yn vnig yn gy∣ffredinol i bawb, ac yn neillduol i bob vn, ac yn dôst; ond hefyd yn gyfyngder mawr, heb na help, na chymmorth, nac esmwythdra, na chyssur; lle y mae yn dywedyd, Y teflir ni yno yn rhwym ein traed a'n dwylo, Mat. 22.13. oblegid y mae yn beth comffordd yn y byd yma, allu bod yn abl i wrth∣wynebu ac i ymdrech â'n gofidiau; ond yno y bydd rhaid i ni orwedd yn llonydd, a dioddef pob peth a ddêl attom. A thrachefn, pan yw yn dywedyd, Caewyd y porth, Mat. 25.10. Hynny ydyw, Cae∣wyd porth pob trugaredd, a phob nawdd a phar∣dwn, a phob esmwythdra, a phob seibiant, a phob comffordd, o'r nef, o'r ddaiar, oddiwrth y creaw∣dr, ac oddiwrth y creduriaid: yn gymmaint ac nad oes dim cyssur i ddisgwyl am dano byth mwy: fel nad oes vn o ofidiau 'r byd hwn ar nas gellir dis∣gwyl

Page 109

peth comffordd ynddo. Y cyfyngder a'r cae∣thiwed yma hefyd a ddangosir yn eglur iawn yn y ddammeg ofnadwy am y glŵth goludog oedd yn vffern, yr hwn oedd wedi ei yrru ir cyfryw angen a chyfyngder, ac y dymunai gael o Lazarus fyned a throchi blaen ei fŷs mewn dŵr i oeri ei dafod ef, ynghanol y tân y mae efe yn dywedyd ei fod yntho; ac nis gallai gael ei ddymuniad. Luc. 16.24. Ni bu∣asei hynny yn fy nhŷb i, ond ymwared bychan iddo, pes gallasai gael yr hyn yr oedd yn ei geisio. Ond etto, i ddangos gaethed ydyw'r lle hwnnw, fe a'i nacca∣wyd ef o hynny. Oh, chwychwi y rhai sydd yn byw ymmŷsg golud pechadurus y byd hwn, ysty∣riwch, pettei heb ddim ond yr vn esampl yma o doster Duw, ac ofnwch. Yr oedd y gwr hwn mewn rhwysg, a rhodres mawr ychydig o'r blaen, ac heb ystyried gronyn ar y mawr ofid ar dygn drueni yr oedd Lazarus ynddo: ond yr awrhon efe a roddai fil o'r byd, pettynt ar ei helw, am vn defnyn o ddwr i oeri ei dafod. Pa beth lai na hynny a allai ddŷn ei ofyn? Ni feiddiai efe ddymuno cael ei wa∣red allan oddi yno, na chael toli ac esmwythau ar ei boenau, na gofyn llestraid mawr o ddŵr i gom∣fforddi ei holl gorph, ond yn vnig cymmaint ac a lynai wrth ben bŷs gwr i oeri ei dafod. Beth am yr eisiau y gyrrasid y goludog hwn iddo? Beth am y grym a'r rhinwedd a dybiai ef ei fod mewn vn def∣nyn o ddwr? Ond tostur oedd y gyfnewid yma oedd ar ei dafod ef, yr hwn o'r blaen oedd gynnefin a cha∣el ei wasanaethu a phob math ar ddiod beraidd? Oh na fedrai'r naill ddyn gymmeryd esampl wrth y llall! Naill ai mae hyn yn wir, ai mae Mab Duw yn gelwyddog. Ac yno, pa fath ddynion ydym ni, a ninnau yn ein gweled ein hunain mewn perygl o sy∣thio i'r cyfryw drueni, na byddwn ddyfalach i ge∣sio ei ochel?

Page 110

17. O achos bod Duw mor gaeth ac mor dôst, yn naccau pob cyssur a chomffordd yn y dydd hwn∣nw, y mae 'r Scrythur lan yn dywedyd y bydd dy∣nion yr amser hwnnw y cynddeiriogi, yn ammhw∣yllo, yn gwallgofi, yn anuioddefgar aruthr, yn ca∣blu Duw, yn melldigo dydd eu ganedigaeth, yn cnoi en tafodau gan ofid, ac yn deisyf ar y creigiau a'r mynyddoedd syrthio arnynt, i ddiweddu eu poe∣nau hwynt. Dat. 16.10. Dat. 13. Dat. 6.16, 17.

18. Bellach os chwanegwn at hyn, dragywy∣ddoldeb ac annarfodedig bara y poenau hynny: ni a gawn weled fod hynny yn chwanegu llawer ar y peth. Oblegid yn y byd hwn nid oes poenau cym∣maint, ac nad yw amser naill ai yn eu diweddu ai yn eu lleihau. Oblegid naill ai fe fydd marw y poenwr neu'r hwn a boener, neu fe ddigwydd rhyw achlysur arall, a newidia neu a eswmytha 'r boen. Ond yno nid oes dim cyfryw obaith, na dim o'r fath gomffordd, ond Hwy a boenir medd yr Scrythur lan, ddydd a nos yn oes oesoedd yn y llynn sydd yn llosgi gan dan abrwmstan, Dat. 20.10. Yr hyd y byddo Duw yn Dduw, yr hyd hynny y cant hwythau eu llosgi yno; ac ni bydd marw na'r poe∣nwr, na'r hwn a boener, ond byw fyddant eill dau yn dragywydd, er mwyn cael o'r rhai a boener fod mewn tragwyddol ofid a thrueni.

19. Oh, medd vn o'r tadau gynt mewn myfyr∣dod duwiol, pes gwyddei bechadur damnedig yn vffern, na byddai raid iddo ddioddef y poenau hyn∣ny yno, ond cynnifer mil o flynyddoedd ac yw rhi∣fedi tywod y mor neu'r blewynnau glaswellt ar y ddaiar; neu ond cynnifer mil fyrrdiwn o oesoedd ac sydd o rifedi creaduriaid yn y nef ac yn y ddaiar, fe fyddei lawen dros ben gantho hynny; oblegid efe a ymgyssurai wrth feddwl y byddei ryw amser ddiben ar ei boenau. Ond yn awr, medd y gwr

Page 111

da hwnnw, y mae'r gair yma Byth, yn torri ei ga∣lon ef pan feddylio efe am dano; a meddwl, wedi y darpho iddo ddioddef yno fil can myrddiwn cŷd a holl oesoedd y byd, fod cymmaint rhyngtho a cha∣el diben ar ei boenau, ac oedd y dydd cyntaf yr a∣eth efe i mewn i'r poenau, Ystyria, Ghristion da, mor hir y tybit ti fod vn awr, er nas gorfyddei ar∣nat ddal dy law mewn tan a brwmstan ddim ond yr vn awr honno. Ni a welwn, os bydd gwr yn glaf iawn, er ei fod yn gorwedd ar wely esmwyth, hŷd fydd gantho vn noswaith. Efe a ymdrŷ ac a ym∣dreigla o ystlys i ystlys, tan gyfri 'r clocc, a rhifo pob awr fel yr êl heibio, ac y mae yn tybieid fod pob awr cyhyd a diwrnod cyfan. A phe dywedai vn wrtho y byddei raid iddo ddiodde'r boen honno ddim ond saith mlynedd ar vntu; fe fyddei agos i anobeithio gan wir ofid. Ac os yw vn noswaith mor hir ac mor faith gan vn a fo'n gorwedd ar wely es∣mwyth da, er na bo ond tippyn o grŷd yn ei flino; pa beth fydd gantho orwedd mewn tân a brwmstan, pan fyddo efe'n gwybod yn sicer na bydd diben byth ar ei boenau ef? Oh, anwyl frawd, y mae digo∣nedd o'r vn peth yn wastadol, yn ddiflas; hyd yn oed o bethau nid ydynt ddrwglo honynt eu hunain. Pettit ti yn rhwym i fwytta yr vn bwyd yn vnig bob amser, ti a'i diflesit o'r diwedd. Pettit ti yn rhw∣ym i eistedd yn yr vn lle tra fait fyw, heb symmud, fe fyddei flin gennyt hynny, er na byddei neb yn dy gospi yn y lle hwnnw. Pa beth wrth hynny fydd gorwedd yn dragywyddol, byth heb ddiwedd, mewn poenau o'r fath fwyaf ac a ellid eu dychym∣myg? Ai possibl byth ei ddioddef? Pa synhwyr, wrth hynny, a pha ddeall, sydd yn y rhai nid ydynt yn gwneuthur mwy o gyfrif o'r pethau hyn nag y maent?

Page 112

20. Mi a allwn yma ddywedyd vn peth etto y mae'r Scrythur lan hefyd yn ei ddangos, sef yw hyn∣ny, y bydd y poenau hyn mewn tywyllwch, yr hwn o hono ei hun sydd beth ofnadwy, i naturiaeth dŷn. Oblegid nid oes wr yn y byd cyn ddewred, a phe bai efe ei hun, yn noeth mewn tywyllwch an∣esgorol, ac yn clywed llais a nad ysprydion yn dy∣fod tu acatto, nad ofnai, er na roent vn dyrnod iddo ar ei gorph. Mi allwn hefyd ddywedyd vn peth arall, y mae'r prophwyd yn ei adrodd, hynny yw, y bydd Duw a dynion da yn chwerthin am eu pen∣nau hwy y dwthwn hwnnw, yr hyn sydd ofid nid bychan. Oblegid, fel y mae yn beth comffordd i ddyn yn ei adfyd, gael cwyno iddo gan vn o'i ga∣redigion, felly y mae cael chwerthin am ei ben, yn enwedig gan yr hwn yn vnig a allai help iddo, yn chwanegu yn fawr aruthr ar ei adfyd ef. Dihar. 1.26.

21. Ac etto nid yw cwbl ac a ddywedais i, ond y naill ran yn vnig o gospedigaeth y rhai damnedig, yr hon a eilw y dyfeinwyr paena sensus poen dioddef, hynny ydyw, y boen a rodder ar y corph ar enaid ei dioddef. Ond heb law hyn y mae rhan arall o'r gospedigaeth yma, a elwir, paena damni, poen coll∣ed, yr hou fel y tybia yr holl rai dysgedig, nid ydyw ddim llai nâ'r llall, onid ydyw fwy. A hon yw'r golled anfeidrol y mae'r dyn damnedig yn ei gael wrth ei gau byth bythoedd allan o olwg ei wneuthurwr, ac allan o'i ogoniant ef. A chan fod y golwg hwnnw yn ddigon o hono ei hun yn vnig, i wnuthur yn happus ac yn ddedwydd bawb ac a gynnhwyser i'w fwynhau, y mae 'n anghenrhaid bod yn drueni ac yn ofid blin i'r rhai damnedig, fod mewn colled am y golwg hwnnw yn dragy∣wydd. Ac am hynny dymma'r bennaf, a'r gyntaf o'r holl boenau a'r cospedigaethau a roir arnynt:

Page 113

Tynner ymaith yr annuwiol i vffern, fel na welo ogo∣niant Duw. Es. 26. Acy mae'r golled hon yn cynnwys ynddi bob math a'r golled arall; megis colled am ddedwyddwch tragywyddol, fel y dywedais, a lla∣wenydd tragywyddol, a chymdeichas yr angylion a'r cyffelyb: a'r colledion hynny, pan ystyrio y rhai damnedig hwynt, megis nad yw bossibl iddynt nad ystyriont hwynt yn wastadol, y maent yn cael mwy o ofid a thristwch oddiwrth hynny, fel y dy∣weid y dyfeinwyr, nag oddiwrth yr holl boenau y maent yn eu dioddef heb law hynny.

