PSAL. LXXVI.
YN Juda ac Israel dîr
adweinir ein Duw cyfion,
[verse 2] Ei babell ef yn Salem sŷdd,
a'i breswylfydd yn Sion.
[verse 3] Yno y drylliodd y bwa a'r saeth,
a'r frwydr a wnaeth yn ddarnau:
A thorodd ef yn chwilfriw mân
bôb tarian, a phôb cledau.
[verse 4] Trawsion fy cedyrn mynydd gynt,
mewn yspail helynt u chel,
Vwch a chryfach wyt na hwyntwy,
nid rhaid bŷth mwy mo'i gochel.
[verse 5] Pôb cadarn galon a ymroes,
ac ni ddeffroes o'i gyntyn:
Pawb a ddiffrwythodd pan ddaeth braw,
ni chae vn llaw ei dderbyn.
[verse 6] O'th waith (Duw Iagof) a'th amharch,
cerbyd a'r march rho'i huno.
[verse 7] Ofnadwy ŵyd pwy i'th lîd ŵg,
a saif i'th olwg effro?
[verse 8] Pan ddaeth o'r nefoedd dy farn di,
yr wyd yn peri ei chym'ryd,
Y ddaiar ofnodd, a'i holl lu,
rhoist i ostegu ennyd.
[verse 9] I farnu pan gyfododd Duw
i gadw yn fŷw y gwirion,
A'r rhai oedd lonydd yn y tir,
yr oeddyn gowir galon,
[verse 10] Can's poethder dŷn yw dy sawl di,
felly gostegi drallod: