Llyfr y resolusion yr hwnsydd yn dysgv ini bawb : wneuther ein goreu a rhoi cwbl o'n Gristianogion hynny ydyw'ar ymadael a'n drwy fuchedd, a throi at ddaioni a duwioleb / wedi ei gyfiethu yn Gy mraeg gan y Dr. I.D. ...

About this Item

Title
Llyfr y resolusion yr hwnsydd yn dysgv ini bawb : wneuther ein goreu a rhoi cwbl o'n Gristianogion hynny ydyw'ar ymadael a'n drwy fuchedd, a throi at ddaioni a duwioleb / wedi ei gyfiethu yn Gy mraeg gan y Dr. I.D. ...
Author
Bunny, Edmund, 1540-1619.
Publication
yn Llundain :: gan I.R.,
1684.
Rights/Permissions

This keyboarded and encoded edition of the work described above is co-owned by the institutions providing financial support to the Early English Books Online Text Creation Partnership. Searching, reading, printing, or downloading EEBO-TCP texts is reserved for the authorized users of these project partner institutions. Permission must be granted for subsequent distribution, in print or electronically, of this text, in whole or in part. Please contact project staff at eebotcp-info@umich.edu for further information or permissions.

Subject terms
Christian life.
Cite this Item
"Llyfr y resolusion yr hwnsydd yn dysgv ini bawb : wneuther ein goreu a rhoi cwbl o'n Gristianogion hynny ydyw'ar ymadael a'n drwy fuchedd, a throi at ddaioni a duwioleb / wedi ei gyfiethu yn Gy mraeg gan y Dr. I.D. ..." In the digital collection Early English Books Online 2. https://name.umdl.umich.edu/A30113.0001.001. University of Michigan Library Digital Collections. Accessed May 17, 2024.

Pages

Page 149

YR AIL RHAN O'R LLYFR HWN.

PENNOD. I. Am y rhwystrau sydd yn llestair i ddynion roi eu bryd ar wasanaethu Duw, ac yn gyntaf, am yr anhawsder a'r caledi a dybygir eu bod mewn buchedd dduwiol.

ER maint o resymmau ac o ystyriaethau a osod∣wyd i lawr o'r blaen, i geisio dwyn, a denu dynion i rôi eu bryd ar beth mor anghenrhei∣diol ac ydyw gwasanaethu Duw; etto y mae llawer o Gristianogion yn y byd, y rhai y mae eu calonnau naill a'i wedi eu maglu gan ddyfyrrwch y bywyd hwn, ai gwedi eu rhoi o Dduw i fynu i feddwl an∣ghymmeradwy, nad ymroant hwy vn gronyn i'r cais a'r cyrch a roddwyd arnynt; ond eu dangos eu hunain yn galettach na'r Adamant, ac nid yn vnig gwrthwynebu a diystyru 'r cwbl, ond gydâ hynny chwilio am escusodion dros eu diogi a'i hannuwio∣deb, a dwyn rhesymau trostynt, i'w colledigaeth eu hunain. Rhesymmau yr wyf yn eu galw hwy, fel y gelwir hwy yn gyffredin, er nad oes yn siccr

Page 150

vn peth mwy yn erbyn rheswm na bod i ddyn fy∣ned yn elyn i'w enaid ei hun, fel y mae 'r Scrythur lân yn dywedyd fod pechaduriaid anhydyn, Dihar. 8.36. Ond etto er hynny, mae ganddynt eu hescu∣sodion: a'r cyntaf a'r pennaf o'r cwbl ydyw, bod buchedd dduwiol yn boenus ac yn galed, ac am hyn∣ny na allant hwy ddioddef ei chanlyn: yn enwedig y rhai a dducpwyd i fynu, yn dyner ac yn fwythus, ac ni buant erioed gynnefin a'r cyfryw arwder, ac y tybiant ein bod ni yn ei ofyn ar eu dwylo hwy. Ac y mae hyn yn rhwystr mawr, helaeth, cyffredinol, ac yn attal llawer iawn oddiwrth y moddion fydd i∣ddynt i ymchwelyd at Dduw, ac am hynny y mae'n rhaid atteb hynny yn helaeth yn y fan hon.

2. Yn gyntaf gan hynny, pe rhôn a bod ffordd buchedd dduwiol mor galed mewn gwirionedd, ac y mae'r gelyn yn peri i lawer dybied ei bod hi; et∣to mi a allwn ddywedyd yn hydda, gydâ S. Ioan aur-eneu, gan fod y gwobr mor fawr, ac mor anfeidrol ac y dangosasom eisus, na ddylid cyf∣rif yn fawr boen yn y byd a gymmerid i ddyfod o hyd iddo. Drachefn, mi a allwn ddy∣wedyd gyda S. Awstin dduwiol, gan ein bod ni beunydd yn y byd hwn yn cymmeryd poen fawr i ochel gwrthwyneb bychan, megis clefyd, carchar, colled am dda, a'r cyffelyb: pa boen a ddylem ni ei gwrthod i geisio gochel tra∣gywyddoldeb tân vffern, a grybwyllwyd am dano or blaen? Y cyntaf o'r pethau hyn y mae S. Paul yn ei ystyried, pan yw 'n dywedyd, Nid yw dioddefia∣dau yr amser presennol hwn, yn haeddu eu cyffelybu i'r gogoniant a ddatguddir i ni yn y fuchedd a ddaw, Rhuf. 8.18. Yr ail peth y mae S. Petr yn ei ysty∣ried pan yw yn dywedyd, Gan fod yn rhaid i'r ne∣foedd a'r defnyddiau, a'r ddaiar, a'r gwaith a fyddo

Page 151

ynddi, ymollwng; a bod yn ddir y daw Christ i farnu, ac i dalu i bawb yn ôl ei gweithredoedd; pa ryw fâth ddynion a ddylem ni fod mewn sanctaidd ymar∣weddiad a duwioldeb, 2 Pet. 3.10. Megis pe dy∣wedid, ni ddylem ni dybied fod na llafur, da phoen, na thrafael yn y byd, yn ormodd nac yn rhy galed i ni, i geisio gochel dychryndod y dydd hwnnw. Y mae Sainct Awstin yn gofyn y Questiwn yma, Pabeth dybygem ni a wnai'r glŵth goludog, pettai efe yr awrhon yn y bywyd yma drachefn: oni byddai efe fawr ei boen a'i ofal yn gynt nag yr ai efe yn ei ôl drachefn i'r lle poenus hwnnw? Mi a allwn chwa∣negu at hynny y poenau anfeidrol a gymmerodd Christ trosom ni; yr anfeidrol ddoniau a roddodd efe i ni? yr anneirif bechodau a wnaethom ni yn ei erbyn ef; aneirif esamplau 'r Sainct a gerddasant y llwybr yma o'n blaen ni: ac wrth hynny i gyd ni ddylem ni wneuthur cyfrif yn y byd o boen a llafur cyn lleied, pettai wir fod gwasanaeth Duw mor flin ac y mae llawer yn ei gyfrif.

3. Ond mewn gwirionedd, nid yw'r peth felly ddim, ac nid yw hynny ond hud a dichell y gelyn i geisio ein digaloni ni. Y mae tystiolaeth Christ ei hun yn olau yn y pwngc yma, Fy iau i sydd esmw∣yth, a'm baich sydd yscafn, Mat 11.30. Ac y mae 'r anwyl garedig ddisgybl Sainct Joan, yr hwn oedd fwyaf achos iddo i wybod cyfrinach ei feistr yn hyn o beth, yn dywedyd yn eglur, Ei orchymynion ef nid ydynt drymion, 1 Joan. 5.3. Beth yw'r achos wrth hynny, sydd yn peri i lawer o ddynion dybied eu bod mor anhawdd? Yn siccr, heb law cyfrwys∣der a dichell y cythraul yr hwn yw'r achos pennaf; vn achos yw, am fod dynion yn clywed clefyd tra∣chwant yn eu cyrph, ac nad ydynt yn ystyried gry∣fed yw'r feddyginieth a roed i ni yn ei erbyn. Y maent yn llefain gydâ S. Paul, eu bod yn gweled

Page 152

cyfraith yn eu haelodau, yn gwrthryfela yn erbyn cy∣fraith eu meddwl, Rhuf. 7.23. (yr hyn yw gwrth∣ryfel trachwant, a adawyd yn ein cnawd ni trwy bechod dechreuol) ond nid ydynt nac yn cyfaddef, nac yn ystyried gydâ 'r vn Sainct Paul, fod grâs Duw trwy Jesu Grist yn eu gwared hwy oddiwrth yr vnrhyw. Nid ydynt hwy yn cofio ymadrodd com∣fforddus Christ wrth Sainct Paul, yn ei brofedigae∣thau mwyaf, Digon i ti fy ngras i i'th gryfhau yn eu herbyn hwy i gyd, 2 Cor. 12.9. Mae'r gwyr hyn yn gwneuthur fel y gwnaeth disgybl Eliseus wrth fwrw ei olwg yn vnig ar ei elynion, hynny ydyw ar lu mawr y Syriaid oedd yn barod i osod arno, a dybiodd ddarfod am dano, ac na bai bossibl iddo sefyll yn eu golwg hwy, hyd oni chafodd ef genhadiad gan Dduw, trwy weddi'r prophwyd, i weled yr Angylion oedd yn sefyll yno yn bresen∣nol, i ymladd trosto ef, ac yna efe a welodd yn amlwg mai cryfaf oedd ei blaid ef. 2 Reg. 6.

4. Felly y gwyr hyn, wrth edrych yn vnig ar ein trueni ni a gwendid ein naturiaeth, trwy'r rhai y mae profedigaethau beunyddol yn cyfodi yn ein herbyn ni; y maent hwy yn cyfrif y gâd yn boenus a'r gorfod yn ammhossibl ei gael, am na phrofasant hwy erioed, gan eu hesgeulusdra eu hunain, yr am∣ryw gymmorth gras, a chynnorthwyau ysprydol eraill, y mae Duw yn wastad yn eu danfon i'r sawl sy fodlon i fyned i'r gad hon er ei fwyn ef. Yr oedd Sainct Paul wedi profi yn helaeth o'r cym∣morth hwnnw, yr hwn wedi iddo gyfrif yr holl bethau calettaf ac allai fod, sy'n dywedyd yn ych∣waneg, Ond yn y pethau hyn oll yr ydym ni yn fwy na chwnowerwyr, trwy'r hwn a'n carodd ni, Rhuf. 8.37. &c. Ac yma y mae efe yn datgan ar gyho∣edd, na all nac angeu, nac einioes, nac Angylion, na thywysogaethau, na meddiannau, na phethau presen∣nol,

Page 153

na phethau i ddyfod, nac vchder, na dyfnder, nac vn creadur arall, ei wahanu ef oddiwrth gariad Duw ynghrist Jesu: a hyn oll y mae ef yn ei ddy∣wedyd o hyder ar gymmorth ysprydol oddiwrth Grist, trwy'r hwn y mae yn hyderu dywedyd y gall∣ai efe wneuthur pob peth, Phil. 4.13. Fe a brofasei Dafydd ynteu rym ei gymmorth ef, pan yw yn dy∣wedyd, mi a redais ffordd dy orchymmynion, pais ehengaist fy nghalon, Psal. 119. 32. Yr ehengi yma ar galon oedd yn dyfod trwy gyssur ysprydol yr enneiniad oddi mewn, yr hwn sydd yn egori ac yn ehengi'r galon a gaewyd ac a gyfyngwyd gan ing a chystudd, wrth dywallt gras ynddi: megis y meddalhaa ac yr ymehenga pwrs neu god a fo wedi crino a chaledu, wrth ei iro ag olew. A phan oedd y gras hwnnw yn bresennol, y dywedai Dda∣fydd, nid yn vnig ei fod efe yn rhodio ffyrdd gor∣chymmynion Duw yn hawdd ac yn esinwyth, ond ei fod yn eu rhedeg: fel y bydd olwyn men yn llefain ac yn cwyno tan lwyth bychan tra fo hi sŷch; ond pan fwrier ychydig olew ynddi, hi a rêd yn llawen ac yn ddistaw ddinad. Ac y mae hynny yn vnion iawn yn dangos ein ystad a'n cyflwr ninnau, y rhai heb help a chymmorth Duw, nid ydym abl i wneu∣thur dim, ond trwy ei help ef ydym abl i wneuthur beth bynnag y mae efe yr awrhon yn ei ofyn gen∣nym ni.

5. Ac yn siccr, mi a ofynnwn i'r gwyr hyn sydd yn meddwl fod ffordd Cyfraith Dduw mor galed ac mor anhawdd, pa fodd y gallai'r prophwyd ddy∣wedyd, Bu mor llawen gennyf ffordd dy dystiolaethau a'r holl olud, Psal. 119.14. Ac mewn man arall, en bod hwy yn fwy dymunol nag aur, ie nag aur coeth lawer, ac yn felysach nâ'r mêl, ac na diferiad di∣liau mêl, Psal. 19.10 & 119.72. Wrth y gei∣riau hyn y mae efe yn rhoi i fuchedd dduwiol, nid

Page 154

yn vnig y bri a'r parch a haeddai vwch law holl dryssorau'r byd; ond hefyd yn dangos ei bod yn hyfryd, yn ddifyr, ac yn beraidd; a hynny i ores∣gyn ac i wradwyddo y rhai oll sy yn ei gwrthod ac yn ei hesgeuluso, yn rhith ei bod yn galed, ac yn anhawdd. Ac os gallai Dafydd ddywedyd cym∣maint yn amser yr hên gyfraith; oni allwn ni yn gy∣fiawnach o lawer ddywedyd hynny yn amser y gy∣fraith newydd, pan roddwyd gras yn helaethach, fel y dyweid yr Scrythur, Joan. 1.17. A thitheu Gristion truan, yr hwn wyt yn dy dwyllo dy hunan a'r tŷb ac a'r meddwl hwnnw, dywaid i ml pa ham y daeth Christ i'r byd? pa ham y cymmerodd efe cymmaint o boen a llafur yn y byd yma? pa ham y collodd efe ei waed? pa ham y gweddiodd efe at ei Dad cyn fynyched trosot ti? pa ham yr ordeini∣odd efe y Sacramentau i fod megis yn bibellion i ddwyn gras i ti? pa ham y danfonodd efe yr yspryd glân i'r byd? pa beth y mae 'r gair yma Efengyl, neu goelsain, neu Newyddion da, yn ei arwyddoc∣cau? pa beth yw meddwly gair yma Grâs, a'r dru∣garedd a ddûg efe gydag ef? beth y mae 'r gair com∣fforddus yma Jesu yn ei ddwyn ar ddallt i ni? Ond i'n gwared ni oddiwrth bechod y mae hyn i gyd? oddiwrth y pechod a aeth heibio meddaf, trwy ei vnig farwolaeth ef: oddiwrth y pechod a ddêl, trwy 'r vn farwolaeth, a thrwy gymmorth ei sanctaidd ras ef, a roddwyd i ni trwy 'r moddion hynny yn hela∣ethach nag o'r blaen? Ond hyn yn bennaf a weithi∣odd dyfodiad Christ, fel y dywed y prophwyd, y gwneid y ffyrdd gwyr-geimion yn vnion, a'r anwa∣stad yn wastadedd, Esa. 40.4. Luc. 3.4. Ond hyn oedd yr achos y cynnysgaeddodd efe ei eglwys a chynnifer o ddoniau bendigedig yr yspryd glan, ac ag amryw radau arbennig, i wneuthur iau ei wasa∣naeth yn beraidd, a buchedd dda yn esmwyth, a

Page 155

rhodio yn y gorchymynion yn hyfryd: fel y gall dynion bellach ganu mewn cystuddiau, a bod yn' hy∣derus mewn peryglon, ac yn ddiofal mewn gwrth∣wyneb, a bod yn siccr o gael y maes ym mhob math ar brofedigaethau? Ond hyn yw dechreu, a cha∣nol, a diwedd yr Efengyl? Ond y rhai hyn oedd addewidion y prophwydi; a llawenchwedl yr Efen∣gyl; a phregeth yr Apostolion; ac addysg, a chre∣diniaeth, a gwaith a gorchwyl yr holl Sainct? Ac yn ddiweddaf, ond hyn yw verbum abbreuiatum Y gair a fyrhawyd, yn yr hwn y mae 'n sefyll holl gy∣foeth a thrysor Christianogaeth? Rhuf. 9.28.

6. Ar grâs yma sydd o'r fath nerth a grym yn yr enaid yr êl i mewn iddo, ac y newidia ei holl gy∣flwr ef: ac y gwna yn oleu ac yn eglur y pethau oedd o'r blaen yn dywyll, ac yn hawdd ac yn es∣mwyth y pethau oedd o'r blaen yn galed ac yn an∣hawdd. Ac o'r achos hwnnw y dywedir am dano yn yr Scrythur lân, ei fod yn gwneuthur yspryd ne∣wydd a chalon newydd. Megis lle y mae Ezeciel wrth grybwyll am y peth hyn, yn dywedyd megis allan o enau Duw, Mi a roddaf iddynt galon newydd, ac a roddaf yspryd newydd o'i mewn hwynt; fel y rho∣diont yn fy neddfau, ac y cadwont fy marnedigae∣thau, ac y gwnelont hwynt, Ezec. 36.26. A ellir dywedyd dim yn y byd yn eglurach? Ac am far∣wolaethu a gorchfygu ein gwynniau, y rhai trwy eu gwrthryfel sydd yn gwneuthur ffordd gorchym∣mynion Duw yn anhyfryd; y mae S. Paul yn ty∣stiolaethu yn oleu, fod Duw yn rhoi i ni râs yn he∣laeth, trwy ddioddefaint Christ, i wneuthur hynny; canys y mae 'n dywedyd, Ni a wyddom hyn, ddar∣fod croes-hoelio ein hên ddŷn ni gydâ Christ, er mwyn dirymmu corph pechod, fel rhag llaw na wasanaethom bechod, Rhuf. 6.6. Wrth grybwyll am yr Hen ddŷn, a chorph pechod, y mae S. Paul yn deall ein

Page 156

gwynniau gwrthryfelgar ni a'n trachwant, y rhai hefyd a groes∣hoeliwyd ac a ddinistrywyd trwy ardderchoccaf aberth Christ, fel y gallwn ni trwy 'r grâs a bwrcaswyd i ni yn yr a∣berth honno, mewn rhyw fesur da, wrthwynebu a gorchfygu y gwyniau hyn, a ninnau wedi ein rhydd∣hau mor helaeth oddiwrth wasanaeth a chaethiwed pechod. A hon yw'r oruchafiaeth ardderchog gy∣fan gwbl, a ddechreuir yn y byd hwn, ac a orphen∣nir yn y byd a ddaw, yr hon a addawodd Duw er cyhyd o amser, i bob enaid Christianogaidd, trwy gyfrwng Christ, pan ddywedodd efe, Nac ofna ca∣nys yr wyfi gydâthi: na lwfrhâa, canys myfi yw dy Dduw; mi a'th gadarnhaf di ac a'th gynnorthwy∣af di, ac a'th gynnhaliaf di a deheulaw fy ngwr cyfiawn i. Wele cywilyddir a gwradwyddir y rhai oll a ymladdant i'th erbyn: dy wrthwyneb-wyr fy∣ddant megis diddim, ac a ddifethir. Ti a'i ceisi, ac ni's cei hwynt, sef y rhai a ymgynhennasant â thi. Y gwyr a ryfelant â thi a fyddant megis diddim, ac megis peth heb ddim. Canys myfi 'r Arglwydd dy Dduw a ymaflaf yn dy ddeheulaw, ac a ddywed wrthyt, nac ofna, myfi a'th gynnorthwyaf di, &c. Esa. 41.10.

7. Wele yma addaw i ni oruchafieth gyflawn yn erbyn ein gwrthryfelwyr, trwy gymmorth deheu∣law cyfiawn wr Duw; hynny ydyw yn erbyn ein gwyniau anllywodraethus, trwy gymmorth grâs o∣ddiwrth Jesu Grist. Ac er nad ydys yma yn addaw tynnu 'r gwrthryfelwyr hyn ymaith yn llwyr, ond yn vnig en gorchfygu a'i gwradwyddo; etto y mae yn dywedyd, y byddant hwy megis diddim, ac megis peth heb ddim. Ac wrth hynny yr arwyddocceir, na rwystrant hwy i ni fod yn gadwedig, ond yn hytrach ein dyrchafu, a'n rhwyddhâu tu a'n Iechyd∣wriaeth.

Page 157

wriaeth. Oblegid fel y mae 'r anifeiliaid gwyllti∣on, er eu bod o naturiaeth yn greulon, ac yn barot∣tach i wneuthur niweid i ddyn yn hytrach nâ chym∣mwynas, etto pan feistroler hwy a'i dofi, y maent yn myned yn fuddiol iawn ac yn anghenrhaid i ni: felly 'r gwyniau gwrthryfelgar hyn eiddom ninnau, er eu bod o honynt eu hunain yn gyfryw ac a'n han∣rheithient ni yn gwbl, etto wedi darfod i ni vnwaith eu darostwng a'i marwolaethu trwy râs Duw, hwy a wnant i ni lês mawr iawn, tu ac at weithredu pob math ar rinweddau da; megis y gwna chwerwder a digofaint lês i ni tu ac at gynneu ac ennyn zêl y∣nom, a chasineb i beri i ni erlid pechod, a meddwl vchel i beri i ni ddiystyru 'r byd ac ymwrthod ag ef, a chariad i beri i ni ymgais ac ymgyrhaeddyd a phob gweithred fawrfrydig wrolwych, ynghyfer y doniau a'r cymmwynasau a dderbyniasam ni gan Dduw. Heb law hyn, fe a adawyd y gâd a'r ym∣drech yma i ni i ddarostwng ein gwyniau, er mwyn mawr llês i ni; hynny yw, er mwyn ein dioddef∣garwch, a'n goruchafiaeth, ac i gael o honom ni 'r gorfod yn y bywyd hwn; ac er mwyn cael o ho∣nom ein gogoneddu a'n coroni yn y fuchedd a ddaw: fel y mae S. Paul yn dywedyd am dano ei hun, ac yn ei siccrhau i eraill trwy ei esampl ei hun.

8. Bellach gan hynny, aed y Christion diowg∣swrth, a rhoed ei law yn ei fonwes, neu dan ei wre∣gys, fel y dyweid yr Scrythur lan, a dyweded, Mae llew ar y ffordd, a llewes yn yr heolydd, ac fe a'm lleddir i: fel na lyfaso fyned allan o'r drysau, Dih. 19.24. Dyweded, Nad ardd efe gan oer∣der y gayaf, Dih•••• 26.13. Dyweded, anhawdd yw gweithio, ac am hynny ni chwynna efe na'r drain na'r ysgall allan o'i winllan, ac nid adeilada ei magwyr hi, Dih. 24.30, 31. Hynny ydyw, dywe∣ded

Page 158

fod ei wyniau yn gryfion, ac am hynny na's gall mo'i gorchfygu hwy; a bod ei gorph yn dyner ac yn foethus, ac am hynny na faidd efe roi gor∣mod poen arno, a bod ffordd buchedd dduwiol yn rhwystrus ac yn anhawdd, ac am hynny nas meidr efe ymroi i'w chychwyn hi. Dyweded hyn i gyd, a llawer ychwaneg, o'r pethau y mae Christianogi∣on diog segurllyd yn arfer o'i dwyn yn esgus dro∣stynt: dyweded hynny drosto ei hun, meddaf, cymmaint ac a fynno, a chyn fynyched ac y mynno; nid yw 'r cwbl ond esgus, a cham esgus, ac esgus yn gwneuthur mawr ammarch a dirmyg ar nerth a grym gras Christ, a brynodd efe a'i chwerw-dost ddioddefaint, nid ydyw ond esgus ddywedyd fod ei iau ef yr awrhon yn anhyfryd, ac ynteu ei hun wedi ei wneuthur ef yn esmwyth, Mat. 11.30. fod ei faich ef yr awrhon yn drwm, ac ynteu wedi ei wneuthur ef yn ysgafn; fod ei orchymmynion ef yr awrhon yn dôst, gan fod yr yspryd glan yn tae∣eru 'r gwrthwyneb, 1 Jo. 5.3. ein bod ni yr awr∣hon tan gaethiwed ein gwyniau, a'n trachwantau, ac ynteu trwy ei ras wedi ein gwared ni, a'n gw∣neuthur yn wir ryddion, Rhuf. 7.25. Os yw Duw gydâ ni, pwy a all fod i'n herbyn, medd yr Apostol, Rhuf. 8.31. Yr Arglwydd yw fy, ngobaith, a m iechydwriaeth, a'm nerth, medd Dafydd sanctaidd, rhag pwy yr ofnaf? yr Arglwydd yw nerth fy my∣wyd, rhag pwy y dychrynaf? Pe gwersyllai llu i'm herbyn, nid ofna fy nghalon: pe cyfodai câd i'm her∣byn, er hynny mi a fyddwn hyderus. A pheth yw 'r achos o hynny? Canys yr wyt ti gyda mi, Psal. 27.1, 3. & 28, 7. Psal. 23.4. Oh Arglwydd, yr wyti yn ymladd yn fy mhlaid, yr wyti yn fy nghymmorth i a th râs, a thrwy nerth dy ras di y caf yr oruchafiaeth: pe codei holl dorfoedd fy nge∣lynion i'm herbyn ar unwaith, sef y byd, y cnawd,

Page 159

a'r cythreul; mi a gaf nid yn vnig yr oruchafiaeth arynt, ond mi a'i caf yn hawdd ac yn esmwyth, a thrwy hyfrydwch a llawenydd. Canys cymmaint a hynny y mae S. Ioan yn ei arwyddoccau, oblegid wedi iddo ddywedyd nad yw gorchymmynion Christ yn drymion, y mae efe yn dywedyd yn y man ar ôl hynny megis i ddangos yr achos paham nad y∣dynt hwy drymion, Oblegid beth bynnag a aned o Dduw y mae yn gorchfygu'r byd. Hynny yw, y mae 'r gras yma, a'r cymmorth nefol a ddanfonir i ni oddiwrth Dduw, yn gorchfygu 'r byd a'i holl wrthwyneb a'i brofedigaethau, a chyda hynny yn gwneuthur gorchymmynion Duw yn esmwyth, a buchedd dduwiol yn dra-hyfryd ac yn beraidd, 1 Ioan. 5.3, 4.

9. Ond fe a allai y dywedwch hwi, Y mae Christ ei hun yn cyfaddef bod buchedd dduwiol yn iau ac yn faich, pa fodd wrth hynny y dichon fod yn hyfryd ac yn esmwyth, fel y dywedwch ei bod? Fy atteb yw, fod Christ yn dywedyd ym mhellach, ei bod yn iau esmwyth ac yn faich ysgafn. Ac y mae hynny yn tynnu ymaith eich gwrthwynebchw∣edl chwi, a chyda hynny yn arwyddoccau fod rhyw faich nid yw na thrwm na thost ar y neb a'i dycco, ond yn hytrach yn ei gymmorth ac yn ei lonnychu: fel mae 'r baich plu ar gefn yr aderyn yn cynnal yr aderyn i fynu, a heb fod yn flin iddo ddim. Felly hefyd er ei fod yn iau, y mae 'n iau esmwyth, ac yn iau comfforddus, ac yn iau sy fwy hyfryd na'r mêl, ac na'r dil mêl, fel y dywaid y proph∣wyd. Psal. 19.10. A pha ham hynny? am ein bod ni yn tynnu ynddo gyda chymmar hynaws mwyn∣aidd: yr ydym ni yn tynnu yr iau gyda Christ; Hynny ydyw, y mae ei ras ef yn y naill ben i'r iau, a ninnau yn gwneuthur ein goru yn y penarall. Ac o herwydd pan fo ŷch mawr ac ŷch bychan yn tynnu

Page 154

〈1 page duplicate〉〈1 page duplicate〉

Page 155

〈1 page duplicate〉〈1 page duplicate〉

Page 156

〈1 page duplicate〉〈1 page duplicate〉

Page 157

〈1 page duplicate〉〈1 page duplicate〉

Page 158

〈1 page duplicate〉〈1 page duplicate〉

Page 159

〈1 page duplicate〉〈1 page duplicate〉

Page 160

ynghyd, bod y pwys i gyd ar wddf yr ych mawr, am ei fod ef yn codi yr iau yn lân oddiar wddf y llall; ac dyna 'r achos tra fom ninnau yn tynnu yn yr iau yma gyda Christ sy fwy na nyni, ei fod ef yn ysgafnhau yr holl bwys oddiarnom ni, ac yn gofyn yn vnig fod ini fyned rhagom gydag ef yn gom∣fforddus, ac na wrthodom fyned tan yr iau gyd ag ef, am fod y boen i gyd yn eiddo ef, a'r hyfry∣dwch yn eiddom ninnau. Hyn y mae efe yn ei ar∣wyddoccau yn eglur pan yw 'n dywedyd, Deuwch attafi bawb ac sydd yn flinderog ac yn llwythog, ac mi a esmwythaaf arnoch, Matth. 11.28. Yma y gwelwch ei fod yn ein hannog ni i gymmeryd yr iau hwn, yn vnig fel y gallai ef wrth hynny ein llonnychu ni, a thynnu'r baich oddiarnom: ie me∣ddaf, tynnu 〈◊〉〈◊〉 baich oddiarnom a'n llonnychu, ac nid ein llwytho ni a'n blino mewn modd yn y byd: ein dadlwytho ni o feichiau trymion ac ieuau'r byd hwn: oddiwrth faich gofal, a baich trymder, a baich cynfigen, a châs, a malais; a baich balchder, a baich ymgyrhaedydd am swyddau, a baich cy∣bydd-dod, a baich annuwioldeb, a baich tân vffern. Oddiwrth yr holl feichiau, a'r ieiau gofidus hyn, yr ewyllysiai Grist ein gwared ni, trwy roi ar ein gwarrau ni ei iau of yn vnig a'i faich, a'r rhei'ny wedi eu hysgafnhau a'i pereiddio gan ei sanctaidd râs ef, fel nad ydyw flin eu dwyn hwy, ond es∣mwyth a hyfryd, a chomfforddus, fel y dangoswyd vchod.

10. Achos arall pa'm y mae 'r iau yma mor es∣mwyth, a'r baich mor ysgafn, a ffordd gorchym∣mynion Duw mor hyfryd gan wyr da, yw yr Ca∣riad sy ganddynt tu ac at Dduw, yr hwn biou 'r gorchymmynion. Oblegid nid oes vndynna's gŵyr, ac na's profodd ynddo ei hun, gryfed gwŷn yw gwŷn cariad, ac fel y mae yn gwneuthur yn hawdd

Page 161

ac yn esmwyth y boen fwyaf yn y byd. Pa beth sydd yn peri i'r fam gymmeryd cymmaint o boen yn magu ac yn meithrin ei phlentyn, ond cariad yn vnig? Pa beth sy'n peri i'r wraig eistedd mor ddi∣wyd wrth erchwyn gwely ei gŵr pan fo'n glaf, ond cariad yn vnig? Pa beth sydd yn peri 'r anifeiliaid, ac i adar yr awyr, hepcor peth o'i hymborth ei hun, a rhoi eu bywyd mewn perygl, i borthi eu rhai bach, ond nerth cariad yn vnig? Y mae S. Aw∣stin yn dilyn y pwngc yma ymmhell ac yn helaeth, trwy lawer o esamplau eraill: megis esampl y marsiandwr, yr hwn ni wr∣thyd antur yn y byd ar for, o gariad ar elw; yr heliwr ni wrthyd ddrwg dywydd yn y bŷd, o gariad ar ei helwriaeth; y rhyfelwr, ni wrthyd berygl marwolaeth, o gariad ar yr anrhaith. Ac y mae ef yn dywedyd ym mhell∣ach yn y diwedd, ac os gall cariad dŷn tu ac at greaduriaid yn y byd yma fod cymmaint ac y gallo beri iddo wneuthur poen a llafur yn esmwyth, ac na thybier ei bod yn boen, ond yn hytrach yn ddi∣fyrrwch ac yn hyfrydwch; pa faint mwy y bydd i gariad gwyr da tu ac at Dduw wneuthur eu holl bo∣en hwy'n gomfforddus, a gymmeront yn ei wasa∣naeth ef?

11. Yr anfeidrol gariad yma oedd yr achos y ty∣biai Grist am yr holl boenau a'r cystuddiau a ddio∣ddefodd ef er ein mwyn ni nad oeddynt hwy ddim A'r cariad yma hefyd oedd yr achos y tybiai lawer Christion am yr holl flinderau a'r poenau a ddiodde∣fasant hwy er mwyn Christ, nad oeddynt hwy ddim. Nid oedd carcharau, ac arteithiau, a cholled am an∣rhydedd, a da, a bywyd hefyd, ddim ond pethau gwael gan lawer o wasanaethwyr Duw, wrth y cariad gwresog yma. Y cariad yma a yrrodd lawer o wyryfon, a phlant ieuaingc tyner, i'w hoffrym∣mu

Page 162

eu hunain yn amfer erlid er cariad ar yr hwn yr oeddid yn eu herlid o'i achos. Y cariad yma a barodd i Apolonia dduwiol o Alexandria, pan ddugpwyd hi at y tân i'w llosgi er mwyn Christ, ddiangc allan o ddwylo y rhai oedd yn ei harwein, a rhedeg i'r tan yn llawen o honi ei hun. Y cariad yma a wna∣eth i Jgnatius yr hen ferthyr gynt wedi darfod ei gondemnio i'w daflu i'r anifeiliaid gwylltion, (am ei fod yn ofni y gwrthodent hwy ei gorph ef, fel y gwrthodasent lawer o ferthyron o'r blaen) ddy∣wedyd na adawai ef iddynt wneuthur felly, ond yr annogai ac y cyffroai efe hwynt i ddyfod atto, ac i ddwyn ei fywyd oddiarno, trwy rwygo ei gorph ef yn ddrylliau.

12. Ac dyma 'r pethau a weithia cariad gwresog, yr hwn sydd yn peri i'r pethau sydd o honynt eu hu∣nain yn dra anhawdd ac yn dra ofnadwy, fod yn be∣raidd ac yn hyfryd: ac yn hytrach o lawer y gall beri i gyfreithiau a gorchymmynion Duw, y rhai o honynt eu hunain sydd dra chyfiawn, a rhesymol, a sanctaidd, a hawdd, fod yn hyfryd ac yn esmwyth. Da amantem, medd S. Awstin & sentit quod dico, si autem frigido loquor, nescit quid loquor: moes i mi wr a fo yn caru Duw, ac ef a wŷr ynddo ei hun fod yn wir y peth yr wyf yn ei ddywedyd; ond os a Christion oerllyd y chwedleuaf, ni ddeall efe beth yr wyf yn ei ddywedyd. Ac dyma 'r achos pa ham y mae Christ, wrth son am gadw ei orchymmy∣nion, mor fynych yn adrodd y gair yma Cariad, megis yr achos siccraf sy 'n peri cadw gorchymmy∣nion Duw, ac o eisiau bod cariad yn y byd, nid y∣dyw 'r byd yn eu cadw hwy ddim, fel y mae efe yno yn dangos. O, cerwch fi, cedwch fy ngorchym∣mynion, medd efe, Ioan. 14.15, 21, 23. A thrachefn,

Page 163

Yr hwn sydd a'm gorchymmynion i ganddo efe yw 'r hwn sydd yn fy ngharu i. Drachefn, Yr hwn sydd yn fy ngharu i, a geidw fy ngorchymmyn. Ac yn y geiriau diweddaf hyn, y gallwn ni ystyried ei fod ef yn dywedyd wrth yr hwn sydd yu ei garu, Fy ngorchymmyn, yn y rhif vnig, oblegid i'r cyfryw vn, nad yw ei holl orchymmynion ef ond megis vn gorchymmyn, yn ôl yr hyn a ddyweid S. Paul, mai Cariad yw cyflawnder y gyfraith: am ei fod yn cynnwys y cwbl, Rhuf. 13.10. Ond wrth yr hwn nid yw yn ei garu, y dywed Christ, Fy gorchymmynion, yn y rhif lliosog; gan arwy∣ddoccau wrth hynny, eu bod hwy i'r cyfryw vn yn llawer, ac yn drymion hefyd, am nad oes ganddo gariad i'w gwneuthur hwy yn esmwyth. Yr hyn y mae S. Ioan hefyd yn ei ysspyssu, pan yw yn dy∣wedyd, Hyn yw cariad Duw, bod i ni gadw ei or∣chymmynion ef, a'i orchymmynion ef nid ydynt dry∣mion, 1 Ioan. 5.3. Hynny yw, nid ydynt hwy drymion i'r hwn sydd a chariad Duw ganddo, ac onid e nid rhyfedd eu bod yn dra thrymion. Oble∣gid trwm y tybiwn ni fod pob peth ac yr ydym ni yn ei wneuthur yn erbyn ein hewyllys. Ac felly wrth hyn hefyd, ddarllennydd mwynlan, y gelli di wybod amcan pa vn a wna cariad Daw ai bod ynot ti, ai nad ydyw.

13. Ac dyma ddau fodd bellach, sy 'n gwneu∣thur buchedd dduwiol gwyr da yn esmwyth iddynt yn y byd hwn. Y mae yn canlyn amryw foddion eraill, fel y gallo yr ymesgusodwyr esgeulus yma weled mor anghyfiawn ac mor anwir yw eu hesgus hwy, sef yw hynny, cam dybied fod yn anhawdd byw yn dduwiol: er bod i fuchedd dduwiol mewn gwirionedd gymmaint o freiniau of gyffur, vwch law buchedd y rhai annuwiol, ie yn y byd hwn.

Page 164

A'r modd nesaf, sydd yn canlyn ar ôl y rhai o'r bla∣en, ydyw rhyw yspysol a neillduol oleuni deall sydd yn perthyn i'r rhai cyfiawn, ac a elwir yn yr Scry∣thur lan, Prudentia Sanctorum, Doethineb y Sainct; yr hyn nid yw ddim amgen na rhyw wreichion o ddoethineb nefol, sydd trwy ryw neillduol fraint wedi eu rhoi i'r rhai duwiol yn y fuchedd hon: trwy 'r hyn y maent yn derbyn goleuni tra chom∣fforddus, a deall mewn pethau ysprydol, yn enwe∣dig ynghylch eu hiechydwriaeth eu hun, a'r pethau a berthyn iddi. A hyn yr oedd y prophwyd Da∣fydd yn ei feddwl pan ddywedai, Ti a ddangosaist i mi lwybr bywyd. A phan ddywedodd efe am dano ei hun, Deellais fwy na 'm holl athrawon; Deellais yn well nâ 'r henuriaid. A thrachefn mewn lle arall, Peraist i mi wybod doethineb yn ddirgel, Psal. 16.11. Psal. 119.19, 100. Psal. 51.6. Hwn yw 'r go∣leuni hwnnw y mae Sainct Ioan yn dywedyd am da∣no, fod Christ yn goleuo ei weision ei hun ag ef: a hwn yw enneiniad yr Yspryd glân yr hwn y mae'r vn Apostol yn dywedyd fod Duw yn ei roi i'r rhai duwiol, i'w dysgu hwy ymmhob peth ac a fo an∣ghen-rhaid i'w hiechydwriaeth, Io. 1.9. 1 Io. 2.27. Ac dyma hefyd waith Duw yn yscrifennu ei Gy∣fraith ynghalonnau dynion, yr hyn y mae efe yn ei addaw trwy 'r prophwyd IEREMI, Ier. 31.33. ac dyma ddysgu dynion gan Dduw ei hun, yr hyn a addawyd trwy 'r prophwyd Esai, Esa. 54.13. Ac yn ddiweddaf, dyma 'r deall ardderchog ynghy∣fraith yr Arglwydd, a'i orchymmynion, a'i gyfi∣awnderau, yr hwn yr oedd Dafydd dduwiol yn ei ddeisyfu yn gymmaint, ac yn ei ofyn cyn fynyched yn y psalm dra duwiol honno sydd yn dechreu, Gw∣yn eu byd y rhai perffaith eu ffordd: hynny ydyw, yn y bywyd hwn, Psal. 119.

Page 165

14. Trwy 'r goleuni deall yma, a'r wybodaeth nefol, a'r ymglywed yma oddiwrth yr yspryd glân, mewn pethau ysprydol; yr helpir y rhai duwiol yn fawr yn ffordd cyfiawnder; am eu bod yn cael eu gwneuthur yn abl iiawn farnu er eu cyfarwyddo eu hunain yn y pethau a gyfarfyddo a hwynt; yn ôl yr hyn a ddywaid S. Paul, Yr hwn sydd ysprydol sydd yn barnu pob peth. A'r dyn anianol nid yw yn der∣byn y pethau sydd o yspryd Duw, 1 Cor. 2.14, 15. Onid yw hyn yn datguddio braint buchedd dduwiol yn fawr? Y llawenydd, a'r cyssur, a'r comffordd sydd oddiwrthi; a'r gofid a'r trueni anesgorol sydd o'r gwrthwyneb? Oblegid pettei ddau yn rhodio ynghŷd, y naill yn ddall, a'r llall yn gweled yn eglur, pa vn o honynt a flinai ac a ddiffygiai yn gyn∣taf? Taith pa vn a fyddai debyg i fod yn boenu∣saf? Ond digon ychydig i flino gwr dall? Ystyri∣wch chwithau ym mha dywyllwch blinedig y mae 'r annuwiol yn rhodio. Ystyriwch pa vn a wnantai bod yn ddall ai nad ydynt! Y mae S. Paul, yn y lle a ddangoswyd o'r blaen, yn dywedyd na's gallant hwy dderbyn dim gwybodaeth ysprydol. Ond ty∣wyllwch mawr ydyw hynny, 1 Cor. 2.14, 15. Drachefn, y mae 'r prophwyd Esai yn darlunio eu cyflwr hwy ym mhellach, pan yw yn dywedyd megis o enau 'r annuwiol, ni a balfasom a'r parod fel deillion, ie fel rhai heb lygaid y palfalasom: ni a dramgwyddasom ar hanner dydd fel yn y cyfnos, Esa. 59.10. Ac mewn lle arall y mae 'r Scrythur yn ei osod allan etto yn oleuach, ynghŷd a'i boen a'i lafur, a hynny allan o enau 'r annuwiol eu hunain, yn y geiriau hyn, Ni thywynnodd llewyrch cyfiawn∣der i ni, ac ni chododd haul cyfiawnder arnom: ni a ymflinasom mewn anialwch anhyffordd▪ &c. Dyma ym∣ddiddanion pechaduriaid yn vffern, Doeth. 5.6. Wrth y geiriau hyn y gwelir, nid yn vnig bod yr

Page 166

annuwiol yn byw mewn tywyllwch mawr, ond he∣fyd bod y tywyllwch yma yn boenus iawn iddynt hwy: ac felly o'r gwrthwyneb, bod y goleuni sydd i'r cyfiawn, yn esmwythder mawr iddynt ar ffordd duwioldeb.

15. Vn peth arbennig arall, sydd yn gwneuthur ffordd buchedd dduwiol yn esmwyth ac yn hyfryd i'r rhai a rodiant ynddi, a hwnnw ydyw'r cyssur cuddiedig, dirgel, y mae Duw yn ei dywallt yng∣halonnau y rhai sy'n ei wasanaethu ef. Dirgel yr wyf yn ei alw, am nad oes neb yn ei adnabod, nac yn gwybod oddiwrtho, ond yn vnig y rhai a'i pro∣fasant: ac o'r achos hwnnw y mae Christ ei hun yn ei alw ef yn Manna cuddiedig, ac yn enw newydd, yr hwn nid edwyn neb, ond yr hwn sydd yn ei dder∣byn, Datc. 2.17. Ac y mae 'r prophwyd yn dy∣wedyd am dano, Mor fawr yw dy ddaioni a ro∣ddaist i gadw i'r sawl a'th ofnant, Psal. 31.19. A thrachefn mewn lle arall, Neillduaist law graslon i'th etifeddiaeth, Psal. 68.10. Ac y mae prophwyd a∣rall yn dywedyd, megis o enau Duw yn crybwyll am yr enaid defosionol sydd yn ei wasanaethu ef, Mi a'i denaf hi, ac a'i dygaf i'r anialwch, ac yno mi a ddywedaf wrth fodd ei chalon hi, Os. 2.14. Ac wrth yr holl eiriau hyn, anialwch, a neillduo, a chu∣ddiedig, yr arwyddocceir mai braint dirgel cuddie∣dig yw hwn, a roir yn vnig i'r rhai duwiol, ac nad oes i galonnau cnawdol y rhai annuwiol, na rhan na chyfran ynddo. Ond ni all tafod dŷn yspysu faint a gwerthfawrocced hyfrydwch y cyssur nefol yma: etto ni a allwn fwrw amcan arno wrth eiriau Da∣fydd, yr hwn wrth grybwyll am y gwin ysprydol, sydd yn dywedyd fod ynddo'r fath nerth ai fod yn meddwi pob vn a'i profo: hynny ydyw y gwna efe iddynt na wypont ac na chlywont ddim oddi∣wrth

Page 167

bethau daiarol, Psal. 36.8. megis am S. Petr, wedi iddo yfed ychydig o hono, efe a'i gollyngodd ei hun tros gôf yn y man, ac a chwedleuodd megis gwr wedi amhwyllo, am adeiladu pebyll yn y fan honno, a gorphywys yno byth, Mat. 17.4. Dy∣ma Afon yr hyfrydwch, fel y mae 'r prophwyd yn ei galw, sydd yn tarddu allan o fryn y nef, a thrwy ffyrdd dirgel yn dyfrhau calonnau ac yspryd y rhai duwiol, ac yn eu meddwi hwy a'r llawenydd ann∣rhaethadwy y mae yn ei ddwyn gyd â hi, Psal. 36.8. Dyma dippyn o dammaid prawf yn y bywyd hwn o'r llawenydd nef, a roddir i'r rhai da, i'w com∣fforddi hwy ac i roi cyssur ynddynt i fyned rhag∣ddynt yn eu duwioldeb. Oblegid fel y mae mar∣siandwyr a fo 'n chwennych gwerthu eu marfiandi∣aeth, yn fodlon i chwi i gael gweled a theimlo, ac weithiau, i brofi'r pethau y bônt yn eu gwerthu, er mwyn eich annog chwi i brynu ganddynt, felly y mae 'r hollalluog Dduw, am ei fod megys yn chwen∣nych gwerthu i ni lawenydd nef, yn fodlon i roi peth o hono, i'w brofi ym mlaenllaw i'r rhai y mae efe yn eu gweled yn chwennych prynu: er mwyn peri iddynt gynnyg yn rhwydd, ac na rusont dalu cymaint neu fwy nag y mae ef yn ei ofyn, Datc. 3.18. Dyma'r anfeidrol lawenydd a'r gorfoledd sydd ynghalonnau y rhai cyfiawn, yr hwn y mae 'r prophwyd yn ei feddwl pan yw yn dywedyd, Llef gorfoledd ac iechydwriaeth sydd ym mhebyll y cyfiawn, Psal. 118.15. A thrachefn, Gwyn ei fyd y bobl a adwaenant yr hyfrydlais: sef yw hynny, y rhai sy gydnabyddus ag anfeidrol lawenydd a hy∣srydwch y cyssur a'r diddanwch calon yma, Psal. 89.15. Yr oedd S. Paul wedi profi o hono, pan yscrifennodd efe'r geiriau hyn, ynghanol ei holl la∣furiau er mwyn Christ, Yr wyf yn llawn o ddidda∣nwch, ac yn drachyflawn o lawenydd, yn ein holl or∣thrymder,

Page 168

2 Cor. 7.4. Pa beth ddwysach nâ hyn a ellir ei ddywedyd, i brofi fod gwasanaeth Duw yn hyfryd? Yn siccr, ddarllenydd mwynaiddlan, pe bait ti vnwaith wedi profi ddim ond cymmaint ac vn defnyn o'r llawenydd nefol yma, ti a roit yr holl fyd er cael vn defnyn arall o hono, neu o'r hyn lleiaf rhag colli drachefn yr vn defnyn a gawsit.

