PSAL. CXV.
NId i ni Arglwydd, nid i ni,
y dodi y gogonedd,
Ond i'th enw dy hun yn hawdd,
er mwyn dy nawdd a'th wiredd.
[verse 2] Pa'm y dwedant am danat ti
y cenhedlaethi estron:
A thrwy edliw hynny yn fwy,
ple y mae eu Duw hwy yr awron?
[verse 3] Sêf ein Duw ni mae yn y nêf,
lle y gwnaeth êf a fynnodd.
[verse 4] Eu delwau hwy, aur arian ŷn,
a dwylo dŷn a'i lluniodd.
[verse 5] Safn heb draethu: llun llygaid glân,
y rhai'n ni welan ronyn:
[verse 6] Trwyn heb arogl, clustiau ar llêd
heb glywed, y sŷdd ganthyn.
[verse 7] Ac i bôb delw y mae dwy law
heb deimlaw, traed heb symmyd:
Mae mwnwgl iddynt heb rôi llais,
fal dyna ddyfais ynfyd.
[verse 8] Fel hwyntwy ydyw rhai a'i gwnânt
a'r rhai a gredant iddynt:
Am hyn ni ddylai neb drwy grêd
roi mo'i ymddiried arnynt.
[verse 9] O Israel, dôd ti yn rhwydd
ar yr Arglwydd dy hollfryd.
Ef ŷw eu nerth a'i dŵg i'r lan,
eu porth a'i tarian hefyd.
[verse 10] O tŷ Aaron, dôd tithau'n rhŵydd,
ar yr Arglwydd dy hollfryd:
Ef yw eu nerth a'i dŵg i'r lan,
eu porth a'i tarlan hefyd.
[verse 11] Rhai a ofnwch yr Arglwydd Iôn,
rhowch arno'ch vnion hollfryd:
Efe ywr' neb a'ch dŵg i'r lan,
eich porth a'ch tarian hefyd.
[verse 12] Duw nâf a'n cofiodd, ac i'n plîth
fo roes ei fendith rhadlon,
I dŷ Israel rhŷdd ei hêdd,
ac vnwedd i dŷ Aaron.
[verse 13] Sawl a'i hofnant bendithiant êf,
yr Arglwydd nêf canmolan,
A'i enw sanct o'r nêf i'r llawr,
bendithied mawr a bychan:
[verse 14] Yr Arglwydd arnoch chwi,
a wna ddaioni amlach:
Ac a chwanega ar eich plant
ei fwyniant yn rymusach.
[verse 15] Y mae ywch fendith a mawr lwydd
gan y gwîr Arglwydd cyfiawn:
Yr hwn a wnaeth y nefoedd fry,
a'r ddayar obry yn gyflawn.