22. Ac at hyn y perthyn prŷf y gydwybod, a elwir felly yn yr Scrythur lan, Mar. 9.44. oble∣gid fal y mae'r pryf yn bwytta ac yn yssu'r coed 〈◊〉〈◊〉 mae ynddo, felly y bydd ymatgof ein cydwybod ninnau o'n mewn, yn ein cnoi ac yn ein poeni ni yn wastadol. A'r pryf a'r ymatgof a'r ymgno hwn∣nw a ddwg a'r gof i ni yr holl foddion a'r achosion a'n dug ni i'r dygn ofid hwnnw: megis ein difrawch a'n esceulusdra, a wnaeth i ni golli'r dedwyddwch y mae eraill yn ei fwynhau. Ac with ystyried pob vn o'r pethau hyn, y pryf hwnnw a'n brath ac a'n eny ni yn ddwys ac yn dostlym hyd at y golon. Me∣gis pan osodo o'n blaen ni yr holl achosion a roed i ni i ochel y gofid a'r trueni y byddwn ni yr amser hwnnw ynddo, ac i n dwyn ni i'r gogoniant a golla∣som; ac mor hawdd a fuasei i ni wneuthur hynny: ac mor gos fuom ni yn fynych i roi ein bryd ar ei wneuthur; ac mor anraslon y bwriasom ni heibio 'r meddylfryd hwnnw; ac mor fynych y dywedpwyd i ni am y perygl yma, ac etto leied oedd ein gofal a'n hofn ni am ei ochel: mor ofer ac mor orwag oedd y coeg-bethan bydol y treuliasom ni ein ham∣ser ynddynt, ac y collasom y nef o'i plegid, ac y cwympasom i'r trueni anesgorol hwnnw; ef a dden∣gy's i ni faint yw parch a goruchafiaeth y rhai a gy∣frifem

Page 114

ni yn ffyliaid yn y byd hwn; ac fel yr ae∣thom ni yr awrhon yn ffyliaid, ac y chwerddir am ein pennau er doethed gynt y tybiem ein bod. Pan roddo ein cydwybod, meddaf, y pethau hyn, a mil o bethau eraill ger ein bronnau ni, hwy a wnant i ni ofid a thristwch a dolur anfeidrol; am fod yn rhy∣hwyr bellach eu gwellhau. A'r gofid a'r dolur hwn, a elwir pryf, neu ymgno, neu ymatgof ein cydwy∣bod ni ein hunain; ac fe bair y pryf hwnnw, a'r ymgno, a'r ymatgof, i ddynion wylo ac vdo mwy nag a bair vn o'r poenau eraill, pan ystyriont mor esgeulus, ac mor ynfyd, ac mor ofer fuant hwy i ddyfod i'r poenau anesgorol hynny, ac nad oes mwy bellach amser iddynt i wellhau eu camsynuied a'i ham∣ryfusedd.

23. Yna y daw'r amser i'r dynion hynny i wylo ac i gwynfan, ond ni bydd ond ofer iddynt: Yna y dechreuant ymddigio; ac ymgyffroi, a rhyfeddu wrthynt eu hunain, a dywedyd, pa le'r oedd ein synhwyr ni? pa le'r oedd ein deall ni? pa le'r oedd ein cof ni pan ganlynem oferedd a gorwagedd a diy∣styru'r pethau hyn? Dyma ymddiddanion pechadu∣riaid yn vffern medd yr Scrythur, Doeth. 5.8. Pa fudd sydd i ni o'n balchder? a pha les a wnaeth gol∣ud a ffrost i ni? Y pethau hyn oll aethant ymaith fel cysgod, ac fel cennad yn rhedeg: fel llong yn myned trwy'r dwr tonnog, yr hon ni ellir cael ei hôl, wedi i∣ddi fyned heibio, na'r llwybr yr aeth hi trwy'r tonnau, &c. Nyni a ymstinasom yn ffyrdd anwiredd a di∣stryw, end ffordd yr Arglwydd nid adnabuom. Hyn, meddaf, a fydd accen dragywyddol y gydwybod ddamneig yn vffern, gan y pryf hwnnw yn ei chnoi: sef edifeirwch tragywyddol, heb lês o hono. A hynny a'i dwg ef i'r fath anobaith, medd yr Scry∣thur, ac yr ymgynddeirioga efe yn ei erbyn ei hun, ac y rhwyga ei gnawd ei hun, ac y dryllia, pettei

Page 115

bossibl, ei enaid ei hun, ac y gwahodd y cythreu∣liaid i'w boeni gan ddarfod iddo ymddwyn mor de∣byg i anifail yn y byd hwn, ac na wnaeth na dar∣bod na gofalu am y peth pennaf yma, a ddylesid, mewn gwirionedd, feddwl am dano o flaen dim. Oh na chai efe vn hoedl etto, gydâ'r hon a gafodd, i fyw yn y byd, pa fodd, meddwchwi, y treuliai efe yr hoedl honno: Beth mor ddiwyd a fyddai? Beth am dosted fyddai ei fuchedd? Ond ni all hyn∣ny fod: nyni yn vnig y rhai sy fyw sy a'r amser hwnnw gennym, pes meddyliem am dano, a rhoi ein bryd ar wneuthur y goreu o hono. Cyn nem∣mor o ddyddiau, ni a fyddwn ninnau wedi colli'r am∣ser hwnnw, ac nis gallwn ei gael byth drachefn; na allwn, gael vn awr o hono, pe rhoem ni fil o'r holl fyd er ei chael, fel y rhoei y rhai sy wedi myned i golledigaeth eisus, pes gellynt ei chael. Treuliwn ninnau yr amser presennol a roed i ni, fel pan elom ni oddi yma, na bo rhaid i ni ddymuno ein bod yma drachefn.

24. Dyma 'r amser y gallwn ni ochel y cwbl, dyma yr amser y gallwn ni ein diogelu ein hunain rhag yr holl beryglon hynny: Dymma 'r amser, meddaf, os ni a rydd ein bryd allan o law. Oblegid ni wyddom ni beth a ddaw o honom ni yforu: fe allai y bydd ein calonnau ni yforu cyn galetted, ac mor ddiofal am y pethau hyn, ac y buant o'r blaen, ac fel yr oedd calon PHARAO, pan ymadawai MOESEN ag ef: Oh na roesai efe ei fryd ar wneuthur gorchymmyn Duw, tra fyddai MOE∣SEN gvdag ef, mor ddedwydd, ac mor happus fuasai ef! Pe cymmerasai y glwth goludog ei amser, tra oedd mewn hawddfyd, mor fendigedig a fuasai efe! Fe a gawsai rybudd o'r blaen (fel yr ydym nin∣nau yn cael yr awrhon) o'r trueni a ddeuai arno, gan Foesen a'r prophwydi, fel y mae Christ yn dangos,

Page 116

ond ni fynnai efe wrando. Ond yn ol hynny yr oedd cyn rhyfedded gantho faint fuasei ei ynfydrw∣ydd, ac y mynnai efe gael danfon Lazarus o fyn∣wes Abraham, at ei frodyr, i'w rhybuddio hwy o'r afrwydd deb a gawsai efe. Luc. 16. Ond A∣braham a ddywedodd wrtho nad oedd ond seithug iddo geisio hynny, oblegid na choeliai ei froder ef mo Lazarus, ond yn hyttrach ei erlid megis dyn cel∣wyddog, ac vn a fai 'n rhoi enllib i'w brawd anrhy∣deddus hwy a fuasai farw, pe daethai efe a dywedyd iddynt hwy fod eu brawd yn y fath boenau. Ac felly yn siccr y gwnai annuwolion y byd hwn yr awrhon, pe deuai un a dywedyd iddynt fod eu ta∣dau, neu eu mammau, neu eu ceraint hwy yn golle∣dig yn vffern am y bai a'r bai; ac attolwg arnynt hwythau am edrych yn well at eu buchedd, rhag iddynt hwythau wrth ddyfod i'r vn lle, chwanegu ar boenau eu caredigion, am eu bod yn beth achos o'i colledigaeth hwy, (oblegid dyma'r vnig achos pa ham y mae y rhai damnedig yn gofalu tros y rhai byw, ac nid am ddim cariad sy ganthynt tu ac attynt hwy) pe deuai, meddaf, y fath gennad o vffern at bechaduriaid hoywon y byd hwn, oni chwarddent hwy am ei ben ef, dybygwch chwi? Onid erlidi∣ent hwy yn dôst y neb a ddygai iddynt y fath chwedl? Pa beth wrth hynny a ddichon Duw ei ddychymmyg, i geisio gwneuthur y rhai hyn yn gadwedig! Pa ffordd a gymmer efe, a pha foddion, gan na thyc∣cia iddynt na rhybudd, nac esampl rhai eraill, na bygythiau, na chynghorion? Ni a wyddom, neu ni a allem wybod, os nyni ni fydd gwell ein bu∣chedd nag ydyw, nas gallwn ni fod yn gadwedig. Ni a wyddom, neu a ddylem wybod fyned llawer i ddamnedigaeth am lai o achosion. Ni a wyddom, ac ni allwn ni nas gwyddom, fod yn rhaid i ni farw ar fyrder, a chael y pethau a gawsant hwythau; a

Page 117

ninnau yn byw fel hwynt hwy, neu yn waeth. Ni a welwn wrth a ddywetpwyd fod y poenau sydd yn ein haros ni am hynny yn anesgorol, ac er hynny yn dragywyddol. Yr ydym ni yn cyfaddef eu bod hwy yn druain ac yn annedwydd iawn, y rhai er mwyn difyrrwch neu ynnill bydol, sydd eisus wedi syrthio i'r poenau hynny. Pa beth wrth hynny a allai ein llestair ni i roi ein bryd ar geisio diangc oddi∣wrth bob peth a'n rhwystro; Ac i'n gwared ein hu∣nain allan o rwymau a chadwynau 'r byd hwn, y rhai sy 'n rhwystro i ni wasanaethu Duw mor gywir ac y dylem, ac a chymmaint zel ac y dylem? Pa'm y cysgem ni vn noswaith mewn pechod, gan nas gwyddom ni nad y nos honno yw 'r nos ddiwethaf o'n hoedl ni, yr hon a dyrr oddiwrthym ni bob go∣baith am yr amser sydd yn dyfod?

25. Dyro dy fryd, gan hynny, fy mrawd an∣wyl, ar wasanaethu Duw, od oes dim synhwyr gen∣nyt, ac ymryddhaa oddiwrth y perygl hwn, tra fo Duw yn foddlon i'th dderbyn di, ac yn dy annog di drwy 'r moddion hyn, fel y gwnaeth efe â'r golu∣dog trwy Foesen a'r prophwydi, tra oedd yn ei hawddfyd. Bydded ei esampl ef yn fynych ger bron dy lygaid di, ac ystyria hi o ddifrif, a hi a wna i ti fawr lês. Y mae Duw yn Dduw rhyfe∣ddol, ac i ddangos ei ddioddefgarwch a'i anfeidrol ddaioni, y mae efe yn ymbil ac yn ymnhêdd â ni yn y byd hwn, ac yn ymgais â ni, ac yn ei osod ei hun megis wrth ein traed ni, i geisio ein cynnhyrfu ni a'n cyffroi er twrn da ini ein hunain, i geisio ein hynnill ni, a'n tynnu ni, i'n cadw rhag colledigaeth. Ond yn ôl y fuchedd hon y mae efe yn gwneuthur yn y gwrthwyneb i hynny; y mae efe yn troi 'r ddalen, ac yn newidio ei leferydd: Yn lle oen, y mae efe yn myned yn llew i r annuwiol; ac yn lle bod yn Iachawdr iddynt, y mae efe yn myned yn

Page 118

gosbwr tôst arnynt. Pa beth mwy a ellir ei ddy∣wedyd neu i wneuthur i'n cyffroi ni? Y neb a gaffo rybudd, ac a fo 'n gweled ei berygl ei hun ger bron ei lygaid, ac ni chyffrôo arno, ac ni bo dyfalach ac ofnusach o hynny, ond yn hyttrach cyrchu at ei be∣rygl a syrthio ynddo: er gallu tosturio wrth y cy∣fryw vn, diau na ellir help iddo mewn vn modd; ac ynteu yn ei wneuthur ei hun yn anghymmwys ac yn anaddas o bob ymwared a aller ei geisio iddo.

PEN. X. Am y gwobr a'r tal anrhydeddus ahaelionus, a osodir o flaen pawb a wasanaetho Dduw yn gywir.