16. Ond ti a ofynni i mi, pa ham a thitheu yn Gristion yn gystal ac eraill, na phrofaist ti erioed etto o'r cyssur yma? I hynny 'r attebaf, nad yw hwn, fel y dangoswyd o'r blaen, fwyd i bob genau, ond Gwlith-law a neilltuwyd i etifeddiaeth Duw yn vnig, Psal. 68.9. Gwin ydyw hwn o gell Duw ei hun, a roed i gadw i'w briodferch ef; fel y mae 'r Cani∣ad yn dangos: hynny ydyw i'r enaid defosionol sy wedi ymroi i wasanaethu Duw, Can. 2.4, 5. Bron y diddanwch yw hon, i'r plentyn yn vnig i sugno o honi ac i ymlenwi arni, tel y dywaid y prophwyd Esai, Es. 66.11. Ac ni all yr enaid sy wedi bo∣ddi mewn pechod, a difyrrwch y byd, fod yn gy∣frannog o'r dawn yma, na'r galon a fo 'n llawn o ofalon bydol a meddyliau cnawdol. Oblegid fel nas gallai Arch Duw, ac eilun Dagon sefyll ar vnwaith ar yr vn allor; felly nis gall Christ a'r byd sefyll ar vnwaith yn yr vn galon, 1 Sam 5: Ni ddanfo∣nodd Duw mo'r Manna hyfryd i bobl Israel, tra barhaodd y peillied a'r winwyn a ddygasent o'r Aipht. Felly ni ddenfyn efe mo'r diddanwch nefol yma i titheu, hyd oni ymarloesech o'th holl feddy∣liau gorwag. Marsiandwr doeth yw efe, er ei fod yn hael, ni rydd efe ddim o'i drysor i'w brofi, lle y gwypo nad oes ewyllys i brynu. Dyro dy fryd yn siccr vnwaith ar wasanaethu Duw, ac yno ti a gai glywed oddiwrth y llawenydd yma yr wyfi'n son am dano, sel y cafodd llawer mil o'th flaen di; ac ni thwyllwyd neb erioed etto yn hyn o beth. Fe

Page 169

ddiangodd Moesen yn gyntaf allan o'r Aipht, i fy∣nyddoedd Madian, cyn i Dduw ymddangos iddo; ac felly y bydd rhaid i'th enaid ditheu ymadael a gwagedd y byd, cyn y gallo edrych am y didda∣nwch yma, Exod. 2. Ond er cynted yr ymro∣ddech di yn gwbl i wasanaethu Duw, yno ti a gai groesaw mwy nag yr oeddit yn ei ddisgwyl. Oble∣gid mewn gwirionedd tynerach yw ei gariad ef ar y rhai newydd ddyfod i'w wasanaeth, nag ar y rhai sy'n ei wasanaethu ef er ys talm, fel y mae efe yn dangos yn eglur wrth ddammeg y mab afradlon: yr hwn a groesawodd efe â mwy o lawenydd a daintethfwyd, na'r brawd hynaf oedd yn ei wasa∣naethu ef er ys hir o amser, Luc. 15. Ac o hyn y mae dau achos; y naill, o lawenydd cael gwasa∣naethwr newydd, fel y dengys S. Luc yn y text; a'r llall, rhag i hwnnw, oni chai ddim cyssur yn y dechreuad ddychwelyd yn ei ôl drachefn i'r Aipht: fel y mae Duw, wrth esampl meibion Israel, yn dangos yn oleu yn y geiriau hyn; Pan ollyngodd Pharao bobl Israel allan o'r Aipht, ni arweiniodd yr Arglwydd hwynt drwy ffordd gwlâd y Philistiaid, er ei bod yn nes, oblegid dywedodd Duw, rhag i'r bobl edifarhau pan welont ryfel, a dychwelyd yn eu hôl i'r Aipht, Exod. 13.17. Ac o'r ddau achos hyn∣ny ti a elli fod yn siccr y cait ti ddiddanwch arben∣nig, a chomflordd, yngwasanaeth Duw, pe rhoit ti dy fryd arno, fel y cafodd gwŷr eraill o'th flaen di; ac a brofasant wrth hynny, nad ydyw'r ffordd yn galed ac yn anhawdd, fel y mae y rhai bydol yn tybied am dani; ond yn esmwyth, ac yn hyfryd, ac yn gomfforddus, fel yr addawodd Christ, Mat. 11.30.

17. Yn ôl y rhagor-fraint yma o ddiddanwch ca∣lon, y mae vn arall yn canlyn, yr hwn sydd yn gwneuthur gwasanaeth Duw yn hyfryd, a hwnnw

Page 170

yw tystiolaeth cydwybod dda, yr hon y gwnai S. Paul cymmaint cyfrif o honi a'i galw yn Orfoledd iddo, 2 Cor. 1.12. Ac y mae yr yspryd glân yn dywedyd am dani ym mhellach trwy enau'r gwr doeth, Gwledd wastadol yw calon lawen, neu gydwy∣bod dda, Dih. 15.15. Ac o hynny y gallwn gas∣glu, am y gwr duwiol, gan fod ei feddwl ef yn ddiogel, a'i galon yn llawen, a'i gydwybod yn he∣ddychol, ei fod ef yn byw bob amser mewn gw∣ledd ddiddan lawenwych. A pha fodd wrth hynny y mae 'r bywyd yma yn galed ac yn anhyfryd, fel yr ydychwi yn tybied ei fod? yn y gwrthwyneb, yr annuwiol, gan fod ei gydwybod yn cael ei blino wrth ymwybod ac ymglywed a'i bechod, y mae efe bob amser yn cael ei boeni o'r tu mewn iddo, fel yr ydym ni yn datllain fod Cain yn ôl iddo ladd ei frawd Abel; ac Antiochus am y drygioni a wnae∣thai efe i Ierusalem; a Iudas am ei fradwriaeth yn erbyn ei feistr, Gen. 4. 1 Mach. 6. Mat. 27. ac y mae Christ yn arwyddoccau hynny am bob rhai drwg yn gyffredinol, pan yw yn dywedyd, fod yn∣ddynt brŷf yn cnoi eu cydwybod o'r tu mewn. Y rheswm o hynny y mae'r Scrythur yn ei agori mewn lle arall, pan yw yn dywedyd, Peth ofnus yw dry∣gioni, ac yn rhoi barn i'w erbyn ei hun, a'r gydwy∣bod yn gwasgu arno fydd yn darogan pethau blin yn wastad. Hynny ydyw, y mae 'n darogan ac yn ty∣bieid fod pethau creulon aruthrol yn dyfod yn ei er∣byn, fel y mae yn bwrw ddarfod iddo eu haeddu, Doeth. 17.11. Ond ym mhellach, y mae Job ddu∣wiol vwch ben pawb eraill yn gosod allan gyflwr gofidus y rhai annuwiol, yn y geiriau hyn, Holl ddyddiau 'r annuwiol y bydd efe yn ymofidio, a rhi∣fedi'r blynyddoedd a guddiwyd oddiwrthy traws. Trwst ofnadwy sydd yn ei glustiau ef: mewn heddwch y tyb∣ia y daw y dinistruda arno. Ni chred efe y dychwel

Page 171

allan o dywyllwch, ac y mae'n disgwyl bod y cleddyf yn gwilied arno. Y mae efe yn crwydro am fara pa le y byddo: efe a wyr fod dydd tywyllwch yn barod wrth ei law. Cystudd a chyfyngdra a'i brawycha ef. Hwy a'i gorchfygant fel brenhin parod i ryfel. Job 15.20.

18. Ond rhyfedd y darlunio yma y mae 'r ys∣pryd glân ei hun ar gydwybod ddrwg? Pa beth a ellir meddwl ei fod yn fwy ei ofid a'i drueni nâ 'r dŷn yma, sy ar fath ymmladd, ac ymgigyddio o fewn ei galon ei hun? Pa ddychryni∣adau, pa gyfyngder, a grybwyllir y∣ma amdanynt? Y mae S. Joan Aur∣enau yn gwneuthur traethawd godidog ar y pwngc yma. Dyma arfer pechaduriaid, medd efe, drwgdybio pob peth; ammeu eu cysgod eu hunain; ofni pob sŵn a thrwst, er lleied fyddo; a thybied fod pob dŷn a fo'n dyfod tu ac attynt, yn dyfod yn eu herbyn hwy. O bydd rhai yn chwed∣leua a'i gilydd, hwy a dybiant mai sôn y maent am eu pechodau hwy. Cyfryw beth yw pechod, ac y mae yn ei gyhuddo ei hun, er na bo neb yn achw∣yn arno; ac yn ei gondemnio ei hun, er na bo neb yn tystiolaethu yn ei erbyn: y mae efe bob amser yn gwneuthur y pechadur yn ofnus, fel y mae du∣wioldeb a chyfiawnder yn gwneuthur y gwrthwy∣neb. Gwrandewch fel y mae 'r Scrythur lan yn datgan ofn y pechadur, a hyder y cyfiawn, Yr an∣nuwiol a ffŷ heb neb yn ei erlid, medd yr Scrythur, Dih. 28.1. Pa ham y mae efe yn ffô onid oes neb yn ei erlid? Am fod ei gydwybod o'i fewn yn ei gyhuddo ac yn ei erlid, yr hon y mae efe bob amser yn ei harwain gydag ef. Ac fel nas gall efe ffo oddiwrtho ei hun, felly nis gall efe ffo oddiwrth ei gyhuddwr oddi fewn ei gydwybod ei hun; ond i ba le bynnag yr êl efe, mae honno yn ei ymlid ac

Page 172

yn ei fflangellu, ac y mae ei archoll yn anaele. Ond nid yw 'r cyfiawn felly ddim, Y cyfiawn sydd hŷ me∣gis llew, medd Solomon, Dih. 28.1. Hyd hyn y mae geiriau S. Chrysostom.

19. Wrth y geiriau hynny, ac felly hefyd wrth yr Scrythurau a ddangoswyd, y gallwn adnabod rhagor fraint arall sydd i fuchedd dduwiol, yr hwn yw gobaith a hyder, y trysor mwyaf, a'r tlŵs cy∣foethoccaf, sydd gan Gristianogion wedi ei adael iddynt yn y fuchedd hon. Oblegid wrth hwn yr ydym ni yn myned trwy bob cystudd, a thrallod, a gwrthwyneb, yn dra llawen, fel y dengys S. Jaco, Jac. 1.2. Wrth hwn y dywedwn gyda S. Paul, Yr ydym yn gorfoleddu mewn gorthrymderau, gan wybod fod gorthrymder yn peri dioddefgarwch, a dioddefgarwch brofiad, a phrofiad obaith; a gobaith ni'n cywilyddia, Rhuf. 5.3. Dyma ein cyssur tra∣chadarn-gryf ni, Dyma ein hangor siccr ni ym mhob math ar dymmhestl, fel y dyweid Sainct Paul, Y mae gennym ni gyssur crŷf, y rhai a ffoesom i gym∣meryd gafael yn y gobaith a osodwyd on blaen; yr hwn obaith sy gennym megis angor yr enaid, yn ddio∣gel ac yn siccr, Heb. 6.18. Dyma ardderchog Helm yr iechydwriaeth, fel y mae 'r Apostol yn ei alw, yr hon sydd yn derbyn yr holl ddyrnodiau a allo 'r bŷd hwn eu rhoi arnom, 1 Thess. 1.8. Ac yn ddiweddaf, dyma 'r vnig ddiogelwch sydd yng∣halon gwr duwiol, yr hwn sydd yn peri iddo, er na bywyd nac angeu, nac iechyd na chlefyd, na go∣lud na thlodi; na hawddfyd nac adfyd, er maint fo ystorm a thymmhestl yr adfyd, eistedd i lawr mewn llonyddwch, a dywedyd yn dawel gyda 'r pro∣phwyd, Yn Nuw y gobeithiaf, nid ofnaf beth a wn∣êl cnawd i mi, Psal. 56.4. Ie efe a ddyweid ym mhellach gyda Job dduwiol ynghanol ei holl ofidiau, Pe lladdai efe fi, etto mi a obeithiaf ynddo ef, Job

Page 173

13.15. A hyn yw bod, fel y dywedodd yr Scry∣thur o'r blaen, yn hyderus fel llew, yr hwn sy gnawd iddo fod yn hyderusaf ac yn ddewraf pan fo mwya 'r perygl arno, a pho nessaf fyddo i'w angeu, Dih. 28.1.

20. Ond yn awr, fel y dywaid yr Yspryd glân, Non sic impij, non sic, Psalm 1. Ni all yr annuwi∣ol ddywedyd felly; nid oes iddynt hwy na rhan yn yr hyder yma, na chyfran yn y diddanwch yma: oblegid gobaith y drygionus a dderfydd am dano, medd yr Scrythurlân. A thrachefn, Gobaith y dry∣gionus sydd ddigter, Dih. 10.28. Dih. 11.23. Ac etto ym mhellach, Gobaith yr annuwiol sydd ffi∣eidd-dra, ac nid cyssur, i'r enaid, Job 11.20. A'r iheswm o hyn sy ddauddyblyg. Yn gyntaf, am nad yw 'r annuwiol mewn gwirionedd (er eu bod yn dy∣wedyd y gwrthwyneb ar eiriau) yn rhoi eu gobaith, a'i goglud, a'i hyder yn Nuw; ond yn y byd, ac yn eu cyfoeth, ac yn eu cryfder, ac yn eu caredigi∣on, ac yn eu swyddau, ac yn nhwyllodrus fraich dŷn, Ier. 17.5. yn y modd y dengys y prophwyd megis allan o'i geneuau hwy, pan yw yn dywedyd, Ni a osodasom ein gobaith ar gelwydd. Hynny y∣dyw, Ni a osodasom ein gobaith mewn pethau dar∣fodedig, y rhai a'n twyllodd ni, Es. 28.15. A hyn y mae 'r Scrythur yn ei yspysu yn eglurach etto, gan ddywedyd, Fel llwch, yr hwn a arwain y gwynt; ac fel ewyn teneu, yr hwn a yrr y dymmhestl, ac fel y mŵg a wasgerir gan wynt, neu fel côf am ymdei∣thydd tros vn diwrnod, yr a gobaith yr annuwiol ym∣aith, Doeth. 5.14. Wrth yr holl ddull-ymadrodd yma y mae 'r Yspryd glan yn hyspyssu i ni ofered ydyw 'r pethau y mae 'r annuwiol yn rhoi eu hym∣ddiried ynddynt, ac fel y mae 'r pethau hynny yn pallu ganddynt yn ôl ychydig amser, ar bob achlysur bach o wrthwyneb a ddigwyddo.

Page 174

21. Hyn hefyd y mae Duw yn ei feddwl, pn yw yn gwneuthur trŵst a tharanau yn erbyn y rhai oedd yn myned i'r Aipht i geisio help, ac yn rhoi eu hyder ar nerth Pharao; ac yn eu melldigo hwy am hynny, ac yn addaw y trŷ hynny yn wrad∣wydd iddynt, Es. 30.2. A hynny sydd i'w ddeall yn briodol am bawb ac sy 'n rhoi eu hymddiried pennaf mewn cynnorthwyau bydol; fel y mae pawb o'r rhai annuwiol, er maint a fo eu ffuant i'r gwrth∣wyneb mewn geiriau. Ac o achos y ffuant hwnnw y mae Iob yn eu galw hwy yn rhagrithwyr: oble∣gid lle y dywed y gŵr doeth, Gobaith y drygionus a dderfydd am dano; y mae Iob yn dywedyd, Der∣fydd am obaith y rhagrithiwr, Dih. 10.28. Iob 8.13. Lle y mae yn galw'r drygionus yn rhagrith∣wyr, am eu bod yn dywedyd eu bod yn rhoi eu hyder ar Dduw, a hwythau mewn gwirionedd yn ei roi ar y byd. Yr hyn beth, heb law'r Scrythur Iân, sydd eglur hefyd wrth brawf beunyddol. Ob∣legid, a phwy y mae 'r annuwiol yn ymgynghori yn ei negeseuau a'i betrusder? A'i â Duw yn ben∣naf, ynteu â'r byd? A phwy y mae efe yn ymgais yu ei gystadd? Ar bwy y mae efe yn galw yn ei glefyd? oddiwrth bwy y mae 'n gobeithioam ddi∣ddanwch yn ei adfyd? I bwy y mae efe 'n rhoi di∣olch yn ei hawddfyd? Pan êl gŵr bydol ynghylch rhyw orchwyl o bwys, ydyw efe yn ymgynghori yn gyntaf â Duw, pa beth a ddigwydd o'r gorchw∣yl hwnnw? Ydyw efe 'n syrthio ar ei liniau, ac yn gofyn ei gymmorth ef? Ydyw efe yn tueddu 'r gor∣chwyl yn gwbl ac yn bennaf at anrhydedd Duw? Ac onid ydyw, pa fodd y gall efe obeithio help ar ei law ef? Pa fodd y gall efe gyrchu atto am ei gym∣morth, yn y peryglon a'r rhwystrau a ddigwyddo yn y gorchwyl hwnnw? Pa fodd y gall efe roi hy∣der yn y byd yn yr hwn nid oes iddo gyfran yn y

Page 175

byd yn y gorchwyl hwnnw? Nid yw ond rhagrith gan hynny (fel y dyweid Iob yn ddigon gwir) i'r dŷn hwnnw ddywedyd fod ei hyder ar Dduw; ac ynteu mewn gwirionedd a'i hyder ar y byd: yn Pharao y mae; yn yr Aipht y mae; ym mraich dŷn y mae; mewn celwydd y mae. Nid yw efe yn adeiladu ei dŷ gydâ 'r gwr doeth, ar y graig; ond gyda 'r ynfyd, ar y tywod: ac am hynny, fel y mae Christ yn dywedyd iddo yn siccr, pan ddis∣cynnodd y glaw, a dyfod o'r llifddyfroedd, a chwythu o'r gwyntoedd, a churo ar y tŷ hwnnw (yr hyn a fydd ar ddydd marwolaeth) yna y syrth y tŷ hwnw, a'i gwymp a fydd mawr, Mat. 7.27. Mawr fydd, o herwydd y gyfnewid a gaiff efe ei weled; mawr, o herwydd y mawr ddychryn a gaiff efe, mawr, o herwydd y mawr ofid a gaiff efe ei ddioddef, mawr, o herwydd colli anhydraeth lawenydd nef; mawr o herwydd syrthio mewn poenau tragywyddol yn vff∣ern; mawr fydd ym mhob ffordd, bydd di siccr o hynny, frawd anwyl, ac oni bai hynny ni buasai 'r gair yma mawr, byth yn dyfod allan o enau Duw. A digon yw hynny am y rheswm cyntaf, paham y mae 'n ofer gobaith yr anghyfiawn, am nad ydynt yn ei roi ar Dduw ond ar y byd.

22. Yr ail rheswm yw, o herwydd pe rhôn i∣ddynt a bod yn rhoi eu gobaith yn Nuw, a hwy∣thau yn byw yn annuwiol, nid yw hynny ond ofer: a gwell y dylai hynny gael ei alw yn rhyfyg nag yn obaith. Ac er mwyn deall hynny y mae 'n rhaid gwybod, megis y mae 'r Scrythur lân yn cyfrif dau fath ar ffydd, y naill yn ffydd farw, heb weithredo∣edd da, sef yr hon sydd yn credu pob peth yr y∣dych chwi yn ei ddywedyd am Grist, ond nid y∣dyw yn cadw ei orchymmynion; a'r llall yn ffydd fywiol, yn ffŷdd yn cyfiawnhau, yr hon sydd nid yn vnig yn credu, ond hefyd yn gweithredu trwy

Page 176

gariad, fel y mae geiriau Sainct Paul, Iac. 2.14. Mat. 7.21. Gal. 3.6. felly y mae dau fath ar o∣baith hefyd yn canlyn y ddwy ffŷdd hyn, y naill yw gobaith y rhai da, sydd yn dyfod o gydwybod dda, am yr hon y dywedais o'r blaen: a'r llall yw 'r eiddo 'r drygionus, ac sydd yn sefyll mewn cyd∣wybod euog, yr hyn mewn gwirionedd nid yw wir obaith, ond yn hytrach rhyfyg. Hyn y mae S. Ioan yn ei brofi yn oleu, pan yw yn dywedyd, Anwy∣lyd, os ein calon ni'n condemna, y mae gennym hy∣der ar Dduw. Hynny ydyw, os ein calon nid yw euog o fuchedd annuwiol. Ac y mae 'r geiriau sy nesa 'n canlyn, yn hyspyssu hynny yn well, y rhai yw, Pa beth bynnag a ofynnom yr ydym yn ei dder∣byn ganddo ef, oblegid ein bod yn cadw ei orchymmy∣nion ef, ac yn gwneuthur y pethau sydd yn rhyngu bodd yn ei olwg ef, 1 Jo. 3.21. Yr vn peth y mae Sainct Paul yn ei gadarnhau, pan yw yn dywedyd, Diwedd y gorchymmyn yw cariad o galon bûr, a chydwybod dda, a ffydd ddiragrith, 1 Tim. 1.5. Wrth esponi 'r geiriau hyn, y mae S. Awstin mewn amryw eirau, ac mewn amryw leoedd o'i waith, yn profi yn helaeth, na ell∣ir deall fod gwir obaith lle ni bô cyd∣wybod dda. Y mae S. Paul, medd efe, yn rhoi 'r gair hyn (o gydwybod dda) yn angwha∣neg o achos gobaith; oblegid pwy bynnag sydd yn∣ddo betrusder cydwybod ddrwg, y mae yn anobei∣thio cael mwynhau yr hyn y mae yn ei gredu, A thrachefn, Ffydd pawb fydd yn ei galon a'i gydwybod ei hun, wrth y modd y mae yn ei glywed ei hun yn caru Duw. A thrachefn mewn llyfr arall, Y mae 'r Apostol yn rhoi cydwybod dda yn lle gobaith, oblegid hwnnw yn vnig sydd a go∣baith ganddo, yr hwn sydd ganddo gydwybod dda:

Page 177

a'r neb y mae cydwybod euog ddrwg yn ei bigo, y mae 'n cilio yn ôl oddiwrth obaith, ac nid yw yn gobeithio dim ond ei ddammedigaeth ei hun. Mi a allwn yma adrodd llawer ychwaneg of freinlau bu∣chedd dduwiol, y rhai fydd yn ei gwneuthur hi yn esmwyth, ac yn hawdd, ac yn hyfryd, ac yn gom∣fforddus, oni bai fod y pennod yma yn myned yn hir: ac am hynny mi a gyffyrddaf yn vnig, me∣gis wrth fyned heibio, a dau neu dri o'r pyngciau pennaf eraill: y rhai er hynny a ofynnent hir drae∣thawd, pe datgenid hwy yn ôl eu teilyngdod a'i gwiwdeb. A'r cyntaf yw gwerthfawr fraint y rhydd-did y mae y duwiol yn ei fwynhau, vwch law yr annuwiol, fel y mae Christ, yn addaw yn y gei∣riau hyn, Os arhoswch yn fy ngorchymmyn i, chwi a fyddwch ddiscyblioni mi yn wir: a chwi a gewch wybod y gwirionedd, a'r gwirionedd a'ch rhydhaa chwi, Ioan 8.31. A'r geiriau hyn y mae Sainct Paul megis yn eu hesponi, ac yn dywedyd, lle y mae Yspryd yr Arglwydd yno y mae rhydd-did, 2 Cor. 3.17. Ac wrth y rhydd-did yma y deellir ein bod ni yn rhyddion oddiwrth drais a thrawsder a thraha, a chreulondeb, a chaethiwed ein gwyniau llygredig a'n trachwantau ni, y rhai y mae yr annuwiol mor gaeth iddynt, ac na bu erioed gaethwas yn y cyfryw gaethiwed i wr o'r trawsaf, ac o'r creulonaf, ac o'r aunrhugaroccaf. A hyn a ellir ei ddeall o ran wrth yr vn esampl yma. O byddai wr wedi priodi gw∣raig gyfoethog, bryd-weddol, foneddigeiddwych, a fai gynnysgaeddol o bob math a'r gynueddfau da a rhinweddau ac a ellid meddwl eu bod mewn gw∣raig; a bod o'r gwr er hynny wedi ei hurtio, a'i faglu, a'i rwydo cyn belled, o gariad rhyw gardot∣tes ddiffaith anhonest, a fai forwyn waith yn ei dŷ ef; ac y gwrthodai gwmpeini a chyfeillach ei wraig er ei mwyn hi, ac y treuliai ei amser yn cellwair ac

Page 178

Yn cymhŵedd â'r fudrog honno, ac yn ei gwasana∣ethu hi; a rhedeg, a cherdded, a sefyll, wrth ei harchiad hi; a rhoi ei holl olud a'i feddiannau ar ei llaw hi, i'w treulio, ac i'w difa, ac i'w hanrheithio wrth ei hewyllys hi; ac na naccai mo honi o ddim, ond gweini iddi, a gwasanaethu arni wrth ei ham∣naid; ie a pheri i'w wraig wneuthur hynny hefyd; oni thybygech chwi fod bywyd y gwr hwnnw yn o∣fidus, ac yn flin, ac yn gaeth iawn? Ac etto yn siccr y mae 'r caethiwed yr ydym ni yn sôn am dano, yn dostach, yn flinach, ac yn gaethach o lawer. Ob∣legid nid oes ac ni all bod na gwraig, nac vn crea∣dur arall yn y byd, mor dêg nac mor brydweddol nac mor fonheddig ac ydyw rhad yspryd Duw, yr hwn y mae dŷn pan y gwnaed wedi ei ddyweddio ag ef, ac ynteu er hynny yn ei fwrw ymaith ac yn ei wrthod, er cariad ar wyniau 'r cnawd sydd elyn iddo, ac sydd greadur o'r fath wrthunaf wrth y rheswm a roed mewn dyn: ac etto ynghariad hwn∣nw neu yn hytrach yn ei gaethiwed, y gwelwn fod y rhai annuwiol wedi eu boddi mor llwyr, ac y ma∣ent yn ei wasanaethu ddydd a nôs trwy fawr boen, a pherygl, a thraul, ac yn cymmell yr ysprydoliae∣thau da a.ddêl oddiwrth yspryd Duw i roi lle, wrth bob amnaid a gorchymmyn o'r eiddo 'r feistres newydd yma, yr hon yw gwyniau a chwant y cnawd. Oblegid i ba beth y maent yn llafurio? I ba beth y maent yn gwilio? I ba beth y maent yn pentyrru cyfoeth ynghyd, ond yn vnig i wasanaethu eu gwy∣niau a'i trachwantau? I ba beth y maent yn curo eu hymmennyddiau, ond yn vnig i fodloni'r Teiran traws creulon yma a'i wyniau?

23. Os mynnwch chwi weled yn siccr mor greu∣lon ac mor dostur yw 'r gwasanaeth a'r caethiwed yma; ystyriwch ymbell esampl neillduol o hono. Cymmerwch i mi ddyn y mae trachwant y cnawd

Page 179

yn cael ei lywodraethu mewn rhyw wyniau, megis mewn anlladrwydd neu'r cyffelyb; a pha boen a gymmer efe er ei mwyn hi? Pa lafurio a wna efe? Pa chwyssu y mae yn y gwasanaeth a'r caethiwed yma? Mor gadarn ac mor gryf y mae efe yn cly∣wed y llywodraeth hwnnw arno? Cofiwch gryfder Sampson, a doethineb Salomon, a duwioldeb Dafydd, fel y goresgynnwyd hwy gan lywodraeth eu trach∣wantau. Iupiter, Mars, a Hercules, y rhai am eu mawr wrolaeth a gyfrifai 'r Paganiaid yn dduwiau, oni orchfygwyd hwy, ac oni wnaed hwy yn gaethi∣on trwy hudoliaeth y llywodraethwr traws hwn? Ac o mynnwch wybod etto ym mhellach beth yw ei gryf∣der, ac mor greulon y mae'n ei arfer ar y rhai ni waredodd Christ allan o'i gaethiwed ef, ystyriwch, yn lle esampl, gyflwr tostur rhyw wraig a fai an∣ffyddolon i'w gwr priod, yr hon er ei bod yn gwy∣bod ei bod hi wrth dorri ei phriodas, yn cwympo i fil o beryglon, ac anghymmhesurwydd, sef colli ffafor Duw, a chael câs ei gŵr, ac anfodloni ei thy∣lwyth, ac ammherchi ei chorph ei hun, os ceir gwy∣bod arni, ac ynddiweddaf mawr gwymp a pherygl ei henaid a'i chorph; etto er mwyn rhyngu bodd y llywodraethwr traws yma chwant y cnawd, hi a an∣turia wneuthur y pechod, beth bynnac fo'r perygi a'r enbydrwydd a ddel o'i wneuthur.

24. Ac nid yn y pwngc yma, o anlladrwydd yn vnig, ond ym mhob peth arall, y mae dŷn mewn caethiwed ir llywodraethwr hwnnw ac i'w wyniau. Edrychwch ar wr a fo gwag-ogoneddus neu yn ym∣gyrhaeddyd am oruchafiaeth, a gwelwch fel y mae efe yn gwasanaethu ar hynny; mor ofalus ac mor ddiwyd y mae efe yn gwneuthur ei orchymmyn, hynny ydyw, mor dyfal ydyw i ymgais ag ychy∣dig wynt a ddel allan o enau dynion, ac i ymlid plu∣en fach sydd yn hedeg o'i flaen ef yn y gwynt;

Page 180

chwi a gewch weled nad yw ef yn gadael heibio nac vn peth, nac vn amser, na dim yn y byd, er ceisio mwynhau hynny. Y mae efe yn codi yn foreu, ac yn mynd yn hwyri gysgu; yn ymdrafferthu'r dydd, ac yn ymofalu'r nos; yma y truthia ac y gwenhiei∣thia, ac accw y rhagrithia; yma yr ymostwng ac yr ymoblyga, ac accw yr edrych yn vchel; yma y gw∣na rai ar ei blaid, ac accw y cais ochel gwrthwyne∣bwyr. Ac at hynny y cyfeiria ef ei holl weithre∣doedd, ac y tuedda ei holl fatterion eraill, megis dull ei fuchedd, ei gadw cyfeillach, a gwifgad ei ddillad, a dull ei feirch, a'i weision, a'i ymddidda∣nion, a'i ymarweddiad, a'i gellwair, a'i edrychiad, ie ai gerddediad yn yr heolydd.

25, Yr vn modd yr hwn sydd yn gwasanaethu ei arglwyddes mewn gwŷn cybydd-dod; pa dôst ofi∣dus gaethiwed y mae efe yn ei ddioddef? Y mae ei galon ef wedi ei murio yngharchar gan arian, fel y mae yn rhaid iddo feddwl yn vnig am y rhei 'ny, a sôn am danynt, a breuddwydio am danynt, a dy∣chymmygu ffyrdd newydd i geisio ychwaneg o ho∣nynt, heb wneuthur dim yn y byd ond hynny. Pe gwelych chwi Gristion ynghaethiwed y Twrc, we∣di ei rwymo erbyn ei droed â chadwyni mewn rhwyf∣long, i wasanaethu yno byth ac i rwyfo; ni allech chwi amgen na thosturio wrth ei gyflwr ef. A pha beth a wnawn ninnau wrth ofid a thrueni'r dŷn yma, yr hwn fydd mewn caethiwed i greadur gwaelach a distadlach nag vn Twrc, ac nag vn creadur rhesy∣mol arall, hynny ydyw, i ddernyn o fettel, gan yr hon y mae efe yngharchar, yn rhwym, nid yn vnig enbyn ei draed, fel na allo gerdded i vnlle, yngwrth∣wyneb i'w budd ac i'w gorchymmyn hi; ond hefyd erbyn ei ddwylo, erbyn ei enau, erbyn ei lygaid, erbyn ei glustiau, erbyn ei galon, fel nas gallo na gw∣neuthur, na dywedyd, na gweled, na chlywed, na

Page 181

meddwl am ddim, ond am ei gwasanaethu hi? A fu erioed gaethiwed cymmaint â hyn? Ond gwir ynteu a ddywedodd Christ, Pwy bynnac sydd yn gw∣neuthur pechod, y mae ef yn was i bechod. Ac ond da y dywaid Sainct Petr, Gan bwy bynnag y gorch∣fygwyd neb, y mae efe wedi myned yn gaethwas i hwn∣nw. Ioan 8.34. 2 Petr. 2.19.

26. Ac oddiwrth y caethiwed hwn y gwaredir y rhai duwiol, trwy nerth Christ, a'i gymmorth, yn gymmaint a'i bod hwy yn llywodraethu ar eu gwy∣niau a'i trachwantau, ac nid y rhein'i yn llywodrae∣thu arnynt hwy. Hyn a addawodd Duw trwy 'r Prophwyd Ezeciel, gan ddywedyd, A hwy a gant wybod mai myfi yw'r Arglwydd; pan dorrwyf rwy∣mau eu hiau hwynt a'i gwared hwynt o law y rhai oedd yn mynnu gwasanaeth ganddynt, Ezec. 34.27. A'r daioni yma yr oedd Dafydd dduwiol yn ei gydna∣bod ynddo ei hun, pan ddywedodd efe yr geiriau nerthol hyn wrth Dduw, O Arglwydd, yn ddian dy wâs di ydwyfi, dy was di ydwyfi, mab dy wasanaeth∣wraig; dattodaist fy rhwymau, a minnau a aber∣thaf i ti aberth moliant, ac a alwaf ar enw'r Arglwydd, Psal. 116. 16. Y daioni yma hefyd y mae Sainct Paul yn ei gydnabod pan yw yn dywedyd ddarfod croes∣hoelio ein hen ddyn ni gydâ CHRIST, er mwyn dirymmu corph pechod, fel rhag llaw na wasanaethom bechod. Wrth yr hen ddyn yma, a chorph pechod y mae efe yn deall ein trachwant ni, yr hwn a farwolaethir trwy ras Christ ym mhlant Duw. Rhuf. 6.6.

27. Yn oly braint yma ar rydd-did y canlyn braint arall o gymmaint pwys ac ynteu, a hwnnw yw▪ rhyw heddwch nefol a llonyddwch meddwl, yn ô yrhyn a ddywaid y prophwyd, Ei babell ef sydd mewn heddwch. Ac mewn lle arall, Heddwch mawr sydd i'r rhai a garant dy gyfraith di, Psal. 119. 165. Ac yn y gwrthwyneb y mae'r Prophwyd Esai yn

Page 182

datcan yr ymadrodd yma yn fynych oddiwrth Dduw▪ Nid oes heddwch i'r annuwiol medd yr Arglwydd, Es. 59.21. Ac y mae hefyd yn dywedyd am yr vn dynion, Distryw ac aflwydd sydd yn eu ffyrdd; a ffordd tangnefedd nid adnabuant, Esa. 59.7.8. Y rheswm o'r rhagor yma sy rhwng y duwiol a'r annuwiol a ddangoswyd o'r blaen yn yr hyn a ddywedais am yr amrafael wyniau sydd ynddynt. Oblegid y duwiol, gan ddarfod iddynt, trwy nerth grâs Christ ddarostwng cryfder mwyaf eu gwyniau, sydd yn myned rhagddynt yn eu buchedd yn dra es∣mwyth ac yn dawel trwy fod ei yspryd ef yn eu cyfarwyddo hwy, a hynny heb na gwyniau na thrall∣od yn y byd ac sydd yn blino nemmor arnynt, yn y matterion mwyaf a ddigwyddo yn eu bywyd hwy. Ond yr annuwiol am na ddarfu iddynt farwolaethu y gwyniau hynny, hwynt hwy a deflir ac a drallodir gan y gwyniau hynny, megis gan wynt gwrthwy∣neb crŷf. Ac am hynny y mae Esai yn cyffelybu eu cyflwr hwy i fôr tymmhestlog aflonydd, Es. 57.20. a S. Iaco yn ei gyffelybu i ddinas neu wlad a fo mewn rhyfel a therfysg o'i mewn ei hun, Iac. 3.14. Ac o hyn y mae dau achos, y naill am fod gwyniau trachwant, y rhai sy lawer ac anfeidrol agos mewn rhifedi, yn trachwantu ar ôl aneirif o bethau, ac na ddigonir hwy byth, ond bod yn debyg i'r sugneion hynny mae 'r gwr doeth yn crybwyll am danynt, y rhai sy'n llefain yn wastad Moes moes, heb gael eu gwala byth, Dih. 30.15. Megis, i ddwyn i chwi esampl, pa brŷd y caiff y neb a fo chwannog i o∣ruchafieth ddigon o anrhydedd, na'r anllad ddigon o drythyllwch? na'r cybydd ddigon o arian? Ni chânt hwy byth; ac am hynny, megis na's gall y fam honno, na bô tôst iawn arni, yr hon a fyddei iddi lawer o blant yn llefain ar vnwaith a hitheu heb ddim bara ganthi i'w dorri rhyngddynt: felly y mae

Page 183

'n ddir bod yn flin ac yn dôst iawn ar yr annuwiol a fo aneirif o wyniau yn galw arno yn awyddus am ymroi i'w deisyfiadau hwy, yn enwedig gan nas gall ddigoni vn o'i deisyfiadau lleiaf hwynt.

28. Achos arall o'r blinder sy arnynt hwy ydyw, bod y gwyniau trachwant anllywodraethus yma, yn fynych yn wrthwyneb i'w gilydd, ac yn gofyn pethau gwrthwyneb, fel cymmysg Babel, lle'r oedd y naill dafod yn dywedyd yn wrthwyneb i'r lall, a hynny mewn amryw ieithoedd gwrthwyneb i'w gi∣lydd. Felly y gwelwn ninnau yn fynych, fod chw∣ant i anrhydedd yn dywedyd, Treulia yn hydda, ond medd gwŷn cybydd-dod Attal dy law. Medd anlladrwydd, Anturia yma: ond medd balchder, Na wna ddim, fe all hynny fod yn ammraint mawr i ti. Medd digofaint dial dy gam, ond medd Chw∣ant i oruchafiaeth, Gwell i ti na chymmerych ar∣nat. Ac yn ddiweddaf, yma y cyflawnir yr hyn a ddywaid y Prophwyd, Gwelais anwiredd a chynnen yn y ddinas. Anwiredd, am fod holl ddymuniadau 'r gwyniau hyn yn dra anghyfiawn, am eu bod yn erbyn gair Duw. Cynnen, am fod y naill o honynt yn llefain yn erbyn y llall yn eu dymuniadau, Psalm 55.10. Oddiwrth yr holl ofidiau hyn y gware∣dodd Duw 'r cyfiawn, trwy roddi iddynt ei heddwch ef yr hwn sydd vwch law pob deall, fel y dywaid yr A∣postol, a'r hwn ni ddichon y byd ei roddi, na phrofi o hono fel y dywaid Christ ei hun, Phil. 4.7. Io. 14.17, 27.

29. A chynnifer a hyn, o achosion a ellir en dan∣gos yr awrhon, (heb law llawer eraill yr wyf yn eu gadael heibio,) i wirio geiriau Christ, fod ei iau ef yn ysgafn ac yn esmwyth: sef, help a chym∣moth grâs; cariad Duw; goleuni deall oddiwrtli yr yspryd glàn, diddauwch calon oddifewn; llony∣ddwch cydwybod; yr hyder sydd yn dyfod o hyn∣ny; rhydid enaid a chorph; a hyfryd orphywys

Page 184

ein hysprydoedd ni, tu ac at Dduw, tu ac at ein cymmydog, a thu ac attom ein hunain. Trwy 'r moddion hynny, a'r help, a'r breiniau, a'r doniau ardderchog, y cynnorthwyir y duwiol yn amgen na'r annuwiol, fel y dangoswyd, ac y gwneir eu ffordd hwy yn esmwyth, ac yn oleu, ac yn hy∣fryd. Ac at hynny y gallwn chwanegu y didda∣nwch yma, yn ddiweddaf cyssur, er nad yw leiaf, sef edrych a disgwyl am daledigaeth; hynny ydyw▪ am ogoniant a dedwyddyd tragywyddol i'r rhai duwiol; a damnedigaeth tragywyddol i'r rhai annu∣wiol. Ac dyma beth mawri ddwyn cyssur a chom∣ffordd i'r naill, os bydd eu bywyd yn boenus mewn duwioldeb, ac i drallodi ac i flino 'r llaill ynghanol holl blesser a difyrrwch eu pechodau. Y mae 'r gweithiwr wrth feddwl am y cyflog a gaiff efe yn yr hwyr, yn cymmeryd calon i fyned rhagddo yn ei waith, er poenused fo iddo. O byddai ddau yn cyd siwrneio tu a'i gwlâd, y naill i dderbyn anrhy∣dedd a pharch am y gwasanaeth da a wnaethai tra fuasai oddi cartref, a'r llall yn garcharor i dderbyn barn cyfraith am y fradwriaeth a wnaethai mewn gwledydd dieithr yn erbyn ei Arglwydd; ni fy∣ddent hwy ill dau, i'm tŷbi, mor llawen hyfryd y naill, a'r llall, yn eu lletty ar y ffordd: ac er bod yr vn o honynt a fai mewn perygl, yn canu ac yn cymmeryd arno fod yn galonnog ac yn wirion, ac yn dangos wyneb têg llawen: etto da y gallai 'r llall dybieid, fod llawer oer-loes yn ei galou ef o'r tu mewn, fel y mae 'n ddiammau ynghalon pob rhai annuwiol, pan feddyliont ynddynt eu hunain am y byd a ddaw. Pe basai Ioseph a phobydd Pharao yn gwybod yn y carchar, pa gwttws a gai bob vn o honynt (sef y cai'r naill ar y dydd a'r dydd alw ar∣no i'w wneuthur yn arglwydd ar yr Aipht, a'r llall i'w grogi ar bren) fe fuasai anhawdd iddynt fod

Page 185

mor llawen y naill a'r llall, tra fuasent fyw ynghyd yn y carchar. Y cyffelyb a ellir ei ddywedyd yn wiriach o lawer, am y duwiol a'r annuwiol yn y byd hwn. Oblegid pan feddylio 'r naill am ddydd ei marwolaeth yr hwn yw 'r diwrnod y gwaredir hwy allan o garchar, ni ddichon bod na lammo eu calonnau hwy gan lawenydd, wrth ystyried pa beth a ddigwydd iddynt ar ôl hynny, Ond y llaill a fydd blin arnynt, ac a syrthiant mewn trymfryd a thri∣stwch, bob gwaith ac y clywont sôn am farwolaeth, neu y meddyliont am dani: am fod yn siccr gan∣thynt fod angeu yn dwyn gwenwyn gydag ef i∣ddynt hwy, fel y dywaid yr Scrythur lân, Pan fo marw'r drygionus, fe ddarfu am ei obaith ef. Dih. 11.7.

30. Felly, frawd anwyl, os yw 'r holl bethau hyn felly, pa beth bellach a allai dy attal di rhag rhoi dy fryd ar y peth yr wyf yn dy annog i'w w∣neuthur? A ddywedi di etto, er hyn i gyd, fod y peth yn galed, a'r ffordd yn anhyfryd? Neu a goe∣li di rai eraill sydd yn dywedyd i ti hynny, er na wyddant hwy ond llai nag a wyddost di, o'r peth hynny? Coelia yn hyttrach air ac addewid Christ, sydd yn dy siccrhau di o'r gwrthwyneb: coelia y rhesymmau a ddangoswyd o'r blaen, y rhai sy 'n profi hynny yn eglur: Coelia dystiolaeth y rhai a brofasant hynny ynddynt eu hunain, fel y gwnaeth y brenhin Dafydd, a S. Paul, a S. Ioan Efangylwr; y rhai y dangosais i ti y tystiolaethan o'r blaen, all∣an o'i genau hwy eu hunain: Coelia lawer cant, a droir ynghred beunydd trwy râs Christ, o fyw yn annuwiol i wasanaethu Duw; y rhai sydd i gyd yn tystiolaethu ac yn dangos, ddarfod iddynt gael yn wir mwy nag a ddywedais i, nag a allwyf ei ddy∣wedyd yn y matter yma.

Page 186

31. Ac o herwydd y gelli di atteb a dywedyd, nad oes dim o'r cyfryw wyr lle 'r wyti, i ddangos i ti ddarfod iddynt hwy eu hunain brofi hynny; mi a allaf ddywedyd, ac yr wyf yn dywedyd i ti yn lle gwir, ar fy nghydwybod ger bron Duw; ddarfod i mi siarad fy hun a llawer o'r cyfryw rai; a chym∣meryd cyssur mawr wrth weled cadarn law Dduw, ac anfeidrol haelioni ei fwyneidd-dra ef tu ac attynt yn y peth yma. Oh, frawd anwyl, ni all vn tafod ddatgan pa beth a welais i yn hyn o beth; ac etto ni welais i mo'r rhan leiaf o'r hyn yr oeddynt hwy yn clywed oddiwrtho. Ond hyn a allaf ei ddywedyd, am y rhai a wyddis eu bod yn gyfarwydd, ac yn chwarae mor deg ac mor vnion ac y gall eraill ddad∣lwytho eu cydwybodau iddynt, er mwyn cael cys∣sur neu gyngor ganddynt; mai rhan ydynt o'r rhai y mae 'r prophwyd yn dywedyd am danynt eu bod yn gwneuthur eu gorchwyl mewn dyfroedd mawrion, ac yn gweled gweithredoedd yr Arglwydd a'i ryfe∣ddodau yn y dyfnder: sef yn nyfnder cydwybodau dynion y rhai y maent yn eu hadrodd gyd â lliaws o ddagrau, pan gyffyrddo Duw â hwynt â'i fendige∣dig râs. Coelia fi ddarllennydd rhywiogaidd, ca∣nys yr wyf yn dywedyd y gwir ger bron ein har∣glwydd Jesu, mi a welais gyssur cymmaint ac mor rhagorol mewn llawer o bechaduriaid mawr yn ôl eu troi, ac nas gall calon ond prin ei amgyffred, ac nad oedd y calonnau a'i derbyniasent ond braidd yn gallu ei gynnwys: mor helaeth yr oedd y gwlith nefol yn diferu i lawr oddiwrth haelionus law Dduw. Ac fel na bo i ti dybied fod hyn yn ddieithr, rhaid i ti wybod fod etto goffa am vn gwr duwiol a elwid, Ephrem, ddarfod iddo gael diddanwch mor rhyfe∣ddol o faint yn ôl iddo droi at ddaioni, ac y cym∣mhellid ef yn fynych i waeddi ar Dduw; Oh Ar∣glwydd, tro heibio dy law oddiwrthyf, am nad yw

Page 187

fy nghalon i yn abl i dderbyn llawenydd mor anfeidrol. Ac y mae 'r cyffelyb yn ysgrifennedig am Sainct Bernard, ei fod ef dros ennyd o amser yn ôl iddo droi oddiwrth y byd, megys wedi ei ddifuddio o'i syn∣hwyrau, gan faint y diddanwch a gawsai efe am Dduw.

