Yr ymarfer o dduvvioldeb: yn cyfarvvyddo dŷn i rodio fal y rhyngo ef Fodd Duw. Yr hwn lyfe â osodwyd allan yn saeson-sec o wraith y gwir barchedig dâd Lewis Escomb Bangor, ac a gyfieithwyd yn gamber-aec o waith Row. Vaughan o gaergai o sîr feirion wr bonheddig.

About this Item

Title
Yr ymarfer o dduvvioldeb: yn cyfarvvyddo dŷn i rodio fal y rhyngo ef Fodd Duw. Yr hwn lyfe â osodwyd allan yn saeson-sec o wraith y gwir barchedig dâd Lewis Escomb Bangor, ac a gyfieithwyd yn gamber-aec o waith Row. Vaughan o gaergai o sîr feirion wr bonheddig.
Author
Bayly, Lewis, d. 1631.
Publication
Printiedig yn Llundain :: gan Tho. Dawks,
1675.
Rights/Permissions

This keyboarded and encoded edition of the work described above is co-owned by the institutions providing financial support to the Early English Books Online Text Creation Partnership. Searching, reading, printing, or downloading EEBO-TCP texts is reserved for the authorized users of these project partner institutions. Permission must be granted for subsequent distribution, in print or electronically, of this text, in whole or in part. Please contact project staff at eebotcp-info@umich.edu for further further information or permissions.

Subject terms
Piety
Christian life -- Anglican authors
Puritans
Cite this Item
"Yr ymarfer o dduvvioldeb: yn cyfarvvyddo dŷn i rodio fal y rhyngo ef Fodd Duw. Yr hwn lyfe â osodwyd allan yn saeson-sec o wraith y gwir barchedig dâd Lewis Escomb Bangor, ac a gyfieithwyd yn gamber-aec o waith Row. Vaughan o gaergai o sîr feirion wr bonheddig." In the digital collection Early English Books Online 2. https://name.umdl.umich.edu/A76257.0001.001. University of Michigan Library Digital Collections. Accessed May 6, 2024.

Pages

Page 54

Myfyrdod am gyflwr Cristion gwedi ei gymmodi a Duw yn Ghrist.

YR awrhon gadewch i ni weled, mor ddedwydd yw y gr duwiol mewn cyflwr o adnewyddiad wedi ei gymodi á Duw ynghrist. Y gŵr duwiol yr hwn sydd a'i natur lygredig gwedi ei adnewyddu trwy râs ynghrist, ac a wnaethpwyd yn greadur newydd, sydd fendigedig o herwydd tri pheth. Yn gyntaf, yn ei fywyd. Yn ail, yn ei farwolaeth. Yn drydydd yn ôl ei farwolaeth.

1. Ei ddedwyddwch yn ei fywyd, nid yw ond mewn rhan, hynny a gynhwyfir mewn saith o be∣thau.

Yn gyntaf: O ran ei fod wedi ei ymddwyn trwy'r ysbryd, ynghrôth ei fam, sef yr eglwys. Ioa. 3.5. Gal. 4.26. ac fe â aned, nid o waed, nac o ewyllys y cnawd, nac yn ôl ewyllys dŷn eithr o Dduw Joan. 1, 13. yr hwn Ynghrist ydyw ei dâd ef: fel y mae llun Duw ei dâd, yn adnewyddu ynddo ef ar gynnydd fwyfwy beunyddiol.

2. Yn ail: efe a gafas yn rhâd, ac yn gyflawn, er mwyn haddedigaethau dioddefaint Crist faddau iddo ei holl bechodau, gwreiddiol a gweithredol, a'r euogrwydd, a'r cospedigaeth a ddigwydd iddynt: a holl gyfiawnder Crist â gyfrifir yn rhwydd ac yn gyflawn iddo: ac felly y mae Duw wedi vno atto: ac yn ei weled yn ddifai ac vnion yn ei olwg, a'i gy∣frif. Rhuf. 4, 7, 8, 25.

3. Yn drydydd, y mae efe gwedi ei ryddhau od∣diwrth gaethiwed Satan, a'i wneuthur yn frawd i Grist, ac yn gydetifedd i feddiannu teyrnas nefoedd: yn ysprydol frenin ac offeiriaid, i offrymmu aberthau ysprydol i Dduw trwy Iesu Crist. Rhuf. 8, 17. 1 Pet. 2, 5.

Page 54

4. Yn bedwerydd, y mae Duw yn ei arbed ef fel yr arbed dŷn ei fab ei hun a fai yn ei wasanaethu, ar ar∣bed yma sy'n sefyll fal hyn.

1. Nid yw Duw yn dal sulw ar bob bai, eithr yn cyd-ddwyn a'i wendid: Exod. 34.6.7. Ni theiff Tâd caredig ei fab allan ir drws yn ei gle∣fyd.

2. Nid yw yn ei gosbi pan ei ceryddo, yn ol ei haed∣dedigaeth, Psalm. 103.10.

3. Y mae ef yn ei geryddu ef yn gymmedrol, pan welo nad oes dim arall a eill beri iddo ef well∣hau ei fuchedd, 2 Sam. 7.14, 15. 1 Cor. 11.2.

4. Y mae ef yn rasusol yn derbyn ei ewyllysgarwch, er bod ei vfudd-dod yn amherflaith: ac felly yn dewis amcan ei feddwl, o flaen teilyngdod ei weithr∣ed, 2 Cor. 8.12.

5. Y mae efe yn troi y melldithiau a haeddodd ef yn geryddon tadoi; ie pôb peth, gofidiau y bywyd, marwolaeth, ie hyd yn oed ei bechodau, yn ddaioni iddo. Rhuf. 8.28. Psal. 119, 71.

V. Y mae Duw yn rhoddi iddo ef ei ysbryd glân, yr hwn sydd,

  • 1. Yn ei sancteiddio trwyddo a'r gynnydd, hyd oni byddo fwyfwy yn marw i bechod, ac yn byw i gyfia∣wnder. Rhuf. 8, 10.
  • 2. Yn sicrhau iddo ei fabwysiad: sef, ei fod ef trwy ras yn blentyn i Dduw. Rhuf. 8.16.
  • 3. Yn ei gyssuro ef, i ddyfod mewn hŷfdra, ac ymmddiried ger bron Duw. Ephes. 3, 12.
  • 4. A wneiff iddo yn ddiofn ddywedyd Abba Dad Gal. 4, 6.
  • 5. A dywallt iw galon ef ddawn gweddi sancteid∣dedig. Rhuf. 8.26.
  • 6. Yn ei roi i goelio ei fod efe, a'i weddiau yn gymeradwy, ac yn cael ei wrando gan Dduw

Page 54

  • ... 〈1 page duplicate〉〈1 page duplicate〉

Page 55

  • ... 〈1 page duplicate〉〈1 page duplicate〉

Page 56

  • er mwyn Crist ei gyfryngwr. Rhuf. 8.16, 7.
  • 7. Yn ei lenwi ef
    • 1. A heddwch cydwybod.
    • 2. Allawenydd yn yr Yspryd glân: iw cyffelybu ir hwn, nid yw pob llaw∣enydd daiarol ond gwael ac ofer yn ei olwg ef. Rhuf. 5.1. ac pen. 14, 17.

6. Y mae ef yn cael ei lywodraeth o newydd ar y creaduriaid, yr hyn â gollasai wrth gwymp Adda: ac o hynny y mae iddo lawn rydd-did i fwynhau yr holl bethau nis gwaharddodd Duw, mal y gallo eu trin a chydwybod dda. O blegit y mae iddo sicr∣wydd diogel yn y bywyd hwn o wir gyfiawnder yn yr holl bethau yn y nef, ac ar y ddaiar. Ac efe a geiff gyflawn heddychlawn feddiant o hon∣ynt yn y bywyd sydd i ddyfod. Psal. 8.5. 1 Cor. 3.22.

O hyn y digwydd nad yw'r holl rai gwrthodedig ond trawsgeidwadau ar y cwbl oll maent yn eu feddu, o ran nid oes iddynt gyfannedd oi heiddaw eu hunain ond vffern. Act. 1.25.

7. Y mae iddo ef sicrwydd o dadol ofal Duw, iw ymddiffyn ddydd a nos: yr hwn ofal sydd yn sefyll yn y tri pheth hyn. sef,

Yn gyntaf, yn darparu iddo holl angenrheidiau ei enaid ai gorph, yn y byd hwn ac yn y byd a ddaw: fel y bo efe yn siccr naill a'i i gael ei gyfraid, neu i gael dioddefgarwch i fod yn fodlon ir hyn sydd gan∣ddo. Math. 6.32.

Yn ail, am fod Duw yn rhoi iw Angelion san∣ctaidd or chymmyn megis îw wenidogion, i wilio arno ef yn ddyfal, er mwyn ei ddaioni; ie mewn perigl i wersyllu o'i amgylch o ran diogelwch iddo ym mha le bynnac y byddo. Ie cymmorth Duw

Page 57

a'i hymddiffyn ef, mal cwmmwl liw dydd, ac fal colofn o dân liw nos, a'i ragluniaeth a'i ceidw oddi amgylch rhag gallu y cythraul. Psal. 34, 7. Job. 1.10.

Yn drydydd, am fod golwg yr Arglwydd arno, a'i glustiau yn oesdadol yn barod, i weed ei gyflwr, ac i wrando ar ei gwynfan, ac yn ei amser nodedig, iw waredu ef allan o'i holl orthrymderau.

Hyd yn hyn am fendigedig gyflwr y duwiol, ar dŷn adgenedledig yn y bywyd yma: bellach am ei fendigedig stât yn ei farwolaeth.

Ystryriaeth am wynfydedig gyflwr y dyn adgenedledig yn ei farwlaeth.

PAn ddanfono Duw angeu, megis ei gennad i gyrchu y dyn adgenedledig, y mae ef yn dy∣fod iw gyfarfod hanner y ffordd ir nefoedd; canys y mae ei serch a'i ymarweddiad yno o'i flaen ef. Phil. 3.20. nid yw Angeu na dieithrol nac ofnad wy iddo. Nid yw ddieithrol, o blegid yr oedd efe yn marw beunydd; nac ofnadwy, o ran tra fu fyw, marw ydoedd, a'i fywyd a guddiwyd gyd â Christ yn Nuw. Col. 3, 3. Marw gan hynny iddo ef, nid yw ddim amgen onid gorphywyso oddiwrth ei boen yn y bŷd, a myned adref i dŷ ei dad, i ddinas y Duw byw, i Ierusalem nefol, i blith myrddiwn o Angelion, i'r gynulleidfa gyffredinol, i Eglwys y cyntafenedig, at Dduw barnwr pawb oll, at ysprydion y rhai vnion a berffeithiwyd, at Iesu Cyfryngwr y Testament newydd. Heb. 12.22, 23. Tra fo ei gorph yn glaf, y mae ei fed dwl yn iach, o herwydd bod Duw yn gwneuthur ei wely oll yn ei glefyd, Psal. 41, 3. ac yn ei gryfhau ef â ffydd ac â dioddefgawch ar wely ei dristwch.

