Yr ymarfer o dduvvioldeb: yn cyfarvvyddo dŷn i rodio fal y rhyngo ef Fodd Duw. Yr hwn lyfe â osodwyd allan yn saeson-sec o wraith y gwir barchedig dâd Lewis Escomb Bangor, ac a gyfieithwyd yn gamber-aec o waith Row. Vaughan o gaergai o sîr feirion wr bonheddig.

About this Item

Title
Yr ymarfer o dduvvioldeb: yn cyfarvvyddo dŷn i rodio fal y rhyngo ef Fodd Duw. Yr hwn lyfe â osodwyd allan yn saeson-sec o wraith y gwir barchedig dâd Lewis Escomb Bangor, ac a gyfieithwyd yn gamber-aec o waith Row. Vaughan o gaergai o sîr feirion wr bonheddig.
Author
Bayly, Lewis, d. 1631.
Publication
Printiedig yn Llundain :: gan Tho. Dawks,
1675.
Rights/Permissions

To the extent possible under law, the Text Creation Partnership has waived all copyright and related or neighboring rights to this keyboarded and encoded edition of the work described above, according to the terms of the CC0 1.0 Public Domain Dedication (http://creativecommons.org/publicdomain/zero/1.0/). This waiver does not extend to any page images or other supplementary files associated with this work, which may be protected by copyright or other license restrictions. Please go to http://www.textcreationpartnership.org/ for more information.

Subject terms
Piety
Christian life -- Anglican authors
Puritans
Link to this Item
http://name.umdl.umich.edu/A76257.0001.001
Cite this Item
"Yr ymarfer o dduvvioldeb: yn cyfarvvyddo dŷn i rodio fal y rhyngo ef Fodd Duw. Yr hwn lyfe â osodwyd allan yn saeson-sec o wraith y gwir barchedig dâd Lewis Escomb Bangor, ac a gyfieithwyd yn gamber-aec o waith Row. Vaughan o gaergai o sîr feirion wr bonheddig." In the digital collection Early English Books Online 2. https://name.umdl.umich.edu/A76257.0001.001. University of Michigan Library Digital Collections. Accessed June 10, 2024.

Pages

Myfyrdod am drueni dyn heb ei gymmodi a Duw yn Ghrist.

OScerbwd gwael, ym mhâ gwrr y dechreuaf fi adrodd dy drueni didrangcedig? Yr hwn wyt wedi dy euogfarnu, yr awr gyntaf y cymmeraist sylwedd yn y grôth, a chwedi dy farnu i farwolaeth dragwyddol, cyn dy eni i fywyd amserol. Gwir yw, y medraf gael dechreuad ar dy drueni, eith ni wn ym mhâ fan y mae i mi geisio y diwedd. Canys pan oedd Adda ac Efa wedi eu creu ar lûn delw Dduw ei hûn, ac yn preswylio ym mharadwys, mal y gallent hwy, ai hiliogaeth fyw y bywyd anfarwol mewn dedwyddwch, a holl greaduriaid y ddaiar dan eu llywodraeth, ond yn vnig, na chaent archwaethu o ffrwyth vn pren, er mwyn dangos vfydd-dod i'r cre∣awdr holl alluog; er darsod i Dduw eu gwahardd hwy ai gorchymyn i ymgadw oddiwrth hyn o beth bychan, dan boen cospedigaeth angeu tragwyddol, er hyn hwy a gredafant i air y cyrhraul o flaen gair Duw, drwy geisio gwneuthur Duw (pes gallasent)

Page 32

yn gelwyddog. Ac felly drwy fod yn anniôlchgar am yr holl ddoniau a gawsent ar law Dduw, hwynt hwy â aethant yn anfodlon iw cyflwr presennol, fal pe buasai Dduw, yn rhoddi y gorchymmyn hwnnw iddynt, o gynfigen a chrintachrwydd, ac â goeliasant y gwnai diafol hwynt yn gyfrannogion o bethau an∣rhydeddusach nac â roesai Dduw iddynt erioed, ac yn eu balchder hwy a wnaethant fradwriaeth yn er∣byn y goruchaf, a thrwy fod yn ddiystur ganddynt fod yn ddeiliadd i Duw, hwy a chwennychasant fod yn dduwiau eu hunain, neu yn ogyfuwch â Duw. yno nes iddynt edifarhau, (trwy golli llûn delw Dduw) hwy a aethant yn debyg ir cythraul: ac felly eu holl hiliogaeth hwynt, megis heppiliaeth wrthryfelgar (tra byddont fal dithau yn anedifeiriol) ydynt yn dda∣rostyngedig yn y byd yma, i ddioddef pob trueni helbulus, ac yn y byd a ddaw i'r tân tragwyddol a ddarparwyd i ddiafol ac iw angelion.

Bwrw ymmaith gan hynny dy wagedd amwhyllig, a chymmer olwg ar dy drueni gresynol: yr hyn beth os iawn ystyri, nid wyf yn ammeu, nas gweli di fod yn well o lawer fod o honot heb eni, na bod heb râs i ymarfer a duwioldeb.

Ystyr gan hynny dy drueni,

  • 1. Yn dy fywyd.
  • 2. Yn dy farwolaeth.
  • 3. Ar ôl dy farwolaeth.

Yn dy fywyd.

  • 1. Y Trueni sydd yn dilyn dy gorph.
  • 2. Y Trueni sydd yn gwrthuno dy enaid.

Yn dy farwolaeth ystyria y perhau ydynt yn gor∣thymmu dy gorph a'th enaid.

Page 33

Ar ôl marwolaeth ystyr y trueni a daflant dy gorph ath enaid ynghyd i dân vffern.

Ac yn gyntaf, gadewch inni gymeryd golwg ar y trueni sydd yn canlyn y corph yn ôl trefn pedair oes dŷn.

  • 1. Mebyd.
  • 2. Ieuengtyd.
  • 3. Oedran gŵr.
  • 4. Henaint.
1. Myfrdod am drueni mebyd.

BEth oeddit ti pan oeddit yn faban ond megis ani∣fail ar lûn dŷn? onid ymmhoethineb trachwant ith ynnillwyd, dirgelwch cywilydd, a'r gwarth a dyfodd o'r pechod cyntafanedig? Fal hyn i'th fwri∣wyd ar y ddaiar yn ymdrabaeddu mewn gwaed, a budreddi: yn fudr iawn, pan ddarfu i fab Duw, yr hwn ni bu ddirmygus ganddo gymmeryd arno ddynawl anian, a'r gwendid pyrthynasawl i hynny, etto dybied yn anweddaidd iw sancteiddrwydd ef, fyned ir grôth iw ymddwyn yn ôl y dull a'r modd pechadurus yr ynnillir dyn: a bod yn gywilydd gan dy fam di adrodd y môdd i'th aned. pa ryw achos gan hynny sydd itti i ymffrostio o'th enedigaeth, yr hon oedd yn boen felldigedig i'th fam, ac i tithau dy hûn yn borth trwy'r hwn y daethost ir bywyd helbulus? Ac o ran na fedrit y pryd hynny fynnegi faint oedd dy drueni at eiriau, mewn dagtau ac wylofain dydi ai dangosaist, yn orau ac y medrit.