FE fyddai ddigon y rhesymmau, a'r ystyriaethau a osodwyd i lawr yn y bennod o'r blaen, i gy∣ffroi calon vn Christion a fai a rheswm ynddo, i roi ei fryd ar wasanaethu Duw, yr hyn yr wyf yn cryb∣wll am dano, ac yn chwennych yn gymmaint dy berswadio di i'w wneuthur, ddarllennydd hawdd∣gar, a hynny er llês i ti dy hun. Ond am nad yw calonnau pawb o'r vn ddull yn hyn o beth, ac na thynnir ac na chynnhyrfir pawb trwy 'r vn moddi∣on; fy amcan ydyw yma ystyried pa lês a pha yn∣nill a ddaw i ni oddiwrth hynny, o herwydd bod pob dyn gan mwyaf wrth naturiaeth yn tynnu at ei lês ai elw. Ac am hynny yr ydwyf yn gobeithio y bydd mwy o rym yn hynny tu ac at ddwyn i ben y peth yr ydym yn ei geisio, nag mewn dim arall

Page 119

ac a ddywetpwyd etto. Fy meddwl gan hynny yw traethu am y llês ar elw sydd yn dyfod o wasanaethu Duw, a'r ynnill a geir oddiwrth hynny, a'r taledi∣gaeth da, a'r gwobr helaeth haelionus a rydd Duw i'w weision, yn hyttrach nag un meistr arall, ar a all∣er ei wasanaethu. Ac er bod ofn y gospedigaeth a gawn ni, onis gwasanaethwn ef, yn ddigon er ein gyrru ni i roi ein bryd ar ei wasanaethu ef; a bod y doniau anfeidrol a gawsom ni gantho ef, yn ein denu ac yn ein gwahodd ni i wneuthur hynny, er mwyn dangos ein bod yn ddiolchgar iddo (ac am y ddeubeth hynny y crybwyllwyd peth o'r blaen:) etto, ddarllennydd daionus, mi a fyddaf fodlon, i roi i ti hyn o rydd-did, os myfi nis dangosaf fod y peth yr wyf yn ei ofyn ar dy law di, yn well ar dy lês di ac yn fuddiolach i ti, nâ dim arall yn y byd ar a ellych di feddwl am dano; ni cheisiaf mo'th rwymo di i'w wneuthur, er dim ac a ddywedais i etto i'r perwyl hwnnw. Oblegid, fel y mae Duw ym mhob peth arall yn Dduw helaeth er fawredd, yn llawn haelioni, a chymmwynasgarwch, a bren∣hinol haelder; felly y mae efe yn y peth yma, yn anad vn peth arall. Oblegid er nad yw dim a wne∣lom ni, neu a allom ei wneuthur, ond vnion ddyled arnom iddo ef, ac heb heuddu dim o hono ei hun; etto o'i fawr ddaionus haelioni, nid yw efe yn ga∣dael vn tippyn o'n gwasanaeth ni iddo ef, heb ei ob∣rwyo'n helaeth, hyd yn oed phiolaid o ddwfr oer. Mat. 10.42.

2. Fe a orchymmynnodd Duw i Abraham aber∣thu iddo ef ei vnig fab Isaac, yr hwn yr oedd efe yn ei garu yn gymmaint: ond pan oedd efe yn ba∣rod i wneuthur hynny, Duw a ddywedodd wrtho, Na ddod dy law as y llangc, ac na wna ddim iddo; digon gennyfi weled dy vfydd dod di, O herwydd mi awn weithian dy fod di yn ofni uw, gan nad a••••e∣liaist

Page 120

dy fab, oddiwrthyfi. Ac am nas gwrthodaist oi wneuthur, J mi fy hun y tyngais, medd yr Ar∣glwydd, y bendithiafi dy di, ac yr amlhâaf dy hâd di, fel sêr y nefoedd, ac fel y tywod sydd ar lan y môr; ac yn eu mysg hwy y bydd vn yn Grist, ac yn lachawdr i'r byd. Gen. 22.12. Ond têg oedd y taliad yma am gyn lleied o boen? Y brenhin Dafydd a ddechrenodd ryw ddiwrnod feddwl yntho ei hun, ei fod ef yn awr yn preswylio mewn tŷ o ged∣rwydd, a bod arch Duw yn aros mewn pabell o fewn y cortynnau: am hynny efe a roes ei fryd ar adeila∣du tŷ i'r Arch. Ac fe fu 'r meddwl a'r amcan hwn∣nw mor cymmeradwy gan Dduw, ac y gyrrodd efe 'r prophwyd Nathan atto ef yn y man, i wrthod gantho hynny, ac etto i ddywedyd iddo, yn gym∣maint ac iddo roi ei fryd ar y peth, y gwnai 'r Ar∣glwydd iddo ef dŷ neu yn hyttrach frenhiniaeth, iddo ef ac i'w heppil ar ei ôl, yr hon a barha ai byth ac ni thynnai efe byth ei drugaredd oddiwrchi, pa bechodau ac anwireddau bynnag a wnaent hwy, 2 Sam. 7.1.11, 15. Psal. 89.29. A'r addewid yma a welwn ni ei fod yr awrhon wedi ei gyflawni yn E∣glwys Grist, yr hon a gyfododd o'r tylwyth hynny. I ba beth y dangoswn i lawer o'r fath esamplau? Y mae Christ ei hun yn rhoi i ni addysg gyffredinol o hyn, wrth alw 'r gweithwyr, a thalu iddynt eu cyflog mor vnion; a phan yw yn dywedyd am da∣no ei hun, Wele fi yn dyfod ar frys, a'm gwobr sydd gydâ mi, i dalu i bawb yn ôl ei weithredoedd, Mat. 20. Datc. 22.12. Wrth yr hyn y mae'n amlwg, nad yw Duw yn gadael poen yn y byd a gymme∣rer yn ei wasanaeth ef heb dalu yn dda am dani. Ac er ei fod ef (fel y dangosir yn ôl hyn mewn lle cyfaddas) yn talu yn y byd yma hefyd, a hynny yn helaeth ddigon; etto (fel y gwelir wrth y ddwy e∣sampl hynny) y mae efe yn oedi ei daledigaeth pen∣naf,

Page 121

hyd oni ddêl efe ei hun yn niwedd y dydd, hynny ydyw, yn ôl y fuchedd hon, yn adgyfodiad y rhai cyfiawn, fel y dyweid efe ei hun mewn man arall, Luc. 14 14.

3. Ac am y taledigaeth ymma sydd ynghadw i wasanaethwyr Duw yn y fuchedd a ddaw, y mae i ni yr awr hon ystyried, pa beth ydyw, a pha fath ar beth ydyw, a pha vn a wna a i bod yn talu yr llafur a'r boen y mae gwasanaeth Duw yn ei ofyn, ai nad ydyw. Ac yn gynta' dim, os ni a gredwn yr Scrythur lân sydd yn galw y taledigaeth hwnnw yn Deyrnas, ac yn Deyrnas nefol, ac yn Deyrnas dragywyddol, ac yn Deyrnas fendigedig: rhaid i ni gyfaddef yn ddiau fod y tâl a'r gwobr hwnnw yn rhyfeddol o faint, Mat. 25.34. 2 Pet. 1.11. Ob∣legid nid ydyw Tywysogion bydol yn arfer o roi teyrnasoedd i'w gwasanaethwyr yn dâl am eu llafur a'i gwasanaeth. A phettynt hwy yn eu rhoi, neu yn abl i'w rhoi; etto ni allai y rhai a roent hwy fod yn deyrnasoedd nefol, nac yn rhai tragywyddol, nac yn rhai bendigedig: Yn ail os rhown goel ar yr hyn a ddyweid S. Paul am y taledigaeth hwnnw, Na welodd llygad, ac na chlywodd clust, ac na dda∣eth i galon dyn, faint ydyw, I Cor. 2.9. Ps. 31.19. ac y mae 'n rhaid i ni wrth hynny dybied yn fwy o hono, oblegid i ni weled llawer o bethau rhyfedd yn ein dyddiau; a chlywed pethau rhyfeddach, ac y gallwn feddwl am bethau rhyfeddol iawn ac anfei∣drol. Pa fodd wrth hynny y gallwn ni ddyfod i ddeall faint a gwerthfawroceed yw 'r taledigaeth yma? diau na all vn tafod ar a grewyd, na thafodau dynion nac angylion, ei adrodd, nac vn meddwl er dderbyn, nac vn deall ei gyrhaeddyd a'i amgyffred. Fe a ddywedodd Christ ei hun, Na's gwyr neb beth ydyw, ond yr hwn sydd yn ei dderbyn: ac am hynny y mae efe yn yr vn man yn ei alw'r Manna cuddi∣edig,

Page 122

edig, Datc. 2.17. Er hynny, fel y dywedir am ryw Geometrydd da, yr hwn pan gafodd hŷd tro∣ed Hercules ar fryn Olympus, a fesurodd ac a dyn∣nodd bortreiad ei holl gorph ef, wrth fesur ei dro∣ed: felly y gallwn ninnau wrth ryw bethau sy wedi ei gosod ar lawr yn yr Scrythur lân, ac wrth ryw bethau eraill sydd yn cyttuno â hi, fwrw amcan beth yw y taledigaeth hwnnw, er na bo 'r amcan ddim tebyg i'r peth ei hun.

4. Mi a ddangosais o'r blaen fel y mae 'r Scry∣thur lân yn galw 'r taledigaeth hwnnw yn deyrnas nefol, dragywyddol, fendigedig: wrth yr hyn yr arwyddocceir, y bydd rhaid i bawb a gynnhwyser yno fod yn frenhinoedd. I'r vn defnydd y gelwir ef mewn lleoedd eraill yn goron gogoniant, yn or∣sedd mawrhydi, yn baradwys, yn lle o hyfrydwch, yn fywyd tragywyddol, Datc. 2.10. Darc. 3.21. Y mae S. Joan Efangylwr; pan oedd wedi ei ddeol, a'i yrru allan o'i wlad, wedi iddo drwy ryw ragor∣fraint gael peth gwybodeath a phrawf, o'r lle hwn∣nw; yn cymmeryd arno ei bortreiadu, trwy ei gyffelybu i ddinas; a dangos fod yr holl ddinas o aur pûr, a chaer fawr vehel iddi o'r maen gwerth∣fawr, a elwir Jaspis; a bod i'r gaer hon ddeuddeg sail, wedi eu gwneu∣thur o ddeuddeg amryw fain gwerth∣fawr, y rhai y mae efe yno yn eu henwi: a deuddeg porth, o ddeuddeg maen gwerth∣fawr a elwid Margarit; ac ym mhob porth yr oedd vn Margarit cyfan: a heol y ddinas oedd we∣di ei phalmantu ag aur pùr, yn gymmysgedig o ber∣lau, ac o fain gwerthfawr: a goleuni 'r ddinas hon∣no yw disgleirdeb, a llewyrch Christ ei hun, yn ei∣stedd yn ei chanol hi: ac o'i orsedd-faingc ef y doei afon o ddwfr y bywyd, disglair fel y grisial, i lonnychu'r ddinas: ac ar ddeutu glau yr afon y

Page 123

tyfai bren y bywyd, yn dwyn ffrwyth yn wastadol ddibaid: ac nid oedd dim nos yn y ddinas honno, a dim halogedig nid ai i mewn iddi: ond y rhai sydd o'i mewn hi a deyrnasant ynddi, medd efe, byth by∣thoedd, Dat. 21.11. &c. Dat. 22.

5. Wrth y portreiad hwn trwy gyffelybiaeth o'r pethau cyfoethoccaf a gwerthfawroccaf yn y byd hwn y mynnei S Ioan i ni ddeall, y pris a'r gwerth, a'r gogoniant, a'r mawrhydi sydd yn y dedwy∣ddwch a barottowyd i ni yn y nef. Ac er (fel y dangosais o'r blaen) mai tywysogawl dref-tadaeth ein lachawdr Christ ydyw, a theyrnas ei Dâd, a thra∣gywyddol drigias y fendigedig drindod a barotto∣wyd er cyn dechreuad y byd, i osod allan ogoniant, ac i ddangos gallu yr hwn nid oes na meidr, na me∣sur, na diben ar ei allu a'i ogoniant: ni a allwn dy∣bied yn dda gydâ S. Paul, na all na thafod ei drae∣thu, na chalon ei feddwl.

