PSAL. XXII.
DAngos fy Nuw, fy Nuw, a'm grym,
ba achos ym gadewaist:
Pell wyd o'm iechyd ac ô nâd
fy mloeddiad, llwyr i'm pellaist.
[verse 2] Fy Nuw'rwy 'n llefain, tithau heb
roi ym' mor atteb etto,
Bob dydd a nos mae'nghri'n ddi-ffael.
a heb gael mo'm dihuddo.
[verse 3] A thi wyd sanct, sanct i barhau,
Ile daw gweddiau 'n wastad:
A holl dŷ Israel a'i clod,
a'i pwys a'i hystod attad.
[verse 4] Ynot gobeitheiai'n tadau ni,
a thydi oedd eu bwccled:
Ymddiried ynot, Arglwydd hael,
ac felly cael ymwared.
[verse 5] Llefasant drwy ymddiried gynt,
da fuost iddynt, Arglwydd:
Eu hachub hwynt a wnaethost di
rhag cyni, a rhag gwradwydd.
[verse 6] Fo'm rhifir innau megis pryf,
nid fel gwr cryf ei arfod:
Fel dirmyg dynion, a gwarth gwael,
a thybiant gael eu hystod.
[verse 7] Pawb a'm gwelent, a'm gwatworent,
ac a'm min-gamm••nt hefyd,
Ysgwyd eu pennau yn dra hy,
a chwedi hynny dwedyd,
[verse 8] Ar yr Arglwydd rhoes bwys a chrêd,
doed ef iw wared allan,
Os myn ei ollwng ef ar lêd,
cymmered iddo ei hunan.
[verse 9] Duw tynnaist fi o groth fy mam,
rhoist ynof ddinam obaith,
Pan oeddwn i yn sugno hon,
ac o'i dwy fron a'm harchwaith.
[verse 10] Arnat ti bwriwyd fi o'r bru,
arnat ti bu fy'mddiried:
Fy Nuw wyt ti o groth fy mam,
ffyddiais yt am fy'ngwared.
[verse 11] Oddiwrthif fi yn bell na ddos,
tra fo yn agos flinder:
I'm cymorth i, gan nad oes neb
a drotho'i wyneb tyner.
[verse 12] Busty ch lawer, a chrysion iawn,
deathant yn llawn i'm gogylch:
A theirw Balan o bob parth,
yn codi tarth o'm hamgylch.
[verse 13] Egorant arnaf enau rhwth
i'm bygwth, fel y llewod,
A faent yn thuo eisiau maeth,
o raib ysclyfaeth barod.
[verse 14] Fel dwfr rwyfi 'n diferu'n chwyrn,
a'm hesgyrn, figla'r rheini:
Fy'nghalon o'm mewn darfu'n llwyr,
fel cwyr a fai yn toddi.
[verse 15] Fel priddlester mae fy nerth mor swrth
ynglyn wrth fy ngorchfanau
Mae fy'nhafod, yr wyf mor drwch,
fy nghyfle yw llwch angau.
[verse 16] Can's cŵn cylchasant fi, fy Nêr,
a chadfa sceler ddiffaith:
Cloddiasant fy nwy law a'm traed,
ac felly gwnaed fy artaith.
[verse 17] A rhifo fy holl esgyrn i,
gan gulni hawdd y gallaf,
Maent hwythau'n gweled hynny'n wych,
bob tro yn edrych arnaf.
[verse 18] Rhyngthynt iw mysg y dillad mau
yn rhannau dosbarthasant,
A hefyd ar fy mrhif-wisc i
coelbrenni a, fwriasant.
[verse 19] Tithau fy nerth a'm Harglwydd da'
nac ymbellâ oddiwrthy,
O bryssia tydi yw fy mhorth,
a thyr'd, a chymorth i mi.
[verse 20] O dyr'd ac achub, yr oes fau,
rhag ofn y cleddau ffyrnig,
A gwared o feddiant y ci
fy enaid i sy'n vnig.
[verse 21] Ymddiffyn fi rhag y llew glwth,
dwg o'i safn rhwth fy enaid,
Achub a gwrando fi yn chwyrn
rhag cŷrn yr vnicorniaid.
[verse 22] Mynagaf finnau d'enw yn bur
i'm brodur yn yr orsedd,
Lle mwya'r gynn ulleidfa lân,
dy glod a wna'n gyfannedd.
[verse 23] Hâd Iaco ac Israel, chwychwi
rhai ych yn ofni'r Arglwydd,
Drwy ofn y rhowch iddo foliant,
a rhowch ogoniant ebrwydd.
[verse 24] Can's ni'ch llysodd, ni'ch dirmy godd,
ni chuddiodd ei wynebpryd,
Eithr gwrandawodd weddi y gwan,
a'i duchan yn ei adfyd.
[verse 25] Honot ti bŷdd, ac i ti gwêdd
mewn aml orsedd fy moliant.
I Dduw rhof f'addunedau'n llon
gar bron y rhai a'i hofnant.
[verse 26] Diwellir y tlodion: a'r rhai
a geisiai at yr Arglwydd,