Page [unnumbered]
❧ Epistol Paul at Titus.
PENNOD. I.
5 Y mae efe yn athrawy Titus oblegit llywodraeth yr e∣glwys. 7 Ordinhâd a swydd gweinidogion eglwysig. 12 Cynneddfau y Cretiaid, ac am y rhai a heuant chwedlau Iddewig, a dy chymmygion dynnion.
PAul gwâs Duw, ac Apostol Iesu Grist yn ôl ffydd etholedi∣gion Duw, a gŵy∣bodaeth y gwirio∣nedd, yr hon sydd yn ôl duwioldeb,
2 I obaith bywyd tragywyddol, yr hwn a addawodd y digeiwyddog Dduw, cyn amseroedd tragywyddol:
3 Eithr efe a eglurhaodd ei air yn ei brŷd drwy bregethu, am yr hyn yr ymddyriedwyd i mi wrth orchymyn Duw ein Iachawdur:
4 At Titus fy anianol fâb wrth y ffydd gy∣ffredin, grâs, trugaredd, a thangneddyf gan Dduw y Tad, a'r Arglwydd Iesu Grist ein Iachawdur.
5 Er mwyn hyn i'th adewais yn Creta i wneuthur iawn drefn am yr hyn sydd yn ôl, ac i osod henuriaid ym mhôb dinas megis yr ordei∣niais i ti.
6 Os bydd neb diargyoedd, yn ŵr vn wraig, ac iddo blant ffyddlon, nid enllibus o lo∣thineb, neu yn anufudd.
7 Canys rhaid yw i escob fod yn ddiargyo∣edd fel gorchwiliwr Duw, nid yn gyndyn, nid yn ddigllon, nid yn win-gar, nid yn dara∣wudd nid yn budr-elwa,
8 Eithr yn lletteugar, yn caru daioni, yn bwyllog, yn gyfiawn, yn sanctaidd, yn ddian∣llad,
9 Yn dal yn lew y gair ffyddlon yr hwn sydd wrth yr athrawiaeth, fel y gallo hefyd gyngho∣ri a dysceidiaeth iachus, ac argyoeddu y rhai a wrth-ddywedant.
10 Canys y mae llawer o rai anufydd, a gwag-siarad-wŷr, a thwyll-wŷr meddyliau, yn bennaf y rhai sy o'r enwaediad,
11 Y rhai y mae yn rhaid eu gostegu, y rhai sy yn dymchwelyd tai cyfan, gan ddyscu i rai bethau ni ddylid, er mwyn budr-elw.
12 Vn o honynt hwy [eu hunain, sef] vn o'u prophwydi eu hunain a ddywedodd, y Cretiaid bob amser ydynt gelwyddog, drwg fwyst∣filod, boliau gor-ddiog.
13 Y destiolaeth hon sydd wir, am ba achos argyoedda hwy yn llym, fel y byddant iach yn y ffydd,
14 Heb ddarbod chwedlau, Iddewaidd, a gorchymynnion dynnion, yn troi oddi wrth y gwirionedd.
15 I'r rhai pur y mae pob peth yn bur, eithr i'r rhai halogedig, ac i'r rhai anghredadwy nid oes dim yn bur, eithr halogedig yw eu meddwl a'u cydwybod.
16 Y maent yn cyfaddef yr adwaenant Dduw, eithr ar weithredoedd y maent yn ei wa∣du ef, am eu bod yn ffiaidd, ac yn anufydd, ac i bob gweithred dda yn anghymmeradwy.
PEN. II.
Y mae efe yn gorchymyn iddo y ddysceidiaeth iach, ac yn mynegi iddo, pa wedd y dyle efe i bob gradd ym∣ddwyn, 11 Trwy râs Crist.
Eithr adrodd di yr hyn sydd weddus i athra∣wiaeth iachus.
2 Bod o'r henaf-gwŷr yn sobr, yn honest, yn gymhesur, yn iach yn y ffydd, 'yng-hariad, ac ammynedd,
3 Bod o'r henaf-gwragedd yr vn modd me∣wn cyfryw ymwreddiad ac a wedde i sanctei∣ddrwydd, nid yn enllibiaidd, nid wedi ymroi i win lawer, eithr yn rhoi athrawiaeth o ddaioni,
4 (Fel y gallant wneuthur y gwragedd ie∣uaingc yn bwyllog i garu eu gwŷr, i garu eu plant)
5 Yn bwyllog, yn ddiwair, yn aros gartref, yn dda, [ac] yn ddarostyngedig iw gwŷr, fel na chabler gair Duw.
6 Cynghora wŷr ieuaingc yr vn modd i fod yn bwyllog.
7 Ym mhob dim dangos dy hun yn siampl o weithredoedd da, [ac] yn yr athrawiaeth puredd gweddeidd-dra, ac anlly gredigaeth,
8 Ac ymadrodd iachus, yr hwn ni ellir ei feio, fel y cywilyddio yr hwn a safo yn erbyn heb ganddo ddim drwg iw ddywedyd am da∣noch chwi.
9 [Cynghora] weision i fod yn ddarost∣yngedig iw meistred, ac [iw] boddhau ym mhob dim, heb ddywedyd yn eu herbyn,
10 Heb wneuthur twyll, eithr gan ddangos pob ffyddlondeb, fel yr harddant athrawiaeth Dduw ein Iachawdur ym mhob peth.
11 Canys grâs Duw yr hwn a ddwg ie∣chid i bob dŷn a ymddangosodd.
12 Ac sydd yn ein dyscu i wadu anuwoldeb a chwantau bydol, a bod i ni fyw yn sobr, ac yn gyfiawn, ac yn dduwiol yn y byd sydd yr awron,
13 Gan edrych am y gobaith gwynfydedig, ac ymddangosiad gogoniant y Duw mawr, a'n Iachawdur Iesu Grist,
14 Yr hwn ai rhoddes ei hun trosom, fel i'n pryne ni yn rhydd oddi wrth bob anwiredd, ac y glânhae ni yn bobl briod iddo ei hun, yn awy∣ddus i weithredoedd da.
15 Llefara a chynghôra hyn, ac argyoedda ag holl awdurdod: na fydded i neb dy ddir∣mygu.