Page 34

2. Myfyrdod am drueni ieuengtyd.

BEth ydyw bachgen neu langc ieuangc, ond megis anifail heb ddofi, ai holl weithre∣doedd yn lledffol, ac yn ffromwyllt, yn wrthnysig i gymmeryd cyngor da er ei glywed, ac mal Eppa heb vmlawenhau mewn dim ond oferedd a ffolineb? Am hynny cyn gynted ac y dechreuaist gael dim nerth, a dealltwriaeth, fe ath gadwed allan o law dan y wia∣len, dan ofn tâd, a mam, ac athrawon; fal pe buasit wedi dy eni i fyw yn ôl dy sceidiaeth eraill, ac nid yn ôl dy ewyllys dy hûn. Ni bu farch lluddedig crioed chwannoccach i ymadel ai bwnn nac oeddit ti i fyned allan o'r cyflwr caeth yma. Cyflwr ni thâl sòn am dano.

3. Myfyrdod am drueni oedran gŵr.

PA beth yw cyflwr gŵr ond môr, yn yr hwn mal tonnau y mae 'r naill orrhrymder yn dilyn y llall, ar olaf yn waeth na'r cyntaf? Cyn gynted ac y de∣chreuaist drin y byd, di â ymdroist mewn cwmmwl o drueni. dy gnawd sy 'n dy arwain i drachwant, y byd yn dy hudo i ddigrifwch, ar cythraul yn dy gym∣mell i bob math ar bechod: ofn gelynion sy'n dy ddychrynu, ac erlyn cyfraith yn dy flino, y mae cammau ar law cymmydogion drŵg yn dy orthrym∣mu, a gofalon am wraig a phlant yn dy liasu, ac a∣flonyddwch rhwng caseion cyhoeddus, a gau gym∣deithion (gan mwyaf) yn dy orthrechu: y mae pe∣chod yn dy frathu di oddifewn, a Satan yn gosod ei rwyd o'th flaen: cydwybod am bechod sy' n dy gynllwyn o'th ôl; yr awr-hon y mae adfyd a'r dy law asswy yn dy lidio, yn y man y mae helaethrwydd a'r

Page 35

dy law ddehau yn gwenheithio itti; gorvwch dy ben∣mae dial Duw dyledus am dy bechod yn barod ddescyn arnat, a than dy draed y mae safn vffern, yr agored i'th draflyngcu. ac yn y cyflwr gresynol hwn i ba le yr ai di am lonyddwch, ac ymwared? y ma 'r tŷ yn llawn gofalon, y mae 'r maes yn llawn o dra∣fferthion, a'r wlâd o anwybodaeth, y ddinas o gyn∣hennau, y llŷs o gynfigen, yr eglwys o bleidiau, y môr o speilwyr, y tir o ladron. Neu ymhâ ryw gy∣flwr y mynnit fyw? Gan fod golud iw genfigennu, a thylodi iw ddiystyru, synwyr iw anghoelio, a dini∣weidrwydd yn wawd, ofergoel iw gwatwor, a chrefydd iw amheu, drygioni yn cael ei fawrhâu, a rhinwedd ei amherchi. Oh pa ryw fâth wîsc o bechod sydd yn dy amgylchu di mewn bŷd o anwiredd? Beth yw dy ly∣gaid, onid ffenestri i edrych ar wagedd? Beth yw dy glustiau, onid fflodiardau i ollwng llifeiriant trawsineb i mewn? Beth yw dy synhwyrau, ond gosgymmon i ennyn tân i'th drachwant? Beth yw dy galon, ond yr enion ar yr hon y darfu i Satan luniollûn echrŷs dy holl amcanion diffaeth? Wyt ti o rieni vrddol? y mae yn rhaid itti dy fwrw dy hûn mewn perigl i ryfel dieith∣rol, i geisio ynnill anrhydedd daiarol; rhaid itti yn fynych roi dy fywyd yn ddibris mewn câd beryglus rhag dy fwrw di yn llyfrwâs wyt ti wedi dy eni o radd isel? O f'Arglwydd pa fath boen ac anhunedd sydd raid itti ddwyn gartref ac oddicartref i geisio ynnil dy gynhaliaeth? a'r cwbl ond odid yn brin i borth: dy angen; a phan gafto vn ynnill ychydig, yn ô mawr lafur a hir boen, beth am leied o sicrwyd∣sydd iddo yn yr hyn a gafodd? o ran di a weli drwy athrawiaeth beunyddiol, fod yr hwn oedd gyfoethog ddoe, yn dlawd heddyw: yr hwn oedd ddoe yn iach heddyw yn glâf; yr hwn oedd ddoeyn vchel ei grechwen sydd heddyw ag achos iddo i vdo yn alarus; yr hwn oedd ddoe mewn parch, sydd heddyw mewn gwarth

Page 36

ac ammarch: yr hwn oedd ddoe yn fyw, sydd hedd∣yw yn farw: ac ni wyddost pa cyn gynted, neu ym mhâ ryw fôdd, y byddi di farw dy hûn. A phwy a fedr gyfrif ei golledion, ei warthwynebion, ei gur∣iau, ei warthruddiau, ei glefydau, a'r gofidiau y rhai a ddigwyddant i ddyn pechadurus? Heb yngan chwaith am farwolaeth plant, cymdeithion, neu gyfnyseifiaid, yr hyn sydd yn fynych yn chwerwach wrthym, nac yw marwolaeth ei hunan.

4. Myfyrdod am drueni henaint.

PA beth yw henaint onid tommen lawn o yscu∣bion gofidiau? canys os tynnu a wnei i gyrhaedd∣yd hiroes, y mae'r henaint arfoel yn dy oddiwes, yn dyfod tan ymgrymmu, yn syfrdanllyd, a'r wyneb yn grŷch, a'r dannedd yn bydron, a'r anadl yn ddre∣wllyd, yn ffrom o anynadrwydd, yn distannu o sych∣der y cnawd, a'r golwg yn pallu, a'r clywed yn ddiffaeth, a dolur iw amgylchu, y ddaupen yn plygu ynghyd gan wendid, heb ffrwyth o wybodaeth yn yr vn or pum synwyr, ond yn vnig i wybod oddiwrth boen: yr hwn sydd yn gwynio ym mhob aelod oi gorph, heb obaith o gael esmwythdra oddiwrtho, nes iddo ei daflu ef i waelod ei fêdd.

Hyn ymma am y trueni sydd yn canlyn y corph, yr awrhon am y trueni sydd yn canlyn yr enaid yn bennaf yn y bŷd hwn.

