Benedicam Domine. Psal. xxxiiij.
Dafydd wedi diangc rhag Achis, yn moli Duw, drwy ro•• addysg i ymddiried yn Nuw.
DIolchaf fi â chalon rwydd,
i'r Arglwydd bob amserau:
Ei foliant ef, a'i wir fawrhâd,
sy'n wastad yn fy ngenau.
[verse 2] Fy enaid sydd yn bostio'n rhwydd,
o'm Harglwydd, ac o'm perchen:
A phob difalch hynny a glyw,
ac a fydd byw yn llawen.
[verse 3] Molwch fy Arglwydd gyd â mi,
cydfolwn ni ei enw ef:
[verse 4] Criais arno yn fy ofn caeth,
a gwrando wnaeth fy ynglef,
[verse 5] Y sawl a edrych arno ef,
â llewych nef eglurir:
Ni wradwyddir o honynt neb,
a'i hwyneb ni chwilyddir.
[verse 6] Wele, y truan a roes lef,
a Duw o'r nef yn gwrando
A'i gwaredodd ef o'i holl ddrwg,
a'i waedd oedd amlwg iddo.
[verse 7] Angel ein Duw a dry yn gylch,
o amgylch pawb a'i hofnant:
Ceidw ef hwynt: a llawer gwell
na chastell yw eu gwarant.
[verse 8] O profwch, gwelwch, ddaed yw,
yr Arglwydd byw i'r eiddo: