Y Beibl Cyssegr-lan. Sef yr Hen Destament, a'r Newydd..

About this Item

Title
Y Beibl Cyssegr-lan. Sef yr Hen Destament, a'r Newydd..
Publication
Imprinted at London :: by the deputies of Christopher Barker, Printer to the Queenes most excellent Maiestie.,
1588..
Rights/Permissions

To the extent possible under law, the Text Creation Partnership has waived all copyright and related or neighboring rights to this keyboarded and encoded edition of the work described above, according to the terms of the CC0 1.0 Public Domain Dedication (http://creativecommons.org/publicdomain/zero/1.0/). This waiver does not extend to any page images or other supplementary files associated with this work, which may be protected by copyright or other license restrictions. Please go to http://www.textcreationpartnership.org/ for more information.

Cite this Item
"Y Beibl Cyssegr-lan. Sef yr Hen Destament, a'r Newydd.." In the digital collection Early English Books Online 2. https://name.umdl.umich.edu/B00772.0001.001. University of Michigan Library Digital Collections. Accessed May 26, 2024.

Pages

❧ Yr Epistol cyntaf i Paul at Timotheus.

PENNOD. I.

3 Y mae efe yn annog Timotheus i wilio ar ei swydd, yn enwedig ar iddo edrych na ddyscer dim i'r bobl onid gair Duw. 5 Gan fynegu diwedd y gorchy∣myn. 20 A rhybuddio am Hymeneus ac Alexander.

PAul Apostl Iesu Grist trwy ordei∣nhâd Duw ein Iachawdr, a'r Ar∣glwydd Iesu Grist ein gobaith,

2 At Timotheus fy mab natu∣riol yn y ffydd: grâs, trugaredd, a heddwch gan Dduw ein Tad, a Christ Iesu ein Harglwydd.

3 Megis y deisyfiais arnat aros yn Ephe∣sus pan aethym i Macedonia, [gwna felly]fel y gellych rybuddio rhai, na ddyscant amryw ddysceidiaeth,

4 Ac nad ystyriant chwedlau, ac achau annorphen, y rhai sy yn peri cwestiwnau yn fwy nag adeiladaeth dduwiol yr hon sydd trwy ffydd

5 Eithr diwedd y gorchymyn ydyw ca∣riad o galō bur, a chydwybod dda, a ffydd ddiau.

6 Oddi wrth ba rai y gŵyrodd rhai, ac y troâsant at ofer ymadrodd.

7 Y rhai a fynnent fod yn ddoctoriaid y gy∣fraith heb na deall yr hyn a ddywedent, na'r hyn a daerent.

8 Eithr nyni a ŵyddom mai da yw 'r gy∣fraith, os arfer dyn hi yn gyfreithlon,

9 Gan ŵybod hyn, na roddwyd y gyfraith i'r cyfiawn, eithr i'r rhai anwir ac anufudd, i'r rhai annuwiol a'r pechaduriaid, i'r rhai anghy∣fiawn a'r rhai aflan, i leiddiaid tad, a lleiddiaid mam, ac i leiddiaid dynion,

10 I butein-wŷr, i rai Sodomiaidd, i ladron dynion, i rai celwyddog, i anudon-wŷr, ac od oes dim arall yr hwn sydd wrthwyneb i athrawiaeth iachus,

11 [Yr hon sydd] ar ôl gogoneddus Efen∣gyl y bendigedig Dduw, yr hon a ymddyried∣wyd i mi.

12 Ac yr ydwyf yn diolch i'r hwn a roesi mi allu, sef Crist Iesu ein Harglwydd: am iddo fyng-hyfrif yn ffyddlon, gan fyng-osod yn y weinidogaeth.

13 A mine o'r blaen yn gabl-wr, ac yn erli∣di-wr, ac yn drahaus: eithr mi a gefais druga∣redd, mewn annwybod y gwneuthum drwy ang-hredyniaeth.

14 A grâs ein Harglwydd a dra-amlhaodd gyd â ffydd a chariad, yr hwn sydd yng-Hrist Iesu.

15 Gair gwir, ac ym mhob modd yn heuddu ei dderbyn[yw,]dyfod* Crist Iesu i'r bŷd i ga∣dw pechaduriaid, o ba rai pennaf ydwyfi.

Page 533

16 Eithr o achos hyn y cefais drugaredd fel y dangose Iesu Grist ynofi yn gyntaf bôb hir oddef, er siampl i'r rhai a gredant rhag-llaw ynddo ef, i fywyd tragywyddol.