32. Ond onis gall hyn oll dy annog di, ond myn∣nu o honot arhos yn dy anhyder, gwarando dystio∣laeth vn, a wni y gwnai di goel arno, yn enwedig ac ynteu yn dywedyd y peth a brofodd ynddo ei hun: hwnnw yw'r merthyr a'r athraw sanctaidd Sainct Cyprian, yr hwn wrth ysgrifennu at wr a garai, ac oedd o'i gy∣frinach ef ac a elwid Donatus, sydd yn cyfaddef ei fod ef, cyn iddo droi, o'r vn meddwl ac yr wyt ti∣theu; sef meddylio fod yn ammhossibl iddo newidio ei fuchedd, a chael y fath gomffordd mewn buchedd dduwiol ac a gafodd efe wedi hynny: ac ynteu o'r blaen yn ymarfer â phob math ar ddrwg ymarwe∣ddiad. Ac am hynny y mae ef yn dechreu ei drae∣thawd at ei gyfaill yn y modd hyn, Accipe quod sen∣titur ante quam discitur, Cymmer y peth a glywir oddiwrtho, cyn y dysger; ac felly y mae'n myned rhagddo mewn hir draethawd, ac yn dangos ddarfod iddo yr awrhon weled a phrofi 'r peth ni allai efe erioed ei gredu cyn iddo droi, er bod Duw wedi ei addaw iddo. Y cyffelyb y mae S. Awstin yn ei sgrifennu am da∣no ei hun, yn llyfrau ei gyffes, lle y mae yn dangos y mynnai ei wyniau ef er dim ac a fai, beri iddo goelio cyn iddo droi, na byddai efe byth abl i ddioddef peth mor galed ac mor dost ac yw buchedd dduwiol: yn enwedig am bechodau 'r cnawd, y uasai efe fyw yn drythyll nwyfus yn∣ddynt hyd yr amser hwnnw, ni thybygid bod yn

Page 188

bossibl iddo byth eu gadael, a byw yn ddiwair: ac er hynny efe a gâfodd wybod wedi, fod y peth yu esmwyth, ac yu hyfryd, ac heb ddim caledi ynddo. Ac am hynny y mae efe yn torri allan i'r geiriau hyn, Fy Nuw, bid i mi gofio, a chyfaddef dy dru∣gareddau di tu ac attaf; llawenyched fy esgyrn, a dywedant wrthyt, Oh Arglwydd, pwy sydd fel ty∣di? Dattodaist fy rhwymau; ac mi a aberthaf i ti aberth moliant. Y rhwymau hyn oedd rwymau tra∣chwant, y rhai oedd yn ei rwymo ef mewn caethi∣wed cyn ei droi, fel y mae efe yn cyfaddef yno ond yn y man ar ôl hynny efe a waredwyd oddwr∣thynt, trwy gymmorth sancteiddiaf râs Duw. Psal. 35.10. Psal. 116.16.

33. Fy nghyngor i gan hynny, ddarllennydd hawddgar, gan fod iti gynnifer o dystiolaethau, ac o esamplau, ac o resymmau, ac addewidion o'r peth; oedd fod i ti vnwaith o'r hyn lleiaf brofi ynot dy hun beth a wna hyn ai bod yn wir ai peidio: yn enwedig gan ei fod yn fatter o gymmaint o bwys, ac yn haeddu cystal gael gennyt ei brofi: hynny ydyw, am ei fod yn perthyn cyn nessed i'th le∣chydwriaeth dragywyddol di. Pe deuai ddyn gwa∣el attat, a chynnyg i ti er anturio vn goron aur; w∣neuthur i ti fil o goronau trwy gelfyddyd Alchymi: pe rhon a'th fod yn ammau nac yw efe ond coegwr a thwyllwr, etto gan fod gobaith o ynnill cymmaint, ac nid yw 'r antur ond colled cyn lleied, ti a fyddit debyg iawn i brofi 'r matter vnwaith, er a wnelai vn goron. Pa faint mwy y dylit ti brofi 'r matter yma, lle ni elli di golli dim wrth ei brofi; ond os ffynna gennyt, ti a elli ynnill cymmaint ac a dâl tra∣gywyddol lawenydd nef.

34. Ond etto yma ar y ffordd, ni allafi nas rhy∣buddiwyf di am vn peth y mae'r hên dadau a Sainct Duw aeth o'th flaen di trwy'r afon yma sy'n terfynu

Page 189

rhwng gwasanaeth Duw a'r bŷd, yn ei ddywedyd ddarfod iddynt hwy ei brofi: hynny ydyw bod yn rhaid i ti cyn gynted ac yr amcenych roi dy fryd ar ymadael â'r bŷd a gwasanaethu Duw, ddisgwyl am gyrchfaau, ac ymladdau, a rhy∣fel cyhoedd o'th fewn dy hun, fel y mae Sainct Cyprian, Sainct Awstin, S. Grigor, a S. Bernard, yn dywedyd ddarfod iddynt hwy ei gael ynddynt eu hunain. Hyn y mae Cyril ac Origen yn ei ddan∣gos yn helaeth mewn amryw leoedd. Hyn y mae Sainct Hilar yn ei brofi drwy resymmau ac esamplau. Hyn y mae 'r gŵr doeth yn dy rubuddio di am dano, ac yn ewyllysio i ti, Pn ddelych i wasanaeth yr Arglwydd baratoi dy e∣naid i brofedigaeth. Ecc. 2.1. A'r rheswn o hynny ydyw, am fod y cythraul, tra oedd mewn heddy∣chol feddiant o'th enaid ti o'r blaen, yn aros yn llo∣nydd ac yn ceisio ym mhob modd dy foddloni di trwy osod gar dy fron di bob dyfyrrwch cnawdol a phob math ar hyfrydwch newydd ar ôl ei gilydd. Ond pan welo efe dy fod yn amcanu ymadael ag ef, ef a ddechreu yn y man ymgynddeiriogi, a chodi ter∣fysg o'th fewn di, a therfysgu nef a daiar, cyn y collo ef ei deyrnas yn dy enaid ti. A hyn sydd am∣lwg wrth esampl yr hwn a waredodd Christ, wrth ddyfod i wared o'r mynydd yn ol ei weddnewidi∣ad, oddiwrth yspryd byddar mud. Oblegid er na chymmerai'r cythraul arno na dywedyd na chlywed, ••••a oedd efe yn cael meddiannu'r corph hwnnw yn llonydd; etto pan orchymmynnodd Christ iddo fy∣ned allan, efe a glywodd ac a waeddodd hefyd, ac a rwygodd ac a ddrylliodd y dyn truan hwnnw, fel y tybiodd pawb ar a oedd yn sefyll yno ei fod efe wedi marw yn siccr, Marc. 9. A hyn a ddangos∣wyd

Page 190

trwy ffigur yn histori Laban, yr hwn ni fli∣nodd ronyn ar ei fab yn y gyfraith Jacob, hyd oni chychwynnodd ymadael ag ef, Gen. 31. Ac etto yn amlygcach yr hyspyswyd hyn yngwaith Pharao, yr hwn pan wybu efe vnwaith fod pobl Israel a'i brŷd ar ymadael allan o'i deyrnas ef, ni pheidiodd efe â'i blino hwy yn dost, fel y tystiolaetha Moesen, hyd oni waredodd Duw hwynt yn gwbl allan o'i ddwylo ef, a hynny trwy gwymp a dinistr yr holl Aipht eu gelynion hwy: A'r ymwared hwnnw a ddyweid y tadau duwiol a Sainct yr Eglwys, ei fod yn ffigur amlwg o warediad ein heneidiau ni allan o gaethiwed y cythraul.

35. Acos mynni di gael esampl eglur o'r hyn oll a ddywedais i o'r blaen, mi a allwn ddwyn i ti lawer o esamplau; ond rhag bod yn rhyhir, digon fydd esampl troad Sainct Awstin yn vnig, fel y mae efe yn tystiolaethu ei hun yn llyfrau ei gyffes. Esampl ryfeddol ydyw, ac y mae 'n cynnwys llawer o byng∣ciau godidog comfforddus. Ac yn siccr pwy byn∣nag a'i darllenno i gyd trwyddi, yn enwedig yn y chweched, a'r seithfed, a'r wythfed llyfr o'i gyffes ef; efe a gaiff ei gy∣ffroi a'i addysgu yn fawr wrth, hyn∣ny. Ac mi a attolygaf arnati ddar∣llennydd sydd yn dall lladin, fwrw golwg o'r hyn lleiaf ar rai pennodau o'r wythfed llyfr, lle y dat∣gennir troad y Sanct yma, yn ôl aneirif o ymla∣ddau. Rhyhir a fyddai ei adrodd yma, er ei fod yn gyfryw mewn gwirionedd ac na bai raid i neb fod yn flin gantho ei glywed. Yno y mae efe yn dan∣gos pa drallod a blinder a gafodd efe yn yr ym∣drech yma rhwng y cnawd a'r yspryd, rhwng Duw yn tynnu o'r naill du, a'r byd, a'r cnawd a'r cy∣thraul yn dal or tu arall. Efe a aeth at Simplicianus hên wr dysgedig, a Christion dwyfol: efe aeth at

Page 191

Sact Ambros esgob Milan: ac wedi iddo ymddi∣ddan â hwynt, ef a gafodd mwy o flinder nag o'r blaen. Efe a ymgynghorodd a'i gyfeillion, Nebri∣dius ac Alipius, ond nid oedd hynny i gyd yn es∣mwythau dim arno; hyd oni ddaeth o'r diwedd ryw Gristion oedd wr llys a chapten, a elwaid Pon∣tition, a dywedyd iddo ef ac i Alipius, ar ryw ach∣lysur, am fuchedd dduwiol Sanct Anthoni, yr hwn ychydig o'r blaen a ymroesai i fyw yn neillduol ac yn vnig yn yr Aipht; fel y clywodd efe hefyd fod eraill yn gwneuthur, ie yn Milan, lle 'r oedd efe yr amser hwnnw. Pan glywodd efe hynny efe a dyn∣nodd o'r neilldu, ac a gafodd ymdrech tra ofnadwy ag ef ei hun: am yr hwn y mae efe yn ys∣grif••••nu fel hyn, Pa beth na's dywedais i yn fy erbyn fy hun yn yr ymdrech yma? Pa fodd y curais i, ac y ffrewyllais fy enaid fy hun, i beri iddo dy ganlyn di, O Arglwydd? Ond yr oedd y enaid i yn tynnu yn ôl, ac yn gwrthod, ac yn ymesgusodi: a phan orchfygwyd ei holl resym∣mau ef, efe a grynodd ac a ofnodd, megis rhag an∣geu, rhag ei dynnu oddiwrth ei ddrwg after yn pe∣chu. Ac wrth hynny ef a ymdreuliodd hyd angeu. Wedi hyn ef a aeth i'r ardd gyd ag Alipi∣us e gyfaill, ac yuo efe a lefodd wrtho ef, Quid hoc est? Quid patimu? Surgunt in∣docti & Caelum capiunt, & nos cum doctrinis nostris, sine corde, ecce vbi volutamur in carne & sanguine. Pa beth yw hyn? Alipius, pa beth yr ydym ni yn ei ddioddef tan gaethiwed pechod? y mae gwŷr annysgedig (fei Anthoni ac eraill; oblegid annys∣gedig▪ oedd efe) yn cippio 'r nef trwy drais, a nin∣nau a'n holl ddysg gennym, heb galonnau, wele fel yr ydym ni yn ymdreiglo mewn cnawd a gwaed. Ac yno y mae ef yn myned rhagddo, ac yn dangos y blinderau rhyfeddol anghredadwy a gafodd efe yn

Page 192

yr ymdrech yma'r dwthwn hwnnw: Wedi ŷn efe a aeth allan i berllan, ac yno y cafodd efe etto ymdrech mwy. Oblegid yno yr oedd ei holl bles∣ser a'i ddigrifwch bydol yn ymddangos yngŵydd ei lygaid ac yn dywedyd, Dimittesne nos, & a momen∣to isto non erimus tecum vltra in Aeternum, &c. Pa beth? a ymadewi di â nyni? Ac oni chawn ni fod gydâ thi byth mwy, o'r munyd yma allan? Oni bydd cyfraithlon i ti wneuthur hyn neu'r llall byth yn ol hyn? Ac yna medd Sainct Awstin, tro oddi wrth feddwl dy was feddylio am y peth y maent yn ei roi yn erbyn fy enaid: pa frynti, pa ddifyr∣rwch cywilyddus a osodent hwy ger bron fy llygaid i? O'r diwedd y mae yn dywedyd, yn ol ymdrech hir a math, ddyfod arno dymmestl ryfedd o wylo: a chan nas gallai ei wrthwynebu, efe a redodd y∣maith oddiwrth Alipius, ac a'i bwriodd ei hun ar y ddaiar tan ffigys-••••en, ac a adawodd i'w lygaid wy∣lo eu hamcan, a hwythau yn y man a ollyngasant li∣feiriaint o ddagreu. Ac ychydig wedi myned y rhai hynny heibio, efe a ddechreuodd ddywedyd wrth Dduw yn y modd hyn, Et tu Domine, vsque∣quo? quam diu, quamdiu, cras & cras? quare non modo? quare non hac hora finis est turpitudinis meae? O Arglwydd, pa hyd y gadewi di i mi fod fel hyn? pa hyd, pa hyd y dywedaf, Yforu, yforu? pa ham na's gwnawn heddyw? pa ham na bydd diben ar fy muchedd aflan i yr awr hon? Ac yn ol hyn y canlyn ei ryfeddol ymchweliad ef, ac ymchweliad Alipius ei gyfaill ef, yr hon am ei fod ef ei hun vvedi ei gosod i lawr yn fyrr, mi a adroddaf ei eiriau ef ei hun; y rhai sy fel y canlyn yn y man, ar ol y rhai o'r blaen.

36. Mi a ymddiddenais fel hyn a Duw, ac a wylais yn drachwerw, ynghyd a dwfn ofid calon; ac wele mi a glywn lef, fel pettai lais bachgen neu eneth yn

Page 193

canu o ryw dŷ ger llaw, ac yn adrodd yn fynych Cymmer a darllein, Cymmer a darllein. Ac yn ebrwydd mi a newidiais fy wynebpryd, ac a dde∣chreuais feddwl yn dra difrif ynof fy hun, a fyddai blant arfer o ganu dim o'r fath beth, mewn chwa∣rae yn y byd ar y byddent yn ei wneuthur: ond nid yw 'n dyfod yn fy nghof glywed dim o'r fath beth erioed. Am hynny mi a attelais nerth fy na∣grau, ac a godais i fynu, heb fedru dirnad dim am∣gen, nâ dyfod y llef honno o'r nef, i beri i mi ego∣ri 'r llyfr oedd gennyf gydâ mi, (yr hwn oedd Epi∣stolau Sainct Paul) a darllein y bennod gyntaf a gy∣farfyddai a mi. Oblegid mi a glywswn o'r blaen am Sainct Anthoni, fel y rhybuddiasid ef i droi, wrth glywed darllain gwers o'r Efengyl, yr oeddid yn ei darllain, pan oedd efe, ar ryw achlysur yn dyfod i'r glwys; a'r wers honno oedd, Dôs, gwerth gwbl 〈◊〉〈◊〉 sydd gennyt, a dyro i'r tlodion; a thi a gai drysor yn y nef, a thyred a chanlyn fi, Mat. 19.21. Yr ymadrodd yma a gymmerodd Sainct Anthoni, me∣gis pe y dywedasid wrtho ef ei hun yn neillduol; ac yn y man efe a droodd atati, o Arglwydd. Am hynny mi a aethym finnau ar frys i'r man lle'r oedd Alipius yn eistedd, oblegid yno y gadawswn fy llyfr pan ymadawsn: mi a'i cippiais i fynu, ac a'i he∣gorais, ac a ddarllennais yn gyfrinachol ddistaw y bennod gyntaf a ddaeth i'm golwg, ac yno yr oedd y geiriau hyn, Nid mewn cyfaddech, a meddw∣dod; nid mewn cydorwedd, ac anlladrwydd; nid mewn cynnen, a chynfigen: Ond gwisgwch am danoch yr Arglwydd Jesu Ghrist; ac na wnewch ragddar∣bod tros y cnawd, er mwyn cyflawni ei chwantau ef, Rhuf. 13.13. Pellach na'r ymadrodd yma nis dar∣llennwn, ac nid oedd raid i mi Oblegid yn y man gyda diwedd yr ymadrodd hwnnw, fe ffoawdd holl dywyllwch petrusder ymaith o'm calon, megis pe

Page 194

buasai lewyrch diogelwch wedi ei dywallt ynddi. Ar hynny mi a roais fy mŷs, neu ryw nôd arall nid wyf yr awrhon yn ei gofio, ar y lle a ddarllennaswn, ac a geuais y llyfr, ac ag wynebpryd heddychol mi a ddangosais y cwbl i Alipius. Ac ynteu wrth, hynny a fynegodd yr hyn a weithiesid ynddo yn∣teu, yr hyn nis gwyddwn i o'r blaen, ac a ddeisy∣fiodd gael gweled y peth a ddarllennaswn i; ac mi a'i dangosais iddo. Efe a'i hystyriodd i gyd oll ac a aeth ym mhellach nag y darllennaswn i. Oblegid y mae'n canlyn yn Sanct Paul, (yr hyn nis gwyddwn i) Derbynniwch attoch yr hwn sydd wan yn y ffydd, Rhuf. 14.1. Yr hyn a fwriodd Alipius atto ei hun, ac a agorodd ei holl betrusder i mi. Ond trwy y rhybudd yma eiddo Sainct Paul, efe a siccrhawyd, ac a gyssylltwyd attafi yn fy amcan da, ond er hyn∣ny yn dawel, ac heb ddim cyngyd trallodus, fel yr oedd ei naturiaeth a'i foddion, yn yr hyn yr oedd efe, yn rhagori arnafi, yn y rhan oreu.

37. Yn ôl hyn ni a aethom at fy mam i, ac a ddywedasom y peth iddi hitheu, a hi fu lawen ganthi: ni a'i mynegasom iddi mewn trefn, hithau a laweny∣chodd ac a orfoleddod, ac a'th fendithiodd di ô Arglwydd (yr hwn wyt gadarnach a haelach, nag y medrwn ni na gofyn na deall) am ei bod yn gweled ddarfod i ti ganiattau iddi o'm plegid i, fwy nag y byddei hi arfer o'i ofyn yn ei hocheneidiau trymion tosturus. Oblegid ti a'm tro∣esit i felly attat ti, fel na cheisiais i byth wraig, na dim gobaith arall yn y byd hwn: ond byw ac arhos yn y rheol ffydd honno, yn yr hon y datguddiaist fi iddi, cynnifer o flynyddoedd o'r blaen. Ac felly ti a droist ei thristwch hi yr awrhon, yn llawenydd helaethach nag a fedrai hi ei ddymuno, ac yn llawe∣nydd

Page 195

cuach a diweiriach, nag a fedrai hi ei ofyn oddiwrth fy mhlant i a'm hwyrion pe buaswn i yn ceisio gwraig. O Arglwydd, yr wyfi yn was i ti, yr wyn yr awrhon yn was i ti, ac yn fab i'th wasa∣naethwraig, ti a ddattodaist fy rhwymau; a min∣nau a aberthaf i ti am hynny aberth moliant. Mo∣lianned synghalon a'm tafod innau dydi, a dyweded fy esgyrn wrthyt; O Arglwydd, pwy sydd fel ty∣di? Dywedent hwy hynny, ô Arglwydd, ac atteb ditheu, mi a attolygaf i ti, a dywed wrth fy enaid, Mysi yw dy iechydwriaeth. Hyd hyn y mae geiriau S. Awstin, Li. 9. ca. 1.

38. Yn yr esampl ryfeddol hon am droad y gwr enwog yma, y mae amryw bethau i'w hystyried, i'n diddanu ni, ac i'n haddysgu hefyd. Yn gyntaf, y mae i ni ystyried yr ymdrech mawr a fu rhyngtho a'i elyn ysprydol, cyn gallu diangc allan o'i feddiant a'i lywodraeth ef. A diammau fod yn fwy yr ym∣drech hwnnw, am fod yn rhaid iddo ef wedi hyn∣ny fod yn golofn cymmaint yn Eglwys Dduw. Ac ni a welwn na chafodd Alipius cymmaint o wrthwy∣neb, am fod y gelyn yn gweled nad oedd ynddo ef ond llai o ddeunydd o lawer nag oedd yn Awstin, i niweidio ei deyrnas ef. Yr hyn a ddylai roi com∣ffordd mawr i'r rhai sy 'n clywed gwrthwyneb mawr, a phrofedigaethau cryfion yn erbyn eu gal∣wedigaeth: a bod yn siccr ganddynt, fod hynny yn arwydd o ras a ffafor, os hwy a ant rhagddynt yn wrol. Felly y galwyd S. Paul, fel yr ydym yn darllain, trwy nerth a gwrthwyneb mawr, trwy ei daro i lawr i'r ddaiar, a'i wneuthur yn ddall cyn iddo droi; am ei fod ef yn llestr etholedig i ddwyn Enw Christ at y Cenhedloedd. Act. 9.

39, Yn ail y mae i'w ystyried, er bod yn y gwr hwn wyniau cadarngryf o flaen ei ymchweliad, a hynny yn y clefydau mwyaf, ac anhawsaf eu hia∣chau,

Page 196

ac sy fynychaf yn blino y rhai bydol; me∣gis mewn chwant i oruchafiaeth, cybydd-dod, a phechodau 'r cnawd, fel y mae efe ei hun yn cyfa∣ddef o'r blaen: a'r clefydau hynny oedd mewn gwirionedd mor grŷf yn ei berchennogi ef, ac y ty∣biai efe yn ammhossibl, cyn ei droi, allu eu darostwng a'i gorchfygu hwy byth: etto wedi hynny efe a gafodd brofi 'r gwrthwyneb trwy help holl∣alluog ras Duw. Yn drydydd hefyd y mae i ni y∣styried, nid yn vnig iddo gael goruchafiaeth orche∣stol ar y gwynian hyn, ond cael o hono hefyd fawr hyfrydwch yn ffordd buchedd dduwiol. Oblegid, ychydig yn ôl iddo droi, y mae efe yn scrifennu fel hyn: Ni chawn i byth ddigon, o Arglwydd, yn y dyddiau hynny, o'r rhyfeddol hyfrydwch a ro∣ddaist i mi; pa faint a wylais i yn dy hymnau a'th ganeuau di, ac mor grŷf i'm cyffroid gan leisiau dy Eglwys di yn canu 'n beraidd hyfryd? Y lleisiau hynny a redent i'm clustiau, a'th wirionedd a do∣ddodd i mewn i'm calon, ac oddiyno y berwodd allan naws duwioldeb, ac a barodd i ddagrau redeg oddiwrthyf, ac yr oeddwn mewn cyflwr tra happus ganddynt. Li. 9. ca. 6.

40. Yn bedwerydd y mae i'w ystyried er mwyn ein haddysgu ni a pheri i ni ei ganlyn, beth oedd ymarweddiad y gwr hwn ynghylch ei alwedigaeth: yn gyntaf drwy ei chwilio a'i phrofi, wrth gyrchu at Sainct Ambros, a Simplicianus ac eraill; drwy ddarllein gair Duw, ac arfer o gwmpeini da, a'r cyffelyb: yr hyn a ddylyt titheu, ddarllennydd mwynlan, ei wneuthur, pan glywech dy gyffroi o'r tu mewn: ac nid gorwedd yn farw, fel y gwna llawer, drwy wrthwynebu yr yspryd glan yn am∣lwg, a phob ysprydoliaethau da; ac heb roi clûst cymmaint ac vnwaith i Grist yn curo wrth ddrws eu

Page 197

cydwybodau. Heb law hyn, ni wrthododd S. Aw∣stin, fel y gwelwn ni, mo'r moddion i adnabod ei alwedigaeth, ond gweddio, ac wylo, a mynych ymnaillduo ac ymddidoli ar ei ben ei hun oddiwrth gwmpeini, i ymddiddan â Duw yn y matter hwn∣nw. Yr hyn nis gwna llawer o honom ni byth: ond yn hytrach ffieiddo a gochel pob moddion a allai yn dwyn ni i feddwl am droi at Dduw. Yn ddiweddaf, S. Awstin, wedi iddo vn∣waith weled beth oedd ewyllys Duw yn oleu, nid oedodd mo 'r peth ddim hwy; ond torri ymaith yn nerthol oddiwrth yr holl fyd a'i orwa∣gedd; a rhoi i fynu ddarllain a dysgu Areithyddi∣aeth ym Milan; ac ymadael â phob gobaith o gael goruchafiaeth yn y llŷs, ac ymroi i wasanaethu Duw yn gwbl: ac am hynny nid rhyfedd gael o hono ef cymmaint diddanwch a chodiad gan Dduw yn ôl hynny, a chael bod yn aelod mor wiw yn ei Eglwys ef. A'r esampl yma a ddylai bawb ei chanlyn, ac y sydd yn chwennych cadw cydwybod dda, cyn belled ac y goddefo cyflwr a buchedd pob dŷn.

41. Ac yma ar hyn o achlysur, ni allafi beidio a'th rybuddio di, ddarllennydd hynaws, a'th ragrybu∣ddio di trwy esampl S. Awstin, y bydd rhaid i bawb ac a fo yn meddwl rhoi ei fryd ar wasanaethu Duw yn gwbl, wneuthur hynny megis trwy gymmell yn y dechreuad. Oblegid fel y mae yn hawdd diffodd tân os rhuthrwch arno trwy nerth, ond os cymme∣rwch ef yn araf ac yn esmwyth, a rhoi vnllaw ar∣no ar ôl y llall, chwi a ellwch yn hytrach wneuthur niweid i chwi eich hun na diffodd y tan: felly am ein gwyniau ninnau, y rhai sy 'n gofyn gwroldeb a chalondid yn y dechreuad, y rhai pwy bynnag a'i harfero, ynghyd a'r moddion eraill sydd yn per∣thyn i hynny, yn dra diau efe a gaiff weled fod yn esmwyth y peth y mae efe yr awrhon yn tybied ei

Page 198

fod yn drwm; a bod yn dra hyfryd y peth y mae efe yr awrhon yn ei gyfri 'n ddiflas. Er mwyn profi hynny, a diweddu 'r pennod yma hefyd, mi a adroddaf draethawd byrr allan o Bernard, yr hwn yn ôl ei arfer, sydd yn profi 'r peth yn gymmwys allan o'r Scrythurau. Y mae Christ yn dywedyd wrthym, Cymmerwch fy iau i arnoch, a chwi a gewch orphywysdra, Mat. 11.29. Dyma newyddion rhyfeddol, ond y mae 'n dyfod oddiwrth yr hwn sydd yn gwneuthur pob peth yn newydd: Bod y neb sy 'n cymmeryd yr iau arno, yn cael esmwythdra; a'r neb sydd yn gadael y cwbl, yn cael y can cymmaint. Efe a wy∣ddai hynny (sef y gwr oedd wrth fodd calon Duw) yr hwn a ddywedodd yn y Psalm, A lŷn gorseddfaingc anwi∣redd wrthyt ti ô Arglwydd, yr hwn wyt yn cymmeryd arnat fod poen yn dy orchymmynion di. Ond poen yw hon a gymmerai vn arno ei bod mewn gorchymmyn, frawd anwyl? sef baich ysgafn, ac iau esmwyth, a chroes wedi ei henneinio. Felly yn yr hên amser y dywedodd efe wrth Abraham, Cymmer dy fab Isaac, yr hwn a hoffaist, ac offrymma ef i mi yn boeth offrwm, Gen. 22.2. Dyma boen a dybid ei bod mewn gorchymmyn: oblegid er dar∣fod offrymmu Isaac, nid ei ladd ef ond ei sanctei∣ddio a wnaed wrth hynny. Titheu gan hynny, os clywi lef Duw o fewn dy galon yn ewyllysio i ti offrymmu Isaac, yr hyn a arwyddoccau llawenydd, neu chwerthin; nac ofna vfyddhau iddi yn ffyddlon ac yn ddianwadal: a pha beth bynnag a dybio dy ewyllys llygredig di o'r peth, bydd di ddiogel: Nid Isaac, ond yr hwrdd a fydd marw yn yr a∣chos: nid dy lawenydd di a dderfydd am dano, ond dy gyndynrwydd yn vnig, yr hwn y mae ei gyrn

Page 199

ynglyn mewn drain, ac nis gall fod ynoti heb pigi∣adau cyfyng betrusder. Nid yw dy Arglwydd ond dy brofi di, fel y profodd efe Abraham, i edrych beth a wnei di. Isaac, (hynny ydyw, dy lawen∣ydd di yn y byd hwn) ni bydd marw ddim, fel yr wyti yn tybied, ond byw fydd: yn vnig mae 'n rhaid ei godi fo i fynu ar y coed, er mwyn cael o'th lawenydd di fod yn vchel, ac er mwyn cael o honot ti ogoneddu, nid yn dy gnawd dy hun, ond yn vnig ynghroes dy Arglwydd, trwy 'r hwn hefyd i'th gro∣es-hoeliwyd titheu; i'th groes-hoeliwyd meddaf, ond i'r byd i'th groes-hoeliwyd; oblegid i Dduw yr wyti yn fyw etto, a hynny yn hytrach nag yr oeddit o'r blaen.

PEN II. Am yr ail rhwystr, yr hwn yw erlid, a blin∣der, a thrallod, gan y rhai y cedwir llawer oddiwrth wasanaeth Duw.

LLawer sydd yn y byd, y rhai naill ai wrth ysty∣ried y pethau hyn a ddywetpwyd o'r blaen, ai am eu bod yn gweled rhai gwyr yn byw mor llawen a hwythau, sydd foddlon i ganhiadu hyn, eu bod hwy mewn gwirionedd yn cyfrif bod buchedd ddu∣wiol yn ddigon hyfryd, i'r rhai sy vnwaith wedi myned i mewn iddi, ac y clywent hwythau arnynt fof yn fodlon mewn gwirionedd i'w chanlyn hi, pe gallent wneuthur hynny trwy lonyddwch a heddwch o bob parth. Ond os gofynnir hynny ganddynt ar y cyfryw amser a'r cyfryw le, ac yn y cyfryw drefn

Page 200

a dull, a modd, ac y gorphai arnynt ddioddef trall∣od, a chystudd, ac erlid o'r achos; y maent hwy yn tybied fod hynny yn beth anrhesymmol ei ofyn ganddynt, a bod yn ddigon da eu hesgus hwy ger bron Duw a dyn, er iddynt ei wrthod. Ond nid yw ddim gwell yr esgus yma nâ 'r hwn o'r blaen, am yr anhawsder a dybiant ei fod yn gwasanaethu Duw: am fod yr esgus yma yn sefyll ar sail anghy∣wir, ac ar reswm anghyfiawn a osodir ar y sail hon∣no. Y sail yw hyn, y gall dyn fyw yn dduwiol, a gwasanaethu Duw yn gywir mewn pob math ar es∣mwythder bydol, ac heb ddim cystudd, na thrallod, nac erlid: a hynny nid wy wir. Oblegid, er bod gwrthwyned oddi allan, ac erlid yn fwy ryw amser na'i gilydd, ac yn fwy yn rhyw fan na'i gilydd; et∣to ni all bod na lle nac amser, heb beth gwrthwy∣neb, oddifewn ac oddiallan hefyd. Y rhai er eu bod, fel y dywedais o'r blaen, heb fod yn drymion nac yn anhyfryd gan y duwiol, o achos bod Duw yn danfon amryw gymmorth, a diddanwch iddynt, ynghyfer y gwrthwyneb hwnnw: etto ynddynt eu hunain y maent yn fawr ac yn drymion hefyd, fel y caid gweled pe cwympai 'r cyffelyb ar yr annuwiol a'r annioddefgar. Yn ail, y mae y rheswm a osodir ar y sail honno, yn anghyfiawn, am ei fod yn dy∣wedyd fod trallod yn ddigon o reswm iddynt i wr∣thod gwasanaethu Duw, a Duw wedi ordeinio trall∣od megis modd i dynnu dynion i'w wasanaethu ef. Er mwyn hyspyssu hynny yn well, ac ynteu yn fat∣ter o gymmaint pwys, mi a draethaf yn y bennod yma 'r pedwar pwngc hyn. Yn gyntaf, pa vn a wna ai bod yn gyffredin, gorfod ar bawb a fo cad∣wedig, ddioddef rhyw fath ar erlid, a thrallod, a chystudd ai nas gorffo. Yn ail, beth yw 'r achosi∣on pa ham y dewisodd ac yr appwyntiodd Duw, ac ynteu yn ein caru ni fel y mae, wneuthur a ni felly

Page 201

yma yn y byd hwn. Yn drydydd, pa resymmau pennaf o ddiddanwch sydd i ddyn i'w cael mewn trallod. Yn bedwerydd, pa beth a ofynnir ganddo ef yn y cyflwr hwnnw. Ac wedi darfod yspyssu 'r pedwar pwngc yma, nid wyf yn ammau na cheir gweled goleuni mawr yn y matter yma, yr hwn yn nhŷb cig a gwaed sydd mor llawn o dywyllwch ac anghyffelybrwydd.

2. Ac am y cyntaf nid rhaid fawr profedigaeth, am fod Christ ei hun yn dywedyd wrth ei ddisgy∣blion, a thrwyddynt hwy wrth bawb eraill o'i wei∣sion, In mundo pressuram habebitis, Yn y bŷd y cewch orthrymder, Jo. 16.33. Ac mewn lle arall, Yn eich ymmynedd y meddiennwch eich eneidiau, Luc. 21.19. Hynny ydyw, trwy ddioddef yn ymmyneddus mewn gwrthwyneb: yr hyn y mae Sainct Paul yn ei adrodd yn eglurach, pan yw yn dywedyd, Pawb ar sy 'n ewyllysi byw yn dduwiol ynghrist Jesu, a er∣lidir, 2 Tim. 3.12. Ac os erlidir pawb, ni ddi∣angc neb. Ac i ddangos etto ym mhellach mor an∣genrheidiol ydyw hynny, y mae Paul a Barnabas hefyd yn rhoi athrawiaeth, fel y mae S. Luc yn nynegi, Mai trwy lawer o orthrymderau y mae 'n rhaid i ni fyned i deyrnas Dduw, Act. 14.22. gan arfer y gair Oportet, yr hwn sydd yn arwyddoccau bod yn ddir ac yn angenrhaid i ni hynny. Ac y mae Christ ei hun etto ym mhellach yn datcuddio 'r dir∣gelwch yma, pan yw yn dywedyd wrth S. Joan yr Efangylwr, Ei fod efe yn ceryddu y sawl y mae 'n eu caru, Datc. 3.19. A'r geiriau hynny y mae 'r Apostol megis yn eu hesponi at yr Hebraeaid, ac yn dywedyd, Y mae efe yn fflangellu pob mab a dder∣bynio. Ac y mae 'r Apostol yn canlyn y matter hwn∣nw cymmhelled yn y fan honno, ac y mae yn dywe∣dyd yn eglur, Mai bastardiaid ydynt hwy i gyd, ac nid meibion i Dduw, y rhai m yw efe yu eu cystu∣ddio

Page 202

yn y byd hwn, Heb. 12.6, 8. Yr vn rheswm y mae Sainct Paul yn ei ddal at Timotheus, Si susti∣nemus, & conregnabimus, Os dioddefwn gydâ Christ, ni a deyrnaswn gydag ef. Ac â hynny y cyttuna Da∣fydd dduwiol, pan yw yn dywedyd, Aml ddrygau a gaiff y cyfiawn. 2 Tim. 2.12. Psal. 34.19.

3. Yr vn peth a ellid ei brofi drwy lawer o fo∣ddion eraill, megis drwy 'r hyn a ddyweid Christ, Na ddaeth efe i ddanfon tangnefedd ar y ddaiar, ond cleddyf, Mat. 10.34. Ac wrth yr hyn a ddyweid Sainct Paul hefyd, Na choronir neb, onid ymdrech yn gyfreithlon, 2 Tim. 2.5, Ond pa fodd y gal∣lwn ni ymladd, oni bydd i ni elyn i'n gwrthwyne∣bu? Yr vn peth y mae Christ yn ei arwyddoccau yn llyfr y Datguddiad, pan yw yn adrodd mor fy∣nych, mai 'r hwn a orchfyga yn vnig pieu cael y nef. Yr vn peth a arwyddocceir wrth y llong yr aeth Christ a'i ddisgyblon i mewn iddi; yr hon a deflid ac a dreiglid fel pe buasai ar soddi; y llong hon meddaf, fel yr oedd yr hên dadau yn ei dirnad, oedd ffigur ac arwydd o'r trallodau, a'r blinderau, a gai bawb eu dioddef, ar y sydd yn rhwyfo yn yr vn llong gydâ Christ ein Iachawdr, Mat. 8.24. Yr vn peth hefyd a brofir, wrth fod yn galw bywyd dyn yn filwriaeth ar y ddaiar, 2 Tim. 2.3. ac wrth ei fod wedi ei appwyntio i lafurio ac i drafaelio, tra fyddo yma, Job 5.7. ac wrth fod ei fywyd yn llawn o bob gofid a thrueni: a hynny trwy ordinhaad Duw, yn ôl cwymp dŷn. Yr vn peth hefyd a ddangosir wrth ddarfod i Dduw appwyntio bod i bob dŷn dreiddio trwy boenau angeu, cyn iddo ddy∣fod i'r llawenydd; a hefyd wrth yr aneirif o wrth∣wyneb a thrallod oddifewn ac oddiallan, a adawyd i ddyn yn y bywyd hwn: megis, o'r tu mewn y mae gwrthryfeloedd a gwrthrin trachwant, a gofi∣diau eraill ei feddwl ef, y rhai y mae 'n rhaid iddo

Page 203

beunydd ryfela â hwynt, os myn fod ei enaid yn gadwedig. O'r tu allan iddo y mae 'r byd, a'r cythraul, y rhai nid ydynt yn peidio vn amser â go∣sod arno ef, weithiau trwy dêg, weithiau trwy hagr; weithiau trwy druthio, weithiau trwy fygwth; wei∣thiau trwy ei ddenu â melyschwant, ac à gorucha∣fiaeth; weithiau trwy ei ddychrynu a blinder, ac ag erlid: a'r rhai 'ny i gyd sy raid i'r Christion da eu gwrthwynebu yn wrol, ac onid ê efe a gyll go∣ron ei Iachawdwriaeth dragywyddol.

4. Yr vn peth hefyd a ellir ei ddangos trwy esam∣plau yr holl Sainct enwog, er y dechreuad, y rhai nid yn vnig a osodid arnynt oddifewn beunydd gan wrthryfeloedd eu cnawd eu hun, ond hefyd a erlidid ac a gystuddid oddiallan; a hynny i siccrhau yr ar∣faeth yma eiddo Duw, yn amlyccach. Fel y gwe∣lwn ni Abel, a gafodd ei erlid a'i lâdd gan ei frawd ei hun, er cynted y dechreuodd efe wasanaethu Duw: ac Abraham, yr hwn a gafodd amryw flinderau we∣di darfod i Dduw ei ddewis ef: ac yn fwyaf o gwbl trwy beri iddo ymroi i lâdd ei anwyl a'i vnig blentyn ei hun. O'r vn cwppan yr yfodd ei holl blant ef a'i hiliogaeth a ddaeth ar ei ôl ef yn ffafor Duw; megis Isaac, Jacob, Joseph, Moysen, a'r holl brophwydi: am y rhai y mae Christ ei hun yn rhoi tystiolaeth, fel y tywalltwyd eu gwaed hwynt yn dra chreulon gan y byd, Luc. 13.34. Cystudd Iob hefyd sy ryfeddol, gan fod yr Scrythur lân yn dywedyd ei ddyfod arno trwy yspysol ordinhâad Duw, ac ynteu yn wr o'r fath gyfiawnaf. Ond et∣to rhyfeddach oedd gystudd Tobias dduwiol, yr hwn ym mysg gofidiau eraill, a wnaed yn ddall trwy gwympo o dom gwenholiaid neu adar y to yn ei lygaid f: am yr hyn y dywedodd yr Augel Rha∣phael wrtho yn ôl hynny, Am dy fod di yn wr cym∣meradwy gan Dduw; anghenrhaid oedd, bod i'r

Page 204

tentasiwn yma dy brofi di. Gwelwch mor angenrheidiol yw blinderau i wyr da. Mi a allwn roi at hyn e∣sampl Dafydd ac eraill; oni bai fod yr Apostol yn rhoi tystiolaeth gyffredinol am yr holl Sainct, gan ddywedyd, ddarfod dirdynnu rhai, en∣llibio rhai, a fflangellu rhai, a rhwymo rhai, a charcharu rhai, a llabyddio rhai, a thorri rhai â lli∣fiau, a themptio rhai, a lladd rhai a'r cleddyf, a bod rhai yn crwydro mewn crwyn defaid a chrwyn geifr, yn ddiddim, yn gystuddiol, yn ddrwg eu cy∣flwr, yn crwydro ac yn ymguddio mewn anialwch, a mynyddoedd, a thyllau, ac ogfeydd y ddaiar, gan nad oedd y byd deilwng o honynt. Ac am y rhei'ni i gyd y mae yn datcan y wers gomfforddus hon, a ddylei bawb ei hystyried, sef eu bod heb dderbyn ymwared, fel y gallent gael adgyfodiad gwell: Hyn∣ny yw, na fynnai Dduw eu gwared hwy oddiwrth y cystuddiau hynny yn y bywyd yma, fel y by∣ddai eu hadgyfodiad hwy a'i gwobr yn y bywyd a ddaw yn ogoneddusach. A hynny am Sainct yr hên Destament. Heb. 11.35.

5. Ond weithian yn y Testament newydd, a sei∣liwyd yn eglur ar y groes, y mae 'r peth yn ole∣nach o lawer, a hynny trwy reswm da. Oblegid oni allai Grist fyned i mewn i'w ogoniant, ond trwy ddioddef, fel y dywaid yr Scrythur, Luc. 24.26. gan hynny wrth resymolaf reol Christ, yn dywe∣dyd, nad yw braint y gwas vwch law ei feistr, Mat. 10.24. y mae 'n ddir y canlyn, bod yn rhaid i bawb yfed o gwppan Christ, a'r sydd wedi eu hordei∣nio i fod yn gyfrannogion o'i ogoniant ef. Ac i bro∣fi hyn edrychwch ar y caredigion anwylaf a fu gan Grist erioed yn y bywyd hwn, a gwelwch pa vn a wnaethant a'i cael rhan o honaw, ai nad do. Am ei fam ef y prophwydodd Simeon ac y dywedodd

Page 205

iddi yn y dechreuad, yr ai cleddyf cystudd trwy el chalon hi: gan arwyddoccau wrth hynny y dygn gystuddiau a gafodd hi wedi hynny wrth faw ei mab, a'r gofidiau eraill a ddaeth yn aml arni, Luc. 2.35. Am yr Apostolion y mae 'n amlwg, heb law eu holl lafuriau, a'i trafaelion, a'i hanghenon, a'i didde∣faint, a'i herlidiau, a'i haflwydd, y 〈…〉〈…〉 ••••ei∣rif, ac yngolwg dyn yn anoddef (os co••••wn ni Sainct Paul sydd yn eu cyfrif, 1 Cor. 4. 2 Cor. 4.) heb law hyn i gyd, meddaf, ni byddai ddigon gan Dduw oni chi efe eu gwaed hwy hefyd: ac felly y gwelwn na adawodd efe i'r vn o honynt farw wrth naturiaeth, ond Sainct Ioan yn vnig: ac etto, os ystyriwn ni beth a ddioddefodd Sainct Ioan ynteu yn ei hir fywyd, iddo gael ei ddeol allan o'i wlad gan Domitian i ynys Pathmos; ac amser arall gael ei wiw mewn tunnell o olew poeth ber∣wedig yn Rhufain, fel y mae Tertulli∣an a Sainct Ierom yn mynegi; ni a gawn weled nad oedd dim llai ei ran ef o gwppan ei feistr nag oedd ran eraill. Mi a allwn yma gyfrif aneirif o esamplau eraill, ond nid rhaid. Oblegid digon yw ddarfod i Grist rhoi y rheol gyffredin yma yn y Testament newydd. Yr hwn nid yw yn cymmeryd ei groes, ac yn canlyn ar fy ol i, nid yw deilwng o honof fi Mat. 10.38. Wrth yr hyn y pennir yn oleu, nad oes i ned weithian gael iachawdwriaeth, ond i'r rhai a gymmeront eu croesau eu hunain, (hynny yd∣yw, nis dygont eu croesau yn ewyllysgar) a chan∣lyn eu capten sydd yn cerdded o'i blaen hwynt a'i groes ar ei ysgwyddau.

6. Ond yma y gall rhai ddywedyd, Os felly y mae 'r peth na ddichon neb fod yn gadwedig heb groes, hynny ydyw, heb flinder a thrallod; beth n y rhai sy'n byw mewn amseroedd a lleoedd he∣ddychol,

Page 206

lle nid oes nac erlid, na thrallod, na chy∣studd, na blinder. I hynny yr attebaf, yn gyntaf pe rhôn a bod y cyfryw amser a lle a hynny, y byddai 'r gwyr a fai 'n byw, yn y lle a'r amser hwnnw, mewn perygl mawr, yn ôl yr hyn a ddy wedodd y Prophwyd, Nid ydynt mewn blinder fel dynion eraill, ac ni ddialeddir arnynt hwy gyd â dynion eraill. Am hynny y cadwynnodd balchder hwynt, ac y gwisg trawsder am danynt fel dilledyn. A'i hanwi∣redd sydd yn dyfod oddiwrth eu bras∣der, neu eu hamlder. Yn ail yr attebaf, nad oes nac amser na lle heb drallod ynddo, lle nid oes grôes i'w chael bob amser i'r rhai a'i cymmero hi i fynu. Oblegid naill ai mae tlodi, a'i clefyd, ai enllib, ai gelyniaeth, ai cam, ai gwrthwyneb, neu ryw fath flinder yn ymgynnyg bob amser, oblegid nâ bydd byth eisiau 'r gwŷr hynny yn y byd, am y rhai y dyweid y prophwyd, Y rhai a dalant ddrwg dros dda a'm gwrthmynebant, am fy mod yn dilyn daioni, Psal. 38.20. O'r hyn lleiaf, ni bydd byth eisiau gelynion cartrefol, am y rhai y mae Christ yn son, Mat. 10.21. sef naill ai ein ceraint ai ein caredi∣gion cnawdol, y rhai, sy fynychaf yn ein gwrthwy∣nebu ni, os dechreuwn ni wasanaethu Duw o ddi∣frif; ai ein gwyniau anllywodraethus ein hunain, y rhai yw 'r gelynion perycclaf o gwbl, am eu bod yn peri i ni ryfela ar ein tir ein hun. Drachefn, ni bydd byth eisiau tentasiwnau 'r byd a'r cythraul, y rhai sy lawer anhaws eu gwrthwynebu yn amser heddwch a hawddfyd, nag yn amser cystudd ac erlid oddiallan: am fod y gelynion hynny yn ga∣darnach o drûth a gweniaith, nag o nerth: yr hyn y mae Tâd duwiol yn ei hyspyssu wrth y ddammeg hon; Yr haul a'r gwynt ryw ddiwrnod, medd efe, a gyttunasant ar brofi bob vn ei nerth, wrth

Page 207

ddwyn ei gochl oddiar vn oedd ar ei daith. Ac o flaen hanner dydd, y gwynt a ymegniodd gryfa' ac allodd i geisio chwythu 'r gochl oddiam dano ef: ond po mwyaf y chwythai 'r gwynt, tynnaf y da∣liai 'r siwrneiwr ei gochl, ac y tynnai hi yn gynn∣hwysach yn ei gylch. A phrydnawn yr haul a ddan∣fonodd allan ei belydr hyfryd, ac o fesur ychydig ac ychydig a aeth i mewn i'r dŷn yma, hyd oni wnaeth iddo ddiosg nid ei gochl yn vnig, ond ei bais hefyd. Wrth yr hyn y deellir, medd y tâd hwnnw, fod hudoliaeth difyrrwch a melyschwant yn gryfach ac yn anhaws eu gwrthwynebu, nâ chryfder erlid. Y cyffelyb a ddangosir wrth esampl Dafydd, yr hwn a wrthwynebodd yn hawdd lawer o gyrch∣faau adfyd, ac etto a syrthiodd yn enbyd iawn yn amser hawdd-fyd, 2 Sam. 11. Wrth yr hyn y ge∣llir gweled nad oes i'r duwiol ddim llai rhyfel yn amser heddwch, nag yn amser erlid: ac na phalla byth achlysur i ddwyn y groes, ac i ddioddef blin∣der, i'r neb a'i cymmero. A hyn a wasanaetha am y pwngc yma, i brofi y bydd rhaid i bob dŷn fy∣ned i mewn i'r nef trwy orthrymderau, fel y dy∣waid Sainct Paul.

