[verse 5] A gorfoleddwch gar ei fron,
Duw tirion, tâd ymddifaid,
Ac i'r gweddwon mae'n farnwr da
yn ei bryswylfa gannaid.
[verse 6] Duw a wna rai mewn ty'n gytun,
ei hun mae'n gollwng gefyn,
Ac yn rhoi trigfan mewn tir crâs,
i ddynion atcas cyndyn.
[verse 7] Pan aethost (Dduw) o flaen dy lu,
dy daith a fu drwy ddrysni.
[verse 8] Y ddaiar crynodd a flaen Duw,
a'r nef rhoes amryw ddefni.
Ac felly Sinai o flaen Duw,
sef (vnduw Israel howddgar).
[verse 9] Ar d'etifeddiaeth hidlaist law,
i ddiflinaw y ddaiar.
[verse 10] Gwrteithiast hon, dy bobloedd di
sydd ynthi yn preswylio:
Oth râd darperaist Dduw i'r flawd,
i gael digondawd yno.
[verse 11] Yr Arglwydd Dduw a roddai'r gair,
mawr mintai'r cantoressau:
[verse 12] Cilient gedyrn: gweiniaid arhont,
yr ysbail rhont yn rhannau.
[verse 13] Pes ymdroech mewn parddu a llwch,
chwi a fyddwch fel y glommen,
A'i phlu yn aur ac arian teg,
yn hedeg is yr wybren.
[verse 14] Hon, pan wasgarodd Duw yn chwyrn
bob cedyrn o'i gaseion,
Oedd mor ddisgleirwych, ac mor wenn,
ac eira'ar ben bryn Salmon.
[verse 15] Mynydd Duw (sef Sion) y sydd
fel Basan fynydd tirion:
Mynydd Basan vchel ei grib
cyffelib yw i Sion.
[verse 16] Chwychwi fynyddoedd cribog pam
y bwriwch lam mewn cyffro?
Duw ar Seion ei serch a roes,
lle myn ef eisoes drigo.
[verse 17] Rhif vgain mil o filoedd yw
angylion Duw mewn cerbyd:
Ynghyssegr Sinai y bu ei wlith,
bydd Duw iw plith hwy hefyd
[verse 18] I'r vchelder y derchefaist,
a chaethgludaist gaethiwed,
Cymraist, dodaist ddoniau, Duw Ion,
i ddynion oedd ddiniwed.
[verse 19] Bendigaid fyth fo'r Arglwydd man
am ddoniau ei ddaioni.
A'i iechydwriaeth i ni'n llwyth
o berffrwyth ei haelioni.
[verse 20] Efe ei hun yw'n Duw ni i gyd,
sef Duw ein iechyd helaeth,
Drwy'r Arglwydd Dduw cawn yn ddi swrth
ddiangc oddiwrth farwolaeth.
[verse 21] Duw yn ddiammau a dyrr ben,
a thalcen ei elynion,
A choppa walltog rhai a fo
yn rhodio mewn drwg creulon.
[verse 22] Dygaf fy mhobloedd (meddai ef)
hyd adref fel o Basan,
A dygaf hwynt iw hol drachefn,
fel o'r mor donlefn allan.
[verse 23] Fel y gwlychech ditheu dy draed
yn llif gwaed dy ddigassau,
Ac y llyfo dy gwn heb gel
y gwaed a ddel o'i briwiau.
[verse 24] Gwelodd pawb (o Dduw) dy ystâd,
yn dy fynediad sanctaidd,
Mynediad fy Nuw frenin fry,
fel hyn iw dy cysegraidd.
[verse 25] Y cantorion, aent hwy o'r blaen,
cerddorion aen ol ynol,
Yna'r gweryfon, beraidd gân,