Domine exaudi. Psal. cij.
ARglwydd clyw fyng-weddi,* 1.1 a deled fy llêf attat.
2 Na chudd dy wyneb oddi-wr∣thif, yn nydd fyng-hyfyngder gost∣wng dy glust attaf: yn y dydd y gal∣wyf, bryssia, a gwrando fi.
3 Canys fy nyddiau a ddarfuant fel mŵg: a'm hescyrn a boethasant fel pentewyn.
4 Fyng-halon a darawyd: ac a wywodd fel llyssieun: fel yr anghofiais fwytta fy mara.
5 Gan lais fy nhuchan y glŷnodd fy escyrn wrth fyng-nhawd.
6 Tebyg wyf i belican mewn anialwch, ydwyf fel dylluan mewn diffaethwch.
7 Gwiliais, ac ydwyf fel aderyn y tô, vnic ar benn y tŷ.
8 Fyng-elynion a'm gwarthruddasant beunydd: y rhai a ynfydant wrthif a dyngasant yn fy erbyn.
9 Canys bwytteais ludw fel bâra: a chymmys∣cais