7. Am yr ail, pa ham y mynnai Dduw fod y peth fel hyn, digon fyddai atteb, mai felly y rhyn∣godd bodd iddo, heb geisio rheswm pellach o'i fe∣ddwl ef yn hyn o beth: fel y rhyngodd bodd iddo, heb rheswm yn y byd yn ein golwg ni, wneuthur mor wael o'i fab a'i ddanfon ef yma i'r byd hwn, i ddioddef ac i farw drosom ni. Neu os byddai raid i ni gael rheswm am hynny, digon fyddai yr vn rheswm yma tros y cwbl: gan ein bod ni yn dis∣gwyl am ogoniant cymmaint, y dylem gymmeryd peth poen yn gyntaf am dano, ac felly cael ein gw∣neuthur yn fyrn deilwng o ffafor Duw, ac o'n go∣ruchafiaeth. Ond etto gan ryngu bodd i'w dduwi∣ol

Page 208

fawredd ef, nid yn vnig agoryd i ni ei ewyllys a'i amcan, ar fod yn rhaid i ni ddioddef yn y byd hwn: ond dangos i ni hefyd amryw resymmau o'i sancteiddiaf ewyllys a'i fodd yn y peth, er mwyn ychwaneg o galondid a chyssur i ni sydd yn dioddef: mi a adroddaf yma rai o honynt, er mwyn dangos ei fawr anfeidrol gariad ef tu ac attom ni, a'i dadol ofal trosom ni.

8. Yr achos cyntaf gan hynny, a'r pennaf ydyw, er mwyn chwanegu ein gogoniant ni yn y byd a ddaw. Oblegid, gan ddarfod iddo drwy ei dra∣gwyddol ddoethineb a'i gyfiawnder ordeinio, na chaiff neb ei goroni yno, ond y rhai a oddefo ym∣drech (mewn rhyw fesur da) yn y byd hwn: a pho amlaf a mwyaf fyddo 'r ymdrech a roddo efe (ynghyd â digonol ras i'w orchfygu) mwyaf fydd y goron gogoniant y mae efe yn ei pharottoi i ni yn ein hadgyfodiad, 2 Tim. 2.5. Datc. 2.10. A'r achos yma y crybwyll yr Apostol am dano yn y gei∣riau a adroddwyd am Sainct yr hên Destament; sef yw hynny, nad ydynt hwy yn derbyn ymwared oddiwrth eu gofidiau yn y byd yma, fel y gallont gael adgyfodiad gwell yn y byd a ddaw, Heb 11.35. A hyn hefyd yr oedd Christ yn ei feddwl yn eglur, pan ddywedodd efe, Gwyn eu byd y rhai a erlidir, canys eiddynt yw teyrnas nefoedd. Gwyn eich byd pan ddywedo dynion ddrygair am danoch, a'ch erlid, &c. Byddwch lawen a hyfryd, canys mawr yw eich gwobr yn y nefoedd, Mat. 5.10- Ac at hyn y per∣thyn yr holl addewidion yma, am ynnill bywyd trwy golli bywyd, am gael derbyn cant am vn, a'r cyffe∣lyb, Mat. 10.39. & 19.29. Ac o hynny y daw yr holl addewidion helaeth a wneir i farwhâad a newydd-deb buchedd. Yn y ddeubeth hynny y mae ymdrech mawr yn erbyn y cnawd, a'r byd, a'n gwyniau ein hunain, ac nis gellir eu dwyn i ben

Page 209

ond trwy ddioddefaint a chystudd. Yn ddiweddaf' y mae Sainct Paul yn datgan y peth yma yn gwbl gyflawn, pan yw yn dywedyd, fod ein byrr ys∣gafn gystudd ni yn odidog ragorol yn gweithredu tra∣gywyddol bwys gogoniant i ni yn vchder nef, 2 Cor. 4.17.

9. Yr ail achos pa ham yr ordeiniodd Duw hyn oedd i 'n tynnu ni oddiwrth garu 'r byd, ei elyn ef; fel y dangosir yn helaeth yn y bennod nessaf. Yr achos yma y mae Sainct Paul yn ei adrodd yn y geiriau hyn; Pan i'n bernir, i'n ceryddir gan yr Ar∣glwydd, fel na 'n damner gydâ 'r byd, 1 Cor. 11.32. Wrth hynny, fel y bydd mammaeth, er mwyn diddyfnu ei phlentyn oddiwrth garu ei llaeth, yn iro ei bronnau ag Aloes, neu â rhyw bethau chwerwon eraill; felly y mae ein tad trugarog ninnau, am ei fod yn ewyllysio ein diddyfnu ni oddiwrth ddifyr∣rwch y byd (trwy 'r hwn y mae aneirif o wyr yn mynd beunydd i golledigaeth) yn arfer o ddanfon cystudd: yr hwn yn anad dim arall sydd fwyaf ei rym i wneuthur hynny: fel y gwelwn ni yn esampl y mab afradlon, yr hwn nid oedd dim abl i'w ddi∣ddyfnu oddiwrth ei ddifyrrwch, ond cystudd yn vnig. Luc. 15.

10. Yn drydydd, y mae Duw yn arfer cystudd megis meddyginiaeth o'r oreu ac o'r bennaf, i'n hia∣chau ni oddiwrth lawer o glefydau, y rhai oni bai hynny sydd agos yn anaele. Megis yn gyntaf, oddi∣wrth ryw ddallineb, a diofal esgeulusdra yn ein cy∣flwr, yr hyn yr ydym yn ei fagu oddiwrth hawdd∣fyd a llwyddiant. Ac yn y deall hwnnw y dyweid yr Scrythur lân, fod cystudd yn rhoi deall. Ac y mae 'r gwr doeth yn dywedyd fod y wialen yn dwyn doethineb, Dihar. 29.15. fel yr adferwyd golwg Tobit a chwerw fustl y pysgodyn. Ac y mae i ni esamplau eglur yn Nabuchodonosor, Saul, Antiochus,

Page 210

a Manasses: y rhai oll a ddaethant i weled eu beiau trwy gystudd, yr hyn ni's gwnaethent byth yn amser llwyddiant. Y cyffelyb yr ydym yn ei ddarllain am frodyr Joseph, y rhai pan ddaeth peth cystudd arnynt yn yr Aipht, aethant yn y man i mewn i'w cydwybodau eu hunain ac a ddywedasant; Am be∣chu o honom yn erbyn ein brawd, am hynny y daeth y cufyngdra hwn arnom ni, Gen. 42.21. Ac fel y mae cystudd vn dwyn y goleuni yma i ni i weled ein diffygion, felly y mae yn helpio o'i tynny hwy ymaith ac o'i hiachau: ac yn hynny y gellir ei gy∣ffelybu yn dda i wialen Moysen: oblegid fel yr oedd y wialen honno, wrth daro 'r creigiau caledion, yn dwyn allan ddwfr, fel y dywaid yr Scrythur; felly y mae gwialen cystudd, wrth syrthio ar bechaduri∣aid calon-galed yn eu meddalhau hwynt i ymofi∣dio, ac yn fynych yn dwyn allan llifeiriant o dda∣grau i edifeirwch, Exod. 17.6. Ac o'r achos hyn∣ny y dywaid Tobit dduwiol wrth Dduw; Yn amser cystudd y maddeui bechod. Ac o herwydd hynny y cyffelybir ef i lif∣ddur, yn tynnu y rhŵd oddiar yr enaid, ac i physygwriaeth yn gyr∣ru llygredigaeth allan o'r corph; ac yn ddiwethaf i dân yr eurych a'r gof aur, yr hwn sydd yn treulio ymaith y sothach, ac yn puro 'r aur i'w berffeithrwydd, Mi a lan buraf dy sothach di, medd DVW wrth bechadur trwy 'r prophwyd Esai, ac a dynnat ymaith dy holl alcam, Esa. 1.25. A thrachefn trwy Ieremi, Wele fi yn eu toddi hwynt ac yn eu profi trwy dan, Ier. 9.7. Hyn y mae efe yn ei feddwl am dan cystudd, cynnheddfau yr hwn ydyw (fel y dywaid yr Scrythur) glanhau a phuro 'r enaid, fel y mae 'r tân yn glanhau ac yn puro 'r aur yn y ffwrneis. Oblegid, heb law ei fod yn puro ac yn tynnu ymaith bechodau mawr, trwy

Page 211

Ystyried ac ymofidio (yr hyn y mae cystudd yn ei wneuthur, fel y dangoswyd) y mae efe hefyd yn carthu rhŵd aneirif o wyniau drwg, a trachwantau, a dryganian mewn dyn: megis dryganian balchder, a gwag ogoniant, a diogi, a llid, a mwythus fur∣senneiddrwydd, a mil yn ychwaneg, y rhai y mae llwyddiant yn eu magu ynom ni. Hyn y mae Duw yn ei ddangos trwy 'r Prophwyd Ezechiel, gan ddywedyd am enaid rhydlyd; Dod ef ar ei farwor yn wâg, fei y twymno, ac y llosgo ei brês, ac y toddo ai aflendid ynddo, ac y darfyddo ei scum ai rŵd, Ymflinwyd ac ymchwyswyd gydag ef; ac etto nid aeth ei scum a'i rŵd mawr allan o hono, Ezec. 24.11. Hyn hefyd y mae Iob dduwiol yn ei ar∣wyddoccau, yr hwn wedi iddo ddywedyd, fod Duw yn addysgu drwy athrawiaeth a cherydd, i dyn∣nu dŷn oddiwrth yr hyn a wnaeth, ac i'w wared o∣ddiwrth falchder, yr hyn a ddeellir am weithredoedd pechadurus; y mae ychydig ar ol yn dywedyd yn ychwaneg, Ei gnawd a ddarfu gan geryddon, dy∣chweled yn ei ôl at ddyddiau ei ieuengctid. Hynny ydyw, gan fod ei holl anwydau cnawdol a'i wyniau wedi darfod weithian gan gospedigaeth a chystudd, dechreued fyw etto yn y cyfryw burdeb ennaid ac yr oedd yn nechreuad ei ieuengtid, cyn iddo fagu y dryganian yma a'r clefydau. Iob 33.25.

11. Ac y mae cystudd nid yn vnig yn feddygini∣aeth grêf i iachau pechod, ac i garthu ymaith V sothach fettel sydd ynom ni o brês, acalcam, a hai∣arn, a phlwm, a sorod, fel y mae Duw yn dywe∣dyd trwy Ezeciel; ond hefyd yn feddyginiaeth or∣chestol odiaeth i gadw vn rhag pechu o hyn allan: fel y dywedodd y bren∣hin daionus Dafydd, Dy gerydd di, Oh Arglwydd, a'm gwellaodd i hyd y diwedd. Hynny ydyw, ef a wnaeth

Page 212

i mi fod yn ochelog ac yn wiliadwrus, rhac pechu mwy, fel y dywaid yr Scrythur mewn lle arall, Trwm glefyd nu gystudd, a wna 'r enaid yn sobr. Ac o'r achos hynny y geilw Ieremi gystudd yn wia∣len wiliadwrus. Hynny ydyw, fel y mae S. Hierom yn ei esponi, gwialen yn gwneuthur dŷn yn wilia∣dwrus. Yr vn peth y mae Duw yn ei arwyddoc∣cau, pan ddywedodd efe trwy Osee'r prophwyd, Mi a gaeaf dy fuchedd di o bob parth â chof am gystudd ac â'i ofn, fel na lefesych di sathru ar ŵyr, rhac i ti sathru ar ddraenen, Hos. 2.6. A hyn i gyd y mae Dafydd dduwiol yn ei yspyssu am dano ei hun, yn y geiriau hyn, Cyn fy nghystuddio yr oeddwn yn cyfeiliorni, ond yn awr mi a gedwais dy air di. Da i mi fynghystuddio, fel y dysgwn dy ddeddfau. Psal. 119.67, 71.

12. Ac o hyn y gwelir achos arall, pa ham y mae Duw yn cystuddio ei etholedigion yn y fuchedd hon, a hynny ydyw, er mwyn na ddelai ei gyfi∣awnder ef arnynt yn y byd a ddaw. Am yr hyn y mae S. Bernard yn dywedyd fel hyn, Oh Dduw na bai ryw vn, yr awrhon ym mlaenllaw, a barottoai i'm pen i helaethrwydd o ddwfr, ac i'm llygaid ffynnon o ddagreu; canys felly odid a gallei r tân poeth graffu lle y darfuasei i ddagrau lanhau o'r blaen. A'r rheswm o hynny ydyw (fel y dengys y gwr duwiol hwnnw ei hun) am ddywedyd o Dduw trwy Na∣hum brophwyd, Mi a'th flinais ac ni'th flinaf mwy∣ach: ni ddaw oddiwrthyf gystudd dau ddyblyg, Nah. 1.12.

13. Yn chweched y mae Duw yn danfon cystudd ar ei weision, i'w profi hwy ag ef, pa vn a wnant ai bod yn ffyddlon ac yn ddianwadal, ai nad ydynt: hynny ydyw, i beri iddynt hwy eu hunain ac i eraill

Page 213

weled a chyfaddef, mor ffyddlon, neu mor anffydd∣lon ydynt. Hyn a ddangoswyd o'r blaen megis trwy ffigur, pan fynnai Isaac balfalu a theimlo ei fab Iaco, cyn y benedithiai ef. A hyn y mae'r Scry∣thur lân yn ei yspyssu yn amlwg, pan yw yn dywe∣dyd, wrth grybwyll am y cystuddiau a roed ar A∣braham; A Duw a brofodd Abraham, Gen. 22.1. A Moysen ynteu a ddywedodd wrth bobl Israel, Co∣fia'r holl ffordd yr arweiniodd yr Arglwydd dy Dduw di ynddi y deugain mblynedd hyn, trwy 'r anialwch, er mwyn dy gystuddio di a'th brofi, i wybod yr hyn oedd yn dy galon di, a gedwit ti ei orchymmynion ef, ai nas cedwit, Deut. 8.2. A thrachefn, ychydig bennodau wedi, Yr Arglwydd eich Duw sydd yn eich profi chwi, i wybod a ydych yn caru yr Arglw∣ydd eich Duw a'ch holl galon ac a'ch holl enaid, Deut. 13.3. Ac yn y deall hwnnw y dywaid yr Scrythur am Ezecias, yn ôl rhoi iddo lawer o ganmoliaeth, i Dduw ei adael ef, i'w brofi ef, i wybod cwbl ac oedd yn ei galon ef, 2 Cron. 32.31. Ac mai hyn yw arfer Duw tu ac at yr holl rai da, y mae 'r brenhin DAFYDD yn dangos, megis o enau pawb, pan yw yn dywedyd, Ti a'n profaist ni o Dduw, ti a'n coethaist ni fel coethi arian. Dygaist ni i'r rhwyd, gosodaist wasgfa ar ein lwynau, ac a beraist i ddy∣nion farchogaeth ar ein pennau; aethom drwy'r tân a'r dwfr, Psal. 66.10. A daied oedd gantho hyn∣ny, y mae efe yn arwyddoccau, pan yw yn galw am ychwaneg o hono mewn man arall, gan ddywe∣dyd, Hola fi, Arglwydd, a phrawf fi, llosg fy a∣rennau a'm calon o'm mewn, Psal. 26.2. Hynny yw, prawf fi trwy gystudd ac erlid, chwilia ddir∣gelion fy nghalon i a'm harennau: gad i'r byd we∣led a lynaf fi wrthyt ti mewn adfyd, ai nas gwnaf, Psal. 26.2. Fel hyn y dywedodd y prophwyd duwiol hwnnw, gan wybod yn dda'r peth y mae 'r

Page 214

Yspryd glân yn ei adrodd mewn lle arall, mai fel y profir yr aur yn tân, felly y profir dynin cymmeradwy yn ffwrn gostyngiad. Oblegid fel y mae 'r llestri cy∣fan yn dal, pan ddelont i'r ffwrneis, ac y tyrr y rhai twnn bregus yn ddrylliau, felly yn amser cy∣studd ac erlid, y duwiol yn vnig fydd yn dal allan, a'r rhai ffuantus yn dangos pa fath ydynt: yn ol yr hyn a ddywedodd Christ, yn amser profedigaeth y maent yn cilio oddiwrthyf. Eccl. 2.5. Dih. 17.3. Luc. 8.13.

14. Y seithfed rheswm pa ham y mae Duw yn rhoi cystudd ar y rhai duwiol, ydyw, i beri iddynt hwy redeg atto ef am help a chymmorth: megis y mae 'r fam, i beri iw phlentyn ei charu hi yn fwy, a rhedeg atti hi, yn peri i eraill ei ddychrynu a'i ofni ef. Hyn y mae Duw yn ei yspysu yn am∣lwg trwy'r prophwyd Osee, gan ddywedyd am y rhai yr oedd efe yn ei garu, Mi a'i tynnais hwynt at∣taf â rheffynnau Addaf, â rhwymau cariad, ac yr oeddwn iddynt megis y rhai a godant yr iau ar eu boch∣gernau, Osee 11.4. Wrth reffynnau Addaf, y mae efe yn meddwl cystudd, a'r hyn y tynnodd efe A∣ddaf i'w adnabod ei hun, fel y gwelir wrth yr hyn y mae yn ei ddywedyd yn ychwaneg am drwm iau cystudd, yr hwn a rydd efe ar bennau ac wynebau ei weision, megis rhwymau a chadwynau cariad i'w tynnu hwynt atto. Y gadwyn yma a dynnasai Dda∣fydd atto ef pan ddywedodd efe, O Arglwydd, ti yw fy lloches rhag cystudd, Psal. 32.7. A'r rhai hynny hefyd y rhai y mae Esai yn dywedyd am da∣nynt, Mewn adfyd, Arglwydd, i'th geisiasant, Es. 26.16. A'r rhai y mae Dafydd yn dywedyd am danynt, Gofidiau a amlhasant arnynt, ac yno y brysiasant ddyfod. Ac y mae Duw yn dywedyd yn gyffredinol wrth bob dyn duwiol, Pan fyddo adfyd arnynt i'm bore geisiant, Osee 5.15. Am hynny y

Page 215

mae 'r duwiol frenhin Dafydd, wrth chwennych gw∣neuthur daioni i ryw ddynion, a'i hynnill hwy at Dduw, yn dywedyd yn vn oi psalmau, llanw eu hwy∣nebau a gwarth, fel y ceisiont dy enw Arglwydd, Psal. 83.16. A hyn sy wir, fel y dywedais i, am etholedig▪ ddewis weision Duw; ond yn y rhai gwrthodedig, nid yw y rheffynnau hyn yn tynnu, na'r iau hwn yn dal, na'r gadwyn gariad hon yn eu hynnill hwy at Dduw. Ac am hynny y mae Duw yn cwyno, gan ddywedyd, Yn ofer y tarcwais eich plant chwi, gan na dderbyniant gerydd, Jer. 2.30. A thrachefn y dyweid y prophwyd Jeremi am da∣nynt hwy wrth Dduw, Ti a'i tarewaist hwynt, ac nid ymofidiasant; difeaist hwynt, eithr gwrthodasant dderbyn cerydd; hwy a wnaethant eu hwynebau yn galettach nâ chraig, ac a wrthodasant ddychwelyd at∣tat ti. Wele hwy a dorrasant yr iau ac a ddrylliasant y rhwymau. Jer. 5.3, 5.

15. O hyn weithian y canlyn yr wythfed rhe∣swm, pa ham y mae Duw yn dwyn ei weision i gystudd; sef, fel y gallai ddangos ei allu a'i gariad yn eu gwared hwy. O herwydd megis yn y byd hwn, nid yw meddwl gwrol yn chwennych dim yn fwy, nâ chael achlysur i ddangos ei allu a'i ddaioni i'r neb a so anwyl gantho: felly am Dduw, yr hwn y mae pob achlyssur yn ei law, ac sydd yn rha∣gori ar ei holl greaduriaid mewn cariad a mawrfryd; y mae efe o'r gwaith goddeu yn gweithio amryw achlysur a chyfamser a chyfle, i gael dangos hynny. Felly y dûg efe 'r tri llange i'r ffwrn dan, fel y gall∣ai ddangos ei allu a'i gariad yn eu gwared hwy. Felly y dûg efe Ddaniel i ffau'r llewod, a Susanna ym mron angeu, a Iob i ddygn ofid a thrueni, a Ioseph i garchar, a Thobit i ddallineb; fel y gallai ddangos ei alla a'i gariad yn eu gwared hwy. Ac o'r achos yma hefyd y gaawodd Christ i'r llong fod

Page 216

yn agos a boddi, cyn y deffroai efe: i Sainct Petr fynd agos tan y dwfr, cyn ei gymmeryd ef erbyn ei law.

16. Ac yn y rheswm yma y gwelir llawer o re∣symau eraill, ac o achosion comfforddus am waith Duw yn y peth hyn. Megis yn gyntaf, fel y by∣ddai i ni wedi ein gwared oddiwrth ein blinderau, gymmeryd mwy o lawennydd a hyfrydwch yn∣ddynt, nâ phe buasem ni erioed heb eu dioddef. Oblegid fel y mae 'r dwfr yn fwy croesawus, i'r hwn a fo ar ei daith, yn ôl hir syched; ac fel y mae tawelwch yn fwy hyfryd gan y morwyr yn ôl tym∣mhestl drafferthus: felly y mae ein hymwared nin∣nau yn bereiddiach yn ôl erlid a thrallod, fel y dy∣weid yr Scrythur, Hyfryd a thymmhoraidd yw tru∣garedd yn amser adfyd, fel y cwmmylau glaw yn am∣ser sychder, Ecc. 35.20. Hyn a arwyddoccaodd Christ hefyd pan ddywedodd efe, Eich tristwch a droir yn llawenydd: hynny ydyw, chwi a laweny∣chwch am i chwi fod yn drist, Io. 16.20. Hyn a brofasai Dafydd, pan ddywedodd efe, Dy wialen di, Arglwydd, a'th ffon a'm cyssurasant, Psal. 23.4. hyn∣ny ydyw, yr wyfi yn cymeryd cyssur mawr ddarfod iddynt erioed fy ngheryddu. A thrachefn, Yn ol amlder fy ngofidiau o'm mewn, dy ddiddanwch di a lawenycha fy enaid: hynny ydyw, am bob tristwch a gefais yn amser cystudd, yr wyfi yr awrhon yn derbyn cyssur wedi cael fy ngwared, Psal. 93.19. A thrachefn mewn lle arall, Ymlawenhaf, ac ymhy∣frydaf yn dy drugaredd, Oh Arglwydd. A pha ham frenhin da, yr ymlawenychi di felly? Y mae yn can∣lyn yn y man, Canys gwelaist fy adfyd; adnabuost fy enaid mewn cyfyngderau; ac ni warcheaist fi yn llaw'r gelyn, ond gosodaist fy nhraed mewn ehengder, Psal. 31.7, 8. Ac dyma feddwl grasusol ein Tad cariadus trugarg yn ein cystuddio ni tros amser, fel

Page 217

y gallo ein llawenydd ni fod yn fwy yn ôl ein ymwa∣red, fel yr oedd yn diammau yn y rhai oll a henwais o'r blaen, a waredwyd trwy drugaredd Duw: sef Abraham, Joseph, Daniel, Sidrach, Misach ac A∣bednego, Susanna, Job, Tobias, Petr, a'r llaill, y rhai a fuant lawenach yn ôl eu hymwared, nâ phe buasent erioed heb eu cystuddio. Wedi darfod i Ju∣dith wared Bethulia, a dychwelyd yno yn ei hôl, a phen Holoffernes ganthi; yr oedd mwy o wir lawe∣nydd yn y ddinas honno, nag a fuasai byth ynddi, pe buasai hi heb fod mewn cyfyngder. Pan waredwyd S. Petr allan o garchar gan yr Angel, yr oedd mwy o lawenydd yn yr Eglwys am ei wared ef nag a all∣asai fod, pe buasai efe erioed heb fod yngharchar. Act. 12.

17. Allan o'r llawenydd mawr yma y tŷf peth arall a weithia ein cystudd ni, yr hwn sydd hyfryd iawn gan Dduw, a chomfforddus i'n heneidiau nin∣nau: a hwnnw yw diolchgarwch calonnog difrif i Dduw am ein hymwared, cyfryw ac a arferodd y prophwyd, pan ddywedodd ef yn ôl ei ymwared, Minneu a ganaf am dy nerth, ie llafar-ganaf am dy di ugaredd yn foreu; canys buost yn amddiffynfa i mi, ac yn noddfa, yn y dydd y bu cyfyngder arnaf? Psal. 59.16. Y cyfryw galonnog ddiolch a moliant a roes plant yr Israel i Dduw am eu hymwared, pan ddaethant tros y môr coch, yn eu cân orchestol, yr hon sydd yn dechreu, Cantemus Domino, ac a roes Moysen mewn cof yn llyfr Exodus. Oddiwrth yr vn calonnog ewyllys y daeth caneuau Anna, Debora, a Iudith, y rhai a gynuhyrfwyd i hynny wrth gofio eu cystuddiau aethent heibio. Ac yn ddiweddaf, dyma vn o'r pethau permaf y mae Duw yn gwneu∣thur cyfrif o hono, ac yn ei ofyn ar ein dwylo ni, fel y mae yn tystiolaethau trwy 'r prophwyd, gan ddy wedyd, Galw arnafi yn nydd trallod: minnau a th¦waredaf,

Page 218

waredaf, a thi a'm gogoneddi. Psal. 50.15.

18. Heb law hyn i gyd, y mae gan Ddvw etto ychwaneg o resymmau i ddanfon erlid arnom ni; Megis hyn, am ein bod ni wrth ddioddef, ac wrth weled cymmorth Duw a'i gomffordd yn ein diodde∣fiadau; yn myned mor wrolddewr, ac mor hŷ, ac mor ddianwadal yn ei wasanaeth ef, ac na's gall dim wedi hynny ein digalonni ni: megis Moysen, er ei fod ef ar y cyntaf yn ofni'r sarph a wnaethid o'i wi∣alen ef, ac yn ffo rhagddi: etto wedi iddo, wrth or∣chymmyn Duw, ymaflyd yn ei llosgwrn hi, nid of∣nodd efe mo honi mwy. Hyn y mae 'r prophwyd Dafydd yn ei yspysu yn orchestol, pan yw yn dy∣wedyd, Duw sydd noddfa, a nerth i ni, cymmorth hawdd ei gael mewn cyfyngder. Am hynny nid ofnwn pe symmudai'r ddaiar, a phe treiglid y mynyddoedd i ganol y mor. Pa hyder mwy na hyn a ellir meddwl am dano. Psal. 46.1.

19. Drachefn, ag erlid ac a chystudd y mae Duw yn dwyn ei blant i ymarfer ac i ymgynnefino a lla∣wer o rinweddau da ac sydd yn perthyn i Gristion, ac i fynd mewn peth meddiant o honynt. Megis hyn; Ffydd a arferir mewn cystudd, wrth ystyried yr achosion y mae Duw yn ein cystuddio ni o'i ple∣gid, ac wrth gredu yn dra siccr i'r addewidion a w∣naeth efe ar ein gwared ni. Gobaith a ymarferir o honi mewn cystudd, wrth ddeall ac ymsiccrhau o'r gwobr a addawyd i'r rhai a ddioddefo yn ymmynedd∣gar. Cariad perffaith a ymarferir ag ef mewn cy∣studd wrth ystyried cariad Christ yn dioddef trosom ni, ac sydd wrth hynny yn annog y rhai cystuddiedig i ddioddef gyd ag ef Vfydd-dod a ymarferir ag ef mewn cystudd, wrth gydffurfio ein hewyllys ni ag ewyllys Christ. Dioddefgarwch a ymarferir ag ef, drwy ddioddef yn llonydd. Gostyngeiddrwydd, wrth ein darostwng ein hunain yngolwg Daw. Ac

Page 219

felly yr vn ffunyd, pob rhinweddau da eraill ac a berthyn i Gristion a gynhyrfir ac a siccrheir mewn dŷn wrth ei gystuddio, yn ôl yr hyn a ddyweid S. Petr: Duw a berffeithia, ac a gadarnhâa ac a gryf∣haa, ac a sefydla, y rhai a ddioddefodd ychydig er mwyn ei enw ef. 1 Pet. 5.10.

20. Yn ddiweddaf, meddwl Duw wrth ddanfon erlid a blinder arnom ni, ydyw ein gwneuthur ni yn gristianogion perffaith: hynny ydyw, yn gyffelyb i Grist ein capten, yr hwn y mae 'r prophwyd yn ei alw, Yn wr gofidus, a chynnefin â phob math ar ddo∣lur: fel y gallai wrth hynny dderbyn mwy o ogo∣niant, pan ddelei yn ei ôl i'r nef, a gwneuthur yn fwy gogoneddus bob vn a gymmero ei blaid ef yn hynny, Es. 53. I ddywedyd y cwbl ar vn gair, e∣wyllys Duw wrth ein cystuddio ni oedd ein gwneu∣thur ni yn Gristianogion croes-hoeliedig, yr hwn yw'r enw a'r titl anrhydeddusaf ac a ellir ei roi i greadur; wedi ein croes-hoelio meddaf, a'n marwo∣laethu i orwagedd y byd hwn, ac i'n trachwant ein hunain, a'n deisyfiadau cnawdol: ond yn fyw ac yn llawn yspryd bywyd i ddaioni, a duwioldeb, a de∣fosiwn da. Dyma feddwl nefol ein goruchaf Ar∣glwydd a'n Duw, wrth ddanfon arnom ni erlid, a chystudd, a blinder: o achos yr hyn nid yw Iob dduwiol yn ammeu dywedyd, Gwyn ei fyd y dŷn a geryddo Duw. A Christ ei hun etto yn yspyssach, Gwyn eu byd y rhai a erlidir, Iob 5.17. Mat. 5. Os ydynt hwy yn wynfydedig ac yn ddedwydd gael eu herlid, mae y rhai bydol wrth hynny allan o'r ffordd ymmhell, y rhai fy cymaint yn ffleiddio dio∣ddef erlid; ac nid yw Duw yn cael mor diolch a ddylai gan lawer o'i blant, y rhai fy yn grwgnach wrth y dedwyddwch yma a roir iddynt: lle y dy∣lent hwy ei dderbyn ynghyd a llawenydd a diolch∣garwch. Ac er mwyn profi hynny a'i yspyssu yn

Page 220

well, mi a dynnaf weithian at y trydydd pwngc o'r bennod yma, i chwilio, ac i holi pa resymmau ac achosion sydd, i'n dwyn ni i ymlawenychu, ac i ym∣fodloni mewn cystudd.

21. Ac yn gyntaf, digon fyddai y rhesymmau a osodwyd i lawr eisus, am drugarog a thadol feddwl Duw yn danfon blinder arnom ni, i ddangos hyn o beth: hynny ydyw, i gomfforddio ac i fodloni pob math ar Gristion, o wr neu wraig, ac sydd yn ym∣hyfrydu yn sanctaidd ragddarbodaeth Duw tu ac at∣tynt. Oblegid os ydyw Duw yn danfon cystudd arnom ni, er mwyn chwanegu ar ein gogoniant ni yn y fuchedd a ddaw; er mwyn ein tynnu ni rhag ein llygru a'n llynu gan y byd; er mwyn egori ein llygaid ni, ac iachau ein clefydau, ac er mwyn cadw ein heneidiau ni rhac pechu yn ol hyn, fel y dangos∣wyd vchod; pwy a all o gyfiawnder fod yn anfod∣lon iddo, ond cyfryw rai ac sydd elynion i'w daioni eu hunain? Ni a welwn, er mwyn cael iechyd cor∣phorol ein bod ni yn fodlon, nid yn vnig i ddioddef llawer meddiginiaeth chwerw anhyfryd, ond hefyd, os bydd rhaid, i ymroi i adael tynnu peth o'n gwaed oddiwrthym, a pha faint mwy y dylem ni wneuthur hynny, rhac peryglu tragywyddol iechyd a chadwe∣digaeth ein heneidiau? Ond ym mhellach; od oes yn y feddyginiaeth hon lawer mwy na hynny o les-had, fel y dangoswyd; os ydyw hi yn gwasanaethu yma i gospi ein pechodau ni, yr hyn yr ydym ni yn hae∣ddu ei gael wrth gyfiawnder mewn lle arall, yn lla∣wer mwy, ac yn llawer tostach; os ydyw hi yn pro∣fi ein cyflwr ni ac yn ein tynnu ni at Dduw; os y∣dyw hi yn annog cariad Duw tu ac attom ni; ac yn rhoi i ni achos i lawenychu wrth gael ymwared; ac yn ein hannog ni i fod yn ddiolchgar, ac yn ein gw∣neuthur ni yn hyderus ac yn gryfion; ac yn ddiwe∣ddaf, os ydyw hi yn ein cynnysgaeddu ni a phob

Page 221

rhinweddau da, ac yn ein gwneuthur ni yn debyg i Grist ei hun; yna y mae achos mawr rhagorol i ni i gymmeryd comffordd a chyssur ynddi: o herwydd, dyfod yn agos at Grist, a bod yn debyg iddo, yw'r braint a'r goruchafiaeth mwya n y byd. Yn ddi∣weddaf, os darfu i dragywyddol ddoethineb Duw ordeinio ac appwyntio, mai hyn fyddai nod, ac ar∣wydd, a lifrai ei Fab ef; a'r ffordd fawr i'r nef, dan ystondart ei groes ef; ni ddylem ninnau wrthod y li∣frai yma, na gochel y ffordd yma, ond yn hytrach, gydâ 'r gwyr da Petr ac Ioan, cyfrif yn fraint mawr, gael bod mor ddedwydd a chael ein gwneuthur yn gyfrannogion o hono. Acts 5. Ni a welwn, fod gwisgo lifrai 'r brenin a'i arwydd, yn cael ei gyfrif yn fraint mawr gan wyr llŷs y byd hwn: ond cael gwisgo 'r frenhinwisg neu'r goron, gormodd braint fyddai hynny i vn deiliad iselradd. Etto y mae CHRIST ein Harglwydd ni a'n brenhin yn fodlon i gyfrannu â nyni bod vn o'r ddau. A pha fodd, me∣ddwch chwi, y dylem ninnau eu derbyn?

22. Ac yn awr fel y dywedais, digon fyddei hyn o resymmau i gomfforddio ac i lawenychu pawb ac a alwer i ddioddef blinder a chystudd Ond etto y mae pethau eraill heb law hyn, i'w hystyried yn neillduol. Ac o'r rhei'ni y cyntaf, a'r pennaf ydyw, nad yw erlid a chystudd beth yn dyfod wrth ddig∣wydd a damwain, na thrwy fod awdurdodau goru∣chel y byd hwn yn eu hordeinio; ond trwy yspys∣sol ragddarbodaeth a rhagweliad Duw a'r ordinhaad ef; fel y mae Christ yn dangos yn helaeth yn Efen∣gyl S. Matthew, hynny ydyw, mai gwaith llaw Dduw ei hun yw'r feddyginiaeth a'r ddiod nefol y∣ma. Yr hyn y mae Christ yn ei arwyddoccau, pan yw yn dywedyd, Y cwppan a roddes y Tâd i mi, onid yfaf o honaw? Hynny ydy v, gan ddarfod i'm Tâd gymmysgu a thymmherudiod i mi, onid yfaf

Page 222

finneu hi? Megis pe dywedai, rhy anniolchgar fy∣ddei i mi nas gwnawn. Ioan 18.11. Yn ail y mae i ni ystyried, mai 'r vn llaw i Dduw ac a gymmys∣godd y cwypan i Grist ei fab ei hun, a'i tymmhe∣rodd i ninnau, yn ôl yr hyn a ddywedodd CHRIST, Diau yr yfwch o'm cwppan i, Sef yw hynny, o'r vn cwppan ac a dymmherodd fy Nhad i minneu, Mat. 20.23. O hyn y canlyn, mai a'r vn fath galon ac a'r vn cariad ac y tymmherodd Duw y cwppan hwn i'w fab ei hun, y tymmherodd efe ef i ninnau he∣fyd; hynny yw, er llês i ni yn hollawl, ac er gogo∣niant iddo ynteu. Yn drydydd, y mae i ni ystyried fod y cwppan hwn wedi ei dymmheru a chyfryw fawr ofal, fel y dywaid Christ, megis pa drallod a pherygl bynnag a dybier ei fod yn ei ddwyn, etto ni chyll vn o wallt ein pennau ni ganddo ef, Matth. 10.23. lle y mae i ni ystyried ym mhellach yr hyn a ddyweid y prophwyd, Ti a'n porthaist ni a bara dagrau, ti a'n diodaist ni â dagrau wrth fesur, Psal. 80.5. Hynny ydyw, cwppan dagrau a chystudd a dymmherir wrth fesur gan ein physygwr nefol ni, fel na chaffo neb o hono vwch law'r hyn a allo. Ye hyn a roer ynddo o Aloes a phethau chwerwon era∣ill, a dymmherir â manna ac a digon o bereidd-dra comffordd nefol. Ffyddlon yw Duw medd Sainct Paul, yr hwn ni âd eich temptio chwi vwch law yr hyn a all∣och, 1 Cor. 10.13. Dyma bwngc o gomffordd godidog, ac a ddyly fod bod amser yn ein cof ni.

23. Heb law hyn, mae yn rhaid i ni ystyried, gan fod ordeinio a thymmheru 'r cwppan hwn yn nwy∣lo Christ ein Iachawdr, trwy 'r gyflawn gennad a roed iddo gan ei Dad; a'i fod ynteu wedi dysgu wrth ei waith ei hun yn dioddef, fel y dywaid yr Apostol, beth yw dioddef mewn cnawd a gwaed, ni a allwn fod yn siccr na rŷdd efe arnom ni ddim

Page 223

mwy nag a allom ei ddwyn, Heb. 2.18. Megis, pettai i wr dad neu frawd yn physygwr o'r celfyddaf, ac ynteu yn cymmeryd physygwriaeth ganthynt we∣di ei dymmheru a'i dwylo hwy eu hunain; fe allei fod yn siccr na wnai'r physygwriaeth hynny ddim niweid iddo er maint o drwst a wnai yn ei fol ef tros amser: felly, a mwy o lawer, y gallwn ninnau fod yn siccr am y ddiod cystudd a roer i ni o law Christ ei hun; er ei fod, fel y dyweid yr Apostol megis yn anhy∣fryd gennym tros amser. Ond o flaen pob meddy∣liau comfforddus eraill, dyma 'r mwyaf, a'r com∣fforddusaf, nid amgen nag ystyried ei fod ef yn rhan∣nu 'r cwppan yma o gariad yn vnig, fel y mae efe ei hunan yn tystiolaethu, a'r Apostol yn profi, Datc. 3.19. Heb. 12.6. Hynny yw, y mae efe yn rhoi rhannau o'i groes (y trysor mwyaf y mae efe yn gw∣neuthur cyfrif o hono) fel y mae tywysogion bydol am eu trysorau, nid i bawb ond i'w etholedig a'i dde∣wis garedigion; ac yn eu plith hwythau, nid yr vn faint i bob vn, ond i bob vn ei fesur a'i ddogn, yn ôl mesur y cariad sydd gantho tuac atto. A hyn sydd amlwg wrth y samplau a osodwyd i lawr o'r blaen am ei garedigion anwylaf ef, y rhai a gystuddir fwy∣af yn y bywyd hwn: hynny ydyw, hwy a dder∣byniasant ran fwy o'r trysor yma, am fod ei ewy∣llys da ef yn fwy tu ac attynt hwy. A hyn hefyd a ellir ei weled yn amlwg yn esampl S. Paul, am yr hwn y dywedasai Grist wrth Ananias, Y mae efe yn llestr dewisedig i mi. Ac yn y man y mae efe yn dan∣gos y rheswm o hynny, Canys, mi a ddangosaf iddo pa bethau eu maint sydd raid iddo eu dioddef er mwyn fy enw i, Acts 9.15, 16. Wele ynteu: am ei fod yn llestr etholedig, am hynny yr oedd yn rhaid iddo ddioddef pethau mawr. Ond ydyw mesur y cy∣studd wrth hynny, yn myned yn ôl mesur cariad Duw tu ac attom ni? Yn siccr fe wyddai Sainct Petr

Page 224

Yn dda pa fodd yr oedd y peth, ac am hynny y ma efe yn yscrifennu fel hyn; Os byddwch yn gwneuthur Yn dda, ac etto yn dda eich ammynedd yn dioddef, hyn sydd ras (neu fraint) ger bron Duw. A thrachefn ychydi yn ôl, Os difenwir chwi er mwyn Enw Christ, gwyn ech byd: Oblegid y mae anrhydedd, a gogoniant, a gallu Duw a'i yspryd yn gorphywys arnoch. 1 Pet. 2.20. 1 Pet. 4.14.

24. A ellir addaw gwobr mwy, na braint godi∣dowach, na chael bod yn gyfrannog o anrhydedd, a gogoniant, a gallu Christ? Ai rhyfedd weithian os dywedodd Christ. Gwyn eich byd pan i'ch difenwo dynion, a'ch erlid? Mat. 5.11. Ai rhyfedd dywe∣dyd o hono, Byddwch lawen y dydd hwnnw, a llem∣mwch? Luc. 6.23 Ai rhyfedd dywedyd o S. Paul, Mi a fyddaf hyfryd, ac a ymffrostiaf yn fy ngwen∣did, neu yn fy nghystudd, yn fy ngwradwydd, yn fy anghenion, yn fy erlidian, yn fy nghyfyng der au er mwyn Christ? 2 Cor. 12.9. Ai rhyfdd os bu i Betr ac i Joan, wedi cael eu difenwi a'i curo ger bron brawdle yr Iudd••••on, fyned ymaith dan ymlaweny∣chu am gacl eu cyfrif yn deilwng i ddioddef gwara∣dwydd er mwyn enw'r Jesu? Acts 5. Ai rhyfedd os eyfrifodd Sainct Paul yn vchelfaint mawr yr hyn a roed i'r Philippiaid, pan ddywedodd efe, I chwi y rhoddwyd nid yn vnig credu yn Ghrist, ond hefyd di∣oddef er ei fwyn ef, gan fod i chwi yr vn ymdrin ac a welsoch ynofi, ac yr awrhon a glywch ei fod ynofi? Phil. 1.29. Nid yw hyn i gyd ddim rhyfedd, me∣ddaf, gn fod dioddef gyda Christ, a dwyn y groes gyda Christ, yn gymmaint goruchafiaeth yn llŷs y nef, ac a fyddai mewn llys daiarol, i'r Tywysog gymmeryd ei wisg ei hun oddiamdano, a'i rhoi am gefn vn o'i weision.

25. O hyn weithian y canlyn peth arall fydd yn dwyn cyssur mawr yn amser cystudd: a hynny yw,

Page 225

bod cystudd (yn enwedig pan rodder gras hefyd i'w ddwyn yn ddioddefgar) yn amcan mawr ddar∣fod i Dduw ragordeinio 'r cystuddiol i fywyd tragy∣wyddol, (oblegid, hynny y mae 'r holl resymmau a dducpwyd o'r blaen yn ei ddangos) megis o'r gwrth∣wyneb, y mae byw yn wastad mewn hawddfyd a llwyddiant yn arwydd ofnadwy o wrthodiad tragy∣wyddol. Y pwngc yma 'y mae 'r Apostol at yr Hebraeaid yn ei brofi yn rhŷfeddol ac yn ei bennu yn daer, Heb. 12. Ac y mae Christ yn ei arwyddoc∣cau yn oleu yn Sainct Luc, pan yw yn dywedyd. Luc. 6.24, 25. Gwyn eich byd chwi, y rhai ydych yn wylo yr a•••• hon, canys chwi a chwerddwch, Ac o'r tu arall, Gwae chwi y rhai a chwerddwch yr awrhon, canys chwi a alerwch ac a wylwch. Gwae chwi 'r cy∣foethogion, canys chwi a dderbyniasoch eich diddanwch yma yn y bywyd hwn. A dwysach na hyn o lawer y mae ymadrodd Abraham wrth y goludog yn V∣ffern, (neu yn hytrach geiriau Christ, y rhai ar ddammeg a fwrir ar Abraham) yn siccrhau 'r peth hyn: oblegid y mae ef yn dywedyd wrth y golu∣dog oedd yn cwyno rhag eu boenau, Ha fab, cofia i ti dderbyn dy wynfyd yn dy fywyd, Luc. 16.25. Nid yw efe yn dywedyd (fel y mae Sainct Bernard yn marcio yn dda) Rapuisti, ti a'i cippiaist trwy drais, ond Recepisti, ti a'i derbyniaist. Ac etto yr ydys yr awrhon yn rhoi hyn yn ei erbyn ef, fei y gwelwn ni. Y mae Dafydd yn teimlo 'r matter yma mewn am∣ryw fannau, yn enwedig mewn dwy o'i psalmau, a hynny yn helaeth: ac yn ôl hir chwilio, a mawr ryfeddu, ei ddiweddchwedl am yr annuwiol sy mewn llwyddiant yn y byd hwn vwch law eraill, yw hyn, Veruntamen propter dolos posuisti eos, deiccisti eos dum alleuarentur, Psal. 27. ac 37, ac 73.18. Ti a roist iddynt lwyddiant ô Arglwydd, i'w twyllo hwynt; ac mewn gwirionedd ti a'i teflaist i lawr with eu co∣di

Page 226

i fynu: hynny ydyw, ti a'i teflaist hwy i law: trwy farn damnedigaeth, yn dy ordinhaad a'th am∣can dirgel anchwiliadwy. Ac yma y mae cyffelybi∣aeth Sainct Grigor ar Job yn cael ei lle; sef, megis ac y gadewir i'r ychen a ordeiniwyd i'w lladd, redeg ac ymdewhau wrth eu hewyllys eu hun, ac y ced wir y llaill tan feunyddol lafur yr iau; felly y mae 'r dy∣nion da a'r rhai drwg. Yr vn ffunyd, y pren nid yw yn dwyn dim ffrwyth ni churir dim arno, fel y gwelwn ni, ond yn vnig yr hwn a ddygo ffrwyth; ac etto y llall, fel y dywed Christ, yr ydys yn ei ga∣dw i'r tan, Mat. 3. & 7. Iud. Y claf a fo heb ddim gobaith byw ynddo y gad y physygwr iddo gael beth bynnag a fynno; ond y neb ni bo anobaith byw ynddo, ni chaiff y cyfryw rydd-did. Yn ddiwe∣ddaf, y meini a fyddei raid iddynt wasanaethu i ogo∣neddus deml Solomon a neddid, ac a gurid, ac a gy∣weirid o'r tu allan i'r eglwys, yn ymyl y chwarel; am na cheid clywed dyrnod morthwyl o fewn y Deml. Y mae Sainct Petr yn dywedyd fod y rhai duwiol yn feini dewisedig, i'w gosod yn adeilad y∣sprydol Duw yn y nêf, lle nid oes na churo, na thri∣stwch, na chystudd, 1 Bren. 6.7. 1 Pet. 2. Datc. 21. Yma wrth hyn y mae'n rhaid ein cyweirio ni, a'n naddu, a'n gwneuthur yn gymmwys i waith y Deml: yma, meddaf, yn chwarel a maen-glawdd y byd hwn: yma y bydd rhaid ein puro; yma y bydd rhaid i ni gael clywed dyrnod y morthwyl, a bod yn dra llawen pan y clywom; oblegid arwydd ydyw o'n etholedigaeth ni i ogoneddusaf dy trigfa dragywy∣ddol Duw.

