Llyfer gweddi gyffredin, a gwenidogaeth y sacramentau, ac eraill gynneddfau a ceremoniau yn Eglwys Loegr..

About this Item

Title
Llyfer gweddi gyffredin, a gwenidogaeth y sacramentau, ac eraill gynneddfau a ceremoniau yn Eglwys Loegr..
Author
Church of England.
Publication
Printiedig yn Llundain:: gan Ddeputiaid Christopher Barker Printiwr i ardderchoccaf Fawrhydi y Frenhines.,
1599.
Rights/Permissions

To the extent possible under law, the Text Creation Partnership has waived all copyright and related or neighboring rights to this keyboarded and encoded edition of the work described above, according to the terms of the CC0 1.0 Public Domain Dedication (http://creativecommons.org/publicdomain/zero/1.0/). This waiver does not extend to any page images or other supplementary files associated with this work, which may be protected by copyright or other license restrictions. Please go to http://www.textcreationpartnership.org/ for more information.

Subject terms
Church of England -- Liturgy -- Texts.
Prayer-Books -- Early works to 1800.
Psalters -- Early works to 1800.
Cite this Item
"Llyfer gweddi gyffredin, a gwenidogaeth y sacramentau, ac eraill gynneddfau a ceremoniau yn Eglwys Loegr.." In the digital collection Early English Books Online 2. https://name.umdl.umich.edu/A97363.0001.001. University of Michigan Library Digital Collections. Accessed May 19, 2024.

Pages

Y xxiiij. Sûl gwedi 'r Drindod.

Y Colect.

ARglwydd attolygwn i ti ollwng dy bobl oddi∣wrth eu cam-weddau, fel y byddom trwy dy ddawnus drugaredd ryddion oddi-wrth rwymedi∣gaethau ein holl bechodau, y rhai drwy ein cnawdol freuolder a wnaethom: Caniadhâ hyn er cariad ar Iesu Grist ein Harglwydd.

Page [unnumbered]

Yr Epistol.

YR ydym ni yn diolch i Dduw, a Thâd ein Harglwydd Iesu Ghrist yn oestadol trosoch gan weddio, er pan glywsom eich ffŷdd yn-Ghrist Iesu, a'ch cariad i'r holl sainct, er mwyn y gobaith yr hon sydd wedi ei dodi i gadw i chwi yn y nefoedd, am yr hon y clywsoch yn y blaen gan air gwirionedd yr Efengyl, yr hon sydd wedi dyfod attoch chwi, megis y mae yn yr holl fŷd, ac sydd yn ffrwythlawn fel y mae yn eich plith chwithau, o'r dydd y clywsoch, ac y gŵybuoch râs Duw mewn gwirionedd. Megis hefyd y dyscasoch gan Epaphras ein hannwyl gyd-was, yr hwn sydd trosoch chwi yn ffyddlon weinidog Christ. Yr hwn hefyd a amlygodd i ni eich cariad chwi yn yr Yspryd. Am hynny ninnau hefyd er y dŷdd y clywsom, nid ydym yn peidio a gweddio trosoch, a deisyf eich cy∣flawni â gŵybodaeth ei ewyllys ef ym-mhôb doethi∣neb, a deall ysprydol. Fel y rhodioch yn deilwng gan yr Arglwydd, gan ryglyddu bodd ym-mhôb dim, gan ddwyn ffrwyth ym-mhôb gweithred dda, a thyfu yngŵybodaeth am Dduw. Wedi eich ner∣thu â phob nerth trwy ei ogoneddus gadernid ef i bob dyoddefgarwch, ac ymaros, gŷd ag hy∣frydwch, Gan ddiolch i'r Tâd yr hwn a'n gwna∣eth yn gymmwys i gael rhan o etifeddiaeth y sainct yn y goleuni.

Page [unnumbered]

Yr Efengyl.

TRa yr oedd yr Iesu yn dywedyd wrth y bobl, wele daeth rhyw bennaeth, ac a'i haddolodd ef, gan ddywedyd, bu fa∣rw fy merch yr awrhon, eithr dyred a gosod dy law arni, a byw fydd hi. A'r Iesu a godes, ac a'i canlynodd ef, a'i ddiscyblon. Ac wele wraig yr hon y buase gwaed-lif arni ddeudd∣eng-mhlynedd, a ddaeth o'r tu cefn iddo, ac a gyfyrdd∣odd ag ymyl ei wisc ef. Canys hi a ddywedase ynddi ei hun, os gallaf gyffwrdd a'i wisc ef yn vnig, iâch fyddaf. A'r Iesu a drôdd, a phan ei gwelodd hi, a ddy∣wedodd, ha ferch bydd gyssurus, dy ffŷdd a 'th iacha∣odd: a'r wraig a iachawyd o 'r awr honno allan. A phan ddaeth yr Iesu i dŷ 'r pennaeth, a gweled y cerddorion, a'r dyrfa yn terfyscu, efe a ddywedodd wr∣thynt, ewch ymmaith, canys ni bu farw 'r llangces, onid cyscu y mae hi: ac hwynt a'i gwatwarasant ef. Ac wedi bwrw y dyrfa allan, efa aeth i mewn, ac a ymaflodd yn ei llaw hi, a 'r llangces a gyfodes. A'r gair o hyn a aeth tros yr holl dir hwnnw.

Notes

Do you have questions about this content? Need to report a problem? Please contact us.