Page 37

5. Myfyrdodau am drueni yr enaid yn y bywyd hwn.

Trueni dy enaid a ymddengis yn eglurach os ystyri,

YN gyntaf, y dedwyddwch a gollodd efe.

Yn ail, y trueni a dynnodd ef ar ei vcha ei hun trwy bechod.

Y ddedwyddwch a gollodd efe, oedd yn gyntaf, bod yn gyfrannog o ddelw Dduw, trwy 'r hyn yr oedd ef yn gyffelyb i Dduw mewn gwybodaeth, i allael yn berffaith ddeall dadcuddiedig ewyllys Duw. Yn ail, gwir sancteiddrwydd, trwy 'r hwn yr oedd efe yn lân oddiwrth bob bai halogedig. Yn drydydd, y cyfia∣wnder, trwy 'r hwn yr oedd efe yn gallu hyfforddi ei holl alluoedd naturiol, a threfnu yn vnion ei holl wei∣thredoedd, yn deilliaw oddiwrth y galluoedd hynny. Gydâ cholli y dewisedig lûn hwn, efe a gollodd gariad Duw, yn yr hwn yr oedd ei fywyd ai ddedwyddwch yn sefyll. Os colled am olud bydol a'th bruddhâ di yn fawr, pa faint mwy y dylai golled am y nefawl dry∣sor yma dy drymhau?

Yn ail y trueni a dynnodd yr enaid ar ei wartha ei hun, sydd yw ystyried mewn dau beth.

  • 1. Pechod.
  • 2. Melldith.

Pechod ydyw lygredigaeth cyssredinol, yn gystal o'i naturiaeth, ac o'i weithredoedd: canys y mae ei natur ef yn hylithr i bechu yn oesdadol ym mhob mâth ar bechod, y meddwl wedi ei lenwi yn llawn o wagedd, y dealltwraieth wedi ei dywyllu gan anwy∣bodaeth, yr cwyllys heb chwennych dim ond oferedd a phethau drwg, y mae gwrthuni mor netthol gyd

Page 38

ag ef, fal nad yw'r deisyfiad yn fynych yn vfuddhâu i reoledigaeth rheswm yn yr enaid adgenedledig: a'r ewyllys yn gwibio i ganlyn gwyniau pechadurus. Pa gymmaint gan hynny ydyw nerth y deisyfiad a'r ewyllys yn yr enaid gwrthodedig, yr hwn sydd yn aros yn oesdadol yn ei lygredigaeth anianol? O hyn y mae yn digwyddo fod dy enaid truan wedfei ymwrthuno gan bechod, ymddifwyno gan drachwant, ymanrheithio gan fudreddi, ymchwydddo gan ddry∣gnaws, ymroi i wyniau, ymddihoeni gan genfigen, yn ymlythu â gormodedd, yn ymdrabaeddu mewn med∣dwdod, yn berwi gan lid, yn ymlosci gan greulon∣deb: a gogoneddus lûn Duw, wedi ei gyfnewid i lûn y diafol echryslon, hyd oni ddarfu ir Arglwydd vnwaith edifarhau ddarfod iddo ef erioed wneuthur dŷn, Gen. 6.6.

O ddiwrth y cyntaf sef pechod, y mae y rhan arall o drueni yr enaid yn dyfod, sef melldith, o'r hon y mae dwy râdd:

sef
  • ...Mewn rhan.
  • ...Yn gyflawn;

Melldith mewn rhan ydyw, yr hon yr ydis yn el rhoddi ar yr enaid yn ei fywyd a'i farwolaeth, ac sydd yn gyffredin iddo ef gyd a'r corph. Y felldith ar yr enaid yn y bywyd yma, yw digofaint Duw, yr hwn sydd goruwch ben y fâth greadur, fal y byddo pob peth nid yn vnig gofidiau, eithr rhadau a bendi∣thion hefyd, yn ymchwelyd yn dramgwydd iddo.

Dychryn cydwybod sydd yn ei droi ef oddiwrth Dduw a'i wasanaeth, fal nas beiddia ddyfod yngŵydd ei sancteiddrwydd ef; onid ymroi i gaethiwed Satan, ac iw ddeisyfiadau gwaelion ai drachwantau ei hu∣nan.

Page 39

Hyn yw melldigedigrwydd yr enaid yn y bywyd: weithian y canlyn melldigedigrwydd yr enai da'r corph ym marwolaeth.

Myfyrdod am drueni y corph a'r enaid wrth farw.

GWedi i'r gwr oedrannus ymdrechu a hir glefyd, a dioddef dygn benyd, ac yn disgwyl cael peth esmwythdra; yno y daw Angau i mewn: llofrudd naturiaeth, melldith Dduw, cigydd vffern, ac â edrych yn ddu-oer arw-ddig yn wyneb yr henddyn: heb na thrugarhau wrth ei oedran, nac ystyried ei hirnych, na chymeryd gwobr o arian, neu aur er cyd-ddwyn: na wna; ni chymmer er arbed ei enioes ef groen am groen, na dim a'r sydd ar ei helw, ond curo i lawr a wna brifrannau ei gorphilyn, ai restio ef i at∣teb ger bron yr vsdus ofnadwy. A chan dybied na phrysura yr henddyn i ddyfod gyd ag cf yn dra buan: Of Arglwydd pa rifedi o biccellau gofidus y mae efe yn ei ergydio trwyddo ef: sef gwaiw, doluriau, clymmau gwithi, y crŷd, peswch, llafur, poerion oerllyd, cnofeydd, gwewyr, tostedd, a'r cyfryw.

Oh pa fâth oer echryslon olwg ydyw ei weled ef ar ei wely, gwedi i angau roddi iddo ef, ei friw mar∣wolaeth! pa fâth lychwys oer sydd dros ei holl gorph? pa ryw grynfa sydd ar ei holl aelodau? y mae 'r pen yn llammu, a'r wyneb yn glasu, y trwyn yn duo, ar ên yn llaesu, llinynnau y llygaid yn torri, y tafod yn bloesci, ar anadl yn byrhau, yn aroglu yn drwm; y sefnig yn grillian, ac ar bob ebwch o'r genau, y

