Page [unnumbered]
Llyfr y Pregeth-vvr.
PENNOD. I.
Oferedd y byd
GEiriau y Pregeth-wr mâb Dafydd frenin [yr hwn oedd] yn Ierusa∣lem.
2 Gwagedd o wa∣gedd medd y Pregeth∣wr, gwagedd o wagedd, gwagedd [yw 'r] cwbl.
3 Pa fudd sydd i ddŷn oi hôll lafur, a gym∣mero efe dann yr haul?
4 Vn genhedlaeth a aiff ymmaith, a chenhed∣laeth arall a ddaw: ond y ddaiar a saif byth.
5 Yr haul hefyd a gyfŷd, a'r haul a fachluda, ac a dynn iw le, lle y mae yn codi.
6 Efe a aiff i'r dehau, ac a amgylcha i'r gogledd: y mae 'r gwynt yn myned oddi am∣gylch, ac yn dychwelyd yn ei gwmpas.
7 Yr hôll afônydd a rêdant i'r môr, ac etto nid yw 'r môr yn llawn: i ba le bynnac y rhêdo 'r afonydd oddi yno y dychewêlant eil-waith.
8 Pôb peth sydd yn llawn blinder, ni ddich∣on nêb ei dreuthu: ni chaiff y llygad ddigon o edrych, na'r glust o wrando.
9 Y pêth a fu a fydd, a'r peth a wnaed a wn∣êir, ac nid oes dim newydd dann yr haul.
10 A oes dim y gellir dywedyd, edrych ar hwn, dymma beth newydd؛ canys efe fu yn yr hên amser o'n blaen ni.
11 Nid oes goffa am y pethau gynt, ac ni bydd coffa am y pethau a ddaw yn ôl, gan y rhai a ddaw ar eu hôl hwynt.
12 Myfi y Pregeth-wr oeddwn frenin Is∣raêl yn Ierusalem:
13 Ac a roddais fy mrŷd ar geisio, ac ar chwilio am ddoethineb, am bôb peth a wnaed tann y nefoedd: (dymma drafael flin a roddes Duw ar feibion dynnion i ymguro ynddi)
14 Mi a welais yr holl weithredoedd y rhai sydd tann haul, ac wele y rhai hynny ôll ydynt wagedd a gorthrymder yspryd.
15 Ni ellir iniawni yr hyn sydd gam, na chy∣frif yr hyn sydd ddeffygiol.
16 Mi a feddyliais yn fyng-halon gan ddy∣wedyd, wele mi a gynnyddais, ac a gesclais ddoethineb tu-hwnt i bawb a fu o'm blaen i yn Ierusalem, a'm calon a ddeâllodd lawer o ddoe∣thineb, a gŵybodaeth.
17 Mi a roddais fy mrŷd hefyd ar ŵybod doethineb, gŵybodaeth, ynfydrwydd, a ffolineb, ac mi a ŵybum fod hyn hefyd yn orthrymder yspryd.
18 Canys mewn llaweroedd o ddoethineb y mae llawer o ddig: a'r neb a chwanêgo ŵybo∣daeth a chwanêga ei flinder.
PEN. II.
Ofered adailadaeth, a chyfoeth. 14 Bod yr vn farwo∣laeth gorphorol i'r doeth, ac i'r annoeth.
AC mi a ddywedais yn fyng-halon, tyret yn awr mi a gymmyscaf win yn llawen, cymmer dy fyd yn esmwyth, ac wele hyn hefyd sydd wagedd,
2 Mi a ddywedais wrth y chwerthinog, yr ydwyt ti yn ynfydu, ac wrth y llawen, pa beth yr ydwyt yn ei wneuthur felly؛
3 Mi a fwriedais yn fyng-halon roddi fyng-nhawd i'r gwîn (pan oeddwn yn arwain fyng-halon mewn doethineb) ac i gofleidio ffolineb, hyd oni welwn ai da i feibion dynnion yw yr hyn a wnânt hwy tann y nefoedd hôll ddyddiau eu bywyd.
4 Mi a wneuthum fyng-waith mawr, mi a adailadais i mi dai, ac a blennais win-llanno∣edd.
5 Mi a wneuthym erddi a pherllannau, lle y gosodais brennau o bôb ffrwyth.
6 Mi a wneuthym lynnau dwfr i ddwfrhau â hwynt y llwynau i'r-goed.
7 Mi a dderparais weisiō, a morwyniō: he∣fyd yr oedd i mi wenidogion caeth, îe yr oeddwn i yn berchen llawer o wartheg a defaid tu hwnt i bawb ôll a fuasent o'm blaen i yn Ierusalem.
8 Mi a bentyrrais i mi arian ac aur, a thryssor pennaf brenhinoedd, a thalaithau: mi a ddape∣rais i mi gantorion a chantoressau a phôb rhyw offer cerdd, difyrwch meibion dynnion.
9 A mi a dyfaswn, ac a gynnyddaswn yn fwy nâ neb a fuase o'm blaen i yn Ierusalem: o blegit fy noethineb oedd yn sefyll gyd â mi.
10 Beth bynnac a ddeisyfie fy llygaid, ni ommeddwn hwynt, ni attaliwn fyng-halon o∣ddi