17 Ac i'r Brenin tragywyddol, anfarwol, anweledig, vnic synhwyrol Dduw, y byddo an∣rhydedd a gogoniant yn oes oesoedd. Amen.

18 Y gorchymyn hwn yr ydwyf yn ei roddi i ti [fy] mab Timotheus: yn ôl y prophwydo∣liaethau a gerddasant o'r blaen am danat, filw∣rio o honot filwriaeth dda

19 Gan fod gennit ffydd a chydwybod dda yr hon a wrthododd rhai, ac a wnaethant long∣ddrylliad am y ffydd.

20 O ba rai y mae Hymeneus, ac Alexander, y rhai a roddais i Satan, fel y dyscent na chablent.

PEN. II.

Y mae yn annog i weddio dros bob dyn. 4 Am ym∣wreddiad, a dillad gwragedd.

CYnghori yr ydwyf am hynny, ym mlaen pob peth, fod ymbil, gweddiau, deisyfiadau a thalu diolch dros bôb dŷn.

2 Dros frenhinoedd, a phawb a osodwyd mewn awdurdod, fel y gallom ni fyw yn llo∣nydd, ac yn heddychol trwy bob duwioldeb, ac honestrwydd.

3 Canys hyn sydd dda a chymmeradwy ger bron Duw ein ceidwad:

4 Yr hwn a fynn fod pôb dŷn yn gadwedig, a'u dyfod i ŵybodaeth y gwirionedd.

5 Canys vn Duw sydd, an vn cyfryng-ŵr rhwng Duw a dŷn, [sef] y dŷn Crist Iesu,

6 Yr hwn a'i rhoddes ei hunan yn brid-werth dros bawb, [ac] yn destiolaeth yn ei iawn brŷd.

7 O'r hyn i'm gosodwyd yn bregeth-ŵr, (ac yn Apostol, gwir yr wyf yn ei dddywedyd yng-Hrist heb gelwydd) [sef] athro y cenhedloedd mewn ffydd a gwirionedd.

8 Am hynny mi a fynnwn i wŷr weddio ym mhob man gan dderchafu dwylo purion, heb ddigter nac ymryson:

9 Felly hefyd i wragedd ymwisco mewn dillad gweddus, gyd â lledneisrwydd, a chym∣mesurwydd, nid â gwallt plethedig neu aur, neu gemmau, neu wysc werthfawr.

10 Eithr (megis y gwedde i wragedd yn addo duwioldeb, a gweithredoedd da.

11 Dysced gwraig mewn distawrwydd, yng-hyd â phob gostyngeiddrwydd.

12 Ond nid ydwyf yn dioddef i wraig draethu dysc, nac arfer awdurdod ar y gŵr: eithr bod mewn distawrwydd.

13 Canys Adda a luniwyd yn gyntaf: yna Efa.

14 Ac nid Adda a dwyllwyd, eithr y wraig wedi ei thwyllo a aeth yn [achos] camwedd.

15 Etto hi a fydd cadwedig gan ddwyn plāt os hwy a arhosant yn y ffydd, a chariad, a sant∣teiddrwydd yng-hyd â chymmesurwydd.

PEN. III.

Iawn gynneddfau eglwys-wyr a thylwyth eu ty, neu eu teuly. 15 Braint yr eglwys.

YMadrodd gwir yw hwn, od yw neb yn ewyllysio swydd escob, y mae yn chwenny∣chu gwaith da.

2 Rhaid gan hynny i'r escob fod yn ddiargy∣oedd, yn ŵr vn wraig, yn wiliadwrus, yn gymhe sur, yn weddaidd, yn lletteugar, yn athrawaidd,