6. Pan gymmero Duw arno wneuthur rhyw beth i ddangos mewn modd, ei allu, a'i ddoethineb, a'i fawredd hyd yr eithaf; meddyliwch ynoch eich hu∣nain pa fath beth fydd hwnnw. Fe ryngodd bodd iddo ryw amser wneuthur rhyw greaduriaid i'w wa∣sanaethu ef yn ei wydd ei hun, ac i fod yn dystion o'i ogoniant ef: ac ar hynny ag vn gair efe a greodd yr Angylion, o herwydd eu rhifedi a'i perffeithrw∣ydd mor ddieithr ac mor rhyfeddol, ac y pair i dde∣all dyn synnu wrth feddwl am dano. Oblegid, tu ac at am eu rhifedi, yr oeddynt agos yn aneirif, yn rhagori ar rifedi holl greaduriaid y byd hwn, fel y mae amryw wyr dysgedig, a rhai o'r hên dadau yn tybied: er bod y prophwyd Daniel, yn ôl arfer yr Scrythur lân, yn gosod rhifedi pennodol yn lle rhi∣fedi ammhennodol, pan yw yn dywedyd am yr An∣gylion. Mil o filoedd a'i gwasanaethent, a myrdd fyrddiwn a safent ger ei fron, Dan. 7.10. Ac am

Page 124

berffeithrwydd eu naturiaeth, cyfryw ydyw (gan eu bod, fel y dyweid yr Scrythur, yn ysprydion, ac yn dân fflamllyd) a'i bod yn rhagori ar holl grea∣duriaid y byd hwn, mewn gwybodaeth naturiol a gallu, a'r cyffelyb. Pa anfeidrol fawredd y mae hyn yn ei ddangos ei fod yn y ereawdr.

7. Yn ol hyn, wedi darfod i lawer o'r angylion hyn gwympo, fe ryngodd bodd i Dduw greu crea∣dur arall oedd lawer is nâ hwnnw, i gyflawni lleo∣edd y rhai a gwympasai; ac ar hynny efe a greodd ddyn o delpyn o bridd, fel y gwyddoch chwi, ac a appwyntiodd iddo fyw tros amser mewn lle pell o∣ddiwrth y nef, yr hwn a wnaethid i'r perwyl hyn∣ny, a hwnnw yw'r byd: yr hwn sydd le i'w gyn∣wys ef ac i'w brofi tros amser, a chwedi hynny a ddistrywir. Ac etio, wrth greu'r byd darfodedig hwn (yr hwn nid yw ond lluest yn perthyn i'w drig∣fa dragywyddol ef) pa allu, pa haelioni, pa fawr∣hydi a ddangosodd ef? Pa fath nefoedd mor rhyfe∣ddol a greodd ef? Pa rifedi anfeidrol o ser, a goleu∣adau eraill a ddyfeisiodd efe? Pa fath elfennau, a defnyddiau a luniodd efe? Ac mor rhyfeddol y cymmhwysodd efe 'r cwbl ynghyd? Y mor o'r tu allan i'r llaill yn fawr ei fordwy, a'i ryferthwy a'i donnau yn ymdaflu ac yn ymdreiglo, ac ynteu yn llawn o aneirrif rywogaethau o bysgod: yr afo∣nydd yn rhedeg trwy'r ddaiar, fel gwythenni yn y corph, ac heb fod vn amser yn hŷsp, nac yn llifo tros y ddaiar: y ddaiar hitheu, cyn llawned o bob math ar greaduriald, ac nad yw dyn yn rhaid iddo wrth y ganfed ran o honynt, ond eu bod yn aros i ddangos llaw lawn, a braich cadarn y Creawdr. A hyn i gyd, fel y dywedais, a wnaethbwyd mewn moment, ag vn gair yn vnig: a hynny i'w mwyn∣hau tros amser bychan wrth y tragywyddoldeb sydd i ddyfod. Pa beth wrth hynny, dybygwn ni, fydd

Page 125

y drigfa a barottowyd i'r tragywyddoldeb hwnnw? Os yw lluest y gwâs distatlaf o'r eiddo ef, (yr hon nis gwnaed ond i barhau tros amser, ac megis i fwrw cawod heibio) mor frenhinol, mor wychdeg, ac mor hardd, a chymmaint ei fawrhydi, ac y gwelwn ni fod y byd hwn; pa beth dybygwn ni ydyw llys y brenhin ei hun, a wnaed i barhau yn dragywy∣ddol, iddo ef ac i'w garedigion i deyrnasu ynghyd ynddo. Mae'n rhaid i ni dybied ei fod yn gym∣maint, ac y gallai ddoethineb a gallu ei wneuthurwr gyrhaeddyd ei wneuthur ef; hynny ydyw yn an∣ghyfartal, ac yn anfeidrol vwch law pob mesur. Y brenhin Ahasuerus, yr hwn oedd yn teyrnasu yn Asia, ar gant a saith ar hugain o daleithiau; i ddan∣gos ei allu a'i gyfoeth i'w ddeiliaid, a wnaeth wledd, fel y dyweid yr Scrythur lân, yn ei ddinas frenhinol Susa; i holl dywysogion, a rhaglawiaid, a gwyr mawr ei lywodraeth ef, dros gant a phedwar vgain o ddyddiau o'r vntu. Y mae 'r prophwyd Esai yn dywedyd y gwna ein Duw ni Arglwydd y lluoedd, wledd i'w holl bobl ar fryn a mynydd y nef; gw∣ledd o basgedigion breision, ac o loywwin puredig, Es. 25.6. A'r wledd hon fydd mor reiol ac y bydd i fab Duw ei hun, Arglwydd pennaf y wledd, fod yn fodlon i ymwregysu ac i wasanaethu ynddi, me∣gis y mae efe yn addaw a'i air ei hun, Luc. 12.37. Pa fath wledd, wrth hynny, fydd hon? Mor reiol fydd? Mor llawn o fawrhydi? Yn enwedig gan ei bod yn parhau nid yn vnig tros gant a phedwar vgain o ddyddiau, fel gwledd Ahasuerus; ond tros fwy na chant a phedwar vgain mil fyrddiwn o oeso∣edd; ac nid dynion yn gwasanaethu arni, ond An∣gylion, a mab Duw ei hun: ac nid i ddangos gallu a chyfoeth cant a saith ar hugain o daleithiau, ond i ddangos gallu a chyfoeth Duw ei hun, Brenhin y brenhinoedd, ac Arglwydd yr arglwyddi, yr hwn

Page 126

y mae ei allu a'i gyfoeth heb ddiben arnynt, ac yn fwy nag a all ei holl greaduriaid ef na meddwl na deall? Mor ogoneddus gan hynny fydd y wledd hon? Mor orfoleddus fydd llawenydd yr wyl-wledd hon? Och mor anhappus, ac mor ynfyd ydyw mei∣bion dynion, a hwythau wedi ei geni i'r fath fraint ammheuthyn ardderchog, acetto nas gellir eu dwyn nac i'w ystyried, nac i'w garu, nac i wneuthur cy∣frif o honaw.

8. Y mae pethau eraill i'w hystyried a all ddan∣gos maint y dedwyddwch hwn: megis hyn, os rhoes Duw cymmaint o hyfrydwch, a doniau comfforddus yn y bywyd hwn ac a welwn ni eu bod yn y byd, yr hwn er hynny i gyd, nid yw ond y wlad yr y∣dym ni yn wyr deol ynddi, a bro ein alldudaeth ni, a mangre pechaduriaid, a glyn y gofid ar trueni, dy∣ffryn wylofain ac amser i edifeirwch a dagrau, a chwynfan: pa beth a wna efe yn y bywyd a ddaw, i'r rhai cyfiawn, i'w garedigion, yn amser llawe∣nydd, ar ddydd priodas ei fab, Datc. 19.7, Yr oedd ystyried hyn yma yn beth crŷf gan S. Austin, yr hwn yn yr ymddiddan cyfrinachol rhwng ei e∣naid a Duw, a ddywedodd fel hyn, ô Arglwydd, os wytti yn rhoi cym∣maint o ddoniau aneirif i'r corph gwa∣el hwn eiddom ni, o'r ffurfafen, ac o'r awyr, ac o'r ddaiar, ac o'r môr, o'r goleuni a'r tywyllwch, o'r gwrês a'r cysgod, o'r gwlith a'r cawodydd, o'r gwyntoedd a'r glawo∣gydd, o'r adar a'r pysgod, o'r anifeiliaid ac o'r co∣edydd, ac amlder y llysiau, ac amryw blanhigion, a thrwy weinidogoeth dy holl greaduriaid: ô Ar∣glwydd da, pa fath bethau a barottoaist ti i ni yn ein cartref nefol, lle y cawn dy weled di wyneb yn wy∣neb? Os wyti yn rhoi i ni bethau cymmaint yn ein carchardy ni, pa bethau a roi di i ni yn dy frenhin∣llys

Page 127

dy hun? Os wyti yn rhoi cymmaint o bethau yn y byd hwn i ddynion dà a drwg ynghyd, pa beth sy gennyt ti wedi ei roi i gadw i'r rhai da yn vnig yn y byd a ddaw? Od oes cymmaint difyr∣rwch a llawenydd yn y dyddiau wylofain yma, pa fath lawenydd fydd ar ddydd y briodas? od oes cymmaint o bethau hyfryd yn ein carchardy ni, pa fath bethau, meddwch chwi, fydd i ni yn ein gw∣lad? Oh fy Arglwydd a'm Duw, Tydi sydd Dduw mawr, a mawr yw amlder dy haeledd a'th ddaioni di. Ac fel nad oes diben ar dy fawredd, na rhifedi ar dy ddoethineb, na mesur ar dy haeledd: felly nid oes na diben na rhifedi, na mesur, ar dy dale∣digaethan ir rhai sy'n dy garu di, ac yn ymladd tro∣sot. Hynny a ddywaid S. Awstin. Psal. 31.19.

9. Ffordd arall i fwrw amcan ar y dedwyddwch yma, yw ystyried yr addewidion mawr y mae Duw yn eu gwneuthur yn yr Scrythur lân, er anrhy∣deddu a gogoneddu dyn yn y bywyd a ddaw: Y Sawl a'm hanrhydeddo i medd Duw, mi a'i gogone∣ddaf ef, 1 Sam. 2. Ac y mae 'r prophwyd Da∣fydd megis yn cwyno fod Duw yn anrhydeddu ei garedigion yn gymmaint. Yr hyn y gallasai efe ga∣el achos mwy i'w ddywedyd pe buasai efe byw yn amser y Testament newydd, a chlywed addewid Christ, yr hwna grybwyllais am dano o'r blaen y cai ei weiston ef eistedd i lawr i wledda, ac y byddai ynteu ei hun yn gweini, ac yn gwasanaethu arnynt yn nheyrnas ei Dâd, Luc. 12. Pa synhwyr a all am∣gyffred a deall faint yw 'r anrhydedd yma? Ond et∣to fe ellir mewn rhan ei ddychymyg a bwrw amcan arno, wrth yr hyn a ddywaid ef, y cânthwy eistedd i farnu gyd ag ef, yn farnwyr, fel y dywaid S. Paul, nid yn vnig ar ddynion, ond hefyd ar yr Angylion, Mat. 19.28. 1 Cor. 6. Fe ellir bwrw amcan arno hefyd, wrth yr anrhydedd mawr iawn, y mae Duw

Page 128

ar amseroedd yn ei rol i'w weision, ie yn y byd hwn: er eu bod hwy wedi eu gosod ynddo i'w di∣ystyru, ac nid i'w hanrhydeddu. Beth am faint yr anrhydedd a'r parch a wnaeth efe i Abraham, ger bron cynnifer o frenhinoedd y ddaiar, Pharao, Abi∣melech, Melchizedec, a'r cyffelyb: Beth am yr an∣rhydedd a wnaeth efe i Foesen ac i Aaron, yn wy∣neb Pharao, a'i holl lŷs, trwy'r arwyddion rhyfe∣ddol a wnaethant hwy? Beth am yr anrhydedd rha∣gorol dros ben a wnaeth ef i'r gwr sanctaidd Josua pan fu iddo, 'wrth orchymmyn Josua ac yngwydd ei holl lu beri i'r haul ac i'r lleuad sefyll ynghanol y ffurfafen, y rhai yn hynny, fel y dywaid yr Scry∣thur an, a fuant vfydd i leferydd dŷn, Jos. 10. Peth am yr anrhydedd a wnaeth efe i Esai, yngwŷdd y brehhin Ezecias, pan wnaeth ef ir haul fyned yn ei ol ddeg o raddau yn y nef, Es. 38. Beth am yr annuydedd a wnaeth efe i Elias yngwydd Ahab an∣nuwiol, pan roes efe yr nefoedd yn ei law ef, a go∣ddef iddo ddywedyd na syrthiai na glaw na gwlith ar y ddainr tros ennyd o flynyddoedd, ond trwy air ei enau ef yn vnig? 1 Bren. 17. Beth am yr anrhy∣dedd a wnaeth efe i Elisaeus yngwydd Naaman y pendefig o Syria, yr hwn a iachàodd efe, a'i air yn vnig oddiwrth ei waban-glwyf: a'i esgyrn ef, yn ôl ei farwolaeth, a gyfodasant y marw i fyw, trwy gy∣ffwrdd ahwy 'n vnig, 2 Bre. 5. ac 13.21. Yn ddiweddaf, i wneuthur pen ar ddwyn esamplau yn hyn o beth, beth am yr anrhydedd godidog a wnaeth efe i holl Apostolion ei fab, fel y byddai i gynnifer ac y rho∣ent eu dwylo arnynt, gael eu hiachau oddiwith bob math ar wendid, fel y dywaid S. Luc. Ie, a mwy na hyn hefyd, fe wnai hyd yn oed gwregysaù a napcyn∣nau S. Paul yr vn peth: a mwy na hynny he∣fyd, cynnifer ac a ddaethant o fewn cysgod Sainct Petr a iachêid o'i clefydau, Act. 5. Act. 19.

