Yr ymarfer o dduvvioldeb: yn cyfarvvyddo dŷn i rodio fal y rhyngo ef Fodd Duw. Yr hwn lyfe â osodwyd allan yn saeson-sec o wraith y gwir barchedig dâd Lewis Escomb Bangor, ac a gyfieithwyd yn gamber-aec o waith Row. Vaughan o gaergai o sîr feirion wr bonheddig.

About this Item

Title
Yr ymarfer o dduvvioldeb: yn cyfarvvyddo dŷn i rodio fal y rhyngo ef Fodd Duw. Yr hwn lyfe â osodwyd allan yn saeson-sec o wraith y gwir barchedig dâd Lewis Escomb Bangor, ac a gyfieithwyd yn gamber-aec o waith Row. Vaughan o gaergai o sîr feirion wr bonheddig.
Author
Bayly, Lewis, d. 1631.
Publication
Printiedig yn Llundain :: gan Tho. Dawks,
1675.
Rights/Permissions

This keyboarded and encoded edition of the work described above is co-owned by the institutions providing financial support to the Early English Books Online Text Creation Partnership. Searching, reading, printing, or downloading EEBO-TCP texts is reserved for the authorized users of these project partner institutions. Permission must be granted for subsequent distribution, in print or electronically, of this text, in whole or in part. Please contact project staff at eebotcp-info@umich.edu for further further information or permissions.

Subject terms
Piety
Christian life -- Anglican authors
Puritans
Cite this Item
"Yr ymarfer o dduvvioldeb: yn cyfarvvyddo dŷn i rodio fal y rhyngo ef Fodd Duw. Yr hwn lyfe â osodwyd allan yn saeson-sec o wraith y gwir barchedig dâd Lewis Escomb Bangor, ac a gyfieithwyd yn gamber-aec o waith Row. Vaughan o gaergai o sîr feirion wr bonheddig." In the digital collection Early English Books Online 2. https://name.umdl.umich.edu/A76257.0001.001. University of Michigan Library Digital Collections. Accessed May 6, 2024.

Pages

Page 1

YR YMARFER O DDUWIOLDEB: Yn cyfarwyddo dŷn i ryngu bôdd Duw.

PWy bynnac wyt sydd yn edrych yn y llyfr hwn, na chymmer arnat fyth ei ddarllen, onid ymroi o'th galon i fôdyn ddi∣frifol arferwr o dduwioldeb. Etto darllen ef, a hynny yn fuan, rhag cyn i ti ei ddarllen trosto, i Dduw (trwy ryw far∣wolaeth ddisymmwth) dy dor∣ri di ymmaith am dy hên annuwioldeb cynefin.

Oddieithr i ddŷn wir adnabod Duw, ni ddichon, ac ni chais moi iawn wasanaethu ef. Canys pa fôdd y dichon dŷn garu yr hwn nid edwyn? A phwy â an∣rhydedda yr hwn y mae yn tybied nad rhaid iddo wrth ei gymmorth? a pha fôdd y cais neb gyn∣norhwy Duw drwy râs, yr hwn erioed nid adnabu ei drueni ei hûn o naturiaeth? Am hyn y dywed yr A∣postol Heb. 11.6. rhaid yw i'r neb sydd yn dyfod at Dduw gredu ei fod ef, a'i fod yn obrwywr i'r rhai sy 'n ei geisio ef. Ac yn gymmaint ac na ddichon bôd dim gwir dduwioldeb, heb wybodaeth o Dduw: na dim ymarfer o jawn wybodaeth gan ddŷn, heb ei adna∣bod ei hûn: Nyni gan hynny â osodwn i lawr wyboda∣eth am fawrhydi Duw, a thrueni dŷn, megis yn syl∣feini isaf ac angenrheidiaf o Ymarfer duwioldeb.

Page 2

AGWEDDIAD EGLUR O sylwedd a phriodoliaethau Duw, allan o'r scrythur lân, cyn belled ac y mae yn addas i bob Christion ei wybod: ac yn angenrhaid ei gredu i'r nêb a fynno fôd yn gadwedig.

ER na ddichon vn creadur hysbysu pa beth yw Duw, o herwydd diamgystred yw, yn trigo yn y goleuni yr hwn ni ellir dyfod atto: etto fe ryngodd bôdd iw fawrhydi ef ei ddadcuddio ei hùn i ni yn ei air cyn belled ag y gallo ein dealtwriaeth wan ei ddirnad yn orau, fal hyn:

Duw yw'r un ysprydol, ac anherfynol berffaith syl∣wedd, yr hwn sydd ai hanfod o honaw ei hûn yn drag∣wyddol. Yn y Sylwedd Dduwiol yr ydym i ystyried dau beth.

  • 1. Yr amryw ddull ar hanfod ynddo.
  • 2. Ei briodoliaethau.

Yr amryw ddull ar hanfod yn y Duwdod â elwir persônau. Person yw sylwedd wahanol y Duw∣dod.

Yn y Duwdod y mae tri pherson:

  • Y Tad,
  • Y Máb,
  • Yr Yspryd glán.

Page 3

Y tri phersônau hyn nid ydynt dri o sylweddau didolaidd, eithr tri hanfod gwahanredol, neu dri amryw ddull ar handfod o vn ac vnrhyw sylwedd y Duwdod: Ac felly person yn y Duwdod, yw deall an∣wahanedig, a hanfod anghyfrannol, yn byw o honaw ei hûn, ac heb ei gynnal gan arall.

Yn vndeb y duwdod y mae lluosogedd, yr hwn nid yw ddamweiniol, (canys y mae Duw yn waith pur, ac ni chynnwys atto ddim damweiniau) na sylweddol, (canys Duw un sylwedd yw yn vnig) eithr personol.

Y persônau yn yr vn sylwedd hon nid ydynt ond tri: yn y dirgelwch hwn y mae alius & alius, arall, ac arall, eithr nid aliud & aliud, peth arall a pheth arall.

Sylwedd y Duwdod ynddo ei hûn, ni wahenir, ac ni wahanredir, eithr y tri phersônau yn sylwedd y Duw∣dodd a wahanredir yn eu plith eu hunain mewn tair ffordd.

  • 1. Wrth eu henwau.
  • 2. Wrth eu trefn.
  • 3. Wrth eu gweithrediadau.
1. Wrth eu henwau mal hyn.

Y Person cyntaf a elwir y Tád; yn gyntaf, o her∣wydd ei Fáb naturiol Crist: yn ail, o herwydd yr etholedigion ei blant o fab-wysiad, sef y rhai nid ydynt ei blant ef o naturiaeth, eithr a wnaed yn blant iddo o rás.

Yr ail Person, a elwir y Mâb, o herwydd ei gen∣hedlu ef o sylwedd a naturiaeth ei Dád, ac efe a el∣wir y Gair: i, o herwydd mai cenedliad gair ym med∣dwl dyn yw'r peth nessaf a ddichon mewn rhyw fôdd

Page 4

ddangos i ni gyffelybrwydd o'r agwedd y cenhedlwyd ef er tragwyddoldeb o sylwedd ei Dád: ac o herwydd hyn hefyd y gelwir ef Doethineb ei Dad, Dihar. 8.12.2, O herwydd mai trwyddo ef yr hyspysodd y Tâd o'r dechreuad ei ewyllys am ein iechydwriaeth ni: o hyn y gelwir ef logos quasi legôn, y person yn lle∣faru wrth, neu trwy y Tâdau. O herwyd mai efe yw prif-destyn holl air Duw, neu'r Gair hwnnw am yr hwn y llefarodd Duw, pan addawodd yr hâd bendige∣dig i'r tadau tan yr hên Destament.

Y trydydd person a elwir yr Yspryd Glân: yn gy∣ntaf, am ei fod yn ysprydol heb gorph: yn ail, o herwydd ei chwthu, ac megis ei anadlu oddiwrth y Tad a'r mâb, sef yn deilliaw oddiwrthynt ill dau. Ac efe a elwir yn sanctaidd, yn gy∣stal o herwydd ei fod yn sanctaidd yn ei naturaieth ei hûn, ac hefyd yn ddigyfrwng san∣cteiddydd holl etholedig bobl Dduw.

2. Wrth eu trefn mal hyn.

PErsônau y Duwdod ydynt naill ai'r Tâd, neu yr rhai ydynt o'r Tàd. Y Tâd yw'r person cyntaf yn y gogoneddus Drindod, heb dderbyn na'i sylwedd na'i ddechreuad gan neb arall, eithr ganddo ei hun, yn cynhedlu ei Fâb, ac ynghŷd gyd a'i Fâb, yn anfon ei Yspryd glân er tragwyddoldeb.

Y persônau y rhai ydynt o'r Tâd yw, y rhai o her∣wydd eu personol hanfod sy ganddynt holl sylwedd y Duwdod er tragwyddoldeb, wedi ei gyfrannu id∣dynt oddiwrth y Tád. A rhai hynny ydynt naill a'i oddiwrth y Tâd yn vnig, megis y Mab: neu oddiwrth y Tad a'r Mâb megis yr Yspryd Glân.

Y Mab yw'r ail Person o'r Drindod ogoneddus. Ac ynig genedledig Fâb ei Dâd, nid o rás, ond o naturia∣oth; yn cael ei hanfod o'r Tad yn vnig, a holl hanfod

Page 5

ei Dâd trwy genedliad tragwyddol ac ammessuredig, ac ynghŷd a'r Tad yn anfon yr Ysprydd glân. O her∣wydd eisylwedd berffeith-gwbl, o honaw ei hûn y mae: eithr o herwydd ei berson, o'i Dâd y mae, drwy gen∣edliad tragwyddol. Canys nid yw y sylwedd yn cenedlu sylwedd, eithr person y Tâd sydd yn cenedlu person y Mâb, ac felly y mae ef yn Dduw o Dduw, yn cael oddiwrth ei Dad ddechreuad ei Berson, a'i Dre∣fn, eithr nid dechreuad ei sylwedd a'i amser.

Yr Yspryd Glân ydyw y trydydd Person o'r Drind∣od fendigedig, yn deilliaw a chwedi ei anfon yn gystal oddiwrth y Tàd ar Mâb, drwy dragwyddol ac anfe∣surol ysprydoliaeth. Canys fel y mae'r Mab yn der∣byn oll sylwedd y Duwdod drwy Genedliad, felly y mae'r Yspryd Glân, yn ei dderbyn yn gyfan trwy ysp∣rydoliaeth.

Y drefn hon rhwng y tri pherson a ymddengys yn hyn: sef fôd y Tâd yr hwn sydd yn cenhedlu, o flaen y Mab yr hwn a genhedlwyd; a'r Tâd a'r Mâb o fla∣en yr Yspryd glan, yr hwn sydd yn deilliaw oddiwrth y ddau.

Y drefn hon a wasanaetha i ni i osod allan ddau beth: yn gyntaf, y dull pa wêdd y mae y Drindod yn gweithio yn eu gweithrediadau oddiallan: me∣gis bòd y Tad yn gweithio o honaw ei hûn drwy 'r Máb a'r Yspryd glân; y Mab oddiwrth y Tad a thrwy'r Yspryd glan; yr Yspryd glan oddiwrth y Tad ar Mab. Yn ail, i neillduo y dechreuad digyfrwng cyntaf, oddiwrth yr hwn y mae y gweithrediadau cy∣ffredin hynny oddaillan yn tarddu. Oddiymma y deil∣liaw, yn gymmaint ac y mae y Tâd yn flynnon a gwr∣eiddyn y Drindod, a dechreuad pob gweithrediad od∣diallan: enw Duw mewn perthynas, a'r cyfenw cre∣aŵdr yn y Credo, a roddir mewn môdd hynodol i'r Tâd: ein prynedigaeth i'r Mab: a'n sancteiddiad i Ber∣son

Page 6

yr Yspryd Glán, megis gweithredyddion digyfr∣wng or gorchwyliau hynny. A hyn hefyd yw'r achos y mae'r Mâb fel y mae'n gyfryngwr yn rhoi pob peth ar law ei Dad: ac nid ar yr Yspryd glân; a bôd yr scrythur yn dywedyd cyn fynyched ein bod ni wedi ein cymmodi a'r Tâd.

Oni bae'r drefn oruchel hon, neu'r Deuluaeth, nid oes na chyntaf na diwaethaf, nac vwch nac îs ym mhlith y tri phersônau, canys o ran naturiaeth cyd∣handfod y maent, o ran braint go-gyfuwch ydynt, ac o ran amser go-gyd-tragwyddol.

Holl sylwedd y Duwdod sydd ym mhob vn o'r tri pherson; eithr a gnawdiwyd yn vnig yn yr ail Person, sef y Gair, ac nid ym mherson y Tád na'r Ysprd glan o herwydd tri rheswm.

1. Fel y gallai Dduw Tâd yn hytrach egluro faint yw ei gariad tu ac at ddynol ryw; yn rhoddi ei vnig∣anedig Fáb i gymmeryd cnawd arno, ac i ddioddef marwolaeth er mwyn iechydwriaeth dyn.

2. Fel y gallai ef yr hwn yn ei Dduwdod oedd yn Fâb i Dduw, fod hefyd yn ei ddyndod yn Fâb dyn: rhag ir enw Mab fyned i arall, yr hwn wrth ei dragwyddol enedigaeth nid ydoedd y Mâb.

3. O herwydd mai gweddeiddiaf oedd i'r Person hwnnw, yr hwn yw sylwedd, a gwir ddelw-lun ei dragwyddol Dad, edfrydu ynom ysprydol ddelw Dduw, yr hon a gollasem.

Yn y cnawdoliaeth, ni throed mor Duwdod yn ddyndod, na'r dyndod yn dduwdod, eithr y Duwdod mal y mae yn ail Person, neu'r Gair, a gymmerodd arno y dyndod, sef cwbl o naturiaeth dyn, corph ac enaid, a'i briodoliaethau naturiol a'i wendid perthy∣nasol, ond pechod yn vnig.

Yr ail Person ni chymmerodd arno Berson dyn, ond naturiaeth dyn. Felly nid oes gan y naturiaeth

Page 7

ddynol mo'r hanfod personol o'r eiddo ei hûn, (canys felly y byddei dau Berson yn Ghrist) eithr hanfod y mae efe yn y Gair, yr ail Person. Canys megis na wna enaid a chorph, ond vn person dyn: felly Duwdod a dyndod, ni wna ond vn Person Crist.

Dau naturiaeth y Duwdod a'r dyndod ydynt mor ddiymmod wedi eu cysylltu ynghŷd drwy bersônol vndeb, mal megis na ellir byth eu gwahanu or neulltu, felly ni chymysgir hwynt; eithr parhau y maent byth yn wahanredol wrth eu amryw sylweddol brio∣doliaethau, y rhai oedd ganddynt cyn eu cyd-gyssy∣lltu. Megis wrth ensampl; Anherfynoldeb y Duwiol anian ni chyfrennir ir dynol anian, na therfynoldeb y dynol i'r Duwiol.

Etto o herwydd yr vndeb personol hwn, y mae y fâth gyfundeb priodoliaethau yn y ddau natu∣riaeth, fal y mae yr hyn sydd briodol i'r naill, weithiau hefyd iw briodoli i'r llall. Megis pwrcâsu o Dduw yr eglwys ai briod waed; ac y barna ef y bŷd drwy y Gŵr yr hwn a ordeiniodd efe. Act. 20.28. ac 17.31. O hyn y canlyn, er bod dynolryw Crist yn greuedig, ac am hynny yn derfynol, ac yn gynhwysedig anian, ac na ddichon fod yn bresennol ym mhôb man, drwy osodiad gweithredol, neu gynhwysiad cyfleus yn ol ei hanfod naturiol: etto o herwydd bôd ganddo wedi ei gyfrannu atto Ber∣sonol hanfod Mâb Dvw, yr hwn sydd anfeidrol ac an∣herfynedig; a chwedi ei vno a Duw yn y cyfryw fôdd, ac na ellir yn vnlle byth ei wahanu oddiwrth Dduw, am hynny y gellir dywedyd am gorph Crist ei fôd o herwydd ei bersonol hanfod ym mhôb lle.

Page 8

3. Y gweithrediadau drwy'r rhai y gwahanredir y tri Pherson.

Y Gweithrediadau ydynt o ddau fàth, naill ai od∣diallan: a'r rheini ydynt mewn rhyw fôdd gyf∣fredinol i bob vn o'r tri phersônau: ai oddimewn ynghylch y persônau yn eu plith eu hunain, a'r rheini ydynt hollawl yn anghyfunol.

Gweithrediadau cyfunol y tri pherson oddiallan ydynt y rhai hyn.

Creadigaeth y byd yn perthyn yn neulltuol i Dduw Tad: Prynedigaeth yr Eglwys i Dduw 'r Mab: a Sancteiddiad yr etholedigion i Dduw yr Yspryd Glân. Eithr o ran i'r Tad greu, a'i fod rhagllaw yn llywod∣raethu 'r byd drwy'r Mab, yn yr Yspryd Glan, am hynny y gweithrediadau hyn oddiallan yn gyffredin yn yr Scrythyrau, a gyfrifir weithiau i bob vn o'r tri pherson, ac am hynny a elwir cyfrannogawl a gwa∣hanol.

Y Gweithrediadau anghyfrannol, neu briodoliae∣thau y tri pherson oddimewn ydynt y rhai hyn: sef, 1. Cenedlu, a hynny a berthyn yn vnig i'r Tad, yr hwn ni wnaethpwyd, ni chreuwyd, ac ni chenedlwyd gan arall.

2. Bod yn genedledig: a hynny a berthyn yn vnig ir Máb, yr hwn sydd o'r Tad yn vnig, heb ei wneuthu r na'i greu eithr wedi ei genedlu.

3. Deilliaw oddiwrth y ddau: a hynny a berthyn yn vnig i'r Yspryd glán, yr hwn sydd oddiwrth y Tád, a'r Máb, heb ei wneuthur, na'i greu, na'i genedlu, eithr yn deilliaw.

Felly pan ddywedom fod sylwedd y Duwdod yn y Tád yn ddigenedledig, yn y Máb yn genedledig,

Page 9

ac yn yr Yspryd Glán yn deilliaw: Nid ydym yn gwneuthur tri sylwedd, eithr yn vnig yn dangos amryw ddull ár hanfod, drwy 'r hwn y mae'r vn∣rhyw sylwedd digymmysg, digenedledig, dragwyddol. Yn bod ym mhob vn or tri pherson: sef, hyn nid yw yn y Tâd drwy genedliad, hynny sydd yn y Mâb wedi ei gyfrannu oddiwrth y Tâd drwy genedliad: ac yn yr Yspryd glán wedi ei gyfrannu oddiwrth y Tâd a'r Mâb drwy ddeilliaw.

Y Rhai hyn ydynt weithrediadau angyfunol, ac a wnant neulltuaeth, nid sylweddol, damweiniol, neu resymmol, ond vnion fodol wahanre∣diad rhwng y tri pherson. Felly megis yr hwn sydd Dâd yn y Drindod nid yw yn Fáb: yr hwn sydd Fàb yn y Drindod nid yw yn Dâd: yr hwn yw'r Yspryd glán yn y Drindod, nid yw na'r Tád na'r Mab, ond yr Yspryd yn deilliaw oddiwrth y ddau; er nad oes ond vn ac unrhyw sylwedd yn gyffredin iddynt ill trioedd.

Megis gan hynny yr ydym yn credu fod y Tâd yn Dduw, y Mab yn Dduw, ar Yspryd glân yn Dduw: felly credu yr ydym hefyd, mai Duw yw'r Tâd, Duw yw'r Mâb, a Duw yw'r Yspryd glân. Eithr o herwydd y gwahanrediad bodol hwn, person y naill nid yw, ac ni ddichon byth fod yn berson y llall. Gan hynny tri pherson y Duwdod nid oes mo honynt yn wahanol oddiwrth y sylwedd, eithr mewn môdd: ond yn fodol y mae rhagoriaeth rhyngddynt, ac fe ai gwahanredir o herwydd eu priodoliaeth personol. Megis y Tâd Duw ydyw, yn cenedlu Duw'r Mâb; y Màb Duw ydyw, cenedledig gan Dduw'r Tád; ar Yspryd glan Duw ydyw yn deilliaw oddiwrth y ddau, sef Duw'r Tàd a Duw'r Mâb. O hyn y digwydd fod yr Scrythyrau yn arfer o enw Duw, mewn dwy ffordd, vn ai sylweddol, ac yno yn arwyddocau y tri pherson

Page 10

go-gyd a'i gilydd, ai personol, ac yno drwy gyfranddwyn nid yw yn arwyd∣docau ond vn or tri pherson yn y Duwdod. Megis y Tâd, 1. Tim. 2.5. neu'r Mâb, Act. 20 28. 1 Tim. 3.16. neu'r Yspryd glân: Act. 5, 4. 2. Cor. 6.16.

Ac o herwydd nad yw sylwedd y Duwdod (cyffred∣in i'r holl dri phersônau) ond vn, hwnnw a alwn ni Vndod. Eithr o herwydd bod tri pherson gwahanredol yn yr vn sylwedd diwahanedig hwn, nyni a alwn hwnnw y Drindod. Yn gymmaint a bôd yr Vndod hwn yn y Drindod, a'r Drindod yn yr vndod, yn ddirgelwch sanctaidd: mae yn hytrach iw addoli yn grefyddol drwy ffydd, nag iw chwilio allan yn rhy fanwl drwy reswm, ymmhellach nag y dadcud diodd Duw yn ei air.

Hyd yn hyn y dangoswyd yr amryw ddull ar hanfod yn sylwedd y Duwdod, bellach am ei briodolia∣ethau.

PRiodoliaethau ydynt fâth ar ddarluniadau o sylwedd y Duwdod, â adroddir yngair Duw, yn ôl gwendid ein dealltwriaeth ni, er mwyn ein cym∣morth i ddeall yn haws naturiaeth sylwedd Duw, ac iw ddirnad oddiwrth bôb sylweddau eraill.

Priodoliaethau Duw ydynt o ddau fáth, vn ai galwedigol, ai hanfodol.

Y priodoliaethau galwedigol ydynt o dri máth: 1. y rhai â arwyddocânt sylwedd Duw: 2. y Persônau yn y Sylwedd. 3. y rhai a arwyddocânt ei weithredoedd sylweddol ef.

Un or mâth cyntaf ydyw yr enw Jehovah, neu yn hytrach Jehueh, yr hwn sydd yn arwyddocau hanfod tragwyddol o honaw ei hun, yn yr hwn sydd heb

Page 11

ddechreu na diwedd, y mae pethau eraill oll yn de∣chreu ac yn diwedd, Esa. 42.8. Psal. 83.18.

Duw a ddywed wrth Moeses Exod. 6.3. Nad adnabnwyd ef gan Abraham, Isaac, a Jacob wrth ei enw Jehovah, (nid o ran nad adwaenent mai enw Duw oedd hwn, canys hwn a arferent yn eu holl Weddiau) ond o ran na chawsent hwy fyw i weled Duw yn cyflawni mewn gweithred yr hyn â addawasai iddynt, sef gwaredu yn rasusol eu hâd hwynt allan o'r Aipht, a rhoi iddynt wir feddiant yngwlâd Canaan. Ac felly nid bod yn vnig yn Dduw Ollalluog, gwneu∣thurwr pôb dim, eithr hefyd yn cyslawni mewn gweithred i'r plant, yr hyn â addawasei yn ei air iw tâdau, yr hyn beth y mae'r enw hwn Jehovah yn enwedig yn ei arwyddocau. Ac o'r achos yma, y mae Moses yn ei alw ef Jehovah yn y cyntaf, Pryd yr oedd yr holl greadwriaeth wedi ei gwbl orphen, Gen. 2.4. A'r enw rhyfeddol hwn, â argrephir ar dalcen y dêg gorchymmyn, yr hwn a adroddwyd ar ymwared yr Israeliaid, i fod yn rheol cyfiawnder, yn ôl yr hyn y dylent wasanaethu eu Gwaredydd yn nhir yr Addewid.

Yr enw hwn sydd mor llawn o ddirgelwch Yspry∣dol, hyd onid yw yr Iddewon yn dal fod ei adrodd yn bechod; eithr onid yw bechod ei scrifennu, pa ham y byddei yn anghyfreithlon ei adrodd?

Yr enw sanctaidd hwn ar Dduw a'n dysc ni:

1. Yn gyntaf, beth yw Duw, sef hanfod dragwyddol o honaw ei hun.

2. Yn ail, pa beth yw efe i eraill; oblegid oddiwrtho ef y mae yr holl greaduriaid eraill wedi derbyn ei hanfod.

3. Yn drydydd, fel y gallom ni yn hydda goelio ei addewidion: canys ef a gyfenwir Jehovah, nid yn vig o herwydd ei hanfod, ac am beri i bôb i bôb peth fod, Eithr yn enwedig o herwydd ei addawidion gra∣susol

Page 12

y rhai yn ddiammau a gyflawna ef yn ei amser gosodedig; ac felly a bair i hynny fod, yr hyn nid ydoedd o'r blaen. Felly yr enw hwn sydd yn wystl euraid i ni, a'r gael o honom faddeuant on pechôdau mal yr addawodd, ar ein hedifeirwch: A derbyn ein eneidiau ar ddydd marwolaeth, ac yn yr adgyfodiad cyfodi ein cyrph mewn gogoniant i fywyd trag∣wyddol. Jsa. 55.7. Joan. 11, 15.

Yr ail enw yn hynodi sylwedd Duw yw Eheieh; ni ddarllennir ond vnwaith, Exod. 3.14. o'rvn gwreiddyn ac yw Jehovah; yn arwyddocau ydwyf, neu mi fyddaf: canys pan ofynnod Moeses i Dduw, wrth ba enw y galwai efe ef,

Yno Duw ai cyfenwod ei hûn, Eheieh Ascher Eheieh: ydwyf yr hyn ydwyf: neu mi fyddaf yr hyn a fyddaf: gan arwyddocau ei fod ef yn hanfod tragwyddol, ac anghyfnewidiol: oblegid gan weled fod pob creadur yn amserol, ac yn gyfnewidiol ni ddichon nebryw greadur ddywedyd, ero qui ero: byddaf yr hyn fyddaf. Yr enw hwn yn y Testament newydd, a roddir i'n Harglwydd Crist, lle gelwir ef Alpha ac Omega, y dechreu a'r diwedd, yr hwn sydd, yr hwn a fu, a'r hwn sydd a'r ddyfod, yr hollalluog Datc. r. 8. Canys yr holl amser â aeth heibio, ac a ddaw, sydd beunydd yn bresennol o flaen Duw. Ac at yr enw hwn y mae Christ ei hun yn bwrw amnaid, Joa 8.58. Cyn bod Abraham yr wyf fi. Yr enw hwn hesyd a ddylei ddyscu i ni, ddal ein creadwriaeth cyntaf i'n côf bob amser, a'n llygredi∣gaeth presennol, a'n gogoneddiad sy' ar ddyfod: Ac nid ymfodloni ein hunain, âg mi fûm dda, neu mi fyddaf dda, eithr bod yn dda yn yr amser pre∣sennol; fel pa bryd bynnac y danfono Duw am danom, i'n caffo wedi ymbaratoi iddo.

Y trydydd enw yw Iah, yr hwn megis y mae yn

Page 13

dyfod or vn gwreiddyn, felly nid yw ond crynhoad o Jehovah, ac yn arwyddocau Arglwydd, o her∣wydd efe yw dechreuad, a hanfod pob hanfod. Enw ydyw a roddir fynychaf i Dduw pan ddigwyddo rhyw ymwared nodedig, neu leshâd, yn ol ei addewid ef o'r blaen: Ac am hynny y gorchymynnir i'r holl greaduriaid yn y nefoedd, ac ar y ddaiar glodfori, ac anrhydeddu Duw yn yr enw hwn Iah. Psal. 68.4.

Y pedwerydd yw Curios Arglwydd, yr hwn yn fynych a arferir yn y Testament newydd. Canys cúreo neu curô a arwyddoca ydwyf: felly 〈 in non-Latin alphabet 〉〈 in non-Latin alphabet 〉 a arwyddocâ yr hanfod gyntaf o rywbeth, neu awdurdod. Pryd y rhoddir yn bendant i Dduw y mae'n cyfatteb ir enw Heber-aec Jehovah, ac felly gwedi ei gyfieithu gan y dêg a thrigain cyfieithwyr. Canys Duw sydd felly yn Arglwydd, ac o honaw ei hun yn Arglwydd ar y cwbl. Yr enw hwn a ddylei ddwyn ar gôf i ni beunydd, vfyddhau iw orchymynnion ef, ac ymddarostwng iw ewyllys bendigedig, a'i ar∣faeth: gan ddywedyd gyd a'g Eli, yr Arglwydd yw efe; gwnaed a fyddo da yn ei olwg ef. 1 Sam. 3.18.

Y Bummed yw, Theos Duw, wedi ei arferu chwe∣chant o weithiau yn y Testament newydd: a chan scrifennyddion halogedig yn sathredig. Yr enw hwn a dyfodd 〈 in non-Latin alphabet 〉〈 in non-Latin alphabet 〉, o herwydd ei fod yn rhedeg trŵodd, ac yn amgylchu pob peth, neu 〈 in non-Latin alphabet 〉〈 in non-Latin alphabet 〉, yr hyn sydd yn arwyddocau llosgi neu gynneu: Canys goleuni yw Duw, ac awdur gwres, goleuni, a bywyd, yn y creaduriaid oll? naill ai'n ddigyfrwng o honaw ei hûn, neu yn gyfryn∣gol trwy ail achosion. Yr enw hwn a arferir naill ai'n amhriodol ai'n briodol. Amhrio∣dol, pan roddir ef, naill ai trwy ddull i lywodraethwyr, neu ar gam i culun∣nod.

Page 14

Eithr pan gymmerir yr enw hwn yn briodol, ac yn ddidueddol, y mae yn arwyddocau tragwyddol sylwedd Duw, yr hwn sydd goruwch pôb peth, a thrwy bôb peth: yn rhoddi bywyd a goleuni i'r creaduriaid oll, ac yn eu cynnal, a'i llywodraethu yn eu hagwedd a'i trefn ryfeddol. Duw sydd yn canfod pawb, ym mhôb lleoedd. Edrychwn gan hynny ym mhôb man pa beth a wnelom yn ei olwg ef.

Hyd yn hyn, am yr enwau sy'n arwyddocau hanfod Duw.

YR enw yn arwyddocau y personau yn yr han∣fod, yn bennaf yw vn, sef Elohim.

Elohim sy'n arwyddocau y Barnwyr cedeyrn: enw o'r rhif lluosog ydyw, i hyspysu Trindod persônau yn vndod sylwedd. Ac er mwyn hyn, y mae'r Y spryd glân yn dechreu y Bibl cyssegrlan a'r enw lluosog hwn ar Dduw, wedi ei gysylltu â Gair or rhif vnig: sef Elohim Bara dij creavit, y Duwiau cedyrn, neu yr holl dri phersonau yn y Duwdod a gre∣awdd: yr Iuddewon hefyd a ddaliant sulw ar y Gair bara, ei fôd o dair llythyren yn hynodi dirgelwch y Drin∣dod, wrth Beth Ben y Mab; wrth Resh Ruach, yr Yspryd; wrth Aleph, Ab, y Tad. Eithr y dirgelwch sanctaidd hwn a ddysciryn eglurach gen Moeses, Gen. 3.22. Ac Jehovah Elohim a ddywedodd: wele y dŷn a aeth megis vn o honom ni, Ac Gen. 19.24, Jehovah a lawiodd ar Sodom a Gomorha frwmstan a thân oddiwrth Jeho∣vah or nefoedd: hynny yw, Duw y Mâb oddiwrth Dduw y Tâd, yr hwn a roddes bôb barn ir Mâb, Joa. 5.22. edrych Psal, 33.6. Esay 63.9, 10. Y rhif

Page 15

vnig o Elohim yw Eloah, yn dyfod o Alah, efe a dyngodd, o herwydd ymmhób achos mawr lle byddo yn angenrhaid olrhen y gwirionedd, ni ddylem dyngu yn vnig i enw Duw, yr hwn yw y Barnwr mawr cyfiawn yn y nefoedd, ac ar y ddaiar.

Yr enw hwn Eloah, nid arferir, ond yn anfynych megis yn Abac. 3.3. Iob. 4.9. Job. 12.4. ac yn 15 8.36, 2. Psal. 18.32. Psal. 114.7. Vnwaith y mae ganddo enw lluosog wedi ei gyssylltu atto, Iob 35.10. Ond ni ddywed neb pa le y mae Eloah Gosai, yr holl alluog yr hwn am gwnaeth? I ddangos dirgelwch y tragwyddol Drindod. Hefyd yn fynych fe a osodir Elohim y rhif lluósog ynghyd a gair lluosog er mwyn hyspysu y dirgelwch yn ddirfing ach, Gen. 35.7.2. Sam. 7.23. Josu. 24.19. Ier. 10.10. Elohim hefyd, mewn troell ymadrodd a roir yn enw i lywo∣draethwyr, o herwydd ail-lywyddion Duw ydynt; megis i Moeses Exod. 7.1. Iehovah a ddywedodd wrth Moses, Gwêl mi a'th wneuthym yn Dduw i Pharaoh. Sef, mi a'th osodais di yn gennad i arddangos dy fod yn lle yr vn Duw-tri, ac i fynegi ei gennadwri ai ewyllys ef i Pharaoh. Cyn fynyched gan hynny ac y darllenom neu y clywom yr enw hwn Elohim, ni a ddylem feddwl ystyried fod Duwdod y tri pherson gwahanredol yn vnsylwedd, a bôd Duw yn Iehovah Elohim.

Page 16

Bellach y canlyn yr enwau, a arwyddocânt sylweddol weithredoedd Duw, y rhai ydynt y pump hyn yn enwedig.

1. EL, yr hyn sydd gymmaint ac y Duw cadarn, ac a'n dysc fod Duw, nid yn vnig yn gadar∣naf, yn wir gadernid ei hun, oi sylwedd ei hunan; eithr mai efe hefyd, yw'r hwn sydd yn rhoddi pob nerth a gallu ir holl greaduriaid. Am hynny y gelwir Crist Isay 9.6. El Gibbor, y Duw cadarn, nag ofned plant Duw gryfder gelynion, canys El ein Duw ni sydd gryfach na hwynt.

2. Shaddai, hynny yw, Oll-alluog: wrth yr enw hwn yr arferai Dduw ei henwi ei hun wrth y Patri∣eirch, myfi wyf El Shaddai, sef y Duw cadarn Ollalluog. O blegid ei fod yn gwbl alluog i ymddiffyn ei weision oddiwrth bob drŵg: iw bendithio a phôb doniau ysprydol, ac amserol: ac i gyflawni ei adde∣widion oll, y rhai a wnaeth ef iddynt, am y bywyd yma, ac am yr hwn sydd i ddyfod, Yr enw hwn a berthyn i'r Duwdod, ac nid i neb-ryw greadur: nagê, nac i ddyndod Crist. Hyn a ddichon ein dyscu ni gyd a'r Patrierch, i osod ein holl ymdiried yn Nuw. Ac heb ammeu nas cyslawna ef ei adde∣widion.

3. Adonai, fy Arglwydd; yr enw hwn, fal y mae Massoretiaid yn nodi, a geir bedair ar ddeg a chant o weithiau, yn yr hên Destament. Ar gyffelybiaeth y rhoddir yr enw hwn i greaduriaid, eithr yn briodol y perthyn i Dduw yn vnig. Fe ai harferir Malach- 1, 6, Yn y rhif lluosog, er mwyn arddangos dirgelwch y Drindod Sanctaidd. Os fy fi

Page 17

yw Adonim, Arglwydd, ym mhâ le y mae fy ofn? Adonai yr vnig, Adonim y rhif lluosog. Yr enw hwn a roddir i Grist, Dan. 9.17. llewyrcha dy wyneb ar dy gyssegr anrheithiedig er mwyn Adonai (yr Argl¦wydd Crist.) Clywed yr enw sanctaidd hwn a eill ddyscu i bob dŷn vfyddhau i orchymynnion Duw, a'i ofni ef yn vnig, na chaffc neb ond efe lywodraethu yn ei gywybod, ac ymaflyd yn dynn (a deheulaw ffydd) yn ei air ef, a'i addewid, a honni fod Duw yn Ghrist yn Dduw iddo yniau. Fel y gallo ddywedyd gyd a Thomas, Tydi yw sy Arglwydd am Duw.

4. Yw Helion, sef Coruchaf, Psal. 9.2. ac. 92.9. Dan. 4.17, 24, 25, 34 Act 7.48. Yr enw hwn a rydd Gabriel i Dduw wrth fynegi i'r Fair forwyn y gelwid y dŷn bychan a enid o honi hi yn Fab ir Goruchaf. Luc. 1.32. Hyn sydd yn addyscu yn gyntaf, fod Duw yn ei hanfod, ai ogoniant, yn rhagori (tu hwnt i bob me∣sur) ar holl greadunad ynefoedd a'r ddaiar. Yn ail, na ddylei neb falchio o ddim an∣rhydedd na mawredd daiarol.

Yn drydydd, os deisyfiwn wir oruwchafiaeth, ymegnio ddylem i gyrhaedd cyfundeb gyd â Duw mewn grâs a gogoniant.

5, Abba, enw o'r Syrianaec, yn arwyddocau Tâd Rhuf. 8.15. Hwn a gymmerir weithiau yn sylweddol am y tri pherson, megis yngweddi yr Arglwydd, wei∣thiau yn bersonol, megis y mae yn Mat. 11.25. Canys Duw sydd Dad i Grist o naturiaeth, ac i gristianogion o fabwys a rhâd. Crist a elwir y Tad tragwy ddol, Esa. 9.6. O herwydd ei fod efe yn ein hadgenedlu ni tan y Testament newydd. Duw a elwir hefyd Tad y goleuni, Iag. 1.17. Oblegid ei fod ef yn trigo yn y goleuni na ellir mor dyfod at∣to, 1. Tim. 6.16. Ac efe sydd awdur nid yn vnig o oleuni'r haul, eithr hefyd, o holl oleuni

Page 18

rheswm naturiol, a grâs goruwch naturiol, yr hwn sydd yn goleuo pob dŷn a'r sydd yn dyfod ir byd. Joan. 1.9.

Yr enw hwn a'n dysca ni, fôd yr holl ddoniau a dderbyniwn ni oddiwrth Dduw, yn deilliaw o'i gariad tadol ef yn vnig.

Yn ail, y dylem ni ei garu ynteu eilwaith megis eu blant anwyl. Yn drydydd, y gallwn ni yn ein oll anghenion a'n trallod alw amo yn hyf, megis ar Dâd am ei gymmorth a'i ymwared. Mal hyn ni ddylem ni grybwyll am sanctaidd Enwau Duw, na byddel hynny yn dwyn ar gôf i ni ei ddaioni ef tu ac atton, a'n dyledion ninnau tu ac attoyntau. Ac y no y cawn ni wybod mor gyssurus yw, gwneuthur pob peth yn enw Duw. Dull ar ymadrod arferedig ar dafod pob dŷn, eithr y gwir ddiddanwch oddiwrtho, (drwy aneallgarwch) sydd adnabyddus galonnau ychydig ddynion.

Doethineb mawr a pheth anrhaethol, i gryfhau ffydd Cristion (a fyfyrio am Grist) yw gwybod, wrth ba enw y mae galw ar Dduw, megis yn yr hwn yr hysbysodd am dano ei hûn, ei fod yn dra ewyllysgar ac yn barottaf iw gymmorth, a'i gynnorthwyo ef yn ei ing a'i adfyd. Chwannogrwydd awyddus i adna∣bod Duw yw'r dystiolaeth ddiammheuaf o'n cariad ar Dduw, ac o ffafr Duw tu ac attom ninnau, Psal. 91.14, 15, Am iddo roddi ei serch arnaf: am hynny y gwaredaf ef: am iddo adnabod fy enw mi a'i gwrandawaf, mewn ing y byddaf gyd a'g ef, y gwaredaf ac y gogoneddaf ef, &c. A chadarnhâd mawr ar ffydd yw dechreu yn ddeallgar bob peth yn enw Duw

Page 19

Hyd yma am y Priodoliaeth au enwol.

Y Priodoliaethau sylweddol ydynt o ddau fath, naill ai anghyffredinol ai ymgyfattebol.

Y Priodoliaethau anghyfliedinol ydynt gyfryw, ac na allant mewn neb rhyw fodd gyttuno (neu wed∣du) i vn mâth ar greadur, ond i Dduw yn vnig. Y rhai hyn ydynt ddau, sef digymmys gedd, ac anher∣fynoldeb.

Digymnysgedd yw'r hyn drwy ba vn, y mae Duw yn ddilwgr oddiwrth bob cymmysgiad, gwahaniad, lluosogiad, digwyddiadau neu rannau cyfansoddol, iw dirnad, nai deall: megis pa beth bynnag yw efe, hynny yw efe yn hanfodol.

Er bod o Dduw yn dri, nid yw hyn yn rhwystro ei ddigymmysgedd: canys Duw sydd dri, nid trwy gysylltiad rhan∣nau, eithr drwy gydhanfod persônau.

Anherfynoldeb yw, drwy 'r hyn y mae pob peth sydd yn Nuw heb na mesur na therfyn, na diben, vch∣od, isod, ymlaen ac yn ôl.

Or ddau hyn angenrheidiol yw tarddu allan dri eraill o briodoliaethau anghyffredin.

1. Ammesuredigaeth, neu, bobllea∣eth, drwy'r hyn y mae ef o anherfynedig amgyrhaedd yn llenwi y nefoedd, a'r dda∣iar, ac yn cynnwys pôb lleoedd heb ysp∣aid, lle, neu derfyn yn dichon ei gynnwys ef, ac heb fod yn absennol yn vnlle, mae yn bresennol ym mhob lle.

Y mae pedair grâdd o bresenoldeb Duw, y gyntaf

Page 20

sydd gyffredinol, drwy 'r hon y mae Duw ym mhôb lle, yn llanwedig∣aidd, eithr nid yn vnlle yn gynhwyse∣digaidd.

Yr ail sydd enwedigol, drwy'r hon y dywedir fod Duw yn y nefoedd, o herwydd bod yno ei allu, a'i ddoethineb, a'i ddaioni mewn môdd mwy rhagorol iw gweled ai mwynhâu: Ac hefyd o blegid oddyno yn arferol y mae ef yn tywallt ei fendithion ai farne∣digaethau.

Yn drydydd, mwy enwedigol, drwy 'r hon y mae Duw yn presŵylio yn ei Seintiau.

Yn bedwerydd, mwyaf enwedigol, a digyffelyb, drwy'r hon y mae cyflawnder y Duwdod yn presŵylio ynghrist yn gorphorol.

2. Anghyfnewidioldeb, drwy'r hwn y mae Duw heb gyfnewid oll: yn gystal o herwydd ei sylwedd, ai ewyllys.

3. Tragwyddoldeb, drwy'r hwn y mae Duw heb ddechreuad iw ddyddiau, na diweddiad iw amser: ac heb derfynau, o ran rhagfynediad, neu ôl-ddilyn∣niad.

Hyd yn hyn am y Priodoliaethau anghyffredin, Per∣thynasol i Dduw yn vnig: Bellach am y rhai tueddol, neu'r cyfryw ac a edrychant tua'r creaduriaid·

Page 21

Y Rheini ydynt bump. 1. Bywyd. 2. Deall. 3. Ewyllys. 4. Gallu. 5. Maw∣rhydi.

BYwyd Duw yw hwnnw, drwy'r hwn, megis trwy'r fwyaf parhaus a phuraf weithred, y mae efe nid yn vnig, yn byw o honaw ei hun, eithr yn fythol ffrŵd o flynnon y bywyd, o'r hon y mae yr holl greaduriaid yn cael eu bywyd: yn gymmaint ac mai ynddo ef, y maent yn byw, yn symud, yn anadlu, ac yn bôd. Ac o blegid nad oes gwahaniaeth rhwng ei fywyd ef ai hanfod, am hynny y dywedir, mai i Dduw yn vnig y mae anfarwoldeb. Act 17.28. 1. Tim. 6.16.

2. Deall neu wybodaeth Duw, yw'r hyn trwy ba vn (wrth vn bur weithred) y mae ef yn gwybod yn berssaith ynddo ei hûn bob peth ar a fu erioed, ydynt, neu a fyddant: ie meddyliau a bwriadau calon pob dŷn oll. Jer. 17.10. Rhuf 8, 33.

Y Gwybodaeth hwn yn Nuw sydd naill ai cyffredi∣nol, drwy 'r hwn y gŵyr Duw o honaw ei hûn bob peth yn dragwyddol. Y da wrtho ei hûn, y drwg wrth y da gwrthgefn iddo; gan osod ar bethau damweiniol, goel∣bren damweiniaeth, ac ar bethau angenrheidiol, ddeddf anghenrhaid. Ac mal hyn yn gwybod pob peth ynddo acohonaw ei hûn, efe yw'r achos o'r holl wybod∣aeth sydd ym-mhawb yngystal dynion ac Angelion. Yn ail, neulltuol, yr hwn a elwir gwybodaetn cymme∣meradwy, trwy 'r hwn yr edwyn efe wrth eu pennau, ac y cydnebydd yn rasusol a'i etholedigion am yr eiddaw ei hûn. 1 Tim. 2, 19.

Deall hefyd a gynnwys ddoethineb Duw, drwy 'r hwn ei creawdd ef yn hygall bob peth o ddiddym

Page 22

ddeunydd mewn rhif, mesur, a phwys; a rhagllaw a'i rheola, ac a'i cymhwysa hwynt, i wasanaethu ei arfaeth sancteiddiaf, a'i ogoniant ei hunan.

3. Ewyllys Duw yw'r hwn drwy ba yn anhenrhaid iddo ei ewyllysio ei hûn, megis y prif-ddaioni: A thrwy ei ewyllysio ei hûn fe a ewyllysia yn rhwydd ddigymmell oll bethau da eraill, y rhai ydynt oddial∣lan iddaw.

Ewyllys Duw er nad yw ynddo ei hûn ond vn, megis y mae ei hanfod, etto o herwydd amryw amly∣gynnau ac effeithiau, fe ai gelwir yn yr Scrythyrau wrth amryw enwau, sef,

  • 1. Cariad, wrth yr hwn y deellir Tragwyddol wyllysiad da ein Duw, drwy'r hwn ir ordin∣haodd iw etholedigion fod yn gadwedig yn rhâd drwy Grist: ac y rhydd iddynt bob doniau an∣genrheidiol ir bywyd yma, ac ir hwn sydd ar ddyfod, gan ymfodloni ynddynt hwy, ac yn eu gwasanaeth. 1 Joan 3, 1. Gen. 4, 4.
  • 2. Cyfiawnder yw dianwadal ewyllys Duw, drwy 'r hwn y gobrwya efe ddynion ac Angeli∣on yn ol eu gweithredoedd; gan gospi y die∣difarus yn ol eu haeddedigaethau, yr hyn a elwir cyfiawnder ei ddigofaint ef: a thalu i'r ffydd∣loniaid yn ol ei addewidion, yr hyn a elwir cyfiawnder ei râs ef. Rhuf. 2, 5. ac 9, 15, 16.
  • 3. Trugaredd, yr hwn yn vnig yw ewyllys da Duw, a pharodrwydd ei serch i faddeu i bechadur edifeiriol ei bechodau ai ddrwg foddion.
  • 4. Daioni, drwy 'r hwn y mae Duw yn ewyllysgar yn cyfrannu o'i ddaioni iw greaduriaid: ac o herwydd ei fod ef yn ei gyfrânnu yn rhâd, fe ai gelwir ef grâs.
  • 5. Gwirionedd, drwy 'r hwn yr ewyllysia Duw yn ddianwadal, y pethau a ewyllysio: gan

Page 23

  • ddibenu a chyflawni pob peth ar a ddyweddodd yn ei amser gosodedig. Psal. 146, 6.
  • 6. Ammynedd, drwy'r hwn y mae Duw yn ewyl∣lysgar yn peidio a chospi y rhai drygionus, cy∣hyd ac y cennadhâo ei gyfiawnder, a hyd oni byddo eu pechodau hwythau yn addfed.
  • 7, Sancteiddwrydd, drwy'r hwn y neulltuir natur Duw oddiwrth bôb halogedigrwdd: ac y cashâ efe bôb brynti; ac felly gan fod yn llwyr bur∣eidd-lân ynddo ei hûn, y mae yn ymhoffi ym∣hurdeb a diweirdeb ei weision, oddifewn ac oddiallan, yr hyn a dywalltodd efe ynd∣dynt. 1 Pet. 1, 15, 16. 1 Thes. 4, 3.
  • 8. Dîg, drwy'r hwn y deellir diymmod a chyfiawn ewyllys Duw, yn ceryddu yr etholedigion, ac yn rhoddi dial a chosbedigaeth ar y Gwrthodedig, am y cammau a gynnigiant iddo ef ac iw dde∣wisedig. A phan gospo Duw yn dôst, ac yn drwm, yno y gelwir Digofaint, amserol ir Etholedig, tragwyddol ir Gwrthode∣dig. Psal. 106, 23.29, 40, 41.

4. Gallu Duw yw yr hwn, drwy ba vn y dichon efe o honaw ei hûn, ac yn ddiattal wneuthur pa beth bynnac a ewyllysio, ar a fo yn cydhuno a'i naturia∣eth ef, a thrwy yr hwn megis y gwnaeth efe, fel∣ly y mae efe rhagllaw yn rheoli y nefoedd a'r ddaiar, a'r holl bethau ynddynt. Yr holl alluog nerth hwn yn Nuw sydd naill ai'n hollawl, trwy 'r hwn y dichon efe ewyllysio, a gwneuthur mwy nac a ewyllysio, neu nac a wnelo, Mat. 3.9. ac 20.53. Rhuf. 9.18. Neu Weithredol, trwy 'r hwn, y gwna Duw beth byn∣nac a fynno ef ei wneuthur, Psal, 115.3.

5. Mawrhydi yw'r peth, drwy'r hwn y mae Duw o'i wir ollawl awdurdod ei hun yn teyrnasu, ac yn rheoli, megis Arglwydd a Brenin, a'r yr holl grea∣duriaid,

Page 24

gweledig ac anweledig: a chanddo gyfiaw∣nder a meddiant ar bob peth, megis oddiwrth yr hwn, ac er mwyn yr hwn y mae pob peth. A hefyd gy∣flawnder gallu, fal y dichon ef faddau anwiredd pawb oll a ewyllysio ef eu harbed, a gorchfygu ei elynion, y rhai a fynno efe roi dialedd arnynt a'i destruwio, heb fod yn rhwymedig i roddi i nebryw greadur re∣fwm o'i weithred: ond gwneuthur ei sanctieddiaf ai gyfiawnaf ewyllys eî hûn, iddo yn gyfraith tra pher∣flaith a thragwyddol. Oddiwrth yr holl briodoliaethau hyn, y cyfyd vn, yr hwn yw prif-fendigedigrwydd, neu berffeithrwydd Duw.

Bendigedigrwydd yw'r perffaith a'r anfesurol fwy∣niant a'r lawenydd a gogoniant, yr hwn sydd gan Dduw ynddo ei hûn yn dragywydd, ac sydd achos o bob dedwyddwch a pherffeithwydd, a feddianno pob creadur yn ol ei fesur. 1 Tim. 6.15.

Y mae Pridoliaethau eraill a roddir i Dduw ar gyffelybiaeth, ac yn amhriodol, yn y Scrythyrau sanctaidd, megis (trwy ddull ar ymadrodd sef Anthropomorphosis, dynawl agweddiad) aelodau dyn, llygaid clustiau, ffroenau, genau, llaw, troed, &c. neu synhwyreu a gwei∣thrediadau dŷn, megis gweled, clywed, aroglu, gwei∣thio, rhodio, taro, &c. Neu trwy ddull ar ymadrodd a elwir Anthropopa∣theia, gwyniau, cynhyrfiadau dŷn, sef llawenydd, tristwch, hyfrydwch, prudd∣der, cariad, cas, &c. Neu mal pan hen∣wer ef trwy Analogia, yn graig, yn dŵr, yn astalch, ac felly. Arwyddocâd y rheini pob llyfr o ddeongliad ai hyspysa.

Page 25

Am yr holl briodoliaethau hyn, rhaid i ni ddal y rheol∣au cyffredin yma.

NId oes vnrhyw briodoliaeth a ddichon adroddi yn eglur hanfod Duw, o herwydd ei fod yn an∣herfynol ac anrhaethol.

Pa beth bynnac gan hynny a draethir am Dduw, nid Duw ydyw, eitnr yn hytrach fe eill wasanaethu i gynnorthwyo ein mennyddiau gweinion ni, i ddirnad yn ein rheswm, ac i adrodd ar ein geiriau, Fawrhydi ei dduwiol anian ef, cyn belled ac y bu wiw ganddo ei ddatcuddio ei hûn ini yn ei air.

2. Holl briodoliathau Duw a berthynant i bob vn or tri Pherson, yn gystal ac ir hanfod ei hûn, hyd y goddefo y briodoliaeth bersonol. Megis Trugaredd y Tâd yw Trugaredd yn cenedlu: Trugaredd y mâb yw trugaredd cenedledig, trugaredd yr Yspryd glân yw trugaredd yn deilliaw, ac felly am y lleill.

3. Priodoliaethau bodol Duw, nid oes ragoriaeth rhyngddynt a'i hanfod. Oblegid eu bod hwy felly yn yr hanfod, fel y maent yn wir hanfod ei hûn. Gan hynny nid oes dim yn Nuw, ar nad ydyw vn ai hanfod ai person.

4. Priodoliaethau sylweddol Duw nid amgenant y naill oddiwrth y llall o ran sylwedd, nac o ran gwir fodol hanfod, (o-blegid beth bynnag fydd yn Nuw sydd vn hanfod syml, ac vn ni chynnwys wahaniad) ond yn vnig yn ein rheswm a'n deall ni, yrhai gan na allwn wybod pethau daiarol wrth vn vnig weithred heb gynnorthwy llawer o weithredon gwahanredol, sydd raid i ni wrth angenrheidiol gynnorthwy gan lawer o weithredon gwahanredol i adnadod yr

Page 26

anfeidrol Dduw. Am hynny (i ddywed yd yn brio∣dol) nid oes yn Nuw lawer o briodoliaethau, ond vn yn vnig, yr hwn nid yw ddim amgen, ond dwy∣wawl hanfod y Duwdod wrth ba briodoliaethau byn∣nag y galwoch ef. Eithr er mwyn ein rheswm ni, y dywedir eu bod yn gynnifer o briodoliaethau gwa∣hanol. Oblegid ein dealltwriaeth ni a ddirnad wrth enw trugaredd, ryw beth dieithrol oddiwrth y peth a elwir cyfiawnder. Priodoliaethau hanfodol Duw gan hynny nid ydynt ynddynt eu hunain yn wahanol.

5. Priodoliaethau sylweddol Duw nid ydynt ran∣nau, gyneddfau sylwedd y Duwdod, na dig∣wyddiadau yn yr hanfod, megis mewn sail: Ond gwir hanfod Duw yn gyfan ac yn gwbl. yn gym∣maint a bod pob cyfryw briodoliaeth nid aliud & aliud, peth arall a pheth arall, eithr yr vn a'r vn∣rhyw beth. Nid oes gan hynny yn Nuw ddim main∣tiolaeth, wrth yr hwn y dywedir, ei fod efe yn gym∣maint a chymmaint: na chynneddfau o herwydd pa rai y gellir dywedyd ei fod efe y fâth ar fâth: Ei∣thr pa beth bynnag yw Duw, y cyfryw a'r vnrhyw yw wrth ei hanfod. Wrth ei hanfod y mae'n ddoeth, ac am hynny doethineb ei hûn, wrth ei hanfod y mae efe yn drugarog, ac am hynny trugaredd ei hun: wrth ei hanfod y mae yn dda, ac am hynny yn ddaioni ei hûn, wrth ei hanfod y mae yn gyfi∣awn, ac am hynny yn gyfiawnder ei hûn, &c. I fod yn fyrr, Duw sydd fawr heb faintioli, daionus, cywir, a chyfiawn heb gynneddf: Trugarog heb wŷn, gweithred heb gynnwrf, ym hob lle yn bresennol heb gyflead, heb amser, er hynny yn gyntaf ac yn ddiwae∣thaf. Arglwydd yr holl greaduriaid, oddiwrth yr hwn y derbynniant oll eu hunain, ar holl ddaioni sydd ganddynt; er hynny nid rhaid iddo ef, ac

Page 27

nid yw yn derbyn dim ychwanegiad daioni neu dded∣wyddwch oddiwrth neb arall.

Dymma wir agweddiad Duw, cyn belled ac y datcuddiod efe ei hûn i ni yn ei Air.

Yr athrawiaeth hon (yn anad vn) sydd raid i bob gwir ymarferwr Duwioldeb ei gwybod yn addas, ac angenrhaid ei chredu o ran pedwar achos arbennig, sef,

1. Fel y gallom adnabod ein gwir a'n hunig Dduw, oddiwrth gam ddûwiau ac eulunnod. Canys y portreiad hwn ar Dduw sydd adnabyddus iawn iw Eglwys yn vnig, yn yr hon yr eglurodd efe ei hûn yn rasusol.

2. I sefydlu yn ein calonnau ni fawr ofn ei Faw∣rhydi ef; tra bôm yn tybied yn rhyfeddol o honaw, am ei symlrwydd a'i anherfynoldeb: a'i addoli ef, am ei ammesuroldeb, anghyfnewidioldeb, a'i dra∣gwyddoldeb: ac yn ceisio doethineb oddiwrth ei ddeall, ai wybodaeth ef: yn ymddarostwng iw fendigedig ewyllys ai arfaeth: yn ei garu ef, am ei gariad, trugaredd, daioni, ammynedd: ffyddio iw air ef, o ran ei wirionedd: ei ofni, o ran ei allu, ei gyfiawnder, a'i ddigofaint: ei berchi ef am ei sancteiddrwydd, ai foliannu ef am ei fendigedigrwydd: A darlynu ar∣no ef tra fôm byw, yr hwn yw vnig Awdur ein bywyd, ein bod, a'r holl bethau daionus sydd gen∣ym.

3. I'n cymmell ni i ddilyn Yspryd Duw yn ei san∣ctaid briodoliaethau, ac i ddwyn (mewn rhyw fesur) ynom ragddelw neu gyffelybiaeth o'i ddoethineb, ga∣riad, ddaioni, gyfiawnder, drugaredd, wirionedd, ammynedd, Zêl, ac oi ddigofaint ef yn erbyn pechod: fel y gallom ninnau fod yn ddoethion, gariadus, gy∣fion, drugarogion, eirwir, ddioddefgar, ac yn llawn Zêl fel y mae ein Duw ni.

4. Yn ddiwaethaf, fel y gallom ni yn ein holl wed∣diau

Page 28

a'n myfyrdod, iawn synnied oi ddwywawl Faw∣rhydi ef. Ac nid yn ôl y gwrthgâs a'r cablaidd drawsfeddyliau, y rhai o naturiaeth a gyfodant ym mhennau dynion: megis y dychymygant fod Duw yn debyg i hên ŵr yn eistedd mewn cadair. A bod y Drindod fendigedig yn debyg ir eulun tri-rhannog a beintiai y pabyddion yn ffenestri eu heglwysi.

Gan hynny pan fŷch i weddio at Dduw, Llefared dy galon wrtho ef, megis with vn Tragwyddol, an∣feidrol, ollalluog, sanctaidd, doeth, cyfiawn, trugarog yspryd; a pherffaithgwbl anwahanol hanfod o dri gwahanredol bèrsonau, Tâd, Mâb, ac Yspryd glân: yr hwn gan ei fod yn bresennol ym mhob lle, sy'n llywo∣draethu y nefoedd, a'r ddaiar: yn dirnad calonnau pawb, yn gwybod trueni pob dŷn; ac yn vnig a ddichon roddi i ni bob doniau a fyddo arnom ni eu heisiau, a gwaredu holl bechaduriaid edifeiriol y rhai a chalon∣nauffyddlon a geisiant (er mwyn Crist) ei gymmorth ef i fy ned allan o'i holl flinderau, a'u cystuddiau pa fath bynnag. Gen. 17.1. Esay 6, 3. ac 63, 16. Math 11, 28.

Eifiau y gwir wybodaeth hwn am Dduw, sy'n peri i lawer wneuthur eulun o'r gwir Dduw: a hyn yw 'r vnig achos, pa ham y mae cynnifer yn proffessu pob rhan arall o grefydd Dduw mor amharchus, ac mor rhagreithus. Lle pe adnabyddent yn vnion, ni feid∣dient amgen na ddeuent iw wasanaeth ef. A chwe∣di dyfod, ei wasanaethu mewn ofn ac anrhydedd: canys cyn belled ac y mae dŷn yn ofni Duw, y mae ef yn ei adnabod: ac yno y mae dŷn yn gwir adna∣bod Duw; pan gysyllto ei ymarfer at fyfyrdod, a hyn∣ny fydd:

1. Pryd y bo dŷn felly yn cydnabod ac yn anrhy∣deddu mawredd Duw, megis yr eglurodd efe ei hûn yn ei Air.

2. Pryd (oddiwrth wir a bywiol ystyriaeth pri∣odoliaetnau Duw) y maga ynghalon dŷn, gariad, ofn,

Page 29

ac ymddiried yn Nuw: canys medd Duw ei hûn; Os ydwyf fi dâd pa le y mae fy anrhydedd? Os ydwyf fi feistr pa le y maefy ofn? Mala. 1.6, O profwch a gwelwch mor ddaionus yw'r Arglwydd, medd Dafydd Psal. 34.9. Y neb o'i gydnabyddiaeth ni phrofodd ei ddaioni ef, nid edwyn mor ddalonus yw efe. Yr hwn (medd S. Joan 1 Joan. 2.4.) a ddywed ei fod yn adna∣bod Duw, ac heb gadw ei orchymynnion ef, celŵyddog yw, a'r gwirionedd nid yw ynddo. Cyn belled gan hynny, ac y bôm yn gwneuthur ar ôl Duw, mewn daioni, cariad, cyfiawnder, trugaredd, ammyned, ac eraill o'i briodoliaethan ef, cyn belled a hynny yr ydym yn adnabod Duw.

3. Pryd trwy ochain dirgeledig ac â difrifol ewyll∣ysfryd ein calonnau, y byddom yn hiraethu, am gael perffaith a chyflawn wybodaeth o'i fawredd ef yn y bywyd sydd a'r ddyfod.

4. Yn ddiwaethaf, hyn a ddatcuddia pa cyn lleied yw nifer y rhai a wir adwaenant Ddnw; Canys nid edwyn neb Dduw, ond yr hwn a'i caro ef; a pha fodd y geill dŷn ddewis na charo ef, gan ei fod yn brif ddaioni, pes adwaenai ef? Gan weled fod natur Duw yn ynill dynion i garu ei ddaioni: a phwy byn∣nac a garo ddim yn fwy na Duw nid yw deilwng o Dduw. A'r cyfryw yw pob vn a esyd serch a hoff∣der ei galon ar ddim arall ond ar Dduw. Gan hyn∣ny os wyt yn credu fod Duw yn Ollalluog pa ham yr ofni gythrauliaid a gelynion, ac nad wyt yn hyde∣rus yn ymddiried yn Nuw; ac yn ymbil am ei gym∣morth ef ym mhôb trallodau a pheryglon? Os wyt ti yn credu fod Duw yn anfeidrol, pafodd y llyfesi di ei annog ef i ddigofaint?

3. Os wyt yn credu fod Duw yn siml, pa fodd y cly∣wi di ar dy galon allael rhagrithio a bod yn ffuan∣twr? Os wyt yn credu mai Duw yw'r prif ddaioni, pa ham nad yw dy serch di wedi ei osod arno ef yn

Page 30

fwy nac ar holl dda bydol; Os wyt yn credu mewn gwirionedd, fod Duw yn farnwr cyfiawn, pa fodd y beiddi di fyw mor ddifraw mewn pechod, heb edi∣farhau? Os wyt yn gwir gredu fod Duw yn ddoethaf, paham nad wyt yn rhoi arno ef am wastadhâu a threfnu gwrthwynebion, a dirmygon, yr hwn a ŵyr pa fodd i dueddu pob peth ir hyn gorau, ir sawl ai carant ef? Os wyt ti yn gwir goelio fod Duw yn eirwir, pa ham yr amheui di ei addewidion ef? Ac os wyt yn credu fod Duw yn brydferthwch, ac yn wir berffei∣thrwydd, pa ham nad wyt yn ei wneuthur ef yn brif∣nod vnig i'th holl hoffdêrau a'th ddymuniadau? Canys o cheri di degwch, efe yw'r teccaf: o chwen∣nychi gyfoeth, efe yw'r cyfoethoccaf: o cheisi ddoethineb, efe yw'r doethaf: pa odidawgrwydd bynnac, a welaist mewn nebryw greaduriaid, nid yw ddim ond megis gwreichionen o'r hyn mewn per∣ffeithrwydd anherfynol fydd yn Nuw. A'r pryd y caffom ddigyfrwng gyfundeb yn y nefoedd gyd â Duw; Ni gawn y pethau hyn oll yn berffaith wedi eu cyfrannu i ni. I fod yn fyrr, ym mhob daioni, efe yw oll yn oll. Câr yr vn Duw daionus hwnnw, ac ti a fyddi yn ei garu ef, yn yr hwn y mae holl ddawn y donniau yn aros. Yneb gan hynny a chwennycho gael gwir wybo∣daeth am Dduw, rhaid iddo ddyscu ei adnabod ef drwy gariad. Canys Duw cariad yw, a'r gwybodaeth o garad Duw sydd uwchlaw pob gwybodaeth. Eph. 3.19. Cany pob gwybodaeth, oddieithr gwybod pa fodd y cerir Duw, ac y gwasanethir ef yn vnig, nidyw ddim ar air Salomon, ond gwagedd o wagedd, a blinder yspryd.

Ennyn gan hynny o fy Arglwyddes, nagê yn hy∣trach fy Arglwydd Cariad perffaith, dy gariad dy hûn yn fy enaid, yn enwedig gan ryngu bodd i't, yn ôl fy vno i â thi trwy waed Crist, gael o honof fyng∣hafarwyddo trwy wybod aeth dy râs, i gymmun dy

Page 31

ogoniant, yn yr hwn y mae fy mhrif ddaioni am ded∣wyddyd tragwyddol yn sefyll.

Mal hyn wrth lewyrch ei Air ei hûn y gwelsom y tu cefn i Jehovah Elohim, y tragwyddol drindod; addoli yr hwn sydd wir dduwioldeb, credu yn yr hwn fydd gadwedigol ffydd, ac vnion wirionedd: i'r hwn oddiwrth greaduriaid yn y nefoedd, a'r ddai∣ar, y byddo Moliant, golluogaeth, a gogoniant yn drag∣wyddol. Amen.

Hyd yna am wybodaeth o Dduw: Bellach am wybodaeth o ddyn ei hûn. Ac yn gyntaf am gyflwr ei drueni ef, a'i lygredigaeth heb adnewyddiad trwy Grist.

Myfyrdod am drueni dyn heb ei gymmodi a Duw yn Ghrist.

OScerbwd gwael, ym mhâ gwrr y dechreuaf fi adrodd dy drueni didrangcedig? Yr hwn wyt wedi dy euogfarnu, yr awr gyntaf y cymmeraist sylwedd yn y grôth, a chwedi dy farnu i farwolaeth dragwyddol, cyn dy eni i fywyd amserol. Gwir yw, y medraf gael dechreuad ar dy drueni, eith ni wn ym mhâ fan y mae i mi geisio y diwedd. Canys pan oedd Adda ac Efa wedi eu creu ar lûn delw Dduw ei hûn, ac yn preswylio ym mharadwys, mal y gallent hwy, ai hiliogaeth fyw y bywyd anfarwol mewn dedwyddwch, a holl greaduriaid y ddaiar dan eu llywodraeth, ond yn vnig, na chaent archwaethu o ffrwyth vn pren, er mwyn dangos vfydd-dod i'r cre∣awdr holl alluog; er darsod i Dduw eu gwahardd hwy ai gorchymyn i ymgadw oddiwrth hyn o beth bychan, dan boen cospedigaeth angeu tragwyddol, er hyn hwy a gredafant i air y cyrhraul o flaen gair Duw, drwy geisio gwneuthur Duw (pes gallasent)

Page 32

yn gelwyddog. Ac felly drwy fod yn anniôlchgar am yr holl ddoniau a gawsent ar law Dduw, hwynt hwy â aethant yn anfodlon iw cyflwr presennol, fal pe buasai Dduw, yn rhoddi y gorchymmyn hwnnw iddynt, o gynfigen a chrintachrwydd, ac â goeliasant y gwnai diafol hwynt yn gyfrannogion o bethau an∣rhydeddusach nac â roesai Dduw iddynt erioed, ac yn eu balchder hwy a wnaethant fradwriaeth yn er∣byn y goruchaf, a thrwy fod yn ddiystur ganddynt fod yn ddeiliadd i Duw, hwy a chwennychasant fod yn dduwiau eu hunain, neu yn ogyfuwch â Duw. yno nes iddynt edifarhau, (trwy golli llûn delw Dduw) hwy a aethant yn debyg ir cythraul: ac felly eu holl hiliogaeth hwynt, megis heppiliaeth wrthryfelgar (tra byddont fal dithau yn anedifeiriol) ydynt yn dda∣rostyngedig yn y byd yma, i ddioddef pob trueni helbulus, ac yn y byd a ddaw i'r tân tragwyddol a ddarparwyd i ddiafol ac iw angelion.

Bwrw ymmaith gan hynny dy wagedd amwhyllig, a chymmer olwg ar dy drueni gresynol: yr hyn beth os iawn ystyri, nid wyf yn ammeu, nas gweli di fod yn well o lawer fod o honot heb eni, na bod heb râs i ymarfer a duwioldeb.

Ystyr gan hynny dy drueni,

  • 1. Yn dy fywyd.
  • 2. Yn dy farwolaeth.
  • 3. Ar ôl dy farwolaeth.

Yn dy fywyd.

  • 1. Y Trueni sydd yn dilyn dy gorph.
  • 2. Y Trueni sydd yn gwrthuno dy enaid.

Yn dy farwolaeth ystyria y perhau ydynt yn gor∣thymmu dy gorph a'th enaid.

Page 33

Ar ôl marwolaeth ystyr y trueni a daflant dy gorph ath enaid ynghyd i dân vffern.

Ac yn gyntaf, gadewch inni gymeryd golwg ar y trueni sydd yn canlyn y corph yn ôl trefn pedair oes dŷn.

  • 1. Mebyd.
  • 2. Ieuengtyd.
  • 3. Oedran gŵr.
  • 4. Henaint.
1. Myfrdod am drueni mebyd.

BEth oeddit ti pan oeddit yn faban ond megis ani∣fail ar lûn dŷn? onid ymmhoethineb trachwant ith ynnillwyd, dirgelwch cywilydd, a'r gwarth a dyfodd o'r pechod cyntafanedig? Fal hyn i'th fwri∣wyd ar y ddaiar yn ymdrabaeddu mewn gwaed, a budreddi: yn fudr iawn, pan ddarfu i fab Duw, yr hwn ni bu ddirmygus ganddo gymmeryd arno ddynawl anian, a'r gwendid pyrthynasawl i hynny, etto dybied yn anweddaidd iw sancteiddrwydd ef, fyned ir grôth iw ymddwyn yn ôl y dull a'r modd pechadurus yr ynnillir dyn: a bod yn gywilydd gan dy fam di adrodd y môdd i'th aned. pa ryw achos gan hynny sydd itti i ymffrostio o'th enedigaeth, yr hon oedd yn boen felldigedig i'th fam, ac i tithau dy hûn yn borth trwy'r hwn y daethost ir bywyd helbulus? Ac o ran na fedrit y pryd hynny fynnegi faint oedd dy drueni at eiriau, mewn dagtau ac wylofain dydi ai dangosaist, yn orau ac y medrit.

Page 34

2. Myfyrdod am drueni ieuengtyd.

BEth ydyw bachgen neu langc ieuangc, ond megis anifail heb ddofi, ai holl weithre∣doedd yn lledffol, ac yn ffromwyllt, yn wrthnysig i gymmeryd cyngor da er ei glywed, ac mal Eppa heb vmlawenhau mewn dim ond oferedd a ffolineb? Am hynny cyn gynted ac y dechreuaist gael dim nerth, a dealltwriaeth, fe ath gadwed allan o law dan y wia∣len, dan ofn tâd, a mam, ac athrawon; fal pe buasit wedi dy eni i fyw yn ôl dy sceidiaeth eraill, ac nid yn ôl dy ewyllys dy hûn. Ni bu farch lluddedig crioed chwannoccach i ymadel ai bwnn nac oeddit ti i fyned allan o'r cyflwr caeth yma. Cyflwr ni thâl sòn am dano.

3. Myfyrdod am drueni oedran gŵr.

PA beth yw cyflwr gŵr ond môr, yn yr hwn mal tonnau y mae 'r naill orrhrymder yn dilyn y llall, ar olaf yn waeth na'r cyntaf? Cyn gynted ac y de∣chreuaist drin y byd, di â ymdroist mewn cwmmwl o drueni. dy gnawd sy 'n dy arwain i drachwant, y byd yn dy hudo i ddigrifwch, ar cythraul yn dy gym∣mell i bob math ar bechod: ofn gelynion sy'n dy ddychrynu, ac erlyn cyfraith yn dy flino, y mae cammau ar law cymmydogion drŵg yn dy orthrym∣mu, a gofalon am wraig a phlant yn dy liasu, ac a∣flonyddwch rhwng caseion cyhoeddus, a gau gym∣deithion (gan mwyaf) yn dy orthrechu: y mae pe∣chod yn dy frathu di oddifewn, a Satan yn gosod ei rwyd o'th flaen: cydwybod am bechod sy' n dy gynllwyn o'th ôl; yr awr-hon y mae adfyd a'r dy law asswy yn dy lidio, yn y man y mae helaethrwydd a'r

Page 35

dy law ddehau yn gwenheithio itti; gorvwch dy ben∣mae dial Duw dyledus am dy bechod yn barod ddescyn arnat, a than dy draed y mae safn vffern, yr agored i'th draflyngcu. ac yn y cyflwr gresynol hwn i ba le yr ai di am lonyddwch, ac ymwared? y ma 'r tŷ yn llawn gofalon, y mae 'r maes yn llawn o dra∣fferthion, a'r wlâd o anwybodaeth, y ddinas o gyn∣hennau, y llŷs o gynfigen, yr eglwys o bleidiau, y môr o speilwyr, y tir o ladron. Neu ymhâ ryw gy∣flwr y mynnit fyw? Gan fod golud iw genfigennu, a thylodi iw ddiystyru, synwyr iw anghoelio, a dini∣weidrwydd yn wawd, ofergoel iw gwatwor, a chrefydd iw amheu, drygioni yn cael ei fawrhâu, a rhinwedd ei amherchi. Oh pa ryw fâth wîsc o bechod sydd yn dy amgylchu di mewn bŷd o anwiredd? Beth yw dy ly∣gaid, onid ffenestri i edrych ar wagedd? Beth yw dy glustiau, onid fflodiardau i ollwng llifeiriant trawsineb i mewn? Beth yw dy synhwyrau, ond gosgymmon i ennyn tân i'th drachwant? Beth yw dy galon, ond yr enion ar yr hon y darfu i Satan luniollûn echrŷs dy holl amcanion diffaeth? Wyt ti o rieni vrddol? y mae yn rhaid itti dy fwrw dy hûn mewn perigl i ryfel dieith∣rol, i geisio ynnill anrhydedd daiarol; rhaid itti yn fynych roi dy fywyd yn ddibris mewn câd beryglus rhag dy fwrw di yn llyfrwâs wyt ti wedi dy eni o radd isel? O f'Arglwydd pa fath boen ac anhunedd sydd raid itti ddwyn gartref ac oddicartref i geisio ynnil dy gynhaliaeth? a'r cwbl ond odid yn brin i borth: dy angen; a phan gafto vn ynnill ychydig, yn ô mawr lafur a hir boen, beth am leied o sicrwyd∣sydd iddo yn yr hyn a gafodd? o ran di a weli drwy athrawiaeth beunyddiol, fod yr hwn oedd gyfoethog ddoe, yn dlawd heddyw: yr hwn oedd ddoe yn iach heddyw yn glâf; yr hwn oedd ddoeyn vchel ei grechwen sydd heddyw ag achos iddo i vdo yn alarus; yr hwn oedd ddoe mewn parch, sydd heddyw mewn gwarth

Page 36

ac ammarch: yr hwn oedd ddoe yn fyw, sydd hedd∣yw yn farw: ac ni wyddost pa cyn gynted, neu ym mhâ ryw fôdd, y byddi di farw dy hûn. A phwy a fedr gyfrif ei golledion, ei warthwynebion, ei gur∣iau, ei warthruddiau, ei glefydau, a'r gofidiau y rhai a ddigwyddant i ddyn pechadurus? Heb yngan chwaith am farwolaeth plant, cymdeithion, neu gyfnyseifiaid, yr hyn sydd yn fynych yn chwerwach wrthym, nac yw marwolaeth ei hunan.

4. Myfyrdod am drueni henaint.

PA beth yw henaint onid tommen lawn o yscu∣bion gofidiau? canys os tynnu a wnei i gyrhaedd∣yd hiroes, y mae'r henaint arfoel yn dy oddiwes, yn dyfod tan ymgrymmu, yn syfrdanllyd, a'r wyneb yn grŷch, a'r dannedd yn bydron, a'r anadl yn ddre∣wllyd, yn ffrom o anynadrwydd, yn distannu o sych∣der y cnawd, a'r golwg yn pallu, a'r clywed yn ddiffaeth, a dolur iw amgylchu, y ddaupen yn plygu ynghyd gan wendid, heb ffrwyth o wybodaeth yn yr vn or pum synwyr, ond yn vnig i wybod oddiwrth boen: yr hwn sydd yn gwynio ym mhob aelod oi gorph, heb obaith o gael esmwythdra oddiwrtho, nes iddo ei daflu ef i waelod ei fêdd.

Hyn ymma am y trueni sydd yn canlyn y corph, yr awrhon am y trueni sydd yn canlyn yr enaid yn bennaf yn y bŷd hwn.

Page 37

5. Myfyrdodau am drueni yr enaid yn y bywyd hwn.

Trueni dy enaid a ymddengis yn eglurach os ystyri,

YN gyntaf, y dedwyddwch a gollodd efe.

Yn ail, y trueni a dynnodd ef ar ei vcha ei hun trwy bechod.

Y ddedwyddwch a gollodd efe, oedd yn gyntaf, bod yn gyfrannog o ddelw Dduw, trwy 'r hyn yr oedd ef yn gyffelyb i Dduw mewn gwybodaeth, i allael yn berffaith ddeall dadcuddiedig ewyllys Duw. Yn ail, gwir sancteiddrwydd, trwy 'r hwn yr oedd efe yn lân oddiwrth bob bai halogedig. Yn drydydd, y cyfia∣wnder, trwy 'r hwn yr oedd efe yn gallu hyfforddi ei holl alluoedd naturiol, a threfnu yn vnion ei holl wei∣thredoedd, yn deilliaw oddiwrth y galluoedd hynny. Gydâ cholli y dewisedig lûn hwn, efe a gollodd gariad Duw, yn yr hwn yr oedd ei fywyd ai ddedwyddwch yn sefyll. Os colled am olud bydol a'th bruddhâ di yn fawr, pa faint mwy y dylai golled am y nefawl dry∣sor yma dy drymhau?

Yn ail y trueni a dynnodd yr enaid ar ei wartha ei hun, sydd yw ystyried mewn dau beth.

  • 1. Pechod.
  • 2. Melldith.

Pechod ydyw lygredigaeth cyssredinol, yn gystal o'i naturiaeth, ac o'i weithredoedd: canys y mae ei natur ef yn hylithr i bechu yn oesdadol ym mhob mâth ar bechod, y meddwl wedi ei lenwi yn llawn o wagedd, y dealltwraieth wedi ei dywyllu gan anwy∣bodaeth, yr cwyllys heb chwennych dim ond oferedd a phethau drwg, y mae gwrthuni mor netthol gyd

Page 38

ag ef, fal nad yw'r deisyfiad yn fynych yn vfuddhâu i reoledigaeth rheswm yn yr enaid adgenedledig: a'r ewyllys yn gwibio i ganlyn gwyniau pechadurus. Pa gymmaint gan hynny ydyw nerth y deisyfiad a'r ewyllys yn yr enaid gwrthodedig, yr hwn sydd yn aros yn oesdadol yn ei lygredigaeth anianol? O hyn y mae yn digwyddo fod dy enaid truan wedfei ymwrthuno gan bechod, ymddifwyno gan drachwant, ymanrheithio gan fudreddi, ymchwydddo gan ddry∣gnaws, ymroi i wyniau, ymddihoeni gan genfigen, yn ymlythu â gormodedd, yn ymdrabaeddu mewn med∣dwdod, yn berwi gan lid, yn ymlosci gan greulon∣deb: a gogoneddus lûn Duw, wedi ei gyfnewid i lûn y diafol echryslon, hyd oni ddarfu ir Arglwydd vnwaith edifarhau ddarfod iddo ef erioed wneuthur dŷn, Gen. 6.6.

O ddiwrth y cyntaf sef pechod, y mae y rhan arall o drueni yr enaid yn dyfod, sef melldith, o'r hon y mae dwy râdd:

sef
  • ...Mewn rhan.
  • ...Yn gyflawn;

Melldith mewn rhan ydyw, yr hon yr ydis yn el rhoddi ar yr enaid yn ei fywyd a'i farwolaeth, ac sydd yn gyffredin iddo ef gyd a'r corph. Y felldith ar yr enaid yn y bywyd yma, yw digofaint Duw, yr hwn sydd goruwch ben y fâth greadur, fal y byddo pob peth nid yn vnig gofidiau, eithr rhadau a bendi∣thion hefyd, yn ymchwelyd yn dramgwydd iddo.

Dychryn cydwybod sydd yn ei droi ef oddiwrth Dduw a'i wasanaeth, fal nas beiddia ddyfod yngŵydd ei sancteiddrwydd ef; onid ymroi i gaethiwed Satan, ac iw ddeisyfiadau gwaelion ai drachwantau ei hu∣nan.

Page 39

Hyn yw melldigedigrwydd yr enaid yn y bywyd: weithian y canlyn melldigedigrwydd yr enai da'r corph ym marwolaeth.

Myfyrdod am drueni y corph a'r enaid wrth farw.

GWedi i'r gwr oedrannus ymdrechu a hir glefyd, a dioddef dygn benyd, ac yn disgwyl cael peth esmwythdra; yno y daw Angau i mewn: llofrudd naturiaeth, melldith Dduw, cigydd vffern, ac â edrych yn ddu-oer arw-ddig yn wyneb yr henddyn: heb na thrugarhau wrth ei oedran, nac ystyried ei hirnych, na chymeryd gwobr o arian, neu aur er cyd-ddwyn: na wna; ni chymmer er arbed ei enioes ef groen am groen, na dim a'r sydd ar ei helw, ond curo i lawr a wna brifrannau ei gorphilyn, ai restio ef i at∣teb ger bron yr vsdus ofnadwy. A chan dybied na phrysura yr henddyn i ddyfod gyd ag cf yn dra buan: Of Arglwydd pa rifedi o biccellau gofidus y mae efe yn ei ergydio trwyddo ef: sef gwaiw, doluriau, clymmau gwithi, y crŷd, peswch, llafur, poerion oerllyd, cnofeydd, gwewyr, tostedd, a'r cyfryw.

Oh pa fâth oer echryslon olwg ydyw ei weled ef ar ei wely, gwedi i angau roddi iddo ef, ei friw mar∣wolaeth! pa fâth lychwys oer sydd dros ei holl gorph? pa ryw grynfa sydd ar ei holl aelodau? y mae 'r pen yn llammu, a'r wyneb yn glasu, y trwyn yn duo, ar ên yn llaesu, llinynnau y llygaid yn torri, y tafod yn bloesci, ar anadl yn byrhau, yn aroglu yn drwm; y sefnig yn grillian, ac ar bob ebwch o'r genau, y

Page 40

〈1 page duplicate〉〈1 page duplicate〉

Page 41

〈1 page duplicate〉〈1 page duplicate〉

Page 40

mae llinynnau y galon yn barod i dorri. Yr awr hon y mae 'r enaid truan yn deall yn hysbus fod ei gorph daiarol yn dechreu marw; ac megis o flaen ymddattodiad hollawl, neu ddiwedd adeiladaeth y byd mawr, y try yr haul yn dywyllwch, a'r lloer yn waed, a'r ser a syrthiant o'r wybrennau, a'r awyr a fydd yn slawn tymeftloedd, a serennau gwibiog tan∣llyd, y ddaiar a grŷn, a'r môr a rua, a chalonnau dynion a lewyg a gan ofn yn disgwyl diwedd a'r y cy∣fryw ddechruad ofnadwy. felly tu ac at ymddattodiad dŷn (yr hwn yw y byd bychan) ei olygon, y rhai ynt yw cyffelybu ir haul a'r lloer, a gollant eu gole∣uni, ac ni chanffyddant ddim ond geuogrwydd gwaedlyd pechod: y synhwyrau eraill megis y sêr y rhai ydynt lai, a dy wyllant ac â syrthiant y naill yn ol y llall: ei feddwl, ei reswm, ai gôf, megis nefol nerthoedd yr enaid, a gânt eu hysgwyd gan echy∣dus dymestloedd anobaith, a chynfellt o dân vffern; ei gorph daiarol fy'n dechreu siglo a chrynu, a'r defny∣ddiau gwlybion megis môr a fai yn llenwi, a ruant, ac a chwrnant yn ei dagell, gan ddisgwyl beunydd am derfyniad galarus ar y cyfryw ddechreuad dy∣chrynadwy.

Tra fyddo efe fal hyn tan ddyfyn i atteb yn y se∣ssiwn fawr gar bron Duw, wele y mae cwarter sessiwn i fwrw carcharorion, iw chadw ynddo ei hûn oddifewn. lle y mae rheswm yn eistedd mal barnwr, ar cythraul yn rhoi bil o ditmant cyn helaethed a llyfr Zachari. 5.. yn yr hwn y gosodir ar lawr yr holl gamweddau a wnaethost crioed, a'r holl weithredoed da a esceu∣lusaist eu gwneuthur erioed, a'r holl felldithion, a'r barnedigaethau dyledus i bob rhyw bechod. Dy gy∣dwybod dy hûn a'th cyhudda; a'th côf a dystiolaetha yn dost i'th erbyn, a'r angau a saif wrth y barr yn barod, megis dihenyddiwr creulon i wneuthur diben o honot: Os ty di fal hyn a fyddi yn dy euog-farnu

Page 41

dy hunan; pa fodd y gelli di ochelyd vnion farn Duw, yr hwn sydd yn gwybod oddiwrth dy holl droseddau yn well na thi dy hun? Ti a chwennychit fwrw allan o'th feddwl goftadwriaeth dy anwireddau y rhai sy'n dy orthrymmu; eithr y maent hwy yn dyfod i'th cof yn gynt o lawer o hynny, ac ni fynnant moi bwrw allan, ond llefain wrt•••••• Nyni yw dy weithre∣doedd, ac ni a'th ganllynwn. A thra fô dy enaid ti fal hyn oddifewn allan o hob trefn a thangneddyf, dy blant, dy wraig ath gyfeillion âth syfrdanant, dan ymbil â thi am osod trefn ar dy dda, rhai yn llefain, rhai yn disgwyl, rhai yn ceisio, rhai yn twyllo, rhâi yn tosturio, rhai 'n cyssuro, oll megis cyhyrod i'th frathu, o ran peri i'th ofid fod yn fwy gofidus.

Yr awrhon y cythrauliaid, y rhai a ddaethant o vffern i ddwyn ymaith dy enaid, sydd yn dechreu ymddangos iddo, ac yn disgwyl am dano iw gym∣meryd ai ddwyn ymmaith, cyn gynted ac y delo ef alian o'r corph. Aros i mewn a fynnei, ond deall y mae fod y corph yn dechreu marw bob ychydig, ac yn barod fal hên dŷ amharus i syrthio am ei ben: y mae efe yn ofni dyfod allan, o blegid bod yr vffern∣gŵn hynny yn gwilio ei ddyfodiad.

Oh efe, yr hwn a dreuliodd lawer o ddyddiau a nôsau mewn gwâg ofer ddigrifwch a roddai yr awr hon yr holl fyd (ped fai ar ei law) am gael un awr o amser i edifarhau, ac i ymgymmodi â Duw. Ond ni eill hynny fod, o herwydd y mae ei gorph, (yr hwn oedd yn cydsynnio ag ef i wneuthur pechod) yn anghymmwys ollawi yr awr hon i vno ag ef yng∣waith edifeirwch, a rhaid yw bod edifeirwch yn yr holl ddŷn.

Yr awrhon mae efe yn gweled fod ei holl lawenydd wedi darfod, fal pe na buasai erioed, ac nad oes dim iw gael ond poenydiau, y rhai a bery heb drangc∣na gorphen. Pwy a eill ddatcan yn gyflawn ei osid

Page 42

am y pechodau a aethant heibio, ei ddialedd am ei drueni presennol, a' i ddychryn am y poenau sydd i ddyfod.

Yn hyn o gyfyngdra caeth, y mae ef yn edrych ymmhôb man am ymwared, ac yn ei weled ei hûn ym mhôb ffordd yn ddigynnorthwy. Fal hyn yngh∣annol ei ddygn galedi a'i drueni, (yn chwannog i gly∣wed y dim lleiaf o g••••••••••r) y mae efe yn treuthu yr ymadrodd hwn ne•••••• cyffelyb wrth y llygaid.

O lygaid, y rhai oeddych gynt mor graff eich gol∣wg a fedrwch chwi ganfod dim ymwared, na gweled ffordd yn y byd i mi i ochel y perigl echryslon yma? ond y mae llinynnau y llygaid wedi torri, ni al∣lant hwy weled y gannwyll sydd yn llosci o'i flaen ef, na gweled gwahaniaeth rhwng dydd a nôs.

Y mae yr enaid (wrth weled nad oes dim cyffur iw gael gan y llygaid) yn dywedyd wrth y clustiau: O glustiau, y rhai oeddych arfer o gymmeryd difyr∣rwch wrth wrando ymadroddion mwynbêr, a phryd∣ferthlais cerddwriaeth; a fedrwch chwi glywed dim newydd, na sôn am ronyn o gymmorth i mi? Y Clustiau naill a'i y maent mor fyddarion, ac na ch∣lywant ddim yn y byd: a'i y mae'r clyw cyn wan∣ned, ac nas geill ddioddef clywed ei gyfeillion anwy∣laf yn siarad ag ef. a pha ham y cai y clustiau hyn∣ny glywed dim hanes am lawenydd ym marwolaeth, yr rhai ni allent aros clywed newyddion da yr Efen∣gyl yn eu bywyd? ni eill y glust na chymmorth nac ymwared.

Yno y dengys ef ei gwyn wrth y tafod. O dafod, yr hwn â arferit ymffrostio gyd a'r gwychaf, yn awr pa le y mae dy fawrair, a'th ryfyg cynhennus? yr awrhon jn fyng-haledi mwyaf a elli di ddywedyd dim yn fy mhlaid? o ni elli di na dwndrio y gelynion yma a'th eiriau bygythiol, nai hyweddu a'th ymadrodd têg? och, och, y mae 'r tafod er ys deu∣ddydd

Page 43

gwedi colli'r parabl, ni eill yn ei angenoc∣tid mwyaf, na galw am ychydig ddiod, na dymuno ar gyfaill dynnu a'i fys y carnboer sydd ym mron ei dagu.

Gan na fedrodd gael etto ddim gobaith o ym∣wared, fê ddywed wrth y traed: pa le yr ŷch chwi o draed; yr rhai gynt oeddych gyflym i redeg; a ellwch chwi fy nŵyn i unlle allan or lle peryglus yma? y mae'r traed eusys yn farw sythion: oni symmudir hwy in symmudant.

Yno y try ef ei achwyn at y dwylaw: O ddwylaw, y rhai yn fynych a gawsoch ganmoliaeth am wrolaeth, mewn heddwch a rhyfel, y rhai yn fynych a fuoch yn ymddiffyn i mi fy hùn, ac yn ddestruw i'm caseion, ni bu arnaf fi erioed fwy caledi nac yr awrhon; y mae angau yn edrych yn gethin arnaf, ac yn fy lladd; y mae 'r ellyllon uffernol yn disgwyl o amgylch fy gwely i'm difetha: cynnorthwywch yr awr hon, neu fe ddarfu am danaf yn dragwyddol: Och och, ymae 'r dwylaw mor weinion, ac yn crynu, fal na allant estyn vn llwyaid o wlybanniaeth at y genau i gynnor∣thwyo natur ffeintiedig.

Yr enaid truan yn ei weled ei hun wedi ei adael yn vnig, ac yn llwyr ymddifad o gyfeillion, ym∣wared, a diddanwch; ac yn gwybod fod yn rhaid iddo cyn pen awr fyned i'r tragwyddol boenau, â ddychwel at y galon (yr hon or holl aelodau yw'r cyntaf yn byw a'r olaf yn marw) oddyno y mae ef yn adrodd y galarnad tosturus hwn rhyngddo ac ef ei hûn. O pa fath ddiffeithbeth aflawen wyf? pa fodd y mae gofidiau angau im hamgylchu? pa fodd y mae llifeiriant Belial yn fy nychrynu? pa fodd y darfu i faglau y farwolaeth gyntaf a'r ail, fy nal ar vnwaith! Oh mor ddisymmwth y lladrattâodd angau attaf a'i gerddediad dirgeledig! mal yr haul, yr hwn nid yw y llygaid yn ei ganfodyn symmud, er bod ei symmudiad

Page 42

〈1 page duplicate〉〈1 page duplicate〉

Page 43

〈1 page duplicate〉〈1 page duplicate〉

Page 44

ôr cyflymmaf; O fel y mae angau yn dangos ei lid arnaf yn ddidrugaredd! fedd arfu i Dduw'r drugaredd fy nghwbl wrthod; a'r cythraul yr hwn nid edwŷn drugaredd, sy'n disgwyl am danaf i'm cymmeryd. pa sawl gwaith i'm rhybuddiwyd am y dydd galarus hwn, gan ffyddlon bregethwyr gair Duw, a minnau heb wneuthur ond gwawd o hynny? pa fudd sydd i mi yn awr o'm baichder, a'm tŷ prydferthlân, a'm gwiscoedd gwychion? pa beth a ddaeth o felusdra fy holl ddanteithion? yr holl olud bydol y bum ofalus iw casglu, a roddwn yr awr hon am gydwybod dda, yr hwn yn ddiofal a ddarfu i mi ei esceuluso; pa lawe∣nydd sydd i mi yr awr hon am fy holl gnawdol ddi∣grifwch a aeth heibio, yn yr hwn y gosodais fy mhrif ddifyrrwch? nid oedd y chwantau cnawdol hyn∣ny, ond breuddw ydion twyllodrus, ac yr awr hon a ae∣thant ymmaith megis cysgod diflanedig: eithr meddwl am y poeau tragwyddol y rhai sydd raid i mi en goddef ynghyfair y byrr ddigrifwch hwnnw, sydd i'm poeni cynddrwg ag vffern, cyn fy myned i vffern, Etto yr ydwyf yn gwir gyfaddef mai fal yr haeddais yr wyfyn cael; a myfi wedi fyngwneuthur ar lun Duw yn enaid rhesymmol, ac yn gallu dirnad fynghyflwr fy hyn, a chael cynnyg i mi drugaredd cyn fynyched, ac ymbil a myfi am ei dderbyn, yn gwrthod rhâd Duw, ac yn dewis dilyn trachwantau pechod o flaen crefydd dduwiol i ryngu bodd Duw: fy amser byrr a dreuliais yn ddiriaid, heb ystyried pa gyfrifon a fyddai raid i mi roi yn y dydd diwedd. ac yn awr holl feluswedd fy mywyd pe cesclid ynghyd, ni chystadlei y rhan leiaf om poenau presennol. y llawenydd a gefais nid oedd ond amserol, ac a ddarfu cyn i mi yn brin ond ei ddechreu: fy nhrueni sydd dragwyddol a di-drangc. O na ddarfuasai i mi dreulio yr amser, a fwriais yn ofer yn chwarau cardiau, disiau, a chwaryddiaeth, a'r cyffelyb helynt ddiffaith, yn darllain yr Scrythrau,

Page 45

yn gwrando pregethau, yn derbyn y cymmun, yn wyto am fy mhechodau, yn ymprydio, gwilio, a gweddio, fal y gallaswn i yr awr hon ymadel mewn gobaith diogel o iechydwriaeth tragwyddol! O na bawn yn awr i ddechreu fy mywyd drachefn, oh fel y diystyrwn y byd hwn a'i oferedd! mor bûr ac mor fucheddol y byddwn fyw, mor fynych yr awn i'r Eglwys i san∣cteidio dydd yr Arglwydd! Ped fai Satan yn cynnyg i mi holl drysor, diddanwch, a goruwchafiaeth y byd hwn, ni chai efe fyth fy hudo i anghofio y gofidian hyn yn yr awr ddiweddaf. O gorphilyn llygredig, a burgyn drewllyd, pa fodd y chwaràdd diafol hudo∣liaeth a nyni ein dau? Pafodd y darfu i ni wasanaethu, a thwyllo bôb vn y llall? a thynnu damnedigaeth greulon arnom ein deuwedd? yr awrhon y mae fyngyflwr yn fwy grefynus nâ 'r anifail sy'n trigo yn y ffòs; o herwydd y mae yn rhaid i mi fyned i atteb ger bron brawdle cyfion farnwr nef a daiar: lle ni chaf fi neb i ddadleu drosof, ar diawliaid melldige∣dig yma, y rhai fy gydnabyddus am holl ddrwg weithredoedd a fydddant i'm cyhuddo, ac ni allaf fy escusodi fy hûn, y mae fyngalon fy hûn eusys yn fynghyhuddo, yr wyf yn sicr o gael damnedigaeth o flaen yr orseddfainge, ag oddiyno fy llusgo gán gythrauliaid vffernol, i'r caethiwed anrhaethadwy, a'r poenau didrangc o'r tywllwch eithaf: lle ni chaffi weled mor goleuni mwyach, y peth godidawg cyntaf a'r a wnaeth Duw. myfi yr hwn ym mhlaen llaw oeddwn yn ymogoneddu fy mod yn rhyddwas, ydwyf yr awr hon gwedi fyngwarcháu tan grafangau Satan: fel y betris ddychrynllyd o fewn sbagau y gwalch rheibus. Ym há le y caf etty heno? a phwy a fydd yn gyfeilion i mi? o ddychryn i feddwl am dano! o ofid iw ystyried! ô melldithier y dydd yn yr hwn im ganwyd, na fydded y dydd y beichiogodd fy mam arnaf yn fendigedig, melldigedig fyddo'r dyn a

Page 46

ddywedodd wrth fy nhâd fe aned i ti fab, ac a'i cy∣ssurodd. melldigedig a fyddo y gwr hwnnw, am nas lladdasei fi: O na buasei grôth fy mam yn fêdd i mi, neu na buasai ei chròth byth heb escor. O pa ham i daethym o'r groth i ddioddef yr vffernol arteithiau hyn? ac fal hyn i ddibenu fy nyddiau trwy gywilydd tragwyddol. Melldigedig fo 'r dydd im cysylitiwyd ar fath gorph drygionus. O na allwn gael cymmaint ffafr, ac na chawn weled mo honot ti fyth mwyach; y mae ein ymadawiad ni yn dra chwerw, ac yn alarus, eithr ein hail gyfarfod, ar y dydd ofnadwy hwnnw i dderbyn cyflawndra ein haeddedigol ddialedd, a fydd o lawer mwy echrys ac annoddesusach. Ond beth yr wyf iw feddwl fal hyn, wrth alarnad rhyhwyr yn ceisio oedi yr amser? fe ddaeth yr awr ddiwa∣ethaf: yr wyf yn clywed llinynnau y galon yn torri, y mae 'r ty pridd hwn yn cwympo ar fy mhen; nid oes yma na gobaith, nac ymwared, na lle i drigo yn hwy, y mae yn anghenrhaid i mi gychwyn. Tydi ys∣gerbwd budr: oh ysgerbwd budr, yn lle bydd wych, bydd waeth, my fi a'th adawaf: ac felly dan grynu, y mae fe yn dyfod allan, ac yn ddisymmwth y mae 'r dreigiau vffernol yn ymaflyd ynddo, ac yn ei ddwyn yn nerthol Mal llif cornant i'r pwll heb waelod, yr hwn sy'n llosci o dân a brymstân: lle yr ydis yn ei gadw mewn carchar poenedig, nes y byddo y dydd mawr ar farn gyffredinol. Yn ôl hyn y rhoir yr scerbwd drgsawr yn y bêdd, yn yr hon weithred gan mwyaf, y mae 'r meirw yn claddu y meirw: hynny yw, y rhai ydynt farwol mewn pechod a glad∣dant y rhai â fuont feirw am bechod. Ac fal hyn yr anuwiol ar bydoi di-ailgenedledig, yr hwn a wna∣eth y ddaiar yn beradŵys iddo ei hûn, ei fol yn Dd∣uw, a'i drachwant yn gyfraith: mal y darfu iddo ef yn ei sywyd hau gwagedd, felly yr awrhon wedi ei farw, efe à feda drueni. Yn ei wynfyd efe a esceu∣lusodd

Page 47

wasanaethu Duw, yn ei adfyd y mae Duw yn ei necau yntau o'i gymmorth, a'r cythraul yr hwn y bu ese yn hir yn ei wasanaethu, sydd yn awr or diwedd yn talu iddo ei gyflog. Ffiaidd oedd ei fuchedd, melldige∣dig ei farwolaeth. Y cythraul a gafodd ei enaid, ar bedd ei gorphilyn; yn yr hwn sybwll o lygredigaeth, ogof marwolaeth, daiardŷ galar, y gydwn y diffeithwas anheilwng yn pydru, a'r safn ynllawn pridd, ei fol yn llawn pryfed, a'i barwyden yn llawn drygsawr, yn disgwyl adgyfodiad ofnadwy, pryd yr adgysylltir a'r enaid; fel megis y cyttunasant au gilyd i wneuthur pechod, felly y cânt gyd-boenydio gyd a'i gilydd yn dragwyddol.

A hyn am drueni yr enaid a'r corph wrth farw, yr hyn nid yw ond melldith mewn. rhan: Bellach y canlyn cyflawnder melldith, yr hyn yw trueni yr e∣naid a'r corph yn ôl marwolaeth.

Myfyrdod am drueni dyn yn ol marwolaeth, yr hyn yw cyflawnder melldigedigwrydd.

CYflawnder melldigedigrwydd (pan syrthio ar greadur, ni allo oddef ei bwys) sydd yn ei wthio ef i lawr i ddyfnder diwaelod digofaint ani∣bennus yr oll alluog Dduw, Luc. 16.23. yr hwn a elwir damnedigaeth uffern, Matt. 23.33. y cyflawn felldigedigrwydd hwn sydd naill a'i neull∣tuol, a'i cyffredinol.

Neulltuol ydyw, (yr hyn mewn mesur llai o gyfla∣wndra) sydd yn discyn a'r yr enaid yn ddi atteg, hwy'n gyntaf ac yr ymwahano ef oddiwrth y corph.

Oblegid yn y munyd yr ymadawo, y mae'n bre∣sennoll yngŵydd ac yngolwg Duw. Canys pan ballo ganddo ef weled a'i lygaid corphorol, gweled a wna mewn môdd ysprydol: fel Stephan, yr hwn a welodd ogoniant Duw, ac Jesu yn sefyll ar ei dde∣haulaw,

Page 48

Act. 7.5. Neu fal gŵr a aned yn ddall, ac ni welsai ddim erioed, wedi cael ei olwg drwy fawr wrthiau, yn gweled yr haul, yr hwn ni wes∣sai erioed or blaen. Ac yno trwy dystiolaoth ei gydwybod ei hûn, y mae Crist y barnwr cyfion yr hwn sy'n gwybod pob peth, yn peri iddo (drwy ei anfeidrol allu) ddeall y gôsp a'r farn sydd ddy∣ledus iddo am ei bechodau, a pha gyfryw fydd ei helynt dragwyddol. Ac yn y modd hyn yn sefyll yngolwg y nef, ac yn anghymmwys o herwydd ei aflendid i fyned i'r nef; yr ydis yn dywedyd ei fod yn sefyll ger bron gorseddfaingc Duw. Ac yno yn ddisymmwth y mae 'r angylion drwg, y rhai a ddaethant iw gyrchu, yn ei ddwyn bendramwnwgl i uffern; lle y cedwir ef yngharchar mewn tragwyd∣dol boenau beunyddiol, nes dyfod y farn fawr yn y dydd ofnadwy: eithr nid yn y dygn boenau eithaf, y rhai a dderbyn ef yn gwbl yn y dydd diwae∣thaf.

Cyffredinol gyflawnder melldith sydd mewn me∣sur helaethach o gyflawndra, yr hwn a ddiscyn ar y ddau, sef enaid a chorph; pryd y dygir (drwy alluog nerth Crist penbarnwr nef a daiar) un o uf∣fern, a'r llall allan or bêdd, megis carcharorion, i dderbyn barn ofnadwy yn ôl eu drwg weithredo∣edd. Dadc. 11.18. Dan. 12.1. Joa. 5.18. Pa fodd y bydd y gwrthodedig, pan fyddo 'r mor yn rh•••• ar ddaiar yn crynu, a nerth y nefoedd yn siglo, gan ddychryndod (oddiwrth yr arŵyddion nefol tû ac at ddiwedd y byd) yn amhwyllo. Oh pa fâth gyfarch alarus fydd rhwng yr enaid colledig a'r corph, wrth eu hail gysylltiad yn y dydd dychry∣nadwy! O sugnedd pechod, a mygn o fudreddi (medd yr enaid wrth ei gorph) pa fodd yr ydis yn fyngorthrechu i fyned drachefn i'th fewn di? nid me∣gis i gyfannedd i drigo, ond megis i garchar i be∣nydio

Page 49

ynghyd. O fel yr wyt yn ymddangos yn fy∣ngolwg fel merch Jephte i'm hanguriol gystudd! O Dduw na buasit ti byth bythol yn pydru yn y bêdd, fal nath welswn byth mwyach! O pâ wradwydd a ddygwn ni ynghyd, wrth glywed adrodd ar osteg o flaen Duw, dynion, ac Angelion, yr holl ddirgel bechodau y rhai a wnaethom ynghyd! a gollais i y nef, o wir gariad ar y fath furgyn drewllyd? a'i ty di yw 'r cnawd yn ol trachwantau yr hwn, yr ym∣roais i wneuthur cymmaint o odineb? O fol gwrthun pa fôdd y bum mor ffôl ath wneuthur di yn Dduw i mi? O mor wallgofus oeddwn redeg yn wysg fy mhen ir cystuddiau yma o boenau annibennus, er mwyn meddiannu llawenydd munudiol. Chwychwi greigiau a mynyddoedd, pa ham yr ŷch yn neidie fal hyrddod? Psal. 114.4. ac na chwympwch arnaf i'm cuddio rhag wyneb yr hwn sydd yn dyfod i eistedd a'r yr orseddfaingc accw? Oblegid y mae dydd mawr ei ddigo faint ef wedi dyfod, a phwy a ddichon sefyll? Datc. 6.16, 17. O ddaiar pa ham y cry∣ni, fal hyn wrth weled yr Arglwydd, ac nad agori dy safn i' m llyngcu i wared fel y gwnaethost â Cho∣rah, ac mal na 'm gwelid mwy?

O Ellyllon damnedig, mi a fynnwn pe gallech yn ddioed fy rhwygo i yn ddrylliau, dan ammod y drylliech fi oni'm gwnelid yn ddiddim. Eithr tra fŷch di, fal hyn yn ymofidio yn ofer, dros dy dru∣eni, yr Angelion a'th lusgânt di ymmaith yn styr∣nig, o ymmyl dy fêdd i ryw le cyfagos at frowdle Crist, yn yr hwn le tra fych di fal gafr felldigedig, wedi dy ddidoli i sefyll i wared ar y ddaiar, megis ar law asswy y barnwr, fe gyfrif Crist ar gyhoedd yr holl ddoniau a dywalltodd arnat, a'r holl arteithi∣an a ddioddefodd trosot, ar holl weithredoedd da a adewaist dithau heb wneuthur, a'r holl freiddra

Page 50

gwaharddedig a wnaethost yn ei erbyn ef a'i gyfrei∣thiau.

Dy gydwybod oddifewn, (yn waeth na mil o dy∣stion) a'th cyhudda: y cythrauliaid, y rhai a'th ddenodd di ith holl ddireidi drygionus, a fyddant o'r naill-tu efo ath cydwybod, yn dwyn tystiolaeth i'th erbyn: ar y tu arall y saif y Seintiau bendige∣dig a'r Angelion i gydbrofi cyfiawnder Crist, gan ffieiddio creadur mor aflan. Oth ol swn echry∣stawn aneirif gyfeillion colledig, a damnedigion gre∣synol yn aros am dy gyfeillach. Oth flaen di yr holl fyd yn llosci yn fflam o dân; goruwch dy ben di y bydd y Barnwr llawnddig a chôsp haeddedigol yn barod i adrodd y farn ith erbyn. Oddi tanat ge∣nau gwreichionllyd y gauffwrn ddiwaelod yn ago∣red i'th dderbyn. Yn y cyflwr gresynol hwn, fe fydd amhonibl iti ymgadw, o blegit dan yr ammod hon∣no, ti a fynnit pe cwympei y graig fwyaf ar dy uchaf, Dad. 6.16, 17. Ymddangos a fydd anesco∣rol itti, ac etto y mae 'n rhaid i't sefyll allan gyd a'r colledigion eraill i dderbyn y farn hon arnad, sef, Ewch oddiwrthif chwi felldigedig i'r tân tragwy∣ddol, yr hwn a ddarparwyd i ddiafol ac iw angeli∣on, Mat. 25.41.

Ewch oddiwrthif] dyna neullduaeth oddiwrth bob gorfoledd a dedwyddwch.

Chwi felldigedig] Dyna yr yscymundod creu∣londdwys. Ir tân] dyna greulonrhwydd, Tragwy∣ddol] dyna barhâd y poenedigaeth. A ddarparwyd i ddiawl ac iw angelion] dyna 'r penyd uffernol, a'r penydwyr. O farn fnadwy rhag yr hon ni eill y rhai damnedig mor diangc! yr hon pan adrodder, ni ellir byth ei throi yn ei hôl; yn erbyn yr hon ni ellir bwrw escusodion; oddiwrth yr hon ni ellir my∣ned i fan arall i achwyn, nac i appelio. Felly nid oe i'r rhai colledig ddim i, ddigwyddo, ond poenau u∣ffernol,

Page 51

y rhai a fydd heb esmwythau 'r penyd, na dibennu 'r amser. Oddiwrth yr orseddfaingc hon, rhaid ir angelion dy daslu di (ynghyd ar holl gythreuliaid dammedig ar gwrthodedigion) i'r pwll heb waelod, ar tywyllwch eithaf, yr hwn sy'n llosci o dân a brwmstân yn dragwyddol, Dat. 21.8. Ir fan hon cyn gynted ac ith teflir, ti gei glywed y fâth alar, wylofain, ac ocheneidiau, nad oedd gwaedd Corah, Dathan, ac Abiram pryd eu llyncodd y ddaiar hwynt ddim tebyg ir vdfa yma: nagê wrth glywed yr oernad yma, ti a debygit dy fod yn yffern cyn dy fod yno.

Yn yr hwn bwll heb waelod, gwedi unwaith dy fwrw, ti a fyddi yn syrthio bob amser, ac er hynny byth heb gael gwaelod: ac ynddo y byddi byth yn cwynfan heb neb a dosturio wrthit: ti a wyli yn ddi∣baid gan angerdd poenau y tân, ac etto dy ddannedd a grŷn rhag maint yr oerfel: ti a wyli wrth fe∣ddwl fod dy drueni yn ddi-ymwared: ac a wyli wrth feddwl na wna edifairwch ddim lleshâd: Ti a wyli wrth feddwl, pa wedd am gysgodau o ddi∣fyrrwch byrr, y darfu i't syrthio i ofidiau poenau tragwyddol: ti a wyli wrth weled na eill wylofain y chwaith itti ronyn lleshâd: iê ac yn wylo ti a wy∣li ychwaneg o ddagrau nâg sydd o ddwfr yn y môr, oblegid y mae dwfr y môr yn beth terfynol, eithr wylofain y gwrthodedig a fydd an-herfynol.

Yno y caiff dy lygaid serchogaidd eu cystuddio wrth edrych a'r ysprydion erchyll: dy glustiau mo∣ethusglyw eu dychrynu gan oernad y cythrauliaid yn vdo, a rhingcian dannedd y gwrthodedigion po∣enedig: dy drwyn meindlws a gaiff ei lenwi a dryg∣sawyr drewedig frwmstan: dy archwaeth dewisol a boenir â newyn anguriol, dy gêg feddw a sŷch gan syched anniffoddadwy: dy feddwl a gystuddic wrth gofio mai o ferch i ddifyrrwch amserol, yr

Page 52

hwn sy 'n dislannu cyn blodeuo, y buost mor ynfyd, a cholli y llawenydd nefol, a rhedeg yngwysc by ben ir poenau vffernol, y rhai a barhânt tu hwnt i drag∣wyddoldeb. Dy gydwybod yn oestadol a'th frath di pan fyddyliych, mor fynych y darfu i Grist trwy ei bregethwyr gynnig iti faddeuant am dy bechodau, a chynnig teyrnas nefoedd i ti yn rhwydd ac yn rhad, os ty di a wnait gymaint a chredu ac edifarhau: ac mor hawdd y gallysit ti dderbyn trugaredd yn y dyddiau hynny; mor agos a fuost lawer gwaith i edi∣farhau, ac etto fe ddarfu iti gynnwys i'r byd dy gadw yn anediferiol; ac yn awr fal y mae dydd y drugar∣edd wedi myned heibio ac ni lewyrcha byth dra∣chefn.

O fal y bydd dy ddealltwrieth ar bigau dûr, wrth ystyried, ddarfod i ti o chwant i gyfoeth darfodedig, golli y trysor tragwyddol, a chyfnewid dedwyddwch nef am drueni vffern! Lle bydd pob rhan o'th gorph (heb na thorr na thrai a'r boenau) yn cael yn vn ffunyd eu penydio yn dragywydd. Yn y Penydiau vffe∣rnol yma, fe a'th ddifuddir yn dragwyddol ô olwg bendigedig yr Arglwydd, yn yr hyn y mae gwir ddawn a bywyd yr enaid yn sefyll. Ni chei di fyth weled goleuni, nac un golwg ar lawenydd, ond gor∣wedd mewn tragywyddol boenau y tywyllwch eithaf. lle na bydd trefn ond dychryndod; na llais ond llais cablwyr, a rhai yn vdo; na sŵn ond sŵn y poenau, ar penydwyr; na chymdeithas, ond gyd â diafol ai angelyon: y rhai gan eu bod mewn penyd eu hun∣ain, ni allant gael dim llonyddwch ond porthi eu cynddaredd yn dy bennydio di. Lle bydd poene∣digaeth heb dosturi, trueni heb drugaredd, alaeth heb gymmorth, gweiddi heb ddisdewi, aflonydd heb fesur, cystudd heb esmwythdra, lle mae y prŷf heb farw, a'r tan heb ddiffoddi: lle bydd digofaint Duw yn ymaflyd a'r dy enaid a'th gorph, fal y

Page 53

fflam dân ar y pŷg a'r brwmstan: yn yr hon ti a gei losci yn oestadol, a byth heb ddarfod, marw beunydd, a byth heb farw, beunydd yn ymrwyfo mewn gofidiau angau, a byth heb gael gwared o honynt, nac adnabod diben a'r dy boenau. felly pan ddarfyddo i ti eu dioddef hwynt rif••••i mil o flyny∣ddoedd, am bob mil o welltglas sydd ar y ddaiar, neu dywod ynglan y môr, nid wyt ti o ronyn nes i gael diben a'r dy boenau, na 'r awr gyntaf i'th tafl∣wyd iddynt: iê y maent cyn belled oddiwrth ddi∣weddu nad ŷnt hwy ond dechreu beunydd. Ond pe bai yn ôl mîl filiwn o flynyddoedd obaith y cai dy enaid colledig ddibendod ar y penydiau hyn, ê fyddai hynny beth cyssur, feddylied fod ryw amser y diwedd i ddyfod: either cyn fynyched ac y byddo 'r meddwl yn cofio y gair yma byth, dyna vffern arall ynghanol vffern.

Y meddylfryd hwn a bair i'r colledig weiddi ouai, ouai, cymaint a phe dywedent ouc aei, ouc aei. O Arglwydd nid byth, nid byth, eu cydwybod a'i het∣tyb fal y gareg lefain, aei, aei, byth. byth. oddy∣ma y cyfyd eu tostur Ouai, sef, gwae, ac ôch yn dra∣gywydd.

Dyma yr ail farwolaeth, sef yr union gyffredinol gyflawnder o'r holl felldithrwydd a thrueni: yr hyn sydd raid i'r holl gwrthodedigion colledig ei ddiodd∣ef, tra fyddo Duw a'i seintiau yn gyfrannog o ogoni∣ant a dedwyddwch nefol yn dragywydd.

Hyn yma am drueni dŷn ynghŷflwr llygredi∣gaeth, oddieithr ei adnewyddu drwy râs Ynghrist.

Yn ôl hyn i canlyn gwybodath am fywyd dŷn, o herwydd grâdd ei adgenedliad trwy Grist.

Page 54

Myfyrdod am gyflwr Cristion gwedi ei gymmodi a Duw yn Ghrist.

YR awrhon gadewch i ni weled, mor ddedwydd yw y gr duwiol mewn cyflwr o adnewyddiad wedi ei gymodi á Duw ynghrist. Y gŵr duwiol yr hwn sydd a'i natur lygredig gwedi ei adnewyddu trwy râs ynghrist, ac a wnaethpwyd yn greadur newydd, sydd fendigedig o herwydd tri pheth. Yn gyntaf, yn ei fywyd. Yn ail, yn ei farwolaeth. Yn drydydd yn ôl ei farwolaeth.

1. Ei ddedwyddwch yn ei fywyd, nid yw ond mewn rhan, hynny a gynhwyfir mewn saith o be∣thau.

Yn gyntaf: O ran ei fod wedi ei ymddwyn trwy'r ysbryd, ynghrôth ei fam, sef yr eglwys. Ioa. 3.5. Gal. 4.26. ac fe â aned, nid o waed, nac o ewyllys y cnawd, nac yn ôl ewyllys dŷn eithr o Dduw Joan. 1, 13. yr hwn Ynghrist ydyw ei dâd ef: fel y mae llun Duw ei dâd, yn adnewyddu ynddo ef ar gynnydd fwyfwy beunyddiol.

2. Yn ail: efe a gafas yn rhâd, ac yn gyflawn, er mwyn haddedigaethau dioddefaint Crist faddau iddo ei holl bechodau, gwreiddiol a gweithredol, a'r euogrwydd, a'r cospedigaeth a ddigwydd iddynt: a holl gyfiawnder Crist â gyfrifir yn rhwydd ac yn gyflawn iddo: ac felly y mae Duw wedi vno atto: ac yn ei weled yn ddifai ac vnion yn ei olwg, a'i gy∣frif. Rhuf. 4, 7, 8, 25.

3. Yn drydydd, y mae efe gwedi ei ryddhau od∣diwrth gaethiwed Satan, a'i wneuthur yn frawd i Grist, ac yn gydetifedd i feddiannu teyrnas nefoedd: yn ysprydol frenin ac offeiriaid, i offrymmu aberthau ysprydol i Dduw trwy Iesu Crist. Rhuf. 8, 17. 1 Pet. 2, 5.

Page 54

4. Yn bedwerydd, y mae Duw yn ei arbed ef fel yr arbed dŷn ei fab ei hun a fai yn ei wasanaethu, ar ar∣bed yma sy'n sefyll fal hyn.

1. Nid yw Duw yn dal sulw ar bob bai, eithr yn cyd-ddwyn a'i wendid: Exod. 34.6.7. Ni theiff Tâd caredig ei fab allan ir drws yn ei gle∣fyd.

2. Nid yw yn ei gosbi pan ei ceryddo, yn ol ei haed∣dedigaeth, Psalm. 103.10.

3. Y mae ef yn ei geryddu ef yn gymmedrol, pan welo nad oes dim arall a eill beri iddo ef well∣hau ei fuchedd, 2 Sam. 7.14, 15. 1 Cor. 11.2.

4. Y mae ef yn rasusol yn derbyn ei ewyllysgarwch, er bod ei vfudd-dod yn amherflaith: ac felly yn dewis amcan ei feddwl, o flaen teilyngdod ei weithr∣ed, 2 Cor. 8.12.

5. Y mae efe yn troi y melldithiau a haeddodd ef yn geryddon tadoi; ie pôb peth, gofidiau y bywyd, marwolaeth, ie hyd yn oed ei bechodau, yn ddaioni iddo. Rhuf. 8.28. Psal. 119, 71.

V. Y mae Duw yn rhoddi iddo ef ei ysbryd glân, yr hwn sydd,

  • 1. Yn ei sancteiddio trwyddo a'r gynnydd, hyd oni byddo fwyfwy yn marw i bechod, ac yn byw i gyfia∣wnder. Rhuf. 8, 10.
  • 2. Yn sicrhau iddo ei fabwysiad: sef, ei fod ef trwy ras yn blentyn i Dduw. Rhuf. 8.16.
  • 3. Yn ei gyssuro ef, i ddyfod mewn hŷfdra, ac ymmddiried ger bron Duw. Ephes. 3, 12.
  • 4. A wneiff iddo yn ddiofn ddywedyd Abba Dad Gal. 4, 6.
  • 5. A dywallt iw galon ef ddawn gweddi sancteid∣dedig. Rhuf. 8.26.
  • 6. Yn ei roi i goelio ei fod efe, a'i weddiau yn gymeradwy, ac yn cael ei wrando gan Dduw

Page 54

  • ... 〈1 page duplicate〉〈1 page duplicate〉

Page 55

  • ... 〈1 page duplicate〉〈1 page duplicate〉

Page 56

  • er mwyn Crist ei gyfryngwr. Rhuf. 8.16, 7.
  • 7. Yn ei lenwi ef
    • 1. A heddwch cydwybod.
    • 2. Allawenydd yn yr Yspryd glân: iw cyffelybu ir hwn, nid yw pob llaw∣enydd daiarol ond gwael ac ofer yn ei olwg ef. Rhuf. 5.1. ac pen. 14, 17.