26. Heb law'r pwngc yma am ragordinhaad ac etholedigaeth; y mae peth arall etto o gomffordd nid bychan i'r duwiol cystuddiedig, yr hwn sy a'i sail ar y geiriau hyn eiddo Duw: Mewn ing y by∣ddaf gydag ef: Psal. 91.15. yn y rhai yr addewir

Page 227

cwmpeini Duw ei hun mewn cystudd ac erlid. Dym∣ma beth godidog, medd S. Bernard, i annog aci gyn∣hyrfu dynion i gresawu cystudd, gan fod dynion yn barod i anturio pob peth er mwyn cwmpeini da. Joseph a ddugpwyd yn gaeth i'r Aipht, a Duw aeth i wared gydag ef, fel y dywaid yr Scrythur lân, ie mwy nâ hynny, efe aeth i wared i'r carchar ac i'r pydew gyd ag ef, ac aeth mewn cadwyni gyd ag ef, Gen. 37. Sidrach, Misach, ac Abednago a da∣flwyd i'r ffwrn boeth losgadwy, ac yn y man yr oedd pedwerydd wedi dyfod i ddwyn cwmpeini iddynt, am yr hwn y mae Nabuchodonosor yn dywedyd fel hyn, Onid trywyr a fwriasam ni i ganol y tân, yn rhwym? a'i weison a attebasant ie yn wir, o frenhin: ond wele, ebyr ynteu, yr wyfi yn gweled pedwargwyr yn rhyddion, yn rhodio ynghanol y tân; a dull y ped∣werydd sydd debyg i Fab DVW. Dan. 3.24, 25. Fe roes Christ wrth fyned heibio, i ryw gardottyn ei olwg drachefn, yr hwn a fuasai ddall o'i enediga∣eth. Ac am hynny y galwyd y dŷn i'w holi, ac a roes beth canmoliaeth i Grist am y gymmwynas a gawsai gantho, ac a fwriwyd allan o'r Synagog gan y Pharisaeaid. A phan glybu Christ hynny, efe a chwiliodd am dano yn y man, ac a gyssurodd ei ga∣lon ef, ac a roes iddo oleuni meddwl hefyd, yr hyn oedd fwy nâ'r goleuni corphorol a roesai efe iddo o'r blaen, Joan 9. Wrth yr esampl yma a'r cy∣ffelyb y gellir gweled, er cynted y bo dyn mewn cystudd ac erlid er mwyn cyfiawnder, fod CHRIST gydag ef yn y man i ddwyn iddo gwmpeini; a phe gellid egoryd ei lygaid ef, fel yr agorwyd llygaid disgybl Elisaeus i weled ei gydymdeithion, sef y by∣ddinoedd Angylion sydd yn gweini ar eu harglwydd yn ei ymweliad yma: diammau y cai ei galon ef gyssur mawr oddiwrth hynny, 2 Brenh. 6.16, 17.

Page 228

27. Ond yr hyn nis gall y llygad ei weled, y mae'r enaid yn ei glywed; hynny ydyw, y mae yn clywed oddiwrth gymmorth gras Duw ynghanol ei holl drallodau. Hyn a addawodd efe yn dra my∣nych; hyn a dyngodd efe; a hyn y mae efe yn ei gyflawni yn dra ffyddlon, i bawb ac a ddioddefo yn llariaidd er mwyn ei enw ef. Hyn oedd dra siccr gan Sainct Paul, pan ddywedodd efe ei fod yn ym∣ffrostio yn ei wendid a'i holl drallodau, fel y by∣ddai i nerth Christ drigo ynddo ef: hynny yw, fel y byddai i Grist ei gynnorthwyo ef â'i ras yn he∣laethach, Canys pan wyf wan, yna 'r wyf yn gadarn, medd efe; 2. Cor. 12. hynny yw, po mwyaf o drallodau ac o erlidiau a rodder arnaf, cryfaf ydyw gras Christ i mi. Ac am hynny y mae 'r vn Apo∣stol yn ysgrifennu fel hyn am yr holl Apostolion ynghyd, Yr ydym yn gystuddiol, ond nid mewn ing; yr ydym mewn cyfyng-gyngor, ond nid yn ddiobaith, yn cael ein herlid, ond heb ein llwyr-adael; yn cael ein bwrw i lawr, ond heb ein difetha, 2 Cor. 4.9. A hyn a ddylei fod yn ffonn gadarn-gref ddiogel yn llaw pob Christion a fo mewn blinder; sef beth bynnag a ddigwyddo iddynt, na phalla gras Duw byth i'w cynnal hwynt i fynu, ad i'w dwyn allan o gystudd: oblegid yn y pwngc yma y mae 'n wir ac yn siccr iawn geiriau Sainct Awstin, y rhai a adroddodd efe cyn fynyched yn ei waith; nad yw Duw byth yn gwrthod vn dyn, oni bydd wedi i ddyni∣on ei wrthod f a'i fwrw ymmaith yn gyntaf.

28. Yn lle y rheswm diweddaf o gyssur mewn cystudd, mi a gyssylltaf ynghyd ddau beth sy o rym a nerth mawr i'r defnydd yma. A'r cyntaf o'r ddau yw disgwyl am gyflog, a'r llall yw byrred yr amser sydd i ni i ddioddef cystudd: a'r ddau hyn y mae Sainct Paul yn crybwyll am danynt mewn vn

Page 229

ymadrodd, lle y mae 'n dywedyd, fod byrr ysgafn gystudd yn y byd hwn, yn odidog ragorol yn gweithre∣du tragywyddol bwys gogoniant yn vchder nef, 2 Cor. 4.17. Wrth ei alw yn fyrr y mae efe yn dangos fyrred yr amser sydd i ni i ddioddef; ac wrth dra∣gwyddol bwys gogoniant y mae yn yspyssu faint yw 'r gwobr a'r cyflog sy wedi ei barottoi yn y nef, yn lle tâl am ddioddef. Ac y mae Christ hefyd yn cys∣sylltu faint yw 'r ddau gyssur hyn ynghŷd, pan yw yn dywedyd, Wele fi yn dyfod ar frys, a'm gwobr sydd gyda mi, Datc. 22. Wrth addaw dyfod ar frys y mae efe yn arwyddoccau na hir-bery ein cy∣studd ni: ac wrth addaw dwyn ei wobr gydag ef, y mae efe yn ein siccrhau ni na ddaw efe yn wag-law, ond â pharodrwydd i roi cwbl dâl i bawb am ei la∣fur. A pha fodd y gallai efe roi cyssur mwy nâ hyn? Pettai ddyn yn dwyn baich gorthrwm tros ben, et∣to o byddai siccr gantho gael taledigaeth da am ei boen, ac na byddai iddo ond ychydig ffordd i ddw∣yn y baich hwnnw, efe a ymegniai yn dost i fyned rhagddo hyd ym mhen ei ffordd, yn hytrach nag y collai wobr cymmaint, a'i gael yn y man, er mwyn arbed cyn lleied o boen. Mawr drugaredd ein Har∣glwydd a'n Duw, ydyw ei fod ef yn ein cyssuro ni fel hyn yn ein cystudd, ac yn rhoi calon ynom ni i ddal allan tros amser, er bod y pwys yn drwm ar ein hysgwyddau ni. Y mae dyfodiad ein Harglw∣ydd gar llaw, ac y mae 'r barnwr wrth y porth, ac efe a'n llonna ni, ac a sych ymaith ein holl ddagra ni, ac a'n gosyd ni yn ei deyrnas, i gael llawenydd diball. Ac yno y cawn brofi fod yn wir yr hyn a ddywedodd y bendigedig S. Paul, Nad yw dioddef∣iadau'r byd hwn yn haeddu 'r gogoniant a ddatguddir i ni, Iac. 5 Mat. 11. Datc. 7. ac 21. Gal. 6. Rhuf. 8.18. A digon yw hynny o resymmau am y com∣ffordd a adawyd i ni yn ein trallod a'n cystudd.

Page 230

29. Gan ddarfod i ni weithian ddatgan y tri phwngc cyntaf a addawyd yn y bennod yma; y mae 'n canlyn bod i ni ddywedyd gair neu ddau am y pedwerydd: hynny ydyw, pa beth sydd i ni i'w w∣neuthur yn amser erlid a chystudd. Ac i ddangos hynny, digon fyddai ddywedyd yn vnig fod arnom ni ymroi i ewyllys a meddwl Duw, beth bynnag fy∣ddo; fel yr adroddwyd o'r blaen yn achosion cy∣studd, ond etto er mwyn ychwaneg o esmwythdra, ac fel y galler ei gofio yn well, mi a redaf yn fyrr tros ei brif byngciau ef. Yn gynta' peth gan hyn∣ny mae 'n rhaid i ni ymgais, os gallwn, a'r hyn y mae Christ yn ei gynghori, Byddwch lawen, a llem∣mwch, Luc. 6.23. Ac onis gallwn gyrhaeddyd y cyfryw berffeithrwydd, etto bod i ni wneuthur fel y mae 'r Apostol yn ewyllysio, Cyfrifwch yn bob lla∣wenydd, pan syrthioch mewn amryw brofedigaethau. Hynny ydyw, oni fedrwn ni lawenychu yn ein cy∣studd etto bod i ni ddeall fod cystudd yn beth sydd o hono ei hun yn haeddu llawenychu o'i blegid, a beio arnom ein hunam am nas medrwn lawenychu. Ac onis gallwn gyrhaeddyd cyfuwch â hynny chwaith (fel y dylem ni mewn gwirionedd) etto er dim bod i ni gofio yr hyn y mae efe yn ei ddywedyd mewn lle arall, Bod yn rhaid i chwi wrth ymmynedd, os myn∣nwch dderbyn addewid Duw am fywyd tragywyddol. Jac. 1.2. Heb. 10.36.

30. Yn ail, ni a ddylem wneuthur fel y gwnaeth yr Apostolion, pan oeddynt yn y dymmhestl dra er∣chyll ar y mor, (a Christ gyda hwynt, ond ei fod yn cysgu) hynny yw, rhaid i ni fyned a'i ddeffro ef. Rhaid i ni weiddi arno gyda 'r Prophwyd, Deffro, pa ham y cysgi, ô Arglwydd, a ninnau mewn ing? Mat. 8. Psal. 44.23. Y mae deffro Christ fel hyn yn rhyngu bodd iddo yn rhyfeddol, os gwneir hyn∣ny a'r cyfryw hyder siccr, a chan wir galonnog blant,

Page 231

fel y mae Sainct Marc yn dangos ddarfod i'r Apo∣stolion ddeffro Christ. Oblegid dyma eu geiriau hwy, Ai difatter gennyt ein colli ni yma? Marc. 4.38. Megis pe dywedent, Ond ydym ni yn ddis∣gyblon ac yn weision i ti? Ond wyt titheu yn ar∣glwydd ac yn feistr i ninnau? Ond yw cwbl o'n hym∣ddiried ni a'n gobaith ynoti? Pa ham ynteu y cysgi di, a gadael ein taflu ni a'n treiglo fel hyn, megis pettem ni heb perthyn dim i ti? A'r cyfryw ddwys awyddfryd y gweddiodd Esai, pan ddywedodd efe, Edrych o'r nefoedd, Arglwydd, a gwel; o an∣nedd dy sancteiddrwydd, a'th ogoniant? Mae dy zêl di a'th gadernid, a lliosowgrwydd dy dosturiaethau, a'th drugareddau tuac attafi? a ymattaliasant hwy oddiwrthyfi yr awrhon? Canys ti yw ein tâd, er nad edwyn Abraham ni, ac na 'n cydnebydd Israel, Ti Ar∣glwydd yw ein Tâd ni, dychwel er mwyn dy weision er cariad ar lwythau dy etifeddiaeth Esa. 63.15. Fel hyn, meddaf, y mae 'n rhaid i ni alw ar Dduw: fel hyn y mae 'n rhaid i ni ei ddeffro ef, pan fyddo megis yn cysgu yn ein hadfyd ni, a gweddi ddifrifol, ddwy∣wol, ddibaid; a chennym bob amser yn ein meddy∣liau, y ddammeg gomfforddus eiddo Christ, lle y mae efe yn dywedyd, Luc. 11. pe doai vn o ho∣nom ni wrth ddrws ei gymmydog, a churo ganol nôs i geisio bara yn echwyn, pan fyddai efe yn ei wely gyd a'i blant, ac yn anhawdd iawn gantho go∣di: etto os ni a barhawn yn gofyn, a churo yn wa∣stad wrth y drws, er na byddai efe o'n caredigion ni, etto efe a godai o'r diwedd, ac a roai i ni ein gofyn, o'r hyn lleiaf er mwyn cael gwared o'n taerni ac o'n llefain ni. A pha faint mwy y gwna Duw hyn, medd Christ, ac ynteu yn ein caru ni, ac yn darbod o'n cy∣flwr ni yn drugarog iawn.

31. Ond yma y mae vn peth i'w ystyried yn y matter hyn; a hynny yw goddef o Grist i'r llong

Page 232

gael ei chuddio agos gan donnau, fel y dywaid yr Efangylwr, cyn iddo ddeffro, Mat. 8. i arwyddoc∣cau wrth hynny y bydd rhaid gadael arno ef pa faint o brofedigaeth a roddo efe arnom ni: digon i ni ymfodloni yngeiriau yr Apostol, ffyddlon yw Duw, yr hwn ni âd ein temptio ni vwch law yr hyn a allom, 1 Cor. 10.13. Nid iawn i ni na holi nac ammeu ei weithredoedd ef: ni allwn ni ymofyn pa ham y gw∣na efe hyn, neu pa ham y mae efe yn goddef hyn accw, neu pa hyd y gâd efe i r drygau hyn gael y llaw vehaf. Y mae Duw yn Dduw mawr yn ei holl weithredoedd, a phan fyddo yn danfon trallod, efe a ddenfyn lawer ar vnwaith, fel y gallo ddangos ei fawr allu yn ein gwared ni; ac y mae wedi hyn∣ny yn ei gydbwyso â llawer o gyssur. Y mae ei brofedigaethau ef yn fynych yn myned yn ddwfn iawn, er mwyn profi hyd yn oed calonnau ac aren∣nau dynion. Ef aeth ym mhell ag Elias, pan wna∣eth iddo ffo i'r mynydd, ac yno chwennych angeu yn fawr, a dywedyd, Hwy a ddistrywiasant dy all∣orau di, ac a laddasant dy holl brophwydi â'r cleddyf, a myfi a adawyd fy hunan, ac y maent yn ceisio dwyn fy einioes inneu hefyd. 1 Bren. 19.10 Ef aeth ym mhell a DAFYDD, pan wnaeth iddo lefain, Pa ham y cuddi dy wyneb, O Arglwydd, ac yr anghofi fy nghystudd a'm gorthrymder? A thrachefn mewn lle arall, Mi a ddywedais yn fy ffrwst fo 'm bwri∣wyd allan o'th olwg. Psal. 44.24. Psal. 31.22. Fe aethei Dduw ym mhell a'r Apostolion, pan wnaeth efe i vn o honynt hwy scrifennu, Ni fynnem i chwi fod heb wybod, frodyr, am ein cystudd a ddaeth i ni yn Asia, bwyso arnom yn ddirfawr vwch ben ein gallu, hyd onid oeddym yn flin gennym fyw yn hwy, 2 Cor. 1.8. Onid etto vwch law pawb eraill efe aeth ym mhellaf o gwbl a'r anwyl fab ei hun, pan wnaeth iddo adrodd y geiriau tosturus galarus hyn ar y groes, mhellaf o gwbl a'i anwyl fab ei hun, pan wnaeth iddo adrodd y geiriau tosturus galarus hyn ar y groes,

Page 233

Fy Nuw, fy Nuw, pa ham i'm gadewaist? Pwy wrth hynny a all gwyno rhac vnfath ar brofedigaeth na themptasiwn a rodder arno, gan i Dduw weled yn dda fyned cym-mhelled a'i anwyl a'i vnig fab ei hun? Mat. 27.46. Mar. 15.34. Psal. 22.1.

32. Ac o hyn y canlyn y trydydd peth sydd an∣ghenrhaid i ni mewn cystudd, a hwnnw yw calon∣did a mawrfryd wedi ei seilio ar ffydd gadarn anor∣fod, y rhydd Duw gymmorth i ni, ac y cawn ni gwbl ymwared, er hyd yr oedo efe hynny, ac er erchylled fyddo gennym y dymmhestl tros yr amser. Hyn y mae Duw yn ei ofyn ar ein dwylo ni, fel y gellir gweled wrth esampl y disgyblion, y rhai a le∣fasant, Darfu am danom, cyn i'r tonnau orchuddio 'r llong, fel y mae S. Matthew yn scrifennu: ac etto fe ddywedodd Christ wrthynt hwy, Ʋbi est fides vestra, pa le y mae eich ffydd chwi! Mat. 8. Luc. 8. Sainct Petr hefyd, nid ofnodd hyd onid oedd efe a∣gos tan y dwfr, fel y mae yr vn Efangylwr yn coffa; ac etto fo 'i ceryddodd Christ ef, gan ddywedyd, Tydi o ychydig ffydd, pa ham y petrusaist? Mat. 14. Pa beth wrth hynny a wnawn ni yn y cyflwr yma frawd anwyl? Yn siccr mae yn rhaid i ni ymwisgo â ffydd gadarn y brenhin calonnog Dafydd, yr hwn ar yr hyder siccraf oedd gantho vnghymmorth Duw, a ddywedodd, Psal. 18.29. Yn fy Nuw y llammaf dros fûr. A chyfryw ffydd anorfod oedd gan S. Paul ynteu, pan ddywedodd efe, Yr wyfi yn gallu pob peth trwy Grist, yr hwn sydd yn fy nerthu i, ac yn fy nghyssuro, Phil. 4.13. Nid oes dim yn amm∣hossibl i mi; nid oes dim rhy galed i mi, trwy ei gymmorth ef. Rhaid i ni fod, fel y dyweid yr Scry∣thur lan, yn hŷ ac yn ddiarswyd fel llew, Dihar. 28.1. Hynny yw, rhaid i ni na synno arnom er tymmhestl yn y byd, er trallod yn y byd, er gwrth∣wyneb yn y byd. Rhaid i ni ddywedyd gyda 'r

Page 234

prophwyd Dafydd a brofasai 'r pethau hyn, Nid of naf fyrddiwn o bobl, y rhai o amgylch a ymosodant i'm herbyn. Pe rhodiwn ynglynn cysgod angeu, nid ofnaf niweid. Pe gwersyllai llu i'm herhyn nid ofnai fynghalon; pe cyfodai câd i'm herbyn, er hynny mi a fyddwn hyderus. Yn Nuw yr ymddiriedaf, nid of∣naf, beth a wnêl dyn i mi. Yn Nuw y gobeithiaf, nid ofnaf beth a wnêl cnawd i mi. Duw yw fy nghym∣morth a'm noddfa, am hynny y diystyraf ac y dirmy∣gaf fy ngelynion. Psal. 3.6. Psal. 23.4. Psal. 27.3. Psal. 56.11. Psal. 56.4. & 118.6. A prophw∣yd arall yn yr vn deall, Wele, Duw yw fy iechydwri∣aeth, am hynny mi a fyddaf hyderus ac nid ofnaf. Esa. 12.2. Y rhai hyn, oedd ymadroddion y prophwy∣di sanctaidd, a gwŷr oedd yn gwybod yn dda beth yr oeddynt yn ei ddywedyd, ac a brofasent gystudd yn fynych eu hunain: ac am hynny a fedrent ddy∣wedyd o'i gwybodaeth eu hunam mor siccr ddiam∣mau ydyw cymmorth Duw mewn cystudd.

33. I'r calondid arbennig yma, a'r dewrder, a'r gwroliaeth a'r cryfder Christianogawl yma, y mae 'r Scrythur lan yn ein hannog ni, pan yw yn dywe∣dyd, Pan gyfodo yspryd pennadur yn dy erbyn, nac y∣mado â th le, Preg. 10.4. A thrachefn, Scrythur arall a ddywaid, Ymdrech am dy einioes tros gyfiawn∣der, ac ymegnia gydâ 'r gwirionedd hyd farwola∣eth, a'r Arglwydd Dduw a ymladd gyda thitheu, ac a oresgyn dy elynion trosoti. Ecc. 4.28. Ac y mae Christ ei hun yn ddwysach etto yn gorchymmynnu y peth yma yn y geiriau hyn, Yr wyf yn dywedyd wrthych, fy nghyfeillion, Nac ofnwch y rhai sy 'n llâdd y corph, ac wedi hynny heb ganddynt ddim i'w wneuthur yn eich erbyn chwi, Luc. 12.4. Ac y mae Petr yn dywedyd ym mhellach, Ne{que} conturbemini, Ac na chynnhyrfer chwi: 1 Pet. 3.14. hynny ydyw nid yn vnig, nag ofnwch hwynt, ond (yr hyn sy

Page 235

lai) na wnewch cymmaint a chyffroi er dim a allo cnawd a gwaed ei wneuthur i chwi.

34 Ac y mae Christ yn myned ym mhellach yn llyfr y datguddiad, ac yn arfer o ymadroddion rhyfeddol i'n denu ni i'r cryfder a'r gwroliaeth yma. oblegid dyma ei eiriau ef, Datc. 2.7, 9, 10, 11, ac 3.5, 11, 12, 13.21. Yr hwn sydd ganddo glûst i wrando, gwran∣dawed beth y mae 'r Yspryd yn ei ddywedyd wrth yr Eglwysi. I'r hwn sydd yn gorchfygu y rhoddaf iddo fwytta o bren y bywyd, yr hwn sydd ynghanol Para∣dwys Dduw. Y pethau hyn y mae 'r cyntaf, a'r di∣weddaf; yr hwn a fu farw, ac sydd fyw, yn ei ddy∣wedyd, Mi a adwaen dy weithredoedd di, a'th gy∣studd, a'th dlodi: eithr cyfoethog wyti mewn gwiri∣onedd, a thi a geblir gan y rhai sy 'n dywedyd eu bod yn wir Iuddewon, ac nid ydynt, ond yn hyttrach Synagog Satan. Nac ofna ddim o'r pethau yr wyt i'w dioddef: wele 'r cythraul a bair fwrw rhai o honoch chwi i garchar, fel i'ch profer chwi, a chwi a gewch gystudd ddeng nhiwrnod. Ond bydd di ffyddlon hyd angau, ac mi a roddaf i ti goron y bywyd. Yr hwn sydd ganddo glustiau i wrando gwrandawed beth y mae 'r Yspryd yn ei ddywedyd wrth yr Eglwysi, Yr hwn sydd yn gorchfygu, ni chaiff ddim eniweid gan yr ail farwolaeth. A'r hwn a orchfygo, ac a gadwo fy ngweithredoedd hyd y diwedd, mi a roddaf iddo awdurdod ar y cenhedloedd fel y derbyniais inneu gan fy Nhâd: ac mi a roddaf iddo 'r seren foreu. Yr hwn sydd yn gorchfygu, hwnnw a wisgir â dillad gwynion, ac ni ddileaf fi ei enw ef allan o lyfr y by∣wyd, ond mi a gyffessaf ei enw ef ger bron fy Nhâd, a cher bron ei angylion ef. Wele, yr wyfi yn dyfod ar frys; dal yr hyn sydd gennyt, fel na ddycco neb dy goron di. Yr hwn sydd yn gorchfygu, mi a'i gwnaf ef yn golofn yn Nheml fy Nuw, ac nid a efe allan byth mwyach: ac mi a 'sgrifennaf arno Enw dinas fy

Page 236

Nuw i, yr hon yw Jerusalem newydd, yr hon sydd yn disgyn oddiwrth fy Nuw i; ac mi a sgrifennaf arno fy Enw newydd i. Yr hwn sydd yn gorchfygu, mi a roddaf iddo eistedd gyda mi ar fy ngorseddfaingc, megis y gorchfygais inneu, ac yr wyf yn eistedd gyda 'm Tad ar ei orseddfaingc ef.

35. Hyd hyn y mae geiriau Christ wrth S. Ioan. Ac yn niwedd yr vn llyfr, wedi darfod iddo bor∣treiadu llawenydd a gogoniant nef yn helaeth, y mae efe yn diweddu fel hyn, A'r hwn oedd yn eistedd ar yr orseddfaingc a ddywedodd wrthyf, Ysgrifenna 'r geiriau hyn canys y maent yn gywir ac yn ffyddlon. Yr hwn sydd yn gorchfygu a etifedda yr holl lawenydd yma y soniais am dano, ac mi a fyddaf yn Dduw i∣ddo ef, ac ynteu fydd yn fab i minneu. Ond y rhai fy ofnog i ymdrech, a gwanffyddiol i gredu 'r pe∣thau a ddywedais i; eu rhan hwy fydd yn y llynn sydd yn llosgi, gan dân a brwmstan, yr hwn yw 'r ail farwolaeth, Datc. 21.5, 8.

36. Yma bellach y gwelwn osod ger ein bronnan addewidion a bygythiau, da a drwg, einioes ac an∣geu; llawenydd nef, a'r ffwrn losgadwy. Ni a allwn ystyn ein dwylo at yr hyn a fynnom. Os ym∣laddwn ni, a gorchfygu (yr hyn a allwn ni trwy help Duw) ni a gawn fwynhau 'r addewidion a osodwyd i lawr o'r blaen: os ni a'n dangoswn ein hunain nac yn angrhededyn i'r addewidion hyn; nac yn ofnog i fyned i'r ymdrech a gynnygir i ni; yna y syrthiwn mewn perygl o'r bygythiau sy wrthwyneb i hynny: yn y modd y dywaid S. Joan mewn lle arall, ei w∣neuthur o bendefigion ym mysg yr Iuddewon, y rhai a gredent ynghrist, ond ni feiddient ei gyfaddef rhac ofn erlid. Joan. 12.42.

37. Yma wrth hynny y bydd rhaid i rinwedd a∣rall ganlyn ynom ni, yr hon sydd dra angenrheidiol i'r rhai a fo rhaid iddynt ddioddef cystudd a blin∣der:

Page 237

a honno ydyw, rhoi ein bryd yn grŷf ac yn gadarn ar sefyll a myned rhagom, pa wrthwyneb a pha rwystr bynnag a gaffom yn y byd, gan druth yn gwenheithio i ni, neu gan greulondeb yn ein her∣lid. Hyn y mae 'r Scrythur yn ei ddysgu gan le∣fain arnom, Bydd ddianwadal a siccr yn ffordd yr Arglwydd, Eccl. 5.10. A thrachefn, Sefwch yn y ffydd, ymwrolwch, ymgryfhewch, 1 Cor. 16.13. Ac etto ym mhellach, Ymddiried yn yr rglwydd, ac aros yn dy le, Eccl. 11.2. Ac yn ddiweddaf, Ym∣gryfhewch, ac na laesed eich dwylo oddiwrth y gwaith a ddechreuasoch, 2 Cron. 15.7.

38. Y gwrolfryd yma oedd yn y tri llangc, Si∣drach, Misach, ac Abednego, y rhai wedi ddynt glywed truth eiriau Nahuchodonozor greulon, a'i aml fygythion; a attebasant ag yspryd esmwyth llo∣nydd, Oh frenhin, nid ydym ni yn gofalu am atteb i ti yn y peth hyn. Wele, y mae ein Duw ni, yr hwn yr ydym ni yn ei addoli, yn abl, os myn efe, i'n gwared ni allan o'r ffwrn danllyd boeth yr wyti yn ein bygwth ni â hi; ac efe a'n gwared ni allan o'th law di, o frenhin: ac onid ê, bydded hyspys i ti frenhin, nad addolwn ni dy dduwiau di, ac nad ymgrymmun i'th ddelw aur a gyfodaist, Dan 3.16, 17, 18.

39. Y Gwrolfryd yma oedd yn Petr ac Joan, y rhai wedi eu dwyn yn fynych ger bron y Cyngor, a gorchymmyn iddynt, a'i bygwth a'i curo, na soni∣ent mwy am Grist, a attebent yn wastadol, Rhaid yw vfyddhau i Dduw yn fwy nag i ddynion, Act. 4.19. & 5.29. Yr vn hefyd oedd yn S. Paul, yr hwn pan ddeisyfai y Christianogion yn Caesarea arno trwy ddagrau, ar iddo beidio â mynedi fynn i Jerusalem, o herwydd darfod i'r yspryd glan ddatguddio i lawer y trallodau oedd yn ei ddisgwyl ef yno; a attebodd fel hyn, Beth a wnewch chwi yn wylo, ac yn torri fy nghalon i? canys yr wyfi yn barod, nid i'm rhwymo yn

Page 238

vnig, ond i farw hefyd yn Ierusalem, or mwyn Enw yr Arglwydd Iesu, Acts. 21.12, 13. Ac yn ei E∣pistol at y Rhufeiniaid y mae efe yn dangos y gwrol∣fryd yma ym mhellach, pan yw yn dywedyd, Beth gan hynny a ddywedwn ni wrth y pethau hyn? Os yw Duw gydâ ni, pwy a all fod i'n herbyn? Pwy a'n gwahana ni oddiwrth gariad Christ? ai gorthrymder? neu ing? neu ymlid? neu newyn? neu noethni? neu enbydrwdd? neu gleddyf? Y mae 'n ddiogel gennyf, na all nac angeu, nac einioes, nac Angylion, na thwy∣sogaethau, na meddiannau; na phethau presennol, na pethau i ddyfod, nac Vchder, na dyfnder, nac vn creadur arall ein gwahanu ni oddiwrth gariad Duw, yr hw sydd yn Ghrist Iesu ein Harglwydd, Rhuf. 8.31, 35, 38, 39.

40. Yn ddiweddaf, hyn oedd wrolfryd yr holl ferthyron sanctaidd a'r conffessoriaid, a gweision era∣ill Duw; yr hwn a wnai iddynt sefyll yn erbyn pro∣fedigaethau 'r Cythraul, a hûd cnawd a gwaed, a holl erlidian y rhai creulon, a geisient ganthynt hwy wneuthur pethau anghyfreithlawn. Mi a ddygaf i chwi vn esampl allan o ail llyfr y maccabaeaid, a hyn∣ny o flaen dyfodiad Christ, ond er hynny yn agos at ei ddyfodiad ef, ac am hynny nid rhyfedd ei fod yn cael peth o dwymder gwrês a dianwadalwch Chri∣stianogaidd tu ac at ferthyrdod. Y mae 'r esampl yn rhyfeddol, o herwydd yngolwg dŷn nad oedd hi ond am fatter bychan a ofynnid ar eu dwylo hwy wrth orchymmyn y zeirian creulon: hynny yw, bw∣ytta cig moch, yr hyn oedd waharddedig yr amser hwnnw. Oblegid fel hyn y mae wedi ei roi mewn côf yn y llyfr hwnnw. 2 Maccab. 7.2, 7, 10, 24, 30.

41. Fe a ddigwyddodd ddarfod dal saith mrodyr ynghyd yn y dyddiau hynny, a'i dwyn, ynghyd â'i mam, at y brenhin Antiochus, ac yno eu cymmhell

Page 239

trwy boenau ffrewyll a phethau eraill, i fwytta cig moch, yn erbyn y gyfraith. Ac ar yr amser hwn∣nw y dywedodd vn o honynt, yr hwn oedd hynaf, Pa beth yr wyti yn ei geisio? a pha beth a fynni di ei wybod gennym ni, o frenhin? Yr ydym ni yn barod i farw, yn gynt nag y torrom hên gyfreithi∣au ein tadau. Yna y cythruddodd y brenhin ac y parodd dwymno pedyll a pheiriau; y rhai yn y man a wnaethbwyd yn boeth; ac efe a orchym∣mynnodd dorri tafod yr hwn a ddadleuasai yn gyn∣taf, a'i flingo ef, a thorri pennau bysedd ei draed a'i ddwylo, a chroen ei ben, yngwydd ei fam a'i fro∣dyr eraill; a chwedi hynny ei ffrio ef hyd oni bu farw. Ac wedi hynny, hwy a ddygasant yr ail brawd i'w boeni, ac wedi iddynt dynnu croen ei ben ef a'i wallt, hwy a ofynnasant iddo a fwyttaei efe gig moch, cyn merthyru pob aelod o'i gorph. Ond efe a attebodd yn iaith ei wlad, Na wnaf. Ac ar hynny, yn ôl llawer o boenau, efe a laddwyd gyd â'r llaill. Yn ôl marw hwnnw y dygwyd y trydydd hefyd, a phan ofynnasant iddo am ei dafod, efe a'i hestynnodd allan yn ebrwydd, a'i ddwylaw hefyd i'w torri, ac a ddywedodd yn wrol, y rhai hyn a gefais i gan Dduw o'r nef, a'r rhai hyn yr wyf yn eu dirmygu er mwyn ei gyfraith ef, am fy mod yn go∣beithio eu derbyn hwy eilwaith ganddo ef. Ac wedi iddynt boeni chwech o'r brodyr fel hyn, a'i rhoi i'w marwolaeth, a phob vn o honynt yn dra hŷ ac yn ddianwadal yn cyfaddef ei ffydd, a'r llawe∣nydd oedd ganddo i farw yn achos Duw; yr oedd yr ieuangaf yn vnig yn ôl, yr hwn y gwnaeth Antio∣chus (am fod yn gywilydd gantho na allai ŵyro yr vn o'r llaill) ei oreu ar dynnu hwnnw oddiwrth ei amcan, trwy addaw a thyngu y cai fod yn gâr iddo, ac y rhoddai iddo swyddau, ac y gwnai ef yn gyfo∣ethog ac yn ddedwydd, os efe a ymroai. Ond gan

Page 240

nad oedd y gwr ieuangc yn cyffroi gronyn er hyn∣ny, Antiochus a barodd gyrchu ei fam ef, ac a eiri∣olodd arni hi gynghori 'r gwr ieuange i achub ei hoedl: hitheu a gymmerodd arni wneuthur hynny, ac a addawodd gynghori ei mab, fel y byddai rydd iddi gael ymddiddan ag ef, ac a'i hannogodd ef yn ddwys ac yn ddifrif, yn yr iaith Hebraeg, i ddal all∣an, ac i farw er mwyn ei gydwybod: a chwedi dar∣fod iddi ymadrodd, y gwr ieuangc a lefodd a llef vchel, ac a draethodd yr ymadrodd yma sy wiw ei gofio; Quem sustinetis? Non obtempero praecep∣to regis, sed praecepto legis: Beth yr ydych chwi yn ei ddisgwyl? nid oes yn fy mryd i vfyddhau gor∣chynuhyn y brenhin, ond gorchymmynion y gy∣fraith a roddwyd i'n tadau ni trwy law Moses. Ac am hynny, vn ôl llawer ac amryw o boenau, y rho∣ddwyd ef a'i fam i'w marwolaeth yn y man.

42. Dyma wrth hynny y gwrolfryd siccr dianwa∣dal a ddyly fod gan Gristion yn holl gystuddiau 'r bywyd hwn. Am yr hwn y mae S. Ambrose Li. 8 off. 38 yn dywedyd fel hyn, Gratiâ praeparandus est animus, exercenda mens, & stabilienda ad constan∣tiam; vt nullis perturbari animus possit terroribus, nul∣lis frangi molestiis, nullis suppliciis cedere, Mae 'n rhaid i'n meddwl ni fod wedi ei barottoi a grâs, a'i gynnefino, i'w siccrhau mewn dianwadalwch, fel na thralloder ef gan ddychryn yn y byd, ac na laeso gan wrthwyneb, ac na ymroddo er math yn y byd ar boenau nac arteithiau.

43. Os gofynnwch yma pa fodd y gall dyn gy∣rhaeddyd y cyfryw wrolfryd a hyn; mi a attebaf fod S. Ambros yn y fan honno yn gosod ar lawr ddwy ffordd; y naill yw, cofio 'r poenau anniben anaele sydd yn vffern ini, oni wnawn hynny; a'r llall yw meddwl am y gogoniant anhydraeth a gawn ni yn y nef, os nyni a'i gwnawn. Ac at hynny y

Page 241

chwanegaf finnau 'r drydedd, yr hon mewn calon foneddigeiddwych a all wneuthur cymmaint o lês a hwythau; a hynny yw ystyried beth a ddiodde∣fodd eraill o'n blaen ni, yn enwedig Christ ei hun, a hynny yn vnig o wir gariad a serch arnom ni. Ni a welwn yn y byd hwn, nad yw deiliaid cariadus yn ymffrostio mewn dim yn fwy, nag yn y peryglon a'r briwiau a gawsant yn y rhyfel, tros eu Tywy∣sog, er na ddioddefodd ef ddyrnod erioed er eu mwyn hwy. Pa beth wrth hynny a wnaent hwy, pe buasei eu Tywysog yn dioddef cystudd o'i wir∣fodd trostynt hwy, fel y gwnaeth Christ trosom ni? Ond os wyti yn tybied fod esampl Christ yn rhy vchel i ti i'w chanlyn; edrych ar rai ô 'th frodyr o'th flaen di, a wnaethbwyd o gnawd a gwaed fel di∣theu: edrych beth a ddioddefasant hwy cyn gallu myned i'r nef. Na thybia fod yn chwareu yn galed â thydi os gorfydd arnat titheu hefyd ddioddef y∣chydig.

44. Y mae S. Paul yn ysgrifennu am yr holl A∣postolion ynghyd, Hyd yr awr hon yr ydym ni yn dwyn newyn a syched, ac yr ydym yn noethion, ac yn cael ein cernodio, ac yn grwydraidd, heb gennym le i aros; yr ydym yn llafurio ac yn gweithio â'n dw∣ylo ein hunain: yn cael ein difenwi, ac yn bendithio; yn cael ein herlid, ac yn ei gymmeryd yn ddioddefgar, Yn cael ein cablu, ac yn gweddio tros y rhai a'n cab∣lant: ni a wnaethbwyd fel ysgubion y byd, a sorod pob dim hyd yn hyn: 1 Cor. 4.11, 12, 13. hynny ydyw, er ein bod ni yn Apostolion, er i ni wneu∣thur cymmaint o wyrthiau, a throi cynnifer myrddi∣wn o bobl, etto hyd y dydd hwn dyma 'r byd yr ydym ni yn ei gael. Ac ychydig wedi, y mae efe yn portreiadu eu bywyd hwy, ac yn dywedyd, 2 Cor. 6.4, 5, 6. Yr ydym yn ein dangos ein hunain fel gweinidogion Duw, mewn ymmynedd mawr, mewn

Page 242

cystuddiau, mewn anghenion, mewn cyfyng derau, mewn gwialennodiau, mewn carcharau, mewn terfysgau, mewn poenau, mewn gwiliadwriaethau, mewn ymprydiau, mewn purdeb, mewn gwybodaeth, mewn hirymaros, mewn tiriondeb ymarweddiad. Ac am dano ei hun o'r neilldu y dywaid, 2 Cor. 11.23, 24, 25, 26, 27, 28. Yr wyfi yn weinidog i Ghrist, mewn blinde∣rau yn helaethach, mewn gwialennodiau tros fesur, mewn carcharau yn amlach nag eraill, mewn marwo∣laethau yn fynych. Pumwaith i'm maeddwyd gan yr Iuddewon, ac y derbyniais ddeug ain gwialennod o∣nid vn; teirgwaith i'm curwyd â gwiail; vnwaith i'm llabyddiwyd; teirgwaith y torrodd llong arnaf; noswaith a diwrnod y bum yn y dyfnfor: mewn tei∣thiau yn fynch; ymmheryglon llifddyfroedd, ym mhe∣ryglon lladron; ym mheryglon gan fy nghenedl fy hun; ym mheryglon gan y Cenhedloedd, ymmheryglon yn y ddinas; ym mheryglon yn yr anialwch; ym mhery∣glon ar y môr; ym mheryglon ym mhlith brodyr gau; mewn llafur a lludded; mewn anhunedd yn fynych, mewn newyn a syched; mewn ymprydiau yn fynych; mewn anwyd a noethni; ac heb law 'r pethau sydd yn digwydd oddiallan, yr ymosod beunyddol sydd arnaf, fy ngofaltros yr holl Eglwysi.

45. Wrth hyn y gwelwn bellach; na ddyfgodd yr Apostolion i ni ddim mwy ar eiriau, nag a ddan∣gosasant hwy trwy esampl, ynghylch mor anghen∣rhaid yw dioddef yn y bywyd hwn. Fe a allasai Grist pes mynnasai barottoi iddynt eu hanghenrhei∣diau corphorol, ac na oddefasai iddynt ddyfod i'r cyfryw gyfyngder a bod arnynt eisiau dillad am eu cefnau, a bwyd yn eu boliau, a'r cyffelyb. Fe al∣lasai yr hwn a roddes iddynt awdurdod i wneuthur llawer o wyrthiau eraill, roi cennad iddynt, o'r hyn lleiaf, i wneuthur digon o gynheiliaeth i'w cyrph, yr hyn fyddai 'r gwyrthiaucyntaf a wnai y rhai by∣dol,

Page 243

pe bai ganddynt y fath awdurdod. Fe allasai Christ pan ddanfonodd efe Bedr i gymmeryd arian ei deyrnged allan o safn y pysgodyn, Mat. 17.27. ddywedyd wrtho, Cymmer yn ychwaneg cymmaint ac a fyddo rhaid i chwi wrtho tuac at eich craul yn siwrneio trwy 'r wlad; ond nis gwnai efe, ac nis lleihaai ddim ychwaith ar y cystuddiau mawr a ddan∣gosais o'r blaen, er ei fod yn eu caru hwy yn gym∣maint â 'i enaid ei hun. A hyn i gyd a wnaed, fel y mae S. Petr yn ei ddeongl, 1 Pet. 2.21. i roi i ni e∣sampl, pa beth a ganlynem, pa beth a ddisgwiliem, pa beth a ddeisyfem, â pha beth yr ymgyssurem, yng∣hanol y mw yaf on holl drallodau.

46. Y mae 'r Apostol yn ei ystyried yn bendifa∣ddef, pan yw efe ynscrifennu fel hyn at yr Hebraeaid, wedi iddo adrodd y pethau a ddioddefasai sainct e∣raill o'i blaen hwy, Heb. 1.2.1, 2, 3, 5, 6, 7, 8, 11, 12, Oblegid hynny ninnau, frodyr, gan fod cymmaint owmmwl o dystion a ddioddefasant gystudd o'n blaen ni, wedi ei osod o'n hamgylch, bwriwn heibio bob pwys pechod sydd i'n hamgylchu, a thrwy ymmynedd rhe∣dwn yr yrfa a osodwyd o'n blaen, gan edrych ar Jesu, tywysog a pherffeithydd ein ffydd ni, yr hwn gan osod llawenydd nef o flaen ei lygaid, a ddioddefodd y groes trwy ymmynedd, gan ddiystyru ei gwaradwydd à 'i chwilydd hi, ac am hynny y mae yr awr hon yn ei∣stedd ar ddeheulaw gorseddfaingc Duw. Ystyriwch gan hynny, meddaf, yr hwn a ddioddefodd gyfryw ddywedyd yn ei erbyn gan bechaduriaid, fel na fli∣noch ac nad ymollyngoch yn eich eneidiau. Oblegid, ni wrthwynebasoch etto hyd at waed, gan ymdrech yn erbyn pechod: ac y mae yn debyg i chwi ollwng tros gof yr ymadrodd a'r cyngor comfforddus sydd yn dy∣wedyd writhych megis wrth blant, Fy mab, na ddirmy∣ga gerydd yr Arglwydd ac nac ymollwng pan i'th gerydder ganddo. Canys y neb y mae 'r Arglwydd

Page 244

yn ei garu y mae yn ei geryddu, ac y mae yn fflang∣ellu pob mab a dderbynio. Parhewch chwithau yn y cerydd a osodwyd arnoch; Y mae Duw yn ymddwyn ru ac attoch, megis tu ac at feibion. Canys pa fab sydd ar nid yw ei dâd yn ei geryddu? Os heb gerydd yr ydych, o'r hon y mae ei holl blant ef yn gyfrannogi∣on, ynabastardiaid ydych, ac nid meibion. Ni welir vn cerydd tros yr amser presennol y bydder yn ei ddi∣oddef, yn hyfryd, ond yn anhyfryd; ond gwedi hyn∣ny y mae yn rhoi heddychol ffrwyth cyfiawnder i'r rhai sy wedi eu cynnefino ag ef. O herwydd pa ham, cy∣fodwch i fynn eich dwylo a laesasant, a'r gliniau a ymollyng asant, a gwnewch lwybrau vnion i'ch traed, &c. Hynny ydyw, Cymmerwch galon, ac ewch rhagoch yn wrol tan y groes a osodwyd arnoch. Hyn oedd gyngor y capten duwiol yma i wŷr ei wlâd, milwyr Jesu Christ, yr luddewon.

47. Y mae S. Jaco brawd yr Arglwydd yn rhoi cyngor arall i bob gwir Gristion, heb fawr ragor rhyngtho â hwn, yn ei Epistol, yr hon y mae efe yn ei ysgrifennu yn gyffredinol at bawb, Jac. 5.7, 8, 9, 10, 11. Byddwch gan hynny yn ymarhous, fro∣dyr, hyd ddyfodiad yr Arglwydd. Wele, y mae 'r llafurwr yn disgwil tros amser am werthfawr ffrwyth y ddaiar, yn dda ei amynedd am dano, nes iddo dder∣byn y glaw cynnar a'r diweddar. Byddwch chwithau hefyd dda eich ymmynedd, a chadarnhewch eich ca∣lonnau, oblegid y mae dyfodiad yr Arglwydd yn agos. Na fyddwch dristion, ac na rwgnechwch yn erbyn ei gilydd? wele, y mae'r barnwr yn sefyll wrth y drws. Cymmerwch, fy mrodyr, y prophwydi, y rhai a lefa∣rasant yn enw Duw, yn siampl o ddioddef blinder, ac o hirymaros. Wele, dedwydd yr ydym yn cyfrif y rhai a ddioddef asant. Chwi a glywsoch am amynedd Iob, ac a welsoch ddiwedd yr Arglwydd iddo ef: chwi a welsoch meddaf, fod yr Arglwydd yn druga∣rog, ac yn llawn tosturi.