Page 40

〈1 page duplicate〉〈1 page duplicate〉

Page 41

〈1 page duplicate〉〈1 page duplicate〉

Page 40

mae llinynnau y galon yn barod i dorri. Yr awr hon y mae 'r enaid truan yn deall yn hysbus fod ei gorph daiarol yn dechreu marw; ac megis o flaen ymddattodiad hollawl, neu ddiwedd adeiladaeth y byd mawr, y try yr haul yn dywyllwch, a'r lloer yn waed, a'r ser a syrthiant o'r wybrennau, a'r awyr a fydd yn slawn tymeftloedd, a serennau gwibiog tan∣llyd, y ddaiar a grŷn, a'r môr a rua, a chalonnau dynion a lewyg a gan ofn yn disgwyl diwedd a'r y cy∣fryw ddechruad ofnadwy. felly tu ac at ymddattodiad dŷn (yr hwn yw y byd bychan) ei olygon, y rhai ynt yw cyffelybu ir haul a'r lloer, a gollant eu gole∣uni, ac ni chanffyddant ddim ond geuogrwydd gwaedlyd pechod: y synhwyrau eraill megis y sêr y rhai ydynt lai, a dy wyllant ac â syrthiant y naill yn ol y llall: ei feddwl, ei reswm, ai gôf, megis nefol nerthoedd yr enaid, a gânt eu hysgwyd gan echy∣dus dymestloedd anobaith, a chynfellt o dân vffern; ei gorph daiarol fy'n dechreu siglo a chrynu, a'r defny∣ddiau gwlybion megis môr a fai yn llenwi, a ruant, ac a chwrnant yn ei dagell, gan ddisgwyl beunydd am derfyniad galarus ar y cyfryw ddechreuad dy∣chrynadwy.

Tra fyddo efe fal hyn tan ddyfyn i atteb yn y se∣ssiwn fawr gar bron Duw, wele y mae cwarter sessiwn i fwrw carcharorion, iw chadw ynddo ei hûn oddifewn. lle y mae rheswm yn eistedd mal barnwr, ar cythraul yn rhoi bil o ditmant cyn helaethed a llyfr Zachari. 5.. yn yr hwn y gosodir ar lawr yr holl gamweddau a wnaethost crioed, a'r holl weithredoed da a esceu∣lusaist eu gwneuthur erioed, a'r holl felldithion, a'r barnedigaethau dyledus i bob rhyw bechod. Dy gy∣dwybod dy hûn a'th cyhudda; a'th côf a dystiolaetha yn dost i'th erbyn, a'r angau a saif wrth y barr yn barod, megis dihenyddiwr creulon i wneuthur diben o honot: Os ty di fal hyn a fyddi yn dy euog-farnu

Page 41

dy hunan; pa fodd y gelli di ochelyd vnion farn Duw, yr hwn sydd yn gwybod oddiwrth dy holl droseddau yn well na thi dy hun? Ti a chwennychit fwrw allan o'th feddwl goftadwriaeth dy anwireddau y rhai sy'n dy orthrymmu; eithr y maent hwy yn dyfod i'th cof yn gynt o lawer o hynny, ac ni fynnant moi bwrw allan, ond llefain wrt•••••• Nyni yw dy weithre∣doedd, ac ni a'th ganllynwn. A thra fô dy enaid ti fal hyn oddifewn allan o hob trefn a thangneddyf, dy blant, dy wraig ath gyfeillion âth syfrdanant, dan ymbil â thi am osod trefn ar dy dda, rhai yn llefain, rhai yn disgwyl, rhai yn ceisio, rhai yn twyllo, rhâi yn tosturio, rhai 'n cyssuro, oll megis cyhyrod i'th frathu, o ran peri i'th ofid fod yn fwy gofidus.

Yr awrhon y cythrauliaid, y rhai a ddaethant o vffern i ddwyn ymaith dy enaid, sydd yn dechreu ymddangos iddo, ac yn disgwyl am dano iw gym∣meryd ai ddwyn ymmaith, cyn gynted ac y delo ef alian o'r corph. Aros i mewn a fynnei, ond deall y mae fod y corph yn dechreu marw bob ychydig, ac yn barod fal hên dŷ amharus i syrthio am ei ben: y mae efe yn ofni dyfod allan, o blegid bod yr vffern∣gŵn hynny yn gwilio ei ddyfodiad.

Oh efe, yr hwn a dreuliodd lawer o ddyddiau a nôsau mewn gwâg ofer ddigrifwch a roddai yr awr hon yr holl fyd (ped fai ar ei law) am gael un awr o amser i edifarhau, ac i ymgymmodi â Duw. Ond ni eill hynny fod, o herwydd y mae ei gorph, (yr hwn oedd yn cydsynnio ag ef i wneuthur pechod) yn anghymmwys ollawi yr awr hon i vno ag ef yng∣waith edifeirwch, a rhaid yw bod edifeirwch yn yr holl ddŷn.

Yr awrhon mae efe yn gweled fod ei holl lawenydd wedi darfod, fal pe na buasai erioed, ac nad oes dim iw gael ond poenydiau, y rhai a bery heb drangc∣na gorphen. Pwy a eill ddatcan yn gyflawn ei osid

Page 42

am y pechodau a aethant heibio, ei ddialedd am ei drueni presennol, a' i ddychryn am y poenau sydd i ddyfod.

Yn hyn o gyfyngdra caeth, y mae ef yn edrych ymmhôb man am ymwared, ac yn ei weled ei hûn ym mhôb ffordd yn ddigynnorthwy. Fal hyn yngh∣annol ei ddygn galedi a'i drueni, (yn chwannog i gly∣wed y dim lleiaf o g••••••••••r) y mae efe yn treuthu yr ymadrodd hwn ne•••••• cyffelyb wrth y llygaid.

O lygaid, y rhai oeddych gynt mor graff eich gol∣wg a fedrwch chwi ganfod dim ymwared, na gweled ffordd yn y byd i mi i ochel y perigl echryslon yma? ond y mae llinynnau y llygaid wedi torri, ni al∣lant hwy weled y gannwyll sydd yn llosci o'i flaen ef, na gweled gwahaniaeth rhwng dydd a nôs.

Y mae yr enaid (wrth weled nad oes dim cyffur iw gael gan y llygaid) yn dywedyd wrth y clustiau: O glustiau, y rhai oeddych arfer o gymmeryd difyr∣rwch wrth wrando ymadroddion mwynbêr, a phryd∣ferthlais cerddwriaeth; a fedrwch chwi glywed dim newydd, na sôn am ronyn o gymmorth i mi? Y Clustiau naill a'i y maent mor fyddarion, ac na ch∣lywant ddim yn y byd: a'i y mae'r clyw cyn wan∣ned, ac nas geill ddioddef clywed ei gyfeillion anwy∣laf yn siarad ag ef. a pha ham y cai y clustiau hyn∣ny glywed dim hanes am lawenydd ym marwolaeth, yr rhai ni allent aros clywed newyddion da yr Efen∣gyl yn eu bywyd? ni eill y glust na chymmorth nac ymwared.

Yno y dengys ef ei gwyn wrth y tafod. O dafod, yr hwn â arferit ymffrostio gyd a'r gwychaf, yn awr pa le y mae dy fawrair, a'th ryfyg cynhennus? yr awrhon jn fyng-haledi mwyaf a elli di ddywedyd dim yn fy mhlaid? o ni elli di na dwndrio y gelynion yma a'th eiriau bygythiol, nai hyweddu a'th ymadrodd têg? och, och, y mae 'r tafod er ys deu∣ddydd

Page 43

gwedi colli'r parabl, ni eill yn ei angenoc∣tid mwyaf, na galw am ychydig ddiod, na dymuno ar gyfaill dynnu a'i fys y carnboer sydd ym mron ei dagu.