6. Y mae ef yn cael ei lywodraeth o newydd ar y creaduriaid, yr hyn â gollasai wrth gwymp Adda: ac o hynny y mae iddo lawn rydd-did i fwynhau yr holl bethau nis gwaharddodd Duw, mal y gallo eu trin a chydwybod dda. O blegit y mae iddo sicr∣wydd diogel yn y bywyd hwn o wir gyfiawnder yn yr holl bethau yn y nef, ac ar y ddaiar. Ac efe a geiff gyflawn heddychlawn feddiant o hon∣ynt yn y bywyd sydd i ddyfod. Psal. 8.5. 1 Cor. 3.22.

O hyn y digwydd nad yw'r holl rai gwrthodedig ond trawsgeidwadau ar y cwbl oll maent yn eu feddu, o ran nid oes iddynt gyfannedd oi heiddaw eu hunain ond vffern. Act. 1.25.

7. Y mae iddo ef sicrwydd o dadol ofal Duw, iw ymddiffyn ddydd a nos: yr hwn ofal sydd yn sefyll yn y tri pheth hyn. sef,

Yn gyntaf, yn darparu iddo holl angenrheidiau ei enaid ai gorph, yn y byd hwn ac yn y byd a ddaw: fel y bo efe yn siccr naill a'i i gael ei gyfraid, neu i gael dioddefgarwch i fod yn fodlon ir hyn sydd gan∣ddo. Math. 6.32.

Yn ail, am fod Duw yn rhoi iw Angelion san∣ctaidd or chymmyn megis îw wenidogion, i wilio arno ef yn ddyfal, er mwyn ei ddaioni; ie mewn perigl i wersyllu o'i amgylch o ran diogelwch iddo ym mha le bynnac y byddo. Ie cymmorth Duw

Page 57

a'i hymddiffyn ef, mal cwmmwl liw dydd, ac fal colofn o dân liw nos, a'i ragluniaeth a'i ceidw oddi amgylch rhag gallu y cythraul. Psal. 34, 7. Job. 1.10.

Yn drydydd, am fod golwg yr Arglwydd arno, a'i glustiau yn oesdadol yn barod, i weed ei gyflwr, ac i wrando ar ei gwynfan, ac yn ei amser nodedig, iw waredu ef allan o'i holl orthrymderau.

Hyd yn hyn am fendigedig gyflwr y duwiol, ar dŷn adgenedledig yn y bywyd yma: bellach am ei fendigedig stât yn ei farwolaeth.

Ystryriaeth am wynfydedig gyflwr y dyn adgenedledig yn ei farwlaeth.

PAn ddanfono Duw angeu, megis ei gennad i gyrchu y dyn adgenedledig, y mae ef yn dy∣fod iw gyfarfod hanner y ffordd ir nefoedd; canys y mae ei serch a'i ymarweddiad yno o'i flaen ef. Phil. 3.20. nid yw Angeu na dieithrol nac ofnad wy iddo. Nid yw ddieithrol, o blegid yr oedd efe yn marw beunydd; nac ofnadwy, o ran tra fu fyw, marw ydoedd, a'i fywyd a guddiwyd gyd â Christ yn Nuw. Col. 3, 3. Marw gan hynny iddo ef, nid yw ddim amgen onid gorphywyso oddiwrth ei boen yn y bŷd, a myned adref i dŷ ei dad, i ddinas y Duw byw, i Ierusalem nefol, i blith myrddiwn o Angelion, i'r gynulleidfa gyffredinol, i Eglwys y cyntafenedig, at Dduw barnwr pawb oll, at ysprydion y rhai vnion a berffeithiwyd, at Iesu Cyfryngwr y Testament newydd. Heb. 12.22, 23. Tra fo ei gorph yn glaf, y mae ei fed dwl yn iach, o herwydd bod Duw yn gwneuthur ei wely oll yn ei glefyd, Psal. 41, 3. ac yn ei gryfhau ef â ffydd ac â dioddefgawch ar wely ei dristwch.

Page 58

a phan fyddo yn cychwyn myned i ffordd yr holl fyd; y mae ef (mal Jacob, Moses, a Josuah) yn rhoi cyngor ac athrawiaeth dduwiol iw blant a'i gyfneseifiaid, i wasanaethu y gwir Dduw, a'i anrh∣ydeddu yn vnion holl ddyddiau eu heinioes. Ei enaid bendigedig, ni anadla allan ddim ond bendithion, a'r cyfryw ymadroddion ag a fo arnynt flâs oddiwrth yspryd sancteiddiedig. Megis y mae ei ddŷn ef oddiallan yn gwanhau; felly y mae eî ddŷn ef oddimewn yn cynnyddu, ac yn cryfhâu. Pan fo ymadrodd ei dafod ef yn pallu, y bydd o∣chneidiau ei galon yn llefaru yn vwch at Dduw. Pan fo golwg y llygaid yn tywyllu, y mae 'r Yspryd glân yn ei oleuo ef oddimewn a helaethrwydd ô oleu∣ni ysprydol. Nid yw ei enaid yn ofnus, eithr yn hyderus i fyned allan o'r corph, ac i drigo gyd a'r Ar∣glwydd. 2 Cor. 5.8. Y mae ef yn ochneidio mal Paul, Cupio dissolvi, Yr wyf yn deisyf fy nattod; a bod gyd a Crist, Phil. 1.23. Ac megis Dafydd, fel y sycheda yr hŷdd am ddyfrneint, felly y sycheda fy enaid am danat ti o Dduw: y mae fy enaid yn sychedu am Dduw, am y Duw byw, Pa am∣ser y caf ddyfod i ymddangos ger bron Duw? Psalm. 42.2. y mae ef yn gweddio gyd a'r Sein∣tiau, pa hyd o Arglwydd yr hwn ŵyt san∣ctaidd ac vnion? Tyred arglwydd Jesu, ty∣red chwyppyn. Dat. 22.20. A phan ddêi amser terfynedig ei ymddatodiad, pryd ei bo yn gwybod ei fod yn myned at ei Dad, a'i Waredydd, mewn heddwch cydwybod, a gobaith sicr o gael meddeuant o'i holl bechodau trwy waed yr oen, y mae ef yn canu mal yr hén Simeon fendigedig, ei Nunc dimit∣tis, Yr awrhon Arglwydd y gollyngi dy wâs mewn tanghneddyf yn ol dy air, &c. Luc. 2.29. ac a ddyru ei enaid megis a'i ddwylaw ei hun yn nwylaw ei Dad nefol, gan ddywedyd gyd â Dafydd: i'th

Page 59

ddwylaw di o Dâd yr wyf yn gorchymmyn fy enaid, o blegit ty di am gwaredaist: o Arglwedd Dduw 'r gwirionedd, Psal. 31.5. a chan ddywedyd gyd a' Stephen: Arglwydd Iesu derbyn fy ysbryd. Act. 7.59. cyn gynted ac y rhoddo ef ei yspryd bendigedig i fynu: yn ebrwydd y mae 'r Angelion sainctaidd (y rhai oeddynt yn gwilio arno ef o'i eni∣digaeth hyd ei farwolaeth) yn dwyn ei enaid i'r nef, fel y dygafant enaid Lazarus i fonwes Abra∣ham, yr hon yw Teyrnas Nefoedd; i fyned i'r hon y mae Angelion da, a gweithredoedd da yn unig yn cydymdeithio a'r enaid: y naill i roi i fynu y peth orchymmynwyd iddynt, a'r llall i gael eu gwobr.

Y corph mewn amser cyfaddas megis Teml sanctaidd yr Yspryd glân, âelod i Grist, pridwerth gwaed Mâb Duw, a esyd ei gydfrodyr yn barchedig i huno yn ei fèdd, megis yngwely Crist, mewn goba∣ith sicr o gael deffroi yn nydd adcyfodiad y cyfion, i fod efo a'r enaid yn gyfrannog o'r bywyd a'r go∣goniant tragwyddol. Ac o blegid hyn, fe elwir yn fendigedig nid yn ynig eneidiau y ffyddlonniaid eithr eu cyrph hefyd.

Hyn yma am y fendith sydd yn descyn ar enaid a chorph y dŷn adgenedledig yn ei farwolaeth. Ga∣dewch i ni weled ym mhellach pa ryw fendith sydd i ddilyn e'i enaid a'i gorph yn ol ei farwolaeth.

Myfyrdod am gyflwr bendigedig y dynadgenedledig yn ol ei farwolaeth.

Y Cyflur yma sydd a thair grâdd arno.

Yn gyntaf o ddydd marwolaeth hyd yr adcy∣sodiad.

Yn ail, o'r adcyfodiad hyd oni adrodder y farn.

Page 60

Yn drydydd, yn oly farn, i barhau yn dragy∣wydd.

Cyn gynted ac y darfyddo i'r dŷn adgenedledig roddi ei enaid i fynu i Grist, y mae 'r Angeli∣on sanctaidd yn ei dderbyn iw cadwraeth, ac yn ddi-atteg, yn ei ddwyn i'r nef; ac yno yn ei roi yn anrheg gar bron Crist: ile yr ydis yn ei goroni, a choron cyfiawnder, a gogoniant. 2 Tim. 4.8. Dad. 2.10. nid yr hon a haeddodd o herwydd ei weithredoedd da, ond yr hon a addawodd Duw o'i ddaioni haelionus i'r rhai oll o wîr gariad arno, yn y byd hwn a'i gwasanaetho ef, ac a geisio ei ogoniant. Oh pa ryw lawenydd a fydd hynny i'th enaid ti! yr hwn ni bu arferedig o weled dim ond trueni pechaduriaid, gael gweled wyneb brenin y gogoniant! Iê gweled Crist i' th croe∣sawu, cyn gynted ac i'th ddygir di o'i flaen, gan ei An∣gelion sanctaidd; a'i groesaw yw hyn, euge bone serve: sef yw hynny, da gwnaethost, croesaw wâs da a ffydd∣lon, &c. dos i mewn i lawenydd dy Feistr: a pha ryw or∣foledd a fydd itti weled mil miliwn o Cerubiaid, Ser∣aphiaid, Angelion, Gorseddfeingciau, Arglwyddia∣ethau, Tywysogaethau, Galluogrwydd? Ephes. 1.21. Yr holl Patrieirch sancteiddiol, Prophwydi, Offei∣riaid, Apostolion, Merthyron, Cyfaddefwyr: a holl eneidiau dy gymdeithion, cyfneseifiaid, gwyr, gwragedd, a phlant, ar cwbl oll o So∣intiau Duw, y rhai a ymadawsant o'th slaen di mewn gwir ffydd Grist, yn sefyll ger bron gorsedd∣saingc Duw mewn anrhydedd a gogoniant? Os oedd brenhines Sheba, wrth weled rhwysc ac vr∣dduniant Salomon, o wir syndod yn dywedyd: dedwydd yw dy wŷr, dedwydd yw dy weision, y rhai sydd yn sefyll oth flaen, i glywed dy ddoethineb: pa la∣wenychu a wna dy enaid ti, wrth ei weled ei hûn wedi cael ei gynnwys i fod ym mhlith y gynulleidfa

Page 61

ogoneddus yma, i edrych ar fendigedig wyneb Crist, i ddirnad nerth ei ddoethineb? Pa ryw anrhydedd a fydd i't wrth weled cynifer mil o filoedd sydd yno, yn dy groesawu di iw nefol gymdeithas! Canys fel yr oeddynt oll yn llawenychu pan droist i edifarhâu; felly yr awrhon y maent hwy yn lla∣wenach wrth weled dy goroni, ac wrth dy ganfod yn derbyn y goron yr hon oedd ynghadw itti oni ddelit. Oblegid yno ŷ mae Coron Merthyrdod iw gosod am ben y Merthyr a ddioddefod arteithiau er mwyn Efengyl Crist: Coron Morwyndod ar ben y Forwyn a orchsygodd Drachwant. Coron Du∣wioldeb a Diweirdeb, ar ben y rhai oedd yn go∣goneddu Crist yn union, ac yn cadw eu prio∣das yn ddi-halog: Coron gweithredoedd da, ar ben rhoddwyr elusênau, y rhai a fuant syber wrth dlôdion: coron y gogoniant dilygredig, ar ben y bi∣geiliaid, y rhai trwy eu pregethau, au ensamplau da, a droesant lawer enaid o lygredigaeth pechod i ogoneddu Duw mewn sancteiddrwydd buchedd. Pwy a ddichon adrodd yn helaeth faint gorfoledd y llu nefol yma, wrth dy goroni di â gogoniant, a'th drw∣siadu mewn disclaer wisc cyfiawnder, ac wrth we∣led Palmwydden buddugoliaeth yn dy law? o wyched sydd ganddynt ddarfod i ti ddiangc rhag holl drueni 'r bŷd, rhwydau y cythraul, a phoenau vffern; a chael o honot yn lle hynny orphywysfa a dedwy∣ddwch yn dragywydd? Oblegid y mae pawb yno yn ymhyfrydu cymmaint mewn happusrwydd vn a∣rall ac yn ei happusrwydd ei hun, a gweled un arall yn cael ei garu gen Dduw cystal a'i weled ei hun. Ie y mae ganddynt gynnifer o amryw fath ar Jawenydd, ac sydd iddynt o gyfeillion i gydlawen∣hau. Ac yn y gwynfydedig ar bendigedig gyslwr

Page 62

yma, y mae yr enaid yn gorphywys gyd â Christ yn y nef, hyd ddydd yr adcyfodiad: pan gyflawner nifer ei chydwasanaethwyr, a'i chydfrodyr yr hyn y mae 'r Arglwydd yn ei gyfrif yn amser byrr.

Yr ail râdd o ddedwyddwch dŷn yn ôl mar∣wolaeth sydd o amser yr adcyfodiad, hyd oni adrodder y farn ddiweddaf. O herwydd ar y dydd olaf,

1. Yr wybrennau defnyddol, y ddaiar ac oll sydd o'i mewn a ymddettyd, ac a burir a thân, 2 Pet. 3, 10, 12, 13.

2. Ar sain yr vdcorn diweddaf, neu ar lais Crist yr Archangel, yr vnrhyw gyrph ac â oedd gan yr etholedigion or blaen, (er en bod wedi eu troi yn bridd ac yn ddaiaren) a gyfyd drachefn. Ac yn yr vn munud, yr ail dychwel enaid pob rhyw ddŷn iw gorph ei hûn, trwy rinwedd adcyfodiad Crist eu pen; ac a adfywheir ac a gyfodir ou beddau, megis pod faent yn deffroi yn eu gwelau; 1 Cor. 15.52. 1 Thes. 4.14.16. Joa. 5.28. Ezec. 37. Rhuf. 8.11. a phâ wedd bynnac y darfu i erlidwyr creulon ddryllio eu cyrph hwynt yn ddarnau, neu eu difa yn vlw: etto fe gaiff yr Etholedig weled fod yn wir yn y dydd hwnnw: na syrthiodd blewyn o'u pen hwynt.

3. Hwynt hwy a ddeuant allan o'i beddau pob un o honynt, megis Joseph allan o garchar, neu Dani∣el allan o ffau y llewod, neu Ionah allan o fol y mor∣fil.

4. Gwedi bywhau mal hyn holl gyrph yr ethole∣digion hwy a godant yn y cyfryw berffeithrwydd na∣turiaeth ac y buasent yn ôl eu hardymêrwch ania∣nol, o buasent di anafus: ac yn y cyfryw oedran, a y bydd dŷn grymusaf ynghylch ei dair a'r ddêg a'r

Page 63

higain oed, pob vn yn ei ryw priodol ei hûn; yr hyn beth y mae 'r dyscawdwyr yn tybied fod yr Apostol yn pennodi atto yn y geiriau hyn: Oni ddelom ni eu gyd oll yn ddŷn perffaith ym mesur oedran cyflawn∣der Crist. Eph. 4.13. Tertul. de Resur.

Pa anaf bynnag oedd o'r blaen ar y corph, megis dallineb, neu gloffni, neu wargrymni, y pryd hynny fe dynnir ymaith. Ni bydd Jacob yn glôff, nac Isaac yn ddall, na Leah yn llygadŵyr, na Mephibo∣sheth yn glôff efrydd: Canys gan na fynnai Dafydd na dall na chloff i ddyfod iw dŷ, llai o lawer a fyn Crist o ddallineb a chloffni i aros yn ei gyfannedd ne∣fol. Fe wnaeth Crist yr holl ddeillion i weled, y mudiaid i lefaru, y byddariaid i glywed, ar cloffion i rodio, &c. ar â ddaeth atto ef i ofyn ei râs ar y ddaiar: mwy o lawer yr iachâ efe holl amherffeith∣rwydd y rhai a gymmero ef yn gyfrannogion o'i ogo∣niant yn y nefoedd. Ym mhlith y llwythau hynny, nid oes vn egwan, y dŷn cloff a neidia fel yr hydd, a thafod y dŷn mud a gân. Isay 35.6.

Ac y mae'n ddigon hysby sol wrth weled ddarfod i Dduw greu ein rhieni cyntaf ni, nid yn fechgyn nac yn henaf gwyr, ond yhghanol perffeithrwydd eu hoedran, y bydd yr anaplasis, sef y creadwria∣eth newydd gwedi marwlaeth, ym mhob modd yn breffeithiach na 'r plasis, sef y deunyddiad cyntaf ar ddŷn, o'r hwn y cwympodd ef i gyflwr marwol. Ac nid yw debygol, y gall mebyd, y hwn nid yw ond amherffeithrwydd, a henaint yr hwn sydd lygry∣digaeth, gydhuno yn dda â grâdd corph perssaith go∣goneddus.

5. Cyrph yr etholedigion wedi eu cyfodi mal hyn a gant bedair tra rhagrol goruwch naturiol rinweddau, o blegid,

1. Fe a'i cyfoir hwy mewn nerth trwy 'r hwn y galiant fod byth yn gadwedig rhag pob dflyg, a gwe∣ndid,

Page 64

ac yn gallu parhau heb arfer o fwyd, diod, neu gŵsc, a'r fâth gynhaliaeth. 1 Cor. 15.43.

2. Mewn anllygredigaeth trwy 'r hyn ni byddant byth digwyddedig i vnrhyw fâth a'r amherffeithrw∣ydd, anaf, clefyd, neu farwolaeth.

3. Mewn gogoniant, trwy 'r hwn y discleiria eu cyrph mor eglur ar haul yn y ffurfafen, a chwedi eu gwneuthyd mor amlygl, eu eneidiau a oleua trwy∣ddynt yn fwy gogoneddus o lawer nai cyrph. Math. 13.43. o'r hwn ogoniant yr ymddanghosod tri arwy∣ddlewyrch. y cyntaf yn wyneb Moses: Exod. 34.27. yr ail yn y cyfnewidiad ar ddull Crist yn y mynydd, ar trydydd yn wynepryd Stephen. Mat. 17. Act. 6.15.

Tri arwyddocâd diogel o ogoniant ein cyrph ar y dydd gogoneddus hwnnw. Yno y rhydd Dafydd heibio ei wisc bigeilaidd, ac a wisc am dano drwsiad mab y brenin, Jesu nid Jonathan. Yno pob mordecai cywir, yr hwn a alarodd dan sachliain cnawd llygre∣dig, a gaiff ei drwsiadu a harddwych wisc frenhinol: ac a gaiff Goron Ardderchawg ar ei ben, fel y gallo yr holl fyd weled fal y gwneir i'r hwn y mae brenhin y brenhinoedd yn ei anrhydeddu. Os gwna yr awrhon cyfodiad vn haul ir borau ymddangos mor ogoneddus; O mor ogoneddus a fydd y Dydd hwnnw, pan fyddo aneirif fyrdd fyrddiwn o gyrph y Seintiau, a'r Angelion, yn ymddangos yn oleuach nag eglurdeb yr haul! a Chorph Crist mewn gogoni∣ant yn rhagori arnynt oll.

4. Mewn escudrwydd neu gyflymdra, trwy 'r hyn y geill eu cyrph hwy ymgyfodi i gyfarfod yr Ar∣glwydd ar ei ddyfodiad gogoneddus yn yr awyr fel yr eryrod yn ehedeg at sclyfaeth. Math. 24.28.

At yr hwn esgudrwydd ar gyrph y Seintiau y mae 'r prophwyd yn pennodi lle y dywedodd, Esai. 40.31.

Hwy a wellhant eu nerth, ac ehèdant fel eryrod, rhedant ac ni flinant, rhodiant ac ni ddiffygiant. Ac at y

Page 65

flwr hwn y gellir cymhwyso y geiriau hyn o ddoethi∣neb: sef yn amser eu gweledigaeth y disclei∣riant, ac y rhedant yma a thraw, megis gwieichion mewn sofl.

Ac o herwydd y pedair cynneddfau hyn y mae Paul yn galw cyrph y rhai etholedig a gyfodwyd, yn ysprydol: o blegid mewn cynnedfau y byddant ys∣prydol, eithr yn unrhyw byth mewn sylwedd. 1 Cor. 15.46.

A pha wêdd bynnag y mae pechod a llygrediga∣eth yn y cyflwr marwol hwn, yn gwneuthur dŷn yn îs nac Augylion, etto diau pan gorono Duw ef â gogoniant ac anrhydedd, ni fedraf fi ddirnad pa fôdd y bydd dŷn mewn dim oll yn îs na'r Angelion. o blegid Ysprydion ydynt hwy▪ ac felly y mae dŷn hefyd o herwyddd ei enaid; iê a mwy na hynny, hwy a gânt gyrph ysprydol wedi eu ffurfi yn gyffe∣lyb i gorph gogoneddus yr Arglwydd Jesu Grist, Phil. 3.21. Yn yr hwn y mae natur dŷn gwedi ymdderchafu trwy undeb personol i ogoniant y Duw∣dod, ac i anwahanol gymdeithas y Drindod fendi∣gedig: yr hwn anrhydedd ni chennadhâodd ef eri∣oed iw Angelion. Heb. 2, 16. Ac o herwydd hyn y mae i ddŷn ragorfraint vwch eu llaw hwynt oll. Na∣gê, nid ydynt hwy ond ysprydion gwedi eu trefnu i fod yn wenidogion i'r etholedig. Heb. 1.14. a chynnifer o honynt ar y cyntaf a wrthwynebodd wneuthur hyn o swydd, ac ni chadwodd y drefn gyntaf osodedig, am eu balchder a daflwyd i lawr i vffern; Nid yw hyn yn lleihau teilyngdod yr Angelion, ond hyspysu faint yw cariad Daw tuag ddynaw! ryw.

Eithr am yr etholedigion, y rhai a fyddant yma yn fyw, ar yr ail dyfodiad disymmwth i Grist; Y ân yr hwn a lysc lygredigaeth y bŷd a'r gweith∣redoedd o'i fewn, mewn munud ar drawiad amrant llygad, a'i goddiwes hwynt lle y bôn, nill a'i yn

Page 66

malu, mewn melin rhagluniaeth, a'i yn rhodio rhyd meusydd difyrrwch, a'i yn gorwedd mewn gwelŷ llonyddwch, ac felly gen losci eu amhur∣edd a'i llygredigaeth, o gyrph marwol a'i gwna hwynt yn gyrph anfarwol, a hyn o gyfnewid a fydd iddynt hwy yn lle marwolaeth. 1. Cor. 15.51.

Yno y caiff yr enaid drwy lawenydd gyfarch ei gorph gan ddywedyd: Oh da ymgyfarfuom ni eilwaith fy chwaer anwyl, mor hyfryd yw dy lais, mor howddgar yw dy wynepryd, gwedi gorwedd cyhyd mewn agennau creigian, ac mewn dirgel lochesau 'r bêdd! Can. 2.14. yr wyt ti yn wir yn breswylfa cyfa∣ddas, nid yn vnig i mi i drigo ynot, ond y cyfryw vn y mae 'r Yspryd Glân yn gweled yn gymmwys genddo aros ynddo megis yn deml iddo yn dragywydd. Bellach y darfu gauaf ein holl orthr∣ymderau, llifeiriant ein trueni a sychodd yn hysb. Y mae cyrph ein etholedigion frodyr yn ymddangos yn ddiscleiriach na blodau 'r Lili ar y ddaiar: fe ddaeth yr amser i ganu Halleluiah, a llais yr vd∣corn a glywir yn ein tîr, Ty di a fuost fynghy∣farwr yngwaith yr Arglwydd, ac yn gyfaill i mi mewn erlidiau, a chammau, er mwyn Crist a'i Efengyl; yr awrhon y cawn ni fyned gyd a'i gilydd i lawenydd ein Harglwydd, Megis y dygaist y groes gyd a'm fi gynt, felly yr awrhon gyd â myfi y cei wisco y goron. Megis yr hauaist gyd â myfi yn helaeth mewn dagrau, felly yr awrhon, y medi yn he∣laeth gyd â myfi mewn gorfoledd. O bendige∣dig, iê tra bendigedig a fo 'r Duw daionus! yr hwn (tra fu y rhai gwrthodedig accw yn treu∣lio eu holl amser mewn balchder, chwantau cnaw∣dol, bwyta, yfed, a gwagedd halogedig) a roes i ni râs i gydtynnu a'i gilydd yn gwilio, ymprydio, a gwe∣ddio, yn darllain yr scrythyrau, yn cadw y Sabbôt∣hau,

Page 67

yn gwrando pregethau, yn derbyn y Cym∣mun sainctaidd, yn cynnorthwyo 'r tlawd; gan ar∣fer o weithredoedd Duwioldeb ym mhob gostyn∣geidyrwydd tu ac at Duw, a rhodio yn gydwy∣bodus i wneuthur yn ôl ein galwadigaeth tû ac at ddynion.

Yn y man ni chei di glywed sôn am dy bechôdau, o herwydd fe a'i maddeuir, ac a'i cuddir, Psal. 32.1. eithr pôb gweithred dda a wnaethost, er mwyn yr Arglwydd, a gyhoeddir ac a obrwyir. Llonna dy galon, o herwydd y mae dy Farnwr yn gnawd o'th cnawd, ac ascwrn o'th ascwrn dithau. Cyfod dy ben i fynu, a gwêl yr Angelion gogoneddus yma, megis llu o Gabrieliaid yn ehedeg attom, i ddywedyd i ni fod dydd ein ymwared wedi dyfod, Dan. 9, 21. Luc. 21.28. ac i'n trosglwyddo ni yn y cymylau i gyfarfod ein iachawdwr yn yr awyr. wele y maent hwy gar llaw: Cyfod gan hynny fyngholomen, fynghariad, fy mhryd ferth, a thyred ymaith. Can. 2, 13.17. Ac felly fel yr iyrchod neu geirw iavainc, y maent hwy yn rhedeg gyd a'r Angelion tu ag at Grist tros ddy∣chrynadwy fynyddoedd Bether.

6. Y byw ar meirw ynghyd, yn y modd hyn gwedi eu bywhâu au gogoneddu, a gynnullir allan o law trwy weinidogaeth sanctaidd Angelion Duw, o hôb cwrr a pharthau 'r bŷd, ac â gippir ynghyd yn y cymylau, i gyfarfod yr Arglwydd yn yr awyr, ac felly a ddeuant gyd ag ef, yn rhan o'i rwysg ogoneddus i farnu y colledigion a'r angelion drwg. 1 Thes. 4.17. 1 Cor 6.1, 3. Y deuddeg Apo∣stol a fyddant yn eistedd ar ddeuddeg gorseddfaingc (yn nesaf at Grist) i farnu y deuddeg llwyth, y rhai a wrthodasant wrando yr Efengyl a bregethwyd trwy eu gweinidogaeth hwynt. Ar holl Sein∣tiau mewn anrhydedd ac urddas, yn nesaf attynt hwythau, megis barnwyr hefyd i farnu yr angelion

Page 68

drwg, a dynion bydawl. Ac megis y derbynni∣odd pob vn o honynt yn y bywyd yma rás i fod yn chwannoccach nac araill, i osod allan ei ogoniant, ac yn ffyddlonach iw wasanaethu ef; felly y bydd eu gogoniant a'i gwobr hwythau yn fwy nag eraill yn y dydd hwnnw. 2 Cor. 9.6.

Y lle ar fan yr ymgasglant ynghyd at Grist, a'r lle yr eistedd Crist i farnu, a fydd yn yr awyr goru∣wch dyffryn Iehosaphat, wrth fynydd yr olewydd, yn gyfagos i Ierusalem, ar y tu dwyrain oddiwrth y Deml, fel y mae 'n debygol drwy bedwar o res∣ymmau.

1. Yn gyntaf, O blegid bod yr scrythur sanctaidd yn cynnwys cymmaint a hynny mewn geiriau hygoel: Joel. 3.11, 12. mi a gynnullaf yr holl genedloedd i ddy∣ffryn Iehosaphat, ac a ymresymma ag hwynt yno, Pâr ith alluogion ddescyn i lawr o Arglwydd, deffroed y cenhedloedd a deuant i fynu i ddyffryn Iehosa∣phat. O blegid yno yr eisteddaf i farnu y cenedloedd o amgylch. Jehosaphat o'i gyfieithu yw, yr Arglwydd a farn, a'r dyffryn hwn a gafodd yr enw yma, oddiwrth y fuddugoliaeth fawr a roes yr Ar∣glwydd i Jehosaphat, ac iw werin ar yr Amoni∣aid, Moabiaid a thrigolion mynydd Seir, 2 Cron. 20.1, 22, 26. Yr hon fuddugoliaeth oedd arwydd o'r fuddugoliaeth ddiwaethaf a rŷdd Crist y barnwr pennaf iw etholedigion, ar eu holl elynion yn y fan honno y dydd olaf, fel y mae 'r holl Iddewon yn ei ddeongli: Edrychwch Zachar. 14. 4, 5. Psal. 50.1.2, 3, 4, 5. Oll yn cyttuno y bydd y lle yng∣ŷlch yno.

2. Yn ail, O blegid megis y darfu ynghylch yno, groeshoelio Crist a'i draddodi i gywilydd cy∣hoeddus, felly vwch ben y lle hwnnw yr adcyfo∣dir ei ogoneddus orseddfaingc yn yr awyr, pan ddêl ese i ymddangos mewn Barn, i eglurhau ei

Page 69

fowredd a'i ogoniant. Canys y mae yn addas i Grist farnu y byd a barn gyfion yn y fan honno, lle y bu efe ei hunan yn cael ei euogfarnu, a'i gondemnio yn anghyfion.

3. Yn drydydd, O blegid gan weled y dan∣fonir yr Angelion i gasclu ynghyd yr etholed∣igion oddiwrth y pedwar gwynt, o'r naill gwrr i'r ne foedd i'r llall, y mae yn hawdd profi y bydd y lle y cynhullir hwynt oll ynghyd iddo, yn agos i Ierusalem, a dyffryn Iehosaphat: yr hon fan y mae y rhai sydd gyfarwydd ym messuryddiaetn y bŷd, yn adrodd ei fod yn gannolbarth wyneb y ddaiar: canys os y terfynau eithaf oddiwrth ba rai, a fydd pedwar cyrrau y byd, rhaid yw i'r ymgyfarfod fod ynghylch y perfydd-bwynt, sef, y ca∣nol.

4. Yn bedwerydd: O blegid i'r Angelion ddy∣wedyd wrth y discyblion: mai megis y gweisant hwy Grist yn ymdderchafu oddiar fynydd yr olewŷdd, yr hwn sydd vwchlaw dyffryn Iehosaphat: felly yr vn agwedd y daw ef i wared o'r nefoedd. Act. 1.9.10, 11, 12. Dyma feddwl Aquinas a'r holl Ysgolwyr, oddieithr Lombart ac Alexander Ha∣les.

5. Yn ddiwaethaf: pan fyddo Crist yn eistedd yn ei orseddfaingc ogoneddus, gyd â llawer miloedd o Seintiau, ac Angelion, yn llewyrchu yn oleuach na chynifer o Haulau mewn gogoniant, ac yn eistedd o'i amgylch: a chorph Crist mewn gogoniant a phryd∣ferthwch yn rhagori arnynt oll: y colledigion gwe∣di eu didôli, ac yn aros ar y ddaiar i wared; canys y llaw ddehau sydd yn arwyddocâu bendigedig, ar llaw aswy melldigedig gyflwr: Crist yn gyntaf a adrodd barn gollyngdod a rhyddhâd, a thragwy∣ddol fendith i'r etholedigion. Yn gyntaf, o her∣wydd wrth glywed hynny, y myn ef chwannegu

Page 70

gofid y gwrthodedig. Yn ail, i ddangos ei fod ef yn barottach i roi Trugaredd na Barn. Ac fal hyn o orseddfaingc ei Fawrhydi yn yr awyr (yngolwg ac yn ynglyw yr holl fyd) y datcan ef wrth ei etholedi∣gion: Deuwch chwi fendigedig blant fy nhâd, meddi∣ennwch y deyrnas a barotowyd i chwi cyn dechreuad y byd, &c. Mat. 25.34.

Deuch chwi] dyma ein bendigedig vndeb ni â Christ, â thrwyddo ef a'r holl Drindod.

Fendigedig] dyma ein rhyddhâd ni oddiwrth ein holl anwireddau, a'n cyflawn gynyscaeddu â grâs, a dedwyddwch.

Blant fy nhâd] dyma 'r Awdur oddiwrth yr hwn trwy Grist y mae ein hapusrwydd ni yn deil∣liaw.

Meddiennwch] dyma ein mabwysiad ni.

Y Deyrnas] gwelwch ein etifeddiaeth, a'n med∣diant.

A barotowyd] gwelwn ofal Duw dros ei ddewi∣sedig.

Er pan seiliwyd y byd] o rád, tragwyddol, an∣ghyfnewidiol etholedigaeth Duw!

Oh mor rhwymedig yw 'r enediau hynny i garu Duw, yr hwn o'i wir ew yllys da a'i arfaeth, a'i de∣wisodd ac a'i carodd hwynt, cyn iddynt wneuthur na da na drwg, Rhuf. 9, 3.

Canys yr oddwn newynog, &c.

O Ddaioni Crist, yr hwn sydd yn dal sulw ar holl weithredoedd ei blant, iw gwobrwyo hwynt am dan∣ynt! Pa faint yw 'r cariad sydd ganddo ef i gristianogi∣on truain, yr hwn sydd yn cymmeryd pob gweithred trugaredd a wneler iddynt hwy er ei fwyn ef, fel pe gwneuthid iddo ei hûn! Deuwch attaf fi, yn yr hwn y credafoch cyn i chwi fyngweled: 1 Pet. 1.8. yr hwn

Page 71

a garasoch, ac a geisiasoch mor ewyllyscar, a thrwy lawer o orthrymderau.

Deuwch yr awrhon o flinder i orphywys, o gy∣wilydd i ogoniant, o safn angau, i lawenydd bywyd tragwyddol.

Er fy mwyn i y difenwasant chwi, ich erlidiwyd, ac i'ch melldithiwyd.

Ond yr awrhon yr ymddengys i'r holl Esauiaid melldigedig accw mai chwi ydyw y gwir Iacbiaid, a gewch dderbyn bendith eich Tad nefol, a bendigedig y cewch fod. Eich tadau, eich mammau, ac'h cy∣nyseifiaid a'ch gwrthodasant, ac a'ch rhoesant ym∣maith, er mwyn fyngwirionedd i, yr hwn yr oedd∣ych▪ chwi yn ei faentumio: Ond yn awr fy Nhâd i a fydd yn Dâd i chwi, a chwi a gewch fod yn feibion ac yn ferched iddo yn dragywydd. 2 Cor. 6, 18.

Fe a'ch bwriwyd chwi allan o'ch tiroedd a'ch by∣wyd, ac ymadawsoch a'r cwbl er fy mwyn i a'm E∣fengyl, eithr fal y bo yn eglur na chollasoch môch ynnill, eithr ynnill wrth golli: yn lle etifeddiaeth a meddiannau bydol, chwi a gewch feddiannu gyd â myfi etifeddiaeth fyn neyrnas nefol, lle y cewch fod o herwydd cariad yn feibion: O herwydd braint genedigol yn etifeddion: O herwydd anrhydedd yn frenhinoedd, O herwydd sancteidd wydd yn offe∣iriadau. Ac chwi ellwch yn hyf fyned yr awrhon i'r meddiant, o blegid fyn Nhad a'i darparodd, ac a'i cadwodd i chwi er yr amser cyntaf y gysodwyd sail y byd.

Yn ebrwydd yn ol y farn hon o ryddhâd a bendith, y mae pob vn yn derbyn ei goron yr hon y mae Crist y barnwr cyfion yn ei roi am eu pennau, megis gwobr, yr hon â addawodd esc o'i râs a'i drugaredd, i ffydd a gweithredoedd da y rhai oll a garent ei ymddanghosiad ef mewn gogoniant. 2. Tim. 4.8.

Page 72

Yno pob un gan gymmeryd ei goron oddiam ei ben, a'i gesyd a'r lawr (fal petteu) wrth draed Crist; a chan ymostwng en hunain ag vn galon, ac un lleferydd, mewn undeb â chyfundeb nefol a ddywedant fal hyn: Dadc, 4.5, 10. Moliant, anrhy∣dedd, a gogoniant, a nerth, a diolch a fyddo i ti yr oen bendigedig, yr hwn wyt yn eistedd a'r yr orsedd∣faingc, a laddwyd, ac a'n prynaist ni i Dduw a'th waed, o bòb cenedl, ieithoedd a phobloedd, ac an gw∣naethost ni yn frenhinoedd, ac yn offeiriaid i Dduw i deyrnasu gyd â thi yn dy deyrnas yn oes oesoedd. Amen.

Yno y cânt hwy eistedd yn eu gorseddfeingciau, au trefn, megis barnwyr a'r y gwrthodedigion, a'r Angelion drwg, i glodfori a dwyn tystiolaeth o v∣nion farn Crist y Barnwr goruchaf, 1 Cor. 6, 1, 2.

Gwedi adrodd barnedigaeth y colledigion, y oy∣flawna Crist ddwy weithred arbennig.

1. Yn gyntaf rhoi yr etholedigion iw Dâd: Ioan. 17.13, 14, 15. Gwel o Dad cyfion dyma y rhai a roddaist i mi, mi a'i cedwais hwynt, mal na chollodd vn o honynt, mi a roddais iddynt dy air di: ac hwy a'i credasant ef, a'r byd a'i cashaodd hwynt am wad oeddynt o'r byd magis nad oeddwn innau o'r byd.

Ac yr awr hon O Dâd myfi a fynnwn i'r rhai a roddaist i mi, fod gyd â mi lle yr ydwyf; fel y gwelant y gogoniant a roddaist i mi, fel y byddwyf fi ynddynt hwy, a thithau ynof finnau, fel y gwneler hwynt yn ber∣ffaith yn vn, fal y gwyppo 'r byd mae tydi am hanfo∣nodd i, a'th fod yn ei caru hwynt fel y ceraist fi. Joan. 17.23, 24.

2. Yn ail, Crist a ddyru i fynu y deyrnas i Dduw y Tad, hynny yw, a baid a gwasanaethu swydd ei gy∣fryngdod, wrth yr hon, megis y mae yn Frenin, Offeiriad, Prophwyd, ac yn ben yr Eglwys, fe

Page 73

fathrodd ei elynion, ac a reolodd ei bobl ffyddlon, â'i Yfpryd, ei air, a'i Sacramentau. Felly pan fo efe yn gado ei Deyrnas o râs, tros ei Eglwys yn y byd hwn, yn ddi atteg fe a lywodraetha fel y mae yn Dduw gogyfuwch a'r Tad, a'r Yspryd glân, yn ei Deyrnas o ogoniant yn dragywydd, Nid i leihau dim a'r deilyngdod ei Ddyndod, eithr i hyspysn yn eglurach ogoniant ei Dduwdod. Felly megis y mae ef yn Dduw, efe a gaiff o hynny allan, ym mhob cyflawnder heb gyfryngau oddiallan, reoli oll yn oll. 1 Cor. 15, 24.

O'r orsedd a'r brawdle yma, y cyfyd Crist a'i holl ogoneddus gynulleidfa o etholedig Angelion, a Seintiau, ac a eiff i fynu yn orfoleddus mewn trefn, a llywodraeth i nef y nefoedd, a'r cyfryw hyfryd∣lais cerddwriaech nefol iw canlyn: Fal y caffo y gán honno, a ddywedodd Dafydd ei gwirio yn hollawl: fe aeth Duw i fynu mewn gorfoledd, yr Arglwydd gyd a sŵn yr vdcorn, cenwch foliant i Dduw, cenwch foliant i'r Brenin, cenwch foliant: o blegid Duw ydyw brenin yr holl ddaiar, efe biau ymdderchafu mewn mawredd Psal. 47, 5, 6, 7, 9. A'r briodasgerdd honno yn Ioan: ymlawenhawn, ac ymhyfrydwn, a rhown anrhydded iddo ef, o blegid y mae priodas yr oen yn dyfod, a'i wraig ef a ymbaratôdd. Alleluiah: Oblegid yr Arglwyd Dduw ollalluog sy'n teyrnasu. Datc. 19, 6, 7.

Y trydydd a'r ràdd olaf o fendigedig gyflwr y dŷn adgenediedig yn ôl marwolaeth, sydd yn dechrau ar ôl adrodd y farn a bery yn dragwyddol heb dra∣ngc na gorphen.

Page 74

Myfyrdod am gyflwr bendigedig ŷ Dŷn Adgene∣dledig, yn y nef, gwedi ei derbynnio ef ei fann o ollyngdod, ger bron brawdle Crist, a'r Ddydd y Farn ddiwaethaf.

YMma y mae fy myfyrdod yn llewygu, am pin scrifennu yn cwympo om llaw, y naill heb a∣llael deall, a'r llall heb allael rhoi ar lawr, y diddan∣wch tra godidog, a'r tragwyddol bwys gogoni∣ant (o'r hwn nid yw holl ddioddefiadau y byd hwn yn deilwng) 2 Cor. 4.17. Rhuf. 8.18. Yr hwn a gânt hwy (sef yr etholedigion) gyd a'r Drindod fen∣digedig, ei feddiannu, o'r pryd y derbynnir hwynt gyd à Christ yn gyd etifeddion, o'i dernas, a'i lawe∣nydd tragwyddol.

Etto ni allwn roi cais arno fal hyn: y mae'r Scrythur sanctaidd yn dangos allan (i'n dealltwria∣erh ni) ogoniant y tragwyddol a'r nefol lawenydd mewn pedwar peth:

Sef
  • 1. Y Lle.
  • 2. Y Golygyn.
  • 3. Rhagorfreintiau yr etholedigion yno.
  • 4. Frwythau y rhagorfreintiau hynny.

Y Lle.

Y Lle ydyw nef y nefoedd, neu y drydydd nef, yr hon a elwir paradwys: 1 Bren. 8. 2 Cor. 12.24. Y lle vr escynnodd Crist (yn ei ddynol anian) ym∣hell vwchlaw yr holl nefoedd gweledig, y Stafell y priodasfab, yr hon y mae y ffurfafen â llen frêithlas o sêr gwreichionllyd, a phlanêdau gogoneddus, yn ei chuddio, mal na eill llygaid llygredigol y cnawd mol chanfod. Yr Yspryd glân (gan ei osod ei

Page 75

hun at ein gwendid ni) sydd yn datcan gogoniant y lle hwnnw, yr hwn nid all neb ei iawn brisio, wrth ei gyflybu a'r pethau gwerth-fawroccaf yngolwg dŷn. Ac am hynny y mae ef yn Ei gyfflybu i'r ddinas fawr sanctaidd a elwir Jerusalem nefol. Lle yn vnig y mae Duw a'i bobl, (y rhai sydd gadwe∣dig, a chwedi eu scrifennu yn llyfr yr oen) yn cyfan∣neddu: wedi ei hadeiladu oll o aur coeth, yn debyg i wydr gloiw nou risial, ei mur o faen Jasbis, a sail y mur o ddeu ddeg rhywogaeth o feini gwerthfawr, a deuddeg o byrth, a phob un wedi ei adeiladu o un perl, tri phorth yn tueddu tu ac at bob un o bedwar congl y byd; ac Angel wrth bob porth, (fel cynifer o borthorion) fel na chaffo dim aflan ddyfod i mewn iddi. mae yn bedwar ochrog, ac am hynny yn berffaith: yr hŷd, y llêd, a'r vchder sydd o un faint, deudeng mil o stadiau i bob ffordd, am hynny chang, a gogoneddus. a'r hyd canol ei heolydd, y mae afon bur o ddwfr y bywyd yn rhedeg yn oestadol, cyn loiwed a'r grisial, am hynny yn iachus. Ac o'r naill du i'r afon y mae pren y bywyd yn tyfu yn dragywydd: yr hwn sydd yn dwyn deuddeg mâth a'r ffrwythau, am hynny yn ffrythlon. A daily pren sydd iechyd i'r ce∣nedloedd, am hynny yn iachus. Dat 21.

Nid oes gan hynny fangre mor ogoneddus o ran creadigaeth, mor hyfryd o ran diddanwch; mor gy∣foethog, o ran meddiant, mor gyssurus o ran cyfan∣nedd. O blegid y brenin yno ydyw Cirst, y gyfraith, cariad: yr anrhydedd, gwirionedd: y dynghne∣ddyf, dedwyddwch: y bywyd, tragywyddoldeb. Y mae yno oleuni heb dywyllwch: llawenydd heb prudd-der, iechyd heb glefyd, cyfoeth heb eisiau: geirda heb anair: glendid heb anaf: esmwythdra heb poen: golud heb rydu, bendith heb drueni: ac hyfrydwch byth heb ddibennu. Mor union y gallwn ni lefain allan gyd á Dafydd am y ddinas

Page 76

hon: Pethau gogoneddus a draethir am danat ti o ddi∣nas Duw, Psal. 87.3. Ac etto yr holl bethau hyn a ddywedir yn ol gwendid ein dealltwriaeth ni. O blegid y mae'r nefoedd yn rhagori ar yr rhain ol mewn gogoniant, cyn belled, na ddichon tafod dŷn ei adrodd, na chalon dŷn ddirnad ei gogoniant, megis y tystiolaetha Paul yr hwn a fu ynddo 1 Cor. 2.5. 2 Cor. 12.4.

O nedwch i ninnau ymhoffi yn y bythod yma o brenniau, neu feini, neu dai wedi eu tylino o bridd, y rhai nid ŷnt ond pebyll annuwioldeb, ac anneddau pechaduriaid; eithr disgwyliwn yn hytrach, ac hi∣raethwn am y ddinas nefol yma, saer ac adeiladydd yr hon yw Duw. Yr hon y darfu iddo ef, (yr hwn nid yw gywilydd ganddo i alw yn Dduw i ni) ei pharattoi i ni, Heb. 11.10.

2. Y Golygyn.

Y Cyflawn fendigaid, ar gogoneddus olygyn i'r holl ddeallus, a'r rhesymmol greaduriaid yn y nef ydyw Duwdod, mewn Trindod o bersonau; heb yr hwn nid oes na llawenydd na dedwyddwch, eithr gwir gyflawndra gorfoledd sydd yn sefyll yn ei fwynhau ef.

Y Golygyn hwn a gawn ni ei fwynhau mewn dwy ffordd.

Yn gyntaf, trwy fendigedig olwg ar Dduw.

Yn ail, trwy gyfrannogi Cymmun digyfrwng a'i Dduwiol anian ef.

Y wynfydedig olwg ar Dduw ydyw honno yn u∣nig sydd yn rhyngu bodd i anherfynol feddwi dŷn. Canys y mae pob peth yn tueddu at y perfeddbwynt neu 'r canol. Duw ydyw perfeddbwynt yr enaid: am hynny (mal clommen Noah) ni fedr ef gael

Page 77

gorphywys, nac ymlawenhau, nes y dychwelo iw fwynhau ef.

Nid oedd y cwbl a roes Duw i Moeses yn bodlo∣ni ei feddwl ef, o ni chai ef weled wyneb Duw: am hynny y mae yr holl Eglwys yn gweddio yn ddifrifol: Duw a drigarhâo wrthym, ac a'n bendithio, a thy∣wynned llewyrch ei wyneb arnom. Psal. 67.1. Pan welodd Paul vnwaith y fendigedig olwg honno; byth o hynny allan ni wnaeth gyfrif, o olud neu ogoniant y byd hwn, yn ei herwydd, mwy nag o dom: ac yn ei holl fywyd o hynny allan ni bu ef ond ocheneidio (cupio dissolvi) yr wyf yn dymuno fy nattod, a bod gyd â Christ. Phil. 1.23. Crist hefyd a weddiodd yn ei weddi ddiwaethaf tros ei holl etholedigion, ar gael o honynt feddiannu y weledigaeth fendigedig yma: Joan. 17.24. Y Tâd, y rhai a roddaist i mi, yr wyf yn ewylly sio lle rwyf fi, fod o honynt hwythau hefyd gyd â myfi: (i ba beth?) fel y gwelònt fyngogoniant, &c. os discleiriodd wyneb Moeses pryd na buasai ond deugain niwrnod gyd â Duw, ac heb weled dim ond ei du cefn: Exod. 34.29. pa fodd y byddwn ni yn discleirio, pan fo 'm yn cael ei weled ef wyneb yn wyneb yn dragywydd, a'i adnabod ef, fel yr ad∣weinir ninnau, ac fel y mae efe? 1. Cor. 13.31. 1 Joan. 3.2. Yno ni elwir yr enaid mwyach, Ma∣rah, sef chwerwder, ond Naomi, sef tegwch. Oblegid fe dry Duw ei chwerwder byrr ef, yn brydferthwch a glendid trawyddol. Ruth 1.20.

Yr ail fodd i feddianu y golygyn hwn, yw cael rhydd-deb a chydvndeb tragwyddol gyd â Duw yn y nefoedd. Hyn yr ydym ni yn ei gael, yn gyntaf, trwy fod megis yn aelodau i Grist, gwedi ein vno a'i Ddyndod ef, a thrwy ei Ddyndod, (yn bersonol gwedi ei vno a'r Cair) yr y'm gwedi ein vno ag ef, megis y mae efe yn Dduw: a thrwy ei Dduwdod ar holl Drin∣dod.

Page 78

Y colledigion yn y dydd olaf a gânt weled Duw (fel barnvvr cyfion) iw cospi, eithr o ran bod y cymmun yma yn niffyg, ni chânt hwy na grâs na go∣goniant oddiwrtho. Canys diffyg y Cymmun hwn a wnaeth i'r cythrauliaid (pan welsant Grist) lefain allan, Quid nobis teoum? sef, beth sydd i ni a wne∣lom a thi, O Fâb y Duw goruchaf? eithr (trwy rym y Cymmun yma) fe eill yr enaid edifeiriol fyned yn hyf a dywedyd wrth Grist (fel Ruth wrth Boaz) lledâ aden gwisg dy drugaredd dros dy lawforwyn, canys fy nghafathrachwr ydwyt ti. Ruth. 3.9. Y Cymmundeb hwn a addawodd Duw i Abraham, pan roddodd efe ei hun yn wobr fawr iddo. Gen. 15.1. Ac y mae Crist yn gweddio a'r iw holl eglwys ef gael ei fwynhau. Y Cymundeb hwn y mae St. Paul yn ei roi ar lawr ar vn gair lle dywedodd, Y bydd Duw i ni oll yn oll. Joan. 17.20.21. 1 Cor. 15.18. Gwir yw fod Duw yr awrhon i ni oll yn oll, eithr trwy gyfrwng, a mesur bychan. Eithr yn y nef Duw ei hûn yn ebrwydd mewn cyflawnder mesur heb gy∣franniad, a fydd i ni yn bob daioni, ar a allo ein enei∣diau ni, a'n eyrph ei ddeisyf a'i ddymuno. Efe ei hun a fydd yn iachadwriaeth, ac yn llawenydd i'n heneidiau, yn fywyd ac iechyd i'n cyrph, yn lendyd i'n llygaid, yn gerdd i'n clustiau, mêl i'n geneuau, pêrarogl i'n ffroenau, ymborth i'n boliau, goleuni i'n dealltwriaeth: bodlonrhwydd i'n meddyliau: a di∣fyrrwch i'n calonnau: a pha beth a eill fod yn eisiau lle bydd Duw ei hun yn enaid i'n eneidiau ni? Yr holl nerth, synwyr, diddanwch, rhinwedd, lliwiau, perffaithdra, melusdra, a'r holl ddaioni sydd mewn dynion, anifeiliaid, pyfgod, adar, prennau, llysiau, a'r holl greaduriaid, nid ydynt ond megis gwreichion o'r pethau sydd yn Nuw ei hûn mewn perffeithrwydd anfeidrol. Ac ynddo ef y cawn eu meddiannu mewn modd perffeiddiach, a bendigediccah o lawer.

Page 79

Efe ei hûn a wasanaetha 'r twrn yn eu lle hwynt oll: Na y creaduriad gorau (yr rhai sydd i'n gwasanaothu ni yr awrhon (ni chânt gymmaint o anrhydedd a'n gwasnaethu ni y pryd hynny. Ni bydd eisiau na 'r haul, na'r llenad, i lewyrchu yn y ddinas honno. O blegid y mae gogoniant Duw yn ei goleuo hi Datc, 21, 23. Ni bydd chwaith yn rhaid wrth un math ar greadur pryd y byddom yn cael meddiannu y creaw∣dr ei hunan. Pan fôm ni gan hynny, yn gweled rhyw beth godidog mewn rhyw greadur, dywedwn wrthym ein hunain, pa faint godidoccah yw'r hwn, a roes y godidawgrwydd yma? Pan welom ni ddoethineb dy∣nion, y rhai sydd yn meistroli creaduriaid cryfach nac hwynt eu hunain; a'i deongliad yn rhagflaeno∣ri yr haul ar lloer, gan osod ar lawr yr amser yr ec∣clipfiant, neu y tywyllant hwy: diwedwn wrthym ein hunain, Oh mor rhyfeddol yw doethineb Duw, yr hwn a'i gwnaeth hwynt mor ddoeth! Pan ystyrion ni nerth y Morfeirch, Oliphantiaid, Temestl y gwynt, a thwrf y daran ddychrynllyd; dywedwn wrthym ein hunain mor nerthol, mor alluog, mor ofnadwy yw'r Duw hwnnw, sydd yn gwneuthur y cryfion ar erchill greaduriaid yma! Pan fôm ni yn archwaethu Pethau melusber, dywedwn wrthym ein hunain, Oh mor felus ydyw 'r Duw hwnnw, oddiwrth ba un y cafodd yr holl greaduriad hyn eu melusdra! Pan fôm ni yn gweled cyfliwiau perffaith, y rhai sydd ar flodau, ac adar, neu 'r glendid cariadus sydd a r fer∣ched; dywedwn, oh mor howddgar yw 'r Duw a wna∣eth yr rhain yn howddgar!

A os darfu i'n Duw anwyl raglunio i ni gynifer o ddifyrrwch godidog, tra fôm yn myned trwy Bochim, sef y dyffryn hwn o wylofain; Pa fâth ddidanwch yw hwnnw, a ddarparodd ef i ni pan gaffom ni fy∣ned i mewn i lŷs llawenydd ein meistr? Pa fódd 〈◊〉〈◊〉 bydd ein eneidiau ni yno yn ymhyfrydu o gariad ar

Page 80

y fâth Dduw cariadus? mor ogoneddus yw 'r golwg o Seintiau nefol, ac mor garuaidd yvv golwg ein Ia∣chawdwr grasusavvl.

3, Y Rhagorfreintiau sydd i'r etholedigion yn y nefoedd.

O Herwydd y Cymmun hwn â Duw, fo fydd i'r Etholedigion bedwar o ragorfreintiau tra go∣didog, yn y nefoedd.

1. Yn gyntaf, hwynt hwy a gânt deyrnas Dduw yn etifeddiaeth: ac â gant fod yn wyr rhŷdd O Ierusa∣lem nefol, 1 Pet. 1.4. St. Paul o herwydd ei fod yn ddinasydd rhyddo Rufain a ddiangodd heb ei fflan∣gellu; Act. 22.26.28. eithr y rhai a fo vnwaith yn ddinasyddion rhyddion O Jerusalem nefol, fyddant byth diangol oddiwrth fflangellau poenau trag∣wyddol. O blegid y rhyddhâd yma a brynwyd i ni, nid â rhif o arian, ond a gwerthfawr waed Christ, 1 Pet. 1.19.

2. Yn ail: hwy a gânt oll fod yn frenhinoedd, ac yn offeiriaid; Datc. 5.10. ysprydol frenhinoedd, i deyrnasu gyd â Christ, i orfoleddu goruwch Satan, y byd, a'r gwrthodedigion, Rhuf. 16.20. ac offeriaid Ysprydol o foliant a diolch yn dragywydd, 1 Pet. 2.5. Am hynny y dywedir eu bod yn gwisco Coro∣nau a gynau, Datc. 6.11. O pa gyssur a diddanwch yw hyn i dadau tlodion, a llawer o blant ar eu helw? os hwynt hwy a'u maethant ac a'i meithrinant yn ofn Duw, i fod yn wir gristianogion, yno y byddant yn dadau i gynifer o Frenhinoedd ac Offeiriaid.

3. Yn drydydd eu cyrph hwynt a oleua fel dis∣cleirdeb yr haul yn y ffursafen: fel gogoneddus gorph Crist, yr hwn a ddiscleiriodd yn eglurach na'r haul haner dydd, pan ymddanghosodd ef i Paul. Mat. 13.43. Phil 3.21. Act. 22.6. Llewyrch neu

Page 81

gysgod o'r hwn oleuni gogoneddus oedd ymrithiad Moeses ac Elias gyd a'r Arglwydd a'r y mynydd sanctaidd, Luc. 9. Mar. 9.3. Am hynny (medd yr Apostol) fe a gyfyd yn gorph gogoneddus, ie yn gorph ysprydol, 1 Cor. 15.44. nid o herwydd ei sylwedd, ond o herwydd ei gynneddfau, yn ymgyn∣nal trwy foddion ysprydol, a chanddo gyflymdra (fel Angel) i ascyn ac i ddiscyn. Oh pa anrhyd∣edd ydyw fod ein cyrph ni (y rhai sy 'n braenu yn waelach na burgyn yn y byd) yn cael eu hadgyfo∣di mewn gogoniant yn debyg i gorph mab Duw ei hûn!

4. Yn ddiwaethaf, y maent hwy yno gyd a'r An∣gelion sanctaidd, heb na blinder na lludded yw cy∣thryblu, yn cynnal Sabboth oesdadol i ogoniant, an∣rhydded, a moliant y Drindod tra-bendigedig, am greu, gwaredu, a sancteiddio yr Eglwys; ac am ei al∣lu, ei ddoethineb, ei gyfiawnder, ei drugaredd, a'i ddaioni, yn llywodraethu nêf â daiar. Pan fyddych di yn gwrando cydseiniad melysgerdd miwsic, myfy∣ria mor ddedwŷdd fyddi di pan fych gyd â chôr o Angelion, a seintiau nefol yn cydganu dy ran o'r Al∣leluiah ysprydol honno, a'r y tragwyddol fendigedig Sabbôth: Lle bydd y fâth amryw ddifyrrwch, a di∣gonolrhwydd o lawenydd, a'c nad adwaenant fŷth flinder wrth eu gwneuthur, na diwedd o'u hyfryd∣wch.

Page 82

4. Ffrwythau digwyddedig oddiwrth y rhagor∣freintiau hynny.
Oddiwrth y rhagorfreintiau hyn, y cyfyd i'r ethole∣digion dri mâth a'r effeithiau hynod.

HWynt hwy a gânt adnabod Duw trwy wyboda∣eth perffeithlawn: cyn belled ac y byddo pos∣sibl i'r creaduriaid ymgyffred y Creawdr. O ble∣gid yno y cawn weled y Gair, y Creawdwr; ac yn y gair, yr holl greaduriaid a'r a greawdd y Gair: fel nad rhaid i ni ddyscu wrth y pethau a wnaeth∣pwyd, wybodaeth am dano ef, trwy'r hwn y gwnaeth∣pwyd pôb peth. Y creaduriaid godidoccaf yn y by∣wyd hwn, nid ŷnt ond megis llen dywyll gwedi ei thynnu rhwng Duw â ni; a phan dynnir y llen hon∣no o'r neill du, yno y cawn weled Duw wyneb yn wyneb, a'i adnabod fel i'n adwaenir, 2 Cor. 3.16. 1 Cor. 13.12. Nyni a gawn gydnabyddiaeth a'r allu y Tâd, a'r ddoethineb y Mâb, ac a'r râd yr Ys∣pryd gln; ac a'r anwahanol anian y Drindod fen∣digedig. Ac ynddo ef ni gawn adnabod nid yn vnig ein holl gyfeillion y rhai a fu farw mewn ffydd Grist, ond yr holl ffyddloniaid hefyd a'r a fu erioed ac a fydd bŷth. Canys,

1. Y mae Crist yn dywedyd i'r Juddewon y caent hwy weled Abraham, Isaac, ac Jacob, a'r holl brophwydi yn neirna Dduw: am hynny hwy a gânt eu hadnabod hwynt. Luc. 13.28.

2. Yr oedd Adda yn ei ddiniweidrwydd yn gwy∣bod fod Efa yn ascwrn o'i ascwrn ef, ac yn gnawd o'i gnawd ef, cyn gynted ac y deffrôdd efe: Gen. 2.23. gwell o lawer y cawn ni adnabod ein tylwyth, pan ddeflrôm ni gwedi ein perffeiddio, a'n gogoneddu yn yr adcyfodiad.

Page 83

3. Fe adnabu yr Apostolion Grist yn ol ei adcy∣sodiad, a'r Seintiau y rhai a gyfodasant gyd ag ef, ac a ymddangosasant yn y ddinas sanctaidd. Mat. 27.53.

4. Petr, Iago, ac Ioan a adnabuant Moeses, ac Elias, yn y gwedd newidiad, Mat. 17.3, 4. pa∣faint mwy o gydnabod a gawn ni y naill a'r y llall, pan fôm ni oll gwedi ein gogoneddu.

5. Yr oedd Diues yn adnabod Lazarus ym mon∣wes Abraham, Luc. 16.23. mwy hytrach y caiff yr etholedigion adnabod eu gilydd yn y nefoedd.

6. Y mae Crist yn dywedyd, Matth. 19.28. y caiff y deuddeg Apostol eistedd a'r ddaudeg gorsedd∣faingc, i farnu (a'r y dydd hwnnw) y dauddeg llwyth: am hynny hwy fyddant iw hadnabod, ac felly yn ddilynawl yr adwaenir yr holl Seintiau eraill.

7. Y mae Paul yn dywedyd y cawn ni y dydd hwnnw adnabod megis i' n adwaenir ninnau gau Dduw: ac y mae Awstin (o'r lle yma) yn cyssu∣ro gwraig weddw, gan ei sicrháu hi, mai fel y gwe∣lodd hi ei gŵr yn y bŷd hwn a'i llygaid corphorol, felly yn y bŷd i ddyfod y caiff hi adnabod ei galon ef, a pha beth oedd ei feddyliau a'i amcanion. Gan hynny wŷr a gwragedd edrychwch at eich gweith∣redoedd, a'ch meddyliau. O blegid fo fydd y cwbl iw gweled ryw ddydd yn gyhoeddus▪ edrychwch 1 Cor. 4.5.

8. Yn yr hên Destament yr ydis yn dywedyd, fod y ffyddlonniaid gwedi eu cynnull at eu tadau: wrth hynny mae ein gwybodaeth ni am ein cydnabod; a'n cyfeillion yn parhau heb pallu.

9. Cariad byth ni chwymp ymmaith 1 Cor. 13.8. am hynny gwybodaeth, y sail o honaw, sydd yn aros yn y bywyd arall.

10. Oblegid y dydd diweddaf y dadcuddir barn gyfion yr Arglwÿdd: pryd y gwobrwyir pob dŷn yn ol

Page 84

ei weithredoedd. Rhuf. 2.5, 16. Ac os eglurir gwei∣thred pôb rhyw ddŷn, hytrach o lawer y dygir y gweithredydd i'r goleuni. Os caiff dynion drygio∣nus oi cyfrif am bôb gair ofer, Math. 12.36. mwy o lawer y cair adnabyddiaeth ar yr ofer siaradwŷr eu hunain. Ac oni adwaenir y dynion, ofer iawn yw cyhoeddi eu gweithredoedd. Am hynny (medd yr Apostol) pob dŷn a ddaw ger bron i roi cyfrif am y weithred a wnaeth ef yn ei gorph, &c. 2 Cor. 5.10. gwelwch Doethineb pen. 5.1. Er i amryw raddau a galwedigaethau, sef swyddogaeth, gweinidogaeth, Teuluyddiaeth ballu: iê fe baid Crist a rheoli fel y mae yn gyfryngwr, ac a reola oll yn oll, fel y mae yn Dduw gogyfuwch a'r Tad, ac a'r Yspryd glân. 1 Cor. 15.24, 28.

Y mae cimmaint o ragor rhwng y gwybodaeth a eill dynion ei gael yn y bŷd hwn, a'r gwybodaeth a gawn ni yn y nefoedd, ac sydd rhwng gwybodaeth plentyn ni fedro mor dywedyd yn groiw, a'r dyf∣cawdwr neu 'r Philosophydd gorau 'n y bŷd. 1 Cor. 13.11.

Y rhai sydd yn sychedu am wybodaeth, byddant hiraethus am fod yn fyfyrwyr o'r ffynnon ddyfnddysc yma.

O blegid yr holl oleuni, trwy 'r hwn yr ŷm yn adnabod dim yn y byd yma, nid yw ddim ond gwir gyscod Duw. Eithr pan fôm ni yn adnabod Duw yn y nefoedd, ni gawn ynddo ef adnabod trefn gwaith y creadigaeth, a dirgeledigaethau gwaith ein pryne∣digaeth: ie ni a gawn gymmaint o wybodaeth am y creaŵdr a'i weithredoedd, ac yw bossibl i greadur ei ddeall, a'i amgyffred. Eithr tra fôm yn y bywyd hwn, nyni a allwn ddywedyd gyd â Job: Mor fy∣chan yw 'r peth yr ydym ni yn ei glywed am dano? Job 26.14. A'n sicrhau ein hunain gyd â mâb Syrac, fod

Page 85

etto bethau mwy na 'r rhain yn guddiedig, ac na welsom ond ychydig o weithredoedd Duw.

2. Hwynt hwy a garant Dduw a chariad tra pherffeithlawn, gymmaint ac a syddo bossibl i grea∣dur allu. Y môdd i garu Duw ydyw, ei garu ef er ei fwyn ei hun: y mesur, yw ei garu ef yn anfesurol. Canys yn y bywyd hwn (wrth adnabod Duw yn vnig o ran) nid ydym yn ei garu ef ond mewn rhan: eithr pan fo yr etholedigion yn y nefoedd, yn cy∣flawn adnabod Duw, yno y byddant yn cyflawn garu Duw. Ac o herwydd yr aneirif achosion o gariad, yr hyn a gânt hwy ei adnabod fod ynddo ef, hwy a fyddant mewn serch anfeidrol iw hoffi ef.

3. Hwy a gant eu llenwi â phôb rhyw lawenydd nefol. Ar dy law ddehau (medd Dafydd) y mae llawenydd yn drag ywyddol, Psal. 16.11. Ie (medd ef) hwynt hwy a gânt eu diodi ag afon hyfrydwch. Psal. 36.8. O blegid cyn gynted ac y caffo yr enaid ei gynnwys i fewn gweithredol feddiant a'r ddedwyddol hanfod Duw: y mae ef yn mwynhau oll ddaioni, howddgarwch, gogoniant, a pherffeithrwydd yr holl greaduriaid (o'r holl fyd) ynghyswllt a'r unwaith gwedi eu goflwyno iddo yn y golugiàd ar Dduw. od yw nêb mewn cariad, yno y caiff fwynhau y peth sydd fwy cariadus; od yw nêb yn ymhoffi mewn glendid, nid yw 'r glendid teccaf ond pridd∣lyd wrth yr hwn sydd yno: yr hwn sy 'n ymhyfry∣du mewu llawenydd, yno y caiff aneirif rywogae∣thau o honaw, heb na gofid iw luddias, na phenyd iw dorri: yr hwn sydd yn caru anrhydedd, yno y caiff ef heb anair cynfigen iw wradwyddo. Yr hwn sydd yn caru trysor: yno y caiff feddiannu yr hwn ni ddygir byth oddiarno. Yno y cânt hwy ddeall∣twriaeth heb anwybodaeth: jechyd heb glofyd, a bywyd, na eill marwolaeth ei derfynu.

Ar un gair, edrychwch pa faint y mae y byd, o

Page 86

herwydd goleuni, difyrrwch a chussur, yn rhagori a'r y grôth gyfyng dywyll, yn yr hon ith cenedlwyd yn blentyn: y cymmaint arall y mae y byd sydd i ddyfod, yn rhagori a'r y byd hwn, mewn llawen∣ydd, ac hyfrydwch dedwyddol. Mor ddedwŷdd fyddwn ni y pryd hynny, pan fo y bywyd hwn gwe∣di ei gyfnewid, a ninnau gwedi ein trosclwyddo i'r fan honno?

4. Hwynt a lenwir â llawenydd anrhaethadwy: yn dy ŵydd di (Medd Dafydd) y mae cyflawnder llawenydd, Psal. 16.11. a'r llawenydd hwnnw, a gyfyd yn benaf oddiwrth weled Duw: ac o weled yr holl Angelion sanctaidd, ac eneidiau bendige∣dig y gwŷr eyfiawn perffaith, y rhai sydd mewn llawenydd, a gogoniant gyd ag ef. Ond yn enwe∣dig o'r golwg hyfryd a'r Jesu Cyfryngwr y Testa∣ment newydd, Heb. 12.24. ein Emmanuel ni, Duw wedi ei wneuthur yn ddŷn, ei weled ef a fydd yn brif achos o'n dedwyddyd ni, a'n gorfoledd. Os darfu i'r Israeliaid yn Jerusalem floeddio o lawenydd hyd oni ddadseiniodd y ddaiar, wrth weled coroni Sa∣lomon; Pa faint a fydd llawenydd yr etholedigion yn y nêf, wrth weled Crist, (y gwir Salomon gwe∣di) ei ymwisco â gogoniant? O darfu i Joan fedy∣ddiwr yn ei ŵydd ef o wir lawenydd neidio yng∣hrôth ei fam, Luc. 1.44. Pa faint y cawn ni ymor∣foleddu mewn hyfrydwch, pan fo ef nid yn unig gyd â nyni, ond ynom ni yn y nefoedd? Os darfu i'r rhai doethion lawenychu cymmaint, pan welsant ef yn faban yn gorwedd yn y preseb: Mat. 2.10. pa orfoledd a fydd i'r etholedigi∣on o'i weled ef yn eistedd yn Frenin yn ei or∣seddfaingc nefol? O bu Simeon hên mor llawen wrth ei weled ef yn blentyn yn y deml yn nwylaw o∣ffeiriad iw gyflwyno i'r Arglwydd, Luc. 2.28. pa faint mwy a fydd ein llawenydd ni, gael ei we∣led

Page 87

ef yn Frenin, yn llywodraethu pob peth a'r dde∣heulaw ei Dâd? O bu Joseph a Mair mor llawen pan gawsant ef ym mhlith yr athrawon yn y deml, Luc. 2.46. pa faint llawenach a fydd ein eneidiau ni pan welom ef yn eistedd yn Arglwydd ym mhlith Angelion nefol. Dymma y llawenydd hwnnw sydd yn eiddo ein Harglwydd ni, Matth. 25.21. yr hwn (fel y dywaid yr Apostol) ni weloddllygad, ni chly∣wodd clust, ac ni eill calon dŷn moi ddirnad; 1 Cor. 2.9. yr hwn o ran na eill mor myned ynom ni, ny∣ni a gawn fyned iddo ef.

5. Yn olaf, hwynt hwy a feddiannant y bendige∣dig a'r gogoneddus gyflwr yma yn dragywydd. Am hynny y gelwir ef y bywyd tragywyddol: ac y mae Crist yn dywedyd: y llawenydd hwnnw ni ddwg neb oddiarnom, Joan. 16, 12. ôb llawenydd arall a dderfydd er maint a fyddo. Gwlêdd Ahasferus a barhâodd gant a phedwar vgain o ddyddian: Esth. 1.4. eithr efe, a'i wlêdd, a'i holl lawenydd aethant heibio. Pe cai ddyn bydol ei gymmeryd i'r go∣gonniant nefol, i gydgymdeithas ag Angelion, iw ddigoni â pbob mâth a'r lawenydd, ac hyfrydwch, (a hynny dros amser) fe fyddai hyn beth mawr genddaw; eithr cael eu meddiannu hwynt yn drag∣wyddol heb drangc na gorphen, pwy a eill wrando hynny, heb ryfeddu! a phwy a eill ei synnied, heb synnu o'i blegid? Holl Seintiau Crist (cyn gynted ac y darfu iddynt wir archwaethu y llawenydd trag∣wyddol hwnnw) oeddynt yn cyfrifholl gyfoeth a di∣grifwch y byd hwn megis yn golled ac yn dom, wrth ei gyffelybu i'r llall, Phil. 3.8. Ac am hynny (trwy ddyfal weddi, ymprydio, eluseni, wylofain, ffydd, a buchedd dda) yr oeddynt hwy yn dyfal gymeryd poen er mwyn eu sicrhâu eu hunain o'r bywyd trag∣wyddol hwn: (Ac o serch iddo fe ddarfu iddynt yn e∣wyllyscar

Page 88

naill a'i gwerthu, a'i rhannu eu holl gyfo, eth bydol au meddi annau Act. 2.45.

Y mae Crist yn galw yr holl Gristianogion yn far∣cl nadwŷr: a bywyd tragwyddol yn faen gwerthfawr, yr hwn y mae y marchnattwr doeth yn ei bwrcasu, iê, pe rhôn a gorfod iddo dalu am dano gwbl oll ac a feddo. Matth. 13.

Pan glybu Alexander fod cyfoeth mawr yngw∣ledydd y dwyrain, yn ebrwydd efe a rannod ei deyr∣nas ei hûn sef Macedonia, rhwng ei gapteinniaid a'i filwŷr: Haephestion a ofynnodd iddo beth oedd ei feddwl wrth wneuthur hynny; Alexander a atte∣bodd, mai mwy oedd genthau am gyfoeth yr India (a'r yr hon yr oedd ef yn gobeithio y cai ar fyrr fod yn berchennog) nac am yr holl deyrnas a adawsai Philip ei dâd iddo ef 〈◊〉〈◊〉 Macedonia. Ac oni ddylai Gristianogion fod yn fwy genthynt am dragwyddol gyfoeth y nêf, sydd mor enwog, (yr hwn a gant ei berchnogi cyn pen hir o ddyddiau) nac am sothach lygredig y ddaiaren lychlyd, yr hwn ni phery ond tros dymmor? Abraham a Sara a adawsant eu gwlâd eu hunain, a'u meddiannau i geisio Dinas, saer ac adeyladydd yr hon yw Duw, Heb. 11.10, 15, 16. Ac am hynny ni phrynasant ddim tir, ond yn vnig lle i gladdu. Y mae Dafydd yn well ganthaw vn dydd yn y lle yma, na mîl mewn lle arall: ie bod yn borthor yn nhŷ Dduw, oedd well ganthaw nac aros mewn gwychion babellau anwiredd, Psal. 84.10. E∣lias a ymbiliodd yn daer a'r Arglwydd, am dderbyn ei enaid iw deyrnas nefol: Ac a aeth yn ewyllyscar, er ei fod yn myned yno mewn cerbyd tanllyd, 2 Bren. 2.15.

Paul (Pan gafodd vnwaith weled y nêf) oedd beunydd yn dymuno ei ddartodiadd i fod gyd â Christ, Phil. 1.23. Peter (pan gafas ef weled llewyrch y gogoniant tragwyddol a'r y mynydd) a ddeisyfodd

Page 89

gael trigo yno holl ddyddiau ei fywyd: gan ddywe∣dyd, O Arglwydd da i ni fod yma, Matth. 17.4. Pa faint well y tybia Petr yr awrhon o'i fod yn y ne∣foedd? Crist (ychydig cyn ei farwolaeth) a weddi∣odd a't ei Dâd am ei dderbyn ef i'r rhagorol ogonni∣ant Joan. 17.5. Ac y mae'r Apostol yn tystiolaethu, mai o herwydd y llawenydd hwn a osodwyd o'i flaen, y dioddefodd ef y groes, ac y dirmygodd gywilydd, Heb. 12, 2. Pe cai ddŷn vnwaith weled yr hy∣frydwch hwnnw, fe a ddioddefai (o bai bossibl) gan marwolaeth er cael meddiannu y dedwyddfyd hwnnw vn diwrnod.

St Awstin a ddywaid y bydddai efe fodlon i odd∣ef poenan vffern, er mwyn ynnill y llawenydd yma, yn gynt nac y collai efe ef.

Ignatius (dîsgybl Paul) pan oeddyd yn ei fyg∣wth ef (ac ynteu yn myned i ddioddef) a chreu∣londeb y poenau, a attebodd trwy fawr ffydd hyde∣rus; tân, crogbrennau, bwystfiloedd, torri fy escyrn, fy nhynnu yn aelodau, llethu fyngorph, holl boenau y cythrauliaid ynghyd, delont arnaf fi, O caf fi fed∣diannu fy Arglwydd Iesu a'i deyrnas. Y cyfryw gefnogrwydd meddwl a ddangosodd Polycarp, yr hwn ni ellid peri iddo wadu Crist yn y dim lleiaf, rhag ofn vn mâth ar farwolaeth.

A'r vnrhyw feddylfryd yr attebodd Basil iw er∣lidwyr, pan geifiasant ei ddychrynu ef a marwolaeth: nid ofnai (eb efe) farwolaeth byth, yr hon ni eill ddim niwaid, ond fy nhrwysclwyddo at yr hwn am gwnaeth. O darfu i Ruth adael ei gwlad a chalyn Naomi ei gwaudd, i fyned ac aros gyd â hi yngw∣lad Canaan, (yr hon nid yw ond portreiad o'r nêf) yn vnig am yr hyn a glywsai hi am Dduw Israel, (er nad oedd iddi hi addewid o gael dim rhan yno) pa fodd y dylit ti ganlyn dy fam sanctaidd yr Eglwys i fyned at Grist i'r nefol a'r tragwyddol Canaan; yn

Page 90

yr hon y rhoes Duw i ti etifeddiaeth tragywyddol, gwe∣di ei sicrhau trwy gyfammod sanctaidd gwneuthure∣dig yn ei air ef, scrifenedig a gwaed ei fab, seliedig ai yspryd, ac a'i sacramentau? hyn yw dy ddedwydd∣wch tragywyddol yn neyrnas nefoedd, lle bydd dy fy∣wyd yn gyfundeb a'r bendigedig Drindod, a'th la∣wenydd yngwydd yr oen, dy swydd canu, dy gerdd Alleluiah, dy gyd gerddorion Seintiau, ac Angelion: lle y mae ieuengtyd yn cynyddu heb heneiddio byth, glendyd yn parhau heb ddiflannu; cariad yn am∣lháu bŷth heb oeri, iechyd heb wanhychu, a by∣wyd yn aros byth heb ddiweddu.

Myfyrdod yn hyfforddi Cristion i gymhwyso atto ei hun yn ddioed y rhagddywededig wybodaeth am Dduw, ac am dano ei hun.

TI a weli gan hynny o ddŷn, mor resynol a mell∣digedig yw dy gyflwr di, trwy lygredigaeth dy natur, heb Grist: yn gymmaint ac y mae y scrythyr∣au yn cyffelybu dynion drygionus i lewod, eirth, teirw, cyffylau, cwn, ar fâth greaduriaid gwlltion yn eu bywyd: a diammau fod cyflwr dŷn diadgenedle∣dig yn ei farwolaeth yn waeth na chî, neu 'r creadur bryntaf yn y bŷd. O blegid yr anifail (yr hwn ni wnaed ond er mwyn dŷn) pan fyddo marw y mae yn diweddu ei holl drueni yn ei farwolaeth. Ond dŷn sy 'n meddu enaid rhesymol, ac anfarwol, gwe∣di ei wneuthur ar lûn Duw, i wasanaethu Duw: pan ddibenno drueni y bywyd hwn, y mae yn rhaid iddo roi cyfrif am ei holl anwiredd; a dechrau goddef y trueni hynny, y rhai ni ddiweddant byth. Nid oes greadur yn y byd ond dŷn yn gorfod iddo roi cy∣frif o'i fuchedd yn ei farwolaeth: nid rhaid i grea∣duriaid anifeilaidd direswm roi cyfrif am eu gwe∣ithredoedd, na'r Angelion da er bod ganddynt re∣swm

Page 91

roi cyfrif chwaith, am nad oes ynddynt ddim pechod. Ac am yr angelion drwg, y maent hwy heb obaith, gwedi eu heuogfarnu yn barod: fel nad rhaid iddynt hwy wneuthur cyfrif ym mhellach. Dŷn yn vnig yn ei farwolaeth sydd i roi cyfrif ger bron Duw am ei fywyd.

Or tû arall yr wyt yn gweled (o ddŷn) mor ddedwyddol a bendigedig yw dy gyflwr gwedi dy wir gymmodi â Duw yn Ghrist, yn hyn o beth dy fod yn cael ail dderbyn llûn delw Dduw, ac adferi∣ad o'th lywodraeth ar yr holl greaduriaid, nid wyt ti ond ychydig is na'r Angelion yn y byd hwn, a gogy∣fuwch a'r Angelion yn y byd a ddaw; ie o herwydd dy natur wedi ei derchafu trwy bersonol vndeb a Mâb Duw, a thrwyddo ef a gogonniant y Drindod, goruwch Angelion: cyfeill-frawd Angelion mewn grâs ysprydol, a gogonniant tragwyddol. Dy di a welaist mor ogoneddus a pherffaith ydyw Duw, a bod dy brif lawenydd a'th ddedwyddwch yn sefyll ar gaffael tragywyddol gymmundeb a'i Fawrhy∣di ef.

Yr awrhon (gan hynny) o bechadur anedifeiriol, yn ymyscaroedd Jesu Grist, yr wyf yn deisyf ar∣nat; ie ac yn dy dynghedu fal yr wyt yn caru dy iechydwriaeth dy hûn, yn ddifrifol i ystyried gyd â myfi, mor gau, mor ofer; ac mor wael, yw 'r holl bethau, sydd yn dy attal, a'th rhwydo yn y gresy∣nol a'r melldigedig gyflwr yma, yn yr hwn yr wyt yn byw, ac sydd yn dy rwystro i gael ffafr Duw, a gobaith o dragywyddol fywyd a dedwyddwch.

Page 92

Myfyrdod am y rhwystrau, sy'n attal pechadur oddiwrth ymarfer Duwioldeb.

YRhwystrau hynny ydynt saith yn arbennig.

1. Yn gyntaf, Camgymeryd yn anwybyddus jawn ddeall rhyw fannau o'r scrythur sanctaidd, a rhyw fannau o brif-byngciau crefydd gristianogawl.

Yr scrythyrau a gamgymerir yw y rhai hyn:

1. Ezech. 33.14.16. Pa bryd byynag y bo yn e∣difar gan bechadur ei bechod, mi a ollyngaf dros gof yr holl, &c. Oddiymma y mae y dŷn cnawdol yn cas∣glu: y geill ef edifarhau pan fynno.

Y mae yn wir, pa bryd bynnag yr edifarhao pe∣chadur y maddau Duw; eithr nid ydyw yr scrythur yn dywedyd, y geill pechadur edifarhau pan y myn∣no, ond pan roddo Duw iddo ei râs. Llawer (medd yr scrythur) pan fynnent edifarhau, a wrthodwyd; ac ni allent edifarhau, er iddynt geisio yn ddyfal trwy ddagrau, Heb, 12.17. Pa gyssur y mae yr scrythur hon yn ei roddi i ti, yr hwn nid edifarhaist, ac ni wyddost pa un a wnai a'i cael grâs i edifar∣hau yn ol hyn, a'i nas ceffych?

2. Math. 11.28. Deuwch attaf fi bawb a'r sydd yn flinderog, ac yn llwythog, ac mi a esmwythâ arnoch. O ddiyma y mae 'r dŷn drygionus yn de∣all, y dichon ef ddyfod at Grist pan fynno. Eithr y mae yn rhaid iddo wybod, na ddaeth dyn erioed at Grist, ond yr hwn (fel y dywaid Petr) gan adna∣bod ffordd cyfiawnder, a ochelodd halogedigaethau y bŷd, trwy adnabyddaiaeth ein Harglwydd, a'n ••••ch∣awdwr Jesu Crist. 2 Pet. 2.20, 22. Dyfod at Grist yw edifarhau a chredu. A hyn ni ddichon neb ei wneuthur, oddieithr iw Dâd nefol ei dynnu a'i râs of. Isa. 1.18. Ioa. 6.35, 44.

3. Rhuf. 8.1. Nid oes damnedigaeth i'r rhai sydd

Page 93

yn Ghrist Jesu. Gwir; ond y cyfryw yw y rhai nid ydynt yn rhodio yn ol y onawd, (fel yr wyt ti) eithr yn ol yr Yspryd, yr hyn ni ddarfu i ti etto erioed ym∣rôi iw wneuthur.

4. 1 Tim. 1.15. Crist Jesu a ddaeth i'r bŷd i ia∣chau pechaduriaid, &c. Gwir; ond y cyfryw becha∣duriaid, y rhai mal Paul, a drôant oddiwrth eu bu∣chedd anwireddus: ac nid fel tydi, yr hwn wyt yn parhau i fyw mewn camwedd. Oblegid grâs Duw yr hon, sy 'n dwyn iechydwriaeth i bob dŷn, sydd yn dysgu i ni wadu anuwioldeb, a thrachwantau budol, a byw yn sobr, yn gyfion, ac yn dduwiol yn y byd pre∣sennol hwn. Tit. 2.11.12.

5. Dihar. 23.26. Y mae gwr cyfiawn yn cywmpo seithwaith yn y dydd, ac yn cyfodi, &c. (yn y dydd,) nid yw yn yr scrythur: yr hyn beth nid yw i'w ddeall am gwympo i bechod, ond syrthio i drallod, yr hyn y mae ei elyn llidiog yn ei ddarparu i'r cyfi∣awn; oddiwrth yr hyn y mae Duw yn ei waredu: a phe bai yn meddwl cwympo i bechod, a chodi o be∣chod, beth yw hyn i ti, yr hwn y gall pawb weled dy godymmau bob dydd, ond ni all na Duw na dŷn weled dy gyfodiad eilwaith drwy edifeirwch?

6. Esay 64.6. Ein holl gyfiawnder ni sydd mal brattiau budron. Oddiyma y mae 'r Cristion cnaw∣dol yn casclu; gan weled nad yw gweithredoedd gorau y Saintiau gorau ddim gwell; wrth hynny y mae ei weithredoedd yntau yn ddigon da: ac am hynny nid rhaid iddo chwaith ymofidio gormod, fod ei grefydd mor amherffaith. Ond nid yw Esay yn y lle yma, yn meddwl gweithredoedd yr adgened∣ledig: megis gweddiau difrifol yn enw Duw; car∣dôdau elusenaidd o eigion trugaredd; dioddef o a∣chos yr Efengyl, colli ei dda, a cholli ei waed, a'r fâth weithredoedd, y rhai y mae Paul yn eu galw yn ffrwyth yr Yspryd; Gal. 5.22. Eithr y prophwyd

Page 94

gan wneuthur gostyngedig gyffes yn enw Eglwys y Juddewon, pan syrthiasai hi oddiwrth Dduw i ddelw∣addoliaeth, sy'n cydnabod, mai tra fuont hwy trwy waith eu pechodau aflan, gwedi eu neilltuo oddi∣wrth Dduw, megis cleifion gwahanol o achos eu do∣luriau heintus, a'i cadachau halogedig, y faent ne∣illtuol oddiwrth ddynion; Nid allai eu cyfiawnder goreu hwynt, fod ond yn wrddedig yn ei olwg ef. Ac er nad yw ein gweithredoedd gorau ni, (o'i cy∣stadlu a chyfiawnder Crist) ddim gwell na brat∣tiau aflan: etto yn nerbynniad Duw er mwyn Crist fe a'i gelwir yn wisc wen; iê lliain pûr dis∣clair, digon anhebyg i frithni y llewpart, a'r gwis∣coedd budron. Dad. 3.8. Jer. 13.23. Zac. 3.4.

7. Jaco. 3.2. Mewn llawer o bethau yr ydym ni bawb yn llithro. Gwir; ond nid yw plant Duw yn pechu ym mhob peth fel yr wyt ti, heb na ffrwyno eu trachwantau, na marwhau eu llygredigaethau. ac er bod gweddillion pechod yn aros yn y plant cûaf gan Dduw, onid yw reidiol iddynt lefain beunydd, Ein tâd yr hwn wyt yn y nefoedd, maddau i ni ein dyledion: Etto yn y Testament newydd, ni elwir neb yn gy∣ffredinol yn bechaduriaid, ond y rhai diailgenedle∣dig. Eithr yr Adgenedledig, o herwydd eu astu∣drwydd awydd-frydig i wasanaethu Duw mewn pur∣deb sancteiddrwydd, ym mhob lle a elwir yn Saint. Yn gymmaint a bod Joan yn dywedyd mai pwy bynnag a aned o Dduw, ni pecha; 1 Joan. 3.9. hyn∣ny yw, nid yw yn byw mewn aflendid yn ewyllys∣car, gan adael i bechod reoli ynddo, fel yr ydwyd ti. Na thwylla mo honot dy hûn ag enw Cristion: pwy bynnag a fo arferol o fyw mewn rhyw bechod a∣nafus, nid yw efe yn byw mewn cyflwr grâs. Pob un gan hynny (medd St. Paul) a enwo enw Crist ymadawed ag anwirodd, 2 Tim. 2.19. Nid

Page 95

yw'r adgenedledig yn pechu ond o wendid, y maent hwy yn edifarhau, a Duw yn maddau; am hynny nid ydynt yn pechu i farwolaeth, 1 Joan. 5.16. Y mae'r colledig yn pechu yn faleusus, o'u llawn a∣wydd, ac yn ymlawenhau ynddo: fel o'i gwir fodd, y mae pechod yn ymadel â hwynt, cyn iddynt hwy ymadel ag ef. Nid edifarhant, ac ni faddau Duw. Am hynny y mae eu pechodau yn farwol, (medd St Joan) neu yn hytrach yn anfarwol, megis y dywaid St Paul, Rhuf. 2.5. Nid jawn escus (gan hynny) yw dywedyd, pechaduriaid ydym ni oll. Gwir gri∣stianogion (di a weli) ydynt oll yn Saint.

8. Luc. 23.43. Y lleidr a drôdd a'r y ffun olaf o'i enau, a dderbynniwyd i Baradwys. Beth am hyn∣ny? O caf fi gymmaint o amser, ac y gallwyf ddy∣wedyd wrth farw, Arglwydd trugarha wrthyf, mi gaf finnau yr un ffunyd fy achub am gwaredu. Ond beth oni chai di? ac etto llawer yn y dydd hwn∣nw a ddywaid Arglwydd, Arglwydd, a'r Ar∣glwydd nid adnebydd mo honynt. Matth. 7.22, 23. Y lleidr a achubwyd, o herwydd iddo edi∣farhau; eithr ei gyfaill ni chafas râs i edifarhau, efe aeth yn ddamnedig. Gochel gan hynny, rhag wrth hyderu mewn hwyr edifeirwch yn dy ddiwedd ar y ddaiar, ofod arnat edifarhâu yn rhyhwyr heb ddiwedd yn uffern.

9. 1 Joan. 1. Gwaed Jesu Grist sydd yn ein glan∣hau ni oddiwrth bob pechod, ac 1 Joan. 2.1. O phe∣cha neb y mae i ni ddadleuwr gyd a'r Tâd, Jesu Grist y cyfion, &c. Oh cyssurns! Ond gwrandewch beth y mae S. Joan. yn ei ddywedydd yn yr un lle: fy mhlant bŷchain y pethau hyn a scrifennais attoch fal na phechoch. Os dy di (gan hynny) a adcwi dy be∣chod, y cyssurau hyn sydd yn dy eiddaw, onid ê ni pherthynant i ti.

Page 96

10. Rhuf. 5.20. Lle yr amblhâodd pechod, mwy o lawer yr amlhaodd grâs.

Oh odiaeth! eithr gwrandewch beth a ddywaid Paul yn ol hynny: beth a ddywedwn gan hynny, a barhawn mewn pechod, fel yr amlhao gras? na atto Duw. a ninnau wedi meirw i bechod, pa wedd y by∣ddwn fyw etto ynddo ef? Rhuf. 6.1.2. Nid yw y lle yma yn dyscu i ni ryfygu, ond na ddylem anobei∣thio. Nid oes gan hynny yr vn o'r addewidion hyn, yn addo grâs i neb, ond i'r galon edifeiriol.

Seiliau crefydd a gamgymmerir ydynt:

1. Odiwrth athrawiaeth cyfiawnhâd trwy ffydd yn vnig: Cristion cnawdol a gascl; nad ydyw gweith∣redoedd da angenrheidiol. y mae yn canmol eraill a wnelo weithredoedd da, eithr y mae ef yn coelio am dano ei hun y bydd efe cadwedig trwy ei ffydd, heb wneuthur dim or fâth bethau. Ond ef a ddylai wy∣bod, er nad yw gweithredoedd da angenrheidiol i gyfiawnhau dŷn; etto y maent yn anghenrheidiol i iechydwriaeth: Canys gwaith Duw ydym, wedi ein creu ynghrist Iesu i weithredoedd da, y rhai a ragddarparodd Duw i ni rodio ynddynt. Ephes. 2.10. Pwy bynnag gan hynny mewn oedran a syn∣wyr ni wnêl weithredoedd da wedi ei alw, ni eill ef fod yn gadwedig: ac ni ragddarparwyd ef erioed i fywyd tragywyddol. Am hynny y dywed yr scry∣thur y tâl Crist i bob dŷn yn ol ei weithredoedd, Rhuf. 2.6. 2 Cor. 9.6. Dad. 22.12. Nid yw Crist yn gweuthur cyfrif o ddim oedd yn yr Angelion o'r saith eglwys, ond o'u gwethredoedd Datc. 2. ac 3. Ac yn y dydd diwaethaf, ef a rydd yr etifeddiaeth ne∣fol, yn vnig ir rhai a wnaethant weithredoedd da, yn porthi 'r newynog, yn dilladu 'r noeth, ac felly, Math. 25. Yn y dyd hwnnw cyfiawnder a wisc y go∣ron. 2 Tim. 4.8. Heb gyfiawnder, heb goron, heb weithredoedd da (yn ol ei dalent) heb wobr gan

Page 97

Dduw, oddieithr dial. Bod yn gyfoethog mewn gweithredoedd da, ydyw 'r sail gadarnaf o'n siccrwydd ni i dderbyn bywyd tragywyddol, 1 Tim. 6.19. O blegid gweithredoedd da ydynt wir ffrwythau gwir flydd, yr hon sydd yn ymaflyd yn Grist a'i ufydd∣dod i iechydwriaeth. Ac nid oes ffydd arall yn lle∣shau yn Ghrist, ond yr hon sydd yn gweithredu trwy gariad. Gal. 3.6.

Ac (oddieithr yngweithred cyfiawnhâd) y ffydd, yr hon sydd yn unig yn cyfiawnhau, nid yw yn unig un amfer, eithr ynghŷ 〈◊〉〈◊〉gweithredoedd da: Fel y pren a'i ffrwyth, yr haul a'i lewyrch, y tân a'i wrês, y dwfr a'i wlybanniaeth. a'r ffydd honno, yr hon nid ymgyfiawnhá trwy weithredoedd da o flaen dynion, nid yw ond flydd farwol: yr hon ni chyfi∣awnha fŷth enaid dyn o flaen Duw. Jag. 2.26. Ond y ffydd sydd yn cyfiawnhâu a bureiddia y galon, ac a sancteiddia yr holl ddŷn trwyddo. Act. 15.9. 1 Thes. 5.23.

2. Oddiwrth athrawiaeth tragwyddol rhagddarpa∣riad Duw a'i ddigyfnewidiol osodiad, y mae ef yn casglu: Os rhagddarparwyd ef i fod yn gadwedig, ni eill ef amgen na bô, os i ddamnedigaeth, ni eil Moddion wneuthur iddo ddim daioni. Am hynny nid yw holl weithredoedd Duwioldeb ond ofer. Eithr ef a ddylai ddyscu ddarfod i Dduw ragddarparu at y moddion, fel at y diwedd. Yr hwn gan hynny a ragddarparodd Duw i fod yn gadwedig, hynny yw, at y diwedd, a ddarfu iddo ei ragddarparu yn gyn∣taf i gael ei alw, a'i sancteiddio, a'i wneuthur vn ag∣wedd â llûn ei Fâb, yr hyn yw y moddion, a'r rhai (medd Petr) a ddewiswyd i iachydwriaeth a ddewiswyd hefyd i sanctieddiad yr yspryd, 1 Pet. 2.16. Rhuf. 8.29, 30. Os ty di gan hynny ar dy alwad ach osodi dy hûn at air, ac agwedd Crist dy Arglwydd, ac a vfyddhei i ddaionus gynhyrfiadau yr Yspryd glán,

Page 98

drwy ymadel a phechod, a byw mewn buchedd ddu∣wiol: yno bydded diogel gennit, dy fod yn un or rheini, yn ddiammeu a ragddarparwyd i iechyd∣wriaeth tragwyddol. Os amgen, na feiâ ar rag∣ddarpariad Duw, ond ar dy bechod dy hûn, a'th wrthryfelgarwch. Ymchwel di at Dduw, a Duw yn rasufawl ath dderbyn di, fel y derbynniodd y Tàd y Mâb afradlon; ac wrth dy drôad, fe fydd eglur, yn gystal i Angelion, ac i ddynion; dy fod di yn perthyn i'w etholedigaeth ef. Luc. 15.10, 24. Onîs gwnei; pa ham yr achub Duw dy di?

3. Pan glywo y Cristion cnawdol, nad oes gan ddŷn rydd-did ewyllys at ddaioni, y mae ef yn goll∣wng awen y ffrwyn at ei feddwl llygredig ei hûn, fel ped fai heb allu nac ymattal, nacymgospi; yn ddig∣wyddedig yn gwneuthur Duw yn awdur o bechod, gan iddo oddef i ddŷn redeg i'r angenrhaid yma. Ond efe a ddylai wybod roi o Dduw i Adda rydd∣did ewyllys, i sefyll yn ei ddiniweidrwydd, os myn∣nai; eithr dŷn a gamarferodd ei ewyllys rhydd, ac a'i collodd ei hun, ac yntau. Gwedi y cwymp, y mae i ddŷn ynghyflwr llygredigaeth, ewyllys rhydd at y drwg, ac nid at y da. Oblegid yn yr stât hon (me∣dd yr Apostol) nid ydym ni yn gallael meddylied vn meddwl da. 2 Cor. 3.5. Ac nid ydyw Duw rwyme∣dig i roi i ni eilwaith yr hyn a gollasom yn enbydus, heb gymmeryd gofal mwyach am ei ynnill drachefn. Ond cyn gynted ac y byddo dŷn yn adgenedledig, y mae grâs Duw yn hyfforddi ei ewyllys at ddaioni, fel y mao ef yn gwneuthur yr holl bethau da, a'r a w∣nelo, ac ewyllys rhydd: O blegid felly y mae 'r A∣postol yn dywedyd fod Duw o'i ewyllys da, yn gweith∣redu ynom yn gystal yr ewyllys, a'r gwaith, Phil. 2.12. 2 Cor. 7.1. y rhai (fel y mae'r Apostol yn ei ddeon∣gl) ydym yn ein glanhâu ein hunain oddiwrth bob ha∣logrwydd cnawd ac Yspryd, gan berffeithio ein sancte∣iddrwydd

Page 99

yn ofn Duw. Ac yn y cyflwr yma, y mae i bob cristion ewyllys rhydd; ac fel y mae yn cynyddu mewn grâs, felly y mae ei ewyllys yn cyn∣nyddu mewn rhydd-did: Oblegid pan fo y mâb yn ein gwneuthur ni yn rhydd, yno yr ydym ni yn rhydd ddiogel: ac lle bo yspryd yr Arglwydd yno y mae rhydd-did: Joan. 8.36. 2 Cor. 3.17. canys y mae r yspryd sanctaidd yn tynnu eu meddyliau, Joan. 6.44. nid o'i hanfodd, ond trwy raffau cariad, can. 1.4. Gan lewyrchu eu meddyliau i adnabod y gwirio∣nedd; gan gyfnewidio eu calonnau i garu y gwirio∣nedd adnabyddus; gan nerthu pob vn o honynt yn (ôl y grâs a dderbynniodd) i wneuthur y daioni, yr hyn y mae yn ei garu. Eithr nid wyt ti yn arferu mo rydd-did dy feddwl, cyn belled ac y rhoes Duw ef yn rhydd: O herwydd yr ydwyd ti yn fynych yn ewyllysgar (yn erbyn cyfraith Dduw, i beryglu dy enaid dy hûn) yn gwneuthur peth, yr hyn ped fai gyfraith y Brenin dan boen marwolaeth, neu golli dy dda, yn ei wahardd, neu ei wrthwynebu, nis gwneit. Na wna gan hynny moth ddiffyg ewyllys rhydd i ddai∣oni, i fod yn gymmaint achos o'th waith yn pechu, ac yw eisiau calon gariadus i wasanaethu dy Dâd nefol.

4. Pan glywo y dyn cnawdol, na ddichon neb (er pan gwympodd Adda) gyflawni cyfraith Dduw, a chadw ei holl orchymynnion: Y mae ef yn hyfedr i bechu yn rhyfygus fel rhai eraill: ac yn ei fodloni ei hûn ac ychydig feddyliau da: ac onid yw ef yn gwbl gynddrwg a'r gwaethaf, y mae ef yn gweled ei fod ei hun yn gystal adgenedledig ac yw 'r gorau. Ac y mae ef yn cyfrif pob ewyllysgar nag∣hau o wneuthur daioni, neu o wrthwynebu 'r drwg, yn amhossiblrwydd y gyfraith. Eithr ef a ddylai ddysgu, ef (yn ol y cwymp) na allodd neb ond Crist, (yr hwn oedd yn Dduw ac yn Ddyn) gy∣flawni

Page 100

yr holl gyfraith yn berffaith: etto y mae pob gwir gristion, cyn gynted ac ei bo yn adgenedledig, yn dechrau cadw holl orchmynnion Duw mewn gwirionedd, er nas geill mewn perffeithrwydd cyfl∣awn. Ac felly (gyd â Dafydd) maent hwy yn gosod en calonnau i gyflawni gorchmynnion Duw bob amser hyd y diwedd. Psal. 119, 112. Ac yno y mae Ys∣pryd y grâs (yr hwn yn ol yr addewid a dywelldir all∣an yn amlach dan yr Efengyl) yn eu diddanu hwynt, ac yn eu cynnorthwyo yn eu hamcannion i wneuthur yr hyn a orchymmynno ef iddynt ei wne∣uthur. Joel. 2.28, 29. Ac wrth wneuthur hynny, y mae Duw yn derbyn eu hewyllys da a'u dyfalwch, yn lle cyflawniad y gyfraith. Gan osod haeddedi∣gaethau Crist, (yr hwn a gyflawnodd y gyfraith trosom ni) i atteb dros ba beth bynnac a fo diffy∣giol yn ein vfydd-dod ni. Ac o herwydd hyn, y mae St. Joan yn dywedyd, nad yw gorchymynion Duw yn drymmion. 1 Jo. 3.5.

Ac y mae St. Paul yn dywedyd, yr wyf yn gallu pob peth trwy Grist yr hwn sydd yn fy nerthu i. Phil. 4.15. Ac yr ydis yn dywedyd am Zachari ac Eli∣zabeth, iddynt hwy rodio yngorchymynnion yr Argl∣wydd yn ddiargyoedd Luc. 1.16. Ac o'r achos y∣ma y mae Crist yn crchi iw ddisgyblion gymmeryd gofal am gadw ei orchmynnion: megis y dystiolaeth gywiraf o'n cariad tu ac atto. Joan. 15.10. Cym∣maint gan hynny y mae dŷn yn caru Crist, ac y mae efe yn gwneuthur cydwybod o rodio yn ei orch∣mynion ef; a pha fwyaf a fo eîn cariad ni tu ae at Grist, lleiaf a fydd ein poen ni yn cadw ei gy∣fraith.

Melldith y gyfraith, yr hwn (dan y Testament hên) oedd mor ddychrynadwy, dan y newydd trwy farwolaeth Crist a ddidymmwyd i'r adgened∣ledig. Y toster oedd yn ei gwneuthur yn amhossibl

Page 101

i'n naturiaeth ni o'r blaen, sydd yr awrhon gwed ei dymmeru gan yr Yspryd i'r newydd-enedig, fel y mae hi yn ymddangos yn hawdd, ac yn esmwyth. Yr oedd yr Apostolion yn dirio a'r yr Iddewon, a'r cenedloedd digrêd, nad oedd bossibl cad∣w'r gyfraith drwy nerth naturiaeth lygredig. Ond pan fyddent hwy yn dyscu Cristiannogion credadwy, y maent hwy yn gofyn vfydd-dod i'r gyfraith (yr hon yw rheol cyfiawnder) sef gwir vfydd-dod, mewn gair a gweithred: marwhau eu haelodan: croeshoelio y cnawd, ei wynniau a'i drachwantau: adgyfodiad i newydd-deb buchedd, rhodio yn yr Yspryd, gorchfygu y byd drwy ffydd. Rhuf. 15.18. Col. 3.5. Gal. 5.24. Rhuf. 6.4, 5. ac 8.11. 1 Joan. 5.4. Fel er na allo neb ddywedyd gid â Christ, pwy o honoch am hargy∣hoedda i o bechod? fe ddichon pob Cristion adgened∣ledig ddywedyd am dano ei hûn, pwy o honoch am hargyhoedda fi o fod yn odinebwr; puteiniwr, tynghed∣wr, meddwyn, lleidryn, occrwr, gorthrechwr, balch, cenfigennus, yn gybydd, yn dorwr y Sabboth sanctaidd, yn gelwyddog, yn esceuluso cyffredin wasanaeth Duw, a'r fath bechodau dybryd gorthrwm? ac onid ê nid yw efe wir gristion. Pan beidio dŷn a gwneuthur cydwybod o ddilyn llywodraeth cyfraith Dduw, yno y mae Duw yn ei. roddi ynteu i fynn iw arwain gan ei drachwantau ei hûn, yr arwydd pennaf o feddwl anghymer adwy, Rhuf. 1.24, 28. Fel hyn y gyfraith (yr hon gwedi y cwymp ni ddichon neb oi naturiol allu ei chyflawni) a gyflawnir mewn gwirionedd gan bob Cristion adgenedledig, trwy rasusol gynnorthwy Yspryd Crist. Rhuf. 8.9. Luc. 11.13. A'r Yspryd hwn a rydd Duw i bob Cristion a weddio am dano, ac a ostyngo ei galon i gadw ei gyfreithiau ef.

V. Pan glywo y dŷn di-adgenedledig, fod Duw yn ymhoffi mwy yn y meddwl oddifewn. nag yn y dŷn oddiallan, yno y mae efe yn meddwl ynddo ei hur,

Page 102

sod pob parch, neu grefydd oddiallan, naill a'i 'n ofergoel a'i yn afraid.

O hyn y digwydda mai anfynych jawn y gostwng ef a'r ei liniau yn yr Eglwys: a'i fod yn gwisco am ei ben wrth ganu Psalmau, neu a'r weddiau cyffredin: yr hyn beth ni chynnygiai y budredd brwnt yng∣ŵydd tywysog, neu ŵr anrhydeddus. Ac am y cat∣wo efe ei feddwl i Dduw, y mae yn tybied mewn pe∣thau eraill y gall ddilyn arferion y byd. Y mae efe yn rhannu ei feddyliau, ac yn rhoi hyn a hyn i Dduw, a hyn a hyn iw drachwantau; ie efe a rêin y dydd Sabbôth â Duw, ac a rydd gan mwyaf, y naill hanner i Dduw, ac a dreulia y llall yn gyfan yn ei ddifyrrwch ei hûn. Eithr gwybydd (o ddŷn cnaw∣dol) na fyn yr hollalluog Dduw mo'i wasanaethu ag hannêrau, o herwydd efe a greawdd ac a warêdodd yr holl ddŷn, Ac fel y mae Duw yn ffieddio gwasa∣naeth y dŷn oddiallan, heb y galon oddimewn, me∣gis rhagrith: felly y mae ef yn cyfrif gwasanaeth oddimewn, heb anrhydedd oddiallan yn ffieiddbeth halogedig; y mae ef yn gofyn y ddau yn ei wasana∣eth. Yn dy weddi (gan hynny) ymostwng ar dy liniau i dystiolaethu dy ostyngeiddrwydd: dercha dy olwg, a'th ddwylaw, i arwyddocau dy gredinia∣eth: gostwng dy ben i lawr, curâ dy ddwyfron, yn arwydd o'th edifeirwch: ac yn enwedig galw a'r Dduw â chalon bur: gwasanaetha ef yn sanctaidd, yn gyfan, ac yn vnig: Canys Duw, a thywysog y byd hwn, ydynt ddau Arglwydd gwrthwyneb iw gilydd, am hynny nid yw bossibl i neb wasanaethu 'r ddau.

VI. Y mae Cristion diadgenedledig yn cymme∣ryd gwrando pregethiad yr Efengyl yn beth a ellir ei hepcor, a bod iddo ei ddewis a'i arfer, a'i peidio a'i arfer pan fynno: Ond pwy bynnag wyt a fynnit yn ddiogel sicrhau dy galon, o'th fod yn vn o dde∣wisedig ddefaid Crist: rhaid itti gymmeryd gofal

Page 103

mawr, a gwneuthur cydwybod (os iw bossibl itti) i wrando pregethu gair Duw: Oblegid yn gyntaf, pregethiad yr Efengyl ydyw 'r prif gyfrwng trefne∣dig a osododd Duw i ddychwelyd eneidiau, y rhai a ragddarparodd ef eu bod yn gadwedig: am hynny y gelwir yn allu Duw er iechydwriaeth i bob dŷn sydd yn credu. Rh. 1.16. Ac lle nid yw yr ordinhâd hwn, y mae 'r bobl yn golledig. Dih. 29.18. a phwy bynnag a'i gwrthodo, fe fydd esmwythach. I dir Sodom a Go∣morha ddydd y farn nac i'r bobl hynny. Luc. 10.12. Yn ail, pregethiad yr Efengyl ydyw baner Crist; at yr hon yr ymgynnull yr holl filwyr, a'r etholedigion bobl. Esay. 11.12. ac 2.2, 3. Pan osoder allan y fa∣ner hon megis y gwneir a'r ddydd yr Arglwydd, nid yw efe o bobl Dduw yr hwn ni chyrcho atti, ac ni ddis∣cyn defnyn o ddwfr ei râs of a'r ei heneidiau. Zac. 14.17. Yn drydydd: dyma 'r moddion cyffredin, drwy'r hyn y mae 'r Yspryd glân, yn ennyn ssydd yn ein calonnau, heb yr hyn ni allwn ni ryngu bodd Duw. Rhuf. 10.14. Os gwrando a'r lais Crist yw'r nôd pennaf ar etholedig ddefaid Crist, ac a'r gyfaill y priod fâb, Joan. 10.2. ac 3, 29. Yno ni ddichn na bo hwnnw nôd dychrynadwy o afr wrthodedig, yr hwn a esceuluso, neu ddiystyro wrando pregethiad yr Efengyl. Na fyddylied neb fod yr ymadrodd hwn yn ffôl: O blegid trwy 'r ffollineb yma a'r brege∣thu, y mae yn rhyngu bodd i Dduw achub y rhai a gredant. 1 Cor. 1.11. Ofnadwy yw eu cyflwr hwynt gan hynny y rhai sy 'n byw mewn heddwch, heb ofal am bregethiad yr Efengyl. A eill dynion ddisgwyl am drugaredd Dduw a dirmygu y moddion iw gael? yr hwn, medd Crist am bregethwyr ei Efengyl, a'ch dirmygo chwi am dirmyga innau, Lu. 10.16. yr hwn sydd o Dduw, a wrendy eiriaus Duw, am hynny nid ydych chwi yn gwrando, am nad ydych o Dduw. Joa. 8.47. O ni buasai bregethu o Joan fedyddiwr ni bu∣asai

Page 104

yr Juddewon byth yn galaru. oni buasai i'r Is∣raeliaid glywed cennadwri Phineas, in wylasent byth, oni buasai i'r rhai a groeshoeliodd Grist glywed pre∣geth Petr, ni buasai fyth gynhyrfriw yn eu calon∣nau, Act. 2.37. oni bai glywed o'r Ninifeiaid bre∣geth Jonas, ni buasent hwy byth yn edifarhau Joh. 3.5. ac oni wrendewi dithau ac edifarhau, ni byddi di byth yn gadwedig, Luc. 13.5. Dihar. 28, 9.

VII. Yr opiniwn, nad yw 'r Sacramentau ond ar∣wyddion noethion a selau o addewid Duw a'i râs i ni, a wnaeth fawr rwystr ar Dduwioldeb; lle mewn gwirionedd y maent yn selau yn gystal o'n gwasana∣eth, a'n hufydd-dodd ni i Dduw: yr hwn wasana∣eth, onis cyflawnwn iddo ef, nid yw 'r Sacramen∣tau yn selio dim grâs i ni. Eithr o derbyniwn hwynt tan fwriadu bod yn weision ffyddlon edifei∣riol, yno y mae y Sacramentau nid yn vnig yn ar∣wyddocau, ac yn cynnig, eithr yn hytrach yn selio a gweithredu grâs ysprydol oddifewn, yr hyn oddial∣lan y maent yn ei addo, ac yn ei arwyddocau. Ac i'r perwyl yma, y gelwir y bedydd ymolchiad adenedi∣gaeth, ac adnewyddiad yr Yspryd glàn; Tit. 3.5. a Swpper yr Arglwydd, cymmun corph a gwaed Crist. 1 Cor. 10.16. Pe coelid y gwirionedd hwn, y Sacrament sanctaidd o swpper yr Arglwÿdd, a gymmeryd yn fynychach, ac mewn mwy parch ac anrhydedd.

VIII, Yr olaf, ac nid y cyff lleiaf, wrth yr hwn y mae Duwioldeb yn cael tramgwydd mewn achosion crefydd, ydyw addurno campau drwg âg enwau rhinwéddau da: megis galw carowsio meddwaidd, y∣fed iechyd; tywallt gwaed gwirion, gwroldeb; glo∣thineb, lleteugarwch; cybydd-dra, cynnildeb; putein∣dra caru merched, cyssegr-werth, rhôdd o ddiolch∣garwch; balchder, ymddigiad hoiw; gwenheithio, medrusrwydd; meibion Belial, cymdeithion da;

Page 105

poethineb, ffromder; serthedd digrifwch; felly or tu arall, galw llarieidd-dra mewn geiriau a gwe∣ithredoedd, rhagrithiad; elusênau, gwâg ogoni∣ant; Duwiolder ofergoel; Zêl mewn crefydd, pû∣ritaniaith; gostyngeidd-dra llyfrdra, gweuthur cydwybod, manyldra, &c.

A thra fôm ni fal hyn yn galw drwg yn dda; a da yn ddrwg; y mae gwir dduwioldeb yn cael mawr rwystr i fyned iw thaith a'i helynt. A hyn yma am y rhwystr cyntaf ar dduwioldeb, wrth gamgyme∣ryd gwir feddwl mannau hynod o'r scrythyrau, a sei∣liau crefydd gristianogawl.

Yr ail peth sydd yn rhwystro Duwioldeb.

2. Drwg ecsamplau y gwŷr mawr. Ystod bu∣cheddau halogedig yr rheini, y maent hwy yn ei ddilyn o flaen gorchymmyn y Duw sanctaidd. Felly pan welont hwy y gwÿr mwyaf yn y deyrnas, a llawer o'r gwŷr bonnedigion pennaf yn y wlâd, heb gymmeryd na gofal na chydwybod o wrando prege∣gethau, nac o dderbyn y Cymmun, nac o sanctei∣ddio Sabboth yr Arglwydd, &c. Ethr yn dyngwyr, yn odinebwyr, yn feddwon, yn gribddeilwyr, ac fel∣ly, &c. yno y maent hwy yn tybied nad ydyw y san∣ctaidd ordiniadau hyn, bethau o bwys mawr: canys pe dyddent, ni wnai y cyfryw wŷr mawr doe∣thion cyn lleied cyfrif o honynt. Ac wrth hyn y maent hwy yn tybied nad yw crefydd beth angen∣rheidiol. Ac am hynny lle dylent (fel Cristianogi∣on) rwyfo yn erbyn ffrwd anuwioldeb tu a'r nefo∣edd, y maent hwy yn ymroi i fyned gyd a'r llawero∣edd bendramwnwgl i vffern; gan dybied fod yn amhossibl i Dduw ollwng cynnifer i ddamnedigaeth. Lle oni bai ddarfod i Dduw y byd hwn ddallu llygaid eu meddyliau, fe ddyscai yr Scrythur Sanctaidd id∣ddynt,

Page 106

nad llawer o rai doethion yn ôl y cnawd, nad llawer o rai gallnog, nad lawer o rai bonneddigion a elwir, &c. 1 Cor. 1.26. Ond gan mwyaf y tlodion sydd yn derbyn yr Efyngyl. Ac ychydig o'r cyfoetho∣gion a fydd cadwedig. Joan. 11.5. Matth. 19.23, 24. Ac er bod llawer gwedi en galw, etto ni bydd ond ychydig wedi eu dewis. Ac nid iw maintiolaeth lliaws yn gallu cadw oddiwrth ddamnedigaeth. megis y derchafodd Duw rai gwŷr i fowredd vwch law e∣raill; felly y mae ef yn disgwyl iddynt flaenori era∣ill mewn crefydd a duwioldeb: Onid ê, mawredd gwedi ei gamarfer yn amser eu gorchwyliaeth, a dry yn fwy cospedigaeth iddynt, yn eu dydd cyfrif: y pryd y bydd y gwŷr mawr, a'r galluogion pe∣chadurus, yn gystal a'r tlodion, caethion, eill∣dudion, yn dymuno i'r creigiau a'r mynyddoedd syrthio arnynt a'i cuddio oddiwrth wyneb y Bar∣nwr, ac oddiwrth ei gyfion haeddedigol ddigofaint. Datc. 6., 15, 16. Nid ydyw ond cyssur gwan i ti, gael cynulleidfa fawr o wyr mawrion gyd â thi, yn gyfrannogion o'th tragwyddol boenedigaethau. Nid yw rhyfedi y pechaduriaid yn yscafnhau, eithr yn trymhau y pechod, megis yn Sodom. gwell yw gan hynny, fod yn gadwedig gyd a'g ychydig yn yr Arch, na bod gyd a'r holl fyd yn boddi yn y diluw. Gwell yw rhodio gyd a'r ychydig Duwiol yn llwybr cyfing yr scrythyrau i'r nefoedd, nac ymwthio gyd a'r dyrfa anuwiol rhyd y ffordd lydan sydd yn tywys i vffern. Matth. 7.13. Na âd gan hynny i samplau gwyr mawr anuwiol dy attal oddiwrth edifeirwch; canys ni eill eu mawredd hwy y dydd hwnnw eu hachub eu hunain odddiwirth eu mawr anfeidrol boenedi∣gaethau.

Page 107

Y trydydd peth sydd yn rhwystro Duwioldeb.

3. Diangc yn hir heb haeddedigol gosp yn y by∣wyd hwn. O blegid (medd Salomon) na wneir y farn yn y fan yn erbyn drwg weithredwr, am hynny y mae calonnau meibion dynion gwedi yneroi yn ollawl i wneuthur drwg, heb adnabod fod daioni Duw yn eu tywys i edifeirwch Preg. 8.11. Rhuf. 2.4. Ond pan gamarferer ei ammynedd ef, ac addfedu pe∣chod dŷn, fe fydd ei gyfiawnder ef a'r vnwaith yn dechrau, ac yn gwneuthur diben o bechadur: ac ynghyfair ei fod yn hwyrfrydig i lid, ac yn hir yma∣ros, fe dery o'r diwedd hyd adref, a thrymder cospe∣digaeth. 1 Sa. 3, 12. Er eu gadael i redeg fwyfwy ar gy∣frif holl ddyddiau eu heinioes, etto bid diau y cant dalu yr hadling eithaf yn nydd eu marwolaeth. Athra fônt yn eu tybied eu hunain yn ddiangol oddiwrth ddialedd, y maent eusys gwedi eu taro a'r trymmaf o farnedigaethau Duw, sef â chalon ni eill edifarhau. Rhuf. 2.5. Y garreg yn yr arennau, neu 'r chw∣sîgen sydd benyd anguriol yn lladd Cyrph llawero∣edd o ddynion. Eithr nid dolur ond y garreg yn y galon; o'r hon y bu Nabal farw, yr hon a laddodd fyrddiwn o encidiau. Gwrthod y maent brofedi∣gaeth Crist a'i groes: ond maent yn cael eu llaby∣ddio gan ddihenyddwr vffern i angau tragwyddol.