3 Nid yn wîn-gar, nid yn darawudd, nid yn chwannog i fydr-elw, eithr yn llariaidd, nid yn ymladdgar, yn ddi-gybudd,

4 Yn llywodraethu ei dŷ ei hun yn dda, yn cynnal ei blant dan vfydd-dod, yng-hyd â phob onestrwydd.

5 Canys oni feidr vn lywodraethu ei dŷ ei hun: pa fodd y gofala efe tros eglwys Dduw?

6 Nid yn yscolhaig ieuangc, rhag iddo wedi ymchwyddo syrthio i farn diafol.

7 Ac y mae yn rhaid iddo ef hefyd gael gair da gan ddieithriaid, rhag digwydd mewn gw∣arth a magl diafol.

8 Felly hefyd y diaconiaid yn onefi, nid â thafodau dau-ddyblyg, nid wedi ymroi i lawer o win, nid yn budr-elwa,

9 Yn dala dirgelwch y ffydd mewn cydw∣ybod bur.

10 Profer y rhai hyn hefyd yn gyntaf, ac y∣na gwasanaethant, os byddant ddiargyoedd.

11 Felly hefyd [bod eu] gwragedd yn onest nid â thafodau drwg, eithr yn sobr, [a] ffyddlon ym mhob peth.

12 Bod y diaconiaid yn wŷr vn wraig, ac yn llywdoraethu yn dda eu plant a'u tai eu hun.

13 Canys y rhai a wasanaethāt yn iawn a en∣nilllant iddynt eu hunain radd dda, a rhydd-did mawr trwy 'r ffydd, yr hon sydd yng-Hrist Iesu.

14 Hyn yr ydwyf yn ei scrifennu attat, gan obeithio y deuaf attat ar fyrder.

15 Ond os tariaf yn hir, fod i ti ŵybod pa fodd y bydd rhaid i ti ymddwyn yn nhŷ Dduw, yr hwn ydyw eglwys y Duw byw, colofn, a sylfaen y gwirionedd.

16 Ac yn ddi-ddadl, mawr ydyw dirgelwch duwioldeb Duw a ymddangosodd mewn cnawd, a gyfiawnwyd yn yr Yspryd, a welwyd gan angelion, a bregethwyd i'r cenhedloedd, a gredwyd iddo yn y byd, ac a gymmerwyd i fynu mewn gogoniant.

PEN. IIII.

2 Rhubydd pa ddysc a ddylid gilio rhagddi. 6 A pha vn ei chanlyn. 15 Ac ym mha orchwyl y dyle eglw∣ys-wr ymarfer beunydd.

A'R Yspryd sydd yn dywedyd yn eglur yr ymedu rhai yn yr amseroedd diweddaf o'r ffydd, gan roddi coel i ysprydion cyfeilior∣nus, ac i athrawiaethau cythreuliaid,

2 Y rhai ydynt yn dywedyd celwydd mewn rhagrith, a'u cydwybod wedi ei llosci â haiarn brŵd,

3 Yn gwahardd priodas, [ac yn erchi] ymat∣tal oddi wrth fwydydd y rhai a greawdd Duw

Page [unnumbered]

iw mwynhau trwy dalu diolch i'r ffyddloniaid, ac i'r rhai a adwaenant y gwirionedd.

4 Canys pa beth bynnag a greawdd Duw da ydyw, ac nid oes dim iw wrthod, os cym∣merir trwy dalu diolch.

5 O herwydd ei sancteiddio trwy air Duw a gweddi.

6 Os gosodi hyn o flaen y brodyr, byddi wei∣nidog da i Iesu Grist, yr hwn i'th fagwyd me∣wn geiriau 'r ffydd, ac athrawiaeth dda, yr hon a ddilynaist.

7 Eithr gad heibio halogedic, a gwrachiaidd chwedlau, ac ymarfer di dy hun i dduwioldeb.

8 Canys i ychydig y mae ymarfer corphorol yn fuddiol, eithr duwioldeb sydd fuddiol i ôb peth a chenddi addewid o'r bywyd sydd, ac o r hwn fydd.

9 Y gair hwn fydd wîr, ac ym mhob modd yn heuddu ei dderbyn:

10 O blegit er mwyn hyn yr ydym yn poe∣ni, ac yn cael ein gwradwyddo, o herwydd ein bod yn gobeitho yn Nuw byw yr hwn ydyw achubudd pob dŷn, yn enwedig y ffyddloniaid.

11 Y pethau hyn gorchymyn, a dysc.

12 Na ddiystyred neb dy ieuengtid ti, eithr bydd i'r ffyddloniaid yn siampl mewn gair, me∣wn ymddygiad, mewn cariad, mewn yspryd, mewn ffydd, a diweirdeb.

13 Hyd oni ddelwyfi, ymosot ti i ddarllen, i gynghori, ac i athrawiaethu.

14 Nac yscaelusa y dawn sydd ynot ti, yr hwn a rodded i ti trwy brophwydoliaeth, gan arddodiad dwylo yr henuriaeth.

15 Arfer y pethau hyn, a pharhâ yn hyn, fel y byddo dy gynnydd yn eglur ym mhlith pawb.

16 Gwilia arnat dy hun, ac ar athrawiaeth, parhâ yn hyn: canys o gwnei di hyn, ti a'th ge∣dwi dy hun, a'r rhai a wrandawant arnat.

