PSALM. LXXVII.
FY llais at Dduw, pan roddais lêf,
fy llais o'r nêf fo'i clybu;
A'm llais gweddiais ar Dduw Nêr,
pan oedd blinder yn tarddu.
[verse 2] Y dŷdd y rhedai 'mriw a'r nôs
ni pheidiai achos llafur,
Mewn blîn gyfyngder gwn fy môd,
a'm hoes yn gwrthod cysur.
[verse 3] Yna y cofiwn Dduw a'i glôd,
pan syrthiai drallod enbyd:
Yna gweddiwn dros fy mai,
pan derfysgai fy yspryd.
[verse 4] Tra fawn yn effro, ac mewn sann,
heb allel allan ddwedyd,
[verse 5] Ystyriais yna'r dyddiau gynt,
a'r helynt hên o'r cynfyd.
[verse 6] Cofiwn fy ngherdd y nôs fy hun:
heb gael amrantun, chwiliwn,
A chalon effro, genau mud,
â'm hyspryd ymddiddanwn.
[verse 7] Ai'n dragywydd y cilia'r Iôn?
a fŷdd ef bodlon mwyach?
[verse 8] addarfu bŷth ei nawdd a'i air?
a gair ei addaw bellach?
[verse 9] A anghofiodd Duw drugarhau?
a ddarfu cau ei galon?
A baid efe bŷth (meddwn i)
fal hyn â sorri'n ddigllon?
[verse 10] Marwolaeth ym'yw'r meddwl hwn?
a throis yn grwn i gofio
Ei fawr nerth gynt: cofio a wnâf
waith y Gorvchaf etto.
[verse 11] Cosiaf dy weithredoedd (f' Arglwydd)
a'th wrthiau hylwydd cosiaf,
[verse 12] Am bôb rhyfeddod a phôb gwaith,
â myfyr maith y traethaf.
[verse 13] O Dduw, pa Dduw sŷdd fal ti Dduw?
dy ffordd di yw'n sancteiddiol:
[verse 14] Dy waith dengys dy nerth i'r bŷd,
pair yn' i gŷd dy ganmol.
[verse 15] Dy nerth fawr hon a ro'ist ar lêd,
wrth wared y r hên bobloedd,
Iagof, a Joseph, a fu gaeth,
a'i holl niliogaeth luoedd.
[verse 16] Y deifr gwelsant, ofnasant hyn,
a dychryn cyn eu symmud:
[verse 17] Cymylau dwfr cylch wybr yn gwau,
a mellt fal saethau enbyd.
[verse 18] Dy daran rhuodd frŷ'n y nen,
dy fellt gwnaent wybren olau,
Y ddaiar isod a gyffrôdd,
ac a ddychrynodd hithau.
[verse 19] Yn eigion môr mae y ffordd dau,
a'th lwybrau mewn deifr fugnedd,
Ac ni adweinir bŷth mo'th ôl,
yn dy anfeidrol fowredd.
[verse 20] Dy bobloedd a dywysaist di
drwy anial ddrysni efrydd,
Gan law Moses, a'i frawd Aaron,
fel defaid gwirion llonydd.