O blegid nad yw llawer o'r pendefigion pennaf, a'r bonneddigion gorau, yn cael eu taro a barnedi∣gaeth bresennol, am dyngu yn felldigedig, godi∣nebu, meddwi, treisio, halogi 'r Sabbôth, ac es∣ceuluso yn ddirmygus addoliant Duw, a'i wasaneth: yno dechrau maent hwy ammeu rhagddarparwch Duw a'i gyfiawnder. Y ddau lygad hynny a chwe∣nychent

Page 108

hwy eu tynnu allan o Dduw, mor ewyllys∣gar, ac y tynnodd y Philistaid lygaid Sampson. Peth iw ofni yn fawr yw, rhag iddynt annog yr Arglwydd i lefain yn eu herbyn, megis y gwnaeth Sampson yn erbyn y Phylistiaid; Gan esceuluso 'r gyfraith a rho∣dio yn ol eu calonnau eu hunain, hwy a dynnant (hyd y del erddynt hwy) olygon fy rhagluniaeth, am cy∣siawnder. Arweiniwch fi gan hynny at y prif go∣losnau hyn ar yr rhai y mae y deyrnas yn sefyll: fel y gallwyf dynnu y deyrnas a'r eu pennau, a chael dial arnynt a'r vnwaith am fy nau lygad. Barn. 16.21, 26. Na âd i ammynedd Duw rw∣ystro dy edifeirwch, ond am ei fod efe yn ymar∣hous, er mwyn hynny bydd dithau chwannoccach i edifarhau.

Y Pedwerydd peth sy'n rhwystro Duwioldeb.

4. Rhyfygu o drugaredd Duw. O blegid pan argyoedder dynion yn gyfion am eu pechodau, yn ebrwydd y maent hwy yn cymmeryd yn ymdiffyn iddynt y darian yma, sef y mae Crist yn drugarog; ac felly mae pob pechadur yn gwneuthur Crist yn ymddiffynnwr ei bechod ef: Megis ped fuasai ef yn dyfod i'r byd er mwyn pleidio gyd â pechod, ac nid i ddinistrio gweithredoedd y cythrawl. Ar hyn o bêth y mae 'r Cristion cnawdol yn rhyfŷgu, er iddo barhau dros ennyd yn ei bechod, na fyrhâ Duw moi ddyddiau. Ethr beth yw hyn, ond bod yn angrhed∣adyn dirgel? Gan ammeu, naill, ai nad yw Duw yn gweled ei bechodau; neu os yw yn gweled, nad yw yn gyfion Canys os yw yn credu, fod Duw yn gyfion, pa fodd y geill ef dybied fod Duw, yr hwn fy 'n cospi rhai eraill yn drwm am bechod, yn ei ga∣ru ef, yr hwn sydd yn ewyllysio parhau 'n oestad mewn pechod? gwir yw, fod Crist yn drugarog. eithr i bwy? yn vnig ir rhai a edifarhâo ac a drò oddiwrth

Page 109

eu hauwiredd yn Jacob. Ond o bydd neb yn ei fendi∣thio ei hûn yn ei galon, gan ddywedyd, mi gaf dang∣hneddyf, er i mi rodio yn ôl cyndynrhwydd fyngha∣lon fy hûn, gan chwanegu meddwdawd at syched, ni bydd yr Arglwydd trugarog wrth hwnnw, &c. Esay. 59.20. Deut. 29, 19. O ynfydion! a feiddiant ymfendithio eu hunain, pan fyddo Duw yn eu galw hwynt yn felldigedig. Edrych gan hynny pa cyn be∣lled wyt oddiwrth gael edifeirwch ynot dy hûn, cyn belled a hynny wyt oddiwrth siccrwydd am gael tru∣garedd Yn Ghrist. Gadawed gan hynny y drygionus ei ffyrdd, a'r gwr anwir ei feddyliau, a dychweled at yr Arglwydd, ac efe a gymmer drugaredd arno, ac at ein Duw ni, ac efe a arbed yn helaeth, Esa. 55, 7.

Nid yw anobaith ynghyful mor beryglus a rhy∣fyg. O blegid nid ydym ni yn darllain yn yr holl scrythyrau, oddieithr am dri neu bedwar, y darfu i anobaith ofnadwy eu gorchfygu: eithr fe ddarfu i ryfyg diofal ddanfon myrddiwn yn ddisdaw i golledi∣gaeth. Megis gan hynny yr oedd y llangcesau yn Is∣rael yn canu yn eu downsiau, fe laddod Saul ei fil, a Dafydd ei ddengmîl: felly y gallaf finnau ddywedyd, ddarfod i anobaith o drugaredd Dduw yrru mi∣loedd yn golledig: a rhyfyg o drugaredd Dduw yrru deng-miloedd yn golledig: a'i danfon yn fyw i vffern, lle y maent yn aros heb gymmorth, nag esmwythdra; na dim gobaith o ymwared. Fe rôes Duw nawdd i'r lleidr, ond nid iw gyfaill; Luc. 23. Duw a rôes nawdd i vn, fel na byddei i neb anobeithio: ni roes Duw nawdd ond i vn, fel na byddei i neb ryfygu. sic∣crwydd hyfryd i bechadur a edifarhâo: dim cyssur i'r hwn a fyddo yn aros yn anedifeiriol. Y mae Duw yn aneirif ei drugaredd, eithr yn vnig i'r rhai a drô oddiwrth eu pechodau, iw wasanaethu ef mewn san∣cteiddrwydd: heb yr hyn ni chaiff neb weled yr Arg∣lwydd. Heb. 12.14. I'th cadw di gan hynny oddi∣wrth

Page 110

y rhwystr hwn o ryfygu, cofia, mai fel y mae Crist yn waredwr, y mae Moeses yn gyhuddwr. Bydd fyw gan hynny fel pe na bai yr vn Efengyl: bydd farw fel ped fai heb fod vn gyfraith. rhêd dy yrfa yn y bywyd fel ped fait dan lywodraeth Moeses, ymâd a'r bywyd yma fel pe na bait yn adnabod neb ond Crist, ac ef gwedi ei groeshoelio. na ryfyga oni fyn∣ni di fod yn golledig; edifarhâ, o mynni fod yn gadwedig.

Y pumed peth sy 'n rhwystro duwioldeb.

5. Cyfeillach ddrwg, yr hyn yn gyffredin a elwir cymdeithion da: Eithr mewn gwirionedd prif offe∣rau 'r cythraul i rwystro pechadur truan i edifeirwch a duwioldeb. Yr arwydd cyntaf o ffafr Duw i be∣chadur yw rhoi iddo râs i ochel cyfeillion drwg: y cyfryw rai ag sydd yn ewyllyfgar yn ymdrybaeddu mewn pechod, gan ddiystyru moddion eu galwedi∣gaeth, gan watwor purdeb crefydd rhai eraill, a bod yn gywilydd i ffydd gristianogawl trwy eu bucheddau halogedig. Y rhain sydd yn eistedd ynghadair gwatworwyr, Psal. 1.1. O blegid pan fo Duw yn cynnwys pechadur i fod yn vn o'i bobl, y mae efe yn erchi iddo ef ddyfod allan o Babilon. Dad. 18.4. Pob cynulleidfa ddrygionus yw Babilon. Allan o'r hon naill a'i ymgadwed pob plentyn i Dduw, neu os bydd ynddi tybied fod yn clywed llef ei Dâd yn dadfeinio yn ei glust, Fy mâb tyred allan o Babilon. Hwyn gyntaf ac yr edrychodd Crist o'i drugaredd a'r Bedr, efe aeth allan o'r gynulleidfa, yr hon oedd yn neuadd yr Archoffeiriad, ac a wylodd yn chwerw∣dôst am ei bechod. Luc. 22.62. Dafydd ar ei ddych∣weliad (yn addunedu dilyn buchedd newydd) a ddywedodd; ewch ymmaith oddiwrthif holl weithred∣wyr anwiredd, Psal. 6.8. Fel ped fai yn amhossibl

Page 111

fod yn ddyn newydd, hyd oni adawai ymmaith yr holl hên gyfeillach ddrygionus; siccraf profediga∣eth o grefydd gwr ydyw dull a buchedd ei gyfeillion. Cyfeillion halogedig ydynt elynion pennaf i dduwi∣oldeb, a diffoddwyr deisyfiadau sanctaidd.

Llawer gwaith y mae Crist dlawd (wrth ymgyn∣nig iw aileni ynot) yn cael ei daflu i'r stabl: tra fo y cyfeillion drygionus hyn, wrth yfed, chwarae, a digrifwch, yn cymeryd y stafelloedd gorau yn llet∣ty dy galon. Oh na âd i gyfeillach daiarol bechadu∣riaid dy rwystro di i gymdeithas Seint ac Angylion nefol.

Y chweched peth sy 'n rhwystro duwioldeb.

6. Ofn meddylgar, rhag i ymarfer a duwioldeb, wneuthur gŵr (yn enwedig gwr ievangc) i fod yn rhy brûdd ac yn bendrwm: lle mewn gwirionedd ni eill neb gael llawenydd gwell, na mwy achos i orfoleddu na'r duwiol grefyddol gristion. O ble∣gyd cyn gynted ac y maent hwy yn cael eu cyfiawn∣hau drwy ffydd y mae iddynt danghneddyf gyd â Duw, Rhuf. 5, 2. A mwy llawenyd na hynny ni all fod. Heb law hynny y mae ganddynt eufys deyrnas y grâs wedi descyn iw calonnau, yn sicr∣wydd y cânt (yr amser y gwelo Duw fod yn dda) escyn i deyrnas ei ogoniant ef. Yn y deyr∣nas hon o râd y mae tri pheth: yn gyntaf cyfi∣awnder; Oblegid drwy gael cyfiawnder Christ iw cyfiawnhau ger bron Duw, y maent yn bwriadu byw 'n gyfion o flaen dynion. Rhuf. 14.17. Yn ail tanghneddyf, canys y mae heddwch cydwybod, yn anwahanol yn canlyn ymarweddiad gyfiawn. Yn drydydd llawenydd yr Yspryd glân: yr hwn lawe∣nydd yn vnig sydd iw gael mewn heddwch cydwybod dda, ac sydd vwchlaw pob deall, Phil. 4.7. ni eill

Page 112

na thafod ei ddatcan, na chalon ei ddirnad, ond yn vnig yr hwn sydd iw gaffael, a'i feddiannu. Dym∣ma y cyflawndra llawenydd a addawodd Crist iw ddiscyblion ynghanol eu gorthrymderau; Llawe∣nydd yr hwn ni allai neb ei ddwyn oddi arnynt. Jo∣an, 16.22, 24. Mwyniant y llawenydd hwn yr oedd Dafydd (yn ei edifeirwch) mor ddifrifol yn ei erfyn a'r law Dduw: Dyro drachefn i mi la∣wenydd dy iechydwriaeth, Psal. 51.12. Ac os ydyw yr Angelion yn y nefoedd, yn llawenychu gymmaint ar droad pechadur: Luc. 15.10. Y mae 'n rhaid i lawenydd pechadur edifeiriol fod yn dra-mawr arurhr yn ei galon ei hûn. Tristwch bydol sydd yn odi mor gynnar am bennau dy∣nion, ac yn llenwi cwysau eu calonnau a gofidiau angau. Cystudd duwiol y rhai duwiol (pan welo Duw yr achos i'w profi hwynt) sydd yn peri iddynt edifeirwch diedifeiriol: 2 Cor. 7.10. Canys hyn sy 'n hyfforddi eu iechydwriaeth. Ac yno ym mhob rhyw orthrymder hwy a allant fod yn ddiogel o gael yr Yspryd glân i fod yn ddiddanydd iddynt; Joa. 14.16. yr hwn a wna i'n diddanwch amlhau trwy Grist, fal yr amlhao dioddefiadau Crist ynom, 2 Cor. 1.5. Ond tra fo dyn yn byw mewn anuwioldeb, nid oes iddo heddwch, medd Esay Pen. 57, 21. ei chwerthiniad ef sydd ynfydrwydd, medd Salomon, Preg. 2.2. Nid iw ei gyfoeth ef ond clai, medd A∣bacuc: Pen. 2.6, Iê nid yw 'r Apostol yn gwneu∣thur mwy cyfrif o honynt nac o dom, Phil. 3.8. (wrth eu cyflybu i drysawr y duwiol) a'i holl lawenydd a derfyna mewn wylofain, medd Crist, Luc. 6.25. Na âd gen hynny i'r ofn gau hwn dy rwystro di i ymar∣fer a duwioldeb. Gwell yw myned yn glwyfus gyd â Lazarus i'r nefoedd, na myned yn llawn o lawenydd a digrifwch gyd â Diues i waelodion vffern. Gwell

Page 113

ydyw alaru dros amser gyd â dynion, na bod yn poeni yn dragywydd gyd â chythreiliaid.

Y seithfed peth sydd yn rhwystro duwioldeb.

7. A'r peth olaf: ydyw gobaith o hir enioes: Ca∣nys pe bai ddŷn o fuchedd ddrwg, yn tybied fod y flwydddyn hon, yn flwyddyn ddiweddaf iddo, y mis hwn, yn fîs diwaethaf, yr wythnos hon, yn wythnos ddiwaethaf, a'i possibl na wellhau, ac na chyfnewidiai, ei fuchedd anwireddus? gwnai 'n sier, fe arferat y moddion gorau i gael edifeirwch ac i fod yn ddŷn newydd. Eithr fel y gwr goludog yn yr Efen∣gyl, yn addo iddo ei hûn lawer o flynyddoedd i fyw mewn esmwythdra, hawddfyd, a digonedd; Pryd nad oedd iddo ef vn noswaith i fyw 'n hwy, Luc. 12, 19, 20. Felly llawer o'r glothinebwyr, a'r Epicuri∣aid drygionus, sy 'n gau addaw iddynt eu hunain lawer blwyddyn o enioes, pan fo edafedd eu hoedl a∣gos wedi ei ddirŵyn hyd yr eithaf. Felly y mae Jeremi yn pennodi yr achos o bechodau, a gorthrym∣derau yr Juddewon, gan ddywedyd, nid yw hi yn meddwl am ei diwedd. Galar-nad Jer. 1.9.

Nid yw 'r ysbaid hwyaf rhwng dyfodiad dŷn o'r grôth, a'i fynediad i'r bêdd, ond byrr: O blegid dŷn a aned o wraig nid oes iddo ond byrr amser i fyw: ychydig o ddyddiau, a'r rheini yn llawn o helbul. Ac oni bai ymarfer â duwioldeb, pa faint gwell ydyw cyflwr y plentyn a fedyddied ddoe, ac a gladdwyd heddyw, na Methusalem, yr hwn a fu fyŵ naw cant a naw a thrugain o flynyddoedd, ac yno fu farw? O'r ddau dedwyddach yw 'r plentyn, o herwydd bôd yn llai ei bechod, a llai ei gystuddiau. a pheth sydd yr awr∣hon yn aros oddiwrth y ddau, ond coffadwriaeth yn vnig? Pa hyder a ddylai ddŷn ei roddi mewn hir e∣nioes?

Page 114

wrth weled nad yw holl enioes dŷn ddim am∣gen, ond marwolaeth arafaidd: Megis y mae 'r A∣postol yn professu: dŷn sydd yn marw beunydd, 1 Cor. 15.31.

Gwrando yn dy glust o gyfaill diofal, nid yw dy einioes ond awel o wynt yn dy ffroenau: na hydera arno. Y mae dy enaid a'i drigfa mewn tŷ o bridd, yr hwn a syrth cyn bo hir. Fel y mae yn eglur wrth dy∣wyllni dy olygon, byddarwch dy glustiau, crychiadau dy ddeurudd, Pydrni dy ddannedd, gwendid dy ge∣wynnau, crynfa dy ddwylaw, y Calandr yn dy escyrn, [sef dolur wrth newidiad hîn] byrdra dy gyntun, a phob blewyn gwynn, megis cynnifer o gennadon yn peri i ti ymbarotoi i fyned i'th hîr gartref. Awn, gedewch i ni yn y cyfamser rodio at arch dy dadau, torrwn y cauad, gwelwn yma mai llygredigaeth yw dy dâd, a'r prŷf yw dy fam, ath chwaer: Job. 17.14. A weli di fel y mae yr rhain? felly y mae yn rhaid i tithau fod cyn bo hir o ddyddiau, o ynfyd y mae dy orriau yn myned heibio yn gyflym, ac yn y cyfamser y mae angau ym mhob lle yn disgwyl am danat.

Holl fywyd dyn (oddieithr yr hyn a dreulier yng∣wasanaeth Duw) nid yw ond ffolineb: Canys y mae dŷn yn byw ddeugain mhlynedd cyn gwybod ei fod ei hunan yn ffôl, a chyn gynted ac ei bo ef yn gweled ei ynfydrwydd, y mae ei hoedl yn terfynu.

Clyw (lafuriwr) cyn itti weled llawer cnwd ych∣waneg o gynhauaf, di a fyddi dy hûn yn addfed, ac foi tyrr Angau dy di i lawr a'i grymman. Clyw (dithau greftwr) cyn i lawer chwemis fyned heibio, fo ddaw dy fîs olaf dithau, yn yr hwn ei cai di di∣thio ymmaith a gadael dy gelfyddyd heibio. Clyw (farnwr pwyllig) cyn pen ychydig dermau, y daw terfyn dy enioes i'th oddiwes, yn yr hwn bryd y rhoi di ymmaith farnu eraill, a myned a wnei dy hunan i'th farnu. Clyw (o ŵr Duw) yr hwn wyt yn my∣ned

Page 115

i'r Pulput; Pregetha y bregeth hon fel ped fai hi 'r olaf a'r sydd ith fryd di wneuthur i'th bobl. Clyw (bendefig goruchel) gâd ymaith dybied yn rhyddâ o'th Anrhydedd; fe rydd angau cyn bo hir dy anrhydedd di yn y llwch: ac a'th wna di cyn wae∣led a'r ddaiar, yr hon yr wyt yn ei sathru tan dy draed. Clyw di yr hwn sydd yr awrhon yn dar∣llain y llyfr hwn, bydded diogel gennit cyn bo hir, y bydd dau o dyllau, lle y mae yr awrhon dy ddau lygad wedi eu gofod. Ac fe gaiff rhai eraill ddar∣llain gwirionedd o'r athrawaieth hon a'r dy benglog noeth di, yr hyn yr wyd dythau yn ei ddarllain yn awr yn y llyfr bychan yma. Pa cyn gynted nis gwn i, ond hyn a wn i yn ddiogel, fod dy amser wedi ei osoll a'r lawr, dy fisoedd gwedi eu rhagòr∣deinio, aeth ddyddiau wedi eu rhifo: Ic a'th awr ddi∣waethaf gwedi ei phennodi: tu hwnt i'r hon ni thai di fyned. Job. 14.5, 14. Psal. 90.12. Dan. 5.26. Joan. 11▪ 9. O blegid yno cyntafanedig Angau wedi ei ymdderchafu a'r ei farch. gwelwlas, Dad. 6.15. a ddescyn wrth dy ddrws, ac er dy holl gyfoeth a'th anrhydedd, (ac wylofain dy gynyseifiaid) a'th ddwg di ymmaith, yn rhwym dy ddwylaw ath dra∣ed, mal carcharor iddo, ac a geidw dy gorph dan lwyth o ddaiar, oni ddêl y dydd yn yr hwn ith ddy∣gir allan i dderbyn yn ól y pethau a wnaethost yn y corph, pa vn bynnag a'i da, a'i drwg. 2 Cor. 5.10. Oh na âd gan hynny i gau obaith o enioes anwadal, dy rwystro di i fod yn bresennol ymarferwr o dduwi∣oldeb crefyddol. y mae Duw heddyw yn cynnyg ei râd, ond pwy fydd yn addo y foru? y mae llawer o wyr iuaingc yr awr hon yn vffern, y rhai oedd yn bwriadu edifarhau yn eu henaint, ond foi torrodd Angeu hwynt ymmaith yn eu hanedifeirwch, cyn iddynt ddyfod i'r amser yr oeddynt yn ei ddarparu i edifarhau. Pa hwyaf y byddo dŷn yn glaf, anhaw∣saf

Page 116

fydd ei iachau. Oblegid y mae arfer o bechod, yn magu caledrwydd calon: Heb. 3.13. A'r rhwystrau y rhai sydd yn dy luddias di yr awr hon i edifarhâu, a sydd yn fwy rhwystr i ti fel y tynnych at henaint.

Gŵr synhwyrol, yn cymmeryd taith bell, ac rhyd ffordd fudr, ni ddyry y pwn mwyaf a'r y march gwan∣naf. Ac â pha ryw fâth a'r gydwybod, y gelli di osod y bauch mawr o edifeirwch a'r dy henaint di∣nerth blinedig? Lle 'r wyt yr awrhon yn dy lawn gryfder, heb allu ei godi, eithr yn hytrach yn ba∣rod i wegian tano ef. A'i argoel doethineb yw i'r hwn a fo yn myned i fordwyo i daith bell beryglus, aros i chwarau ac i gyscu tra bai 'r gwynt yn gwasa∣naethu, a'r môr yn dawel, y llong yn hwylus, a' lly∣wydd yn iach, a'r morwyr yn gryfion: Ac yno go∣sod allan pan fai 'r gwyntoedd yn wrthwynebus, a'r tywydd yn dymestlog, a'r môr yn rhuadwy, a'r llong yn fraenllyd, a'r llywydd yn glâf, a'r mor∣wyr yn ffeintiedig? Am hynny o enaid pechadurus, dechreu droi at Dduw trafyddo dy fywyd, y iechyd, dy gryfder, a'th ieueng tyd yn parhau: Cyn neshau y blynyddoedd, yn yr rhai y dywedi nid oes i mi ddim diddanwch ynddynt. Preg. 12.1. Y cyntafane∣dig a'r blaenffrwyth yr oedd Duw erioed yn ei gofyn yn ei wasanaeth, a'r rheini iw haberthu iddo ef yn ddioed. Exod. 22, 29. Exod. 13.2. Felly y dàrfu i Abel gyfiawn aberthu iddo ef o'i flaen∣ffrwyth, a'i ŵyn breision: Gen. 4.4. A rheswm da yw, gael o'r Argwydd gorau, ei wasanaethu yn gyntaf, ac a'r pethau gorau. Holl weision Duw gan hynny a ddylent gofio gwasanaethu eu cre∣awdr yn nyddiau eu hiouengtid: Preg. 12.1. ac yn blygeiniol mal Abraham, Aberthu i Dduw eu Isaac ieuangc. Gen. 22.3. sef ieuengtid eu heini∣oes. Ni chewch edrych yn fy wyneb i (ebr Joseph wrth ei frodyr. Gen. 43.3. oni ddygwch chwi ch

Page 117

brawd ieuangaf gyd â chwi. A pha fôdd y cai di e∣drych yn wyneb Jesu, os rhoddi di flynyddoedd dy ieuengtid i'r cythraul, ac heb ddwyn iddo ef ddim ond dy henaint ddal, gloff, grybachlyd. Cynnig hynny i'th tywysog (medd Malachi. Pen. 1.8.) os ef ni dderbyn y cyfryw w wasanaethu, pa fodd y cynuwys tywysog y tywysogion y fâth vn i fod yn wàs iddo? O Mynnai Brenin Babel, Dan. 1.4. gael gwyr ieueingc têg o benpryd, a'r cyfryw a fai a nerth galluog ynddynt, i sefyll yn ei lŷs: a gaiff Brenin ne∣foedd nêb i sefyll yn ei lysoedd, ond y clôff a'r dall, y cyfryw yr oedd enaid Dafydd yn eu cashau? 2 Sam. 5.8. Wyt ti yn tybied pan fych di gwedi gwasanaethu Satan a'th brif-flynyddoedd, y rhyngi di fodd Duw â dyddiau 'r cŵn? Oh gochel rhag i Dduw dy droi di heibio, at dy hên feistr dachefn: fel megis y darfu i ti holl ddyddiau dy fywyd wneu∣thur ei wasanaeth ef: felly y gallo efe yn y diwedd dalu i ti dy gyflog. A 'i amser cyfaddas ydyw hwnnw i gymeryd mewn llaw ddifrifol orchwyl edifeirwch, (yr hwn yw 'r gorchestwaith nawyaf) i droi dy enaid pechadurus at Duw; y pryd na elli a'th holl rym droi dy esgyrn blinedig ar dy wely esmwyth? Os wyt yn ei weled yn beth anawdd i ti yr awr hon, ti a gai ei weled yn ahawsach y pryd hynny. Oble∣gid fe gynnydda dy bechod di yn gryfach, a'th gryf∣der yn wannach, dy gydwybod a bwysa arnat, poen a'th pendafada, ofn marwolaeth a'th synna di, ymwe∣liad dy gynyseifiaid a'th syfrdana di, fel oni byddi di ym mlaen llaw, a'th conglau yn llawnion o ffydd, ammynodd, a diddanwch, ni elli na myfyrrio dy hûn, na gwrando geiriau o gyssur gan eraill, na gwe∣ddio dy hûn, nac vno ac eraill i weddio trosot. Fe allai mai 'r parlys mûd a'th cymmer di, neu 'r fâth synndod marwol fel na ellych dî na chofio am Dduw, na meddwl am dy gyflwr dy hûn, ac onid wyt ti yn

Page 118

haeddu yn dda i Dduw anghofio dy waredu yn dy farwolaeth, yr hwn nid ŵyt yn meddwl ei wasanae∣thu ef yn dy-fywyd? ofn marwolaeth a bâr i lawer y pryd hynny lefain, Arglwydd, Arglwydd; ond y mae Crist yn tystiolaethu, nad adnebydd ef mo ho∣nynt am yr eiddo ef. Mat. 7.22. Ie llawer yr am∣ser hynny fel Esau, trwy ddagrau a geisiant edifeir∣wch, ac etto ni fedrant moi gael. Heb. 12.17 O blegid nid oes gan ddŷn rydd-did meddwl i edifar∣hau pan fynno ei hûn, ond pan fynno Duw roi iddo ei râd. Ac os darfu i drugaredd ei dangos ei hûn mor anymbilgar nad agorai hi ei phyrth i ddeify∣fyddion mor dynor a morwynion, a nhwythau mor daer a churo; Math. 25.11, 12. o herwydd ddyfod o honynt yn rhyhwyr i guro. Pa fodd y tybi di y goddef hi i ti fyth fyned iw phyrth, a thithau mor ffiaidd aflan, na feddyliaist di crioed adael pe∣chod, nes i bechod yn gyntaf dy adael di; ac ni churaist eriodd a'th ddyrnau dy hunan a'r gyfair calon edifeirol? Oh mor gyfiawn y mae ei rhâd hi yn gommedd agori pyrth y nef, pan fŷch di yn curo yn dy angenoctid: yr hwn yn dy helaethrwydd ni oddefit i Grist, pan oedd yn curo, ddyfod i mewn i ddôr dy galon. Datc. 3.20. Na hydera a'r edife∣irwch diweddar, nac a'r hir einioes: nid ar edife∣irwch diweddar; o herwydd peth iw ofni yn fawr ydyw, rhag i'r edifeirwch hwnnw (yr hwn y mae ofn yn ei beri) farw gyda 'r dŷn a fo'n marw. A'r rhagrithiwr yr hwn a dwyllodd eraill yn ei fywyd, a ddichon ei dwyllo ei hûn yn ei farwolaeth. Nid yw Duw yn derbyn ond aberthau ewyllysgr; a'r edife∣irwch a ryngabodd iddo ef, y mae yn rhaid iddo fod o'r ewyllys, ac nid o anfodd. Nid a'r fywyd hir, o blegid y mae henaint yn cwympo a'r wartha neu wddf ieuengtid; ac fel nad oes dim siccrach na marwolaeth, nid oes dim mor ansiccr a'r amser i

Page 119

farw. Je yn fynych o amser, pan fo addfedwch pechod yn prysuro, trwy greulonrhwydd yn pechu, y mae Duw yn ddisymmwth yn torri ymmaith fu∣cheddwyr drygionus, naill a'i a'r cleddyf, anghym∣medroldeb, glothineb, neu 'r cyfryw glefyd gwrthwyne∣bus: Oni weli di mai 'r yspryd drwg sydd yn rhoi yn dy ben, oedi dy edifeirwch oni elych i'th henaint; Pan yw esamplau beunyddiol yn dangos i ti, nad oes vn o fi a'r sydd yn byw a'r dy lwybr di, fyth yn ei chyrhaeddyd? Gàd i sanctaidd Yspryd Duw dy gynhyrfu di, rhag ymroi o honot mwyach i fwyta as iyfed gydâ 'r meddwon, rhag i'th feistr ddanfon an∣gau am danat yn y dydd ni bŷch yn meddwl am dano, ac mewn awr ni bŷch yn ei ddisgwyl, ac felly yn ddis∣ymmwth dy dorri di ymmaith, a rhoddi i ti dy gyflog gyd a'r rhagrithwyr, lle y mas wylofain a rhingcian dannedd. Mat. 24.48, 49, 50, 51. Eithr o ceri di fy∣wyd hir, ofna Dduw, a bydded hir gennit am fywyd trag∣wyddol. Dih. 3. 1, 2. Y bywyd hwyaf pan ddêl i'w ddiben eithaf, nid ymddengys ei fod ond fel chwedl a ddywedpwyd, tarth yn diflannu, cysgod yn cilio, breuddwyd, llysieuyn yn tyfu, ac yn blodeuo y borau, a phrydnawn y torrir ef ymmaith, ac, a gwywa; neu fal gwennol gwehydd, yr hon wrth ei thaflu yma a thraw, a ymddadlisa yn fuan i ddiben. Psal. 90.5, 9. Jag. 4.14. Psal. 109, 23. ac. 76, 5. 1 Pet. 1.24. Esay. 38.12. Nid yw ond munyd, (medd St Paul) O ynfydrwydd dŷn gan hynny yr hwn er cael mwy∣niant pechod dros amser, a anturia golli tragywyddol bwys gogoniant. 2 Cor. 4.17.

Dymma saith brif rwystrau Duwloldeb, y rhai sydd raid eu bwrw allan, fel y saith gythraul o Fair fagdelen, cyn i ti fyth allu dyfod yn wir ymarferwr Duwioldeb; neu gael dim diogel obaith i fwynhau, naill a'i ffafr oddiwrth Grist drwy râd, a'i cymdei∣thas gyd a'g ef mewn gogoniant.

Page 120

Y clò cyngan.

I Ddiweddu 'r cwbl; yn gymmaint a'th fod ti yn gweled nad wyt heb Grist, ond caethwas i be∣chod, aillt i angau, ac ymborth i bryfed, ath feddy∣liau yn ofer, a'th weithredoedd yn ddiffaith, a'th lawenydd yn bin yn cael dechreuad, ath trueni byth heb adnabod terfyn: Pa ŵr doeth ai yn wysg ei ben i'r cyfryw vffernol boenau, er cael o honaw ef wrth fyw mewn pechod, ynnill iddo ei hùn dros amser e∣merodraeth Angustus, cyfoeth Croesus, neu hy∣frydwch Salomon, cyfrwysdra Achitophel, neu ddainteithfwyd ac esmwthwisc Dives? O ran beth â dal i ddyn (fal y mae ein Iachawdwr yn dywedyd) ynnill yr holl fyd dros amser, a cholli ei enaid ei hûn yn vffern yn dragywydd.

A chan dy fod vn agwedd yn gweled faint yw dy ddedwyddwch yn Ghrist, ac mor ofer yw y rhwystrau, sydd yn cau rhyngot ti ac ef: gochel (fel y mae 'r Apostol yn cynghori) siommiant pechod. Heb. 3.13. Canys y pechod hwnnw, yr hwn sydd yr awr∣hon yn rhyngu bodd i'th natur llygredig, a fydd ryw ddydd yn elyn i'th enaid cystuddiol: ac (yn y cyfamser) cyn y dirnedech a galeda dy galon ddie∣difeiriol.

Y mae pechod fel Sarph yn ymddangos yn dêg i'r golwg, ond gochel y colyn sydd yn ôl: strwyth gwenwynllyd yr hwn, pes adwaenit, di fyddit mor ofalus i ffo rhag pechod, ac rhag y sarph. Canys,

1. Pechod ni wnaeth erioed ddaaioni i neb; a pha fwyaf o bechod a wnel dŷn, mwy ffiaidd y mae yn ei wneuthur ei hûn ger bron Duw, a mwy casâus ger bron dynion daionus.

2. Pechod a dynnodd ar dy vchaf di, yr holl wrth∣wynebion, Colledion, gwarthruddiau, a hlefydau

Page 121

a'r a ddigwyddodd i ti erioed. Ynfydion (medd Da∣fydd) Oblegid eu camweddau, ac o herwydd eu han∣wireddan a gystuddir. Psal. 107.17. Y mae Je∣remi dan gwynofain yn gofyn yr achos; Pa ham y cystuddir dŷn byw? a'r Y spryd glân yn atteb; dyn a gystuddir am ei bechod. Galar-nad Jer. 3.39. O hyn y mae 'r Prophwyd yn llefain yn alarus yn er∣byn pechod, megis yn erbyn yr achos o'u holl oth∣rymderau: gwae ni yn awr bechu o honom. Galarn. 5.16.

3. O ni edifarhei di yn fuan am dy bechodau, hwy a dynnant arnat ti etto fwy o ddialedd, gwrthwynebi∣on, colledion, cywilydd, a chospedigaeth nac a ddig∣wyddodd i ti hyd yn hyn. Darllain Leuit. 26.28. &c. Deut. 28.15. &c.

4. Ac yn ddiweddaf oni thefli di bechod ymmaith, (pan gyflawnir dy anwiredd) Duw a'th teifl di ymm∣aith am bechod. Gen. 15.16. Oblegit fal y mae ef yn gyfion, felly efe a all ladd a thaflu i vffern holl bechaduriaid calon galed anedifeiriol. Os tydi gan hynny a fynni ochel ffrwythau melldigedig pechod yn y bywyd hwn, a'r digofaint tragywyddol dyle∣dus iddo yn y byd a ddaw, a'th sicrhau dy hûn, nad wyt ti yn un o'r rhai a roddwyd heibio i fod yn golle∣dig; yno gâd i'm cyngor i (o bechadur truan) fod yn gymmeradwy gennit: Torr ymmaith dy bechodau trwy gyfiawnder, a'th anwireddau wrth ddangos tru∣garedd i'r trueiniaid. Dan. 4.27. O bydded bellach ddiwygiad o'th amryfussedd. Ni ddywedodd Nathan ond vn ddammeg, ac fe droed Dafydd. 2 Sam. 12.1, 2, 4.13. Ni phregethodd Jonas ond vnwaith i Ni∣niueh, a'r holl ddinas a edifarhaodd: Jon. 3.5. Nid ed∣rychodd Crist ond vnwaith ar Bedr, ac efe a aeth allan ac a wylodd yn chwerw dôst. Luc. 22.62. Ac yn awr gan dy fod ti yn fynych, ac yn gariadol yn cael dy ddeisyfu, nid gan brophwyd, ond gan Grist Argl∣wydd

Page 122

y prophwydi: iê a bod Duw ei hûn, drwy ei gennadon yn attolwg i ti gyttuno ag ef: 2 Cor. 5.20. gâd ymmaith dy odineb, gyd â Dafydd, edifarhâ am dy bechodau fel gwir Ninifit; a thra byddo Crist o'i drugaredd yn edrych arnat, gâd ymmaith dy gy∣feillion drygionus, ac wyla yn chwerwdost am dy feiau anwireddus.

Na fodlona mo honot dy hûn a'r grefydd ffurfiol, yr hon a luniodd gwyr diadenedig iddynt eu hunain, yn lle duwioldeb ddiragrith; Canys mewn amldra opinionau, y mae y rhan fwyaf agos wedi colli yr y∣marfer o wir ffydd. Na thebyg fod yn Gristion di∣gon da, o blegit dy fod di yn gwneuthyd fel y mae y rhan fwyaf, ac o ran nad wye yn gynddrwg a'r gwa∣ethaf. Nid oes dŷn yn y byd mor ddrygionus, a bod ei ymarweddiad yn tueddu at bob mâth ar feiau. O herwydd y mae anghysondeb [Antipathi] rhwng rhai beiau a'i gilydd. Ond cofia beth y mae Crist yn ei ddywedyd; Oddieithr i'ch cyfiawnder fod yn helaethach na chyfiawnder yr scrifenyddion, a'r Pha∣rasaeaid, nid ewch chwi i mewn mewn un modd i de∣yrnas nefoedd. Math. 5.20. Ystyria ynot dy hûn belled wyt ti o ôl y Pharisaeiad mewn ymprydio, gwe∣ddio, mynych dramwy i'r Eglwys, a rhodi eluse∣nau. Meddwl ynot dy hûn pa nifer O Baganiaid, y rhai nid adwaenent fedydd, etto mewn rhinweddau gwybodawl, a gonestrwydd buchedd, oeddynt yn rhagori llawer arnat ti. pa le wrth hynny y mae by∣wyd Crist dy feistr? a pha cyn belled wyt ti oddi∣wrth fod yn wir Gristion? Os wyt ti yn ewyllysgar yn ymroi i fyw mewn vn mâth ar bechod anafus, nid elli di gael enaid adgenedledig; er i ti ddiwygio dy suchedd mal Herod oddiwrth lawer o feiau eraill. Mar. 6.10. Y mae 'n rhaid i'r gwir gristion gy∣mmeryd gofal i rodio mewn vniondeb calon, yn ol holl orchmynnion Duw, yn gystal yn y naill a'r llall.

Page 123

O blegit medd St. Jago, yr hwn a ballo mewn vn pwngc o'r gyfraith (yn ewyllysgar) sydd enog o'r cwbl. Jag. 2.10. Ac y mae Pedr yn erchi i ni roddi heibio (nid peth) ond holl lid, cynfigen, twyll, a rhag∣rith, &c. 1 Pet. 2.1. Vn pechod sydd ddigon er peri enaid yn golledig, heb edifeirwch: Na freudd∣wydia am fyned i'r nef rhyd ffordd negosach neu hawsach na 'r hon a linynniodd Duw i ni yn ei Air. Nid ydyw 'r ffordd i'r nefoedd yn hawdd, a chyffre∣din, ond cul a chyfyng: Mat. 7.14. ie cyn gyfyn∣ged ac y mae Crist yn tystiolaethu, fod yn anhawdd i ddyn goludog fyned i deyrnas nefoedd. Math. 19.23. A'r rheini sydd yn myned i mewn, nid ydynt ond ychydig: ac na eill yr ychydig rai hynny mor my∣ned i mewn ond trwy ymdrechu: a bod rhai o'r rhei∣ni â ymdrechant heb allu myned i mewn. Luc. 13.24. Hyn a wyddei holl Seintiau Duw (tra fuont fyw yma) yn dda. Pryd yr oeddynt drwy aml ym∣prydiau, difrifol weddiau, mor fynych yn gwrando y gair, a derbyn y Sacramentau, a thrwy y cyfryw amldra o ddagrau heilldion yn crefyddol erfyn a'r ddwylau Duw, er mwyn Crist, am gael eu derbyn iw Deyrnas.

Oni choeli di hyn o wirionedd; yr wyf fi yn hys∣pysu i ti mai 'r diafol yr hwn sydd yn peri i ti yr awr∣hon goelio, fod yn hawdd it fyned i'r nef, a ddy∣waid it yn ôl hyn ei fod yn waith anhawsaf yn y bŷd. Os wyt ti gan hynny yn chwennych ynnill sicrwydd diogel o iechydwriaeth i'th enaid, ac i fyned y ffordd union i'r nefoedd; cais yn ebrwydd mal morwyn ddo∣eth olew duwioldeb yn llusern dy ymarweddiad: fel y gellych fod mewn parodrwydd gwasdadol i gyfar∣fod y Priodfab, pa vn bynnag ei dêl, a'i trwy farwola∣eth, a'i trwy Farn. Math. 25.1. Yr hyn fel y gellych yn haws ei wneuthur, Bydded hyn yma i ti yn ymar∣fer beunyddiol.

Page 124

Y modd y mae i ŵr neillduol ddechrau y borau mewn Duwioldeb.

CYn gynted ac y deffroech y borau cadw ddôr dy galon yn gauad, na chaffo meddylfryd bydol fyned o'i mewn nes dyfod o Dduw i'w mewn yn gyn∣taf: a gâd iddo ef o flaen pawb eraill gael y lle cyn∣taf ynddi. felly pob meddyliau drygionus, naill a'i ni feiddiant fyned i mewn, neu fe ellir yn haws eu cadw hwynt allan: ac fe fydd y galon a mwy o flâs sanctei∣ddrwydd a Duwioldeb arni yr holl ddiwrnod a'r ôl hynny. Eithr oni bydd dy galon a'r dy ddeffrôad cyntaf, gwedi ei lienwi a rhyw fyfyriadau am Dduw, a'i air, a chwedi ei thaclu fel y llusern Yn y Babell, forau, a hwyr, ag olew olewydd Gair Duw; Exod. 27.20.21. a chwedl ei phereiddib ac arogldarth gweddi: Fe gais Satan ei llenwi â gofalon bydol, ac â deisyfiadau cnawdol, hyd onid êl hi yn anghy∣mmwys i wasanaeth Duw, yr holl ddwthwn hwnnw, heb anfon allan ddim ond drygsawr geiriau llygredig celwyddog, a llŵon cablaidd amhwyllig.

Dechrau gan hynny waith pob dydd â gair Duw, ac â gweddi, ac abertha i Dduw ar allor calon ddrylliedig, ruddfan dy Yspryd, Rhuf. 8. A lloi∣au dy wefusau, Hose. 13.2. Yn offrwm boreuol, a blaenffrwyth y diwrnod, a chyn gynted ac y deffro∣ech dywaid wrtho ef fel hyn.

Page 125

Neilltuol ymddiddaniad byrr pan ddeffrô dŷn gyntaf y borau.

FY enaid syddyn disgwyl am danat ti (O Argl∣wydd) yn fwy nac y mae y gwilwyr am y borau: Duw gan hynny trugarha wrthif, a thywynned dy wyneb arnaf, diwalla y borau hwn a'th drugaredd fel y gorfoleddwyf, ac y llawenychwyf dros fy holl ddyddiau. Psal. 130.6. Psal. 67.1. ac 90.14.

Myfyrdod Boreuol.
Yno myfyria neu feddwl.

FAl y gall yr holl Alluog Dduw (yn yr adcyfodi∣ad) gôdi dy gorph di allan o'r bedd o hûn mar∣wolaeth, cyn hawsed ac y gallodd ef y borau hwn, dy ddeffroi di yn dy wely allan o'th hûn naturiaeth. A'r wawriad yr hwn ddydd o adcyfodiad y daw Crist i'w ogoneddu yn ei Saint, a phob vn o gyrph y milo∣edd o'i Saint gwedi eu gwneuthur vn agwedd a'i gorph gogoneddus ef, yn goleuo mor eglur a'r haul. Mat. 13.43. Luc. 9.31 Phil. 3.21. A'r holl An∣gelion vn ffunyd, yn llewyrchu yn eu gogoniant: a chorph Crist yn rhagori arnynt oll mewn discleirdeb a gogonniant: a'r Duwdod vwch ei law yntau. Os gwna tywyniad vn Haul, i'r borau fod mor ogone∣ddus; Pa fâth forau disclaer gogoneddus a fydd hwnnw, yn yr hwn y bydd mil miliwn o gyrph go∣leuach o lawer na' haul yn ymddagos, ac yn can∣lyn Crist, megis cymdeithion gogoneddus i ddyfod i gadw y Seshwn gyffredinol o gyfiawnder, ac i farnu Angelion drwg a dynion anuwiol? Oh ra âd i elw, difyrrwch darfode••••g, neu wâg ogoniant y diwinod hwn, beri i ti golli dy gyfran, a'th wobr o hyfiyd∣wch

Page 126

a gogoniant tragwyddol y dydd hwnnw, yr hwn yn briodol a elwir adcyfodiad y cyfiawn. Luc. 14.14. Act. 17.31. Y mae gan anifeiliaid lygaid i weled cyffredinol lewyrch y dydd, eithr ymgais di dy orau â llygaid dy ffydd i ragweled goleuni gogoneddus y diwrnod yma.

2. Ni wyddost ti mor agos attat ti yr ydoedd yr yspryd drwg (yr hwn ddydd a nos mal llew rhuadwy sydd yn rhodio oddiamgylch dan geisio dy ddifetha di, 1 Pet. 5.8.) Tra roeddit yn cyscu, ac na ellit ti moth waredu dy hun. Ac na wyddost ti, pa ryw niwâid a wnaethai i ti, oni bai i Dduw (yr hwn ni chŵsc ac ni hûna) dy amgylchu di a'th eiddaw, a'th ymddiffyn a'i Angelion sanctaidd bendigedig. Psa. 121.4. Psa. 34.7.

3. Pan glywych di y ceiliog yn canu; cofia Bedr i wneuthur a'r ei ôl, galw ith gof geilioglais sonia∣rus yr vdcorn ddiwethaf, yr hwn a'th ddeffry di oddi∣wrth y meirw. Ac ystyria ymhâ gyflwr y byddit ti pe vdcanai ef yr awrhon, ac ymrô i fod yn gyfryw, ac y mynnit dy fod y pryd hwnnw: rhag yn y dydd hwnnw, i ti ddymuno na buasit erioed yn gwe∣led y dydd hwn: a melldithio dydd dy enedigaeth naturiol, eisiau bod wedi dy eni o newydd trwy râd ysprydol. Pan gano 'r ceiliog, y mae 'r lleidr yn anobeithio am ei speilfa, ac yn gadael ymmaith ei amcan a'i fwriad y noson honno: felly y cythraul sy 'n peidio a cheisio gwall ym mhellach, pan glŷwo ef yr enaid bucheddol yn deffroi ei hûn a boreuol weddi.

4. Cofia fod yr Hollalluog Dduw ynghylch dy wely yn gweled dy orweddiad i lawr, ath cyfodiad i fy∣nu: yn deall dy feddyliau, ac yn gydnabyddus a'th holl ffyrdd, Psal. 139.2.3. Cofia yr un ffunud fod ei Angelion sanctaidd, y rhai a wiliodd trosot, ac a'th amddiffynnodd trwy 'r nos, yn gweled hefyd y

Page 127

môdd y deffroaist, ac y codaist. Gwna bob peth gan hynny megis yngwydd yr ofnadwy Dduw, ac yng∣owg ei Angelion sanctaidd. Gen. 32.1, 2. Psalm. 91.5.11.

5. Tra fŷch yn gwisco dillad am danat, cofia mai yn orchudd cywilydd y rhoddwyd hwynt a'r y cyntaf a nhwy yn ffrwyth pechod: a'i bod wedi eu gwneu∣thyd o arwiscoedd crwyn, ac amhuredd anifeiliaid meirwon. Am hynny pa vn bynnag a ystyriech, ai 'r defhydd ai 'r ordeinhâd cyntaf: y mae i ti fel∣ly achos fechan i falchio o honynt: Ac achos fawr i fod yn ostyngedig wrth eu gweled a'i gwisco: gan weled nad yw 'r gwiscoedd gwerthfawroccaf, ond llen wych i oruwchguddio y cywilydd budraf. My∣fyria yn hytrach mai fal y mae dy wisc yn gwasa∣naethu i guddio dy gywilydd, ac i gadw dy gorph rhag anwyd: Felly y dylit ti fod mor ofalus i gu∣ddio dy enaid a'r wisc briodas honno, sef cyfiawn∣der Crist; (yr hwn o ran bod ein ffydd iw dderbyn) a elwir cyfiawnder y Saint. Rhuf. 13.14. Datc. 19.18. Rhag tra fôm ni wedi ein trwsiadu yn wychion yngolwg dynion, ein bod yn noeth (a'n holl anhar∣ddwch i'w weled) yngolwg Duw. Eithr gallael o honom ein cuddio ein hunain â chyfiawnder Duw (megis a mantell) oddiwrth warth tragywyddol: ac achlesu ein heneidiau oddiwrth yr oerni tanbaid, yr hwn a bair wylofain a rhingciandannedd. Matth. 22.13. Ystyria gyd â hynny pa fâth bobl fendi∣gedig a fyddai ein cenedlaeth ni, pe bai bôb gwîsc o sidan yn cuddio enaid sancteiddiedig. Ac etto fe dybiai ddŷn, mai oddiwrth y rhai, y cyfrannodd Duw fwyaf o'i ddonniau oddiallan iddynt, y dylai ef gael mwyaf diolch oddifewn. Eithr os prifia yn amgen fe brifia eu taledigaeth yn drymmach yn nydd eu cyfrif. Luc. 12.48.

Ystyria fel y mae trugaredd Dduw yn adnewyddu

Page 128

itti bôb borau, gan roddi i ti megis bywyd ne∣wydd; ac yn peri i'r haul (yn ôl ei yrfa ddibaid) gôdi drachefn i roi i ti oleuni. na âd gan hynny i oleuni gogoneddus dywynnu 'n ofer; eithr achub y blaen yn hytrach ar gyfodiad yr haul (cyn fynyched ac ei gellych) i dalu diolch i Dduw: gan ymost∣wng i lawr ar dâl dy liniau wrth erchwyn dy wely, cyfarch ef ar dorriad y dydd â rhyw foreuol ddefo∣siwn, neu erfynniad neillduol; yn cynnwys cyffes ostyngedig am dy bechodau, maddeuant am dy gam∣weddau, a diolch am ei holl ddonniau, a deisyf ei rafusol ymddiffyn i'w Eglwys, ac i ti dy hûn, ac i bob peth perthynasol i ti.

Addysc ferr o'r modd y mae darllain yr scry∣thyrau sanctaidd vnwaith bob blwyddyn tro∣stynt, yn hawdd, yn fuddiol, ac yn barchedig.

ONd megis ac y mae ffydd yn enaid, felly dar∣llain a myfyrio ydynt dad a mam gweddi.

Am hynny cyn i ti weddio y borau, yn gyntaf darllain bennod yngair Duw, yno myfyria dros am∣ser wrthit dy hûn pa bethau godidog a fedri di eu cofio o honaw.

Yn gyntaf; pa gyngor ac addysc at weithredoedd da, neu fuchedd sanctaidd.

Yn ail: pa fygythiau o farnedigaeth yn erbyn y fâth a'r fâth ar bechod, a pha ryw esampl ofnadwy o gôsp a dialedd Daw ar y fâth a'r fâth bechaduriaid.

Yn drydydd, pa fendithion a addawodd Duw i ammynedd, ddiweirdeb, drugaredd, eluseni, zêl nen ddyfal serch yn ei wasanaethu, gariad perffaith, ffydd, a gobaith yn Nuw, a'r cyfryw rinweddau Cristia∣nogawl.

Yn bedwerydd, pa sawl ymwared grasusol a we∣ithredodd

Page 129

Duw: pa fâth fendithiau hynodol a dywallt∣odd ef, ar yr rhai a fuont weisioncywir a gwresog iddo.

Yn bumed, cymmer y pethau hyn at dy galon dy hûn, ac na ddarllain mor pennodau hynny, megis historiau ofer, eithr megis cynnifer o Lythŷrau, neu Epistôlau gwedi eu hanfon i sawr oddiwrth Dduw o'r nefoedd attat. Canys pa bethau bynnag a scrifenwyd o'r blaen, er addysc i ni yr scrifenwyd hwynt, Rhuf. 15.4.

Yn chweched, darllain hwy gan hynny trwy 'r fâth barch mal pe bai Dduw ei hûn yn sefyll yn dy ymmyl ac yn llafaru y geiriau hyn wrthit, i'th annog di ir cyfryw rinweddau, ac i droi dy feddwl oddiwrth y cyfryw ddrygioni: gan dy sicrhau dy hun os cair y fath bechodau (a'r rhai yr ydwyt yn darllain am danynt yna) ynot ti heb edifeirwch, y daw y cy∣fryw ddialedd arnat; eithr os arferi di a'r cyfryw Dduwioldeb, a gweithredoedd bucheddol, y cy∣fryw fendithion a ddigwydda i ti a'th eiddaw.

I fôd yn fyrr, casgl y cwbl a ddarllennech di yn yr Scythur Sanctaidd, a dyro hwy at y ddwy go∣lofn arbennig yma, sef naill a'i i gryfhau dy ffydd, a'i i chwanegu dy edifeirwch: Canys megis yr oedd sustine & abstine, cyd-ddwg ac ymattal, yn gryno∣deb o fywyd Philosophydd dd: felly crede & resipis∣ce, crêd ac edifarha, ydyw 'r cwbl o broffess gwir Gristion.

Vn pennod a ddarllenner fal hyn trwy ddealld∣wriaeth, ac a fyfyrier arno dan gymmeryd attat dy hun, a bortha ac a gyssura dy enaid, yn well na phump a ddarllennir ac a redir drostynt heb ddal sulw ar yr ergyd na 'r synwyr, ac heb gymmeryd ystyriaeth o honaw tu ac attat dy hûn. Os darllen∣ni di dri phennod bôb dydd yn y môdd hyn: sef, vn y borau, yr ail brydnawn, a'r trydydd y nôs, (a darllain rhai o'r Psalmau yn lle llith, cynifer ac a osodwyd yn llyfr gweddi gyffredinol yr Eglwys iw

Page 130

darllain a'r foreuol neu brydnawnol weddi) di ddar∣llenni yr holl scrythur canonical yn y flwyddyn, o∣ddieithr chwe phennod, yr hyn a elli eu ychwane∣gu at dâsc y dydd olaf o'r flwyddyn. Darllen y Bibl mewn trefn, a'th hyffordda di i ddeall yn well yr histori, a meddwl yr ferythur sanctaidd. Am yr Apocrypha, yr hyn a scrifennwyd trwy Yspryd dŷn, di a elli eu darllen wrth dy feddwl, a chredu iddynt cyn belled ac y maent hwy yn cydhuno a'r scrythur ganonical, yr hon a scrifennwyd trwy waith yr Yspryd glân.

Ond odid tydi a ddywedi na âd dy negesau i ti gymmaint o amser a gallael o honot ddarllen pennod bob borau, &c.

O ddŷn, cofia nad yw 'r bywyd hwn ond byrr, ac nad yw dy holl drafferthion yma ond er mwyn y by∣wyd byrr hwn; eithr iechydwriaeth neu ddamnedi∣gaeth sydd dragwyddol. Cyfod yn foreuach o hynny bob borau: Siomma dy gnawd swrth o gymmaint a hynny o gyscu, ond na thwylla mo'th enaid am ei ymborth, na Duw am ei wasanaeth. Gwasanaetha yr holl Alluog yn vnion tra fych yn cael iechyd ac amser.

Gwedi i ti (mal hyn) ddarllain dy bennod a bod yn barod i weddio, cofia, fôd Duw yn Dduw san∣cteiddrwydd, o'r hyn y mae yn ein rhybuddio ni cyn fynyched, gan adrodd, byddwch chwi yn sanctaidd, fal yr wyf finnau yn sanctaidd. Exod. 26.36. Lev. 19.2. 1 Pet. 2.5. A phan ddinistriodd ef Nadab ac Abihu a thân disymmwth am aberthu poeth offrwm â thân dieithr. Levit. 10.2.3. (megis y rhai yn y dyddiau hyn sy 'n aberthu gweddiau o galonnau llawn o dân llid a thrachwant) ni rodd∣odd yr Arglwydd vn rheswm arall am ei farnediga∣eth ond hyn: mi a sancteiddir yn y rhai a nessant at∣taf. Mal pe buasai ef yn dywedyd, oni allaf fi gael

Page 131

fy sancteiddio ynddynt hwy, y rhai ydynt weision i mi, drwy iddynt fyngwasanaethu a sancteiddr∣wydd pyrthynasol; mi fynnaf fy sancteiddio arnyn hwy, gan eu difa hwynt a'm barnedigaeth gyfiawn, yr hyn y mae eu hanwiredd hwy yn ei haeddu. Ni all Duw gan hynny aros aflendid, neu anhardd∣wch ewyllyscar, yn y rhai a'i gwasanaetho ef: yn gymmaint ac y gorchymynnodd ef i'r Israeliaid, pan fyddent yn y maes yn erbyn eu gelynnion, gloddio â rhaw-ffon i guddio yr hyn a ddaethai oddiwrthynt: ei reswm ydyw, O herwydd bodyr Arglwydd dy Dduw yn rhodio ym mhlith dy wersyllau, i'th waredu, ac i roddi dy elynion o'th flaen di; am hynny bydded dy wersyllau yn sanctaidd; fel na welo ynot ti ddim brynti, a throi oddiwrthit. Deut. 23.13.14.

Os myn ef i wyr fod mor sanctaidd yn amser rhy∣fel yn y maes: pa faint mwy o sancteiddrwydd, y mae ef yn ei ddisgwyl a'r ein dwylaw ni yn amser heddwch yn ein tai? Am hynny medd Zophar yn Job. Pen. 11.13.14. Os dydi a baratoi dy galon, ac a estynni dy ddwylaw at yr Arglwydd i weddio, os oes ddrygioni yn dy law, bwrw ef ymmaith ym mhell, ac na ddioddef i anwired drigo yn dy luest ai. Canys fel y mae Esay yn dywedyd, Pen. 1.15. O bydd dim afln∣did yn ein dwylaw ni (hynny yw, un mâth ar bechod, am yr hwn nid ydym yn edifeiriol) er ini estyn ein dwylaw atto ef, a gwneuthur llawer o weddiau, fe gu∣ddia'r Arglwydd ei lygaid oddiwrthym, ac ni wrendy mo'n erfynniau. Am hynny cyn i ti weddio, gad i Dduw weled dy galon yn gystuddiedig am dy be∣chod, a'th feddwl gwedi ymroi yn ollawl (trwy gynnorthwyad ei râd ef) i wellhau dy fuchedd. Ac yno gwedi ymolchi a thaclu dy gorph â gwisc fel y gweddai i'th alwedigaeth, ac i ddelw Dduw, yr hon a ddugi, cae ddôr dy stafell, discyn a'r dâl dy ddeu∣lin wrth erchwyn dy wely, neu ryw fan gyfleus a∣rall:

Page 132

ac mewn môdd parchedig derchafa dy galon ynghyd a'th ddwylaw, a'th lygaid, fel yngwydd Duw, yr hwn sydd yn gweled meddylfryd yr enaid o'i fewn, Offrymma 1 Dduw oddiar allor calon ddrylliedig, dy weddi yn aberth boreuol, trwy gy∣fryngdod Crist, yn y geiriau hyn, neu 'r cyffe∣lyb.

Gweddi y borau.

HOllalluog a gogoneddus Dduw, gyflawn ddiym∣gyffred Allu, a Mawrhydi, gogoniant yr hwn ni ddichon nef y nefoedd ei gynnwys: Edrych i lawr o'r nefoedd arnaf fi dy was anheilwng, yr hwn wyf yma yn fy ymddarostwng fy hun, wrth droed∣faingc gorseddfa dy râd, ac edrych arnaf (o Dâd) trwy deilyngdod a chyfryngdod Jesu Grist dy anwyl Fab yn yr hwn yn vnig i'th fodlonir, O blegit honof fy hûn, nid wyf deilwng i sefyll ger dy fron, neu i le∣faru am gwefusau aflan wrth y fâth Dduw sanctaidd ac ydwyt ti. Canys ti a wyddost, mai mewn anwi∣redd i'm lluniwyd, ac mewn pechod y beichiogodd fy mam arnaf. A darfod i mi ollawl fyw mewn anwi∣redd: fal y torrais dy holl orchymynnion sanctaidd, trwy ddeisyfiadau pechadurus, meddyliau aflan, geiriau drygionus, a gweithredoedd diffaeth: gan adael heb wneuthur lawer o weithredon Duwioldeb, yr hyn yr wyt yn ei erchi i'th wasanaeth, a gwneu∣thur llawer o'r drygioni, yr hyn a waharddaist tan boen cospedigaeth dy ddigofaint di.

[Yma y gelli di gyfaddef dy ddir∣gel bechodau wrth Dduw, y rhai sydd drymmaf ar dy gydwybod: a dangos y lle a'r amser a'r sut a'r modd y troseddaist, gan ddywedyd:

Page 133

ond yn enwedig yr ydwyf fi yma yn cyffessu o ddyfnder calon wrthit.] &c.

Ac am y pechodau hynny, (O Arglwydd) yr wyf yn sefyll yma yn euog o'th felldith, a holl drueni y by∣wyd hwn â thragwyddol gospedigaeth yn nhân vffern yn ôl y bywyd gresynus hwn, os ty di a deli i mi yn ôl fy haeddedigaethau. Ie Arglwydd yr wyf yn cyfaddef mai dy drugaredd sydd yn parhau yn dra∣gywydd, a'th tosturiaethau byth ni phallant: hyn∣ny yw 'r achos nas darfu am danaf er ys dyddi∣au. Eithr gyd â thi (O Arglwydd) y mae truga∣redd, ac amlder o ymwared. Gan hynnny: yn amlder dy drugaredd, a'm cyfan ymddiried yn haedde∣digaethau Crist yr wyf yn deisyf a'r dy dduwiol Fawrhydi, nad elych i'r farn a'th wâs, ac na chraff a a'r fy anwiredd: canys os gwnei ni chyfiawnheir nêb byw yn dy olwg di. Eithr bydd drugarog wrthif, a golch ymmaith holl frynti fy mhechod, â haeddedi∣gaethau y gwerthfawrocaf waed yr hwn a dywalltodd Jesu Grist drosof. A chan weled iddo ef oddef pwys y felldith, yr hon oedd ddyledus i'm pecho∣dau i: O Arglwydd gwared fi oddiwrth fy mhecho∣dau, ac oddiwrth yr holl farnedigaethau sydd goru∣wch fy mhen yn ddyledus i mi am danynt: a phell∣hâ hwy o'th olwg, cyn belled ac yw y dwrain oddi∣wrth y gorllewin: cladda hwynt ym medd Crist: fel na ffrwythont fyth i gyfodi yn f'erbyn, i'm cywilyd∣dio yn y byd hwn, nac i'm heuog-farnu yn y byd sydd ar ddyfod. Ac nid wyf yn attolygu it yn vnig (O Arglwydd) olchi ymmaith fym mhechôdau â gwaed dy ôen difrycheulyd; eithr glanh u fyng∣halon hefyd oddiwrth bydrni fy lly∣gredigaeth anianol: Fel y clywyf dy Yspryd ar gynnydd yn llâdd pe∣chod ynof yn ei allu a'i weithrediad. Fel y gallwyf â mwy rhydd-did

Page 134

meddwl, ac ewyllys vfudd, dy wasanaethu di y tra∣gwyddol Dduw, mewn sancteiddrwydd a chyfiawnder y dydd heddyw. Dyro i mi râs mal trwy gynhyrfiad, achyfarwyddyd dy sanctaidd Yspryd hwnnw, y par∣hâwyf i fod yn wasanaethwr ffyddlon, a diffûant i ti hyd diwedd fy enioes: Mal pan ddibenno y bywyd marwol hwn, y gallwyf fod yn gyfrannog o anfar∣woldeb, a dedwyddwch tragwyddol yn dy deyrnas nefol. Yn y cyfamser o Arglwydd, tra byddo yn rhyngu bodd i'th rhadlawn ewyllys, fod o honof fi yn aros i dreilio, ac i ddibennu y cyfrif bychan sydd yn ôl o'm dyddiau yr hyn a ordeiniaist i'm i fyw yn y dyffryn hwn o drueni: dysc i mi felly gyfrif fy nyddi∣au, fel y dygwyf fy nghalon i ddoethineb. Ac fel y chwanegech di ddyddiau at fy einioes, felly o Argl∣wydd daionus chwanega edifeirwch a gwellhâd at fy nyddiau; i fod, megis yr elwyf mewn blynyddo∣edd, yn cynnyddu mewn grâs a ffafr gyd â thi, a chyd â'th hôll bobl. Ac er mwyn hyn cynnyscae∣dda fi â'r holl râdau a wyddost eu bod yn ddiffygiol ynof, ac yn angenrheidiol i mi, a phar gynnydd ar yr holl ddoniau da, â drefnaist i mi yn barod: fel y gallwyf â mwy nerth ddilyn y cyfryw fywyd du∣wiol ac ymarweddiad bucheddol ac y byddo dy enw di yn cael ei ogoneddu, eraill yn cymeryd athra∣wiaeth dda oddiwrthif, am enaid yn cael ei ym∣borthi yn llawen â thynghneddyf cydwybod, ac yn llawnach ô orfoledd yr Yspryd glân. Ac yma (O Arglwydd) yn ol fy rhwymedig ddlêd, y talaf i't ddiolch o eigion calon ostyngedig, am yr holl fen∣dithiau, y rhai o'th ddaioni a dy∣welldaist arnaf: yn enwedig, am ddarfod i't o'th cariad haelionus, yn ôl dy ragluniaeth dragywyddol fy ethol i cyn seiliad y byd, fal y by∣ddwn yn sanctaidd ynghrist Jesu:

Page 135

Am ddarfod i ti fynghreu ar dy lûn dy hunan, a de∣chreu edfrydu ynof, yr hyn a gollwyd yn fy hyna∣fiaid cyntaf: am ddarfod i ti fyngalw trwy waith dy Yspryd ym mregethiad yr Efengyl a derbyniad y Sacramentau, i wybodaeth dy râs cadwedigol, ac i vfydddod dy ewyllys bendigedig: Am ddarfod i ti fym mhrynu am gwaredu o boenau vffern a chaethi∣wed Satan, â gwerthfawrocaf waed dy vnig-anedig Fab: am ddarfod i ti trwy ffydd yn Ghrist fynghy∣fiawnhau i, yr hwn o herwydd natur ydwyf blen∣tyn y digofaint: am ddarfod i ti fy sancteiddio i mewn mesur da, â'th Yspryd glân, a rhoddi i mi gyhyd o amser i edifarhau, a hefyd moddion yr edi∣feirwch. Yr ydwyf yn diolch i ti hefyd Arglwydd daionus, am fy mywyd, fy iechyd, fynghyfoeth, fy ymborth, fyngwisc, fy nhangneddyf, fy hawdd∣fyd, am helaethrwydd; ac am ddarfod i ti fy ym∣ddiffyn y nôs hon, oddiwrth oll niweidiau a pheryg∣lon y corph a'r enaid, am cadw yn ddiangol hyd de∣chreu y dydd heddyw. Ac fel y darfu i ti ddeffroi fynghorph o gwsc, felly attolwg deffro fy enaid o bechod a diofalwch cnawdol: Ac fel y peraist i oleu∣ni y dydd lewyrchu yn fy llygaid corphorol; felly O Arglwydd daionus, pâr i oleuni dy air a'th Yspryd sanctaidd ddiscleirio yn fynghalon: Dyro i mi râs i rodio (megis vn o blant y goleuni) mewn oll ostyn∣geiddrwydd y dydd hwn ger bron dy wyneb: fel y gallwyf ymegnio i gadw ffydd à cydwybod lân yn wast∣ad tuac attat ti a dynion, yn fy holl feddyliau, gei∣riau a gweithredoedd. Bendithia felly Arglwydd gra∣flawn fy holl fyfyriadau am gorchwylion, y rhai a gymmerwyf yn llaw y dydd heddyw, mal eu byddont yn tueddu at dy o∣goniant di, daioni eraill, ac at ddi∣ddanwch fy enaid am cydwybod fy hûn, yn y dydd ei bwyf yn rhoi y

Page 136

cyfrif diwethaf ger dy fron di, am danynt. Oh fy Nuw cadw dy wâs na wnelwyf ddim drwg i nêb y dydd hwn: a rhyglydded bodd i'th cwylls ben∣digedig, na allo 'r cythraul, nac vn o'i angelion mell∣digedig, nam gelynion llidiog wneuthur i mi ortrech ddrwg neu niwaid. Eithr bod o lygaid dy ragluni∣aeth i wilio drosof am ddaioni, ac nid am ddrwg: A gorchymyn i'th Angelion sanctaidd gastellu o'm ham∣gyloh, i'm hymddiffyn, a'm cadw i, yn fy mynedi∣ad allan, am dyfodiad i mewn, fel yr addewaist, eu caent wneuthur o amgylch yr rhai a ofnent dy enw. Canys i'th law di o Dâd y gorchymynnaf fy enaid, fyngorchwylion, a chwbl oll a'r a feddaf i gael eu cadw, eu hymddiffyn, a'i coleddu gennit: gan fod yn hyspus, na ddichon dim niwaid drwg ddigwyddo i'r peth a gymmerych di yn dy gadwraeth. Ac os digwydda i mi vn amser y dydd hwn trwy wendid dy anghofio di, etto yr wyf yn attolwg i't, (O fy Nuw) yn dy drugaredd fÿnghofio i. Ac nid wyf (rasol Dád yn vnig yn gweddio drosof fy hûn, eithr yn deisyf arnat fôd yn drugarog wrth dy holl Eglwys, a'th bobl etholodig, ple bynnag y maent yn wasca∣redig yn byw ar wyneb y ddaiar. Cadw hwynt rhag llid, digofaint, a chreulondeb y cythraul, y byd, a'r Anghrist. Dyro i'th Efengyl rwydd-deb rhydd a gorfoleddus trwy'r bŷd, er mwyn troad y rhai a berthynant i'th deyrnas, a'th etholedigaeth.

Bendithia yr Eglwysydd a'r teyrnasoedd (lle yr ydym ni yn byw) â thynghneddyf, eyfiawnder, a chrefydd dda. Ymddiffyn Fawrhydi y brenin, rhag ei holl elynion a channiadhá iddo hir hoedl mewn iechyd, a dedwydd∣wch, i lywodraethu arnom. Ben∣dithia y Frenhines, y tywysog, a'r holl dwysogawl heppil. Chwane∣ga ynddynt adonniau ardderchawg,

Page 137

a rhádau Ysprydol, fel eu byddont gymhesur i'r llê∣odd a drefnaist iddynt. Hyffordda holl Arglwy∣ddi 'r cyngor, Escobion, gweinidogion yr Eglwys, a fwyddogion, i lywodraethu 'r bobl, mewn gwir ffydd, tanghneddyf, cyfiawnder, ac vffydddod. Bydd dru∣garog wrth yr holl frodyr y rhai a'th ofnant, ac a al∣wo ar dy enw. A chyssura gynifer o honynt, ac sydd yn glaf, neu yn ddigynnorthwy mewn corph neu feddwl: bydd gariadus yn enwedig, wrth yr holl rai sy 'n goddef adfyd a chystudd er mwyn tystio∣laeth i'th wirionedd, a'th Efyngyl sanctaidd: A dy∣ro iddynt ymwared grasusol allan o'i holl flinderau, yffordd y gwelo dy dduwiol ddoethineb fod yn orau: er gogoniant dy enw, helaethrwydd i'th wirionedd, ac er mwyn chwanegu eu cyssur au diddanwch. Pry∣sura dy ddyfodiad o Iachawdwr bendigedig, a ther∣fyna y dyddiau pechadurus yma. A dyro i mi rás i fod fel morwyn ddoeth yn barod, ag olew yn fy llu∣sern, ith cyfarfod ti priodfab fy enaid: pa vn byn∣nag ei delych a'i yn nydd marwolaeth, a'i yn nydd y Farn: Ac yno Arglwydd Jesu tyred pan fynnych: ie Arglwyd Jesu tyred ar frŷs. Hyn a phôb donni∣au eraill, a wyddost ti fod yn ddiffygiol ac yn angen∣rheidiol i mi, y dydd hwn ac yn dragywydd, yr wyf yn ymbil, ac yn deisyf yn ostyngedig eu cael ar dy law o Dád grasusol: Gan roddi i ti dy ogoniant, yn y ffurf ar weddi a ddyscodd Crist ei hûn i mi ddywe∣dyd wrthit.

Ein tâd yr hwn wyt yn y nefoedd, sancteiddier dy enw, &c.

Myfyrdod i'n hannog i weddio y borau.

OS bydd Satan, pan fyddych yn amcanu gwed∣dio, yn ceisio gennit goelio fod dy weddiau yn rhyhir, ac am hynny fod yn well i ti, naill a'i

Page 138

ei gadael hwy heibio, a'i eu torri yn fyrrach: My∣fyria, mai gweddi yw 'r aberth ysprydol â'r hon y rhyngir bôdd Duw: Heb. 13.15, 16. Ac am hyn∣ny y mae yn anfodloni y cythraul, ac mor wrth∣wynebus i'th cnawd. Plŷg gan hynny dy serch (byd mynnu bid peidio) at y fâth ymarfer sancta∣idd: Gan dy sicrhau dy hun fod hynny yn rhyngu bôdd i Dduw yn fwy, o gymaint ac y mae yn anfo∣dloni dy gnawd ti.

2. Nac anghofia, fel y mae 'r Yspryd glân yn rhoi ar lawr megis yn brifnod ar golledigion: ni alwant ar yr Arglwydd: ni alwasant ar Dduw: Psal. 14.4. A phan feddyliodd Eliphaz i Job do∣rri ymmaith ofn Duw, a darfod i Dduw ei fwrw ef allan o'i ffafr ef, y mae yn ei argyoeddi am attal ei weddi ger bron Duw: Job. 15, 4. gan wneu∣thur y naill yn achos o'r llall. Or tu arall addaw o Dduw: Pwy bynnac a alwo ar enw 'r Arglwydd cadwedig fydd. Rhuf. 10.13. Y Mae 'n ddiau y neb ni wnêl gydwybod o'i ddylêd i weddio, nad oes mo râd yr Yspryd glán ynddo ef. Canys Yspryd y grâs a gweddi ydyw yr un, Zech. 12.10. ac am hynny y mae grás a gwedi yn myned ynghŷd. Ond yr hwn a fedro (nos a borau.) weddio at Dduw a chalon edifeiriol, diogel ei fod yn cael ei fesur o râd yn y bŷd hwn: ac y caiff ei ran or gogo∣niant yn y byd sydd i ddyfod.

3. Cofia mai fel y mae llysiant ar fwyd, a phoen wrth ddywedyd; yn ddau arwydd o gorph clwyfus: felly diffygiant mewn gweddi, pan fych yn ymddi∣ddan á Duw, a diofalwch yn gwrando, pan fo Duw drwy ei air yn llefaru wrthit tithau, ydynt ddau ar∣wydd diammau o enaid clwyfus.

4. Galw i'th côf ddyfal grefydd y Christianogion yn yr Eglwys gynfydedig, y rhai a dreilient lawer nos∣waith gyfan i wilio ac i weddio, er cael maddeu∣ant

Page 139

am eu pechodau: Ac fel y byddent barod er∣byn dyfodiad Crist. Ac megis nad oedd ddigon gan Ddafydd weddio nôs á borau, á phrydnawn, ei∣thr fe godai i fynu hefyd hanner nos i weddio at Dduw, Psal. 55.16.17. Psal 119.62. Ac o darfu i Grist edliw, a cheryddu ei ddiscyblion, am na wilient un awr gyd ag ef i weddio, Mat. 26.40. Pa gerydd a haeddit ti, yr hwn wyt yn tybied fod pedwerydd ran awr yn rhyhir i't i weddio? Os darfu i ti dreilio llawer awr yn edrych ar chwary∣ddiaeth ofer, ie diwrnodau a nosweithiau cyfan, yn chwarau disiau, a chardiau i fodloni dy gnawd; bydded cywilydd gennit dybied fod gweddi o hyd pedwaredd ran awr, yn beth rhyhir i'w hymarfer i wasanaethu Duw.

5. Ystyria, os ydyw y Papisdiaid, yn eu hofer∣goel dywyll, mewn tafodiaith anadnabyddus, am hynny yn ddiadeiladaidd, 1 Cor. 14.15. (yr hyn yn unig a weddai i blant Babilon ddirgelaidd fawr, Gen. 11). yn rhuo, ac yn mwmlio forau a hŵyr gymmaint ugeuniau o Ave Mariau, a Phater Nosterau, a'r eu Padêrau, a gweddiau i addoli del∣wau: Pa fodd y byddant hwy yn eu crefydd ofer∣goelaidd yn codi yn y farn yn d'erbyn di, yr hwn wyt yn addef dy fod dy hun yn wir addolwr i Grist? Os wyt ti yn tybied fod y gweddiau hyn yn ormod tâsc, y rhai o ran maint sydd fyrrach na'u rhai hwynt, ac o ran ffrwyth o lawer yn fwy bu∣ddiol, yn unig yn tueddu at ogoniant Duw, a'th ddaioni dithau, a chwedi eu cynnill ynghyd allan o ymadroddion yr scrythur lân, megis y gallech di lefaru wrth Dduw, yn gystal yn ei eiriau bendi∣gedig ei hun, ac yn dy dafodiaith gartrefol dithau. Bydded cywilydd gennit fod y Papisdiaid yn eu ho∣fergoelus addoliad o'r creaduriaid, Yn eu hym∣ddangos eu hunain yn fwy crefyddol na thydi yn

Page 140

addoli y gwir a'r unig Dduw: Joan. 17.3. Ac mewn gwirionedd gweddi mewn crefydd neillduol, a ddylai fod yn ymadrodd parhaus, ac nid yn ddry∣lliedig ddarnau.

6. Yn olaf, pan ddêl y fâth feddyliau yn dy ben, naill ai i'th cadw oddiwrth weddio, ai i beri i't ab∣ergofi gweddio: cofia mai y rheini ydynt yr ehedi∣aid a anfonodd yr un drwg i ddifa 'r hàd da, a chyrph dy aberthau ysprydol: eithr ymegnia gyd a'g Abra∣ham, iw gwylltio hwynt ymmaith. Math. 13.4, 19. Gen. 25.11. Etto er hynny o byddi di yn deall at ryw amser, fod dy yspryd yn syfrdan, a'th feddwl yn anghymmwys i weddio, ac i grefydd sencteiddi∣ol, na ymdrech ormod y pryd hynny; eithr tan dy ymostwng dy hun wrth glywed dy wendid, a'th syfrdanrhwydd, gan wybod fod Duw yn derbyn y meddwl ewyllysgar, 1 Cor. 8.12. (er ei fod wedi ei orthrymmu gan fauch y cnawd) ymegnia amser arall i dalu ynghyfair dy anewyllysgarwch yn awr, gan ddyblu dy Zêl; ac am yr amser presennol gor∣chymmyn dy enaid i Dduw yn y weddi ferr yma, neu 'r cyfryw.

Gweddiforeuol arall sy ferrach.

GWir rasusol Dduw a thrugaroccaf Dâd, myfi dy wâs anheilwng wyf yma yn cydnabod, mai fel i'm ganwyd mewn pechod, felly y bum fyw mewn anwiredd, ac a dorrais bôb vn o'th orchmynnion mewn meddwl, gair, a gweithred; gan ddilyn dei∣syfiadau fy ewyllys fy hun, a thrachwantau fy nghnawd, heb ofal gennif am fy ymddwyn fy hun yn ôl dy air, a'th Yspryd sanctaidd di: Ac am hynny yr wyf yn haeddu yn gyfiawn oll gywilydd

Page 141

a thrueni yn y bŷd hwn, a thragwyddol ddamnedi∣gaeth yn hân vffern, pe gwobrwyit fi yn ôl dy gyfi∣awnder di, am haeddedigaeth innau. O herwydd pa ham, o nefol Dád, yr wyf yn attolygu i ti (er mwyn dy fáb Iesu Grist, ac er mwyn teilyngdod y farwolaeth chwerw a'r dioddefaint creulon, yr hyn yr wyf yn ei gredu a ddioddefodd trosof) faddau a phardynu i mi fy holl bechodau, am gwaredu oddi∣wrth y cywilydd a'r d••••ledd, yr hyn sydd ddyledus i mi o'i plegid. Ac ••••••on dy Yspryd glán i'm calon, yr hwn a'm sicrhao i o'th fod ti yn Dad i mi, a min∣nau yn fâb i tithau, a' th fod i'm caru á chariad digyfnewidiol: a gâd i'th vnrhyw Yspryd fy nhy∣wys i yn y gwirionedd, a chroeshoelio fwyfwy, ynof holl gnawdol a bydol drachwantau, fel y do pechod fwyfwy yn marweiddio ynof: ac fel y gallwyf dy wasanaethu di, mewn diragrithiol gyfiawnder, a sancteiddrwydd y dydd hwn, a holl ddyddiau fy mywyd: fel pan ddiweddo y bywyd marwol hwn, y galiwyf (drwy dy drugaredd Yng-Hrist) fod yn gy∣gyfrannog o'th ogoniant tragwyddol yn dy nefol de∣yrnas. Ac yma O Arglwydd, yr wyf o eigiawn calon, yn diolch i ti, am yr holl fendithiau a dy∣welldaist a'r fy enaid, a'm corph: am fy ethol i o'th gariad, fyngwaredu drwy dy Fâb, a'm sancteiddio drwy dy Yspryd glân, am fy ymddiffyn o'm ieueng∣tyd hyd y dydd hwn a'r awr bresennol, o'th raglu∣niaeth tra-grasusol.

Yr wyf yn diolch i't yn bendifaddeu, am fy ym∣ddiffyn y nos hon, oddiwrth bôb peryglon, a niwei∣diau, a'm dwyn yn ddiangol hyd dechrau y dydd heddyw. Yr awrhon O Arglwydd daionus; yr wyf yn attolwg i ti, cadw fi rhag llaw oddiwrth bôb drwg niweidiol i mi, ac rhag syrthio i fewn vn mâth ar bechod gorthrwm i ennyn dy ddigofaint di: gosod dy ofn o flaen fyngolygon, a'th Yspryd i reoli fyng∣halon,

Page 140

〈1 page duplicate〉〈1 page duplicate〉

Page 141

〈1 page duplicate〉〈1 page duplicate〉

Page 142

halon, megis y byddo y cwbl oll a feddyliwyf, a ddy∣wedwyf, ac a wnelwyf y dydd heddyw, yn tueddu at dy ogoniant di, daioni eraill, a thangneddyf fyng∣hydwybod fy hûn. Ac er mwyn hynny, yr wyf yn fyngorchymmyn fy hun, fy llwybrau, am gweith∣redoedd, a chwbl a berthynant i mi, i'th rasusol hyfforddiad a'th cadwraeth di; gan ddeisyfu arnat eu cadw hwynt a minnau, rhag pob drwg: a rhoddi dy râd a'th fendith ar ein holl lfur onest a'n amca∣nion bucheddol. Ymddiffyn yr holl Eglwys rhag creulondeb y bŷd, a'r Anghrist. Cadw ein Brenin grasol rhag pob twyll a bradwriaeth: cennadhâ id∣do lywodraethu arnom yn hir, ac yn ddedwyddol. Bendithia y Frenhines, y Tywysog. Cynysgaedda hwynt a'th nefol râd, a gwared hwy rhag pob drwg. Bendithia yr holl eglwyswyr, a'r swyddogion, â'r cyfryw ddonniau, a rhadau, ac a wyddost ti fod yn angenrheidiol iw lleodd. Synnia ar bawb a'r a'th ofnant, ac a grynant wrth glywed dy farnedigae∣thau. Cyssura bawb a'r sydd yn glwyfus, ac yn ddi∣ymwared. Arglwydd cadw fi drwy ffydd, ac edi∣feirwch mewn gwasdadol barodrwydd im diwedd: Fel pa un bynnag ai byw ai marw fyddwyf, i'm ceir yn eiddot ti, i'th ogoniant di, a'm iechydwriaeth dragwyddol innau, trwy Jesu Grist fy vnig Iachawdr. Yn yr hwn enw bendigedig, yr wyf yn erfyn y tru∣gareddau hyn ar dy law, ac yn rhoddi i ti dy fawl a'th ogoniant yn y weddi a sancteiddiodd ef ai wefu∣sau ei hûn, gan ddywedyd.

Ein tâd yr hwn wyt yn y nefoedd, &c.

Page 143

Ychwaneg o fyfyrdodau i'n hannog ni i weddio y borau.

NA thybia, fod negesau na thrafferth yn y bŷd (er maint a fyddont) yn escus gweddol i ada∣el gweddi foreuol ymmaith, eithr myfyrria.

1. Mai pa fwyaf fô dy negesau, o ran hynny y mae i ti fwy achos i weddio am rad Duw a'i fendith arnynt: gan weled fod yn sicr na lwydda dim, heb ei fendith ef.

2. Fod llawer dŷn pan fai yn ei dybied ei hûn ddi∣ogelaf, yn cael ei wrthwynebu yn gyntaf o'r cwbl, felly y gelli dithau.

3. Fyned llawer dŷn allan o'i ddrws ac heb ddych∣welyd byth yn ei ôl drachefn. Llawer dŷn a gô∣dodd yn iach lawen y borau, ac a gaed yn farw cyn ynos, felly y gall ddigwyddo i tithau. Ac o byd∣di mor ofalus (cyn dy fyned allan) i ysed, er mw∣in cadw dy gorph rhag awyr ddiffaith; pa faint mwy gofalus y dylit ti fod weddio i ymddiffyn dy enaid rhag profedigaet••••u neweidus?

4. Nad yw 'r amser a dreuliaist ti yn gweddio, yn rhwystro dim, eithr yn hyfforddi, ac yn llwyddo dy waith a'th negesau.

5. Mai, pan fyddych yn myned allan i drin y byd, dy fod yn myned i anialwch llawn o beryglon anadnabyddus: lle y cyfarfyddi á llawer miaren i ddryllio dy enw da, llawer o faglau i rwydo dy fywyd, a llawer o helwyr i ddifetha dy enaid. Maes ydyw o wellt rhywiog, eithr yn llawn o seirph gwenwynllyd. Na anturia gan hynny fyned yn no∣eth ym mhlîth y mieri hyn, cyn i ti ymbil á Christ am dy ddilladu di a'i gyfiawnder ef: nac i fyned trwy 'r hoenynnau a'r cynllwynau hyn, cyn i ti weddio am ragddarparwch Duw i fod i'th cyfarwy∣ddo;

Page 144

nac i rodio yn droednoeth trwy 'r maes pry∣fedog hwn, nes i ti gael dy draed wedi eu hymwisgo ag esgydiau paratôad Efengyl Tynghneddyf: a gwe∣ddio fod y sarph brês yn oestadol yngolwg dy ffydd: i gael felly fod yn sicr oni ddeui adref yn sancteiddi∣ach, na bythych ddim gwaeth na 'r pryd yr aethost di allan o'r drws.

Am hynny er maint a fyddo dy frŷs, neu er cym∣maint a fyddo dy negessau, etto na ddos yn eu cylch, nac allan o'th dŷ, nes i ti or lleiaf ddywedyd y wed∣di ferr hon, neu 'r cyfryw.

Boreuol weddi ferr.

O Drugarog Dâd, er mwyn Jesu Grist, yr wyf yn attolygu i ti, faddeu i mi fy holl gyhoedd∣us a dirgeledig bechodau, y rhai ar feddwl, gair, a gweithred a wnaethym yn erbyn dy dduwiol Fawrhy∣di: A gwared fi oddiwrth yr holl farnedigaethau dyledus i mi am danynt, a sancteiddia fynghalon a'th lan Yspryd, fel y gallwyf oyn allan arwain bywyd duwiolach, a mwy bucheddol. Ac yma o Argl∣wydd, yr wyf yn aberthu moliant i'th enw sanctaidd am ddarfod i ti fy niddanu i y nôs hon a chymesur∣deb o gŵsg, ac esmwythdra. Yr wyf yn attolwg i ti hefyd y dydd hwn, ymddiffyn fy enaid am corph rhag pob rhyw beryglon, a niweidiau. Ac er mwyn hyn, yr wyf yn fyngorchymyn fy hunan, a'm holl orchwylion i'th fendigedig gadwraeth a'th reo∣ledigaeth; gan ddeisyf arnat, pa vn bynnag a wnel∣wyf ai byw, ai marw, i mi fyw, a marw, i'th o∣goniant ti, ac i iechydwriaeth fy enaid truan, yr hwn a brynaist a'th werthfawr waed. Bendithla fi gan hynny, O Arglwydd, yn fy mynediad allan, am dyfodiad i mewn: A chennadhâ pa peth bynnag, a feddyliwyf, a ddywedwyf, neu a gymmerwyf mewn

Page 145

llaw y dydd heddyw, ei fod yn tueddu at ogoniant dy enw di, at ddaioni eraill, a diddanwch fynghyd∣wybod fy hun, pan ddelwyf ger dy fron di, i wneu∣thur fy nghyfrif diwaethaf. Cennadhâ hyn o nefol Dâd er mwyn dy fab Jesu Grist, yn yr hwn enw ben∣digedig, yr wyf yn rhoddi i ti dy ogoniant, ac yn erfyn a'r dy ddwylaw, yr holl râdau eraill, a wyddost ti eu bod yn angenrheidol i mi y dydd hwn, ac yn dragywydd, yn y weddi a ddyscodd Crist ei hûn i mi, gan ddywedyd: Ein Tâd yr hwn wyt yn y nefo∣edd, &c.

Myfyrdodau yn arwain Cristion, fel y gallo ef rodio yr holl ddiwrnod gyd a Duw mal Enoch.

GWedi i ti ddechrau fal hyn, gwilia mor ddyfal ac ei gellych yr holl ddiwrnod yn ôl hynny ar dy feddyliau, geiriau, a gweithredoedd: yr hyn beth a elli di ei wneuthur yn hawdd, os ymbili am gynnorthwy Yspryd Duw, a synnied yr ychydig re∣olau hyn.

Yn gyntaf, am dy feddyliau.

BYdd ofalus i ddodi heibio bob pechod yn y c∣nnwrf cyntaf. Taro i lawr blant Babilon wrth y meini, tra fythont yn ieuaingc. Sathra wyau yr Asp (mewn pryd) rhag iddo dorri allan yn sarph. Psalm. 137.9. Esay. 59.5. Bydded pechod yn ddiethr i'r galon, ac nid yn cyfanneddu ynddi. Go∣chel gwympo yn fynych i'r vnrhyw bechod, rhag i arfer o bechu dynnu ymmaith gydwybod o bechu, ac yno yr ai mor ddigwilydd felldigedig, na wnelech di nac ofni Duw, nac anrhydeddu dŷn.

Na âd i'th feddwl ymfodloni mewn nebryw fe∣ddylfryd,

Page 146

yr hwn a fyddo, naill, ai amhossibl i ti ei gyflawni, ai anfuddiol wedi ei wneuthur: eithr yn hytrach meddwl am wagedd y byd, iw ddiystyru: am farwolaeth, i ddisgwyl am dani: am farnediga∣eth iw gochelyd: am vffern i ddiangc rhagddi; ac am y nefoedd iw deisyfu.

3. Na ddeisyfia gyflawni dy feddwl ym mhob peth: eithr dysc nacau i ti dy hun y deisyfiadau hynny, (er daed y bônt yn rhyngu bodd i'th naturi∣aeth) y rhai pan eu ceffych a bair ogan i'th grefydd, a chasineb i tithau. Ystyrria y diwedd ym mhob peth cyn i ti ddechrau y weithred.

Chwilia beunydd fwyfwy i weled dy drueni dy hun, o achos anghrediniaeth, neillduol gariad, ac ewyllys∣lawn dorriad cyfraith Dduw: a gwêl ddiffyg tru∣garedd Dduw, trwy haeddedigaethau dioddefaint Crist i fod yn gyfryw: fel pe gofynnid i ti pa grea∣dur waelaf ar y ddaiar? y gallo dy gydwybod at∣teb; Myfi fy hûn o herwydd fy mhechodau: ac o'r tu arall pe gofynnid i ti, pa beth yr wyt ti yn ei gym∣meryd yn beth mwyaf gwerthfawr yn y byd? bod o'th galon i'th atteb, vn defnyn o waed Crist i olchi ymmaith fy mhechodau. Ac fel yr wyt yn prisio yn iechydwriaeth dy enaid, na fydd fyw mewn un mâth a'r bechod rhyfygus. O blegid gwir ffydd, a bwri∣dd i bechu, byth ni chyttunant a'i gilydd.

5. Ymddangos dy fod yn wir wâs i Grist, nid yn vnig yn dy alwedigaeth gyffredinol, megis trwy fy∣nych arfer y gair a'r Sacramentau: eithr hefyd yn neilltuol, gan wneuthur cydwybod i ochel pob pechod adnabyddus: ac i vfyddhau i Dduw ym mhob vn o'i orchymynnion: Mal Josias, yr hwn a drôdd at Dduw, a'i holl galon, yn ôl cyfraith Moeses. 1 Bren. 13.25. A Zachari ac Elizabeth, y rhai a rodia∣sant yn holl orchymynnion a deddfau 'r Arglwydd yn ddifeius. Luc. 1.6. Eithr o dygwydda it O wen∣did

Page 147

vn amser gwympo i ryw fâth ar bechod, na or∣wedd ynddo, eithr ymgyfoda o honaw chwypyn drwy edifeirwch difrifol; gan weddio am faddeuant, nes i'th cydwybod gael ei heddychu, a'th casineb i bechod ei chwanegu, a'th fwriad 'i wellhau ei gydffyr∣fio yn hollawl.

6. Gochel fod yn hoffi cael canmholiaeth wenhiei∣thus gan y bobl: ni ddaw 'r diwedd o hynny fyth i ddaioni. Ac er i ti gael mawl trwy haeddiant rhy∣glyddus, derbyn yn gall, rhag iddo brifio yn fwy peryglus na diystyrwch. O blegid nid yw 'r gwyr mawr yn chwennych ond cadw yn isel y rhai a ly∣sant hwy am eu hanneilyngdod: eithr torrant ym∣maith y rhai y bônt yn eu cynfigennu am eu maw∣redd. Hwnnw gan hynny fydd wir vnion gall, yr hwn (wrth ystyried yr ymadrodd o'r blaen) ni by∣ddo yn hoffi, nag yn llysu canmholiaeth. Eithr mo∣gel er dim i feddwl anfodlongar letyfa ynot, canys fe ddichon wneuthur mwy o alaeth nag a wyddost. Trugaredd hynod yw, ym myfg y lliaws o fendithi∣au a gefaist, gael rhai gwrthwynebion. Y mae Duw yn rhoddi i ti lawer o fendithion, rhag trwy ei∣siau, a thithau yn blentyn iddo, i ti anobeithio. Ac y mae ef yn danfon rhai gwrthwynebion, rhag mewn gormod llawnder (wrth fod yn ffôl) i ti ryfygu. Llawer o'r rhai a ymgyfodafant eu hunain i vchel∣freintiau, a fuasent yn eu bodloni eu hunain a bre∣intiau îs pa gwybuasent eu mawrion beryglau: hoffa gan hynny gymmedroldeb o flaen mawredd, ac yn dy ewyllys di bydded gennit olwg ar ewyllys Duw: rhag i'th weithred dy hûn ymchwelyd yn ddinistr it' dy hu∣nan. Dedwyddol yw 'r dyn yr hwn yn y byd byrr y∣ma, y mae 'r bŷd yn cael lleiaf cydnabod arno, am y byddo ef yn gwir adnabod Duw, ac ef ei hûn. Pa wrth∣wyneb bynnag gan hynny a ddigwyddo i ti; cofia ei fod yn llai nac y mae dy bechodau yn ei haeddu. Cy∣frif

Page 148

gan hynny Grist yn fwyaf llawenydd, a phechod yn fwyaf prudd-der i ti: na chyffelyba vn mâth ar eisi∣au, i eisiau grâs, nac vn mâth ar golled, i'r golled am ffafr Duw: ac yno yr anfodlonrhwydd oddiallan a orthrymma lai ar dy feddwl oddifewn. A chyn fy∣nyched ac y cynnygio Satan wneuthur cynnwrf o an∣fodlonrhwydd yn dy feddylfryd, cofia athrawiaeth Paul, ni ddygasom ni ddim i'r byd, ac eglur yw, na allwn ni ddwyn dim allan chwaith. Am hynny o bydd genym ymborth a dillad, ymfodlonwn ar hynny. Canys y rhai sydd yn ewyllysio ymgyfoethogi, sydd yn syrthio i brofedigaeth, a magl, a llawer o chwantau ynfyd a neweidiol, y rhai sy n boddi dynion i ddinistr, a cholledigaeth. 1 Tim. 6, 7, 8, 9. Gweddia gan hynny gyd ag Agur ddoeth: O Arglwydd na ddy∣ro i mi na thylodi, na chyfoeth, portha fi am digo∣nedd o fara, rhag i mi ymlenwi a'th wadu di, a dy∣wedyd, pwy yw 'r Arglwydd: a rhag i mi fyned yn dlawd a lledratta, a chymmeryd enw fy Nuw yn o∣fer. Dihar. 30.8.9.

7. Na ddyro fwy o feddwl ar bethau bydol, nac sydd angenrhaid o ran cyflawni dy le, a chynhalia∣eth dy fywyd: ac yn wastad gofala fwy am bethau nefol, nac am bethau daiarol; Col. 3.1.2. Phil. 3.20. a byddd mwy gofidus gennit, am yr ammarch a wnelir i Dduw, nac am y llwyrgam a gynnygier i ti dy hunan: Josu. 7.9. Psal. 139. Ond os cam neilldu ol a gynnygir i ti, cyd-ddyga fel Cristion trwy ammynedd. Ni bu erioed vn diniwaid yn cael cam, os cyd-ddygai yn ddioddefgar, nâs gorfyddai yn y diwedd. Eithr y mae dy enw da (meddi di) yn y cyfamser yn cael anaf: cyd-ddyga hynny hefyd, yn ammyneddgar: Canys yr hwn yn y dydd olaf a rydd i'th gorph di adgyfodiad, a gennadha yn ddiogel, mewn amser gweddol, adgyfodiad i'th enw da. Os ty di a fyddi yn anoddefgar, yn ymwenwyno, ac yn

Page 149

ymofidio o achos bod yn cael cam, y briw, yr wyt yn ei wneuthur it dy hûn, sydd fwy na'r hyn y mae dy wrthwynebwr yn ei wneuthur i ti. Ni elli chwaith mo|'i lawenychu ef yn fwy, na chael o hono glywed fod hynny yn dy ofidio di trwyddot. Eithr o gelli ddangos ammynedd ar y ddaiar, fe ddengys Duw ei fod ntau yn gyfion yn y nefoedd. Gweddia trosto ef; Canys os da wyt ti dy hûn, ni elli na lawenychi, o gweli dy elyn pennaf yn dyfod yn ddŷn da yntau. Eithr os ef ni ymwrthyd â'i dwyll, ac â'i falais, ymro di i weddio gan dy orchymmyn dy hun a'r achos at Farnwr cyfion nef a ddaiar, a chan ddywedyd gyd â Jeremi: O Arglwydd y lluoedd, barnwr cyfiawn∣der, a chwiliwr yr arennau a'r galon: dialedd sydd eiddot; i ti y datcuddiais fy nghwyn. Jer. 11.20. Yn y cyfamser gwilia (gyd â Dafydd) am yr Arg∣lwydd: bydd o gyssur da, ac ef a ddiddana dy galon.

8. Pa fwyaf a ganmolo eraill arnat ti am ryw we∣ithred odidog, bydd dithau fwyaf gostyngedig yn dy feddylfryd dy hûn. Nac ymhoffa mewn gwâg ganmholiaeth dynion; yr oedd y forwyn Fendigedig mewn ymdrech meddwl, pan gafodd hi ei gwir gan∣mol gan yr Angel. Hwynt hwy a glodforir gan Angelion yn y nef, y rhai a ochelant ganmholiaeth dynion ar y ddaiar. Nid rhaid i ti chwaith mo'th canmol dy hun; os da gwnei, di gei ddigon i gy∣hoeddi dy foliant. Na fydd ymosyngar i wybod gweithredoedd rhai eraill, eithr yn hytrach bydd ofalus, na wypo nêb arall vn gamweithred o'th ei∣ddo di.

9. Na chyfrif vn pechod yn fychan, canys y mae dial Duw yn ddyledus i'r lleiaf: ar lleiaf a'th fwriasai di yn golledig, oni buasai i Fâb Duw farw drosot. Bydd∣ed gresynus gennit (wrth hynny) drueni dy gyflwr dy hûn: ac fel y byddo 'r achos yn gofyn galara am anwiredd yr anser, Eze. 9.4. gweddia ar i Dduw

Page 150

ei wellhau, ac na fydd di vn or rhai, a'i gwnelo yn waeth.

10. Yn ddiweddaf, mynych-feddwl fyrred yw dy enoics a sicred yw marwolaeth: a dymuna enioes dda, o flaen enioes hir; Canys fel y mae yn well vn diwrnod o enioes dŷn na'r oed hw yaf i garw neu i gigfran: felly vn dydd gwedi ei dreilio mewn dwywawl grefydd, sydd werthfawrocach na holl fywyd dŷn a ddarfyddo yn halogedig.

Moes vnwaith gan hynny bob dydd, rifo dy ddy∣ddiau, i dynnu ymmaith y rhai a ddarfuont, (mal breuddwyd neithiwyr a ddiflannodd) a thynnu ynghyd, y rhai sydd i ddyfod, (gan fod y naill han∣ner iw cysgu allan, a'r llall yn heibulus, gan or∣thrymderau y byd, dy afiechyd dy hûn, a marwo∣laethau cynneseifiaid) gan gyfrif yn vnig y dydd presennol yn eiddot ti; yr hwn treilia fel pe bai heb fod i ti iw dreilio vn dydd ond hwnnw.

Yn ail, am dy eiriau.

COfia fod yn rhaid i ti roi cyfrif am bob gair se∣gur: Mat. 12.36. a bod y gŵr doethaf wrth siarad gormod, yn myned tu hwnt iddo ei hûn. Di∣har. 10.19. Gochel gan hynny bôb anibennus ag ofer siarad, o'r hyn anfynych y daw diddanwch, a thra∣mynych edifeirwch: yn enwedig mogel attebion byrbwyll, pryd y mae y tafod yn rhedeg o flaen y meddwl: y gair oedd eiddot ti tra cedwaist ef i mewn, y mae 'n eiddo arall cyn gynted ac yr aeth allan. O gywilydd a gwarth, pan fyddo tafod dŷn ei hun yn dyfod yn dŷst yn ei erbyn, i wradwyddo ei wyneb ei hunan. Ynteu bydded dy eiriau yn anaml, ac yn bwyllig: rhagfyfyria ydyw y peth yr wyt ar fedr ei ddywedyd, yn weddaidd iw ddywedyd: na hae∣ra fwy nag a wypych ti ei fod yn wir, a dewis dewi o

Page 151

flaen siarad yn ddiffrwyth, neu chwedleua rheswm di-ddenfydd. Jag. 1.19.

2. Eled dy galon a'th dafod ynghyd mewn ho∣nestrwydd, a gwirionedd, cashá ragrith, a chelwydd mewn arall, ffieiddia ynot dy hun: neu fo ffiei∣ddia Duw dy di am hynny. O blegit y mae ef yn∣cashau y dŷn celŵyddog a'r cythraul ei Dad ef vn ffunyd. 1 Pet. 2.1. Psal. 3.2. Os gwybyddir vn∣waith dy fod heb wneuthur cydwybod o ddywedyd celwydd; ni choelia vn dŷn mo honot pan fyddych yn dywedyd y gwirionedd; Os celwyddog i'th adwaenant, pryd y traethech wir ni'th coeliant, eithr o byddi yn caru y gwirionedd, fe a goelir i'th air di o flaen llwf vn celŵyddog. Mawr yw 'r meddiant sydd gan Satan ar yr rhai a ymarfero a dywedyd celwydd, megis na fedrant ond dywedyd celwydd, er na byddo iddynt elw yn y byd oddiwrtho: ac er na bô neb arall yn peri iddynt ei ddywedyd. Na âd i'th ddigofaint barhau wedi ei darfyddo 'r a∣chos: gwêl byth ragoriaeth, rhwng yr hwn sy'n gweuthur cam o herwydd ei wendid (neu yn er∣byn ei ewyllys,) a'r hwn sy'n trawseddu oi lawnfryd yn falaisus; gâd i'r naill gael trugaredd, ac i'r llall gael cyfiawnder.

3, Cadw dy ymadrodd oddiwrth bob budreddi a ferthrwydd, mor lân, ac y mynnit gadw dy fwyd o∣ddiwrth wenwyn; a bydded dy ymadrodd yn gy∣fryw ac a fyddo da i adeiladu yn fuddiol, ac yn peri grâs ir gwrandawyr: Eph. 4 29. Bydd mwy di∣frifol yn siarad am y grefydd, nac yn siarad am be∣thau bydol.

O Deelli i't gyfeiliorni, nag ymdro yn wargaled i aros yn dy fai; gorfoledda wrth gael y gwirionedd, a mawryga ef. Myfyria gan hynny ar dri pheth, sef i ddeall yn dda, i ddywedyd yn dda, a gwneuthur yn dda. A phan gyfarfyddych di â phlant Duw,

Page 152

bydd sier o gynnill rhyw leshâd o ddiwrthynt, dysc ganddynt gwbl ac a ellych o ddaioni, a chyfranna ag hwynt yr holl bethau daionus a wyddost dithau. Pa fwyaf o ddaioni a ddyscech i eraill, mwyaf a ddysc Duw i tithau, Marc. 4.24.25. Canys megis y mae rhoddion dynion wrth hir ymarfer o honynt, yn de∣lwi, ac yn darfod: felly y mae donniau Duw o'i hir ymarfer yn cynnyddu, ac yn chwanegu; Megis ysteneid o olew y wraig weddw ddyledog, yr hwn pa fwyaf a dywalltai hi o honi, fwyfwy a fyddai ynddi, 2 Bren. 4.2.

4. Gochel gredu y cwbl a ddywedpwyd i ti, ac na ddywed y cwbl a glywych di: Canys os gwnei, ni chei di hir feddu cyfeillion eywir, na byth eisiau blin∣derau trymmion. Preg. 3.7. Luc. 2.19. Am hynny mewn cyhuddiadau, bydd yn gyntaf ddiogel o'r gwir∣ionedd, yno barna. Ac fel yr wyt yn prisio geirda calon honest, na ad fyth i gasineb mewn drygnaws beri i ti adrodd, yr hyn a ddarfu i gariad mewn cymdeithas dy rwymo di (er ys hir o amser) iw gadw yn gyfrinachol. Eithr rhag ofn y fàth wyniau, synnia ddau beth:

Yn gyntaf, er maint dy gydnabyddiaeth, na wna yr vn yn gefeillfrawd o'th cyfrinach, ond vn a fyddo yn gwir ofni Duw, y cyfryw nid rhaid i ti byth moi ofni. Canys o digwydda i chwi amrafaelio mewn rhyw bethau neillduol, etto cariad cristianogawl, prif sail eich cyfeillach, ni chwympa ymmaith byth; ac ni chynnwys ofn Duw iddo ef, wneuthur dihirdra â thydi.

Yn ail, na wna ddim yngŵydd dy gyfaill dinasol, am yr hyn ni elli fod yn ddiangol, oddieithr ei gadw yn gyfrinachol: nag vn peth am yr hwn (o daw ach∣os) y bydd rhaid i ti ei ofni; os ef a brifia i fod yn elyn anafus i ti. O gwnaethost ti ddim ar fai, gofyn

Page 153

faddauant i Dduw, a pherswadia dy di dy hun, ac nid dy gyfaill, i gadw dy gyfrinach dy hun. Canys bydd ddiogel pa gefeillach bynnag, a osodir ar sail amgen nag ar wir grefydd, os yr achos o honi a fetha, y mae'r gyfeillach yn myned i'r gwellt: Ac yn hytrach, o herwydd fel y mae Duw yn magu gwirionedd, heddwch, a chymdeithas ymhlith dynion, mal y byddem fyw i wneuthur daioni y naill ir llall: felly y mae 'r cythraul beunydd yn hau celwydd, a∣mrafael, a gelyniaeth, i beri (os gall ef) i'r cy∣feillion anwylaf, ddifetha eu gilydd.

5. Na wna goeg-ddigrifwch o wendid vn arall: cofia dy vn dy hunan. Ffieiddia synwyr gâs, a na∣turiaeth front y dŷn sydd (pan fo ei mennydd yn deall rhyw achos o watwor) yn trafaelio megis gwraig feichiog, nes cael ei ben yn rhydd oddiwrtho. Ie gwell ganddo golli ei gyfaill gorau nai wawd di∣hiraf: eithr o bydd ynot hoen i fod yn lla∣wen, cymmer ofal mawr am dri pheth. Yn gyn∣taf, na byddo dy ddigrifwch yn gwrthwynebu iawn grefydd.

Yn ail, na byddo yn erbyn cariad perffaith.

Yn drydydd, na byddo yn erbyn diweirdeb. Ac yno bydd mor llawen ac a fynnych, yn vnig yn yr Arglwydd. Phil. 4.4.

6. Na fydded llawen gennit weled codwm i'th elyn, o blegit ni wyddost pa fodd y bydd dy ddiwedd dy hun. Eithr gorfoledda fwy wrth weled gwellhâd y dŷn dihiraf, nac wrth weled ei gospedigaeth. Na cashâ un dŷn, rhag ofn bod Crist yn ei garu: yr hwn ni fyn 'i ti gashau 'r hwn a garo ef. Yr oedd Crist yn dy garu di, pan oeddit yn elyn iddo; Rhuf. 5.8.10. Eph. 2.4. Am hynny drwy haeddediga∣ethau ei waed, y mae ef yn erfyn arnat er ei fwyn ef garu dy elyn: nacâ ef (a thithau yn Gristion) os

Page 154

llyfesi. Nid yw ef yn gofyn ond maddeuant o gant o geniogau am faddeuant o ddeng-mil o dalentau. Math. 18.24, 28. ac 25.28. Trugain can-mil o goro∣nau, am ddeg-coron: Ychydig o faddeuant dŷn am anherfynol faddeuant yr holl Alluog Dduw. er i ti dybied, nad yw dy elyn yn haeddu maddeuant, etto y mae Crist yn deilwng i'w anrhyddeddu.

7. Dywed y gwirionedd, ac na ofna wyneb dŷn, pan fyddo gogoniant Duw neu ddaioni dy gymydog yn ei ofyn ar dy law: wrth ynnill câs y Tywysog lawer gwaith yr ynnillir cariad Duw: ni cheiff gwen∣niaith ond byr barhau mewn cymmeriad, na gwiri∣onedd mor hir aros mewn ammarch.

8. Tybia ei fod yn gyfaill cywir ffyddlon, a ddy∣wedo i ti dy feiau yn eglur mewn dirgelwch. Yr hwn sydd yn dy weled ti yn troseddu, ac heb ddy∣wedyd i ti dy fai, naill a'i mai ef yn gwenhieithio i't am dy ffafr, neu ni feiddia ef rhag ofn mo'th an∣fodloni. Gresynus ydyw cyflwr yr hwn, wrth ei raid ni feddo un i'w gynghori. Argyoeddiad, bid gyfion bid anghyfion, pa vn bynnag a'i o enau cy∣dymmaith, a'i o enau gelyn y delo, ni wna fyth ni∣waid i wr synhwyrol. O blegid os bydd hynny yn wir, dyna i ti rybydd i wellhau: os anwir, dyna ddangos i ti beth i'w ochelyd. felly ym mhob ffordd y mae yn gwneuthur gŵr câll yn well, neu yn ddich∣lynnach. Ond oni elli aros dy argyoeddi, na wna dithau ddim achos o argyoeddiad.

9. Na chrybwylla Dduw, ond trwy ofn ac an∣rhydedd, megis yn ei glyw a'i olwg. Canys gan weled nad ydym ni deilwng i arferu ei enw san∣ctaidd yn ein geneuau: llai o lawer y dylem ni ga∣marfer ei enw bendigedig yn ofer, yn ein hymadro∣ddion. Canys ei arfer beunydd, mewn ofer, byr∣bwyll, neu gau lyfon, sydd arwydd diamheuus o e∣naid ni wir ofnodd Dduw erioed. Gweddia gan

Page 155

hynny gyd a Dafydd, pan fyddyoh i lefaru mewn rhyw achos a ddichon beri digofaint fel hyn: Go∣sod Arglwydd gadwraeth o flaen fyngenau: cadw ddrws fyn gwefusau, Psal. 141.3.

10. Yn olaf, bydd weddaidd yn canmol, yn wy∣bodol yn cyfarch, yn gymdeithgar yn cynghori, yn drugarog yn maddeu, yn ffyddlon yn addo, yn hael yn gwohrwyo twrn da, heb wneuthur taledigaeth rhinwedd, yn wobrau ffafor. 2 Pet. 1.12. Rhuf. 12.10. 2 Thes. 3.15. Psal. 15.4.

Yn drydydd am dy weithredoedd.

NA wna ddrwg er gallael ei wneuthur: O ble∣gid ni chynnwys Duw i'r pechod lleiaf (heb edifeirwch chwerwdôst) ddiangc yn ddigôsp. Na âd vn daioni a'r a ellych heb ei wneuthur. Na wna ddim allan o'th alwedigaeth, nac yn dy alwedigaeth, cyn i ti yn gyntaf gymmeryd cyngor gen air Duw, Psal. 119.101. I wybod a fyddo y peth yn gyfreith∣lawn, a'i na byddo; a gweddio am ei fendith ef ar dy amcannion, ag yno gwna ef yn enw Duw, â cha∣lon lawn o gyssur; gan orchymmyn y rhâd a'r cyn∣nydd iddo ef, yngallu yr hwn, y mae bendigo, a llwyddo pa orchwyl bynnag a ddarparwyd iw ogo∣niant.

2. Prydith arweinir i brofedigaeth, i wneuthur gweithred ddrwg, cofia fod Satan gyd a'i orchwyl ef. Na âd gan hynny i blentyn i Dduw fod yn offer i aill cyn ddihired. Cashá y gorchwyl, mal yr wyt yn ffioiddio yr awdur. ymofyn a'th cydwybod y ddau beth hyn: a fynnwn i i ar all wneuthur fal hyn â mi? Mat. 7.11. Pa ryw atteb a rôf i Grist, yn nydd fyng∣hyfrif, Os fy fi (yngwrthwyneb im gwybodaeth a'm

Page 156

cydwybod) a wnaf yr anwiredd, a'r pechod hwn yn ei erbyn ef? Luc. 16.2. 2 Cor. 6.2. Cofia gyd á Jo∣seph, er nad oes vn dŷn yn gweled, etto y mae Duw yn gweled y cwbl. Gen. 39.9.11. Ymâd gan hyn∣ny a'th holl bechodau, (gyd á Joseph) yn gystal y rhai ydynt gyfrinachol yngolwg Duw yn vnig, a'r rhai ydynt eglur yngolwg dynion. O blegit Duw fel y mae yn gyfiawn, (oddiethr i't brysuro i edi∣farhau) a ddwg yr holl bechodau dirgeledig i oleu∣ni cyhoeddus, megis y dygodd rai Dafydd gar bron holl Israel, a char bron yr haul. 2 Sam. 12.12. Bydded gan hynny pechodau dirgeledig mor ofnad∣wy gennit, ac yw cywilydd agored. A gochel hwynt oll yn gyffredin, mal na byddych yn cennadhau i't dy hûn vn neillduol bechod anwyl, yr hwn y mae llygredigaeth dy anian yn cyttuno yn orau ag efo: oblegit fe fedr y cythraul cyfrwys-ddrwg, ddala e∣naid dŷn ynglŷn, cyn dynned wrth vn, ac wrth lawer o bechodau: ac yn dynnach wrth vn a fy∣ddo yn rhyngu bodd i ti, nac wrth yr holl rai y by∣ddych yn dechrau eu cashau. Ac fel yr wyt yn chwennych ymadael ar pechod, felly bydd ofalus i ochelyd yr achos.

3. Er mwyn cwblhau gweithredoedd da o fewn dy alwedigaeth, nac ammeu ragluniaeth Duw, er i ti weled y moddlon naill, a'i 'n weinion, a'i 'n ddiffy∣giol. Ac o bydd y moddion yn ymgynnig i ti bydd ddiogel eu bod hwynt yn gyfreithlon: a chwedi ei ceffych foddion cyfreithlon, gwilia hyderu mwy ar∣nynt hwy, nac ar Dduw ei hun. Cymmeryd poen mewn galwedigaeth gyfreithlon, ydyw moddion cyffredinol Duw, drwy 'r rhai y mae Duw yn bendi∣thio ei blant â phethau oddiallan. Gweddia gan hynny am fendith Duw ar ei foddion ef. Bydded gennit feddylfryd nefol mewn bydol a daiorol dra∣fferth: Gwna dy egni gorau, a gorchymmyn y dig∣wyddiad

Page 157

i ragordeiniad doethineb y goruchaf Dduw. Na feddwl gael llwyddiant wrth foddion a felldigodd Duw. Nid elw yn y diwedd yw, yr hyn a ynnillych wrth golli dy enaid, Math. 16.26. Ym∣mhob gweithredoedd a moddion gan hynny, ymeg∣nia gyd â Phaul, i gadw cydwybod làn bob amser tu ac at Dduw, a dynion. Act. 24.16.

O ran, cydwybod sy 'n gwaredu, cydwybod sydd yn euog farnu, Cydwybod garwnod, yn ol gwaith gwallus, bair golli dŷn diffaith, Cydwybod mewn cyd-obaith a geidw dŷn gwedi ei daith.

4. Câr bob pethau daionus er mwyn Duw: a châr Dduw er ei fwyn ei hûn. Tra fyddych yn dal Duw yn gyfaill it, nid rhaid i ti ofni pwy a fyddo gelyn i ti: canys naill, a'i fe a wna Duw dy elyn i fod 'yn gyfaill i ti, a'i fe a'i ffrwyna ef, fel nas gallo wneu∣thur dim niweid i ti. Rhuf. 8.31. Diha. 16.7. Erioed ni orchfygwyd un dŷn gan ei elyn, nes i'w bechod ef yn gyntaf gael y llaw 'n vchaf arno, a Duw ei adael ef iddo ei hûn. Yr hwn gan hynny a fynno fod yn gadwedig rhag ofn ei elynion, a byw yn wasdod yn ffafr Duw, pryned ynfydrwydd yr amser a aeth heibio ag edifeirwch difrifol: edryched at yr am∣ser presennol trwy fanyldra Duwiol grefydd, a gwili∣ed yr amser sydd i ddyfod trwy ragwybodaeth di-es∣ceulus. Psal. 27.11.12, 13.

5. Dyro i bob dŷn yr ahyddd dyledus iw al∣wedigaeth, eithr anrhydedda ddŷn n fwy am ei ddaioni, nác am ei fawred Ac ar law pwy bynnag y cefaist ti dwrn da, cofi (〈◊◊〉〈◊◊〉 y gallu a roddes Duw i ti) fod yn ddiolchg•••• iddo. Cydnabydda hyn yn gariadus o flaen 〈◊〉〈◊〉 a gweddia trosto at Dduw a chalon ewyllsga a chyfif bob bendith a dderbynniaist oddiwrth Dduw, yn ••••••ydd o'i dra∣gwyddol

Page 158

gariad, i'th cymmell i dduwiol fywyd.

6. Na falchîa o achos dy olud bydol oddiallan, nac o achos dy ddoniau ysprydol oddifewn. Nid o achos dy dda bydol oddiallan, o blegit fel eu daethant yn ddiweddar, felly yr ânt ymmaith drachefn yn ddisymmwth, am hynny y golled o honynt Sydd lai i'w chwyno. Nac am ddonniau oddifewn chwaith, canys, fel y darfu i Dduw eu rhoi, felly un agwedd efe a'i dwg hwynt ymmaith, Os (gan anghofio y Rhoddwr) y camarferi di ei ddonniau, i chwy∣ddo dy galon à balchder o'th haeddedigaeth dy hûn; ac i ddrystyru eraill, er mwyn pa rai y darfu i'r Ollalluog Dduw dywallt y cyfryw ddonniau arnat. Oes gennit ti vn rhin dda a bair i ti feddwl yn dda am danat dy hun? y mae arnat titheu ugain o fei∣au a ddylai yn hytrach beri it ymddangos yn wael yn dy olwg dy hun.

Bydd yn gyfryw vn yngolwg Duw, yr hwn sydd yn gweled dy galon, ac yr wyt yn ymddangos yn∣golwg dynion, y rhai sydd yn gweled dy wyneb. Na ymfodlona mo honot dy hûn ag enw da oddiallan, pan fyddo dy gydwybod oddifewn yn dywedyd i ti, nad wyt yn ei haeddu, ac am hynny nid eiddo ti mo honaw. Enw da haeddedigol, am beth bynnag y byddo, oddieithr am Dduwioldeb, a bery ychydig, a llai a dàl. Ni ddarllennais erioed yn yr holl scrythyrau sanctaidd am edifeirwch rhagrithiwr; ac nid rhyfedd: Canys yn ôl pechu dychweliad ydyw yr vnig fodd sydd wedi ei adael i iachau pe∣chaduriaid eraill; ond pa ryw fodd sydd i'w gael i'w ddychwelyd ef, yr hwn a drôdd droad ei hun yn bechod? Gwae gan hynny yr enaid nid yw, ac etto sy'n ymddangos yn fucheddol.

7. Dal sulw ar Ddihenydd ofnadwy y dynion mel∣digedig hynodol, i ffieiddio eu gweithredoedd drygi∣onus; edrych ar fywyd y duwiol, fel y gellych ddys∣cu

Page 159

gwneuthur ar ei ôl: a'i ddiwedd bendigedig, fel y gellych gael cyssur oddiwrtho. Num. 23.10. Psal. 37.35, 36, 37. Gwna barch i'th well, dal sulw ar y doeth, cynnal gymdeithas y dyn gonest, a chár y dŷn crefyddol. A chan weled fod natur lygredig dŷn yn tueddu at Ragrith: gochel arferu crefydd yn ddibris ac yn scoewan, heb na gofal 1. a chydwybod i gynnyddu yn dduwiolach a sanctaiddiolach oddi∣wrthi. Ymwrando gan hynny pa fodd yr ymgly∣wych (trwy arferu moddion Duw beunydd) yn marw∣hau dy lygredigaeth, ac yn cynnyddu mewn san∣cteiddrwydd: Ac na wna ddim llûn neu wâgfost i ymdangos, yn sancteiddiach oddiallan, nac wyt ti (yngolwg Duw) oddisewn yn dy galon. Math. 23.27, 28.

8. Cais lywodraethu y rhai sy 'n byw tan dy aw∣durdod trwy gariad, yn hytrach na thrwy ofn: Ca∣nys llywodraethu trwy gariad sydd hawdd a diogel, eithr gofal a dychryn a fydd byth yn canlyn creulon∣deb: Gortrechiad a bair i'r rhai a ortrechir ddisgwyl odsa i fyned oddi dan yr iau, yr hon nid ydynt fod∣lon iw ddwyn: Ni âd cyfiawnder Duw chwaith, i ly∣wodraeth a seiliwyd ar greulondeb barhau yn hir. Cofia er eu bod trwy ddynol ordinhâd, yn dy wasa∣naethu di; etto trwy briodol drefn gyfiawnach, gwei∣sion i Dduw ydynt, ie a chan eu bod yn Gristianogi∣on, nid megis dy weision, eithr vwchlaw gweision, bro∣dyr anwyl yn yr Arglwydd. Philem. 16. 1 Cor. 9.5. Rheola gan hynny ar Gristianogion (gan dy fod yn gristion) mewn cariad, a thrugaredd, fel Crist dy ben Athro.

