Page [unnumbered]
PSAL. 96. Cyngor i bod cenhedlaeth i foli Dum am ei drugaredd
O Cenwch glod i'r Arglwydd mâd,
a moeswch ganiad newydd:
Yr holl ddaiar dadcenwch fawl,
yr Arglwydd nefawl beunydd.
[verse 2] Cenwch chwi glod ir Arglwydd nef,
a'i enw ef bendigwch,
A'i iechydwriaeth drwy grefydd,
o ddydd i ddydd cyhoeddwch.
[verse 3] Datcenwch byth i glod a'i râd,
yngwlad y cenhedlaethoedd,
A'i ryfeddodau ef ym mhlith,
pob amryw, amrith bobloedd.
[verse 4] Cans ein Arglwydd ni sydd Dduw mawr
a roagawr canmoladwy,
Uwch yr holl dduwiau y mae ef,
yn frenin nef ofnadwy.
[verse 5] Duwiau y bobl culynnod ynt,
ni ellynt mwy na chysgod:
A'n Duw ni a wnaeth nef a llawr'
fal dyna ragawr gormod.
[verse 6] Cans mawr ydyw gogoniant nef,
ac o'i flaen ef mae harddwch,
Yn ei gyssegr ef y mae nerth,
a phrydferth yw'r hyfrydwch.
[verse 7] Chwi dylwythau y bobloedd, trowch,
yn llawen rhowch i'r Arglwydd,
I'r Arglwydd rhowch ogonedd fry,
a nerth, a hynny'n ebrwydd.
[verse 8] Rhowch ogoniant iw enw ef,
yr Arglwydd nef byth bythoedd.