Page 245

48. Mi a allwn yma adrodd llawer o bethau eraill allan o'r Scrythur lân i'r perwyl yma, am fod yr Scrythur yn dra helaeth yn hyn o beth, ac mewn gwirionedd, pettid yn ei thoddi hi i gyd ac yn ei thywallt allan, ni chaem ni agos ddim arall ynddi ond ynghylch y groes, a dioddef cystudd trwy ymmynedd yn y fuchedd hon. Ond rhaid i mi ddi∣bennu, am fod y pennod yma yn tyfu yn hir fel yr hon o'r blaen. Ac am hynny, i ddibennu, mi a o∣sodaf i lawr gyffes, a gorchestol gyngor yr hen Fat∣tathias i'w blant, yn amser creulon erlid Antiochus yn erbyn yr Iuddewon. 1 Mac. 2.49. Yr awrhon, medd efe, y mae balchder yn ei gryfder. Dyma am∣ser cerydd, a distryw, a dig llidiog arnom ni. Gan hynny, fy meibion, dygwch zêl yr awrhon i Gyfraith Dduw: a rhoddwch eich hoedl tros gyfammod eich ta∣dau: cofiwch weithredoedd ein hynafiaid ni, y rhai a wnaethant hwy yn eu hamseroedd, ac felly chwi a dder∣byniwch barch mawr, ac enw tragywyddol. Oni cha∣ed Abraham yn ffyddlon mewn profedigaeth, a hynny a gyfrifwyd iddo yn gyfiawnder? Gen. 22.10. Rhuf. 4.3. Joseph yn amser ei gyfyngder, a gadwodd or∣chymmyn Duw, ac a wnaethbwyd yn Arglwydd ar yr Aipht, Gen. 41.40. Phinehas ein tâd, wrth ddw∣yn zêl tuac at Gyfraith Dduw, a gafodd ammod am offeiriadaeth dragywyddol, Num. 25.13. Josua, am gyflawni gair Duw a wnaethbwyd yn farnwr ar Isra∣el, Jos. 1.2. Caleb am dystiolaethu ger bron y gyn∣nulleidfa, a gafodd etifeddiaeth o'r tir. Num. 14.6. Jos. 14.13. Dafydd, am ei drugaredd, a eti∣feddodd orseddfaingc y deyrnas dragywyddol. Elias, am ddwyn zel i'r Gyfraith, a gymmerwyd i fynn i'r nefoedd. 2 Bre. 2.11. Ananias, Azarias, a Misael, am iddynt gredu, a achubwyd o'r tân. Dan. 3.16, &c. Daniel, am ei wiriondeb, a waredwyd oddiwrth saf∣nau'r llewod. Dan. 6.22. Ac felly ystyriwch ym

Page 246

mhob oes, a chwi a gewch weled am bwy bynnac sydd yn ymddiried yn Nuw, na orchfygir ef. Am hynny nac ofnwch eiriau gwr pechadurus: Canys ei ogoniant ef a fydd yn dom a phryfed. Heddyw efe a ddyrche∣fir, ac yforu ni bydd efe iw gael: Canys efe a ddy∣chwel i'w bridd, a'i holl amcanion a dderfydd. Psal. 146.4. Gan hynny, fy meibion, cymmerwch galon nau; a byddwch wrol ym mhlaid cyfraith Dduw; ca∣nys hynny a fydd yn barch ac yn anrhydedd i chwi. Hyd hyn y mae geiriau Mattathias; y rhai sy ddi∣gon i ddiweddu 'r bennod hon.

PEN. III. Am y trydydd rhwystr sydd yn llestair i ddy∣nion roi eu bryd ar wasanaethu Duw; yr hwn yw cariad ar y byd hwn.

MEgis y mae y ddau rwystr a dynnwyd ym∣maith o'r blaen, yn attal mawr i lawer o ddy∣nion, i'w cadw hwy oddiwrth y gwrolfryd yma yr ydym ni yn sôn am dano; felly y mae'r hwn yr y∣dym yr awrhon yn mynd yn ei gylch, nid yn vnig o hono ei hunan yn rhwystr crŷf, ond hefyd yn a∣chos mawr, ac megis yn sylfaen cyffredinol i bob rhwystrau eraill ac sydd. Oblegid pe gallai ddyn wybod meddwl pawb ac sydd yn gwrthod, neu y esgeuluso, neu yn oedi rhoi eu bryd ar wasanaethu Duw; fe gai weled mai serch ar y byd hwn yw'r achos o hynny, pa esgus bynnag a gymmeront hwy

Page 247

arnynt heb law hynny. Yr oedd pendefigion yr luddewon yn cymmeryd arnynt mai ofn oedd yr a∣chos pa ham nas gallent hwy gyfaddef Christ yn am∣lwg ac yn oleu; ond y mae S. Joan, yr hwn oedd yn gwybod y gwirionedd am danynt hwy, yn dy∣wedyd mai'r achos oedd, Am en bod yn caru gogoni∣ant dynion yn fwy na gogoniant Duw, Ioan. 12.42, 43. Yr oedd Demas (yr hwn a ymwrthododd a Sainct Paul yn ei rwymau, ychydig o flaen ei farwo∣laeth) yn cymmeryd arno fod iddo achos arall i fy∣ned ymaith i Thessalonica, ond y mae Sainct Paul yn dywedyd mai'r achos oedd Am ei sod yn caru'r byd presennol, 2 Tim. 4.10. A hynny yw y rhw∣ystr cyffredinol, ac sydd amlach nag y gwelir oddi∣allan: am ei fod yn peri llawer o esgusodion eraill, er mwyn ei guddio ei hunan mewn llawer o ddy∣nion.

2. Hyn a ellir ei siccrhau a godidowgaf ddam∣meg ein lachawdwr Christ, yr hon y mae tri o'r E∣fangylwyr wedi ei chadw mewn côf, am y tri math ar ddynion a fydd colledig, a'r tri achos o'i colledi∣gaeth hwy: a'r trydydd a'r diweddaf a'r eyffredi∣nolaf o'r rhai hynny (megis yn amgyffred y ddau eraill) yw cariad ar y byd. Oblegid y fath gyntaf o ddynion a gyffelybir i briffordd, lle mae cwbl o hâd y bywyd ac a heuir arni, naill ai yn gwywo yn y man, ai yn cael ei yssu gan adar y nefoedd: hyn∣ny yw, fel y mae Christ yn ei ddeongl, gan y cy∣threuliaid, yn y rhai diofal, sy yn difrawu ac yn di∣ystyru pob peth a ddywetter wrthynt: fel y mae'r anghrededyn, a phawb o'r rhai cyndyn diystyr. Yr ail fath a gyffelybir i greigleodd, lle nid yw'r hâd yn parhau, o eisieu dwfn i wreiddio: wrth yr hyn yr arwyddocceir y rhai ysgafn anwadal▪ y rhai sy weithiau i mewn weithiau allan, weithiau yn wre∣sog yngwasaneth Duw, ac yn y fan drachefn cyn oe∣red

Page 248

a'r ia; ac felly yn amser profedigaeth y maent yn cilio. Y trydydd math a gyffelybir i faes, lle y mae 'r hâd yn tyfu allan; ond etto y mae ynddo cymmaint o ddrain, (y rhai y mae Christ yn efpo∣nio mai gofalon, a thrallod, a thrafferthion, a go∣sidion, a gorwagedd twyllodrus y byd ydynt) ac y mae 'r ŷd da yn cael ei dagu ganddynt, ac heb ga∣el dwyn dim ffrwyth. Wrth y geiriau diwethaf hynny y mae ein Iachawdr Christ yn ar wyddoccau, pa le bynnag y mae dysgeidiaeth CHRIST yn tyfu allan ac etto heb ddwyn ffrwyth, hynny ydyw, pa le bynnag y derbynier ac y croesawer hi, (fel y mae llawer Christion yn gwneuthur) ac etto bod o honi heb ddwyn ffrwyth buchedd dduwiol; mai 'r achos o hynny ydyw am fod gorwagedd y byd hwn yn ei thagu hi. Math. 13. Marc. 4. Luc. 8.

3. Dammeg o bwys a defnydd mawr yw'r ddam∣meg hon, gan fod Christ yn ôl ei hadrodd hi, yn llefain â llef vchel, Y neb sydd ganddo glustiau i wa∣nando, gwrandawed: a chan ei fod ef ei hun yn ei deongl ac yn ei esponi hi i'w ddisgyblon yn vnig, a hynny yn ddirgel ac o'r neilldu: ac yn enwedig gan ei fod ef cyn ei deongl hi yn arfer y cysryw ragy∣madrodd, ac yn dywedyd, I chwi y rhoddwyd gwybod dirgelion teyrnas nefoedd, ond ni roddwyd i eraill: oble∣gid hwy yn gweled ni welant, ac yn clywed ni chlywant, ac ni ddeallant. Mat. 13.11. Wrth yr hyn y mae Christ yn arwyddoccau bod deall a dirnad y ddammeg yma ym mŷsg eraill, o bwys mawr tros ben, i beri i ni wybod gwir ddirgelion teyrnas nef; a bod llawer yn ddeillion o'r rhai y tybir am danynt eu bod yn gweled; a llawer yn fyddar ac heb wybod dim, a dybir eu bod yn clywed ac yn gwybod: am nad y∣dynt hwy yn deall yn iawn ddirgelion y ddammeg hon. Ac o'r achos hynny hefyd y mae Christ, cyn dechreu deongl y ddammeg, yn dibennu ei yma∣drodd

Page 249

fal hyn, Dedwydd yw'ch llygaid chwi, am eich bod yn gweled, a'ch clustian, am eich bod yn gwran∣daw, Gwers 16. Ac ar ôl y geiriau hynny y mae efe yn dechreu deongl y ddammeg ynghŷd â'r rhy∣bydd yma, Gwarandewch chwithau, a deelwch y ddammeg hon.

4. Ac am fod y ddammeg hon yn cynnwys cym∣maint aga ellir ac sy raid ei ddywedyd ynghylch tyn∣nu ymaith y rhwystr mawr peryglus yma, sef serch ar y byd: fy meddwl yw sefyll yn vnig ar ei deongl a'i esponi hi yn hyn o fan, a dangos grym a gwirio∣nedd rhyw eiriau a draethodd Christ yma am y byd a'i ddifyrrwch: ac er mwyn gosod trefn well ar fy ymadrodd, mi a dynnaf y cwbl at y chwe phwngc hyn sydd yn canlyn. Yn gyntaf, pa fodd, ac ym mha ddeall nad yw'r holl fyd a chwbl ac sydd i'w ga∣el ynddo, ond oferedd heb dalu dim (fel y mae Christ yma yn arwyddoccau) ac am hynny na ddylei 'r byd fod yn rhwystr i ni i'n cadw ni oddiwrth beth cym∣maint ag yw teyrnas nefoedd a gwasanaethu Duw. Yn ail nad yw 'r byd a chwbl ac sydd yntho yn vnig yn oferedd ac yn bethau gwael diddim ynddynt eu hunain, ond hefyd yn hûd ac yn dwyll, fel y dy∣weid Christ: sef yw hynny yn hudoliaeth heb gw∣plau â ni mo'r coeg-bethau diddim y maent yn eu haddo. Yn drydydd, y modd y maent hwy yn ddrain pigog llymion, fel y dyweid Christ, er bod y rhai bydol yn tybieid eu bod hwy yn dra melus ac yn hyfryd iawn. Yn bedwerydd, y modd y maent hwy yn ofidiau ac yn flinderau, fel y mae geiriau Christ yn dywedyd am danynt. Yn bamed, pa fodd y maent hwy yn ein tagu ac yn ein mygu ni, fel y dy∣weid geiriau Christ. Yn chweched, pa fodd y gall∣wn ni eu trin hwy a'i harfer, er hynny i gyd, heb gael na pherygl na niweid oddiwrthynt, a chael cy∣ssur a diddanwch, ac elw, a gorchafiaeth mawr o∣ddiwrthynt.

Page 250

5. Ac am y pwngc cyntaf, nid wyfi yn gweled pa fodd well y profir nad yw holl ddifyrrwch a hyfry∣dwch, a gwychder a thegwch y byd hwn ond ofe∣redd, fel y mae Christ yn dywedyd yma; nâ thrwy ddwyn tystiolaeth o ben vn a'i profodd hwy i gyd oll; hynny ydyw, o ben vn sydd yn dywedyd y peth nid wrth ei ddeall a'i synhwyr, ond wrth yr hyn a brofodd ef ei hun, ac a gafodd ef yn wir vnddo ei hun: a hwnnw yw'r brenhin SALOMON, am yr hwn y mae'r Scrythur lân yn adrodd pethau rhy∣feddol ynghylch ei heddwch, a'i lwyddiant a'i gyfo∣eth a'i ogoniant yn y byd hwn: hyd onid oedd holl frenhinoedd y ddaiar yn chwennych cael gweled el wyneb ef, o achos ei ddoethed, a maint ei rwysg a'i ddedwyddyd; ac nad oedd holl dywysogion y byd gyffelyb iddo mewn cyfoeth: a bod yn dwyn iddo bob blwyddyn 666 o dalentau aur (dyna swm anfei∣drol) heb law cwbl ac yr oedd efe yn ei gael oddi∣wrth frenhinoedd Arabia, a thywysogion eraill: 2 Chron. 9.13, 14. a bod yr arian oedd gantho cyn amled a'r cerrig, ac heb bris arnynt ga faint yr y∣stôr a'r amlder oedd gantho o honynt: ac nad oedd diben ar ei lestri aur, a'i dlysau; a bod ei orseddfaingc ef a'i deyrngadair o Ifori, wedi ei gwisgo ag aur, a chwech o risiau i'r ersteddfa, a throedle o aur, a chanllawiau o bob tu i'r eisteddfa, a dau lew yn se∣fyll wrth y canllawiau, a deuddeg o lewod ar y chwe gris, a'r cwbl o aur pûr; fel nad oedd y fath orsedd∣faingc gan vn brenhin yn y byd; a bod ei ddillad gwerthfawr ef a'i arfau, yn aneirif; a bod yr holl frenhinoedd o'r afon hyd wlâd y Philistiaid, a hyd terfynna 'r Aipht, tan ei lywodraeth ef, a bod gan∣tho ddeugain mil o bresebau meirch, a deuddeng mil o gerbydau; 1 Bren. 4.21, 22, 26. a bod gantho ddeucant o wayw-ffyn aur, iw dwyn o'i flaen, a chwe chan coron o aur ym mhob gwaywffon; a thry∣chant

Page 251

o dariannau, a thrychan coron aur ym mhob tarian; a bod yn treulio beunydd yn ei dŷ ef, ddêg Corus ar hugain o beillieid a thri vgain Corus o flawd, a dêg ar hugain o ychen pasgedig, a chant o ddefaid, heb law ceirw, ac iyrchod, a buail, ac ed∣nod breision; a bod gantho saith gant o wragedd yn frenhinesau, a thrychant o ordderchwragedd, 1 Bre. 11.3. Hyn oll, a llawer yn angwhaneg y mae 'r Scrythur làn yn ei adrodd am gyweth Salomon a'i ddoethineb, a'i olud, a'i lwyddiant: ac y mae yn∣teu, wedi darfod iddo brofi'r cwbl, a chael ei wala o honynt, yn y diwedd yn datgan y farn yma am da nynt i gyd, Vanitas vanitatum & omnia vanitas, Gwa∣gedd o wagedd, gwagedd yw'r cwbl, Preg. 1.1. Wrth eu galw yn Wagedd o wagedd y mae efe yn deall (medd Sainct JEROM) faint y mae eu gwa∣gedd hwy yn rhagori ar bob math o wagedd. ac ofe∣redd ac a ellir ei ddychymmyg.

6. Ac nid dywedyd hyn yn vnig y mae SALO∣MON ond ei brofi hefyd trwy lawer o esamplau o'r eiddo ei hun. Mi a fum frenhin ar Israel yn Jerusalem, medd efe, ac a roddais fy mryd ar gei∣sio, a chwilio drwy ddoethineb am bob peth a wnaed tan y nefoedd: ac mi a welais yr holl weithredoedd a wnaed tan yr haul, ac wele, gwagedd a gorthrym∣der yspryd yw'r cwbl oll. Gwers. 12.13, 14. Mi a ddywedais yn fy nghalon, mi a brofaf bob math ar la∣wenydd a difyrrwch; ac wele, gwagedd oedd hynny hefyd. Mi a wneuthum i mi waith mawr, ac a adei∣ledais i mi dai, ac a blennais i mi winllannoedd ac a wneuthum erddi a pherllannau, ac a blennais ynddynt bob math ar goed; mi a wneuthum i mi lynnan dwfr, i ddyfrhau y llwynau sy'n dwyn coed: mi a ddarpe∣rais weision a morwynion, ac yr oedd i mi lawer o dyl∣wyth tŷ, ac yr oeddwn yn berchen llawer o wartheg a defaid, in hwnt i bawb a fuasai o'm blaen i yn Jeru∣salem.

Page 252

Mi a bentyrrais i mi hefyd arian ac aur, a thryfor pennaf brenhinoedd a thaleithiau: mi a ddar∣per ais i mi gantorion a chantoresau, a phob rhyw offer cerdd, yr hyn yw difyrrwch meibion dynion, a chwp∣panau gwychion i yfed gwin ynddynt; a pha beth bynnag a ddeisyfai fy llygaid, ni ommeddwn hwynt; ac ni attalliwn fy nghalon oddiwrth ddim hyfryd, ond fy nghalon a lawenychai yn fy holl lafur. Yna mi a edrychais ar fy holl weithredoedd a wnaethai fy nwy∣law, ac ar y llafur a lasuriais yn ei wneuthur; ac we∣le, nid oedd y cwbl oll ond gwagedd a grthrymder ys∣pryd, Preg. 2.1, 4, 5, 6, 7, 8, 10, 11.

7. Ac dyma dystiolaeth SALOMON, fel y profasai efe ei hun▪ am y pethau hyn: a phe dywe∣dasai efe hyn heb ddim ond o'i ddoethineb a'i gyfar∣wyddyd, (a maint oedd) ni a ddylem ei gredu ef; ond gan ei fod yn ei dywedyd megis peth a brofa∣sai efe ei hun, ni a ddylem ei gredu ef yn haws o lawer. Ond onid yw hyn abl i gyffroi neb, ni a ddygwn etto dŷst arall allan o'r testament newydd, a hwnnw yn gyfryw vn ac a wyddai gyfrinach a me∣ddwl CHRIST ei hun yn hyn o beth; a hwnnw yw Sainct Ioan yr Efengylwr sy yn dywedyd y geiriau hyn, Na cherwch y byd, na 'r pethau sy yn y byd: o châr neb y byd, nid yw cariad y Tâd ynddo ef. Ca∣nys pob peth ac sydd yn y byd, megis chwant y cnawd, a chwant y llygad, a balchder y bywyd, nid yw o'r Tad, eithr o'r byd y mae, 1 Joh. 2.15, 16. Lle y mae Sainct Joan, heb law ei fod yn bygwth y rhai a garant ac a ganlynant y byd, yn gosod holl wagedd y byd ar dri phwnge, ac yn ei dorri yn dair caingc gyffredinol; sef yw hynny, Chwant y cnawd, (yn yr hwn y mae efe yn cynnwys holl ddifyrrwch a di∣grifwch y cnawd) chwant y llygaid, (ac yn hwnnw y mae yn cynnwys pob peth a berthyn i gyfoeth a golud y byd) a balchder y bywyd, wrth hynny y

Page 253

mae efe yn arwyddoccau chwant i swyddau a pharch, a goruchafiaeth. Wrth hynny dymma dri gwagedd pennaf y bywyd hwn, y rhai y mae y rhai bydol yn ymflino ynddynt; chwant i anrhydedd, cybydd∣dod, a difyrrwch y cnawd, ac i'r tri hyn y perthyn pob math arall ar wagedd. Ac am hynny nid amm∣herthynol ystyried y tri hyn yn y man yma.

8. Ac yn gyntaf, at chwant i anrhydedd y per∣thyn gorwag-clod a gwag-fost; hynny ydyw, pan fo gan vn ormod chwant i gael gan bawb dybied yn dda am dano, a dywedyd yn dda am dano, a chael ei ganmol a'i foliannu gan bob dŷn: ac y mae hynny yn gymmaint gorwagedd ac oferedd (er bod y rhan fwyaf yn euog o'r bai yma) a phettai vn yn darym∣red i fynu ac i wared ar hŷd ac ar draws yr heol ar ol pluen a fai yn hedeg yn y gwynt, ac a deflid yma a thraw gan anadl genau aneirif o ddynion. Oblegid sel y byddai haws i'r cyfryw vn ei flino ei hunan yn llwyr ac yn gwbl, yn gynt na chael gafael ar y peth y mae yn ei ymlid, ac etto wedi iddo gael gafael ynddo, nid oedd yn cael ond pluen; felly y gall efe wrth chwennych gorwag-clod a molach y byd, gym∣meryd poen fawr tros hir amser, cyn cael y glod a'r gair y mae 'n ei chwennych, a phan ei caffo, ni thâl hynny ysglodyn, gan nad yw ond anadl geneuau y∣chydig ddynion, yr hwn a gyfuewidia yn hawdd, ar bob achlysur, ac a wna 'r neb a fynno weithiau yn wr mawr, weithiau yn wr bychan, ac yn y man yn beth heb dalu dim. Ac am hyn o beth nid rhaid i ni esampl oleuach na Christ ei hun; yr hwn a deflid i fynu ac i wared ar dafodau dynion, fel y gwelent hwy yn dda, rhai a ddywedai mai Samariad ydoedd, a bod cythrael ganddo; eraill a fynnai mai prophw∣yd oedd; eraill a daerai na allai ei fod ef yn bro∣phwyd, ac na hanoedd o Dduw, am nad oedd yn cadw 'r dydd Sabboth: eraill a ofynnai, oni hano∣edd

Page 254

ef o Dduw, pa fodd y gallai efe wneuthur cym∣maint o wyrthiau. Hyd onid aeth ymbleidio ac ym∣rafael yn eu plith hwy, medd S. Ioan, Io. 9.16. Yn ddiweddaf, hwy a'i croesawasant ef i Jerusalem gy∣da gorfoledd a Hosanna, ac a danasant eu dillad tan ei draed ef. Ond die gwener wedi hynny, hwy a waeddasant yn ei erbyn ef, Croes-hoelia, croes-hoe∣lia ef, ac a ddewisasant Barabbas y lleiddiad annuwiol o'i flaen ef. Mat. 21.9. Mat. 27.

9. Bellach, fy anwylyd, os gwnaethant hwy fel hyn a Christ, yr hwn oedd wellgwr nag a fyddi di byth, ac a wnaeth mwy o wyrthiau gogoneddus nag a wnai di byth, i geisio i ti enw ac anrhydedd a pharch gan ddynion; i ba beth yr wyt ti yn cymme∣ryd cymmaint o boen, ac yn ymguro cymmaint, am beth mor ofer ac yw gorwag-clod a gair y byd? Pa beth a wnai di yn bwrw dy holl lafur ar awel ac a∣nadl genau dynion? Beth a wnai di yn gosod dy holl gyfoeth ar wefusau a thafodau dynion anwadal cyf∣newidiol; lle y gallo pob truthiwr a gwenhieithwr eu lledratta hwy oddiarnati? Onid oes gennyti vn gist well iw rhoi hwynt tan glo ynddi? Yr ydoedd S. Paul o feddwl arall, pan ddywedodd efe, Bychan iawn gennyfi fy marnu gennych chwi, neu gan farn dyn, Ac yr oedd iddo achos da i ddywedyd hynny, 1 Cor. 4.3. Oblegid, pam neu beth waeth gan yr hwn a fo yn rhedeg mewn gyrfa, er i'r bobl ddiwy∣bod roi barn yn ei erbyn ef, os rhydd y barnwyr farn gyd ag ef? Pe buasai y dyn dall oedd ar y ffordd i lericho, yn gwneuthur cyfrif o'r hyn a ddywedai 'r bobl oedd yn myned heibio, ac yn ystyried beth a welent hwy yn dda iddo ei wneuthur; ef a fuasai etto heb gael ei olwg; oblegid eu cyngor hwy oedd iddo beidio a rhedeg, ac a gweiddi mor groch ar ol Christ, Luc. 18.39. Peth truan gofidus ydyw i ddyn fod yn felin wynt, heb wneuthur dim blawd ond tra

Page 255

barhao 'r chwa wynt. Os yr awel wynt a fydd cref, hia dry yn sidyll ac yn hoyw; ond os yr awel a o∣stwng, hitheu a lwfrhaa yn y man ac a ddioga. Fe∣lly, canmolwch y neb a fo 'n chwennych gair y byd, ac efe a red yn gyflym (os amgen, efe a ddigalonna yn y man) fel y Babyloniaid, y parai ychydig felys∣gerdd iddynt addoli y peth a fynnid, Dan. 3.

10. Oblegid gwir a ddywaid yr yscrythur, Fel y profir yr arian yn tan, a'r aur yn y ffwrnais, felly y profir gwr yngenau 'r neb a'i canmolo, Diha. 27.21. Oblegid fel am yr arian, os da fydd ni wna 'r tan ni∣weid iddo, os amgen, efe a ddiflanna yn fwg, ac a dry 'n sothach; ac felly y gwna gwr gorwag ofer wrth ei ganmol. Pa sawl vn a welsom ni wedi chw∣yddo cymmaint gan glod a molach dynion, onid oe∣ddynt ar fyned allan o'i pwyll gan llawenydd eu bod yn cael cymmaint clod; a'i gweled hwy yn ol hynny wedi digalonni gan wrthwynebwynt anglod a gogan, a myned cyn belled agos ac anobeithio gan ddirmyg a diystyrwch? Pa sawl a welwn ni beunydd yn cael eu canmol yn eu pechodau, a'i bendithio yn eu han∣wiredd? Ps. 10.3. Pa faint o druth a gweniaith dygn digwilydd yr ydym ni yn clywed rhai yn ei ddywedyd, ac eraill yn ei gymmeryd, a neb heb lefain gydâ 'r brenhin duwiol Dd ymaith a'r olew pechaduriaid yma, ac na ddeled ar fy mhen i? Ond oferedd a gwagedd ac ynfydrwydd yw hyn oll? Nid yw 'r Angylion yn ceisio dim anrhydedd iddynt eu hunain, ond y cwbl i Dduw: ac a fynni di ddaiar∣brŷf gwael, gael dy foliannu? Y 24 henuriaid a ddiosgent eu coronau, ac a'i bwrient wrth draed yr Oen; a thithau a fynnit, pesgellit, eu dwyn hwy o∣ddiar yr Oen i ti dy hun, Datc. 4.10. Oh greadur ffol disynwyr! mor wir y dywaid y prophwyd, dyn sydd debyg i wagedd hynny ydyw i'w wagedd ei hun; mor orwag ac mor ysgafn a'r oferedd a'r

Page 256

gwagedd y mae 'n ei ddilyn, Psal. 144.4.

11. Yr ail gorwagedd a berthyn i chwant cael an∣rhydedd, yw chwennych cael parch, a goruchafieth bydol. A pheth mawr iawn ydyw yngolwg y rhai bydol, a thlws a thryssor gwerthfawr dros ben, a haeddai ei brynu a chymmaint o boen, a llafur, a pherygl, ac a fai bossibl byth i ddyn ei gy mmeryd. Dyma 'r peth a lesteiriodd i wyr mawr Iudaea gy∣ffessu Christ ar gyhoedd, Ioa. 12.43. Dyma 'r peth a rwystrodd i Bilatus ollwng yr Jesu yn rhydd, er ei fod yn gwybod yn dda y dylai wneuthur hyn∣ny, Io. 19. Dyma 'r peth a rwystrodd i Agrippa ac i Ffestus fyned yn Gristianogion er eu bod yn coelio bod yn wir yr hyn a ddysgai Paul, Act. 26. Ond ysy waeth nid yw dynion yn gweled ofered yw 'r peth y maent yn ei garu. Y mae S. Paul yn dywe∣dyd, Na fyddwch fechgynmewn deall, 1 Cor. 14.20. Arfer plantos yw gwneuthur cyfrif mwy o ryw de∣gan dibris, nag o'r tlws gwerthfawroccaf: a chy∣fryw ydyw paentiedig barch y byd, yr hwn y ceir mawr boen yn ei geisio, a mawr gost yn ei gadw, a mawr ofid o i golli. Ac fel y bo i ti ddeall hyn yn well, ystyria ynot dy hun, ddarllennydd hy naws, a meddwl pa radd o anrhydedd a chwennychit ti ei chael; ac edrych pa fawl vn a fu yn y radd honno o'th flaen di. Cosia 'r modd y codasant hwy, a'r modd y disgynnasant hwy drachefn; a meddwl ynot dy hun pa vn fwyaf ai 'r llawenydd a gawsant hwy wrth gael y radd honno, ai 'r tristwch a gawsant o'i cholli hi. Pa le yn awr y mae 'r holl ymerodron hynny, a'r brenhinoedd, a'r Tywysogion, a'r Preladiaid, a fu mor llawen ganthynt gynt gael eu goruchafiaeth a'i cyfodiad? Pa le yn awr y maent hwy, meddaf? pwy sy nac yn son nac yn meddwl am danynt hwy? Oni ebargofwyd hwynt, ac oni fwriwyd hwynt i'w beddau er ys talm byd? onid ydyw dynion yn rho∣dio

Page 257

yn hy uwch eu pennau hwy yr awr hon, er na ellid heb ofn ac arswyd edrych yn eu hwynebau hwy yn y byd hwn? Pa leshaad a wnaeth eu goruchafia∣eth iddynt hwy?

12. Peth rhyfedd yw ystyried mor ofer ydyw an∣rhydedd y byd hwn. Tebyg ydyw i gysgod dyn ei hun, yr hwn po mwyaf y rheder ar ei ol, cyntaf y diangc ynteu; a phan el ynteu i ffo rhag ei gysgod, ef a'i canlyn ef drachefn; ac nid oes vn ffordd onid vn iw ddal ef, a honno ydyw syrthio i lawr ar ei war∣tha ef. Felly y gwelwn ni am y rhai a chwennychent anrhydedd yn y byd hwn, eu bod hwy yr awrhon wedi eu gillwng yn angof; a bod y rhai oedd fwyaf yn ffo rhagddo, ac yn eu bwrw eu hunain is law pob dyn, yn cael eu hanrhydeddu yn fwyaf o gwbl, a hynny gan y byd ei hun, er eu bod yn elynion iddo pan oeddynt fyw. Canys pwy sy 'r awrhon fwy ei barch a'i anrhydedd; pwy a ganmolir yn fwy; ac a gofir yn fynychach na S. Paul a'i gyffelyb, y rhai a ddiystyrent anrhydedd bydol yn gymmaint yn y bywyd hwn, fel y dywedodd y Prophwyd, Dir∣fawr, O Arglwydd, yr anrhydeddwyd dy gyfeillion di? Oferaf dim yn y byd yw erlyn ar ol anrhydedd a goruchafiaeth bydol, gan nad yw nac yn bodloni 'r meddwl, nac yn arhos gyd a'i berchennog; ac nad ydyw heb peryglon mawr yn ei ganlyn, yn y byd hwn ac yn y byd a ddaw hefyd, fel y dywaid yr ys∣crythur, Barn dost fydd i'r llywodraethwyr: y lleiaf a ddichon gael maddeuant yn drugarog, ond y cedyrn a gospir yn gadarn. Doeth.

13. Y trydydd oferedd a berthyn i chwant cael anrhydedd, ac i falchder y bywyd yma, ydyw bo∣nedd cnawd a gwaed: yr hwn sydd berl mawr vch∣elbris yngolwg y byd: ond mewn gwirionedd, o hono ei hun, ac yngolwg Duw, nid yw ond coeg∣beth ac oferedd a gwagedd, A hynny yr oedd Iob

Page 258

dduwiol yn ei wybod yn dda, pan ysgrifennodd efe y geiriau hyn, Mi a ddywedais wrth y pwll, ac wrth bydrni a llygredigaeth, Ti yw fy nhad; ac wrth y pryf, Ti yw fy mam am chwaer, Job 17.14. Y neb a chwennycho weled bonedd ei hynafiaid, edry∣ched yn eu beddau hwy, ac fo a gaiff weled pa vn a wna Iob ai bod yn dywedyd y gwir ai peidio. Ni ddechreuodd gwir fonedd erioed ond trwy rinwedd; ac am hynny, fel y mae bonedd yr hynafiaid yn dy∣stiolaeth o'i rhinweddau da hwynt; felly y mae efe hefyd iw heppil hwynt. A phwy bynnag sydd yn dal enw bonedd oddiwrth ei hynafiaid, heb rinwedd yn ei ganlyn, nid yw efe ond anghenfil annaturiol wrth ei hynafiaid, am ei fod yn torri terfynau natu∣riaeth gwir fonedd, Ac am y cyfryw y dywaid Duw trwy vn o'i Brophwydi, Hwy a aethant yn ffi∣aidd, fel y pethau a garasant: eu gogoniant hwy a eheda fel aderyn, o'r enedigaeth, o'r groth, ac o'r bei∣chiogi, Hos. 9.10, 11.

14. Oferedd dybryd yw ceisio parch a choel oddi∣wrth y meirw, a ninneu ein hunain heb ei heuddu: a cheifio hen achau a rhagorbarch oddiwrth ein hyna∣fiaid, a ninnau, gan ein drwg foesau an coeg ymar∣weddiad, heb fod dim o'r cyffelyb yn gweddu ar∣nom. Fe waradwyddodd Christ yr oferedd yma yn eglur, pan fu iddo, er ei fod ef ei hun yn dyfod o'r bonedd mwyaf ar a fu erioed yn y byd, ac heb law hynny, yn fab i Dduw; ei alw ei hun er hynny yn gyffredinol yn fab dyn; hynny yw, yn fab i'r For∣wyn Fair (oblegid mewn modd amgen, nid oedd efe yn fab dyn) a chyda hynny hefyd ei alw ei hun yn fu∣gail, yr hwn nid yw ond henw diystyr iawn yn y byd yma, Io. 10. Nid aeth efe i ymhel am ditlau an∣rhydedd ei hynafiaid i chwanegu ar ei barch a'i fow∣redd, fel y gwna ein gwŷr ni. A phan aeth efe i wneuthur brenhin gyntaf yn Israel, oi cheisiodd efe

Page 259

chwilio am y gwaed hynaf, ond efe a gymmerodd Saul o'r llwyth gwaelaf yn holl Israel; ac ar ei ol ynteu Dafydd, y bugail distatlaf o'i holl frodyr. A phan ddaeth efe i'r byd, nid aeth efe i chwilio am y gwŷr boneddicaf i'w gwneuthur yn dywysogion ar y ddaiar, hynny ydyw, i'w gwneuthur yn Aposto∣lion; ond efe a gymmerodd y rhai truanaf a'r rhai gwaelaf, i wradwyddo (fel y dywaid vn) ffoledd ac oferedd y byd hwn, sydd yn gwneuthur cym∣maint cyfrif o ychydig ragorfraint cig a gwaed yn y byd hwn. 1 Cor. 1.27.

15. Y pedwerydd gwagedd sydd yn perthyn i chwant anrhydedd ac i falchder buchedd, yw doe∣thineb fydol, am yr hon y dywaid yr Apostol, Do∣ethineb y byd sydd ffolineb gyda Duw, 1 Cor. 3.19. Os ffolineb ydyw, wrth hynny y mae yn sicer ddi∣ammau mai oferedd a gwagedd yw ymhyfrydu o ddynion ynddi yn gymmaint ac y maent. Peth di∣eithr yw gweled mor wrthwyneb yw barn Duw i farn dyn. Fe fynnai bobl Israel er dim gael brenin, fel y dywedais vchod, ac yr oeddynt hwy yn tybieid y rhoesai Dduw yn y man iddynt hwy ryw dywy∣sog mawr galluog i lywodraethu arnynt; ac ynteu a ddewisodd ddyn truan tlawd oedd yn cerdded y w∣lad i geisio assynnod a gollasai, 1 Sam. 9. Ac yn ol hynny pan fynnai Dduw ddiswyddo hwnnw dra∣chefn am ei bechod, efe a ddanfonodd Samuel i en∣neinio vn o feibion Iesse yn frenhin; a phan ddaeth efe i mewn i'r ty, fe ddug Iesse ei fab hynaf Eliab ger bron, yr hwn oedd wr hirfraisg heinyf, gandy∣bieid mai hwnnw oedd gymmhwysaf i lywodrae∣thu: ond Duw a attebodd, Nac edrych ar ei wyneb∣pryd ef, nac ar vchder ei gorpholaeth ef, canys mi a'i gwrthodais ef: o herwydd nid edrych Duw fel yr e∣drych dyn: canys dyn a edrych ar y golygiad, ond yr Arglwydd a edrych ar y galon, 1 Sam. 16.7. We∣di

Page 260

hynny y dug Iesse ei ail mab Abinadab ger bron, ac ar ei el ynteu Sammah, ac felly y llaill bob vn yn ol ei gilydd, nes darfod iddo ddangos iddo saith o'i feibion. Ac wedi i Samuel wrthod y rhai hynny i gyd, rhyfeddu a wnaethant a dywedyd nad oedd mwy ond hynny, ond vn bachgen pengoch bach yn vnig, yr hwn oedd yn cadw 'r defaid, ac a elwid Dafydd; a Samwel a archodd yrru i gyrchu hwn∣nw: ac er cynted y daeth efe mewn golwg, Duw a ddywedodd wrth Samwel, dyma 'r gwr a ddewi∣sais i.

16. Pan addawyd y Messias i'r Iuddewon i fod yn frenhin arnynt, hwynt hwy a dybiasant yn y man, wrth eu bydol ddoethineb, mai rhyw dywysog mawr fyddai efe: ac am hynny hwy a wrthodasant Grid a ddaeth attynt mewn tlodi. Iaco hefyd ac Ioan tra oeddynt etto yn gnawdol, wrth weled y Sama∣riaid trwy ddirmyg yn gwrthod disgyblon Christ; gan eu bod yn gwybod beth ydoedd Christ, hwy a dybiasant yn y man y byddai raid iddo ddial arnynt, a golw am dân o'r nef i'w difa hwynt. Ond efe a'i ceryddodd hwy gan ddywedyd, Ni wyddoch chwi oba yspryd yr ydych, Luc. 9.55. Pan oedd yr A∣postolion yn pregethu 'r groes i'r Cenhedloedd doe∣thion, ac i'r Philosophyddion, ac yn dywedyd y by∣ddai raid dioddef er mwyn Christ; hwy a gawsant yn y man eu cysrif yn ynfydion am eu poen, 1 Cor. 1.23. Ffestus hefyd rhaglaw yr ymerodr, wrth glywed yr Apostol Paul, yn dywedyd cymmaint am ymwrthod â'r byd, a chanlyn Christ, a ddywe∣dodd ei fod ef wedi ynfydu, Act. 26.24. Yn ddi∣weddaf, dyma arfer pob doeth bydol, dirmygua di∣ystyru doethineb Christ a'i Sainct. Canys felly y mae 'r Scrythur yn dangos eu bod hwy eu hunain yn cyfaddef pan font mewn poenau, Nyni ffyliaid a fe∣ddyliasom fod en ffordd hwy yn ynfydrwydd, Doeth.

Page 261

5.4. Am hynny, fel y dywedais, Oferedd mawr ydyw gwneuthur cymmaint cyfrif o ddoethineb y byd; a hitheu nid yn vnig yn ffolineb, oud hefyd yn ynfydrwydd ac yn wallgof, fel y mae 'r Yspryd glan ei hun yn tystiolaethu am dani.

17. Pwy a dybygai nad doethion y byd hwn o∣edd gymmhwysaf eu dewis i wneuthur i Grist wa∣fanaeth yn ei Eglwys? Etto medd S. Paul, Nid llawer o ddoethion yn ol y cnawd a ddewisodd Duw, 1 Cor. 1. Pwy a dybygai na ellid gwneuthur o wr call bydol, Gristion synhwyrol call. Etto y mae S. Paul yn dywedyd na's gellir, oddieithr iddo fyned yn ffol yn gyntaf, 1 Cor. 3.18. Na thwylled neb ei hunan, Od oes neb yn eich mysg yn tybieid ei fod ei hunan yn ddoeth yn y byd hwn; bydded ffol, fel y byddo doeth. Ofer gan hynny, a dibris yw doethi∣neb y byd hwn, oddieithr iddi fod tan lywodraeth doethineb Duw.

18. Y pumed gwagedd ac oferedd a berthyn i falchder y bywyd, yw glendid corph, am yr hwn y dyweid y gwr doeth, Siommedig yw ffafr, ac ofer yw tegwch pryd a gwedd, Dih. 31.30. Ac am hynny yr oedd Dafydd yn meddwl, pan ddywedodd efe, Tro heibio fy llygaid rhag edrych ar wagedd, Psal. 119.37. Dyma oferedd a gwagedd mawr, peryglus twyllodrus; ac etto mawr yw 'r cyfrif o hono gan feibion dynion, y rhai sy gnawd iddynt hoffi gwagedd, fel y dywaid y prophwyd, Psal. 4. Tegwch pryd a gwedd y mae 'r gwyr duwiol yn ei gyffelybu i neidr baentiedig, yr hon sydd deg oddi∣allan, ond yn llawn gwenwyn marwol oddifewn. Ped ystyriai ddyn faint o ddialedd a dinistr a ddaeth o roi gormodd coel arno, ef a'i gochelai. A phe meddyliai efe srynted y sothach a'r ammhuredd sydd dan groenen deg, ni roddai ond ychydig serch arno, medd gwr duwiol. Fe gyfrannodd Duw ryw wrei∣chionen

Page 262

chionen o degwch i'w greaduriaid, er mwyn ein tynnu ni a'n denu wrth hynny i ystyried ac i hoffi ei degwch ef ei hun, yr hwn nid yw tegwch y byd ond cysgod o honaw: megis y gall dyn wrth weled y∣chydig ddwr yn tarddu allan, ddyfod o hyd i'r ffyn∣non wrth hynny, neu wrth gael gwythen bach o aur, ddyfod o hyd i'r holl fwyn. Ond yr ydym ni fel plant bychain yn ymhoffi yn y caead teg sy ar y llyfr, heb ystyried beth sy wedi ei scrifennu o'r tu mewn iddo. Ym mhob creadur teg yr edrycho dyn arno, y dylai efe ddarllain hyn yma, medd vn o'r tadau, Os medrai Dduw wneuthur telpyn o bridd mor deg ac mor gariadus, wrth roi iddo fân wreichion o'i de∣gwch ei hun; onid yw anfeidrol ei degwch ef ei hun: ac oni haeddai ei hoffi yn fawr, a rhyfeddu wrtho? Ac mor ddedwydd fyddwn ninnau, pan ga∣ffom ddyfod i'w weled ef, yr hwn y mae 'r holl grea∣duriaid yn cael eu tegwch oddiwrtho.

16. Ped ymarferem ni a'r cyfryw feddyliau a hyn, ni a allem yn hawdd gadw ein calonnau yn lân ddihalog ger bron Duw, wrth edrych ar degwch ei greaduriaio ef. Ond o herwydd nad ydym ni yn ar∣fer o feddwl am y creawdr wrth edrych ar y crea∣dur, ond ymfodloni yn vnig ar edrych ar wedd a gosgedd wyneb twyllodrus, a gollwng y ffrwyn i bob meddyliau bryntion, ac o'n gwir fodd ennyn tân ein trachwantau ein hunain; hynny a bair bod cymmaint o ddynion yn golledig beunydd, o achos y gwagedd a'r oferedd ffol yma; ffol yr wyf yn ei alw, am fod pob bachgen yn abl i ddangos mor dwy∣llodrus ac mor ofer ydyw. Oblegid, cymerwch i mi yr wyneb teccaf a glanaf yn y byd, yr hwn y bu i aneirif o ddynion roi ei serch arno, wrth ei we∣led; a chripiwch ef trosto a chryffiniad bach ysgafn, ac fe gilia 'r cwbl oedd yn peri ei hoffi ynddo; os daw gronyn o gryd, ef a ddistrywia 〈◊〉〈◊〉 holl degwch

Page 263

a'r glendid yma, os yr enaid a ymad a'r corph tros vn hanner awr, fe fydd yr wyneb teg hwnnw yn er∣chyll edrych arno; er na bo ond dau ddiwrnod yn gorwedd yn y bedd, ni all vn o'r rhai oedd yn ei hoffi yn gymmaint o'r blaen, ond prin edrych ar∣no, neu ddyfod yn agos atto. Ac er nas digwydd yr vn o'r pethau hynny iddo, etto, buan y daw he∣naint, i grychu 'r croen, i dynnu 'r llygaid i mewn, i gwympo 'r dannedd, ac i anffurfio yr holl wyne∣pryd, fel y bo yn fwy ei wrthuni yr awrhon, nag oedd ei degwch o'r blaen, ac yn haws iddo beri ei ddirmygu, nag oedd o'r blaen iddo beri ei hoffi. A pha beth a all fod yn wagedd mwy na hyn? Pa yn∣fydrwydd mwy nag ymfalchio o ddyn ynddo wrth ei weled ynddo ei hun, neu beryglu ei enaid o'i a∣chos wrth ei weled mewn arall?

20. Y chweched gwagedd a berthyn i falchder y bywyd, yw hoywedd dillad gwychion; ac yn er∣byn y rhei'ni y dywaid y gwr doeth, Nac ymorfo∣ledda o herwydd gwisg o ddillad, Ecc. 11.4. O'r holl oferedd dyma 'r mwyaf, yr hwn a welwn ni mor gyffredin ym mysg dynion y byd. Pe buasai Addaf erioed heb gwympo, ni buasai raid i ni byth wrth ddillad: oblegid yr achos y dyfeisiwyd dillad, oedd, i guddio ein noethni ni a'n cywilydd, a'n gwendidau eraill a ddaeth i ni oddiwrth gwymp A∣ddaf. Ac am hynny pwy bynnag o honom sy 'n ymfalchio ac yn ymogoneddu yn ei ddillad, nid yw efe yn gwneuthur ond fel pettai 'r cardottyn yn cym∣meryd balchder o'r carpiau sy 'n cuddio ei ddoluriau. Fe ddywedodd S. Paul wrth esgob, O bydd gennym ddillad i'n cuddio ymfodlonwn ar hynny, 1 Tim. 6.8. Ac fe grybwyllodd Christ ynteu yn ddwys am ddi∣llad hoywychion, wrth ganmawl S. Ioan fedyddi∣wr yn gymmaint am ei wisg arwdost, a dywedyd ym mhellach am y gwrthwyneb, Y rhai sy'n gwis∣go

Page 264

dillad esmwyth, mewn tai brenhinoedd y maent, Yn llysoedd brenhinoedd y byd hwn, ond nid yn llys brennin ne, Mat. 3.4. Mat. 11.8. Ac o'r achos hynny, nid yw Christ wrth ddangos pa fath ydoedd y gwr goludog a aeth i vffern, yn gadel heibio ddy∣wedyd i fod ef a'i ddillad o borphor ac o sidan main. Luc. 16.19.

21. Peth rhyfedd yw ystyried y rhagor sy rhwng dull ac arfer Duw, a dull y byd yn hyn o beth. Duw oedd y cyntaf a wnaeth ddillad erioed yn y byd: ac i bwy y gwnaeth efe hwynt ond i'r boneddiccaf ar a fu erioed o'n holl hynafiaid ni, a hynny ym Mhara∣dwys: ac etto ni wnaeth efe mo honynt hwy ond o grwyn anifeiliaid, Gen, 3.21. Ac y mae S. Paul yn tystiolaethu am y Sainct boneddiccaf yn yr hen Destament, nad oedd ganddynt iw cuddio ond crwyn geifr a blew camelod. Ond oferedd wrth hynny y∣dyw i ni fod mor hoywon yn ein dillad, a chymme∣ryd y fath falchder o honynt ac yr ydym? Yr y∣dym ni yn yspeilio ac yn anrheithio holl greaduriaid y byd gan mwyaf, i'w roi am ein cefnau, ac i hardd∣wychu ein cyrph. Oddiar vn y dygwn ei wlân, oddiar arall ei groen; oddiar arall ei bân, ac oddi∣ar arall yr ammhuredd a ddel allan o'i cyrph; oble∣gid beth yw'r sidan ond yr ammhuredd sy 'n dyfod aslan o gyrph pryfed? Ac nid ydym ni fodlon i hyn, ond yr ydym ni hefyd yn myned at y pysgod, ac yn cael ganthynt hwythau berlau i'w erogi yn ein cylch. Yr ydym ni yn mynd i eigion y ddaiar i geisio aur ac arian, ac yn chwalu tywod y mor am fain gwerth∣fawr: a chwedi darffo i ni fenthygio hyn i gyd gan greaduriaid eraill, ni a wag-rodiwn i fynu ac i wa∣red gan annog dynion i edrych arnom; megis pettai gwbl o'r gwychder hwnnw yn eidom ni ein hunain. Pan fo 'r arian a'r sidan yn disgleirio yn ein cylch ni, ni a edrychwn cyn vched a phettai 'r holl degwch

Page 265

hwnnw yn dyfod oddiwrthym ni ein hunain. Ac felly, fel y dywaid y Prophwyd, Yr ydym ni yntreu∣lio ein dyddiau mewn oferedd, ac heb ganfod ein dygn ffolineb ein humain.

