O Herwydd y Cymmun hwn â Duw, fo fydd i'r Etholedigion bedwar o ragorfreintiau tra go∣didog, yn y nefoedd.
1. Yn gyntaf, hwynt hwy a gânt deyrnas Dduw yn etifeddiaeth: ac â gant fod yn wyr rhŷdd O Ierusa∣lem nefol, 1 Pet. 1.4. St. Paul o herwydd ei fod yn ddinasydd rhyddo Rufain a ddiangodd heb ei fflan∣gellu; Act. 22.26.28. eithr y rhai a fo vnwaith yn ddinasyddion rhyddion O Jerusalem nefol, fyddant byth diangol oddiwrth fflangellau poenau trag∣wyddol. O blegid y rhyddhâd yma a brynwyd i ni, nid â rhif o arian, ond a gwerthfawr waed Christ, 1 Pet. 1.19.
2. Yn ail: hwy a gânt oll fod yn frenhinoedd, ac yn offeiriaid; Datc. 5.10. ysprydol frenhinoedd, i deyrnasu gyd â Christ, i orfoleddu goruwch Satan, y byd, a'r gwrthodedigion, Rhuf. 16.20. ac offeriaid Ysprydol o foliant a diolch yn dragywydd, 1 Pet. 2.5. Am hynny y dywedir eu bod yn gwisco Coro∣nau a gynau, Datc. 6.11. O pa gyssur a diddanwch yw hyn i dadau tlodion, a llawer o blant ar eu helw? os hwynt hwy a'u maethant ac a'i meithrinant yn ofn Duw, i fod yn wir gristianogion, yno y byddant yn dadau i gynifer o Frenhinoedd ac Offeiriaid.
3. Yn drydydd eu cyrph hwynt a oleua fel dis∣cleirdeb yr haul yn y ffursafen: fel gogoneddus gorph Crist, yr hwn a ddiscleiriodd yn eglurach na'r haul han••er dydd, pan ymddanghosodd ef i Paul. Mat. 13.43. Phil 3.21. Act. 22.6. Llewyrch neu