Page [unnumbered]
Yr Efengyl.
* 1.1TRa yr oedd yr Iesu yn dywedyd wrth y bobl, wele daeth rhyw bennaeth, ac a'i haddolodd ef, gan ddywedyd, bu fa∣rw fy merch yr awrhon, eithr dyred a gosod dy law arni, a byw fydd hi. A'r Iesu a godes, ac a'i canlynodd ef, a'i ddiscyblon. Ac wele wraig yr hon y buase gwaed-lif arni ddeudd∣eng-mhlynedd, a ddaeth o'r tu cefn iddo, ac a gyfyrdd∣odd ag ymyl ei wisc ef. Canys hi a ddywedase ynddi ei hun, os gallaf gyffwrdd a'i wisc ef yn vnig, iâch fyddaf. A'r Iesu a drôdd, a phan ei gwelodd hi, a ddy∣wedodd, ha ferch bydd gyssurus, dy ffŷdd a 'th iacha∣odd: a'r wraig a iachawyd o 'r awr honno allan. A phan ddaeth yr Iesu i dŷ 'r pennaeth, a gweled y cerddorion, a'r dyrfa yn terfyscu, efe a ddywedodd wr∣thynt, ewch ymmaith, canys ni bu farw 'r llangces, onid cyscu y mae hi: ac hwynt a'i gwatwarasant ef. Ac wedi bwrw y dyrfa allan, efa aeth i mewn, ac a ymaflodd yn ei llaw hi, a 'r llangces a gyfodes. A'r gair o hyn a aeth tros yr holl dir hwnnw.