PEN. V.

Pa wedd y mae ceryddu pob gradd. 3 Trefn o blegit gwragedd-gweddwon. 17 A gwenidogion eglwysic. 24 Amryw farn am bechodau.

NA cherydda henaf-gwr, eithr cynghora megis tad, y rhai ieuaingc megis brodyr.

2 Yr hên wragedd megis mammau, y rhai ieuaingc megis chwiorydd, â phob diweirdeb.

3 Anrhydedda 'r gwragedd-gweddwon y rhai sy wir weddwon.

4 Eithr o bydd vn weddw, ac iddi blant neu ŵyrion, dyscant yn gyntaf lywodraethu yn dduwiol eu tŷ eu hun, a thalu 'r pwyth iw rhie∣ni, canys hynny sydd dda a chymmeradwy ger bron Duw.

5 Eithr yr hon sydd wir weddw, ac vnic, sydd yn gobeithio yn Nuw, ac yn parhau mewn ym∣bil, a gweddion nôs a dydd.

6 Ond y ddrythyll, er ei bod yn fyw fu farw.

7 Gorchymyn y pethau hyn, fel y byddant ddiargyoedd.

8 Ar o bydd neb nid ymgeleddo yr eiddo, ac yn enwedig ei deulu, efe a wadodd y ffydd, a gwaeth yw nag vn di-ffydd.

9 Na ddewiser gwraig weddw tān drugain∣mlwydd oed, yr hon fu wraig vn gŵr:

10 Ac yn dda ei gair am weithredoedd da, os magodd hi ei phlant, os bu letteugar, o gol∣chodd hi draed y sainct, o chynhorthwyodd hi y rhai cystuddiol, o dilynodd hi bob gorchwyl da.

11 Eithr gwrthod y gweddwon ieuaingc: canys pan ddechreuant ymdrythyllu yn erbyn Crist, priodi a fynnant:

12 Yn cael colledigaeth am iddynt dorri y ffydd gyntaf.

13 Ac felly hefyd y dyscant rodio 'r tai oddi amgylch yn segur, ac nid yn segur yn vnic: eithr hefyd ac yn ofer-ieithus, ac yn rhodrescar, yn adrodd pethau anweddaidd.

14 Myfi a fynnwn am hynny i'r rhai ie∣uaingc briodi, planta, gwarchod y tŷ, ac na ro∣ddant ddim achos i'r gwrthwyneb-ŵr i oganu.

15 Canys rhai eusus a ymchwelasant ar ôl Satan.

16 O bydd gŵr ffyddlon, ne wraig ffydd∣lon, a gwragedd gweddwon ganddynt cynhor∣thwyant hwy, ac na ormeser ar yr eglwys, fel y byddo digonedd i'r rhai sy wîr weddwon.

17 Yr henuriaid y rhai sy yn llywodraethu yn dda, ydynt yn haeddu parch dau-ddyblyg, yn enwedig y rhai sy yn poeni yn y gair, ac me∣wn athrawiaeth.

18 Canys y mae yr scrythur yn dywedyd, na chae safn yr ŷch yr hwn sydd yn dyrnu yr ŷd: hefyd y mae 'r* gweithiŵr yn heuddu ei gyflog.

19 Na dderbyn achwyn yn erbyn henuriad, oddieithr tann ddau neu dri o dystion.

20 Y rhai a bechant, cerydda hwy yn gy∣hoeddus, fel y gallo 'r lleill ofni.

21 Gorchymyn yr ydwyf ger bron Duw a'r Arglwydd Iesu Grist, a'r etholedig angeli∣on, gadw o honot y pethau hyn yn ddi-duedd, na gwneuthur dim o gyd-partiaeth.

22 Na ddot dy ddwylo yn ebrwydd ar neb, ac na fydd gyfrannog o bechodau rhai eraill: cadw dy hun yn bur.

23 Nac ŷf ddwfr yn hwy, eithr arfer ychy∣dig wîn, er mwyn dy gylla a'ch fynych wendid.

24 Pechodau rhyw rai yddynt amlwg o'r blaen yn rhagymddwyn i'r farn: a'r eiddo eraill yn dyfod ar yr ôl.

25 Ac felly hefyd gweithredoedd da ydynt amlwg o'r blaen, a'r rhai fyddant amgenach ni's gellir eu cuddio.

PEN. VI.

Rhan gwasanaeth-ddynion iw meistred. 3 Yn erbyn gau athrawon. 6 Am wir dduwioldeb, a bodlondeb meddwl. 9 Yn erbyn cubydd-dod. 11 Ei gyngor ef i Timotheus.