Gan na fedrodd gael etto ddim gobaith o ym∣wared, fê ddywed wrth y traed: pa le yr ŷch chwi o draed; yr rhai gynt oeddych gyflym i redeg; a ellwch chwi fy nŵyn i unlle allan or lle peryglus yma? y mae'r traed eusys yn farw sythion: oni symmudir hwy in symmudant.

Yno y try ef ei achwyn at y dwylaw: O ddwylaw, y rhai yn fynych a gawsoch ganmoliaeth am wrolaeth, mewn heddwch a rhyfel, y rhai yn fynych a fuoch yn ymddiffyn i mi fy hùn, ac yn ddestruw i'm caseion, ni bu arnaf fi erioed fwy caledi nac yr awrhon; y mae angau yn edrych yn gethin arnaf, ac yn fy lladd; y mae 'r ellyllon uffernol yn disgwyl o amgylch fy gwely i'm difetha: cynnorthwywch yr awr hon, neu fe ddarfu am danaf yn dragwyddol: Och och, ymae 'r dwylaw mor weinion, ac yn crynu, fal na allant estyn vn llwyaid o wlybanniaeth at y genau i gynnor∣thwyo natur ffeintiedig.

Yr enaid truan yn ei weled ei hun wedi ei adael yn vnig, ac yn llwyr ymddifad o gyfeillion, ym∣wared, a diddanwch; ac yn gwybod fod yn rhaid iddo cyn pen awr fyned i'r tragwyddol boenau, â ddychwel at y galon (yr hon or holl aelodau yw'r cyntaf yn byw a'r olaf yn marw) oddyno y mae ef yn adrodd y galarnad tosturus hwn rhyngddo ac ef ei hûn. O pa fath ddiffeithbeth aflawen wyf? pa fodd y mae gofidiau angau im hamgylchu? pa fodd y mae llifeiriant Belial yn fy nychrynu? pa fodd y darfu i faglau y farwolaeth gyntaf a'r ail, fy nal ar vnwaith! Oh mor ddisymmwth y lladrattâodd angau attaf a'i gerddediad dirgeledig! mal yr haul, yr hwn nid yw y llygaid yn ei ganfodyn symmud, er bod ei symmudiad

Page 42

〈1 page duplicate〉〈1 page duplicate〉

Page 43

〈1 page duplicate〉〈1 page duplicate〉

Page 44

ôr cyflymmaf; O fel y mae angau yn dangos ei lid arnaf yn ddidrugaredd! fedd arfu i Dduw'r drugaredd fy nghwbl wrthod; a'r cythraul yr hwn nid edwŷn drugaredd, sy'n disgwyl am danaf i'm cymmeryd. pa sawl gwaith i'm rhybuddiwyd am y dydd galarus hwn, gan ffyddlon bregethwyr gair Duw, a minnau heb wneuthur ond gwawd o hynny? pa fudd sydd i mi yn awr o'm baichder, a'm tŷ prydferthlân, a'm gwiscoedd gwychion? pa beth a ddaeth o felusdra fy holl ddanteithion? yr holl olud bydol y bum ofalus iw casglu, a roddwn yr awr hon am gydwybod dda, yr hwn yn ddiofal a ddarfu i mi ei esceuluso; pa lawe∣nydd sydd i mi yr awr hon am fy holl gnawdol ddi∣grifwch a aeth heibio, yn yr hwn y gosodais fy mhrif ddifyrrwch? nid oedd y chwantau cnawdol hyn∣ny, ond breuddw ydion twyllodrus, ac yr awr hon a ae∣thant ymmaith megis cysgod diflanedig: eithr meddwl am y poeau tragwyddol y rhai sydd raid i mi en goddef ynghyfair y byrr ddigrifwch hwnnw, sydd i'm poeni cynddrwg ag vffern, cyn fy myned i vffern, Etto yr ydwyf yn gwir gyfaddef mai fal yr haeddais yr wyfyn cael; a myfi wedi fyngwneuthur ar lun Duw yn enaid rhesymmol, ac yn gallu dirnad fynghyflwr fy hyn, a chael cynnyg i mi drugaredd cyn fynyched, ac ymbil a myfi am ei dderbyn, yn gwrthod rhâd Duw, ac yn dewis dilyn trachwantau pechod o flaen crefydd dduwiol i ryngu bodd Duw: fy amser byrr a dreuliais yn ddiriaid, heb ystyried pa gyfrifon a fyddai raid i mi roi yn y dydd diwedd. ac yn awr holl feluswedd fy mywyd pe cesclid ynghyd, ni chystadlei y rhan leiaf om poenau presennol. y llawenydd a gefais nid oedd ond amserol, ac a ddarfu cyn i mi yn brin ond ei ddechreu: fy nhrueni sydd dragwyddol a di-drangc. O na ddarfuasai i mi dreulio yr amser, a fwriais yn ofer yn chwarau cardiau, disiau, a chwaryddiaeth, a'r cyffelyb helynt ddiffaith, yn darllain yr Scrythrau,

Page 45

yn gwrando pregethau, yn derbyn y cymmun, yn wyto am fy mhechodau, yn ymprydio, gwilio, a gweddio, fal y gallaswn i yr awr hon ymadel mewn gobaith diogel o iechydwriaeth tragwyddol! O na bawn yn awr i ddechreu fy mywyd drachefn, oh fel y diystyrwn y byd hwn a'i oferedd! mor bûr ac mor fucheddol y byddwn fyw, mor fynych yr awn i'r Eglwys i san∣cteidio dydd yr Arglwydd! Ped fai Satan yn cynnyg i mi holl drysor, diddanwch, a goruwchafiaeth y byd hwn, ni chai efe fyth fy hudo i anghofio y gofidian hyn yn yr awr ddiweddaf. O gorphilyn llygredig, a burgyn drewllyd, pa fodd y chwaràdd diafol hudo∣liaeth a nyni ein dau? Pafodd y darfu i ni wasanaethu, a thwyllo bôb vn y llall? a thynnu damnedigaeth greulon arnom ein deuwedd? yr awrhon y mae fyngyflwr yn fwy grefynus nâ 'r anifail sy'n trigo yn y ffòs; o herwydd y mae yn rhaid i mi fyned i atteb ger bron brawdle cyfion farnwr nef a daiar: lle ni chaf fi neb i ddadleu drosof, ar diawliaid melldige∣dig yma, y rhai fy gydnabyddus am holl ddrwg weithredoedd a fydddant i'm cyhuddo, ac ni allaf fy escusodi fy hûn, y mae fyngalon fy hûn eusys yn fynghyhuddo, yr wyf yn sicr o gael damnedigaeth o flaen yr orseddfainge, ag oddiyno fy llusgo gán gythrauliaid vffernol, i'r caethiwed anrhaethadwy, a'r poenau didrangc o'r tywllwch eithaf: lle ni chaffi weled mor goleuni mwyach, y peth godidawg cyntaf a'r a wnaeth Duw. myfi yr hwn ym mhlaen llaw oeddwn yn ymogoneddu fy mod yn rhyddwas, ydwyf yr awr hon gwedi fyngwarcháu tan grafangau Satan: fel y betris ddychrynllyd o fewn sbagau y gwalch rheibus. Ym há le y caf etty heno? a phwy a fydd yn gyfeilion i mi? o ddychryn i feddwl am dano! o ofid iw ystyried! ô melldithier y dydd yn yr hwn im ganwyd, na fydded y dydd y beichiogodd fy mam arnaf yn fendigedig, melldigedig fyddo'r dyn a