9. Cofia, mai o holl weithredoedd dyn, nad oes dim yn peri fod Swyddog yn debyccach i Dduw (rhag∣law i'r hwn yw ef) nac yw, gwneuthur vnion∣deb yn union. O ran cyflawni yr hyn beth mal y dylit:

Page 160

Yn gyntaf, bydded gennit ti glust agored i wran∣do achŵynion cyfiawn am anghyfiawn weithredo∣edd.

Yn ail, dod felly fenthyg vn glust i'r cyhuddwr, fel y bŷch yn cadw y llall i'r ymddiffynnwr: Canys yr hwn o farno gyd a'r naill du, cyn gwrando y ddau, er iddo farnu yn gyfiawn, y mae ef yn farnwr ang∣hyfiawn.

Yn drydvdd, wrth wrando 'r ddeutu, na ogŵy∣dda at y llaw ddehau o serch, nac at yr aswy o gasi∣neb: megis i goelio rhesymman o debygoliaeth gan gyfaill, o flaen y gwirionedd eglur gan gas-ddyn.

Yn bedwerydd, na ddyro nag o gyfiawnder, (yr hyn yw regia mensura, sef mesur brenhinol,) i'r dei∣liaid gwaelaf. Eithr gâd i achos y gwan, a'r anghê∣nog, y cryf, ar cyfoethog, fod yn yr vnrhyw bwy∣sau gwastad. Os canfyddi o'r naill du mewn rhyw achos, frynniau vchel o gyfrwysdra dichellgar, ym∣bleidio cadarn, ag erlid haerllyg gortrech: ac o'r tu arall bannylau isel, tlodi, diniweidra, a gwendid di-ymwaredol. Paratôa dy ffordd (fel y mae Duw yn gwneuthur) i farnu, gan gyfodi pannylau, a thynnu i lawr frynniau, a rhoi anghyffelybiaeth yn gyffelyb. Luc. 3.4.5. Esay 40.3. Fel y goso∣dych sail dy farn ar dir gwasdad. Mewn achos o vniondeb neu gam rhwng plaid a phlaid, bydded dy gydwybod yn ofalus ius dicere i adrodd y gyfraith yr hon a wnaethpwyd, secundum allegata et probata; yn ol y pethau a haerer ac a brofer; 2 Cron. 19.10. Yn hytrach nag ius dare, i wneuthur cyfraith dy hun, yn ôl awdurdod sic volo, sic jubeo, fef felly yr wyf yn mynnu, felly yr wyf yn gorchymmyn; gan ofni y felldith honno, Deut 27.17. Melldigedig yw 'r hwn a symmudo derfyn tir ei gymmydog. Mewn acho∣sion am fywyd neu farwolaeth, bydded Barnwyr yn gyffelyb i Elohim, mewn cyfiawnder yu cofio truga∣redd;

Page 161

Hab. 3.2. Ac felly yn edrych a milain ol∣wg Cyfiawnder ar y weithred, fel y byddo tosturus olwg Trugaredd ar y drwg weithredwr. Gan dde∣ongli ffafr y gyfraith i fod yn ffafr o fywyd, lle by∣ddo grâs yn addo gwellhâd: eithr o bydd cyfiawn∣der yn gofyn i vn farw, rhag marw vndeb, a bod yn rhaid torri ymmaith aelod pydrllyd, rhag i'r holl gorph fadru, fiat iustitia, gwneler cyfiawnder. Ei∣thr pan fŷch yn rhoddi y farn ar arall, cofia fod dy farn dy hun yn crogi goruwch dy ben. Ym mhob achos gan hynny barna yn gyfiawn, o blegid yr wyt ti yn ficr o gael Barnwr cyfiawn, ger bron yr hwn y mae 'n rhaid i ti ar fyrder fyned i ymddangos, i ga∣el dy farnu dy hun: y pryd hynny y gelli di adael i'th gyfaill hyn o Farwnad yn dy ol.

Nuper eram Judex, iam Judicis ante Tri∣bunal Subsistens, paueo; iudicor ipse modo.

Hynny yw:

Barnwr doeth a fum i gynt yn cael yr helynt orau: Ac yr awrhon ofnog wr ger bron y Barnwr finnau.

Llawer sydd (ni wn i o herwydd pa ham) a ymofidiant o herwydd cyfraith y deyrnas: Eithr y gwyr a fo doeth a ddichon atteb gyd a'r Apostol, Nos scimus bonam esse Legem, modò Judex ea legitime vtatur; Nyni a wyddom mai da yw 'r gyfraith, os arfer dŷn hi yn gyfreithlawn. 1 Tim. 1.8. Ac myfi a'i galwaf ef yn Farnwr cy∣fiawn, calon yr hwn ni ddichon llygredigaeth gwo∣brau, ofn gelynnion, na chariad cyfeillion ei dynnu oddiwrth ymarfer cydwybodus a'r gorchymynnion

Page 162

yma. Ac wrth yr anaml-fâth anrhydeddus Farn∣wr hwnnw, y dywedaf gyd â Jehosaphat: ymwrol∣wch, a gwnewch gyfiawnder, a'r Arglwydd fydd gyd â'r daionus. 2 Cron. 19.11.

10. Yn ddiwaethaf, na wna vn difyrrwch yn ar∣fer bennyddiol i ti. Nid yw yr ymarfer hwyaf o ddigrifwch ond byrr, eithr y poenau am gamarfer di∣grifwch ydynt dragwyddol. Arfer gan hynny o ddi∣fyrrwch cyfreithlawn cyn belled, ac ei byddo i'th wneuthur yn dy gorph a'th feddwl yn gymmesur ach a chyssurusach i wneuthur gwasanaeth Duw, a'r dy∣ledion perthynasol i'th alwedigaeth. Y mae dy waith yn fawr, nid yw dy amser ond byrr. Ac y mae 'r hwn sydd yn talu gwobr i bob vn fel y byddo ei waith ef, yn sefyll wrth y drws. Dad. 22.12. Jag. 5.9. Meddwl pa waith sydd etto yn ôl, mor araf y gwei∣thiaist yr amser a aeth heibio; a pha gyfrif a fyddei gennit, pe bai dy Arglwydd yn dy alw ger ei fron y dydd heddyw. Bydd ofalus o hyn allan, i wneu∣thur yr elw gorau a ellych o'r amfer byrr sydd i ti yn ôl, fel y gwnai ddŷn o hên ammodau a fai ym mron myned allan: A phan fych yn bwriadu difyrru yr amser, i't dy hun, cofia leied yw amser dy enioes, ac am hynny na ellir difa llawer o hynny, mewn segu∣ryd, digrifwch, chwaryddiaeth, a gwâg oferedd: Gan weled nad yw 'r cwbl ond yspaid byrr, iw drei∣lio yn gwneuthur y daioni gorau a fedrych. O ble∣gid ni chreuwyd dŷn er mwyn ymddifyrru, ymddi∣grifo, neu chwareu: eithr i wasanaethu Duw mewn Crefydd yn ddyfal, ac i wasanaethu ei gymydog yn gydwybodus yn ei alwedigaeth; ac felly yw sicrhau ei hûn o iechydwriaeth tragwyddol. Cyfrif gan hyn∣ny golli 'r amser, yn vn o'r colledion mwyaf. Prŷn yr amser yn ofalus, a bydd dra-doeth iw dreilio, fel pan ddêl yr amser, yn yr hwn ni chei mor bod yn

Page 163

rchwyliwr mwyach ar y ddaiar; y byddo dy Argl∣wydd yn dy groesawu di a'g Euge bone serue, sef da wâs da, ac yn rhoddi i ti le gwell yn y nefoedd, lle cai yn llawen fwynhau llawenydd dy Arglwydd yn dragywydd.

Prydnawnol fyfyrdod.

Yn yr hwyr, pan fyddych yn dy baratoi dy hun i gymmeryd dy esmwythder, myfyria ar yr ychydig byngciau hyn.

1. GAn weled fod dy ddyddiau wedi eu cyfrif, ac vn ychwaneg or cyfrif wedi ei dreilio: a'th fod yn agofach i'th ddiwedd o ddiwrnod.

2. Eistedd i lawr ennyd, cyn i ti fyned i'th wely, ac ystyria wrthit dy hun, pa beth a welaist, a gly∣waist, neu a ddarllennaist y dydd hwn, a haeddai goffadwriaeth, mwy nac a welsit, a glywsit, neu a wyddit o'r blaen, a gwna y deunydd goreu a cllych o honynt. Eithr yn enwedig galw i'th côf, pa be∣chod a wnaethost y dydd hwnnw, yn erbyn Duw neu ddŷn: a pha ddaioni a adewaist heb wneuthur: ac ymostwng dy hun am y ddeubeth hynny: O theby∣gi i ti dy hun wneuthur dim da, cydnabydda mai rhâd Duw oedd hynny, a dyro iddo ef y gogoniant, a chyfrif y dydd hwnnw yn golledig, yn yr hwn ni wnaethost ti ddim daioni.

3. Os gwyddôst i ti wneuthur vn pechod gor∣thrwm, trwy wendid neu brofedigaeth gref: Na ryfyga gysgu nes darfod i ti ar dy liniau wneuthur cymmod neillduol a Dduw yn Ghrist am hynny: yn gystal drwy gyffessu dy fai, a thrwy ddyfal weddio am gael gollyngdod a maddeuant. Felly wrth wneu∣thur dy gyfrif yn vnion â Christ bob nôs, fe fydd i ti

Page 164

lai o dâfg, wrth wneuthur y cyfrif diwaethaf, o fla∣en ei Fawrhydi yn Nydd y Farn.

4. Os dygwydda i ti vn dydd syrthio allan â neb, Na fachluded yr haul ar dy ddigofaint di y no∣son honno. Eph. 4.26. Os bydd dy gydwybod yn cyhuddo i ti wneuthur cam ag ef, cydnebydd ar bai, ac ymbil ag ef am faddeuant. Os efe a wnaeth gam a thy di, cynnyg ei gymmod iddo, ac oni chymmo∣da ef, etto maddeu di iddo o'th calon, Math. 5.23. Ond mewn vn modd na ryfyga fod yn ddial∣wr drofot dy hun. Canys felly yr wyt yn gwneuthur cam deublyg â Duw: yn gyntaf, am gynnyg dwyn cleddyf cyfiawnder o'i law ef, fel pe bai ef heb fod yn gyfiawn, ac yntau wedi cadw talu dial yn ei law ei hun. Yn ail, am gamarfer awdurdod ar ei wâs ef, heb droi 'r achos atto ef iw wrando, ac iw farnu, yr hwn sydd yn Arglwydd, ac yn Feistr i chwi'ch deu∣wedd. Heb law hynny, yr wyt ti yn tueddu gormod or naill du i fod yn ddialwr. O blegid pe bait ti i roi dial arnat dy hun, ti ai rhoddit yn rhy ysoafn, ac ar dy elyn yn rhy drwm. Am hynny Duw piau di∣al, ditheu piau maddeu.

Ac yn dystiolaeth ddarfod i ti yn ollawl faddeu iddo ef, gweddia at Dduw am gael o hono faddeu∣ant o'i fai, a gwellhâd o'i fuchedd: ac yn ôl hynny o daw achos (o bydd yn dy allu) gwna iddo gym∣mwynas, a gorfoledda yn ei wneuthur: Canys yr hwn sydd yn gwneuthur daioni iw clynion, sydd yn ei ymddangos ei hun yn fab Duw, a'i wobr sydd gyd â Duw ei Dâd.

5. Nac arfera o gŵsc megis moddion i fodloni syrthni mwll dy gnawd, Eithr megis yn feddiginia∣eth i adneŵyddu dy synwyrau, a'th aelodau bli∣nion: Cymmedroldeb o gyscu sydd yn escydhau y meddwl, ac yn bywhau y corph: eithr anghymmedrol

Page 165

gŵsc sydd yn trymhau y naill, ac yn teŵychu y llall.

6. Cofia fod llawer yn myned iw gwely, ac heb gyfodi byth drachefn, hyd oni deffroer, i adgyfo∣diwrth lais ofnadwy yr vdcorn diwaethaf. eithr yr hwn sydd yn cyscu ac yn deffro gyd â gweddi, sydd yn cyseu ac yn deffro gyd â Christ. Os dymuni gan hynny gyscu yn ddiofal, ac yn ddiogel, ymddy∣ro dy hun i ddwylaw Duw, tra byddych yn effro: Ac felly dôs i'th wely gyd â pharch i Fawrhydi Duw, ystyriaeth dy drueni dy hun, yr hyn a elli ei argraphu yn dy galon mewn peth mesur, trwy 'r modd hyn, neu'r cyfryw fyfyrdod.

Darllain bennod yn yr unrhyw drefn ac a osodwyd ar lawr i ti iw wneuthur yn y borau: a phan ddar∣fyddo i ti, gostwng i lawr ar dâl dy liniau wrth er∣chwyn dy wely, neu ryw le cyfleus arall yn dy sta∣fell, a chan dderchafu dy galon, dy olygon, a'th ddwylaw, at dy D d nefol, yn enw a chyfryngdod ei sainctaidd Fab Jesu, gweddia atto ef, os oes gen∣nit y dawn i weddio.

1. Gan gyfaddef dy bechdau, yn enwedig y rhai a wanaethost y dydd hwnnw.

2. Gan ymbil yn ddifrifol er mwyn Crist am ga∣el maddeuant, a rhyddhâd oddiwrthynt.

3. Gan attolygu ei Yspryd glân i'th rhagflaenu i wellhâu dy fuchedd.

4. Gan roddi diolch, am yr holl ddoniau a dderbyniaist, yn enwedig, am dy gadwedigaeth y dwthwn hwnnw.

5. Gan weddio am lonyddwch, ac ymwared y noson honno.

6. Gán gofio stât yr Eglwys, y Brenin, ar hilioga∣eth frenhinol, Gweinidogion gair Duw, a Swyddo∣gion, a'n holl frodyr ymweledig neu erlidiedig.

7. Yn ddiwaethaf, gan dy orchymmyn dy hun a'th eiddo iw gadwraeth grasusol.

Page 166

Hyn oll, a elli di ei wneuthar yn y geiriau hyn, neur 'r cyfryw.

Prydnawnol weddi.

O Dra-grasusol Dduw, a thrugaroccaf Dád, yr hwn wyt o amgylch fyngwely, yn gwybod yn hysbys fyngorweddfa am cyfodiad, ac wyt yn agos at y rhai oll â alwant arnat mewn gwirionedd a phur deb. Myfi bechadur truan sy 'n attolwg i ti edrych arnaf a golygon dy drugaredd, ac nid craffu arnaf fel yr ydwyf o honof fy hun: O blegd yno ni chet weled ond creadur diffaith, ac ammur, gwe∣di ei lunio mewn anwiredd, ac yn byw mewn pe∣chod, fel y mae yn gywilydd gennif dderchafu fyn∣golwg tu ar nefoedd, gan wybod mor orthrwm y pe∣chais yn erbyn y nefoedd, ac o'th flaen di. O blegid (O Arglwydd) mi a droseddais dy holl orchym∣ynnion a'th union ddeddfau, nid yn unig trwy esceu∣lusdra a gwendid, eithr trwy ryfyg ewyllyscar yng∣wrthwyneb fyngwybodaeth fy hun; ie yn erbyn cynnwrf dy Yspryd sanctaidd, yr hwn oedd ynfyn∣galw i oddiwrthynt, fel y darsu i mi anafu fyn∣ghydwybod, a digio dy Yfpryd glân, trwy 'r hwn i'm seliwyd hyd ddydd prynedigaeth. Ty di a gyssegraist fy enaid a'm Corph i fod yn demlau i'r Yspryd glân: My fi bechadur gwael, a halogais y ddau á phob mâth ar aflendid, a budreddi. Fy llygaid wrth gymmeryd difyrrwch i graffu ar oferedd, fynghlustiau yn gwrando ammur ac anwair yma∣droddion, fy nhafod yn cablu ac yn dywedyd celwydd, fy nwylaw mor llawn o amhuredd, fel y mae 'n gywilydd gennif eu codi attat: am

Page 167

traed yn fy nŵyn yn ôl fy llwybrau fy hun: fy rhe∣swm am deall, y rhai sydd mor fywiol mewn masnach fydol, ydynt ddall, ac aneallgar, pan ddelwyf i ddadleu, neu i fyfyrio am nefol ac ysprdol bethau: fynghôf, yr hwn a ddylei fod yn dryssordŷ pob daioni, nid yw mor gymhesur a pharod i gofio dim, ac yw i gofio gwagedd ac ynfydrwydd. Ie Argl∣wydd trwy wybodaeth alarus yr wyf yn canfod, mai naturiol gan oll fwriad meddylfryd fynghalon fod yn ddrygionus bob amser. fymhechodau ydynt amlach na gwallt fy mhen, ac hwy a dyfasant trosof megis gwahanglwyf ffieiddiol, fel nad oes o wadn y troed hyd y pen, un man na rhan heb fod yn glwyfedig oddiwrthynt. Y maent hwy yn peri i mi ymddan∣gos yn wael yn fyngolwg fy hun: pa faint mwy ffi∣aidd ydwyf gan hynny yn dy ŵydd di? Ac ymar∣fer o bechod gan mwyaf a dynnodd ymmaith dei∣mlad cydwybod am bechu, ac a luscodd ar fy uchaf y fath syndra o synwyr, a chaledwch calon, fel nad yw dy farnedigaethau pan adrodder gan ffydd∣lon bregethwyr dy air yn erbyn fy mhechodau, yn fy nychrynu i ddychwelyd attat ti, trwy edifeir∣wch difrifol. A phe bai ti Arglwydd yn fyngwo∣brwyo, yn ol dy gyfiawnder di, am haeddigaeth in∣nau, mi gawn wradwydd a damnedigaeth yn dra∣gywydd. Eithr gan weled, mai o'th trugaredd an∣feidrol ei gwaredaist fi hyd yn hyn, ac wyt beunydd yn gwilio am fy edifeirwch: yr wyf yn ostyngedig yn deisyf arnat, er mwyn y dirfawr Angau, ar Dio∣ddefaint gwaedlyd a ddiod defodd Jesu Grist drosof, faddeu a phardynu i mi fy holl bechodau am hanwi∣reddau, ac agoryd imi ffynnon re∣degog gwaed Crist, fel yr addewaist ei hagori tan y testament Newydd i'r edifeiriol o dŷ Dafydd: mal y byddo

Page 168

fy holl bechodau am haflendid wedi eu trochi yn ei waed, eu claddu yn ei farwolaeth, a'i cuddio yn ei friwiau, fel na ddelont byth i gael eu gweled mwy∣ach, i'm cywilyddio yn y bŷd hwn, nac i'm heuog∣farnu ger bron dy orfeddfaingc yn y bŷd sydd i ddy∣fod. Ac yn gymmaint o Arglwydd ac y gwyddost, nad oes ym meddiant dŷn droi ei galon, oni bydd i ti yn gyntaf roddi iddo râs i ymchwelyd: a chan we∣led fod cyn hawsed i ti fyngweuthur yn gyfion, ac yn sanctaidd, ac erchi i mi fod felly: O fy Nuw, dy∣ro i mi râs i wneuthur â orchymynnaist, ac yno gor∣chymmyn a fynnych di, ac ti am cei yn barod i wneu∣thur dy orchymmyn sanctaidd. Ac er mwyn hyn dyro i mi dy Yspryd glân, yr hyn a addewaist ei roi (hyd ddiwedd y byd) i'th holl etholedigion bobl. A gád i'th vnrhyw Yspryd glân bureiddio fynghalon, iachau fy llygredigaeth, sancteiddio fy anian, a chy∣ssegru fy enaid am corph, megis y byddont yn demlau yr Yspryd glân, ith wasanaethu di mewn sancteiddr∣wydd a chyfiawnder holl ddyddiau fy mywyd: fel pan orphennwyf (trwy gynnorthwy dy Yspryd sancta∣idd di) fyngyrsa yn y bywyd darfodedig hwn; y gallwyf yn llawen adael y byd yma, a gorchym∣myn fy enaid i'th ddwylaw Tadol, mewn diogel o∣baith o fwynhau y bywyd tragwyddo gyd â thi yn dy deyrnas nefol, yr hon a ddarperaist i'th Seintiau e∣tholedig, y rhai a garant yr Arglwydd Jesu, ac a ddisgwyliant am ei ddyfodiad.

Yn y cyfamser (o nefol Dâd) yr wyf yn attol∣wg, i'th lan Yspryd weithredu ynof y cyfryw edifei∣iwch difrifol, fel y byddwyf trwy wylofain yn ga∣laru am fy mhechodau a aethant heibio, trwy ofid calon yn ostynge∣dig am fy mhechodau presennol, ac am holl egni yn gwrthwynebu y cyfryw bechodau budron o

Page 169

hyn allan. A gâd i'th vnrhyw Yspryd glân fynghadw hefyd yn vndeb yr Eglwys, fy nhywys yngwirionedd dy air, am ymddeffyn, nad ysgogwyf byth oddiwrtho i Babeidd-dra, nac i neb ryw amryfusedd arall, na gau addoliad. Agored dy yspryd fy llygaid ledlêd, i weled pethau rhyfedd allan o'th gyfraith di. Ac agor fyngwefusau, fel y byddo fyngenau beunydd yn ymddiffyn dy wirio∣nedd, ac yn gosod allan dy foliant. Chwanega yn∣of yr holl ddonniau daionus, y rhai o'th trugaredd a ganniadhauaist i mi yn barod; a dyro i mi yspryd dioddefgar, a chalon ddiwair, meddwl bodlonol, serch pur, ymddygiad gweddol, a'r holl radau e∣raill, a wyddost ti fod yn angenrhaid i mi, i lywo∣draethu fynghalon yn dy ofn, ac i vnioni fy mywyd yn dy ffafr: fel pa vn bynnag, a'i byw a'i marw a wnelwyf, y gallwyf fyw a marw i ti, yr hwn wyt fy Nuw am gwaredydd. Ac yma o Argl∣wydd, yn ôl fy rhymedig ddlêd, y rhoddaf i't ddi∣olch tramawr oddiar Allor calon ostyngedig, am dy holl ddonniau, a'th fendithion, y rhai yn rasusol ac yn helaeth a dywêlltaist ar fy enaid am corph, tu ac at y bywyd hwn, a'r bywyd sydd i ddyfod: yn bendifaddeu am fy etholedigaeth, creadigaeth, pry∣nydigaeth, cyfiawnhâd, sancteiddiad, am hymddiffy∣nniad o'm hieuengtyd hyd y dydd ar awr bresennol yma: ac am y diogel obaith a roddaist i mi o'm gogoneddiad. Hefyd am fy iechyd, fynghyfoeth, fy ymborth, fyngwiscoedd, am dedwyddfyd, ac yn enwedig, am ddarfod i ti fy ymddiffyn y dydd hwn aeth heibio rhag pôb peryglon a niweidiau, yn fyngorph, am henaid, gan fynghy∣nyscaeddu i ar holl bethau ydoedd angenrheidiol i mi. Ac fel yr ordei∣niaist y dydd i ddŷn i lafurio ynddo,

Page 170

a'r nôs i gymmeryd ei esmwythdra: Felly yr wyf yn attolwg i't sancteiddio i mi gŵsc ac esmwythder y nos hon, fel y mwynhawyf hynny megis cyssur rha∣dlawn o'th fendith di. Mal pan ddarfyddo im corph swrth gael ei lonni a'i ddiflino â chymedroldeb o gŵsc a llonyddwch, y gallwyf a mwy nerth rodio gyd â thi, gan wneuthur y cyfryw weithredoedd da a orchymynnaist, pan ryngo bodd i'th ddwywawl allu fy neffroi y borau nessaf. A thra bwyf yn cys∣cu, Bydd di Ceidwad Israel yr hwn ni huna, ac ni chwsc, o'th ragluniaeth sanctaidd i'm hymddiffyn rhag pob peryglon, fel na allo Satan na'i angelion drwg, nac vn gelyn arall wneuthur i mi ddim drwg, neu niweid. Ac i'r perwyl yma, gorchymmyn i'th Angelion Sanctaidd Gastellu o'm hamgylch, i'm cadw a'm gwaredu: fel yr addewaist y caent wneu∣thur o amgylch y rhai a ofnant dy enw. A chan wybod fod dy enw yn dŵr cadarn, diogel i'r rhai a redant atto; yr wyf yma yn fyngorch∣ymmyn fy hun (a chwbl a berthyn i mi) ith san∣ctaidd gadwraeth a'th ymddiffynniad. Os dy ewyllys bendigedig fydd alw am danaf om cŵsc: O Argl∣wydd, er mwyn Jesu Grist cymmer drugaredd ar∣naf, a derbyn fy enaid i'th deyrnas nefol. Ac o rhynga bodd it chwanegu dyddiau at fy mywyd, o Arglwydd, chwanega wellhâd at fy nyddiau; a di∣ddyfna fy meddwl oddiwrth serch i'r bŷd, ac i ofe∣redd bydol, a phâr i mi gymmwyso fy ymarweddi∣ad at y nef, a phethau nefol. A pherffeithia ynof beunydd y gorchwyl da a ddechreuaist, i ogoniant dy enw, ac i iechydwriaeth fy enaid pechadurus. O Arglwydd yr wyf yn erfyn arnat am ymddiffyn, a chadw rhag pob neweid drwg, neu berigl, dy holl Eglwys, mawrhy∣di y Brenin, a'r Frenhines, a'r Ty∣wysog,

Page 171

Cadw hwynt ym mhurdeb dy wirionedd, a llwydda hwynt â phob grâs, a dedwyddwch. Ben∣dithia yr holl Bennaethiaid, Gweinidogion, a Swy∣ddogion o'r Eglwysi ar Teyrnasau hyn, Bawb o ho∣nynt â rhadau angenrhaid iw lleoedd, a'i galwediga∣ethau. A bydd di o Arglwydd, yn ddiddanwch ae yn gyssur i'th holl bobl, y rhai a welaist ti yn dda eu gofwyo ag vn mâth ar glefyd, gwrthwyneb, neu gystudd. Pryssura, o Dâd, ddyfodiad ein Hargl∣wydd ni Jesu Grist. Gwna i mi fod ollawl yn feddyl∣gar am fy niwedd, ac am y cyfrif sydd raid i mi ei wneuthur i ti y pryd hynny: ac yn y cyfamser i gan∣lyn Crist yn yr adenedigaeth: mal y caffwyf gyd â Christ gyfran yn adcyfodiad y rhai cyfiawn, gwedi dibenno y bywyd marwol hwn. Y doniau hyn, a'r holl fendithiau eraill a wyddost ti (O Dâd) fod yn ddiffygiol ynof, ac yn angenrheidiol i mi, yr wyf yn ostyngedig yn ymbil, ac yn deisyfu eu cael ar dy ddwylaw, yn enw a chyfryngdod Jesu Grist, dy Fâb, yn y ffurf ar weddi a ddyscodd ef ei hunan i mi iw ddywedyd wrthit.

Ein Tàd yr hwn wyt. &c.

Prydnawnol weddi arall sydd ferrach.

O Dragwyddol Dduw a nefol Dâd, oni bai fy a∣ddyscu am sicrhau trwy addewidion dy Efen∣gyl, ac esamplau Petr, Magdelen, y Pwblican, y Mâb afradlon, a llawer eraill o bechaduriad edifei∣riol, dy fod ti yn llawn o ddrugarogrwydd, ac yn barod i faddeu i'r pechaduriad trymmaf eu beichiau o bechod, pa bryd bynnac y dychwelant attat ti â chalonnau edifeiriol, gan ymofidio

Page 172

am eu pechodau, a deisyfu da râs: mi fyddwn gwedi anobeithio o rhan fy mhechodau heb ronyn cyssur ynof i ryfygu dyfod o'th flaen di: wrth ystyried ca∣lodwch fynghalon, afreoledigaeth fy serch, aflendid fy ymarweddiad, trwy y rhai y troseddais dy holl gyfreithiau, ac yr haeddais dy felldith, yr hyn à allai beri i'm corph gael ei gystuddio â rhyw haint echryf∣lon, am henaid ei nychu gan farwolaeth pechod, am enw da gael ei soddi gan warth gwradwyddus, a gwneuthur fy meddiannau yn agored i bôb mâth ar wrthwynebion a damweiniau. Yr wyf yn cyfaddef O Arglwydd, Mai dy drugaredd di yw 'r achos na ddarfu am danaf. Eithr o fy Nuw, megis y darfu i'th trugaredd yn vnig attal dy farnedigaeth rhag descyn arnaf hyd yn hyn; felly yr wyf yn ostynge∣dig yn attolwyn i ti, yn ymyscaroedd trugareddau Jesu Grist, yn yr hwn yn vnig i'th fodlonir, na thâl i mi yn ôl fy haeddedigaeth, eithr maddau yn rhwydd ac yn rhâd i mi, fy holl bechodau, a'm hanwireddau: a golch fi yn lân oddiwrthynt â rhinwedd y gwerth∣fawroccaf waed, yr hwn a gollodd Jesu Grist trosof. Canys efe yw 'r vnig physygwr, a'i waed ef yw 'r v∣nig feddiginiaeth a ddichon iachau fy nolur. Ac efe yw 'r wir Sarph brês a all fyngwneuthur yn iach oddiwrth y gwenwyn, a'r hwn y darfu i sarph danllyd fy mhechôdau frathu a gwenwyno fy mriwedig am clwyfedig enaid. Dyro i mi (yr wyf yn attolygu it) dy Yspryd glân, i'm sicrhau o'm mabwysiad, ac i gryfhau fy ffydd, i chwanegu fy edifeirwch, i oleuo fy neall, i buro fynghalon, i vnioni fy ewyllys a'm deisyfiadau, i'm sancteiddio trwof, fel y cadwer gwbl oll om hyspryd, fy enaid am corph, yn ddiarg yoedd yn nyfodiad ein Arglwydd Jesu

Page 173

Grist. Ac yr awr'hon O Arglwydd yr wyf yn rhoddi i't ddiolch a moliant ewyllyscar, a'm ddarfod i ti fyngwarcdu y dydd hwn, oddiwrth bob peryg∣lon a niweidiau, er dryced i'r haeddwn, ac er maint fy anwiredd. Yr wyf yn attolwg i ti hefyd fynghadw y nôs hon, rhag y llew rhûadwy, yr hwn ddydd a nôs sy 'n rhodio oddi amgylch gan geisio fy llyngcu. Gwi∣lia di O Arglwydd trosof y nôs hon; i'm gwared rhág ei greulondeb a'i brofedigaethau: a gad i'th trugaredd fod yn achles a tharian i mi, rhag ei an∣gymmodol lid a'i aruthrol ddigofaint. Ac er mwyn hyn, yr wyf yn fyngorchymmyn fy hun i'th ddwy∣law a'th gadwedigaeth di, gan attolygu i ti o fy Arg∣lwydd a'm Duw, na chynhwy sech i Satan, nac i'r vn o'i aelodau dissaith allu gwneuthur i mi ddim dir∣dra neu niweid drŵg y nos heno. A chaniadha o Arglwydd daionus, yn cyscu ac yn effro, yn byw, ac yn marw, i mi gyscu, a deffro, byw, a marw i ti, ac i ogoniant dy enw, ac i iechydwriaeth fy enaid. Arglwydd bendithia a chadw dy etholedigion bobl ym mhob lle. Canniadhâ i'n Brenin hir a dedwy∣ddol lywodraeth arnom, bendithia y frenhines, y Tywysog, a'n holl Swyddogion, a Gweinidogion dy Air. Cyssura bawb a'r y sydd mewn trueni, angen, neu glefyd: o Arglwydd daionus dyro i mi râs i fod yn vn o'r morwynion call, fel y paratôwyf fynghalon megis lamp yn llawn o olow ffydd, a discleirdeb gwe∣ithredoedd da, i gyfarfod yr Arglwydd Jesu, hyfryd briodf ab fy enaid, ar ei ail ddyfodiad disymmwth yn ei ogoniant. Canniadha hyn o Dâd nefol, er mwyn Crist Jesu, fy vnig Iachawdwr am Cyfryngwr, yn yr hwn Enw ben∣digedig, ac yn ei hynod eriau ei hu∣nan y galwaf arnat fel i'm dyscodd:

Ein tâd yr hwn wyt yn y nefoedd &c.

Page 174

Yn ôl hynny dywaid.

DY râd O Ar glwydd Jesu Grist, dy serch o ne∣fol Dâd, dy gymdeithas a'th diddanwch, o fen∣digedig a sancteiddlan Yspryd, a fo gyd â myfi ac a gyfanneddo yn fynghalon, y nos hon, ac yn dragy∣wydd. Amen.

Yno dán ymgyfodi gydâ pharch sancteiddiol, my∣fyria wrth dynnu dy ddillad oddi am danat.

Pethau i fyfyrio arnynt pan fyddych yn diosc oddi am danat.

1. FOd y dydd yn dyfod, pryd i'th ddinoether mor noeth oddiwrth y cwbl a feddi di yn y byd, ac wyt ti yr awrhon oddiwrth dy ddillad: Nid oes gennit ti gan hynny yma ond benthyg yr holl bethau dros amser, megis gorchwyliwr, a hynny i roddi cyfrif. Luc. 16.2. Am hynny tra yr ymddi∣rieder i ti am yr orchwyliaeth hon bydd gall a ffydd∣lon.

Nudus in hunc nundum veni, quoque nudus abibo.

sef:

J'r byd dros ennyd draws aniau daethym I dithio 'n noeth aflan, Hefyd o fyd yn y fan Felly yr af fi allan.

2. Pan ganfyddych dy wely, pared hynny i ti feddwl am dy fêdd; Job 17.13. yr hwn sydd yr

Page 175

awrhon yn wely Crist. Canys Crist (gan roddi ei gorph sanctaidd dridiau a theirnos i orwedd yn y bedd) ai sancteiddiodd, ac (megis) a'i twymnodd ef i gyrph ei Saint, i orphywys, a huno ynddo, hyd foreuddydd yr Adcyfodiad: felly yr awrhon nid yw marwolaeth i'r ffyddlonniaid, ond hûn esm∣wyth, a'r bedd ond gwely Crist, lle y mae eu cyrph yn gorphywys ac yn cyscu mewn tangneddyf: hyd oni lewyrcho hyfryd foreuddydd yr Adcyfodiad iddynt, Esay. 20.26.

Cofia wrth weled dy wely.

Ut somnus mortis, sic lectus imago sepulchri.

sef:

Bydded cŵsc sydd gyssur maeth Yu ail marwolaeth cennyd: A'r gwely gwêl yn ail i'r bedd Lle rhaid i't orwedd hefyd.

Bydded gan hynny dillad dy wely yn arwyddoc∣cau i ti bridd y ddaiar, yr hwn a'th oruwchguddia: a'th cynfasau dy amdo: dy gwsc dy farwolaeth: dy ddeffroad dy adgyfodiad. A phan orweddych yn dy wely a deall o honot fod cyscu yn nesâu: Dywaid, mewn heddwch y gorweddaf ac i'r hunaf, canys ti Arglwydd yn unig am cyfleaist mewn diogelwch. Psal. 4.8. Fal hyn gan agoryd dy galon bob borau yn grefyddol, a'i chau drachefn bob nos â gair Duw ac â gweddi, megis â chlô ag agoriad: Ac felly gan ddechrau y dydd ag addoliant Duw, a myned rha∣got yn ei ofn, a'i ddiweddu yn ei ffafr, di a fyddi sicr o gael bendith Dduw ar dy holl orchwylion, a'th am∣cannion y dydd hwnnw: a'r noson, ti a elli dy sicrhau dy hûn, y cei gyscu yn ddiogel, ac yn hy∣fryd ym mreichiau rhagluniaeth dy Dâd nefol.

Hyd yn hyn am y Duwioldob, yr hwn a ddylai

Page 176

bob Cristion ei arferu beunydd yn neulltuol. Yma y canlyn yr hyn sydd raid i Berchen tyaeth ei ymarfer gyd a'i deulu.

Myfyrdodau am dduwioldeb teuluaidd.

OS galwyd ti i gadw tŷ a thylwyth, na thybia fod yn ddigon abl i ti dy hun weddio a gwa∣sanaethu Duw yn union, eithr rhaid i ti beri i bawb a fyddo tan dy lywodraeth wneuthur yr unrhyw gyd â thi. Am gyflawni hyn o ddlêd, yr oedd Duw yn ymfodloni cystal yn Abraham, na chelai ef yr hyn a wnai rhagddo: Canys (medd Duw) mi a'i hadwaen ef, y gorchymmyn ef iw blant, ac iw dyl∣wyth ar ei ôl, gadw o honynt ffordd yr Arglwydd, gan wneuthur cyfiawnder a barn, fel y dygo'r Ar∣glwydd ar Abraham, yr hyn a lefarodd efe am da∣naw, Gen, 18.17.19. Ac yr oedd gan Abraham ddeunaw a thrychant o hyfforddus weision, a anesid yn ei dŷ ef; trwy nerth y rhai yr achubodd ef Lot ei nai o ddwylaw ei elynion, Gen. 14, 14. Ac y mae Josuah dduwiolwych yn tystiolaethu ger bron yr holl bobl, er syrthio o honynt oll oddiwrth wir a∣ddoli Duw, etto efe a'i dylwyth a wasanaethent yr Arglwydd, Josh. 24.15. Ac y mae Duw ei hun yn gorchymyn yn neillduol bob perchen tyaeth i ath∣rawiaethu eu teulu yn ei Air, a'i dwyn i fynu yn ei ofn a'i wasaneth. Bydded y geiriau hyn yr ydwyf yn eu gorchymyn i ti heddyw, yn dy galon. Ac hy∣spyssa hwynt i'th plant, a chrybwyll am danynt pan eisteddych yn dy dŷ, a phan gerddych ar y ffordd, a phan orweddych i lawr, a phan gyfodych i fynu, &c. Ofna yr Arglwydd dy Dduw a gwasanaetha ef, Deu. 6.7. Yr oedd Dafydd gwedi trefnu ei dŷ yn ôl y gyfraith ho, fel na chai ddyn twyllodrus drigo yn ei

Page 177

dŷ, eithr y cyfryw a wasanaethai Dduw, ac a rodiaei mewn ffordd berffaith. Psal. 101.6, 7. Yr oedd Hesther dduwiol yn dyscu ei llancesau i wasanaethu Duw mewn gweddi ac ympryd. Hest. 4.16. Ac er mwyn hyfforddi dy deulu mewn zêl wesog i grefydd vnion, hoffa yn fwyaf y rhai a welych yn ymroi yn orau i wir dduwioldeb. Hynny a fydd buddiol i ti o herwydd dwy achos. Yn gyntaf, fe a fendithia Duw yn hytrach, ac a lwyddianna lafur, a gorchwyl dwylaw y cyfryw weision duwiol. Canys yr oedd Laban yn gweled fod Duw yn ei fendithio oblegid Ja∣cob: Gen. 30.27. Ac yr oedd Potiphar yn deall, Fod yr Arglwydd gyd à Joseph yn llwyddo cwbl oll oedd tan ei law ef: ie pan daflwyd Joseph yn wirion i'r carchar, yr oedd pennaeth y carchar dŷ yn gweled pa beth bynnac a wnai ef, ei fod yn llwyddo: Ac am hynny y rhoddes pennaeth y carcha dŷ yr holl garcharorion tan law Joseph. Gen. 39.3.22.23. Yn ail, pa vnionaf y gwasanaetho dŷn Dduw, ffy∣ddlonaf fydd ei wasanaeth i tithau.

2. Pe bai bob perchen teulu fel hyn yn ofalus yn ôl ei rwymedig ddlêd, i ddwyn i fynu ei blant a'i dylwyth yn ofn Duw, a'i wasanaeth, yn ei dŷ ei hun, yno y llenwid Tŷ Dduw yn well, ac i'r ym∣welid â Bwrdd yr Arglwydd yn fynychach ar y dydd Sabboth; a llafur a phregethiad y Bigeiliaid a ddy∣gai ffrwyth yn well nac y mae. Ni byddai strydo∣dd y trefi, a'r dinasoedd cyn llawned o rai medd∣won, anudonwyr, puteinwyr, ac halogedig watwor∣wyr gwir dduwioldeb, a chrefydd sanctaidd; ni by∣ddai lŷs westminster mor llawn o ymrysonau gwrth∣wynebus, holion ceccrus, ac ymddadlau anghristia∣nogawl; ac ni byddai 'r carchardai bob Sessiwn mor llawn o ladron, spelwyr ffyrdd fawr, bradwyr, a llofruddion.

Eithr y sywaeth ni wna y rhan fwyaf o berchen tai

Page 178

amgenach defnydd o'i gweision, nac o'i hanifeiliaid; am y caffont hwy eu cyrph i wneuthur eu gwasana∣eth, ni waeth ganddynt er i'w heneidiau wasanaethu 'r cythraul. Etto yr achwyn cyffredinol yw, fod gweision da a ffyddion yn anhawdd, ac yn anaml iw cael. Gwir; eithr yr achos o hynny yw, fod cyn amied auwiol ac halogedig Feistred: Canys esam∣pl ac athrawiaeth meistr duwiol a bucheddol a wna was da a ffyddlon, fel y tystiolaetha esamplau o Abraham, Josuah, Dafydd, Cornelius, &c. Y rhai oedd ganddynt weision da o herwydd eu bod yn fei∣stred duwiol, a chyfryw rai ac oeddynt ofalus i wneuthur eu gweision yn weision i Dduw.

Prif lasur a gofal llawer ydyw, codi ac arddercha∣fu eu tai; ac etto codont yn forau, ac elont yn hw yr i gyscu, a bwytâont far a gof alwch; fe a'r cwbl yn ofer, canys os yr Arglwydd nid adeilada y tŷ, (hynny yw, codi teulu) ofer y llafuriant wrtho. Psal. 127.1.2. Canys Duw a seliodd hyn yn gyfraeth di∣gyfaewidiol, y tywallt ei lid ar y teuluoedd ni alwa∣sant ar ei enw ef: ie Duw a dynn y drygionus allan o'i babell, ac a'i diwreiddia o dir y rhai byw. Jer. 10.25. Psal, 52.5. Ie pan gyflawner eu hanwi∣redd, y gwna ef i r wlàd chwdu allan ei holl Canaan∣itiaid. Levit. 18.25. Am hynny gwir grefydd, a gwasanaethu Duw ymhlith teulu, ydyw 'r adeilad orau, a'r scrifenadau diogelaf i sicrhau tŷ a thir ar ddyn, a'i etifeddion. Canys y cyfiawn a etifedda y ddaiar ac a bresswylia ynddi yn dragywydd. Psa. 37.29.

Os dymuni gan hynny gael bendith Dduw arnat dy hun, a'th teulu; naill a'i cynt a'i gwedi dy ne∣illdnoi weddi dy hun, galw ynghyd bob borau i ryw stafell gyleus dy holl deulu; ac yn gyntaf, naill a'i cynt a'i gwedi dy neillduol weddi dy hun, galw ynghyd bob borau i ryw stafell gyfleus dy holl deu∣lu;

Page 179

ac yn gyntaf, naill a'i darllain dy hunan iddynt bennod yngair Duw, neu bair i vn arall a fedro ddarilain yn llawnllythyr; O chei ennyd di elli dde∣ongli iddynt brif adnodau daionus; ac yno gan fy∣ned i lawr ar dy ddeulin gyd â hwynt, mewn modd parchedig fel y dywetpwyd or blaen, cyd-weddiwch yn y modd hyn.

Boreuol weddi tros y teulu.

O Arglwydd ein Duw a'n Tâd nefol, yr hwn wyt unig creawdwr, a llywiawdwr nef a dai∣ar, a phob peth sydd o'i mewn, yr ydym ni yn cy∣faddef ein bod yn anheilwng i ymddangos ger dy fron di, gan ystyried yr aml bechodau a wnaethom yn erbyn y nefoedd, ac o'th flaen di; ac fel i'n ganwyd mewn pechod, ac yr ydym beunydd yn tor∣ri dy gyfreithiau, a'th orchymynnion sanctaidd, yngwrthwyneb i'n gwybodaeth, a'n cydwybod; er i ni wybod mai ty di yw'r creawdwr yr hwn a'n prynaist â gwaed dy unig anedig fab; a'n didda∣nudd, yr hwn wyt yn rhoddi i ni yr holl ddaioni a'r rhâdau sanctaidd a feddiannom yn ein heneidi∣au, a'n cyrph. A pha gwneit ti a nyni mal y mae ein hanwiredd a'n haniolchgarwch yn haeddu; pa beth arall o Arglwydd, a allwn ni ei ddisgwil oddiwrth∣it, ond cywilydd, a gwarth yn y bŷd hwn, ac yn y bŷd a ddaw digofaint a damnedigaeth dragwy∣ddol? Etto o Arglwydd, yn ufydddod dy orchy∣myn, ac yn y diogel hyder sydd genym yn anrhae∣thol ac anherfynol drugaredd dy Fab Jesu Grist, ein Jachawdwr: Nyni dy weision truain, gan chwen∣nych codi oddiwrth orsedfaingc dy gyfiawnder, (lle yr ydym yn gyfiawn gwedi ein euogfarnu) a dyfod ger bron gorseddfaingc dy râd, lle y mae trugaredd

Page 180

yn llywodraethu i faddau pechod aml: ydym ô ei∣gion ein calonnau yn ostyngedig yn attolwg i ti oll∣wng heibio, a maddeu i ni ein holl feiau a'n han∣wireddau; fel trwy rinwedd gwerthfawroccaf waed Jesu Grist, dy oen gwirion, yr hwn a dywalltodd ef yn dra helaeth er mwyn tynnu ymmaith bechodau y byd: y gallo ein holl bechôdau yn gystal gwrei∣ddiol, a gwneuthurol, gael felly eu glanhau a'i golchi ymmaith, fel na byddont byth yn fauch ar∣nom, ac na chyfodont yn y farn i'n herbyn. Ac nyni attolygwn i ti O Dád daionus, er mwyn dir∣fawr Angau a dioddefaint Crist, Na chynnwys i'r felldith ofnadwy, ar dial echrys, yr hyn y mae dy gyfraith yn ei fygwth, a'n pechodau ninnau yn ei gyfion haeddu, syrthio arnom. Ac yn gymmaint O Arglwydd, ac i'n dyscir gan dy air di, na chaîff delw-addolwyr, godinebwyr, cybyddion, ymrysonwyr, meddwyr, glothinchwyr, a'r cyfryw fucheddwyr afre∣olus etifeddu teyrnas nefoedd: Tywallt rád dy sanctaidd Yspryd ynom, fel y goleuo ein calonnau i ddirnad aflendid ein pechodau iw ffieiddio hwynt: ac i'n cynhyrfer fwyfwy i fyw mewn newydd-deb buchedd, a chariad i'th Fawrhydi; fel y chwane∣go ynom beunydd, ufydd-dod i'th air a gofal cydwy∣bodus, a'm gadw dy orchymynnion. Ac yr awr∣hon O Arglwydd ni roddwn it dramawr ddi∣olch o ddyfnder calonnau, a'm ddarfod i ti ein bethol, ein creu, ein gwaredu, ein galw, ein cyfi∣awnhau, a'n sancteiddio mewn rhyw fesur yn y by∣wyd hwn, ac am roddi i ni ddiogel obaith o ogoni∣ant yn dy deyrnas nefol pan ddiweddo 'r bywyd mar∣wol hwn. Yr ydym yn diolch it hefyd am ein by∣wyd, ein hiechyd, ein golud, ein rhydd-did, ein ilwyddiant a'n heddwch; yn enwedig o Arglwydd am barhaus gymmorth dy Efengyl sanctaidd i'n plith, am ein harbed hyd yn hyn, a channiadhau i

Page 181

ni y cyfryw amser grasusol i edifarhau. Ni a'th folianwn un agwedd, am yr holl drugareddau eraill a dywelltaist arnom, yn bendifaddeu am ein cadw a'n gwared y nos hon a aeth heibio, oddiwrth bob niweid a allai ddigwyddo i'n Cyrph a'n heneidiau. A chan i ti ein dwyn yn ddiogel hyd dechrau y dydd heddyw, ni attolygwn i ti ein hymddiffyn a'n hyffor∣ddi ni ynddo. Bendithia a chadw ni yn ein mynedi∣ad allan, a'n dyfodiad i mewn y dydd heddyw, ac yn dragywydd. Cysgoda nyni o Arglwydd, rhag holl brofedigaethau y fall, a channiadha i ni, fod dy Angelion sanctaidd i'n cadw, a'n gwaredu yn ein holl lwybrau.

Ac er mwyn hyn, yr ydym ni yn ein gorchym∣myn ein hunain, a chwbl oll a berthynant inni, ac sydd oddiwrthym, i'th ddwylaw di a'th gadwediga∣eth galluoccas. Arglwydd cadw hwynt rhag pob drwg, llwydda hwynt â phob rhadau, a llanw hwynt a'th ddaioni. Ymddiffyn nyni hefyd y dydd hwn, rhag cwympo i fewn un gorthrwm bechod: yn enwedig i'r rhai y mae ein naturiaeth ni yn hyli∣thr i dueddu attynt. Gosod wiliadwriaeth o flaen drws ein gwefusau, fal na ddigiom moth Fawrhy∣di ag un máth ar ffeilsion neu amhwyllog lyfau, neu á rhyw fâth ar ymadrodd diffaith neu gelŵyddog: Dyro i ni feddyliau dioddefgar, pur a diwair galon∣nau, a holl radau eraill dy lân Yspryd, a wyddost ti eu bod yn anghenrhaid i ni, fel y gallom dy wa∣sanaethu di, mewn sancteiddrwydd a chyfiawndor. A chan weled fod yn ofer holl lafur dŷn, heb dy fendith di: Bendithia bob un o honom yn ein lle∣oedd a'n galwedigaethau neilltuol, Ʋniona di wei∣thredoedd ein dwylaw arnom ni, ie llwydda ein g••••∣chwylion; Canys oddieithr i ti ein harwain ath ad▪ ni eill ein hamcannion ddibennu 'n dda. A darpar ni O Dâd, yr holl bethau a wyddost ti fod arnm

Page 182

eu heisiau, i'n heneidiau, a'n cyrph y dydd he∣ddyw. A channiadha i ni fedru myned trwy be∣rerindod y bywyd byrr hwn, fel gan fod heb osod ein calonnau ar ddim darfodedig, a gyfarfyddom yn y ffordd: y gallo ein heneidiau hiraethu am ein car∣tref yn dy deyrnas dragwyddol.

Ymddiffyn (hefyd O Arglwydd) holl stât yr egl∣wys, a phob aelod neilltuol o honi: yn enwedig ni a attolygwn i ti barhau tangneddyf a llwyddiant yr Eglwysi o'r teyrnasau hyn lle yr ydym yn byw. Cadw a gwared rhag pob drygau a pheryglon, ein grasusol Frenin Charles, y Frenhines, y Tywysog, a'r tywysogawl heppil. Amlhá eu dyddiau mewn hyfrydwch a hawddfyd: ac yn y diwedd corona hw∣ynt, â gorfoledd a gogoniant yn dragywydd. Bendi∣thia holl weinidogion dy air, a Swyddogion, a'r holl radau angenrheidiol i'w llêodd, a llywodraetha di hwynt fel y llywodraethont hwythau arnom ni, mewn heddwch a duwioldeb. Ac o'th trugaredd Argl∣wydd, cynnorthw ya bawb o'n brodyr sydd yn gystu∣ddiol, yn glwyfus, neu yn rhyw fodd arall yn ddi∣gynnorthwy, yn enwedig y rhai a boenir, naill, a'i â chydwybod ddrwg, o blegit iddynt bechu yn er∣byn dy Air, neu am eu cydwybod dda, O her∣wydd na phechant yn erbyn dy wirionedd. Pâr i'r rhai cyntaf wybod, nad oedd un defnyn o waed Crist, yn ddefnyn o ddialedd, eithr oll yn ddefnyn∣nau o ràd grymmiol i beri maddeuant pechodau, ir troseddwyr mwyaf yn yr hollfyd. Ac am y heill O Arglwydd, na âd i'th hir ddioddefgarwch, nai rhoi hwynt allan o gyssur yn rhybell, na llawe∣nychu gormod ar eu gelynnion; eithr canniadha iddynt ammynedd i oddef, a grasusol a buan ymwa∣red, y ffoidd y byddych yn ei gweled yn orau i'w gynnorthwy hwynt, ac i'th ogoniant dithau.

Page 183

Dôd râs i bob vn o honom i fod bob amser yn gofgar am ei ddiben diweddaf, ac i fod wedi ymba∣ratoi â ffydd ac a'g edifeirwch, megis â gwisc brio∣das, erbyn yr amser y gelwych arnom allan o'r bŷd pechadurus hwn. Ac yn y cyfamser y gallom ni ym mhôb peth, ac o flaen pôb peth, geisio dy ogoni∣ant, fel pan ddarfyddo y bywyd marwol hwn, y byddom gyfrannogion o anfarwoldeb yn dy fendige∣dig, a'th tra-ogoneddus deyrnas.

Y doniau hyn, a chwbl eraill O nefol Dd, a wyddost eu bod yn anghenraid i ni, ac i'th holl Egl∣wys, yr ydym ni yn ostyngedig yn eu deisyfu a'i herfyn ar dy ddwylaw, gan derfynu ein amherffaith weddi, yn yr odiaethol fôdd ar weddi yr hon a ddy∣scodd Crist ei hunan i ni, gan ddywedyd:

Eid Tàd yr hwn wyt yn y nefoedd, &c.

Ar ol gweddio aed pob vn o'r teulu ymmaith, gwe∣di iddynt yn ofn Duw gymmeryd bwyd, a'r breuol ymborth a drefnodd Duw iddynt: y plant i'r ys••••l, y gweision at eu gwaith, pob vn at ei swydd, A Me∣istr a Meistres y teulu at eu galwedigaethau, neu at ryw ymarfer gonest iw difyrru, fel y gwelont yn gymhesur.

Yr ymarfer o dduwildeb ar brydiau, a threfn yr ymborth.

CYn ciniaw a Swpper, pan fyddo 'r Bwrdd gwe∣di ei hilio, meddyla wrthit dy hunan am y Myfyrdodau hyn; I weithredu ol dyfnch yn dy galon o dadol raglunaeth Duw, a'i ddaioni tu ac attat.

Page 184

Myfyrdod o flaen ciniaw neu Swpper.

MYfyria fod newyn yn debyg i'r clefyd â elwir y Blaidd, yr hwn oni phorthi di ef, fe a'th fw ytŷ di ei gyd: Ac nad yw bwyd a diod ond Physy∣gwriaeth neu foddion a drefnodd Duw i ddiddanu, ac i iachau yr amanol wendid hwn, a'r angenrhaid sydd ar ddyn. Arfer gan hynny o fwyta, ac yfed, o ran cynnal a chyssuro gwendid dy anian; yn hytrach nac i gyflawni dymuniadau a thrachwantau dy gnawd. Bwyta gan hynny i fyw, eithr na fydd fyw i fwyta. Arlloeswr tref yr hwn sydd a'i fywiolaeth i garthu, fydd well na 'r hwn sy'n byw yn vnig i lenwi geudai. Nid oes wasanaeth yn y byd mor wael i ddŷn, a bod yn aill caeth iw fol ei hûn, y mae 'r Apostol Paul, yn eu galw hwynt Bol-dduwiau Phil. 3.19. Am hyn∣ny ni allwn yn hyfeu cyfenwi, fel y mae 'r scry∣thyrau yn galw delwau eraill Gullulim, Tomddu∣wiau. Hab. 2.18.19. 2. Brenhin. 17.12. Ac fel nad oes vn weithred (heb sôn am ordeinhad Duw) yn gwneuthur dŷn yn debyccach i anifail, nac ydyw bwyta ac yfed: Felly camarfer neu ormodedd o fwyta neu yfed, hyd lothineb, meddwi, a chwydu, a wnaiff ddŷn yn waelach neg anifail.

2. Myfyria am ollalluogrwydd y goruchaf Dduw, yr hwn a wnaeth y creaduriaid hyn o ddim: Heb 11.3. Am ei ddoethineb, yr hwn sydd yn porthi aneirif o greaduriaid trwy 'r holl fŷd, gan roddi cynhaliaeth i bob perchen enioes ar a greawdd: Psal. 145.15, 16. Yr hyn sydd yn rhagori ar ddoethincb yr holl Angelion o'r nef: ac am ei rywiogrwydd a'i ddaioni, yn porthi ei wir clynnion. Math. 5.45.

3. Myfyria pa nifer o rywiogaethau ar greaduri∣••••d sef bwystfiloedd, pyscod, ac adar, a golla∣•••••••• eu bywyd, i fod yn llyniaeth i'th porthi di; ac

Page 185

fel y mae rhagddarpariad Duw o fannau anghysbell, yn trefnu i ti y pethau hyn ynghyd ar dy fwrdd i'th ymborth. Ac fel y mae ef a'r creaduriaid meirwon yma, yn dy gynnal di yn fyw mewn ie∣chyd.

4. Myfyria, gen fod i ti gynnifer o wystlon o da∣dol haelioni Duw, o'i ddaioni, a'i drugaredd tu ac attad, ac sydd o seiglau o fwydydd ar dy fwrdd: oh na chynnwys dithau yn y cyfryw le, y cyfryw Dduw grasusol i gael ei amherchi trwy watwor∣gerdd, serthedd, neu dyngu: na'th gydfrawd, trwy absen gwradwyddus anair, neu enllib.

Yr scrifen vwch ben bwrdd St Awstin oedd hon:

Quisquis a mat dictis absentum rodere famam, Hanc mensam vetitam noverit esse sibi.

sef:

Y neb a ddwedo air o'i ben Drwg absen i'w gymydog: Ymadawed ar bwrdd hwn Enllibiwr twn celwyddog.

5. Myfyria, modd na fwytai dy Arglwydd Jesu Grist, ddim ymborth vn amser, nes iddo yn gyntaf fendigo y creaduriaid, a rhoddi diolch i'w Dâd nefol am danynt. Ac yn ôl ei swpper diweddaf, yr ydym yn darllain iddo ef ganu Psalm. Luc. 9.16. ac 22.19. Mat. 14, 19. ac 26., 21, 30. Canys hyn o∣edd orchymyn Duw: Pan fwytteych, a'th ddigoni, yna y bendithi 'r Arglwydd dy Dduw, &c. Deut. 8.10. hynny oedd arfer y Prophwydi: canys ni fwytai y bobl ar eu gwleddoedd, nes i Samuel yn gyntaf fendithio eu bwyd. 1 Sam. 9.13. Ac y mae Joel yn dywedyd wrth bobl Dduw. Yna y bwyttewch, gan fwytta ac ymddigoni, ac y moliennwch enw 'r Argl∣wydd eich Duw. Joel. 2.16. Hyn hefyd a ymarfe∣rai

Page 186

yr Apostolion: Canys yr oedd St Paul yn y llong yn rhoddi diolch cyn bwyd yngŵydd yr holl bobl oedd ynddi Act. 27.35. Gwna gan hynny yn y fath sanctaidd weithred, ar ôl y fáth Feistr bendigedig, a dilyn y cyfryw nifer o athrawon teil∣wng, a'i canlynodd ef, ac a aethant o'th flaen di. Fe alai o herwydd nad arferaist erioed o dalu diolch ar brydian, am hynny y bydd cywilydd gennit yr awrhon fyned i ddechrau. Na thybia yn gywilydd it wneuthur y peth a wnaeth Crist; eithr yn hytrach bydded cywilydd gennit ddarfod i ti esceuluso cy∣hyd y cyfryw ddyledus orchwyl Cristianogawl. Ac os rhoddodd Mâb Duw y fàth ddiolch i'w Dâd nefol am y ciniaw o fara haidd ac ychydig byscod; Joa. 6.9. pa fâth ddiolch a ddilai y fâth ddyn pechadurus ac wyt ti, dalu i Dduw am y cyfryw amlder o ddanteithion moethus? pa gynnifer o wir gristianogion, a lawenent gael llenwi eu boliau a'r tammeidiau yr wyt ti yn eu gwrthod, ac sydd arnynt eisiau yr hyn yr wyt ti yn ei weddill? mor galed y mae rhai eraill yn gweithio am eu hymborth, a thithau yn cael dy lyniaeth gwe∣di ei baratoi it, heb arnat na phoen na gofal? i ddi∣bennu, os oedd delw-addolwyr Paganaidd yn eu gwleddoedd, ynarfer o foliannu eu gau dduwiau; Dan. 5.1.4. Pa gywilydd ydyw i gristion, na foli∣anna y Gwir Dduw (ar ei giniaw neu ei swpper) yn yr hwn yr ydym ni yn byw, yn symmud, ac yn bôd: Act. 17.28.

6. Myfyria, mai rhaid i'r corph, yr hwn yr wyt ti yr awrhon mor foethus yn ei borthi fod (ni wy∣ddost pa cyn gynted) yn fwyd i bryfed, lle y gelli ddywedyd wrth lygredigaeth, ty di yw fy nhâd: ac wrth y pryf, ty di yw fy mam a'm chwaer. Job. 17.14.

7. Myfyria, fel y mae bwrdd llawer dyn wedi ei

Page 187

wneuthur yn fagl iddo, Psal. 69.12. Megis trwy an∣gymmedroldeb, ac aniolchgarwch, y mae y bwyd yr hwn a ddylai faethu ei gorph, yn ei ládd á gor∣modedd: yn gymmaint, a bod mwy yn cael eu di∣fetha gan y fagl hon, na chan y cleddyf. A chan weled wedi 'r felldith, fod yr arfer o fwyd a diod (ac o'r holl greaduriaid vn agwedd) yn aslan i ni nes ei sancteiddio trwy air 'Duw a gweddi: 1 Tim. 4.4.5. ac nad yw dŷn yn byw yn vnig trwy fara, ond trwy bôb gair a ddaw allan o enau Duw, a'i fendith, yr hyn a elwir ffon y bara: Mat. 4.4. Lev. 26.26. Nac eistedd gan hynny i lawr i fwyta heb weddio, ac na chyfod, cyn i ti roddi diolch i Dduw. Ymbor∣tha i ddigoni dy anian, a chyfod â pheth chwant ar∣nat, a chofia dy gristianogawl frodyr tlodion, sy 'n goddef newyn, ac arnynt eisiau y pethau sydd i ti amlder o honynt.

Gwedi i ti fyfyrio ar y pethau hyn, neu 'r cyfryw, oni bydd vn Samuel yn bresennol yn y lle, derchafa dy galon, dy ddwylaw, a'th olygon, trwy barch ac an∣rhydedd dyledus, at y Creawdr mawr, a phorthwr yr holl greaduriaid; a chyn bwyd gweddia atto fal hyn:

Grâs cyn bwyd.

O Dra-grasusol Dduw, ac anwyl Dâd, yr hwn wyt yn porthi yr holl greaduriaid bydol, y rhai sydd a'i goglyd ar dy dduwiol rag∣ddarparwch: ni attolygwn i ti sancteiddio y creadu∣riaid hyn, y rhai a drefnaist i ni: dyro iddynt rin∣wedd i faethu ein cyrph, mewn bywyd, ac iechyd: a dyro i ninnau râd iw-derbyn yn llariaidd ddiolch∣gar, megis oth ddwylaw di, fel trwy nerth y rhai hyn, ac eraill o'th fendithion, y gallom rodio mewn vniondeb o'n calonnau, o flaen dy wyneb y dydd

Page 188

heddyw, a holl ddyddiau ein henioes trwy Jesu Grist ein Harglwydd. Amen.

Neu fal hyn.

TRa-grafusol Dduw a thrugarog Dád, ni attoly∣gwn i ti sancteiddio y creaduriaid hyn, i'n hym∣borth: gwna hwynt yn llyniaeth iachus i'n cyrph, a ninnau yn ddiolchgar am dy holl fendithiau, trwy Grist ein Harglwydd an hunig waredwr. Amen.

Grâs arall cyn bwyd.

O Dragwyddol Dduw, yn yr hwn yr ydym ni yn byw, yn symmud, ac yn bod, ni attolygwn i ti fendithio dy greaduriaid hyn i'th weision, megis trwy eu nerth hwynt, y gallom fyw i osod allan dy foliant a'th ogoniant, trwy Jesu Grist, ein Hargl∣wydd a'n hunig Iachawdwr Amen.

Ar ol pob pryd bwyd bydd mor ofalus am danat dy hûn a'th teulu, ac oedd Job am dano ei hun a'i blant, Job. 1.4. rhag pan fyddech yn llon wrth fwyta, neu yfed i ryw ymadrodd lithro allan och geneuau a allo ddigio Duw, neu wneuthur cam a dŷn. Ac am hynny, trwy 'r vnrhyw fath ymddygiad, ac anrhydedd gweddol, dyro ddiolch i Dduw, a gweddia mal hyn.

BEndigedig fyddo dy enw di, O Arglwydd ein Duw, am dy ddoniau daionus hyn, a'r rhai y darfu i ti gyffuro a dadebru ein cyrph: O Argl∣wydd bydded gwiw gennit vn agwedd borthi ein en∣eidiau ag ysprydol ymborth dy air, a'th Yspryd sanctaidd i fywyd tragwyddol. Arglwydd cadw ac

Page 189

ymddeffyn dy holl Eglwys: ein grasusol Frenin a'r Brenhines, y Tywysog, a'r tywysogawl heppi Maddeu i ni ein holl bechodau, a'n haniolchgarwch, na chraffa a'r ein hanianol aneirif lygredigaethau, pár i ni oll feddwl am ein diwedd, ar cyfrif sydd raid i ni ei wneuthur y pryd hynny. Yn y cyfam∣ser canniadha i ni iechyd, tanghneddyf, a gwirio∣nedd, trwy Jesu Grist ein Harglwydd, a'n hunig Iachawdwr. Amen.

Neu fel hyn.

BEndigedig a fyddo dy enw sanctaidd Oh Argl∣wydd, am y doniau yma, â'r rhai y darfu i ti ein llonni a'n llawenu y pryd hyn. Arglwydd ma∣ddeu i ni ein holl bechodau, a'n esceulusdra: cadw a gwared yr holl Eglwys, y Brenin, y Frenhines, ar holl rywogaeth frenhinol, a Dôd i ni iechyd, hedd∣wch a gwirionedd trwy Grist ein hunig Jachawdwr. Amen.

Neu mal hyn.

NI roddwn i ti ddiolch O Dâd nefol, am borthi ein cyrph mor rasusol â'th creaduriaid daio∣nus, i'r bywyd amserol hwn; ni a attolygwn i ti un ffunyd borthi ein heneidiau a'th air sanctaidd i fy∣wyd tragwyddol. Cadw O Arglwydd dy holl Egl∣wys, y Brenin, y Frenhines, a'r hiliogaeth frenhi∣nol. A pharhâ dy râd a'th trugaredd tu ac attom Yn Ghrist ein hunig Jachawdwr. Amen.

Arferiad Duwiolder yn yr Hwyr.

Yn yr Hwyr pan fo 'n amser cyfaddas i ddyfod i gyfannedd ac esmwythdra, galw ynghyd dra∣chefn

Page 190

dy holl deulu. Darllain bennod yn yr un môdd ac yr adroddwyd it yn y Borau. Yno (er mwyn dilyn arfer sanctaidd ein Harglwydd a'i ddiscyblion) cân Psalm: Eithr wrth ganu Psalmau, naill a'i ar ôl Swpper, neu ryw am∣ser arall, cadw y rheoledigaeth hon, sydd yn canlyn.

Rheolau iw cadw wrth ganu Psalmau.

1. GOchel ganu y Psalmau bendigedig o ran di∣fyrwch cyffredinol; megis y bydd rhai dy∣nion o ysprydau aflan, y rhai a ganant y Psalmau sanctaidd ynghymmysc a dyrifau halogedig. Gair Duw ydynt, na chymmer mo honynt yn dy enau yn ofer.

2. Cofia ganu Psalmau Dafydd ag Yspryd Da∣fydd, Mat. 22.43.

3. Gwna yn ôl dosparth St. Paul, sef, mi ganaf â'r yspryd, ond mi ganaf â'r deall hefyd. 1 Cor. 14.15.

4. Tra fyddoch yn canu, byddwch oll yn ben∣noethion, ac ymddygwch chwi eich hunein, gydá pharch gweddus, megis o flaen Duw, gan ganu i Dduw yn ei eiriau ei hun: eithr byddwch ddiogel i'r peth hyn wneuthur mwy o ddiddanwch yn eich ca∣lonnau, nac o gerddwriaeth yn eich clustiau: Col. 3.16. Eph. 5.19. Canys y canu yn y galon trwy rás, ydyw 'r hyn y mae 'r Arglwydd yn ymhoffi yn∣ddo, yn ôl yr hên odl yma.

Non vox, sed votum, non musica chordula, sed cor, Non clamans, sed amans, psallit in aure Dei.

Page 191

Nid peraidd lais cerddwriaeth crêd Ond yr adduned hylwydd, A chalon bur garedig lon, Yw 'r gán ger bron yr Arglwydd.

5. Ty di a elli o gweli di fod yn dda, ganu yr holl Psalmau trostynt mewn trefn: o ran maent eu gyd, yn dra hyfryd a chyssurus. Eithr o mynni di ddewis rhyw Psalmau neilltuol cyfaddas i ryw am∣serau, ac achosion: a'r cyfryw (wrth eu mynych arfer) y gallo dy ddynion yn hawsaf eu dal i'w côf.

Yno cân.

Yn y borau. Psal. 3.5.16.22.144.

Yn yr hwyr, Psal. 4.127.141.

Am drugaredd yn ôl gwneuthur pechod Psal. 51.103.

Mewn clefyd neu orthrymder, Psal. 6.13.88.91.137.146.

Ar ôl myned yn iach o glefyd, neu o bechod i'r iawn. Psal. 30.32.

Ar y dydd Sabbath, Psal. 19.92, 95.

Yn amser llawenydd, Psal. 80.98, 107.136.145.

O flaen Pregeth. Psal. 1, 12.147. y rhan gyntaf, a'r bummed, o'r 119.

Ar ôl Pregeth, y Psalm a fynnit ar a fyddo yn perthyn i destyn y bregeth.

Wrth dderbyn y Cymmun. Psal. 22.23.103.111.113.

Am ddiddanwch ysprydol, Psal. 15.19.25.46.67, 112.116.

Yn ôl cael cam neu wradwydd. Psal. 42.69.70, 140.144.

Ar ol y Psalm ymostynged pawb ar eu gliniau mewn modd anrhydeddus, fel yr adroddŵyd or blaen, ac aed y pen teulu (neu y pennaf yno yn ei absen) i weddio mal hyn.

Page 192

Prydnawnol weddi tros y Teulu.

O Dragwyddol Dduw a thrugaroccaf Dád, Nyni dy weision anheilwng a ymdarostyngwn ein hunain i lawr o flaen troedfaingc dy rad, gan gydnabod ein bod ni yn etifeddu llygredigaeth ein Tadau, a thorri o honom yn weithredol dy holl or∣chymynion sanctaidd, ar feddwl, gair, a gweith∣red, fel nad oes dim daioni wrth natur yn cyfan∣neddu o'n mewn. Canys y mae ein calonnau ni yn llawn o falchder dirgeledig, anoddefgarwch, rhag∣rith, celwydd, trachwant, gwagedd, halogedigr∣wydd, anhyder, gormod cariad i ni ein hunain, ac i'r byd, rhy fychan o gariad i ti ac i'th Teyrnas, ac yn wâg heb ddim ffydd, cariad, dioddefgarwch a'r cyfryw râdau ysprydol. Pe bait ti gan hynny yn my∣ned a nyni i'r Farn, ac yn chwilio ein anianol lygre∣digaeth, a dal fulw ar y ffrwythau ar effeithiau mell∣digedig a dyfodd o hono: Fe allai Satan ein cyfrif, a'n nodi yn vniawn yn ei eiddo ei hùn, ac ni allem ni ddisgwil dim arall oddiwrth dy Fawrhydi, ond dy ddigofaint ti, a'n damnedigaeth ninnau, yr hyn er ys hir o amser a haeddasom.

Eithr o Dád daionus, er mwyn Jesu Grist dy an∣wyl fab, yn yr hwn yn vnig i'th fodlonir, ac er mwyn haeddedigaethau yr angau chwerwdôst, a'r diodde∣saint gwaedlyd, yr hyn yr ydym yn ei gredu a odde∣fodd trosom ni: trugarha wrthym, maddau a de∣leua

Page 193

ein holl bechodau, a rhyddhâ ni oddiwrth y gwarth a'r cywilydd sydd ddysedus i ni am danynt, fel na allont fyth gyffwrdd a nyni, i'n gwradwyddo yn y byd hwn, nac i'n heuog-farnu yn y byd sydd i ddyfod. Ac megis y creuaist ni i'th wasanaethu di, a'r holl greaduriaid eraill i'n gwasanaethu ninnau: felly ni atttolygwn i ti anfon dy Yspryd glân i'n ca∣lonnau, fel trwy ei lewyrch a'i weithrediad ffrwyth∣lon, y gwelom ac yr ymwrandawom a'n pechodau, ac a'n llygredigaethau anianol, megis na byddom gwedi ein dallu ynddynt trwy ymarfer, fel y mae y colledigion: eithr bod o honom ni fwyfwy yn eu ffi∣eiddio hwynt, ac o'n calonnau yn dra-ofidus am da∣nynt, gan ymegnio i ymarfer pob moddion da iw gorchfygu, ac i fyned allan o honynt. Oh pâr i ni glywed gallu marwolaeth Crist yn llâdd pechod yn ein cyrph marwol; a rhinwedd ei adgfo∣diad yn cyfodi ein heneidiau i newydd-deb bu∣chedd. Ymchwel ein calonnau, gostwng ein trach∣wantau, adneŵydda ein meddyliau, glanhá ein ha∣nian; ac na chynnwys mo honom i soddi yn ein han∣wireddau budron, ac yn nifyrrwch pechodlawn yr oes hon, yr hyn both a ddygodd filoedd bendra∣mwnwgl i ddestryw tragwyddol: Eithr gweithia ni beunydd fwyfwy at agwedd a chyffelybiaeth dy Fab Jesu Grist, fel y gallom mewn cyfiawnder, a san∣cteiddrwydd, dy wasanaethu a'th ogoneddu; megis gan fyw yn dy ofn, a marw yn dy ffafr, y caffom (yn yr amser á osodaist) gyfran o adgyfodiad y cyfiawn, i fywyd tragwyddol. Yn y cyfamser O Arglwydd, chwanega ynom ffydd yn addewidion hyfryd dy E∣fengyl, edifeirwch oddi wrth weithredoedd meir∣won, diogelwch o'n gobaith yn dy addewidion, ofn dy enw, casineb ein pechodau, a chariad tu ac at dy blant di: yn enwedig tu ac at y rhai y gwyddom fod arnynt eisiau ein cymmorth a'n diddanwch: megis

Page 194

trwy ffrwythau duwioldeb, a bywyd cyfiawn, y by∣ddom sicr o fod dy Yspryd sanctaidd yn aros ynom, a'n bod yn blant i ti trwy fabwys a rhâd. A chan∣niadhâ i ni o Dâd daionus, barhâd o iechyd, tangh∣neddyf, a chynhaliaeth, a'r holl bethau eraill oddi∣allan, cyn belled, ac y gwelo dy Ddwywawl Ddoe∣thineb fod yn addas, ac yn angenrhaid, i bob vn o honom.

Ac yma O Arglwydd, yn ôl ein rhwymedig ddlêd, yr ydym yn cyfaddef dy fod yn dra-thrugarog wrthym, mewn holl bethau y bywyd hwn: eithr yn drugarog anfeidrol, mewn pethau o fywyd gwell, ac am hynny yr ydym o eigion ein heneidiau yn rhoddi i ti holl ddiolch ewyllyscar o galonnau gostyngedig, am yr holl fendithiau a doniau a dywelldaist ar ein heneidiau, a'n cyrph: gan gydnabod mai tydi yw Tâd y goleuni oddiwrth ba vn y discyn pôb rhoddiad daionus, a phob rhodd berffaith; ac i ti yn vnig, y traddodwn oll ogoniant, anrhydedd, amoliant am da∣nynt, yr awr hon ac yn dragywydd-Eithr yn ben∣difaddeu yr ydym ni yn clodfori dy dduwiol Fawr∣hydi, am ein cadw y dydd hwn yn ddiangol oddiwrth bob peryglon, a niweidiau: mal na ddarfu i'r vn o'r barnedigaethau (y rhai yr oedd ein pechodau yn eu haeddu) ddigwyddo i'r vn o honom. O Arglwydd daionus, maddeu i ni y pechodau a wnaethom y dydd hwn, yn erbyn dy dduwiol Fawrhydi, ac yn erbyn ein cydfrodyr: ac er mwyn Jesu Grist, dyro ein cymmod i ni am danynt. Ac yr ydym yn atto∣lygu i ti vn agwedd, o'th vnrhyw anfeidrol ddaioni a'th trugaredd, ein cadw a'n ymddiffyn, a chwbl a berthynant i ni y nos hon, rhag pob perigl tân, ys∣pail, dychryn Angelion drwg, neu ryw ofn neu ni∣waid arall, yr hyn o herwydd ein pechodau â allai yn gyfion ddigwyddo i ni. Ac fel y gallom fod yn gadwedig dan gyscod dy escyll di, yr ydym ni yma

Page 195

yn gorchymyn ein cyrph, a'n heneidiau, a chwbl oll ac a feddom, i'th ollalluog gadwedigaeth. Argl∣wydd bendithia ac ymddeffyn, yn gystal hwy a ni∣nnau, oddiwrth bob drwg· A thra fyddom yn cys∣gu bydd di o Dâd, yr hwn nid wyt yn cysgu nac yn huno, yn gwilied dros dy blant, a dyro orchymmyn i'th Angelion sanctaidd i wersyllu o amgylch ein tŷ a'n trigfa, i'n ymddiffyn rhag pôb niweidiau: megis gan gyscu gyd â thi, y gallom y borau nessaf gael ein deffro gennit ti, ac felly gwedi ein cyssuro a'n dadebru â chymedroldeb o gŵsc, y byddom yn gymmesurach i osod allan dy ogoniant ynghydwy∣bodus ddledswyddau ein galwedigaethau.

Ac hefyd nyni a attolygwn it (o Arglwydd) fod yn drugarog wrth dy holl Eglwys, a channiadhâ dy barhaus danghneddyf i'r teyrnasau yma lle yr ydym ni yn byw, gan droi oediwrthym yr holl gystuddiau, y rhai y mae pechodau y genedlaeth hon yn llefain am danynt.

Ymddiffyn ein bucheddol Frenin Charles rhag pob bradwriaeth a niwaid, bendithia y Frenhines, y Ty∣wysog, a'r tywysogawl heppil. Bendithia ein holl swy∣ddogion, a gweinidogion dy air, a'r holl rai a'th ofnant di ac â alwant ar dy enw, a'n holl frodyr, a'n chwi∣orydd Cristianogawl, a'r y sydd yn glwyfus, neu mewn rhyw fodd arall yn orthrymedig: yn enwedig y rhai sydd yn dioddef adfyd er mwyn dy Efengyl sanctaidd, Canniadhâ iddynt ammynedd i oddef dy gerydd, ac ymwared y pryd ar modd y gwelo d dduwiol ddoethineb fod yn orau. Ac na âd i ni byth o Arglwydd anghofio ein diben diwaethaf, ar cyfrif sydd raid i ni ei roddi y pryd hynny. Yn ein hie∣chyd a'n hawddfyd, pâr i ni feddwl am glefyd ar adfyd i ddyfod, fel na allo y pethau hyn ein goddiwes fel magl: Eithr bod o honom mewn mesur da, megis

Page 196

morwynion call, wedi ein paratoi ein hunain e∣byn dyfodiad Crist, anwyl briodfab ein heneid au. Ac yr awrhon o Arglwydd tra-chyfiawn san∣ctaidd, yr ydym yn cyfaddef, nad oes un achos 〈◊〉〈◊〉 dylyt ti (yr hwn wyt yn cashau pechod gymmaint) wrando eirchion pechaduriaid; ond yn unig e ei swyn ef, yr hwn a ddioddefodd am bechod ae ni pechodd. Gan hynny yn unig gyfryngdo dy dragwyddol Fab Jesu Grist, ein Harglwydd, a' Hiachawdwr, yr ydym yn ostyngedig yn ymbil am y rhai hyn, a'r holl ddonlau eraill a wyddost ti e bod yn angenrheidiol i ni, gan gloi ein erfynniau am∣herssaith hyn, yn y wir sanctaidd weddi a ddyscodd Crist ei hunan i ni i ddywedyd wrthit. Ein Tad, &c.

Dy râd O Arglwydd Jesu Grist, dy serch o nefol Dad, dy gymdeithas a'th ddiddanwch, O sanctaidd a bendigedig làn Yspryd, a fyddo gyd â nyni ac a drigo yn ein plith y nos hon, ac yn dragywydd. Amen.

Yno wedi ymgyfarch y naill y llall, fel y perthyn i Gristianogion, y rhai ydynt lestri y grâs, a them∣lau yr Yspryd glan, ymadawant yn ofn Duw, bob un iw efmwythdra, gan arfer peth o'r myfyrdod neilltuol a osodwyd o'r blaen, am brydnawn.

Hyn yma am gyhoeddus Arfer O Dduwioldeb perchen tyaeth, efo a'i deulu bob dydd: weithian y canlyn ei Arfer ef o Dduwioldeb gyd a'r Eglwys ar y dydd Sabbath.

Myfyrdod am yr union fodd o Arfer Duwiol∣deb, ar y dydd Sabbath.

EF a fyn yr hollallug Dduw gael ei addoli, nid yn unig mewn modd neilltuol, gan ddynion a theulu neilltuol: eithr hefyd mewn trefn fwy cy∣hoeddus,

Page 197

gan yr holl rai duwiol wedi eu hymgyn∣nill ynghyd mewn Eglwys weledig: megis trwy y moddion hyn yr adnabydder ef, nid yn unig i fod yn Dduw ac Arglwydd i bob neilltuol ddŷn; eithr hefyd i greaduriaid yr holl fyd cyssredinol.

Holi. Eithr pa ham nad ydym ni Gristianogion tan y Testanient newydd, yn cadw y Sabbath ar yr un seithfed dydd, ac yr oeddyd yn ei gadw tan yr hen?

Mi attebaf: Oblegit i'n Harglwydd Jesu, yr hwn yw Arglwydd ar y Sabbath, a'r hwn y mae y gyfraith ei hun yn gorchymyn i ni ei wrando, ei newid o'r seithfed dydd, i'r dydd cyntaf o'r wyth∣nos, ar yr hwn yr ydym ni yn cadw ein Sabbath. Canys y mae 'r Efangylwr Sanctaidd yn rhoi ar lawr, ddyfod o'n Harglwydd i ganol y gyn∣nulleidfa sanctaidd, ar y ddau ddydd cyntaf o'r ddwy wythnos gyntaf yn ôl ei Adcyfodiad, ac yno y bendigodd ef yr Eglwys, ac yr anad∣lodd ef yr Yspryd glàn ar ei Apostolion, ac a rod∣des iddynt yr agoriadau gweinidogawl, a'r gallu i rwymo ac i ryddhau pechodau. Joan. 20.19.20, 21, 22, 26. Ac y mae yn debygol iawn ddarfod iddo ef mewn defod barchedig wneuthur felly, bob dydd cyntaf o'r wythnos, tros y deugain niwrnod y bu ef ar y ddaiar, rhwng ei adcyfodiad a'i ddercha∣fiad. Canys y degfed diwrnod a deugain ar ol hynny, yr hwn oedd y dydd cyntaf o'r wythnos, yr ymgynnullodd yr Apostolion ynghyd. Yn yr hwn amser, y rhoddes orchymynnion iw Apostolion, ac y dywedodd iddynt y pethau a berthynent i deyrnas Dduw, Act. 1.3.4. Darllain Ciryl ar Joan. llysr 12. pen. 58. hynny yw, efe a roes arhrawiaeth iddynt y modd y dylent hwy trwy 'r holl Eglwysi (y rhai oeddynt iw troi) newid y Sabbath i ddyd yr Arglwydd: a corphorol aberthau o anifelliaid, i Ysprydol aberthau o foliant, gweddi, a chalonnau

Page 198

edifeiriol; offeiriadaeth Lefi tan y ddeddf, i gristi∣anogawl weinidogaeth yr Efengyl: teml a Synago∣gau yr Juddewon, i Eglwysi a thai gweddi: Yr hên Sacramentau sef enwaediad a'r oen pâsc, i fedydd a Swpper yr Arglwydd, &c. Fel yr ymddengys wrth yr unrhyw ymadrodd, Act. 19.8. Act. 28.23. Col. 4.11. Wedi ei roddi ar lawr am yr holl gwbl o athrawiaeth Paul, trwy 'r hon y gweithred∣wyd yr holl gyfnewidiau hyn, lle y dygai ffrwyth. felly megis y bu Grist ddeugain nhiwrnod yn athra∣wiaethu Moeses ym mynydd Sinai, ac yn dangos iddo y modd y dyscai, ac y llywodraethai yr Eglwys tan y ddeddf: felly ef â arhosodd ddeugain niwrnod i ddyscu ei ddiscyblion yn Sion, pa beth a bregethent, a pha fodd y rheolent yr Eglwys tan yr Efengyl. A chan weled fod yn dra eglur, mai o fewn y deu∣gain niwrnod hynny, yr hyspysodd Crist beth a ddy∣lei gweinidogion y gair ei athrawiaethu, a pha wedd y dylent lywodraethu yr Eglwys hyd ddiwedd y byd; Eph. 4.1.11.12. nid rhaid ammeu, na ddarfu iddo of, o fewn y deugain nhiwrnod hynny hefyd osod ar lawr ar ba ddiwrnod y dylent gadw eu Sabbath, a gwneuthur cyffredinol orchwyl eu gwe∣nidogaeth; yn enwedig, gan weled fod Duw tan yr hên Destament, yn ei ymddangos ei hun mor ofalus yn ei ddeddf Ddefodol, ai ddeddf Ceremoniaidd, i lunio yn gystal yr amser, a'r modd iw addoli ef. Nid ydyw hefyd beth iw anghofio, fel y darfu i'r Arglwydd, yr hwn sydd a'r amseroedd a'r prydiau yn ei feddiant ei hun, ordeinio y dydd cyntaf o'r wyth∣nos ynddo i ddanfon i lawr o'r nef yr Yspryd glân ar yr Apostolion; mal y dechreuasant yn gyntaf ar y dydd hwnnw, ac y parhausant byth yn ôl hynny, i arfer ar gyhoedd eu gweinidogaeth i bregethu y gair, a chyfrannnu y Sacramentau, ac i roi gollyng∣dod o'i pechodau i'r pechaduriaid edifeiriol. Act.

Page 199

2.1.4.31.36.37.38.42. Ar y sail hon a'r cyffe∣lyb, y mae Athanasius yn tystiolaethu ddarfod i'r Arglwydd ei hun gyfnewid y dydd Sabbath.

Megis gan hynny y gelwir y Cymmun swpper yr Arglwydd, o herwydd i'r Arglwydd ei ordeinio yn goffadwriaeth o'i farwolaeth: felly y Sabbath Cristi∣anogol a gyfenwir dydd yr Arglwydd, o herwydd i'r Arglwydd ei ordeînio er coffadwriaeth o'i Ad∣cyfodiad. Ac megis y mae enw yr Arglwydd yn anrhydedd i'r naill, felly y mae un agwedd i'r llall. Datc. 1.10. 1 Cor. 11.20. Megis hefyd yr oedd Arglwydd y Sabboth o herwydd ei ragorfraint ar∣dderchawg, a'i awdurdod goruchel yn gailael; felly yr oedd iddo achos hefyd i newid y Sabbath sanctaidd o'r seithfed dydd, i'r dydd ar yr hwn yr ydym ni yn ei gadw. Canys am y Sabbath hwn∣nw oedd yn canlyn y chwe diwrnod y bu Dduw yn gorphen y Creadigaeth ynddynt; nid oedd mor cy∣fryw ddi-ail osodiad, neu achos rediol iw sanctei∣ddio yn dragwyddol, na allai yr vn awdurdod ar reswm ac achos mwy, ei gyfnewid a'i droi i ryw ddydd seithfed arall. Canys nid yw 'r gorchym∣myn yn dywedyd, Cofia gadw yn sanctaidd y seith∣fed dydd nessaf yn ebrwydd yn canlyn y chweched dydd o'r Creadigaeth, neu 'r seithfed yma, neu 'r seith∣fed accw: Eithr yn gyffredin cofia gadw seithfed dydd yn sanctaidd. Ac i ddywedyd yn briodol, me∣gis yr ydym ni yn cymmeryd diwrnod i fod yn wa∣hanrediad amser, a elwir naill a'i dydd naturiol, yn cynnwys 24 o orriau, neu ddydd celfyddydol, yn cynnwys 12 o orriau, sef o godiad haul hyd ei fachludiad; a chyd â hynny ystyried sefyll o'r haul ar brydnawngwaith yn amser Joshua, tros ddiwr∣nodd cyfan: Jos. 10.12, 13. a myned o'r haul yn ei ôl ddeg a raddau (sef pum awr, agos i han∣ner diwrnod celfyddydol) yn amser Ezechias:

Page 200

2 Brenh. 20.11. Ni allai yr Iddewon eu hu∣nain gadw eu Sabboth ar yr amser pennodol, a gwa∣hanredol, a elwid yn y cyntaf y seithfed dydd oddiwrth y creadigaeth.

A chyd a hynny, o herwydd amryw brydnawnau, neu meridianau, a rhagoriaeth yr amser o godiad neu fachludiad yr haul yn y naill fan rhagor y llall, amgena 'r dydd mewn rhyw fan y pedwaredd ran, mewn man arall yr hanner, mewn man arall ddiwr∣nod cyfan. Am hynny seithfed dydd yr Iddewon ni ellir moi gadw yn ollawl yr vn amser ym mhob man yn y byd.

Yr awrhon ein Harglwydd Jesu Grist, gan fod i∣ddo ef Awdurdod megis Arglwydd ar y Sabboth, y∣doedd ganddo hefyd fwy rhefwm ac achos i droi y Sabboth o seithfed dydd yr Iddewon, i'r seithfed dydd, ar yr hwn y mae y Cristianogion yn cadw eu Sabboth.

1. O herwydd bod ei Adcyfodiad ef oddiwrth y meirw, yn gweithredu newydd greadigaeth yspry∣dol o'r bŷd: heb yr hwn y buasai holl hiliogaeth Adda yn cael eu taflu i'r dinistr tragwyddol, Ac ni buasai holl orchestol orchwyly creadigaeth cyn∣taf yn peri dim diddanwch i ni.

2. Ac o herwydd y newydd greadigaeth ysprydol hwn, y mae 'r scrythur yn dywedyd, yr hen bethan a aethant heibio, wele gwnaethnwyd pob peth yn ne∣wydd: Creaduriaid newydd, pobl newydd, dynion ne∣wyddion, gwybodaeth newydd, Testament newydd, grchymmyn newydd, henwau newyddion, ffordd ne∣wydd, caniad newydd, gwisc newydd, gwin newydd, costrelau newyddion, Jerusalem newydd, nef newydd. a daiar newydd. 2 Cor. 5.17. Gal. 6.15. 1 Petr. 2.10. Eph. 4.24. Col. 3.10. Mat. 26.28. Datc. 21. Ac am hynny angenrhaid yw, fod dydd Sab∣bath newydd yn he 'r hên, i anrhydeddu a molian∣nu

Page 201

ein Gwaredydd, i fyfyrio ar orchwyl ein iechyd∣wriaeth, ac i ddangos newydd gyfnewid yr hên De∣stament.

3. O herwydd mai ar y dydd hwn y gorphywy∣sodd Crist oddiwrth holl boenau ei ddioddefaint, ac y gorphennodd anrhydeddus weithred ein prynedi∣gaeth. Os oedd gan hynny dibenniad gwaith y crea∣digaeth cyntaf, trwy 'r hyn yr oedd Duw yn ei ym∣ddangos ei hun yn ollalluog iw greaduriaid, yn ha∣eddu Sabboth i dowyn cofladwriaeth am y cyfryw orchwyl, er anrhydedd i'r gweithredydd, ac am hynny y mae yn ei alw fy Nydd sanctaidd: Esay 58.13. gwell o lawer y mae creadigaeth newydd y byd, a wnaed trwy adcyfodiad Crist (yn yr hyn yr eglurwyd ei fod yn fab Duw Rhu. 1.4.) yn haeddu Sabboth er mwyn tragwyddol goffadwriaeth o ho∣naw i anrhydedd Crist, am hynny y gelwir yn deil∣wng Dydd yr Arglwydd: Dat. 1.10. Canys megis yr oedd yr ymwared allan o gaethiwed Babylon, gan ei fod yn fwyaf, yn tynnu ymmaith enw yr ymwared allan o wlad yr Aipht, Jer. 23.7.8. felly y dydd ar yr hwn y darfu i Grist orphen prynedigaeth y byd, a haeddodd yn deilyngach, gael Sabboth iw gadw arno, na 'r dydd ar yr hwn y gorphywysodd Duw yn ôl Creadigaeth y byd. Megis gan hynny yn y Creadiga∣eth, y dydd cyntaf ar yr hwn y gorphennwyd, a gyssegrw yd yn Sabboth: felly yn amser y Prynedi∣gaeth, y dydd cyntaf ar yr hwn y persteithiwyd, sydd raid ei gadw yn orphywysfa sanctaidd: fel y cad∣wer y seithfed yn oestad yn ôl Moddol orchymmyn Duw. Yr oedd yr Iddewon yn cadw y dydd olaf o'r wythnos, gan ddechrau eu Sabboth gyd a'r nôs pan orphywysodd Duw: eithr y mae Cristianogion yn anrhydeddu 'r Arglwydd yn well gan ddechrau eu Sabboth gyda'r dydd, pryd y cyfododd yr Argl∣wydd.

Page 202

Neh. 13.19. Math. 28.1. Yr oeddynt hwy yn cynnal eu Sabboth, er dwyn coffadwriaeth o gre∣adigaeth y bŷd: iê, dydd yr Arglwydd, gan ei fod yn gyntaf o'r Creadigaeth a'r Prynedigaeth, a bâr i ni gofio yn gystal am wneuthuriad yr hên, ac am warediad y bŷd newydd.

Megis gan hynny yr oedd Duw tan yr hên Desta∣ment yn dangos ei ogoniant yn y saith o ganhwyllbren∣nau, a'r chwech o geingciau, &c. Exod. 25.31. gan eu rhoi i feddwl am greadigaeth y goleuni, a gor∣phywysfa y Sabboth: felly tan y Testament newydd y mae Crist gwir oleuni y bŷd, yn dyfod yng∣hanol saith o lampau, a saith ganhwyllbren aur, i beri i ni feddwl am anrhydeddu ein gwaredydd, Yn∣goleuni yr Efengil, ar orphywysfa yr Arglwydd y seithfed dydd. Datc. 1.13. A chan weled-fod y pry∣nedigaeth, yn gystal o ran gallu a thrugaredd yn rhagori ar y Creadigaeth cyn belled, yr oedd yn sefyll gyd â rheswm da, mai 'r gwaith mwyaf a gai anrhy∣dedd y diwrnod. Ac nid yw yr anrhydeddus enw o ddydd yr Arglwydd, yn lleihau gogoniant y Sab∣both: eithryn hytrach wedi ei roddi atto, y mae yn chwanegu ei vrddiniant: megis y mae 'r enw Is∣rael wedi ei roi at Jacob, yn peri y Patriarch yn fwy anrhydeddus. Gen. 32.28.

Y Rheswm a gymmerwyd o esampl gorphywys∣fa Duw oddiwrth weithred creadigaeth y byd, a byr∣hâodd mewn ffrwyth, byd oni orphywysodd Mâb Duw oddiwrth weithred prynedigaeth y bŷd, ac yno y cyntaf a roddes le i'r olaf.

4. O herwydd fe ragddywedpwyd yn yr hên De∣stament, y cedwid y Sabboth tan y Testament ne∣wydd ar y dydd cyntaf o'r wythnos. Canys yn gyn∣taf, yn y 110 Psalm, yr hwn sydd brophwydoli∣aeth am Grist, a'i deyrnas; yr ydis yn adrodd yn eglur, y byddai diwrnod vchel i ymgyfarfod, yn yr

Page 203

hwn y byddai bobl Grist yn ewyllyscar yn dyfod yng∣hyd mewn harddwch sancteiddrwydd. Yn gymmaint ac na byddai ddim glaw tanghneddyf, ar y sawl o deu∣luoedd y ddaiar nid elai i fyu i Jerusalem (sef i'r Eglwys) i addoli y Brenin, Arglwydd y lluoedd. Zac. 14.27. Yr awrhon ar ba ddiwrnod y mae cadw y Gwyl sanctaidd, a'r cyfarfod hwn, y mae Dafydd yn dan∣gos yn oleu yn y Psalm 118. Yr hon oedd broph∣wydoliaeth am Grist, fel yr ymddengys yn Mat. 21.42. Act, 4.11. Eph. 2.20. A thrwy gydsyni∣iad yr holl Iddewon, megis y mae Hierom yn tystio∣laethu. Gan ddangos ym mlaen llaw fel y byddai Crist trwy farwolaeth gywilyddus megis maen gwr∣thodedig gan yr adoiladwyr, (sef prif lywodraeth∣wyr Judea) etto trwy ei adcyfodiad gogoneddus, yr ai yn ben i'r gongl: y mae ef yn deisyf i'r holl Eg∣lwys gadw yn sanctaidd y dydd, ar yr hwn y gor∣phennai Crist y gorchwyl rhyfeddol hwn, gan ddy∣wedyd, Dyma 'r dydd a wnaeth yr Arglwydd, gor∣foleddwn, a llawenychwn ynddo. adn. 24. A chan weled mai ar y dydd hwn y mae yn eglur fod yn wir, yr hyn a ddywedodd Petr am Grist, sef ddarfod i Dduw ei wneuthur yn Arglwydd ac yn Grist. Act. 2.36. Ac am hynny y mae 'n rhaid i'r holl Egl∣wys tan y Testament newydd gadw yn sanctaidd ddydd adcyfodiad Crist. Yr oedd Rabbi Bachai yn gweled hefyd trwy gwymp Addaf a'r y chweched dydd, mai ar y dydd hwnnw, y gorphennai y Messi∣as weithred prynedigaeth dŷn. Zohar ar Gen. Dalen. 21. A chan fwrw at ymadrodd Boaz wrth Ruth, cŵsc hyd y borau, y gorphywysai y Messias yn ei fêdd tros eu holl Sabboth hwynt. Y mae yn casclu oddiwrth yr ymadrodd yn Gen. 1. ar y dydd cyntaf, bydded goleuni, y cyfodai y Messias ar y dydd cyn∣taf o'r wythnos o farwolaeth i fywyd, ac i gwnai efe i oleuni ysprydol yr Efongyl oleuo i'r bŷd, yr hwn

Page 204

oedd yn gorwedd mcwn tywyllwch a chysgod angau. Yr Awdur o'r llyfr Hebre-aec a elwir Sedar Olam Rabba, pennod. 7. a gofia lawer o bethau anrhy∣deddus a wnaethpwyd ar y dydd cyntaf o'r wythnos, megis cynifer o arwyddion, neu frudiau, y byddai addoliad Duw tan y Testament newydd iw gyllegru ar y dydd hwn. Megis, ar y dydd hwn y bu gwm∣mwl Mawrhydi Duw yn goruwchguddio ei bobl. Aa∣ron ai feibion a ddechreuasant wasanaethu swydd eu hoffeir iadaeth. Ac y darsu i Dduw yn gyntaf fen∣dithio ei bobl. Tywysogion y bobl a aberthasant yn gyntaf i Dduw ar gyhoedd. Y dydd cyntaf, ar yr hwn y discynnodd tân o'r nef. Y dydd cyntaf o'r byd, o'r flwyddyn, o'r misoedd, o'r wythnos, &c. Ar cwbl oll yn pennodi y byddai ef yn ddydd cyntaf, ac yn brifŵyl sanctaidd o'r Testament newydd. Y mae St. Augustin yn profi allan o amryw fannau, a rhesymmau, o'r Scrythur sanctaidd, fod y Tadau, a'r holl brophwydi, yn rhagweled, ac yn gwybod fod yr wythfed dydd o Enwaediad tan y Testament hên, yn arwyddocau dydd yr Arglwydd. Ac y cyfnewidid y Sabboth o'r seithfed dydd i'r wythfed, neu i'r dydd cyntaf o'r wythnos. Ac y mae Junius allan o Cypri∣an yn dywedyd, fod yr Enwaediad wedi ei orchymmyn ar yr wythfed dydd, ar yr hwn ddydd y cyfodai Grist, oddiwrth y meirw. Y mae y gymanfa Foro-Ju∣liense yn mynegi, fod Esay yn propbwydo y cedwid y Sabboth ar y dydd cyntaf o'r wythnos. Os oedd y dirgelwch hwn i'w weled mor amlwg gan y Tadau, tan gysgodau yr hên Destament; diogel ddarfod i Dduw y byd hwn ddallu yn dôst feddyliau y rhai ni allant weled y gwirionedd o hynny, tan oleu ddis∣claer lewyrch yr Efengyl. Am hynny y cyfnewid hwn ar y dydd Sabboth tan y Newydd, nid ydoedd ddim ond cyflawni yr hyn oedd wedi ei ffurfio a'i rag∣brophwydo tan yr hèn Destament.

Page 205

5. Yr oedd yr Apostolion yn yr holl Eglwysi Cri∣stianogawl, (y rhai a blannasant hwy) yn ôl me∣ddwl a gorchymmyn ei Harglwydd, ac hyfforddiad yr Yspryd glan, yr hwn oedd bob amser yn eu cyn∣northwyo, yn ordeinio i'r Cristianogion gadw y Sabboth sanctaidd, ar y seithfed dydd hwnnw, sef y cyntaf o'r wythnos; 1 Cor. 16.1.2. Am y gasgl i'r Sainct, megis yr ordeiniais i Eglwysi Galatia, fel∣ly gwnewch chwithau. Pob dydd cyntaf o'r wythnos &c. Pan ddeloch ynghyd yn yr Eglwys (ar ddydd yr Arglwydd yn y cyfieithiad syriaec ac Arabiaec) i fwyta Swpper yr Arglwydd, i ddangos ac i ddwyn ar gôf marwolaeth yr Arglwydd hyd oni ddêl &c. 1 Cor. 11. Yn yr rhain eiriau gwelwch:

1. Ddarfod i'r Apostolion ordeinio y dydd hwn iw gadw yn sanctaidd: am hynny ordeinhâd ddwy∣wawl, a defod oruchel.

2. Fod y dydd hwnnw yn cael ei enwi y dydd cyntaf o'r wythnos, am hynny nid seithfed yr Iu∣ddewon, nac un arall.

3. Pob dydd cyntaf o'r wythnos: yr hyn sydd yn dangos tragwyddoldeb.

4. Ddarfod ei ordeinio yn holl Eglwysi Galatia, yn gystal ac yn Corinth, a gosod o hono ef holl eglwy∣si y Sainct yn vndrefn mewn tangneddyf, 1 Cor. 14.33. am hynny yr oedd yn gyffredinol.

5. Mai gorchwylion y dydd hwn, ydoedd casgl i'r tlawd (yr hyn sydd eglur yn Act. 2.42. Ac yn nhystiolaeth Justin Martyr Apol. 2.) gan y rhai a fyddent wedi ymgynnull ynghyd yn y gyn nulleidfa sanctaidd, a'r ol Gweddiau, Pregethiad y gair, a chyfrannu y Sacramentau: am hynny yr oedd yn Ysprydol.

6. Y mynnai ef symmud y pryd i gasglu (er ei fod y'n anghenraid) erbyn ei ddyfodiad ef, rhag i hynny rwystro ei waith ef yn pregethu: eithr nid

Page 206

symmud eu cyfarfod sanctaidd hwy ar ddydd yr Ar∣glwydd; O herwydd hwnnw oedd yr amser gofo∣dedig i addoli 'r Arglwydd yn gyhoeddus, yr hyn sydd yn dangos angenrheidrwydd.

Ac yn yr vnrhyw Epistol y mae St. Paul yn rhag∣dystiolaethu, na roddes ef iddynt hwy vn ordein∣hâd nac athrawiaeth arall, ond yr hyn a dderbynni∣odd ef gan yr Arglwydd, 1 Cor. 11.1, 2. a'r. 15.3. Yn gymmaint ac y mae ef yn eu gorchymmyn hwy fel hyn, os oes neb yn tybied ei fod ei hûn yn brophwyd, neu yn ysprydol, cydnabydded y pethau yr wyf yn eu scrifennu attoch, mai gorchymynnion yr Arglwydd ydynt. 1 Cor. 14.37. Eithr efe a scrifennodd at∣tynt hwy, ac a ordeiniodd yn eu plith, gadw 'r Sabboth ar, y dydd cyntaf o'r wythnos: am hynny cadw y Sabboth ar y dydd hwnnw ydyw gwir or∣chymmyn yr Arglwydd. A pha fodd y dichon ef fod, naill, a'i yn wir brophwyd, neu fod iddo ddim o râd yspryd Duw yn ei galon, yr hwn gan weled mor eglur, fod dydd yr Arglwydd wedi ei drefnu a'i ordeinio gan yr Apostolion, na chydnebydd, mai gorchymmyn yr Arglwydd ydyw, cadw yn san∣ctaidd ddydd yr Arglwydd? Y mae 'r Iddewon yn cyfaddef mai yr Apostolion a wnacth y gyfnewid hon ar y Sabbath, Peter Alphon. in Dialog. contra Ju∣deos, Tit. 12. Y maent hwy gan hynny yn dda∣llach, ac yn ben-feddwach nac Iddewon, y rhai a wa∣dant hynny yn halogedig.

Yn Troas yr vn agwedd yr oedd St. Paul gyd â saith o brif Efangylwyr yr Eglwys, sef, Sopater, A∣ristarchus, Secundus, Gaius, Timotheus, Tichicus, â Throphimus, a'r holl Gristianogion oedd yno, yn cadw y Sabboth Sanctaidd ar y dydd cyntaf o'r wythnos, yn gweddio, yn pregethu, ac yn derbyn y Cymmun. Act. 20.4, 5, 6.

Ac fel y mae yn beth i'w ddyfal synnied nad yw

Page 207

Luc yn dywedyd, fod y discyblion wedi eu cyrohu i wrando ar Paul yn pregethu, eithr wedi i'r Discy∣blion ddyfod ynghyd i dorri bara y dydd cyntaf o'r wythnos, hynny yw, i fod yn gyfrannogion o'r Cym∣mun sanctaidd, ar yr amser y danghosid marwo∣laeth yr Arglwydd, trwy bregethiad y gair, 1 Cor. 11.26. Paul a bregethodd iddynt hwy, &c. Ac nid oedd neb yn cadw y cyfarfod hwnnw ond y Cristi∣anogion, y rhai yn vnig a elwir yn ddiscyblion, Act. 11.26. Eithr yn Philippi lle nid ydoedd etto yr vn discybl, yr ydis yn dywedyd i Paul fyned a'r eu dydd Sabboth hwy i'r fan lle 'r oedd yr Iddewon a'i Proselitiaid yn arfer o weddio, ac yno y pregethodd ef iddynt, Act. 16.12, 13. felly y mae mor olau a'r Haul, mai defod ac arfer y Cristianogion ydo∣edd, adael heibio seithfed dydd yr Iddewon, a chadw y Sabboth, a'i hymgyfarfod fanctaidd ar y dydd cyntaf or wythnos, Act. 21.4. A pha ham y mae St. Ioan yn galw hwn yn ddydd yr Arglwydd, ond o herwydd ei fod yn ddydd hysbys ym mhlith pawb iw sancteiddio yn gyhoeddus, er anrhydedd i'r Arglwydd Iesu, yr hwn a gyfododd i fywyd o farwolaeth ar y dydd hwnnw, trwy'r holl Eglwysi a blannasai yr Apostolion? yr hwn y mae St. Ioan yn ei alw dydd yr Arglwydd; er mwyn cynhyrfu Cristianogion yn hytrach i roi coffadwriaeth diolch∣gar am eu prynedigaeth, trwy adcyfodiad Crist odd∣iwrth y meirw. A chyd a'r dydd, y trôed hefyd fen∣dith y Sabboth i ddydd yr Arglwydd, o blegid bod yr holl Sancteiddwydd perthynol i'r byd newydd hwn yn Grist, ac oddiwrtho ef yn llifeirio i Gristiano∣gion. Heb. 2.5. at. 2.11. ar. 5.9. Ac o herwydd na ddichon ddyfod Awdurdod mwy na 'r Awdur∣dod honno oedd gen Grist a'i Apostolion; nac achos debyg i greadigaeth newydd y byd: Am hynny ni ellir byth cyfnewidio 'r dydd hwn i ddydd arall, tra

Page 208

byddo 'r bŷd yn sefyll. Ychwanega at hyn, fel ŷ mae 'r Scrythur yn dangos na wnaethpwyd dim wrth osod a phlannu yr Eglwys yn y cyntaf, ond trwy v∣nig drefn ac hyfforddiad neillduol yr Apostolion, 1 Cor. 11.34. 1 Cor. 14.36, 37. Titus 1.5. Act. 15.6.24. Ac ni wnaeth yr Apostolion ddim, heb eu hardal oddiwrth Grist, 1 Cor. 11.23.

Ynteu sancteiddio 'r Sabboth ar y seithfed dydd nid yw Ddeddf ceremoniaidd a ddiddymwyd, eithr y gyfraith foesol a thragwyddol a berffeithwyd. Felly yr unrhyw orchymmyn tragwyddol, yr hwn oedd yn rhwymo yr Iddewon i gadw y Sabboth ar y seith∣fed dydd hwnnw, er mwyn sanctaidd glodfori crea∣digâeth y byd, sydd yn rhwymo Christianogion i gadw yn hybarch y Sabboth ar y seithfed dydd hwn, er cossadwriaeth o brynedigaeth y byd: canys y pedwerydd gorchymmyn, yr hwn sydd gyfraith soesol, sydd ymerchi cadw seithfed dydd yn sancta∣idd yn dragywydd. A Moesolrwydd y gorchym∣mn hwn, megis am y lleill eu gyd, a ddylem ni ei arferu yn fwy crefyddol tan yr Efengyl, nac yr ar∣feral yr Iddewon tan y gyfraith, yn gymmaint a darfod i ni (yn y Bedydd) wneuthut cyfammod hy∣nodach à Duw i gadw ei orchymynnion: a darfod i Dduw wneuthur ammod a ninnau, i'n rhyddhau oddiwrth y felldith, a'n cynnorhwyo â'i Yspryd i gadw ei gyfreithiau. A bod y gorchymmyn hwn am y Sabboth, yn gystal a'r naw eraill yn foesol, ac yn barhaus, fe ymddengys yn eglur wrth y rhesymmau hyn sydd yn canlyn.

Page 209

Dêg o resymmau yn dangos fod gorchymmyn y Sabbath yn foesol.

1. O Herwydd bod yr holl resymmau am y gor∣chymmyn hwn yn foesol ac yn dragw yddol: a darfod i Dduw ein rhwymo ni i uf dddod y Gor∣chymmyn hwn, â rhesymmau ffiwythlonach, nac i'r un o'r lleill. Yn gyntaf am ei fod ef yn rhagweled, naill. a'i yr esceulusai ddynion anghrefyddol yn ddiofalach, neu eu torrent hwy y gorchymmyn hwn yn hyfach, nac yr un o'r lleill. Yn ail, o blegid mai yn ymarfer a chyflawni y gorchymmyn hwn, y mae cadwraeth yr holl rai eraill yn sefyll: yr hyn sydd yn peri i Dduw achwyn cyn fynyched, fod ei addoliad ef wedi ei esceuluso, neu ei roi i lawr, pan fyddo 'r Sabbath, naill, ai gwedi ei esceuluso, ai ei droseddu. Jer. 17.22, Ezec. 20.19, 20, 21, 24. ac 23.38. Fe allai beri i ddŷn synnu (medd Mr Calvin) Ystyried mor fynych, ac â pha ryw Zel, a thynghedu difrifol y mae Duw yn erchi (i'r rhai a fynnant fod yn bobl iddo ef) sancteiddio y seith∣fed dydd. Ac fel y mae Duw 'r drugaredd, yn an∣rhugarog yn cospi â marwolaeth erwin y sawl a dor∣ro y gorchymmyn hwn; megis pe bai hyn yn gwbl o'i anrhydedd a'i wasanaeth.

Ac y mae yn ddiogel, am yr hwn ni wnêl gydwy∣bod o dorri 'r Sabbath, na wna ef (i wasanaethu ei drô) gydwybod o dorri yr un o'r gorchymmynni∣on eraill, am y gallo ef wneuthur hynny heb ambarch iw gorph, na chwmmwl i'w eirda, ac all∣an o berygl cyfraith dŷn. Am hynny y gosododd Duw y gorchymmyn hwn ynghanol y ddwy lôch, O herwydd fod ei gadw ef yn gynnorthwy mawr i gadw 'r lleill eu gyd. Anrhydedd cydwybodus i'r Sabbath, ydyw Mam yr holl grefydd a'r ddysc dda

Page 210

yn yr Eglwys. Tynnwch ymmaith y Sabbath, a gwasanaethed pob dŷn Dduw pan fynno, a pha beth a ddaw ar fyrr o grefydd, a thangneddyf, ac o'r drefn yr hon a fyn Duw ei gadw yn ei Eglwys? 1 Cor. 14.33.40. Y dydd Sabbath ydyw dydd marchnad Duw am luniaeth yr wythnos, yn yr hwn ymyn ef i ni ddyfod atto, a phrynu ganddo heb aur nac arian, Fara yr Angelion, a Dwfr y bywyd, Gwin y Sacramentau, a llaeth y Gair, i borthi ein heneidiau: aur wedi ei buro, i gyfoethogi ein ffydd: gwerthfawr eli llygaid, i jachau ein dallineb ysprydol: a gwisco dillad gwynion, o gyfiawnder Crist, fel nad ymddangoso gwarth ein noethder ni. Esa. 55.1.2. Dad. 3.18. Nid yw ef bell oddiwrth wir Dduwioldeb, yr hwn a wnel gydwybod o gadw y dydd Sabbath: eithr yr hwn sydd yn cyd-ddw∣yn ai gydwybod, i dorri y Sabbath er mwyn ei elw a'i ddifyrrwch ei hun, ni ystyriodd, ac ni wybu ei galon ef erioed, pa beth yr oedd ofn Duw, neu wir Grefydd yn ei feddwl. Canys, am y Gorchymmyn hwn y gellir gwirio ymadrodd St. Jaco: yr hwn a ballo mewn un, sydd yn euog o'r ewbl. Jac. 2.10. Am hynny gan weled ddarfod i Dduw gau o am∣gylch y gorchymmyn hwn, á chynifer o resymmau moesol, y mae yn dra eglur fod y gorchymmyn ei hun yn focsawl.

2. O Herwydd ei orchymmyn gan Dduw i Adda yn ei ddiniweidrwydd: pryd yr oedd ef yn dal ei ddedŵyddwch, nid trwy ffydd yn haeddedigae∣thau Crist, ond trwy vfydd-dod i gyfraith Dduw, heb arno eisiau vn Ceremoni i arwyddocau y Pryne∣digaeth a wnai Grist. Ni eill gan hynny Sabbath o'r seithfed dydd fod yn Ceremoni syml, eithr yn rhan hanfodol o addoliad Duw, gorchymmynne∣dig i ddŷn, pryd nad oedd ond vn cyslwr i ddynion. Gen. 2.8. Ac os oedd yn anghenrhaid i'n cynteidi∣au gael dydd Sabboth i wasanaethu Duw yn eu per∣ffeithrwydd,

Page 211

rheittiach o lawer iw hiliogaeth hwy gadw Sabboth, ynghyflwr eu llygrodigaeth. A chan weled i Dduw ei hun gadw y dydd hwn yn sanctaidd, pa fodd y dichon y dyn hwnnw fod yn sanctaidd, â fyddo o wirfodd ei galon yn ei halogi ef?

3. O blegid ei fod yn vn o'r Gorchymynnion a le∣farodd Duw â'i enau ei hun, ac a scrifennodd ddwy∣waith â'i fysedd ei hun ar Lechau o gerrig, i ddan∣gos eu hawdurdod, a'i parhâd. Exod. 34.1. &c. Yr holl orchymynnion a scrifennodd Duw oeddynt foe∣sol., a thragwyddol, a'r rheini a gyfrifir yn ddêg: Pe byddai hon yn Ceremoni iw diddymmu, yno ni by∣ddai ond naw o Orchymynion. Deut. 4.4.13. Y Cere∣moniaidd orchymynnion oedd iw diddymmu trwy Grist, a scrifennasit eu gyd o waith Moeses: eithr hwn o'r Sabboth, gyd a'r naw eraill, oedd wedi ei scrifennu a llaw Dduw ei hun, ac a roddasid yn yr Arch, lle na roddesid dim o'r gyfraith Ceremoniaidd: 1 Bren. 8.9. Heb. 9.3. I ddangos y byddent yn rheoledigaeth tragwyddol i'r Eglwys, etto y cyfryw na allai neb yn ollawl eu cyflawni a'i cadw, ond Crist yn vnig.

4. O blegid fod Crist yn tystiolaethu na dda∣eth efe i dorri y gyfraith ddefodol: ac na ddiddym∣mid y lleiaf o honynt yn ei deyrnas ef, tan y Testa∣ment newydd. Yn gymmait, a bod pwy bynnag a dorro vn o'r gorchymynnion lleiaf hyn, ac a ddysco i ddynion felly, lleiaf y elwir ef yn nhsyrnas nefoedd: hynny yw, ni chai ef ddim lle yn ei Eglwys. Rhu. 5.17. Mat. 5.19. Yr awrhon y mae y gyfraith dde∣fodol yn gorchymmyn vn dydd o'r saith iw gadw yn sanctaidd yn dragywydd. Ac y mae Crist ei hun yn coffhau yn eglur gadw Sabboth ym mhlith ei Gri∣stianogion, wrth ddinistriad Jerusalem, ynghylch dwy a deugain o flynyddoedd yn ôl ei adeyfediad. Yr amser yr oedd holl Ceremonian Moeses (oddiei∣thr

Page 212

bwyta gwaed, a phethau a degid) trwy osodiad cyhoeddus a chyfundeb yr holl Apostolion, wedi eu rhoi hebio a'i diddymmu yn yr Eglwysi Cristiano∣gawl Act. 15.20.21.24.28. Ac am hynny yr oedd Cr••••t n cynghori ei ddisgyblion i weddio, na byddai eu ffedigaeth hwy yn y gauaf, nac ar y dydd Sabboth. Mat. 24.20. Nid yn y gauaf, am y byddai (o her∣wydd brynti y ffyrdd a'r tywydd) eu ffoedigaeth hwy yn fwy poenus a thrafferthus iddynt: Nid ar y dydd Sabboth, o herwydd y byddai yn fwy gofidus iw ca∣lonnau, dreilio y dydd hwnnw mewn llafur i achub ei bywyd, yr hwn a orchymynnasai Dduw ei dreilio mewn gorchwylion ac arferion sanctaidd, i ddiddanu ei hencidiau. Yr awrhon pe buasai sancteiddiad y Sabboth ar y dydd hwn, ond Ceremoni; ni buasai ddim gofid iddynt orfod ffo ar y dydd hwn, mwy nac ar ddydd aiall o'r wythnos. Eithr lle y mae Crist yn gweled ei fod yn beth ofnadwy, a gofidus, orfod iddynt ffo ar y dydd Sabboth: ac am hynny y mae yn dymuno ar ei eiddo ef weddio at Dduw, na byddai y cyfryw achos: y mae 'n eglur yn dangos, nad ydyw cadw y Sabboth yn Ceremoni wedi ei di∣ddymmu, eithr yn orchymmyn Moesol, wedi i Grist ei ofod a'r lawr a'i gydffurfio ym mhlith Cristiano∣gion. O Mynnwch chwi wybod y diwrnod ar yr hwn yr ordeiniodd Crist i Gristianogion gadw y Sabboth; ef a ddywed St. Joan i chwi mai ar ddydd yr Arglwydd, Dadc. 1.10. O mynnwch chwi wybod pa ryw ddydd o'r wythnos oedd hwnnw, St Paul a ddywed i chwi mai pob dydd cyntaf o'r wythnos ydoedd. 1 Cor. 16.2.

Megis y cynghorodd Crist felly y mae Cristiano∣gion yn gweddio, ac yn ôl eu gweddiau fe ddarfu i Dduw (yehydig cyn dechrau y rhyfel) trwy lefe∣rydd rybuddio yr holl Gristianogion yn Jerusalem i ymadel oddiyno, ac i fyned i Pela, tref fechan tu hwnt ir Iorddonen: Euseb, hist. l. 3. cap. 5. Ac

Page 213

felly i ochel digofaint Duw, yr hwn a ddiscynnai ar y ddinas a'r genhediaeth. Gan na ddichon Cristion (felly) heb ofid calon ddiangc i achub e fywyd ar y dydd Sabboth: pa fath orfoledd a diddanwch, a elli fod i wir Gristion a escculuso orchwylion sancta∣idd o addoliad Duw yn yr Eglwys, i dreilio y rhan fwyaf o ddydd yr Arglwydd mewn chwarydia••••h gnawdol, neu drafferthion halogedig? A chan wered fod dinistriad Jerusalem, yngysta yn arwyddocau, c yn sicrhau dinistriad y byd: Mat. 24.35. Pwy ni wyl fod yn rhaid i'r Sabboth sanctaidd barhau mewn an∣rhydedd hyd ddiwedd y byd?

