PSALM. CXVI.
DA gennif wrando, or Arglwydd nêf
ar lais fy llêf a'm gweddi:
[verse 2] Am iddo fy'nghlywed i'n hawdd,
bŷth archaf ei nawdd imi.
[verse 3] Mae maglau anglau i'm cynllwyn.
ym mron fy nwyn i'm beddrod:
[verse 4] Cefais ing. Ond galwaf fy Nêr
i'm hoes, moes dyner gymmod.
[verse 5] Cyfion yw'r Iôn trugarog iawn,
ein Duw sy lawn o nodded.
[verse 6] Duw a geidw'r gwirion: bum i,
mewn cyni, daeth i'm gwared.
[verse 7] O f'enaid dadymchwel o'r llŵch,
dyrd i'th lonyddwch bellach:
Am i'r Arglwydd fôd i ti'n ddâ,
sêf i'th orphwysfa hauach.
[verse 8] O herwydd i Dduw wared f'oes,
a'm cadw rhag gloes angau,
Fy nrhaed rhag llithro i lam drŵg,
a'm golwg i rhag dagrau.
[verse 9] Yn y ffodd hŷn o flaen fy Nuw,
ym mŷsg gwŷr bŷw y rhodiaf.
[verse 10] Fel y credais felly tystiais.
ar y testyn ymma
[verse 11] Yn fy ffrŵst dwedais fel hyn,
mae pôb dŷn yn gelwyddog,
[verse 12] Ond ô Duw, bêth a wnâf i ti,
am dy ddaioni cefnog?
[verse 13] Mi a gymmeraf, gan roi mawl,
y phiawl iechydwriaeth,
Ac a alwaf, er mwyn fy llwydd,
ar enw yr Arglwydd bennaeth.
[verse 14] I'r Arglwydd talaf yn forau,
fy addunedau sfyddlon,
Y prŷd h••n o flaen ei holl l••,
y môdd y bu'n fy nghalon.
[verse 15] Marwolaeth ei sainct gwerthfawr yw
yngolwg Duw: 16 O cenfydd,
Dy wâs, dy wâs wyf, mewn dirmyg,
mâb dy forwynig yfydd.
[verse 16] Dattodaist fy rhymau yn rhŷdd,
fy offrwm fŷdd dy foliant.
[verse 17] Enw'r Arglwydd nid â o'm cô,
i hwnnw bô gogoniant.
[verse 18] I'r Arglwydd bellach tala'n frau
fy addunedau cyfion.
[verse 19] Ynghaer Selem dŷ sanctaidd dŷ,
o flaen dy deulu ffyddlon.