Page 58

a phan fyddo yn cychwyn myned i ffordd yr holl fyd; y mae ef (mal Jacob, Moses, a Josuah) yn rhoi cyngor ac athrawiaeth dduwiol iw blant a'i gyfneseifiaid, i wasanaethu y gwir Dduw, a'i anrh∣ydeddu yn vnion holl ddyddiau eu heinioes. Ei enaid bendigedig, ni anadla allan ddim ond bendithion, a'r cyfryw ymadroddion ag a fo arnynt flâs oddiwrth yspryd sancteiddiedig. Megis y mae ei ddŷn ef oddiallan yn gwanhau; felly y mae eî ddŷn ef oddimewn yn cynnyddu, ac yn cryfhâu. Pan fo ymadrodd ei dafod ef yn pallu, y bydd o∣chneidiau ei galon yn llefaru yn vwch at Dduw. Pan fo golwg y llygaid yn tywyllu, y mae 'r Yspryd glân yn ei oleuo ef oddimewn a helaethrwydd ô oleu∣ni ysprydol. Nid yw ei enaid yn ofnus, eithr yn hyderus i fyned allan o'r corph, ac i drigo gyd a'r Ar∣glwydd. 2 Cor. 5.8. Y mae ef yn ochneidio mal Paul, Cupio dissolvi, Yr wyf yn deisyf fy nattod; a bod gyd a Crist, Phil. 1.23. Ac megis Dafydd, fel y sycheda yr hŷdd am ddyfrneint, felly y sycheda fy enaid am danat ti o Dduw: y mae fy enaid yn sychedu am Dduw, am y Duw byw, Pa am∣ser y caf ddyfod i ymddangos ger bron Duw? Psalm. 42.2. y mae ef yn gweddio gyd a'r Sein∣tiau, pa hyd o Arglwydd yr hwn ŵyt san∣ctaidd ac vnion? Tyred arglwydd Jesu, ty∣red chwyppyn. Dat. 22.20. A phan ddêi amser terfynedig ei ymddatodiad, pryd ei bo yn gwybod ei fod yn myned at ei Dad, a'i Waredydd, mewn heddwch cydwybod, a gobaith sicr o gael meddeuant o'i holl bechodau trwy waed yr oen, y mae ef yn canu mal yr hén Simeon fendigedig, ei Nunc dimit∣tis, Yr awrhon Arglwydd y gollyngi dy wâs mewn tanghneddyf yn ol dy air, &c. Luc. 2.29. ac a ddyru ei enaid megis a'i ddwylaw ei hun yn nwylaw ei Dad nefol, gan ddywedyd gyd â Dafydd: i'th

Page 59

ddwylaw di o Dâd yr wyf yn gorchymmyn fy enaid, o blegit ty di am gwaredaist: o Arglwedd Dduw 'r gwirionedd, Psal. 31.5. a chan ddywedyd gyd a' Stephen: Arglwydd Iesu derbyn fy ysbryd. Act. 7.59. cyn gynted ac y rhoddo ef ei yspryd bendigedig i fynu: yn ebrwydd y mae 'r Angelion sainctaidd (y rhai oeddynt yn gwilio arno ef o'i eni∣digaeth hyd ei farwolaeth) yn dwyn ei enaid i'r nef, fel y dygafant enaid Lazarus i fonwes Abra∣ham, yr hon yw Teyrnas Nefoedd; i fyned i'r hon y mae Angelion da, a gweithredoedd da yn unig yn cydymdeithio a'r enaid: y naill i roi i fynu y peth orchymmynwyd iddynt, a'r llall i gael eu gwobr.

Y corph mewn amser cyfaddas megis Teml sanctaidd yr Yspryd glân, âelod i Grist, pridwerth gwaed Mâb Duw, a esyd ei gydfrodyr yn barchedig i huno yn ei fèdd, megis yngwely Crist, mewn goba∣ith sicr o gael deffroi yn nydd adcyfodiad y cyfion, i fod efo a'r enaid yn gyfrannog o'r bywyd a'r go∣goniant tragwyddol. Ac o blegid hyn, fe elwir yn fendigedig nid yn ynig eneidiau y ffyddlonniaid eithr eu cyrph hefyd.

Hyn yma am y fendith sydd yn descyn ar enaid a chorph y dŷn adgenedledig yn ei farwolaeth. Ga∣dewch i ni weled ym mhellach pa ryw fendith sydd i ddilyn e'i enaid a'i gorph yn ol ei farwolaeth.

Myfyrdod am gyflwr bendigedig y dynadgenedledig yn ol ei farwolaeth.

Y Cyflur yma sydd a thair grâdd arno.

Yn gyntaf o ddydd marwolaeth hyd yr adcy∣sodiad.

Yn ail, o'r adcyfodiad hyd oni adrodder y farn.

Page 60

Yn drydydd, yn oly farn, i barhau yn dragy∣wydd.

Cyn gynted ac y darfyddo i'r dŷn adgenedledig roddi ei enaid i fynu i Grist, y mae 'r Angeli∣on sanctaidd yn ei dderbyn iw cadwraeth, ac yn ddi-atteg, yn ei ddwyn i'r nef; ac yno yn ei roi yn anrheg gar bron Crist: ile yr ydis yn ei goroni, a choron cyfiawnder, a gogoniant. 2 Tim. 4.8. Dad. 2.10. nid yr hon a haeddodd o herwydd ei weithredoedd da, ond yr hon a addawodd Duw o'i ddaioni haelionus i'r rhai oll o wîr gariad arno, yn y byd hwn a'i gwasanaetho ef, ac a geisio ei ogoniant. Oh pa ryw lawenydd a fydd hynny i'th enaid ti! yr hwn ni bu arferedig o weled dim ond trueni pechaduriaid, gael gweled wyneb brenin y gogoniant! Iê gweled Crist i' th croe∣sawu, cyn gynted ac i'th ddygir di o'i flaen, gan ei An∣gelion sanctaidd; a'i groesaw yw hyn, euge bone serve: sef yw hynny, da gwnaethost, croesaw wâs da a ffydd∣lon, &c. dos i mewn i lawenydd dy Feistr: a pha ryw or∣foledd a fydd itti weled mil miliwn o Cerubiaid, Ser∣aphiaid, Angelion, Gorseddfeingciau, Arglwyddia∣ethau, Tywysogaethau, Galluogrwydd? Ephes. 1.21. Yr holl Patrieirch sancteiddiol, Prophwydi, Offei∣riaid, Apostolion, Merthyron, Cyfaddefwyr: a holl eneidiau dy gymdeithion, cyfneseifiaid, gwyr, gwragedd, a phlant, ar cwbl oll o So∣intiau Duw, y rhai a ymadawsant o'th slaen di mewn gwir ffydd Grist, yn sefyll ger bron gorsedd∣saingc Duw mewn anrhydedd a gogoniant? Os oedd brenhines Sheba, wrth weled rhwysc ac vr∣dduniant Salomon, o wir syndod yn dywedyd: dedwydd yw dy wŷr, dedwydd yw dy weision, y rhai sydd yn sefyll oth flaen, i glywed dy ddoethineb: pa la∣wenychu a wna dy enaid ti, wrth ei weled ei hûn wedi cael ei gynnwys i fod ym mhlith y gynulleidfa

Page 61

ogoneddus yma, i edrych ar fendigedig wyneb Crist, i ddirnad nerth ei ddoethineb? Pa ryw anrhydedd a fydd i't wrth weled cynifer mil o filoedd sydd yno, yn dy groesawu di iw nefol gymdeithas! Canys fel yr oeddynt oll yn llawenychu pan droist i edifarhâu; felly yr awrhon y maent hwy yn lla∣wenach wrth weled dy goroni, ac wrth dy ganfod yn derbyn y goron yr hon oedd ynghadw itti oni ddelit. Oblegid yno ŷ mae Coron Merthyrdod iw gosod am ben y Merthyr a ddioddefod arteithiau er mwyn Efengyl Crist: Coron Morwyndod ar ben y Forwyn a orchsygodd Drachwant. Coron Du∣wioldeb a Diweirdeb, ar ben y rhai oedd yn go∣goneddu Crist yn union, ac yn cadw eu prio∣das yn ddi-halog: Coron gweithredoedd da, ar ben rhoddwyr elusênau, y rhai a fuant syber wrth dlôdion: coron y gogoniant dilygredig, ar ben y bi∣geiliaid, y rhai trwy eu pregethau, au ensamplau da, a droesant lawer enaid o lygredigaeth pechod i ogoneddu Duw mewn sancteiddrwydd buchedd. Pwy a ddichon adrodd yn helaeth faint gorfoledd y llu nefol yma, wrth dy goroni di â gogoniant, a'th drw∣siadu mewn disclaer wisc cyfiawnder, ac wrth we∣led Palmwydden buddugoliaeth yn dy law? o wyched sydd ganddynt ddarfod i ti ddiangc rhag holl drueni 'r bŷd, rhwydau y cythraul, a phoenau vffern; a chael o honot yn lle hynny orphywysfa a dedwy∣ddwch yn dragywydd? Oblegid y mae pawb yno yn ymhyfrydu cymmaint mewn happusrwydd vn a∣rall ac yn ei happusrwydd ei hun, a gweled un arall yn cael ei garu gen Dduw cystal a'i weled ei hun. Ie y mae ganddynt gynnifer o amryw fath ar Jawenydd, ac sydd iddynt o gyfeillion i gydlawen∣hau. Ac yn y gwynfydedig ar bendigedig gyslwr

Page 62

yma, y mae yr enaid yn gorphywys gyd â Christ yn y nef, hyd ddydd yr adcyfodiad: pan gyflawner nifer ei chydwasanaethwyr, a'i chydfrodyr yr hyn y mae 'r Arglwydd yn ei gyfrif yn amser byrr.

Yr ail râdd o ddedwyddwch dŷn yn ôl mar∣wolaeth sydd o amser yr adcyfodiad, hyd oni adrodder y farn ddiweddaf. O herwydd ar y dydd olaf,

1. Yr wybrennau defnyddol, y ddaiar ac oll sydd o'i mewn a ymddettyd, ac a burir a thân, 2 Pet. 3, 10, 12, 13.

2. Ar sain yr vdcorn diweddaf, neu ar lais Crist yr Archangel, yr vnrhyw gyrph ac â oedd gan yr etholedigion or blaen, (er en bod wedi eu troi yn bridd ac yn ddaiaren) a gyfyd drachefn. Ac yn yr vn munud, yr ail dychwel enaid pob rhyw ddŷn iw gorph ei hûn, trwy rinwedd adcyfodiad Crist eu pen; ac a adfywheir ac a gyfodir ou beddau, megis pod faent yn deffroi yn eu gwelau; 1 Cor. 15.52. 1 Thes. 4.14.16. Joa. 5.28. Ezec. 37. Rhuf. 8.11. a phâ wedd bynnac y darfu i erlidwyr creulon ddryllio eu cyrph hwynt yn ddarnau, neu eu difa yn vlw: etto fe gaiff yr Etholedig weled fod yn wir yn y dydd hwnnw: na syrthiodd blewyn o'u pen hwynt.

3. Hwynt hwy a ddeuant allan o'i beddau pob un o honynt, megis Joseph allan o garchar, neu Dani∣el allan o ffau y llewod, neu Ionah allan o fol y mor∣fil.

4. Gwedi bywhau mal hyn holl gyrph yr ethole∣digion hwy a godant yn y cyfryw berffeithrwydd na∣turiaeth ac y buasent yn ôl eu hardymêrwch ania∣nol, o buasent di anafus: ac yn y cyfryw oedran, a y bydd dŷn grymusaf ynghylch ei dair a'r ddêg a'r

Page 63

higain oed, pob vn yn ei ryw priodol ei hûn; yr hyn beth y mae 'r dyscawdwyr yn tybied fod yr Apostol yn pennodi atto yn y geiriau hyn: Oni ddelom ni eu gyd oll yn ddŷn perffaith ym mesur oedran cyflawn∣der Crist. Eph. 4.13. Tertul. de Resur.