5. O blegid bod yr holl gyfraith ceremoniaidd wedi ei gorchymmyn i'r Iddewon yn vnig, ac nid i'r Cenedloedd: eithr y gorchymmyn hwn o'r Sabboth sanctaidd, (megis priodas) a ordeiniodd Duw yng∣hyflwr diniweidrwydd, pryd nad oedd ond vn cy∣flwr i ddynion oll, ac am hynny wedi ei orchymmyn i'r Cenedloedd, yn gystal ac i'r Iddewon. Onid oedd yr holl swyddogion, a pherchen tai tan or∣chymmyn i beri i'r holl ddieithriaid (yn gystal a'i teuluoedd, a'i deiliaid eu hunain) gadw y Sabboth sanctaidd, megis yr ymddengys wrth y pedwerydd gorchymmyn, ac ymarfer Nehemiah. Neh. 13.15.17. Yr holl Ceremoniau oedd ganolfur o wahania∣eth rhwng yr Iddewon ar Cenedloedd. Eph. 2.14. Eithr gan weled fod y Cenedloedd yn gystal a'r Idde∣won, yn rhwym i gadw y gorchymmyn hwn, y mae yn eglur nad yw ef Ceremoni Iddewaidd. A chan weled fod yr vnrhyw awdurdod am y Sabboth, ac sydd am briodas: fe ddichon dŷn ddywedyd, nad yw priodas ond cyfraith Ceremoniaidd, yngystal a'r Sabboth. A chofia, lle yr ydis yn galw priodas ond vnwaith yn gyfammod Duw. Dihar. 2.17. O herwydd i Dduw ei hordeinio yn y dechreuad: felly y gelwir y Sabboth ym mhob lle, Sabboth yr

Page 214

Arglwydd dy Dduw, o ran i Dduw ei ordeinio yn yr vn dechreuad, o ran amser, cyflwr, a pharhâd, Am hynny nid Ceremoniaidd ydyw.

6. Y mae llygredigaeth ein hanian, yr hyn a gan∣fyddir yngwrthwynebiad cyhoeddus dynion drwg, ac mewn cyfrinachol anewyllyscarwch dynion da, i sancteiddio y Sabbath yn bur, yn dangos yn ddi∣gon eglur fod gorchymmyn y Sabbath yn Ysprydol ac yn foesol. Rhuf. 7.14. Amos 8.5.

7. Oblegid, megis y darfu i Dduw trwy ddeddf dragwyddol, wneuthur yr Haul, ar lleuad, a'r go∣leuada yn y ffurfafen, nid yn unig i wahanu rhw∣ng y dydd a'r nos, eithr i fod hefyd yn arwyddi∣on, am dymmorau, am ddyddiau, ac am flynyddo∣edd: felly yr ordeiniodd efe yn yr Eglwys a'r y ddaiar, y Sabbath sanctaidd i fod, nid yn unig yn dymmor gosodedig i'w addoli ef yn barchedig: ond hefyd yn ddosparth tragwyddol, a mesur ar yr am∣ser. megis y mae saith ddiwrnod yn gwneuthur wy∣thnos, pedair wythnos mîs, a deuddegmîs yn gwneu∣thur blwyddyn: felly saith o flynyddoedd a wna Sab∣both o slynyddoedd, saith Sabbothau o flynyddoedd, a wna Jubili, [Blwyddyn hyfrydwch.] neu 80 Jubi∣li, neu 4000 o flynyddoedd, neu ar ôl Ezechiel, 4000 o gufuddau, holl amser y Testament hên, hyd oni ddaeth Crist trwy ei fedydd a'i bregethiad, i ddechrau cyflwr y Testament newydd. Ni allai chwaith fyned ym mlaen yma heb ryfeddu, fel y pa∣rhâodd Sacrament yr Enwaediad yn yr Eglwys 39 o Jubiliau, sef o amser Abraham, ir hwn y rhoddasid yn gyntaf, hyd Bedydd Crist yn yr Ior∣ddonen: yr hyn oedd yn union gynnifer o Jubiliau (yn ôl cyfrif Bucholcerus) ac a barhausai y byd o Adda i enedigaeth Abraham. Moeses a ddechreu∣odd ei weinidogaeth yn yr 80 flwyddyn o'i enioes. Crist a gymmerai ei swydd yn llaw, yn y 80 Ju∣bili

Page 215

o oedran y byd. Yr oedd Joseph yn ddêg a'r hugain, pan ddechreuodd ef lywodraethu ar yr Aipht, Gen. 41.46. Ar Leuitiaid a ddechreuent wasanaethu yn y babell, pan fyddent ddêg a'r hugain oed: felly Crist vn agwedd, i gyfatteb y dull a'r arwyddion hynny, a ddechreuodd ei Weinidogaeth yn y degfed a'r hugain Jubili a'r ôl Moeses, a'r pryd yr oedd ef yn cerdded ar ei ddêg ar hugain oed, Luc. 3.23. ynghanol wythnos ddiwaethaf Daniel: ac felly (gan barhau yn ei weinidogaeth ar y ddaiar tros dair blynedd a hanner) a orphennodd ein prynedigaeth, a phennod Daniel, trwy ei farwo∣laeth wirion ar y Groes. Y rhan fwyaf o'r holl gyfnewidiau mawrion, a'r dygwyddiadau diei∣throl, yr rhai a gwympodd allan yn yr Eglwys, a ddigwyddodd naill a'i yn y flwyddyn Sabbothaidd, a'i yn y flwyddyn Jubili? Megis i ddwyn es∣ampl: Deg wythnos a thrugain Daniel oeddynt yn dechrau yn y flwyddyn gyntaf i Cirus, a'r 3439 flwyddyn o oedran y bŷd, a gynhwysant yn∣ddynt yr vnrhif o flynyddoedd, ac yr oedd y byd yn ei gynwys o wythnosau o flynyddoedd hyd y pryd hyn∣ny: a chynifer o wythnosau o flynyddoedd, ac a bar∣hausai y byd o Jubiliau. Dêg wythnos a thrugain o flynyddoedd Daniel, a gynhwysant bedwar cant a dêg a phedwar vgain o flynyddoedd sengl; y byd cyn hyn∣ny 490 wythnosau, neu Sabbothau o flynyddoedd. Di∣wedd-nod Daniel oedd 70 wythnosau, ac un y byd 70 Ju∣biliau: felly i gyssuro 'r Eglwys am 70 o flynyddoedd o gaethiwed, yr hyn a ddarfuasai iddynt eu ddioddef yn Babilon megis y prophwydodd Jeremi, Pen. 25.11.12. mae Gabriel yn dywedyd i Daniel, mai yn niwedd 70 o wythnosau, neu Sabbothau o flynyddoedd, hyn∣ny yw dêg a thrugeinwaith saith-waith o flynyddo∣edd, neu bumcant onid dêg o flynyddoedd, y gwe∣ithredid eu hymwarediad tragywyddol oddiwrth

Page 216

vffern trwy farwolaeth Crist, cyn siccred ac eu caw∣sent yr awrhon eu gwaredu allan o gaethiwed Babilon. Yr yspaid terfynedig hwn gan Daniel, Pen. 9.27. Oedd yn cynnwys 70 o Sabbothau, neu 10 Jubili o flyny∣ddoedd, yw dechrau yn y rhydd-did cyntaf a gan∣niadhaodd Cyrus i'r Iuddewon, y flwyddyn gyntaf o'i deyrnasiad ef a'r y Babiloniaid, yr hyn a gryb∣wyllir yn Ezr. 1.1. ac yw yn diweddu yn vnion yr amser y bu farw Crist ar y groes. O farwolaeth Crist, neu ddiwedd olaf wythnosau Daniel, hyd yr vnfed ar ddêg a thrugain i Grist, y mesurir y byd wrth y saith sel, neu saith Sabboth o flynyddoedd, yn gwneuthur un Jubili gyfan. Ar ôl diwedd y saith selau hynny, y mesurir y byd hyd ei ddiwedd wrth y saith o vdcyrn, Dad. 5. ac 8.2. ac 9.7. Pob vn yn cynnwys 249 o flynyddoedd. (Megis y mae rhai yn tybied, ynghylch pen 440 o flynynyddoedd etto, ymddengys y gwirionedd.) Enoch y seithfed yn ôl Addaf, gwedi iddo fyw gynifer o flynyddoedd ac sydd o ddyddiau yn y flwyddyn, sef 365, a gafas ei gyfnewidiad gan DDUW yn y flwyddyn Sabbo∣thaidd. Moeses y seithfed oddiwrth Abraham, megis ail Enoch, a gladdwyd gan Dduw, ac a ene∣sid yn y flwyddyn Sabbothaidd o'r byd, sef 2373. ac yn 777 ar ôl y diluw. (Ar ol cyfrif Broughton) a waredwyd, megis Noah newydd mewn Arch o gyrs, ac a fu fyw yn adeiladydd i'r Eglwys, cyhyd ac ei bu Noah yn adeliadu 'r Arch, sef 120 o flynyddo∣edd. Yr addewid i Abraham a wnaethpwyd yn y flwyddyn Sabbothaidd, yr hon oedd 2023 o'r byd. Y chweched flwyddyn i Josuah yr hon oedd 2500 o flynyddoedd yn ôl creadigaeth y byd, yn yr hon y meddiannwyd, ac ei rhannwyd y tîr rhwng meibion Israel, oedd flwyddyn Sabbothaidd, a'r 50 Jubili yn ôl creadigaeth y byd. Ar y flwyddyn hon y dechreuodd Moses ei Jubili, a'r hwn (megis a

Page 217

chadŵyn o ddêg ar hugain o ddolennau y rhwymodd ef ranniad meddiant Gwlad Canaan i'r Israeliaid trwy Josuah, hyd at agori teyrnas nefoedd i bawb a gredai trwy Jesu. Ac felly y mae 'n dwyn Eglwys yr Iuddewon, megis gyd â ffrŵd hyfryd o Jubili∣au, oddiwrth yr arwyddocd i'r sylwedd, o Canaan i'r nefoedd, O Josnah i'r Jesu: Canys Crist ar ddi∣wedd y degfed a hugain Jubili i Moses, ac ar ddechreuad y degfed ar hugain flwyddyn o'i oedran, wrth ei Fedydd a agorodd y nefoedd, ac a roddes y weledigaeth egluraf o'r Drindod fendigedig, ar a welsid er dechreuad y byd. A thrwy arianllais vdcorn ei Efengyl, y mae yn cyhoeddi, yn ôl proph∣wydoliaeth Esay, iechydwriaeth tragywyddol i bawb a edifarhant, ac a gredant ynddo ef. Esa. 61. Luc. 4.

A blwyddyn genedigaeth ein Iachawdwr Crist, yr hon oedd y 3948 o oedran y byd, oedd ar ddi∣wedd blwyddyn Sabbothaidd: ar 564 seithweithiad o'r byd: y mae Moses yn gwneuthur oedan cyffre∣dinol pob dŷn, i fod yn ddeg saith, Psalm 90. ac yn gyffredinol o fewn pob saith mhlynedd y digwydd rhyw gyfnewid neu dramgwydd hynodol ym y∣wyd dŷn; Ac nid rhyfedd, canys fel y mae Hippo∣crates yn mynegi, fod i'r plentyn yn y gróth ar y se∣ithfed dydd ar ôi ei ymddwyn, ei holl aelodau gwe∣di eu ffurfio, a'i fod o'r dydd hwnnw allan yn cyn∣nyddu iw berssaith enedigaeth: yr hyn a fydd yn oestadol, naill a'i yn y nawfed, a'i yn y seithfed Fis. Yn ei seithmlwydd oed, y mae 'r plentyn yn bwrw ei ddannedd, a hai newydd yn tyfu yn ei lle. A phob saith mhlynedd yn ôl hynny, y mae rhyw gyfnewid neu ddigwyddiad ym mywyd dŷn; yn enwedig yn naw-gwaith saith sef y flwyddyn Climactericol, yr hon drwy brawf a welwyd yn dynghedsennol i law∣er o'r gwyr dyscedig, a fuont yn llewyrch i'r byd

Page 220

〈1 page duplicate〉〈1 page duplicate〉

Page 221

〈1 page duplicate〉〈1 page duplicate〉

Page 218

Ac os hwynt hwy a ddiangent rhag y flwyddyn hon∣no, etto y rhan fwyaf o honynt a ymadawsant a'r byd hwn o fewn rhyw seithweithflwyddyn. Lamech a fu farw yn y 777 o'i enioes. Methusalem, yr oeswr hwy∣af o feibion dynion, a fu farw yn nechreuad ei 900 a 70 o flynyddoedd. Abraham a fu farw, gwedi iddo fyw bum ar hugeinwaith saith o flynyddoedd. Jacob gwedi iddo fyw vn a'r hugeinwaith saith o flynyddo∣edd. Dafydd gwedi iddo fyw ddengwaith saith o flynyddoedd. Felly y gwnaeth Galen, felly y gwna∣eth Petrarch, yr hwn (megis y mae Bodin yn scri∣fennu) a fu farw ar yr vn dydd or flwyddyn ac y ganesid. Felly y gwnaeth Elizabeth forwynaidd Frenhines, o fendigedig anfarwol goffadwriaeth, yr hon a ddaeth ir byd hwn noswyl genedigaeth y Fair Forwyn, ac aeth o'r byd a'r noswyl Cennadwri Mair Forwyn. [Hi fu gynt y mae hi 'r awrhon, (dyna ddwedyd i chwi ddigon) ar y ddaiar hon ym mhlae∣naf, a'r ail Forwyn o'r nef vchaf.] Hipocrates a fu farw yn y 15 seithweithflwydd. Hierom ac Isocra∣tes yn y 13. Plini, Bartolus, a Caesar yn yr 8 seith∣weithflwydd. A Johannes de temporibus, yr hwn 〈◊〉〈◊〉 fyw 361 o flynyddoedd, a fu farw yn y 53 se∣ithweithflwydd o'i enioes. Y cyffelyb a eilid ei nodi a'i adrodd am aneirif o rai eraill. Ac mewn gwi∣rionedd y mae holl fywyd dŷn wedi ei fesur wrth y Sabboth: Canys pa nifer bynnag a fyddo dŷn fyw yma o flynyddoedd, etto nid yw ei fywyd ond bywyd o saith o ddyddiau, gwedi eu hamlhau: felly yn y rhif saith y mae cyflawnder dirgelaidd, yr hyn ni ddichon ein dealltwriaeth moi amgyffred.

Yr holl oruchei dresniad hon ar Bethau rhyfeddol cyn fynyched bob yn saith, a'n rhybuddia ni i ddy∣fal fyfyrio am Sabboth bendigedig y seithfed dydd, i adnabod ac i addoli Duw yn y bywyd hwn: megis o Sabboth i Sabboth, y gallom ni gael ein cyfnewidio

Page 219

i'r tragywyddol Sabboth gogoneddus o hyfrydwch, a dedwyddwch, yn y bywyd sydd i ddyfod.

Wrth ystyriaeth yr hyn beth, hawdd y dichon vn dŷn ar a edrycho yn yr Histori Sanctaidd, ddeall fod holl yrfa a rhôd y byd, yn cael ei lywodra∣ethu, a'i ddarparu, megis mewn cadwyn o ra∣glûniaeth Duw, yr hwn sydd yn trefnu pob peth mewn rhif, mesur, a phwys. Yr holl amseroedd gan hynny, a fesurir wrth y Sabboth: mal na till amser a'r Sabboth byth gael moi gwaha∣nu, Na'i neillduo: Ac y mae 'r Angel yn tyngu Dad. 10.6. Y caiff y mesur hwn or amser bar∣hau, hyd na byddo amser mwyach. Ac megis y cafas y Sabboth ei osodiad cyntaf yn y llyfr cyntaf o'r Scrythyrau, felly y cafas ei ffursiad yn yr olaf: ac megis y mae y llyfr hwn yn Gwrantu yr dydd; felly y mae 'r dydd hwn yn vrddo y llyfr: yn gym∣maint a dadcuddio yr pethau sydd ynddo ar ddiwr∣nod mor sanctaidd, dadcuddiad yr Arglwydd ar ddydd yr Arglwydd. Dad. 1.10. Cyn hawsed iddynt gan hynny dynnu 'r Haul, neu 'r lleuad, a'r sêr allan o'r nefoedd, a deleu y Sabboth sanctaidd (llathen yr amser) allan o'r Eglwys: gan weled ordeinio y Sab∣both yn yr Eglwys (yn gystal ar haul ar lleuad yn y ffurfafen) er mwyn gwahaniaeth yr amser.

8. Oblegid i'r holl Eglwys trwy gyttundeb cyhoe∣ddus, er yn amser yr Apostolion, yn oestadol ddal bod gorchymmyn y Sabboth, yn foesol ac yn dragwyddol gyfraith Dduw, a bod cadw y Sab∣both ar y dydd cyntaf o'r wythnos yn osodiad o'r eiddo Crist a'i Apostolion.

Y Gymansa a elwid Synodus Coloniensis sy'n my∣negi, fod dydd yr Arglwydd yn barchedig yn yr Eglwys byth er amser yr Apostolion. Ignatius Es∣cob Antioch (yr hwn oedd yn byw yn amser St Joan) a ddywed, Cadwed pob un ar a garo Grist,

Page 220

ddydd yr Arglwydd yn sanctaidd, yr hwn sydd ogo∣neddus o herwydd ei adcyfodiad ef, a brenin y dy∣ddiau, yn yr hwn y gorchfygwyd Angau, ac i'r ad∣cyfododd bywyd i ni yn Ghrist. Justin Martyr, yr hwn oedd yn byw ychydig ar ei ôl yntau, sydd yn dangos fod y Christianogion yn cadw eu Sabbath ar ddydd yr Arglwydd, megis yr ydym ninnau. Ori∣gen, yr hwn oedd yn byw yn y 180 flwydd. ar ôl Christ, sydd yn dangos yr achos pam y cyfnewidi∣wyd y Sabboth i ddydd yr Arglwydd. Orig. Homi. 7, super Exo. Y mae Augustin yn dywedyd, dra∣ddodi dydd yr Arglwydd i'r Eglwys trwy adcyfodi∣ad yr Arglwydd ar y dydd hwnnw. Et ex illo coe∣pit habere festivitatem suam, Aug. de tem. serm. 251. sef o hynny y dechreuodd gael bod yn wyl, a Christ a ordeiniedd yn gyntaf ei gadw yn sanctaidd. Ac mewn mam arall, mai 'r Apostolion a archodd gadw dydd yr Arglwydd yn uchelwyl crefyddol, o blegid ar y dydd hwnnw, y cyfododd ein Jachawd∣wr oddiwrth y meirw, yr hwn hefyd o'r achos hon∣no a elwir dydd yr Arglwydd.

Megis gan hynny ei dywed Dafydd am ddinas Duw, Psal. 87.3. felly y ga••••af finnau ddywedyd am ddydd yr Arglwydd, Gogoneddus bethau a ddy∣wedir am danat ti o ddydd yr Arglwydd. Canys yr oedd yn ddydd genedigaeth ••••d, y dydd cyntaf yn yr hwn y dechreuodd creaduriaid gae bod. Yn∣ddo ef ei tynnwyd y Golenni allan o dywyllwch. Yn∣ddo ef ei rhoddwyd y gyfraith ar fyndd Sinai. Yn∣ddo ef y cyfododd yr Arglwydd o farwlaeth i fy∣wyd. Ynddo ef y cododd y Seinctiau allan ou be∣ddau, gan sicrhau mai arno ef y cyfodai Cristianogi∣on i newydd-deb buchedd. Ynddo ef y discynnodd yr Yspryd glân ar yr Apostolion. Ac y mae yn ddi∣gon cyffelybus, mai ar y seithfed dydd, pan vdcano 'r saith udoorn, y cwympa Jericho felldigedig y byd

Page 221

hwn, ac a rhyddd ein gwir Jesu i ni y meddiant addewidiol o wlad Canaan nefol. Josh. 6.16. Datc. 10.7.

Y neb a fynno weled cyfundeb yr hên amseroedd, ag arfer yr Eglwys o'r cynfyd yn hyn o beth, dar∣llenned Histori eglwsig Eusebius Lib. 4. Cap. 23. Tert. Lib. de Idololatria. Cap. 14. Chrys. serm. 5. de Resurrectione. Constit. Apostol. lib. 7. Cap. 37. Cy∣ril in Johan. Lib. 12. Cap. 58. o'r meddwl hwn y mae 'r holl iachus scrifennyddion newyddion: E∣drych Fox ar Apoc. 1.10. Bucer in Mat. 12.11. Gualt. in Malach. 3. Hom. 23. Fulk ar Testament Rhem. Apoc. 1.10. Chem. Exam. Con. Trid. Par. 4. De diebus festis. Wolph. Chronol. Lib. 2. Cap. 1. Armin. Thes. in 4. praecept. Ac aneirif o rai eraill. Juni∣us ddyscedig a gaiff ddywedyd tros y cwbl. Quam∣obrem cum dies Dominicus, &c. Am hynny gan weled fod dydd yr Arglwydd yn gystal trwy waith Crist (sef trwy ei adcyfodiad, ai synych yntddangho∣siad iw ddiscyblion ar y dydd hwnnw) trwy esampl a gosodiad yr Apostolion, a thrwy arfer oestadol hen brif-Eglwys, a hefyd trwy dystiolaeth yr Scrythy∣rau, wedi ei gadw a'i osod yn lle 'r Sabboth Judde∣waidd: inepte faciunt, y maent hwy yn gwneuthur yn ynfyd, y rhai a ddywedant mai o draddodiad yr y∣dis yn cynal dydd yr Arglwydd, ac nid o'r Scrythur, megis y gallont hwy yn y modd hwnnw, osod ar lawr a ffurfio traddodiadau dynion. Ac eilwaith, achos y cyf∣newid hwn oedd adcyfodiad Crist, a'r lleshâd o adferu 'r Eglwys trwy Grist. Coffadwriaeth o'r hwn leshâd a ddaeth yn lle coffadwriaeth o'r creadigaeth, Non humana traditione, sed Christi ipsius observa∣tione & instituto, nid trwy draddodiad dŷn, ond trwy osodiad ac archiad Crist, yr hwn yn gystal, ar ddydd ei adcyfodiad, ac ar bob wythfed dydd ar ol hynny, hyd oni dderchafodd i'r nef, a ymddanghosodd i'w

Page 222

ddiscyblion, ac a ddaeth iw cynnulleidfaoedd.

9. O blegid fod yr Arglwydd ei hun yn hyspy∣su mai diben neu 'r achos o'r Sabbath yw bod yn arwydd ac yn athrawiaeth dragwyddol rhyngddo ef ai bobl, mai efe yw 'r Jehovah trwy 'r hwn y San∣cteiddir hwynt, ac am hynny rhaid iddo ef yn unig gael ei addoli ganddynt: a than boen cospediga∣eth marwolaeth, y mae 'n gorchymmyn ei bobl yn dragywydd i gadw hyn o gossadwriaeth yn ddi-ha∣log. Exod. 31.13.14. Eithr y defnydd, a'r di∣wedd hwn sydd foesol a thragwyddol. Am hynny y mae 'r Sabbath yn foesol ac yn dragywyddol. y peth a sancteiddiodd Duw yn dragywydd, na ryfy∣ged un dŷn ei wneuthur yn gyffredin, neu yn haloge∣dig. Ar y sail hon, y mae 'r gorchymmyn yn ga∣lw y dydd hwn, Sabbath yr Arglwydd dy Dduw, ac y mae Duw ei hun yn ei alw ei ddydd sanctaidd. Ac ar yr unrhyw sail hefyd, y cyssegrodd yr hên De∣stament ei holl Sabathau, a'i ddydiau gwylion, i addoli, ac anrhydeddu Duw yn unig. Gosod Sab∣bath gan hynny er anrhydedd i nebryw greadur, sydd bechod gorthrwm, a ffiaidd ddelw addoliad. Canys y mae'r llech gyntaf yn ei wneuthur yn rhan o addoliad Duw, fod Sabbath i'w anrhydedd ef. Fe∣lly yn Levit. 23.3.37.38. &c. Ac yn Ezec. 20.20. Neh. 9.14. Y Sabbath a roddir ar lawr am holl addoliad Duw. Ac y mae ein Jachawdwr yn dyscu fod yn rhaid i ni addoli yr Arglwydd Dduw yn unig. Mat. 4. Am hynny cadw Sabbath er anrhy∣dedd i Dduw yn unig. Y mae 'r Yspryd glân yn adrodd ei fod yn un o bechodau mwyaf Jeroboam ddarfod iddo orchymmyn uchelwyl yn ol dychymyg ei galon ei hun. 1 Bren. 12.33. Ac y mae Duw yn bygwth ymweled a Israel a'm gadw dyddïau Baalim, hynny yw, yr Arglwyddi, megis y gwna 'r papistaid i'r Seinctiau, Hos. 2.13. a dywed fod y cy∣fryw

Page 223

yn ei anghofio ef. Ac mewn Gwirionedd nid oes neb lai ei gofal i gadw Sabbath yr Arglwydd, na 'r rhai sydd fwyaf eu hofergoelion i gadw gwyli∣au a dyddiau dynion. Am hynny mae Eglwys Rufain yn arferu gorthrwm ddelw-addoliad.

Yn gyntaf, wrth gymmeryd arni ordeinio Sab∣bothau, yr hyn sydd yn perthyn yn unig i Arglwydd y Sabbath i wneuthur.

Yn ail, wrth gyssegru y dyddiau gwylion hynny i anrhydedd creaduriaid, yr hyn sydd gymmaint a'i gwneuthur hwy yn dduwiau sancteiddiol.

Yn drydydd, gan rhwymo wrth y dyddiau hyn∣ny addoliad Duw, gweddiau, ympryd, a haedde∣gaeth.

Yn bedwerydd wrth ofyn ar y dyddiau hynny o ddychymygiad dŷn, fesur mwy o barch, a sanctei∣ddrwydd, nac ar ddydd yr Arglwydd, yr hwn a or∣chymynnodd Duw: yr hyn beth sydd o un essaith a pherchi Ang-hrist o flaen Crist. Ein Heglwys ni a ddiddymmodd ac a rodd heibio yn gyfiawn holl ddelw-addolaidd ac ofergoelaidd wyliau: ac y mae hi yn unig yn cadw ychydig ddyddiau Gwylion, er anrhydedd i Dduw ei hun, ac o ran esmwythder i wasanaethyddion. Deut. 5.14. Er bod defod er ys hir amser, yn ein trechu ni i arfer yr hên henwau er mwyn dosparth dinasol: megis yr arferodd St. Luc o enwau halogedig Castor a Phollux. Act. 28.11. a'r Christianogion o Ffortunatus, 1 Cor. 16.17. Mer∣curius, Rhuf. 16.14. a'r Juddewon o ddydd Mor∣dicheus 2 Macab. 15.37.

10. Yn ddiwaethaf, esamplau o farnedigaethau Duw ar drawseddwyr y Sabbath, â allai yn ollawl selio, a dwyn ar ddeall i'r rhai sydd a'i calonnau heb galedu, mor greulon y mae yr holl Alluog Dduw yn digio wrth yr rhai a halogant ddydd yr Ar∣glwydd yn ewyllyslawn.

Page 224

Yr Arglwydd (yr hwn sydd ffordd arall yn Dduw 'r drugaredd) a orchymynnodd labyddio i farwo∣laeth yr hwn (o'i feddwl rhyfygus) oedd yn cyn∣nutta ar y dydd Sabbath, Num. 5.32. Nid oedd y weithred ond bechan, gwir; ond yr oedd ei be∣chod yn fwy, am iddo (ar achos cyn lleied) ryfygu torri y fàth orchymmyn tramawr.

Nicaenor am iddo rysygu ymladd yn erbyn yr Juddewon ar y dydd Sabbath, a laddwyd ei hun a 35000 o'i wyr.

Llafurwr wrth falu ei ŷd ar ddydd yr Arglwydd, a gafas ei flawd wedi ei losci yn vlw.

Un arall yn dwyn ei ŷd ar y dydd hwn, a gafas ei yscubor a'r holl ŷd oedd ynddi wedi ei llosci gan dân o'r nefoedd, y nosson nessaf ar ol hynny. Desp. de tempore sermo. 117. Thom. cantipra lib. 2.

Hefyd rhyw wr ardderchawg, yr hwn oedd arferol ag halogi y Sabbath wrth helwriaeth, a gafas fab o'i wraig ac iddo ben yn debyg i ben ci, ac â chlustiau á gweflau, yn udo fel bytheiad.

Gwraig chwannog i'r byd; yn nyddu llîn yn Cing∣stat yn Ffraingc, oedran Crist 1559, wrth arfer gyd a'i morwynion o weithio ei chylfyddyd ar ddydd yr Arglwydd, fe a ymddanghosodd megis tân iddynt yn ennyn yn y llin, eithr heb wneuthur dim niweid: yr ail Sabboth ei llin a gymmerodd dân, ond fe a'i diffoddwyd yn hawdd: eithr a hi heb gymmeryd rhy∣budd er hyn, y trydydd Sabboth ei cymmerodd dân drachefn, ac a loscodd y tŷ, ac a ddeifiodd y wraig chwannog a dau o'i phlant, fel y buont feirw dran∣noeth: eithr trwy drugaredd yr Arglwydd, vn plen∣tyn a achubwyd yn ei grŷd ac a dynnwyd allan o'r tan heb losci.

Ar y 13 o Jonawr, oedran yr Arglwydd 1582, ar ddydd yr Arglwydd ym Mharis Garden yn llundain, yr yscaffaldiau a gwympodd dan y bobl, wrth ym∣arthlygu

Page 225

a'r Arth, fel eu lladdwyd wyth yn ddisy∣mmwth, ac aneirif a friwyd ac a anafwyd. Rhybudd i'r cŷfriw rai, a fyddo 'n cymmeryd mwy difyrrwch ar ddydd yr Arglwydd, o fod mewn chwaryddfau, yn gweled digrifwch cnawdol, na bod yn yr Eglwys yn gwasanaethu Duw ag ysprydol weithredoedd Duwioldeb.

Llawer o esamplau ofnadwy o farnediga∣ethau Duw o waith tân, yn ein dyddiau ni, a ddig∣wyddodd i lawer o drefi lle 'r ydoedd halogedigaeth dydd yr Arglwydd yn cael ei groesawn.

Stratfford ar Avon a ddifawyd gan mwyaf, ddwywaith gan dân; bob gwaith ar ddydd yr Argl∣wydd, sef ar y naill sul, fel pettau heddyw, ac ar gyfein ir vn dydd, ym mhen y flwyddyn drachefn; yn bennaf am halogi dydd yr Arglwydd, a diystyru ei Air yngenau ei weinidogion ffyddlon.

Teverton tref yn Defonsir (coffadwriaeth yr hon a bair im calon wylo o dosturi) oedd yn cael ei rhy∣buddio yn fynych gan ei Bigail bucheddol, y dan∣fonai Dduw ryw ddialedd trwm arni, am ffieidd∣fudr halogi dydd yr Arglwydd, yr hyn a ddigwydd∣ai yn bendant o achos bod ei marchnad ar y dydd oedd yn canlyn. Cyn pen hir o amser ar ol ei far∣wolaeth ef, ar y trydydd dydd o Ebrill, yn oedran yr Arglwydd 1598 y darfu i Dduw (mewn llai na hanner awr) ddifa â thân disymmwth dychrynadwy yr holl dref, ond yr Eglwys, y Dadleudy, a'r Elu∣sendai, neu ychydig o anneddau tlodion. lle galla∣sai ddŷn weled pedwarcant o dai cyfanneddol ar vn∣waith yn llosci, a mwy na dêg a deugain o ddynion wedi i'r flam eu difa. Ac yr awrhon eilwaith gwe∣di rhoi y llyfr hwnallan gyntaf, ar y pumed dydd o fîs Awst, 1612. (pedair blynedd ar ddêg ar ôl y waith gyntaf) yr enynnodd tân yn yr holl dref eil∣waith,

Page 226

ac ei difawyd, oddiethr dêg ar hugain o dai rhai tlodion, yr yscol, a'r elusendai. Y maent hwy yn waeth na deillion, y rhai ni chanfyddant fod bŷs Duw yn hyn o beth. Canniadhaed Duw iddynt ei râs y pryd yr adeiladont hi nessaf, i newid ei dydd marchnad, ac i symmud pob achosion o halogi dydd yr Arglwydd. Cofied trefi eraill dŵr Siloe: Luc. 3.4. a chymmeront rybudd wrth weled cospedi∣gaeth eu cymmydogion. Ofnont fygythiau Duw, Jer. 17.27. a chocliont brophwydi Duw os myn∣nant lwyddo. 1 Chro. 20.20. llawer o esamplau e∣raill o sarnedigaethau Duw, a ellir eu hadrodd, ei∣thr onid yw hyn yn ddigon, i ddychrynu dy galon rhag halogi yn ewyllyscar ddydd yr Arglwydd, dos rhagot yn dy halogedigaeth, fe a allai ei gwnaiff yr Arglwydd dydi yn ensampl nessaf, i ddyscu eraill i gadw y Sabboth yn well.

Y mae ef yn cospi rhai yn y bywyd hwn, i ddan∣gos y rhydd ef ei ddialedd yn y dydd diweddaf ar yr holl rai a drawseddo ei Sabboth yn ewylly∣slawn.

Fel hyn y dangosasom yn eglur, fod gorchymmyn y Sabboth yn ddefodol, a bod ei newid ef, o'r seith∣fed dydd i'r dydd cyntaf o'r wythnos, wedi ei osod trwy awdurdod Crist a'i Apostolion. Eithr fel wrth gyhoeddi 'r gyfrairh, y cyssylltwyd amryw Ceremo∣niau perthynol i'r Juddewon yn neilltuol, i beri i'r bobl hyny fod yn fwy gofalus i gyflawni 'r gyfraith: megis wrth y gorchymmyn cyntaf, eu gwarediad o'r Aipht, yn arwyddocau eu gwarediad hwy o vffern: at y pumed gorchymmyn, hŷd y dyddiau Yn Gha∣naan, yn argoel o fywyd tragwyddol yn y nefoedd: at y chweched gorchymmyn, dirwest oddiwrth waed, a phethau a dagwyd: yn arwyddo gafal i ymgadw oddiwrth bob math ar lofruddiaeth: ac at y gyfraith ei gyd, Ceremoni y lâs o femrwn, Num. 15.38. iw

Page 227

rhoi i feddwl ymgadw o fewn ymylau 'r gyfraith. Felly vn agwedd at y pedwerydd gorchymmyn y chwanegwyd rhai Ceremoniau a berthynent i'r Ju∣ddewon yn briodol, ac nid i bobl era••••l: megis yn gyntaf, y ddau offrwm gorchymynnedig iddynt ar y Sabboth, Num. 28.9, 10. i ddangos fel y myn∣nai Dduw ei wasanaethu â mwy anrhydedd ar y Sabboth, nac ar ddyddiau 'r wythnos: yn ail, y gor∣chymmyn caeth na chynneuid tân ar y dydd Sab∣both, na thrwfid bwyd, Exod. 35.2, 3. ac 16.23. ac na wneid neb ryw lafur corphorol, y ddau beth i ddwyn ar gof iddynt eu gwaredigaeth o'r ffwrn dân, a'i caethiwed yn yr Aipht, trwy arweiniad Moses ar y dydd hwnnw: a hefyd i arwyddocau iddynt ymwared tragywyddol eu heneidiau o dân vffern trwy farwolaeth Crist. Yn drydydd, cadw y Sab∣both ar y seithfed dydd vnion yn ôl trefn y creadi∣gaeth, gan arwyddocau i'r Juddewon, y deuai Grist, trwy ei farwolaeth (gan orphywys ar eu Sabboth hwynt yn y bedd) i beri iddynt lonyddwch a gor∣phywysdra oddiwrth faich ac iau y Ceremoniau cy∣freithiol, yr hon ni allodd ein tdau ni, na ninnau ei dwyn, Act. 15.10. Col. 2.16, 17.

A pha ddelw bynnac ym mharadwys cyn cwymp dŷn, nad ydoedd cadw y Sabboth ar y feithfed dydd o'r creadigaeth yn Ceremoni, eithr prawf o ber∣ffeithrwydd: etto yn ol y cwymp ef a aeth yn cere∣moniaidd, ac iw gyfnewid o herwydd yr adferiad trwy Grist. megis y daeth bywyd dŷn yr hwn o flaen y cwymp oedd anfarwol, ar ol hynny i fod yn farwol, a noethni yr hwn o'r blaen llaw oedd yn harddwch, a ddaeth yn gywilydd gwedi hynny: a Phriodas a ddaeth yn arwydd o'r dirgeledig vndeb sydd rhwng Crist a'i Eglwys, Ephes. 5. Ac i gyflaw∣ni y Ceremoniau (y hai er mwyn yr Juddewon a chwanegesid at y Sabboth) fe ddarfu i Grist yn ôl ei

Page 228

farwolaeth orphywys yn ei fedd holl ddydd Sab∣both yr Juddewon, ac wrth orphywys felly, efe a gyflawnodd yr holl Ceremoniaidd angwanegiadau hynny.

Yr awrhon, fel na ddarfu i ddyspeidiad o'r Cere∣moniau cyfylltedig at 1, 5, ar 6 gorchymynnion, ac at briodas, mo ddiddymmu y gorchymynnion hyn∣ny, na phriodas, mal na byddent yn ddosparthau tragywyddol o addoliad Duw a chyfiawnder dyn: ni ddarfu chwaith, i ddirymiad y Ceremoniau go∣sodedig at y Sabboth, ddiddymmu gweddeidd-dra y gorchymmyn am y Sabbath: felly er bod y Cere∣moniau wedi eu rhoi heibio, wrth ddyfodiad y Syl∣wedd: ar cyscod wedi cilio o ran i Grist y corph ei guddio: etto yr orphywysfa fanctaidd, yr hon a or∣chymnynwyd ac a gadwyd, cyn bod na'r Juddewon yn bobi, na 'r Ceremoniau hynny wedi eu cysylltu at y Sabboth, a barhâodd yn dragywyddol gyfraith Dduw, trwy 'r hon y mae holl hiliogaeth Addaf yn rhwymedig i orphywys oddiwrth eu gorchwylion cyffredinol, mal y gallont gwbl dreulio pob seith∣fed dydd mewn cyhoedd anrhydedd a gwasanaeth yr vnig Dduw, eu Creawdwr, a'i Gwaredydd: eithr yn syiwedd y pedwerydd gorchymmyn ni chrybwy∣llir am yn mâth ar Ceremoni.

Y Dadleuon pennaf, yn erbyn defod y Sabboth ydynt dri.

1. Geiriau St Paul at y Galatiaid, cadw yr y∣dych ddiwrnodau a misoedd, ac amseroedd, a blyny∣ddoedd, &c. Gal. 4.10. Eithr nid yw yr Apostol yno yn condemnio neu yn beio ar y Sabboth Moesol, yr hwn a lwn ni dydd yr Arglwydd: a'r hwn a or∣deiniasai ef ei hun, yn ôl gorchymmyn Crist, yn yr Eglwysi hynny o Galatia, a Chorinth, ac a gadwasai ei hun mewn Eglwysi eraill, 1 Cor. 16.1. ac 14.37. Act. 20.7. eithr y mae ef yn dywedyd am ddyddi∣au,

Page 229

am amseroedd, a blynyddoedd yr Juddewon, ac am gadw y Sabboth ar y seithfed dydd yn ô y creadigaeth, yr hyn y mae ef yn ei alw cysgodau pethau i ddyfod, gwedi eu diddymmu yn awr trwy Grist y corph; ac yn y gyfraith hwynt a elwir Sab∣bothau, eithr gwedi eu gwahanredu oddiwrth y Sab∣both Moesol, Col. 2.17. Levit. 23.37, 38.

2. Geiriau St Paul at y Colossiaid, sef, Am hyn∣ny na farned neb arnoch chwi am fwyd neu am diod, neu o ran dydd gwyl, neu newydd loer, neu Sabbo∣thau, Col. 2.16. eithr y mae 'r Apostol yn meddwl Sabbothau Ceremoniaidd yr Juddewon, megis o'r blaen.

3. Yr hyn a scrifennodd yr vnrhyw Apostol at y Rhufeiniaid, sef, y mae vn yn barnu diwruod vwch∣law diwrnod, ac arall yn barnu pob diwrnod yn ogy∣fuwch, &c. Rhuf. 14.5.

Eithr nid yw St Paul yn gwneuthur dim o'r fâth gyfrif, canys nid yw y ddadi yno rhwyng yr Idde∣won a'r cenedloedd, eithr rhwng y Cristianogion cry∣fion a'r gweiniaid, Rhu. 15.1. Y rhai cryfion oe∣ddynt yn cyfrif y naill ddydd vwchlaw 'r llall, me∣gis y mae yn ymddangos wrth fod dydd wedi ei or∣chymmyn, a'i gadw yn yr Eglwys, ym mhob man yn adnabyddus, a pharchedig with yr enw hwn, sef dydd yr Arglwydd. Ac am hynny mae St Paul yn dywedyd yma, yr hwn sydd yn ystyried ý diwrnod hwn ir Arglwydd y mae yn ei ystyried. Ystyried yr hwn, o herwydd cyfnewid seithfed dydd yr Juddewon, rhai Cristianogion gweinion (fel llawer heddyw) a dybient nad ydoedd angenrheidiol: felly onis myn gwyr (o achos diddymmu dydd yr Juddewon) an∣rhydeddu a chadw yn sanctaidd ddydd yr Arglwydd, eithr ei gyfrif fel diwrnod arall: y mae hyn (medd yr Apostol) yn argoel o'i gwendid hwy, a hynny sydd raid cyd-ddwyn ag efo, nes eu caffont hwy am∣ser

Page 230

i gael eu hathrawiaethu ym mhellach yn yr iawn. Pob dadl arall a wrthwynebo y gorchym∣myn hwn nid yw ond ofer, ac ni thâl moi atteb.

Yr union fodd o gadw yn sanctaidd ddydd yr Arglwydd.

YR awrhon sancteiddiad y Sabbath sydd yn se∣fyll mewn dau beth. Yn gyntaf, yn gorphy∣wys oddiwrth bob gwaith a gorchwyl cyffredinol, ar a berthyno i'n bywyd anianol ni.

Yn ail, yn cyssegru yr orphywysfa honno yn gwbl ollawl i wasanaethu Duw, ac i arfer y moddion san∣ctaidd, y rhai a berthynant i'r bywyd ysprydol.

Am y cyntaf.

Y gweithiau, a'r gorchwylion sydd raid i ni bei∣dio â hwynt, ydynt yn gyffredin holl ddinasol a gwle∣dig drafferthion, o'r lleiaf hyd y mwyaf. Exod. 31.12, 13.29, 30.

I hysbysu yn eglurach:

Ymattalier Yn gyntaf, oddiwrth holl weithre∣doedd ein galwedigaeth hyd yn oed medi amser cynhaiaf.

Yn ail, oddiwrth ddwyn beichiau, a phynnau, megis y mae 'r Carwyr: neu farchogaeth allan o ran elw neu ddifyrrwch: fe a orchymynnodd Duw eu cai yr anifeiliaid orphywys ar y dydd Sabboth, fel y torrid ymmaith oddiwrth ddyn bob achos o ymdeithio, ac o lafurio gyd á hwynt. Deut. 5.14. Exod. 34.21. Jer. 17.21, 22, 27. Y mae Duw yn cennadu iddynt hwy lonyddwch a'r y dydd hwnnw, a'r sawl heb anghenrhaid, sydd yn dwyn eu llonyddwch oddi arnynt ar ddydd yr Argl∣wydd, fe fydd gruddfanau yr anifeiliaid lluddedig truein yn codi yn y farn yn nydd yr Arglwydd yn

Page 231

eu herbyn. Rhuf. 8.22. Un agwedd yw y rhai sydd yn treilio y rhan fwyaf or dydd hwn yn eu trw∣sio, au paintio au porthi eu hunain, megis Jesabel, gan wneuthur gwaith y cythraul ar ddydd Duw.

Yn drydydd, oddiwrth gadw ffeiriau a march∣radoedd, yr hyn beth yn amlaf y mae Duw yn ei gospi â phlá heintus, tân, neu lifeiriant aruthrol.

Yn bedwerydd, oddiwrth fyfyrio ar lyfrau, neu gelfyddyd, oddieithr ar yr Scrythyrau Sanctaidd, a Duwioldeb. Canys y mae 'n rhaid i ni geisio bod yn draserchog yn yr yspryd ar ddydd yr Arglwydd. I fod yn fyrr, y mae 'n rhaid i ti y dydd hwnnw adael ymmaith bob gorchwyl yn dy alwedigaeth, megis ei gallo yr Arglwydd wrth ei alwad ef wneuthur ei waith ef ynot. Canys ni fendithia 'r Arglwydd ddim ar a ynnillir wrth orchwyl cyffredin ar y dydd hwn: eithr fe brifia megis aur Achan, yr hwn o her∣wydd ei gael yng-wrthwyneb gorchymmyn yr Ar∣glwydd, a ddug felldith Dduw ar y cwbl arall a gas∣clesid yn gyfreithlawn. Ac os darfu i Grist fflan∣gellu ymmaith megis lladron, y rhai oeddynt yn gwerthu ac yn prynu yn y Deml, yr hon nid oedd ond Ceremoni iw diddymmu ar fyrr: a ellir tybied y cynnwys ef y rhai hynny i ddiangc yn ddigerydd, a fyddo yngwrthwyneb ei orchymmyn, yn pry∣nu, ac yn gwerthu ar y Sabboth, yr hwn yw ei gy∣fraith dragywyddol? Crist sy 'n galw 'r cyfryw yn gyssogr-yspeiwyr; ac hwy allant yn gystal ledratta y Caregl oddiar Fwrdd yr Arglwydd, a dwyn oddiar Dduw y rhan fwyaf o ddydd yr Arglwydd iw dreilio, a'i fwrw heibio, yn eu trachwantau eu hunain. Fe gaiff y cyfryw rai ryw ddydd weled, fod Barnedi∣gaethau Duw yn drymmach nac y mae dynion yn meddwl eu bod.

Yn bumed, oddiwrth bob dfyrrwch, a digrifwch, y rhai ydynt gyfreithlawn amser arall: Canys o∣ni

Page 232

ddylid gwneuthur gorchwylion cyfreithlawn ar y dydd hwn, hytrach o lawer y dylem ymgadw oddi∣wrth ein difyrrwch cyfreithlawn, yr hwn sydd yn dwyn ymmaith ein serch, a'n hewyllys oddiwrth fy∣fyrio pethau nefol yn fwy nac vn weithred neu lafur corphorol. Esay. 58.13.14. Canys ni all fod i ddŷn sydd yn ymddigrifo yn yr Arglwydd, Psal. 37.4. Vn difyrrwch nac hyfrydwch mwy, na san∣cteiddio dydd yr Arglwydd. Canys a ddichon fod mwy gorfoledd i ddŷn a fyddaî wedi ei euogfarnu, na chael dyfod i lŷs ei Dywysog i gael ei bardwn, a'i faddeuant yn seliedig? neu i vn a fyddai glwyfus anescorol, na chael dyfod at y Physygwr a allai ei iachau ef? neu i fab afradlon a fuasai yn ymborthi ar y mês gyd a'r Môch, na chael ei gynnwys i ddy∣fod i fwytta bara y Bywyd ar Fwrdd ei Dâd? neu i'r hwn o herwydd ei bechod sydd yn ofni clywed sôn am farwolaeth, na chael clywed diogelwch oddi∣wrth Dduw am fywyd tragywyddol? Os wyt yn canniadhau difyrrwch i't dy hun, neu i'th wâs, can∣niadhâ hynny yn vn o'r chwe diwrnod, y rhai sydd eiddot ti, nid ar ddydd yr Arglwydd, yr hwn nid yw eiddo i ti nac iddynt hwythau. Nid oes gan hynny, vn difyrrwch corphorol iw arferu, oddieithr yr hyn a allo ddiddanu 'r enaid i wneuthur gwasa∣naeth yr Arglwydd yn fwy cyssurus.

Yn chweched, oddiwrth fwyta yn drwm, neu y∣sed gormodedd o wîn, neu ddiod gref, yr hyn a ddi∣chon ein gwneuthur ni yn syfrdanllyd, ac yn ang∣hymmwys i wasanaethu Duw a'n calonnau, ac a'n medddyliau. Eph. 5.18. Deut. 28.47.

Yn seithfed, oddiwrth bob siarad am bethau by∣dol, yr hyn a luddias sancteiddio 'r Sabboth, yn fwy na gweithio, gan weled ei gall dŷn weithio ei hun, eithr na all siar ad ond gyd a'g vn arall. Esa. 58.13.

Page 233

Yr hwn sydd yn cadw y Sabboth yn vnig wrth orphy∣wys, sydd yn ei gadw ef megis anifail. Canys gor∣phywysfa ar y dydd hwn a orchymynnwyd i Gristia∣nogion cyn belled, ac y byddo yn gynnorthwy i san∣cteiddrwydd: a gwaharddwyd gwaith cyn belled ac y mae yn rhwystr i addoliad Duw oddifewn ac oddi∣allan.

Os ydyw gan hynny pob arferion o ddifyrrwch, y rhai ydynt gyfraithlawn amser arall, heb fod iw cynnwys ar y Sabboth; bytrach o lawer y mae pob rhai ydynt anghyfreithlawn bob amser arall, yn oll∣awl yn waharddedig. Pwy yn ddi-alaeth a ddichon oddef gweled Cristianogion yn cadw dydd yr Argl∣wydd, megis pe baent yn cynnal digwyl ac yn arl∣wyo Gwlêdd i Bacchus, ac nid i anrhydedd yr Argl∣wydd Jesu, Jachawdwr a Phrynwr y byd? O ble∣gid wedi eu gwasanaethant Dduw vn awr fach i ym∣ddangos yn dêg oddiallan, y maent hwy yn treulio y darn arall o ddydd yr Arglwydd, yn eistedd i lawr i fwyta ac i yfed, ac yn cyfodi i chwaren: 1 Cor. 10.7. Exod. 32.6.18.19. Yn gyntaf ymdorlwythant â bwyd a diod, ac yno porthant en trachwantau a chwaryddiaeth a dawnsiau. Yn erbyn y cyfryw halo∣gedigaeth, y mae 'r holl Athrawon Sanctaidd, yn gystal yr rhai hên a'r newydd, yn tystiolaethu ac yn beio yn drachwerw: yn gymmaint a bod Augustin yn gwirio mai gwell yw aredig na dawnsio ar y dydd Sabboth. Aug. in tit. Psal. 91.

Yr awrhon yn enw yr Hollalluog Dduw, yr hwn a orphywysodd yn ol creu nefoedd a daiar: ac yn enw ei dragywyddol Fab Jesu, prynwr ei Eglwys, yr hwn ar fyrr a farna yr holl ddynion, yn ôl yr vfudd-dod a ddangosasont i'w orchymynnion ef: yr wyf yn er∣chi i ti, yr hwn wyt yn darliain y geiriau hyn, megis y byddo i ti atteb ger bron wynepryd Crist a'i holl Angelion Sanctaidd y dydd hwnnw, gyd-bwyso, ac

Page 234

ystyried, pa vn a wna dawnsio, chwareu interlud, chwareu mwm, cardiau, tabler, towlbwrdd, Bow∣lio, saethu, chwareu tenis, arthlygu 'r Arth, cwm∣pniaeth, carowsio, a'r cyfryw arferion ynfyd o Robin Hood, moris-dawnsiau, gwyl mab-sannau, chwa∣reuon Mai, a'r cyffelyb, a'i bod yn orchwylion i Dduw i roi ei fendith arnynt, ac iw cynnwys ar y dydd Sabboth, a'i nad ydynt. A chan weled na ddylid gwneuthur un weithred ar y dydd hwn, oddieithr y cyfryw a fyddo i foliannu Duw, neu 'r cyfryw ac y gallom ddisgwyl bendith Dduw arni; Pa fodd y me∣iddi di wneuthur y pethau hynny ar y dydd bendi∣gedig hwnnw, ar y rhai ni feiddi di erchi i Dduw gan∣niadhau ei fendith iw mwynhau? Clyw hyn a dy∣chryna o ienctid halogedig o'r oes halogedig!

O galon rewlyd, gwbl ddi-ystyr a gwâg o râs Duw! yr hon gan fod bob dydd o chwech, bob awr ym mhob dydd, bob munyd ym mhob awr, yn cael archwaethu trugaredd dy Dduw yn Ghrist, heb yr hwn, bob munyd y buasit yn diflannu! Etto ni chly∣wi di yn dy galon ewyllys i allael treilio yr vn diwr∣nod hwnnw o'r wythnos, yngwasanaeth dy Feistr, yr hwn a gadwodd ef iw addoliant a'i foliant ei hun. Rhodded dynion ar lawr yr escusion a fynnont, er mwyn ymddiffyn eu halogedigaeth; ac attebont beth bynnac a roddo 'r cythraul yn eu pennau; etto mi ddymunwn arnynt gofio, gan weled mai hên dra∣ddodiad yn yr Eglwys ydyw [Lactan. lib. 7. c. 1.] Y bydd ail ddyfodiad yr Arglwydd ar ddydd yr Argl∣wydd, leied gorfoledd y fae iddynt gael eu goddiwes yn arferu cnawdol ddifyrrwch i ryngu bodd iddynt eu hunain, pyd y byddo eu Meistr hwy yn disgwil eu cael yn ei wasanaethu ef mewn gorchwylion ac arferion ysprydol. Fe ddymunai 'r adyn mwyaf ha∣logedig y pryd hynny yn hytrach gael ei ddal ar ei li∣niau yn gweddio yn yr Eglwys, nag megis gafr yn

Page 235

crychneittio yn y dawns. Oni ddichon hyn eu cyn∣hyrfu, mi ddymunwn etto ar ein rhai gwychion am∣mur feddwl, pan fyddont yn dawnsio ar ddydd yr Arglwydd, yngwrthwyneb gorchymyn yr Argl∣wydd, nad ydynt ond dawnsio ar fîn y pwll; ac na wyddant pa vn gyntaf o honynt a syrth i mewn. I'r hwn yn ôl iddynt gwympo vnwaith heb edifeirwch, ni all mawredd yn y byd eu hachub oddiwrth ddi∣al y Duw mawr, gorchymmyn yr hwn yngwrth∣wyneb eu gwybodaeth a'i cydwybod, yr oeddynt hwy mor rhyfygus yn ei drawseddu. Oni all gan hynny orchymmyn Duw moth ddychrynu di, na gair Duw moth gynghori di, Ni ddywedaf fi ddim ond y peth a ddywedodd St Joan om blaen i, yr hwn sydd frwnt bydded frwnt etto. Dad. 22.11.

Am yr ail.

Cyssegriad gorphywysfa 'r Sabboth sydd yn sefyll, yn cyflawni tri math ar ddyledion: yn gyntaf, cyn: yn ail, ar: yn drydydd, gwedi gorchwylion cyffredin yr Eglwys.

Y dyledion i'w cyflawni cyn y gwasanaeth cyffredin, ydynt.

1. Noswylio mewn pryd y noson o'r blaen, megis y byddo dy gorph yn ddiflinach, a'th feddwl yn gymmwysach i sancteiddio 'r Sabboth drannoeth. Canys o ddiffyg y parodrwydd hwn, tydi dy hun a'th weision pan fyddoch lluddedig gan lafur a gwi∣lio y nos o'r blaen, a fyddwch mor bendrymmion, y pryd y dylech fod yn gwasanaethu Duw, ac yn gwrando beth a ddywaid ei Yspryd ef wrth yr Eg∣lwys o ran athrawiaeth i'ch eneidiau, Dad. 2.3. Na byddwch yn gallael dal mo'ch pennau i fynu gan gyseu: i ddianrhydedd Duw, tramgwydd yr Egl∣wys, a gwradwydd i chwi eich hunain. Am hynny y mae 'r Arglwydd yn gorchymmyn i ni, nid yn v∣nig gadw yn sanctaidd; eithr hefyd ym mlaen llaw

Page 236

cofio y dydd Sabboth i'w gadw yn sanctaidd, gan ba∣rotoi ein calonnau, a rhoi heibio bob peth a'n rwystro ni iw gadw ef yn ddydd gogoneddus i'r Arglwydd. Esay. 58.13. Am hynny lle mae 'r Arglwydd yn y gorchymynnion eraill, naill ai yn erchi gwneuthur, neu beidio a gwneuthur: y mae ef yn rhoi y ddau ar lawr yn y gorchymmyn hwn, a hynny trwy Me∣morandum [sef cffad] hynodol. Megis pe bai Feistr yn rhoi siars a gorchymmyn i'w was am e∣drych yn dda ac yn fanwl at ddeg o bethau mawri∣on; eithr i fod yn fwy gofalus i gofio vn o'r dêg hyn∣ny yn enwedig, er mwyn amryw resymmau dyfni∣on: Oni ddylai wâs styddlon a garai ei festr, ddan∣gos mwy gofal hynod am y peth hwnnw, nac am yr holl orchwylion erall?

Fel hyn yr oodd Moeses yn dyscu y bobl dros nôs i gofio 'r Sabboth: Exod. 16.23. Ac yr oedd hi yn ddefod ac arfer sanctaidd ym mhlith ein henafiaid, pan genid y glôch osber ar y noswyl o'r baen, fe a ymadawai 'r llafurwr a'i orchwyl yn y maes, a'r Crefftwr a'i gylfyddyd yn ei fŵth, ac aent i'r Eglwys i brydnawnol weddi i baratoi eu heneidiau; mal y gallal eu meddyliau fod yn siriolach i addoli Duw ar y dydd Sabboth,

2. I feddiannu y noson honno dy lestr dy hun mewn sancteiddrwydd ac anrhydedd: 1 Cor. 7.5. Megis y gellych di roi dy enaid yn anrheg burach yng-olwg Duw y borau dranoeth.

3. I godi yn blygeiniol y boreu ddydd Sabbath. Bydd ofalus gan hynny i godi yn foreuach ar y dydd hwn, nac ar y dyddiau eraill: yn gymmaint ac y mae gwasanaeth Duw iw roi o flaen trafferthion bydol: O herwydd nad oes vn Meistr iw wasanaethu cystal a Duw; ac yn y diwedd, nid oes well cyflog yn y byd iw gael, nac am ei wasanaeth ef.

4. Pan fyddych gwedi codi, ystyria wrthit dy

Page 237

hun pa ryw bechadur aflan wyt; ac i ba gyfryw le sanctaidd yr ydwyd yn myned i ymddangos, sef ger bron y gwir Dduw sanctaidd, yr hwn sydd yn gwe∣led y galon, ac yn casau pob amhuredd a rhagrith. Ymhola â thydi dy hun gan hynny cyn i ti gychwyn i'r Eglwys, pa bechodau trymmion a wnaethost yr wythnos a aeth heibio; cyfaddef hwynt oll o flaen Duw, ac yn ddifrifol gweddia am gael maddeuant am danyn, ac felly gwna dy gymmod dy hun â Duw yn Ghrist. Adneŵydda dy addunedau i fyw yn fwy cydwybodus, a gweddia am ychwanegu y doniau a roddwyd i ti, ac am roddi i ti y rhai sydd arnat ti eu heisiau. Eithr yn enwedig gweddia am râs i wrando gair Duw yn fuddiol wrth glywaid ei ddarllen a'i bregethu, a gallael o honot dderbyn y Sacrament sanctaidd yn gyssurus (os dydd i gym∣muno a fydd:) a gweddia ar i Dduw a'i Yspryd glân gynnorthwyo y pregethwr, i adrodd rhywbeth i ladd dy bechod, ac i gyssuro dy enaid: Col. 4.3. Yr hyn a elli di ei wneuthur yn y modd hyn, neu 'r cyfryw.

Boreuol weddi ar y dydd Sabboth.

O Arglwydd goruchaf, O Dduw tragwyddol, yr hwn sydd a'i holl weithredoedd yn ogone∣ddus, a'i Feddyliau yn ddyfnion: Ni ddichn bod dim well na moliannu dy enw, a datcan dy drgareddau yn y borau, ar y sanctaidd a'r bendigedig ddydd Sab∣both. Canys dy cwyllys a'th orchymmyn yw, i ni sancteiddio y dydd hwn yn dy foli a'th wasanaethu: ac i ddwyn ar gôf yn ddiolchgar, yn gystal am grea∣digaeth y byd trwy allu dy Air, a gwaredigaeth dynawl ryw trwy farwolaeth dy Fab. I ti Argl∣wydd (yr wyf yn cyfaddef) y mae Mawredd, a gal∣lu

Page 238

a gogoniant, a goruwchafiaeth, a harddweh: Ca∣nys y cwbl yn y nefoedd, ac yn y ddaiar sydd eiddot ti: y deyrnas sydd eiddo ti Arglwydd, yr hwn hefyd a ymdderchefaist yn ben ar bob peth. Cyfoech hefyd ac anrhydedd a ddeuant oddi wrthit ti, a thi sydd yn arglwyddiaethu ar bob peth, ac yn dy law di y mae nerth, a chadernid; yn dy law di hefyd y mae maw∣rhau, a rhoddi grâs i bawb. Yr awrhon am hynny O fy Nuw, y moliannaf dy enw sanctaidd: oher∣wydd lle yr oeddwn i bechadur truan gwedi annog dy anfodlonrhwydd a'th ddigofaint cyn fynyched, er hynny o'th rad a'th ddaioni (heb ddal sulw ar fy halogedigaeth a'm gwendid) ryngu bodd it ychwa∣negu y Sabboth hwn at rif fy nyddiau. Rhynged bodd it hefyd, O Dâd nefol, er mwyn haeddedi∣gaethau Jesu Grist dy Fâb, (adcyfodiad gogoneddus yr hwn y mae 'r holl Eglwys heddyw yn ei glodfo∣ri) faddau a gollwng dros góf, fy holl bechodau am camweddau. Yn enwedig O Arglwydd, glanhâ fy enaid oddiwrth y pechodau bryntion hynny, â gwaed dy bur oen gwirion di-frycheulyd, yr hwn sydd yn tynnu ymmaith bechodau y byd. A phâr i'th Ys∣pryd sanctaidd, farwhau fwyfwy fy llygredigaethau, megis i'm adnewydder ar lun dy ddelw di, i'th wa∣sanaethu di mewn newydddeb buchedd a sanctei∣ddrwydd o ymarweddiad. Ac megis y, darfu i ti o'th trugaredd fynghadw i yn ddiangol hyd ddechreu ydydd bendi∣gedig hwn: felly yr wyf yn ymadol∣wyn it, ei wneuthur yn ddydd cym∣mod rhwng fy enaid pechadurus a'th ddwywawl Fawrhydi. Dôd i mi râs i'w wneuthur yn ddydd o edifeirwch tuag attat ti, fely byddo dy ddaioni yn ei selio ef yn ddydd o faddcuant i mi: ac fel y gallwyf gofio mai

Page 239

cadw yn sanctaidd y dydd hwn, yw 'r gorchymmyn ascrifennodd dy fŷs dy hun: Megis ei gallwn i ar y dydd hwn fyfyrio ar weithredoedd gogoneddus ein creadigaeth, a'n prynedigaeth; a dyscu y modd i ad∣nabod, ac i gadw y cwbl eraill o'th cyfreithiau, a'th orchymynnion sanctaidd. Ac yn y man, pan fy∣ddwyf ym mhlith y gynulleidfa sanctaidd, yn ym∣ddangos yn dy dŷ ger bron dy wyneb, i offrwm it ein boreuol aberth o foliant a gweddi; ac i wrando beth a lefara yr yspryd (ym mhregethi ad dy air) wrth dy wâs; O na âd i'm pechodau sefyll megis cwmmwl i attal fyngweddiau, rhag derchafu attat ti; neu i gadw yn ôl dy râd rhag descyn trwy dy air yn fy∣nghalon. Myfi a wn O Arglwydd, ac yr wyf yn crynu wrth feddylied, fod tair rhan o'r hâd da yn syrthio mewn tir drwg. O na âd i'm calon i fod yn deb yg i'r ffordd fawr, yr hon trwy galedwch ac eisiau gwir ddealltwriaeth, nid yw yn derbyn mor hâd nes dy∣fod yr vn drwg a'i ddwyn ymmaith: nac yn de∣byg i'r tir creigiog, yr hwn sydd yn gwrando yn llawen tros amser, eithr yn cilio cyn gynted ac y codo, na phrofedigaeth, nac erlid er mwyn dy Efengyl di: nac yn debyg i'r tîr dreini∣og, yr hwn gan ofalon y byd a melyswedd buchedd a daga yr hâd megis nas gallo ddwyn ffrwyth i berffei∣thrwydd: Eithr yn debyg i'r tîr da, y byddwyf â cha∣lon hawddgar gydwybodus, yn gwrando dy air, ac yn ei ddeall a'i gadw, ac yn dwyn ffrwyth trwy ammy∣nedd, yn y mesur y gwelo dy ddoethineb fod yn gyns∣hesur er mwyn dy ogoniant di, a'm diddanwch tragwyddol innau. Agor hefyd yr wyf yn attolwg it O Argl∣wydd ddrws yr ymadrodd ith wâs, yr hwn a anfonaist attom ni i agoryd ein llygaid, ac i'n troi o dywyllwch i oleuni, ac o feddiant Satan at Dduw; fel y derbyniom faddeuaut pechodau, a chy∣fran

Page 240

ym mysc y rhai a sancteiddwyd trwy ffydd yn Ghrist. A dyro i mi râs i ymostwng fy hunan at ei Weinidogaeth ef, yn gystal pryd y byddo yn fy nych∣rynu i â Barnedigaethau, a phan fyddo yn fy ni∣ddanu i a'th Trugareddau di. Ac fel y byddwyf yn rhoi fyn-rhaserch arno er mwyn ei orchwyl; O blegid ei fod yn gwilio tros fy enaid, megis vn a fydd raid iddo roddi cyfrif am dano i'w Ar∣glwydd. Dyro i mi râs i'm ymddwyn fy hun ym mhlith y gynulleidfa sanctaidd mewn gweddeidd∣dra, a pharch, megis yn dy ŵydd di, ac yng∣olwg dy Angelion sanctaidd. Cadw fi rhag syr∣thni a chyscu, ac rhag holl feddyliau gwib-grwy∣drus, a bwriadau bydol: sancteiddia fyng-hôf me∣gis y byddo yn gymmwys i dderbyn, ac yn hydda i gofio yr holl athrawiaethau buddiol daionus, a ddys∣cir i ni allan o'th Air di. Ac fel y gallwyf trwy gynnothwy dy Yspryd glân arferu yr addysg ar modd∣ion hynny, i'm hyfforddi mewn hawddfyd, am cyssuro mewn cystudd, er mwyn gwellhau fy mu∣chedd, a rhoi gogoniant i'th enw. A bod y dydd heddyw, yr hwn y mae dynion anuwiol halogedig yn ei dreilio yn eu difyrrwch a'i trachwantau eu hu∣nain, i mi (megis vn oth wasanaethwyr ffyddlon) allael dirfawr ymhyfrydu yn ei gysegru ef I'th anrhydedd a'th ogonedd di, heb wneuthur fy ffyrdd fy hun, na cheisio fy ewyllys fy hun, na dywedyd fyng-eiriau fy hun. Eithr gan roi heibio yn gystal gweithredoedd pechod, a gweithredo∣edd fyngalwedigaeth gyffredinol, y gallwyf trwy dy râs d, glywed yn fynghalon ddechreuad y Sabboth trag∣wyddol, yr hwn mewn llawenydd a gor∣foledd anraethadwy a gaf fi ei gysse∣gru gyd a'th Seinctiau a'th Angelion,

Page 241

i'th foli a'th addoli yn dy deyrnas nefol yn dragywydd. Yr holl bethau hyn yr wyf yn dra∣gostyngedig yn ymbil am danynt, yn enw a chyfryng∣dod ein Harglwydd Jesu, yn y ffurf ar weddi a ddys∣codd ef i ni.

Ein Tâd yr hwn wyt, &c.

Gwedi i ti fel hyn baratoi dy enaid dy hun o'r neilldu, os oes ofal tŷ a thylwyth i ti galw dy deulu yng-hyd, darllain bennod, a gweddia megis yn ny∣ddiau yr wythnos: Eithr cofia ddibennu yr baratoad, ar dyledion neilltuol hyn, fel y gellych di a'th Deu∣lu fod yn yr Eglwys cyn dcchreu y gweddiau. Onid ê fe ddichon eich neillduol arferion fod yn rhwystr ac nid yn barotoad. A thra fyddych di (a'th teu∣lu) mewn hollhawl barch yn myned tu ar Eglwys myfyried pob vn fel hyn wrtho ei hunan.

Pethau i'w myfyrio wrth fyned i'r Eglwys.

1. DY fod yn myned i lŷs yr Arglwydd, ac i le∣faru wrth y Duw Mawr mewn gweddi; ac i glywed ei Fawrhydi yn llefaru wrthit tithau yn ei Air: ac i dderbyn ei râd a'i fendith ar dy enaid, a'th lafur-onest, yr hyn a wnaethost yn y chwe' di∣wrnod a aethant heibio.

2. Dywed wrthit dy hun hyd y ffordd; Fel y bre∣fa 'r hŷdd am yr afonydd dyfroedd: felly 'r hirae∣tha fy enaid am danat ti ô Dduw. Sychedig yw fy enaid am Dduw, am y Duw byw: pa bryd y deuaf, ac yr ymddangosaf ger bron Duw? Canys gwell yw diwrnod yn dy gynteddau di, na mil yn lle arall: dewiswn eistedd wrth y rhiniog yn nhŷ fy Nuw, o flaen rigo ym-mhebyll annuwioldeb. Am hynny min∣••••u a ddeuaf i'th dŷ di yn amlder dy drugaredd, ac

Page 242

a addolaf tu a'th Demlsanctaidd yn dy ofn di, Psal. 5.7. ac 42.1, 2. ac 84.10.

3. Ar dy fynediad i mewn i'r Eglwys dywed, mor ofnadwy yw y lle hwn? nid oes yma onid tŷ i Dduw, ac dymma borth y nefoedd, diau fod Duw yn y fan hon, y mae 'r Arglwydd yn ddiammau gyd a'r bobl yma. Gen. 28.16, 17. 1 Cor. 14.25. A chan ymostwng a'th wyneb tu ar llawr wedi y del∣ych i'th le, dywed: O Arglwydd hoffais drigfan dy dŷ, a lle presswylfa dy ogoniant. Vn peth gan hyn∣ny a ddeisyfiais i gan yr Arglwydd, hynny a geisiaf, sef caffel trigo yn nhŷ 'r Arglwydd holl ddyddiau fy mywyd i edrych ar brydferthwch yr Arglwydd, ac i ymofyn yn ei Deml: am hynny 'r aberthaf yn ei babell ef ebyrth gorfoledd: canaf, ie canmolaf yr Arglwydd. Clyw o Arglwydd fy llyferydd, tru∣garhâ hefyd wrthif, gwrando arnaf, pan lefwyf arnat. Daioni, a thrugaredd yn ddiau am canlynant, oll ddyddiau fy mywyd, a phresswyliaf yn hŷ 'r Argl∣wydd yn dragywydd. Ac fel dyma y parodrwydd ar gwilio ar ein traed yr oedd Salomon yn ei gyn∣ghori i ni ei wneuthur, cyn myned i dŷ Dduw, Psal. 26.8. ac 27.4, 6. ac 23.6. Preg. 5.1.

Yr ail math ar ddyledion iw cyflawni ym mhlith y gynnulleidfa Sanctaidd.

PAn ddechreuo 'r gwasanaeth gad ymmaith dy neillduol fyfyriadau, a gâd i'th calon vno a'r Gweinidog, ac â'r holl Eglwys, o ran eich bod me∣gis yn vn corph yn Ghrist, ac o herwydd bod Duw yn Dduw 'r drefn, efe a fyn wneuthur pob peth yn yr Eglwys o vn fryd ag un galon: Canys y mae gor∣chwylion yr Eglwys yn gyhoeddus ac yn gyffredi∣nol. 1 Cor. 13.12. Act. 2.2.46, ac. 4.32. Am hyn∣ny

Page 243

balchder anwybodus yw i ddŷn dybied fod ei weddiau neillduol ei hun yn flrwythlonach na gwe∣ddiau cyffredin yr holl Eglwys. Salomon gan hyn∣ny sydd yn cynghori dŷn i beidio a bod yn brysur i draethu dim yn yr Eglwys ger bron Duw. Pre. 5.1. Gweddia gan hynny pan fyddo 'r Eglwys yn gweddio, cân pan ganont hwythau, ac ym mhob gweithred o fyned ar liniau, sefyll, eistedd, a'r cyfryw drefn ar∣ferol, a Ceremoniau diniweid (er mwya gochel tramgwydd, a chadw cariad perffaith, a thystio∣laeth o'th vfydd-dod) ymosod dy hun at arfer yr Eglwys, yr hon y byddych yn byw ynddi.

Tra byddo 'r Pregethwr yn deongli ac egluro gair yr Arglwydd, edrych arno; canys y mae hynny yn gymmorth mawr i'th annog di i wrando, ac i'th cadw rhag syn feddyliau crwydrus: felly yr oedd lly∣gaid pawb oll yn y Synagog yn eraffu ar Grist tra yr ydoedd yn pregethu: ar holl bobl oedd yn glynu wrtho i wrando arno, Luc. 4.20. Luc. 19.48. Cofia dy fod yno megis vn o ddiscyblion Crist, i ddyscu gwybodaeth iechydwriaeth er maddeuant pechodau, trwy diriondeb trugaredd ein Duw, Luc. 1.77.

Na fydd gan hynny yn yscol Grist, megis bach∣gen ofer mewn yscol Gramadeg, yr hwn er clywed yn fynych, sydd byth heb ddyscu ei wers: ac yn myned i'r yscol yn oesdad heb ddyscu vn twrn da: yr wyt ti yn cashau hyn mewn bachgen, y mae Crist yn ei ffieiddio ynot tithau. Gan hynny er mwyn cael o honot fwy budd a llês wrth wrando, dyfal no∣da.

1. Gyd-glymiad ac eglurhâd y testyn, [neu 'r teest.]

2. Beth yw prif amcan, neu fwriad yr yspryd glân yn y Testyn.

3. Ddosparthiad a rhannau y Testyn.

4. Yr athrawiaethau; ac ym mhob athrawiaeth

Page 244

y prawfiau, y rhesymmau, a'r defnyddiau o honaw.

Y ffordd ar dull hawsaf o'r cwbl i'r bobl y fo cy∣nefin â hi iw cynnorthwyo i gofio'r bregeth: ac am hynny angenrheittiaf ei chael yn arferedig gan Fi∣geiliaid ffyddlawn, y rhai ydynt ewyllyscar iathra∣wiaethu eu defaid yngwybodaeth Duw, a'i wir Gre∣fydd.

Os bydd dosparth y Pregethwr yn rhyfanylaidd neu yn blethedig, yno gwna dy orau ar gofio:

1. Pa gyfryw bethau a ddyscaist ti, ar na wyddit ti o'r blaen, a bydd ddiolchgar.

2. Pa ryw bechodau yr oedd ef yn eu hargyoeddi, o'r rhai y mae dy gydwybod yn dywedyd i ti, dy fod ti yn euog; ac am hynny rhaid i ti wellhau.

3. I ba rînweddau y mae ef yn annog, y rhai nid ydynt berffaith ynot ti, ac am hynny ymegnia iw har∣feru â mwy awch a diwydrwydd.

Eithr wrth wrando, bwrw fod pob ymadrodd at∣tat ti dy hun, ac fel pe bai Dduw yn dywedyd wrthit ac nid dŷn: Esa. 2.3. Act. 10.33. ac na fydded cymmaint gennit am glywed geiriau y Pregethwr yn melus-seinio yn dy glust, ac am ymwrando á ffrwyth yr Yspryd yn gweithredu yn dy galon. Am hynny y dywedir cyn fynyched, Dad. 2.7. yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed pa beth y mae 'r Yspryd yn ei ddywedyd wrth yr Eglwysi. Ac Onid oedd ein calonnau ni yn llosci ynom tra 'r ydoedd efe yn ymddiddan â ni ar y ffordd, a thra 'r ydoedd efe yn agoryd i ni 'r Scrythyrau? Luc. 24.32. Ac mae yr fendith wedi ei haddaw ir rhai a wrandawant y Gair fel hyn, Luc. 11, 28. Dyma ein aberthu ein hunain yn gymmeradwy i Dduw. Dyma 'r argoe hynnott af ar Seinctiau Crist: y nôd hawsaf i adna∣bod defaid Crist: y sein egluraf o etholedigion Duw. Deut. 33.3. Joan. 10.27. Joan. 8.47. Y gwir waed, yr hwn sydd megis yn ein vno ni i fod

Page 245

yn garenydd ysprydol, yn frodyr ac yn chwaiorydd i Fab Duw. Luc. 8.21. Dyma 'r gelfyddyd orau o ddal côf i wrandawr dyfal. Pan ddarfyddo 'r blegeth:

1. Gochel ymadel mal y naw gwahanglwyfus, nes darfod i ti dalu diolch a moliant i Dduw am dy a∣thrawiaeth iachusol trwy weddi, a chanu Psalm. A phan fyddir yn adrodd y fendith, saf i fynu i dder∣byn dy gyfran o honi, a gwrando hi megis pe bai Grist ei hun (Gweinidog yr hwn yw efe) yn adrodd y cyfryw wrthit: O blegit yn yr achos hon y mae 'n wir: y neb sydd yn eich gwrando chwi, sydd yn fyng wrando i: Luc. 10.16. Ac y mae 'r dydd Sabboth yn fendigedig, o herwydd i Dduw ei osod ef i fod y diwrnod ar yr hwn, trwy enau ei Wei∣nidogion, y bendiga ef ei bobl y rhai a wrandawant ei Air, ac a ogoneddant ei enw. Canys er nad yw y dydd Sabboth ynddo ei hun, yn fwy bendigedig na 'r chwe diwrnod eraill, etto o herwydd i'r Argl∣wydd ei ordeinio i arferion sanctaidd vwchlaw e∣raill, y mae yn rhagori cym mhelled ar ddyddiau eraill, ac y mae bara cyssegredig yr hwn yr ydym ni yn ei dderbyn ar Fwrdd yr Arglwydd, yn rhago∣ri ar ybara cyffredinol, yr hwn yr ydym ni yn ei fwyta ar ein byrddau ein hunain.

2: Os dydd i Gymmuno a fydd, pwysa i fynu at Fwrdd yr Arglwydd, mewn gwise priodas o galon ffyddlon edifeiriol, i fod yn gyfrannog o'r cyfryw wledd fancteiddiol.

Ar pryd y byddont yn bedyddio, aros i wrando mewn holl ddisdawrwydd anrhydeddus, megis y gellych di felly: yn gyntaf, ddangos dy barch i ordeinhâd Duw: yn ail, fel y gellych ystyried yn well dy impiad dy hun ynghorph gweledig Eglwys Grist, a pha ddelw y cyflawnaist addunedau dy gy∣fammod newydd: yn drydydd, megis y gellych da∣lu

Page 246

yn ôl y dyledion yn gweddio tros y plentyn a fe∣dyddir (megis y darfu i Gristianoglon eraill yn yr vn achos trosot tithau) ar i Dduw roddi iddo ef y ffrwythau ysprydol o'i Fedydd, trwy ei waed a'i yspryd.

Yn bedwerydd, fel y byddych yn cynnorthwyo 'r Eglwys ym moliannu Duw, am iddo impio aelod arall yn ei gorph dirgeledig.

Yn bumed, fel y gellych di wybod a fyddo effei∣thiau marwolaeth Crist yn lladd pechod ynot ti, ac a ydwyd ti wedi ymgyfodi i newydd-deb buchedd, trwy rinwedd ei adcyfodiad ef: ac felly i fod yn ostyngedig o achos dy ddiffygion, ac yn ddiolchgar am ei râd ef.

Yn chweched, i ddangos dy fod dy hunan yn wr rhydd o ddinasyddiaeth Grist: ac yn gallael rhoi dy laferydd a'th gyfundeb i ethol erail ir gymdei∣thas sanctaidd honno.

3. Os bydd yno vn gascl i'r tlawd, dod dy elu∣sen yn rhwydd, ac yn ddirwgnach, megis y bendithi∣odd Duw dy allu, 1 Cor. 9.5, 6, 7.

A hyn am y dyledion sydd i'w cyflawni yn y gyn∣ulleidfa sanctaidd.

Yr awrhon am y trydydd mâth ar ddyledion yn ôl dyfod o'r gynulleidfa sanctaidd.

WRth ddychwelyd tu ag adref, neu wedi yr elych i'th tŷ, myfyria ychydig ar y pethau a glywaist. Ac megis yr anifail glân yr hwn sydd yn cnoi ei gil, Levit. 11.3. felly rhaid i tithau ddw∣yn i'th côf drachefn, yr hyn a glywaist ti yn yr Egl∣wys: Ac yno gan syned i lawr ar dy liniau, trô 'r cwbl yn weddi, gan attolygu i Dduw roddi y cŷ∣fryw fendith ar y pethau a glywaist, fel y byddont yn gyfarwyddyd i'th fywyd, ac yn ddiddanwch i'th

Page 247

enaid: Psal. 119.11. 1. Canys nes i'r Gair fal hyn fod wedi ei wneuthur yn eiddôm ni, ac megis yn guddiedig yn ein calonnau, yr ydym mewn perigl rhag i Satan ei ledratta ef ymmaith, ac na chaffom ni na budd na llês oddiwrtho. A phan fyddych yn myned i'th ciniaw yn y môdd diolchgar anrhyde∣ddus á adroddwyd o'r blaen, cofia yn ol dy allu fod gyd â thi vn neu ychwaneg o dlodion Cristianogawl yn derbyn gennit ymborth i'w coluddion newynog: Gan wneuthur ar ôl Job yr hwn sydd yn mynegi na fwytaodd ef erioed moi fwyd yn unig, heb fod yr ym∣ddifad, a'r tlawd yn bwyta o honaw, Job 31.17, 18. Dyna orchymmyn Crist ein Hargwydd. Luc. 14.13. Neu o'r hyn lleiaf danfon beth o'th ciniaw i'r tlawd yr hwn sydd yn gorwedd yn glaf yn vn o'r by∣thod o'r tu ôl, heb ddim llyniaeth yn ei feddiant. O blegid hyn a ddwg fendith ar dy holl lafur a'th weithredon, ac a wnaiff mwy o orfoledd i'th enaid ti ryw ddydd, nag y mae yr awrhon yn ei wneuthur o lês cysfurol iw gorph ef, y pryd y byddo Crist yn dywedyd wrthit: Mat. 25.35.40. O fendigedig blentyn i Dduw, bum newynog a thi a roddaist i mi fwyd: bu arnaf syched a thi roddaist i mi ddiod, &c. Yn gymmaint a i wneuthur i vn o'r rhai hyn fy mro∣dyr lleiaf, i mi y gwnaethost: sef yr hyn a wnaethost er fy mwyn i, yr wyf yn ei gymmeryd vn agwedd a pha gwnaethit i mi fy hun medd yr Arglwydd Jesu.

Pan ddarfyddo ciniaw, a moliannu 'r Arglwydd, galw dy deuleu ynghyd, hola â hwynt pa beth a ddys∣casant yn y bregeth: canmola y rhai sydd yn gwneu∣thur yn dda ac na ddigalonna mor rhai sydd a'i côf, neu a'i dealltwriaeth yn wannach, eithr yn hytrach hyffordda hwynt; canys fe ddichon eu hewyllys a'i meddyliau fod yn gystal a'r lleill. Trô at y tystiolae∣thau Scrythurol yr oedd y pregethwr yn eu had∣rodd, ac argrapha y pethau da hynny ar eu coffadwri∣aethau

Page 248

hwynt drachefn yn ddwysach, Deut. 6.7, 20, 21. Yno cân Psalm, neu ychwaneg. Os bydd yr amser yn cynnwys di elli eu haddyscu, ai holi mewn rhyw fannau o'i Catechism, gan gydsynnied pob dosparth ag athrawiaeth yr Scrythur sanctaidd. Hyn a chwanega ein gwybodaeth ni, ac a flaen-llymma ein coffadwriaeth: gan weled beunydd mai y rhai fydd fynychaf arferol ym mhob celfyddyd, sydd swyaf hyfedr, ac odiaethol: Eithr er dim cofia drefnu yr arferion neillduol hyn megis y gellych di fod yn y gosber gyd â rhai cyntaf, lle y mae yn rhaid i ti dy ymddwyn dy hun yn yr vnrhyw anrhydedd, a duwiol-fryd ac a adroddwyd i ti yn y Foreuol Orchwylwaith sanctaidd.

Ar ol prydnawnol weddi ac ar dy-Swpper ymddwg dy hun yn yr vnrhyw sanctaidd a chrefyddol ymar∣fer ac a draddodwyd o'r blaen. Ac naill a'i o flaen, ai ar ôl Swpper, os bydd yr amser ar y flwyddyn a'r tymor yn gwasanaethu:

1. Rhodia i'r cauau a myfyrria ar weithredoedd Duw: Canys ym mhob creadur y gelli di ddarllain megis mewn llyfr agored, ddoethineb, gallu, rha∣gluniaeth, a daioni yr holl-Alluog Dduw. Ac fel na ddichon neb wneuthur yr holl bethau hyn mewn amryw ddull, rhinwedd, glendid, bywyd, cynnyr∣fiad, cynnedfau, oddiethr ein Duw ni yn vnig. [Prae∣sentem narrat quaelibet herba Deum. Yn y maes mae pob llysieuyn Yn dangos fod nerth Duw gyfer∣byn.] Psal. 8.1.3. Rhuf. 1.19, 20.

2. Ystyria mor rasusawl yw efe, yr hwn a wnaeth yr holl bethau hyn i'n gwasanaethu ni.

3. Bydded hyn yn achos i'th annog, a'th cynhyr∣fu di ac eraill i ryfeddu, ac i anrhydeddu ei allu, ei ddoethineb, a'i ddaioni, ac i feddwl y fâth druei∣niaid anniolchgar ydym ni, oddieithr i ni mewn oll yfydd-dod ei wasanaethu a'i addoli ef.

Page 249

4. Os bydd vn cymmydog yn glâf, neu mewn neb∣ryw orthrymder, dôs i ymweled ag ef: O bydd rhai gwedi ymrafaelio, gwna di dy orau ar wneu∣thur vndeb rhyngddynt, Jag. 5.14.

I ddiweddu, tri mâth ar weithredoedd a ellir eu gwneuthur yn gyfreithlawn ar y dydd Sabboth.

1. Gweithredoedd Duwioldeb, y rhai sydd, naill ai yn vnion yn perthynu at wasanaeth Duw, er eu bod i'w gwneuthur trwy lafur corphorol; me∣gis tan y gyfraith, yr oedd yr offeiriadau yn cym∣meryd poen i ladd ac i baratoi yr aberthau, ai llosci hwynt ar yr allor. Mat. 12.5. A Christianogion tan yr Efengyl pan ymdeithiont i bell fannau i addo∣li Duw, eithr nid yw hyn ond taith diwrnod Sab∣both. Act. 1.12. Megis y gwnaeth y Sunamites, yr hon a drafaeliodd oddicartref i wrando gwr Duw ar y dydd Sabboth, am nad oedd iddi ddim addysc iw gael yn agos at ei thrigfa, 2 Bren. 4.22, 23. Ar Pre∣gethwr er ei fod yn poeni ar chwys ar ei dalcen ac yn blino ei gorph, etto nid yw yn gwneuthur ond gwaith diwrnod Sabboth. Canys y diwedd sanctaidd sydd yn sancteiddio y weithred, megis yr oedd y Deml yn sancteiddio yr aur, a'r allor yr offrwm a roddid ar∣ni, Mat. 23.17, 19. Neu y cyfryw lafur corpho∣rol trwy 'r hwn yr ymgynnulla pobl Dduw ynghyd, i'w addoli ef: Megis canu yr vdcyrn tan y ddeddf, neu ganu y clych tan yr Efengyl, Num. 10.2, 3.

2. Gweithredoedd cariad perffaith, megis achub hoedl dŷn, neu anifail, porthi, rhoi dwfr, neu drin anifeiliad: gwneuthur arlwy gweddaidd o fwyd neu ddiod, i faethu ein cyrph ein hunain, ac i lonni yr tlawd; ymweled a'r clâf, gwneuthur cascliadau ir tlawd a'r cyfryw bethau, Marc. 3.4, 5. Mat. 12.1.13.

3. Gweithredoedd anghenrhaid, nid escusol, eithr

Page 250

y cyfryw sydd raid eu gwneuthur yn bresennol, ac ni ellid moi gwneuthur o'r blaen, neu eu hoedi hyd amser arall. Megis gwrthsefyll rhuthr gelynnion, neu yspail lladron, diffoddi tân trychinebus, ac i Physygwyr attal neu ollwng gwaed, neu iachau vn∣rhyw ddolur heintus Marwol arall: Ac i Fydwra∣gedd gynnorthwyo gwraig wrth escor: Mordwywyr allant drin eu gwaith: Milwyr a gwilwyr o cynny∣gir gosod arnynt allant ymladd: cennadau a allant farchogaeth er mwyn daioni cyffredinol, a'r cyffe∣lib. Yn y cyfryw achosion a hyn y geill dŷn wei∣thio yn gyfreithlawn: Ie a phryd y gelwir hwynt, hwy a allant ar y fath achosion a hyn fyned allan o'r Eglwys, ac oddiar arferion sanctaidd Gair Duw a'i Sacramentau: eithr ymddarparant bob amser i fod yn ddarostyngedig, o ran i'r cyfryw achosion ddigwyddo ar y diwrnod hwnnw a'r amser; ac na chymmerant ddim arian am eu poen, oddieithr am eu cyffyriau, a hynny yn ofn yr Arglwydd trwy wneuthur cydwybod o'i orchymmyn ef.

Pan fyddo amser gorphywys yn nesau, tyn o'r neilldu i ryw fangre gyfleus; a chan ystyried na ddichon vn dŷn byw mewn cyflwr llygredigol, san∣cteiddio y Sabboth yn y modd ysprydol y dylai, eithr ei fod yn ei droseddu ac yn ei dorri mewn am∣ryw foddau, sef yn ei feddyliau, geiriau, a gweith∣redoedd; erfyn yn ostyngedig faddeuant am dy wendid a'th ddiffygion, a gwna dy vndeb dy hun â Duw, fel hyn, neu a'r cyfryw aberth brydnaw∣nol.

Prydnawnol weddi neilltuol ar ddydd yr Arglwydd.

O Sanct, Sanct, Sanct, Arglwydd Dduw 'r Sabboth. Cynnwys i mi er

Page 251

nad wyf ond llwch a lludw lefaru wrth dy Fawrhydi tra-gogoneddus. Mi a wn dy fod ti yn dân yssol, yr wyf yn cydnabod nad wyf fi ond fel soft wedi gwywo, y mae fy mhechodau o'th flaen di, ac y mae Satan yn sefyll ar fy llaw ddehau i'm cyhu∣ddo i am danynt. Nid wyf yn dyfod i'm hescuso∣di, eithr i'm barnu fy hun yn euog o'r holl farnedi∣gaethau, yr hyn a allai dy gyfiawnder di yn dra-chy∣fiawn roddi yn gôsp arnaf fi bechadur truan, am fy mhechodau am hanwireddau. Eu rhif hwynt sydd mor aneirif, eu naturiaeth sydd mor ofidus, fel y maent yn peri i mi ymddangos yn wael yn fyngolwg fy hun, pa faint mwy ffiaidd yn dy olwg di? Yr wyf yn cyffessu eu bod hwy yn fyngwneuthur i cyn belled oddiwrth fod yn deilwng i'm galw yn Fab i ti; onid ydwyf ollawl yn anheilwng i gael enw o fod yn wasa∣naethydd gwaelaf itti. A pha telit ti i mi yn ôl fy haeddedigaeth, fe ddylai y ddaiar (megis yn flin o ddwyn y fâth fauch pechadurus) agori ei safn am llyngcu megis vn o dylwyth Dathan, i bwll diwaelod vffern. Canys gan na ddarfu i ti arbed y canghen∣nau naturiol, sef yr Angelion gogoneddus eu godi∣dawgrwydd, eithr eu hergydio hwynt allan o'th trig∣fa nefol, i boenau y tywyllwch vffernol, i'w cystuddio yn dragywydd, pryd na phechasent ond vnwaith yn erbyn dy Fawrhydi; ac a aethwladaist ein hanafi∣aid cyntaf allan o beradwys am droseddu vn o'th gy∣freithiau; och fi, pa ddial a ddylwn i ei ddisgwyl, yr hwn ni throseddais mewn vn pechod yn vnig, eithr pentyrrais bechod ar bechod, heb ddim gwir edifeirwch, gan yfed anwiredd fel dwfr, a bwrw i mewn bob amser, heb fwrw dim budreddi allan vn am∣ser: A chwedi troseddu nid vn, eithr dy holl gyfreithiau a'th orchymynni∣on sanctaidd. Ie y dydd presennol,

Page 252

yr hwn a orchymynnaist i mi yn ddyfal ei gadw yn sanctaidd i'th foli a'th addoli, ni ddarfu i mi moi gadw, ai gynnal mor grefyddol, na pharatoi fy e∣naid yn y fàth sancteiddrwydd a diweirdeb calon ac oedd gymwys i gyfarfod dy Fawrhydi bendigedig ynghynnulleidfa sanctaidd dy Seinctiau. Ni ddarfu i mi mor ddyfal wrando, a dal sulw ar bregethiad dy air, ac ar gyfrannu dy Sacramentau, â'r cyfryw ostyngeiddrwydd, a pharch crefyddol, fel y dylaswn. Canys er bod fynghorph yn bresennol wrth wneu∣thur yr arferion sanctaidd hynny, etto o Arglwydd fe ddarfu i lawer o syrthni fyngoddiwes: ac er fy mod yn effro, yr oedd fy meddwl yngwibio yma a thraw, yn llawn o wagedd a meddyliau bydol, fel yr oedd fy enaid megis yn absennol, ac heb fod yn yr Eglwys. Ni ddarfu i mi (fel y dylaswn) fyfyrio wrthif fy hunan, na sôn, na chrybwyll wrth fy nheulu, am yr addysc dda a glyswn, ac a dderby∣niaswn ni allan o'th Air sanctaidd, gan dy we∣nidog ffyddlawn. O herwydd hynny, fe ddarfu i Satan ledratta y rhan fwyaf o'r athrawiaethau hynny allan o'm calon, a minnau greadur truan a'i gollyngais tros gôf, megis pe buaswn erioed, heb eu clywed. Ac nid yw fy nhylwyth yn myned rhagddynt mewn gwybodaeth, a sancteiddrwydd fel y dylent. Ac er i mi wybod lle mae llawer o'm brodyr tlodion yn byw mewn eisiau, a rhai mewn dolur yn ddi-gyn∣northwy: etto ni chofiais i synnied ar y naill am helusenau, ac a'r y lleill am cy∣ssurau: eithr ymwledda fy hun, a phorthi fy nhrachwantau. Mi dreiliais y rhan fwyaf o'r diwr∣nod, mewn siarad ofer, chwary∣ddiaeth ddiles, ac arferion coe∣glyd. Ie Arglwydd fe ddar∣fu, &c. Ac am yr holl becho∣dau

Page 253

hyn, y mae fynghydwybod yn llefain fy mod yn euog; dy gyfraith yn fyngondemnio; ac yr wyf yn sefyll tan dy law i dderbyn y farn, a'r felldith ddyledus am dorri yn ewyllyscar y fath orchymmyn sanctaidd. Eithr beth er fy mod gwedi fy euog-far∣nu wrth dy gyfraith? Etto Arglwydd y mae dy E∣fengyl i'm sicrhau fod dy drugaredd vwchlaw dy holl weithredoedd: a bod dy râs yn myned tu hwnt i'r gyfraith, a bod dy ddaioni yn hoffi aros i lywodrae∣thu, lle yr oedd pechodau yn amlhau. Gan hynny yn amlder dy drugareddau, ac yn haeddedigae∣thau Jesu Grist, fy Iachawdwr, yr wyf yn attolwg i ti O Arglwydd (yr hwn nid wyt yn diystyru calon orthrymedig, nac yn deisyfu marwolaeth pechadur ediferiol) faddau, a gollwng tros gôf, fy holl be∣chodau am beiau y dydd hwn, a phob dydd o'm by∣wyd; a rhyddhau fy enaid oddiwrth y farn a'r fell∣dith sydd ddyledus i mi am danynt. Ty di yr hwn a gyfiawnheuaist y Publican drylliedig ei galon am chwe gair o gyffes, ac a dderbynniaist y Mab afrad∣lon, (wedi darfod iddo ddifa ei holl gynhysgaeth o'th râd ti) i'th ffafr drachefn, ar ei edifeirwch: maddeu fy mhechodau i minnau vn agwedd, O Arglwydd, ac na chynnwys i mi fod yn golledig am fy anwireddau. Oh arbed fi, a derbyn fi i'th dru∣garedd drachefn. A wrthodi di fi o Arglwydd yr hwn wyt yn derbyn yr holl Bublicanod, Puteinaid, a phechaduriaid, ar a edifarhao ac a erfynnio nawdd ar dy law di? A'i fi yn vnig a geuir ac a drosclw∣yddir allan oddiwrth dy druga∣redd? Bydded ym mhell oddi∣wrthif fi dybied hynny, Canys yr vn Duw 'r drugaredd ydwyt i mi ac a fuost iddynt hwythau, a'th trugareddau byth i phallant. Am hynny na thâl i mi yn ol fy

Page 254

haeddiant, eithr yn ôl dy dramawr drugaredd di. Na ddangos mo'th cyfiawnder tôst yn fy erbyn i becha∣dur: eithr ymarfer a'th hir ymaros i gyd-ddwyn â myfi greadur truan o'th eiddaw di. Nid oes gennif ddim i'w anrhegu i ti, yn iawn trosof, ond yn vnig yr archollion gwaedlyd, y chwerw angau, a'r dio∣ddefaint, yr hyn a ddarfu i'th Fab bendigedig, fy Iachawdwr vnig ei oddef trosof. Efe (yn yr hwn yn vnig i'th fodlonir) yr wyf yn ei gyflwyno i ti tros fy holl bechodau, yn y rhai i'th anfodlonir. E∣fe fynghyfryngwr, erfynniad gwaed yr hwn syddyn dywedyd pethau gwell na'r eiddo Abel, ni ddichon dy drugaredd byth moi necau. Goleua fy ne∣alltwriaeth, a sancteiddia fynghalon, a'th Yspryd glán, fel y dêl i'm cof yr holl athrawiaeth, a'r pe∣thau daionus a ddyscwyd i mi allan o'th air sanc∣taidd, megis y gallwyf gofio dy orchymynnion i'w cadw, dy farnedigaethau i'w gochelyd, a'th adde∣widion hyfryd i roi fy hyder am goglyd arnynt, yn amser trallod a thrueni. Ac yr awrhon O Argl∣wydd yr wyf yn fy ymroi fy hun i'th ewyllys tra∣bendigedig, oh derbyn fi i'th serch a'th ffafr, a dena fi felly trwy dy râd attad dy hun, megis y gallwyf fod yn eiddo ti, yn gystal trwy serch a theby goli∣aeth, a thrwy alwedigaeth a chreadigaeth. A dôd i mi râd felly i gadw yn sanctaidd dy Sabbothau yn y bywyd hwn, fel y gallwyf (pan ddiweddo y by∣wyd hwn) gadw yn anrhydeddus y Sabboth tragwy∣ddol o foliant a gorfoledd, ym mhlith dy Seinctiau a'th Angelion, i glodfori dy enw bendigedig, yn dy deyrnas nefol yn dragywydd. Amen. Heb. 12.24.

Ac yno gan alw dy deulu ynghyd; gorphen y Sabboth â'r myfyriadau, ac â'r gweddiau a benno∣dwyd o'r blaen i'r teulu. Ac fe rydd yr Arglwydd y nos honno i ti hûn felysach ac esmwythach

Page 255

nac amser arall, ac a lwydda yn well i ti dy holl or∣chwylion a'th amcanion yn yr wythnos yn ôl hynny.

Hyd yn hyn am y gyffredin ymarfer o Dduwi∣oldeb, yn gystal yn neilltuol, ac yn gyhoeddus.

Yma y canlyn yr ymarfer anghyffredin ac anaml o Dduwioldeb, trwy 'r hyn y gogoneddir Duw yn ein bywyd.

YR arfer anghyffredin ar Dduwioldeb sydd yn sefyll, naill ai yn ymprydio, ai yn gweuthur gwleddau.

1. Am arfer o Dduwioldeb yn ymprydio.

Y mae amryw fâth ar ymprydio: yn gyntaf ym∣prydio o anfodd, naill a'i pryd na byddo gan ddy∣nion ddim iw fwyta, megis yn y newyn yn Samaria: 2 Bren. 6.25. neu pan fo llyniaeth ganddynt, ac nis gallant ei fwyta gan glefyd neu gystudd, megis y digwyddodd i'r rhai oedd gyd á St Paul yn y llong. Act. 27.33. Newyn yn hytrach nac ympryd yw hynny.

2. Yn ail, ympryd naturiol, yr hwn yr ydym ni yn ei gadw o ran physygwriaeth, neu iechyd i'n cyrph.

3. Yn drydydd, ympryd dinasol, yr hwn y mae y swyddog yn ei ofod o ran gwell cynhaliaeth i'r wlad; megis i arfer pyscod yn gystal a chig, fel y gallo fod mwy llawnder o'r ddau.

4. Yn bedwerydd, ympryd rhyfeddol, megis ympryd Moeses ac Elias, yr arwyddion, ac un Christ, y sylwedd, dros ddeugain nhiwrnod: Hwn sydd yn hytrach iw ryfeddu nac i'w wneuthur dra∣chefn.

Page 256

5. Yn bumed, ympryd beunyddiol, pan fyddo dŷn yn ofalus i arfer o ymborthi ar greaduriad Duw yn gymmedrol, megis na byddo hynny yn ei wneuthur yn drymmach, eithr yn fwy hyfforddus i wasanaethu Duw, ac i wneuthur y pethau a ber∣thyn iw alwedigaeth. Hwn yn enwedig a ddylai Wei∣nidogion y gair a Barnwyr ei gadw yn ddyfal. 1 Tim. 3.3. Dihar. 31.4, 5.

6. Yn chweched, ympryd duwiol neu grefyddol, yr hwn y mae dŷn yn ei gadw yn ewyllyscar, i wn∣euthur ei gorph a'i enaid yn gymhesurach ac yn fwy awchus i weddio at Dduw, o ran rhyw achos hynod. Ac am yr ympryd hwn yn unig i'r adroddwn.

Ympryd Duwiol sydd o ddau fâth, naill a'i neill∣tuol, a'i cyhoedd.

1. Am ympryd neilltuol.

MEgis y gallom ni yn vnion gyflawni ympryd neilltuol, y mae i ni bedwar peth iw ystyri∣ed; yn gyntaf, yr Awdr; yn ail, yr amser a'r achos; yn drydydd, y modd: yn bedwerydd, y diben, sef i ba ddefnydd y mae ympryd neill∣duol.

1. Am yr Awdur.

Y cyntaf a ordeiniodd ac a drefnodd ympryd, oedd Dduw ei hun ym mharadwys: a'r gyfraith gyntaf ar a wnaeth Duw ydoedd hi, sef gorchym∣myn i Adda ymgadw oddiwrth y ffrwyth gwahar∣ddedig. Ni adroddai, ac ni scrifennai Dduw ei gyfraith heb ympryd, ac yn ei gyfraith y mae ef yn gorchymmyn iw holl bobl ymprydio: felly y mae ein Jachawdwr Christ yn athrawiaethu ei holl ddiscyblion yntau tan y Testament newydd un ag∣wedd. Math. 6.17. Ymprydio yn dduwiol ydyw 'r modd nessaf a bair i ddŷn ymddangos yn debyg

Page 257

i Angelion, a gwneuthur wyllys Duw ar y ddaiar, megis y gwneir yn y nefoedd. Je y mae natur megis yn dyscu i ddŷn y ddlêd hon, gan roddi iddo safn by∣chan, a gwddf cyfyngach: o ran fe fodlonir natur ag ychydig, a grâs â llai. Ac nid yw natur a grâs yn cyttuno yn well mewn vn weithred nac yn ymar∣fer o ympryd duwiol: canys y mae yn cryfhau y côf, yn goleuo y meddwl, yn llewyrchu y deallt∣wriaeth, yn ffrwyno trachwantau, yn marwhau y cnawd, yn ymddiffyn diweirdeb, yn achub rhag clefyd, yn cynnal yr iechyd, yn gwaredu rhag dry∣gau, ac yn peri pob mâth ar fendithion.

Torri 'r ympryd hwn a wnaeth i'r Sarph gael y llaw 'n vchaf ar Adda gyntaf, oni chollodd ef ei le ym mharadwys:

Quam diu jejunavit Adam in Paradiso fuit, com∣edit, & ejectus est. Hieron. Tra 'r ymprydiodd yr hên Adda Ymheradwys 'r oedd ei drigfa, Ond pan aeth i fwyta i'r berllan Tros y drws y bwriwyd allan.

Eithr wrth gadw ympryd y darfu i'r Ail Adda orchfygu 'r Sarph a'n hadferu ni i'r nefoedd. Ym∣pryd oedd yn cuddio Noah yn ddiogel yn yr Arch, yr hwn y darfu i anghymmedroldeb ei anghuddio, a'i ado yn noeth lŷmyn yn y winllan. Trwy ym∣pryd y darfu i Lot ddiffoddi fflam Sodom, yr hwn y darfu i feddwdod ei ddeifio â than ymloscach. Ympryd crefyddol, ac ymddiddan â Duw, a wna∣eth i wyneb Moeses ddiscleirio o flaen dynion; pryd yr oedd bwyta ac yfed yn ddelw-addolaidd, yn peri i'r Israeliaid ymddangos yn ffiaidd yngolwg Duw. Dyma 'r peth a gippiodd Elias yn ei gerbyd

Page 258

Angelaidd i'r nefoedd, pryd yr oedd Ahab drach∣wantus wedi ei drosi mewn cerbyd gwaedlyd i uffern. Dyma 'r peth a barodd i Herod gredu y byddai Jo∣an fedyddiwr fyw yn ôl marwolaeth trwy adcyfodi∣ad bendigedig; pryd ar ôl bywyd anghymmedrol, nid allai ef addo iddo ei hun ddim, ond dinistr ac angau tragywyddol. O Dduwiol ordeinhâd gan dduwiol Awdur!

2. Am yr amser.

Nid yw 'r Scrythur sanctaidd yn pennodi un am∣ser i ymprydio tan y Testament newydd; eithr ga∣dael i Gristianogion yn ei dewis eu hunein, ym∣prydio pan fyddo achos. Rhuf. 14.3. 1 Cor. 7.5. Math. 9.15. Megis pan ddelo dyn yn ymbisiwr taer a gostyngedig at Dduw, am gael maddeuant am ryw bechod gorthrwm; neu o ran ymgadw oddi∣wrth ryw bechod, i'r hwn y mae dŷn yn gwybod fod Satan yn ei ddenu: neu er mwyn cael meddiannu rhyw fendith hynodol, yr hon sydd diffygiol iddo: neu i droi hcibio ryw farn, yr hon y mae dŷn yn ei ofni, neu sydd wedi digwyddo yn barod iddo ef neu eraill: neu yn ddiweddaf i ostwng ei gorph at ei yspryd, megis y gallo ef yn fwy cyssurus dywallt allan ei enaid ger bron Duw mewn gweddi. Ar yr achosion hyn y geill dŷn ymprydio diwrnod neu yn hwy, megis y byddo 'r achos yn gofyn, a thymer ei gorph, ac angenrheidiau eraill yn rhoi cennad. Lev. 23.32. Esth. 4.16.

3. Am y modd i arfer ympryd neillduol.

Yr union fodd i gyflawni ympryd neillduol, sydd yn sefyll mewn gweithredoedd oddiallan, a gweithre∣doedd oddifewn.

Y gweithredoedd oddiallan ydynt, dirwest, neu ymgadw tros yr amser yr ymprydiom: yn gyntaf,

Page 259

oddiwrth bob trafferth a gorchwyl bydol, gan wneu∣thur y dydd ympryd, megis yn ddydd Sabbath, Levit. 23.28. Canys y mae masnach fydol yn dwyn ymmaith ein meddyliau oddiwrth sanctaidd addoliad.

Yn ail; oddiwrth bob mâth ar ymborth, ie oddi∣wrth fara a dwfr, cyn belled ac y byddo iechyd yn cynnwys: 2 Sam. 3.35. Ezra. 10.6. Act. 9.9. 1. Fel y byddom felly yn cydnabod ein an∣heilyngdod ein hunain, megis na haeddem na 'n bywyd na 'r moddion o'i gynhaliaeth. 2. Megis trwy gystuddio y corph y gallo 'r enaid, (yr hwn sydd yn dilyn ei naws ef) fod yn fwy gostyngedig. 3. Me∣gis y byddom ni felly yn dial yn dduwiol arnom ein hunain, am gamarferu ein rhydd-did yn arfer o greaduriad Duw, 2 Cor. 7.11. 4. Megis wrth beri i'n cyrph newynu o eisiau daiarol bethau, y ga∣llo ein eneidiau ddyscu newynu ac hiraethu am ysprydol a nefol borthiant. 5. I beri i ni feddwl, mai megis yr ydym ni yn ymgadw oddiwrth fwyd, yr hwn sydd gyfreithlawn, y dylem ni yn hytrach ym∣gadw oddiwrth bechod, yr hwn sydd yn ollawl yn anghyfreithlawn.

Quid prodest vacare corpus at escis, & animum replere peccatis. Aug. de Temp.

Beth a dâl i'r corphyn swrth Ymgadw oddiwrth ei lyniaeth, A gado 'r enaid bach i fod Yn llawn o bechod diffaeth.

Yn drydydd oddiwrth bob gwisc drwyadl a dill∣ad gwychion: Canys megis y mae camarfer o'r rhain yn ein chwyddo ni â balchder, felly bwrw hei∣bio eu harfer cyfreithlawn sydd yn tystiolaethu ein gostyngeiddrwydd, Exod. 33.5, 6. Hest. 4.1, 2.

Page 260

Ac i'r defnydd hwn yr arferent yn yr hên amser (yn onwedig mewn ymprydiau cyhoeddus) o wisco sach∣liain, neu ryw wisc salw-fras arall, Jonah 3.5.6. vniawnder yr hyn beth sy'n parhau etto; yn enwedig mewn ymprydiau cyffredinol: o ran dyfod ar y pryd hwnnw i'r gynnulleidfa â cholerau gwedi eu dyfal startsio, a gwallt gwedi ei grychu â haiarn go∣sod, ac â gwisc brydferth, gwedi ei addurno â llyssi∣au ac â pher arogl, sydd yn arwyddoccau enaid nid yw na gostyngedig ger bron Duw, nac erioed yn adnabodus a'r vnion arfer o'r cyfryw orchwyl sanc∣taidd.

Yn bedwerydd, oddiwrth gyflawn fesur o gynefin gŵsc. Fel y gellych di y ffordd honno hefyd ostwng dy gorph: ac megis y gallo dy enaid wilio a gweddio, i fod yn barod erbyn dyfodiad Crist. 2 Sam. 12.16. Joel 1.13. Hest. 4.3. Ac o thorri di yn fynych ar dy gwsc, o ran budd bydol neu ddifyrwch, pa faint mwy y dylit ti wneuthur hynny o ran gwasanaeth i Dduw? Ac o darfu i Ahab er tebygu ir duwiol, yn ei ympryd orwedd mewn sachliain, i dorri ei gŵsc y nôs; 1 Bren. 21.27. beth a dybiwn ni am y rhai a ymroant eu hunain i gyscu ar ddydd ympryd yn yr Eglwys?

Yn bumed ac yn olaf, oddiwrth bob difyrrwch i'n synwyrau oddiallan. Canys megis nad y gwddf yn vnig oedd yn pechu, felly nid y gwddf yn vnig sydd iw gosbi. [Si sola gula peccavit, sola jejunet, & sufficit. Si vero peccaverunt & caetera membra, cur non jejunent & ipsa? Bern. Os y gwddf ei hun sy 'n pechu, ymprydied ef mai 'n ddigon hynny, ond os pecha 'r holl aelodau, pan na chyd ymprydiant hwythau?] Ac am hynny y mae yn rhaid i ni ymegnio i beri i'n golygon (megis ar bob amser, felly) yn enwedig ar y dydd hwnnw, ymprydio rhag can∣fod oferedd; a'n clustiau rhag clywed music neu gerddwriaeth, oddieithr y cyfryw a wnelo i ni ala∣ru:

Page 261

ein ffroenau rhag pêr arogl, ein tafodau rhag celwydd, gweniaeth, ac enllib, ie rhaid rhoi heibio arfer y gwely priodas, er crefyddol anrhŷ∣dedd i'r Mawredd galluoccaf: megis na byddo felly dim yn rhwystro ein gwir ostyngeiddrwydd, eithr bod o'r cwbl yn argoelion ein bod yn ddifrifol ostyngedig. A hyn am y modd oddiallan.

2. Y modd ar ynprydio oddifewn sydd yn sefyll mewn dau beth.

  • 1. Edifeirwch.
  • 2. Gweddî.

Edifeirwch sydd a dwy ran iddi.

  • 1. Gresyndod am bechodau a aethant heibio.
  • 2. Gwellhâd buchedd o'r amser hynny allan.

Y Gresyndod hwn, sydd yn sefyll mewn tri pheth. Yngyntaf, yn cymmeryd golwg ar dy bechod oddi∣fewn, ac yn ymwrando a'th trueni. Yn ail, yn cwyno dy gyflwr ffiaidd. Yn drydydd, yn gwneu∣thur gostyngedig neillduol gyffes o'th holl bechodau adnabyddus.

1. Am gymmeryd golwg a'r bechod oddifewn, ac ymwr andaw a thrueni.

Yr ymwrandawiad ar golygiad hwn a weithredir ynot: Yn gyntaf, wrth ystyried dy bechodau, yn enwedig dy bechodau mawrion, yn ol amgylchiadau y pryd ar amser, y fan a'r lle, y dull a'r modd, a chyd â phwy y trosseddwyd. Yn ail, Mawrhydi DVW yn erbyn yr hwn eu gwnaeth pwyd hwy; ac yn hy∣trach am i ti wneuthur y pethau hyn yn ei erbyn ef, ac yntau wedi rhyngu bodd iddo fod yn Dád i ti, a channiadhau i ti gynifer o fendithion diddanaidd, a rhadau daionus. Yn drydydd, wrth ystyried y mell∣dithion a fygythiodd Duw am dy bechod: ac mor greulon y dialodd Duw ar rai eraill am yr vnrhyw fai, ac fel nad oes vnrhyw foddion yn y nef, na 'r ddaiar i'th achub di rhag bod yn golledig dragwy∣ddol, oni buasai i Fab Duw mor garedig farw dro∣sot.

Page 262

Yn olaf, meddwl os ydyw Duw yn dy garu, fod yn rhaid iddo ef dy geryddu cyn bo hir a rhyw gy∣studdiau dwysion, odieithr i ti achub y blaen arno yn brysur â difrifol edifeirwch. Gâd i'r rhai hyn a'r cyfryw ystyriaethau bigo dy galon â gofid, me∣gis gan doddi ynot o wir resyndod, y gallo hi ymo∣llwng a meirioli i fod yn ffynnon o ddagrau heilldi∣on, i ffrydio i lawr rhyd dy ruddiau galarus. Y ga∣lar hwn ydyw dechreuad gwir ympryd; ac am hy∣nny yn fynych wedi ei roi ar lawr am ympryd, sef y rhan gyntaf neu 'r brif ran am yr holl weithred. Mat. 9.15. Psal. 6.

2. Am gwynfan dy gyflwr dy hun.

Cwynfan neu alarnad ydyw ocheneidio allan ru∣ddfan y galon, trwy y lleferydd oddiallan, â dagrau y llygaid. Joel 2.12. A'r cyfryw ddifrifol ymbil a thaerni ei blant mewn gweddi, y bodlonir ein Tâd nefol. Jer. 31.18, 19, 20. Na, pryd y byddo yn ffrwythau ei Yspryd ef ac yn effeithiau o'n ffydd ni, ni all ef fod yn anfodlon iddo. Canys o chlybu ef gwynfan Ismael a Hagar yr hyn a barasai ing a gorthrymder iddynt ei adrodd, Gen. 21.17.18. ac os clyw ef lais y cigfrain ieueingc, a rhuad y lle∣wod; pa faint hytrach y gwrendy ef y galarnad to∣sturus, yr hyn y mae ei blant ei hun yn ei wneuthur atto ef, yn eu gorthrwmder?

3. Am yr ostyngedig gyffes o bechodau.

Yn y weithred hon y mae 'n rhaid i ti chwarau yn vnion ac yn ddi-hocced â Duw, a chyfaddef yr holl bechodau a wyddost ti, nid vn vnig yn gyffredi∣nol, eithr yn neillduol hefyd, sef pob un gerfydd ei ben. Hyn oedd arfer holl blant Duw yn eu hym∣prydiau: 1 Sam. 7. Ezek. 9. Dan. 6. Neh. 1. yn gyntaf, o herwydd heb gyffesu nid oes i ti vn addewid o drugaredd, neu faddeuant am dy bechodau. Yn ail, megis y byddych di felly yn cydnabod fod Duw

Page 263

yn gyfiawn, a thithau dy hun yn anghyfiawn. Psal. 51.4. Yn drydydd, megis wrth rifo dy bechodau, y gellych di dynnu dy galon i lawr yn fwy gostyng∣edig. Yn bedwerydd, fel yr ymddanghoso dy fod di yn wir edifeiriol: Canys nes i Dduw roddi i ti râd i wellhau, fe fydd cywilyddiach gennit gyfaddef dy fai, na gwneuthur y pechod. Pa deccaf ac vnion∣af y chwareuych di â Duw yn hyn o both, teccaf a thrugaroccaf y chwery Duw â thithau: canys os cyfaddefi dy bechodau, ffyddlon yw Duw, a chyfiawn fel y maddeuo i ti dy bechodau: a gwaed Jesu Grist êi Fab ef a'th lanhâ di oddiwrth bob pechod. 1 Joan. 1.7.9.

I'th cynnorthwyo di 'n well i gyflawni y tri rhan hyn o edifeirwch, ti a elli ddarllen yn ddyfal gyfryw fannau a rhannau o'r Scrythur sanctaidd ac a fyddo yn crybwyll pechodau cyffelyb i'th rhai neillduol dithau: Megis y gellych di weled melldith Duw ai farnedigaethau ar rai eraill, am yr vnrhyw becho∣dau, ac wrth hynny dy wneuthur dy hun yn fwy gostyngedig.

Hyn yma am y rhan gyntaf o edifeirwch, yr hwn yw gresyndod am y pechodau a aethant heibio.

Y rhan arall, yr hwn yw Gwellhâd buchedd, sydd yn sefyll: yn gyntaf, mewn gweddi grefyddol: yn ail; mewn gweithredoedd bucheddol.

Y weddi grefyddol, yr hon yr ydym ni yn ei wneuthur yn amser ympryd, ydyw naill a'i ymeiri∣awl na ddelo y drwg, neu ymbil am bethau daionus an∣genrheidiol. Ymeiriawl rhag y drwg yw, Pan fydd∣ych di yn erfyn ar DDVW, er mwyn Jesu Grist dy gyfryngwr, am faddeu i ti dy holl bechodau y rhai a ddarfu i ti eu cyfaddef; ac am droi heibio oddi∣wrthit y barnedigaethau hynny sydd ddyledus i ti am danynt. Ac fel Benhadad, pan glŷbu ef fod brenin Israel yn drugarog, a ymostyngodd ei hun

Page 262

〈1 page duplicate〉〈1 page duplicate〉

Page 263

〈1 page duplicate〉〈1 page duplicate〉

Page 264

iddo ef, wedi ei ymwregsu â sachliain, ac â rhaff am ei ben: 1 Bren. 20.31.32. felly gan dy fod ti yn gwybod fod Brenin Nêf yn drugarog, tafl dydi dy hun i lawr o'i flaen ef, mewn amryw argoelion, ac arwyddion o ostyngeiddrwydd: yn enwedig gan ei fod ef yn galw arnat yn nydd dy drallod: Psal. 50.15. a diammau y cai di ef yn dra-thrugarog.

Ymbil am bethau daionus angenrheidiol yw, yn gyntaf, deisyfu yn ffyddlawn ac yn wresog gan Dduw siccrhau yn dy galon di, trwy ei Yspryd san∣ctaidd, faddeuant am dy holl bechodau. Yn ail, ar iddo adneŵyddu dy galon trwy 'r Yspryd glân, fel y byddo pechod beunydd yn diflannu, a chyfiawnder fwyfwy yn cynyddu ynot. Yn olaf, gan ddymu∣no cyfran o ffydd, ammynedd, a diweirdeb, a'r holl ddoniau eraill sydd arnat eu heisiau: a rhâd, a chynnydd ar yr holl ddoniau a ddarfu i Dduw o'i drugaredd eu canniadhau i ti yn barod, Philip. 4.6. 1 Tim. 5.5.

A hyn am weddi mewn ympryd.

Y gweithredoedd crefyddol mewn ympryd ydynt ddwy. Yn gyntaf, gochel y drwg. Yn ail, gwneu∣thur da.

1. Am ochelyd drwg.

Y Dirwest, neu yr ymgadw oddiwrth ddrwg ydyw yr hyn a arwyddoceir yn bennaf wrth y dirwest oddi∣wrth fwyd, &c. Ac ydyw y prif ddiben er mwyn yr hyn i'r ymprydir, megis y gwyddai y Ninifeiaid yn dda: Jona. 3.7, 8. Dydd o ympryd, ac heb ympry∣dio oddiwrth bechod y mae 'r Arglwydd yn ei ffiei∣ddio. Nid cylla gwag eithr calon bur, sydd mewn cymmeriad ger bron Duw: Os mynni di gan hynny i Dduw droi oddiwrthit ddrwg cystudd; rhaid i ti yn gyntaf droi oddiwrthit dy hun ddrwg camwedd. Ac heb yr ymprydio hwn oddiwrth ddrwg, y mae dy ympryd yn aroglu yn waeth o flaen Duw nac yw

Page 265

dy anadl o flaen dŷn. Hynny a wnaeth i Dduw cyn fynyched wrthod ympryd yr Iddewon. Esa. 1.13, 14. ac 58.2, 3. Zech. 7.5. Ac megis y mae yn rhaid i ti ymegnio i ochel pob rhyw bechod, felly yn enwedig y pechod hwnnw, a'r hwn y darfu i ti ennyn digofaint Duw, naill a'i i yscwyd ei wialen arnat, neu i osod ei law i'th ceryddu di eusys. A gwna hyn trwy ymroad (gyd â chynnorthwy rhâd Duw) na wnelych di byth mor pcchodau hynny drachefn. Canys pa lés i ddyn ymostwng ei gorph trwy ddirwest, os bydd ei feddwl ef yn chwyddo gan falchder? neu ibeidio a gwîn ac â diod gref, ac i feddwi gan lid a digofaint? neu i luddies i ddim cig fyned i'r bol, pryd y byddo celwyddau, enllib, a serthedd (yr hyn sydd waeth na bwyd yn y byd) yn dyfod allan o'th enau? ymgadw oddiwrth fwyd a gwneuthur mawr∣ddrwg ydyw ympryd y cythraul, yr hwn sydd yn gwneuthur drwg, ac yn newynog bob amser.