Page 129

Ond yw hwn yn anrhydedd mawr, ie yn y byd hwn! A fu erioed nac ymmerodr, na brenhin, na thwy∣sog, na gwr mawr, a allai ymffrostio ddarfod iddo wneuthur y cyfryw barch i neb? Ac os gwnaeth Christ hynny, ie yn y byd hwn, i'w weision, ac ynteu yn dywedyd nad yw ei deyrnas ef o'r byd hwn: pa anrhydedd a dybygwn ni ei fod gantho ynghadw iddynt yn y byd a ddaw, lle bydd ei deyrnas ef, a lle y coronir ei holl weision ef megis brenhinoedd gydag ef? Jon. 18. 2 Tim. 4. Datc. 4.

10. Peth arall y mae 'r dyfeinwyr yn ei osod ar lawr i ddangos ac i hyspyssu maint y dedwyddwch yma yn y nef: a hynny ydyw, bod ystyried tri lle a appwyntiwyd i ddyn wrth ei greadigaeth. Y cyn∣taf yw croth ei fam, yr ail yw'r byd presennol, a'r trydydd yw Caelum empyreum, y nef, yr hwn yw mangre dedwyddwch yn y fuchedd a ddaw. Wei∣thian am y tri lle hyn, rhaid i ni gynnal y fath ra∣gor gwahanredol rhyngddynt i gyd, (trwy bob rhe∣swm) ac a welwn ni yn eglur eu bod rhwng y ddau gyntaf. Felly, edrych beth yw y rhagor sydd rhwng yr ail a'r cyntaf; yn yr vn mesur y bydd rhaid bod y rhagor rhwng y trydydd a'r ail, neu yn hytrach ychwaneg o lawer: gan nad yw'r holl ddai∣ar i gyd ond megis pwngc neu ditl bychan wrth y maint rhyfeddol sydd yn y nefoedd. Wrth faint y rhagor yma gau hynny, y mae'n rhaid i ni ddywe∣dyd, beth bynnag y mae 'r holl fyd yn ei ragori ar groth vn wraig, yr vn faint y mae mangre 'r ded∣wyddwch yn rhagori ar yr holl fyd yma, mewn te∣gwch, a hyfrydwch, a mawrhydi. A chymmaint ac y mae dyn sy'n byw'n y byd, yn rhagori ar ddyn bach ynghroth ei fam, mewn nerth corphorol, a thegwch, a synhwyr, a deall, a dysg, a gwyboda∣eth: hynny, a mwy o lawer y mae 'r Sainct yn y nef yn ei ragori ar ddynion y byd hwn, yn yr hll

Page 130

bethau hyn, ac mewn llawer o bethau eraill hefyd. A chymmaint ac a fyddei o chwithdod gan ddyn ddy∣chwelyd i groth ei fam; cymmaint a fyddei ar enaid wedi ei ogoneddu am ddychwelyd yn ei ol o'r nef i'r byd hwn. Hefyd nid yw'r naw mis bywyd yn∣ghroth y fam cyn lleied wrth oes dyn yn y byd hwn, ac ydyw yr oes hwyaf ar y ddaiar wrth y bywyd tragywyddol yn y nef. Ac nid yw dallineb, ac an∣wybod, a thrueni arall dyn bach ynghroth ei fam, mewn vn modd i'w cyffelybu i ddallineb, ac anwy∣bod, a thrueni arall dyn yn y bywyd hwn; wrth y goleuni, a'r wybodaeth eglur, a'r ddedwyddwch arall sydd yn y fuchedd a ddaw. Fel y gellir wrth hyn hefyd wybod, peth amcan ar y defnydd yr ydym yn sôn amdano.

11. Ond i ystyried y peth yn neillduolach, mae 'n rhaid gwybod y bydd i'r gogoniant nefol hwn ddwy ran, y naill yn perthyn i'r enaid, a'r llall yn perthyn i'r corph. Yr hon sydd yn perthyn i'r e∣naid, sydd yn sefyll ar weled Duw, fel y ddangosir yn ol hyn. Yr hon a berthyn i'r corph, sydd yn sefyll ar y cyfnewidiad a'r gogoneddiad fydd ar ein cnawd ni, yn ôl yr adgyfodiad cyffredin, trwy'r hyn y gwisg y corph llygredig yma eiddom ni, anllygre∣digaeth, fel y dywaid Sainct Paul, ac yr a o farwol yn anfarwol, 1 Cor. 15. Ein holl gnawd hwn ei∣ddom ni, meddaf, yr hwn sydd yr awrhon drallo∣dus, a gorthrwm, a blin i'r enaid; yr hwn sydd yr awrhon yn cael ei flino ag amryw aflwydd; yn hyrwym i lawer o gyfnewidiau, yn cael ei folestu a chynnifer o glefydau, wedi ei halogi a llawer o lygredigaethau, yn llawn o drueni ac adfyd aneirif; a wneir y pryd hynny yn ogoneddus, ac o'r fath berffeithiaf, i barhau byth, heb gyfnewid, ac i deyr∣nasu gyda 'r enaid heb drangc heb orphen. Oble∣gid fe fydd wedi ei wared oddiwrth y trymder mus∣grell

Page 131

yma sydd yn bwys arno yn y byd hwn; ac oddiwrth bob math ar glefydau a gofidiau 'r bywyd hwn, ac oddiwrth bob trallod a thrafferth a berthyn i hynny, megis pechu, bwytta, yfed, cysgu, a'r cyffelyb. Ac efe a osodir mewn cyflwr hoyw odia∣eth o iechyd nid adfeilia byth. Mor hoyw-wych fydd, ac y dyweid ein lachawdr Christ, Yn y dydd hwnnw y llewyrcha y rhai cyfiawn fel yr haul, yn nheyrnas eu Tâd, Mat. 13.43. Dyma ymadrodd rhyfedd gan Grist, ac yn neall dŷn, agos yn anghre∣dadwy, y llewyrcha ein cyrph ni, wedi eu pydru, ac yr ant mor ddisglair a'r haul, lle y bydd o'r gwrthwyneb, gyrph y rhai damnedig mor ddu, ac mor erchyll a'r budreddi. Felly hefyd, yr holl syn∣hwyrau a gant wybod fod yn odidowgach ei grym hwy nag y gallai fod byth yn y byd hwn, fel y dan∣gosir yn ôl hyn, o herwydd fe fydd llawn pob rhan; a phob synhwyr a phob aelod, a phob cymmal, o gomffordd godidog, yr vn modd ac y poenir pob vn o honynt yn y rhai damnedig. Ac yma y dygaf eiriau Anselmus, am eu bod yn dan∣gos y peth yma yn rhagorol, Yr holl gorph gogoneddus, medd efe, a lenwir a helaeth∣rwydd o bob math ar ddyfyrrwch, y llygaid, y clu∣stiau, y ffroenau, y genau, y dwylo, y gêg, yr ys∣gyfaint, y galon, y cylla, y cefn, yr esgyrn, y mêr, a'r ymysgaroedd eu hunain: a phob rhan o honynt a lenwir a'r fath annrhaethawl ddigrifwch a pher∣eidd-dra, fel y gellir dywedyd yn ddigon gwir, Yr holl ddyn a lawn-ddigonir, a feddwir, a fwydir, a brasder tŷ Dduw; ac ag afon dy hyfrydwch y diodir ef: Canys gydâ'r Arglwydd y mae ffynnon y bywyd, ac yn ei oleuni ef y gwelwn oleuni, Psal. 36.8, 9. Ac heb law hyn i gyd, y mae yn cael tragywyddoldeb, trwy'r hon y siccrheir ef, na bydd byth marw, ac na newid byth ei ddedwyddwch; yn ôl yr hyn a ddy∣waid

Page 132

yr Scrythur, Y cyfiawn a fydd byw byth. yr hyn yw vn o ragor-freiniau pennaf y corph gogo∣neddus; o herwydd trwy hyn y tynnir ymmaith bob gofal ac ofn, ac y symmudir oddiwrthym bob perygl ac enbydrwydd o gael na niweid na sar∣haed.

12. Ond bellach i ddyfod at y rhan honno o dded∣wyddwch a berthyn i'r enaid, yr hon yw y rhan ben∣naf, mae'n rhaid i ni ddeall, er bod llawer o bethau yn dyfod ynghyd yn y dedwyddwch yma, i gyflaw∣ni ac i berffeithio 'r gwynfyd: etto nid yw ffynnon y cwbl ond vn peth yn vnig, a hynny a eilw 'r dy∣feinwyr, visio Dei beatifica, Cael gweled Duw, yr hyn sydd yn ein gwneuthur ni yn dded∣wydd. Haec sola est summum bonum no∣strum, medd S. Awstin, Cael gweled Duw yw 'n daioni pennaf ni a'n dedwy∣ddwch. Yr hyn y mae Christ hefyd yn ei ddywedyd, pan yw efe yn dywedvd wrth ei. Dad. Hyn yw 'r bywyd tragywyddol, bod i ddyn dy adnabod di, yr vnig wir Dduw, a'r hwn a ddanfonaisti, Jesu Grist. Joan. 17.3. Ac y mae S. Paul hefyd yn dangos mai Cael gweled Duw wyneb yn wyneb, yw ein dedwy∣ddwch ni, a S. Ioan mai Cael gweled Duw megis y mae, 1 Cor. 13.12. 1 Io. 3.2. A'r rheswm o hyn ydyw, am fod pob difyrrwch a bodlonrwydd yn y byd (y rhai nid ŷnt ond gwreichion a rhannau wedi eu danfon oddiwrth Dduw) yn gynnwysedig oll yn Nuw ei hun, a hynny yn llawer perffeithi•••••• a go∣didowgach nag y crewyd hwynt yn eu ••••turiau eu hunain: megis hefyd y mae holl berffeithrwydd ei greaduriaid ef yn gyflawnach ynddo ef nag ynddynt hwy. Ac o hyn y canlyn bod ym mhwy bynnag ac a gynnhwyser i gael gweled Duw, ac i ddyfod yn ei wydd ef, holl ddaioni a pherffeithrwydd creadu∣riaid y byd wedi eu cyssylltu ynghyd, a'i presentio