Page 46

ddywedodd wrth fy nhâd fe aned i ti fab, ac a'i cy∣ssurodd. melldigedig a fyddo y gwr hwnnw, am nas lladdasei fi: O na buasei grôth fy mam yn fêdd i mi, neu na buasai ei chròth byth heb escor. O pa ham i daethym o'r groth i ddioddef yr vffernol arteithiau hyn? ac fal hyn i ddibenu fy nyddiau trwy gywilydd tragwyddol. Melldigedig fo 'r dydd im cysylitiwyd ar fath gorph drygionus. O na allwn gael cymmaint ffafr, ac na chawn weled mo honot ti fyth mwyach; y mae ein ymadawiad ni yn dra chwerw, ac yn alarus, eithr ein hail gyfarfod, ar y dydd ofnadwy hwnnw i dderbyn cyflawndra ein haeddedigol ddialedd, a fydd o lawer mwy echrys ac annoddesusach. Ond beth yr wyf iw feddwl fal hyn, wrth alarnad rhyhwyr yn ceisio oedi yr amser? fe ddaeth yr awr ddiwa∣ethaf: yr wyf yn clywed llinynnau y galon yn torri, y mae 'r ty pridd hwn yn cwympo ar fy mhen; nid oes yma na gobaith, nac ymwared, na lle i drigo yn hwy, y mae yn anghenrhaid i mi gychwyn. Tydi ys∣gerbwd budr: oh ysgerbwd budr, yn lle bydd wych, bydd waeth, my fi a'th adawaf: ac felly dan grynu, y mae fe yn dyfod allan, ac yn ddisymmwth y mae 'r dreigiau vffernol yn ymaflyd ynddo, ac yn ei ddwyn yn nerthol Mal llif cornant i'r pwll heb waelod, yr hwn sy'n llosci o dân a brymstân: lle yr ydis yn ei gadw mewn carchar poenedig, nes y byddo y dydd mawr ar farn gyffredinol. Yn ôl hyn y rhoir yr scerbwd drgsawr yn y bêdd, yn yr hon weithred gan mwyaf, y mae 'r meirw yn claddu y meirw: hynny yw, y rhai ydynt farwol mewn pechod a glad∣dant y rhai â fuont feirw am bechod. Ac fal hyn yr anuwiol ar bydoi di-ailgenedledig, yr hwn a wna∣eth y ddaiar yn beradŵys iddo ei hûn, ei fol yn Dd∣uw, a'i drachwant yn gyfraith: mal y darfu iddo ef yn ei sywyd hau gwagedd, felly yr awrhon wedi ei farw, efe à feda drueni. Yn ei wynfyd efe a esceu∣lusodd

Page 47

wasanaethu Duw, yn ei adfyd y mae Duw yn ei necau yntau o'i gymmorth, a'r cythraul yr hwn y bu ese yn hir yn ei wasanaethu, sydd yn awr or diwedd yn talu iddo ei gyflog. Ffiaidd oedd ei fuchedd, melldige∣dig ei farwolaeth. Y cythraul a gafodd ei enaid, ar bedd ei gorphilyn; yn yr hwn sybwll o lygredigaeth, ogof marwolaeth, daiardŷ galar, y gydwn y diffeithwas anheilwng yn pydru, a'r safn ynllawn pridd, ei fol yn llawn pryfed, a'i barwyden yn llawn drygsawr, yn disgwyl adgyfodiad ofnadwy, pryd yr adgysylltir a'r enaid; fel megis y cyttunasant au gilyd i wneuthur pechod, felly y cânt gyd-boenydio gyd a'i gilydd yn dragwyddol.

A hyn am drueni yr enaid a'r corph wrth farw, yr hyn nid yw ond melldith mewn. rhan: Bellach y canlyn cyflawnder melldith, yr hyn yw trueni yr e∣naid a'r corph yn ôl marwolaeth.

Myfyrdod am drueni dyn yn ol marwolaeth, yr hyn yw cyflawnder melldigedigwrydd.

CYflawnder melldigedigrwydd (pan syrthio ar greadur, ni allo oddef ei bwys) sydd yn ei wthio ef i lawr i ddyfnder diwaelod digofaint ani∣bennus yr oll alluog Dduw, Luc. 16.23. yr hwn a elwir damnedigaeth uffern, Matt. 23.33. y cyflawn felldigedigrwydd hwn sydd naill a'i neull∣tuol, a'i cyffredinol.

Neulltuol ydyw, (yr hyn mewn mesur llai o gyfla∣wndra) sydd yn discyn a'r yr enaid yn ddi atteg, hwy'n gyntaf ac yr ymwahano ef oddiwrth y corph.

Oblegid yn y munyd yr ymadawo, y mae'n bre∣sennoll yngŵydd ac yngolwg Duw. Canys pan ballo ganddo ef weled a'i lygaid corphorol, gweled a wna mewn môdd ysprydol: fel Stephan, yr hwn a welodd ogoniant Duw, ac Jesu yn sefyll ar ei dde∣haulaw,

Page 48

Act. 7.5. Neu fal gŵr a aned yn ddall, ac ni welsai ddim erioed, wedi cael ei olwg drwy fawr wrthiau, yn gweled yr haul, yr hwn ni wes∣sai erioed or blaen. Ac yno trwy dystiolaoth ei gydwybod ei hûn, y mae Crist y barnwr cyfion yr hwn sy'n gwybod pob peth, yn peri iddo (drwy ei anfeidrol allu) ddeall y gôsp a'r farn sydd ddy∣ledus iddo am ei bechodau, a pha gyfryw fydd ei helynt dragwyddol. Ac yn y modd hyn yn sefyll yngolwg y nef, ac yn anghymmwys o herwydd ei aflendid i fyned i'r nef; yr ydis yn dywedyd ei fod yn sefyll ger bron gorseddfaingc Duw. Ac yno yn ddisymmwth y mae 'r angylion drwg, y rhai a ddaethant iw gyrchu, yn ei ddwyn bendramwnwgl i uffern; lle y cedwir ef yngharchar mewn tragwyd∣dol boenau beunyddiol, nes dyfod y farn fawr yn y dydd ofnadwy: eithr nid yn y dygn boenau eithaf, y rhai a dderbyn ef yn gwbl yn y dydd diwae∣thaf.

