Benedic anima mea. Psal. ciij.
FY enaid bendithia 'r Arglwydd, a chwbl sydd ynof, ei enw sanctaidd.
2 Fy enaid bendithia r' Arglwydd, ac nac angho∣fia ei holl ddonniau ef.
3 Yr hwn sydd yn maddeu dy holl anwireddau: a'r hwn sydd yn iachaû dy holl lescedd.
4 Yr hwn sydd yn gwaredu dy fywyd o ddestruw, yr hwn sydd yn dy gorôni â thrugaredd, ac â thosturi.
5 Yr hwn sydd yn diwallu dy enau â daioni: fel yr adnewydder dy ieuengctid fel yr eryr.
6 Yr Arglwydd sydd yn gwneuthur cyfiawnder, a barn i'r rhai gorthrymmedic oll.
7 Yspyssodd ei ffyrdd i Moses, a'i weithredoedd i feibion Israel.
8 Trugarog, a gras-lawn yw 'r Arglwydd: hwyr∣frydic i lid, a mawr o drugarogrwydd.
9 Nid byth yr ymrysson efe, ac nid byth y ceidw efe ei ddigofaint.
10 Nid yn ôl ein pechodau y gwnaeth efe i ni, ac nid yn ôl ein anwireddau y tâlodd efe i ni.
11 Canys cyfuwch ac yw 'r nefoedd vwchlaw 'r ddaiar, y rhagorodd ei drugaredd ef ar y rhai a'i hof∣nant ef.
12 Cyn belled ac yw 'r dwyrain oddi wrth y gorlle∣wyn, y pellhaodd efe ein camweddau oddi-wrthym.
13 Fel y tosturia tâd wrth ei blant, y tosturiodd yr Arglwydd wrth y rhai a'i hofnant ef.