2. Am wneuthur gweithredoedd da.

[Vis orationem tuam volare ad coelum? Fac illi duas alas, Jejunium & Eleemosynam, Aug. A fyn di i'th weddi hedeg draw, i'r nef uwchlaw ffurfafen? Död ddwy aden iddi ynghyd, dy ympryd a'th elusen.]

Y gweithredoed da, y rhai fel yr wyd yn Gristi∣on sydd raid i ti eu gwneuthur bob dydd, eithr yn enwedig ar dy ddydd ympryd, ydynt naill, a'i gwei∣thredoedd o dduwioldeb tu ag at Dduw, neu weith∣redoedd cariad perffaith tu ag at dy gyd-frodyr.

Yn gyntaf, gweithredoedd o dduwioldeb tu ag a Dduw, ydynt yr ymarfer o'r holl ddyledion rhag∣ddywededig, ym mhurdeb cydwybod dda, ac yngo∣lwg Duw.

Yn ail, y gweithredoedd o gariad perffaith tu ac at ein brodyr, ydynt, maddeu cammau, a dyledion i'r rhai tlodion ni allo dalu: yn enwedig rhoddi eluseni i'r tlodion a fyddont mewn prinder ac eisiau: Esa.

Page 266

58.6. Zech. 7.5.9.10. onidê wrth wneuthur lliw o dduwioldeb, ni fyddwn yn arferu cybydd-dra; me∣gis y rhai a wascant ar eu boliau eu hunain, i dwy∣llo eu gweision, a'i llafurwyr, am eu llyniaeth dyledus. Megis y darfu gan hynny i Grist gysylltu ympryd, gweddi, ac elusen, ynghyd yn yr vn gor∣chymmyn; felly y rhaid i tithau eu plethu hwynt ynghyd, megis Cornelius, mewn ymarfer. Math. 6. Act. 10.30, 31. Ac am hynny bydd sicr o roddi i'r tlawd ar dy ddydd ympryd or hyn lleiaf gymmaint ac a dreiliasit ti yn dy ymborth dy hun pe buasit heb ymprydio y dwthwn hwnnw. A chofia mai 'r hwn sydd yn hau yn helaeth, a fêd yn helaeth, ac mai prif ddiwrnod i hau yw hwn. 2 Cor. 9.6. Bydded dy ympryd felly yn dy gystuddio di, megis y by∣ddo yn llonni Cristion tlawd arall: a gorfoledda ddar∣fod i ti giniawa a swpperu mewn un arall, neu yn hytrach ddarfod i ti borthi Crist newynog yn ei ae∣lodau tlodion. Bendigedig yw 'r hwn sy'n ymprydio fel y portho 'r tlawd; canys tebyga i Grist yr hwn a roddes ei enaid dros ei frodyr, Cyril. in Levit.

Wrth roddi Elusenau, meddwl am ddau beth, yn gyntaf, y Rheoledigaethau: yn ail, y taledigae∣thau.

1. Rheoledigaethau wrth roddi elusenau, a gw∣neuthur gweithredoedd da.

1. Rhaid yw eu gwneuthur yn ufydd-dod i or∣chymmyn Duw: Nid o herwydd ein bod ni yn tybied eu bod yn dda, eithr o herwydd fod Duw yn gofyn y fâth weithredoedd da ar ein dwylaw: a'r cyfryw ufydd-dod (1 Sam. 15.22.) gan y gweith∣redydd, y mae Duw yn ei gymmeryd o flaen pob ebyrth, a'r gweithredoedd godidoccaf.

2. Rhaid iddynt fod yn deilliaw ac yn tyfu oddi∣wrth ffydd, onidê ni ryngant fodd Duw: nagê, heb ffydd nid yw y gweithredoedd tecaf ond pechodau

Page 267

disclaer, ac elusenau Pharisæaidd. Rhuf. 14.23. Heb. 11.3.

3. Ni wasanaetha i ti dybied y gelli di haeddu y ne∣foedd o herwydd dy weithredoedd da a'th elusenau; Canys fe ddarfuasai i Fab Duw dywalld ei waed yn ofer, pe gallesid prynu y nefoedd am fwyd neu ari∣an. Y mae 'n rhaid i ti gan hynny geisio meddiant ar y nefoedd, trwy werth gwaed Crist, ac nid trwy haeddedigaeth dy weithredocdd dy hun. Canys dawn Duw yw bywyd tragwyddol trwy Jesu Grist ein Harglwydd: Rhu. 6.23. Etto y mae 'n rhaid i bob gwir Gristion, sydd yn credu ei fod ei hun yn gadwedig, ac yn gobeithio myned i'r nefoedd, wneu∣thur gweithredoedd da (megis y dywaid yr Apostol) i anghenrheidiau er mwyn pedair achos:

Yn gyntaf, fel y gogonedder Duw. Philip. 1.11. Yn ail, fel y byddych yn ymddangos yn diolchgar am dy Brynedigaeth, Luc. 1.74, 75. Yn drydydd, fel y gwnelych dy etholedigaeth yn ddiogel iti dy hun, 2 Pet. 1.10. Yn bedwerydd, fel y byddych yn yn∣nill eraill wrth weled dy ddwywolder bucheddol i dy∣bied yn well o'th crefydd Gristianogawl, Mat. 5.16. Ac er mwyn yr arferion hyn y gelwir ni yn waith Duw, wedi ein creu yn-Grist Jesu i weithredoedd da, y rhai a rag-ddarparodd Duw, fel y rhodiem ni yn∣ddynt, Ephes. 2.10.

4. Ni wasanaetha i ti roi mo'th elusen i fedlem∣mod cryfion, neu westenwyr digywilydd, y rhai ydynt yn byw mewn cwyllyslawn seguryd ac aflendid, ei∣thr i'r tlodion crefyddol onest, y rhai a fyddant naill a'i yn gláf, a'i 'n hên heb allael mor gweithio: neu i'r cyfryw rai a weithio, a'i gwaith heb allael moi cadw: cais afael ar yr rhain y tu cefn i'r hwylfeydd, a dôd gymmorth iddynt. Eithr o chyfarfyddi di ag vn a fynno gardod er mwyn Jesu, a thi heb wy∣bod ei fod yn anheilwng, na naghá mo hono ef: ca∣nys

Page 268

gwell i ti roddi i ddêg o Dwyllwyr, na chynnwys i Grist fyned yn ddiymwared, mewn un sanct tlawd. Nac edrych i ba ddŷn eithr dôd ti dy elu∣sen megis pe bait yn ei rhoi i Grist ei hunain.

2. Am daledigaeth Elusenau, a gweithredoedd da.

1. Elusenau ydyw 'r moddion rhagorol i beri i Dduw yn ei drugaredd droi ei farnedigaethau am∣serol oddiwrthym: pan fyddom ni trwy wir ffydd (yr hon a'i dengys ei hun wrth y cyfryw ffrwythau) yn dychwelyd atto ef. Dan. 4.24.

2. Trugarog roddwyr echwyn ac Elusenau a fy∣ddant blant i'r goruchaf; Luc. 6.35.36. ac yn de∣byg i Dduw eu Tâd, yr hwn yw Tâd y Trugare∣ddau, 2 Cor. 1.3. Hwy a gân fod yn oruwchwilwyr i gyfrannu ei dda; Luc. 16.2. a'i ddwylaw i roddi ei Elusenau. Ac os ydyw gymmaint goruwchafia∣eth fod yn oruwchwiliwr elusenau 'r Brenin; pa faint mwy ydyw bod yn oruwchwiliwr, neu yn rhannwr Elusenau tros Frenyn y Brenhinoedd?

3. Pan fyddo 'r holl fyd yn ein gadael ni, yno yn unig gweithredoedd da, ac Angelion da a'n canlynant, y naill, i dderbyn eu gwobr, a'r lleill, i gyflawni y gorchymmyn a roddwyd arnynt. Date. 13.14. Luc. 16.22. Psa. 91.11. Heb. 1.14.

4. Haelioni mewn Elusenau ydyw y sail gadarnaf y cawn yn y bywyd tragywyddol wobr tra-helaeth, trwy drugaredd a haeddedigaethau Crist. 1 Tim. 6.19.

Yn ddiweddaf, wrth roi Elusenau yr ydym ni yn rhoi ymwared i Grist ac yn ei borthi ef yn ei aelodau; ac yn y dydd olaf fe gydnebydd Crist a'n cariad ni tu ag atto, ac a'n gwobrwya o'i drugaredd. Matth. 25. Ac yno yr ymddengys yn eglur, na chollwyd yr hyn a roddasom ni i'r tlawd, eithr ei roi yn echwyn i'r

Page 269

Arglwydd. Dihar. 19.17. Pa resymmau gwell a all Cristion eu deisyf iw gynhyrfu i fod yn hael i roddi Elusenau?

Hyd yn hyn am y modd i ymprydio. Yma y can∣lyn y diben ar defnydd o ymprydio.

3. Am y diben nou 'r defnydd o ympryd.

Y gwir ddiben neu 'r defnydd er mwyn yr hyn i'r ymprydir, nid yw i haeddu cariad Duw, neu fywyd tragwyddol, canys hynny a gawn ni yn vnig o Ddawn Duw trwy Grist: nac i osod crefydd mewn dirwest corphorol, canys nid yw ympryd o honaw ei hun yn anthydedd i Dduw, eithr yn gymmorth i'n hyffor∣ddi ni i anrhydeddu Duw. Yr vnion ddefnyddiau oympryd gan hynny ydynt dri:

Yn gyntaf, i ddarostwng y cnawd at yr yspryd: 1 Cor. 9.27. eithr nid i wanhychu ein cyrph, fel yr elom yn anghymmesur i wneuthur dyledus orchwy∣lion ein galwedigaeth. 1 Tim. 5.23. Y cyfiawn medd Salomon a fydd ofalus am fywyd ei anifail, Dihar. 12.10. mwy o lawer am ei gorph ei hun.

Yn ail, fel y gallom ni yn fwy defosionol synnied bendigedig ewyllys Duw, a bwrw allan ocheneidiau ysprydol mewn gweddi wresog ger ei fron ef: Luc. 2.37. 1 Cor. 7.5. canys fel y mae rhyw fâth ar Gythreuliaid, felly hefyd y mae rhyw fâth ar becho∣dau, ni ellir moi gorescyn, ond trwy ympryd a gwe∣ddi ynghyd. Mat. 17.2.

Yn drydydd, megis trwy ein gostyngeiddrwydd di∣frifol a thrwy ein barnu ein hunain, y gallom oche∣lyd barn yr Arglwydd: nid o ran haeddedigaeth ein hympryd (yr hyn nid yw ddim) eithr o ran tru∣garedd Dduw, yr hwn a addawodd symmud ei Far∣nedigaethau oddiwrthym, pan fyddom ni trwy ym∣pryd yn ddiffuant yn ein ymostwng ein hunein ger ei fron ef. Ac mewn gwirionedd ni arferodd vn plen∣tyn

Page 266

〈1 page duplicate〉〈1 page duplicate〉

Page 267

〈1 page duplicate〉〈1 page duplicate〉

Page 268

〈1 page duplicate〉〈1 page duplicate〉

Page 269

〈1 page duplicate〉〈1 page duplicate〉

Page 270

i Dduw, y gorchwyl sanctaidd hwn yn gydwybo∣dus, nas cai ef yn y diwedd gwplhau ei ddymuniad gan Dduw: yn gystal yn derbyn y rhadau a fyddent ddiffygiol iddo, megis y mae 'n eglur, yn esamplau Hannah, Jehosaphat, Nehemiah, Daniel, Esdras, Hester: 1 Sam. 1. 2 Chron. 20. Nehem. 1. Dan. 9. Esd. 8.23. Hest. 9. Ac yn troi ymmaith y Barne∣digaethau bygythiol, neu ddigwyddedig arno ef, me∣gis y gellir gweled yn esamplau yr Israeliaid, Nini∣feiaid, Rehoboam, Ahab, Ezechias, Manasses. 1 Sam. 7.6. Jonah 3. 2 Cron. 12.5.7. 1 Bren. 21. 1 Cron. 32. 2 Cron. 33.18, 19. Efe yr hwn a ro∣ddes ei anwyl Fab o'r nêf i farwolaeth, yn bridwerth trosom pryd yr oeddem ni yn elynion iddo; ni thy∣bia fod dim ar y ddaiar yn rhy anwyl iw ganniadhau i ni, pan fyddom gwedi ein ymddarostwng ein hu∣nain, a'n cymmodi ag efo megis plant a chyfeillion.

A hyn am yr ympryd neillduol.

2. Am yr ympryd cyhoeddus.

YMpryd cyhoeddus ydyw, pan fyddo trwy Aw∣durdod Swyddog, naill a'i 'r holl Eglwys tan ei lywodraeth ef, neu ryw gynnulleidfa hynod (i'r hon ei perthyn) yn eu hymgynnull eu hunain ynghyd, i gyflawni y rhagddywededig ddyledion o Ostyngei∣ddrwydd; naill a'i er mwyn cael eu gwared oddi∣wrth ryw gystudd cyffredin a fyddo yn eu bygwth hwynt, neu wedi eu taro hwynt eusus, megis y cleddyf, dinistr, newyn, haint, neu ryw fath arall ar glefyd ofnadwy; neu er mwyn cael derbyn rhyw fendith gyffredinol, o ran daioni i'r Eglwys; megis i ymbil am gynnorthwy ei Yspryd glán ef, wrth Ethol ac or∣deinio Bugeiliaid cymhesur, &c. Neu o ran chwilio am y Gwirionedd allan, a gwneuthur Cyfiawnder

Page 271

mewn achosion anhawdd a phwysfawr, &c, 2 Cron. 20. Act. 1. ac 13.

Pan fyddo rhyw ddrwg iw symmud, y Bigei∣liaid a ddylai gyhoeddi i'r bobl, trwy dystiolaeth Gair Duw pa bechodau oedd achos y gorthrymder hwnnw; a galw arnynt i edifarhau, a dangos yn eglur iddynt drugareddau Duw YnGrist os edifar∣hânt. Y mae 'n rhaid i'r bobl wrando llaferydd Cenadau yr Arglwydd trwy dristwch difrifol am eu pechodau; ac erfyn nawdd yn ewyllyscar YnGrist, ac addo yn ddi-dwyllodrus wellhâd ou bucheddau. Pan fyddo rhyw fendith i'w herfyn, y mae yn ang∣henrhaid i'r Bigeiliaid ddangos ar gyhoedd i'r bobl reittied wrth y fendith honno, a Daioni Duw yr hwn sydd yn rhoddi y cyfryw râdau er daioni dy∣nion. Y mae 'n rhaid i'r bobl weddio yn ddyfal-astud at Dduw, am ganniadhau y cyfryw râd iddynt, ac am fendithio ei foddion ei hun i'w ogoniant ei hunan, ac i ddaioni ei Eglwys. A phan ddarfyddo y Gorch∣wyl sanctaidd, cymmered bob Cristion yn ôl ei allu brif ofal am gofio 'r tlawd. A phwy bynnag (pan fyddo 'r achos yn erchi) nid arfero y gorchwyl san∣ctaidd hwn o ymprydio, efe a ddichon ammeu yn gyfiawn na chlybu ef erioed nerth Cristianogaeth yn ei galon.

Hynny am ymprydiau: yma y canlyn yr arfer o wledda yn sanctaidd.

Am ymarfer o Dduwioldeb wrth Sanctaidd wledda.

GWledd sanctaidd yw diolchgarwch hynodol (gosodedig trwy Awdurdod) iw chyssegru i Dduw ar ryw ddydd arbennig, am ryw fendithion neu ymwaredau odiaethol a dderbynwyd. y cy∣fryw oedd wlêdd yr oen Pâsc yn mhlith yr Juddew∣on, i ddwyn ar gôf foliannu DVW am eu gwared hwy o gaethiwed yr Aipht, Exod. 12.15. neu wlêdd

Page 272

Purim, i dalu diolch am eu gwared hwy o fradwri∣aeth Haman, Hest. 9.16.21. Y cyfryw yn ein plith ni ydyw y pumed o Awst, i glodfori Duw am wa∣redu ein diweddar Frenin James oddiwrth fradwri∣aeth Gowri. Ar pumed o Dachwedd am waredu y Brenin a'r holl deyrnas oddiwrth y pabaidd Bow∣dr fradwriaeth. Y cyfryw wleddoedd a ddylent gael eu cyssegru drwy egluro yn gyhoeddus yr hy∣nodol drugareddau hynny, mewn Psalmau yspry∣dol, a dawnsiau; gan wahodd y naill y llall, a dan∣fon anrhegion pob vn i'w gymmydog: ac yn enwe∣dig danfon cardodau i'r tlodion.

Eithr yn gymmaint ac mai lleshâd ein Prynediga∣eth oedd y peth angenrheidiaf i ddŷn ei gael ar law Dduw; neu ar a ganniadhâodd Duw i ddŷn: a gadael o'n Hiechawdwr ei Swpper sanctaidd, yn brif goffa∣dwriaeth o'n prynedigaeth: fe ddylai pob Cristion gyfrif y Swpper sanctaidd hwn yn wlêdd bennaf ac yn hyfrydaf yn y byd yma. Ac megis y mae yn gweithredu yn y cyfrannogion teilwng y diogelwch mwyaf sydd iddynt ou hiechydwriaeth: felly y mae yn tynnu barnedigaeth amserol ar gyrph, ac (heb edifeirwch) cospedigaeth tragwyddol ar enei∣diau y rhai a'i cymmerant yn anheilwng. Gadewch i ni weled pa fodd y mae i Gristion ei gymhwyso ei hun yn oreu, i fod yn gyfrannog o'r cyfryw wledd sanctaidd; ac yn westwr teilwng i'r fâth Swpper ben∣digedig.

Myfyrdodau yn dangos yr vnion fodd o ymar∣fer Duwioldeb wrth dderbyn Cymmun yr Arglwydd.

ER na ddichon vn dŷn byw o hono ei hun fod yn westwr teilwng i'r cyfryw Arlwy sanctaidd; etto fe ryngodd bodd i Dduw o'i râs, ei gymmeryd ef

Page 273

am dderbynniwr teilwng, yr hwn a ymegnio i dder∣byn y Dirgeledigaeth sanctaidd hwnnw, a'r cyfryw sesur addas o barch, ac a adroddodd ef yn ei Air. 2 Thes. 1.11.

Yr hwn a fynno dderbyn y Sacrament sanctaidd hon trwy barch anrhydeddus, rhaid iddo yn gydwy∣bodus gwplhâu tri math ar ddyledion. Yn gyntaf, y pethau sydd raid iddo eu gwneuthur cyn Cymmuno: Yn ail, y pethau sydd i'w gwneuthur wrth Gymmu∣no: Yn drydydd, y pethau sydd i'w gwneuthur gwe∣di Cymmuno. Y cyntaf a elwir Paratôad, yr ail Myfyrdod, y trydydd Gweithrediad, neu ymar∣fer.

1. Am Baratôad.

BOd yn angenrhaid i Gristion ei baratoi ei hun, cyn iddo ryfygu bod yn gyfrannog o'r Cym∣mun sanctaidd, a ymddengys yn eglur o herwydd pum achos.

Yn gyntaf, o herwydd ei fod yn orchymmyn DVW: Canys os gorchymynnodd ef tan boen marwolaeth, na chai yr vn di-enwaededig fwyta o'r oen Pâsc; nac yr vn enwaededig, nes iddynt fod bed∣war Diwrnod yn ymbaratoi: Exod. 12.48. pa faint mwy parodrwydd y mae ef yn ei ddisgwyl gan yr hwn sydd yn dyfod i dderbyn y Sacrament o'i gorph a'i waed? Yr hwn megis y mae yn dyfod yn lle 'r llall, felly mewn llawer gradd y mae yn rha∣gori ar Sacrament yr oen Pasc.

Yn ail, o herwydd bod esampl Crist, yn dyscu i ni hynny, Joan. 13.5. Canys efe a olchodd draed ei ddiscyblion, cyn iddo gynnwys iddynt fwyta o'i Swpper ef. Gan arwyddocau y dylit ti roi heibio holl amhuredd calon, ac aflendid buchèdd, i'th a∣ddurno dy hun â Gostyngeiddrwydd, ac â chariad

Page 274

perffaith, cyn i ti ryfygu dyfod i archwaethu o'i Swpper sanctaidd.

Yn drydydd, am ei fod yn gyngor yr Yspryd Glân: Eithr holed dŷn ef ei hun, ac felly bwytaed o'r bara, ac yfed o'r cwppan, &c. 1 Cor. 11.28. Ac os rhaid i ddŷn Pan eisteddo i fwyta gyd â Thywysog daiarol, ystyrio yn ddyfal pa beth sydd o'i flaen, a bôd yn well iddo osod cyllell ar ei gêg na bod yn anweddus: Dihar. 23.1.2. Pa faint mwy y dylit ti baratoi dy enaid, fel y gellych dy ymddwyn dy hun mewn holl ofn ac anrhydedd, pan fyddych i gael gwlêdd sanctaidd ar Fwrdd Tywysog y tywysogion?

Yn bedwerydd, o herwydd ei fod yn ddefod eri∣oed ym mhlith holl Seinctiau Duw, arfer o baro∣drwydd Sanctaidd cyn y trinent y Dirgeledigaethau nefol. Nid a'i Ddafydd yn agos at Allor Dduw, nes iddo ef yn gyntaf olchi ei ddwylaw mewn diniwei∣drwydd: Psal. 26.6. llawer llai y dylit ti heb ym∣baratoi, ryfygu myned yn agos at Fwrdd yr Argl∣wydd. Ni roddai Abimelech, ac ni fwytai Dda∣fydd a'i wŷr mor bara gosod, ond tan ammod fod eu llestri yn sanctaidd; 1 Sam. 21.4.5. pa faint llai y dylit ti ryfygu bwyta bara yr Arglwydd, neu yn hytrach y bara yr hwn yw 'r Arglwydd, heb i lestr dy galon di yn gyntaf gael ei lanhau gan edifeirwch? Ac os archodd Duw i Josua (fely parasai i Moeses o'r blaen) ddattod ei escidiau oddiam ei draed, o ran anrhydedd i'w sancteiddrwydd ef, yr hwn oedd bresennol yn y lle hwnnw, lle yr ymddan∣gosodd ef â chleddyf yn ei law i ddinistrio ei e∣lynion. Jos. 5.15. Exod. 35. Pa faint hytrach y dylit ti fwrw ymmaith holl serch dy ymarweddiad bydol, pan fyddych yn dyfod i nesâu at y fan lle mae Crist yn ymddangos i olwg dy ffydd, a'r briwiau yn ei ddwylaw a'i ystlys, er gwaredu ei gyfeillion? Ac er mwyn yr achos hon y dywedir ddyfod priodas yr oen,

Page 275

a bod ei wraig ef wedi ei pharatoi ei hun. Dad. 19.7. Paratoa gan hynny dydi dy hun, os mynni yn y byd hwn dy ddyweddio â Christ trwy râs Sa∣cramentaidd; neu yn y nefoedd dy briodi ag ef, trwy ogoniant tragwyddol.

Yn bumed, o blegid i Dduw bob amser daro â Barnedigaethau ofnadwy, y rhai a feiddient arferu ei sanctaidd ordinhadau ef, heb ofn a pharod∣rwydd dyledus. Efe a osododd Duw gleddyf tanllyd yn llaw Cherubin i daro ein Henafiaid gwedi iddynt ymhalogi a phechod, os amcanent hwy fyned i Bera∣dwys i fwyta y Sacrament o Bren y bywyd. Ofna dithau gan hynny gael dy daro a chlêdd dialedd Duw os rhyfygi di fyned i'r Eglwys â chalon ddi∣edifeiriol i fwyta Sacrament Arglwydd y by∣wyd. Efe a darawodd Duw ddengmil a deugain o'r Bethshemitiaid, am iddynt hwy edrych yn amhar∣chus yn ei Arch ef; 1 Sam. 6.19. ac a laddodd Ʋzza â marwolaeth ddisymmwth am iddo gyffwrdd a'r Arch yn Ehud; 2 Sam. 6.6, 7. ac a darawodd Ʋzziah a gwahanglwyf, am fyned i drin swydd yr offeiriad, yr hyn nid oedd yn perthynu iddo. Ofn y fâth ddyrnod a wnaeth i Ezechiah yn ei weddi ddifrifol ddeisyfu ar Dduw na tharawâi efe mor bobl y rhai oedd arnynt eisiau amser i ymbaratoi, fel y perthynai iddynt cyn bwyta yr oen Pasc: ac yr ydis yn dywedyd i'r Arglwydd wrando ar Ezechiah, ac iachau 'r bobl: gan roi ar ddeall, oni buasai weddi Ezechiah, y tarawsai 'r Arglwydd y bobl o ran bod eu parodrwydd angenrheidiol yn niffyg. 2 Cron. 30.18, 19, 20. ar dŷn a ddaeth i'r neithior heb ei wisc priodas am dano, na'i holi ei hun, a gafas ei holi gan arall, ac yno rhwymo ei ddwylaw a'i draed, a'i daflu 'r tywyllwch eithaf. Mat. 22.12. Ac y mae St Paul yn dywedyd i'r Corinthiaid, mai o herwydd isiau y parodrwydd hwn yn eu holi a'i barnu eu

Page 276

hunain, cyn iddynt fwyta Swpper yr Arglwydd, y darfuafai i Dduw ddanfon y clefyd ofnadwy hwnnw yn eu plith, o'r hwn yr oedd rhai o honynt y pryd hynny yn gleifion, eraill yn weiniaid, a llawer wedi myned i huno; 1 Cor. 11.29. hynny yw, we∣di i Angau amserol eu cyrhaeddyd. Yn gymmaint a bod yr Apostol yn dywedyd; fod pob vn sydd yn bwyta ac yn yfed yn anheilwng, yn bwyta ac yn yfed ei farnedigaeth ei hun; amserol os edifarhâ, tragwy∣ddol os ef nid edifarhâ: a hynny mewn mesur mor echryslon, a phe bai yn enog o wir gorph a gwaed yr Arglwydd, o'r hyn y mae y Sacrament hon yn sèl, ac yn arwydd sanctaidd: Adn. 27. Felly y cospa Tywysogion y cam a wneler a'i Sêl fawr hwynt, yn yr vn stunyd a pha gwneid iw cyrph hwynt eu hu∣nain, yr hyn y mae eu Sêl hwy yn ei arwyddoccâu. Mor drwm echryflon yw bod yn euog o waed Crist, y mae 'n ymddangos yn eglur wrth drueni cystuddi∣ol yr Juddewon byth ar ôl iddynt ddymuned ei waed ef i fod arnynt hwy ac ar eu plant. Math. 27.25. Eithr yno di a ddywedi, mai diogelaf yw ym∣gadw a pheidio a dyfod vn amser i fod yn gy frannog o'r Cymmun Sanctaidd. Nid felly; canys y mae DVW yn addo tragwyddol gospedigaeth corph ac enaid, ar yr rhai ou llawnfryd a wrthodant ei Sa∣cramentau. A gorckymmyn Crist ydyw; Cymme∣rwch, bwytewch, gwnewch hyn er coffa am danaf: 1 Cor. 11.24. ac efe a fyn i bawb vfyddhau iw or∣chymmyn ef tan boen cospedigaeth ei felldith. A chan weled mai y Sacrament hon oedd yr arwydd mwyaf o gariad Crist ar a adaw odd ef yn ei ddydd diwedd iw gymdeithion, y rhai a garodd ef hyd y diwedd; gan hynny esceuluso a gwrthod ei Sacrament, sydd raid iddo fod yn argoel o wrthod ac esceuluso ei gariad, a thywalltiad ei waed: ac ni ddichon bod pechod gorthrymmach ger bron Duw na hwnnw.

Page 277

Heb. 10.29 Nid oes dim a eill dy rwystro di i ddyfod yn rhwydd i Fwrdd yr Arglwydd; ond o ran bod yn well gennit ymado â chariad Duw, nac ymado a'th pechodau budron. O tyred, eithr tyred yn westwr parod i Fwrdd yr Arglwydd, gan woled eu bod hwy yn fendigedig y rhai a elwir i Swpper neithior yr oen. Dadc. 19.9. O tyred! eithr ty∣red wedi dy ymbaratoi, canys nerth y Sacrament hon a dderbynnir yn ôl eyfran ffydd y Derby∣nniwr.

Y Parodrwydd hwn sydd yn sefyll yn dy fal ysty∣ried tri pheth: yn gyntaf Teilyngdod y Sacrament, yr hyn a elwir ystyried corph yr Arglwydd, yn ail, dy anheilyngdod dy hun, yr hyn yw dy farnu dy hunan. Yn drydydd, y moddion, trwy y rhai y gelli ddyfod yn Dderbynniwr teilwng; y elwir Cym∣mun o gorph yr Arglwydd.

1. Am deilyngdod y Sacrament.

TEilyngdod y Sacrament hon a ystyrir mewn tai ffordd: yn gyntaf, wrth Fawrhydi yr Awdur a'i hordeiniodd. Yn ail, wrth werthfawredd ei rha∣nnau o'r rhai y defnyddiwyd. Yn drydydd, wrth oddidawgrwydd y Diben er mwyn yr hyn ei tref∣nwyd.

1. Am Awdur y Sacrament.

Nid oedd yr Awdur na Sanct nac Angel, eithr yr Arglwydd JESV, tragwyddol Fab Duw, canys i Grist yn vnig tan y Testament newydd y perthyn ordeinio Sacrament; o herwydd efe yn vnig a ddi∣chon addo a chyflawni y grâs y mae hi i'w arwydd∣occâu. Ac yr ydis yn gorchymm ni ni na wranda∣wom ar laferydd neb ond ei laferydd ef yn ei Egl∣wys.

Page 278

Mat. 17.5. Oh mor sancteiddiol y dylem ni gymmeryd yr ordeinhâd a ddaeth oddiwrth y cy∣fryw Awdur gorvchel?

2. Am y rhannau o'r Sacrament.

YRhannau o'r Sacrament bendigedig ydynt tri: yn gyntaf, yr arwyddion daiarol yn arwyddo∣cau: yn ail, y gair dwywawl yn sancteiddio: yn drydydd, y rhadau nefol a arwyddoceir.

Yn gyntaf, yr arwyddion daiarol ydynt fara a gwin, 1 Cor. 11.23, &c. Dihar. 9.5. dau mewn rhif, eithr vn mewn arfer.

Yn ail, y gair dwywawl ydyw 'r gair o ordinhâd Crist, adroddedig gyd â gweddiau a bendithion gan Eglwyswr cyfreithlawn; Heb. 5.4. Num. 16.40. 1 Cor. 10.16. Y Bara ar gwin heb y gair nid yw ddim, ond megis yr oeddynt o'r blaen; eithr pan ddêl y Gair at y defnyddiau hynny, yno y gwneir yn Sacrament, ac y mae Duw yn bresennol gyda ei Ordeinhád, ac yn barod i gyflawni pa beth bynnac a addawo ef. Nid yw y geiriau dwywawl o fen∣dith yn cyfnewid neu yn diddymmu sylwedd y bara ar gwîn: o blegid oni bai fod eu sylwedd yn aros, nid allai fod yn Sacrament: eithr y mae yn eu cyfne∣wyd mewn arfer ac enw. Canys yr hwn nid ydo∣edd o'r blaen ond bara a Gwîn cyffredinol i faethu cyrph dynion, sydd yn ôl y fendith wedi ei ddarparu i arfer sanctaidd, sef i borthi eneidiau Cristianogion. Ac lle yr oeddid o'r blaen yn eu galw yn fara a gwin; fe gelwir hwynt yr awrhon wrth enw y pe∣thau sanctaidd a arwyddocânt, sef Corph a'gwaed Crist: i dynnu ein meddyliau yn well oddiwrth yr Elementau hynny oddiallan at y rhadau nefol, yr rhai trwy olygon ein cyrph y maent yn eu arwyddo∣cau i ysprydol olygon ein ffydd. Ni ddarfu chwaith i

Page 279

Grist adroddi y geriau hyn, sef Hwn yw fynghorph, Hwn yw fyngwaed, wrth y bara a'r gwîn, eithr wrth ei ddiscyblion, megis y mae yn eglur yn y geiriau a ant o'r blaen, cymerwch, bwytewch chwi. Mat. 26.26. Nid yw y bara yn gorph iddo ef chwaith ond yn yr vn agwedd ac y mae y cwppan yn Destament newydd, sef trwy ddull a elwir trawsenwad. Ac y mae Marc yn dangos yn eglur, na ddarfu i'n Ia∣chawdwr adrodd y geiriau hyn, sef hwn yw fyngwaed, nes darfod ir holl ddiscyblion yfed o'r cwppan: Mar. 14.23, 24. Ac yn ol hynny o herwydd ei sylwedd naturiol y mae ef yn galw yr peth yn ffrwyth y winwydden, yr hwn o herwydd ei ysprydol arwy∣ddoccâd, a alwasai ef o'r blaen ei waed, Adnod 25. yn ol y dull o gyfenwi Sacramentau oll. Ac nid yw Crist yn erchi i ni ei wneuthur ef, ond gwneu∣thur hyn er coffa am dano; ac mae efe yn erchi i ni fwyta nid ei gorph yn syml, eithr ei gorph megis ei torrwyd, a'i waed megis y tywalltwyd; yr hyn y mae St Paul yn ei ddeongli i fod yn Gymmun Corph Crist, ac yn Gymmun oi waed ef. 1 Cor. 10.16. hynny yw, gwystl ffrwyth∣lon ein bod ni yn gyfrannogion o Grist, ac o holl ha∣eddedigaethau ei gorph a'i waed. A thrwy fynych ymarfer a'r Cymmun hwn, y myn St Paul i ni ddangos marwolaeth yr Arglwydd nes ei ddyfod o'r nef, 1 Cor. 11.26. ac hyd oni chymmerer ni i fynu fel eryrod i'r awyr i'w gyfarfod ef, yr hwn yw y ben∣digedig gelain, ac enioes ein heneidiau ni. 1 Thes. 4.17.

Yn drydydd, y rhadau ysprydol ydynt ddwy he∣fyd; corph Crist megis yr oedd yn dioddef digofaint Duw dyledus i ni, yn groeshoeliedig: A'i waed me∣gis yr oedd (yn yr vn agwedd) wedi ei dywallt tro∣som er maddeuant o'n pechodau. Y maent hwy hefyd yn ddau mewn rhif, eithr vn mewn arfer, sef Crist gyfan, a'i holl ddonniau wedi ei ymgynnyg i

Page 280

bawb oll, eithr gwedi ei roi mewn gwirionedd i'r ffyddlonniaid. Y rhai hyn ydyw y tair rhan cyfan∣nol o'r Sacrament sendigedig hon, sef yr Arwydd, y Gair, a'r Gras. Yr Arwydd heb y Gair, neu 'r Gair heb yr arwydd, ni ddichon ddim: a'r ddau wedi eu cysylltir ydynt anfuddiol heb y Grâs a arwyddocêir: eithr y tri ynghyd a wnant Sacrament ffrwythol i'r Derbynniwr teilwng. Y mae rhai yn derbyn yr ar∣wydd oddiallan heb y grás ysprydol, megis Judas, yr hwn (fel y dywaid St Awstin) a dderbynniodd fara yr Arglwydd, eithr nid y bara yr hwn oedd yr Arglwydd. Y mae rhai yn derbyn y grâs ysprydol heb-yr arwydd oddiallan, megis y lleidr-Sanct ar y groes: ac aneirif o'r ffyddlonniaid, y cyfryw wrth farw a fyddo yn dymuned ei gael, eithr heb allael ei dderbyn o waith rhyw rwystrau oddiallan; eithr y mae y derbyniwr teilwng i'w ddiddanwch, yn derbyn y ddau yn Swpper yr Arglwydd.

Fe ddewisodd Crist Fara a Gwîn (o flaen defny∣ddiau eraill) i fod yn arwyddion oddiallan yn y Sa∣crament fendigedig hon: vn gyntaf, o ran eu bod yn hawsaf i bob math i'w cael: yn ail, i ddyscu i ni mai megis y mae enioes amserol dŷn yn cael ei fae∣thu yn bennaf trwy Fara, a'i gorph ei gyssuro gan win, felly y mae ein heneidiau ni, gan ei gorph a'i waed ef yn cael eu bywhau au porthi i fywyd trag∣wyddol. Fe ddarparodd Crist wîn gyd a bara i fod yn arwydd oddiallan yn y Sacrament hon, i ddyscu i ni; yn gyntaf, mai megis y mae bwyd a diod yn borthiant perffeithlawn i gorph dŷn: felly y mae Crist i'w enaid, nid mewn rhan, eithr mewn perffei∣thrwydd, yn gystal yn iechydwriaeth, ac yn bor∣thiant. Yn ail, wrth weled y Gwin Sacramentaidd o'r neilltu oddiwrth y bara, ni ddylem gofio y modd y y walltwyd ei waed gwerthfawroccaf ef allan o'i gorph bendigedig, er cael o honom ni faddeuant o'n

Page 281

pechodau. Yr arwyddion oddiallan y mae 'r Bugail yn eu rhoddi yn yr Eglwys, a thithau sydd yn bwyta a gennu dy gorph: Y Grás yprydol y mae Crist yn ei esdyn o'r nefoedd, ac y mae 'n rhaid i ti ei fwyta ef â genau dy ffydd.

3. Am y Diben neu 'r defnydd er mwyn yr hyn y trefnwyd y Sacrament hon.

Y godidog a'r tra-rhyfeddol Ddibennau neu 'r ffrwythau o herwydd yr hyn y trefnwyd y Sacra∣ment fendigedig hon, ydynt saith.

Am y diben cyntaf o Swpper yr Arglwydd.

I ddwyn a'r gôf i Gristianogion yn oesdadol yr aberth hêdd yr hon a offrymmodd Crist vnwaith am y cwbl, trwy ei farwolaeth ar y groes, i'n cymmodi ni â Duw, Gwnewch hyn (medd Crist) er coffa am da∣naf. (Ac medd yr Apostol) cynnifer gwaith bynnae y bwytâoch y bara hwn, ac yr yfoch y cwppan hwn, y dangoswch farwolaeth yr Arglwydd hyd oni ddelo. 1 Cor. 11.26. Ac y mae ef yn dywedyd, mai (trwy y Sacrament hon, a phregethiad y gair) y dar∣fuasai portreio Jesu Grist o flaen llygaid y Galatiaid, megis pe croeshoeliasid ef yn eu plith: Gal. 3.1. Ca∣nys y mae 'r weithred i gyd yn dangos marwolaeth Crist; torriad y bara bendigedig, croeshoeliad ei fendigedig gorph: a thywallt y Gwin sancteiddic∣dig, tywalltiad ei fendigedig waed. Fe aberthodd Crist efe ei hun vnwaith yn gorphorol: eithr cyn fynyched ac y cyssegrir y Sacrament hon, cyn fyny∣ched a hynny yr offrymmir ef gan y ssyddloniaid yn ysprydol.

Oddyma y gelwir Swpper yr Arglwydd yn aberth hêdd, nid yn briodol, neu yn gorphorol, eithr trwy ddull ar ymadrodd, sef o herwydd ei fod yn gossad∣wriaeth o'r aberth hêdd a offrymmodd Crist ar y Groes. Ac i ddangos rhagoriaeth rhyngddi a'r aberth

Page 282

gorphorol honno, y mae y Tadau yn ei galwyn a∣berth ddi-waedlyd. Fe a'i gelwir hefyd Eucharist, o ran bod yr Eglwys yn y weithred hon yn offrwm i Dduw aberth o foliant a diolch am ei Gwaredigaeth; yr hyn a weithreded trwy 'r vnig Aberth lesol o Grist ar y Groes. Os darfu i'r olugiad ar Frenin Mo∣ab pryd yr oedd ef yn offrwm ei fab ar y mur, i gynhyrfu ei holl dduwiau i ddyfod i'w achub, 2 Bren. 3.27. beri i'r brenhinoedd ydoedd yn go∣sod arno, dosturio wrtho cym mhelled, ac y peidi∣asant a'r frwydr, ac y cyfodasant y gwarchae. Pa fodd y dylai y golwg ysprydol ar Dduw Dâd, yn a∣berthu ei vnig-anedig Fab ar y Groes i waredu dy e∣naid ti, dy gynhyrfu i garu Duw dy Brynwr, ac i ado pechod, tros yr hwn mewn cyfiawnder ni wasa∣naethai pridwerth llai!

Am yr ail Ddiben o Swpper yr Arglwydd.

2. I gryfhau ein ffydd: Canys y mae Duw wrth y Sacrament hon yn arwyddocau, ac yn selio i ni o'r nef, mai yn ol yr addewid ar cyfammod newydd a wnaeth efe a nyni Yn Ghrist, y derbyn ef yn ddiogel i'w râd ai drugaredd yr holl ddynion credadwy edi∣feiriol, ar a dderbynnio ei Sacrament sanctaidd ef yn ddyledus: Ac er mwyn haeddedigaethau ma∣rwolaeth a dioddefaint Crist, ef a faddau iddynt eu holl bechodau, mor ddiammau ac y maent yn gy∣frannogion o'r Sacrament hon. O herwydd hyn y gelwir y Sacrament sanctaidd Sêl y cyfammod newydd, ac o faddeuant pechodau. Yn ein amheuon mwyaf gan hynny, yn ôl derbyn y Sacrament hon ni allwn ddy∣wedyd yn ddiau megis y dywedodd Mam Sampson: Pe mynnasei 'r Arglwydd ein lladd ni, ni dderbyn∣niasei efe y poeth-offrwm, a'r bwyd offrwm o'n llaw ni, ac ni ddangosasei efe i ni 'r holl bethau hyn: ac ni Pharasei efe i ni y pryd hyn glywed y fath bethau. Rhuf. 4.11. Barn. 13.23.

Page 283

Am y trydydd Diben o Swpper yr Arglwydd.

3. I fod yn wystl ac yn arwydd-ammod o'r Cym∣mundeb ffrwythlawn cyfagos yr hwn sydd rhwng Cristianogion â Christ. Phiol y fendith yr hon a fen∣digwn, onid Cymmun gwaed Crist ydyw? y bara yr ydym yn ei dorri, onid cymmun corph Crist yw? 1 Cor. 10.16. hynny yw arwydd a gwystl ffrwythlawnaf o'n Cymmun ni â Christ. Yr vndeb hon a elwir aros gyda ni, cyssylltiad ar Arglwydd, trigfa yn ein calonnau: Joan. 14.16. 1 Cor. 6.17. Ephes. 3.17. Ac a osodir allan yn yr Scrythur Sanctaidd mewn lláwer o gyffelybiaethau. Yn gyntaf, trwy gyffely∣biaethau o'r winwydden a'r canghennau: yn ail, o'r pen a'r corph: yn drydydd, o'r sail a'r adeilad: yn bedwerydd, o'r dorth a wneir o amryw ronynnau o ŷd: yn bumed, o'r vndeb priodasawl rhwng gŵr a'i wra∣ig, a'r cyfryw. Joan. 15.12. 1 Cor. 10.17. Col. 1.18. Ephes. 5.31, 32. Ac y mae yn dridyblyg rhwng Crist â Christianogion. Y gyntaf sydd anianol, rhwng ein dynawl anian ni, a dwywawl anian Crist ym mherson y gair: yr ail sydd Ddirgeledig, rhwng ein personau ni yn absennol oddiwrth yr Argl∣wydd, a pherson Crist Duw a Dŷn, yn vn corph dir∣geledig. Y trydydd sydd nefol, rhwng ein perso∣nau ni yn bresennol gyd â'r Arglwydd, a pherson Crist mewn corph gogoneddus; y tri o gysylltiadau hyn sydd ynglŷn y naill yn y llall. O ni buasai i'n hanian ni yn gyntaf gael ei hvno megis yn vn-sylwe∣ddol ag Anian Duw yn yr ail person; ni allasem ni fyth gael ein vno â Christ mewn corph dirgeledig. Ac oni byddwn ni yn y bywyd hwn (er ein bod yn absennol) gwedi ein vno at Grist trwy vndeb Dirge∣ledig, ni chawn ni fyth gymmun o ogoniant gyd ag ef yn ei gyfannead nefol. Y Cym∣mun dirgeledig (a grybwyllir yma yn bennaf) a weithredir rhwng Crist a nyni, trwy yspryd Crist yn ein hymgyffred ni: A thrwy ein ffydd ni

Page 284

cynhyrfiedig trwy 'r vnrhyw Yspryd) yn ymaflyd yn-Ghrist hefyd. Y ddaubeth hyn y mae St. Paul yn∣eu osod ar lawr yn fywiol; eithr dilyn yr wyf fel y ga∣llwyf ymaflyd yn y peth hwn hefyd yr ymaflwyd ynof gan Grist Jesu, Phil. 3.12. Pa fodd y dichon ef gw∣ympo ymmaith yr hwn sydd yn ymaflyd, ac a gyn∣helir mor neithol? Yr vndeb hon a geiff ef ei deall yn orau yn ei Feddwl, yr hwn a'i clywo fwyaf yn ei Galon. Eithr yn anad amser, gorau y cawn ni deim∣law a chryfhau yr vndeb hon ynom, pan fyddom yn derbyn Swpper yr Arglwydd fel y dylem. Canys yno y cawn ni glywed ein calonnau yn bywiol ymglymmu â Ghrist, a deisyfiadau ein eneidiau wedi eu tynnu trwy ffydd a'r Yspryd glan, megis trwy raffau cari∣ad, nes-nes at ei Sancteiddrwydd ef.

Oddiwrth y Cymmun hwn â Christ y mae yn di∣gwyddo i'r ffyddloniaid lawer o ddoniau anrhaetha∣thadwy.

Megis yn gyntaf, fe gymmerodd Crist eu holl be∣chodau hwynt arno ef i fodloni cyfiawnder Duw am danynt: ac y mae ef yn rhoddi i ni yn rhâd megis yn eiddom, ei holl gyfiawnder yn y bywyd hwn, a'i etifeddiaeth yn y bywyd tragywyddol pan ddarfyddo hwn: ac y mae ef yn cyfrif yr holl dda neu 'r drwg a wneler i ni, megis pe gwneid iddo ei hunan. Phil. 3.9. 1 Pet. 2.24. Zec. 2.8., 25.

Yn ail, y mae oddiwrth natur Crist yn llifeirio i'n natur ni, gwedi ei huno ag efo, yspryd bywiol ac anadl grâs, yr hyn a'n hadnewydda i fywyd yfpry∣dol: Ac a sancteiddia ein meddyliau, ein hamcan∣nion, a'n serch, megis y byddom beunydd yn cyn∣nyddu ar agwedd Delw Grist. Ephes. 4.23, 24. Rhuf. 8.29.

Yn drydydd y mae ef yn canniadhau iddynt holl râdan cadwedigol, a'r sydd angenrhaid er mwyn cael mwynhau bywyd tragwyddol; megis teimlad o

Page 285

gariad Duw, diogelwch o'n Etholedigaeth, ein ad∣genedlìad, a'n cyfiawnhâd, â grâs i wneuthur gwei∣thredoedd da: oni ddelom i wladychu gyd ag ef yn ei deyrnas nefol. 2 Cor. 3.18. Joan. 15.5. ac 1.16. Hyn a ddylai ddyscu holl wir Gristianogion i'w cadw eu hunein megis aelodau dihalogedig o sanctaidd gorph Crist, ac i ochelyd pob aflendid a budreddi: gan wybod eu bod yn byw Yn Ghrist, neu yn hytrach fod Crist yn byw ynddynt hwy. Oddiwrth yr vndeb hon â Christ (seliedig i ni yn Swpper yr Arglwydd) y mae St Paul yn argymmennu i dynnu 'r Corinthiaid oddiwrth halogrwydd eulyn-addoliaeth, 1 Corin. 10.14. agodineb, 1 Corin. 10.8.

Yn ddiweddaf, oddiwrth y Cymmun rhag-ddy∣wededig rhwng Crist â Christianogion, y mae Cym∣mun arall yn llifeirio rhwng Christianogion yn eu plith eu hunein. Yr hwn hefyd a ddanghosir yn fy∣wiol wrth gyfranniad Sacrament Swpper yr Argl∣wydd, gan fod yr holl Eglwys, er eu bod yn llawer, yn cymmuno oll o'r vn bara yn y weithred sanctaidd honno. Nyni yn llawer ydym vn bara, ac vn corph; canys yr ydym ni oll yn gyfrannogion or vn bara. 1 Cor. 10.17. megis ac nad yw 'r bara yr hwn a fwytawn ni yn y Sacrament, ond vn, er ei wneu∣thur o lawer o ronynnau, felly yr holl ffyddloniaid, er eu bod yn llawer, etto nid ydynt ônd vn corph dirgeledig, tan yr vn pen yr hwn yw Crist. Fe a weddiodd ein Iachawdwr bum gwaith yn y weddi yr hon a wnaeth yn ôl ei Swpper diweddaf, ar fod o'i ddiscyblion ef yn vn: Joan. 17.2, 11, 21, 22, 23, 26. i ddyscu i ni ar vnwaith fel y mae yr vndeb hon yn rhyngu bodd iddo ef. Y mae 'r vndeb rhwng y ffyddloniaid mor chang, nas gall pellder lleoedd ei gwahanu, mor gadarn, na eill marwolaeth beri iddi ymollwn; mor barhaus, na ddichon amser moi gwisco hi allan; mor ffrwythlawn ac y maga gariad twym yn rhwng rhai ni welsant wyncbau eu

Page 286

gilydd erioed. A'r cysylldiad hwn ar eneidiau a gyfenwir Cymmuny Sainct, yr hyn y mae Crist yn ei weithredu trwy chwech o foddion hynodol. Yn gyntaf, wrth eu llywodraethu hwynt oll ag vn yspryd sanctaidd. Yn ail. trwy eu cynnyscaeddu hwynt oll a'r vn ffydd. Ephes. 4, 4, 5. Yn drydydd trwy dywallt ei gariad ei hun iw holl galonnau hwynt, Rhuf. 5.5. Yn bedwerydd, trwy eu hadgenedlu hwynt ag vn Bedydd. Tit. 3.5. Yn bumed, trwy eu por∣thi hwynt â'r vn ymborth ysprydol. 1 Cor. 11.33. Yn chweched, trwy fod yn vn pen bywiol ir vn corph o'r Eglwys, yr hon a gymmododd ef â Duw ynghorph ei gnawd ef, Col. 1.18, 22. O hyn y digwydd∣odd fod y lliaws o'r rhai a gredasant yn yr Eglwys o'r cynfyd, o vn galon, ac vn enaid, mewn gwirio∣nedd, serch a thrugaredd, Act. 4.32. A hyn a ddylai ddyscu i Gristianogion garu y naill y llall, gan weled eu bod oll yn aelodau o'r vn sanctaidd, a'r dirgeledig gorph, o'r hwn y mae Crist yn Ben. Ac am hynny fe ddylai fod rhyngddynt oll gyd-ddio∣ddef Cristianogawl, a chyd-teimlad, i orfoleddu y naill yngorfoledd y llall, i resynu y naill tros y lall, i gyd-ddwyn y naill â gwendid y llall, ac yn gyfne∣widiol y naill i borthi angen y llall.

Am y pedwerydd Diben o Swpper yr Arglwydd.

4. I borthi eneidiau y ffyddloniaid, yn niogel obaith o fywyd tragywyddol. Canys y Sacrament hon sydd yn arwydd ac yn wystl i gynnifer ac a'i derbynnio yn ôl gosodiad Crist, y portha ef yn ôl ei addewid (trwy rinwedd ei gorph croeshoeliedig, ai waed ty∣walldedig) ein heneidiau i fywyd tragwyddol, cyn siccred ac y maethir ein cyrph gan Fara a Gwin i fywyd amserol. Ac i'r diben hwn y mae Crist yng∣weithred

Page 287

y Sacrament, yn rhoddi ei wir gorph a'i waed mewn gwirionedd i bob Derbynniwr ffydd∣lawn. Am hynny y gelwir y Sacrament Cymmun corph a gwaed yr Arglwydd. A Chymmundeb ni ddichon fod o bethau absennol, eithr o bethau presen∣nol; ac ni byddai yn Swpper yr Arglwydd, oni bai fod corph a gwaed yr Arglwydd yno. Y mae Crist yn wir bresennol yn y Sacrament, trwy vndeb ddeublyg: y gyntaf sydd ysprydol rhwng Crist a'r Derbynniwr teilwng. Yr ail sydd Sacramentaidd rhwng corph a gwaed Crist, ai ar wyddion oddiallan yn y Sacrament. Y gyntaf, a wei∣thredir trwy waith bod yr vn Yspryd glân wrth gy∣sanneddu yn Ghrist ac yn y ffyddlonniaid, yn cor∣pholaethu y ffyddloniaid megis yn aelodau i Grist eu Pen, ac felly eu gwneuthur yn vn â Christ, ac yn gyfrannogion o'r holl Radau, Sancteiddrwydd, a'r Gogoniant tragwyddol y rhai ydynt ynddo ef: a hynny mor ddiogel a siccr ac y maent yn clywed gei∣riau yr addewid, ac yn gyfranogion o'r arwyddi∣on oddiallan yn y Sacrament fendigedig. Oddi∣wrth hyn y deilliaw bod ewyllys Crist yn ewyllys gwir Gristion: a bywyd Cristion yn Ghrist, yr hwn sydd yn by w ynddo. Gal. 2.20. Os edrychwch chwi ar y pethau a vnir, yr vndeb hon fydd hanfodol: os at wirionedd yr vndeb hon, y mae 'n gywir. Os ar y modd y gweithredir, y mae 'n ysprydol. Nid ein ffydd ni sydd yn peri i gorph a gwaed Crist fod yn bresennol, eithr Yspryd Crist yr hwn sydd yn trigo ynddo ef a ninnau. Nid yw ein ffydd ni ond der∣byn a gosod at ein eneidiau y rhadau nefol hynny a gynnygir i' ni yn y Sacrament hon.

Yr vndeb arall sef y Sacramentaidd, nid yw na∣turiol neu gyfleol, either cysylldiad ysprydol rhwng yr arwyddion daiarol, y rhai ydynt Fara a Gwîn, a'r rhadau nefol, y rhai ydynt Gorph a Gwaed Crist,

Page 288

wrth eu derbyn: megis trwy berthynas iw gilidd na byddent ond yr vn ar vnrhyw beth. O hyn y digwydd, pryd y byddo 'r Derbynniwr teilwng yn bwyta a'i enau fara a gwin yr Arglwydd; ei fod ef hefyd ar yr vn amser yn bwyta â genau ei ffydd wir Gorph a Gwaed Crist. Nid o ran fod Crist yn dyfod i lawr o'r nefoedd i'r Sacrament, eithr o ran bod yr Yspryd glân trwy y Sacrament yn derchafu ei feddwl ef at Grist, nid trwy gyfnewidiad lleawl, eithr trwy serch defosionol: onid yw ef drwy sancta∣idd fyfyrdod ffydd yn bresennol y pryd hwnnw gyd â Christ, a Crist gyd a'g ef. Ac fel hyn gan fyfyrio, a chredu y modd y croeshoelwyd corph Crist, ac y tywalltwyd ei werthfawroccaf waed er maddeuant o'i bechodau ef, ac er mwyn cymmodi ei enaid ef â Duw: y mae ei enaid ef wrth hyn yn cael ei fae∣thu yn ffrwythlonach â diogelwch o fywyd tragy∣wyddol, nac a eill y bara a'r gwin borthi ei gorph i fywyd amserol. Y mae 'n anghenrhaid fod yn y Sa∣crament gan hynny yn gystal yr arwyddion oddi∣allan iw canfod yn amlwg â llygaid y corph; a Chorph a Gwaed Crist, iw canfod yn yspydol â golwg ffydd. Eithr y modd pa ddelw y mae 'r Yspryd glân yn gwneuthur i gorph Crist, (gan ei fod mewn lle ab∣sennol oddiwrthym) fod yn bresennol gyd â nyni trwy ein vndeb, y mae St Paul yn ei alw yn ddirgelwch ma∣wr, y cyfryw na ddichon ein dealltwri moi ddir∣nad. Ephes. 5.23. Nid arwyddion noethion yn ar∣wyddoccâu gan hynny ydyw y Bara a'r Gwin Sa∣cramentaidd, eithr y cyfryw ac y mae Crist gyd â hwynt yn rhoddi, ac yn trefnu i bob derbynniwr teilwng, nid yn vnig ei rinwedd a'i nerth dwywawl, eithr hefyd ei wir Gorph a'i waed, cyn wired ac y rhoddes ef i'w ddiscyblion ei Yspryd glân wrth arw∣ydd ei anadl bendigedig; neu iechyd i'r clwyfus a gair o'i enau, neu gyfwrdd o'i law, neu ei wisc. Ac

Page 289

y mae ymafliad ffydd yn nertholach nag amgyffred craffaf y synhwyrau corphorol, neu reswm. I ddi∣weddu 'r pwngc hwn: y Sacrament sanctaidd ydyw 'r bara bendigedig hwnnw, yr hwn wedi ei fwyta a agorodd lygaid y discyblion oeddynt yn myned i Emmaus fel yr adnabuont Grist. Luc. 24.30, 31. Dyma y cwppan Ardderchawg a'r hwn y diodwyd ni oll i vn Yspryd. 1 Cor. 12, 13. Dyma 'r Graig honno sydd yn llifeirio o fèl, yr hwn sydd yn bywhau enaid blinedig pob gwir Jonathan a'i harchwaetho á genau ffydd. Dyma y dorth o fara haidd a ymdrei∣glodd odduchod i daro i lawr bebyll y Midianiaid o'r tywyllwch vffernol. Barn. 7.13. Y Deisen ar dwfr Angylaidd a borthodd Elias ddeugain niwrnod ym mynydd Horeb, 1 Bren. 19.6, 7, 8. y Manna (lly∣niaeth Angylion) a borthodd yr Israeliaid ddeugain mlynedd yn yr anialwch: eithr hwn yw 'r gwir fara y bywyd a'r manna nefol, yr hwn os bwytawn fel y dylem, a bortha ein eneidiau i fywyd tragwyddol. Pa fodd gan hynny y dylau ein henediau ni wneu∣thur yr erfynniad at Grist oddiwrth ddeisyfiad ys∣prydol, y wnaeth gŵyr Capernaum ou chwant cnawdol: Arglwydd dyro i ni y bara hwn yn ossta∣dol. Joan. 6.32, 34, 50, 51, 58.

Y pumed Diben o Swpper yr Arglwydd.

5. I fod yn wystl diogel i ni o'n adcyfodiad. Ar adeyfodiad sydd o ddau fath: yn gyntaf ysprydol adcyfodiad ein heneidiau yn y bywyd hwn o farwolaeth pechod, hyn a elwir yr adgyfodiad cyntaf: Oblegit gan vdcorn leferydd Crist, ym mhregethiad yr Efengyl, y côdir ni o farwolaeth pe∣chod i fywyd y grâs: Bendigedig a sanctaidd yw ef (medd St Joan. Dad. 20.6.) yr hwn sydd a rhan iddo yn yr adg yfodiad cyntaf; Canys nid oes gan yr aîl farwolaeth awdurdod ar y cyfryw. Y mae Swpper yr Arglwydd yn gystal yn fodd ac yn wystl i ni o'r ys∣brydol

Page 290

adgyfodiad cyntaf yma, yr hwn am bwytu i yn∣tau fydd byw trwof fi. Joan. 6.57. Ag yno y byddwn ni gwahoddedigion gweddus i eistedd ar y bwrdd gyd â Christ, pan fòm ni fel (Lazarus) wedi ein cyfodi o farwolaeth pechod i neŵydd-deb buchedd. Joan. 12.2.

Cywirdeb y cyfodiad hwn a ymddengys yn y dei∣sysiadau cynnyrfiedig o'i mewn: canys pan fyddir yn gofyn i ti ddyledion crefydd, ac arferion duwiol∣deb, os dy galon a'th ettyb gyda Samuel: Dyma fi, llefara Arglwydd, canys y mae dy wâs yn clywed. 1 Sam. 3.10. A chyd â Dafydd, o Dduw mae fynghalon yn barod. Psal. 108.1. A chyd â Phaul, Arglwydd beth a fynni di i mi wneuthur? Act. 9.6. Yno yn ddiau fe a'th cyfodwyd ti o farwolaeth pe∣chod, ac y mae i ti ran yn y cyfodiad cyntaf: eithr os wyt ti etto yn anhysbys mewn gwir seiliau crefydd dda, ac wyt yn deall ynot dy hun ryw fâth ar wrth∣wyneb cyfrinachol i arferion duwiol ffydd, ac yn rhaid dy dynnu megis yn erbyn dy feddwl, i wneu∣thur gweithredoedd duwioldeb, &c. yno yn ddiam∣mau nid oes i ti ond enw o fod yn fyw, eithr yr wyt yn farw, fel y dywedodd Crist i Angel Eglwys Sar∣dis, Dadc. 3.1. ac nid yw dy enaid ond megis halen i gadw dy gorph rhag drewi.

Yn ail, adcyfodiad corphorol ein cyrph ni yn y dydd diwethaf, sef yr ail gyfodiad, yr hon sydd yn ein rhyddhau ni oddiwrth y farwolaeth gyntaf: yr hwn a fwytâo fynghnawd, ac a yfo fyngwaed, a geiff fywyd tragwyddol, ac mi a'i cyfodaf ef yn y dydd di∣weddaf. Canys y mae y Sacrament hon yn selio ac yn arwyddoccâu i ni, farw o Grist a chôdi o hono ef drachefn trosom ni, a bod ei gnawd ef yn ein mae∣thu a'n bywhau ni i fywyd tragwyddol, ac am hynny y caiff ein cyrph ni yn ddiogel eu cyfodi i fywyd trag∣wyddol yn y dydd olaf. Joan. 6.51, 54. Canys gan weled cyfodi ein pen, holl aelodau y corph a godant

Page 291

vn ffunyd yn ddiammau. O blegit pa fodd y geill y cyrph hynny (gan eu bod yn arfau cyfiawnder, Rhuf. 6.13, 19. temlau i'r Yspryd glân, 1 Cor. 6.19. ac aelodau o Grist) y rhai a gawsant eu maethu a'i porthi â chorph a gwaed Arglwydd y bywyd, na chant eu cyfodi drachefn yn y dydd diwacthaf? Ac fel dyma 'r achos y byddis yn claddu cyrph y Sainct yn ol eu marw mor anrhydeddus, gan eu rhoi hwynt i huno yn yr Arglwydd. Au beddrod hwy a elwir gwelau a hun-dai y Sainctiau. Esa. 26.19, 20. Y colledigion a godant yn y dydd diwethaf, eithr trwy alluog nerth Crist fel y mae yn farnwr yn eu dwyn hwynt megis drwg-weithredwyr allan o'r car∣char, i dderbyn eu barn a'u gwobr haeddedigol: eithr yr Etholedigion a godant trwy rinwedd adgyf∣diad Crist, a'r Cymundeb sydd iddynt ag ef, fel y mae yn ben iddynt. A'i adcyfodiad ef ydyw 'r a∣chos a'r siccrhad o'n vn ni. Cyfodiad Crist ydyw ffydd neilltuol Cristion: adcyfodiad y meirw ydyw prif obaith plentyn Duw. Am hynny y byddai y Cristnogion yn y brif-Eglwys, yn arfer o gyfarch eu gilidd yn y borau a'r ymadroddion hyn, fo gyfo∣dodd yr Arglwydd; ar llall a attebai, gwir, fe gy∣fododd yr Arglwydd yn ddiau.

Y chwechwed Diben o Swpper yr Argl∣wydd.

6. I selio i ni ddiogelrhwydd o'r bywyd tragwyddol. Oh pa beth sydd fwy dymunol neu gariadol na by∣wyd? a pha beth y mae yr holl ddynion yn naturiol iw ofni, neu iw gasâu, yn fwy na marwolaeth? etto nid yw y farwolaeth gyntaf yma ddim i son am dani wrth ei chyffelybu i'r ail farwolaeth, ac ni thal y by∣wyd yma ddim chwaith wrth ei gystadlu ar bywyd sydd i ddyfod. Os dymuni di gan hynny fod yn

Page 292

ddiogel o'r bywyd tragwyddol, ymbaratoa dy hun i fod yn dderbynniwr teilwng o'r fendigedig Sacra∣ment yma. Canys y mae ein iachawdwr yn ein sic∣crhau ni, Os bwytty neb o'r bara hwn, efe a fydd byw yn dragywydd: a'r bara yr hwn a roddaf fi yw fyngnawd i, yr hwn a roddaf tros fywyd y byd. Joan. 6.51. Yr hwn gan hynny sydd yn bwyta y Sacra∣ment sanctaidd hon yn ddyledus, a eill ddywedyd mewn gwirionedd, nid yn vnig credo Vitam aeternam, yr wyf yn credu y bywyd tragwyddol: ond hefyd Edo Vitam aetternam, yr wyf yn bwyta y bywyd tragwyddol. Ac mewn gwirionedd dyma bûr bren y bywyd, yr hwn a blannod Duw ynghanol Paradwys yr Eglwys: Ac o'r hwn y mae ef yn addo rhoi i bob gorchfygwr, iw fwyta. Dad. 2.7. Ar pren hwn o'r bywyd, mewn aneirif raddau sydd yn rhagori ar bren y bywyd oedd yn tyfu ymheradwys Eden; Ca∣nys yr oedd hwnnw a'i wreiddin o'r ddaiar, hwn o'r nefoedd: hwnnw ni roddai ond bywyd i'r corph, hwn a rydd fywyd i'r enaid; nid oedd hwnnw ond cynnal bywyd y rhai byw, y mae hwn yn adferu bywyd i'r rhai meirwon. Dail y pren hwn a iacha y Cenedlo∣edd credadwy, ac y mae yn dwyn ffrwyth newydd bob mîs, Dadc. 22.6. yr hwn sydd yn eu porthi hwynt i fywyd tragwyddol. Oh Bendigedig ydynt hwy, y rhai sydd yn bwyta yn fynych o'r Sacrament hon! o'r lleiaf sydd vnwaith bob mîs, yn archwaethau o newydd, o'r ffrwyth adnewyddedig, yr hwn a bara∣tôdd Crist i ni ar ei Fwrdd ei hun i iachau ein gwen∣did, ac i gryfhau ein crediniaeth i fywyd tragwy∣ddol.

Y seithfed Diben o Swpper yr Arglwydd.

7. I Rwymo holl Gristianogion, megis trwy lŵ o ffyddlondeb, i wasanaethu yr vn vnig Dduw, a

Page 293

heb gynnwys yr vn aberth arall yn iawn am becho∣dau, ond yr vn wir aberth, yr hon trwy ei farwo∣laeth a offrymmodd Crist vnwaith, a thrwy yr hon y gorphennodd ef Aberthau y ddeddf, ac ei gwei∣thredodd brynedigaeth tragwyddol, a chyfiawnder i'r holl rai credadwy. Ac felly i fod fyth yn brif∣nôd cyhoedd o broffess, i ddangos rhagor rhwng Cristianogion a phob Sectau a gau grefyddau. A chan weled fod yn yr hên offeren bapisdaidd ryw ddi∣eithr fâth ar Grist yn cael ei addoli, nid yr hwn a aned o'r Fair Forwyn, eithr vn a wnair o'r deisen afrllad: á bod yr ossrymmiad o'r bara-dduw hwn wedi ei wthio ar yr Eglwys megis aberth bodlonol dros y byw a'r marw: y mae holl wir Gristianogion dan boen a pherigl anudon ewyllysgar ger bron yr Arglwydd prif Farnwr nêf a daiar, i ffieiddio yr offeren, megis delw y digofaint, yr hon sydd yn diddymmu ac yn tynnu ymaith oll-alluogrwydd haeddedigaethau marwolaeth a dioddefaint Iachaw∣dwr y byd. Canys wrth dderbyn y Sacrament o Swpper yr Arglwydd, yr ydym ni oll yn tyngu fod yr holl aberthau corphorol wedi terfynu ym marwo∣laeth ein Harglwydd; a bod ei gorph ef a'i waed vnwaith gwedi ei groeshoelio a'i dywalld, yn dragwy∣ddol facth ac ymborth i'n heneidiau ni.

2. Y modd i ystyried dy anheilyngdod dy hunan.

GOrau modd i ddŷn i ddeall ei anheilyngdod ei hun, ydyw holi ei fuchedd ei hun, yn ol dêg gorchymmyn yr holl-Alluog Dduw. Chwilia gan hynny pa ryw ddyledion a adewaist di heb wneuthur, a pha gamweddau a wnacthost di, yn erbyn pob vn o'r Gorchmynnion: gan gofio os byddi heb edifeir∣wch a thrugaredd Dduw Yn Ghrist, fod melldith

Page 294

Dduw (yr hwn sydd yn cynnwys oll drueni y by∣wyd hwn, ar poenau tragwyddol yn nhân vffern pan ddarfyddo hwn) yn ddyledus am dorri y lleiaf o orchmynnion Duw. Deut. 27.26. Gal. 3.10. A chwedi cymmeryd cyflawn olygiad yn gystal ar dy bechodau, a'th trueni, dychwel i ryw le dirgel, ac yno gan dy osod dy hun yngolwg y Barnwr, me∣gis drwg weithredwr euog yn sefyll o flaen yr or∣seddfaingc i dderbyn ei farnedigaeth, gan blygu dy liniau hyd y ddaiaren, a churo dy ddwyfron a'th ddyrnau, a gwlitho dy ddeurydd a'th ddagrau, cy∣faddef dy bechodau, ac yn ostyngedig erfyn ei nawdd a'i drugaredd yn y geriau hyn neu 'r cy∣fryw.

Cyffes ostyngedig am bechodau, iw gwneuthur at Dduw o flaen derbyn y Cymmun sân∣ctaidd.

O Dduw dâd nefol, pan ystyriwyf y daioni a ddangosaist di i mi beunydd, a'r anwiredd a wneuthym yn erbyn y nefoedd ac o'th flaen di, y mae arnaf fi gywilydd om plegit fy hun, a gwarth sy 'n cuddio fy wyneb megis llen: Canys pa vn o'th Orchymynion na thorrais? O Arglwydd yr wyf yn sefyll yma yn euog o droseddu dy holl gyfreithiau sanctaidd: Canys ni bu serch fynghalon mor awy∣ddus yn glynu wrth dy Fawrhydi di, megis wrh ofer a bydol bêthau: Nid ofnais i moth farnedigaethau di, i'm dychrynu oddiwrth bechodau, ni choeliais ith addewid, i'm cadw rhag ammau o'm amserol, neu rhag ano∣beithio o'm tragwyddol gyflwr. Mi wneuthum reol dy dduwiol addo∣liad, i fod fel y gwelai fy meddwl

Page 295

yn gymhefur, nid fel y gosododd dy air di ar lawr: gan fod yn haws gan fynghalon gofio fy Iachawdwr bendigedig, mewn llun cerfiedig o waith dŷn, nac edrych arno ef yn groeshoeliedig yn ei air a'i Sacra∣mentau, ar ol ei drefnedigaeth ei hun. Lle ni ddy∣laswn i erioed arferu dy enw (i'r hwn y mae pob glin yn plygu) oddiethr ag anrhydedd crefyddol, nac vn rhan o'th addoliad heb zêl a pharodrwydd dyledus: se ddarfu i mi gablu a chamarferu dy enw san∣ctaid mewn arferol lyfau byrbwyll: Ie fe ddarfu i mi arferu llyfau i'th enw bendigedig, megis yn fan∣tellau i guddio fy mechodau bryntion. Ac mi fum yn fynych yn bresennol yn dy wasanaeth, mwy o ran defod ac arfer, nac o ran cydwybod, a mwy o ran rhyngu bodd dynion, nac o ran rhyngu bodd i ti, fy Nuw grasusol.

Lle dylaswn i sancteiddio dy ddydd Sabboth, trwy fod yn gyd-edrychiol wrth gyhoeddys orchwylion yr Eglwys, a thrwy fyfyrio yn ddirgel ar air a gwei∣thredoedd Duw, a thrwy ofwyo y claf, a rhoi ym∣wared i'm brodyr tlodion: Och, yr oeddwn ni yn tybied y gorchwylion sanctaidd hynny yn faich gor∣mod, o horwydd eu bod yn rhwystro fy nifyrrwch ofer: Ie fe ddarfu i mi dreilio llawer o'th Sabbothau yn fy nrachwantau halogedig fy hu∣nan, heb fod yn bresennol wrth vn rhan o'th addoliad go∣goneddus.

Lle dylaswn i roi pob dyle∣dus anrhydedd im Naturiol, Eglwysig, a dinasol dadau, ni ddarfu i mi ddangos mor fáth ddyledus barch a thraserch i'm rhienl fel yr oedd eu gofal a'i mwyneiddra hwynt yn haeddu.

Page 296

Nid oeddwn i yn hoffi mo'th Wenidogion di fel y dylaswn er mwyn eu llafur, eithr yr oeddwn yn beio ar eu buchedd, ac yn eu cashâu am iddynt fy argy∣oeddi i yn gyfiawn. Ac fe ddarfu i mi fy ymddwyn fy hunan yn wrthnysig ac yn ddiystur yn erbyn dy Swyddogion a'th wenidogion, er i mi wybod mae dy ordeinhâd ti ydyw, y dylwn i fod yn vfyddgar iddynt.

Lle y dylaswn fod yn hwyrfrydig i lid, ac yn do∣sturiol i faddau camweddau, heb gynnwys i'r haul fyned i lawr ar fy nigofaint: Eithr gwneuthur da dros ddrwg, a charu fyngelynion er dy fwyn di: fy fi, och fi, am vn gair diffaith, a dorrais allan mewn llid, gan achlesu a llettyfa bwriadau niweidiol yn fynghalon, fel y dewisais i ymborthi ar fy malais fy hun, o flaen bwyta dy Swpper sanctaidd.

Lle dylaswn i gadw fy meddwl oddiwrth drach∣wantau budron, am corph oddiwrth bob aflendid: O Arglwydd, mi halogais, ac a ddiŵnais y ddau, gan wneuthur fynghalon yn gawell i feddyliau di∣ffaith, a'm meddylfryd yn gut i'r ysbryd aslan. Ie yr ymwared ar cynnorthwy, yr hyn a roddaist ti (Arglwydd) er mwyn ymgadw oddiwith drachwant, ni allai mom cadw i o fewn terfynau Diweirdeb; Canys gan flysio, ac ewyllysio glendid, sail yr hwn nid yw ond pridd, fe ddarfu i Satan roi swyn gyfaredd i'm cnawd i drach∣wantu ar ol cnawd dieithr.

Lle dylaswn fyw mewn vnion∣deb, gan roddi i bawb ei eiddo, a bod yn fodlon i'm cyflwr fy hun; a chan fyw yn gydwybodus yn fyng∣alwedigaeth gyfreithlawn, dy∣laswn fod yn barod (yn ol fyn∣gallu)

Page 297

i gyfrannu ac i roi echwyn i'r anghênog: O Arglwydd fe ddarfu i mi trwy orthrymmu, gwas∣cu, a gwobrau, ymgeccri, a'r cyfryw gamgymyreth, trwy liw o'm Galwedigaeth am Swydd, yspeilio a darnguddio oddiar fynghyd Gristianogion: Ie fe ddarfu i mi fiommi a chynnwys Crist lawer amser yn ei aelodau tlodion, i sefyll yn newynog, yn an∣wydog, ac yn noeth wrth fy nrws: ac yn newynog noethlwm i fyned ymaith yn ddi-ymwared fel y daeth: ar pryd yr oedd culni ei ruddiau yn erfyn am drugaredd, ni adawai galedwch fynghalon i mi ddangos ddim tosturi.

Lle y dylaswn i wneuthur cydwybod i ddywedyd y gwirionedd mewn diniweidrwydd, heb-dwyll, mewn callineb gan farnu yn vnion, ac yn gariadus gan gymmeryd pob peth ar y gorau: a lle y dylaswn i ymddiffyn enw da a chredyd fynghymydog: och fi (wael-ddyn truan) mi enllibiais ac a wradwyddais fynghyd-frawd, a chyn gynted ac y clywn chwedl diffaith mi wneuthum fynhafod yn offeryn i'r Cy∣thraul iw gyhoeddi i eraill, cyn gwybod y gwirionedd o hono fy hun. Yr oeddwn cyn belled oddi∣wrth ddywedyd vn gair da, er ym∣ddiffyn ei enw da ef, megis yr oedd yn ddirgel chwerthiniad yn fyngha∣lon glywed anair i vn yr oeddwn yn ei gynfigennu, er i mi wybod heb law hynny fod rhâdau Duw yn llewyrchu ynddo ef mewn mesur cyflawn. Mi wneuthum ddigrifwch o wenheithus, a bûdd o ddrygfawr gelwyddau, yn hyn o beth yn fy nangos fy hun yn vn o'r Cretiaid ac nid yn wir Gristion.

Ac yn ddiwethaf (O Arglwydd)

Page 298

lle y dylaswn i fod yn gwbl fodlon i'r cyfran a genni∣adhaodd dy fawrhydi i mi yn y percrindod hwn; a gorfoleddu mewn daioni vn arall megis yn fy vn fy hunan: och, ni wneuthum i swydd ond chwenny∣chu a blysio y cymmydog yma, a thir y cymmy∣dog draw: Ie gan ddymuned y cyfryw ddŷn yn farw, fel y gallwn i gael ei swydd neu ei etifeddi∣aeth; gan chwennychu yn hytrach y pethau a gan∣niadhaist di i rai eraill, o flaen bod yn ddiolchgar am y pethau a roddaist di i mi fy hunan. Fel hyn O Arglwydd y darfu i mi, yr hwn wyf bechadur cnaw∣dol gwedi yngwerthu tan bechod droseddu dy holl sanctaidd a'th ysbrydol orchymynnion, o'r cyntaf i'r olaf, o'r mwyaf i'r lleiaf, ac yma yr wyf yn sefyll yn euog o flaen dy Orseddfaingc di, am dorri dy holl gyfreithiau, ac am hynny yr wyf yn haeddu dy felldith, a'r holl drueni a eill cyfiawnder ei dywallt allan ar y fath greadur melldigedig. Ac i ba le yr af fi am ymwared rhag y trueni hyn? Y mae An∣gelion yn cywilyddio wrth fy gwrthryfel, ac ni wnant ddim ymwared i mi. Y mae gwyr yn euog o'r vnrhyw drosedd, ac ni allant moi cynnorthwyo eu hunain. Am hynny a anobeithiaf fi gyd â Chain, neu wneuthur am danaf fy hun gyd â Judas? Na wnaf Arglwydd, Canys ni byddai hynny ond di∣bennu trueni y bywyd hwn, a dechrau poenau di∣drangcedig vffern: mi appeliaf yn hytrach at Or∣seddfaingc dy rad lle y mae trugaredd yn rheoli i fa∣ddau aml bechodau a throseddau, ac allan o ddyfn∣der fy 'nrhueni, mi lefaf gyd â Dafydd am ddyfnder dy drugareddau. Pe lleddit ti fi â blinderau, etto myfi mal Job a ymddiriedaf ynot ti. Pe rhôn ac i ti fy moddi yng∣hanol cefnfor dy anfodlonrhwysld, gy∣dâ Jonas, etto mi ddaliaf y fâth a∣fael yn dy drugaredd, fel y gellir

Page 299

fynghodi i fynu yn farw, a nwy ddwylaw am dani hi. A pha teflit ti fi i waelodion vffern, mal Jonas i fol y Pyscodyn: Etto oddiyno y llefwn arnat ti; O Dduw Tâd o'r nef, O Jesu Grist Prynwr y byd, o ysbryd glán fy Sancteiddiwr, tri pherson ac vn Duw trag∣wyddol, trugarha wrthif bechadur truan. A chan weled mai daioni dy anian dy hun a barodd i ti ddanfon dy vnig-anedig Fab i farw dros fy mhecho∣dau, fel trwy ei farwolaeth ef y gallwn gael fyng∣hymmod gan dy Fawrhydi: O Na thaff ymaith ac na wrthod fy enaid edifeiriol, yr hwn gan ei fod yn anfodlon iddo ei hun am bechod, sydd yn ewyllysio dychwelyd i'th wasanaethu, a'th fodloni, mewn newydd-deb buchedd: Ac estyn dy law ymwaredol o'r nef i achub dy wâs tlawd, yr hwn sydd (megis Petr) yn barod i soddi ynghefnfôr pechodau a thrue∣ni. Golch ymaith liaws fy anwireddau â haeddedi∣gaethau y gwaed, yr hwn yr wyf si yn ei Gredu ddarfod i ti ei dywallt yn helaeth tros bechaduriaid edifeiriol.

Ac ynawr gan fy mod i dderbyn y dydd hwn y Sacrament fendigedig o'th werthfawroccaf gorph a gwaed; O Arglwydd, yr wyf yn attolygu i ti, gâd i'th ysbryd glan drwy dy Sacrament selio i'm he∣naid, fod o'm holl bechodau trwy dy farwolaeth a'th ddioddefaint yn cael eu cyflawn faddau a'i gollwng dros gôf, megis na ddêl y melldithiau a'r Barne∣digaethau, y rhai y mae fy mechodan yn eu hae∣ddu, fyth i'm gwradwyddo yn y bŷd hwn, nac i'm he∣nog farnu yn y byd sydd i ddyfod. Canys fy ssydd ddisigl yw, ddarfod i ti farw dros fy mhechodau, a chyfodi eilwaith or mwyn fynghysi∣awnhâd. Hyn yr wyf yn ei gredu, O Arglwydd cynnorthwya fy an∣gredmiaeth. Gweithreda ynof he∣fyd yr wyf yn attolwg i ti edfeirwch

Page 300

difrifol, megis y gallwyf o eigiawn calon, ofidio tros fy mhechodau a aethant heibio, a'i ffieiddio, a'th wasanaethu o hyn allan mewn newydd-deb buchedd â mwy mesur o sancteidddrwydd crefyddol. na âd i'm henaid i fyth anghofio aneirif gariad y cyfryw Iachawdwr anwyl, yr hwn a roddes i lawr ei fywyd i waredu pechadur cyn waeled. A channiadhâ, O Arglwydd, yn ol i mi dderbyn y selau a'r arwyddi∣on hyn o'm Cymmun i rhyngof â thi, i ti fod o hyn allan yn anneddu trwy dy ysbryd glân o'm me∣wn, a minnau felly i fyw mewn ffydd ynot ti, fel y gallwyf rodio holl ddyddiau fy mywyd mewn du∣wioldeb tu ag attat ti, Ac mewn brawdol gariad Per∣ffaith tu ag at fynghymydogion: megis gan fyw yn dy ofn, y gallwyf farw yn dy ffafr, ac ar ol marwo∣laeth bod yn gyfrannog o fywyd targwyddol trwy Je∣su Grist fy Arglwydd am hunig Iachawdwr. A∣men.

3. Am y moddion trwy ba rai y gelli di ddyfod yn Dderbynniwr teilwng.

Y Moddion hyn ydynt ddyledion o ddau fath: y cyntaf tu ag at Dduw; yr olaf tu ag at ein cymydog. Y rhai ydynt tu ag at Dduw ydynt dri: yn gyntaf, gwybodaeth iachus, yn ail, gwir ffydd, yn drydydd, edifeirwch difrifol. yr hyn tu ag at ein cymydog, nid yw ond vn, sef diammur gariad per∣ffaith.

1. Am wybodaeth iachus yr hyn a ddylai fod mewn Cymunwr teilwng.

Gwybodaeth iachus ydyw dealltwriaeth sancteiddi∣edig am brif seiliau crefydd. Heb. 6.1, 2. Joan. 17.3. 1 Tim. 2.4. 1 Cor. 12.29. 2 Cor. 13.5. Megis

Page 301

yn gyntaf, am Drindod y personau yn vndod y Duwdab. Yn ail, am greadigaeth dyn a'i gwymp. Yn drydydd, am y felldith a'r trueni dyledus i be∣chod. Yn bedwerydd, am naturiau a Swyddau Crist, ac am brynedigaeth y byd trwy ffydd yn ei far∣wolaeth ef: yn enwedig, am athrawiaeth y Sacra∣mentau yr hyn sydd yn sicrhau ac yn selio y pryne∣digaeth hwnnw i ni. Canys fel na ellir adeiladu tŷ, oni roir y sail ar lawr yn gyntaf; felly ni eill crefydd chwaith mor sefyll, oni bydd hi gwedi ei seilio ar wy∣bodaeth diogel o air Duw. Yn ail, oni wyddom ni ewyllys Duw, ni allwn ni, nai gredu, nai wneu∣thur. Canys megis na ddichon neb wneuthur gorch∣wylion bydol, ond y rhai sydd a gwybodaeth cel∣fyddgar genthynt i'w gwneuthur: felly heb wybo∣daeth, rhaid yw i ddynion fod yn fwy aneallgar ac anwybodus mewn ysbrydol a goruchel bethau. Ac etto mewn pethau amserol fe ddichon dyn wneuthur llawer trwy oleuni naturiaeth: Eithr mewn dirge∣ledigaethau crefyddol, pa fwyaf y bôm ni yn hyde∣ru mewn rheswm naturiol, bell-bell y byddwn ni oddiwrth ddirnad yr ysbrydol wirionedd. 1 Cor. 2.14. Rhuf. 8.7. Yr hyn beth sydd yn eglurhâu fod cyflwr ofnadwy i'r rhai sydd yn derbyn heb wyboda∣eth, a chyflwr mwy ofnadwy i'r Bigeiliaid hyn∣ny y rhai ydynt yn gwenidogaethu iddynt heb eu Cateceisio nai hathrawiaethu.

2. Am wir ffydd, yr hon a ddylai fod mewn Cy∣munwr teilwng.

Nid y gwybodaeth noeth o'r Scrythyrau, a'r sei∣liau cyntaf o grefydd, ydyw gwir ffydd, (Canys mae y cythreuliaid, a'r gwrthodedigion mewn mesur tra∣godidawg yn credu ac yn crynu, Jag. 3.19.) eithr gwir grediniaeth o'r holl bethau ar a ddarfu i'r Argl∣wydd

Page 302

eu dadcuddio yn ei Air; ac hefyd neillduol osodiad at enaid dyn ei hun o'r holl addewidion o drugaredd, yr rhai a wnaeth Duw yn Ghrist i becha∣duriaid credadwy. Ac yn ddilynawl fod Crist a'i holl haeddedigaethau, yn perthyn iddo ef yn gystal ac i vn arall. Canys yn gyntaf, o ni bydd gennym ni gyfiawnder y ffydd, nid yw y Sacrament yn selio dim i ni; Ac y mae pob dŷn yn Swpper yr Arglwydd yn derbyn cymmaint ac y mae yn ei gredu, Rhuf. 4.11. Yn ail, O blegid heb ffydd na allwn ni y rhai ydym yn Cymuno ar y ddaiar ymgyffred Crist yn y ne∣foedd. Canys fel y mae ef yn trigo ynom ni trwy ffydd. Eph. 3.17. felly trwy ffydd vn agwedd y rhaid i ni ei fwyta ef. Yn drydydd, oblegid heb ffydd ni allwn ni fodloni neu berswadio ein cydwybod ein bod yn Cymmuno yn gymmeradwy ger bron Duw. Heb. 11.6. Rhuf. 14.23.

3. Am edifeirwch difrifol yr hyn a ddylai fod mewn Cymmunwr teilwng.

Gwir edifeirwch ydyw sancteiddiol gyfnewid me∣ddwl, pan fyddo dŷn yn ol iddo gymmeryd golwg teim∣ladwy ar drugaredd Duw, a'i drueni ei hun, yn troi oddiwrth ei holl bechodau amlwg a dirgeledig, i wa∣sanaethu Duw mewn sancteiddrwydd a chyfiawnder yr holl ddarn arall o'i enioes. Esa. 55.7. Ezec. 33.11. Act. 3.19. ac 26.29. Luc. 1.74.75. Canys fel y mae vn glwth a fyddo wedi ymlenwi â bwyd, yn anghymmesur i fwyta bara: felly yr hwn sydd a'i gonglau yn llawn o bechodau, nid yw weddaidd i dderbyn Crist. A chydwybod gwedi ei ymddifwy∣no gan fudreddi ewyllysgar, sydd yn gwneuthur yr arfer or holl bethau sanctaidd yn ansanctaiddiol i ni. Heb. 2.13, 14. Tit. 1.13. Ni ellir bwyta mor offrymedig di-frycheulyd oen Pasc, gyd â lefain ma∣lis

Page 303

a drygioni, medd Paul, 1 Cor. 5.8. Ac ni eill hên gostrêlau ein llygredig a'n amhur gydwybodau ni, gadw y gwin newydd o werthfawr waed Crist, fel y dywaid ein Iachawdwr. Marc. 2.22. Y mae 'n rhaid i ni gan hynny wir edifarhau, os mynnwn ni fod yn gyfrannogion teilwng.

2. Y dyled sydd raid i ni ei gyflawni tu ag at ein cymydog ydyw cariad perffaith.

Cariad perffaith ydyw maddeu yn ewyllysgar i rai eraill a wnaethant i'n herbyn, ac ar ôl cyfundeb, ty∣stiolaeth ddiffuant oddiallan o draserch ein calonnau oddifewn, trwy ymddygiad, geiriau, a gweithredoedd, cyn fynyched ac ir ymgyfarfyddom ni, neu y byddo yr achos yn gofyn. Canys yn gyntaf, heb gariad tu ac at ein cymydog, nid oes vn aberth yn gymeradwy gan Dduw. Mat. 5.23, 24. Yn ail, ô herwydd mai vn brif achos neu 'r diben, er mwyn yr hyn yr or∣deiniwyd Swpper yr Arglwydd, ydyw cryfhau ca∣riad Cristianogion y naill tu ag at y llall. Joan. 13.14, 34, 35. Yn drydydd, ni eill vn dyn moi sicr∣hau ei hun o fod wedi cael maddeuant am ei becho∣dau gan Dduw, oni bydd ei galon ef yn ymroi i fa∣ddau i ddynion y beiau a wnaethant yn ei erbyn ef. Mat. 18.35. Hyn yma am y dyledion cyntaf, sydd raid i ni eu cyflawni cyn dyfod i Fwrdd yr Arglwydd, yr hyn a elwir Parodrwydd neu ymba∣ratoad.

2. Am yr ail fâth ar ddyledion y rhai sydd raid i Gymmunwr teilwng eu cyflawni wrth dderbyn Swp∣per yr Arglwydd, sef Myfyrdodau.

Y Gorchwyl hwn o fyfyrdod ysprydol sydd yn ymgynnwys mewn llawer obyngciau.

Page 304

Yn gyntaf, pan fyddo y bregeth gwedi darfod, a gwledd o Swpper yr Arglwydd i ddechrau ei chysse∣gru: myfyria wrthit dy hunan fel y mae Crist yn dy wahodd di i fod yn gyfrannog ar ei fwrdd sancta∣idd, ac mor garedig y mae yn dy wahodd di: O deuwch i'r dyfroedd bob vn y mae syched arno, &c. deuwch prynwch win a llaeth heb arian, ac heb werth; bwytewch yr hyn sydd dda, ac ymhyfryded eich enaid mewn brasder. Cymmerwch bwytewch chwi, hwn yw fyngorph yr hwn a dorrwyd trosoch, yfwch o hwn eu gyd; Canys hwn yw fyngwaed yr hwn a dywalltwyd er mwyn maddeuant o'ch pecho∣dau chwi. Math. 22. ac 26.26, 27, 28. 1 Pet. 1. Esay. 55.1, 2. Pa fwy o anrhydedd a ellir ei ganni∣adhau na chael cynhwysiad i eistedd ar fwrdd yr Arglwydd ei hun? pa well llyniaeth a ellir ei roi, nac ymborthi ar gorph a gwaed yr Arglwydd ei hu∣nan? Os oedd Dafydd yn tybied mai mwyaf ffafr a allai ef ei wneuthur i Barzillai ddaionus am yr holl garedigrwydd a ddangosasai ef iddo yntau yn ei orthrymderau, oedd gynnyg iddo, y cai ef fwyta ar ei fwrdd ef gyd ag ef yn Jerusalem: 2 Sam. 19.33. Yn ba faint mwy o ffafr y dylem ni ei gy∣frif, pan fyddo Crist mewn gwirionedd yn ein por∣thi ni yn ei Eglwys ar ei fwrdd ei hun, a hynny a'i dra-sanctaidd gorph a'i waed ei hunan?

2. Fel y darfu i Abraham pan aeth ef i fynu i'r mynydd i aberthu Isaac ei fab, adel ei weision i wa∣red yn y gwastadedd: Gen. 22.5. felly pan dde∣lych di at ysbrydol aberthiad Swpper yr Arglwydd, gosod heibio holl feddyliau ac amcanion bydol: fel y gellych di yn gwbl feddylio, a myfyrio am Grist, ac aberthu i fynu dy enaid iddo ef, yr hwn a aber∣thodd ei enaid ai gorph drosot ti.

Page 305

Yn drydydd, myfyria wrthit dy hun, mor werth∣fawr ac anrhydeddus yw corph a gwaed Mab Duw, yr hwn yw llywodraethwr nef a daiar: Yr Argl∣wydd, wrth amnaid yr hwn y mae yr Angelion yn crynu, a chan yr hwn y caiff y byw ar marw eu bar∣nu yn y dydd diwethaf, a thithau yn eu plith. Ac mai hwn yw ef, yr hwn gwedi ei groeshoelio am dy bechodau, sydd yr awrhon yn ymgynnig i'th enaid i'w dderbyn trwy ffydd. Or tu arall, ystyria pa fath greadur pechadurus ydwyt ti: ac fel yr wyt ti yn gwbl anheilwng o'r fath lettywr sanctaidd; A chynddrwg yr wyt ti yn haeddu archwaethu y fath ymborth ben∣digedig? Gwedi dy gael mewn budreddi, a byth o hynny allan yn ymdrobaeddu mewn budr byllan a thyllau anwiredd; yn dwyn enw Cristion eithr yn gwneuthur gweithredoedd y cythraul; yn addoli Crist gan ddywedyd Ave Rex, Henffych well fren∣nin a'th enau, eithr poeri llyfau yn ei wyneb, ai groeshoelio ef o newydd a'th orchwylion anraslo.

Yn bedwerydd, cydsynnia gan hynny, a meddwl a pha wynepryd y beiddidi gynnyg cyfwrdd corph mor sanctaidd a dwylaw mor aftan? neu i yfed y sath werthfawr waed, a'r fath enau celwyddog dryg∣fawr? Neu i lettena y fâth fendigedig westwr mewn stafell mor fudr? Canys os addwyd y Bethshemi∣tiaid, am edi ych yn amharchus yn Arch yr hn Destament, pa farnedigaeth a elli di ei ddisgwyl yn gyfion, yr hwn a'r cyfryw amhur olygon, a chalon, wyt wedi dyfod i edrych a derbyn Arch y Testament ••••wydd, yn yr hon y mae cyflawnder y Duwdod yn presswylio yn gorphorol? Col. 2.3, 9.

Os trawyd Ʋzzah â marwolaeth ddisymmwth, am gyfwrdd Arch y cyfammod, Er nad oedd heb zel! 2 Sam. 6.7. Pa farn oruchel a ddylit ti ei ofni, yr hwn wyt mor hy a hyll ac á dwylaw aflan ryfygu eimlo Arch y Testament tragwyddol, yn yr hon y

Page 306

cuddiwyd holl dryssorau doethineb a gwybodaeth?

Os oedd Joan fedyddiwr (y gwr duwiolaf ar a aned o wraig erioed) yn ei dybied ei hun yn an∣heilwng i ddwyn ei escidiau ef: O Arglwydd mor anheilwng yw 'r fath briddyn halogedig ac wyt ti, i fwyta ei gnawd sanctaidd, ac i yfed ei werthfawr∣occaf waed? Mat. 3.11.

Os oedd y bendigedig Apostol St Petr, wrth we∣led dim ond llewyrch ollallnog nerth Crist, yn ei dy∣bied ei hun yn anheilwng i sefyll yn yr vn cafn ag efo; oh, mor anheilwng wyt ti i eistedd gyd â Christ ar yr vn bwrdd, lle y gelli di ganfod ei aneirif râd a'i drugaredd yn tewynnu?

Os oedd y Canwriad yn tybied nad oedd crong∣lwyd ei dŷ ef yn deilwng i groesawu y fàth lettywr gogoneddus; pa le a ddichon fod yn gymmwys dan dy asennau di, i sancteiddrwydd Crist i anneddu ynddo? Mat. 8.8.

Os oedd y wraig glwyfus o'r diferlif gwaed, yn ofni cyfwrdd ag ymyl ei wisc ef; pa fodd y dylit ti grynu wrth fwyta ei gnawd ac yfed ei oll-iachusawl waed ef?

Etto os ydwyt ti yn dyfod yn ostyngedig mewn ffydd, edifeirwch, a chariad perffaith, gan ffieddio dy bechodau a aethant heibio, a bwriadu yn ddi-ffu∣ant wellhau dy fuchedd o hyn allan: Na fydded dy bechodau aethant o'r blaen i'th ofni, o ran ni roddir mo honynt fyth yn dy faich di; ae fe fydd y Sacrament hon yn selio i'th enaid ti, fod dy holl bechodau a'r barnedigaethau dyledus iddynt wedi cael eu cyflawn faddau a'u golchi ymmaith yn lân trwy waed Crist. Canys nid ordeiniwyd mor Sacra∣ment hon i'r rhai ydynt berffaith, ond i gynnorth∣wyo pechaduriaid edifeiriol i berffeithrwydd: Ni ddaeth Crist i alw y rhai cyfion onid pechaduriaid i ed feirwch, Mat. 9.12, 13. Ac y mae ef yn dywe∣dyd,

Page 307

nad rhaid ir iach wrth physygwr ond i'r clwyfus, y rheini a alwodd Crist, a phan ddeuent, y rheini erioed a gynnorthwyai ef. Math. 11.28. Bid yr holl Efengyl yn dystiolaeth na ddaeth yr vn pe∣chadur erioed at Grist am drugaredd, a myned ymmaith heb ei neges. Trocha di vn agwedd dy enaid clwyfus yn y ffynnon hon o waed Crist: ac yn ddi-ammau yn ol ei addewid ef, di a gai dy iachau o'th holl bechodau a'th aflendid. Zach. 13.1. Nid pechaduriaid gan hynny ond y rhai sydd yn anewyll∣ysgar i edifarhau am eu pechodau, a waherddir oddiwrth y Sacrament hon.

Yn bumed, myfyria ddarfod i Grist adael y Sa∣crament hon i ni yn brif Arwydd a gwystl o'i gariad ef: nid pan oeddynt yn amcanu ei wneuthur ef yn Frenin, Joan. 6.15. (yr hyn a allasai fod megis yn dâl am eu hewyllys da) ond pan oedd Judas a'r Arch offeiriaid yn gwneuthur ei frâd ef, am hyn∣ny yn gwbl o'i wir gariad. Pryd yr oedd Nathan yn dangos i Ddafydd ddaed oedd gan y dŷn tlawd ei oenig fechan a laddasai y gwr cyfoethog: Yr oedd ef yn rhoi iddi meddai ef, oi dammaid ei hun i fwy∣ta, ac o'i gwppan ei hun i yfed. 2 Sam. 12.3. ac onid yw cariad Crist gan hynny iw Eglwys yn anrhae∣thadwy pan fyddo ef yn rhoddi iddî ei gnawd ei hun iw fwyta a'i waed ei hun iw yfed, yn borthiant ysprydol a thragwyddol iddi? Os oes gan hynny ddim cariad yn dy galon di, cymmer phiol iechydwriaeth yn dy law, a pharcha ei gariad ef â chariad am da∣no, Psal. 116.11.

Yn chweched, pan fyddo y Gwenidog yn dechrau cyffegru y Sacrament sanctaidd, yno dod heibio dy holl weddiau, dy ddarllain, a'th oll fyfyrdodau e∣raill pa rai bynnac: a gofod dy feddylfryd yn vnig ar ygweithredon, a'r arferion sanctaidd hynny, y rhai yn ol trefnedigaeth Crist a arferir o fewn ac yn∣ghylch

Page 308

y Sacrament sanctaidd: Canys fe ryngodd bodd i Dduw (gan ystyried ein gwendid ni) osod y trefnedigaethau hynny yn gyfryngau î gyfodi ein meddyliau i ddyfrifol fyfyrio ar ei radau nefol.

Pan fŷch di gan hynny yn gweled y Gwenidog yn gosod oddiwrtho y bara ar gwin ar Fwrdd yr Argl∣wydd, ac yn eu cyssegru hwynt trwy weddi a thrwy ordeinhad Crist, i fod yn Sacrament sanctaidd o fen∣digedig corph a gwaed Crist; yno myfyria, fel y darfu i Dduw Dàd o'i wir gariad i ddynol ryw, neilltuo, a selio ei vnig-anedig Fab i fod yn foddion oll-ddigonol, ac vnig gyfryngwr, i'n gwaredu ni oddiwrth bechod, ac i'n cymmodi ni a'i râd ef, ac i'n dwyn ni i'w ogoni∣ant.

Pan fyddych di yn gweled y Gwenidog yn torri y bara wedi ei fendigo, y mae 'n rhaid i ti fyfyrio, ddarfod rhoi Jesu Grist tragwyddol fab Duw i far∣wolaeth, a bod ei fendigedig Enaid a'i gorph (gan de∣imlad o ddigofaint Duw) wedi eu torri a'i gwahanu am dy bechodau di, cyn wiried ac y gweli di yr awrhon dorri y Sacrament sanctaidd o flaen dy ly∣gaid: a chyd â hynny galw i'th gôf faint yw eu∣ogrwydd dy bechodau, a maintiolaeth digofaint Duw i'w herbyn hwynt, gan weled na fodlonid cyfiawnder Duw, ond a'r cyfryw aberth.

Pyn fyddo y gwenidog gwedi bendigo a thorri y Sacrament, ac yn ei ymbaratoi ei hunan i'w chy∣frannu; yno myfyria, fod y brenin yr hwn sydd fei∣str o'r wlêdd yn sefyll wrth y bwrdd i weled ei wahoddedigion, ac yn edrych arnat ti a yw dy wisc briodas am danat: Mat. 22.11. Dad. 19.8. Tybia he∣fyd fod yr holl Angelion sanctaidd, y rhai ydynt yn gwilio ar yr etholedigion yn yr Eglwys, ac ydynt yn chwennych gweled arferu y dirgeledigaethau sancta∣idd hynny, yn dal sylw ar dy ostyngeiddrwydd a'th ymddygiad, 1 Cor. 11.10. Eph. 1. ar olaf. 1 Pet. 1.12.

Page 309

gâd i'th enaid gan hynny, yn y cyfamser y byddo 'r Gwenidog yn dwyn y Sacrament attat ti, aberthu hon, neu'r cyfryw vnig-adroddiad at Grist.

Neillduol draethawd ddiddanaidd i'w hadrodd yn ol cyssegriad a chyn derbyn y Sacrament.

AI gwir yw y presswylia Duw ar y ddaiar? wele y nefoedd, a nefoedd y nofoedd ni allant dy gynhwys di, pa faint llai y dichon enaid y fath ddi∣hiryn pechadurus ac wyf fi dy dderbyn di!

Eithr gan weled fod dy ewyllys bendigedig i ddy∣fod fel hyn i Swpperu gyd â mi, ac i bresswylio ynof: ni allaf o wir lawenydd na ddywedwyf beth yw dyn pan gydnabyddit ag ef? neu fâb dyn pan wnait gyfrif o honaw? Pa gariad bynnac a fu gwiw gennit ti ddangos i mi o gyflawnder dy râs, yr wyf yn cyfa∣ddef yn rhwydd pa beth ydwyf yn nhrueni fy na∣tur. Yr wyf (i ddywedyd ar vnwaith) yn greadur cnawdol, am henaid wedi ei werthu tan bechod: dyn truan gwedi ei amgylchu â chorph marwolaeth. Etto Arglwydd gan dy fod ti yn galw, wele fi yn dyfod, a chan dy fod ti yn galw pechaduriad, fe ddarfu i mi fyngwthio fy hunan i mewn ym mhlith eraill: a chan weled dy fod ti yn galw yr holl rai sydd yn f••••nderog, ac yn llwythog; ni welai ddim achos i mi iaros yn ôl. O Arglwydd yr wyf fi yn glaf, ac i ba le yr âf ond attad ti physygwr fy enaid? Tydi a iachauaist lawer, ond erioed ni threwaist di wrth yr vn mor drwm glwyfus: Canys vr wyf yn fwy gwa∣hanglwyfus nac oedd Gehazi, yn fwy aflan na Mag∣delen, yn ddallach yn fy enaid nac oedd Bartimeus vn ei gorph; Canys myfi a fum fyw hyd yn hyn, ac erioed heb we∣led gwir lewyrch dy air. Y mae yn rhedeg o'm henaid fwy llif o

Page 310

chod, nac oedd diferlif gwaed y wraig claf o'r gwa∣edlif. Nid oedd Mephibosheth yn gloffach i ger∣dded, nac yw fy enaid i rodio ar dy ôl di mewn ca∣riad. Ni bu fraich Jeroboam yn fwy gwywedig i da∣ro y prophwyd, nac yw fy llaw anafus i, i roi ym∣wared i'r tlawd. Iachâ fi o Arglwydd, ac ti a wnai cymmaint gweithred a'i iachau hwynt oll. Ac er bod ynof fi eu holl bechodau a'u hanafau hwynt; etto Arglwydd, mor gyfoethog yw dy râd ti, mor fawr yw dy gelfyddyd, megis os mynni, y gelli di ag vn gair, faddau y naill, ac iachau 'r llall. A pha ham y dylwn i ammau dy ewyllys dâ di; pryd na chyst i ti yr awrhon er fyngwaredu, ond vn wên gariadus, yr hwn a ymddangosaist dy hun mor ewyllysgar i'm prynu, er i ti golli holl waed dy galon: Ac yr awr∣hon wyt yn cynnyg mor rasusol i mi arwydd diogel om prynedigaeth trwy dy waed? Pwy wyf fi o Argl∣wydd Dduw? a pha haeddedigaeth sydd ynof, i'm prynu ar fâth brîs gwerthfawr? Nid yw ond dy wir drugaredd, ac nid wyf (o Arglwydd) deilwng o'r lleiaf o'th holl drugareddau di: llai o llawer i fod yn gyfrannog o'r Sacrament sanctaidd hon, yr ar∣wydd mwyaf ar a ganniadheuaist i feibion dynion y rhai a geri. Pa fodd y dylwn i o herwydd fy an∣heilyngdod fy hun, lefain allan rhag ofn, wrth weled dy Sacrament sanctaidd, megis y darfu ir Philistiaid pan welsant Arch yr Arglwydd yn dyfod ir gynnu∣lleidfa; gwac fi yr awrhon bechadur. Oni bai fod dy Angel di yn rhoi cyssur ynof megis yn y gwragedd, nac ofnwch, canys mi wn mai ceisio yr ydych yr Je∣su yr hwn a groeshoeliwyd. Ty di yn wir y mae fy enaid yn ei geisio. Ac yma yr wyt ti yn dy Sacrament fendi∣gedig. Os oedd Elisabeth gan hynny yn tybied dy bresennol∣deb di ynghrôth dy fendigedig

Page 311

sam yn gymaiut anrhydedd iddi oni lammodd y plentyn yn ei chrôth hi o lawenydd; pa fodd y dylai fy enaid i neidio ynof o lawenydd gan dy fod ti yr awrhon trwy dy Sacrament sanctaidd, yn dy∣fod i drigo yn fynghalon yn dragwyddol? O pa fâth anrhydedd yw hwn, nid bod mam fy Argl∣wydd, eithr bod fy Arglwydd ei hunan yn dyfod fel hyn i ymweled â myfi? Mewn gwirionedd Argl∣wydd yr ydwyf yn cyfaddef gyd a'r Canwriad ffydd∣lawn, nad wyf deilwng i ddyfod o honot dan fy nghronglwyd: ac fel nad rhaid i ti ond dywedyd y gair yn vnig, am henaid a fydd cadwedig: Etto gan rhyn∣gu bodd i luosawgrwydd dy râd, er mwyn crythau yn hytrach fyngwendid i, selio dy drugaredd i mi trwy yr arwydd gweledig, yn gystal a thrwy y gair gweledig; mewn holl offyngeiddrwydd diolchgar y mae fy enaid yn treuthu wrthit gyd a'r Forwyn fendigedig: wele wasanaethyddes yr Arglwydd, bydded i mi yn ol dy air. Cura di Arglwydd a'th air, ath Sacramentau wrth ddôr fynghalon, a min∣nau megis y Pwblican a guraf fy nwyfron am dau∣ddwrn, cyn gynted ac y gallwyf fel y delech i mewn: Ac onid egyr y door yn ddigon buan, tor hi i lawr o Arglwydd a'th nerth ollalluog, ac yno tyred i mewn a phresswylia ynof yn dragwydd, fel y cafwyf achos gyda Zacheus i gydnabod, heddyw y daeth iechydwriaeth i fewn fynhŷ. A thafl o honof fi allan bob peth a fyddo yn wrthwynebys i ti: Ca∣nys yr wyf yn rhoddi y cwbl feddiant o'm calon i'th Fawrhydi bendigedig, gan ym∣bil na byddwyf byw o hyn allan, hebot ti yn byw ynof, yn dy∣wedyd ynof, yn rhodio ynof, ac felly i'm llywodraethu â'th lân ysbryd, megis na byddo dim i'm bodloni ond y peth a

Page 312

fyddo cymeradwy ger dy fron di. Megis gan ddi∣benu gyrfa fy mywyd yn dy râd, y gallwyf yn ôl hynny fyw gyd â thi yn dragwyddol yn dy deyrnas o ogoniant. Cennada hyn o Arglwydd Jesu, er mwyn haeddedigaethau dy farwolaeth a'th waed tywall∣tedig. Amen.

Pan syddo y Gwenidog yn dwyn y bara wedi ei fendigo a'i dorri tu ag attat ti, a chan ei gynnyg i ti, y dywedo wrthit Cymmer, bwyta, &c. Yno myfy∣ria fod Crist ei hunan yn dyfod attat ti: ac yn cyn∣nyg ac yn rhoi mewn gwirionedd i'th ffydd ei wir gorph a'i waed, gyd â holl haeddegaethau ei farwo∣laeth a'i ddioddefaint, i borthi dy enaid i fywyd tra∣gwyddol: Cyn gypled a bod y Gwenidog yn cynnyg ac yn rhoi yr arwyddion oddiallan i borthi dy gorph i fywyd amserol. Bara yr Arglwydd y mae y Gweni∣dog yn ei roddi, eithr y bar a yr hwn yw 'r Arglwydd y mae Crist ei hun yn ei roddi.

Pan fyddych di yn Cymmeryd y bara o law y Gwenidog i'w fwyta, yno cyffrô dy enaid i amgyffred ac i ymaflyd am Grist trwy ffydd: ac i osod ei haeddedigaethau cf i iachau dy drueni di. Cofleidia ef mor gynnes a'th ffydd yn y Sacrament, ac y darfu i Simeon hên ei wafcu a'i gofleidio yn ei freichiau pan ydoedd yn ei rwymyn. Pan fyddych yn bwyta y bara, tybia fod yn gweled Crist yn crogi ar y groes, a thrwy ei boenau anrhaethadwy, yn cyflawn fodlo∣ni cyfiawnder Duw am dy bechodau di, ac ymeg∣nia i fod yn wir gyfrannog o'r rhâd ysbrydol, megis o'r árwyddion defnyddiol. Canys nid yw 'r Gwir yn absennol oddiwrth yr arwydd, ac nid yw Crist chwaith yn siommi pan yw ef yn dywedyd, hwn yw fynghorph, eithr y mae ef yn ei roddi ei hun mewn gwirionedd i bob enaid a'i derbynnio ef yn ysbry∣dol trwy ffydd. Canys megis y mae y swpper a ar∣ferodd neu a wenidogaethodd Crist yn eiddom

Page 313

ni: felly y mae yr vnrhiw Grist yn wir bresennol yn ei Swpper ei hun, nid trwy drawsylweddiad pabaidd, eithr trwy gyfrannogiad sacramentaidd, trwy 'r hyn y mae ef yn gwir borthi y ffyddlonniaid i fywyd tra∣gwyddol: Nid gan ddyfod i lawr o'r nesoedd attat ti, eithr trwy dy dderchafu di oddiar y ddaiar atto ef, yn ol yr hên ymadrodd, sursum corda: der∣chefwch eich calonnau: Canys pa le bynnac y byddo y gelain yno i'r ymgascl yr eryrod. Mat. 24.28.

Pan fŷch di yn canfod y Gwîn wedi ei ddwyn at∣tat o'r neilltu oddiwrth y Bara: yno cofia fod gwaed Jesu Grist, wedi ei neillduo mewn gwirionedd oddi∣wrth ei gorph ar y groes, er mwyn cael o honot ti faddeuant am dy bechodau: Ac mai hwn iw sèl y cyfammod newydd, yr hwn a wnaeth Duw o ran maddeu holl bechodau oll bechaduriaid edifeiriol, ar a gredent yn haeddedigaethau ei waed tywallte∣dig. Canys nid yw y Gwîn yn Sacrament o waed Crist cynnwysedig yn ei withi, eithr megis y darfu ei dywallt o'i gorph ar y groes er maddenant o'i pe∣chodau ir rhai a gredent ynddo ef, Math. 26.28.

Pan fyddych yn yfed y Gwîn a phryd y bwrir ef allan o'r Caregl i'th Ddwyfron, myfyria a choelia mai trwy haeddedigaethau y gwaed, yr hwn a dy∣walldodd Crist ar y groes, y cai di faddeuant o'th holl bechodau cyn gypled ac a darfu i ti yfed yr awr∣hon y Gwîn sacramentaidd, yr hwn sydd ofewn dy ddwyfron. Ar pryd y byddych yn yfed, gosod dy fyfyrdod ar Grist, megis yr oedd ef yn crogi ar y groes; fel pe bait ti megis Mair ac Joan yn ei we∣led ef yn hoeliedig, a'i waed yn llifeirio i lawr rhyd ei ystlys bendigedig, allan o'r briw erchill, yr hwn a wnaeth y waiwffon yn ei Galon ddiniweid: gan ddy∣muned fod dy enau yn dynn wrth ei ystlys ef, megis y gellit ti dderbyn y gwerthfawroccaf waed hwn∣nw cyn ei syrthio ir ddaiaren lychlyd. Ac etto yfed y

Page 314

gwaed hwnnw yn corphorol a'th enau, ni byddai el∣fydd mor ffrwythlon, ac yfed y Sacrament hon o'r gwaed hwnnw yn ysbrydol trwy ffydd. Canys fe allasai un o'r Milwyr yfed hwnnw, a bod yn golle∣dig er hynny: eithr pwy bynnac a'i hyfo yn ys∣prydol trwy ffydd yn y Sacrament, a fydd dio∣gel o gael maddeuant am ei bechodau, a bywyd tragwyddol. [Ped faseu faddeuant pechodau neu fy∣wyd tragwyddol ir neb a yfai yn gorphorol, diamau y buasai Mair ac Joan yn ei yfed, ond mae Joan yn dangos fod y rhinwedd yn y crediniaeth o'i dywalldi∣ad of.]

Fel y byddych di yn ymwrandaw ar gwîn Sacra∣mentaidd yr hwn a yfaist, yn cynhesu dy ddwyfron, felly ymegnia i glywed yr Yspryd glân yn cyssuro dy enaid â gobaith hyfryd o faddeuant o'th holl be∣chodau, trwy haeddedigaethau gwaed Crist. Ac i'r diben hwn, y mae Duw yn rhoi i bob enaid ffydd∣lon yr Y spryd glân ynghyd ar gwaed sacramentaidd iw yfed, ac ni a ddiodwyd oll i vn yspryd, 1 Cor. 12.13. Ac felly i adcyfodi dy feddwl i fynu oddiwrth fyfyrio am Grist fel y croeshoeliwyd ef ar y groes, i ystyried fel y mae ef yn eistedd mewn gogoniant ar ddeheulaw ei Dâd, i wneuthur cyfryngdod drosot ti, gan anrhegu ei Dâd ag anrhaethadwy haeddedi∣gaethau ei farwolaeth, yr hon a oddefodd ef un∣waith drosot ti i fodloni ei gyfiawnder ef, am y pe∣chodau a wnaethost ti beunydd yn ei erbyn. Rhuf. 8. 34. Heb. 7.25. ac 9.24.

Yn ol i ti fwyta ac yfed y Bara ar Gwîn, gwna dy orau felly trwy weithrediad ffydd, a'r Yspryd glân i fod yn un â Christ, â Christ â thithau; me∣gis ac y mae yr arwyddion Sacramentaidd hynny yn troi yn faeth i'th corph, a trwy draul y gwrês yn dy∣fod

Page 315

yn un ath sylwedd di; ac felly y cei di gryfhau a chynnyddu dy Gymun â Christ fwyfwy. Ac me∣gis y mae yn amhossibl gwahanu y Baa a'r Gwin gwedi y treulier gan y culla, a y t••••e i waed a sylwedd dy gorph: felly y mae yn fwy amhossibl tynnu Crist oddiwrth dy enaid ti, neu dy enaid oddiwrth Grist. 1 Cor. 10.17.

Yn ddiweddaf megis nad yw ba•••• y Sacrament, er ei wneuthur o lawer o ronynnau yd, ond vn bara: felly rhaid i ti gofio, er bod yr holl ffyddlonniaid yn llawer, etto nid ydynt ond u corph dirgeledig, or hwn y mae Crist yn ben. Ac a hynny y mae 'n rhaid i ti garu pob Cristion f•••• ydi dy hun, ac megis aelod oth corph.

Hyd yn hyn am y dyledio sydd iw cyflawni wrth dderbyn y Sacrament sa••••••••••••d, yr hyn a elwir rhagfyfyrdod.

3. Am y dyld•••••• 〈…〉〈…〉 cyflawni yn ol derbyn y Cy•••••••• 〈◊〉〈◊〉 r hyn a elwir, gweithrediad 〈◊◊〉〈◊◊〉.

Y Ddylêd yr hon sydd 〈◊〉〈◊〉 i chyflawni yn ol derbyn Swpper yr Arglwdd, a eiwir gweithre∣diad neu Arferiad: heb yr hyn nid yw yr holl be∣thau eraill yn gwneuthur i ni ronyn llês na chys∣sur.

Y gweithrediad hwn sydd i gyflawni dau fath ar ddyledion: Yn gyntaf, y pethau sydd raid i ni eu cyflawni yn yr Eglwys; neu ar ôl i ni fyned adref.

Y pethau sydd raid i ni eu cyslawni yn yr Eglwys ydynt, un a'i neillduol i ni o'n honeidiau ein hunain, heu gysylltedig ar gynulleidfa.

Page 316

Y neilltuol ddyledion y rhai sydd raid i ti eu cy∣flawni o'th enaid dy hun ydynt dri: yn gyntaf, rhaid i ti fod yn ofalus (yn gymmaint a bod Crist yn trigo ynot ti yr awrhon) iw groeshawu ef gan hynny â chalon lân, ac á serch pûr: am y mynn y sancteiddiolaf fod yn Sanctaidd gyd a'r Sanct∣aidd: Psal. 18.26. Canys os darfu i Joseph o Arimathea pan gafodd ef ei gorph marw ef gan Pilat iw gladdu, ei droi a'i amdoi ef mewn lliain main ac aroglau pêr, a'i osod mewn bêdd newydd: pa faint mwy y dylit ti lettyfa Crist mewn calon newydd, a phereiddio ei stafelloedd ef a phêr arogl∣darth gweddiau, ac oll bur draserch? Os darfu i Dduw orchymmyn i Moeses geisio crochan o aur pûr i gadw y manna a syrthiodd yn yr anialwch? pa fath galon bûr a ddylit ti ei pharatoi i dderbyn y Manna sanctaidd, yr hwn a ddaeth i lawr o'r ne∣foedd?

Ac megys y daethost di tan alaru fel Joseph a Mair i geisio Crist ir deml, felly yr awrhon wedi i ti ei gael ef ynghanol ei air a'i Sacramentau, bydd ofalus trwy orfoledd iw ddwyn ef adref gyd â thydi, fel y gwnaethont hwythau; Luc. 2.46.

Ac os darfu ir dŷn, yr hwn a gafodd ei ddafad golledig, orfoleddu cymmaint, pa fodd y gelli di wedi i ti gael Jachawdwr y bŷd, na orfoleddych fwy o lawer?

Yn ail mae yn rhaid i ti offrymmu aberth o neill∣duol ddiolch i Dduw am y rhád ar drugaredd anrha∣ethadwy hon: Canys fel y mae y weithred hon yn gyffredin ir holl Eglwys, felly ei cymmwysir yn neillduol i bob un or ffyddloniaid yn yr Eglwys, ac am y neillduol drugaredd hon y mae 'n rhaid i bôb enaid offrwm i fynu yn llawen neillduol a∣berth o roddi diolch. Canys os darfu i'r doethion lawenychu cymmaint pan welsant y Seren yr hon oedd yn eu tywys hwynt at Grist, a'i addoli ef mor gre∣fyddol,

Page 117

pryd yr oedd ef yn blentyn yn gorwedd yn y preseb, ac offrymmu iddo ef aur, myrh, a thus; pa faint mwy y dylyt ti orfoleddu yr awrhon ddarfod i ti yn gystal weled, a derbyn y Sacra∣ment hon, yr hon sydd yn arwain dy enaid di atto ef, lle mae yn eistedd ar ddeheulaw ei Dâd mewn gogo∣niant? A chan dderchafu dy galon hyd yno, addo∣la ef, ac abertha iddo ef yr aur o wir bûr ffydd, a myrrh calon farweiddiol, a'r thus hwn neu'r cyfryw felus arogldarth o weddi a diolch.

Gweddi i'w dywedyd yn ôl derbyn y Cym∣mun sanctaidd.