Cyffredinol gyflawnder melldith sydd mewn me∣sur helaethach o gyflawndra, yr hwn a ddiscyn ar y ddau, sef enaid a chorph; pryd y dygir (drwy alluog nerth Crist penbarnwr nef a daiar) un o uf∣fern, a'r llall allan or bêdd, megis carcharorion, i dderbyn barn ofnadwy yn ôl eu drwg weithredo∣edd. Dadc. 11.18. Dan. 12.1. Joa. 5.18. Pa fodd y bydd y gwrthodedig, pan fyddo 'r mor yn rh•••• ar ddaiar yn crynu, a nerth y nefoedd yn siglo, gan ddychryndod (oddiwrth yr arŵyddion nefol tû ac at ddiwedd y byd) yn amhwyllo. Oh pa fâth gyfarch alarus fydd rhwng yr enaid colledig a'r corph, wrth eu hail gysylltiad yn y dydd dychry∣nadwy! O sugnedd pechod, a mygn o fudreddi (medd yr enaid wrth ei gorph) pa fodd yr ydis yn fyngorthrechu i fyned drachefn i'th fewn di? nid me∣gis i gyfannedd i drigo, ond megis i garchar i be∣nydio

Page 49

ynghyd. O fel yr wyt yn ymddangos yn fy∣ngolwg fel merch Jephte i'm hanguriol gystudd! O Dduw na buasit ti byth bythol yn pydru yn y bêdd, fal nath welswn byth mwyach! O pâ wradwydd a ddygwn ni ynghyd, wrth glywed adrodd ar osteg o flaen Duw, dynion, ac Angelion, yr holl ddirgel bechodau y rhai a wnaethom ynghyd! a gollais i y nef, o wir gariad ar y fath furgyn drewllyd? a'i ty di yw 'r cnawd yn ol trachwantau yr hwn, yr ym∣roais i wneuthur cymmaint o odineb? O fol gwrthun pa fôdd y bum mor ffôl ath wneuthur di yn Dduw i mi? O mor wallgofus oeddwn redeg yn wysg fy mhen ir cystuddiau yma o boenau annibennus, er mwyn meddiannu llawenydd munudiol. Chwychwi greigiau a mynyddoedd, pa ham yr ŷch yn neidie fal hyrddod? Psal. 114.4. ac na chwympwch arnaf i'm cuddio rhag wyneb yr hwn sydd yn dyfod i eistedd a'r yr orseddfaingc accw? Oblegid y mae dydd mawr ei ddigo faint ef wedi dyfod, a phwy a ddichon sefyll? Datc. 6.16, 17. O ddaiar pa ham y cry∣ni, fal hyn wrth weled yr Arglwydd, ac nad agori dy safn i' m llyngcu i wared fel y gwnaethost â Cho∣rah, ac mal na 'm gwelid mwy?

O Ellyllon damnedig, mi a fynnwn pe gallech yn ddioed fy rhwygo i yn ddrylliau, dan ammod y drylliech fi oni'm gwnelid yn ddiddim. Eithr tra fŷch di, fal hyn yn ymofidio yn ofer, dros dy dru∣eni, yr Angelion a'th lusgânt di ymmaith yn styr∣nig, o ymmyl dy fêdd i ryw le cyfagos at frowdle Crist, yn yr hwn le tra fych di fal gafr felldigedig, wedi dy ddidoli i sefyll i wared ar y ddaiar, megis ar law asswy y barnwr, fe gyfrif Crist ar gyhoedd yr holl ddoniau a dywalltodd arnat, a'r holl arteithi∣an a ddioddefodd trosot, ar holl weithredoedd da a adewaist dithau heb wneuthur, a'r holl freiddra

Page 50

gwaharddedig a wnaethost yn ei erbyn ef a'i gyfrei∣thiau.

Dy gydwybod oddifewn, (yn waeth na mil o dy∣stion) a'th cyhudda: y cythrauliaid, y rhai a'th ddenodd di ith holl ddireidi drygionus, a fyddant o'r naill-tu efo ath cydwybod, yn dwyn tystiolaeth i'th erbyn: ar y tu arall y saif y Seintiau bendige∣dig a'r Angelion i gydbrofi cyfiawnder Crist, gan ffieiddio creadur mor aflan. Oth ol swn echry∣stawn aneirif gyfeillion colledig, a damnedigion gre∣synol yn aros am dy gyfeillach. Oth flaen di yr holl fyd yn llosci yn fflam o dân; goruwch dy ben di y bydd y Barnwr llawnddig a chôsp haeddedigol yn barod i adrodd y farn ith erbyn. Oddi tanat ge∣nau gwreichionllyd y gauffwrn ddiwaelod yn ago∣red i'th dderbyn. Yn y cyflwr gresynol hwn, fe fydd amhonibl iti ymgadw, o blegit dan yr ammod hon∣no, ti a fynnit pe cwympei y graig fwyaf ar dy uchaf, Dad. 6.16, 17. Ymddangos a fydd anesco∣rol itti, ac etto y mae 'n rhaid i't sefyll allan gyd a'r colledigion eraill i dderbyn y farn hon arnad, sef, Ewch oddiwrthif chwi felldigedig i'r tân tragwy∣ddol, yr hwn a ddarparwyd i ddiafol ac iw angeli∣on, Mat. 25.41.

Ewch oddiwrthif] dyna neullduaeth oddiwrth bob gorfoledd a dedwyddwch.

Chwi felldigedig] Dyna yr yscymundod creu∣londdwys. Ir tân] dyna greulonrhwydd, Tragwy∣ddol] dyna barhâd y poenedigaeth. A ddarparwyd i ddiawl ac iw angelion] dyna 'r penyd uffernol, a'r penydwyr. O farn fnadwy rhag yr hon ni eill y rhai damnedig mor diangc! yr hon pan adrodder, ni ellir byth ei throi yn ei hôl; yn erbyn yr hon ni ellir bwrw escusodion; oddiwrth yr hon ni ellir my∣ned i fan arall i achwyn, nac i appelio. Felly nid oe i'r rhai colledig ddim i, ddigwyddo, ond poenau u∣ffernol,

Page 51

y rhai a fydd heb esmwythau 'r penyd, na dibennu 'r amser. Oddiwrth yr orseddfaingc hon, rhaid ir angelion dy daslu di (ynghyd ar holl gythreuliaid dammedig ar gwrthodedigion) i'r pwll heb waelod, ar tywyllwch eithaf, yr hwn sy'n llosci o dân a brwmstân yn dragwyddol, Dat. 21.8. Ir fan hon cyn gynted ac ith teflir, ti gei glywed y fâth alar, wylofain, ac ocheneidiau, nad oedd gwaedd Corah, Dathan, ac Abiram pryd eu llyncodd y ddaiar hwynt ddim tebyg ir vdfa yma: nagê wrth glywed yr oernad yma, ti a debygit dy fod yn yffern cyn dy fod yno.