22. Yr ail gainge gyffredinol y mae S. Ioan yn dywedyd ei bod yn perthyn i orwagedd ac oferedd y fuchedd hon, yw trachwant y llygaid; ac at hyn∣ny y mae 'r hen dadau yn bwrw holl wagedd ac ofe∣redd cyfoeth a golud y byd hwn. Ynghylch hyn∣ny y mae S. Paul vn yscrifennu at Timotheus, Gor∣chymmyn i'r rhai sy oludog yn ybyd yma, na byddont vchel feddwl, ac na obeitthiont mewn golud anwadal. 1 Tim. 6.17. Yr achos o'r ymadrodd hwnnw y mae 'r Scrythur lan yn ei adrodd mewn man arall, pan yw yn dywedyd, Ni thyccia cyfoeth yn nydd di∣gofaint, Diha. 11.4. Hynny yw yn nydd marwo∣laeth ac yn nydd y farn; yr hyn y mae cyfoethogion y byd hwn yn ei gyfaddef ei hunain, ond yn rhy∣hwyr, pan waeddont, Pa lês a wnaeth golud a ffrôst i ni, Doeth. 5.8. A hyn i gyd sydd yn dangos i ni yn oleu mor ofer yw cyfoeth bydol, yr hwn ni all ronyn llês i'w berchennog pan fo rheitia' iddo wrth ei help: Y cyfoethogion a hunasant eu hun, medd y Prophwyd, ac ni chawsant ddim yn eu dwylo, Psal. 76.5. hynny yw, y mae 'r cyfoethogion wedi treu∣lio 'i bywyd, yr vn modd ac y mae dynion yn huno eu hun, ac yn tybieid fod ganthynt fynyddoedd o aur a thrysor; a phan ddeffroont (ar ddydd eu mar∣wolaeth) y maent hwy yn gweled nad oes ganddynt ddim yn eu dwylo. Ac o herwydd hynny y mae 'r Prophwyd Baruch yn gofyn y Question yma, Pa le yn awr y mae y rhai oedd yn pentyrru arian ac aur, ac ni wnaent ddiben ar geisio? Ac yna y mae yn ei at∣teb ei hun yn y man, Hwy a ddislannasant, ac a ddiscynnasant ir bedd, Bar. 3.17, 19. Ac i'r vn defnydd y dywaid S. Iaco, Iddo yn awr, chwi gy∣foethogion,

Page 266

foethogion, wylwch ac vdwch am eich trueni sydd yn dyfod arnoch. Eich cyfoeth a bydra, a'ch gwiscoedd a ysswyd gan bryfed; a'ch aur, a'ch arian a rydodd, a'i rhwd hwynt fydd yn dystiolaeth yn eich erbyn chwi, ac a fwytty eich cnawd chwi fel tan: chwi a gas∣glasoch drysor digofaint i chwi eich hunain erbyn y dydd diweddaf, Jac. 5. Rhuf. 2, 5.

23. Os yw golud y byd hwn nid yn vnig mor o∣fer ac mor orwag, ond hefyd mor beryglus ac y dywetpwyd; ond oferedd wrth hynny i ddynion o∣sod eu meddyliau arno yn gymmaint ac y maent? y mae S. Paul yn dywedyd am dano ei hun, nad oedd, ef yn cyfri'r cwblond yn dom, Phil. 3.8. Ac nid heb achos mawr yn siccr y dywedai ef hynny, gan nad ydyw golud mewn gwirionedd ond tom; hynny y∣dyw, ammhuredd y ddaiar, a phethau yr ydys yn eu cael yn y lleoedd diffrwythaf o'r ddaiar, fel y gŵyr y rhai a welodd fwyn-gloddiau yr aur a'r ari∣an. Ond pethau gwael wrth hynny ydynt hwy i ddyn i glymu ei gariad wrthynt? Fe a orchymmyn∣nodd Duw yn yr hen gyfraith, fod o bob peth a ger∣ddai a'i dorr ar y ddaiar, yn ffieidd-beth i ni; Lev. 11. ac ond ffieiddiach y dyn y rhoes Duw reswmiddo, ac fydd wedi gludio a chyssylltu ei galon a'i enaid wrth delpyn o bridd y ddaiar? Yn noeth y daethom i'r byd, ac yn noeth yr awn allan o hono, medd Job. Y mae olwyn y felin yn ymdroi llawer, ac yn ymgu∣ro o ddydd i ddydd; ac etto ym mhen y flwyddyn y mae hi yn yr vn lle ac yr oedd yn y dechreu: ac felly 'r cyfoethogion, ymboenant ac ymdrafferthant cymmaint ac a allont, etto rhaid iddynt hwy yn y dydd diweddaf fod cyn dlotted ac oeddynt hwy y dydd cyntaf y ganed hwynt. Pan fo marw y cyfoe∣thog, medd Job, ni ddwg efe ddim gydag ef, ond efe a gae ei lygaid, ac nid yw yn cael dim. Tlodi a'i goddiwes ef fel dyfrosdd, a chorwynt a'i gorthrymma

Page 267

ef liw nôs. Poethwynt a'i cymmer ef i ffordd, ac efe a â ymaith; a'r corwynt a'i cippia ef allan o'i le: efe a ruthr arno, ac nid arbed ef: efe a rwym ei ddwylo arno ef, ac a'i hyssia ef; am ei fod yn gweled ei le ef, lle y mae rhaid iddo fyned, Iob 27.19. Lat.

24. Y mae 'r prophwyd Dafydd ynteu yn yr vn modd yn rhoi i ni rybydd o'r vn peth, yn y geiriau hyn, Nac of na pan gysoethogo vn, na phan chwanego gogoniant ei dy ef: canys wrth farw ni ddwg efe ddim ymaith, ac ni ddisgyn ei ogoniant ar ei ol ef. Efe a â at genhedlaeth ei dadau (hynny yw, efe a â i r lle y mae y rhai a fu fyw fel y bu ynteu fyw) ac ni welant oleuni byth. Psal. 49.16.

25. Hyn i gyd a llawer ychwaneg y mae 'r Ys∣pryd glan yn ei ddywedyd, i ddangos mor beryglus ac mor ofer yw golud bydol; ac mor ynfyd yw y rhai sy yn cymmeryd cymmaint o boen yn ei geisio, a hynny trwy berygl tragwyddol i'w heneidiau; fel y mae 'r Scrythur yn dywedyd i ni yn siccr. Pe bai cymmaint o physygwyr, ac a ddangosais yma o Scrythurau, wedi cyttuno yn yr vn meddwl fod y bwydydd a'r bwydydd yn wenwynllyd ac yn enbyd; yr wyfi yn tybieid na byddai nemmor o ddynion a anturiai eu bwytta hwy, er bod eu blâs yn felus ac yn hyfryd. Pa fodd wrth hynny nas gall cynnifer o rybuddiau dwys difrif y mae Duw ei hun yn eu rhoi i ni, ein hattal ni rhag rhoi ein serch ar beth mor ofer ac mor beryglus ac yw golud bydol? Os cynnydda golud, medd Duw trwy 'r Prophwyd, na roddwch eich calon arno, Psal. 62.10. Ni chyfiawnheir y neb a hoffo aur, Ecc. 31.5. Mi a ddigiais yn ddirfawr wrth y cenhedloedd goludog, medd Duw trwy Zecha∣riah, Zech. 1.15. Lat. Ac medd Christ, Yn wir y dywedaf i chwi, mai anhawdd fydd i'r goludog fy∣ned i mewn i deyrnas nefoedd, Mat. 19.23. A thr∣chefn, Gwae chwychwi 'r cyfoethogion, canys chwi a

Page 268

dderbyniasoch eich diddanwch yn y bywyd hwn, Luc. 6.24. Ac yn ddiweddaf, y mae S Paul yn dywe∣dyd yn gyffredinol am bawb, ac wrth bawb, Y rhai sydd yn ewyllysio ymgyfoethogi, sydd yn syrthio i brofe∣digaeth a magl y cythraul, ac i lawer o chwantau yn∣fyd a niweidiol y rhai sy yn boddi dynion i ddinistr a cholledigaeth, 1 Tim. 6 9.

26. A ellir dywedyd dim yn y byd ddwysach a chryfach nâ hyn, i geisio peri i ddynion beidio a rhoi eu serch ar olud bydol? Oni bydd rhaid ynteu i'r cybyddion naill ai gwadu Duw, ai eu condemno eu hunain yn eu cydwybodau eu hunain? Gedwch iddynt ymesgusodi ynghysgod bod iddynt wraig a phlant, yn ôl eu harfer, a dywedyd, nad yw eu me∣ddwlhwy ddim ond gwneuthur eu goreu ar gael a so digon i'r rhai hynny. Ydyw na Christ na S. Paul yn cynnwys yr Esgus hwnnw? A ddylem ni garu na gwraig, na phlant, na cheraint eraill, cymmaint â pheryglu ein heneidiau er eu mwyn hwy? Pa gy∣ssur a chomffordd fydd i'r tâd mewn poenau yn vff∣ern, wrth gofio ddarfod iddo adael i'w wraig ac i'w blant fodd i fyw yn gyfoethogion yn y byd; nid yw hyn i gyd, frawd anwyl, ond oferedd, a hud a thw∣yll ein gelyn ysprydol ni. Oblegid o fewn vn mu∣nyd awr ar ol ein meirw, ni bydd arnom ni ddim gofal, nac am wraig, nac am blant, nac am dâd, nac am fam, nac am frawd, yn y matter hwnnw, mwy nag am estron tra môr: a mwy o gomffordd a gawn ni y dwthwn hwnnw oddiwrth vn geiniog fach a ro∣esom ni yn eluseni er mwyn Duw pan oeddym yn y byd, nag oddiwrth filoedd o bunnau a roesom ni i'n cenedl er mwyn y cariad oedd gennym ar ein cig a'n gwaed ein hunain: ac och Dduw deg nag ysty∣riai y rhai bydol hyn yma: ac yna diammau na chym∣merent hwy byth cymmaint o ofal tros eu tylwyth ac y maent hwy yn ei gymmeryd; yn enwedig ar

Page 269

eu gwely angeu, o'r lle y bydd rhaid iddynt hwy fyned ymaith i'r lle nid oes dim rhagorfraint i gig a gwaed, a lle nis gall golud ddim ymwared; ond yn vnig yr hyn a dreuliwyd ar wasanaeth Duw, a'r hyn a roed i dlodion er mwyn Duw. A hynny sy ddi∣gon am y pwngc yma ynghylch golud bydol.

27. Y drydedd gaingco orwagedd bydol y mae S. Ioan yn ei galw, Chwant y cnawd; a hynny sy 'n cynnwys pob difyrrwch, a digrifwch, a mwythau 'r cnawd, megis gwledda a chwmpniaeth, a chwer∣thin, a chwarae, a'r cyffelyb, yn y rhai y mae ein cnawd ni yn ymhoffi yn fawr yn y byd hwn. Ac er bod yn rhydd i'r duwiol arfer y pethau hynny mewn cymmedrolder, er mwyn cadw eu hiechyd yn well (ac nid oes bai arnynt er gwneuthur yr vn modd am eu cyfoeth hefyd) etto y mae yn amlwg wrth eiriau Christ, fod yr holl blesser yma a'r difyrrwch, nid yn vnig yn orwagedd ac yn oferedd, ond hefyd yn beryglus ac yn enbyd, yn y cyfryw helaethrwydd, a gormodedd, a rhysedd ac y mae y rhai bydol yn eu harfer hwy. Gwae chwi y rhai llawn, medd Christ, canys chwi a ddygwch newyn: Gwae chwi y rhai a chwerddwch yr awrhon, canys chwi a alerwch ac a wy∣lwch, Luc. 6.25. A thrachefn yn Efengyl S. Ioan, wrth ei Apostolion, ac ynddynt hwy wrth bawb e∣raill, y mae 'n dywedyd, Chwi a wylwch, ac a ale∣rwch, a'r byd a lawenycha: lle y mae efe yn gw∣neuthur hyn yn arwydd hynod o'r rhagor sy rhwng y drwg a'r da, y bydd i'r naill alaru yn y bywyd yma, ac i'r llall lawenhau, ac ynddigrifo. Joan. 16.20.

28. A'r vn peth y mae Iob yn ei siccrhau am y na∣ill ac am y llall hefyd; oblegid am y rhai bydol y mae yn dywedyd, eu bod yn difyrruiddynt eu hunain â'r tympan ac a'r delyn, ac a llais yr organ, ac yn treulio eu dyddiau mewn digrifwch; ac yn discyn

Page 270

mewn moment i'r bedd, Iob 21.12, 13. Ond am y duwiol y dywaid megis am dano ei hun, y byddant yn ocheneidio o flaen eu bwyd, Iob 3.24. Ac mewn lle arall eu bod yn ofni eu holl weithredoedd, Iob 9.28. A'r rheswm o hynny y mae 'r gwr doeth yn ei egluro ym mhellach, gan ddywedyd, Fod gweithredoedd y rhai da yn llaw Dduw, ac na ŵyr neb (wrth y pe∣thau oddiallan) pa vn ai cariad ai cas sydd iddo ar law Duw: ond bod pob peth mewn ammau hyd yr am∣ser a ddel, Preg. 9.1. Ac y mae yr hên Tobias yn∣teu yn dangos etto achos arall, pan yw yn dywe∣dyd, Pa lawenydd a allaf fi ei gael, gan fy mod yn eistedd yma mewn tywyllwch: ac er ei fod efe yn me∣ddwl hyn wrth y llythyren am ei ddallineb corpho∣rol, etto efe a adawodd i ni ddeall hynny hefyd am dy∣wyllwch ysprydol oddifewn.

29. Ac dyma (heb law blinder a thrallod oddi∣allan yr hwn y mae Duw yn ei ddanfon yn fynych) dyma'r achosion pa ham y mae y rhai duwiol yn byw mewn mwy o dristwch ac ofn yn y bywyd yma, nâ'r rhai annuwiol, yn ôl cyngor S. Paul; a pha ham he∣fyd y maent hwy yn ochain ac yn wylo yn fynych, fel y mae Iob a Christ yn dywedyd, am eu bod hwy yn meddwl yn fynych am gyfiawnder Duw, ac am eu breuolder a i gwendid eu hunain yn pechu, ac am ddirgel farn Rhagluniaeth Duw, yr hon sydd ddi∣wybod i ni; ac am y dyffryn trueni ac annrhefn yr ydym ni yma yn byw ynddo: yr hyn sy'n peri i'r Apostolion ochain, medd S. Paul, er bod iddynt lai o achos i wneuthur hynny nag i ni. Ac o'r achos hynny yr ewyllysir i ni dreiddio trwy'r bywyd hwn trwy ofalu, a gwilio, ac ofn a dychryn. Ac o'r a∣chos hynny hefyd y dywaid y gwr doeth, Gwell yw myned i dŷ galar, nag i dy gwledd. Calon doethion fydd yn nhŷr galar, ond calon ffyliaid yn nhŷ llawe∣nydd, Preg. 7.2: 4. Yn ddiweddaf, o'r achos hyn

Page 271

y dywaid yr Scrythur, Gwyn ei fyd y dŷn a ofno yn wastadol, Dih. 28.14. Yr hyn nid yw ddim ond y peth y mae'r yspryd glân yn ei orchymyn i bob dŷn trwy 'r Prophwyd Micheas, sef, Rhodio yn ofalus ac yn ddiwyd gyda Duw; Mich. 6.8. Lat. gan feddwl am ei orchymmynion ef, a pha fodd yr ydym yn eu cadw ac yn eu gwneuthur hwynt, a pha fodd yr y∣dym yn gwrthwynebu ac yn marweiddio ein haelo∣dau yma ar y ddaiar, a'r cyffelyb. A phe cai'r cy∣fryw feddyliau le ynom ni, hwy a dorrent ymmaith lawer o'r difyrrwch bydol sy 'n dymchwelyd lla∣wer o bechaduriaid diofal: sef yw hynny, y gym∣deithas dda o fwytta, ac yfed, a bod yn llawen a chanu, ac ymresymmu, a'r cyfyryw oferedd, y rhai sy fwyaf yn ein tynnu ni oddiwrth yr hyn a ddy∣lem ei wneuthur.

30. Ac o hyn y rhoes Christ i ni gyngor godidog, wrth ei waith yn wylo cyn fynyched, sef ar ei enedi∣gaeth, ac wrth gyfodi Lazarus o farw i fyw, a thros Jerusalem, ac ar y groes. Ond nid ydym ni yn darllain iddo chwerthin vnwaith yn ei holl fywyd. A hyn y mae ein genedigaeth a'n marwolaeth ni ein hunain yn ei arwyddoccau i ni, y rhai sy ar law Dduw bob vn o'r ddau, ac a ordeiniwyd i ddyfod i ni trwy dristwch a gofid, fel y gwelwn ni. Ond gan fod y canol rhwng y ddau, sef ein bywyd ni yn y byd y∣ma, trwy ordinhâad Duw wedi ei adael ar ein dwy∣lo ni ein hunain, yr ydym ni yn treulio hynny mewn difyrrwch ac oferedd, heb feddwl vn amser o ba le y daethom ni, nac i ba le yr awn ni.

31. Pan fo gwr synhwyrol ar ei siwrnai yn my∣ned heibio i'w letty, er bod yn cynnyg iddo fwy∣dydd o'r dainteiddiaf, etto efe a ymgeidw rhagddynt, pan ystyrio faint yw pris y bwydydd, a maint sy 'n ôl o'i daith ynteu: ac ni chymmer ef ddim ond cym∣maint ac a wypo fe 'n dda fod gantho fodd i dalu

Page 272

am dano wrth fyned ymaith y boreu: ond yn an∣synhwyrol a dery ei law ar bob saig ddaintethol a ddel i'w olwg, ac a â yn wr gwych tros noswaith neu ddwy; ond pan ddeler i gyfrif ag ef, fe fyddai well ganddo pe buasai bodlon i ymborth ar fara a di∣od, nâ'r drafferth a fydd arno wrth wneuthur ei gy∣frif. Arfer rhyw eglwysydd ydyw ymprydio ar bob noswyl, a bod yn llawen dranoeth ar yr wyl; a hynny a all arwyddoccau i ni fawr ddirwest y rhai duwiol yn y byd hwn, a'r llawenydd a gânt hwy yn y byd a ddaw. Ond y mae arfer y byd yn y gwrthwyneb, sef yfed, a bwytta, a gwneuthur yn llawen yn gyntaf yn y dafarn, a chwedi hynny ga∣dael i'r llettywr ddwyn i mewn ei gyfrif. Y maent hwy yn bwytta, ac yn yfed, ac yn chwerthin, a'r llettywr ynteu yn y cyfamser yn rhoi 'r cwbl ar yr ysgôr. A phan ddêl yr amser i dalu, yno y bydd llawer calon yn brudd, oedd o'r blaen yn llawen.

32. A hynny y mae 'r Scrythur lân hefyd yn ei ddywedyd am ddifyrrwch y byd, Chwerthin a fydd ynghymmysg â gofid, a diwedd llawenydd yw tristwch, Dih. 14.13. Y mae'r cythraul, megis llettywr yn y byd hwn, yn barod i'ch gwasanaethu chwi â phob mwythau a difyrrwch ac a ddymunoch chwi, ond y mae efe yn ysgrifennu 'r cwbl yn ei lyfr, a phan foch chwi yn ymadael (hynny ydyw, wrth eich ma∣rw) ef a ddwg yr holl gyfrif gar eich bron chwi, ac a rydd y cwbl yn eich saig chwi: ac yno y canlyn yr hyn y mae Duw yn ei addo i'r rhai bydol trwy'r Prophwyd AMOS, Eich llawenydd chwi, a'ch ca. neuan a droir yn oernad ac yn gwynfan, Amos 8. Ie, a mwy nâ hynny hefyd, oni byddwch chwi abl i dalu'r cyfrif, nid hwyrach i chwi gael clywed y farn ofnadwy arall a ddyweid Christ yn llyfr y Datc. Cymmaint ac yr ymogoneddodd hi ac y bu mewn mwy∣thau, rhoddwch iddi y cymmaint arall o ofid a galar. Datc. 18.7.

Page 273

33. Ac am hynny, i ddibennu y pwngc yma, a'r rhan gyntaf yma hefyd ynghylch gorwagedd ac ofe∣redd; ni a allwn ddywedyd yn ddigon gwir gydâ'r Prophwyd Dafydd am yr hwn a fo a meddwl bydol gantho, Diau mai cwbl wagedd yw pob dyn byw; gan nad yw ei holl fywyd ef yn cynwys dim ond gwa∣gedd, Psal. 39.5. Hynny yw, gwagedd ac oferedd yn y chwant sydd gantho i anrhydedd a goruchafia∣eth, gwagedd yn ei gyfoeth, gwagedd yn ei ddify∣rwch a'i lawenydd, gwagedd ymhob peth ac y mae ef yn gwneuthur mwya cyfrif o hono. Ac am hyn∣ny da y gallaf ddibennu â geiriau Duw trwy Esai, Gwae y rhai a dynnant anwiredd â rheffynnau ofe∣redd, Es. 5.18. Y rheffynnau yma ydyw oferedd gorwag-clod, goruchafiaeth, parch, bonedd, tegwch pryd a gwedd, cyfoeth a golud, difyrrwch a lla∣wenydd, a'r pethau eraill a grybwyllwyd o'r blaen: y rhai sy bob amser yn tynnu gydâ hwynt ryw be∣chod ac anwiredd. Ac o'r achos hwnnw y mae DA∣FYDD yn dywedyd wrth Dduw, Cas gennyti y rhai sy'n dal ar ofer wagedd, Psal. 31.6. Ac yn ddi∣weddaf, o'r achos yma y mae'r ysbryd glân yn ad∣rodd yn gyffredinol am bob dyn, Gwyn ei fyd y gwr ni thry at oferedd, ac ynfydrwydd twyllodrus y byd hwn, Psal. 40. Lat.

34. Weithian gan hynny dyma fi yn dyfod at yr ail rhan o'r bennod yma, ac i ddangos nad yw'r byd hwn a chwbl ac sydd iw gael ynddo, yn wagedd ac oferedd yn vnig, ond gydâ hynny yn hûd ac yn siom∣medigaeth, (fel y mae Christ yn dywedyd am dano) am nad ydyw (mewn gwirionedd) yn cwplau ac yn cy wiro a'r rhai sy'n glynu wrtho, mo'r oferedd co∣eg diwres y mae'n ei addaw iddynt. Ac yn hynny y gellir cyffelybu'r byd i'r twyllwr cyrrith anniolch∣gar Laban, yr hwn a wnaeth i Iacob druan ei wasa∣naethu ef saith mlynedd am ei ferch lân Rachel, ac

Page 274

yn y diwedd ai twyllodd ef a'i ferch ddiffaith an∣hawddgar Leah. A pheth am yr addewidion gau y mae'r byd yn ei wneuthur beunydd? I vn y mae 'n addaw hiroes a hir iechyd, ac a'i tyrr ef ymaith yng∣hanol ei ddyddiau. I arall y mae'n addaw cyfoeth mawr a goruchafiaeth, ac yn ôl hir wasanaeth, nid yw yn cywirio vn gronyn ag ef. I arall y mae'n addo anrhydedd mawr wrth dreulio'n helaeth, ac yn rhith hynny y mae yn ei ddwyn ef i ddirmyg trwy dlodi. I arall y mae'n addo codiad mawr wrth briodas, ac etto ni wna fe mo hono byth yn abl i gael yr hyn y mae'n ei ddymuno. Ewch tros yr hollfyd, edry∣chwch ar y gwledydd, a'r taleithiau, a'r dinasoedd; gwrandewch wrth ddrysau a ffenestri tai 'r deiliaid, a llysoedd y brenhinoedd, a'i staselloedd dirgel cyfri∣nachol; ac ni chewch na gweled na chlywed dim ond achwynion tostur gan bob dyn, y naill am ei golled, y llall am na bai yn ynnill, a'r trydydd am nad yw yn cael a'i bodlono, a deng mil am eu bod yn cael eu tw∣yllo a'i siommi.

35. Pa dwyll fwy a all fod (i ddwyn i chwi e∣sampl) nag addo i vn barch, a chael coffa am dano yn ei ol, fel y mae 'r byd yn addo i'r rhai sy'n ei wasanaethu ef; ac er hynny eu gillwng hwy yn an∣gof er cynted y bônt feirw? Pwy sy yr awrhon yn cofio vn ym mysg deugain mil o wyr gwychion a fu yn y byd, yn gapteiniaid, yn rhyfelwyr, yn gyng∣horiaid, yn ddugiaid, yn ieirll, yn dywysogion, yn breladiaid, yn ymmerodron, yn frenhinoedd ac yn frenhinesau, yn arglwyddi ac yn arglwyddesau? Pwy meddaf, sy 'n eu cofio hwy? Pwy sy vnwaith yn meddwl nac yn sôn am danynt hwy yr awrhon? Oni ddarfu eu coff adwriaeth gyd a hwynt, a chydâ i trwst a'i rhodres, fel y dy weid y Prophwyd, Psal. 9.6. Ond cywir addewid JOB, y byddai eu coffadwria∣th hwy yn gyffelyb i'r lludw a sethrir tan draed, Iob

Page 275

13.11. A DAFYDD, y byddent hwy fel y man vs a chwal y gwynt ymaith? llawer o wŷr a fu ym mlaen hyn, a gyfrifid yn wael ac yn ddisas iawn yn eu hamser: ac etto am eu bod hwy yn gwneuthur eu goreu ar fod yn anenwog yn y byd, am hynny y mae'r byd yr awrhon yn hyttrach yn eu cofio hw∣ynt, ac yn anrhydeddu eu coffadwriaeth hwy. Ond llawer brenhin ac ymmerodr a fu yn ymegnio, ac yn gwneuthur eu goreu tros eu holl fywyd, am gael bod yn honnaid ac yn enwog yn y byd, ac etto yr awrhon hwy a ebargofiwyd oll. Ac felly y mae 'r byd yn hynny yn debyg (fel y dywaid vn) i letty∣wr cybydd, drwg ei gof, yr hwn os gwŷl efe vn o'i hên lettywyr yn dyfod heibio mewn cyflwr car∣dottyn, wedi treulio ei holl arian; efe a gymmer arno nad edwyn ddim o hono. Ac os rhyfeddu a wna'r truan wrth hynny, a dywedyd, iddo ddyfod yn fynych y ffordd honno, a threulio llawer o arian yn ei dŷ ef; y llettywr a ettyb, fe allai hynny fod, ob∣legid y mae cymmaint o ddynion yn myned heibio ffordd yma ac nad ydym ni yn cadw cyfrif yn y byd o honynt. Y ffordd i chwi i gael gan eich llettywr eich adnabod, (medd yr vn awdur) ydyw bod yn ddrwg wrtho, curwch ef yn dda, neu wnewch ryw lwyrgam ag ef, ac efe a'ch edwyn chwi tra fo byw; a mynych y son efe am danoch, pan foch chwi ym mhell oddiwrtho.

36. Aneirif yw siommedigaethau a ffuant y byd. Y mae efe'n edrych yn wŷch, ac yn dêg, ac yn hy∣fryd, yn y golwg oddiallan: ond os ni a'i teimlwn ef, nid yw efe ddim ond pluen: os ni a ddaliwn su∣lw arno, nid yw efe ond cysgod: os ni a'i pwyswn, nid yw efe ond mŵg: os ni a'i hegyr, nid yw efe ond delw wedi ei gwyngalchu, yn llawn hên garpi∣au a brattiau o'r tu mewn. Os mynnwchwi gael adnabod trueni a gofidiau 'r byd, rhaid i chwi fynd

Page 276

ychydig allan o honaw. Oblegid megis nas gall y rhai sy yn rhodio mewn niwl, weled y niwl cystal a'r rhai sy'n sefyll ar frynn ennyd oddiwrtho: felly y mae am adnabod y byd, yr hwn sy gnawd iddo ddallu y rhai a ddêl iddo, rhag iddynt weled eu cy∣flwr eu hun: fel y mae 'r gigfran yn gyntaf yn tynnu llygad y ddafad truan, ac felly yn peri iddi na allo we∣led diangc rhag ei chreulonder hi.

37. Pan ddarffo i'r byd vnwaith yspeilio'r bydol am ei olwg ysprydol, fel nas medro mwy farnu rhwng drwg a da, rhwng gwagedd a gwirionedd, yna y mae yn suo iddo, ac yn peri iddo gysgu mewn esmwythyd a difyrwch, ac yn ei rwymo ef yn dra melus, ac yn ei dwyllo ef yn hyfryd tros ben; ac yn ei boeni ef mewn heddwch a llonyddwch mawr: ac yn y man y mae gantho ysbryd balch i'w osod ef ar binacl chwant i anrhydedd, ac i ddangos iddo o∣ddi yno swyddau, ac vchelfreiniau, a goruchafiae∣thau'r holl fyd. Y mae gantho vgain o farsiandwyr ffeilsion i ddangos iddo yn y tywyll, y pen blaen i frethynnau têg gwerthfawr, ond ni chaiff efe weled yr holl we frethyn, na'i dwyn i'r goleu i edrych ar∣ni: y mae gantho bedwar cant o brophwydi gau i wneuthur truth a gweniaith iddo, fel yr oedd gan Ahab, 1 Bren. 22. a rhei'ni sy raid iddynt luddias iddo wrando cyngor Micheas; hynny ydyw, rhag edrych yn ei gydwybod ei hun, yr hon a ddywaid iddo'r gwir: y mae ganddo fil o bysgodwyr cyfar∣wydd, i osod abwydydd hyfryd ger ei fron ef, ond bod bachau peryglus o'r tu mewn i bob vn o honynt. Y mae ganddo aneirif o buteiniaid Babilon, i gyn∣nyg iddo ddiod mewn phiolau aur, ond bod y cwbl wedi ei gymmysgu â gwenwyn marwol, Datc. 17. Y mae ganddo ym mhob drws ryw Iael i'w ddenu ac iw hudo ef at laeth digrifwch a mwythau, ond bod gan bawb o honynt forthwylion a hoelion yn ei dwy∣lo

Page 277

i'w daro yn ei arlais ef, ac i'w ladd, pan gaffont ef yn cysgu, Barn. 4. Y mae cantho ym mhob cor∣nel ryw Ioab wenhieithus, i'w gofleidio ef â'r naill fraich, ac i'w lâdd â'r llall, a Suddas fradwr i'w fra∣dychu ef â chusan. Yn ddiweddaf, y mae gantho bob math ar dwyll, a phob math ar ffuant, a phob math ar weniaith, a phob math ar frâd ac a fai bossibl ei ddychymmyg. Y mae'n casau 'r neb a'i caro, yn twyllo 'r sawl a ymddiriedo iddo, yn poeni'r rhai a'i gwasanaetho, yn dirmygu'r sawl a'i hanrhydeddo, yn dwyn i golledigaeth y sawl a'i canlyno, ac yn go∣llwng yn fwy tros gof, y sawl sy fwyaf eu poen a'i llafur trosto. Ac i dalfyrru'r pwngc yma, gw∣newch cymmaint oll ac a alloch tros y byd yma, a cherwch ef, ac addolwch yn gymmaint ac y myn∣noch; etto yn y diwedd chwi a gewch weled mai Nabal yn vniawn ydyw efe, yr hwn wedi iddo gael llawer o gymmwynasau gan Ddafydd, etto pan dda∣eth ar Ddafydd ei eisieu ynteu, efe a attebodd, Pwy yw Dafydd? A phwy yw mab Iesse, fel yr adwae∣nwn i ef, 1 Sam. 25. Nid heb achos mawr wrth hynny, y dywedodd y Prophwyd DAFYDD, Oh feibion dynion, pa hyd y byddwch mor ddiddeall eich calon? yr hoffwch wegi ac yr argeisiwch gelwydd? Y mae efe yn galw 'r byd nid yn gelwyddog ond yn gelwydd, o herwydd maint ei hûd a'i dwyll, Psal. 4.2.

38. Y trydydd henw y mae ein iachawdr Christ yn ei roi i ddifyrrwch a golud y byd, ydyw eu bod hwy yn ddrain: am yr hyn y mae S. Gri∣gor yn yscrifennu fel hyn, Pwy a'm creda∣sai i byth pe buaswn i yn galw cyfoeth yn ddrain fel y gwnaeth Christ, gan fod drain yn pigo, a bod cyfoeth mor hyfryd? Ac etto yn siccr drain ydynt hwy, am eu bod hwy a phigau yr gofalus fe∣ddyliau sydd yn eu canlyn, yn rhwygo meddyliau y

Page 278

rhai bydol, ac yn tynnu gwaed o honynt. Wrth y geiriau hynny y mae r gwr duwiol yn arwyddoccau, mai megis na ddichon corph noeth dyn a dreigler ac a dafler ym mhlith llawer o ddrain, na chaffo ei rwy∣go, a'i ddryllio, a'i wneuthur yn waedlyd gan eu pi∣gau hwynt: felly nis gall enaid y gwr bydol a gu∣rer gan ofalon a meddyliau'r fuchedd hon, nas caffo ei flino gan eu hanorphwys bigiadau hwynt, ac nas archoller ef gan lawer o demptasiwnau pechod a fo yn cyfarfod ag ef. Hyn y mae Salomon yn ei arwy∣ddoccau, yn y lleoedd a adroddwyd o'r blaen, lle y mae efe yn galw golud a difyrrwch y byd hwn, nid yn vnig yn wageddo wagedd, hynny ydyw, yn fwya' gwagedd ac sydd, ond hefyd yn orthrymder yspryd; gan ddwyn ar ddeallt i ni, pa le bynnag y mae'r gwa∣gedd yma, a chariad arno wedi dyfod i mewn, nad oes yno ddim tangnefedd Dduw yr hwn sydd vwch law pob deall; nad oes yno ddim mwy esmwythdra a llonyddwch meddwl, ond rhyfel rhwng trachwan∣tau, a blinder meddyliau, a thrallod gan ofn, a phigo gan ofalon, ac aflonyddwch enaid, yr hyn mewn gwi∣rionedd nid yw ddim ond gofidus a thostur orthrym∣der yspryd. Preg. 1.

39. A'r rheswm o hyn ydyw, megis ac nas gall clocc byth sefyll yn llonydd heb gerdded tra fo'r pwysau ynghrog wrtho, felly nis gall gwr bydol a fo ac aneirif o ofalon, a meddyliau, a phetrusder ynghrog wrth ei feddwl, megis pwysau wrth y clocc, byth gael na llonydd nac esmwythdra, na dydd na nôs, ond bod yn ddir iddo guro ei ymmennydd, pan so eraill yn cysgu, er mwyn ceisio dyfod o hyd i'r coeg-bethau hynny, sydd yn ei drallodi ef. Oh faint o wyr goludog yn y byd sy 'n gwybod fod yn wir y peth yr wyfi yn ei ddywedyd yr awrhon! a maint o'r rhai chwannog i anrhydedd sydd yn ei wirio beu∣nydd, ac etto ni fedrant ymadael ag ef!

Page 279

40. O'r holl blaau a ddanfonwyd ar yr Aipht, bli∣naf a dygnaf oedd y bla wybed. Oblegid nid oedd y rhai'ni vn amser yn gadael i ddynion mor llonydd, ond pa mwyaf y curid hwy ymaith, mwyaf y cyr∣chent attynt hwy. Felly o'r holl ofidiau a'r blinde∣rau y mae Duw yn eu dodi ar y rhai bydol, nid lleiaf hyn, eu bod yn cael eu poeni a gofalon am y pethau y maent yn eu cyfrif yn fwya dedwyddyd iddynt, ac heb allu mo'i gyrru ymaith er dim a fedront ei ddychymmyg. Mae'r gofalon hynny yn rhuthro ar∣nynt hwy y boreu cyn gynted ac y deffroont o'i cwsg, ac yn aros gyd a hwynt ar hyd y dydd, ac nid ymadawant a hwynt y nos, ond y maent yn eu can∣lyn i'w gwelyau, ac yn lladdias iddynt gysgu, ac yn flin wrthynt yn eu breuddwydion; ac yn ddiweddaf, y maent yn debyg i'r rhai creulon hynny y mae Duw yn bygwth eu danfon ar yr annuwiol trwy'r Pro∣phwyd Jeremi, Y rhai ni chair llonydd ganddynt, na dydd, na nos: a'r achos y mae Duw yn ei ddangos am hynny yn yr vn man yw hyn, Canys mi a gymme∣rais ymmaith fy heddwch oddiwrth y bobl hyn, medd yr Arglwydd, sef trugaredd a thosturi. Dyna farn drom i'r rhai sy dan iau a chaethiwed y gwagedd blin hynny. Jer. 16.13, 5.

41. Ond etto y mae 'r Prophwyd Esay yn por∣treiadu cyflwr y cyfryw ddynion, yn erchyllach o lawer, Y maent yn ymddiried mewn peth heb ddim, ac yn chwedlena am wagedd, yn beichiogi ar stinder ac yn esgor ar anwiredd; y maent yn deor wyau aspiaid, ac yn gwau gweoedd y pryf coppyn: yr hwn a fw∣yttao eu hwyau a fydd marw; a'r hwn a sathrer a dyrr allan yn wiber; eu gweoedd ni byddant yn ddillad, ac nid ymwisgant a'i gwaith; canys eu gwaith sy anfu∣ddiol, a gwaith anwiredd sydd yn eu dwylaw, Es. 59.4. Lat. Dyma eiriau Esay, y rhai sy'n dangos i ni trwy gyffelybiaethau yn llawn o arwyddoccad,

Page 280

mor beryglus o ddrain ydyw cyfoeth a difyrrwch y byd hwn. Ac yn gyntaf y mae'n dywedyd eu bod hwy yn rhoi eu hyder ar bethau diddim, ac yn chwed∣lena am wagedd; i arwyddoccau ei fod efe yn me∣ddwl am wagedd a gwag ddynion y byd hwn, y rhai a chwedleuant fynychaf am y peth y maent yn ei ga∣ru yn fwyaf, ac yn hyderu arno fwyaf. Yn ail y dyweid, eu bod yn beichiogi ar flinder, ac yn esgor ar anwiredd: trwy gyffelybiaeth o waith gwragedd yn esgor, y rhai yn gynta' sy'n beichiogi yn y grôth, ac yn ôl llawer o flinder, yn esgor ar eu plentyn: ac felly y mae y rhai bydol; yn ôl hir amser o flinder a llafur mewn oferedd a gwagedd, nid esgorant ffrw∣yth yn y byd, ond pechod ac anwiredd. Oblegid dyna ddiwedd yr oferedd a'r gwagedd hynny, fel y dywaid ef yn yr vn llyfr, gan weiddi ar y cyfryw ddynion, Gwae chwi y rhai a dynnwch anwiredd a rheffynnau oferedd, Esa. 5.18.

42. Ac etto, i hyspysu 'r peth yn oleuach, y mae'n dwyn dau gyffelybiaeth arall, gan ddywedyd, eu bod hwy yn deor wyau aspiaid, ac yn gwau gwe∣odd y pryf coppyn; i arwyddoccau wrth y naill gy∣ffelybiaeth mor ofer ac mor orwag ydyw gofalon bydol, ac wrth y llall mor beryglus, ac mor enbyd ydynt. Y mae'r prŷf coppyn, fel y gwelwn ni, yn cymmeryd poen fawr, ac yn llafurio tros lawer o ddyddiau ynghyd i wau ci we, ac yn y man, pan ddarflo iddo, fe ddaw chwa o wynt, neu ryw beth arall, ac a'i tyrr hi 'n gandryll. Fel y gwr yn yr Efengyl a gymmerasai lawer o boen a gofal, yn pen∣tyrru cyfoeth ynghyd, yn tynnu i lawr ei hen ysgu∣boriau, ac yn adeiladu rhai newydd; a phan dda∣eth efe i ddwedyd wrth ei enaid Bydd lawen weithi∣an, y nos honno y ducpwyd ei enaid addiarno, ac yr aeth ei holl boen ef yn ofer, Luc. 12. Ac am hynny y dywaid Esay yn y fan yma, nad a gweoedd

Page 281

y gwehyddion hyn yn ddillad, am fod eu gwaith hwy yn anfuddiol.

43. Y gyffelybiaeth arall sydd yn dangos y perygl mawr a'r ofn. Oblegid, fel y mae'r aderyn a eiste∣ddo ar wiau neidr neu asp, wrth eu deor a'i torri hwy, yn esgor ar nythlwyth peryglus, i'w ddinistr ei hun: felly y mae y rhai sy yn eistedd ar oferedd a gwagedd y byd, megys ar wyau, medd Esay, yn deor o'r diwedd eu dinistr eu hun. A'r rheswm o hynny ydyw, fel y dywaid efe, Oblegid mai gwaith anwiredd sydd yn eu dwylaw. Lle y mae efe yn ta∣ro yn wastad ar yr vn tant, ac yn dangos nas gall dyn garu, a chanlyn yr oferedd yma, nac ymrwydo yn ei raffau (fel y mae'r ymadrodd) heb dynnu atto lawer o anwiredd â hwynt; hynny ydyw, heb fod ganddo ynghymmysg a hwynt lawer o bechod, a llawer o bethau i ddigio Duw: ac am fod hynny yn dyfod o bechod, ac yn lladd yr enaid, am hynny y mae Esay yn ei gyffelybu i nythaid o nadroedd yn lladd yr aderyn a'i dycco i'r byd. Ac yn ddiweddaf, y mae Moysen yn dwyn yr vn fath gyffelybiaethau, lle y mae efe yn dywedyd am ddynion ofer annuwi∣ol, O win-wydden Sodom y mae eu gwinwydden hw∣ynt; eu grawnwin sydd rawnwin bustlaidd, a'i grawn∣syppiau sy chwerwon, Gwenwyn dreigiau yw eu gwin hwynt, a gwenwyn yr aspiaid, yr hwn nid oes help rhagddo, Deut. 32.32. Wrth y cyffelybiaethau erchyll ffiaidd hyn y mynnai efe i ni ddeall, nad yw pleser hyfryd y byd yma, ond siommedigaethau, ac y ceid gweled ryw ddydd chwerwed a pheryccled ydynt hwy.

44. Y pedwerydd peth y sy i ni i'w ystyried, yw dangos pa fodd y gellir gwirio nad yw'r byd hwn a'i ddedwyddwch ddim ond gofid, a blinder. Ac er bod hynny yn ddigon amlwg, wrth yr hyn a ddy∣wetbwyd

Page 282

o'r blaen, etto (gan i mi addo) mi a'i he∣gluraf yma ychydig pellach wrth amryw ofidiau ne∣illduol. Ac ym mhlith llawer o ofidiau a allwn ni eu cyfrif yma, y cyntaf ac vn o'r rhai mwyaf ydyw, fyrred ac ansiccred ydyw pob llwyddiant yn y byd hwn. Och Dduw, ond gofid mawr yw hynny i wr bydol a fynnai fod ei ddifyrrwch a'i lwyddiant yn ddianwadal, ac yn barhaus? Eccl. 41.1. Oh an∣geu, mor chwerw yw meddwl am danat ti (medd y gwr doeth) i'r dyn a fyddo yn byw mewn heddwch yn yr hyn sydd ganddo; i'r gwr a fyddo dihelbul, a llwyddiannus ym mhob peth: Ni a welsom lawer o wŷr yn cael codiad, ac heb parhau ddeufis yn eu llwyddiant: Ni a glywsom sôn am lawer a briod∣wyd mewn llawenydd mawr, ac heb gael byw wyth∣nos yn eu dedwyddyd: Ni a ddarllennasom bethau dieither i'r defnydd yma, ac yr ydym ni beunydd yn gweled â'n llygaid lawer o esamplau o'r cyffelyb. Pa ddolur a gofid, dybygwch chwi, oedd i Alex∣ander mawr, wedi iddo mewn deuddeng mhlynedd orchfygu y rhan fwyaf o'r holl fyd, orfod arno fa∣rw pan oedd chwannoccaf i gael byw; a phan oedd i gymmeryd y llawenydd a'r diddanwch mwyaf o'i orfodaethau? Pa dristwch oedd i'r gwr goludog yn yr Efengyl, glywed dywedyd wrtho yn ddisymwth, Hac nocte, Y nos hon y dygir dy enaid oddiarnat? Luc. 12. Pa drueni a gofid gan lawer rhai bydol a fydd hyn, pan ddel attynt; y rhai sy yr awrhon yn adeiladu palasau teg, yn prynu tiroedd, yn pentyrru golud, yn cyrhaeddyd vchelswyddau, yn gwneu∣thur thur priodasau, yn clymmu cyfathrachon, megis pe na byddai byth ddiwedd ar y pethau hyn? Pa ddi∣wrnod tostur fydd hwnnw iddynt (meddaf) pan orffo arnynt adael y cwbl y maent hwy 'r awrhon yn eu hoffi 'n gymmaint? Pan droer hwy heibio, fel y gwneir â mulod Twysogion, pan ddelont i ben eu

Page 283

siwrnai: sef yw hynny, tynnu 'r tryssor oddiarnynt, ac heb adael iddynt hwy ond y cefnau briwedig? Obledgid, fel y gwelwn ni 'r mulod hynny ar hyd y dydd yn cael eu llawnbwn o drysor ar eu cefnau, a'i hulio â brethynnau gwychion teg; ond erbyn y nôs yn cael eu troi i stabl ddrwg, wedi briwo a blingo eu cefnau yn dwyn y trysor hwnnw: felly y mae'r cyfoethogion sy'n ymdaith yn y byd hwn yn llwy∣thog o aur ac arian, ac yn briwo eu cydwybodau yn ddrwg wrth eu dwyn hwy; yn cael dwyn eu llwyth oddiarnynt pan font feirw, a'i troi heibio, a'i cydwybodau cefnrhwd canthynt, i ystabl erchyll ffi∣aidd vffern a cholledigaeth.

45. Trueni a gofid arall sydd gyssylltedig a llwy∣ddiant y byd, yw yr gwrthbwys trwm o anfodlon∣rwydd sydd yn canlyn pob difyrrwch bydol. Ysty∣riwch bob dyfyrrwch yn y byd, ac edrychwch pa saws a geir gyd ag ef. Gofynnwch i'r rhai a bro∣fodd hynny fwyaf, ydynt hwy wedi cael eu bodlo∣ni, ai nad ydynt. Gydâ chyfoeth y daw llawer o ofn, a gofalon, fel y dangofwyd o'r blaen. Ynghyd a chodiad ac anrhydedd y mae pob math ar flin gae∣thiwed ac a ellir ei ddychymmyg: difyrrwch a phle∣ser y cnawd, er ei fod yn gyfreithlon ac yn honest, etto y mae S. Paul yn ei alw yn flinder yn y cnawd: ond os bydd yn gyssylltedig a phechod, y mae pob math ar ofidiau yn ei ganlyn yn ddeng mil mwy. 1 Cor. 7.28.