PA beth a roddaf i ti (O Jachawdwr bendigedig) am yr holl fendithiau, y rhai mor rasusol a dyw∣clldaist di ar fy enaid? Pa fodd y gallaf fi roi diolch cymhesur i ti, pryd na allaf fi ond prin eu mynegi? Lle gallesit ti fyngwneuthur i yn anifail, ti am gw∣naethost i yn ddŷn ar dy lûn dy hunan: pryd yr oeddwn i trwy bechod wedi colli dy lûn, â myfi fy hunan hefyd: di adneŵyddaist dy lûn trwy dy lân Yspryd ynof, ac á waredaist fy enaid trwy dy waed drachefn: ac yn awr di roddaist i mi dy sêl a'th arwydd o'm prynedigaeth: ie di a'th roddaist dy hun i mi O Jachawdwr bendigedig; Oh pa fath drysor o gyfoeth anrhaethadwy, a ffynon lawnlifei∣riol o radau a ynnillodd yr hwn a' th ynnillodd di! Ni chyffyrddodd un dyn a thi trwy ffydd, nas dar∣fu i ti ei jachau ef trŵy râs, o blegid ty di yw Awdur jechydwriaeth, yr ymddiffynfa rhag pob drwg, me∣ddiginiaeth y cláf, bywyd y rhai byw, ac adcyfo∣diad y meirw. Oedd ond matter bychan gennit ti orchymyn i'th Angelion sanctaidd wilio ar greadur

Page 318

mor wael ac wyf fi, eithr mynnu o honot ti dy hun ddyfod i mewn i'm henaid, yno i'm ymddiffyn, i'm maethu, a'm cysuro i fywyd tragwyddol? O gallodd corphllyn y prophwyd marw adfywhau dyn marw a roesid i gyfwrdd ag ef. Pa faint mwy y geill corph bywil Arglwydd y prophwydi fywhau y ffy∣ddlon, ynghalon y wn y mae ef yn presswylio? Ac os cyfodi di fynghorph i yn y dydd o laf allan o'r pridd; pa faint mwy y bywhei di fy enaid yr awr∣hon, yr wn a sancteiddaist di a'th lan Yspryd, ac a bureidd••••••st di a•••• waed? O Arglwydd pa beth mwy a all•••••••• i ei ddymuo, neu pa beth mwy a alla∣sit ti 〈◊〉〈◊〉 ga••••idhau i mi, na rhoddi dy gorph i mi yn fyd, a•••• waed yn ddiod, a rhoi dy enaid ar law yn ridwerth o'm gwaredigaeth? Ty di Argl∣wydd a ddioddefaist y boen, a minnau a gefais y bûdd, myfi a gefais faddeuant, a thithau a odde∣faist y gospedigath: dy ddagrau di oedd fy ymol∣chiad i, dy archollion di fy jechyd i, a'r anghyfiawn∣der a wnaethpwy i ti oedd yn bodloni am y far∣nedigaeth ddyledus i mi. Fel hyn drwy dy enedi∣gaeth di a ddeuaist yn frawd i mi, drwy dy farwo∣laeth yn bridwerth i mi, drwy dy Drugaredd yn wobr, dwy dy Sacrament yn ymborth i mi. O lyniaeth nefol! rwy 'r hwn y cyfnewidir meibion dynion yn feibion i Dduw; megis y byddo anian ddynol yn marwhau, ac anian Duw yn bywhau, ac yn rheoli ynom. Mewn gwirionedd yr oedd i'r holl greaduriaid le i ryfeddu, fynnu o'r creawdr ei gau naw mis yngrôth y Forwŷn, (er iw chrôth hi yn ol ei lenwi o'r Yspryd glan, fod yn fwy disclaer na'r ffurfafen olau serennog.) Eithr darfod i ti fel hyn yma dy ymostwng di hun i fyw yn fynghalon yn oestadol, yr hon a gefaist di yn fwy aflan na thommen, hyn a ddi∣chon beri i holl greaduriaid nef a dai|'ar

Page 319

sefyll yn syn ac yn fud. Ond gan weled mai dy wir ewyllys a'th râd nefol yw ddyfod fel hyn i gyfanneddu yn fynghalon, mi ddymunwn ar Dduw fod gennif galon mor bûr, ac y dymunai fyn∣ghalon ei bod, i'th croeshawu di: a phwy sydd weddol i groesawu Crist? A phwy er cael ei wahodd, ni ddewisai, gyd â Mair, yn hytrach fyned ar ei liniau wrth dy draed, o flaen rhyfygu eistedd gyd â thi ar dy Fwrdd? Er bod arnaf fi eisiau calon bur i ti i aros o'i mewn, etto ni bydd byth arnaf eisiau llygaid llawn o ddagrau i olchi dy fendigedig draed, ac i alaru o herwydd fynghamweddau budron. Ac er na allaf fi wylo cynifer o ddeigrau ac a wasanaethai i olchi dy fendigedig draed, etto fe wasanaetha ddarfod i ti dywalld digon o waed i lanhau fy enaid pechadu∣rus. Ac yr wyf o Arglwydd yn ffyddio yn oll∣awl, na allai yr holl ddanteithion melyswedd, a'r rhai y darfu ir Pharisead coegfalch dy groesawu, ryn∣gu bodd i ti gystal, a'r deigrau hynny a ddarfu i Fair edifarus eu tywalld tan dy fwrdd. Mi fynnwn gan hynny gyd â Jeremi pe bai fy mhên yn ffynnon o ddagrau, megis gan weled na allaf fi mewn un modd dalu cwbl ddiolch am dy gariad i mi, etto fel y gallwn trwy wylofain beunyddiol dystiolaethu fynghariad i ti; ac er nad oes neb yn deilwng o'r fath râd aneirif: etto hyn yw fynghysur, ei fod ef yn deilwng yr hwn yr wyt ti o'th cariad yn ei gyfrif yn deilwng. A chan i ti yn awr oth wir râd fynghyf∣rif (ymhlith dewisedigion eraill) yn deilwng o'r ffafr anrhaethadwy yma, a selio trwy dy Sacrament hysbysrwydd oth cariad, a maddeuant o'm pecho∣dau: O Arglwydd sicrhâ dy gariad ith wâs, a dy∣waid am danaf fi megis y dywedodd Isaac am Jacob, my fi a'i bendithiais ef, am hynny ben∣digedig fydd ef. Ac fel y gallwyf fi ddywedyd wrthit ti gyd â Da∣fydd

Page 320

Tydi O Arglwydd, yn awr a fendi∣gaist fy enaid, ac a'i gwnaethost yn dŷ it, ac ef a fydd yn fendigedig ger dy fron di yn dragywydd. A chan weled ryngu bodd i ti fendigo Obed Edom, a'i holl dŷ, tra yr oedd Arch yr Arglwydd yn aros yn ei dŷ: Nid wyf yn ammau na fendithi di fy enaid i am corph yn fwy o lawer, a chwbl sydd yn perthyn i mi, gan ryngu bodd i'th fawr∣hydi o'th wir ewyllys da dy hun, fyned tan y gronglwyd i aros yn gyfannedd yn fy mythan tlawd i: Bendiga fi ô Arglwydd, fel y byddo i'm pecho∣dau gael cwbl faddeuant trwy dy waed, am cydwy∣bod gael ei sancteiddio trwy dy lán Yspryd, a'm meddwl gael ei oleuo trwy dy wirionedd, am calon ei harwain gan dy Yspryd, am ewyllys ymhob peth fod wedi ei ostwng i wneuthur yn ol dy fendigedig air a'th ewyllys di. Bendithia fi a'r holl radau sydd yn ddiffygiol i mi, a chwanega ynof yr holl ddoniau a'r rhai y darfu i ti fyngynyscaeddu yn barod. A chan weled fy mod yn dy ddal di, nid gerfydd y breichiau, fel Iacob yn ymdrechu oddiallan, eithr oddifewn yn cyfanneddu ynof drwy ffydd: Yn ddiau Arglwydd, ni adawai i ti fyth fyned ymaith, oddieithr i ti fy mendithio, a rhoi i mi enw newydd, calon new∣ydd, ac Yspryd newydd, a nerth trwy allu Duw i orchfygu y byd, y cnawd, ar cythraul. Ac yr wyf yn deisyfu arnat ti o Arglwydd, na chais mor ymadel â myfi felly ceisiaist di oddiwrth Iacob, o ran bod y dydd yn nessau, a'th râd dithau yn dechrau gwawrio ac ymddangos. Canys yr wyf fi o eigi∣on fy enaid, yn ostyngedyg yn ymbil gyd a'r Emmaufiaid arnat ti O Iesu hyfryd, am drigo gyd â myfi o ran bod y nôs yn tynnu yn agos. Canys y mae nôs profedigneth, nôs gorthrym∣der, ie fy hirnos olaf o farwolaeth yn

Page 321

neshau. O fendigedig Iachawdr aros gyd â myfi yr awrhon ac yn dragywydd. Ac onid aiff dy wyneb di gyd â myfi, nac arwain fi i fynu oddiyma. Tyred gyd â myfi, a bydd fyw gyd â myfi, a nâd nac i angau, nac i fywyd fy neillduo i oddiwrthit. Gyr fi oddi∣wrthyf fy hunan, a thynn fi attat ti. Gd i mi fod yn glâf, eithr yn iach ynot ti, ac ymddanghosed dy nerth di yn fyngwendid. Gad i mi fod i'm gweled megis yn faw, fel y byddych di yn vnig i'th weled yn byw ynof fi, fel na byddo fy holl aelodau ddim ond offerau i weithredu dy gynhyrfiadau di. Gosod fi megis sel ar dy Galon, a gad i'th Zel di fod we∣di ei gosod ar fy vn innau, megis y bwyf allan o gariad á chwbl oll, fel y gallwyf yn vnig fod mewn cariad â thydi. A canniadha O Arglwydd, fel y rhyngodd bodd i ti yn awr ddangos y ssafr hon i mi, i gael eistedd ar dy Fwrdd i dderbyn y Sacrament hon yn dy Dŷ o rad: allael o honof yn ôl hyn trwy dy drugaredd, gael fy ner∣byn i fwyta ac i yfed ar dy Fwrddyn dy deyrnas o ogo∣niant. Ac am dy drugaredd, yr wyf fi yma gyd a'r pedwar anifail ar 24 o hênuriaid yn syrthio ger bron dy Orseddfaingc o rad, gan gydnabod mai tydi a'm gwaredaist a'th waed, a bod iechydwriaeth yn vnig yn dyfod oddiwrthit ti. Ac am hynny i ti yr wyf yn rhoddi y fendith a'r gogoniant, a doethineb, a diolch, a'r anrhydedd, a'r gallu, a nerth, a Mawr∣hydi, O fy Arglwydd, am Duw, yn dragywydd. Amen.

Yn drydydd, gan weled fod Crist wedi ei aberthu ei hunan drosot ti (a bod y cwbl ar a ellych di ei roddi yn rhy fychan) am hynny mae 'n rhaid i ti dy offrymmu dy hun i fod yn aberth bywiol, san∣ctaidd, a chymmeradwy gan Dduw, gan ei wasanaethu ef mewn cyfiawnder, a sancteiddrwydd yn dy holl ddyddiau, Rhuf. 12.1. Fal hyn y mae Tertullian

Page 322

yn tystiolaethu, yr adwaenid Cristion rhagor dyn arall yn ei amser ef, yn vnig wrth ei sancteiddrwydd a'i ymarweddiad bucheddol.

2. Am y dyledion rheidiol iw gwneuthur yn ôl y Cym∣mun yn gysylltedig ar gynulleidfa.

YDyledion iw cyflawni yn gysylltedig a'r Eglwys ydynt dri. Yn gyntaf, diolch cyhoe∣ddus, yn gystal trwy weddiau a chanu Psalmau: fel hyn y gwnaeth Crist ei hunan, a'i Apostolion. Yn aîl, vno a'r Eglwys, i roddi (pawb yn ol ei allu) elusen i'r tlawd. Hyn oedd ddefod ac arfer y brif Eglwys, sef, gwneuthur casglau, a gwleddau o, gari∣ad, yn ol derbyn Swpper yr Arglwydd, i borthi angen eu cydfrodyr tlodion. Yn drydydd, pan ddiweddir rhoddi diolch a moliant, yno saf i fynu gyd a'g oll anrhydedd, i dderbyn Bendith Dduw o enau ei Wenidog ef, ac iw derbyn yn yr un modd a pha bait ti yn clywed Duw ei hun or nefoedd yn ei hadrodd wrthit. Canys trwy eu bendith hwynt y mae Duw yn bendithio ei bobl. Num. 6.23, 27.

Hyn am y dyledion sydd iw hymarferu yn yr Egl∣wys.

Y Dyledion y rhai sydd raid i ti eu hymarfer yn ol dy fynediad adref, ydynt dri: yn gyntaf, ystyried yn ddyfal a ddarfu i ti dderbyn Crist yn vnion yn y Sacrament. yr hyn a elli di yn y modd yma ei ddeall yn hawdd; canys gan weled fod ei gnawd ef yn wir fwyd, ai waed yn wir ddiod, Jo∣an. 6.56. a'i fod ef mor llawn o râs, na chy∣ffyrddodd neb ag ef erioed drwy ffydd, ond a dderbynniodd rinwedd oddiwrtho; nid possibl fod amgen, os darfu i ti fwyta ei gnawd ac yfed ei waed, nas derbynni di râd a nerth i ymlanhâu oddiwrth dy holl bechodau a'th fudreddi. Canys os darfu ir

Page 323

wraig ni chyffyrddodd ond âi wisc ef, yn y man gael gan ei diferlif gwaed sychu: Marc. 5.29. pa faint mwy y sych difer-lif gwaed dy bechod di, os byddi di yno gwedi gwir fwyta ac ysed gwir gnawd a gwaed Crist? Ond os bydd dy ddiferlif yn rhedeg etto, y mae i ti le i dybied yn vnion, na wir gyffyr∣ddaist di erioed â Christ.

Yn ail, gan weled ddarfod i ti dy gymmodi dy hun á Duw, ac adnewyddu dy gyfammod, ac addunedu gwellhâd a newydd-deb buchedd: y mae yn rhaid i ti gan hynny gymmeryd prif ofal, nad ymroddych di i wneuthur y cyffelyb bechodau ond hynny: gan wybod am yr yspryd aflan, o chaiff ef byth fyned i fewn ith enaid ti drachefn, yn ol ei lanhâu ai yscubo; ef a aiff i mewn i gymmeryd meddiant cadarngryf â saith o gythreuliaid eraill gwaeth nag ef ei hun gyd a'g efo, ac yno diwedd y dyn hwnnw a fydd gwaeth nai ddechreuad. Math. 12.44. Na fydd gan hynny yn debyg ir ci a ddychwelodd at ei chŵydfa ei hun; neu i'r hŵcb wedi ei golchi, yr hon a ymdreigla yn y dom drachefn. 2 Pet. 2.22. Ac na ymchwel at dy lid mal y wiber, yr hon sydd yn rhoi ei gwenwyn heibio tra byddo yn yfed, ac ai cymmer i fynu dra∣chefn pan y darffo iddi. Eithr pan fyddo, naill a'i diawl a'i dy gnawd yn cynnyg dy hudo, neu roi cod∣wm it yn dy bechodau arferedig; Atteb hwynt mal y mae 'r Eglwys ynghaniadau Salomon, dioscais fy mhais (o'm llygredigaeth arferol) pa fodd y gwiscaf hi, golchais fy nhraed, pa fodd y diwynaf hwynt? Can. 5.3.

Yn olaf, o cesant di erioed na gorfoledd na chy∣ssur wrth dderbyn y Sacrament sanctaidd, ymddan∣ghosed hynny yn dy ddelfyfiad chwannog i'w derbyn drachefn. Canys corph Crist, fel yr eneiniwyd ag olew llawenydd yr fwy nai gyfeillion, felly y mae 'n rhoddi arogl pereiddiach na'r holl ennaint yn y

Page 324

bŷd: Psal. 45.7. Heb. 1.9. Y mae ei arogl melys∣ber yn denu yr holl eneidiau a'r a'i harchwae∣thodd, byth ar ol hynny i ddymuno yn fynychach brofi ei felysdra drachefn. O herwydd arogl dy en∣naint daionus, am hynny y llangcesau a'th carant. Can. 1.3. O profwch a gwelwch gan hynny yn fy∣ny h mor dda yw 'r Arglwydd, medd Dafydd, Psal. 34 8. Dyma orchymyn Crist ei hun, Gwnewch hyn er coffa am danaf; ac wrth wneuthur hyn di fyddi yn dy ddangos dy hun yn fwy meddylgar a diolchgar am ei farwolaeth ef. Canys cyn fyny∣ched ac y bwytaoch y bara, ac yr yfoch y cwppan hwn, y dangswch farwolaeth yr Arglwydd nes ei ddyfod. A bydded hyn yn brif ddiben o'th Cymmun, ac o'th fywioliaeth, sef i fod o honoti yn Gristion san∣ctaidd, yn awyddus i weithredoedd da, wedi ym∣lanhau oddiwrth bechod, i fywyn sobr, ac yn gyfiawn, ac yn dduwiol yn y byd sydd yr awrhon; Tit. 2.12.14. fel y bych cymmeradwy gan Dduw, buddiol i'th frodyr, ac yn ddiddanaidd ith enaid dy hun, hyn yma, am y modd i ogoneddu Duw yn dy fywyd.

Yma y canlyn yr arfer o dduwioldeb i ogoneddu Duw yn amser clefyd, y pryd y galwer arnat ti i farw yn yr Arglwydd.

CYN gynted ac y dealltych ti fod rhyw gle∣fyd yn ymweled â thydi, myfyria wrthit dy hunan:

1. Na ddaw cystudd allan o'r pridd, ac na flagu∣ra gofid allan o'r ddaiar, Job. 5.6. Nid yw clefyd yn digwyddo o ddamwain, neu di amgwydd, (megis yr oedd y Philistiaid yn tybied fod eu Llŷgod, a chlwyf y marchogion yn dyfod, 1 Sam. 6.9.) eithr oddiwrth anwiredd dŷn, yr hyn a dyr allan fel gwr∣eichion.

Page 325

Y mae dŷn (medd Jeremi) yn dioddef am ei bechod. Ynfydion (medd Dafydd) o blegit eu camweddau, ac o herwydd en hanwireddau a gy∣studdir. Galar. nad. 3.39. Psal. 107.17. Megis gan hynny y mae Salomon yn cynghori gŵr i'w ym∣ddwyn ei hun tu ag at dywysog daiarol! Pan gy∣fodo yspryd pennadur yn dy erbyn, nac ymâd a'th le; canys ymostwng a ostega bechodau mawrion: Pre. 10.4. felly yr wyf fi yn dy gynghori di i wneuthur a Thywysog y tywysgion. Os bydd yspryd yr hwn sydd yn llywodraethu nef a daiar yn cyfedi yn dy erbyn, na an-obeithied dy galon; Canys y mae edifei∣rwch yn heddychu am bechodaa mawrion. A phwy bynnac a ddychwelo yn ei gyfyngdra at Arglwydd Dduw Israel, ac a'i ceisio ef, efe a'i caff. 2 Cro. 15.4.

2. Cae ddrws dy stafell, hola dy galon ar dy wely, ac na phecha, praw a chwilia dy ffyrdd. Mat. 6.6. Galar-nad. 3.40. Chwilia mor ddyfal am dy be∣chod marwol, ac y chwiliodd Joshua am Achan, nes itti ei gael. Canys er bod Duw pan fyddo yn cery∣ddu ei blant yn craffu ar eu holl anwiredd, etto y mae ef yn cymeryd achos yn bennaf i'w ceryddu, ac i fyned ag hwynt i'r farn am ryw bechod gofidus, yn yr hwn y buont fyw heb edifeirwch.

3. Pan fyddych di fel hyn wedi ystyried dy holl bechodau, ymosod dy hun ger bron Gorseddfaingc Duw, megis lleidr neu lofrudd yn sefyll o slaen Bar∣nwr daiarol: a thrwy gur a gofid calón cyfaddef wrth Dduw dy holl bechodau adnabyddus, yn en∣wedig dy feiau marwol, yr rhai sydd fwyaf yn an∣fodloni Duw. Hyspysa hw ynt yn eglur, a dangos y pryd, y lle, a'r môdd y gwnaethpwyd hwynt: megis y perthyn i ddatcan creulonrhwydd dy bechodau, a maint yw dy edifeirwch am danynt. Cyfod dy

Page 326

law, a chydnabydda ger bron Barnwr cyfiawn nef a daiar dy fod yn euog o farwolaeth, a damnediga∣eth dragwyddol, am yr echrysson bechodau a'r anwireddau hynny. A chwedi i ti fel hyn dy gyhuddo a'th farnu dy hunan; ymddarostwng dy hun ger bron gorseddfainge ei râd, gan dy sicr∣hau dy hun pa wedd bynnac yw brenhinoedd Isra∣el, etto fod Duw Israel yn Dduw trugarog. A lle∣fain wrtho ef o galon ffyddlawn edifeiriol, am dru∣garedd a maddeuant mor daer a haerllyg, ac y cly∣waist ti ddrwg-weithredwr a fai parod i dderbyn ei farn yn llefain wrth yr usdus am rás a thrugaredd; gan addunedu gwellhâd buchedd, a thrwy gynnor∣thwyad ei râd ef i ochel byth y cyfryw bechod ond hynny, yr hyn oll a elli di ei wneuthur yn y geiriau a ganlyn, neu 'r cyfryw.

Gweddi pan ddechreuo un fyned yn glaf.

O Farnwr tra-chyfion, etto yn enw Jesu Grist fy nhad grasusol: myfi bechadur truan ydwyf yma yn dychwelyd attat ti, (er fy ngyrru gan ddygn boen a gofid) megis y Mâb afrad∣lon gan newyn ac eisiau. Yr wyf yn cydnabod nad yw y dolur ar penyd hwn yn digwyddo o ddamwein dall neu o dynged, eithr trwy dy ragymweliad ne∣fol, a'th prif ragluniaeth. Dyrnod dy law drom ydyw yr hyn y mae fy mhechod yn ei gyfion ha∣eddu: a'r hyn a arswydais a ddigwyddodd i mi: Etto yr wyf yn deall dy fod ti yn dy lid yn co∣fio trugaredd, pan ystyriwyf amled ac erchylled yw fy mhechodau, ac mor anaml ac esmwyth yw dy gospedigaethau di. Di a allasit fy nharo i â rhyw farwolaeth ofnadwy ddisymmwth, megis na allaswn i gael nac ennyd nac amser i alw arnat am rás a

Page 327

thrugaredd; Ac felly y darfusau am danaf yn fy mhechodau, ac y buaswn colledig yn uffern byth.

Eithr yr wyt ti o Arglwydd yn ymweled â myfi a'r cyfryw gerydd tadol, ac a arferi wrth ymweled a'th plant anwylaf; gan roddi i nai (trwy 'r clefyd hwn) yn gystal rhybydd ac amser i edifarhau, ac i ymbil â thydi am râd a maddeuant. Nid wyf yn cymeryd gan hynny o Arglwydd moth ymweliad byn, yn arwydd o ddigofaint na chasineb, eithr me∣gis yn ddiogelaf argoel ac arwydd o'th ffafr a'th ry∣wiogrwydd cariadol, trwy 'r hyn yr ydwyt ti a'th Farnedigaethau amserol yn fy nhynnu i'm bar∣u fy hunan, ac i edifarhau o'm buchedd an∣wireddus, mal na byddwn gwedi fy mwrw heibio i ddamnedigaeth gyd a'r bŷd annuwiol diedifeiri∣ol. Canys y mae dy air sanctaidd yn fy siccrhau mai 'r hwn a geri yr wyt ti fel hyn yn ei gospi, ath fod yn fflangellu pob mab a dderbynni: ac os goddefaf fi dy gôsp, dy fod yn ymgynnyg dy hun i mi megis ith Fâb, a bod yr holl rai abarhânt i bechu, ac er hyn∣ny a ddiangant yn ddi-gerydd (o'r hyn y mae dy holl blant yn gyfrannogion) yn ordderchiaid, ac nid yn feibion: ath fod ti yn fyngheryddu o ran fy llês, me∣gis y gallwn fod yn gyfrannog o'th sancteiddrwydd. O Arglwydd mor llawn o ddaioni yw dy anian, mor rasusol y gwnaethost di â myfi yn amser fy iechyd am helaethrwydd? ac yr awrhon gwedi dy gy∣ffroi o herwydd fy mhechodau am anniolchgarwch, sy gennit y cyfryw dadol a buddiol ddibenion yn gosod y dolur a'r cerydd hwn arnaf.

Yr wyf yn cyfaddef, Arglwydd, dy fod ti yn dra chyfion yn cystuddio fynghorphi â chlefyd; Ca∣nys yr oedd fy enaid yn glaf o'r blaen gan hir ha∣wddfyd, ac yn rhy lawn o esmwythdra, tanghnedd∣yf, helaethrwydd, a digonedd bara. Ac yr awr∣hon, O Arglwydd, yr wyf yn galaru ac yn alaethu

Page 328

am fy mhechodau; yn wyf yn cydnabod fy anwiredd, am pechodau sydd yn oestad ger fy mron. O pa fath bechadur truan wyf fi, gwag o bob daioni wrth na∣tur, a llawn o bob drygioni wrth ymarfer pecha∣durus! Oh pa fath aneirif liaws o bechodau a wn∣euthum yn d'erbyn di, tra 'r oedd dy hir ymaros yn disgwyl wrth fyn nroad, a'th fendithiau yn fy ne∣nu i edifeirwch! Etto o fy Nuw, gan weled fod yn briodoldeb i ti, edrych yn fwy ar dy anian dy hun, nac ar haeddedigaethau pechaduriaid; yr wyf yn at∣tolygu i ti o Dâd, er mwyn dy fab Jesu Grist, ac er mwyn haeddedigaethau ei oll wared awl farwola∣eth, yr hon yn ewyllysgar a oddefodd ef tros bawb a gredant ynddo. Trugarha wrthyf yn ol lliaws dy drugareddau, tro dy wyneb heibio oddiwrth fy mhe∣chodau, a deleua fy holl anwireddau: na fwrw fi ymmaith oddi ger dy fron di, ac na thal i mi yn ôl fy haeddedig aethau. canys os gwrthodi di fi pwy am derbyn? neu pwy a rydd i mi achles os bwri di fi ym∣maith? eithr ty di o Arglwydd ydwyt ymwared y di∣ymwared, canys ynot ti y caiff yr ymddif ad drugaredd. O blegit er bod fy mhechodau yn dra-mawrion, etto y mae dy drugaredd O Arglwydd yn fwy nag hwynt oll. Ac ni allaf fi droseddu cymmaint ac a eill dy râd ti ei ollwng, a'i faddau: Golch gan hynny, o Crist, fy mhechodau â rhinwedd dy werthfawroccaf waed, yn enwedig y pechodau y rhai o galon edifei∣riol a gyfaddefais wrthit. Yn Bendifaddau o Ar∣glwydd er mwyn Jesu Grist maddau i mi A chan weled mai o'th cariad y dodaist i lawr dy einioes yn bridwerth drosof, pryd yr oeddwn yn elyn i ti: O gwared yn awr werth dy waed dy hun, pryd na chyst i ti ddim ond un wên gariadus tuag attaf, neu ym∣ddangos

Page 329

yn rasusoi yngolwg dy Dâd trosof fi. Gwna fy undeb i unwaith drachefn ath dad, O Gyfryn∣gwr trugarog; canys er nad oes dim ynof fi a eill iyngu bodd iddo ef, etto mi wn mai ynot ti, ac er dy fwyn di, y bydd ef bodlon i bawb ar a dderbyn∣nych ac a gerych di. Ac os dy ewyllys bendigedig yw, symmud y clefyd hwn oddiwrthif, ac adfera fi im hiechyd cynefin drachefn; fel y gallwyf fyw yn hwy i osod allan dy ogoniant di, ac i fod yn ddidda∣nwch im cynyseifiaid y rhai sydd a'i goglydd arnaf: ac i geisio i mi fy hunan fwy diogelrhwydd am yr etifeddiaeth nefol, yr hon a baatoist di i mi. Ac yno, Arglwydd, y cai di weled mor gall a chiefyddol y prynaf fi 'r amser, yr hwn or blaen a ddarfu i mi dreilio mor ddiffaeth ac mor halogaidd. Ac er mwyn caffael o honof fi yn gynt ac yn haws ymadel a'r penyd, ac a'r clefyd hwn, cyfarwydda fi O Ar∣glwydd, yr wyf yn attolwg it oth ragluniaeth goru∣chel, at y fâth physygwr, neu feddig, megis 〈◊〉〈◊〉 gall∣wyf (drwy dy fendith ar dy foddion) gaei fynghy∣nefin jechyd am esmwythder drachefn megis or bla∣en. A cheni adhâ Arglwydd daionus, megis y dan∣fonaist y clwyf hwn attaf, felly ryngu bodd it ddan∣fon dy Yspryd glân im calon, trwy 'r hwn y gallo y clefyd hwn fod wedi ei sancteiddio i mi: fel y gall∣wyf ei arfer megis dy yscol di, yn yr hon y gallwyf ddyscu adnabod mawredd fy nhrueni, a galluog∣rwydd dy drugaredd; fel y byddwyf mor ostyn∣gedig o ran y naill, megis na anobeithiwyf o'r llall: ac fel y gallwyf felly ymwrthod a phob rhyfyg o gynnorthwy ynof fy hun, neu mewn nebryw grea∣dur arall; fel y gallwyf yn unig osod yr holl hy∣der o'm hiechydwriaeth yn dy holl-ddigonol haedde∣digaethau. Ac yn gymaint a'th fod ti yn gwybod O Arglwydd, y fàth lestr gwan wyf fi, llawn o lescrw∣ydd

Page 330

ac amherffeithrwydd, am bod wrth natur yn ddiclon ac yn amhwyllig i oddef gwrthwyneb a chy∣studd. O Arglwdd yr hwn wyt roddwr, pob dawn daionus, arfoga fi ag ammynedd i oddef ac i dder∣byn dy fendigedig ewyllis a'th ymweliad; ac o'th drugaredd na osod fwy arnaf, nag a allwyf fi ei oddef a'i gynnwys. Dod i mi râs i'm ymddwyn fy hun mewn oll ammynedd, cariad, a gweddeidd-dra, tu ag at bob rhai a ddelont i ymweled a myfi, fel y gallwyf dderbyn yn ddiolchgar, ac yn ewyllysgar gofleidio yr holl gynghorion, ar cyssurau daionus a ddêl oddiwrthynt: ac megis y gallont hwy vn ag∣wedd weled ynof fi y cyfryw siamplau daionus o ddioddefgarwch, a chlywed gennif y cyfryw addysc dduwiol o ddiddanwch, ac a fytho yn dystiolaeth, neu hysbysrwydd eglur o'm ffydd am crefydd gri∣stianogawl; Ac yn athrawiaeth iddynt hwy pa fodd i'w hymddwyn eu hunain, pan ryngo bodd it ym∣weled ag hwynt ar cyfryw gystudd neu glefyd. Mi wn o Arglwydd fy mod yn haeddu marwolaeth, ac nid wyf yn dymuned byw ddim hwy, nac y byddwyf i wellhau fy muchedd anwireddus, ac mewn mesur gwell i osod allan dy ogoniant. Gan hynny o Ar∣glwydd, os dy fendigedig ewyllys yw, dyro i mi fynghynefin iechyd drachefn, a channiadhâ i mi hoedl hwy. Ond os darfu i ti yn ol dy raglu∣niaeth dragwyddol, bennodi y clefyd hwn i'm ga∣lw allan o'r bywyd darfodedig yma: yr wyf yn fy ymroi fy hunan i'th law di: gwneler dy ewy∣llys bendigedig, pa vn bynnac a'i trwy fywyd a'i marwolaeth: yn vnig yr wyf yn attolwg i't o'th drugaredd faddeu i mi fy holl bechodau, a pha∣ratoi fy enaid truan, megis trwy wir ffydd a di∣ffuant edifeirwch, y gallo ef fod yn barod erbyn yr amser y gelwych di arno allan o'm corph clwyfedig pechadurus. O Arglwydd Dâd, yr

Page 331

hwn a wrendewi weddi, clyw yn y nefoedd y weddi hon a wneuthum, ac yn y cyfyngder hyn can∣niadha i mi fy nymuniad, nid er mwyn vnrhiw deilyngdod sydd ynof fi, ond er mwyn haedde∣digaethau dy anwyl Fab Jesu, fy vnig Iachawdr am cyfryngwr, er mwyn yr hwn i'r addewaist di wrando arnom, a channiadhau i ni pa beth bynnac a ofynnom yn ei enw ef. Yn ei enw ef gan hynny, ac yn yn ei eiriau ei hun, y ter∣fynaf fi fy amherffaith weddi hon, gan ddywe∣dyd.

Ein Tad yr hwn wyt yn y nefoedd, &c.

Gwedi i ti fel hyn dy gymmodi dy hun â Duw yn Ghrist.

1. Bydded dy ofal nessaf di i osod dy dŷ mewn trefn a llywodraeth, yn ôl cyngor Esai i'r Brenin Ezechias: Esay 38.1. Gan wneuthur dy ewyllys olaf, a'th lythyr Cymmun, (onis bydd gwedi ei wne∣uthur eisoes.) os bydd wedi ei wneuthur, yno edrych amo yn fanwl, a sicrhâ ef, ac er mwyn gochelyd pob ammheuon ac ymrafaelion, cyhoedda ef ger bron tystion: mal (os geilw Duw arnat ti allan o'r byd hwn) y gallo fod mewn ffrwyth ac yn ddigyfnewid∣iol, megis dy wir feddwl a'th ewyllys olaf: ac yno traddoda ef gwedi cloi arno neu ei selio mewn rhyw flwch, i gadwraeth rhyw gyfaill ffyddlon, yngwydd tystion onest bucheddol.

2. Eithr wrth wneuthur dy lythyr Cymmun cymmer addysc Eglwyswr duwiol, am y modd i gyfrannu dy eluseni; a chyngor gwr o gyfraith vniawn-ddoeth, i'w dynnu yn ôl cyfraith.

Pryssura i wneuthur hyn cyn i'th clefyd gynny∣ddu, a'th côf ddiflannu, rhag i'th lythyr Cymmvn brifio i fod yn lledŵyredd, ac felly wrth fodd vn arall yn hytrach nac yn ewyllys i ti.

Page 332

3. I ragflaenu amryw ymrafaelion, mi a ewy∣llysiwn i ti feddwl am ddau beth:

1. Os bydd Duw wedi dy fendithio di â golud bydol, gwna dy ewyllys yn amser dy iechyd: ni wna hyn nath pellhau di oddiwrth dy dda, nath yrru di yn gynt i farw; eithr fe fydd hyn yn fwy esmwyth∣der i'th feddwl, i'th ryddhau di oddiwrth drafferth a blinder mawr, y pryd y byddo arnat ti fwyaf eisiau llonyddwch. Canys pan fyddo dy dŷ di wedi ei osod mewn trefn, di a fyddi yn gallael yn haws osod dy enaid mewn trefn, a darparu dy daith tu ag at y Goruchaf Dduw

2. Os bydd i ti Blant, dod i bob vn o honynt gy∣fran yn ol dy allu, yn amser dy fywyd; megis y by∣ddo dy fywyd yn ymddangos yn esmwythder, ac nid yn iau arnynt: etto dôd felly, fel y byddo dy blant yn oestadol yn hwymedig i ti, ac nid tydi iddynt hwy. Eithr os cedwi di y cwbl yn dy ddwylaw tra byddych yn fyw, hwynt hwy a allant ddiolch i farwo∣laeth, ac nid i ti am y cyfran a adewaist ar dy ôl iddynt. Os byddi di yn ddi blant, a Duw wedi dy fendithio â chryn gyfoeth o'r byd hwn, ac o meddyli di eu rhoddi tu ag at elusenaidd neu dduwiol weith∣red, na throsclwydda mor gwaith hwnnw i ymddiri∣ed rhai eraill, gan weled cyn fer sydd o secutorion dynion eraill yn prifio i fd yn fradwyr. Ac os yw cy∣feillion mor anffyddlon ym mywyd dŷn, pa faint mwy o achos sydd i ti i anghoelio eu ffyddlondeb hwynt ar ôl dy farwolaeth?

Y mae fiamplau galarus yn dangos pa gynifer o ewyllysiau 'r meirwon yn hwyr o amser, naill ai a guddiwyd, ac a lwyr ddifethwyd, neu twy ddiche∣llion ac atcasrwydd cyfraith a ddifuddiwyd ac a newidwyd: lle na ddylid wrth gyfraith Dduw dorri ewyllys y marw: ond bod ei holl amcanion duwiol

Page 333

gwedi eu gwneuthur i ben, a'i cyflawni yn gydwybo∣dus, megis yngolwg Duw, yr hwn yn nydd yr adcy∣fodiad, a fydd Farnwr cyfion i'r byw a'r marw. Gal. 3.15. Heb. 9.17. 2 Cor. 5.10. Rhuf. 2, 15. 1 Cor. 4.5. Act. 7, 31, 32. Ac os digwydda i ddim yn ei ewyllys ef fod yn fwysaidd neu yn amheuus, fe ddylid ei ddirnad y ffordd orau, megis y byddo yn dyfod ne∣ssaf at anhrydedd Duw, a meddwl gonesd y testa∣mentwr, sef y marw. Eithr discynned y dial dyle∣dus i'r cyfryw weithredoedd anghristnogawl, ar ben y rhai a'i gwnelant: ac nid ar y deyrnas lle 'r ydis yn cynnwys eu gwneuthur. Cymered gwyr cyfoe∣thogion eraill, rybydd oddiwrth y cyfryw siamplau gresynaidd, i beidio a phriodi eu meddyliau a'i ha∣rian, fel na wnelont ddim daioni a'i da, nes i farwo∣laeth eu hyfgar hwynt.

[Dedwydd yw a chall ei rol, a diangol yn y derfysc, yr hwn a gymer rhag bod gwall, o berigl arall addyso.]
[Matrimonium inter Aurum & Arcam, divor∣tium inter Deum & Animam. Aug.

sef:

Priodas rhwng yr aur a'r gîst, Mae 'n chwedl trist go arw, Yscar fydd, sydd ryw ddydd raid, Rhwng Duw ar enaid hwnnw.]

Wrth hynny gan ystyried fyrred yw dy enioes dy hun ac ansiccred wyti y gwneiff eraill yn gyfiawn ar ôl dy farwolath, yn y dyddiau anghyfiawn hyn: gâd i mi dy gynghori di (yr hwn a fendithiodd Duw â galluogrwydd, ac a meddwi i wneuthur daio∣ni) i fod yn dy fywyd yn administrator neu yn weinidogaethydd i ti dy hunan, gan wneuthur dy

Page 334

ddwylaw dy hun yn secutorion, ath lygaid dy hunan yn olygwyr; pair i'th lusern roi goleuni o'th flaen, ac nid o'th ôl: dôd i Dduw y gogoniant, ac ti a gei gantho ef mewn amser dyledns dderbyn dy wobr ath taledigaeth, yr hyn o'i ras a'i drugaredd a adda∣wodd es i'th weithredoedd da. Gal. 6.9. Luc. 18.22. Dadc. 14.13.

4. Gwedi i ti fel hyn osod dy dŷ ath enald mewn trefn, (o bydd rhif gosodedig dy ddyddiau heb der∣fynu) naill a'i fe gymmer Duw drugaredd arnat ti, ac a ddywaid: Arbed (o ddolur angheufol) rhag descyn o honaw i'r clawdd, my fi a gefais iawn, Job 14.5. Job 33.24. Neu ei dadol ragluniaeth ath cyfarwydda di at y fáth foddion, megis trwy ei fen∣dith ef ar eu gwaith, y ceffych gynefin iechyd dra∣chefn. 2 Bren. 20.7. 2 Bren. 5.7, 8; 10. Eithr mewn vn modd gochel di na neb trosot, ddan∣fon at swynwyr, dewiniaid, neu gonsurwyr, a ymwared: Canys hyn a fyddai adael Duw Israel, a myned at Baalzebub Duw Ecron, am gynnor∣thwy; megis y gwnaeth Ahaziah felldigedig, 2 Bre. 1, 2, 3. a thorri yr adduned yr hon a wnaethost di a'r bendigedig Drindod yn dy Fedydd: a bydd ddi∣ogel na rydd Duw ei fendith ar y moddion a felldi∣godd ef: Ond os cynnwys ef Satan i iachau dy gorph di, ofna fod hynny yn tueddu at ddamnedigaeth dy enaid. Yr wyt ti yn cael dy brofi; gochel. Deut. 13.3. ac 18.10. Levit. 20.6.

5. Pan fŷch di wedi danfon am y Physygwr, gochel roddi dy ymddiried yn y Physygwr yn hytrach nag yn yr Arglwydd, megis y gwnaeth Azah; am yr hwn y dywedir, nad oedd ef yn ymgeisio a'r Arglwydd yn ei ddolur, onid a'r Physygwyr: 2 Cron. 16.12. yr hyn sydd fâth ar ddelw-addoliad, ac a ennyn lidiawg∣rwydd yr Arglwydd, ac a wnaiff y physygwriaeth a gymmerer yn anfuddiawl, ac anffrwythlawn. Arfer

Page 335

gan hynny o Physygwr megis o offeryn Duw, a physygwriaeth megis o foddion Duw. A chan weled nad yw gyfreithlon heb weddi dderbyn llyniaeth cy∣ffredinol, 1 Tim. 4.4. llai o lawer physygwriaeth anghyffredinol (ffrwyth daionus yr hwn fydd yn se∣fyll ar law Dduw:) cyn cymeryd physygwriaeth gan hynny gweddia yn galonnog at Dduw am ei fen∣dithio ef ith leshaâd, yn y geiriau hyn, neu 'r cy∣fryw.

Gweddi o flaen cymmeryd physygwriaeth.

O Dad trugarog, yr hwn wyt Arglwydd yr iechyd ar clefyd, y bywyd, a'r farwolaeth, yr hwn wyt yn llâdd, ac yn gwneuthur yn fyw, yr hwn wyt yn dwyn i wared i'r bêdd, ac yn dwyn i fynu. Yr wyf yn dyfod attat, megis at yr vnig physygwr, yr hwn a ddichon iachau fy enaid oddiwrth bechod, am corph oddiwrth glefyd. Nid, wyf yn deisyfu na bywyd na marwolaeth, ond fy ymroi fy hun i'th ewyllys bendigedig. Canys er bod yn rhaid i ni farw, a chwedi ein meirw, bod o'n bywyd megis dwfr a denid ar y ddaiar, yr hwn ni ellir moi gasclu drachefn: etto fe ddarfu i'th rasusol ragluniaeth (tra byddo bywyd yn parhau) ddarparu a threfnu moddion, y rhai a fynni di i'th plant eu harferu, a thrwy arfer cyfreithlon o honynt, i ddisgwyl dy fen∣dith ar dy foddion er mwyn iachâd o'u clefydau, ac adferiad o'u hiechyd iddynt. Ac yr awr∣hon o Arglwydd yn fy angenoctid hyn, fe ddar∣fu i mi yn ol dy drefnedigaeth ddanfon am dy wâs, (y physygwr) yr hwn a baratoadd i mi y physy∣gwriaeth yma, yr hwn yr wyf yn ei dderbyn megis moddion gwedi eu danfon o'th tadol a'th cariadol law: yr wyf yn attolwg it gan hynny,

Page 336

megis trwy dy fendith ar y swp o ffigus y meddi∣giniaethaist gornwyd Ezechias fel yr iachauwyd ef: A thrwy ymolchi saith waith yn afon Jorddonen y glanhaist Naaman y Siriad o'i wahanglwyf: ac y rhoddaist ei olwg i'r dyn oedd ddall o'i ene∣digaeth, wrth iraw ei lygaid a'r clai ac a'r poer, a'i ddanfon ef i ymolchi i lyn Siloam: ac wrth gy∣ffwrdd a'th law a mam gwraig Petr, yr jachauaist hi o'r Crŷd: ac yr jachauaist y wraig a gyffyrddodd ag ymyl dy wisc, oddiwrth y diferlif gwaed: felly rhynged bodd i't o'th ancirif ddawn ath trugaredd, sancteiddio y physygwriaeth hyn i fod yn fuddiol i mi, a rhoi y cyfryw fendith arno fel y gallo (os dy ewyllys bendigedig yw) symmud y clefyd hwn a'r boen oddiwrthif, am hadferu i'm hiechyd am nerth drachefn. Ond os yw rhif y dyddiau, y rhai a osodaist i mi i fyw yn y dyffryn hwn o dru∣eni, yn tnnu at eu diben, a darfod i ti ddanfon y clefyd hwn megis yn gennad i'm galw i allan o'r bywyd marwof hwn, yno Arglwydd gwneler dy ewyllys bendigedig. Canys yr wyf yn fy ymddarostwng fy hunan i'th ragluniaeth bendigedig. Yn unig yr wyf yn deisyfu arnat chwanegu fy ffydd am hammynedd, ac na ad i'th rad a'th trugaredd fod byth yn ddiffygiol i mi, eithr ym mhlith fy holl gy∣fyngderau, cynnorthwya fi ath lân Yspryd, fel y gallwyf yn ewyllysgar ac yn gysurlawn roddi i fynu fy enaid (gwerth dy waed ti) i'th rasusol ddwylaw a'th gadwraeth. Canniadha hyn O Arglwydd er mwyn Jesu Grist, i'r hwn gyd á thi a'r Yspryd glan, y byddo oll anrhydedd a gogonant, yr awr hon ac yn oes oesoedd. Amen.

Page 337

Myfyrdod i'r claf.

TRa byddo dy glefyd yn parhau, arfer yn fy∣nych (er mwyn dy ddiddanwch) yr ychydig Fyfyrdodau hyn, ynghylch y dibennau, o herwydd pa rai y mae Duw yn danfon cystuddiau i'w blant: sef y rhai hyn.

1. Megis trwy gystuddiau y gallo Duw nid yn vnig geryddu ein pechodau a aethant heibio, eithr hefyd gweithredu ynom gasineb dyfnach i'n hani∣anol lygredigaeth, ac felly achub y blaen arnom ni rhag i ni syrthio i awer o bechodau eraill, i'r rhai oni bai hynny, y rhedem ni. Megis tâd da yr hwn sydd yn cynnwys i'w blentyn losci ei fŷs yn y ganwyll, fel y gallo ef yn hytrach ddyscu go∣chelyd cwympo mewn tán a fyddo mwy. Felly y gall plentyn Duw ddywedyd gyd â Dafydd: da i mi fod wedi fy ngystuddio, fel y gallwyf ddyscu dy gyfreithiau. Canys cyn fynghystuddio mi gyfeiliornais, ond yr awrhon mi gadwaf dy air. Psal. 119.67, 71. Ac medd St Paul yr ydym ni yn cael ein ceryddu gan yr Arglwydd rhag ein damnio gyd ar bŷd. 1 Cor. 11.32. Ag vn groes y mae Duw yn gwneuthur dau feddiginiaeth, cerydd am bechodau a wnawd eifoes, ac achub y blaen ar y pechod i ddyfod. Ca∣nys er bod tragwyddol gospedigaeth am bechod (fel y mae yn deilliaw oddiwrth gyfiawnder) yn cael ei gyflawn faddeuant yn aberthiad Crist: etto nid ydym ni (heb ein difrifol farnu ein hunain) wedi ein rhyddhau oddiwrth amserol gerydd am bechod. Canys y mae hyn yn vnig yn deilliaw oddiwrth ga∣riad Duw er daioni i ni. A hyn yw'r achos a'r rheswm, pan ddywedodd Nathan i Ddafydd, oddi∣wrth yr Arglwydd, fod ei bechod ef wedi ei faddeu:

Page 338

etto nad ymadawai cleddyf cospedigaeth a'i dŷ ef: ac y cai ei fab ef farw yn ddiau, 2 Sam. 10.13. Canys Duw megis physygwr celfyddgar, yn gweled yr enaid wedi ei wenwŷno gan anwiredd cyfan∣neddol, ac yn gwybod mai llywodraeth y cnawd a dynnai ddinistr i'r yspryd, sydd yn trefnu i ni chwerwaidd bellenigau o gystudd trwy 'r hyn y mae gweddillion pechod yn cael eu puro, a'r enaid yn cael ei iachau yn bureiddiach, y cnawd ei ymddarostwng, a'r yspryd ei sancteiddio: O at∣casrwydd pechod, yr hwn sydd yn peri i Dduw ge∣ryddu ei blant mor drwm, yr rhai oni bai hynny a gâr ef yn anwyl.

2. Y mae Duw yn danfon gorthrymder i selio i ni ein mabwysiad: Canys y neb y mae 'r Arglwydd yn ei garu, y mae ef yn ei gospi: ac nid yw ond mâb ordderch, yr hwn nid yw yn cael ei geryddu. Heb. 12.6, 7, 8. A phrif-nôd diammau yw, lle mae Duw yn gweled pechod, ac heb fflangellu, yno y mae ei gâs, ac nid ei gariad. Am hynny y dy∣wedir, iddo ef gynnwys meibion anwireddus Eli i barhau yn eu pechodau yn ddi-gosp: am y mynnei yr Arglwydd eu lladd hwynt, 1 Sam. 2.25. O'r tu arall nid oes vn arwydd nac argoel hynodach o dadol gariad Duw a'i ofal, na chael cerydd, neu ryw wrthwyneb, cyn fynyched ac y gwnelom ni vn bai pechadurus. Gorthrymder gan hynny ydyw sêl o fabwysiad ac nid arwydd o felldigedigrwydd. Canys yr ŷd pura a nithir yn lanaf, yr aur goreu a goethir yn fynychaf, y grawnwin melysaf a wescir yn dynnaf, a'r Cristion vnionaf a wrthwynebir yn drymmaf.

3. Y mae Duw yn danfon gorthrymder, i ddi∣ddyfnu ein calonnau ni, oddiwrth ormod serch i'r byd hwn, a gwagedd bydol; ac i beri i ni yn fwy difrifol ddymuned a hiraethu am fywyd tragwyddol.

Page 139

Canys megis na buasau plant yr Israel (oni buasai iddynt gael caethiwed a drygfyd yn yr Aipht) fyth mor ewyllysgar i fyned tu a gwlad Canaan: felly oni bai y gwrthwynebion ar gorthrymderau yn y bywyd hwn, ni byddai blant Duw mor ewyllysgar yn dymuno, ac mor galonnog yn hiraethu am deyrnas nef. Canys yr ydym ni yn gweled llawer o Epicuriaid (sef gwyr masweddus a glythion) a fyddent fodlon i ado 'r nefoedd, tan ammod y caent hwy yn oestad feddiannu eu difyrrwch bydol a'u trachwantau cnawdol, ac o ran na ddarfu iddynt archwaethu erioed lawenydd vn gwell, mor ane∣wyllysgar ac anhawdd yw genthynt ymadel ar by∣wyd hwn? Lle mae 'r Apostol (yr hwn a welodd ogoniant y nêf, 2 Cor. 12.) yn dywedyd i ni nad oes mwy cyffelybiaeth rhwng gorfoledd y bywyd tragwyddol, a llywenydd y byd hwn, nac sydd rhwng y dom budraf, a'r bwyd blasusaf. Phil. 3.8. neu rhwng y dommen fryntaf a'r ystafell deccaf. Megis gan hynny y mae 'r fammaeth gariadus yn rhoi wermwod neu fwsdard ar ei mynwes, i beri i'r plen∣tyn yn hytrach gashau y fron: felly y mae Duw yn cymysgu gorthrymder weithiau ynghyd â llawe∣nydd, a hawddfyd y byd hwn, rhag iddynt (fel plant y genedlaeth hon,) anghofio Duw, a syrthio mewn gormod cariad i'r byd presennol anwireddus hwn; ac felly myned yn falch o ran eu cyfoeth, o ran eu geirda yn vchel, o ran eu rhydd-dyd yn afi∣aethus: a gwingo eu sodlau yn erbyn yr Arglwydd pan elent yn freision, Deut. 32.15. Canys os bydd plant Duw yn caru y byd hwn gystal, pan syddo ef (megis llysfam felldigedig) yn gwneuthur cam â ni ac yn ein curo, pa fodd y carem ni y Butain hon pe byddai yn gwenu arnom, ac yn ein gorllyfnu ni, megis y gwna hi a'i chywion bydol? Fel hyn y mae Duw (mal Tad cariadus tra-doeth) yn cymmyscu

Page 340

llawenydd y bywyd hwn i'w blant â chwerwedd gwr∣thwynebion, megis (gan weled nad oes dim gwir a thrigiannol orfoledd yn y cyflwr bydol hwn) y gallont ocheneidio a hiraethu am fywyd tragwyddol; lle mae diogel a gwasdadol dragwyddol orfoledd i'w gael a'i feddiannu. 1 Pet. 5.6.

4. Trwy gystudd a chlefyd, y mae Duw yn rhoddi ei blant, a'r rhadau y mae ef yn eu ganni∣adhau iddynt ar ymarfer. Mae ef yn pureiddio ac yn profi eu ffydd hwynt, megis y mae y Gôf-aur am ei aur yn y pair, i'w wneuthur i ddiscleirio yn loiwach ac yn oleuach: y mae ef yn ein cynhyrfu ni i weddio yn fwy dyfal a difrifol, a phrofiff pa ammynedd a ddyfcasom yn ei yscol ef. Yr vnrhyw brofe igaeth y mae ef yn ei wneuthur o'n ffydd ni, an cariad, a'r holl gwbl o'n rhinweddau cristiano∣gawl: yr rhai heb y profiad hwn, a rydau megis hauarn allan o waith, neu a lygrau fel dyfroedd safedig, yr rhai ydynt naill a'i heb redfa, neu heb eu tywalld o lestr i lestr, archwaeth y rhai a erys, au harogl ni chyfnewid. Jer. 48.11. A phwy ni ddymunai gael ei gyfnewid o gyflwr i gyflwr, trwy wrthwynebion a doluriau i iechydwriaeth, yn hyt∣rach na dal arogl ei anian llygredigol i ddamnedi∣gaeth? Canys megis y mae y Camomil a sethrir yn tyfu yn orau, ac yn bereiddiaf ei arogl: Neu fel y mae y pyscodyn yn felysaf, yr hwn sydd yn byw yn y dwfr halldaf: felly yr eneidiau hynny ydynt werthfawroccaf gan Grist, y rhai a arferir ac a orthrymmir fwyaf a'i groes ef.

5. Y mae Duw yn danfon cystuddiau, i ddangos i'r byd ffyddlondeb cariad a gwasanaeth ei blant ef. Pob rhagrithiwr a wasanaetha Dduw tra byddo ef yn ei lwyddo, ac yn ei fendithio ef, megis yr oedd Satan yn heuru ar gam fod Job yn gwneuthur. Job 1.9, 10. Eithr pwy (ond ei Fab anwyl) a'i car

Page 341

ac a'i gwasanaetha ef mewn adfyd, pan fyddo Duw yn ymddangos megis yn ddigllon ac yn anfodlon wrtho? Ie ac a lyna wrtho ef yn dynn ac yn ddi∣wahanol, pryd y tebygid ei fod ef (a'r guwch er∣winaf a gwarth) yn gwrthod dyn, neu yn ei daflu allan o'i ffafr: ie pryd y byddo ef yn briwo, ac yn llâdd, megis pe bai elyn: ie yno â ddywed gyd â Job; Pe lleddit ti fi o Arglwydd mi a obeithiaf ynot ti, Job 13.15. Caru a gwasanaethu Duw, a gobeithio yn ei drugaredd yn amser ein cerydd a'n trueni, ydyw y nôd gwiraf ar wasanaethydd, a phlentyn di∣ffuant i'r Arglwydd.

6. Cystudd sancteiddiedig sydd gynnorthwy odi∣aethol, i hyfforddi ein gwir droad, ac i'n gyrru ni adref trwy edifeirwch at ein Tâd nefol: yn eu had∣fyd (medd yr Arglwydd) i'm borau geisiant, Hos. 5.15. Beichiau yr Aipht oedd yn peri i Israel weiddi ar Dduw. Cyfyngder oedd yn peri i Dda∣fydd weddio. Clefyd Hezechias a wnaeth iddo ef wylo. A thrueni a wnaeth i'r Mâb afradlon ddych∣welyd ac ymbil a'i Dâd am râs a thrugaredd. Exod. 3.7. Psal. 86.7. Esa. 38. Luc. 15.16. He∣fyd yr ydym ni yn darllain am lawer yn yr Efengyl, a yrrwyd trwy glefydau a gofidiau i ddyfod at Grist, y rhai pe cawsent iechyd a hawddfyd fal eraill a fuasent yn esceuluso, neu fel eraill yn diystyru eu Hiachawdwr, ac ni chyrchasent fyth atto ef, am ei iechyd cadwedigol a'i râd. Canys fel Arch Noah, pa vchaf y testid gan y llifeiriant, nessaf yr oedd ef yn ymgyfodi tu ag at y nefoedd: felly yr enaid sancteiddiedig, pa fwyaf y curir ef â gofid, ne∣gossach y mae yn ymdderchafu tu ag at Dduw. Oh bendigedig ydyw y gofid neu 'r gwrthwyneb hwnnw, yr hwn sydd yn tynnu pechadur o eigion ei galon i ddyfod ar ei liniau at Grist, i gyfaddef ei drueni ei hun, ac i ddeisyfu ei drugaredd anherfynol ef! Oh

Page 342

bendigedig, ie tra-bendigedig fyth a fyddo 'r Crist hwnnw, yr hwn nid yw un amser yn gwrthod y pe∣chadur a ddêl atto ef, er ei fod yn dyfod gwedi i gurfa o gawodydd gofid a thrueni ei yrru!

7. Y mae cystudd yn gweithredu ynom ni dru∣garedd a thosturi tu ag at ein cyd-frodyr, yr rhai sydd mewn ing a thrueni: drwy 'r hyn y dysgwn ni feddwl a chyd ymwrando a'i gofidiau hwynt: ac i resynu eu cyflwr hwynt, megis pe byddem ni yn cyd ddioddef gyd ag hwynt. Heb. 13.3. Ac er mwyn yr achos hon y mynnai Grist ei hun ddioddef, a cha∣el ei demptio ymhob peth fel ninnau, (eithr heb pe∣chod) fel y gallai fod yn Archoffeiriad trugarog, teimladwy o'n gwendid ni. Heb. 4.15. ac 2.18. Canys ni eill neb mor galonnog dosturio wrth drue∣ni arall, a'r hwn a ddioddefodd ei hun yr unrhyw gustudd. Ar hyn y geill pechadur yn ei drueni yn hŷf ddywedyd wrth Grist:

Non ignare mali miseris succurrito Christe.
Nid yw ddiethr i ti g'ledi, O Grist ymwel â thrueni.

8. Y mae Duw yn arfer ein clwyfaur a'n cystudd∣iau ni, megis yn foddion a siamplau i egluro i rai eraill y ffydd a'r rhinweddau a ganniadhâodd efe i ni; ac hefyd i nerthu y rhai ni dderbynniasant gymmaint mesur o ffydd ac a gawsom ni. O ble∣git ni eill fod mwy cyssur i gristion gwan, na gwe∣led yr union ei grefydd ynhrymder dolur ei gorph, yn cael ei ymgynnal trwy ammynedd a chyssur cyn∣nyddiol yn ei enaid. Y madawiad bendigedig a chyssu∣rus y cyfryw ddŷn, a'i harfoga ef yn erbyn ofn Ang∣eu, ac a'i sicerâ, fod gobaith y duwiol yn fwy gwerth∣fawr o lawer nac y geill cig a gwaed ei ddeall, neu lygaid marwol ei weled, yn y dyffryn hwn o drueni.

Page 343

Ac oni buasai weled o honom ni lawer o'r rai a wyddem ni eu bod yn blant i Dduw yn ddiammau, yn dioddef y cyfryw gystuddiau a gofidiau o'n bla∣en ni; gorthrymder y trueni ar gwrthynebion yr y∣dym ni yn fynnych yn eu dioddef, a wnai i ni am∣mau pa vn a wnawn ni a'i bod yn blant i Dduw, a'i nad ydym. Ac i'r defnydd hwn, y mae St Jaco yn dywedyd: Duw a wnaeth Job a'r prophwydi yn siamplau o ddioddef blinder, ac o hir ymaros, Jac. 5.10, 11.

9. Trwy gystuddiau y mae Duw yn ein gwneu∣thur yn debyg i ddelw Crist ei Fab, yr hwn gan ei fod yn flaenor o'n iechydwriaeth ni, a berffeithiwyd trwy ei ddioddefaint. Heb. 2.7.10. Ac am hyn∣ny efe a ddug y groes yn gyntaf mewn cywilydd, cyn iddo ef gael ei goroni mewn gogoniant: ac a archwa∣ethodd y bustl yn gyntaf, cyn iddo ef fwyta y diliau mêl. Math. 27.34. Luc. 24.42. Efe a wat∣worwyd yn gyntaf, dan ei alw Brenin yr Iddewon, gan y milwyr yn neuadd yr Arch-offeiriad, o flaen iddo gael ei gyfarch yn Frenin y gogoniant, gan yr Angelion yn llŷs ei Dâd. Psal. 24.7. A pha mwyaf bywiol y byddo ein Tàd nefol yn can∣fod llûn ei Fâb anianol yn ymddangos ynom ni, mwyaf oll y car ef hyni: Ac wedi ini dros amser ddwyn ei agwedd ef yn ei ddioddefaint, ac ym∣drechu, a gorchfygu; ni a gawn ein coroni gan Grist, ac eistedd gyd â Christ yn ei orseddfaingc ef, ac a gawn dderbyn gan Grist y werthfawr garreg wen, a seren y dydd, i beri i ni lewyrchu yn debyg i Grist yn dragywydd yn ei ogoniant. Rhuf. 8.18. 2 Tim. 4.7, 8. Phil. 3.21. Dadc. 2.17, 18. ac 3.21.

10. Yn olaf, fel y byddo y duwiol yn ymostwng o herwydd eu cyflwr a'u trueni: a chael o Dduw ei ogoneddu am eu gwaredu hwynt oi blinderau a'u cystuddiau, pryd y galwont arno am ei gynnorthwy

Page 344

a'i ymwared. Canys er nad oes vn dyn mor bûr a'r nas caiff yr Arglwydd os craffa ef ar anwire∣ddau, achos gyfion i'w gospi am ei bechod: etto nid yw yr Arglwydd trugarog bob amser ynghy∣studd ei blant yn edrych ar eu pechodau; eithr weithiau y mae ef yn trefnu blinderau a gwrth∣wynebion arnynt er mwyn ei ogoniant ei hunan. fel hyn y dywedodd ein Iachawdwr Crist i'w ddisgy∣blion, na enesid mor dyn yn ddall am bechu hono ef na'i rieni, eithr fel i'r amlygid gweithredoedd Duw ynddo ef. Joan. 9.3. Felly y dywedodd ef iddynt vn agwedd, nad oedd clefyd Lazarus i farwo∣laeth, ond er gogoniant Duw. Joan. 11.4. O An∣rhaethadwy ddawn Duw, yr hwn sydd yn troi y cystuddiau, y rhai ydynt warth a chospedigaeth dyledus i'n pechodau ni, i fod yn sail o'i anrhydedd ai ogoniant!

Y rhai hyn yw 'r buddiol ar bendigedig ddefny∣ddiau er mwyn yr hyn, y mae Duw yn danfon cle∣fyd a chystudd ar ei blant, wrth yr hyn, y mae yn eglur i'w weled, nad yw cystuddiau yn arwy∣ddion nac o gasineb Duw, nac o'n colledigaeth ninnau: Eithr yn hytrach arwyddion oi dadol serch i'w blant, y rhai y mae ef yn eu gau: ac am hynny y cerydda hwynt yn y bywyd hwn, lle ar eu hedi∣feirwch, y mae iddynt obaith o faddeuant; a hynny sydd well iddynt nag oedi eu cospedigaeth i'r bywyd hwnnw, lle nad oes dim gobaith o faddeuant, na diben ar boenedigaeth. Canys am yr achos hon y byddai y Cristianogion yn y brif eglwys yn rhoi mawr ddiolch i Dduw, am eu cystuddio hwynt yn y bywyd hwn. Pan ofidier ac y gorthrymmer ni, rhoddwn dra-mawr ddiolch i'n tyneraf Dâd am nas goddef i'n liygredigaeth ni fyned ymhellach, eitbr ei ddiwygio a ffrewyll au a gwialennodau. Lactant. ll. 5. pen. 23. Felly yr oedd yr Apostolion yn gorfoleddu

Page 345

am eu cyfrîf hwynt yn deilwng i ddwyn ammarch o achos enw 'r Iesu. Act. 5.41. A'r Hebreaid Cri∣stianogawl a gymmerasant yn llawen eu yspeilio am y pethau oedd ganddynt: gan wybod fod iddynt eu hunain olud gwell yn y nefoedd, ac vn parhaus. Heb. 10.34. Ac o herwydd y dibennau sanctaidd hyn, y mae 'r Apostol yn dywedyd, Na welir vn cerydd tros yr amser presennol yn hyfryd, eithr yn anhyfryd: ond gwedi hynny y mae yn rhoi heddy∣chol ffrwyth cyfiawnder ir rhai sy wedi eu profi drw∣yddo ef. Heb. 12.11. Gweddia gan hynny yn ewy∣llyscar galonnog, ar i Dduw fel yr anfonodd ef y clefyd hwn attat ti, fod yn wiw ganddo ddyfod ei hunan i ymweled â thydi yn dy ddolur: gan dy ddyscu di i wneuthur y defnyddiau sanctaidd o hono, er mwyn pa rai i'th cystuddiwyd.

Myfyrdod i vn a elo yn iach o glefyd.

OS darfu i Dduw o'i drugaredd wrando dy weddi∣au, ath adferu di ith iechyd drachefn; ysty∣ria wrthit dy hun.

1. Ddarfod i ti yr awrhon dderbyn gan Dduw megis bywyd arall. Treilia ef gan hynny i an∣rhydedd Duw, mewn newydd-deb buchedd. Gad i'th bechod farw o'th glefyd, eithr bydd di fyw trwy râs i sancteiddrwydd.

2. Na fydd yn fwy diosal, o ran cael o honot dy iechyd, ac nac ymorfoledda ynot dy hun am ddar∣fod i ti ddiangc rhag marwolaeth: Eithr tybia yn hytrach, ddarfod i Dduw (gan weled mor amharod oeddit) o'i drugaredd wrando dy weddi a'th arbed, a rhoi i ti ychydig ysbaid hwy, fel y gellych di well∣hau dy fuchedd, a'th osod dy hun mewn trefn a pharodrwydd gwell, erbyn yr amser y galwo ef

Page 346

arnat ti yn ddi-ymaros allan or byd hwn. Canys er darfod i ti ddiangc rhag hwn, fe allai na ddiengi di rhag y clefyd nessaf.

3. Ystyria pa fath gyfrif ofnadwy a wnaethit ti ger bron gorseddfaingc Crist erbyn hyn o amser, pe buasit ti yn marw or clefyd hwn. Treilia gan hynny yr amfer sydd yn ol, fel y gellych di roi cyfrif mwy cyssurus o'th fywyd pryd y rhaid iddo derfynu yn ddiau.

4. Na osod mo ddydd marwolaeth ymhell oddi∣wrthit: ni wyddost ti er hyn i gyd, agossed ydyw garllaw; a chan i ti gael rhybudd cyn decced bydd gallach. Canys os delir dydi yn amharod yr amser nessaf, fe fydd dy escus yn llai ath farnedigaeth yn fwy.

5. Cofia ddarfod i ti addunedu gwellhâd a new∣ydd-deb buchedd. Ty di addunedaist adduned i Dduw na oeda ei thalu; canys nid oes ganddo flâs ar rai ynfyd, am hynny tal y peth a addunedaist. Pre. 5.4. Yr ysbryd aflan a daflwyd allan; Oh na âd iddo fyned i mewn eilwaith â saith o rai gwaeth nag ef ei hun, gyd a'g efo. Mat. 12.43. Ty di a ocheneidiaist riddfanau tristwch, ti a wylaist dda∣grau edifeirwch: fe ath olchwyd ti yn llyn Bethesda, yr hwn oedd yn llifeirio o bum archoll gwaedlyd, nid o eiddo Angel yn cynhyrfu, eithr o Angel cydry∣choldeb Duw, cythrybliedig gan ddigofaint dyledus i'th pechodau: yr hwn a ddescynnodd i vffern er mwyn rhoddi i ti y nefoedd ac iechydwriaeth cadwe∣digol. Psal. 63.9. Na ddychwel yn awr, gyda 'r ci, at dy chwydion dy hun, neu fal yr hwch newydd olchi, i ymdrobaeddu draehefn ym mudreddi dy hên bechodau, ath aflendid: rhag yn ol i ti gael dy rwystro ath orchfygu eilwaith gan frynti dy be∣chodau, (yr hyn yr awrhon a ddarfu i ti ei ochelyd) i'th ddiwedd di fod yn waeth nath ddechreuad.

Page 347

1 Pet. 2.20, 21. Dwywaith gan hynny, y mae ein Iachawdwr Crist yn rhoi dyfal rybudd i bechadu∣riaid iachauol. Yn gyntaf, i'r dŷn a fuasai yn glâf namyn dwy flynedd deugain: wele ti a wnaeth∣pwyd yn iach, na phecha mwyach, rhag digwy∣ddo i ti beth a fyddo gwaeth. Ioan. 5.14. Yn ail, i'r wraig a ddaliwyd mewn godineb; nid wyf finnau yn dy gondemnio di, dos ac na pbecha mwyach. Ioan. 8.12. Gan ddyscu i ni mor beryglus yw ail gwymp, neu syrthio drachefn ir vnrhyw ormod rhysedd. 1 Pet. 4.4. Gochel gan hynny ar dy lwybrau, a gwe∣ddia am râs, fal y gellych osod dy galon at ddoethi∣neb, tra parhao y rhif bychan o ddyddiau sydd etto yn anorphen. Ac am y trugaredd presennol, ar iechyd a dderbynniaist bydd gysselyb ir gwahau∣glwysus diolchgar, a dyro i Dduw hyn yma, neu 'r cyfryw ddiolchgarwch.

Diolch iw adrodd gan vn a êl yn iach o glefyd.

ORasusol a thrugarog Dâd, yr hwn wyt Ar∣glwydd yr iechyd, a'r clefyd, y bywyd a'r far∣wolaeth; ar hwn wyt yn lladd, ac yn bywhau, yr hwn wyt yn dwyn i wared ir bedd ac yn dwyn i fynu; yr hwn wyt vnig ymddiffynnwr pawb a ymddiriedo ynot: fyfi dy wás tlawd ac anheilwng, yr awrhon (trwy brofiad o'm clefyd poenus) wedi teimlo trymder y trueni dyledus i bechod, a gweled mawr∣edd dy drugaredd yn rhoi maddeuant i bechadu∣riaid: a chan ystyried a pha ryw dadol dosturi y gwrandewaist fyngweddiau, ac yr adferaist fi i'm hicchyd am neith drachefn: ydwyf yma o eigiawn calon ostyngedig yn dychwelyd (gyd ar gwahan∣glwyfus diolchgar) i gydnabod, mai tydi yn vnig ydyw Duw sy iechyd, am cadwedigaeth: ac i roi i

Page 348

ti foliant a gogoniant am fy nerth am ymwared oddiwrth y clefyd ar gofid trwm hwnnw: ac am droi fel hyn fyngalar yn llawenydd, fynglefyd yn iechyd, am marwolaeth yn fywyd. Yr oedd fy mhechodau yn haeddu cospedigaeth, a thydi am ceryddaist, ac ni roddaist ti mo honof fi i fynu i angau: my fi oe∣ddwn yn disgwyl o ddydd hyd nôs, pa bryd y gwneit ben am danaf: Yr oeddwn megis garan neu wennol yn trydar: griddfenais megis clommen pan oedd chwerwder y clefyd im gorthrymmu: fy llygaid a dderchefais ir vchelder attat ti o Arglwydd, a thi am diddanaist: canys ti a deflaist fy holl bechodau or tu ol i'th cefn, ac a waredaist fy enaid o bwll lly∣gredigaeth: a phan oeddwn heb gynnorthwy ynof fy hun, nac mewn vn creadur ar all, (yn dywedyd di∣fawyd fi o weddill fy mhlynyddoedd; ni chanfyddaf ddyn mwyach ymysg trigolion y byd) yno yr adferaist fi i iechyd drachefn, ac a roddaist fywyd i mi: O Arglwydd mi a'th gefais di yn barod im gwaredu.

Ac yr awrhon Arglwydd, yr wyf yn cyfaddef nad allai dalu mor cyfryw fesur o ddiolch am y dawn hwn ac a haeddit ar fy llaw. A chan weled nad allaf fi byth dalu i ti drachefn dy ddaioni â gweithredoedd cymmeradwy, Oh na allwn i gyd â Mair Fagdelen dystiolaethu cariad a diolchgarwch fynghalon ag aml ddagrau! Oh pa beth a allaf fi roi i ti o Arglwydd am yr holl bethau da hyn a roddaist im henaid! Yn sicor megis yn fynghlefyd, pryd nad oedd gennif fi ddim arall i roi i ti, yr offrymais Grist a'i haeddedigaethau i ti, megis yn bridwerth dros fy mhechodáu: felly yr awrhon wedi fy adferu trwy dy râd i'm hiechyd am nerth, ac heb fod gennif ddim gwell iw roddi; wele o Ar∣glwydd yr wyf yn fy offrymmu fy hun i fynu i ti, gan attolygu i ti felly fynghynnorthwyo a'th lân

Page 349

Ypryd, megis y byddo hynny sydd yn ol om he∣nioes wedi ei dreilo yn ollawl yn gosod allan dy fo∣liant a'th ogoniant. O Arglwydd maddau fy yn∣fydrwydd am hanniolchgarwch gynt; am na bum yn fwy gofalus i'th caru di yn ol dy ddaioni, nac i'th wasanaethu di yn ol dy ewyllys, nac i vfyddhau i ti yn ol dy orchymynnion, nac i ddiolch i ti am dy roddion. A chan weled dy fod ti yn gwybod nad allaf o honof fy hun, gymmaint a meddylio vn me∣ddwl da, llai o lawer gwneuthur y peth sydd dda a chymmeradwy yn dy olwg di: cynnorthwya fi a'th râd ac a'th lân Yspryd, fel y gallwyf yn fy hawdd∣fyd dreilio fy iechyd mor grefyddol yn dy wasa∣naeth, megis yr oeddwn yn fynghlefyd yn daer∣llyd i ymbil am dano ar dy ddwylaw di. Ac na âd i mi fyth anghofio, nath drugaredd hyn yn fy rhoi yn fy iechyd drachefn, na'r addunedau a'r addewidion hynny, y rhai a wneuthum â thydi yn fynglefyd. Gyd a'm iechyd newydd, adnewydda ynof fi O Arglwydd yspryd vnion: yr hwn am rhyddhâo i oddiwrth gaethiwed pechod, ac a ffurfio fynghalon yngwasanaeth dy râd. Gweithreda ynof fwy casineb a glanastra i'r holl bechodau, y rhai oeddynt achosion o'th lid ti, ac o'm clefyd innau: A chwanega fy ffydd yng-Ghrist Jesu, yr hwn yw 'r Awdur o'm hiechyd, ac o'm cadwedigaeth. Gad i'th lân Yspryd fy nhywys am cynnal i yn y ffordd y dylwn i rodio: a dysc i mi wadu pob annuwioldeb a chwantau bydol, i fyw yn gy∣fiawn, yn sobr, ac yn dduwiol yn y byd sydd yr awrhon: Fel y gallo eraill wrth gymmeryd siampl oddiwrthif, dybio yn well o'th wirionedd di. A chan nad yw 'r amser (sydd i mi etto i fyw) ond yspaid byrr, ac ychydig rif o ddyddiau, yr rhai ni eill hir barhâu: Dysc i mi o fy Nuw felly gyfrif fy nyddiau fel y dygwyf fynghalon i ddo∣ethineb ysprydol, yr hwn sydd yn

Page 350

arwain i iechydwriaeth. Ac er mwyn hyn gwna fi yn fryttach, ac yn fwy tanbaid yn fy nghrefydd: yn fwy crefyddol yn fynweddi: yn wresoccach yn yr yspryd; yn fwy gofalus i wrando, ac i gael budd oddiwrth bregethiad dy Efengyl: yn fwy ymwa∣redol i'm brodyr tlodion: yn fwy gwiliadwrys ar fy ffyrdd; yn fwy ffyddlon yn fyngalwedîgaeth: ac ym mhob ffordd yn amlhau ym mhob gweithred dda. Bydded i mi yn amser helaethrwydd hyfryd ofni y dydd drwg o gerydd, yn amser iechyd feddwl am glefyd, yn amser clefyd fyngwneuthur fy hun yn barod i farwolaeth: a phan fyddo marwolaeth yn neshau, fy mharatoî fy hun i'r farn. Bydded fy holl fywyd yn ddiolchgarwch cyhoeddus i ti, am dy râd a'th drugaredd. Ac am hynny O Arglwydd, yr wyf yma o wir ddyfnder fynghalon, ynghyd â mil Miliwn o Angelion, y pedwar anifail, ar pedwar henuriaid ar hugain, ar holl greaduriaid yn y nêf ar ddaiar yn cydnabod fod yn deilwng i ti o Dâd, yr hwn sydd yn eistodd ar yr orseddfaingc, ac i'r oen dy Fab, yr hwn sydd yn eistedd ar dy ddeheulaw, ac i'r Yspryd glân, yr hwn sydd yn deilliaw oddiwrth y ddau, Trindod lân o bersonau mewn vndeb syl∣wedd, holl foliant, anrhydedd, go∣goniant, a gallu, o'r pryd hyn, yn dra∣gywydd. Amen.

Myfyrdod i vn a fyddo ym mron marw.

OS bydd dy glefyd di yn debyg i gynnyddu i far∣wolaeth; yno myfyria ar dri pheth: yn gyntaf, mor rasusol y mae Duw yn gwneuthur â thydi; yn ail, oddiwrth ba ddrygau y mae marwolaeth yn dy ryddhau di; yn drydydd, pa ddaioni y mae mar∣woleth yn ei ddwyn i ti.

Page 351

Yn gyntaf, am drugarog ymwelediad Duw â thy∣di.

1. Myfyria nad yw Duw yn arfer or gospedigaeth hon ar dy gorph, er mwyn dim ond o ran meddy∣giniaeth i'th enaid, gan dy dynnu di, yr hwn wyt glaf mewn pechod, i ddyfod trwy edifeirwch at Grist, (dy physygwr) i gael iachau dy enaid. Mat. 9.12.

2. Nad yw y dolur trymmaf, na'r clefyd tostaf, ar a elli di ei ddioddef, ddim i'w gyffelybu i'r gofi∣diau a'r poenau, y rhai a ddarfu i Grist Jesu dy Iachawdwr eu dioddef drosot ti: Pryd yr oedd efe mewn chwys gwaedlyd yn dioddef digllonedd Duw, poenau vffern,, a'r farwolaeth felldigedig, yr hon oedd ddyledus i'th bechodau di. Luc. 22.24. Psal. 88.7. Esay. 53.4. Heb. 5.7. Gal. 3.13. Am hynny fe a eill efe yn gyfiawn arferu geiriau Jeremi: E∣drychwch, a gwelwch, a oes vn cystudd yn debyg i'm cy∣studd i, yr hwn a wnawd i mi, a'r hwn y darfu i'r Ar∣glwydd fyngofidio yn nydd ei ddigofaint tanbaid? Ga∣lar-nad Jer. 1.12. A ddarfu i Fab Duw ddioddef cymmaint er mwyn dy brynu di, ac oni ddioddefi di (ddyn pechadurus) ychydig er mwyn rhyngu bodd iddo ef, yn enwedig pan fyddo hynny er mwyn dy ddaioni di?

3. Pan fô dy glefyd a'th ddolur yn y fan drym∣maf, etto mae 'n llai, ac yn esmwythach, nag y mae dy bechodau di yn ei haeddu. Gd i'th gyd∣wybod dy hun farnu gan hynny, onid wyt ti yn haeddu gwaeth nag yr wyt yn ei ddioddef.

Na rwgnach gan hynny, eithr wedi i ti ystyried dy aml a'th orthrymmion bechodau, diolch i Dduw na chystuddiwyd mo honot ti â phoenedigaethau a fai trymmach o lawer. Meddylia mor ewyllys∣gar y dioddefai y rhai sydd boenedig yn vffern, dy boenau trymmaf di fil o flynyddoedd, dan ammod y

Page 352

caent obaith o fod yn gadwedig, ac (yn ol hynny o flynyddoedd) gael esmwythder o'i pennydiau tra∣gwyddol. A chan weled mai trugaredd yr Ar∣glwydd yw na ddarfu am danat ti. Galarnad. 3.2. pa fodd y gelli di na ddioddefych yn amyneddgar ei gerydd amserol ef, gan weled mai y diben yw dy waredu di oddiwrth ddamnedigaeth dragwyddol. 1 Cor. 11.32.

4. Nad oes dim yn digwyddo nac yn damwain yn y cyflwr hwn i ti, ond y cyfryw beth ac a ddi∣gwyddodd i eraill o'th frodyr di yn gyffredinol, y rhai gan eu bod yn ddi-amheus garedig weision i Dduw pan oeddynt yn byw ar y ddaiar, ydynt yn awr yn ogoneddus fendigedig Seinctiau gyd â Christ yn y nefoedd: mal Iob, Dafydd, Lazarus, &c. 1 Pet. 5.9. Yr oeddynt hwy yn griddfan dros am∣ser dan yr vnrhyw fath faich, ond y maent hwy yr awrhon wedi cael eu gwaredu oddiwrth eu holl ofidiau, eu trueni, a'i cyfyngderau. Ac felly vn agwedd cyn bo hir (os arhosi di yn amyneddgar am amser hamddenol yr Arglwydd) y cai dithau he∣fyd dy waredu oddiwrth dy glefyd a'th boen: naill ai trwy adferiad i'th gynefin iechyd gyd â Iob, neu (yr hyn sydd well o lawer) trwy gael dy dderbyn i'r orphwysfa nefol gyd â Lazarus.

5. Yn olaf, Na roes Duw mo honot ti i fynu i ddwylaw dy elyn, i'th cospi a'th wradwyddo; eithr gan fod yn Dad caredig, y mae efe yn dy gospi di a'i law drugarog ei hun. Pan gafas Dafydd ei ddymunaid, i ddewis ei gosp ei hun, efe a ddewisodd gael ei gosbi gan law Dduw, yn hytrach na thrwy vnrhyw fodd arall: Bid i mi syrthio yn awr yn llaw yr Arglwydd, Canys aml yw ei drugareddau ef, ac na chwympwyf yn llaw dyn. 2 Sam. 24.14. Pwy ni chymmer bob cystudd mewn ffordd dda, pan fytho yn dyfod oddiwrth law Dduw, oddiwrth yr

Page 353

hwn (er nad oes vn gospedigaeth yn hyfryd dros yr amser presennol. Heb. 12.11.) ni wyddom na ddaw dim ond sydd dda? ystyried yr hyn beth a wnaeth i Ddafydd ddioddef melldigedig regiad Shemei trwy sawr ammynedd: 2 Sam. 16.6, 10. a'i geryddu ei hun amser arall am ei annioddefgarwch. Aethum yn fud ac nid agorais fyngenau canys ti a wnaethost hyn. Psal. 39.9. A Job i argyoeddi ymadrodd yn∣fyd ei wraig, lleferaist fel y llefarei vn o'r rhai yn∣fydion: a dderbynniwn ni gan Dduw yr hyn sydd dda, ac oni dderbyniwn yr hyn sydd ddrwg? Job 2.10. Ac er bod phiol digofaint Duw dyledus i'n pechodau ni, yn beth arswydus i anian ddynol ein Iechawdwr, fel y gweddiodd efe yn ddifrifol, ar iddi fyned heibio oddiwrtho. Mat. 26.36. Etto pan ystyriodd efe ei fod wedi ei estyn iddo trwy law ac ewyllys ei Dâd, efe a ymostyngodd ei hun yn ewyllyscar i yfed y gwaelodion o honi. adn. 42. Nid oes dim well i'th cryfhau di, ac i'th nerthu yn dy glefyd, na gweled ei fod yn dyfod oddiwrth law Dduw dy Dâd nefol: yr hwn ni ddanfonai mo honaw byth oni bai ei fod efe yn ei weled yn fuddiol ac yn angenrheidiol i ti.

Yr ail fâth ar fyfyrdodau ydyw, ystyried oddiwrth ba ryw ddrygau y mae marwolaeth yn dy rydd∣hau dî.

Y Mae yn dy ryddhau di oddiwrth gorph llygre∣dig, yr hwn a ynnillwyd yngwynder y cnawd, ym mhoethineb chwant, affendid pechod, ac a aned mewn gwaed budreddi: carchar bywiol i'th enaid, offer fywiol i bechod, sachlen o dom drewllyd: ammhuredd ffroenau yr hwn, ei glustiau, ei ymgo∣rau, a'i fannau eraill (wedi eu iawn hystyried) a ymddengys yn fryntach ac yn ffieiddiach na'r pwll

Page 354

budraf, neu y gaudŷ aflanaf. Yn gymmaint a bod prennau a phlanigion yn dwyn dail, blodau, a ffrwythau, a phêr aroglau; a chorph dyn heb ddwyn dim ond llau, pryfed, pydredd, a sawyr drew∣llyd. Ei serch sydd lygredig hollhawl, a holl fwriad meddylfryd ei galon sydd yn vnic yn ddrygionus bob amser. Gen. 6.5. O hyn y digwydd na chaiff yr annuwiol fyth ei ddigoni ag annuwioldeb, na'r afiaethus â thrythyllwch, na'r balch â mawredd, na'r dichlyn â rhodres, nar maleisys â dial, nar puttei∣niwr ag aflendid, nar cybydd ag elw, nar meddwyn ag yfed. Arferau a gwyniau newyddion ydynt beunydd yn cynnyddu: ofnau newyddion a gofidiau ydynt yn cyfodi beunydd. Yma y mae digofaint yn gorwedd mewn cynllwyn; accw y mae gwag-ogo∣niant yn ddrwg wrthynt: yma y mae balchder yn cyfodi, accw y mae gwradwydd yn bwrw i lawr; a phob vn yn gwilio pa vn a gaiff ymgodi wrth gwymp y llall. Yn awr y brethir dyn yn ddirgel gan hystingwyr ac enllibwyr, fel seirph tanllyd: yn y man y mae ef mewn perigl o gael ei ddifa yn yr amlwg gan ei elynion, o fath llewod Daniel. A dyn duwiol ym mha le bynnac y byddo fyw a gaiff ei or∣thrymmu yn oestad, mal Lot gan aflendid Sodom.

2. Y mae marwolaeth yn dwyn i'r duwiol ddiben ar bechu, ac ar yr holl drueni dyledus i bechod: Rhuf. 6.7. megis yn ôl marwolaeth, na byddo na thristwch, na llefain, na dim poen mwy: canys fe a sych Duw y dagrau oddiwrth ein llygaid. Datc. 21.4. Ie trwy farwolaeth yr ydym ni yn cael ein neillduo oddiwrth gymdeithas gweithredwyr anwiredd. Ac y mae Duw yn dwyn ymmaith y gwyr cyfion trugarog oddiwrth y drwg sydd i ddyfod. Esa. 57.1. Felly y gwnaeth efe â Iosiah, wele mi a'th gymmeraf di at dy dadau; a thi a ddygir ymaith i'th fedd mewn he∣ddwch, fel na welo dy lygaid yr holl ddrwg yr ydwyf

Page 355

fi yn ei ddwyn i'r fann hon. 2 Bre. 22.20. A Duw a'i cuddia hwynt megis ennyd bach yn y bêdd, hyd onid elo y llid heibio. Esa. 26.20. Felly fel y mae paradwys yn borthladd o lawenydd i'r eneidiau: felly y galwn y bédd yn borthladd ô orphywysfa i'r cyrph.

3. Lle y mae y corph anwireddus hwn yn byw mewn byd o anwiredd, fel na eill yr enaid truan edrych allan i'r llygaid, heb gael ei glwyfo, na gw∣rando trwy 'r glust heb gael ei anhymmeru, nac aroglu trwy 'r ffroenau heb gael drygsawr: nac arch∣waethu â'r tafod, heb gael ei hudo: na theim∣law â'r llaw, heb ymhalogi: a phob synwyr ymhob profedigaeth sydd yn barod i fradychu yr enaid: eithr trwy farwolaeth, y caiff yr enaid ei ryddhau, a'i waredu o'r caethiwed hwn, a'r corph llygradwy hwn a wisc anllygredigaeth, ar marwol hwn anfar∣wolaeth. 1 Cor. 15.53. Oh bendigedig, triphlyg tra-bendigedig a fyddo y farwolaeth honno yn yr Arglwydd, yr hon sydd yn ein gwaredu ni allan o'r fâth fŷd drygionus, ac sydd yn ein rhyddhau ni oddiwrth y fath gorph o gaethiwed a llygredigaeth daiarol.

Y trydydd math ar fyfyrdod yw, ystyried pa ddaioni y mae marwolaeth yn ei ddwyn i ti.

1. Y Mae marwolaeth yn dwyn enaid y duwiol i feddiannu digyfrwng gymmun a'r bendigedig Drindod, mewn hyfrydwch a gogoniant tragwy∣ddol.

2. Y mae yn troi yr enaid o drueni y byd hwn, ymglwyf pechod, ac o gymdeithas pechaduriad, i ddinas y Duw byw, i Ierusalem nefol, ac at fyrddiwn o Angelion, i gymanfa a chynulleidfa y rhai cyntaf∣anedig, y rhai a scrifennwyd yn y nefoedd, ac at

Page 356

Dduw barnwr pawb, ac at ysprydoedd y cyfiawn y rhai a berffeithiwyd, ac at Iesu, cyfryngwr y Testa∣ment newydd. Heb. 12.22, 23, 24.

3. Y mae marwolaeth yn gosod yr enaid mewn cyflawn bresennol feddiant o'r holl etifeddiaeth ar dedwyddwch, yr hyn a addawodd Crist i ti yn ei air, neu a brynodd efe i ti trwy ei waed.

Hyn yw 'r daioni ar dedwyddwch, i'r hyn y mae marwolaeth fendigedig yn dy ddwyn di, a pha wir dduwiol Gristion, ar y sydd yn ieuangc ni ddymu∣nai ei hun yn hên, fel y gallai ei amser gosodedig nshu, i fyned i mewn i baradwys nefol? Lle y gelli di gyfnewid dy efydd am aur; dy wagedd am happusrwydd; dy waelder am anrhydedd; dy gaethi∣wed am rydd-did; byrr feddiant am etifeddiaeth dragwyddol; dy gyflwr marwol am anfarwol sywyd. Yr hwn nid yw beunydd yn dymuno y dedwyddwch hyn o flaen pob peth, o'r holl rhai eraill y mae efe yn annheilyngaf iw feddiannu.

Os darfu i Cato vticensis, a Chleombrotus, dau ŵr genhedlig (wrth ddarllain llyfr Plato am an∣farwoldeb yr enaid) yn ewyllysgar, y naill dorri ei wddf, a'r llall redeg ar flaen ei gleddyf, fel y gallent (yn ol eu tybygoliaeth hwynt) gael meddi∣annu y gorfoledd hwnnw. Pa gywilydd yw i Grist∣ianogion (y rhai sydd yn gwybod y pethau hynny mewn mesur mwy odiaethol, a modd cyflawnach allan o lyfr Duw ei hun) na byddent ewyllysgar i syned ir gorfoledd nefol hwnnw? Yn enwedig pan fo eu Harglwydd yn galw am danynt yno. Os bydd gan hynny ynot ti ddim cariad i Dduw, na dymu∣niad o gael dedwyddwch, neu iechydwriaeth i't dy hun; Pan fyddo amser dy ymadawiad yn nessâu, yr amser hynny meddaf, ar modd ar farwolaeth yr hen a ddarfu i Dduw yn ei gyngor digyfne∣widiol ei raglunio, a'i ragddarparu i ti, er cyn dy

Page 357

eni; dyro a thraddoda i fynu dy enaid yn ewyllys∣car ac yn llawen i law drugarog Jesu Grist dy Jachawdwr. Ac er mwyn y diben hyn, pan fyddo yr amser yn dyfod, mal i'r ymdderchafodd yr Angel yngolwg Manoah a'i wraig oddiwrth yr allor i fynu ir nefoedd yn fflam yr aberth; felly ymegnia dithau fel y gallo dy enaid yngwydd dy gyfneseifi∣aid ymdderchafu oddiar allor calon ddrylliedig yn y bêr arogldarth hon, neu yn y cyfryw aberth yspry∣dol o weddi.

Gweddi i ddyn claf, wedi dywedyd iddo nad yw efe ddyn i'r byd hwn, ond bod yn rhaid iddo ei baratoi ei hun i fyned at Dduw.

O Dâd nefol, yr hwn wyt Dduw ysprydion pob cnawd, yr hwn a wnaethost yr eneidiau hyn i ni, ac a ragluniaist i ni yr amser, megis i ddyfod i'r byd hwn, felly gwedi gorphen ein gyrfa i fyned allan o honaw. Rhif y dyddiau a osodaist i mi ydynt yr awrhon yn darfod, mi a ddaethym i'r ter∣fyn eithaf a osodaist di i mi, tu hwnt i'r hwn ni allaf fi fyned. Mi a wn O Arglwydd, os a'i di i'r farn nad byw vn cnawd cyfiawn yn dy olwg di. A my fi (O Arglwydd) or holl rai eraill a ymddengys yn fwyaf am-mhur ac anghyfiawn; Canys nid ym∣leddais i mor ymladdiad da, er mwyn ymddiffyn dy ffydd a'th grefydd, mor frŵd a disigl ac y dylaswn: ond rhag ofn anfodloni y byd, mi a roddais ffordd i be∣chodau a beiau; ac er mwyn rhyn∣gu bodd i'm cnawd, mi a dorrais dy holl orchymynnion, mewn me∣ddwl, gair, a gweithred: Fel

Page 358

y mae fy mhechodau yn dal y fath afael ynof, nad wyf yn meiddiaw mor edrych i fynu: ac y maent yn fwy o rifedi, nac yw gwalld fy mhen. Os ty di O Arglwydd a greffi ar fy anwireddau, pa le y safaf. Os ty di am pwysi i yn y clorian fe am cair i yn rhŷ yscafn. Canys yr wyf yn wâg o holl gyfiawnder i haeddu dy drugaredd: Ac yn llwythog o bob an∣wiredd, a gyfion haeddai dy ddigofaint trymddwys. Ond o fy Arglwydd a'm Duw, er mwyn Jesu Grist dy Fâb, yn yr hwn yn vnig i'th fodlonir ag oll edi∣feiriol bechaduriaid credadwy: cymmer dosturi a thrugaredd arnaf, yr hwn wyf bennaf pechadur. Bwrw fy holl bechodau i allan o'th gof, a golch ymmaith fy holl anwireddau allan o'th olwg di â gwerthfawroccaf waed dy Fâb, yr hwn yr wyf yn ei gredu iddo ei dywallt (mal Oen difrycheulyd) i anhau fy mhechodau. Yn y ffydd hon y bum fyw, yn y ffydd hon y byddaf farw: gan gredu i Jesu Grist farw dros fy mhechodau, a chyfodi drachefn er mwyn fynghyfiawnhad. A chan weled iddo ef ddioddef y farwolaeth, a dwyn pwys y gospedi∣gaeth, yr hon oedd ddyledus i'm pechodau i; O Dâd, er mwyn ei farwolaeth a'i ddioddefaint ef, yn awr (a myfi yn dyfod i ymddangos ger bron dy or∣seddfaingc di) rhyddhâ a gwared fi oddiwrth y farnedigaeth ofnadwy, yr hon y mae fy mhechodau yn ei gyfiawn haeddu. A chy∣flawna â myfi y rasusol a'r gyssu∣rus addewid, yr hon a wnaethost yn dy Efengyl: sef pwy bynnac a gredo ynot ti a gaiff fywyd tragwy∣ddol, ac ni ddaw i farn, eithr efe a aiff trwodd o farwolaeth i fywyd. Cryfha O Grist fy ffydd, fel y ga∣llwyf osod oll hyder om iechy∣dwriaeth

Page 359

yn haeddedigaethau dy vfydd-dod, a'th waed. Chwanega O Yspryd glân, fy nioddefgarwch; Na osod fwy arnaf fi nag a allwyf ei ddwyn, a gwna fi i allael dwyn cymmaint ac a ryngo bodd i'th fen∣digedig ewyllys di. O fendigedig Drindod yn vn∣dod, Creawdwr, Iachawdwr, a Sancteiddiwr, canni∣adhâ fel y byddo fy nŷn oddiallan yn diflannu, felly fod o'm dyn oddifewn fwyfwy trwy dy râd a'th ddi∣ddanwch yn cryfhau ac yn cynnyddu. O Iachaw∣dwr, dod fy enaid i mewn parodrwydd i fod (megis morwyn gall wedi cael y wisc briodas o'th gyfiawnder a'th sancteiddwydd) yn barod i'th gyfarfod di, ag olew yn ei lusern. Prioda di ef â thydi dy hun, fel y gallo ef fod yn vn â thydi mewn tragwyddol gariad, a chymdeithas. O Arglwydd argyoedda Satan ac ymlid ef ymmaith: gwared fy enaid oddiwrth allu y ci; cadw fi rhagsafn y llew. Yr wyf yn diolch i ti o Arglwydd am dy holl fendithion ysprydol a bydol a ganniadheuaist ti i mi. yn enwedig am fy mhry∣nedigaeth trwy farwolaeth fy Iachawdwr Crist. Yr wyf yn diolch i ti am ddarfod i't fy ymddiffyn a'th Angelion Sanctaidd o'm ieuengtid hyd yr awr hon. Arglwydd yr wyf yn attolwg i ti, dod orchymmyn iddynt i wilio arnaf nes i ti alw am fy enaid: ag yno ei ddwyn (fel y gwnaethant ag enaid Lazarus) i'th deyrnas nefol. Ac fel y byddo amser fy ymada∣wiad yn pwyso nes-nes attaf: felly canniattâ o Dduw i'm henaid dynnu nesnes atrat ti: Ac fel y gallwyf yn llawen orchymmyn fy enaid i'th ddwylaw, megis i ddwy∣law Tàd anwyl, ac Iachawdwr tru∣garog: a'r pryd hwnnw, O Ar∣glwydd grasusol derbyn fy yspryd. fel y gallwyf wneuthur hyn oll, cynnorrhwya fi a'th râd: a gád i'th Yspryd glân fod gyd â myfi

Page 360

hyd y diwedd; ac yn y diwedd, er mwyn Jesu Grist dy Fab, fy Arglwydd am unig Iachawdwr. Yn enw yr hwn, yr wyf yn rhoi i ti dy ogoniant, ac yn erfyn yr holl bethau hyn ar dy law, yn y weddi yr hon a ddyscodd Crist ei hun i mi gan ddywedyd:

Ein Tâd yr hwn wyt yn yn nefoedd, &c.

Myfyrdod yn erbyn anobaith, neu ammau tru∣garedd Duw.

YR ydis yn gweled trwy oestadol brawf, pan fo plant Duw yn wannaf, yn agos i amser eu marwolaeth, mai yno y dengys Satan ei nerth fwy∣af, ac a esyd arnynt ei brofedigaethau cryfaf: Canys efe a ŵyr mai 'r awrhon y mae iddo gael y fuddygoliaeth neu ni chaiff ef fyth. O blegit os eu heneidiau a ânt i'r nefoedd, ni cheiff efe moi gorth∣rymmu nai blino hwynt byth ond hynny. Ac am hynny efe a gymmer gymmaint ac a allo o boen, ac a ddengys o flaen eu golygon hwynt yr holl faw∣rion bechodau a wnaethant, a barnedigaethau Duw dyledus am danynt, felly iw gyrru hwynt (os efe a eill) i annobeithio: yr hwn sydd bechod gor∣thrymmach na 'r holl bechodau a wnaethent, neu ar a allai efe eu cyhuddo hwy o honynt.

Os bydd Satan gan hynny yn cythryblu dy gydwy∣bod yn fwy tu ag at dy farwolaeth, nag yn amser dy fywyd.

1. Cyfaddef dy bechodau i Dduw: nid yn unig yn gyffredinol eithr hefyd yn neillduol.

2. Gwna jawn a thál i'r gwyr hynny y rhai y gw∣naethost ti gamwedd â hwynt, os byddi yn gallael. Ac os wyt ti yn draws neu yn dwyllodrus yn dal, neu yn cadw yn dy feddiant, na thiroedd, na da, y rhai sydd o gyfiawnder yn perthynu i un wraig

Page 361

weddw, neu i blentyn ymddifad, na ryfyga fel yr wyt yn disgwyl am iechydwriaeth dy enaid, edrych yn wyneb Crist y barnwr cyfiawn; nes i ti eu rhoi yn ôl i'r cywir berchennogion drachefn. Canys y mae cyfraith Dduw dan boen ei felldith yn dy or∣chymmyn di, i roddi yn ei ôl pa beth bynnac a rodded attat ti iw gadw, neu yr hyn y rhoddaist di dy law am dano, neu yr hyn trwy ledrad a thra∣wsder a ddygaist di, ac yr wyt yn ei gam attal oddiar dy gymydog, tâl hynny erbyn ei ben, a chwanega ei bumed ran atto, Lev. 5.6, 7, 8. Ac oni roddi di yn ôl mal Zacheus y cyfryw dda a thiroedd, ni elli di fyth wir edifarhau, ac heb wir edifeirwch ni elli di fyth fod yn gadwedig. Luc. 13. ac 19.8. Eithr er trwy brofedigaeth y cythraul i ti wneuthur trais a chamwedd, etto os wyt ti yn gwir edifarhau, ac i'th allu yn rhoddi yn ôl, y mae 'r Arglwydd gwedi addo bod yn drugarog wrthyt ti, a gwrando ar weddiau ei wenidogion ffyddlon drosot ti, i faddau i ti dy ddyledion ath pechod, ac i dderbyn dy enaid yn haeddedigaethau gwaed Crist, megys oen di fry∣cheulyd. Gen. 20.7. Jag. 5.

3. Gofyn i Dduw nawdd a maddeuant er mwyn Crist. Ac yno nid yw y blinderau hyn o'r meddwl ddim anghalondid, eithr cyssur: profiadau, ac nid yn gospedigaethau. Y maent yn hysbysrwydd i ti dy fod ar yr union ffordd: Canys y ffordd i'r nefoedd sydd heibio i byrth uffern: hynny yw trwy ddiodef poenau yn dy gorph ar cyfryw amheuon yn dy feddylfryd. Megis trwy fod dy gyflwr di yn y bywyd hwn bob modd yn chwerw, y gallech di archwaethu llawenydd bywyd tragwyddol yn fel∣ysach.

Os bydd Satan y dywedyd i ti nad oes gennit ti ddim ffydd, am nad oes mo honot yn ei theimlaw, my∣fyria.

Page 362

1. Fod y ffydd unionaf yn fynych â'r teimlad llei∣af, a'r ammheuon mw yaf: eithr cyhyd ac y bŷch yn cashau y cyfryw amheuon, ni roddir mo honynt yn dy faich: Canys y maent yn perthynu i'r enawd, oddiwrth yr hwn y darfu dy yscar. Pan ddi∣flanno dy gnawd, dy ddyn gwan oddifewn yr hwn sydd yn eu cashau hwynt, ac yn caru yr Arglwydd Iesu, a fydd cadwedig. Marc. 9.24. Math. 14.31.

2. Ai bod yn well ffydd gredu heb deimlad na thrwyddo. Y ffydd leiaf sef cymmaint a gronyn o hâd mwstard, neu gymmaint ac sydd mewn plentyn newydd fedyddio, sydd ddigon i gadw'r enaid a garo Grist, ac a gredo ynddo ef. Job. 13.15. Math. 17.30.

3. Fod plentyn Duw yr hwn sydd yn dymuno teimlaw diogel hysbysrwydd o ffafr Duw, yn cael ei ddymuniad, pan welo Duw fod hynny yn ddai∣oni iddo: canys efe a addawodd Duw roi dwfr y bywyd i'r sawl a sychedant am dano. Dad. 21.6. Esay. 55.1. Y mae i ni siampl o vn Mr Glover Merthyr sanctaidd, yr hwn ni allai gael dim teimlad cyssurus o'i ffydd, nes ei ddyfod yngolwg y pôst iw losci, ac yno fe gurodd ei ddwylaw ynghyd o wir lawenydd gan ddywedyd wrth ei gyfeillion: O Awstin, efe a ddaeth, efe a ddaeth, gan feddwl llawenydd teimladwy ffydd a'r Yspryd glân. Disgwyl gan hynny wrth yr Arglwydd, ymwrola, ac efe a nertha dy galon. Psa. 27.14.

Os Satan a fanwl ddengys i ti faintioli, lliaws, a gorthrymder dy bechodau, myfyria.

1. Fod ar wir edifeirwch mor hawdd gan Dduw faddeu y pechodau mwyaf, a'r rhai lleiaf, a'i fod efe mor ewyllyscar i faddeu llawer, ac i bard ynu vn. A'i drugaredd ef a ddiscleiria fwy wrth faddeu i bechaduriaid mawr, nag wrth faddeu

Page 363

i droseddwyr bychain: fel y mae yn eglur yn siam∣plau Manasses, Magdelen, Petr, Paul, &c. Ac lle yr amlhâwyd pechod yno yr ymhyfryda ei râs ef i amlhau yn fwy o lawer. Rhuf. 5.20.

2. Na wrthododd Duw vn dyn erioed, nes i ddyn wrthod Duw yn gyntaf: megis y mae yn eglur yn siamplau, Cain, Saul, Achitophel, Aha∣ziah, Iudas, &c.

3. Fod Duw yn galw pawb, ie y pechaduriaid y rhai ydynt drwm lwythog o bechod. Mat. 11.28. Ac nad yw efe yn naccâu moi drugaredd i vn pechadur ar a ofynno ei drugaredd ef â chalon edifeiriol. Hyn y mae histori yr Efengyl yn ei dystiolaethu: se ddaeth at Grist bob math ar bechaduriaid clwyfus, dall, cloff, cloff-efrydd, gwahan-glwyfus, a chyfryw ac oeddynt yn glaf o'r parlas, diferlif gwaed, a'r cyfryw ac oeddynt loerig, neu gwedi eu meddiannu ag ysprydion aflan, neu gythreuliaid: etto or rhain eu gyd, nid aeth vn ar a ofynnodd ei drugaredd a'i gynnorthwy, ymaith heb gael ei neges. Os truga∣redd a ofynnai, trugared a gai, er maint a fyddai ei bechod, er trymmed a fyddai ei ddolur. A hefyd efe a gynnygiodd, ac a roddes ei drugaredd i lawer or rhai ni ofynnasant mono erioed (gwedi ei gynhyrfu yn vnig gan ymyscaroedd ei dosturi wrth weled eu trueni hwynt) mal i'r wraig o Samaria, i'r wraig weddw o Naim, ac i'r claf oedd yn gor∣wedd wrth lynn Bethesda, yr hwn a fuasai namyn dwy flynedd deugain yn glaf. Joan. 4. ac 5.5.6, 7. Luc. 7.13. Os darfu iddo ef yn ewyllyscar fel hyn roddi ei drugaredd iddynt hwy, y rhai nid oeddynt yn gofyn, ac os caed ef (fel y dywaid y prophwyd) gan y rhai nis ceisiasant mo hono ef, a rydd efe nâg o'i drugaredd i ti, yr hwn wyt mor daer yn ymbil am dano trwy ddagrau? ac wyt mal y pub∣lican truan yn curo mor ddifrifol a dyrnau ysig, ar

Page 364

galon ddrylliedig edifeiriol. Yn enwedig pan we∣ddiech di at dy Dâd yn enw ac yngyfryngdod Iesu, er mwyn yr hwn y mae ef yn addaw canniattau pa beth bynnac a ofynnom ni iddo ef: Ioan. 14.14. Cyn wiried a bod Duw yn eir-wir ni rydd efe nâg i ti. Er i bechodau y Ninifeaid ennyn llid yr Argl∣wydd i roi y farn yn eu herbyn, etto ar eu hedifeir∣wch hwy, efe a'i galwodd hi yn ol drachefn, ac a arbedodd y ddinas: pa faint mwy os ty di a edi∣farhei, vn agwedd i'r arbeda efe ty di, gan weled nad yw ei farn ef etto wedi ei hadrodd yn dy erbyn? Os oedodd efe y farn oll ddyddiau Ahab, yn vnig er mwyn y llûn, neu 'r ymddanghosiad oddiallan a wnaethai efe o ostyngeiddrwydd, pa faint mwy y try efe yn lân heibio ei ddial, os ty di yn ddiffuant a edifarhei o'th bechod, a dychwelyd atto ef am râs a thrugaredd?

Efe a gynnygiodd ei drugaredd i Cain (yr hwn a laddasai ei frawd gwirion) Os gwnei yn dda oni chai di oruchaflaeth? Gen. 4.7. Fel pe buasai efe yn dy∣wedyd, os gadewi di dy lid a'th genfigen, ac aberthu i mi o galon ffyddlon edifeiriol, ty di a'th aberth a fydd cymmeradwy gennyf. Ac i Iudas (yr hwn ai bradychodd ef mor dwyllodrus) gan ei alw ef yn gyfaill, enw cariadol; Mat. 26.50. A phan gynny∣giodd Iudas, efe yn ewyllscar a fodlonodd â'r genau (yn yr hwn ni buasai dwyll erioed,) i gusanu y gwefysau gwenhieithus, dan y rhai yr oedd gwen∣wyn aspiaid yn godechu. 1 Pet. 2.22. Psal. 140.3. Pa buasai Judas yn dirnad y gair hwn cyfaill allan o enau Crist, megis y gwnaeth gwyr Benhadad y gair Brawd o enau Achab, diammau y buasai Iudas yn cael Duw Israel yn fwy trugarog, nag y cafas Benhadad Frenin Israel. 1 Bren. 20.31, 32, 33. Ond yr oedd Duw yn anfodlonach wrth Cain am anobeithio o'i drugaredd, nac am ladd ei frawd;

Page 365

ac wrth Iudas am ei grogi ei hun, nac am fradychu ei Arglwydd. Yn gymmaint ac y mynnent hwy wneuthur pechodau dynion marwol, yn fwy nag anfeidrol ac anherfynol drugaredd y tragwyddol Dduw: neu fel pe gallasent hwy fod yn llawnach o bechodau, nag oedd Duw o drugaredd. Lle y mae y defnyn lleiaf o waed Crist, a mwy haeddedigaeth ynddo, i ynnill trugaredd Dduw er mwyn dy iech∣ydwriaeth di, nag a eill yr holl bechodau (a'r a wnaethost) fod o nerth i cnnyn ei ddigofaint, i'th fwrw i ddamnedigaeth.

Os bydd Satan yn sisial, fod hyn yn wir am dru∣garedd Dduw, eithr nad oes mo hynny yn per∣thyn i ti, am fod dy bechodau di yn fwy na phecho∣dau dynion eraill, megis yn bechodau o wybodaeth, ac yn parhau er ystalm o flynyddoedd, a'r cyfryw ac y darfu am rai eraill ou plegit: a chwbl oll (gan mwyaf) wedi eu gwneuthur o'th wirfodd, ac yn rhy∣fygus yn erbyn Duw a'th cydwybod. Ac am hynny er iddo ef fod yn drugarog wrth rhai eraill, etto ni fydd ef drugarog wrthit ti; myfyria:

1. Fod llawer (o'r rhai ydynt yr awrhon yn ogoneddus ac yn fendigedig Seinctiau yn y nefoedd) wedi gwneuthur yn yr vn ffunyd (pan oeddynt yn byw ar y ddaiar) gymmaint pechodau a mwy nac a wnaethost di erioed, ac a barhausant (cyn iddynt edifarhau) yn y pechodau hynny cyhyd yn helaeth ac y gwnaethost dithau. Megis gan hynny na allai eu holl bechodau hwy, a'r hir aros ynddynt, luddies i drugaredd Dduw, ar eu hedi∣feirwch hwynt, faddau iddynt eu pechodau, a'i derbyn i'w rád drachefn: Ni dichon chwaith dy bechodau dithau a'th barhâd ynddynt, moi rwy∣stro ef i fod yn drugarog wrthit ti, os edifarhei di fel y gwnaethont hwythau: ic ar dy edifeirwch y mae siampl pob vn o honynt hwy, yn argoel y

Page 366

gwnaiff ef yr vn peth i ti ac a wnaeth iddynt hwy∣thau. 1 Tim. 1.16. Canys fel y mae y pechod lleiaf yngyfiawnder Duw heb edifeirwch yn ddigon i wneuthur vn yn golledig; felly y pechod mwyaf ar edifeirwch yn ei drugaredd ef sydd i gael maddeu∣ant. Dy bechodau mwyaf ac hynaf nid ydynt ond pechodau dŷn: eithr y lleiaf o'i drugareddâu ef ydyw trugaredd Duw. Am dy fod di yn adnabod dy bechodau dy hun, yr wyt ti yn ammau na ellir eu maddau hwynt. Gwêl fel y mae Duw ei hunan yn gollwng yn rhydd y cwlwm amheus hwn. Yr oedd llawer yn nyddiau Esay yn tybied (fel yr wyt tithau) iddynt hwy barhau cyhyd mewn pechod, fel yr aethai yn rhyhwyr iddynt hwy geisio dych∣welyd at Dduw am râs a thrugaredd. Eithr y mae Duw yn eu hatteb hwynt: Ceisiwch yr Arglwydd, tra y galler ei gael ef, gelwch arno, tra fyddo yn agos. Esa. 55.6, 7, 8. Fel pe dywedasai efe, tra byddo y bywyd yn parhau, am gair i'w bregethu, yr wyf yn agos i'm cael gan bawb oll a'r am ceisiant, ac a weddîant attaf. Y mae 'r bobl yn ail-atteb: eithr nyni (O Arglwydd) ydym bechaduriaid anafus, ac am hynny ni feiddiwn ni ryfygu galw ar dy enw, neu ddyfod yn agos i'th sancteiddrwydd. Y mae 'r Arglwydd yn atteb i hynny: Gadawed y drygionus ei lwybr, ar dŷn anwireddus ei fyddyliau: a dych∣weled attaf fi, ac myfi a gymmeraf drugaredd arno ef, ac a fyddaf yn Dduw iddo ef, ac my fi a roddaf nawdd iddo ef yn dra-aml. Eithr nyni a dybiem (medd y bobl) pe buasai ein pechodau ni ond pecho∣dau cyffredinol, y gallai yr addewid hon o dru∣garedd berthyn i ni. Ond gan fod ein pechodau cymmaint, ac yn parhau cyhyd, am hynny yr ydym ni yn ofni pan elom ni i ymddangos ger bron Duw y bwrw efe nyni heibio. Y mae DƲW yn atteb i hyn drachefn: Fy meddyliau i (O druga∣redd)

Page 367

nid yw eich meddyliau chwi: nid eich ffyrdd chwi (o faddau) ydyw fyffyrdd i: canys megis y mae 'r nefoedd vwchlaw 'r ddaiar, felly y mae fy ffyrdd i yn vwch na'ch ffyrdd chwi, am meddyliau i yn vwch na'ch meddyliau chwi. Pe bai gan hynny bob pe∣chadur yn y bŷd, yn fŷd o gyfryw bechaduriaid ac ydwyt ti: etto bydded i ti wneuthur y peth y mae Duw yn ei erchi i ti, sef edifarhau a chredu, a gwaed Jesu Grist, gan ei fod yn waed Duw, a'th lanhâ di a'nhwythau oddiwrtn eich holl bechodau. Act. 20.28. 1 Joan. 1.7.

2. Magis y rhagwelodd Duw yr holl bechodau ar a wnai 'r bŷd, ac etto na allai yr holl rai hynny ei rwystro ef rhag caru y bŷd, fel y rhoddes ef ei vnig-anedig Fâb i farwolaeth, i waredu cynifer o'r bŷd ac a gredent ac a edifarhaent. Joan. 3.16. Llai o lawer y geill dy bechodau di (gan eu bod yn be∣chodau yr aelod lleiaf o'r bŷd) fod o nerth i rwystro Duw rhag caru dy enaid, a maddau dy bechodau, os tydi a edifarhei a chredu?

3. Os darfu iddo ef dy garu di cyn gued (pryd yr oeddit ti yn elyn iddo èf) fel y talodd ef drosot ti bris mor werthfawr a thywalltiad gwaed ei galon; pa fodd y gall ef yr awrhon na byddo yn rasusol wrthit, pryd nad rhaid iddo er dy waredu, ond bwrw vn golwg yn rasusol arnat? Nac edrych di gan hynny ar faintiolaeth dy bechodau, ond ar an∣feidroldeb ei drugaredd ef, yr hwn sydd felly yn fwy na mwy, fel pe rhoit ti dy oll orthrymmion be∣chodau ynghyd, a rhoi attynt bechodau Cain a Judas, a rhoi attynt hwythau holl bechodau yr holl rai melldigedigion o'r bŷd: (diammau y by∣ddai yn bentwrr mawr) etto cyffelyba y pentwr mawr hwn, ag anherfynol drugaredd Dduw, ac ni bydd mwy cyffelybiaeth rhyngddynt, na rhwng y twmpath lleiaf o bridd y wadd, a'r mynydd mwyaf

Page 368

yn y wlâd. Ni allai gwaedd y pechodau gorthrym∣maf a'r a ddarfu i ni ddarllain am danynt, gyr∣raedd ddim vwch na'r nefoedd, megis gwaedd pech∣odau Sodome. Gen. 19.13. ond trugaredd Duw (medd Dafydd) sydd oddiar y nefoedd. Psal. 108.4. ac felly vwchlaw ein holl bechodau. Ac os yw ei drugaredd ef yn fwy na'i holl weithredoedd, y mae yn rhaid iddo fod yn fwy nath holl bechodau di. A thra bo ei drugaredd ef yn fwy na phechodau yr holl fyd, edifarhâ, ac nid oes ammau o faddeuant.

Os bydd Satan yn haeru ddarfod i ti yn fynych o amser wneuthur adduned o edifeirwch, a gwneuthur llun o edifeirwch dros amser, ac etto cwympo ir vn∣rhyw bechodau, drachefn a thrachefn, ac nad oedd dy holl edifeirwch ond rhith twyllodrus, a gwatwor Duw, a chan weled ddarfod i ti mor fynych dorri dy adduned, am hynny fe dynnodd Duw ymmaith ei drugaredd, ac a newidiodd ei gariad, &c. myfy∣ria:

1. Pe rhôn a bod o hyn yn wir, (yr hyn mewn gwirionedd sydd anafus) etto nid yw achos gym∣hessur o herwydd yr hon y dylit anobeithio; gan weled mai dyma gyflwr cyffredin holl blant Duw yn y bywyd hwn, y rhai sydd yn addunedu cyn fynyched y gadawant ymmaith ryw bechod, nes iddynt ddeall eu gwendid i gyflawni hynny, yr addunedant i beidio ag addunedu. Y mae eu haddu∣nedau yn dangos deisyfiadau eu dyn ysprydol; eu gwaith yn eu torri sy 'n dangos gwendid eu cnawd llygredig. A'n mynych lithro i'r vnrhyw becho∣dau yr ydoedd Crist yn ei ragweled, pan ddyscodd efe i ni weddio beunydd, O Dâd maddeu i ni ein dyledion. A pha ham y mae Crist yn gorchymmyn i ti, (yr hwn nid wyt ond dyn pechadurus) faddeu i'th frawd saithwaith yn y dydd, os dychwel ef saith∣waith yn y dydd, a dywedyd, Y mae 'n edifar gennif?

Page 369

Luc. 17.34. ond i'th siccrhau di, y maddeu ef (gan ei fod ef yn Dduw 'r drugaredd, ac yn ddaioni ei hun) i ti dy ddengwaith a thrugain saithwaith be∣chodau yn y dydd, y rhai a wnaethost yn ei er∣byn ef, os dychweli di atto ef trwy wir edifeirwch. Math. 18.21, 22. Fe iachauwyd yr Israeliaid wrth edrych (a golygon gweiniaid) ar y Sarph brês, cyn fynyched ac y bratheu y seirph tanllyd hwynt yn yr anialwch. Num. 21.9. I'th siccrhau di mai ar dy ddagrau o ediseirwch, y cai di dy iachau trwy ffydd yn Ghrist, cyn fynycned ac i'th frethir di i farwo∣laeth gan bechod.

2. Fod dy iechydwriaeth gwedi ei seilio nid ar ddi-ysgogrwydd dy vfydd-dod, eithr ar neith disigl cyfammod Duw. Er dy fod di yn anwadalu a Duw, a bod y cyfammod wedi ei dorri o'th du di, etto y mae yn gyfan o'i du ef; ac am hynny y mae pob peth yn ei le, os tydi a ddychweli: Canys nid oes na chyfnewidiad na chyscod o droedigaeth gyd ag ef. Jag. 1.17. Rhuf. 9.11. Efe a glôdd i fynu dy ie∣chydwriaeth, ac a'i gwnacth ef yn ddiogel yn ei ar∣faeth digyfnewidiol ei hun, ac a draddododd i'th cadwraeth di yr agoriadau, yr rhai ydynt ffydd ac edifeirwch: a thra fyddont yn dy eiddo, di a elli dy beswadio dy hun fod dy iechydwriaeth yn sicer ac yn ddiogel: Canys yr hwn y mae Duw yn ei garu, y mae efe yn ei garu ef hyd y diwedd, ac nid edifarha efe byth am fwrw ei serch ar y rhai a edifarhant ac a gredant. Rhuf. 8.39. ac 11.29. Joan. 13.1.