CYnnifer ac sydd wasanaeth-wŷr tann yr iau, barnant eu meistred yn deilwng o bob anrhydedd, rhac cablu enw Duw a'i athrawia∣eth.

2 A'r rhai sy a meistred iddynt yn credu, na

Page 534

ddiystyrant hwynt, o herwydd eu bod yn frodyr, eithr yn hytrach eu gwasanaethu am eu bod yn credu, ac yn annwyl, ac yn gyfrannogion o'r llesâd: dysc a chynghora y pethau hyn.

3 Od yw neb yn dyscu yn amgenach, ac heb gyduno ag iachus eiriau ein Harglwydd Iesu Grist, ac a'r athrawiaeth yr hon sydd ar ôl duwi∣oldeb,

4 Chwyddo y mae heb ŵybod dim, eithr am∣hwyllo yng-hylch cwestiwnau a dadl-eiriau o'r hyn y mâga cenfigen, ymryson, cabledd [a] drwg dyb,

5 Ofer ddadlau dynion llygredig eu me∣ddwl wedi cyfrgolli y gwir, yn tybied mai elw yw duwioldeb: ymochel oddi wrth y cyfryw.

6 Elw mawr eusus yw duwioldeb drwy ym∣fodloni o ddŷn â'r hyn fyddo ganddo.

7 Canys ni ddugasom ni ddim i'r byd, a di∣ogel yw, na allwn ddwyn dim ymmaith.

8 Am hynny o chawn ymborth â dillad, ni a ymfodlonwn ar hynny.

9 Canys y mae y rhai a fynnant ymgyfoe∣thogi yn syrthio i brofedigaeth, ac i fagleu, aci lawer o drachwantau angall a niweidus, y rhai sy yn boddi dynion i golledigaeth, ac i ddestruw

10 Canys chwant arian yw gwreiddin pob drwg, o ba rai tra fu rhai yn awyddus, hwy a gyfeiliornasant o'r ffydd, ac a'u gwanasant eu hunain â llawer o ofidiau.

11 Eithr ti gŵr Duw, gochel y pethau hyn, a dilyt gyfiawnder, duwioldeb, ffydd, cariad, ammynedd, ac addfwyndra.

12 Ymdrecha orchestol ymdrechiad y ffydd: cymmer afael ar y bywyd tragywyddol, i'r hwn hefyd i'th alwyd, ac y proffessaist broffes dda ger bron llawer o dystion.

13 Dy orchymyn yr ydwyf ger bron Duw yr hwn sydd yn bywhau pob peth, a cher bron Iesu Grist, yr hwn tann Pontius Pilatus a dystiodd broffes dda,

14 Cadw o honot y gorchymyn yn ddifry∣cheulyd, [ac] yn ddifai hyd ymddangosiad ein Harglwydd Iesu Grist.

15 Yr hwn yn y dyledus amser a ddengys efe, yr hwn sydd fendigedic, ac vnic bennaeth, Brenin y brenhinoedd, ac Arglwydd yr argl∣wyddi.

16 I'r hwn yn vnic y mae anfarwoldeb, ac sydd yn trigo yn y goleuni, yr hwn ni ellir dy∣fod atto, yr hwn er ioed ni's gwelodd vn dŷn, ac ni's dichon ei weled, i'r hwn y byddo anrhy∣dedd a gallu yn dragywyddol. Amen.

17 Gorchymmyn i'r rhai sy oludog yn y byd ymma, na byddant vchel eu meddwl, ac na obeithiant mewn golud anwadal, eithr yn y Duw byw, (yr hwn sydd yn rhoddi i ni bôb peth yn ddigonol iw mwyn hau)

18 Ar wneuthur o honynt ddaioni, ac ym∣gyfoethogi mewn gweithredoedd da, ac yn hawdd ganddynt roddi, ac yn hawdd eu cydfod,

19 Yn tryssoru iddynt eu hunain fail dda rhag llaw fel y gallont afaelu yn y bywyd tra∣gywyddol.

20 O Timotheus, cadw yr hyn a roddwyt iw gadw attat, gan droi oddi wrth haloge∣dig ofer-sain a gwrthwynebiad yr hyn a gam elwir yn ŵybodaeth.

21 Yr hon tra yw rhai yn ymhonni o honi, hwy a wyrasant oddi wrth nod y ffydd, Grâs gyd â thi. Amen.

Notes

Do you have questions about this content? Need to report a problem? Please contact us.