Page 133

iddo ef ar vnwaith. Megis pa beth bynnag sydd hyfryd gan na'r corph na'r enaid, y mae efe yo yn ei fwynhau yn gwbl, wedi eu cylymmu ynghyd megis yn vn ysgub, ac y mae hynny â'i bresennol∣deb yn ei orchfygu ef ym mhob rhan o'i enaid a'i gorph; megys nas gall efe na dychymmyg, na dy∣muno, na meddwl am lawenydd yn y byd, nad ydyw efe yn ei gael yn ei lawn berffeithrwydd: yno y mae yn cael pob gwybodaeth, pob doeth∣ineb, pob tegwch, pob cyfoeth, pob bonedd, pob daioni, pob dyfyrrwch, a phob peth heb law hynny ac sydd yn haeddu na'i garu, na rhyfeddu wrtho, neu yn gweithio hyfrydwch a bodlonedd. Holl alluoedd y meddwl a lenwir a'r golygiad yma ar Dduw, a bod yn ei wydd ef, a'i fwynhau; holl synhwyrau 'r corph a ddigonir. Duw a fydd yn ddedwyddwch cyffredinol i w holl Sainct, yr hwn sydd yn cynnwys ynddo bob math ar ddedwy∣ddwch neillduol, heb drangc heb orphen, heb ri∣fedi, heb na meidr, na mesur. Efe a fydd yn ddrych i'n llygaid ni, yn fusig ac yn felys-gerdd i'n clustiau ni, yn fel i'n geneuau ni, yn balm hyfryd o'r pe∣reiddiaf i'n haroglau ni: efe a fydd yn oleuni i'n deall ni, yn fodlonrwydd i'n hewyllys ni, yn bara tragywyddoldeb i'n cof ni. Ynddo ef y cawn ni fwynhau pob ymrafael fath ar amseroedd sydd yma yn hyfryd gennym ni, a holl degwch y creaduriaid sydd yma yn ein llithio ac yn ein denu ni: a phob digrifwch a llawenydd sydd yma yn ein bodloni ni. Wrth weled Duw, medd vn o'r Doctoriaid, y cawn ni wybod, y cawn ni garu, y cawn ni lawe∣nychu, y cawn ni glodfori. Ni a gawn wybod hyd yn oed cyfrinachoedd a barnedigaethau Duw; y rhai sydd eigion gorddyfnder diwaelod. Nia gawn wybod achosion, a naturiau, a dechreuad, a gwrei∣ddyn a chychwynfa a diwedd pob creadur. Ni a

Page 134

gawn garu yn anghyfartal, ni a gawn garu Duw o herwydd yr aneirif o achosion cariad a gawn eu gweled yn∣ddo, a charu ein cyfeillon cymmaint a ni ein hunain, am y cawn ni weled fod Duw yn eu caru hwy yn gymmaint a ninau, a hynny am yr vn achos ac y mae efe yn ein caru ninnau. Ac o hyn y canlyn, y bydd ein llawenydd ni heb arno na meidr na mesur, Psal. 36.8. am y cawn ni lawenydd neillduol am bob peth ac yr ydym ni yn ei garu yn Nuw, y rhai sy aneirif; a hefyd am y cawn ni lawenychu o achos dedwyddwch pob vn o'n cyfeillion, yn gymmaint ac o achos yr eiddom ein hunain: ac wrth hynny ni a gawn cynnifer o fathau gwahanredol ar ddedwy∣ddwch, ac a fyddo i ni o gyfeillion gwahanredol yn gyfrannogion o'r dedwyddwch hwnnw: a chan fod y rhai hynny yn aneirif, nid rhyfedd ddywedyd o Grist, Dôs i mewn i lawenydd dy Arglwydd, ac nid Aed llawenydd dy Arglwyed i mewn i ti': oblegid nas gall vn galon ac a grewyd dderbyn cyflawnder a maint y llawenydd yma, Mat. 25.21, 23. O hyn y canlyn yn ddiweddaf, y cawn ni foliannu Duw heb na diben na diffygio, a hynny â'n holl ga∣lon â'n holl nerth, â'n holl alluoedd, â'n holl ran∣nau, yn ôl yr hyn a ddyweid yr Scrythur lân, Gwyn fyd preswylwyr dy dŷ di, O Arglwydd, yn wastad i'th foliannant, byth bythoedd, Psal. 84.4.

13. Am y gwynfydedig weled yma a'r Dduw, y mae 'r tâd duwiol S. Awstin yn yscrifennu fel hyn, Gwyn fŷd y rhai glan o galon, canys hwy a gant we∣led Duw, medd ein Iachawdr; wrth hynny, y mae gweled Duw, frodyr anwyl, yn ein gwneuthur ni yn wyn∣fydedig; y mae golwg, meddaf, yr hwn ni welodd llygad yn y byd yma, ac ni chlywodd clust, ac nid aeth i mewn i galon dŷn. Y mae golwg

Page 135

sydd yn rhagori ar bob tegwch pethau bydol, me∣gis aur, arian, coedydd, maesydd, y môr, yr a∣wyr, yr haul, y lleuad, y sèr, yr Angylion: oble∣gid mai oddi wrth y golwg hwnnw y mae 'r holl bethau hyn yn cael eu tegwch, Ni a gawn ei weled ef wyneb yn wyneb, medd yr Apostol, ac a gawn ei adnabod ef, megis i'n hadwaenir ninnau, 1 Cor. 13.12. Ni a gawn adnabod gallu 'r Tâd, ni a gawn adnabod doethineb y Mâb, ni a gawn adnabod daioni yr Yspryd glân, ni a gawn adnabod na∣turiaeth anghy frannol y fendigediccaf Drindod. A'r golwg yma ar wyneb Duw yw llawenydd yr An∣gylion, a'r holl Sainct yn y nef. Y golwg yma yw gwobr bywyd tragywyddol, hwn yw gôgoniant yr ysprydion bendigedig, a'i dyfyrrwch tragywyddol, a'i coron anrhydedd, a'i hynnill ar ddedwyddwch, a'i hesmwythyd cyfoethog, a'i lle tirion hyfryd, a'i llawenydd oddi fewn ac oddi allan, a'i duwiol baradwys, a'i Jerusalem nefol, a'i dedwyddwch bywyd, a'i llawnder gwynfyd, a'i tragywyddol lawenydd, a'i tangnefedd Dduw yr hwn sydd vwch law pob deall. Y golwg hwn ar Dduw yw llawn ddedwyddwch dyn, a'i hollawl ogoneddiad; sef ca∣el gweled yr hwn a wnaeth nef a daiar; cael gwe∣led yr hwn a'th wnaeth, ac a'th brynodd, ac a'th ogoneddodd di. Oblegid wrth ei weled, ti a'i molienni, Oblegid efe yw tref-tadaeth ei bobl; efe yw perchennogaeth eu dedwyddyd hwy; efe yw'r gwobr y maent yn disgwyl am dano, Myfi yw dy wobr mawr iawn, medd efe wrth Abraham, Gen. 15. O Arglwydd, yr wyti yn fawr, ac am hynny nid rhyfedd by fod di yn wobr mawr. Dy weled di gan hynny, a'th fwynhau, yw 'n holl gyflog ni, a'n holl wobr, a'n holl lawenydd a'n dedwyddwch, yr ydym yn disgwyl am dano, gan ddafod i ti ddywe∣dyd,

Page 136

dyd, Hyn yw 'r bywyd tragywyddol, dy weled a'th adnabod di yr vnig wir Dduw, a'r hwn a ddanfonaisti Jesu Grist. Joan. 17.3.

14. Gan ddarfod bellach ddangos dwy ran gy∣ffredinol y dedwyddwch nefol, y naill yn perthyn i'r enaid, a'r llall i'r corph; nid yw anhawdd bwrw amcan pa ragorol lawenydd a bair pob vn o'r ddwy ran, pan gyssyllter hwy ynghyd, pan ddêl bendi∣gedig ddiwrnod ein gogoneddiad ni. Oh y llawe∣nydd sydd vwch ben pob llawenydd, yn rhagori ar bob llawenydd, a heb yr hwn nid oes dim llawe∣nydd; pa bryd y caf fi fyned i mewn i ti, medd S. Awstin, Pa bryd y caf dy fwynhau di, i gael gweled Duw, yr hwn sydd yn trigo ynot ti? Oh dragywyddol deyrnas! Oh deyrnas pob tragywyddoldeb: Oh oleuni heb ddiwedd! Oh dangnhefedd Dduw yr hwn sydd vwch law pob deall! lle mae eneidiau 'r Sainct yn gorphywys gyda thi: a llawenydd tragy∣wyddol sydd ar eu pennau; y maent wedi goddiwes llawenyd a hyfrydwch, a phob gofid a griddfan a ffoawdd ymaith oddiwrthynt, Esa. 35.10. & 51.11. Oh mor ogoneddus o deyrnas yw 'r eiddot ti, Ar∣glwydd, yn yr hon y mae 'r holl Sainct yn teyrnasu gyda thi, wedi eu gwisgo â goleuni fel dilledyn, ac ar eu pennau goronau o aur coeth, Psal. 104.2. Psal. 21.3. Oh deyrnas tragywyddol wynfyd, lle 'r wyti, ô Arglwydd, gobaith yr holl Sainct, a choron a thalaith eu gogoniant tragywyddol, yn eu llawenychu hwy o amgylch, ath welediad bendige∣dig. Yn y deyrnas yma eiddot ti, y mae llawe∣nydd anfeidrol, a digrifwch heb brudd-der, ac ie∣chyd heb dristwch, a bywyd heb lafur, a goleuni heb dywyllwch, a dedwyddwch heb dawl, a phob daioni heb ddim drwg: lle y mae ieuengtid yn ei odau, heb heneiddio byth, bywyd heb ddiben,

Page 137

tegwch heb ddiflannu byth, cariad heb oeri byth, iechyd heb ballu byth, llawenydd heb beidio byth. Ni chlywir byth oddiwrth dristwch, lle ni chlywir cwyno byth, lle ni welir byth achos prudd-der, lle nid rhaid ofni afrwydd-deb byth; Am eu bod hwy yn dy feddiannu di, o Arglwydd, yr hwn wyt ber∣ffeithrwydd eu dedwyddwch hwy.

15. Ped ystyriem ni 'r pethau hyn, fel y gwnai 'r gwr Duwiol yma, ac eraill o'i gyffelyb, diam∣mau y cynneuai ac yr ennynnai ynom ni fwy o gari∣ad i'r dedwyddwch hwn a barottowyd i ni, nag sydd ynom; ac felly ni a ymdrechem yn well nag yr y∣dym i geisio ei ynnill. Ac fel y bo i ti glywed mwy o fyw ynot, ddarllenydd hawddgar, ynghylch hyn o beth, ystyria gyda myfi, Pa ddiwrnod llawen fydd hwnnw yn dy dŷ di, wedi darfod i i fyw mewn ofn Duw, a'i wasanaethu ef hyd ddiw••••d dy bere∣rindod; a chael dyfod o'r diwedd, trwy gyfrwng angeu, i ymadael a'th drueni ac a'th lafur a meddi∣annu anfarwoldeb: ac yn y traidd ar ymadawiad hwnnw, pan fo eraill yn dechreu ofni, tydi a gai ddyrchafu dy ben mewn gobaith, fel y mae Christ yn addaw, am fod amser dy ymwared a'th iechydwria∣eth di yn nesau, Luc. 21.28. Dyweid i mi pa fath ddiwrnod, dybygidi, fydd hwnnw, pan fo dy e∣naid di yn myned allan o garchar, ac yn cael ei gyr∣chu a'i ddwyn i babell nef, ac yn cael ei dderbyn yno gyda minteioedd a byddinoedd anrhydeddus y lle hwnnw: gydâ 'r holl ysprydion gwynfydedig hynny y mae son am danynt yn yr Scrythur lan, sef yw y rhai hynny, tywysogaethau, a galluoedd, a nerthoedd, ac arglwyddiaethau, a thronau, ac An∣gylion, ac archangylion, a Cherubiaid a Seraphi∣aid, a hefyd gyda sanctaidd Apostolion a disgyblion Christ, a'r padrieirch a'r prophwydi, a'r merthy∣ron, a'r gwirioniaid, a chonssessoriaid, a holl Sainct

Page 138

Duw; y rhai a orfoleddant i gyd oll wrth dy go∣roni di a'th ogoneddu. Pa lawenydd a fydd i'th e∣naid di y dythwn hwnnw, pan bresentier ef yng∣wydd yr holl rai vchel-swydd hynny, ger bron gor∣seddfaingc a mawrhydi y fendigedig Drindod, a dangos ac yspyssu dy holl weithredoedd da di, a'th lafur a ddioddefaist er cariad ar Dduw, ac er mwyn ei wasanaeth ef? Pan osoder ar lawr yn y senedd a'r gymmanfa anrhydeddus honno, dy holl weithre∣doedd da di, a'th holl boen a gymmeraist yn dy al∣wedigaeth, a'th holl eluseni, a'th holl weddiau, a'th holl ymprydiau, a'th holl ddiniweidrwydd bywyd, a'th holl ddioddefgarwch wrth gael cam, a'th holl ddianwadalwch yn dy adfyd, a'th holl gymmedrol∣der, a'th gymmesurwydd mewn bwyd a diod, a holl rinweddau da dy holl fywyd? Pan gyfrifer hwy oll, meddaf, yno, a'i canmol oll, a'i gobrwyaw oll, oni chai di weled grym a llês buchedd dda rin∣weddol? Oni chyfaddefi di'r pryd hynny fod gwa∣sanaeth Duw yn ynnillfawr ac yn anrhydeddus? O∣ni byddi di lawen yr amser hwnnw, a bendithio 'r awr y rhoist dy fryd gyntaf ar ymadael a gwasanaeth y byd, a myned i wasanaethu Duw? Oni thybygi di dy fod yn rhwymedig iawn i'r neb a'th gyngho∣rodd ac a'th annogodd di i wneuthur hynny? gwnei yn wir.

