PSAL. 31. Dafydd gwedi diangc o beryglon, yn dangos beth oedd ei fyfyrdod ef a'i ffydd pan oedd gaethaf arno: parod ddaioni Duw i'r fawl a'i hofnant. Cyngo•• i'r ffyddloni∣aid i ymddiried yn Nuw eu hymwaedydd.
MI a'mddiriedais ynod Ner,
fel na'm gwradwydder bythoed▪
Dvw o'th gyfiownder gwared fi,
a chlyw fy'nghri hyd nefoedd.
[verse 2] Gogwydd dy glust attaf ar frys,
o'th nefol lys i wared,
[verse 3] A bydd ym' yn graig gadarn fiwr,
yn dy a thwr i'm gwared.
[verse 4] Sef fy'nghraig wyd, a'm castell cryf,
wyf finau hyf o'th fowredd.
Er mwyn dy enw tywys fi,
ac arwain i drugaredd.
[verse 5] A thynn fy fi o'r rhwyd i'r lann,
a roesan er fy maglu:
Cans fy holl nerth fydd ynot ti,
da gelli fy'ngwaredu.
[verse 6] Dodaf fy yspryd yn dy law,
ac âf gar llaw i orwedd,
Da y gwaredaist fi yn fyw i
(Arglwydd Dduw'r gwirionedd)
[verse 7] Llwyr y caseis y neb a sâg,
iw galon orwag aflwydd,