PSAL. XXI.
O Arglwydd, yn dy nerth a'th rîn,
mae'r brenin mewn llawenydd:
Ac yn dy iechyd, yr un wedd,
mae ei orfoledd beunydd.
[verse 2] Holl ddeisyfiad ei galon lân,
iddo yn gyfan dodaist:
Cael pob dymuniad wrth ei fodd,
ac o un rhodd ni phellaist.
[verse 3] Can's da'r achubaist ei flaen ef,
a donniau nef yn gyntaf:
Ac ar ei ben, (ddaionus Iôn,)
rhoist goron aur o'r puraf.
[verse 4] Ef a ofynnodd gennyd oes,
a rhoddaist hiroes iddo:
A hon dy rodd, dros byth y bydd,
nid a'n dragywydd heibio.
[verse 5] I'th iechydwriaeth y mae 'n byw,
a mawr yw ei ogoniant:
Gosodaist arno barch a nerth,
a phrydferth yw ei lwyddiant.
[verse 6] Rhoist dy fendithion vwch pob tawl,
yn rhodd dragwyddawl iddo:
A llewyrch d'wyneb byth a fydd,
yn fawr lawenydd arno.
[verse 7] Am fod y brenin yn rhoi 'i grêd,
a'i 'mddiried yn yr Arglwydd:
Dan nawdd y Goruchaf tra fo,
gwn na ddaw iddow dramgwydd.
[verse 8] A thydi Arglwydd a'th law lân,
cei allan dy elynion;
Rhag dy ddeheulaw (er a wnant)
ni ddiangant dy gaseion.
[verse 9] Di a'i gosodi 'n nydd dy ddig,
fel ffwrnais ffyrnig danllyd:
Yr Arglwydd iw lid a'i difa,
a'r tân a'i hysa 'n enbyd.
[verse 10] Diwreiddi di eu ffrwyth o'r tir,
a'i had yn wir ni thyccian:
[verse 11] Am fwriadu yt ddrwg ddilen:
heb ddwyn i ben mo'i hamcan.
[verse 12] Ti a'i gosodi hwy 'r naill du,
a thi a'th lu iw herbyn:
Ac a lefeli dy fwau,
at eu hwynebau cyndyn.