16. Ac etto mwy na hyn hefyd, pan fych di mor agos i'th ymadawiad oddi yma, ac ystyried i ba fath borthladd diogelwch y daethost, ac edrych yn dy ôl ar y peryglon y daethost heibio iddynt, y rhai y mae eraill etto ynddynt; fe fydd i ti achos mwy o lawer i lawenychu. Oblegid ti a gai weled yn amlwg, mor aneirif o amserau y gallasai ddarfod am danati yn y daith honno, oni bai ddarfod i Dduw fod a'i law drosot ti yn ddiwyd iawn. Ti a gai we∣led y peryglon y mae eraill ynddynt, yr angeu a'r

Page 139

ddamnedigaeth y mae llawer o'th garedigion a'th gydnabod di wedi syrthio iddynt, y tragywyddol boenau vffernol a haeddodd llawer a fyddei arfer o chwerthin ac o fod yn llawen gyd â thi yn y byd. Yr hyn i gyd a chwanega ddedwyddwch dy fendi∣gedig gyflwr di. Ac weithian o'th ran di dy hun, ti a elli fod yn ddiogel, yr wyt ti allan o bob math ar berygl yn oes oesoedd. Nid rhaid mwy weithi∣an wrth nac ofni, na gwilied, na llafurio, na gofa∣lu. Di a elli fwrw heibio dy holl arfau bellach, yn well nag y gallai meibion Israel, wedi iddynt ynnill gwlâd yr addewid. Oblegid nid oes mwy vn ge∣lyn i'th gyrchu di, ac i osod arnat: nid oes mwy vn sarph ddichellgar i'th dwyllo di: y mae pob peth yn heddychol, y mae pob peth yn esmwythdra, pob peth yn llawenydd, pob peth yn ddiogelwch. Nid rhaid i S. Paul mwy lafurio yngweinidogaeth y gair, nac ymprydio, na gwilio, na chospi ei gorph. Fe all yr hên Ierom dduwiol bellach beidio a'i boeni ei hun ddydd a nôs i geisio gorchfygu ei elyn ysprydol. Dy vnig waith di a'th orchwyl wei∣thian fydd llawenychu, a gorfoleddu, a chanu Hal∣lelujah i'r oen a'th ddug di i'r dedwyddwch hwnnw, ac a'th geidw di yntho, byth ac yn dragywydd. Pa gomffordd fydd cael gweled yr oen hwnnw yn eistedd ar orseddfaingc ei fawrhydi? Os daeth y doethion o'r dwyrain cyn belled ffordd i'w weled ef yn y preseb, a bod mor llawen ganthynt ei weled ef yno, pa beth fydd cael ei weled ef yn eistedd yn ei ogoniant? Os llammodd Ioan fedyddiwr wrth ei bresennoldeb ef ynghroth ei fam, pa beth a wna ei bresennoldeb ef yn ei frenhinol a'i dragywyddol deyrnas? Y mae yn rhagori ar bob go∣goniant arall y mae 'r Sainct yn ei gael yn y nef, Medd S. Awstin, gael o ho∣nynt

Page 140

eu cynnwys i gael gweled wyneb gogoneddus Christ, a derbyn pelydr gogoniant oddiwith ddis∣gleirdeb ei fawredd ef. A phe bai raid i ni ddio∣ddef poenau bob dydd, ie poenau vffern tros amser, er mwyn cael gweled Christ, a chael ein cyssylltu mewn gogoniant at rifedi 'r Sainct, ni byddei hynny ddim wrth y tal a geid am dano. O na wnaem ni gyfrif cymmaint o hyn yma, ac a wnai 'r gwr san∣ctaidd hwnnw; ni byddem ni byw fel yr ydym, ac ni chollem ni mor gwobr hwnnw er mwyn y fath goegoethau ac y mae y rhan fwyaf o ddynion yn ei golli o'i plegid.

17. Ond i fyned rhagom etto ymmhellch i ystyried y peth hyn, meddwl heb law hyn i gyd, pa lawenydd sydd gan dy enaid di y dwthwn hwn∣nw, gael cyfarfod a'i holl dduwiol garedigion yn y nef, a thad ac a mam, a brodyr ac a chwiorydd, a gwraig ac a gwr, ag athraw, ac a disgyblion, a chymmydogion ac a chyfneseifiaid, a chydtylwyth ac a chydnabod; a chael y croesaw, a'r llawenydd, a'r mwyn ymgofleidio, a fydd yno, o'r hyn, fel y dy waid S. Cyprian, y bydd llawenydd annrhaethawl. Rhoer at hynny, y beunyddol wle∣dda, a'r gorfoledd anghyfartal a fydd yno, pan ddelo brodyr a chwiorydd newydd i mewn, y rhai sy 'n dyfod yno o amser i amser, a chanddynt anrhaith eu gely∣nion y cawsant y gorfod arnynt yn y byd hwn. Ond pa olwg comfforddus fydd gweled llenwi ei∣steddleoedd yr angylion a gwympodd, a gwyr ac a gwragedd, o ddydd i ddydd! a gweled gosod co∣ronau gogoniant ar eu pennau hwy, a hynny mewn amryw foddion, yn ôl eu hamryw orfodaeth hwynt: vn am ferthyrdod a chyffessu enw Christ, yn erbyn yr erlidiwr: vn arall am ei ddiweirdeb yn y cnawd: vn arall am dlodi a gostyngeiddrwydd, yn erbyn y

Page 141

byd: vn arall am lawer goruchafia••••••, yn erbyn y cythraul, 2 Tim. 2.12. Datc. 2. & 3. & 4. Yno y caiff gogoneddus fintai yr Apostolion, (medd Cyprian sanctaidd) yno y caiff nifeiri llawen y pro∣phwydi, yno y caiff aneirif liaws y merthyron dder∣byn coronau am eu marwoluethau a'i dioddefaint. Yno y caiff y gorfoleddus wyryfon, a orchfygasant chwant y cnawd, drwy nerth eu hymgynnal; yno y caiff yr elusenwyr da, a borthasant y tlawd yn haelionus, ac a drosglwyddasant eu golud bydol (yn ôl gorchymmyn Duw) i drysordy 'r nef; dder∣byn eu dyledus a'i priodol wobrau. Oh fel yr ym∣ddengys rhinwedd dda yn y dydd hwnnw! Oh mor fodlon fydd gweithredoedd da gan y rhai a'i gwna∣eth! Ac ym mhlith yr holl lawenydd a'r bodlon∣rwydd hwnnw, nid lleiaf fydd gweled yr eneidiau truain a ddêl yno yn ddisymmwth, allan o drueni a gofidiau 'r bywyd hwn, yn sefyll yn synn, ac me∣gys heb wybod oddiwrthynt eu hunain, gan y gyf∣newyd yma, a'r anrhydedd disymmwth a wneir iddynt. Pe bai ddyn tlawd a fai allan o'i ffordd, yn crwydro ei hunan ar y mynyddoedd ynghanol noswaith dywyll dymhestlog, ym mhell oddiwrth gwmpeini, mewn eisiau am arian, a'r glaw yn ei guro, a'i taranau yn ei ddychrynu, a'r oerfel yn ei fythu, a chwedi blino gan ei daith, ac agos yn dydd∣u gan newyn a syched, ac agos i anobeitheio gan liaws gofidiau; pe bai 'r cyfryw ddyn, meddaf, yn ddisymmwth, ar darawiad llygad, yn cael ei osod mewn palas teg, helaeth, cyfoethog, yn llawn o bob math ar oleuadau disglair, a thân gwresog, a aroglau peraidd, a bwydydd dainteiddiol, a gwe∣lyau esmwythglyd, a difyr felys gerdd, a gwis∣goedd dillynion a chwmpeini anrhydeddus, a'r cwbl wedi ei barottoi iddo ef, ac yn disgwyl am ei ddy∣fodiad, i wasanaethu arno, i'w anrhydeddu, ac i'w

Page 142

enneinio ac i'w goroni yn frenhin tros byth; pa beth a wnai 'r dŷn tlawd hwn, meddwch chwi? pa fodd yr edrychai ef? pa beth a fedrai efe ei ddywedyd? yr wyf yn tybiaid yn siccr na fedrai efe ddywedyd dim, ond yn hyttrach wylo yn ddistaw o wir lawe∣nydd, gan na allai ei galon ef amgyffred disym∣mwth ac anfeidrol faint y llawenydd hwnnw.

18. A hynny i gyd, a llawer mwy a fydd i'r enei∣diau llwyr dded-wydd a ddel i'r nef. Canys ni bu erioed na'r tawel-oer gysgod mor hyfryd ar ddydd tesog, poeth, llosgadwy; na'r ffynnon loyw-ddwfr i'r ymdeithydd tlawd ynghanol ei ddygn syched ga∣nol dydd o haf; na gorphywys ar wely man-blu esmwyth i'r gwâs lluddedig, y nôs ar ôl ei waith; nag a fydd yr esmwythdra yma yn y nef, i'r enaid blinedig a ddêl yno. Oh na fedrem ni ddeall hyn, na fedrem brintio hyn yn ein calonnau, frawd an∣wyl; a ddilynem ni goeg-bethau'r byd fel yr ydym? a esgeulusem ni'r pethau hyn fel yr ydym? Yn siccr y dŷb wan wael sydd gennym am y llawenydd yma, sydd yn peri i ni fod mor oer yn ei geisio. Oble∣gid pe gwnaem ni y fath bris a chyfrif ar y tlws hwn, ac a wnai marsiandwyr eraill o'n blaen ni, y rhai oedd gyfarwyddach a doethach nâ nyni; ni a gynnygiem am dano fel y cynnygiasant hwythau, neu o'r hyn lleiaf ni byddem ni mor esgeulus a ga∣dael i fyned heibio y peth yr oeddynt hwy mor o∣falus yn ymgais am dano. Y mae'r Apostol yn dy∣wedyd am Grist, efe a osododd y llawenydd ger ei fron, ac a ddioddefodd y groes, Heb. 12.2. Dy∣na gyfrif mawr yr oedd efe yn ei wneuthur o'r peth, pan brynai ef mor brid. Ond pa gyngor y mae efe yn ei roi i eraill ynghylch yr vn peth? Dim ond hyn, Dôs a gwerth gymmaint oll ac a feddych, a phryn y tryssor yma, Mat. 13.45. A pha beth y mae S. Paul yn ei ddywedyd am dano ei hun, ond

Page 143

ei fod efe yn cyfrif pob peth yn dom, wrth geisio pry∣nu 'r tlws yma, Phil. 3.8. Yscolhaig S. Paul, Ig∣natius ynteu, beth y mae efe yn ei gynnyg am dano? Gwarandewch ei eiriau ef ei hun. Deued tân, a chrôg, a dannedd anifeiliaid, a dryllio fy esgyrn, a chwartorio fy aelodau, ac yssi∣go fy nghorph, a holl boenau vffern arna∣fi i gyd ar vnwaith, os câf fi fwynhau y tryssor nefol yma. A S. Awstin yr esgob duwiol, beth y mae ynteu yn ei gynnyg am dano? Chwi a glywsoch o'r blaen y byddai efe bodlon i ddioddef poenau bob dydd, hyd yn oed poenau vffern, er mwyn ynnill y llawenydd hwn. O Arglwydd Dduw, pa ragor oedd rhwng y Sainct duwiol hyn a nyni? Mor wrthwyneb oedd eu tyb a'i barn hwy i nyni yn y pethau hyn! Pwy bellach a ryfedda fod Duw yn barnu doethineb y byd hwn yn ffolineb, a bod y byd yn cyfrif doethi∣neb Duw yn ffolineb? O feibion dynion, medd y prophwyd, pa hŷd yr hoffwch wegi, ac yr argeisi∣wch gelwydd? Psal. 4.2. Pa ham yr ydych yn ym∣gofleido â gwelltach, ac yn diystyru aur? Ie gwell∣tach, meddaf ac vs gwael, a chyfryw ac a ennyn dân yn eich tai chwi o'r diwedd, ac a fydd yn gw∣ymp ac yn golledigaeth tragywyddol i chwi.

