Llyfr y Psalmau, wedi eu cyfieithu, a'i cyfansoddi ar fesur cerdd, yn gymraeg. / Drwy waith Edmund Prys Archdiacon Meirionnydd,.

About this Item

Title
Llyfr y Psalmau, wedi eu cyfieithu, a'i cyfansoddi ar fesur cerdd, yn gymraeg. / Drwy waith Edmund Prys Archdiacon Meirionnydd,.
Author
Prys, Edmund, 1544-1623.
Publication
A'i printio yn Llundain. :: [s.n.],
1621..
Rights/Permissions

This keyboarded and encoded edition of the work described above is co-owned by the institutions providing financial support to the Early English Books Online Text Creation Partnership. Searching, reading, printing, or downloading EEBO-TCP texts is reserved for the authorized users of these project partner institutions. Permission must be granted for subsequent distribution, in print or electronically, of this text, in whole or in part. Please contact project staff at eebotcp-info@umich.edu for further information or permissions.

Subject terms
Bible. -- O.T. -- Psalms. -- Paraphrases, Welsh.
Psalters.
Cite this Item
"Llyfr y Psalmau, wedi eu cyfieithu, a'i cyfansoddi ar fesur cerdd, yn gymraeg. / Drwy waith Edmund Prys Archdiacon Meirionnydd,." In the digital collection Early English Books Online 2. https://name.umdl.umich.edu/B00918.0001.001. University of Michigan Library Digital Collections. Accessed May 16, 2024.

Pages

Iudica me Domine. Psal. xxxv.

Dafydd yn gweddio am ddial ar wein∣ieithwyr Saul, y rhai a'i herlidient; a thros ei gyfeillion ef. Ac yn addaw moli Duw yn dragywydd.

PLeidia (o Arglwydd) yn fy hawl, â'r sawl a dery'n ferbyn: Lle'r ymrysonant â myfi, ymwana di â'r gelyn. [verse 2] Mae dy gymorth? o moes ei gael, ymafael yn y tarian: O cyfod cais dy astalch gron, a dwg dy waywffon allan.
[verse 3] Argaua ar y rhai sy ar gam, i'm herlid am fy mywyd: Wrth fy enaid, dywaid fel hyn, fy fi a fynn yt' iechyd. [verse 4] Gwarth, a gwradwydd a fo i bob gradd, a geisio ladd fy enaid: A thrwy gywilydd troed iw hol y ffals niweidiol gablaid.
[verse 5] Fel yr vs o flaen gwynt y bon', Angel yr Ion i'w chwalu:

Page 15

[verse 6] A rhyd ffordd dywyll lithrig lefn, a hwn wrth gefn iw gyrru. [verse 7] Cloddio pwll, a chuddio y rhwyd, a wnaethbwyd ym heb achos: Heb achlysur, maglau a wnaid i'm henaid yn y cyfnos.
[verse 8] O deued, cwymped yn ei rwyd, yr hon a guddiwd allan: Syrthied a glyned iw delm rwyll, a'i drapp o'i dwyll ei hunan. [verse 9] Eithr am fy enaid i (Amen) bid llawen yn yr Arglwydd: Fe a fydd hyfryd gantho hyn, lle daw i'r gelyn aflwydd.
[verse 10] O Arglwydd dywaid f' esgyrn i, pwy sydd a thi vn gyflwr? Rhag ei drech yn gwared y gwan, a'r truan rhag ei 'speiliwr▪ [verse 11] Tystion gau a godent yn llym, a holent ym' beth anfad: [verse 12] Drwg ym' dros dda talent heb raid, a'm henaid braint ymddifad.
[verse 13] Ond fi, tra fyddent hwy yn glaf, rhown i'm nesaf liein-sach: Drwy hir ym ostwng ac ympryd, cymrais fy myd yn bruddach. Yr vn dosturiol weddi fau, a ddaeth o'm genau allan, A droes eilwaith (er fy lles) i'm mynwes i fy hunan.
[verse 14] Mi a ymddygais mor brudd dlawd, fel am fy mrawd neu'nghymar: Neu fel arwyl dyn dros ei fam, ni cherdda'i gam heb alar. [verse 15] Hwythau yn llawen doent ynghyd, pan bwysodd adfyd attaf; Ofer ddynion, ac echrys lu fyth yn mingammu arnaf.
[verse 16] Rhai'n rhagrithwyr, rhai'n watwor∣wyr, torrent hwy eiriau mwysaidd: Hwy a'sgyrnygent arnaf fi, bob daint, a'r rheini'n giaidd. [verse 17] Arglwydd edrych, ow pa ryw hyd yw'r pryd y dof o'i harfod? Gwared fy enaid rhag y bedd, f'oes o ewinedd llewod.
[verse 18] Minneu a ganaf i ti glod, lle bo cyfarfod lluoedd: Ac a folaf dy enw a'th ddawn, wrth lawer iawn o bobloedd. [verse 19] Na fydded lawen fy nghâs ddyn, i'm herbyn heb achossion: Ac na throed (er bwriadu 'mrâd) mo gwr ei lygad digllon.
[verse 20] Nid ymddiriedant ddim mewn hedd, dychmygant ryfedd gelwydd: Dirwyn dichell, a gosod cryw i'r rhai sy'n byw yn llonydd. [verse 21] Lledu safnau, taeru yn dyn, a dwedyd hyn yn vnblaid, Fei ffe i o honot, hwnt a thi, ni a'th welsom ni â'n llygaid.
[verse 22] Tithau (o Arglwydd) gwelaist hyn, mor daer yn f'erbyn fuon: Ac na ddos oddiwrthif ymhell, rhag dichell fy nghaseion. [verse 23] Cyfod, deffro, fy Nuw i'm barn, yn gadarn gyd â'm gofid: [verse 24] Dydi a fynni'r vniondeb, ni watwar neb o'm plegid.

Page [unnumbered]

[verse 25] Na âd i'r gelyn calon wael ddiweddu cael i wynfyd: Na rhodresu fy llyncu'n grwn, llyncaswn hwn yn ddybryd.
[verse 26] Gwarth a gwradwydd iddynt a ddel sy'n codi vchel chwerthin: Gwisger hwynt â mefl ac â châs, sydd ym alanas ryflin. [verse 27] Llawen fo'r llaill a llawn o glod, sy'n coelio 'mod yn gyfion. Dwedant, bid i'n Duw ni fawrhâant, am roi llwyddiant iw weision.
[verse 28] Minnau fy Arglwydd gyda'r rhai'n, myfyriaf arwain beunydd Dy gyfiownder di, a'th fawr glod, â'm tafod yn dragywydd.
Do you have questions about this content? Need to report a problem? Please contact us.