Pa anaf bynnag oedd o'r blaen ar y corph, megis dallineb, neu gloffni, neu wargrymni, y pryd hynny fe dynnir ymaith. Ni bydd Jacob yn glôff, nac Isaac yn ddall, na Leah yn llygadŵyr, na Mephibo∣sheth yn glôff efrydd: Canys gan na fynnai Dafydd na dall na chloff i ddyfod iw dŷ, llai o lawer a fyn Crist o ddallineb a chloffni i aros yn ei gyfannedd ne∣fol. Fe wnaeth Crist yr holl ddeillion i weled, y mudiaid i lefaru, y byddariaid i glywed, ar cloffion i rodio, &c. ar â ddaeth atto ef i ofyn ei râs ar y ddaiar: mwy o lawer yr iachâ efe holl amherffeith∣rwydd y rhai a gymmero ef yn gyfrannogion o'i ogo∣niant yn y nefoedd. Ym mhlith y llwythau hynny, nid oes vn egwan, y dŷn cloff a neidia fel yr hydd, a thafod y dŷn mud a gân. Isay 35.6.

Ac y mae'n ddigon hysby sol wrth weled ddarfod i Dduw greu ein rhieni cyntaf ni, nid yn fechgyn nac yn henaf gwyr, ond yhghanol perffeithrwydd eu hoedran, y bydd yr anaplasis, sef y creadwria∣eth newydd gwedi marwlaeth, ym mhob modd yn breffeithiach na 'r plasis, sef y deunyddiad cyntaf ar ddŷn, o'r hwn y cwympodd ef i gyflwr marwol. Ac nid yw debygol, y gall mebyd, y hwn nid yw ond amherffeithrwydd, a henaint yr hwn sydd lygry∣digaeth, gydhuno yn dda â grâdd corph perssaith go∣goneddus.

5. Cyrph yr etholedigion wedi eu cyfodi mal hyn a gant bedair tra rhagrol goruwch naturiol rinweddau, o blegid,

1. Fe a'i cyfoir hwy mewn nerth trwy 'r hwn y galiant fod byth yn gadwedig rhag pob dflyg, a gwe∣ndid,

Page 64

ac yn gallu parhau heb arfer o fwyd, diod, neu gŵsc, a'r fâth gynhaliaeth. 1 Cor. 15.43.

2. Mewn anllygredigaeth trwy 'r hyn ni byddant byth digwyddedig i vnrhyw fâth a'r amherffeithrw∣ydd, anaf, clefyd, neu farwolaeth.

3. Mewn gogoniant, trwy 'r hwn y discleiria eu cyrph mor eglur ar haul yn y ffurfafen, a chwedi eu gwneuthyd mor amlygl, eu eneidiau a oleua trwy∣ddynt yn fwy gogoneddus o lawer nai cyrph. Math. 13.43. o'r hwn ogoniant yr ymddanghosod tri arwy∣ddlewyrch. y cyntaf yn wyneb Moses: Exod. 34.27. yr ail yn y cyfnewidiad ar ddull Crist yn y mynydd, ar trydydd yn wynepryd Stephen. Mat. 17. Act. 6.15.

Tri arwyddocâd diogel o ogoniant ein cyrph ar y dydd gogoneddus hwnnw. Yno y rhydd Dafydd heibio ei wisc bigeilaidd, ac a wisc am dano drwsiad mab y brenin, Jesu nid Jonathan. Yno pob mordecai cywir, yr hwn a alarodd dan sachliain cnawd llygre∣dig, a gaiff ei drwsiadu a harddwych wisc frenhinol: ac a gaiff Goron Ardderchawg ar ei ben, fel y gallo yr holl fyd weled fal y gwneir i'r hwn y mae brenhin y brenhinoedd yn ei anrhydeddu. Os gwna yr awrhon cyfodiad vn haul ir borau ymddangos mor ogoneddus; O mor ogoneddus a fydd y Dydd hwnnw, pan fyddo aneirif fyrdd fyrddiwn o gyrph y Seintiau, a'r Angelion, yn ymddangos yn oleuach nag eglurdeb yr haul! a Chorph Crist mewn gogoni∣ant yn rhagori arnynt oll.

4. Mewn escudrwydd neu gyflymdra, trwy 'r hyn y geill eu cyrph hwy ymgyfodi i gyfarfod yr Ar∣glwydd ar ei ddyfodiad gogoneddus yn yr awyr fel yr eryrod yn ehedeg at sclyfaeth. Math. 24.28.

At yr hwn esgudrwydd ar gyrph y Seintiau y mae 'r prophwyd yn pennodi lle y dywedodd, Esai. 40.31.

Hwy a wellhant eu nerth, ac ehèdant fel eryrod, rhedant ac ni flinant, rhodiant ac ni ddiffygiant. Ac at y

Page 65

flwr hwn y gellir cymhwyso y geiriau hyn o ddoethi∣neb: sef yn amser eu gweledigaeth y disclei∣riant, ac y rhedant yma a thraw, megis gwieichion mewn sofl.

Ac o herwydd y pedair cynneddfau hyn y mae Paul yn galw cyrph y rhai etholedig a gyfodwyd, yn ysprydol: o blegid mewn cynnedfau y byddant ys∣prydol, eithr yn unrhyw byth mewn sylwedd. 1 Cor. 15.46.

A pha wêdd bynnag y mae pechod a llygrediga∣eth yn y cyflwr marwol hwn, yn gwneuthur dŷn yn îs nac Augylion, etto diau pan gorono Duw ef â gogoniant ac anrhydedd, ni fedraf fi ddirnad pa fôdd y bydd dŷn mewn dim oll yn îs na'r Angelion. o blegid Ysprydion ydynt hwy▪ ac felly y mae dŷn hefyd o herwyddd ei enaid; iê a mwy na hynny, hwy a gânt gyrph ysprydol wedi eu ffurfi yn gyffe∣lyb i gorph gogoneddus yr Arglwydd Jesu Grist, Phil. 3.21. Yn yr hwn y mae natur dŷn gwedi ymdderchafu trwy undeb personol i ogoniant y Duw∣dod, ac i anwahanol gymdeithas y Drindod fendi∣gedig: yr hwn anrhydedd ni chennadhâodd ef eri∣oed iw Angelion. Heb. 2, 16. Ac o herwydd hyn y mae i ddŷn ragorfraint vwch eu llaw hwynt oll. Na∣gê, nid ydynt hwy ond ysprydion gwedi eu trefnu i fod yn wenidogion i'r etholedig. Heb. 1.14. a chynnifer o honynt ar y cyntaf a wrthwynebodd wneuthur hyn o swydd, ac ni chadwodd y drefn gyntaf osodedig, am eu balchder a daflwyd i lawr i vffern; Nid yw hyn yn lleihau teilyngdod yr Angelion, ond hyspysu faint yw cariad Daw tuag ddynaw! ryw.

Eithr am yr etholedigion, y rhai a fyddant yma yn fyw, ar yr ail dyfodiad disymmwth i Grist; Y ân yr hwn a lysc lygredigaeth y bŷd a'r gweith∣redoedd o'i fewn, mewn munud ar drawiad amrant llygad, a'i goddiwes hwynt lle y bôn, nill a'i yn

Page 66

malu, mewn melin rhagluniaeth, a'i yn rhodio rhyd meusydd difyrrwch, a'i yn gorwedd mewn gwelŷ llonyddwch, ac felly gen losci eu amhur∣edd a'i llygredigaeth, o gyrph marwol a'i gwna hwynt yn gyrph anfarwol, a hyn o gyfnewid a fydd iddynt hwy yn lle marwolaeth. 1. Cor. 15.51.

Yno y caiff yr enaid drwy lawenydd gyfarch ei gorph gan ddywedyd: Oh da ymgyfarfuom ni eilwaith fy chwaer anwyl, mor hyfryd yw dy lais, mor howddgar yw dy wynepryd, gwedi gorwedd cyhyd mewn agennau creigian, ac mewn dirgel lochesau 'r bêdd! Can. 2.14. yr wyt ti yn wir yn breswylfa cyfa∣ddas, nid yn vnig i mi i drigo ynot, ond y cyfryw vn y mae 'r Yspryd Glân yn gweled yn gymmwys genddo aros ynddo megis yn deml iddo yn dragywydd. Bellach y darfu gauaf ein holl orthr∣ymderau, llifeiriant ein trueni a sychodd yn hysb. Y mae cyrph ein etholedigion frodyr yn ymddangos yn ddiscleiriach na blodau 'r Lili ar y ddaiar: fe ddaeth yr amser i ganu Halleluiah, a llais yr vd∣corn a glywir yn ein tîr, Ty di a fuost fynghy∣farwr yngwaith yr Arglwydd, ac yn gyfaill i mi mewn erlidiau, a chammau, er mwyn Crist a'i Efengyl; yr awrhon y cawn ni fyned gyd a'i gilydd i lawenydd ein Harglwydd, Megis y dygaist y groes gyd a'm fi gynt, felly yr awrhon gyd â myfi y cei wisco y goron. Megis yr hauaist gyd â myfi yn helaeth mewn dagrau, felly yr awrhon, y medi yn he∣laeth gyd â myfi mewn gorfoledd. O bendige∣dig, iê tra bendigedig a fo 'r Duw daionus! yr hwn (tra fu y rhai gwrthodedig accw yn treu∣lio eu holl amser mewn balchder, chwantau cnaw∣dol, bwyta, yfed, a gwagedd halogedig) a roes i ni râs i gydtynnu a'i gilydd yn gwilio, ymprydio, a gwe∣ddio, yn darllain yr scrythyrau, yn cadw y Sabbôt∣hau,

Page 67

yn gwrando pregethau, yn derbyn y Cym∣mun sainctaidd, yn cynnorthwyo 'r tlawd; gan ar∣fer o weithredoedd Duwioldeb ym mhob gostyn∣geidyrwydd tu ac at Duw, a rhodio yn gydwy∣bodus i wneuthur yn ôl ein galwadigaeth tû ac at ddynion.

Yn y man ni chei di glywed sôn am dy bechôdau, o herwydd fe a'i maddeuir, ac a'i cuddir, Psal. 32.1. eithr pôb gweithred dda a wnaethost, er mwyn yr Arglwydd, a gyhoeddir ac a obrwyir. Llonna dy galon, o herwydd y mae dy Farnwr yn gnawd o'th cnawd, ac ascwrn o'th ascwrn dithau. Cyfod dy ben i fynu, a gwêl yr Angelion gogoneddus yma, megis llu o Gabrieliaid yn ehedeg attom, i ddywedyd i ni fod dydd ein ymwared wedi dyfod, Dan. 9, 21. Luc. 21.28. ac i'n trosglwyddo ni yn y cymylau i gyfarfod ein iachawdwr yn yr awyr. wele y maent hwy gar llaw: Cyfod gan hynny fyngholomen, fynghariad, fy mhryd ferth, a thyred ymaith. Can. 2, 13.17. Ac felly fel yr iyrchod neu geirw iavainc, y maent hwy yn rhedeg gyd a'r Angelion tu ag at Grist tros ddy∣chrynadwy fynyddoedd Bether.

