PEN. II.
Ofered adailadaeth, a chyfoeth. 14 Bod yr vn farwo∣laeth gorphorol i'r doeth, ac i'r annoeth.
AC mi a ddywedais yn fyng-halon, tyret yn awr mi a gymmyscaf win yn llawen, cymmer dy fyd yn esmwyth, ac wele hyn hefyd sydd wagedd,
2 Mi a ddywedais wrth y chwerthinog, yr ydwyt ti yn ynfydu, ac wrth y llawen, pa beth yr ydwyt yn ei wneuthur felly؛
3 Mi a fwriedais yn fyng-halon roddi fyng-nhawd i'r gwîn (pan oeddwn yn arwain fyng-halon mewn doethineb) ac i gofleidio ffolineb, hyd oni welwn ai da i feibion dynnion yw yr hyn a wnânt hwy tann y nefoedd hôll ddyddiau eu bywyd.
4 Mi a wneuthum fyng-waith mawr, mi a adailadais i mi dai, ac a blennais win-llanno∣edd.
5 Mi a wneuthym erddi a pherllannau, lle y gosodais brennau o bôb ffrwyth.
6 Mi a wneuthym lynnau dwfr i ddwfrhau â hwynt y llwynau i'r-goed.
7 Mi a dderparais weisiō, a morwyniō: he∣fyd yr oedd i mi wenidogion caeth, îe yr oeddwn i yn berchen llawer o wartheg a defaid tu hwnt i bawb ôll a fuasent o'm blaen i yn Ierusalem.
8 Mi a bentyrrais i mi arian ac aur, a thryssor pennaf brenhinoedd, a thalaithau: mi a ddape∣rais i mi gantorion a chantoressau a phôb rhyw offer cerdd, difyrwch meibion dynnion.
9 A mi a dyfaswn, ac a gynnyddaswn yn fwy nâ neb a fuase o'm blaen i yn Ierusalem: o blegit fy noethineb oedd yn sefyll gyd â mi.
10 Beth bynnac a ddeisyfie fy llygaid, ni ommeddwn hwynt, ni attaliwn fyng-halon o∣ddi