Yn olaf, o bydd Satan yn dwyn ar ddeall i ti dy fod ti yn ammau yn hir o bryd, a bod yn orau i ti yr awrhon anobeithio, gan weled fod dy bechodau yn cynnyddu, a'th farnedigaeth yn tynnu yn agos; myfyria:

1. Na ddylai vn pechod (er maint a fâi) fod yn

Page 370

achos i beri i Gristion anobeithio, tra byddo tru∣garedd Dduw o lawer myrddiwn o raddau yn fwy: a bod pob rhyw bechadur edifeiriol credadwy yn cael maddeuant o'i holl bechodau, wedi ei siccrhau trwy air a llŵf Duw; dau beth di-anwadal, yn y rhai y mae yn amhossibl i Dduw fod yn gelwyddog. Eze. 18.22. Heb. 6.18. Ei air yw, pa bryd bynnac y byddo pechadur, pwy bynnac, yn edifarhau o'i bechod, beth bynnac (canys y pryd, y pechodau, a'r pechaduriaid ydynt annherfynedig) o eigion ei galon, efe a ollwng Duw dros gof yr holl anwiredd ar a wnaeth ef, fel na edliwir mo honynt iddo ef mwyach. Oni chymmerwn ni ei air ef (yr hwn na atto Duw i ni ei ammau) efe a roes ei lwf i ni: fel yr wyf byw, nid wyf yn dymuno mo farwolaeth yr annuwiol, ond troi o'r annuwiol oddiwrth ei ffordd a byw. Eze. 33.21. Fel pe dywedasai, oni choe∣liwch i'm gair? yr wyf yn tyngu myn fy mywyd, nâd wyf yn ymddigrifo yn rhoi vn pechadur yn y bŷd i farwolaeth, am ei bechodau, ond yn hytrach yn chwennych ei waredu ar ei droad a'i edifeir∣wch.

Myfyrio yr hyn beth a barodd i Tertullian le∣fain: O dedwyddol ydym, er mwyn y rhai y mae Duw yn tyngu, nad yw yn ewyllysio ein rhoi i far∣wolaeth. Oh pa fath drueiniaid enbydus ydym ni, oni choeliwn i Dduw pan fyddo ef yn tyngu y gwi∣rionedd hwn i ni. Eurglyw o yspryd trwmbluog, enaid yr hwn a orthryblir gan donneu anobaith anffyddlawn; mor ddedwydd a fyddai weled llawer o'th fath di a Hezechias? (yr rhai a riddfanau megis clomennod gan orthrymder pechod, ac a fyddau yn trydar megis garanod neu wenholiaid rhag ofn digofaint Duw,) yn hytrach na gweled llawer o rai a fyddant marw megis anifeiliaid, heb ddim ysty∣iaeth o'i cyflwr eu hunain, na dim ofn digofaint

Page 371

Duw, neu 'r Orseddfaingc, o flaen yr hon y maent i ymddangos? Siria a chyssura dy di dy hunan o enaid gofidus, canys os oes ar y ddaiar hon yr vn y darfu i Grist dywalld ei waed trosdo ar y groes, tydi yn dra-diogel ydwyt vn. Diddana gan hynny dy di dy hun yn yr oll-ddigonawl aberth o waed yr Oen, yr hwn sydd yn dywedyd pethau gwell na'r ei∣ddo Abel. Heb. 12.14. A gweddia tros y cyfryw, ni chawsont erioed etto râs i ystyried a chashau pe∣chod. Ty di yn wir ydwyt vn tros yr hwn y bu Grist farw; Ac oddiwrth yr hwn y bu i yspryd drylliedig (yn barnu wrth ei deimlad yn hytrach na'i ffydd) wascu allan lef alarus ein Harglwydd Grist: Math. 27.46. sef, Fy Nuw, Fy Nuw, pa ham im gadewaist? Ac na ammau cyn bo hir na chai di deyrnasu cyn siccred gyd a'g ef, ac yr wyt ti yr awrhon yn dioddef gyd ag efo: Canys ie ac Amen a ddywedodd hynny. 2 Tim. 2.11. 2 Cor. 1.20. Dad. 3 14. Nid oes vn pechod yn attal dyn rhag iechydwriaeth, ond yn vnig anobaith, a di∣edifeirwch: Nid oes dim a ddichon wneuthur y pechod yn erbyn yr Yspryd glân yn ddifaddeuant ond eisiau edifeiriwch. Y mae dy ddeisyfiad chw∣annog i edifarhau mor gymmeradwy gan Dduw, ac yw yr edifeirwch perffeithiaf ar a ddymunit ti ei gyflawni iddo.

Myfyria ar y cyssurau Efangylaidd hyn, ac ti a gai weled mai yn y loes drangcedig olaf wrth farw, y cynnorthw ya Duw dydi a'i lân yspryd, megis pan fyddo Satan yn edrych am yr oruwchafiaeth fwyaf, y caiff ef ei orchfygu yn llwyraf. Ie pan fyddo llinynnau dy lygaid gwedi torri, megis na ellych weled mor goleuni, Iesu Grist a ymddengys i ti i gyssuro dy enaid, a'i Angelion sanctaidd a'th ddy∣gant di iw deyrnas nefol. Luc. 16.22. Yno y caiff dy gyfeillion di dy ganfod, megis Angel Manoah,

Page 372

yn gwneuthur gwir ryfeddodau: pan welont ddŷn diffrwyth yn ei wendid mwyaf (trwy gynnorth∣wyad Yspryd Duw) yn gorchfygu cryfder pechod, chwerwder angau, a holl egni a gallu Satan: ac ynnhân ffydd, ac arogldarth gweddi, yn ymdder∣chafu i fynu gyd â'g Angelion, yn orchestol i'r nefoedd.

Addysc i'r rhai a ddelont i ymweled ar claf.

Y Saul a ddelont i ymweled a'r clâf, y mae 'n rhaid iddynt gymmeryd prif ofal na sasant yn fud i lygaid rythu yn wyneb y dyn clwyfus, i'w aflonyddu ef, ac na siaradant yn ofer, i ofyn rhe∣symmau neu ofynnion anfuddiol, fel y gwna lla∣wer.

Os gwelant hwy gan hynny sod y dyn clwyfus yn debyg i farw, mogelant ei dwyllo ef, eithr yn gariadol ac yn weddus, rhybuddiant ef o'i wendid a'i lescrwydd, a pharant iddo ymbarotoi i fywyd tragwyddol. Vn awr wedi ei threilio yn dda, pan fyddo enioes dŷn agos wedi ei threilio allan, a eill ynnill i ddyn ddiogelrwydd o fywyd tragwyddol. Na wenheithia ef ag ofer obaith o'r bywyd hwn, i fradychu ei enaid i farwolaeth dragwyddol. Rhy∣buddia ef yn ddi-ragrith o'i gyflwr, a gofyn iddo ar fyrr, yr rhai hyn, neu'r cyfryw gwestiwnau.

Page 373

Gofynion i holi 'r dŷn claf a fyddo tebyg i farw.

WYt ti yn credu mai 'r hollalluog Dduw, Trindod o bersonau mewn vndod o syl∣wedd, a wnaeth nefoedd a daiar, a chwbl oll ar sydd ynddynt trwy ei allu ei hunan? Ai fod ef yn oesdadol trwy ei dduwiol ragluniaeth yn eu lly∣wodraethu hwynt? Fel nad oes dim yn digwyddo yn y byd, nac i tithau, ond yr hyn a ddarfu i'w nerth goruchel a'i dduwiol ddoethineb ei ragddarparu o'r blaen iw wneuthur?

2. Wyt ti yn cyfaddef, ddarfod i ti droseddu a thorri sanctaidd orchymynnion yr ollalluog Dduw, mewn meddwl, gair, a gweithred? A haeddu o honot am dorri ei gyfreithiau bendigedig, felldith Duw, yr hwn a gynnwys oll drueni y byd hwn, a phoenau tragwyddol yn nhân vssern, pan ddiweddo y bywyd hwn, pe gwnai Dduw â thydi yn ol dy haeddedigaethau?

3. Onid yw yn ddrwg gennit yn dy galon, ddar∣fod i ti dorri ei gyfreithiau, ac esceuluso ei wasa∣naeth a'i addoliad, a chanlyn y byd a'th trach∣wantau ofer dy hun mor ddyfal? Ac onid ar∣weinit ti fywyd sancteiddiolach, pe byddit i dde∣chrau byw drachefn?

4. Onid wyt ti o'th galon yn deisyfu dy fod gwedi dy vno â Duw yn Iesu Grist, ei Fab bendige∣dig, dy gyfryngwr, yr hwn sydd ar ddeheulaw Dduw yn y nefoedd, yn awr yn ymddangos drosot yngolwg Duw, ac yn gwneuthur ei erfynniad atto ef dros dy enad? Rhuf. 8.34. Heb. 9.24.

5. Wyt ti yn gwadu ac yn ffieiddio pob hyder a chrediniaeth mewn cyfryngwyr neu ddadleuwyr

Page 374

eraill, Seinctiau neu Angelion, gan gredu fod Iesu Grist yr vnig gyfryngwr o'r Testament newydd, yn dichon yn berffaith waredu y sawl a ddelont at Dduw trwyddo ef, gan weled ei fod ef yn byw yn oestadol i wneuthur cyfryngdod trostynt? Ac a ddywedi di gyd â Dafydd wrth Grist: Pwy sydd gennif fi yn y nefoedd ond ty di? ac ni ewyllysiais ar y ddaiar neb gyd a thydi? 1 Tim. 2.5. Heb. 7.25. Psal. 73.25.

6. Wyt ti yn hyderus yn credu, ac yn gobeithio bod yn gadwedig, trwy vnig haeddedigaethau y farwolaeth waedlyd a ddioddefodd Iesu Grist tro∣sot ti? heb osod dim hyder oth iechydwriaeth yn dy haeddedigaethau dy hun, nac mewn vnrhyw gyfryngau na chreaduriaid eraill? gan dy siccrhau dy hun yn ddiogel, nad oes iechydwriaeth yn neb arall: ac nad oes vn enw arall dan y nef, drwy 'r hwn y mae yn rhaid i't fod yn gadwedig. Act. 4.12. Act. 10.43.

7. Wyd ti yn ewyllyscar yn maddeu pob trais a chamwedd ar a wnaethpwyd neu a gynnygiwyd i ti gan bob math ar ddyn pwy bynnac? Ac wyt ti mor ewyllyscar o'th calon, yn gofyn maddeuant gan bawb, ar y gwnaethost di gamwedd ag hwynt hwy mewn gair, neu weithred? ac wyt ti yn taflu allan o'th caon bob lld a chasineb oedd ynot ti? Fel y gellych di ymddangos ger bron wyneb Crist (ty∣wysog tanghneddyf) mewn cariad perffaith? Heb. 12.14.

8. Ydyw dy gydwybod yn cyhuddo i ti ddwyn dim ar gam, neu fod yn dal dim wrth fôn brauch, oddiwrth vn wraig weddw, na phlentyn ymddifad, neu oddiwrth neb arall pwy bynnac? Bydd siccr a diogel onis teli di yn ôl mal Zacheus, y da neu y tiroedd hynny, (o byddi di yn gallael) na elli di mor gwir edifarhau, ac heb wir edifeirwch, ni elli

Page 375

di mor bod yn gadwedig, nac edrych yn wyneb Grist pan fyddych i ymddangos ger bron ei Orsedd∣faingc ef.

9. Wyt ti ollawl yn credu, y cyfodir dy gorph di allan o'r bedd, ar lais yr vdcorn diweddaf? ac y caiff dy gorph ath enaid eu cysylltu yn vn dra∣chefn, yn nydd yr adcyfodiad, i atteb ger bron yr Arglwydd Iesu Grist; ac oddiyno i fyned gyd a'g ef i deyrnas nefoedd, i fyw mewn tragwyddol hy∣frydwch a gogoniant?

Os y dyn clwyfus a ettyb i'r holl ofynion hynny, megis Cristion ffyddlawn, yno gadewch i bawb ar a fyddo yn bresennol vno ynghyd i weddio trosto ef, fel hyn, neu mewn geiriau or cyffelyb.

Gweddi iw dywedyd dros y claf, gan y rhai a ddelont i ymweled ag efo.

O Drugarog Dad, yr hwn wyt Arglwydd a roddwr y bywyd, i'r hwn y perthyn diangfau rhag marwolaeth: Nyni dy blant sydd yma gwedi ein ymgynnull, ydym yn cydnabod, nad ydym ni o herwydd amldra ein pechodau deilwng i ofyn vn fendith i ni ein hunain ar dy ddwylaw di: llai a lawer i fod yn negeffwyr at dy Fawrhydi dros eraill: etto o herwydd i ti ein gorchymmyn i weddio y naill dros y llall, yn enwedig dros y claf, ac a ddywedaist mai llawer a ddichon gweddi y cy∣fiawn gyd â thi: gan hynny yn vfydd-dod dy orch∣ymmyn, ac mewn hyder o'th addewid grasusol, yr ydym ni mor hŷf a dyfod yn ostyngedig ymbil∣wyr at dy dduwiol Fawrhydi, dros ein anwyl frawd (neu ein chwaer,) a'r hwn yr ymwelaist di â cherydd dy law dadol dy hun. Ni a ddymunem o ewyllys ein calonnau iddo ef gael ei iechyd drachefn, a

Page 376

chael ei gristianogawl gymydeithas yn hwy, yn ein plith: Eithr yn gymmaint ac yr ymddengys (cyn belled ac y gallwn ddirnad) ddarfod i ti raglunio trwy yr ymweliad hyn, i alw arno ef allan or bywyd marwol hwn: yr ydym ni yn darostwng ein deisy∣fiadau i'th fendigedig cwyllys, ac yn ymbil yn ost∣yngedig er mwyn Iesu Grist, a haeddedigaethau ei chwerw-angau ai ddioddefaint (yr hyn a ddiodde∣fodd ef trosto ef) ar i ti faddeu a gollwng tros gôf ei holl bechodau: yn gystal y pechod yn yr hwn yr ynnillwyd ac y ganwyd, a'r holl feiau ar troseddau eraill hefyd, ar a wnaeth efe, o'r pryd hynny hyd y dydd a'r awr hon, mewn meddwl, gair a gweithred, yn erbyn dy dduwiol Fawrhydi. tafl hwynt y tu ôl i'th cefn: symmud hwynt cyn belled o'th wydd di, ac yw y dwyrain oddiwrth y gorllewin. Gollwng hwynt dros gof, na ddôd mo hynynt yn ei fauch ef: golch hwynt ymmaith â Gwaed Crist, fel na byddo mwyach hancs am danynt; a gwared efe oddiwrth yr holl farnedigaethau, y rhai ydynt ddy∣ledus iddo am ei bechodau, fel na allont fyth bwyso ar ei gydwybod, na chyfodi yn erbyn ei enaid Ddydd y Farn. a chyfrif iddo ef gyfiawnder Iesu Grist, Megis y byddo yn gyfiawn yn dy olwg di. Ac yn ei gyfyngdra y pryd hyn, ni attolygwn i ti edrych i lawr o'r nefoedd arno ef a'r cyfryw oly∣giad o râs a thosturi, ac y byddi arfer o edrych ar dy blant yn eu gorthrymder au trueni. Trugarhâ wrth dy was clwysus, megis y Samaritan da: Ca∣nys y mae yma enaid clwyfus ac eisiau cynnorthwy y fàth physygwr nefol. O Arglwydd chwanega ei ffydd, fel y byddo 'n credu farw o Grist trosto ef, a bod ei waed ef yn ei lanhau ef oddiwrth ei holl bechodau: ac naill a'i esmwythâ ei boen, a'i chwanega ei ammynedd i oddef dy fendigedig ewyllys. Ac na osod Arglwydd daionus, ddim mwy arno ef,

Page 377

nac a wnelych di iddo allael ei ddwyn: cyfod ef i fynu attat ti, gyd a'r ocheneidiau a'r griddfanau, y rhai ni ellir moi hadrodd. Gwna iddo ef yr awrhon glywed beth yw gobaith ei alwedigaeth, a pha beth yw tra-odidawg fawredd dy drugaredd, a'th allu tu ag at y rhai a gredant ynot ti. Ac yn ei wendid o Arglwydd dangos di dy nerth, ymddiffyn ef rhag oll drwg feddyliau a phrofedigaethau Sa∣tan: yr hwn (megis y gwnaeth bob amser oi fywyd) sydd yr awrhon yn enwedig yn ei wendid yn gosod arno, ac yn ceisio ei ddifa ef. Oh achub ei enaid, ac argyoedda Satan, a gorchymmyn i'th Angelion Sanctaidd fod o'i amgylch iw ddiddanu, ac i ymlid ymaith holl ysprydion drygfawr maleusys ymhell oddiwrtho. Gwna iddo ef fwyfwy ffieiddio y bŷd hwn, a dymuno ei ymddattodiad ai fod gyd â Christ. A phan ddelo yr awr dda a'r amser (ym mha vn y rhagluniaist ei alw ef allan or bŷd presennol hwn) dôd iddo râs yn danghneddyfus, ac yn orfo∣leddus, i roddi i fynu ei enaid i'th ddwylaw trugarog di. Derbyn di ef i'th drugaredd, a gâd i'th An∣gelion sanctaidd ei ddwyn i'th dragwyddol deyrnas. Gwna ei awr olaf yn awr orau, ei eiriau olaf yn eiriau gorau, ei feddyliau claf yn feddyliau gorau. A phan fyddo llewyrch ei lygaid yn methu, a'i dafod yn pallu yn ei swydd: canniattâ (o Arglwydd) iw enaid allael (gyd â Stephen) ganfod Iesu Grist yn y nefoedd yn barod i'w dderbyn ef: Ac i'th yspryd o'i fewn ef wneuthur erfyn trosto ef ag oche∣neidiau anrhaethadwy. Dysc ninnau ynddo ef i weled ein diwedd ein hunain, a'n marwoldeb. Ac am hynny i fod yn ofalus i'n paratoi ein hunain erbyn ein dyddiau diweddaf, a'n gosod ein hunain mewn trefn a pharodrwydd erbyn yr amser y gel∣wych di am danom yn yr vn agwedd. Fel hyn o Arglwydd yr ydym ni yn gorchymmyn ein anwyl

Page 378

frawd (neu ein chwaer) dy wasanaethydd clwyfus, i'th dragwyddol râd ath drugaredd, yn y weddi a ddyscodd Crist i ni gan ddywedyd.

Ein Tad yr hwn wyt yn y nefoedd, &c.

Dy Rad, o Arglwydd Iesu, dy serch o nefol Dad, dy gymdeithas a'th ddiddanwch o Yspryd sanctaidd, a fyddo gyd â nyni oll, ac yn enwedig gyd a'th wasanaethydd clwyfus hwn, hyd y diwedd ac yn y diwedd. Amen.

Darllennant yn fynych i'r claf rai pennodau hynodol o'r Scrythyrau sanctaidd: megis,

Y tri phennod cyntaf, ar 14, ar 19, o lyfr Iob.

Y 34 pennod o Deuteronomi.

Y Ddau bennod olaf o Iosuah.

Y 17 pennod o'r cyntaf o'r Brenhinoedd.

Yr 2, 4, ar 12, pennodau, or ail llyfr o'r Bren∣hinoedd.

Y 38, 40, 65, pennodau o Esay.

Histori dioddefaint Crist.

Yr 8 pennod at y Rhufeiniaid.

Y 15 pennod or llythyr cyntaf at y Corin∣thiaid.

Y 4 or llythyr cyntaf at y Thessaloniaid.

Y 5 pennod o ail lythyr Paul at y Corinthi∣aid.

Y pennodau cyntaf ar olaf o St. Iaco.

Yr 11, a'r 12 at yr Hebraeaid.

Llythyr cyntaf Petr.

Y tri phennod cyntaf, neu y tri olaf o'r Dad∣cuddiad, neu rai o'r rhain.

Ac felly gan athrawiaethu a chynghori y dyn clwyfus i wilied ac i ddisgwyl wrth Dduw trwy ffydd ac ammynedd, nes iddo efe ddanfon am dano; a chan weddio ar yr Arglwydd am roi iddynt gy∣farfod

Page 379

llawen yn nhernas nefoedd, ac adcyfodiad bendigedig yn y dydd diweddaf: hwy a alant ymadael pan fynnont yn nhanghneddyf Duw.

Amryw gyssur diddanaidd yn erbyn annioddef∣garwch mewn clefyd.

OS yn dy glefyd o herwydd trymder dy boen, y byddi yn annoddefgar, myf ria:

1. Fod dy bechodau yn haeddu poenau vffern, am hynny di a elli trwy fwy ammynedd oddef y cospedigaethau radol hyn.

2. Mai y rhain yw gwialenodiau dy Dad nefol, a bod y wialen yn ei law ef. Os dioddefaist di trwy vfydd-dod gerydd dy rieni daiarol pan oeddit yn blentyn; pa faint mwy y dylit ti yr awr hon dy ddarostwg dy hun (a thithau yn blentyn i Dduw) i gosp dy Dad nefol; gan weled ei fod er tragwy∣ddol ddaioni i ti?

3. Ddarfod i Grist oddef yn ei enaid a'i gorph boenau mwy gofidus drosot ti: am hynny ti a ddylit fod yn fodlonach i ddioddef ei fendigedig ewyllys er mwyn dy ddaioni dy hun. Am hynny medd Petr, Crist a ddioddefodd drosoch chwi gan adel i chwi siampl, fel y canlynech ei ol ef. 1 Petr. 2.21. A gadewch i ni (medd St. Paul) redeg mewn ammynedd yr yrfa o osodwyd on blaen ni, gan edrych ar Iesu pen tywysog, a pherffeithydd ein ffydd ni, yr hwn yn lle y llawenydd a osodwyd o'i flaen a ddio∣ddefodd y groes, &c. Heb. 12.1.2.

4. Nad yw y gofidiau yr ydych chwi yr awrhon yn eu dioddef, ddim ond y cyfryw a gyflawnir yn eich brodyr, y rhai ydynt yn y byd, fel y tystiolaetha Petr: 1 Petr. 5.9. Ie cystuddiau Iob oeddynt o lawer yn fwy gofidus. Nid ocs yr vn or Sainctiau,

Page 380

y rhai ydynt yr awrhon yn yr orphywysfa nefol, na oddefodd gymmaint ac yr ydych chwi yn ei oddef, cyn iddynt fyned yno: Ie llawer o honynt a ddioddefodd yn ewyllyscar, yr holl boenau ar dialeddau, ar a allai Ortrechwyr, neu wyr creulon eu gosod arnynt, fel y gallent fyned ir llawenydd nefol, i'r hwn i'ch gelwir chwi 'r awrhon. Ac y mae i chwi addewid, y bydd i Dduw pob grâs, wedi i chwi oddef ychydig, eich perffeithio chwi, ach cadarnhau a'ch cryfhau ach sefydlu. Ar Duw hwnnw o'i ffydd∣londeb, ni âd eich temtio vwch-law yr hyn a alloch, eithr gyd a'r temtasiwn y gwna efe ddiangfa fel y galloch ei ddwyn. 1 Pet. 5.10. 1 Cor. 10.13.

5. Ddarfod i Dduw rag-ddarparu yr amser y caiff dy gystudd di ddiben, yn gystal ar amser e'i cafodd ddechreuad. Namyn dwy flynedd deugain oedd wedi ei ordeinio i'r dŷn clwyfus wrth lynn Bethesda. Ioan. 5.5. Dauddengmhlynedd i'r wraig ar diferlif gwaed: Mat. 9.20. Tri mîs i Moses: Exod. 2.2. dêng nhiwrnod o gystudd i'r Angel o Eglwys Smyrna. Dat. 2.10. Tridiau o bla haint i Ddafydd. 2 Sam. 24.13. Ie y mae rhif dagrau y Duwiol gwedi eu rhoi ar lawr yn llyfr Duw, au maintioli yn gadwedig yn ei gostrel ef. Psa. 56.8. Amser ein blinderau (medd Crist) nid yw ond ychydig: Joan. 16.16. Nid yw digofaint Duw (medd Dafydd. Psal. 30.5.) yn para ond tros amrantyn, ychydig amser medd yr Arglwydd, ac am hynny nid yw yn galw holl amser ein blinder, ond awr o gstudd. Dad. 6.11. Ioan. 16. Dafydd sydd yn cyffelybu ein cystudd i gornant, Psal. 110.7. o ran ei chŵyrned: Ac Athanasius i gawod. Cyffelybwch y trueni hwyaf ar a ddioddefo dŷn yn y byd hwn, i dragwyddoldeb y llawenydd nefol, ac nid yw ddim yn e herwydd. Ac fel y mae y

Page 381

golwg ar Fab a enir yn iach ddianaf, yn peri i'r fam anghofio ei llafurus boen o'r blaen: Joan. 16.21. felly y golwg ar Grist yn y nefoedd, yr hwn a aned er dy fwyn di, a wna i ti anghofio yr holl ofidiau angau hyn, fal pe buasent erioed heb fod: Megis Stephan Act. 7. yr hwn cyn gynted ac y gwelodd efe Grist, a anghofiodd ei archollion ei hun, a dy∣chryn y bedd, ac ofn y cerrig: ac yn ddiddanus a orchymynnodd ei enaid i ddwylaw ei Iachawdwr. Anghofia dy boen dy hun, meddwl am friwiau Crist: Bydd ffyddlawn hyd farwolaeth, ac efe a rydd i ti goron bywyd tragwyddol. Dad. 2.10.

6. Ych bod chwi yr awrhon wedi eich galw i'ch ail-holi i yscol Grist, i weled pa faint o ffydd, ammy∣nedd, a duwioldeb a ddyscassoch chwi hyd yn hyn: a pha vn a wnewch chwi mal Iob a'i gallel derbyn peth drwg ar law Dduw, yn gystal ac y darfu i chwi hyd yn hyn dderbyn llawer o ddaioni. Iob. 2.10. Megis gan hynny y gweddiasoch bob amser, bydded dy ewyllys, felly na fydd yn awr yn anfodlon o herwydd yr hyn y mae ei ewyllys bendigedig yn ei wneuthur.

7. Fod pob peth yn cyd-weithio er daioni i'r rhai a garant Dduw; yn gymmaint nad oes nac angau, nac einioes, nac Angelion, na thywysogaethan na galluoedd, &c. A eill ein gwahanu ni oddiwrth gariad Duw, yr hwn sydd Yn Ghrist Iesu ein Har∣glwydd. Rhuf. 8.28.38.39. Byddwch chwi ddio∣gel fod pob gwaiwloes yn achub rhag poenau vffern; a phob yspaid esmwyth yn argoel o'r orphywysfa nefol: a pha gynniser o ssynnodiau dybygech chwi a dâl y nefoedd? fel yr oedd eich bywyd yn ddidda∣nwch i eraill: felly rhowch i'ch cyfeillion siampl gristianogawl i farw, a siommwch y cythraul fel y gwnaeth Iob. Nid yw ond croes Crist wedi ei danfon o'r blaen i groeshoelio cariad y bŷd ynot

Page 383

ti: Megis y gellych di fyned yn dragwyddol i fyw gyd â Christ, yr hwn a groeshoeliwyd trosot ti. Fel yr wyd ti gan hynny yn wir Gristion cymmer i fynn (mal Simon o Cirene) a'th ddwy law ei groes sanctaidd ef, dŵg hi ar ei ol ef, iddo ef; dy boenau ar fyrr a ant heibio, dy lawenydd byth ni dderfydd.

Cyssurau yn erbyn ofn marwolaeth.

OS byddi di yn dy glefyd yn dy glywed dy hun yn ofnus gennyt farw; myfyria:

1. Fod hynny yn arwyddoccau meddwl llwfr aruthr, ofni y peth nid ydyw. O blegit yn Eglwys Dduw nid oes vn farwolaeth, Esay 25.7, 8. A phwy bynnac sydd yn fyw, ac yn credu yn Ghrist ni fydd marw byth. Ioan. 11.26. Gadewch i'r rhai a fyddo byw heb Grist ofni marwolaeth. Nid yw Cristianogion yn marw, ond pan ryngont fodd Duw, maent hwy (fel Enoch) yn cael eu cymmeryd at Dduw, Gen. 5.24. Nid yw eu poenau ond cerby∣dau tanllyd Elias, iw dwyn ir nefoedd: 1 Bren. 2.11. neu megis cornwydydd Lazarus, i'w danfon i fynwes Abraham Luc. 16.23. I fod yn fyrr, os wyt ti vn or rheini sydd mal Lazarus yn caru Crist, nid yw dy glefyd hyd farwolaeth, ond er go∣goniant i Dduw: yr hwn o'i gariad a gyfnewid dy farwolaeth fywiol i fywyd tragwyddol. Ac os darfu i lawer o'r gwyr cenedlig sef, Socrates, Curtius, Seneca, &c. Farw yn ewyllyscar (pryd y galiasent fyw) mewn gobaith o anfarwoldeb yr enaid; a fyddi di wedi cael dy ddygiad i fynu cyhyd yn yscol Grist, (ac yr awrhon wedi dy alw i wledd briodas y bendigedig Oen, Dade. 19.7.) yn vn o'r gwahodd∣edigion

Page 384

hynny a naccânt ddyfod ir wledd orfoleddus honno? Na atto Duw.

2. Cofia nad yw dy drigfa di yma, ond ail râdd o'th fywyd: o blegit wedi i ti fyw yn gyntaf naw∣mis ynghroth dy fam, yr oedd yn anghenrhaid dy yrru oddiyno i fyw yma mewn ail-radd ar fywyd. A phan ddarfyddo y rhif or misoedd a osododd Duw i ti i fyw yn y bywyd hwn, y mae 'n rhaid i ti vn ffunyd adel hwn, a myned i'r trydydd radd yn y byd arall, yr hwn ni ddiwedda byth. Yr hwn, i'r rhai sydd yn byw ac yn marw yn yr Arglwydd, sydd yn rhagori cyn belled ar y fath fyd a hwn, ac y mae hwn yn rhagori ar fywyd vn a fâi yn byw ynghroth ei fam. I'r bywyd olaf ar godidoc∣caf hwn, trwy y drws hwn yt acth Crist ei hun, a'r holl Sainctiau a fuont o'th flaen di; ac felly yr aiff y cwbl o'r lleill ar eu hôl hwynt a thithau. Pa ham y dylit ti ofni y peth sydd gyffredin i holl etholedigion Duw? Pa ham y bydd hynny mor anfodlon gennit ti, yr hyn a gafodd groesaw gan∣ddynt hwy oll? Nac ofna farwolaeth, canys fel y mae hi yn Exodus o'r byd drwg, felly y mae hi yn Genesis o vn gwoll: diwedd yr amserol, ond de∣chreuad bywyd tragwyddol.

3. Ystyria nad oes ond tri pheth a eill beri mar∣wolaeth mor ofnadwy i ti: yn gyntaf, y golled sydd i ti o'i phlegit: yn ail y boen sydd ynddi: yn drydydd, y digwyddiadau echrysson sydd yn canlyn ar ei hol. Nid yw y rhai hyn eu gyd, ond megis gweichion o dân ellyll, ac osn diachos. Canys am y cyntaf, os wyt ti yn gadel yma dda darfo∣dedig, y rhai a eill lladron eu lledratta, di gai yn y nefoedd wir drysawr, yr hwn ni ellir byth moi ddwyn oddiarnat. Math. 6.9.10. Nid oedd y rhai hyn ond benthyg i ti, megis i oruchwiliwr dan gyfrif: Y rhai hynny a roddir yn wobr tragwyddol i ti.

Page 385

Os wyt ti yn gadel gwraig gdriadus, di gai dy briodi â Christ, yr hwn sydd gariadusach. Os wyt ti yn gadel plant a chyfeillion, di gai weled yno dy holl henafiaid duwiol, ar plant a ymadawsant: Ie Crist a'i holl Sainctiau a'i Angelion. a chynifer o'th plant ti ac ydynt blant i Dduw, a ddaw yno ar dy ol di. yr ydwyt ti yn gadel meddiant daiarol, a Thŷ o glai: a thi a gai feddu etifeddiaith nefol, ac eisteddle go∣goniant, yr hon a brynwyd, a baratowyd, ac a gad∣wyd i ti. Ioan. 14.1. 2 Cor. 5.1. A pha golled sydd itti? Na, onid yw marwolaeth yn elw i ti? Dos adref, dos adref, a nyni a ganllynwn ar dy ol di.

Yn ail, am y boen ym marwolaeth: y mae ofn marwolaeth yn poeni llawer, yn fwy na gloes angau: Canys y mae llawer Cristion yn marw heb nemawr o gloes na phoen. Planna Angor dy obaith ar y sail gadarn o Air Duw, yr hwn a addawodd ber∣ffeithio ei nerth yn dy wendid di, ac ni chynnwys dy demtio di vwchlaw yn hyn a ellych ei ddwyn. 2 Cor. 12.9. 1 Cor. 10.13.

Yn olaf, am y digwyddiadau echryslon yr rhai a ganlynant ar ôl marwolaeth, nid ydynt yn per∣thynu i ti yr hwn wyt aelod o Grist: Canys fe ddar∣fu i Grist trwy ei farwolaeth, dynnu ymmaith golyn Angau i'r ffyddlonniaid. Fel nad oes yr awrhon ddim damnedigaeth ir rhai sydd yn Ghrist Iesu. Rhuf. 8.1. Ac y mae Crist wedi rhag-dystiolaethu, fod yr hwn a gredo ynddo ef i gael bywyd tragwyddol, ac nad eiff i ddamnedigaeth, eithr ei fyned ef trwodd o farwolaeth i fywyd. Ioan. 5.24. Ir perwyl hyn, y mae yr yspryd glân o'r nefoedd yn dywedyd, Bendigedig yw r meirw yrhai sydd yn marw yn yr Arglwydd: Au bod o hynny allan yn gorphywyso oddiwrth eu blinderau; a'u gweithredoedd a'u can∣lynant. Gan hynny er mwyn y ffyddlonniaid y

Page 386

llngcwyd angau mewn buddugoliaeth, a'i golyn, yr hwn yw pechod, a'r cyflog am dano a dynnodd Crist ymmaith yn ollawl. 1 Cor. 15. Oddi yma y gelwir marwolaeth o herwydd ein cyrph ni, yn hun-gwsc, ac yn orphywysfa: Esay, 26. Dad. 14. O herwydd ein eneidiau, ymadawiad mewn heddwch, a myned at ein Tâd nefol: symuaiad oddiwrth y corph hwn, i fyned at yr Arglwydd: ymddattodiad yr enaid a'r corph i fod gyd a Christ. 2 Cor. 5. Beth a ddwedai? gwerthfawr yngolwg yr Arglwydd yw marwolaeth ei Seinctiau ef. Nid yw y poenau hyn iti ond llafur a gwewyr i escor ar fywyd tragwyddol. A phwy nid a'i trwy vffern i baradwys chwaithach trwy farwolaeth? Nid oes dim fydd raid i ti ei ofni yn ôl marwolaeth: nid rhaid i ti ofni mo'th bechodau, oblegit i Grist dalu dy bridwerth; na'r Barnwr, oblegit efe yw dy Frawd cariadol: na 'r bêdd, o blegit gwely yr Arglwydd yw: Nac vffern, oblegit dy Iachawdwr sydd yn cadw yr agoriadau: nar cythraul, o blegit mae Angelion sanctaidd Duw yn gwersyllu o'th amgylch, ac nid ymadawant â thydi nes dy ddwyn i'r nefoedd. Ni buost erioed nego∣ssach i fywyd tragwyddol; gan hynny gogonedda Grist drwy farwolaeth fendigedig. Dywaid yn gy∣ssur-lawn, tyred Arglwydd Iesu, Canys y mae dy wâs yn dyfod attat: yr wyf yn ewyllyscar, Argl∣wydd Cynnorthwya fyngwendid.

Saith o feddyliau sancteiddiol, ac ocheneidiau ga∣larus vn claf lêsc yn barod i farw.

YR awrhon yn gymmaint a bod Duw o'i anfei∣drol drugaredd felly yn tymeru ein poen a'n clefyd, fel nad ydym ni orthrymmedig bob amser gan eitha gofid; eithr weithiau ynghanol ein trym∣gur

Page 387

a'n cystudd y mae yn cennadu i ni beth esmw∣ythder a llonyddwch, i'n cyssuro a'n dadebru ein hunain: y mae 'n rhaid i ti gymmeryd prif ofal (gan ystyried mor fyrr yw 'r amser sydd i ti, naill a'i i ynnill, a'i i golli y nefoedd yn dragwyddol) i wneuthur y gorau o bob amser a roddo Duw i ti i gymeryd anadl: a thra fo yr ychydig amser o esmwythder, i gasclu nerth yn erbyn gofidiau mwy. Gan hynny yn y prydiau hyn o esmwythâad, arfer o rai or meddyliau ar ocheneidiau byrrion sydd yn canlyn.

Y meddwl Cyntaf.

GAn weled fod pob dŷn yn dyfod i'r byd hwn mewn dagrau, yn myned trwyddo mewn chwys, ac yn ei derfynu mewn galar; Oh pa beth sydd ynddo, i beri i ddyn ddymuno byw yn hwy ynddo: Oh pa ynfydrwydd yw, lle mae y Mordwywr yn rhwyfo a'i holl nerth i fyned i'r hafn dymunol, ac lle mae 'r ymdeithydd byth heb orphywys nes myned i ben ei daith; ein bod ni yn ofni cael golwg ar y hafn, ac am hynny yn chwennych bwrw ein llestr yn ol, i gael ei churo gan dymestloedd beunyddiol? Yr ydym ni yn wylo wrth weled pen ein taith, ac am hynny yn dymuno ein siwrnai yn hwy, fel y gallem ni fod yn flinach wrth ymdeithio rhyd coeg∣lwybr rhwystrus.

Page 388

Yr ysprydol Ochenaid ar hynny.

O Arglwydd nid yw y bywyd hwn ond pererin∣dod trafferthus, o ychydig ddyddiau, a llawn drygioni, Gen. 47.9. Ac yr wyf wedi blino arno o herwydd fy mhechodau. Gâd i mi gan hynny (O Arglwydd) ddeisyfu ar dy Fawrhydi yn fyng∣hlaf wely hwn, fel y gwnaeth Elias dan y fêrywen yn ei gystudd: digon yw O Arglwydd ddarfod i mi fyw cyhyd a hyn, yn y dyffryn hwn o drueni: Cymmer fy enaid i'th law drugarog, canys nid wyf well na'm Tadau. 1 Bre. 19.4.

Yr ail Feddwl.

MEddwl â pha ryw fath gorph o bechod i'th lwythwyd, Rhu. 7.24. pa fath ryfel car∣trefol a gynnwysir yn y byd bychan; y cnawd yn gwthryfela yn erbyn yr yspryd: anwydau yn erbyn rheswm: daiar yn erbyn y nefoedd, ar fath fyd o'th fewn am y byd o'th amgylch, Iac. 4.1. Gal. 5.17. ac heb fod ond vn modd yn vnig i ddibennu yr ymryson hwn, sef marwolaeth; yr hon (yn yr am∣ser a bennododd Duw) a neilldua dy yspryd oddi∣wrth dy gnawd, yr rhan bur adgenedledig o'th enaid, oddiwrth y rhan sydd amhur a di-adgened∣ledig.

Page 389

Yr Ochenaid ysprydol ar yr ail Feddwl.

YS truan o ddyn wyf fi: pwy am gwared i oddi∣wrth gorph y farwolaeth hon? O fy anwyl Iachawdwr Iesu Grist, ti am prynaist i a'th werth∣fawr waed: Ac o blegit i ti achub fy enaid rhag pechod; fy llygaid rhag dagran, am traed rhag lli∣thro; yr ydwyf yma o eigion fynghalon, yn rhoddi yr holl fawl a gogoniant o'm iechydwriaeth i'th vnig râs a'th drugaredd, gan ddywedyd (gyd a'r Apostol Sanctaidd) i Dduw i bo 'r diolch yr hwn a roddodd i mi fuddugoliaeth trwy Iesu Grist ein Arglwydd. Rhu. 7.14. 1 Petr. 2. Dad. 5.9. Psal. 116.8. 1 Cor. 15.57. Psal. 145.9.

Y Trydydd meddwl.

MEddwl mor rheidiol i ti fod yn ddiogel, mai eiddaw Crist yw dy enaid: Canys y mae angau wedi cymeryd gwystlon digonol i'w siccrâu ei hunan o'th corph di, gan weled fod dy holl synh∣wyrau yn dechrau marw yn barod, oddieithr yn vnig yfynwyr i glywed poen: eithr gan fod dy∣chreuad dy sylweddiad wedi dechrau mewn poen, rhyfedda lai os dy ddiben a derfyna mewn gridd∣fanau. Ond os yw y cystuddiau amserol hyn (yr rhai ydynt yn vnig yn dolurio dy gorph) mor boen∣us: O Arglwydd, pwy a ddichon oddef tân yssol? pwy a eill bresswylio yn y lloscfeydd tragwyddol. Esay. 33.14.

Page 390

Yr Ochenaid ysprydol ar y trydydd Meddwl.

O Arglwydd Iesu Grist Mâb y Duw byw, yr hwn wyt yr vnig physygwr a ddichon esmwythâu y dolur ar fynghorph, ac adferu fy enaid i fywyd trag∣wyddol: gosod dy ddioddefaint, dy Groes, a'th Angau, rhwng fy enaid a'th Farnedigaethau d a gâd i haeddedigaethau dy vfydd-dod sefyll rhwng cyfiawnder dy Dâd am anufydd-dod innau; ac oddi∣wrth y poenau corphorol hyn, derbyn fy enaid i'th dragwyddol danghneddyf: Canys yr wyf yn llefain arnat gyd â Stephen, Arglwydd Iesu derbyn fy yspryd. Act. 7.59.

Y pedwerydd Meddwl.

MEddwl nad yw yr hyn gwaethaf a eill mar∣wolaeth ei wneuthur, ond anfon dy enaid yn gynt nac y mynnai dy gnawd, at Grist a'i lawenydd nefol: cofia mai 'r hyn gwaethaf hwnw yw dy obaith gorau. Y gwaethaf gan hynny o farwolaeth, sydd yn gynnorthwy yn hytrach nag yn niweid.

Yr Ochenaid ysprydol ar y pedwerydd Meddwl.

O Arglwydd Iesu Crist, Iachawdwr pawb oll ar â ymddiriedant ynot ti: na thro heibio mor hwn sydd yn rhedeg yn ei drueni, at dy Râs, am ymwared a thrugaredd. O datcan y lleferydd melys ynglustiau fy enaid, yr hyn a adroddaist wrth y lleidr edifeiriol ar y groes: sef, y dydd hwn y byddi gyd â

Page 391

myfi ymmharadwys. Canys yr wyfi (gyd a'r A∣postol) om henaid yn dywedyd wrthit ti, yr wyf yn deisyf fy ymddattodiad, a bod gyd â Christ. Luc. 23. 43. Phil. 1.23.

Y pummed Meddwl.

MEddwl (os wyt ti yn ofni marw) nad oes ym mynudd Ston vn farwolaeth: Canys yr hwn sydd yn credu yn Ghrist ni fydd marw byth, Ioan. 11.25. Ac os wyt ti yn dymuno byw, yn ddi∣ammau y mae y bywyd tragwyddol (i'r hwn y mae y farwolaeth hon yn dy ddwyn) yn orau o'r cwbl. Yno y mae yr holl ffyddloniaid a ymadawsant (gwedi gwneuthur diben ar eu trueni) yn byw gyd â Christ mewn hyfrydwch: ac yno yr holl rai duwiol ydynt yn fyw a gant eu casclu allan o'u blinderau, i feddiannu yr orphywysfa dragwyddol gyd a'g ef.

Yr Ochenaid ysprydol ar y pummed Meddwl.

O Arglwydd, ti weli lid a malis Satan, yr hwn nid yw ddigon ganddo megis llew rhuadwy rodio oddiamgylch i geisio ein difa holl ddyddiau a nosweithiau ein bywyd, eithr y mae ef yn ei ddangos ei hun bryssuraf, pan fo dy blant ti yn wannaf, ac yn tynnu yn nessaf i'w diben. O Arglwydd cery∣dda ef, ac ymddiffyn fy enaid. Y mae ef yn ceisio fy nychrynu i â marwolaeth, yr hon y mae fy mhe∣chodau yn ei gwbl haeddu. Ond gâd ti i'th Yspryd glân ddiddanu fy enaid â diogelrwydd o fywyd trag∣wyddol, yr hwn a brynodd dy werthfawr waed. Esmwytha ar fy mhoen, chwanega fy ammynedd,

Page 392

ac (os dy fendigedig ewyllys yw) dibenna fy mlin∣derau: Canys y mae fy enaid yn deisyfu arnat gyd a'r hen Simeon fendigedig: yr awrhon Arglwydd gollwng fi dy wâs i ymadel mewn tanghneddyf yn ôl dy air. Luc. 2.29.

Y chweched Meddwl.

MEddylia wrthyt dy hun, pa fath fendith a roddodd Duw i ti vwchlaw llawer miloedd o'r bŷd, lle y maent hwy naill ai yn baganiaid, yr rhai nid ydynt yn addoli 'r gwir Dduw, neu yn ddelw-addolwyr y rhai ydynt yn gau-addoli y gwir Dduw: Ty di a fuost fyw mewn Eglwys wir Grist∣ianogawl, ac a gefaist râd i farw yngwir ffydd Grist, ac i gael dy gladdu ym medd gweision Duw, y rhai oll a wiliant am obaith Israel, cyfodiad eu cnawd yn Adcyfodiad y cyfiawn. Act. 26.6, 7. Luc. 14.14.

Yr ochenaid ysprydol ar y chweched Meddwl.

O Arglwydd Iesu Grist, yr hwn wyt yr adcy∣fodiad a'r bywyd, yn yr hwn pwy bynnac a gredo a fydd byw, er iddo farw; yr wyf fi yn credu pwy bynnac sydd fyw, ac yn credu ynot ti, na fydd ef byth farw. My fi a wn y caf gyfodi yn adcyfodiad y dydd olaf: o ran yr wyf yn ddiogel dy fod di fy Mhrynwr yn fyw: ac er i bryfed yn ôl marwolaeth ddifa y corph hwn, etto mi a gaf dy weled ti fy Argl∣wydd, am Duw yn y cnawd hwn. Canniadhâ gan hynny o Grist, er mwyn dy chwerw angau a'th ddi∣oddefaint, i mi fod y dydd hwnnw yn vn o'r rheini, wrth ba rai yr adroddi di y farn hyfryd honno;

Page 393

sef: Deuwch chwi fendigedig blant fy nhad, medd∣iennwch y deyrnas a baratôwyd i chwi cyn seiliad y byd. Mat. 25.34. Joan. 11.25, 26. Job. 29.25, 26.

Y Seithfed Meddwl.

MEddylia wrthit dy hun, fel y dioddefodd Crist drosot ti farwolaeth felldigedig, a digofaint Duw, yr hyn oedd ddyledus i'th bechodau di: Gal. 3.13. a pha fath boen ofnadwy, a dialeddau creulon a ddioddefodd yr Apostolion, a'r Merthyron yn ewyllysgar er mwyn ymddiffyn ffydd Grist, pryd y gallasent gael byw pe buasent yn rhagrithio neu yn ei wadu ef: pa faint mwy ewyllyscar y dylit ti fod i ymadel yn ssydd Grist, gan fod i ti lai o boe∣nau i'th pennydio, a mwy o foddion i'th ddiddanu?

Yr ochenaid ysprydol ar y seithfed Meddwl.

O Arglwydd y mae fy mhechodau yn haeddu poenau vssern, a marwolaeth dragwyddol; chwaithach y cospedigaethau tadol hyn, a'r rhai i'm cystuddi: Eithr o fendigedig Oen Duw yr hwn wyt yn tynnu ymmaith bechodau y byd, trugarha wrthif, a golch ymmaith fy holl anwiredd, ath werth∣fawroccaf waed, a derbyn fy ennid i'th teyrnas ne∣fol: canys i'th law di (o Dad) yr wyf yn gorch∣ymmyn fy yspryd, a thydi am prynaist i, o Arglwydd, tydi Dduw y gwirionedd. Joan. 1.29. Datc. 5.1. Psal. 31.5.

Page 394

Yr awrhon fe ddylai y clwyfus ddanfon am ryw Fugail duwiol dyscedig.

ER dim ar a fo cofia (os bydd i ti fodd yn y byd) ddanfon am ryw Fugail duwiol bucheddol, yn gystal i weddio drosot ti yn dy farwolaeth, (canys Duw yn y cyfryw achos a addawodd wrando gwe∣ddiau y prophwydi cyfiawn, ac Henuriaid yr Egl∣wys, Gen. 20.7. Ier. 18.20. Jag. 5.14, 15, 16.) ac hefyd ar dy gyffes a'th edifeirwch difrifol, i'th rhyddhau di oddiwrth dy bechodau. Canys fel y rhoddes Crist iddo ef alwedigaeth i'th fedyddio di i edifeirwch, er mwyn maddeuant pechodau: Mar. 1.4. Act. 19.4. Felly y rhoes ef hefyd iddo al∣wedigaeth a gallu ac awdurdod ar dy edifeirwch i'th rhyddhau di oddiwrth dy bechodau. 1 Cor. 5.4. 2 Cor. 10.8. mi a rof i ti agoriadau Teyrnas ne∣foedd, a pha beth bynnac a rwymech di ar y ddaiar, a fydd yn rhwym yn y nefoedd: a pha beth bynnac a ryddaech di ar y ddaiar, a ryddheuir yn y nefoedd. A thachefn, yn wir meddaf i chwi, y peth a rwymoch ar y ddaiar a rwymir yn y nefoedd, a pha beth bynnac a ryddhaoch ar y ddaiar a ryddheuir yn y nefoedd. Mat. 16.19. ac 18.18. A trachefn, derbynniwch yr Yspryd glân, pechodau pwy bynnac a ollyngoch a ollyngir, a phechodau pwy bynnac a attalioch a attelir. Ioan. 20.21.23. Yr oedd yr athrawiaeth hon cyn hyned yn Eglwys Dduw, ac oedd Job, canys y mae Elihu yn dywedyd iddo, pan fyddo Duw yn taro dyn â dolur ar ei wely, fel y byddo ei enaid yn neshau i'r bëdd, a'i fywyd ir dinistrwyr: os bydd gyd a'g ef gennad o ladmerydd, vn o fil i ddangos i ddyn ei vniondeb: yna efe a drugarhâ wrtho, &c. Job. 33.23.24. Ac yn cydatteb i hyn medd St. Jaco, Os

Page 395

gwnaeth y claf bechodau (ar ei edifeirwch a gweddi yr Henuriaid) hwy a faddeuir iddo. Jag. 5.15. Y mae i'r rhain awdurdod i gan y nefoedd, ac i dra∣ddodi (y pechadur aflan di-edifeiriol) i Satan. Datc. 11.6. 1 Cor. 5.5. Canys nid yw arfau eu milwriaeth hwynt yn gnawdol, eithr galluog trwy Dduw, i daflu i lawr, &c. Ac i fod a dial mewn parodrwydd yn erbyn anvfydd-dod. 2 Cor. 4.6. Y mae iddynt yr agoriad i ryddhau, am hynny y gallu i roddi gollyngdod.

Nid yw yr Escobion, a Bugeiliaid yr Eglwys yn maddeu pechod trwy vnrhyw gyflawn awdurdod o honynt eu hunain, (canys felly yn vnig y mae eu Meïstr Crist yn maddau pechodau) eithr yn weini∣dogawl, megis gweision i Grist a'i oruchwiliwyr, o herwydd ddarfod iw Harglwydd a'i Meistr roddi ei agoriadau yn eu hymddiried ffyddlawn hwynt; a hynny yw, pan fyddont yn mynegi neu yn adrodd, naill a'i yn gyhoeddus, a'i 'n ddirgel trwy air Duw y peth a rwymo, neu y peth a ryddhâo; a thru∣gareddau Duw i bechaduriaid edifeiriol, neu ei Farn i bechaduriaid styfnig di-edifeiriol: ac felly yn cymhwyso yr addewidion cyffredinol, neu fygythiau, i'r edifeiriol, neu i'r di-edifeiriol. Canys y mae Crist o'r nefoedd trwyddynt hwy (megis trwy ei weinidogion daiarol) yn adrodd pwy y mae ef yn ei ryddhau a'i rwymo, ac i bwy i'r egyr ef byrth y ne∣foedd, ac yn erbyn pa rai y caua efe hwynt. Ac am hynny nid ydis yn dywedyd, pechodau pa rai bynnac a arwyddoccâoch chwi eu bod yn cael eu rhyddhâu, eithr pechodau yr hwn y ryddhaoch chwi. Y maent hwy gan hynny yn rhyddhau pechodau, oblegit bod Crist trwy eu gweinidogaeth hwynt yn rhyddhau pechodau, megis y darfu i Grist trwy ei ddisgyblion ollwng Lazarus yn rhydd, Ioan. 11.44. Ac fel na allai vn dwfr arall olchi ymmaith wahanglwyf Naa∣man,

Page 396

ond dwfr yr Iorddonen, (er bod afonydd eraill mor loiwon) oblegit bod yr addewid wedi ei gy∣sylltu at ddwfr yr Iorddonen, ac nid at afonydd eraill; felly er gallael o ddŷn arall adrodd yr vn geiriau, etto nid oes iddynt mor cyffelib nerth i weithio yn y gydwybod, megis y mae pan fyddont wedi eu hadrodd o enau Gweinidogion Duw: oble∣git bod yr addewid gwedi ei gysylltu at air Duw yn eu genau hwynt: Joan 20.22, 23. Canys hwynt hwy a etholodd efe, a alwodd, ac a neillduodd efe i'r gorchwyl hwn, ac iddynt hwy y gorchymynnodd efe weinidogaeth y Cymmod. Trwy eu sanctaidd al∣wedigaeth, a'u hordeiniad hwy a dderbynniasant yr Yspryd glân, a'r gallu gweinidogawl o rwymo a rhyddhau. Hwynt hwy a ddanfonwyd allan gan yr Yspryd glân, i'r gorchwyl hwn, i'r hwn y galwyd hwynt. Act. 1.24. Rhu. 1.1. 2 Cor. 5.18. Act. 13.2.24. Tit. 1.5.

Ac y mae Crist yn rhoi gallu iw weinidogion i faddeu pechodau i'r edifeiriol, yn yr vnrhyw eiriau ac y mae efe yn dyscu i ni yngweddi yr Arglwydd ddymuno ar Dduw faddeu i ni ein pechodau: i siccrhau holl bechaduriaid ediferiol, fod Duw wrth ryddhâd ei weinidogion, trwy haeddedigaethau Crist yn cyflawn faddeu iddynt eu holl bechodau. Felly pa beth bynnac y mae Crist yn ei osod ar lawr yn y nef, in foro iudicij, yn llŷs y farn, yr vn peth y mae ef yn ei adrodd ar y ddaiar, trwy weinido∣gion ei gymmod in foro paenitentiae, yn llŷs edifeir∣wch. megis y cymododd Duw y byd ag ef ei hun trwy Iesu Grist, felly y darfu iddo ef (medd yr Apostol) roddi i ni wenidogaeth y cymmod hwn. 2 Cor. 5.18.

Yr hwn a'i danfonodd hwynt i fedyddio gan ddywedyd: ewch a dyscwch yr holl cenedloedd, gan eu bydyddio hwynt, &c. A'i danfonodd hwynt hefyd

Page 397

i ryddhau pechodau, gan ddywedyd, fel y danfon∣odd fy nhâd fi, felly yr wyf finneu yn eich danfon chwithau: pechodau pwy bynnag a ryddhaoch a rydd∣heuir iddynt. Ioan. 20.22.23. Megis gan hynny na ddichon neb fedyddio (er iddo arfer yr vn dwfr a'r geiriau) ond yn vnig y gweinidog cyfreithlawn, yr hwn a alwodd Crist ir swydd ddwywawl hon, ac y rhoddes iddo awdurdod ynddi: Heb. 5.4. Felly er gallu o eraill gyssuro â geiriau da, etto ni eill yr vn ryddhau oddiwrth bechod, ond yn vnig yr rhai y gorchymynnodd Crist y Weinidógaeth sanctaidd, a'i air o gymmod iddynt. 2 Cor. 2.10. ac 5.18. Ac am ei Absolusion hwynt, y mae Crist yn dywedyd, yr hwn ach gwrandawo chwi am gwrendy innau: Luc. 10.16. Mewn achos amheus di a ofynni gyngor i gyfreithiwr doeth: ymherygl clefyd di a ofynni gyfarwyddyd dy physygwr dyscedig: ac onid oes dim perygl mewn ofn damnedigaeth, i bechadur fod yn farnwr iddo ei hun?

Caluin ddyscedig sydd yn dangos y pwynt hwn yn dra-eglur: Etsi omnes mutuo nos debeamus con∣solari, &c. Medd ef, er bod yn ddyledus ini gyssuro a nerthu y naill y llall yn hyder trugaredd Dduw, etto yr ydym ni yn gweled fod y gweinidogion gwedi eu gorchymmyn ai hordeinio megis yn dystion, ac yn feichiau i sicrhau ein cydwybodau o faddeuant pe∣chodau: yn gymmaint ac y dywedir eu bod hwy yn rhyddhau pechodau, ac yn gollwng eneidiau yn rhy∣ddion. Cofied pob dŷn ffyddlawn gan hynny, y dylai efe (os bydd efe oddifewn wedi ei orthrymmu a'i gystuddio gan bwys ei bechod) nad esgluso y cym∣morth a'r ymwared y mae 'r Arglwydd yn ei gynnyg iddo ef, sef yw hynny wneuthur o honaw (er mwyn esmwythâu ei gydwybod) gyffes neillduol o'i bechodau wrth ei Fugail a deisyfu ei neillduol gynnorthwy ef, yn gyssur a diddanwch iw enaid: swydd yr hwn

Page 398

yw (yn gyhoeddus ac yn neillduol) weinidogaethu di∣ddanwch Efengylaidd i bobl Dduw.

Y mae Beza yn mawr ganmol yr arfer hon, A Luther yn dywedyd, mai gwell oedd ganddo ef golli miloedd o fydoedd, na chynnwys tafu cyffes neillduol allan or Eglwys. Yr oedd ein Eglwys ni erioed yn llwyr ymddiffyn y gwirionedd o'r athra∣wiaeth hon; ond yn dra-chyfion a ddiddymmodd yr Anghristnogawl gamarfer o'r babeidd glust∣gyffes, yr hon y maent hwy yn ei gymmell ar enei∣diau Cristianogion, megis aberth dyhuddol, a thâl haeddedigol am bechod: gan wascu eu cydwybo∣dau i gyffessu, pryd y byddont heb deimlad o gledi, ac i rifo eu holl bechodau, yr hyn sydd amhossibl; megis y gallont hwy yn y modd hyn wybod dirge∣lion pawb, yr hyn yn fynych sydd yn digwydd ei fod yn beryglus, nid yn vnig i'r gwerin, eithr i awdurdodau cyffredinol hefyd. Eithr gwirionedd gair Duw yw, na ddichon vn dŷn a gafas vrddau yn Eglwys Rufain rhyddhau pechadur yn vnion: O blegit agoriadau rhyddhâd neu absolution ydynt ddau: vn ydyw agoriad yr Awdurdod, a hwnnw yn vnig sydd eiddaw Crist; Datc. 3.7. Marc. 2.7. Luc. 5.21. Y llall ydyw agoriad y weinidogaeth, a hwn y mae ef yn ei roddi iw weinidogion ei hun, y rhai am hynny a elwir yn weinidogion Crist: Goruchwilwyr Dirgeledigaethau Duw: cennadau y Cymmod, Escobion, Bugeiliaid, Henuriaid, &c. Mat. 16.19. 1 Cor. 4.1. 2 Cor. 5.20. 1 Cor. 12.10. 1 Ioan. 4.1. Ier. 25.19. Ioan. 20. Mat. 27.4. Eithr nid ordeiniodd Duw erioed yn y Testa∣ment newydd, un offeiriadaeth i aberthu, ac nid yw yr enw Hiereus yr hyn yn briodol a arwyddocca Sacerdos sef offeiriad i aberthu, wedi ei roi ar vn swyddog i Grist yn yr holl Destament Newydd. Ac nid ydym ni yn darllain am yr vn a gyffessodd

Page 399

wrth offeiriad yn yr holl Destament Newydd, ond vn, a hwnnw oedd Iudas. Ac nid oes yr vn gwir offeiriad yn y Testament Newydd, ond Crist yn vnig. Ac nid oes vn rhan oi offeiriadaeth ef iw chwplau ar y ddaiar, ond yr hyn y mae ef yn ei gyflawni yn y nefoedd, trwy wneuthur cyfryngdod trosom ni. Heb. 7.15, 24, 27. Heb. 8.4. Wrth weled gan hynny nad ordeiniodd Crist vn drefn ar offeir∣iadau i aberthu: a bod yr offeiriadau pabaidd yn goeg ganddynt gael eu galw yn weinidogion yr Efen∣gyl, i'r rhai yn vnig y gorchymynnodd Crist ei a∣goriadau, y mae yn digwydd yn angenrheidiol na eill vn offeiriad pabaidd nac escymuno na rhyddhau vn pechadur yn vnion, ac nad oes iddynt ddim cy∣fiawnder cyfreithlawn i ymmyrryd ag agoriadau Crist. Eithr nid y camarfer Anghristnogawl o'r ordeinhad oruchel hon, a ddylai fwrw i lawr yr arfer gyfreithlawn o honi rhwng Cristianogion a'u Bugei∣liaid mewn cyflyrau o gystudd cydwybod, o her∣wydd yr hyn yr ordeiniwyd hi yn bennaf.

Ac mewn gwirionedd nid oes vnrhyw foddion mor odiaethol i ostwng calon falch neu i adcyfodi yspryd gostyngedig, ac ydyw yr ymddiddan yspry∣dol hwn rhwng y Bugeiliaid a'r bobl osodedig tan eu dwylaw hwynt. Os oes gan hynny vn pechod yn pwyso ar dy gydwybod, cyfaddef ef wrth weini∣dog Duw: gofyn ei gyngor ef, ac os gwir edifarhei, derbyn ei rhyddhâd ef. Ac yno nac ammau in foro conscientiae, sef yn llŷs dy gydwybod, na bydd dy bechodau wedi eu maddau yn ollawl ar y ddaiar, cystal a phe bait ti yn clywed Crist ei hun in foro iudicij, sef yn llŷs y farn yn adrodd maddeuant am danynt yn y nefoedd. Qui vos audit, me audit; yr hwn ach gwrandawo chwi, am gwrendy i. Luc. 10.16. Prawf hyn, a dywaid i mi oni chei di fwy

Page 400

o esmwythder yn dy gydwybod, nac a ellir ei adrodd mewn geiriau. Pe bai ddynion halogedig yn ysty∣ried Teilyngdod y galwedigaeth tra-vchel hwn, hwy a barchent y galwedigaeth yn fwy, ac a anrhydeddent y gwyr sydd ynddaw.

Fe wnai 'r clwyfus yn dda (wedi esmwythhau ei gydwybod, a derbyn ei ryddhâd a chael rhif addas o Gristianogion ffyddlawn i vno ag ef) dderbyn y Sâcrament sanctaidd o Swpper yr Arglwydd, iw gyssuro ef yn ei ffydd, ac i ddigalonni y cythraul yn ei ymgyrchau. O herwydd hyn y mae y gy∣manfa O Nîce yn galw y Sacrament hwn viaticum, sef llyniaeth yr enaid iw daith. Ac er bod Swpper yr Arglwydd yn orchwyl eglwysig, etto yn gym∣maint a darfod i'r Arglwydd (yr ordeinwr cyn∣taf) ei gyssegru mewn tŷ neillduol, Math. 16.18. a bod St Paul yn galw tâi Cristianogion yn Egl∣wysi i Grist: a bod Crist ei hun wedi addo fod yng∣hanol y ffyddlonniaid, lle byddo dau neu driwedi ym∣gynnull yn ei enw ef. Rhuf. 16.5. Philem. 2. Mat. 18.20. Ni welaf fi reswm, O bydd Cristi∣anogion yn deisyfu (pan fyddont mor glaf na allant ddyfod i'r Eglwys) Na allant dderbyn, ac na ddylai y Bugeiliaid weinidogaethu y Sacramentau iddynt gartref. Y mae ef yn dangos mwy o aneallgarwch na gwybodaeth, yr hwn sydd yn tybied fod hyn yn archwaethu o'r offeren neillduol: Canys yr offeren a elwir yn neillduol, nid o ran ei dywedyd mewn tŷ neillduol, ond o blegit (mal y mae Escob Iewel yn dyscu allan o Aquinas) bod yr ofleiriad yn derbyn y Sacrament ei hun heb ei gyfrannu i eraill, ac yno y mae yn neillduol, er bod yr holl blwyfolion yn bresennol, ac yn edrych arno. Y mae cymmaint o ragoriaeth rhwng y Cymmun hwn, a'r eulun An∣ghristnogawl o'r offeren neillduol, ac sydd rhwng nêf ac vffern. Oblegit yn y Cymmun mewn neill∣duol

Page 401

deulu ar y cyfryw achos digwyddedig, yr ydis yn dilyn ordinhad Crist: y mae llawer or brodyr ffyddlawn yn ymgyfarfod, yn aros y naill am y llall: yr ydis yn cofio marwolaeth Crist, ac yn ei dangos, ac y mae y Gweinidog gyd a'r ffyddlonniaid a'r dŷn clwyfus yn Cymmuno. Mae yr athro Caluin yn dywedyd, ei fod efe o ewyllys ei galon yn canni∣attau rhoddi 'r Cymmun ir rhai clwyfus pan fyddo 'r achos yn gofyn. Epist. 51. Ac mewn man arall y mae ef yn dywedyd, fod llawer o rysymmau trym∣mion yn ei gymmell ef, fel na allai naccau Swpper yr Arglwydd i'r claf. Epist. 36. Etto mi a ddy∣munwn ar yr holl Gristianogion ei dderbyn yn fyn∣ych yn eu hiechyd, yn enwedig unwaith bob mis efo 'r holl Eglwys. Canys yno ni fydd rhaid iddynt hwy gasclu eu cyfeillion ar y fath achos, na bod eu hunain mor gythrybledig eisiau y Cymmun. Canys fel y mae 'r Athro Perkins yn dywedyd yn rhago∣rol, nid yw ffrwyth a nerth y Sacrament i'w rwymo wrth yr amser y derbynier ef ynddo: eithr y mae yn ymestyn at yr holl amser o fywyd dyn a'r y fo yn ol: nerth yr hwn, pe bai ddynion yn ei gwbl ddeall, ni byddai raid moi mynych gynghori hwynt iw dderbyn.

Pastores omnes his exoratos vellem, vt in huius controuersiae statum penitius introspiciant; nec fide∣les ex hac vita migrantes, & panem vitae petentes, viatico suo fraudari sinant, ne lugubris in ijs adim∣pleatur lamentatio: Paruuli panem petunt, & non sit qui frangat eis. Lam. 4.4. Admonitio ad pa∣stores.

Yn gymraeg fal hyn: Mi a ddymunwn ar yr holl fugeiliaid edrych yn ystyriol ir ddadl hon, ac na adawont i'r rhai ffyddlon a fyddo yn myned o'r by∣wyd hwn, ac yn ceisio bara y bywyd, gael eu siommi am eu llyniaeth, rhag ofn i'r galarnad trist hwnnw

Page 402

gael ei gyflawni ynddynt hwy: sef y plant a ofynnant fara, ond nid oedd a dorrei iddynt, Galarn. 4.4.

Felly pan fyddo dŷn o fuchedd drygionus yn marw, fe a eill ddywedyd wrth Angau, mal y dy∣wedoedd Ahab wrth Eliah, A gefaist ti fi o fynge∣lyn? 2 Bren. 22.20. Ac o'r tu arall pan fyddis yn dywedyd i'r pechadur edifeiriol fod Angau yn curo wrth ei ddrws, ac yn dechrau edrych yn ei wyneb; efe a eill ddywedyd am angau mal y dywedodd Daefydd am Ahimaaz, Deled a chroesaw wrtho, o blegit y mae ef yn wr da, ac yn dyfod â newyddion da: efe yw cennad Crist, ac sydd yn dwyn i mi ne∣wyddion llawen o fywyd tragwyddol. Ac megis yr oedd y môr coch yn anoddyn i lyngcu yr Aiphtwyr i ddynystr, ac yn llwybr i'r Israeliaid iw tywys i feddiant gwlad Canaan. Felly y mae marwolaeth i'r drygionus yn geuffos i fyned i vffern a damnedi∣gaeth; ond ir duwiol yn borth i fywyd tragwyddol, ac i iechydwriaeth. Ac vn dydd o farwolaeth fendigedig, a wna iawn am holl flinderau bywyd chwerw.

Pan fŷch di gan hynny yn deall fod dy enaid yn ymadel a'th gorph, gweddia a'th tafod os gelli, ac oni elli, gweddia yn dy galon, ath feddwl y gei∣riau hyn, gan osod golygon dy enaid ar Iesu Grist dy Iachawdwr.

Gweddi wrth roddi yr Yspryd i fynu.

O Oen Duw, yr hwn trwy dy waed a dynnaist ymmaith bechodau y byd: trugarha wrthyf bechadur, Arglwydd Iesu derbyn fy Yspryd. Amen. Ioan. 1.29. Ast. 7.59.

Page 403

Pan fyddo y dŷn clwyfus yn ymadel a'r byd, yno eled y ffyddlonniaid a fyddo yn bresennol i lawr ar eu gliniau, i orchymmyn ei enaid i Dduw yn y geiriau hyn, neu 'r cyfryw.

O Rasusol Dduw a thrugaroccaf Dâd, yr hwn wyt yn noddfa a nerth i ni, a chymmorth hawdd ei gael mewn cyfyngder; dercha lewyrch dy wyneb yn gariadol yn hyn o bryd ar dy wâs, yr hwn sydd yn dyfod yr awrhon i ymddangos yn dy wydd: Golch ymmaith Arglwydd daionus, ei holl becho∣dau ef trwy haeddedigaethau gwaed Crist, fel nas rhodder hwynt fyth yn ei fauch. Chwanega ei ffydd, ymddiffyn a chadw ei enaid yn ddiogel rhag diafol ai holl Angelion diffaith. Diddana ef a'th làn yspryd, pâr iddo ef yn awr wybod mai ty di ydyw ei Dâd cariadol, ai fod efe yn fab i ti trwy Fabwys a Rhâd. Gwared o Grist Iesu, werth dy waed dy hun, a nâd iddo efe fod yn golledig, yr hwn a bry∣naist di mor werthfawr. Derbyn ei enaid, fel y derbynniaist di y lleidr edifeiriol i'th paradwys nefol. Gâd i'th Angelion sanctaidd ei ddwyn ef yno, megis y dygasant enaid Lazarus: a channiadhâ iddo adcofydiad llawen yn y dydd diwaethaf. O Dâd, eurglyw arnom trosto ef, a chlyw dy Fâb dy hun ein vnig Gyfryngwr, yr hwn sydd yn eistedd ar dy ddeheulaw, trosto ef a ninnau oll: er mwyn hae∣ddedigaethau y chwerw angau a'r dioddefaint, yr hyn a oddefodd efe drosom ni. Mewn diogel obaith o'r hyn, ni orchymynnwn ei enaid ef i'rh ddwy law tadol yn y weddi fendigedig, yr hon a ddyscodd ein Iachawdwr yn holl amser ein trallodau i ddywedyd wrthi.

Page 404

Ein Tàd yr hwn, &c.

Hyn yma am arfer duwioldeb wrth farw yn yr Arglwydd. Yma y canlyn yr arfer o dduwioldeb wrth farw tros yr Arglwydd, neu o achos yr Arglwydd.

YR Arfer o dduwioldeb wrth farw tros yr Argl∣wydd a gyfenwir Merthyrdod.

Merthyrdod ydyw y dystiolaeth, yr hon y mae Cristion yn ei ddwyn i athrawiaeth yr Efengyl, trwy ddioddef pob mâth ar farwolaeth: i wa∣hodd llaweroedd, i nerthu a chyd-ffurfio pawb i gofleidio ei gwirionedd. I'r fath ymma a'r farwolaeth y mae Crist yn addo coron: Bydd di ffyddlon hyd y diwedd ac mi a roddaf i ti goron y bywyd. Datc. 2.10. Yr addewid hon yr oedd yr Eglwys yn credu iddi gystal, megis y galwasant Fer∣thyrdod. ei hun yn Goron. A Duw, i annog Cristiano∣gion i fyned yn galonnog am y gynglwyst hon, a fynnai trwy ei ragwybodaeth, i Stephen y Merthyr cyntaf gael ei enw allan or gair Coron. [yn Ro∣eg.]

Y Mae tri rhywogaeth ar Ferthyrdod:

1. Sola voluntate, mewn ewyllys yn vnig, megis Ioan yr Efangylwr, yr hwn (wedi ei ferwi mewn pair llawn o olew) a ddaeth allan wedi ei cneinio yn hytrach nai ferwi, ac a fu farw o henaint yn Ephesus.

Page 405

2. Solo opere, mewn gweithred yn vnig, megis y gwirioniaid o Bethlehem. Mat. 2.

3. Voluntate & opere, yn gystal mewn ewyllys, a gweithred: Megis yn y Brif-Eglwys, Stephen, Poly∣carpus, Ignatius, Laurentius, Romanus, Antiochanus, a miloedd. Ac yn ein dyddiau ninnau Cranmer, Latimer, Hooper, Ridley, Farrar, Bradford, Phil∣pot, Sanders, Glouer, Taylor, ac ancirif o rai eraill: zêl cynnes y rhai hynny i wirionedd Duw, a'i dy∣godd i eirias-dân Merthyrdod, i selio ffydd Crist. 1 Pet. 2.19. Nid creulondeb y farwolaeth, eithr gwiriondeb, diniweidrwydd, a sancteiddrwydd yr achos sydd yn gwneuthur Merthyr. Ac nid yw cydwybod gyfeiliornus yn ddigon o achos i oddef Merthyrdod: oblegit gwybodaeth yng-Air Duw sydd raid i hyfforddi cydwybod ynghalon dyn. Canys yr rhai a laddasant yr Apostolion, yn, en cydwybodau cyfeiliornus oeddynt yn tybied fod yn gwneuthur gwasanaeth da i Dduw. A Phaul o zèl, oedd yn chwythu bygythiau, a chelanedd yn erbyn Seinctiau yr Arglwydd. Ioan. 16.2. Act. 9.1. Philip. 3.6. Yr awrhon pa vn a wna achos ein Offeiriaid a'n Myneich Rhufeiniaidd, a'i bod mor sanctaidd, vnion a diniweidiol, ac y gall ddiofalhau a siccrhau eu cydwybodau, i ddioddef marwolaeth ac î roddi pwys a goglyd eu tragwyddol iechydwria∣eth arni: Bydded Epistol St Paul at yr hên Rufe∣iniaid (eithr yn erbyn ein Rhufelniaid newyddion Anghristnogawl) yn farnwr. Ac fe ymddengys yn eglur, fod yr athrawiaeth, yr hon a ddyscodd St Paul ir hên Eglwys o Rufain, yn vnion yn y gwrth∣wyneb mewn 26 O sylfaenol byngciau gwir gre∣fydd, i'r hon y mae 'r Eglwys newydd o Rufain yn ei ddyscu a'i maentumio: Canys yr oedd St Paul yn dyscu y brif Eglwys o Rufain.

Page 406

1. Mai o râs Duw y mae ein etholedigaeth ni, ac nid ex praeuisis operibus, sef o'n gweithredoed rhag∣weledig. Rhuf. 9.11. Rhuf. 11.5.6.

2. Ein bod ni yn cael ein cyfiawnhau o flaen Duw trwy ffydd yn vnig, heb weithredoedd da, Rhuf. 3.20.28. Rhuf. 4.2. &c. Rhuf. 1.17.

3. Nad yw gweithredoedd da yr adgenedledig ou teilyngdod eu hunain yn haeddedigol, sef yn gy∣fryw ac a ddichon haeddu y nefoedd. Rhuf. 8.18. Rhuf. 11.6. Rhuf. 6.23.

4. Mai y llyfrau hynny yn vnig ydynt ymadroddion Duw, a'r Scrythur Awdurdodol yr rhai a dra∣ddodasid i gadwraeth, ac i ymddiried yr Iuddewon. Rhuf. 3.2. ac 1.2. ac 16.16. yr Apochrypha nid ydoedd gyfryw.

5. Fod yr Scrythyrau Sanctaidd gyd a'g Aw∣durdod Duw. Rhuf. 9.17. ac 3.4. ac 11.32. yn cyttuno â Gal. 3.22. Am hynny vwchlaw Awdur∣dod yr Eglwys.

6. Fod yn rhaid i bawb yn gystal gwyr llŷg a gwyr llên, ar a fynno fod yn gadwedig, fynych ddarllain a gwybod yr Scrythyrau Sanctaidd yn hyspys, Rhuf. 15.4. ac 10.1.2.8. ac 16.26.

7. Fod yr holl Luniau a wneler o'r gwir Dduw, yn ddelwau llygredig. Rhuf. 1.23. ac 2.22. iw cydsynnied.

8. Nad yw plygu y glîn yn grefyddol o flaen delw, neu addoli vn creadur, ond gwir ddelw∣addoliaeth, Rhuf. 11.4. a gwasanaeth celwyddog. Rhuf. 1.25.

9. Na ddylem ni weddio at neb ond at Dduw yn vnig, yn yr hwn yr ydym ni yn Credu. Rhuf. 10.13.14. ac 8.15.27. Am hynny nid at Seinctiau nag Angelion.

10. Mai Crist ydyw ein vnig Gyfryngwr yn y nefoedd, Rhuf. 8.34. ac 5.2. ac 16.27.

Page 407

11. Nad yw aberth Cristianogion ddim arall, ond ysprydol aberthu eu heneidiau a'i cyrph i wasanaethu Duw mewn sancteiddrwydd, a chy∣fiawnder. Rhuf. 12.1. ac 15.16. Am hynny nid oes wir aberthiad ar Grist yn yr Offeren.

12. Fod yr addoliad duwiol yr hwn a elwir doulia yn gystal a latria yn perthynu i Dduw yn vnig. Rhuf. 1.9. ac 12.11. ac 16.18. iw cydsyn nied.

13. Fod yr holl Gristianogion i weddio at Dduw yn eu Tafodiaith eu hun Rhuf. 14.11.

14. Nad oes genym ni o honom ein hunain mewn cyflwr llygredigaeth, ewyllys rhydd at ddaioni. Rhuf. 7.18. &c. ac 9.16.

15. Fod trachwant yn yr adgenedledig yn bechod. Rhuf. 7.7.8.10.

16. Nad yw y Sacramentau yn rhoddi grâs ex opere operato, or gwaith gwneuthure∣dig, eithr maent yn arwydd ac yn insel fod y grâs wedi ei roddi yn barod i ni. Rhuf. 4.11.12. ac 2.28.29.

17. Y dichon pob Cristion vnion gredadwy yn y byd hwn fod yn ddiogel o'i iechydwriaeth. Rhuf. 8.9.16.35. &c.

18. Na ddichon vn dyn yn y bywyd hwn yn ôl cwymp Adda berffaith gyflawni gorchymynnion Duw. Rhuf. 7.10. &c. Rhuf. 3.19. &c. Rhuf. 11.32.

19. Fod gosod crefydd mewn rhagoriaeth a'r fwydydd neu ddyddiau, yn ddelw-addoliaeth. Rhuf. 14.3, 5.6, 17, 23.

20. Mai cyfiawnder cy frifol Crist, ydyw yr vnig beth sydd yn ein gwneuthyd ni yn gyfiawn o flaen Duw. Rhuf. 4.9, 17, 23,

21. Fod cnawd Crist wedi ei wneuthur o hâd

Page 408

Dafydd: nid o afarlladen trwy draws-sylweddiad. Rhuf. 1.3.

22. Fod yr holl wir Gristianogion yn Seinctiau, ac nid yr rhai y mae 'r Pâb yn eu cyssegru, Rhuf. 1.7. Rhuf. 8.27. ac 15.31. ac 16.2. ar 15. ac 15.25.

23. Mai ipse efe Crist, Duw yr dangneddyf: ac nid ipsa hi y Forwyn a yssygai ben y Sarph. Rhuf. 16.20.

24. Fod yn rhaid i bob enaid o gydwybod, fod yn ostyngedig a thalu teyrnged i'r Awdurdodau goru∣chel, hynny yw i'r swyddogion yr rhai sydd yn dwyn y cleddyf. Rhuf. 13.1.2. &c. Ac am hynny mae 'n rhaid ir Pâb, ac ir holl Breladiaid, fod yn ostyn∣gedig iw Emerodrwyr, Brenhinoedd, au Pennae∣thiaid, onis mynnant ddwyn damnedigaeth ar eu heneidiau, megis Bradychwyr, y rhai a wrthwyne∣bant Dduw a'i Ordeinhâd ef. Rhuf. 13.1.

25. Mai Paul (ac nid Petr) a ordeiniwyd trwy râs Duw i fod yn brif Apostol i'r cenedloedd, ac felly yn ddigwyddedig i Rufain prif Ddinas y cened∣loedd: Rhuf. 15.15.16.19.20. &c. Rhuf. 11.14. ac 16.4.

26. Y dichon Eglwys Rufain gyfeiliorni, a chw∣ympo ymmaith oddiwrth y gwirionedd, cystal ac Eglwys Ierusalem, neu vn Eglwys neillduol arall. Rhuf. 11.20.21.22.

A chan weled fod yr Eglwys newydd-godiad o Rufain, yn yr rhain, ac mewn aneirif o byngciau craill, yn dyscu y gwrthwyncb yn vnion ir hyn a ddyscodd yr Apostol i'r Eglwys gyntaf o Rufain: Barned Duw ar llythyr hwn rhyngddynt hwy a ninnau, pwy o honom sydd yn sefyll yn y wir hên ffydd Gatholic, yr hon a ddyscodd yr Apostol i'r hên Rufeinaid. Ac oni wnaethom ni yn dda ymadel ag hwynt hwy, cyn belled ac y darfu iddynt hwy∣thau ymadel ag athrawiaeth yr Apostol? A pha

Page 409

vn orau a'i dychwelyd at wirionedd St Paul, ai aros yn oesdadol yn ymryfussedd Rhufain? ac os yw hyn yn wir, yna cymmered y mynachod a'r offeiriaid pabaidd ofal, ac arswydant, rhag ofn nad yw hi ffydd, ond tynnach, na gwirionedd, ond bradwri∣aeth, na chrefydd, ond gwrthryfel, (yn dechrau wrth yr afon Tiber, ac yn diweddu wrth y pren teircaingc a elwir Tibwrn) yr hyn yw achos eu mar∣wolaeth hwynt. A chwedi eu hanfon o ymrysongar fangre gwrthgiliog, yn hytrach nac o eisteddle Appostolaid tanghneddefus; o ran nas gallant hwy gael eu cynnwys i hudo deiliaid i dorri eu llyfau, a thynnu eu hyfydd-dod oddiwrth eu Brenin, i gyfodi gwrthryfel, i ennyn difrodiaeth, i frathu ac i wenwyno Brenhinesau, i lâdd ac i lofruddio Bren∣hinoedd, i chwythu i entrych awyr holl Bennae∣thiaid y deyrnas â Phowdwr gwn: Y maent hwy yn taflu eu cyrph eu hunain, yn ddibris iw crogi, ac iw dihenyddio yn aelodau: (au heneidiau yn gadwedig, os perthynant i Dduw,) yr wyf yn dymuno y cyfryw anrhydedd i holl Seinctiau y neb sydd yn eu hanfon hwynt. Ac y mae i mi achos gyfiawn i ofni, na ddichon gwrthiau dwy Arglwyddes Lypsius, Bachgen Blunston, gwelld Garnet, a phedog danllyd y Morwynion gadw mor gwyr hyn yn ddiangol, ac yn ddi-euog o fod yn llofruddiaid iddynt eu hunain, yn hytrach nac yn Ferthyron i Grist.

A pha fâth ar gydwybod y gall vn pabist alw Garnet yn Ferthyr, pryd yr oedd ei gydwybod ei hun yn ei drechi efe i gyfaddef, mai am fradwriaeth ac nid am grefydd yr oedd efe yn marw? Ond os yw osseiriadau y fath Efengyl Bowdwr gwn yn Ferrhyron, y mae yn rhyfedd gennyf fi pwy a ddi∣chon fod yn llofruddion? Os ydynt hwy yn Sein∣ctiau, pwy ydynt Scithiaid? A pha rai ydynt Ganibaliaid, os hwynt hwy ydynt Gatholiccaid?

Page 410

Ond gan adael yr rhain, os mynnant fod yn fudr, i aros yn ei budreddi yn oesdadol, gadewch i ni (i ffyddlondeb yr rhai y gorchymynnodd yr Arglwydd ei wir ffydd, megis depositum, sef trysawr gwerth∣fawr, 1 Tim. 6.20.) weddio ar Dduw, ar allael o honom ni arwain bywyd sanctaidd, cyfattebol i'n ffydd sanctaidd, mewn Duwioldeb tu ag at Grist, ac vfydd-dod at ein Brenin: Dihar. 24.21. 1 Pet. 2.17. Mal os ein Iachawdwr a'n cyfrif ni fyth yn deilwng o'r anrhydedd honno, i ddioddef Mer∣thyrdod er mwyn yr Efengyl, pa vn bynnac a'i trwy losci yn gyhoeddus, megis yn nyddiau y Fren∣hines Mari, a'i trwy gael ein llofruddio yn ddirgel, megis yn nhŷ 'r Inquisition sef yr holiad, neu i oddef ein cigyddio yn gelaneddau megis yn y gosper ym Mharis: neu i gael ein chwythu i fynu gan bowdr gwn, megis i'r amcanwyd i lŷs y Parlement: y gallom ni gael y grâs i weddio am gynnorthwy ei lân Yspryd, i nerthu ein gwendid, ac i ymddiffyn ei achos ef: megis y bôm ni yn selio a'n marwolae∣thau y gwirionedd Efangylaidd, yr hwn yr ydym ni yn ei addef yn ein bywyd. Megis y byddom holl ddyddiau ein bywyd yn fendigedig trwy ei air ef, yn nyddiau ein marwolaeth yn fendigedig yn yr Arglwydd; ac y nydd y farn yn fendigedig gan ei Dâd ef, Canniadhâ hynny Arglwydd Iesu. Amen. Luc. 11.28. Datc. 14.13. Mat. 25.34. Dad. 22.20.

Page 411

Ymddiddan hyfryd rhwng yr enaid ai Iachawdwr, ynghylch haeddedig aethau ffnythlawn ei ddiodde∣faint cystuddiol ef.

Yr Enaid.

ARglwydd pa ham y golchaist di draed dy ddis∣cyblion?

Crist. I ddyscu i ti pa fodd y mae iti dy baratôi dy hun i ddyfod i'm Swpper i.

En. Arglwydd pa ham y golchit ti hwynt dy hunan? Ioan. 13.14.

Cri. I ddyscu i ti ostyngeiddrwydd os mynni di fod yn ddiscybl i mi.

En. Arglwydd pa ham y darfu i ti o flaen dy farwolaeth, osod allan dy Swpper diwaethaf? Luc. 22.19.

Cri. Fel y gellit ti gofio yn well fy marwolaerh i, a bod yn ddiogel fod yr holl haeddedigaethau a darddodd o honi yn eiddot ti.

En. Arglwydd pa ham yr a'it ti i'r fâth le ac y gallai Judas gael gafael arnat? Ioan. 18.4.

Cri. Fel y gellych ti wybod fyned o honof fi mor cwyllysgar i ddioddef am dy bechod di, ac yr aethost ti erioed i gyfle yn y byd i wneuthur pe∣chod.

En. Arglwydd pa ham y dechreuaist ti dy ddio∣ddefaint mewn Gardd? Ioan. 18.1.

Cri. O Blegid mai mewn Gardd y cafas dy be∣chod ti ei ddechreuad gyntaf. Gen. 3.3.

En. Arglwydd pa ham y darfu i'th tri etholedig discybl gwympo yn eu trwm gwsc, pan oeddit ti yn dechrau mynod i'th lychwys ath boen? Mat. 26.40.

Page 412

Cri. I ddangos mai fy fi fy hunan a weithredoedd orchwyl dy Brynedigaeth di. Esa. 63.5.

En. O Arglwydd pa ham yr ydoedd cynifer o ddichellion ac o faglau wedi eu gosod am danat ti? Mat. 26.4.

Cri. Fel y gallwn i dy waredu di o holl faglau yr heliwr ysprydol. Psal. 92.3.

En. Arglwydd pa ham y gydewit ti i Judas (oedd yn dy fradychu) dy gusanu? Math. 26.40.

Cri. Megis trwy oddef geiriau gwefusau twy∣llodrus, y gallwn yno ddechrau talu iawn am bechod, lle y dygasai Satan ef gyntaf i'r byd. Gen. 3.4, 5.

En. Arglwydd pa ham y mynnit ti dy werthu am 30 o ddarnau arian. Math. 27.3.

Cri. Fel y gallwn ni dy ryddhau di o gaethiwed tragwyddol.

En. Arglwydd pa ham y gwaeddaist ti trwy y fâth lefain cryf a dagrau? Math. 26.39.

Cri. Fel y gallwn i ddiffoddyd creulondeb cy∣fiawnder Duw, yr hwn oedd mor danbaid wedi ei ennyn yn dy erbyn di

En. O Arglwydd pa ham yr oeddyt ti mor ofnus, ac ith daflwyd i'r fath chwys o ddefnynnau gwaed∣lyd?

Cri. Mal gan ddioddef y digofaint dyledus i'th pechodau di, y gellit ti fod yn fwy diofal yn dy farwolaeth, a chael mwy o gyssur yn dy wrthwyne∣bion.

En. Arglwydd pa ham y gweddiaist di mor fyn∣ych, ac mor ddifrifol, am fyned or cwppan hwnnw oddiwrthit? Math. 26.39, 42, 44.

Cri. Fel y gellit ti ddeall echryslonrhwydd y felldith honno a'r digofaint, yr hon er ei bod yn ddyledus i'th bechodau di, yr oeddwn i y pryd hynny yn ei vfed, ac yn ei oddef trosot. Gal. 3.13.

Page 413

En. Arglwydd pa ham y darfu i ti ar ol dy ddymuniad, ostwng dy ewyllys dy hun at ewyllys dy Dad?

Cri. I ddyscu i ti pa beth a ddylit ti ei wneuthur yn dy holl flinderau: ac mor fodlon y dylyt ti ymroi i oddef trwy ammynedd y gwrthwyneb, yr hyn a weli di ei fod yn dyfod oddiwrth law gyfiawn dy Dâd nefol.

En. O Arglwydd i ba beth y chwysais di ddagrau o ddyfr a gwaed? Luc. 22.44.

Cri. Fel y gallwn i dy lanhau di oddiwrth dy feiau duon a'th anafau gwacdlyd.

En. O Arglwydd pa ham y mynnit ti dy ddal, pryd y gallesit ti ddiangc gan dy elynion? Luc. 22.51, 54.

Cri. Fel na chai dy elynion ysprydol moth ddala di a'th taflu i garchar, i'r tywyllych eithaf. Mat. 5.25.

En. Arglwydd pa ham y mynnit ti i'th holl ddis∣cyblion dy adael, a ffòi ymaith? Mat. 26.56.

Cri. Fel y gallwn ni dy gymmodi di â Duw, gan yr hwn yr oeddit tithau yn cael dy adael am dy bechod.

En. Arglwydd pa ham yr oeddyt ti yn sefyll dy hunan i gael dy ddala? Ioan. 18.8.

Cri. I ddangos i ti fod ynghariad i i'th iechy∣dwriaeth di, yn fwy na chariad fy holl ddiscy∣blion.

En. Arglwydd pa ham y cafas y gwr ieuangc ei ddal gan y milwyr, ai diosc o'i liain: yr hwn a ddae∣thai oi wely wrth glywed y trwst oedd wrth dy ddala a'th ddwyn at yr Archoffeiriad? Mar. 14.51, 52.

Cri. I ddangos eu creulondeb hwy yn fy llindagu i, am gallu innau yn gwareda fy holl ddiscyblion allan o'i dwylaw creulon hwynt, yr rhai oni buasai

Page 414

hynny, a gawsent eu trin yn waeth ganddynt hwy, nag y triniwyd y gwr ieuangc hwnnw.

En. Arglwydd pa ham y mynnit ti dy rwymo? Mat. 27.2.

Cri. Fel y gallwn ddattod rhaffau dy anwire∣ddau di.

En. Arglwydd pa ham y gwadodd Petr dy di? Luc. 22.57.

Cri. Fel y gallwn dy gyfaddef di o flaen fyn Nhâd, ac fel y gellit ti ddyscu nad oes dim ym∣ddiried mewn dŷn, a bod iechydwriaeth yn deilliaw yn vnig o'm trugaredd i.

En. Arglwydd pa ham y dygaist di Petr i edi∣feirwch, trwy ganiad y ceiliog? Luc. 22.60.

Cri. Fel na byddai i neb ddirmygu y moddion a ordeiniwyd iw troad, er gwaeled y byddont iw gwe∣led.

En. Arglwydd pa ham y darfu i ti ar ganiad y ceiliog droi ac edrych ar Petr? Luc. 22.62.

Cri. Fel y gellych ti wybod, heb gynnorthwy fy∣ngrâs i, na ddichon vnrhyw foddion droi pecha∣dur at Dduw, wedi iddo ef vnwaith gwympo oddi∣wrtho ef.

En. Arglwydd pa ham yr oeddyt ti wedi dy ym∣wisco mewn gwisc o borphor? Ioan. 19.5.

Cri. Fel y gellych ti ddeall mai fy fi ath lan∣hâodd di oddiwrth dy bechodau gwaedlyd. Esay, 1.8.

En. Arglwydd pa ham y mynnit ti dy goroni â drain? Math. 27.29.

Cri. Mal gan wisco drain, blaen ffrwythau y felldith, y byddai yn eglur, mae fy fi sydd yn tynnu ymmaith y pechodau a'r felldith o'r byd, ac yn dy goroni di â choron y bywyd a'r gogoniant. Datc. 2.10. 1 Pet. 5.

Page 415

En. Arglwydd pa ham y rhoddwyd corsen yn dy law di? Mat. 27.29.

Cri. Fel y byddai yn eglur na ddaethym i dorri y gorsen yssig. Mat. 12.20.

En. Arglwydd pa ham y gwatworwyd dydi gan yr Iddewon? Mat. 27.29.

Cri. Fel y gellit ti orfoleddu ar gythreuliaid, y rhai oni bai hynny, a fuasent yn dy watwor di, megis y darfu i'r Philistiaid a Sampson. Barn. 16.25.

En. Arglwydd pa ham y mynnit ti halogi dy fen∣digedig wyneb â phoer? Mat. 26.67.

Cri. Fel y gallwn lanhau y wyneb di oddiwrth gywilydd pechod.

En. Arglwydd, pa ham y cuddiwyd dy wyneb di â gorchgudd? Mar. 14.65.

Cri. Fel, gan ddwyn ymmaith dy ddallineb ysprydol di, y gellit ti ganfod wyneb fy Nhâd, yn y nefoedd.

En. Arglwydd pa ham i'th tarawsant di â dyr∣nau, ac i'th pwyasant di âffynn? Mat. 27.30.

Cri. Fel y gellit ti fod yn ddiangol oddiwrth ddyrnodiau, a rhwygiadau yr ysprydion vffer∣nol.

En. Arglwydd pa ham y mynnit ti dy gablu? Mat. 27.39.

Cri. Fel y gallai Dduw adrodd tanghnedd yf wrthit ti trwy ei air a'i yspryd.

En. Arglwydd pa ham y rhodded cleisiau ar dy wyneb â chernodiau gwaedlyd? Ioan. 19.3. Esay, 53.2.

Cri. Fel y tywynnai dy wyneb di yn ogoneddus, megis Angel yn y nefoedd. Mat. 13.13, ac 22.30.

En. Arglwydd pa ham y mynnit ti dy fflangellu mor greulon? Joan. 19.1.

Page 416

Cri. Fel y gellit ti fod yn ddiangol oddiwrth frâth cydwybod, ac oddiwrth fflangellau poenau tragwyddol.

En. Arglwydd pa ham y mynnit ti dy ddwyn yn rhwym i'th gyhuddo ger bron Brawdle Pilat. Math. 27.12.

Cri. Fel y gellyt ti yn y dydd olaf gael dy rydd∣hau ger bron fyngorseddfaingc i.

En. Arglwydd pa ham y mynnit ti dy gyhuddo ar gam? Luc. 23.2.

Cri. Fel na chait ti moth euog farnu yn gy∣fiawn.

En. Arglwydd pa ham y traddodid tydi i'th euog farnu gan Farnwr dieithr. Mat. 27.13.

Cri. Fel y gellit ti wedi dy waredu o gaethiwed y gormes deirn vffernol, gael dy roi yn ol i Dduw, eiddaw yr hwn oeddit o gyfiawnder.

En. Pa ham y darfu i ti gydnabod, fod awdur∣dod i Pilat arnat ti, wedi ei ddodi oddi-uchod? Ioan. 19.11.

Cri. Fel na chai yr Anghrist trwy liw o'i fod yn Ficar i mi, ei dderchafu ei hunan vwchlaw pob gallu, a thywysogaethau. Tit. 3.1. 1 Pet. 2.13.14. Rhuf. 13.1.

En. Arglwydd pa ham y dioddefaist di dy arch∣ollion dan Pontius Pilatus, yr hwn ydoedd bennaeth o Rufeiniwr dan Caesar o Rufain.? Luc. 23: 1.2.

Cri. I ddangos mai dichellgar lywodraeth y Caesa∣riaid a'r Escobion o Rufain, a brif erlidai fy Eglwys, ac am croeshoelie i yn fy aelodau. Dad. 11.8, ac 17, 5, 6, 24.

En. Eithr pa ham O Arglwydd y mynnit ti dy gondemnio? Ioan. 19.16. Luc. 23.23.

Cri. Megis y byddai y gyfraith wedi ei chon∣demnio

Page 417

ynof fi, mal na ellid mo'th condemnio di trwyddi hi. Rhuf. 8.3.

En. Ond pa ham y mynnit ti dy gondemnio, pryd na allent brofi dim yn dy erbyn di? Joan. 19.6. Math. 27.24.

Cri. Fel y gellit ti wybod nad am fy mai fy hun, eithr mai trosot ti y dioddefais i.

En. Arglwydd pa ham i'th arweiniwyd ti allan o'r ddinas i ddioddef? Mat. 27.33. Heb. 13.12.

Cri. Fel y gallwn i dy ddwyn di i'r ddinas nefol i orphywys.

En. Arglwydd, pa ham y darfu ir Iddewon beri i Simon o Cirêne yr hwn oedd yn dyfod o'r maes, ddwyn dy groes di? Luc. 23.26.

Cri. I ddangos y gwendid i'r hwn y darfu i bwys dy bechodau di fy nwyn i: a pha ryw gyflwr fydd i bob Cristion, yr hwn sydd yn myned o faes y bŷd yma tu ag at Ierusalem nefol.

En. Arglwydd pa ham i'th ddinoethwyd o' th ddillad? Ioan. 19.23.

Cri. Fel y gellych di weled fel y darfu i mi yma∣del ar cwbl i'th prynu di.

En. Arglwydd pa ham y mynnit ti dy godi ar Groes? Luc. 23.

Cri. Fel y gallwn dy gyfodi di gyd â myfi i'r nef.

En. Arglwydd pa ham y mynnyt ti dy grogi ar bren melldigedig?

Cri. Fel y gallwn dalu iawn am y pechod a wneuthid ti wrth fwyta ffrwyth y pren gwahardde∣dig: Gen. 2.17.

En. Arglwydd pa ham y mynnyt ti grogi rhwng dau o ladron? Luc. 23.53.

Cri. Fel y gellit ti (fy anwyl enaid) gaell lle ym mhlith yr Angelion sanctaidd.

Page 418

En. Arglwydd pa ham yr hoeliwyd dy draed ath ddwylaw wrth y groes? Psal. 22.16. Joan. 20.25.

I roi rhydd-did i'th ddwylaw di i wneuthur gwe∣ithredoedd cyfiawnder, ac i roi dy draed yn rhydd i rodio mewn ffyrdd tanghneddyf.

En. Arglwydd pa ham y darfu dy groeshoelio yn Golgotha, lle 'r oedd pen-glogau y gwyr meirwon. Mat. 27.33.

Cri. Ith siccrhau di fod fy marwolaeth i yn fywyd ir marw.

En. Arglwydd pa ham na rannai y milwyr dy bais ddi-wniad? Ioan. 19.24.

Cri. I ddangos mai vn yw fy Eglwys heb rwyg anghydfod.

En. Arglwydd pa ham y darfu i ti archwaethu finegr yn gymmyscedig â bustl? Mat. 27.34.

Cri. Fel y gellit ti gael bwyta bara Angelion, ac yfed dwfr y bywyd.

En. Arglwydd pa ham y dywedaist ti ar y groes fe a'i gorphenwyd? Ioan. 19.30.

Cri. Fel y gellit ti wybod, fod y gyfraith wedi ei chyflawni trwy fy marwolaeth i, a'th iechyd∣wriaeth dithau wedi ei weitredu. Rhuf. 10.4. 2 Cor. 3.13.

En. Arglwydd pa ham y darfu i ti lefain allan ar y groes, fy Nuw fy Nuw, pa ham i'm gadewaist? Math. 27.46.

Cri. Rhag i ti wedi dy wrthod gan Dduw, gael dy fwrw allan i lefain ym mhoenau vffern, gwae ac och yn dragwyddol.

En. Arglwydd pa ham yr oedd y fath dywyllwch mawr cyffredinol, pryd yr oeddit ti yn dioddef ac yn llefain ar y groes? Mat. 27.45.

Cri. Fel y gellit ti weled cyffelybiaeth o'r poenau vffernol, a ddioddefais i i'th waredu di o boenau

Page 419

didrangcedig vffern, ac o gadwynau tywyllwch trag∣wyddol. 2 Pet. 2.4. Jude. 4.

En. Arglwydd pa ham y mynnit ti hoclio dy frei∣chiau ar led?

Cri. Fel y gallwn dy gefleidio di yn garediccach, fy enaid anwyl.

En. Arglwydd pa fodd y darfu i'r lleidr ni wnae∣thai ddaioni erioed o'r blaen, ynnill paradwys ar y cyfryw edifeirwch byrr? Luc. 23.43.

Cri. Fel y gellych di weled gallu fy marwolaeth i, yn maddau i'r rhai a edifarhâo, megis na byddo rhaid i vn pechadur anobaithio.

En. Arglwydd pa ham na chai y lleidr arall, yr hwn ocdd yn crogi cyn agossed ac yntau attat, feddiannu yr vnrhyw drugaredd? Luc. 23.39.

Cri. Am fy mod i yn gadael yr rhai a fynnwyf fi iw caledu eu hunain yn eu drygioni i ddinistr, fel y byddo i bawb ofni, ac na ryfygo neb. Rhuf. 9.18, 22.

En. Anglwydd pa ham y darfu i ti lefain á'r fath lef vchel, yn rhoddi yr yspryd i fynu? Mat. 26.50.

Cri. Fel i'r ymddangosai na ddygodd neb mom henioes i oddiarnaf, eithr rhoddi o honof fi hon ar lawr o honof fy hunan. Ioan. 10.18.

En. Arglwydd pa ham y darfu i ti orchymmyn dy enaid i ddwylaw dy Dád? Luc. 23.49. Joan. 13.1.

Cri. I ddyscu i tithau pa beth a ddylit ti ei wneuthur wrth ymadel ar bywyd hwn.

En. Arglwydd pa ham y rhwygwyd llenn y deml yn ddwy wrth dy farwolaeth? Mat. 27.51.

Cri. I ddangos na chai ddeddf y lefitiaid fod mwyach yn ganolgae terfyn rhwng yr Iddewon a'r cenedloedd: a bod y ffordd i'r nefoedd yr awrhon

Page 420

yn agored i bawb a gredant. Eph. 2.14. Hebr. 10.19.20.

En. Arglwydd pa ham y crynodd y ddaiar ac ir holldodd y meini wrth dy farwolaeth di?

Cri. O arswyd iddi ddal ei Harglwydd iw far∣wolaeth, ac i annod creulon galedwch calonnau pe∣chaduriaid.

En. Arglwydd pa ham na thorrai y milwyr dy esgeiriau, fel y gwnaethant ir lladron yr rhai oeddynt yn crogi o'th ddeutu?

Cri. Fel y gellit ti wybod, nad oedd iddynt allu i wneuthur dim ychwaneg i mi, nac a rag-ddywe∣dasai yr Scrythur y gwnaent, ac a ddioddefwn innau, i'th waredu di. Exod. 12.46. Psal. 34.21. Zech. 12.10.

En. Arglwydd pa ham y gwahanwyd dy ysdlys â gwaiwffon?

Cri. Fel y gellit ti gael ffordd i ddyfod yn ne∣gossach at fy nghalon.

En. Arglwydd i ba beth y rhedodd y dwfr ar gwaed allan oth fendigedig ystlys? Joan. 19.34.

Cri. I siccrhau i ti fy lladd i, mewn gwirionedd, gan fod gwaed fynghalon yn ffrydio allan, a'r dwfr yr hwn oedd o amgylch fynghalon yn pistyllio ar ei ol: yr hwn pan y tywallter vnwaith y mae 'n an∣genrhaid i ddyn farw.

En. Arglwydd, pa ham y rhedodd y gwaed o'r neilltu yn gyntaf ar dwfr a'r ol hynny or neilltu yntau, allan o'th fendigedig archoll.

Cri. I'th siccrhau di o ddau beth: 1. mai trwy dywalltiad fyngwaed i, y gweithredwyd cyfiawnhâd a sancteiddiad i th waredu di. 2. mae fy yspryd i, trwy gydwybodus arfer o'r dwfr yn y Bedydd, ar gwaed yn y Cymmun, a weithreda ynot ti gyfiawn∣der a sancteiddrwydd, trwy yr hyn y cai di fyngo∣goneddu i. 1 Joan. 5.6.

Page 421

〈1 page duplicate〉〈1 page duplicate〉

Page 422

〈1 page duplicate〉〈1 page duplicate〉

Page 421

En. Arglwydd pa ham y darfu i'r beddau agori wrth dy farwolaeth? Mat. 27.52.

Cri. I arwyddoccau, fod Angau trwy fy mar∣wolaeth i, wedi cael ei friw angauol ai orchfygu.

En. Arglwydd pa ham y mynnyt ti gael dy gla∣ddu? Mat. 27.60.

Cri. Fel na allai dy bechodau di fyth gyfodi i fynu yn y farn yn dy erbyn di.

En. Arglwydd pa ham y mynnyt ti y fâth ddau Henuriaid anrhydeddus, sef, Nicodemus, a Joseph o Arimathea, ith claddu? Joan. 19.40.

Cri. Fel y byddai y gwirionedd o'm marwo∣laeth i (yr achos oth fywyd di) yn eglurach yn ym∣ddangos i bawb oll.

En. Arglwydd pa ham i'th claddwyd mewn bedd newydd yn yr hwn ni roddasid dŷn erioed or blaen? Joan. 19.41.

Cri. Fel y byddai yn eglur, mai fy fi ac nid neb arall a gyfododd: ac mai trwy fy nerth fy hun, ac nid trwy rinwedd neb arall, mal yr hwn a adfy∣wiodd wrth gyffwrdd ag escyrn Elisha.

En. Arglwydd pa ham y darfu i ti gyfodi dy gorph drachefn? Mat. 28.6.

Cri. Fel y gellit ti fod yn ddiogel o fod dy be∣chodau gwedi eu rhyddhau, ath fod dithau wedi dy gyfiawnhau. Rhuf. 4.25.

En. Arglwydd pa ham y darfu i gynifer o gyrph y Sainct yr rhai a hunassent, gyfodi wrth dy adoyfodiad di. Mat. 27.52.

Cri. I roddi hysbysrwydd, yr adcyfoda holl gyrph y Sainct, trwy rinwedd fy adcyfodiad i yn y dydd diweddaf. Act. 17.31.

En. Arglwydd pa beth a roddaf i ti am dy holl ddoniau hyn? Psal. 116.11.

Cri. Câr dy Greawdr, a bydd yn greadur new∣ydd. Gal. 6.17.

Page 422

Yr Enaid yn draserchog wrth fyfyrio ar ddiodde∣faint ei Arglwydd yn treuthu wrtho ei hunan.

PA beth a wnaethost di, O fy Iachawdwr hy∣fryd, am tra-fendigedig waredydd? pryd y bradychodd Iudas ty di, i'th werthwyd i'r Iddewon, i'th ddaliwyd, megis drwgweithredwr, ac ith arwei∣niwyd yn rhwym mal Oen i'r lladdfa? Pa ddrygioni a wnaethit ti, y byddai raid i ti fel hyn yn gyhoeddus gael dy farnu, ath cyhuddo ar gam, ath euogfarnu i farw yn anghyfiawn ger bron Annas a Chaiaphas, Osseiriadau Iddewaidd, a cher bron brawdle Pilat Pennaeth o Rufeinydd? Pa beth oedd dy fai? neu i bwy erfoed y cynnygiaist di gam? fel y byddai raid i ti 〈◊〉〈◊〉 hyn yn dosturus gael dy guro â fflangellau, dy gy•••••••• â drain, dy fingammu a gwatworgerdd, dy gablu â geiriau, dy gernodio â dyrnau, dy bwyo â ffynn? O Arglwydd pa wedd yr haeddaist di gael dy fendigedig wyneb wedi ei ddis-boiri trosto, ac megis wedi ei guddio â chywilydd? cael rhannu dy ddillad, ath ddwylaw a'th draed wedi eu hoelio wrth y groes? ath cyfodi i fynu ar y pren melldigedig i'th eroeshoclio ym mhlith lladron, a gwneuthur i ti archwaethu Finegr a bustl? ac yn dy angenoctid ath orthrymder marwol goddef y fath lifeiriant anfeidrawl o ddigllonrhwydd Duw, yr hyn a wnaeth i ti lefain allan megis pe buasit ti ar wrthod gan Dduw dy Dâd? Je i gael dy galen ddiniwaid wedi ei gwanu â gwaiwffon felldigedig, a thywallt allan dy werthfawr waed o flaen llygaid dy Fam fendig∣dig? Oh Iachawdwr anwyl, pa fath greulondeb ar gystudd a gefaist di yn goddef hyn oll, gan weled fy modi yn synnu cyn belled wrth feddwl am dano.

Page 423

Yr wyf fi yn gofyn am dy fai, ac ni fedrai glywed sôn am yr vn ynot ti, na chymmaint a chael twyll yn dy enau. 2 Pet. 2.22. Yr ydis yn holi dy elyn∣nion, ac ni feiddiodd yr vn o honynt dy argyoeddi di o bechod: y cyhuddwyr (a gyflogesid) nid oeddynt yn medru cyttuno yn eu tystiolaeth: y Barnwr oedd i'th fwrw, oedd yn egluro dy ddiniweidrwydd ar gyhoedd: yr oedd ei wraig ef wedi danfon gair iddo, ei bod hi wedi cael ei rhybuddio mewn breudd∣wyd, o'th fod di yn wr vnion; ac am hynny y dylai efe gymmeryd gofal, rhag gwneuthur anghyfiawnder â thydi. Y Canwriad yr hwn oedd i'th ddihenyddio di, oedd yn cyfaddef am wirionedd dy fod ti yn wr cyfiawn, ac yn wir Fab i Dduw. Yr oedd y lleidr yr hwn oedd yn crogi gyd â thydi, yn dy gyfiawn∣hau di, gan ddywedyd na wneuthit ti ddim ar fai.

Gan hynny o Arglwydd, pa beth ydyw yr achos o'th wradwydd creulon, a'th ddioddefaint arteith∣iol? Fy fi o Arglwydd, fy fi ydyw yr achos o'th osidiau hyn: fy mhechodau i a weithredoedd dy gy∣wilydd, fy anwiredd i oedd yr achosion o'th gammau di, my fi a wneuthum y bai, a thithau a bennydiwyd am y camwedd; fy fi ydwyf euog, a thithau a gy∣huddwyd; my fi a wneuthum y pechod, a thithau a ddioddesaist y farwolaeth: my si a wneuthum y bai, a thithau a grogwyd ar y Groes. Oh ddyfnder cariad Duw! O ddull ryfeddol nefol râd! Oh anfesurol fesur o dra-vehel drugaredd! Y mae y drygionus yn troseddu, ar cyfiawn yn cael ei gospi: yr euog yn diangc, ar gwirion yn cael ei fwrw. Y drwgweithredwr yn cael ei ryddhau, ar di-niwaid ei gondemnio: yr hyn yr oedd y dŷn drwg yn ei haeddu, yr oedd y dŷn da yn ei ddioddef: y gwâs a wnai 'r camwedd, a'r Meistr a gai 'r cerydd. Pa beth a ddywedai? Dŷn a bechodd, a Duw a fu farw.

Page 424

O Fab Duw pwy a ddichon gyflawn adrodd dy ga∣riad? neu ganmol dy drugarogrwydd? neu dder∣chafu dy foliant? yr oeddwn i yn falch, a thithau yn ostyngedig, yr oeddwn i yn anufydd a thithau a fuost vfydd. My fi a fwyteiais o'r pren gwaherdde∣dig, a thithau a grogwyd ar y pren melldigedig. My fi a fum ddyn glwth, a thithau a ymprydiaist. Chwant diffaith am arweiniodd i fwyta 'r afal melus, a chariad tra-pherffaith a'th tywysodd di i yfed o'r cwppan chwerw: my fi a brofais flasusaf ffrwyth yr aeron, dithau a archwaethaist chwerwdod y bustl. Efa ynfyd oedd yn gwenu, pryd yr oeddwn i yn chwerthin, eithr yr oedd Mair fendigedig yn wylo, pryd yr oedd dy galon di yn gwaedu, ac yn marw. O fy Nuw, yma yr wyf yn gweled dy ddaioni di, am drygioni innau: dy gyfiawnder di, am anghy∣fiawnder innau: anuwioldeb fyngnawd i, a duwiol∣deb dy anian di. Ac yr awrhon o Arglwydd ben∣digedig, gan ddarfod i ti ddioddef hyn oll er fy mwyn i; pa beth a roddaf i ti am yr holl ddoniau a ganniadheuaist di i mi, enaid truan? mewn gwiri∣onedd Arglwydd, yr wyf yn cyfaddef fy mod i yn dy ddlêd ti yn barod am fynghreadigaeth, yn fwy nag yw bossibl i mi allael ei dalu: Canys o her∣wydd hynny yr wyf yn rhwymedig a'm holl allu, ewyllys, a thraserch, i'th garu, a'th anrhydeddu di. Os wyf fi yn fy nylu fy hunan i ti, am i ti fy rhoddi fy hunan i mi yn fynghreadigaeth; pa beth yr awr∣hon a roddaf fi i ti, am dy roddi dy hun trosof fi i'r fâth farwolaeth echryslon, er mwyn fy mhryne∣digaeth? Mawr oedd y dawn, oedd i ti fyngreu o ddim, ond pa dafod a ddichon ddatcan yn vniawn mawredd y rhâd hwn, ddarfod i ti fy mhrynu am bris mor werthfawr, pryd yr oeddwn i yn waeth n dim? yn wir Arglwydd oni allaf fi dalu y diolch a

Page 425

ddylwn i ti; (a phwy a eill dalu i ti, yr hwn wyt yn rhoddi dy radau heb synnied haeddedigaeth nac edrych ar faintiolaeth?) amlder dy fendithiau sydd yn fyngwneuthur i mor ddyledog; mal yr aethum cyn belled oddiwrth allael talu corph yr hawl, mal nad yw bossibl i mi dalu cymmaint a'r llog o'th gariad.

Eithr o Arglwydd ty-di a wyddost er pan gollais i dy lun di (o waith codwm fy henafiaid anedwydd) na allaf fi moth garu di am holl allu, ac am holl feddwl, fel y dylwn: Am hynny megis y darfu i ti yn gyntaf daflu dy serch arnaf fi, pryd yr oeddwn i yn blentyn y digofaint, ac yn delpyn or byd colle∣dig; felly yr awrhon yr wyf yn attolygu i ti dywalld dy gariad trwy dy lân yspryd, i'm holl gynnedd∣fau am serch, fel er nas gallaf fi fyth dalu i ti yn y fàth fesur ar gariad, ac a haeddaist di: etto y gallwyf ymegnio i dalu i ti yn y cyfryw fodd, ac a fyddo yn gymmeradwy gennit ti yn dy drugaredd; fel y byddwyf mewn vniondeb calon, i garu fyng∣hymydog er dy fwyn di, a'th caru di vwchlaw pob dim er dy fwyn dy hunan. Na âd i ddim fod yn ddifyr gennif, ond yr hyn a fyddo yn ddifyr ger dy fron di. Ac o Iachawdwr anwyl, na chynnwys i mi syth fod yn golledig, neu wedi fy nhaflu ymmaith, yr hwn a brynaist ti cyn ddrutted a'th werthfawr waed dy hun. O Arglwydd na ád i mi fyth anghofio dy anfesurol gariad hyn, a'th ddawn anrhaethadwy o'm prynedigaeth i heb yr hyn beth, fe fuasai well i mi na buaswn erioed, ra chael bod.

A chan weled dy fod ti yn canniadhau i mi gy∣nnorthwy dy lân Yspryd; Dôd gennad i mi o Dâd refol (yr hwn wyt Dâd yr ysprydau) ynghyfryng∣dod dy Fab i lefaru ychydig eiriau ynghlustiau fy Arglwydd. Os ydwyt ti o Arglwydd yn sy nir∣nirmygu

Page 426

am gwrthod am fy anwireddau, fel yr ha∣eddwn, etto bydd drugarog wrthif fi er mwyn haeddedigaethau dy Fab, yr hwn a ddioddefodd gymmaint trosof fi. Beth er nad wyt ti yn gweled ynof fi ddim ond trueni, yr hyn a ddichon ennyn dy ddigter a'th ddigofaint? etto edrych ar haedde∣digaethau dy Fab, ac ti a gai weled digon ith annog i drugaredd a thosturi. Gwêl ddirgelwch ei gnaw∣doliaeth ef, a gollwng dros gôf drueni fy nrhose∣ddau i. A chyn fynyched ac y byddo archollion dy fab yn ymddangos yn dy olwg, gâd i mhechodau i fod yn guddiedig oth wydd di. Cyn fynyched ac y byddo cochni ei waed yn discleirio yn dy olygon: Oh gâd i euogrwydd fy mhechodau, gael ei dynnu allan o'th lyfr di. Afiaeth fy nghnawd i a enynnodd dy ddigofaint ti: Oh gâd i ddiwairdeb ei gnawd ef dy berswadio di i drugarhau: megis ac y darfu im cnawd i fy nenu i bechu, felly y gallo ei gnawd ef fy nhattroi ith ffafr di. Fy anvfydd-dod i a haeddodd ddial mawr, ond ei vfydd-dod ef a hae∣ddai ddau cymmaint o drugaredd: Canys pa gosp a ddichon dŷn ei haeddu, ar nas dichon Duw, yr hwn a wnawd yn ddŷn haeddu cael maddeuant am dani? pan ystyriwyf faintiolaeth dy ddioddefaint, yno yr wyf yn gweled wiried y dywedir: Ddyfod o Iesu Grist i'r byd i iachau 'r pechaduriaid pennaf. A feiddi di gan hynny O Cain ddywedyd fod dy bechodau yn fwy nag a ellir eu maddau? Yr wyt ti yn dywedyd celwydd fel Llofruddiwr. Trugare∣ddau vn Crist a ddichon faddau i lonaid yr hollfyd o fath Cain, os credant ac ediferhâu. Pechodau yr holl bechaduriad ydynt o fewn rhif, trugareddau Duw ydynt aneirif. Am hynny O Dâd er mwyn Angau chwerw a dioddefaint gwaedlyd dy Fab Iesu Grist, yr hyn a ddioddefodd trosof fi, y rhai a

Page 427

gofiais i yr awrhon wrthit, maddau a phardyna i mi fy holl bechodau, a gwared fi oddiwrth y felldith ar dial, y rhai y maent hwy yn ei gyfiawn haeddu: a thrwy ei haeddedigaethau ef, gwna fi O Arglwydd yn gyfrannog o'th drugaredd di. Dy drugaredd di ydyw y peth am yr hwn yr. ydwyf fi mor ddifrifol yn curo am dano. Ac ni chaiff fy nhaerder ballu a galw, a churo megis y dŷn oedd yn ceifio y torthau ym menthyg, nes i ti godi ac agori pyrth dy râd i mi. Ac oni channiadhei di i mi y torthau, O Arglwydd na naccâ mo honof fi o friwsion o'th trugaredd, a hynny a gaiff wasanaethu i'th lawforwyn newynllyd.

A chan weled nad wyt ti yn gofyn dim am dy holl ddoniau, ond i mi dy garu yngwirionedd fynghalon oddifewn (o'r hyn y mae Creadur newydd yn vn∣ionaf tystiolaeth oddiallan,) a bod cyn hawsed gyd â thydi, fyngwneuthur i yn greadur newydd, a gorchymyn i mi fod yn gyfryw: Crea galon lân ynof o Grist ac adnewydda yspryd vnion o'm mewn: Ac yno y cei di weled mal (gan farwhau yr hên Adda ai drachwantau llygredig) y gwasanaethaf dydi mal creadur newydd, mewn buchedd newydd, rhyd llwybr newydd, â thafod newydd, a moddion newydd, â geiriau newyddion, â gweithredoedd newy∣ddion, er gogonniant i'th cnw, ac i ynnill eneidiau pechadurus eraill i'th ffydd di, trwy fy siampl bu∣cheddol.

Cadw fi yn dragywydd o fy Iachawdwr oddiwrth boenau vffern a chreulondeb y cythraul. A phan fyddwyf i ymadel ar bywyd hwn, danfon dy An∣gelion sanctaidd im dwyn i fel y dygasant enaid Lazarus i'th deyrnas nefol. Derbyn fi y pryd hynny i'th hyfrydol baradwys, yr hwn a addcwaist

Page 428

ti i'r lleidr edifeiriol, yr hwn ar ei ddiben diwae∣thaf ar y groes, oedd mor ddefosionol yn crfyn dy drugaredd, a llc yn dy deyrnas. Canniadhâ hyn, o Crist, er mwyn dy enw dy hun: I'r hwn megis y mae 'n gyfiawn ddyledus, y byddo holl ogoniant, ac anrhydedd, mawl, a brenhiniaeth yr awr hon, ac yn oes ocsoedd. Amen.

TERFYN.

Notes

Do you have questions about this content? Need to report a problem? Please contact us.