Yn yr hwn bwll heb waelod, gwedi unwaith dy fwrw, ti a fyddi yn syrthio bob amser, ac er hynny byth heb gael gwaelod: ac ynddo y byddi byth yn cwynfan heb neb a dosturio wrthit: ti a wyli yn ddi∣baid gan angerdd poenau y tân, ac etto dy ddannedd a grŷn rhag maint yr oerfel: ti a wyli wrth fe∣ddwl fod dy drueni yn ddi-ymwared: ac a wyli wrth feddwl na wna edifairwch ddim lleshâd: Ti a wyli wrth feddwl, pa wedd am gysgodau o ddi∣fyrrwch byrr, y darfu i't syrthio i ofidiau poenau tragwyddol: ti a wyli wrth weled na eill wylofain y chwaith itti ronyn lleshâd: iê ac yn wylo ti a wy∣li ychwaneg o ddagrau nâg sydd o ddwfr yn y môr, oblegid y mae dwfr y môr yn beth terfynol, eithr wylofain y gwrthodedig a fydd an-herfynol.

Yno y caiff dy lygaid serchogaidd eu cystuddio wrth edrych a'r ysprydion erchyll: dy glustiau mo∣ethusglyw eu dychrynu gan oernad y cythrauliaid yn vdo, a rhingcian dannedd y gwrthodedigion po∣enedig: dy drwyn meindlws a gaiff ei lenwi a dryg∣sawyr drewedig frwmstan: dy archwaeth dewisol a boenir â newyn anguriol, dy gêg feddw a sŷch gan syched anniffoddadwy: dy feddwl a gystuddic wrth gofio mai o ferch i ddifyrrwch amserol, yr

Page 52

hwn sy 'n dislannu cyn blodeuo, y buost mor ynfyd, a cholli y llawenydd nefol, a rhedeg yngwysc by ben ir poenau vffernol, y rhai a barhânt tu hwnt i drag∣wyddoldeb. Dy gydwybod yn oestadol a'th frath di pan fyddyliych, mor fynych y darfu i Grist trwy ei bregethwyr gynnig iti faddeuant am dy bechodau, a chynnig teyrnas nefoedd i ti yn rhwydd ac yn rhad, os ty di a wnait gymaint a chredu ac edifarhau: ac mor hawdd y gallysit ti dderbyn trugaredd yn y dyddiau hynny; mor agos a fuost lawer gwaith i edi∣farhau, ac etto fe ddarfu iti gynnwys i'r byd dy gadw yn anediferiol; ac yn awr fal y mae dydd y drugar∣edd wedi myned heibio ac ni lewyrcha byth dra∣chefn.

O fal y bydd dy ddealltwrieth ar bigau dûr, wrth ystyried, ddarfod i ti o chwant i gyfoeth darfodedig, golli y trysor tragwyddol, a chyfnewid dedwyddwch nef am drueni vffern! Lle bydd pob rhan o'th gorph (heb na thorr na thrai a'r boenau) yn cael yn vn ffunyd eu penydio yn dragywydd. Yn y Penydiau vffe∣rnol yma, fe a'th ddifuddir yn dragwyddol ô olwg bendigedig yr Arglwydd, yn yr hyn y mae gwir ddawn a bywyd yr enaid yn sefyll. Ni chei di fyth weled goleuni, nac un golwg ar lawenydd, ond gor∣wedd mewn tragywyddol boenau y tywyllwch eithaf. lle na bydd trefn ond dychryndod; na llais ond llais cablwyr, a rhai yn vdo; na sŵn ond sŵn y poenau, ar penydwyr; na chymdeithas, ond gyd â diafol ai angelyon: y rhai gan eu bod mewn penyd eu hun∣ain, ni allant gael dim llonyddwch ond porthi eu cynddaredd yn dy bennydio di. Lle bydd poene∣digaeth heb dosturi, trueni heb drugaredd, alaeth heb gymmorth, gweiddi heb ddisdewi, aflonydd heb fesur, cystudd heb esmwythdra, lle mae y prŷf heb farw, a'r tan heb ddiffoddi: lle bydd digofaint Duw yn ymaflyd a'r dy enaid a'th gorph, fal y

Page 53

fflam dân ar y pŷg a'r brwmstan: yn yr hon ti a gei losci yn oestadol, a byth heb ddarfod, marw beunydd, a byth heb farw, beunydd yn ymrwyfo mewn gofidiau angau, a byth heb gael gwared o honynt, nac adnabod diben a'r dy boenau. felly pan ddarfyddo i ti eu dioddef hwynt rif••••i mil o flyny∣ddoedd, am bob mil o welltglas sydd ar y ddaiar, neu dywod ynglan y môr, nid wyt ti o ronyn nes i gael diben a'r dy boenau, na 'r awr gyntaf i'th tafl∣wyd iddynt: iê y maent cyn belled oddiwrth ddi∣weddu nad ŷnt hwy ond dechreu beunydd. Ond pe bai yn ôl mîl filiwn o flynyddoedd obaith y cai dy enaid colledig ddibendod ar y penydiau hyn, ê fyddai hynny beth cyssur, feddylied fod ryw amser y diwedd i ddyfod: either cyn fynyched ac y byddo 'r meddwl yn cofio y gair yma byth, dyna vffern arall ynghanol vffern.

Y meddylfryd hwn a bair i'r colledig weiddi ouai, ouai, cymaint a phe dywedent ouc aei, ouc aei. O Arglwydd nid byth, nid byth, eu cydwybod a'i het∣tyb fal y gareg lefain, aei, aei, byth. byth. oddy∣ma y cyfyd eu tostur Ouai, sef, gwae, ac ôch yn dra∣gywydd.

Dyma yr ail farwolaeth, sef yr union gyffredinol gyflawnder o'r holl felldithrwydd a thrueni: yr hyn sydd raid i'r holl gwrthodedigion colledig ei ddiodd∣ef, tra fyddo Duw a'i seintiau yn gyfrannog o ogoni∣ant a dedwyddwch nefol yn dragywydd.

Hyn yma am drueni dŷn ynghŷflwr llygredi∣gaeth, oddieithr ei adnewyddu drwy râs Ynghrist.

Yn ôl hyn i canlyn gwybodath am fywyd dŷn, o herwydd grâdd ei adgenedliad trwy Grist.

Do you have questions about this content? Need to report a problem? Please contact us.