6. Y byw ar meirw ynghyd, yn y modd hyn gwedi eu bywhâu au gogoneddu, a gynnullir allan o law trwy weinidogaeth sanctaidd Angelion Duw, o hôb cwrr a pharthau 'r bŷd, ac â gippir ynghyd yn y cymylau, i gyfarfod yr Arglwydd yn yr awyr, ac felly a ddeuant gyd ag ef, yn rhan o'i rwysg ogoneddus i farnu y colledigion a'r angelion drwg. 1 Thes. 4.17. 1 Cor 6.1, 3. Y deuddeg Apo∣stol a fyddant yn eistedd ar ddeuddeg gorseddfaingc (yn nesaf at Grist) i farnu y deuddeg llwyth, y rhai a wrthodasant wrando yr Efengyl a bregethwyd trwy eu gweinidogaeth hwynt. Ar holl Sein∣tiau mewn anrhydedd ac urddas, yn nesaf attynt hwythau, megis barnwyr hefyd i farnu yr angelion

Page 68

drwg, a dynion bydawl. Ac megis y derbynni∣odd pob vn o honynt yn y bywyd yma rás i fod yn chwannoccach nac araill, i osod allan ei ogoniant, ac yn ffyddlonach iw wasanaethu ef; felly y bydd eu gogoniant a'i gwobr hwythau yn fwy nag eraill yn y dydd hwnnw. 2 Cor. 9.6.

Y lle ar fan yr ymgasglant ynghyd at Grist, a'r lle yr eistedd Crist i farnu, a fydd yn yr awyr goru∣wch dyffryn Iehosaphat, wrth fynydd yr olewydd, yn gyfagos i Ierusalem, ar y tu dwyrain oddiwrth y Deml, fel y mae 'n debygol drwy bedwar o res∣ymmau.

1. Yn gyntaf, O blegid bod yr scrythur sanctaidd yn cynnwys cymmaint a hynny mewn geiriau hygoel: Joel. 3.11, 12. mi a gynnullaf yr holl genedloedd i ddy∣ffryn Iehosaphat, ac a ymresymma ag hwynt yno, Pâr ith alluogion ddescyn i lawr o Arglwydd, deffroed y cenhedloedd a deuant i fynu i ddyffryn Iehosa∣phat. O blegid yno yr eisteddaf i farnu y cenedloedd o amgylch. Jehosaphat o'i gyfieithu yw, yr Arglwydd a farn, a'r dyffryn hwn a gafodd yr enw yma, oddiwrth y fuddugoliaeth fawr a roes yr Ar∣glwydd i Jehosaphat, ac iw werin ar yr Amoni∣aid, Moabiaid a thrigolion mynydd Seir, 2 Cron. 20.1, 22, 26. Yr hon fuddugoliaeth oedd arwydd o'r fuddugoliaeth ddiwaethaf a rŷdd Crist y barnwr pennaf iw etholedigion, ar eu holl elynion yn y fan honno y dydd olaf, fel y mae 'r holl Iddewon yn ei ddeongli: Edrychwch Zachar. 14. 4, 5. Psal. 50.1.2, 3, 4, 5. Oll yn cyttuno y bydd y lle yng∣ŷlch yno.

2. Yn ail, O blegid megis y darfu ynghylch yno, groeshoelio Crist a'i draddodi i gywilydd cy∣hoeddus, felly vwch ben y lle hwnnw yr adcyfo∣dir ei ogoneddus orseddfaingc yn yr awyr, pan ddêl ese i ymddangos mewn Barn, i eglurhau ei

Page 69

fowredd a'i ogoniant. Canys y mae yn addas i Grist farnu y byd a barn gyfion yn y fan honno, lle y bu efe ei hunan yn cael ei euogfarnu, a'i gondemnio yn anghyfion.

3. Yn drydydd, O blegid gan weled y dan∣fonir yr Angelion i gasclu ynghyd yr etholed∣igion oddiwrth y pedwar gwynt, o'r naill gwrr i'r ne foedd i'r llall, y mae yn hawdd profi y bydd y lle y cynhullir hwynt oll ynghyd iddo, yn agos i Ierusalem, a dyffryn Iehosaphat: yr hon fan y mae y rhai sydd gyfarwydd ym messuryddiaetn y bŷd, yn adrodd ei fod yn gannolbarth wyneb y ddaiar: canys os y terfynau eithaf oddiwrth ba rai, a fydd pedwar cyrrau y byd, rhaid yw i'r ymgyfarfod fod ynghylch y perfydd-bwynt, sef, y ca∣nol.

4. Yn bedwerydd: O blegid i'r Angelion ddy∣wedyd wrth y discyblion: mai megis y gweisant hwy Grist yn ymdderchafu oddiar fynydd yr olewŷdd, yr hwn sydd vwchlaw dyffryn Iehosaphat: felly yr vn agwedd y daw ef i wared o'r nefoedd. Act. 1.9.10, 11, 12. Dyma feddwl Aquinas a'r holl Ysgolwyr, oddieithr Lombart ac Alexander Ha∣les.

5. Yn ddiwaethaf: pan fyddo Crist yn eistedd yn ei orseddfaingc ogoneddus, gyd â llawer miloedd o Seintiau, ac Angelion, yn llewyrchu yn oleuach na chynifer o Haulau mewn gogoniant, ac yn eistedd o'i amgylch: a chorph Crist mewn gogoniant a phryd∣ferthwch yn rhagori arnynt oll: y colledigion gwe∣di eu didôli, ac yn aros ar y ddaiar i wared; canys y llaw ddehau sydd yn arwyddocâu bendigedig, ar llaw aswy melldigedig gyflwr: Crist yn gyntaf a adrodd barn gollyngdod a rhyddhâd, a thragwy∣ddol fendith i'r etholedigion. Yn gyntaf, o her∣wydd wrth glywed hynny, y myn ef chwannegu

Page 70

gofid y gwrthodedig. Yn ail, i ddangos ei fod ef yn barottach i roi Trugaredd na Barn. Ac fal hyn o orseddfaingc ei Fawrhydi yn yr awyr (yngolwg ac yn ynglyw yr holl fyd) y datcan ef wrth ei etholedi∣gion: Deuwch chwi fendigedig blant fy nhâd, meddi∣ennwch y deyrnas a barotowyd i chwi cyn dechreuad y byd, &c. Mat. 25.34.

Deuch chwi] dyma ein bendigedig vndeb ni â Christ, â thrwyddo ef a'r holl Drindod.

Fendigedig] dyma ein rhyddhâd ni oddiwrth ein holl anwireddau, a'n cyflawn gynyscaeddu â grâs, a dedwyddwch.

Blant fy nhâd] dyma 'r Awdur oddiwrth yr hwn trwy Grist y mae ein hapusrwydd ni yn deil∣liaw.

Meddiennwch] dyma ein mabwysiad ni.

Y Deyrnas] gwelwch ein etifeddiaeth, a'n med∣diant.

A barotowyd] gwelwn ofal Duw dros ei ddewi∣sedig.

Er pan seiliwyd y byd] o rád, tragwyddol, an∣ghyfnewidiol etholedigaeth Duw!

Oh mor rhwymedig yw 'r enediau hynny i garu Duw, yr hwn o'i wir ew yllys da a'i arfaeth, a'i de∣wisodd ac a'i carodd hwynt, cyn iddynt wneuthur na da na drwg, Rhuf. 9, 3.

Canys yr oddwn newynog, &c.

O Ddaioni Crist, yr hwn sydd yn dal sulw ar holl weithredoedd ei blant, iw gwobrwyo hwynt am dan∣ynt! Pa faint yw 'r cariad sydd ganddo ef i gristianogi∣on truain, yr hwn sydd yn cymmeryd pob gweithred trugaredd a wneler iddynt hwy er ei fwyn ef, fel pe gwneuthid iddo ei hûn! Deuwch attaf fi, yn yr hwn y credafoch cyn i chwi fyngweled: 1 Pet. 1.8. yr hwn

Page 71

a garasoch, ac a geisiasoch mor ewyllyscar, a thrwy lawer o orthrymderau.

Deuwch yr awrhon o flinder i orphywys, o gy∣wilydd i ogoniant, o safn angau, i lawenydd bywyd tragwyddol.

Er fy mwyn i y difenwasant chwi, ich erlidiwyd, ac i'ch melldithiwyd.

Ond yr awrhon yr ymddengys i'r holl Esauiaid melldigedig accw mai chwi ydyw y gwir Iacbiaid, a gewch dderbyn bendith eich Tad nefol, a bendigedig y cewch fod. Eich tadau, eich mammau, ac'h cy∣nyseifiaid a'ch gwrthodasant, ac a'ch rhoesant ym∣maith, er mwyn fyngwirionedd i, yr hwn yr oedd∣ych▪ chwi yn ei faentumio: Ond yn awr fy Nhâd i a fydd yn Dâd i chwi, a chwi a gewch fod yn feibion ac yn ferched iddo yn dragywydd. 2 Cor. 6, 18.

Fe a'ch bwriwyd chwi allan o'ch tiroedd a'ch by∣wyd, ac ymadawsoch a'r cwbl er fy mwyn i a'm E∣fengyl, eithr fal y bo yn eglur na chollasoch môch ynnill, eithr ynnill wrth golli: yn lle etifeddiaeth a meddiannau bydol, chwi a gewch feddiannu gyd â myfi etifeddiaeth fyn neyrnas nefol, lle y cewch fod o herwydd cariad yn feibion: O herwydd braint genedigol yn etifeddion: O herwydd anrhydedd yn frenhinoedd, O herwydd sancteidd wydd yn offe∣iriadau. Ac chwi ellwch yn hyf fyned yr awrhon i'r meddiant, o blegid fyn Nhad a'i darparodd, ac a'i cadwodd i chwi er yr amser cyntaf y gysodwyd sail y byd.

Yn ebrwydd yn ol y farn hon o ryddhâd a bendith, y mae pob vn yn derbyn ei goron yr hon y mae Crist y barnwr cyfion yn ei roi am eu pennau, megis gwobr, yr hon â addawodd esc o'i râs a'i drugaredd, i ffydd a gweithredoedd da y rhai oll a garent ei ymddanghosiad ef mewn gogoniant. 2. Tim. 4.8.

Page 72

Yno pob un gan gymmeryd ei goron oddiam ei ben, a'i gesyd a'r lawr (fal petteu) wrth draed Crist; a chan ymostwng en hunain ag vn galon, ac un lleferydd, mewn undeb â chyfundeb nefol a ddywedant fal hyn: Dadc, 4.5, 10. Moliant, anrhy∣dedd, a gogoniant, a nerth, a diolch a fyddo i ti yr oen bendigedig, yr hwn wyt yn eistedd a'r yr orsedd∣faingc, a laddwyd, ac a'n prynaist ni i Dduw a'th waed, o bòb cenedl, ieithoedd a phobloedd, ac an gw∣naethost ni yn frenhinoedd, ac yn offeiriaid i Dduw i deyrnasu gyd â thi yn dy deyrnas yn oes oesoedd. Amen.

Yno y cânt hwy eistedd yn eu gorseddfeingciau, au trefn, megis barnwyr a'r y gwrthodedigion, a'r Angelion drwg, i glodfori a dwyn tystiolaeth o v∣nion farn Crist y Barnwr goruchaf, 1 Cor. 6, 1, 2.

Gwedi adrodd barnedigaeth y colledigion, y oy∣flawna Crist ddwy weithred arbennig.

