yr Arglwydd, nac o honof finne ei gar∣char-wr ef: eithr cyd-oddef di gystudd â'r Efen∣gyl, yn ôl nerth Duw.
9 Yr hwn a'n achubodd, ac a'n galwodd â galwedigaeth sanctaidd, nid wrth* ein gwei∣thred••edd [ni,] ond wrth ei arfaeth ei hun, a'i râs yr hwn a roddwyd i ni trwy Grist Iesu cyn amseroedd tragywyddol:
10 Eithr efe a eglurwyd yr awron trwy ym∣ddangosiad ein Iachawdr Iesu Grist, yr hwn a ddeleodd angeu, ac a ddug fywyd, ac anfar∣wolaeth i oleuni trwy 'r Efengyl.
11 I'r hon i'm gosodwyd i yn bregeth-wr, ac yn Apostol, ar yn athro y cenhedloedd.
12 Am ba achos yr ydwyf yn dioddef hefyd y pethau hyn, ac nid oes arnaf gywilydd: canys gwn pwy a gredais, ac y mae yn ddiammeu gennif ei fod efe yn abl i gadw yr hyn a roddais atto iw gadw, erbyn y dydd hwnnw.
13 Bydded gennit ffurf yr iachus ymadro∣ddion, y rhai a glywaist gennif fi mewn ffydd a chariad yng-Hrist Iesu.
14 Y peth prydferth a roed iw gadw attat, cad'w trwy 'r Yspryd glân, yr hwn sydd yn pres∣swylio ynom.
15 Ti a ŵyddost hyn, ddarfod i'r rhai oll sy yn Asia droi oddi wrthifi: o'r sawl y mae Phi∣gelus, ac Hermogenes.
16 Rhodded yr Arglwydd drugaredd i dŷ Onesiphorus: canys efe yn fynych am llon∣nodd fi, ac nid ydoedd gywilydd ganddo fyng∣hadwyn i.
17 Eithr pan ydoedd yn Rhufain, efe a'm ceisiodd yn ddiwyd iawn, ac a'm cafodd.
18 Rhodded yr Arglwydd iddo gael truga∣redd gan yr Arglwydd yn y dydd hwnnw, a pha faint o bethau a wasanaethodd efe yn Ephesus, goref y gwyddost ti.
PEN. II.
Y mae efe yn annog i fod yn ddianwadal, ac yn ddio∣ddef gar, 11 gan ddangos ffyddlon amcan Duw yng-hylch cadwedigaerh y rhai sy eiddo ef, 21 a nod y rhai hynny.
TIthe gan hynny fy mâb ymnertha yn y grâs sydd yng-Hrist Iesu,
2 A'r pethau a glywaist gennif trwy lawer o dystion, traddoda hynny i ddynion y rhai fy∣ddant gymmwys i ddyscu eraill hefyd.
3 Tithe goddef gystudd, megis mil-wr da i Iesu Grist.
4 Nid oes neb yn milwrio yr hwn a ymrwy∣da â negeseuau y fuchedd hon, er mwyn [bod] iddo ryngu bodd i'r hwn a'i dewisodd yn filŵr.
5 Ac od ymdrech neb hefyd, ni choronir ef o∣ddi eithr iddo ymdrech yn gyfreithlon.
6 Rhaid yw i'r llafurwr gan lafurio yn gyn∣taf dderbyn y ffrwythau.
7 Ystyria yr hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd, a'r Arglwydd a roddo it ddeall ym mhob dim.
8 Cofia [am] Iesu Grist o hâd Dafydd, ei gyfodi ef o feirw yn ôl fy Efengyl i.
9 Yn yr hon yr ydwyf yn goddef cy studd fel gweithred-wr drwg hyd rwymau, eithr gair Duw ni rwymir.
10 Am hynny yr ydwyf yn goddef pob peth er mwyn y detholedigion, fel y gallent hwy∣thau gael yr iechydwriaeth yr hon sydd yng-Hrist Iesu gyd â gogoniant tragywyddol.
11 Gwir yw 'r gair, os meirw ydym gyd ag ef, y byddwn hefyd fyw gyd ag ef.
12 Os dioddefwn, ni a gyd deyrnaswn, os gwadwn [ef,] yntef hefyd a'n gwada ninnau.
13 Os nyni ni chredwn [er hynny] efe a erys yn ffyddlon: ni all efe ei wadu ei hun.
14 Dwg hyn ar gof gan destiolaethu ger bron yr Arglwydd, na byddo iddynt ymryson yng-hylch geiriau, yr hyn nid yw fuddiol i ddim, [onid] i ddadymchwelyd y gwranda-wŷr.
15 Ymddyro i'th osod dy hun yn brofedig i Dduw, yn weithiwr difefl, yn iawn barthu gair y gwirionedd.
16 Gwilia halogedic ofer-sain, canys cyn∣nyddu a wnânt i fwy o annuwiolded.
17 A'u hymadrodd hwy a ysa fel cancr: ac o'r cyfryw rai y mae Hymeneus, a Philetus.
18 Y rhai hyn am y gwirionedd a ŵyrasant oddi wrth y nôd, gan ddywedyd ddarfod eusus y cyfodedigaeth, ac y maent yn dadymchwel ffydd rhai.
19 Eithr y mae sail Duw yn sefyll yn ddio∣gel, ac iddo y sêl hon, yr Arglwydd a ŵyr pwy sydd eiddo ef, ar ymadawed ag anghyfiawnder y neb a henwo henw Crist.
20 Eithr mewn tŷ mawr ni bydd yn vnic llestri o aur, ac arian, ond hefyd o bren a phridd, a rhai i barch, a rhai i ammarch.
21 Os neb gan hynny a'i glanhâei hunan oddi wrth y pethau hyn, efe fydd lestr i barch, wedi ei sancteiddio, ac yn fuddiol i'r Arglwydd, wedi ei ddarparu i bob gweithred dda.
22 Ffo di hefyd oddi wrth chwantau ie∣uengtid, a dilyn gyfiawnder, ffydd, cariad, a thangneddyf gyd â'r rhai sy yn galw ar yr Ar∣glwydd o galon bur.
23 A dod ymmaith ynfyd, ac annyscedig gwestiwnau, gan ŵybod mai magu ymryson y maent.
24 Ac ni ddyle gwâs yr Arglwydd ymry∣son, ond bod yn dirion wrth bawb, yn athrawus, ac yn ddioddefgar,
25 Gan addyscu yn addfwyn y rhai gwrth∣wynebus, [i edrych] a roddo Duw ryw amser iddynt hwy edifeirwch i gydnabod y gwirio∣nedd,
26 A bod iddynt hwy ddyfod i'r iawn allan o fagl diafol, y rhai a ddelid ganddo wrth ei e∣wyllys ef.