19. Ond bellach i dynnu at y diben yn y peth hyn, er bod y peth ei hun yn anniben; ystyried Christion i ba beth y ganwyd ef, a pha beth y mae efe yn bossibl i'w gael os efe a'i mynn. Efe a an∣wyd yn etifedd i deyrnas nef, teyrnas heb ddiwedd arni, teyrnas heb fesur arni, teyrnas dedwyddwch, teyrnas Duw ei hun: efe a aned i fod yn gydeti∣fedd ag Jesu Grist Mab Duw, i deyrnasu gyd ag ef, i orfoleddu gyd ag ef, i eistedd mewn barn a maw∣rhydi gyd ag ef, i farnu Angylion nef gyd ag ef. Pa ogoniant mwy a ellid meddwl am dano, oni bai

Page 144

gael bod yn Dduw ei hun? Fe a dywelltir am ei ben ef yr holl lawenydd, a'r holl gyfoeth a gynnhwy∣sir yn y nef. Ac i wneuthur yr anrhydedd hwn etto yn fwy, yr Oen gogoneddus sydd yn eistedd ar or∣seddfaingc y mawredd, a'i lygaid fel fflam dân, a'i draed fel pres coeth, a'i wyneb yn disgleirio yn oleu∣ach nâ'r maen gwerthfawr, yr hwn y daw taranau a mellt o'i orseddfaingc byth bythoedd, yr hwn y rhydd y pedwar henuriad ar hugain eu coronau i lawr ger ei fron; yr oen hwn, meddaf, a gyfyd, ac a'i hanrhydedda ef a'i holl wasanaeth, Luc. 12.37. Pwy ni wna gyfrif o'r etifeddiaeth frenhinol hon? Yn enwedig gan fod i ni yr awrhon amser mor gy∣faddas i'w cheisio ac i'w chael hi trwy ddawn ein prynedigaeth, a thrwy'r grâs a bwrcaswyd i ni wrth ein prynu.

20. Dyaid i mi bellach ddarllennydd hawdd∣gar, pa ham na dderbyni di y cynnyg yma y mae efe yn ei wneuthur i ti? Oni wnai di gyfrif o'r deyr∣nas yma eiddo ef? Pa ham na phryni di y gogoni∣ant yma gantho ef er cyn lleied o boen ac y mae efe yn ei ofyn gennyti? Yr wyf yn dy gynghori di, medd Christ, i brynu gennyfi aur wedi ei buro trwy dân, fel i'th gyfoethoger, Datc. 3.18. Pa ham na chanlyni ei gyngor ef, frawd anwyl, ac ynteu yn gyngor marsiandwr nid oes yn ei fryd mo'th dwyllo di? Nid oes dim mwy gofidus gan ein Iachawdr Christ, na bod dynion yn ceisio trwy gymmaint o boen bryn∣nu gwêllt yn yr Aipht, lle y gwerthai efe iddynt aur pûr yn well newid; a'i bod yn prynu dwfr y pwll, â mwy o boen nag a ofynnai efe am ddeg cymmaint o loyw ddwfr allan o'r ffynnon ei hun. Nid oes gwr o'r annuwiolaf yn y byd, nad yw yn cymmeryd mwy o boen yn ynnill vffern, fel y dan∣gosir yn ôl hyn, nag y mae 'r mwyaf ei boen o wa∣sanaethwyr Duw yn ei gymmeryd i geisio ynnill nef.

Page 145

21. Ond na chanlyn di mo'i ffolineb hwy fy mrawd anwyl, oblegid ti a gei eu gweled hwy yn dioddef yn dôst am hynny ryw ddiwrnod, pan fo dy galon di yn ddigon llawen nad oes i ti gyfran yn y byd gydâ hwynt. Elont hwy 'n awr a threuliant eu hamser mewn oferedd, a digrifwch, a difyrrwch y byd. Adailadant balassau, prynant swyddau a brei∣niau, a chwanegant y naill ddarn o dir at y llall: gwibiont ar ôl goruchafiaeth ac anrhydedd, ac adei∣ladant gestyll yn yr awyr: fe ddaw 'r diwrnod, os coeli di Grist ei hun, pan fo i ti ychydig achos i wyn∣fydu ac i gynfigennu wrth eu dedwyddyd hwy. Luc. 6.25. Os hwy a chwedleuant yn wael am o∣goniant a chyfoeth y Sainct yn y nef, heb wneuthur cyfrif yn y byd o'r rhai hynny wrth yr eiddynt eu hunain, ond eu diystyru am na chyfrifir difyrrwch cnawdol yn eu mysg; na wna di fawr gyfrif o'i geiriau hwy, am nad yw 'r dyn anianol yn derbyn nag yn deall y pethau sy o yspryd Duw, 1 Cor. 2.14. Pettai eu meistr yn addo i gephylau wledd fawr, ni fedrent hwy feddwl am well gwledd na chael eu gwala o ebran, o ŷd a dwfr; am nad ydynt hwy yn adnabod seigiau gwell na 'r rhai hynny: felly y gwyr hyn, am nad ydynt hwy gydnabyddus ond a budr-bwll eu cnawdol ddyfyrrwch eu hun, ni fe∣drant hwy ddyrchafu mo'i meddyliau at ddim a fo vwch na hynny. Ond mi a ddangosais i ti o'r blaen, ddarllennydd tirion, ryw ffyrdd i ystyried ac i fe∣ddwl am bethau a fo mwy, er bod yn ddir i ni, fel i'th rybuddiais yn fynych, gyfaddef gyda S. Paul, na all calon dŷn na deall na meddwl y rhan leiaf o honynt: ac nid yw anghyffelyb mai o'r achos hyn∣ny y gwaharddwyd i S. Paul adrodd y pethau a wel∣sai ac a glywsai, pan gymmerwyd ef i fynu yn rhy∣feddol i'r drydedd nef. 1 Cor. 2.9. 2 Cor. 12.

Page 146

22. I ddibennu weithiau, y mae 'r gamp a'r gyngwystl yma wedi ei gosod i, fynu i'r rhai a redo, fel y dywaid S. Paul, ac ni choronir neb, ond yn vnig y rhai a ymdrecho, fel y mae 'r vn Apostol yn dysgu. 1 Cor. 9.24. 2 Tim. 2.4. Nid pwy bynnag a ddywedo wrth Grist, Arglwydd, Arglwydd a â i mewn i deyrnas nefoedd, ond yr hwn sydd yn gwneu∣thur ewyllys ei Dâd ef yr hwn sydd yn y nefoedd, Mat. 7.21. Er bod y deyrnas yma eiddo Christ wedi ei gosod o flaen pawb, etto ni chaiff pob dyn ddyfod i deyrnasu gyd a Christ, ond yn vnig y rhai a fo bodlon i ddioddef gyda Christ. Dy ran di gan hynny yw eistedd i lawr, ac ystyried yn ôl cyngor dy lachawdwr, pa beth a wei, a oes gennyti cym∣maint o arian ysprydol, ac a fo ddigon i adeiladu 'r twr hwn, ac i fyned i'r rhyfel hon, ai nad oes: hynny ydyw, a oes gennyti ynot cymmaint o ewy∣llys da, a gwroliaeth sanctaidd, a chlywed arnat ddioddef poen gyda Christ (os poen y gelwir hyn∣ny, ac ynteu yn hyttrach yn hyfrydwch) fel y gal∣lech di felly deyrnasu gyd ag ef yn ei deyrnas, Luc. 14.27, 28. Hyn yw'r Questiwn, ac dyma holl derfyn y peth, ac at hyn y perthyn pob peth ac a ddywedpwyd yn y llyfr hwn o'r blaen, pa vn byn∣nac a'i am dy ddiwedd neillduol di, ai am fawrhy∣di, a haelioni, a chyfiawnder Duw; ac am y cyfrif a ofyn efe gennyt ti; a hefyd am y gospedigaeth a'r taledigaeth sy wedi eu rhoi i gadw i ti: Fy amcan; meddaf, yn hyn i gyd, yw ceisio peri i ti fesuro y naill ran, ar llall hefyd, ac felly rhoi dy fryd ar e∣drych pa beth a wnait, ac na ollyngyt mo'th amser heibio mewn diofal esgeulusdra, fel y gwna llawer heb ganfod byth mo'i hamryfusedd a'i camsynnied, hyd oni byddo rhyhwyr ei wellhâu.

23. Er cariad ar Dduw gan hynny, frawd anwyl, ac er y cariad sy gennyt i'th enaid dy hun, ysgwyd

Page 147

ymaith y diofalwch peryglus yma, yr hwn y mae cig a gwaed yn arfer o suo i ddynion i gysgu ynddo: a dôd gwbl o'th fryd, o ddifrif dy galon, ar edrych am dy enaid, erbyn y fuchedd a ddaw. Cofia yn fy∣nych y dywediad gwiw hwnnw, Hoc momentum, un∣de pendet aeternitas, Mynudyn a moment o amser yw 'r byd hwn, etto arno ef y saif holl dragywyddol∣deb bywyd ac angeu 'r byd a ddaw. Onid ydyw ond mynudyn, ac os ydyw fynudyn o gymmaint pwys, pa fodd y mae dynion y byd yn ei ollwng heibio mor ddiofal ac y maent.

24. Mi a allaswn yma ddwyn aneirif o resymmau ac ystyriaethau i gynnhyrfu dynion i roi eu bryd yn gwbl ar wasanaethu Duw; ac yn siccr ni by ddei vn llyfr o'r mwyaf ddigon i gynnwys cymmaint ac a ellid ei ddywedyd am y peth hyn. Oblegid nid yw 'r holl greaduriaid sy tan y nef, ie yn y nef ei hun, ac yn vffern hefyd; nid yw 'r cwbl, meddaf, o'r cyntaf hyd y diweddaf, ond megis rhesymmau i an∣nog ac i berswadio dyn i hynny; nid yw 'r cwbl ond megis llyfrau a phregethau, a'r cwbl yn prege∣thu ac yn llefain (rhai drwy eu cospedigaeth, rhai drwy eu gogoniant, rhai drwy eu tegwch, a'r cwbl drwy eu creedigaeth a'i gwneuthuriad) y dylem ni, yn ddioed ac yn ddiohir, roi ein bryd ar wasanae∣thu Duw; ac nad yw pob peth arall amgen nâ gwa∣sanaethu ein gwneuthurwr a'n prynwr, ond oferedd oll, ac ynfydrwydd oll, ac anwiredd oll, a thrueni oll. Ond etto er hynny, fel y dywedais, mi a dy∣biais yn dda ddethol yr ychydig bethau hyn a osod∣wyd i lawr, i ystyried arnynt, megis y pethau pen∣naf ym mhlith y llaill, a allai weithio ynghalon gwir Gristion. Ac onis gall y rhai hyn weithio ynot ti, ddarllennydd hynaws, nid oes fawr obaith y gwnai ddim arall i ti mor llês. Ac am hynny, yma y di∣weddaf y rhan hon, ac a adawaf ychydig bethau et∣to

Page 148

i'w dywedyd yn yr ail rhan, er mwyn tynnu ym∣maith y cyfryw rwystrau, ac y mae ein gwrthwy∣nebwr ysprydol yn arfer o'i gosod yn erbyn y gwaith da yma, megis yn erbyn y cam cyntaf o'n lechyd∣wriaeth ni. Ein Harglwydd Dduw, a'n Iachawdr Iesu Grist, yr hwn a fu fodlon i dalu ei waed ei hun, i ni; a roddo i ni ei râs, i wneuthur y fath gyfrif o honi ac y mae pwys y peth ei hun yn ei ofyn, ac na bo i ni trwy esgeulusdra, golli ein cyfran o honi. Amen.

Notes

Do you have questions about this content? Need to report a problem? Please contact us.