1. Yn gyntaf rhoi yr etholedigion iw Dâd: Ioan. 17.13, 14, 15. Gwel o Dad cyfion dyma y rhai a roddaist i mi, mi a'i cedwais hwynt, mal na chollodd vn o honynt, mi a roddais iddynt dy air di: ac hwy a'i credasant ef, a'r byd a'i cashaodd hwynt am wad oeddynt o'r byd magis nad oeddwn innau o'r byd.

Ac yr awr hon O Dâd myfi a fynnwn i'r rhai a roddaist i mi, fod gyd â mi lle yr ydwyf; fel y gwelant y gogoniant a roddaist i mi, fel y byddwyf fi ynddynt hwy, a thithau ynof finnau, fel y gwneler hwynt yn ber∣ffaith yn vn, fal y gwyppo 'r byd mae tydi am hanfo∣nodd i, a'th fod yn ei caru hwynt fel y ceraist fi. Joan. 17.23, 24.

2. Yn ail, Crist a ddyru i fynu y deyrnas i Dduw y Tad, hynny yw, a baid a gwasanaethu swydd ei gy∣fryngdod, wrth yr hon, megis y mae yn Frenin, Offeiriad, Prophwyd, ac yn ben yr Eglwys, fe

Page 73

fathrodd ei elynion, ac a reolodd ei bobl ffyddlon, â'i Yfpryd, ei air, a'i Sacramentau. Felly pan fo efe yn gado ei Deyrnas o râs, tros ei Eglwys yn y byd hwn, yn ddi atteg fe a lywodraetha fel y mae yn Dduw gogyfuwch a'r Tad, a'r Yspryd glân, yn ei Deyrnas o ogoniant yn dragywydd, Nid i leihau dim a'r deilyngdod ei Ddyndod, eithr i hyspysn yn eglurach ogoniant ei Dduwdod. Felly megis y mae ef yn Dduw, efe a gaiff o hynny allan, ym mhob cyflawnder heb gyfryngau oddiallan, reoli oll yn oll. 1 Cor. 15, 24.

O'r orsedd a'r brawdle yma, y cyfyd Crist a'i holl ogoneddus gynulleidfa o etholedig Angelion, a Seintiau, ac a eiff i fynu yn orfoleddus mewn trefn, a llywodraeth i nef y nefoedd, a'r cyfryw hyfryd∣lais cerddwriaech nefol iw canlyn: Fal y caffo y gán honno, a ddywedodd Dafydd ei gwirio yn hollawl: fe aeth Duw i fynu mewn gorfoledd, yr Arglwydd gyd a sŵn yr vdcorn, cenwch foliant i Dduw, cenwch foliant i'r Brenin, cenwch foliant: o blegid Duw ydyw brenin yr holl ddaiar, efe biau ymdderchafu mewn mawredd Psal. 47, 5, 6, 7, 9. A'r briodasgerdd honno yn Ioan: ymlawenhawn, ac ymhyfrydwn, a rhown anrhydded iddo ef, o blegid y mae priodas yr oen yn dyfod, a'i wraig ef a ymbaratôdd. Alleluiah: Oblegid yr Arglwyd Dduw ollalluog sy'n teyrnasu. Datc. 19, 6, 7.

Y trydydd a'r ràdd olaf o fendigedig gyflwr y dŷn adgenediedig yn ôl marwolaeth, sydd yn dechrau ar ôl adrodd y farn a bery yn dragwyddol heb dra∣ngc na gorphen.

Page 74

Myfyrdod am gyflwr bendigedig ŷ Dŷn Adgene∣dledig, yn y nef, gwedi ei derbynnio ef ei fann o ollyngdod, ger bron brawdle Crist, a'r Ddydd y Farn ddiwaethaf.

YMma y mae fy myfyrdod yn llewygu, am pin scrifennu yn cwympo om llaw, y naill heb a∣llael deall, a'r llall heb allael rhoi ar lawr, y diddan∣wch tra godidog, a'r tragwyddol bwys gogoni∣ant (o'r hwn nid yw holl ddioddefiadau y byd hwn yn deilwng) 2 Cor. 4.17. Rhuf. 8.18. Yr hwn a gânt hwy (sef yr etholedigion) gyd a'r Drindod fen∣digedig, ei feddiannu, o'r pryd y derbynnir hwynt gyd à Christ yn gyd etifeddion, o'i dernas, a'i lawe∣nydd tragwyddol.

Etto ni allwn roi cais arno fal hyn: y mae'r Scrythur sanctaidd yn dangos allan (i'n dealltwria∣erh ni) ogoniant y tragwyddol a'r nefol lawenydd mewn pedwar peth:

Sef
  • 1. Y Lle.
  • 2. Y Golygyn.
  • 3. Rhagorfreintiau yr etholedigion yno.
  • 4. Frwythau y rhagorfreintiau hynny.

Y Lle.

Y Lle ydyw nef y nefoedd, neu y drydydd nef, yr hon a elwir paradwys: 1 Bren. 8. 2 Cor. 12.24. Y lle vr escynnodd Crist (yn ei ddynol anian) ym∣hell vwchlaw yr holl nefoedd gweledig, y Stafell y priodasfab, yr hon y mae y ffurfafen â llen frêithlas o sêr gwreichionllyd, a phlanêdau gogoneddus, yn ei chuddio, mal na eill llygaid llygredigol y cnawd mol chanfod. Yr Yspryd glân (gan ei osod ei

Page 75

hun at ein gwendid ni) sydd yn datcan gogoniant y lle hwnnw, yr hwn nid all neb ei iawn brisio, wrth ei gyflybu a'r pethau gwerth-fawroccaf yngolwg dŷn. Ac am hynny y mae ef yn Ei gyfflybu i'r ddinas fawr sanctaidd a elwir Jerusalem nefol. Lle yn vnig y mae Duw a'i bobl, (y rhai sydd gadwe∣dig, a chwedi eu scrifennu yn llyfr yr oen) yn cyfan∣neddu: wedi ei hadeiladu oll o aur coeth, yn debyg i wydr gloiw nou risial, ei mur o faen Jasbis, a sail y mur o ddeu ddeg rhywogaeth o feini gwerthfawr, a deuddeg o byrth, a phob un wedi ei adeiladu o un perl, tri phorth yn tueddu tu ac at bob un o bedwar congl y byd; ac Angel wrth bob porth, (fel cynifer o borthorion) fel na chaffo dim aflan ddyfod i mewn iddi. mae yn bedwar ochrog, ac am hynny yn berffaith: yr hŷd, y llêd, a'r vchder sydd o un faint, deudeng mil o stadiau i bob ffordd, am hynny chang, a gogoneddus. a'r hyd canol ei heolydd, y mae afon bur o ddwfr y bywyd yn rhedeg yn oestadol, cyn loiwed a'r grisial, am hynny yn iachus. Ac o'r naill du i'r afon y mae pren y bywyd yn tyfu yn dragywydd: yr hwn sydd yn dwyn deuddeg mâth a'r ffrwythau, am hynny yn ffrythlon. A daily pren sydd iechyd i'r ce∣nedloedd, am hynny yn iachus. Dat 21.

Nid oes gan hynny fangre mor ogoneddus o ran creadigaeth, mor hyfryd o ran diddanwch; mor gy∣foethog, o ran meddiant, mor gyssurus o ran cyfan∣nedd. O blegid y brenin yno ydyw Cirst, y gyfraith, cariad: yr anrhydedd, gwirionedd: y dynghne∣ddyf, dedwyddwch: y bywyd, tragywyddoldeb. Y mae yno oleuni heb dywyllwch: llawenydd heb prudd-der, iechyd heb glefyd, cyfoeth heb eisiau: geirda heb anair: glendid heb anaf: esmwythdra heb poen: golud heb rydu, bendith heb drueni: ac hyfrydwch byth heb ddibennu. Mor union y gallwn ni lefain allan gyd á Dafydd am y ddinas

Page 76

hon: Pethau gogoneddus a draethir am danat ti o ddi∣nas Duw, Psal. 87.3. Ac etto yr holl bethau hyn a ddywedir yn ol gwendid ein dealltwriaeth ni. O blegid y mae'r nefoedd yn rhagori ar yr rhain ol mewn gogoniant, cyn belled, na ddichon tafod dŷn ei adrodd, na chalon dŷn ddirnad ei gogoniant, megis y tystiolaetha Paul yr hwn a fu ynddo 1 Cor. 2.5. 2 Cor. 12.4.

O nedwch i ninnau ymhoffi yn y bythod yma o brenniau, neu feini, neu dai wedi eu tylino o bridd, y rhai nid ŷnt ond pebyll annuwioldeb, ac anneddau pechaduriaid; eithr disgwyliwn yn hytrach, ac hi∣raethwn am y ddinas nefol yma, saer ac adeiladydd yr hon yw Duw. Yr hon y darfu iddo ef, (yr hwn nid yw gywilydd ganddo i alw yn Dduw i ni) ei pharattoi i ni, Heb. 11.10.

2. Y Golygyn.

Y Cyflawn fendigaid, ar gogoneddus olygyn i'r holl ddeallus, a'r rhesymmol greaduriaid yn y nef ydyw Duwdod, mewn Trindod o bersonau; heb yr hwn nid oes na llawenydd na dedwyddwch, eithr gwir gyflawndra gorfoledd sydd yn sefyll yn ei fwynhau ef.

Y Golygyn hwn a gawn ni ei fwynhau mewn dwy ffordd.

Yn gyntaf, trwy fendigedig olwg ar Dduw.

Yn ail, trwy gyfrannogi Cymmun digyfrwng a'i Dduwiol anian ef.

Y wynfydedig olwg ar Dduw ydyw honno yn u∣nig sydd yn rhyngu bodd i anherfynol feddwi dŷn. Canys y mae pob peth yn tueddu at y perfeddbwynt neu 'r canol. Duw ydyw perfeddbwynt yr enaid: am hynny (mal clommen Noah) ni fedr ef gael

Page 77

gorphywys, nac ymlawenhau, nes y dychwelo iw fwynhau ef.

Nid oedd y cwbl a roes Duw i Moeses yn bodlo∣ni ei feddwl ef, o ni chai ef weled wyneb Duw: am hynny y mae yr holl Eglwys yn gweddio yn ddifrifol: Duw a drigarhâo wrthym, ac a'n bendithio, a thy∣wynned llewyrch ei wyneb arnom. Psal. 67.1. Pan welodd Paul vnwaith y fendigedig olwg honno; byth o hynny allan ni wnaeth gyfrif, o olud neu ogoniant y byd hwn, yn ei herwydd, mwy nag o dom: ac yn ei holl fywyd o hynny allan ni bu ef ond ocheneidio (cupio dissolvi) yr wyf yn dymuno fy nattod, a bod gyd â Christ. Phil. 1.23. Crist hefyd a weddiodd yn ei weddi ddiwaethaf tros ei holl etholedigion, ar gael o honynt feddiannu y weledigaeth fendigedig yma: Joan. 17.24. Y Tâd, y rhai a roddaist i mi, yr wyf yn ewylly sio lle rwyf fi, fod o honynt hwythau hefyd gyd â myfi: (i ba beth?) fel y gwelònt fyngogoniant, &c. os discleiriodd wyneb Moeses pryd na buasai ond deugain niwrnod gyd â Duw, ac heb weled dim ond ei du cefn: Exod. 34.29. pa fodd y byddwn ni yn discleirio, pan fo 'm yn cael ei weled ef wyneb yn wyneb yn dragywydd, a'i adnabod ef, fel yr ad∣weinir ninnau, ac fel y mae efe? 1. Cor. 13.31. 1 Joan. 3.2. Yno ni elwir yr enaid mwyach, Ma∣rah, sef chwerwder, ond Naomi, sef tegwch. Oblegid fe dry Duw ei chwerwder byrr ef, yn brydferthwch a glendid trawyddol. Ruth 1.20.

