PEN. III.
1 Amser sydd i bob peth. 14 Gweithredoedd Duw sy berffaith, ac yn peri i ni eu hofni. 17 Duw a farn y cyfiawn a'r anghyfiawn.
Y Mae amser i bob peth, ac amser i bob ewy∣llys tann y nefoedd.
2 Amser sydd i eni, ac amser i farw, ac am∣ser i blannu, ac amser i ddiwreiddio y peth a blannwyd.
3 Amser i ladd, amser i iachau, amser i fwrw i lawr, ac amser i adailadu.
4 Amser i ŵylo, ac amser i chwerthin, amser i alaru, ac amser i ddawnsio.
5 Amser i daflu cerrig, ac amser i gasclu cer∣rig, amser i ymgofleidio, ac amser i ochel coflei∣dio.
6 Amser i geisio, ac amser i golli, amser i gadw, ac amser i fwrw ymmaith.
7 Amser i rwygo, ac amser i wnio, amser i dewi, ac amser i ddywedyd.
8 Amser i garu, ac amser i gasaû, amser i ry∣fel, ac amser i heddwch.
9 Pa fudd i'r gweithudd o'r blinder a gym∣mero efe؛
10 Mi a welais fod hyn yn flinder a roddes Duw ar feibion dynnion i ymflino ynddo.
11 [Duw] a wnaeth bôb pêth yn dêg, ac yn ei amser, îe tra fyddo yr bŷd Duw a esyd yn eu calonnau hwy y gwaith a wnaeth efe o'r dechre∣uad hyd y diwedd (o ddieithr pêth ni ddichon dyn ei gyrheuddyd.)
12 Mi a wn nad oes ddim well iddynt, nag i bawb fôd yn llawen, a gwneuthur daioni yn ei fywyd.
13 Hefyd pa ddyn bynnac sydd yn bwyta, ac yn yfed, ac yn mwynhau daioni oi holl lafur, rhodd Dduw yw hynny.
14 Mi a wn beth bynnac a wnêl Duw ei fôd yn parhau byth, ac na ellir na bwrw at [ei waith ef] na thynnu dim oddi wrtho: a bôd Duw yn gwneuthur hyn fel yr ofne dynnion ei wyneb ef.
15 Y peth a fu o'r blaen sydd yr awron: a'r peth sydd ar ddyfod a fu o'r blaen: canys Duw ei hun a adnewydda y peth a aeth heibio.
16 Hefyd mi a welais dann yr haul yn lle barn annuwoldeb: ac yn lle cyfiawnder, annu∣woldeb.
17 Mi a ddywedais yn fyng-halon y barna Duw y cyfiawn a'r anghyfiawn: canys y mae amser i bôb ewyllys, a goruwch pôb gwaith yno.
18 Mi a ddywedaswn yn fyng-halon ar ôl rheswm dynawl, (wedi i Dduw ei hun eu ham∣lygu hwynt, a gweled fod y rhai hyn yn anifei∣liaid i'r rhai eraill)
19 Fôd digwydd meibiō dynniō fel digwydd yr anifeiliaid, yr vn digwydd, sydd iddynt, fel y mae 'r naill yn marw, felly y bydd marw 'r y