[verse 6] A rhyd ffordd dywyll lithrig lefn,
a hwn wrth gefn iw gyrru.
[verse 7] Cloddio pwll, a chuddio y rhwyd,
a wnaethbwyd ym heb achos:
Heb achlysur, maglau a wnaid
i'm henaid yn y cyfnos.
[verse 8] O deued, cwymped yn ei rwyd,
yr hon a guddiwd allan:
Syrthied a glyned iw delm rwyll,
a'i drapp o'i dwyll ei hunan.
[verse 9] Eithr am fy enaid i (Amen)
bid llawen yn yr Arglwydd:
Fe a fydd hyfryd gantho hyn,
lle daw i'r gelyn aflwydd.
[verse 10] O Arglwydd dywaid f' esgyrn i,
pwy sydd a thi vn gyflwr?
Rhag ei drech yn gwared y gwan,
a'r truan rhag ei 'speiliwr▪
[verse 11] Tystion gau a godent yn llym,
a holent ym' beth anfad:
[verse 12] Drwg ym' dros dda talent heb raid,
a'm henaid braint ymddifad.
[verse 13] Ond fi, tra fyddent hwy yn glaf,
rhown i'm nesaf liein-sach:
Drwy hir ym ostwng ac ympryd,
cymrais fy myd yn bruddach.
Yr vn dosturiol weddi fau,
a ddaeth o'm genau allan,
A droes eilwaith (er fy lles)
i'm mynwes i fy hunan.
[verse 14] Mi a ymddygais mor brudd dlawd,
fel am fy mrawd neu'nghymar:
Neu fel arwyl dyn dros ei fam,
ni cherdda'i gam heb alar.
[verse 15] Hwythau yn llawen doent ynghyd,
pan bwysodd adfyd attaf;
Ofer ddynion, ac echrys lu
fyth yn mingammu arnaf.
[verse 16] Rhai'n rhagrithwyr, rhai'n watwor∣wyr,
torrent hwy eiriau mwysaidd:
Hwy a'sgyrnygent arnaf fi,
bob daint, a'r rheini'n giaidd.
[verse 17] Arglwydd edrych, ow pa ryw hyd
yw'r pryd y dof o'i harfod?
Gwared fy enaid rhag y bedd,
f'oes o ewinedd llewod.
[verse 18] Minneu a ganaf i ti glod,
lle bo cyfarfod lluoedd:
Ac a folaf dy enw a'th ddawn,
wrth lawer iawn o bobloedd.
[verse 19] Na fydded lawen fy nghâs ddyn,
i'm herbyn heb achossion:
Ac na throed (er bwriadu 'mrâd)
mo gwr ei lygad digllon.
[verse 20] Nid ymddiriedant ddim mewn hedd,
dychmygant ryfedd gelwydd:
Dirwyn dichell, a gosod cryw
i'r rhai sy'n byw yn llonydd.
[verse 21] Lledu safnau, taeru yn dyn,
a dwedyd hyn yn vnblaid,
Fei ffe i o honot, hwnt a thi,
ni a'th welsom ni â'n llygaid.
[verse 22] Tithau (o Arglwydd) gwelaist hyn,
mor daer yn f'erbyn fuon:
Ac na ddos oddiwrthif ymhell,
rhag dichell fy nghaseion.
[verse 23] Cyfod, deffro, fy Nuw i'm barn,
yn gadarn gyd â'm gofid:
[verse 24] Dydi a fynni'r vniondeb,
ni watwar neb o'm plegid.