Yr ail fodd i feddianu y golygyn hwn, yw cael rhydd-deb a chydvndeb tragwyddol gyd â Duw yn y nefoedd. Hyn yr ydym ni yn ei gael, yn gyntaf, trwy fod megis yn aelodau i Grist, gwedi ein vno a'i Ddyndod ef, a thrwy ei Ddyndod, (yn bersonol gwedi ei vno a'r Cair) yr y'm gwedi ein vno ag ef, megis y mae efe yn Dduw: a thrwy ei Dduwdod ar holl Drin∣dod.

Page 78

Y colledigion yn y dydd olaf a gânt weled Duw (fel barnvvr cyfion) iw cospi, eithr o ran bod y cymmun yma yn niffyg, ni chânt hwy na grâs na go∣goniant oddiwrtho. Canys diffyg y Cymmun hwn a wnaeth i'r cythrauliaid (pan welsant Grist) lefain allan, Quid nobis teoum? sef, beth sydd i ni a wne∣lom a thi, O Fâb y Duw goruchaf? eithr (trwy rym y Cymmun yma) fe eill yr enaid edifeiriol fyned yn hyf a dywedyd wrth Grist (fel Ruth wrth Boaz) lledâ aden gwisg dy drugaredd dros dy lawforwyn, canys fy nghafathrachwr ydwyt ti. Ruth. 3.9. Y Cymmundeb hwn a addawodd Duw i Abraham, pan roddodd efe ei hun yn wobr fawr iddo. Gen. 15.1. Ac y mae Crist yn gweddio a'r iw holl eglwys ef gael ei fwynhau. Y Cymundeb hwn y mae St. Paul yn ei roi ar lawr ar vn gair lle dywedodd, Y bydd Duw i ni oll yn oll. Joan. 17.20.21. 1 Cor. 15.18. Gwir yw fod Duw yr awrhon i ni oll yn oll, eithr trwy gyfrwng, a mesur bychan. Eithr yn y nef Duw ei hûn yn ebrwydd mewn cyflawnder mesur heb gy∣franniad, a fydd i ni yn bob daioni, ar a allo ein enei∣diau ni, a'n eyrph ei ddeisyf a'i ddymuno. Efe ei hun a fydd yn iachadwriaeth, ac yn llawenydd i'n heneidiau, yn fywyd ac iechyd i'n cyrph, yn lendyd i'n llygaid, yn gerdd i'n clustiau, mêl i'n geneuau, pêrarogl i'n ffroenau, ymborth i'n boliau, goleuni i'n dealltwriaeth: bodlonrhwydd i'n meddyliau: a di∣fyrrwch i'n calonnau: a pha beth a eill fod yn eisiau lle bydd Duw ei hun yn enaid i'n eneidiau ni? Yr holl nerth, synwyr, diddanwch, rhinwedd, lliwiau, perffaithdra, melusdra, a'r holl ddaioni sydd mewn dynion, anifeiliaid, pyfgod, adar, prennau, llysiau, a'r holl greaduriaid, nid ydynt ond megis gwreichion o'r pethau sydd yn Nuw ei hûn mewn perffeithrwydd anfeidrol. Ac ynddo ef y cawn eu meddiannu mewn modd perffeiddiach, a bendigediccah o lawer.

Page 79

Efe ei hûn a wasanaetha 'r twrn yn eu lle hwynt oll: Na y creaduriad gorau (yr rhai sydd i'n gwasanaothu ni yr awrhon (ni chânt gymmaint o anrhydedd a'n gwasnaethu ni y pryd hynny. Ni bydd eisiau na 'r haul, na'r llenad, i lewyrchu yn y ddinas honno. O blegid y mae gogoniant Duw yn ei goleuo hi Datc, 21, 23. Ni bydd chwaith yn rhaid wrth un math ar greadur pryd y byddom yn cael meddiannu y creaw∣dr ei hunan. Pan fôm ni gan hynny, yn gweled rhyw beth godidog mewn rhyw greadur, dywedwn wrthym ein hunain, pa faint godidoccah yw'r hwn, a roes y godidawgrwydd yma? Pan welom ni ddoethineb dy∣nion, y rhai sydd yn meistroli creaduriaid cryfach nac hwynt eu hunain; a'i deongliad yn rhagflaeno∣ri yr haul ar lloer, gan osod ar lawr yr amser yr ec∣clipfiant, neu y tywyllant hwy: diwedwn wrthym ein hunain, Oh mor rhyfeddol yw doethineb Duw, yr hwn a'i gwnaeth hwynt mor ddoeth! Pan ystyrion ni nerth y Morfeirch, Oliphantiaid, Temestl y gwynt, a thwrf y daran ddychrynllyd; dywedwn wrthym ein hunain mor nerthol, mor alluog, mor ofnadwy yw'r Duw hwnnw, sydd yn gwneuthur y cryfion ar erchill greaduriaid yma! Pan fôm ni yn archwaethu Pethau melusber, dywedwn wrthym ein hunain, Oh mor felus ydyw 'r Duw hwnnw, oddiwrth ba un y cafodd yr holl greaduriad hyn eu melusdra! Pan fôm ni yn gweled cyfliwiau perffaith, y rhai sydd ar flodau, ac adar, neu 'r glendid cariadus sydd a r fer∣ched; dywedwn, oh mor howddgar yw 'r Duw a wna∣eth yr rhain yn howddgar!

A os darfu i'n Duw anwyl raglunio i ni gynifer o ddifyrrwch godidog, tra fôm yn myned trwy Bochim, sef y dyffryn hwn o wylofain; Pa fâth ddidanwch yw hwnnw, a ddarparodd ef i ni pan gaffom ni fy∣ned i mewn i lŷs llawenydd ein meistr? Pa fódd 〈◊〉〈◊〉 bydd ein eneidiau ni yno yn ymhyfrydu o gariad ar

Page 80

y fâth Dduw cariadus? mor ogoneddus yw 'r golwg o Seintiau nefol, ac mor garuaidd yvv golwg ein Ia∣chawdwr grasusavvl.

3, Y Rhagorfreintiau sydd i'r etholedigion yn y nefoedd.

O Herwydd y Cymmun hwn â Duw, fo fydd i'r Etholedigion bedwar o ragorfreintiau tra go∣didog, yn y nefoedd.

1. Yn gyntaf, hwynt hwy a gânt deyrnas Dduw yn etifeddiaeth: ac â gant fod yn wyr rhŷdd O Ierusa∣lem nefol, 1 Pet. 1.4. St. Paul o herwydd ei fod yn ddinasydd rhyddo Rufain a ddiangodd heb ei fflan∣gellu; Act. 22.26.28. eithr y rhai a fo vnwaith yn ddinasyddion rhyddion O Jerusalem nefol, fyddant byth diangol oddiwrth fflangellau poenau trag∣wyddol. O blegid y rhyddhâd yma a brynwyd i ni, nid â rhif o arian, ond a gwerthfawr waed Christ, 1 Pet. 1.19.

2. Yn ail: hwy a gânt oll fod yn frenhinoedd, ac yn offeiriaid; Datc. 5.10. ysprydol frenhinoedd, i deyrnasu gyd â Christ, i orfoleddu goruwch Satan, y byd, a'r gwrthodedigion, Rhuf. 16.20. ac offeriaid Ysprydol o foliant a diolch yn dragywydd, 1 Pet. 2.5. Am hynny y dywedir eu bod yn gwisco Coro∣nau a gynau, Datc. 6.11. O pa gyssur a diddanwch yw hyn i dadau tlodion, a llawer o blant ar eu helw? os hwynt hwy a'u maethant ac a'i meithrinant yn ofn Duw, i fod yn wir gristianogion, yno y byddant yn dadau i gynifer o Frenhinoedd ac Offeiriaid.

3. Yn drydydd eu cyrph hwynt a oleua fel dis∣cleirdeb yr haul yn y ffursafen: fel gogoneddus gorph Crist, yr hwn a ddiscleiriodd yn eglurach na'r haul haner dydd, pan ymddanghosodd ef i Paul. Mat. 13.43. Phil 3.21. Act. 22.6. Llewyrch neu

Page 81

gysgod o'r hwn oleuni gogoneddus oedd ymrithiad Moeses ac Elias gyd a'r Arglwydd a'r y mynydd sanctaidd, Luc. 9. Mar. 9.3. Am hynny (medd yr Apostol) fe a gyfyd yn gorph gogoneddus, ie yn gorph ysprydol, 1 Cor. 15.44. nid o herwydd ei sylwedd, ond o herwydd ei gynneddfau, yn ymgyn∣nal trwy foddion ysprydol, a chanddo gyflymdra (fel Angel) i ascyn ac i ddiscyn. Oh pa anrhyd∣edd ydyw fod ein cyrph ni (y rhai sy 'n braenu yn waelach na burgyn yn y byd) yn cael eu hadgyfo∣di mewn gogoniant yn debyg i gorph mab Duw ei hûn!

4. Yn ddiwaethaf, y maent hwy yno gyd a'r An∣gelion sanctaidd, heb na blinder na lludded yw cy∣thryblu, yn cynnal Sabboth oesdadol i ogoniant, an∣rhydded, a moliant y Drindod tra-bendigedig, am greu, gwaredu, a sancteiddio yr Eglwys; ac am ei al∣lu, ei ddoethineb, ei gyfiawnder, ei drugaredd, a'i ddaioni, yn llywodraethu nêf â daiar. Pan fyddych di yn gwrando cydseiniad melysgerdd miwsic, myfy∣ria mor ddedwŷdd fyddi di pan fych gyd â chôr o Angelion, a seintiau nefol yn cydganu dy ran o'r Al∣leluiah ysprydol honno, a'r y tragwyddol fendigedig Sabbôth: Lle bydd y fâth amryw ddifyrrwch, a di∣gonolrhwydd o lawenydd, a'c nad adwaenant fŷth flinder wrth eu gwneuthur, na diwedd o'u hyfryd∣wch.

Page 82

4. Ffrwythau digwyddedig oddiwrth y rhagor∣freintiau hynny.
Oddiwrth y rhagorfreintiau hyn, y cyfyd i'r ethole∣digion dri mâth a'r effeithiau hynod.

HWynt hwy a gânt adnabod Duw trwy wyboda∣eth perffeithlawn: cyn belled ac y byddo pos∣sibl i'r creaduriaid ymgyffred y Creawdr. O ble∣gid yno y cawn weled y Gair, y Creawdwr; ac yn y gair, yr holl greaduriaid a'r a greawdd y Gair: fel nad rhaid i ni ddyscu wrth y pethau a wnaeth∣pwyd, wybodaeth am dano ef, trwy'r hwn y gwnaeth∣pwyd pôb peth. Y creaduriaid godidoccaf yn y by∣wyd hwn, nid ŷnt ond megis llen dywyll gwedi ei thynnu rhwng Duw â ni; a phan dynnir y llen hon∣no o'r neill du, yno y cawn weled Duw wyneb yn wyneb, a'i adnabod fel i'n adwaenir, 2 Cor. 3.16. 1 Cor. 13.12. Nyni a gawn gydnabyddiaeth a'r allu y Tâd, a'r ddoethineb y Mâb, ac a'r râd yr Ys∣pryd gln; ac a'r anwahanol anian y Drindod fen∣digedig. Ac ynddo ef ni gawn adnabod nid yn vnig ein holl gyfeillion y rhai a fu farw mewn ffydd Grist, ond yr holl ffyddloniaid hefyd a'r a fu erioed ac a fydd bŷth. Canys,

1. Y mae Crist yn dywedyd i'r Juddewon y caent hwy weled Abraham, Isaac, ac Jacob, a'r holl brophwydi yn neirna Dduw: am hynny hwy a gânt eu hadnabod hwynt. Luc. 13.28.

2. Yr oedd Adda yn ei ddiniweidrwydd yn gwy∣bod fod Efa yn ascwrn o'i ascwrn ef, ac yn gnawd o'i gnawd ef, cyn gynted ac y deffrôdd efe: Gen. 2.23. gwell o lawer y cawn ni adnabod ein tylwyth, pan ddeflrôm ni gwedi ein perffeiddio, a'n gogoneddu yn yr adcyfodiad.

Page 83

3. Fe adnabu yr Apostolion Grist yn ol ei adcy∣sodiad, a'r Seintiau y rhai a gyfodasant gyd ag ef, ac a ymddangosasant yn y ddinas sanctaidd. Mat. 27.53.

4. Petr, Iago, ac Ioan a adnabuant Moeses, ac Elias, yn y gwedd newidiad, Mat. 17.3, 4. pa∣faint mwy o gydnabod a gawn ni y naill a'r y llall, pan fôm ni oll gwedi ein gogoneddu.

5. Yr oedd Diues yn adnabod Lazarus ym mon∣wes Abraham, Luc. 16.23. mwy hytrach y caiff yr etholedigion adnabod eu gilydd yn y nefoedd.

6. Y mae Crist yn dywedyd, Matth. 19.28. y caiff y deuddeg Apostol eistedd a'r ddaudeg gorsedd∣faingc, i farnu (a'r y dydd hwnnw) y dauddeg llwyth: am hynny hwy fyddant iw hadnabod, ac felly yn ddilynawl yr adwaenir yr holl Seintiau eraill.

7. Y mae Paul yn dywedyd y cawn ni y dydd hwnnw adnabod megis i' n adwaenir ninnau gau Dduw: ac y mae Awstin (o'r lle yma) yn cyssu∣ro gwraig weddw, gan ei sicrháu hi, mai fel y gwe∣lodd hi ei gŵr yn y bŷd hwn a'i llygaid corphorol, felly yn y bŷd i ddyfod y caiff hi adnabod ei galon ef, a pha beth oedd ei feddyliau a'i amcanion. Gan hynny wŷr a gwragedd edrychwch at eich gweith∣redoedd, a'ch meddyliau. O blegid fo fydd y cwbl iw gweled ryw ddydd yn gyhoeddus▪ edrychwch 1 Cor. 4.5.

8. Yn yr hên Destament yr ydis yn dywedyd, fod y ffyddlonniaid gwedi eu cynnull at eu tadau: wrth hynny mae ein gwybodaeth ni am ein cydnabod; a'n cyfeillion yn parhau heb pallu.

9. Cariad byth ni chwymp ymmaith 1 Cor. 13.8. am hynny gwybodaeth, y sail o honaw, sydd yn aros yn y bywyd arall.

10. Oblegid y dydd diweddaf y dadcuddir barn gyfion yr Arglwÿdd: pryd y gwobrwyir pob dŷn yn ol

Page 84

ei weithredoedd. Rhuf. 2.5, 16. Ac os eglurir gwei∣thred pôb rhyw ddŷn, hytrach o lawer y dygir y gweithredydd i'r goleuni. Os caiff dynion drygio∣nus oi cyfrif am bôb gair ofer, Math. 12.36. mwy o lawer y cair adnabyddiaeth ar yr ofer siaradwŷr eu hunain. Ac oni adwaenir y dynion, ofer iawn yw cyhoeddi eu gweithredoedd. Am hynny (medd yr Apostol) pob dŷn a ddaw ger bron i roi cyfrif am y weithred a wnaeth ef yn ei gorph, &c. 2 Cor. 5.10. gwelwch Doethineb pen. 5.1. Er i amryw raddau a galwedigaethau, sef swyddogaeth, gweinidogaeth, Teuluyddiaeth ballu: iê fe baid Crist a rheoli fel y mae yn gyfryngwr, ac a reola oll yn oll, fel y mae yn Dduw gogyfuwch a'r Tad, ac a'r Yspryd glân. 1 Cor. 15.24, 28.

Y mae cimmaint o ragor rhwng y gwybodaeth a eill dynion ei gael yn y bŷd hwn, a'r gwybodaeth a gawn ni yn y nefoedd, ac sydd rhwng gwybodaeth plentyn ni fedro mor dywedyd yn groiw, a'r dyf∣cawdwr neu 'r Philosophydd gorau 'n y bŷd. 1 Cor. 13.11.

Y rhai sydd yn sychedu am wybodaeth, byddant hiraethus am fod yn fyfyrwyr o'r ffynnon ddyfnddysc yma.

O blegid yr holl oleuni, trwy 'r hwn yr ŷm yn adnabod dim yn y byd yma, nid yw ddim ond gwir gyscod Duw. Eithr pan fôm ni yn adnabod Duw yn y nefoedd, ni gawn ynddo ef adnabod trefn gwaith y creadigaeth, a dirgeledigaethau gwaith ein pryne∣digaeth: ie ni a gawn gymmaint o wybodaeth am y creaŵdr a'i weithredoedd, ac yw bossibl i greadur ei ddeall, a'i amgyffred. Eithr tra fôm yn y bywyd hwn, nyni a allwn ddywedyd gyd â Job: Mor fy∣chan yw 'r peth yr ydym ni yn ei glywed am dano? Job 26.14. A'n sicrhau ein hunain gyd â mâb Syrac, fod

Page 85

etto bethau mwy na 'r rhain yn guddiedig, ac na welsom ond ychydig o weithredoedd Duw.

2. Hwynt hwy a garant Dduw a chariad tra pherffeithlawn, gymmaint ac a syddo bossibl i grea∣dur allu. Y môdd i garu Duw ydyw, ei garu ef er ei fwyn ei hun: y mesur, yw ei garu ef yn anfesurol. Canys yn y bywyd hwn (wrth adnabod Duw yn vnig o ran) nid ydym yn ei garu ef ond mewn rhan: eithr pan fo yr etholedigion yn y nefoedd, yn cy∣flawn adnabod Duw, yno y byddant yn cyflawn garu Duw. Ac o herwydd yr aneirif achosion o gariad, yr hyn a gânt hwy ei adnabod fod ynddo ef, hwy a fyddant mewn serch anfeidrol iw hoffi ef.

3. Hwy a gant eu llenwi â phôb rhyw lawenydd nefol. Ar dy law ddehau (medd Dafydd) y mae llawenydd yn drag ywyddol, Psal. 16.11. Ie (medd ef) hwynt hwy a gânt eu diodi ag afon hyfrydwch. Psal. 36.8. O blegid cyn gynted ac y caffo yr enaid ei gynnwys i fewn gweithredol feddiant a'r ddedwyddol hanfod Duw: y mae ef yn mwynhau oll ddaioni, howddgarwch, gogoniant, a pherffeithrwydd yr holl greaduriaid (o'r holl fyd) ynghyswllt a'r unwaith gwedi eu goflwyno iddo yn y golugiàd ar Dduw. od yw nêb mewn cariad, yno y caiff fwynhau y peth sydd fwy cariadus; od yw nêb yn ymhoffi mewn glendid, nid yw 'r glendid teccaf ond pridd∣lyd wrth yr hwn sydd yno: yr hwn sy 'n ymhyfry∣du mewu llawenydd, yno y caiff aneirif rywogae∣thau o honaw, heb na gofid iw luddias, na phenyd iw dorri: yr hwn sydd yn caru anrhydedd, yno y caiff ef heb anair cynfigen iw wradwyddo. Yr hwn sydd yn caru trysor: yno y caiff feddiannu yr hwn ni ddygir byth oddiarno. Yno y cânt hwy ddeall∣twriaeth heb anwybodaeth: jechyd heb glofyd, a bywyd, na eill marwolaeth ei derfynu.

Ar un gair, edrychwch pa faint y mae y byd, o

Page 86

herwydd goleuni, difyrrwch a chussur, yn rhagori a'r y grôth gyfyng dywyll, yn yr hon ith cenedlwyd yn blentyn: y cymmaint arall y mae y byd sydd i ddyfod, yn rhagori a'r y byd hwn, mewn llawen∣ydd, ac hyfrydwch dedwyddol. Mor ddedwŷdd fyddwn ni y pryd hynny, pan fo y bywyd hwn gwe∣di ei gyfnewid, a ninnau gwedi ein trosclwyddo i'r fan honno?

4. Hwynt a lenwir â llawenydd anrhaethadwy: yn dy ŵydd di (Medd Dafydd) y mae cyflawnder llawenydd, Psal. 16.11. a'r llawenydd hwnnw, a gyfyd yn benaf oddiwrth weled Duw: ac o weled yr holl Angelion sanctaidd, ac eneidiau bendige∣dig y gwŷr eyfiawn perffaith, y rhai sydd mewn llawenydd, a gogoniant gyd ag ef. Ond yn enwe∣dig o'r golwg hyfryd a'r Jesu Cyfryngwr y Testa∣ment newydd, Heb. 12.24. ein Emmanuel ni, Duw wedi ei wneuthur yn ddŷn, ei weled ef a fydd yn brif achos o'n dedwyddyd ni, a'n gorfoledd. Os darfu i'r Israeliaid yn Jerusalem floeddio o lawenydd hyd oni ddadseiniodd y ddaiar, wrth weled coroni Sa∣lomon; Pa faint a fydd llawenydd yr etholedigion yn y nêf, wrth weled Crist, (y gwir Salomon gwe∣di) ei ymwisco â gogoniant? O darfu i Joan fedy∣ddiwr yn ei ŵydd ef o wir lawenydd neidio yng∣hrôth ei fam, Luc. 1.44. Pa faint y cawn ni ymor∣foleddu mewn hyfrydwch, pan fo ef nid yn unig gyd â nyni, ond ynom ni yn y nefoedd? Os darfu i'r rhai doethion lawenychu cymmaint, pan welsant ef yn faban yn gorwedd yn y preseb: Mat. 2.10. pa orfoledd a fydd i'r etholedigi∣on o'i weled ef yn eistedd yn Frenin yn ei or∣seddfaingc nefol? O bu Simeon hên mor llawen wrth ei weled ef yn blentyn yn y deml yn nwylaw o∣ffeiriad iw gyflwyno i'r Arglwydd, Luc. 2.28. pa faint mwy a fydd ein llawenydd ni, gael ei we∣led

Page 87

ef yn Frenin, yn llywodraethu pob peth a'r dde∣heulaw ei Dâd? O bu Joseph a Mair mor llawen pan gawsant ef ym mhlith yr athrawon yn y deml, Luc. 2.46. pa faint llawenach a fydd ein eneidiau ni pan welom ef yn eistedd yn Arglwydd ym mhlith Angelion nefol. Dymma y llawenydd hwnnw sydd yn eiddo ein Harglwydd ni, Matth. 25.21. yr hwn (fel y dywaid yr Apostol) ni weloddllygad, ni chly∣wodd clust, ac ni eill calon dŷn moi ddirnad; 1 Cor. 2.9. yr hwn o ran na eill mor myned ynom ni, ny∣ni a gawn fyned iddo ef.

5. Yn olaf, hwynt hwy a feddiannant y bendige∣dig a'r gogoneddus gyflwr yma yn dragywydd. Am hynny y gelwir ef y bywyd tragywyddol: ac y mae Crist yn dywedyd: y llawenydd hwnnw ni ddwg neb oddiarnom, Joan. 16, 12. ôb llawenydd arall a dderfydd er maint a fyddo. Gwlêdd Ahasferus a barhâodd gant a phedwar vgain o ddyddian: Esth. 1.4. eithr efe, a'i wlêdd, a'i holl lawenydd aethant heibio. Pe cai ddyn bydol ei gymmeryd i'r go∣gonniant nefol, i gydgymdeithas ag Angelion, iw ddigoni â pbob mâth a'r lawenydd, ac hyfrydwch, (a hynny dros amser) fe fyddai hyn beth mawr genddaw; eithr cael eu meddiannu hwynt yn drag∣wyddol heb drangc na gorphen, pwy a eill wrando hynny, heb ryfeddu! a phwy a eill ei synnied, heb synnu o'i blegid? Holl Seintiau Crist (cyn gynted ac y darfu iddynt wir archwaethu y llawenydd trag∣wyddol hwnnw) oeddynt yn cyfrifholl gyfoeth a di∣grifwch y byd hwn megis yn golled ac yn dom, wrth ei gyffelybu i'r llall, Phil. 3.8. Ac am hynny (trwy ddyfal weddi, ymprydio, eluseni, wylofain, ffydd, a buchedd dda) yr oeddynt hwy yn dyfal gymeryd poen er mwyn eu sicrhâu eu hunain o'r bywyd trag∣wyddol hwn: (Ac o serch iddo fe ddarfu iddynt yn e∣wyllyscar

Page 88

naill a'i gwerthu, a'i rhannu eu holl gyfo, eth bydol au meddi annau Act. 2.45.

Y mae Crist yn galw yr holl Gristianogion yn far∣cl nadwŷr: a bywyd tragwyddol yn faen gwerthfawr, yr hwn y mae y marchnattwr doeth yn ei bwrcasu, iê, pe rhôn a gorfod iddo dalu am dano gwbl oll ac a feddo. Matth. 13.

Pan glybu Alexander fod cyfoeth mawr yngw∣ledydd y dwyrain, yn ebrwydd efe a rannod ei deyr∣nas ei hûn sef Macedonia, rhwng ei gapteinniaid a'i filwŷr: Haephestion a ofynnodd iddo beth oedd ei feddwl wrth wneuthur hynny; Alexander a atte∣bodd, mai mwy oedd genthau am gyfoeth yr India (a'r yr hon yr oedd ef yn gobeithio y cai ar fyrr fod yn berchennog) nac am yr holl deyrnas a adawsai Philip ei dâd iddo ef 〈◊〉〈◊〉 Macedonia. Ac oni ddylai Gristianogion fod yn fwy genthynt am dragwyddol gyfoeth y nêf, sydd mor enwog, (yr hwn a gant ei berchnogi cyn pen hir o ddyddiau) nac am sothach lygredig y ddaiaren lychlyd, yr hwn ni phery ond tros dymmor? Abraham a Sara a adawsant eu gwlâd eu hunain, a'u meddiannau i geisio Dinas, saer ac adeyladydd yr hon yw Duw, Heb. 11.10, 15, 16. Ac am hynny ni phrynasant ddim tir, ond yn vnig lle i gladdu. Y mae Dafydd yn well ganthaw vn dydd yn y lle yma, na mîl mewn lle arall: ie bod yn borthor yn nhŷ Dduw, oedd well ganthaw nac aros mewn gwychion babellau anwiredd, Psal. 84.10. E∣lias a ymbiliodd yn daer a'r Arglwydd, am dderbyn ei enaid iw deyrnas nefol: Ac a aeth yn ewyllyscar, er ei fod yn myned yno mewn cerbyd tanllyd, 2 Bren. 2.15.

Paul (Pan gafodd vnwaith weled y nêf) oedd beunydd yn dymuno ei ddartodiadd i fod gyd â Christ, Phil. 1.23. Peter (pan gafas ef weled llewyrch y gogoniant tragwyddol a'r y mynydd) a ddeisyfodd

Page 89

gael trigo yno holl ddyddiau ei fywyd: gan ddywe∣dyd, O Arglwydd da i ni fod yma, Matth. 17.4. Pa faint well y tybia Petr yr awrhon o'i fod yn y ne∣foedd? Crist (ychydig cyn ei farwolaeth) a weddi∣odd a't ei Dâd am ei dderbyn ef i'r rhagorol ogonni∣ant Joan. 17.5. Ac y mae'r Apostol yn tystiolaethu, mai o herwydd y llawenydd hwn a osodwyd o'i flaen, y dioddefodd ef y groes, ac y dirmygodd gywilydd, Heb. 12, 2. Pe cai ddŷn vnwaith weled yr hy∣frydwch hwnnw, fe a ddioddefai (o bai bossibl) gan marwolaeth er cael meddiannu y dedwyddfyd hwnnw vn diwrnod.

St Awstin a ddywaid y bydddai efe fodlon i odd∣ef poenan vffern, er mwyn ynnill y llawenydd yma, yn gynt nac y collai efe ef.

Ignatius (dîsgybl Paul) pan oeddyd yn ei fyg∣wth ef (ac ynteu yn myned i ddioddef) a chreu∣londeb y poenau, a attebodd trwy fawr ffydd hyde∣rus; tân, crogbrennau, bwystfiloedd, torri fy escyrn, fy nhynnu yn aelodau, llethu fyngorph, holl boenau y cythrauliaid ynghyd, delont arnaf fi, O caf fi fed∣diannu fy Arglwydd Iesu a'i deyrnas. Y cyfryw gefnogrwydd meddwl a ddangosodd Polycarp, yr hwn ni ellid peri iddo wadu Crist yn y dim lleiaf, rhag ofn vn mâth ar farwolaeth.

A'r vnrhyw feddylfryd yr attebodd Basil iw er∣lidwyr, pan geifiasant ei ddychrynu ef a marwolaeth: nid ofnai (eb efe) farwolaeth byth, yr hon ni eill ddim niwaid, ond fy nhrwysclwyddo at yr hwn am gwnaeth. O darfu i Ruth adael ei gwlad a chalyn Naomi ei gwaudd, i fyned ac aros gyd â hi yngw∣lad Canaan, (yr hon nid yw ond portreiad o'r nêf) yn vnig am yr hyn a glywsai hi am Dduw Israel, (er nad oedd iddi hi addewid o gael dim rhan yno) pa fodd y dylit ti ganlyn dy fam sanctaidd yr Eglwys i fyned at Grist i'r nefol a'r tragwyddol Canaan; yn

Page 90

yr hon y rhoes Duw i ti etifeddiaeth tragywyddol, gwe∣di ei sicrhau trwy gyfammod sanctaidd gwneuthure∣dig yn ei air ef, scrifenedig a gwaed ei fab, seliedig ai yspryd, ac a'i sacramentau? hyn yw dy ddedwydd∣wch tragywyddol yn neyrnas nefoedd, lle bydd dy fy∣wyd yn gyfundeb a'r bendigedig Drindod, a'th la∣wenydd yngwydd yr oen, dy swydd canu, dy gerdd Alleluiah, dy gyd gerddorion Seintiau, ac Angelion: lle y mae ieuengtyd yn cynyddu heb heneiddio byth, glendyd yn parhau heb ddiflannu; cariad yn am∣lháu bŷth heb oeri, iechyd heb wanhychu, a by∣wyd yn aros byth heb ddiweddu.

Myfyrdod yn hyfforddi Cristion i gymhwyso atto ei hun yn ddioed y rhagddywededig wybodaeth am Dduw, ac am dano ei hun.

TI a weli gan hynny o ddŷn, mor resynol a mell∣digedig yw dy gyflwr di, trwy lygredigaeth dy natur, heb Grist: yn gymmaint ac y mae y scrythyr∣au yn cyffelybu dynion drygionus i lewod, eirth, teirw, cyffylau, cwn, ar fâth greaduriaid gwlltion yn eu bywyd: a diammau fod cyflwr dŷn diadgenedle∣dig yn ei farwolaeth yn waeth na chî, neu 'r creadur bryntaf yn y bŷd. O blegid yr anifail (yr hwn ni wnaed ond er mwyn dŷn) pan fyddo marw y mae yn diweddu ei holl drueni yn ei farwolaeth. Ond dŷn sy 'n meddu enaid rhesymol, ac anfarwol, gwe∣di ei wneuthur ar lûn Duw, i wasanaethu Duw: pan ddibenno drueni y bywyd hwn, y mae yn rhaid iddo roi cyfrif am ei holl anwiredd; a dechrau goddef y trueni hynny, y rhai ni ddiweddant byth. Nid oes greadur yn y byd ond dŷn yn gorfod iddo roi cy∣frif o'i fuchedd yn ei farwolaeth: nid rhaid i grea∣duriaid anifeilaidd direswm roi cyfrif am eu gwe∣ithredoedd, na'r Angelion da er bod ganddynt re∣swm

Page 91

roi cyfrif chwaith, am nad oes ynddynt ddim pechod. Ac am yr angelion drwg, y maent hwy heb obaith, gwedi eu heuogfarnu yn barod: fel nad rhaid iddynt hwy wneuthur cyfrif ym mhellach. Dŷn yn vnig yn ei farwolaeth sydd i roi cyfrif ger bron Duw am ei fywyd.

Or tû arall yr wyt yn gweled (o ddŷn) mor ddedwyddol a bendigedig yw dy gyflwr gwedi dy wir gymmodi â Duw yn Ghrist, yn hyn o beth dy fod yn cael ail dderbyn llûn delw Dduw, ac adferi∣ad o'th lywodraeth ar yr holl greaduriaid, nid wyt ti ond ychydig is na'r Angelion yn y byd hwn, a gogy∣fuwch a'r Angelion yn y byd a ddaw; ie o herwydd dy natur wedi ei derchafu trwy bersonol vndeb a Mâb Duw, a thrwyddo ef a gogonniant y Drindod, goruwch Angelion: cyfeill-frawd Angelion mewn grâs ysprydol, a gogonniant tragwyddol. Dy di a welaist mor ogoneddus a pherffaith ydyw Duw, a bod dy brif lawenydd a'th ddedwyddwch yn sefyll ar gaffael tragywyddol gymmundeb a'i Fawrhy∣di ef.

Yr awrhon (gan hynny) o bechadur anedifeiriol, yn ymyscaroedd Jesu Grist, yr wyf yn deisyf ar∣nat; ie ac yn dy dynghedu fal yr wyt yn caru dy iechydwriaeth dy hûn, yn ddifrifol i ystyried gyd â myfi, mor gau, mor ofer; ac mor wael, yw 'r holl bethau, sydd yn dy attal, a'th rhwydo yn y gresy∣nol a'r melldigedig gyflwr yma, yn yr hwn yr wyt yn byw, ac sydd yn dy rwystro i gael ffafr Duw, a gobaith o dragywyddol fywyd a dedwyddwch.

Notes

Do you have questions about this content? Need to report a problem? Please contact us.