46. Pwy a feidr gyfrif gofidiau, a blinderau ein corph ni? cynnifer o glefydon, cymmaint o wen∣did, cymmaint o aflwydd, cynnifer o beryglon, ac sydd iddo? Pwy a feidr gyfrif gwyniau ein meddy∣liau ni, y rhai fy 'n ein blino ni, weithiau a digofaint, weithiau a thristwch, weithiau a chynfigen, weithi∣au a chynddaredd ac a gwylltineb? Pwy a ŵvr rifo pob gwrthwyneb, a phob echrys sydd yn dyfod i

Page 278

〈1 page duplicate〉〈1 page duplicate〉

Page 279

〈1 page duplicate〉〈1 page duplicate〉

Page 280

〈1 page duplicate〉〈1 page duplicate〉

Page 281

〈1 page duplicate〉〈1 page duplicate〉

Page 282

〈1 page duplicate〉〈1 page duplicate〉

Page 283

〈1 page duplicate〉〈1 page duplicate〉

Page 284

ni oddiwrth ein da? pwy a ŵyr rifedi y niweidion a'r anfodlonedd fy'n digwyddo i ni beunydd oddi∣wrth ein cymydogion? y naill yn ein dwyn ni i gy∣fraith am ein gwirdda cywir, a'r llall yn crlyn ar∣nom am ein bywyd: y trydydd trwy enllib yn dw∣yn ein henw da ni: un yn ein blino ni a chasineb, vn arall a chynsigen, vn arall a gweniaith, vn arall a thwyll, vn arall a dial, vn arall a cham dystiolaeth, ac vn arall a chyrch cyhoeddog ac a brwydr gyfa∣ddef. Nid oes cymmaint o ddyddiau ac o oriau yn ein bywyd ni, ac fydd o ofidiau a gwrthwyneb. Ac ym mhellach na hyn, y mae i'r drwg y rhagorfraint yma yn hytrach nag i'r da, yn ein bywyd ni; sef gallu o vn peth drwg ddadymchwel a boddi aneirif o bethau da ar vnwaith: fel megys pettai gan wr bod math ar ddedwyddwch ac a ellid i gael yn y byd, a bod vn daint iddo heb fod yn ei hwyl; ni allai yr holl ddifyrrwch arall mo'i wneuthur ef yn llawen. Ac o hynny y mae i chwi esampl oleu yn Haman vn o bencyngor y brenhin Ahasuerus: yr hwn, am nad oedd Mordecai yr Iuddew yn codi ar ei draed iddo, pan elai heibio, ac yn ei anrhydeddu ef, fel yr oedd eraill, efe a ddywedodd wrth ei wraig a i garedigion, nad oedd ei holl ddedwy∣ddwch arall ddim iddo, wrth hynny o wrthwyneb. Er maint gogoniant ei gyfoeth, ac amled ei feibion, a maint ei fawrhaad, a'i barch, a'i anrhydedd, a'i ragor, gyd a'r Brenhin a'r Frenhines, gorwch yr holl dywysogion, a gweision y Brenhin; ond (medd efe ei hun) nid yw hyn oll yn llessan i mi, tra fwyf fi yn geled Mordecai yr Inddew yn eistedd ym mhorth y Brenhin. Hest. 5.10.

47. Rhown at hyn hefyd y mawr echrys o dywy∣llwch dallineb y mae y rhai bydol yn byw yntho (am yr hyn y crybwyllais beth o'r blaen) yr hwn a gyffelybir yn gymmwys iawn i dywyllwch yr Aipht,

Page 285

yrhwn a ellid ei deimlo, gan yr hwn nis gallai neb weled ei gymydog, na neb weled ei waith, na neb weled ei ffordd. a'r fath hynny fy ar y tywy∣llwch y mae y rhai bydol yn rhodio ynddo; Y mae ganddynt lygaid, ond ni welant, medd Christ: sef yw hynny, er bod ganddynt lygaid i weled mat∣terion y byd hwn, etto y maent hwy yn ddeillion, am nad ydynt yn gweled y pethan a ddylent eu gwe∣led yn sicer, Mat. 13. Y mae plant y byd hwn yn gallach yn eu cenhedlaeth nâ phlant y goleuni, Luc. 16.8. Ond y callder hwnaw fydd ym mhethau 'r byd hwn, ym matterion y tywyllwch, nid ym mat∣terion y goleuni, yr hwn nid ydynt blant iddo: am nad yw'r dyn cnawdol yn deall nac yn gwybod y pe∣thau sydd o Dduw, 1 Cor. 2.14. Tramwywch tros yr holl fyd, ac chwi a gewch weled dynion cyn gra∣ffed eu golwg a'r eryr, mewn pethau daiarol; a'r vn rhai heb weled mwy na'r post, mewn pethau ne∣fol. Ac o hynny y daw y peth tostur ei ystyried a welwn ni beunydd, sef bod yn gwneuthur cymmaint cyfrif o gyfreithiau dynion, a chymmaint o ddir∣myg a diystyrwch ar orchymmynion Duw; a bod cymmaint o ymgais am dda bydol, ac heb feddyli∣eid am y da nefol; a bod yn cymmeryd cymmaint o boen tros y corph, a chyn lleied o ofal tros yr e∣naid. Yn ddiweddaf, os mynnwch chwi weled faint y dallineb y mae'r byd yn byw ynddo, cosiwch fel yr oedd S. Paul, wrth fyned o wr bydol yn Gristion da, a chenn ar ei lygaid, y rhai a orfu i Ananias eu tynnu ymaith, a'r rhai oedd yn cuddio ei olwg ef o'r blaen, pan oedd efe yn ei falchder ac yn nenn y byd Act. 9.

48. Heb law'r gosidian hyn oll, y mae etto cchrys arall, yr hwn mewn rhyw beth, sy fwy na'r llall: a hwnnw yw y rhifedi aneirif o demptasiwnau, ac o saglau, ac o hudoliaeth sydd yn y byd, yn tynnu

Page 286

dynion beunydd i golledigaeth. Y mae Athanasius yn scrifennu am S. Anthon y meudwy, ddarfod i Dduw ryw ddiwrnod ddatguddio iddo gyflwr y byd, ac efe a welai'r holl fyd trosto yn llawn rhwydau, ym mhob cornel iddo, a chythreuliaid yn eistedd wrthynt, i'w gwilied hwy. Y mae 'r Prophwyd Dafydd hefyd, i arwyddoccau 'r vn peth, sef bod cymmaint o faglau yn y byd hwn, yn dywedyd, Y glawia Duw ar yr annuwolion fag lau: hynny yw, efe a ddioddef i ddynion pechadurus syrthio mewn maglau: ac y mae y rhai hynny mor aml yn y byd, ac ydyw'r defnynnau glaw sydd yn syrthio o'r ne∣foedd, Psal. 11.6. Y mae pob peth gan mwyaf yn fagl angeu i'r dyn cnawdol calon-llaes: pob go∣lwg a welo, pob gair a glywo, pob meddwl a fe∣ddylio, ei ieuengtid, ei oedran, ei garedigion, ei elynion, ei barch, ei ammharch, ei gyfoeth, ei dlo∣di, ei gwmpniaeth, ei hawddfyd, ei adfyd, ei fwyd y mae'n ei fwytta, ei ddillad am dano: y mae pob peth yn fagl i dynnu i ddistryw y neb ni bo gwilia∣dwrus.

48. Ac o hyn yma ac o'r dallineb a ddywetpw∣yd o'r blaen, y daw 'r echrys diweddaf, a mwyaf o gwbl ac a all fod yn y bywyd yma; a hynny y∣dyw, hawsed gan y rhai bydol redeg mewn pechod. Oblegid gwir a ddywaid yr Scrythur lân, Pechod yw'r peth sy'n gwneuthur y bobl yn ofidus, Dihar. 14.34. lat. Ac etto mor hawdd gan bobl y byd bechu, a lleied matter ganthynt am bechu, y mae Job yn dangos, lle y mae efe yn dywedyd, wrth sôn am y cyfryw ddyn, ei fod efe yn yfed anwiredd fel dwfr, Job 15.16. hynny ydyw, mor hawdd, ac mor gyn∣nefin ac mor esmwyth y mae efe yn gwneuthur pob pechod ac a ddêl arno ei wneuthur; ac y mae dyn yn yfed dwfr pan fo arno syched. Y neb ni chretto yr hyn y mae lob yn ei ddywedyd, edryched ychydig

Page 287

wrtho ei hun, pa vn a wna 'r peth ai bod felly ai pei∣dio: rhodied allan i'r heolydd, ac edryched ar wei∣thredoedd dynion, a gweled eu hymarweddiad hwy; ac ystyried pa beth yr ydys yn ei wneuthur yn y si∣oppau, yn y neuaddau, yn y seneddau, yn y brawd∣leoedd, yn y palasau, ac ymmhob cyfarfod cyffredin; pa ddywedyd celwydd, pa enllibio, pa dwyllo sydd yno: ac efe a gaiff weled nad oes vn peth o'r pethau y mae dynion yn gwneuthur dim cyfrif o honynt, cyn lleied matter am ei wneuthur ac ydyw pechod; fo a gaiff weled gwerthu cyfiawnder, a gŵyro gwi∣rionedd, a chwilydd wedi ei roi heibio, ac vnion∣deb yn cael ei ddiystyru: fo a gaiff weled bwrw 'r gwirion yn euog, a rhyddhau'r hwn a fo euog, a chodi'r annuwiol, a darostwng y duwiol: fo a gaiff lawer o ladron yn ei blodau, a llawer occrwr yn dw∣yn rhwyfg, a llawer mwrdriwr a chribddeiliwr yn cael ei berchi a'i anrhydeddu, a llawer o ffyliaid mewn awdurdod, a llawer rhai heb ddim ynddynt, ond eu bod ar lun dynion, yn cael, er mwyn eu ha∣rian, eu gosod mewn swyddau mawr, i lywodraethu eraill: fo a gaiff glywed allan o enau pob dyn gan mwyaf, wagedd, ac oferedd, a balchder; ac enllib, a chynfigen, a thwyll, a ffuant, a gwagsawrwydd, a gwammalrhwydd, a chelwydd, a thyngu, ac anu∣don, a chabledd: yn ddiwedda, fo a gaiff weled y rhan fwyaf o ddynion yn eu llywodraethu eu hu∣nain wrth dynn en gwyniau eu hunain yn yr vn modd ac y mae anifeiliaid, nid wrth gyfraith cyfiawnder, a rheswm, a chrefydd, a rhinwedd dda.

50. Ac o hyn y canlyn y pummed pwngc y mae Christ yn ei ddangos yn y ddammeg hon, ac a adde∣wais inneu ei draethu yma: a hwnnw yw, Bod serch ar y byd hwn yn tagu pob dyn y mae'r serch hynny yntho, o'i holl fywyd nefol ac ysprydol: am ei fod yn ei lenwi ef o yspryd gwir wrthwyneb i yspryd

Page 288

Duw. Y mae 'r Apostol yn dywedyd, Pwy bynnag sy heb yspryd Christ ganddo, nid yw hwnnw yn eiddo Christ, Rhuf. 8.9. Ac mor wrthwyneb iw gilydd ydyw yspryd Christ ac yspryd y byd, fe ellir gwe∣led wrth ffrwythau yspryd Christ, y rhai y mae S. Paul yn eu rhifo at y Galatiaid, Gal. 5.22. sef yw y rhai hynny, Cariad, yr hwn yw gwreiddyn a mam pob gweithred dda; Llawenydd wrth wafa∣naethu Duw; Tangnefedd, neu lonyddwch meddwl ym mysg tymhestloedd y byd hwn; Dioddefgarwch mewn adfyd; Hirymaros, wrth ddisgwyl am ein gwobr; Daioni a chymmwynas-garwch, heb wneu∣thur niweid i neb; Cyweithasrwydd, mewn ymddy∣giad hawddgar; Mwyneidd-dra, pan roer achos i ddigio; Ffyddlondeb, yn cywiro ein haddewidion; Lledneisrwydd heb ryfyg; Ymattal oddiwrth bob drygioni; Diweirdeb, trwy gadw'r meddwl yn bur mewn coph glan difrycheu: Yn erbyn y rhai hyn, medd S. Paul, nid oes Cyfraith. Ac yn yr vn ben∣nod y mae efe yn yspysu beth yw yspryd y byd wrth ei wrthwyneb ffrwythau, gan ddywedyd, Amlwg yw gweithredoedd y cnawd, y rhai yw Torri priodas, godineb, aflendid, anlladrwydd, delw-addo∣liaeth, swyngyfaredd, casineb, cynnhennau, gwynfy∣dau, llid, ymryson, ymbleidio, haeresian, cynfigennau, llofruddiacth, meddwdod, cyfeddach, a chyffelyb i'r rhai hyn; am y rhai yr wyf yn rhagddywedyd wr∣thych, megis ac y rhagddywedais, na chaiff y rhai sy'n gwneuthur y cyfryw bethau etifeddu teyrnas Duw. Gal. 5.19.

51. Yma y gall pob dyn farnu am yspryd y byd ac yspryd Christ, ac wrth ei fwrw atto ei hun ef a all wybod amean pa vn o'r ddau sydd yntho, ai 'r naill ar llall. Y mae S. Paul yn rhoi i ni ddwy reol dlysion fyrrion, yn yr vn man i brofi hynny. Y gyntaf yw hon, Y rhai sy'n eiddo Christ a groes-hoe∣liasant

Page 289

y cnawd, a'i wyniau, a'i chwantau, Gwers. 24. Hynny ydyw, y maent hwy wedi marweiddio eu cyrph eu hunain yn gystal a'i bod yn ymdrech yn erbyn yr holl feiau a'r pechodau a ddywetbwyd o'r blaen, ac heb ymroi i wasanaethu eu trachwantau a'i temptasiwnau hwy. Yr ail rheol yw hon, Os ydym yn byw yn yr yspryd, rhodiwn hefyd yn yr yspryd, Gwers. 25. Hynny ydyw, bod ein hymddygiad ni a'r modd y bom ni yn rhodio yn arwyddo pa vn ydym ni ai byw ai meirw. Oblegid os bydd ein hymarweddiad ni a'n gwaith yn rhodio, yn ysprydol, sef yn gyfryw ac y dangosais o'r blaen wrth ffrwy∣thau 'r yspryd, yna 'r ydym ni yn byw yn yr ys∣pryd, ac y mae ein bywyd ni yn ysprydol: ond os ein gweithredoedd ni a fydd cnawdol, sef yn gyfryw ac y dangosodd S. Paul fod gweithredoedd y cnawd, yna cnawdol ydym ni, a meirw yn yr yspryd, ac nid oes i ni a wnelom â Christ, na chyfran yn nheyr∣nas nef. Ac am fod yr holl fyd yn llawn o'r gwei∣thredoedd cnawdol hynny, ac heb ddwyn dim ffrw∣ythau o yspryd Christ, nac yn gadael iddynt na thy∣fu na ffynnu ynddo, am hynny y mae'r Scrythur lan bob amser yn gosod Christ a'r byd megis yn elynion gwrthwyneb i'w gilydd.

52. Y mae Christ ei hun yn dywedyd, Na ddi∣chon ybyd dderbyn yspryd y gwirinedd, Joan 14.17. A thrachefn yn yr vn Efengylwr y dywaid, Nad oes nac efe, nac yr vn o'r eiddo ef o'r byd hwn, er eu bod yn byw yn y byd, Jo. 15.19. Ac etto ym mhellach yn ei daerddrud weddi at ei dad y dywaid, Y Tâd cyfiawn, y byd nid adnabu mo honot ti, Jo. 17.16, 25. Ac o'r achos hynny y mae S. Joan yn scrifennu: O char neb y byd, nid yw cariad y Tad ynddo ef, 1 Ioh. 2.15. Ac etto ym mhellach y dywaid S. laco, fod pwy bynnag ni wnêl ddim ond ewyllysio bod yn gyfaill i'r byd, ei fod ef yn elyn i Dduw, Iag. 4.4.

Page 290

Beth a ddywaid y rhai bydol wrth hyn? Y mae S. Paul yn dywedyd yn oleu y demnir y byd hwn, 1 Cor. 11.32. Ac y mae Christ ynteu yn bwrw at yr vn peth yn Efengyl Joan, ond yn fwyaf o gwbl, yn ei weithred ryfeddol, pan fu iddo wrth weddio at ei dad am bethau eraill, ddywedyd, Non pro mun∣do rogo, Nid wyfi yn gofyn na thrugaredd na maddeu∣ant tros y byd, ond i'r rhai a roddaist ti i mi allan o'r byd, Io. 17.9. Och, mor ofnadwy yw hyn y mae efe yn ei ddywedyd, nad ocdd efe yn gweddio tros y byd, ac ynteu yn Iachawdr i'r byd, ac yn oen Duw yr hwn sy'n dileu pechodau 'r byd, ac yn gwe∣ddio tros ei arteithwyr a'r rhai a'i croes-hoelient, ac etto 'r awrhon yn dieithro'r byd oddiwrth ei druga∣redd! Oh nad ystyriai y rhai bydol y pwngc yma yn vnig, ac ni fucheddent hwy, yn fy nhŷb i, mor ddiofn ac y maent!

53. A all neb, wrth hynny, ryfeddu pa ham y mae S. Paul yn gwaeddi mor ofalus arnom ni, Na fyddwch vn ddull â'r byd hwn, Rhuf. 12.2. A thra∣chefn, ar fod. i ni ymwadu ac ymwrthod a holl chwan∣tau'r byd, Tit. 2.12. A all neb ryfeddu pa ham y mae S. Ioan, yr hwn a wyddai gyfrinach a meddwl sanctaidd Christ yn y peth yma yn oreu o gwbl, yn dywedyd wrthym ni mor ddifrif, Na cherwch y byd, na'r pethau sy yn y byd, 1 Ioh. 2.15. Ac oni allwn ni na charu 'r byd, na chymmaint â bod yn vn ddull ag ef, tan boen bod yn elynion i Dduw, ac yn euog o ddamnedigaeth dragywyddol, fel y dywet∣pwyd o'r blaen: pa beth a ddaw o'r dynion hynny sydd nid yn vnig yn eu gwneuthur eu hunain yn vn ddull a'r byd, ac a'i orwagedd: ond hefyd yn ei ganlyn ef, ac yn ymgais ag ef, ac yn rhoi eu pwys arno, ac yn gwario eu holl boen a'i trafel arno.

54. Os gofynnwch chwi i mi yr achos pa ham y mae Christ yn casau ac yn ffeiddio'r byd gymmaint,

Page 291

y mae S. Ioan yn dywedyd i chwi, mai am fod yr holl fyd yn gorwedd mewn drygioni; am fod yspryd y byd yn wrthwyneb i yspryd Christ, fel y dywet∣pwyd vchod; am ei fod yn dysgu balchder, a gor∣wagclod, a chwant i anrhydedd, a chynfigen, a di∣al, a malais, a digrif-chwant y cnawd, a phob math ar orwagedd ac oferedd, 1 Ioan. 5.15. a Christ yn∣teu o'r gwrthwyneb yn dysgu gostyngeiddrwydd, a llariciddra, a maddeu i'n gelynion, a dirwest, a di∣weirdeb, a hir-maros, a marweiddio'r corph a'i drachwantau, a dwyn y groes, a diystyru pob di∣fyrrwch bydol; am fod y byd yn erlid y duwiol, ac yn mawrhau'r drygionus; am ei fod yn diwreiddio pob rhinwedd dda, ac yn plannu pob drwg; ac yn ddiweddaf, am ei fod yn cau'r drysau yn erbyn Christ pan guro, ac yn tagu ac yn mygu'r galon y bo yn ei meddiannu, Datc. 3.20.

55. Ac am hynny, i ddibennu y rhan yma gan fod y byd hwn fel y mae, mor orwag ac mor ofer, mor dwyllodrus, ac mor beryglus; gan ei fod yn elyn cyfaddef i Grist, a chwedi ei ysgymmuno a'i ddam∣no i bwll vffern; gan ei fod (fel y dyweid tad duwi∣ol arall) yn arch trallod a thrafferth, yn ysgol gor∣wagedd, yn frawdle twyll, yn labyrinth pob amry∣fusedd; gan nad yw ddim ond ynialwch diffrwyth, a maes carregog, a gwâl fawlyd, a garwfor tymm∣hestlog; gan nad yw ond llwyn yn llawn drain, a gweirglodd yn llawn o nadroedd, a gardd dêg heb ddim ffrwyth ynddi, ac ogof yn llawn o ddreigiau gwenwynig angheuol; gan nad yw (fel y dangosais) ond ffynnon pob gofid ac echrys, ac afon o ddagrau, a chwedl dychymmyg yn llawn ffug, a gwallgof ac ammwyll hyfryd; gan nad oes yn lla∣wenydd y byd hwn, (fel y dywaid S. Aw∣stin) ddim ond hyfrydwch a difyrrwch ffu∣giol gau, a gwir ârwder, a thristwch diammau, a

Page 292

phleser petrus, a llafur blinedig, ac esmwythdra of∣nadwy, a gofid a thrueni tôst, a gobaith ofer o dded∣wyddyd; gan nad oes ganddo ddim ynddo, (fel y dywaid S. Ioan aur∣enau) ond wylofain, a chwilydd, ac edifeirwch, a gwradwydd, a phrudd∣der, ac esgeulusdra, a llafur a lludded, a dychryn∣faau, a chlefydau, a pechodau, ie, a marwolaeth ei hun; gan fod esmwythder y byd yn llawn cyfyng∣der, a'i ddiogelwch heb sail iddo, a'i ofn heb achos o hono, a'i lafur heb ffrwyth oddiwrtho, a'i dri∣stwch heb fudd oddiwrtho, a'i ddeisyfiadau heb ffyn∣niant, a'i obaith heb na thâl na gwobr am dano, a'i ofid a'i drueni heb help rhagddynt; gan fod y dry∣gau hyn, a mil ychwaneg yntho, ac nas gellir cael yn dim twrn da oddiwrtho; pwy a adawai ei stom∣mi â'r cyfryw hudoliaeth, a'i hudo â'r fath oferedd yn ôl hyn? Pwy a ad i gariad ar goegbeth mor ddi∣ddim ac ydyw'r byd, ei rwystro oddiwrth ardder∣chog wasanaeth Duw? A hynny allai fod yn ddigon i wr rhesymol, i ddangos nad yw y rhwystr yma ond rhy wann i attal neb rhag gwasanaethu Duw.

56. Ond etto, er mwyn cywiro fy addewid a wneuthum yn nechreuad y bennod hon, y mae gen∣nyf air neu ddau etto, i ddangos pa fodd y mae i ni ochelyd perygl y byd hwn, a'i arfer a'i drin ef er llês a budd i ni ein hunain. Ac am y cyntaf, pa fodd y mae i ni ochelyd y peryglon, gan fod ynddo cym∣maint o rwydau ac o faglau ac a ddywetpwyd o'r blaen; nid oes i ni vn ffordd i wneuthur hynny, ond gwneuthur fel y bydd yr adar yn gwneuthur i geisio gochel maglau peryglus yr adarwr: hynny ydyw, ymddyrchafu i fynu i'r awyr, ac felly hedeg vwch law'r holl faglau. Gwaith ofer yw tanu rhwyd yngo∣lwg perchen adain, a'r peth a all ehedeg, Dih. 1.17. Yr yspiwyr aeth i Jericho, er maint o faglau a oso∣dodd

Page 293

y gelynion iddynt, etto hwy a ddiangasant rhag y cwbl am eu bod yn cerdded pennau 'r mynyddoedd medd yr Scrythur lan: ac ar hynny y mae Origen yn bwrw, pan yw yn dywedyd, nad oes vn ffordd i ochel peryglon y byd hwn, ond trwy rodio ar y mynyddoedd a chanlyn y prophwyd Dafydd, sydd yn dywedyd, Derchafaf fy llygaid i'r mynyddoedd o'r lle y daw fy nghymmorth; a'm handdiffyn; i ge∣isio gochel maglau'r byd hwn, Psal. 121.1. ac yna y gallwn ddywedyd gyda'r vn Dafydd, Ein henaid a ddiangodd fel aderyn o fagl yr adarwyr, Ps. 124.7. Rhaid i ni ddywedyd gyda S. Paul, Ein hymarwe∣ddiad ni sydd yn y nefoedd. Ac yna nid rhaid i ni ofni ond ychydig rhag dim twyll a pherygl sydd ar y ddaiar, Phil. 3.20. Oblegid, fel nad oes dim go∣baith gan yr adarwr y gall ddal yr aderyn, oni all ei hudo ef ryw fodd i ddisgyn ar y ddaiar; felly nid oes modd yn y byd i'r cythraul i'n rhwydo ninnau, ond trwy ddwedyd wrthym ni fel y dywedodd wrth Ghrist, Bwrw dy hun i lawr; sef yw hynny, dis∣gyn ar yr abwyd a osodais i ti: bwytta ac ŷf hwynt: bwrw dy serch arnynt: blysia hwynt; a'r cyffelyb. Mat. 4.

57. Y sawl a fynno ochel y tentasiwn goleu yma, trwy ddiystyru hudoliaeth yr abwyd hwnnw: trwy chedeg trostynt; trwy osod cwbl o'i serch a'i fe∣ddwl ar fynyddoedd llawenydd nefol a thragywy∣ddoldeb; fe fydd hawdd iddo ddiange oddiwrth bob perygl ac enbydrwydd. Yr oedd y brenhin Dafydd wedi myned trwyddynt hwy i gyd, pan ddywedodd efe wrth Dduw, Pa beth sy gennifi yn y nefoedd o∣nid tydi? a pha beth a ewyllysiais ar y ddaiar gyda thydi? Pallodd fy nghnawd a'm calon o hiraeth am danat ti: Ti yw nerth fy nghalon a'm rhan (ô Dduw) yn dragywydd, Psal. 73.25.

Page 294

58. Yr oedd S. Paul ynteu wedi myned trwy'r holl beryglon hyn, pan ddywedodd efe ei fod ef wedi ei groes-hoelio i'r byd, a'r byd iddo ynteu, a'i fod yn cyfrif holl gyfoeth y byd hwn yn dom: ac er ei fod yn byw yn y cnawd, etto nad oedd efe yn byw yn ôl y cnawd. A phe dilynem ni yr esampl ar∣dderchog yma, trwy ddirmygu a diystyru gorwa∣gedd ac oferedd y byd hwn, a gosod ein meddyliau ar ardderchog olud teyrnas Dduw, yr hon a ddaw; ni allai holl faglau'r cythraul ddim i'n herbyn ni yn y bywyd hwn, Gal. 6.14. Phil. 3.8. 2 Cor. 10.3.

59. Ynghylch yr ail pwngc, pa fodd y mae i ni arfer cyfoeth a golud y byd hwn er budd a mantais i ni ein hunain; y mae Christ wedi gosod y modd yn oleu gar ein bron ni, Gwnewch i chwi gyfeillion o'r golud anghyfion, Luc. 16.9. Fe allasai'r glŵth go∣ludog ddiange rhag ei boeni, a'i wneuthur ei hun yn wr dedwydd, trwy help ei olud bydol, pes mynna∣sai; ac felly y gallai filoedd ac sy yr awrhon yn fyw, ac a ant i vffern o achos eu golud. Och dduw na chymmerai ddynion rybudd, a bod yn gall, tra ca∣ffont amser. Y mae S. Paul yn dywedyd, Na thw∣yllwch mo honoch eich hunain; y peth a hauo dyn, hyn∣ny a fed efe, Gal. 6.7. Pa gynhauaf cnydfawr wrth hynny, a allai wyr cyfoethogion ei ddarparu iddynt eu hunain, pes mynnent, a hwythau a chym∣maint ô hâd ganddynt, a chymmaint o dir i'w hau ynddo yr ydys yn ei gynnyg iddynt bennydd? Pa ham na feddyliant hwy am yr byfrydgân gynhauaf yma? Deuwch chwi fendigedigion fy Nhâd, etife∣ddwch y deyrnas a barottowyd i chwi; canys mi a fum newynog, a chwi a roesoch i mi fwyd, mi a fum sy∣chedig a chwi a roesoch i mi ddiod: mi a fum yn no∣eth, a chwi a'm dilladasoch i, Mat. 25.34. Ac o∣nid oes ganthynt fatter am hynny, pa ham nad ydynt

Page 295

hwy yn ofni y farn ofnadwy a gyhoeddir yn eu her∣byn am y gwrthwyneb; Iddo 'n awr, chwi gyfoe∣thogion, wylwch ac vdwch am eich trueni sydd yn dy∣fod arnoch? Jac. 5.1.

60. Y mae 'r Tad duwiol Ioan o Ddamascus yn adrodd dammeg o'r eiddo Barlaam, i'r perwyl yma. Yr oedd rhyw ddinas neu wlad, medd efe, lle'r ar∣ferai'r bobl o ddewis brenhin arnynt of fysg y rhai tlottaf o'r bobl, a'i ddyrchafael i anrhydedd mawr, a golud, a hyfrydwch tros amfer; ond yn ôl ennyd o amser, pan flinent arno, eu harfer oedd gyfodi yn ei erbyn a'i yspeilio am ei holl ddedwyddwch hyd yn oed y dillad oddiam ei gefn, ac felly i yrru ef yn wr deol i ynys mewn gwlad bell; lle byddai raid iddo, gan na chai ddwyn dim gydag ef, fyw mewn trueni ac adfyd mawr, ac mewn caethiwed tôst yn dragywydd. A rhyw vn o'r brenhinoedd hynny ryw amser a ystyriodd yr arfer honno, (oblegid y lleill i gyd, er eu bod yn gwybod yr arfer, er hyn∣ny o herwydd eu hesgeulusdra a'i hyfrydwch pre∣sennol, ni wnaethant ddeunydd yn y byd o honi) a thrwy gyngor da, a fu ofalus am ochel y trueni a'r adfyd hwnnw, ac a wnaeth yn y modd yma: Efe a arbedodd swmm mawr o arian beunydd allan o'i or∣modedd a'i oferdraul, ac felly a yrrodd drysor mawr yn ddirgel o'i flaen, i'r ynys yr oedd efe beu∣nydd mewn perygl o gael ei yrru iddi. A phan ddaeth yr amser y bwriasant hwy ef allan o'i deyr∣nas, a'i droi ymmaith yn noeth, fel y gwnaethent â'r llaill o'r blaen; efe a aeth i'r ynys honno yn lla∣wen iawn ac yn hyderus, lle yr oedd ei dryssor ef wedi ei yrru o'r blaen, ac a gasodd ei dderbyn yno mewn gorfoledd mawr, a'i osod yn y man mewn mwy o ogoniant a pharch nag y bu••••••i ynddo erio∣ed o'r blaen.

Page 296

61. Y mae 'r ddammeg ymma yn tynnu yn agos at yr hon a adroddodd Christ am y goruchwiliwr drwg afradlon, ac y mae yn dysgu i ni gymmaint ac fy raid ei ddywedyd ar hyn o amser yn y pwngc yma. Oblegid, y ddinas neu'r wlad hono yw'r byd presenol hwn, yr hwn sydd yn codi rhai tlodion i awdurdod; sef yw hynny, cyfryw rai ac a ddae∣thant yn noethion i'r bywyd yma, ac sydd yn ddi∣symwth, pan font yn meddwl leiaf am hynny, yn cael eu tynnu i lawr drachefn, a'i gyrru yn noethion iw beddau, ac felly eu danfon i fyd arall, lle ni chant ond ychydig ffafor, oni ddygant dryssor gyda hwynt, call sydd yn darparu ym mlaen llaw rhac y gofid hwnnw, yw'r hwn, yn ôl cyngor Christ, sydd yn gwneuthur ei oreu ar ro tryssor i gadw yn y nef er∣byn dydd ei farwolaeth, pan fo dir iddo gael ei dde∣ol oddiyma yn noeth, fel y gwnaed â holl frenhino∣edd y wlad honno: a'r amser hynny, os eu gwei∣thredoedd da fydd yn eu canlyn (fel y mae Duw yn addaw) yna y byddant hwy ddynion happus, ac y gosodir hwy mewn mwy o ogoniant o lawer, nag a allodd y byd erioed i roi iddynt. Ond os hwy a ddoant heb olew yn eu lampau, nid oes iddynt ddim iw ddisgwyl ond, Nid adwaen i mo honoch: a phan adwaener hwynt, Ewch felldigedig i'r tân tragwyddol. Datc. 14.13. Mat. 25.

Page 297

PEN. IV. Am y pedwerydd rhwystr, yr hwn yw gormodd hyderu ar drugaredd Duw.

Y Mae rhyw fath ar ddynion yn y byd, y rhai ni chymmerant ddim poen i feddwl am y rhwy∣strau o'r blaen, nac i'w hadrodd; ond sydd ganddynt lwybr byrrach, ac esmwythach yn en tŷb hwy; a hwnnw yw, rhoi ewbl o'r peth ar gefn Christ, ac atteb i ba beth bynnac a ddyweder wrthynt, a'r vn ymadrodd hwn, Y mae Duw yn drugarog. Rhag y gwŷr hyn y gall Christ achwyn gyd a'r Prophwyd a dywedyd, Y pechaduriaid a adeiladasant ar fy nghefn i ac a ystynnasant en hanwiredd, Psal. 129.3. Lat. Wrth y geiriau hynny y gallwn ni weled bwrw ar∣nom ni mai adeiladu ar gesn Duw yr ydym, wrth ystyn ein hanwireddau trwy obeithio cael trugaredd gan Dduw. Ond beth sy'n canlyn? A ddioddef Duw hynny? Na wna ddim: Oblegid dyma 'r ge∣iriau syn 'n canlyn nessaf, Yr Arglwydd cysiawn a dyrr yddfau pechaduriaid. Ac yn y geiriau hynny y mae dau ddrwg ddamwain gwrthwyneb i'r ddau esmw∣ythdyb o'r blaen. A oes yn dy fryd di oh ddyn, ystyn dy anwiredd, a pharhau yn dy bechod o her∣wydd bod Duw yn drugarog? Cofia ei fod ef yn gyfiawn hefyd, medd y Prophwyd. Wyt ti wedi myned ar gefn Duw, i wneuthur yno dy nŷth i be∣chu? Ymogel; oblegid ef a'th dynn di i lawr dra∣chefn, ac a dyrr dy wddf di, oni edifarhei di: ob∣legid mewn gwirionedd, ni ellir gwneuthur mwy cam â Duw na dywedyd mai efe yw sail ein drwg fywyd ni a'n pechod, ac ynten wedi colli ei fywyd ei hun er mwyn diffodd pechod.

Page 298

2. Ond chwi a ddywedwch; Onid ydyw Duw wrth hynny yn drugarog? Ydyw yn wir (frawd an∣wyl) y mae Duw yn dra thrugarog, or fath druga∣roccaf, ac nid oes na diben na mesur ar ei drugaredd ef. Trugaredd ei human ydyw efe; ei naturiaeth ef ai hanfood yw trugaredd, ac ni all efe beidio a bod yn drugarog, mwy na pheidio a bod yn Dduw. Ond er hynny, fel y dywed y Prophwyd o'r blaen, y mae efe yn gyfiawn hefyd. Ni wasanaetha i ni feddwl cymmaint am ei drugaredd ef a gollwng ei gyfiawn∣der ef yn angof. Y mae ein Harglwydd ni yn ddaio∣nus ac yn fwynaidd, ond er hynny y mae efe yn vni∣on ac yn gyfiawn hefyd, medd Dafydd: ac yn yr vn man, Holl lwybrau'r Arglwydd ydynt drugaredd a gwirionded. Ac wrth esponi y geiriau hyn, y mae Bernard dduwiol mewn rhyw bregeth, yn dywedyd fel hyn; Y mae dau droed i'r Arglwydd, ac â'r rhei'ny y mae efe yn cerdded ei ffyrdd; a'r ddeu∣droed hynny yw trugaredd a gwirionedd; ac y mae Duw yn gosod y ddeudroed hyn ar galonnau y rhai a ymchwelant atto ef, ac y mae yn rhaid i bob pe∣chadur a dro yn ddiffuant at yr Arglwydd, ymaflyd yn dynn yn y ddeudroed yma. Oblegid pe mewn trugaredd yn vnig yr ymaflai efe, a gadael heibio wirionedd a chyfiawnder, ef a ai i golledigaeth trwy ormodd hyder: ac o'r tu arall, ped ymaflai ef mewn cyfiawnder yn vnig, heb drugaredd; efe a ai i go∣lledigaeth trwy anobaith. Am hynny, i gael bod yn gadwedig, y mae yn rhaid iddo gwympo i lawr yn ostyngedig, a chusanu'r ddeudroed hyn; fel y gallo, o achos cyfiawnder Duw, ddal ofn gantho; ac o achos ei drugaredd ef, gymmeryd gobaith. Ac mewn mann arall y dywaid, Dedwydd yw'r enaid y gosododd yr Arglwydd Jesu Grist ei ddeudroed arno. Ni cha∣naf

Page 299

i ti farn yn vnig, na thrugaredd chwaith yn vnig, (oh fy Nuw) ond mi a ganaf i ti gydâ'r Prophwyd Dafydd, drugaredd a barn ynghyd: ac nid anghofi∣af byth dy gyfiawnderau hynny, Psal. 101.1.

3. Y mae Sainct Awstin yn trin y pwngc yma yn dra godidog mewn amryw fannau o'i waith. Ysty∣ried y rhai sy yn hoffi trugaredd a mwyneidd-dra'r Arglwydd yn gymmaint, ystyriant, meddaf ac of∣nant ei gyfiawn de•••• ef hefyd. Oblegid fel y dy∣waid y Prophwyd, y mae Duw yn fwynaidd ac yn gyfiawn, Psal. 25.10. Psal. 145.17. Ai da gen∣nyti ei fod ef yn fwynaidd? Ofna hefyd ei fod yn gyfiawn. Megis Arglwydd mwynaidd y dywedodd efe, Mi a dewais â sôon wrth eich pechodau chwi; ond megis Arglwydd cyfiawn y dywaid ef, Y dych chwi yn tybiaid y tawafi byth, Psa. 50.21. Y mae Duw yn drugarog ac yn llawn trugaredd, meddwch chwi; a siccr iawn yw hynny; ie, ac yn anghwa∣neg i hynny, y mae ef yn cyd-ddwyn yn hir, ac yn ymarhous: ond er hynny, ofnwch yr hyn sy yn ni∣wedd y wers honno, Et verax, sef yw hynny, y mae efe yn vnion ac yn gyfion hefyd. Y mae dau beth y mae ar bechaduriaid berygl oddiwrthynt; y naill, rhag gobeithio gormodd, yr hyn yw gormodd hy∣der; a'r llall, rhag gobeithio rhy fychan, yr hyn yw anobaith. A phwy yw'r hwn a dwyllir trwy obeithio gormodd? yr hwn sy'n dywedyd wrtho ei hun, Y mae Duw yn Ddaw daionus, ac yn Dduw trugarog; ac am hynny mi a wna'r peth a fynnwyf fy hun. A pha ham hynny? Amfod Duw yu Dduw trugarog, yn Dduw daionus ac yn Dduw addfwyn rhywiogaidd. Y rhai hyn sydd mewn perygl wrth obeithio gormodd. A phwy yw y rhai sy mewn perygl trwy anobaith, a gobeithio rhy fychan? Y rahi sy'n gweled eu pechodau vn dost ac yn orthrwm, ac yn tybieid fod yn ammhossibl iddynt bellach gael

Page 300

maddeuant, ac am hynny a ddywedant ynddynt eu hunain, wele, gan ein bod ni yn golledig, ac yn rhaid i ni fyned i vffern, pan waeth i ni er gwneuthur y peth a fynnom yn y bywyd yma? Y rhai hyn y mae anobaith ac anhyder yn eu llâdd, a'r llaill y mae go∣baith a gormodd hyder yn eu distrywio. Pa beth gan hynny y mae Duw yn ei wneuthur i geisio ynnill y ddeufath hyn? wrth yr hwn sy mewn perygl trwy obeithio gormodd y dywaid, Na ddywed ynot dy hun, Mawr yw trugaredd Duw: ef a faddeu liosow∣grwydd fy mhechodau i, oblegid y mae trugaredd a digofaint yn dyfod oddiwrtho ef, a'i ddigofaint ef a orphywys ar bechaduriaid, Eccles. 5.6. Ac wrth yr hwn sy mewn perygl o herwydd anobaith a gormodd hyder, y dywaid, Pa bryd bynnag y bo 'n edifar gan bechadur ei bechod, mi a ollyng af dros gôf ei holl an∣wiredd ef, medd yr Arglwydd, Ezec. 18.21, 22. A hyd yma y mae geiri∣au Sainct Awstin, heb law llawer ych∣waneg y mae ef yn ei ddywedyd yn y fan honno, ynghylch mawr berygl ac ynfydrwydd y rhai sy o hyder ar drugaredd Duw yn parhau mewn buchedd annuwiol.

4. Rheswm gwan ac anrhesymol iawn, yw dywe∣dyd, O herwydd bod Duw yn drugarog, ac yn hir∣ymarhous, am hynny mi a gamarferaf ei drugaredd ef, ac a barhâaf yn fy annuwioldeb. Nid felly y mae'r Scrythur lân yn dysgu i ni ymresymmu, ond yn y gwrthwyneb yn vnion: fef fal hyn Y mae Duw yn drugarog, ac yn disgwyl i mi droi atto; a pho hwyaf y mae efe yn disgwyl wrthyfi, tostaf fydd ei ddial a'i gospedigaeth ef pan ddelo, os myfi a esgeu∣lusaf ei ddioddefgarwch ef: ac am hynny mi a ddy∣lwn yn ddiattreg dderbyn a chroesawu ei drugaredd ef. Felly mae Sainct Paul yn ymresymmu, ac yn dywedyd. Wyt ti yn diystyru glud ei ddaioni ef, a'i

Page 301

ddioddefgarwch, a'i ymaros? Oni wyddost ti fod da∣ioni Duw yn dy dywys di i edifeirwch? Ond yr wyt ti trwy dy galedrwydd a'th galon ddiedifeiriol, yn try∣sori i ni dy hun ddigofaint, erbyn dydd y digofaint, a ddatguddiad cyfiawn farn Duw, Rhuf. 2.4, 5. Yn y geiriau hyn y mae Sainct Paul yn arwyddoccau mai po hwyaf y dioddefo Duw trwy ei hirymaros, i ni fyw yn ein hannuwioldeb, mwy yw'r pentwr dial y mae efe yn ei gasglu ynghyd i'n herbyn ni, os ni a barhawn yn gyndynniog yn ein pechodau. A chydâ hyn y mae Sainct Awstin yn ystyried peth a∣rall ofnadwy ac arswydus iawn; a hynny yw, Os cynnyg ef i ti râs heddiw medd Sainct Awstin ni wyddost ti pa vn a wna efe ai ei gynnyg i ti yforu, ai nas gwna. Os rhydd ef i ti dy hoedl a'th gôf yr wythnos yma, ni wyddost ti pa vn a wnai ai cael ei fwynhau yr wythnos nesaf, ai nas cai.

5. Y mae 'r Prophwyd sanctaidd wrth ddechren 'r Drydydd Psalm ar ddeg a thriugain, lle mae efe yn dangos mor beryglus yw llwyddiant y rhai annu∣wiol; megis yn rhyfedd gantho, yn y geirian, Ob, Mor ddaionus yw Duw i Isracl, sef i'r rhai glan o galon, Psal. 73.1. ac etto yn yr holl Psalm nid yw efe yn gwneuthur dim ond dangos mor dost yw cy∣fiawnder Duw yn erbyn yr annuwiol, hyd yn oed yr amfer y bo efe yn rhoi iddynt fwyaf llwyddiant a golud bydol: ac fel hyn y mae efe yn diweddu, Wele, difethir y rhai a bellâant oddiwrthyt: torraist ymmaith bob vn a butteinin oddiwrthyt, Gwers. 27. Wrth yr hyn yr arwyddocceir, er daied fyddo Duw wrth y cyfiawn, etto nad yw hynny ddim ym∣wared i'r annuwiol, gan fod yn ddir iddynt dder∣byn dial cyfiawn ar ei law ef, ynghanol y trugare ddau mwyaf a ddangoser i r rhai Duwiol. Y. mar llygaid yr Arglwydd ar y rhai cysiawn (medd yr vn

Page 302

Prophwyd) a'i glustian yn agored i'w llefain hwynt: and y mae wyneb yr Arglwydd yn erbyn y rhai a w∣na ddrwg, i dorri eu coffa hwy oddiar y ddaiar, Psal. 34.15.

6. Hen arfer prophwydi twyllodrus (yr hon a wrthwynebai Brophwydi Duw â'i holl egni) oedd lefain, Heddwch heddwch, wrth yr annuwiol: ie yr amser nad oeddid yn amcanu dim iddynt, ond perygl, a chleddyf, a distryw, fel yr oedd y gwir Brophwy∣di yn dywedyd iddynt, ac fel y digwyddodd, Jer. 6.14. Am hynny y mae 'r Prophwyd Dafydd yn rhoi i ni reol odidog sicer ddiammau, i lywodraethu ein gobaith a'n hyder â hi, Aberthwch ebyrth cyfi∣awnder, a gobeithiwch yn yr Arglwydd, Psal. 4.5. Ac a hynny y cyttuna Sainct IO. AN, pan yw yn dywedyd, Os ein calon a'n cydwybod ni 'n condemna am ein drwg fuchedd, y mae gennym hyder ar Dduw: fel pe dywedai vn, Os ein calon a fydd euog o fu∣chedd ddrwg annuwiol, a niunau wedi rhoi ein bryd ar barhau ynddi; yna ofer fydd i ni hyderu ar dru∣garedd Duw, a ninnau yn rhwym i gyfiawn farn Duw am ein hannuwioldeb. 1 Ioan. 3.21.

7. Y mae yn dra rhyfedd ac yn ofnadwy iawn y∣styried, fel yr ymddug. Duw tu ac at ei garedigion euaf yn y byd, pan wnaent yn ei erbyn ef trwy bechu; mor hawdd y newidiai ef ei wynebpryd; mor fuan yr ymadawodd a'i cyfeillach; mor fanwl y cyfrisodd a hwynt; ac mor dôst y cospodd efe hw∣ynt. Yr Angylion, y rhai a dangosasai efe cym∣maint gofal a chariad yn eu creu, ac i'r rhai y rhoesai gynnifer o freiniau arbennig, o bob math ar berffei∣thrwydd, hyd oni wnaeth efe hwynt agos yn Ddu∣wiau; ni wnaethant hwy ond vn pechod, Balchder, yn erbyn ei fawredd ef, a hynny ar feddwl yn vnig, fel y tybia'r deseinwyr; ae etto yn y man fe droed yr holl ewyllys da a'r cariad hwnnw yn gysiawn∣der,

Page 303

a hynny cyn dosted, ac y taslwyd hwy i lawr i boenau tragywyddol heb brynedigaeth, mewn cadwynau tragywydd, i ddioddef angerdd tân v∣ffern, a thywyllwch annioddef. 2 Pet. 2.4.

8. Wedi hynny fe wnaeth Daw iddo ei hun gy∣faill arall ogig a gwaed, yr hwn oedd ein tâd Addaf, ac a roes hwnnw ym mharadwys, lle'r oedd Duw megis yn cyttal ag ef, mor gariadus gyfeillgar, ac y mae'n dra rhyfedd ei ystyried: efe a alwai arno, ac a chwedleuai ag ef, ac a wnaeth holl greaduriaid y byd yn ddarostyngedig iddo; ef a'i dug hwy i gyd ger ei fron ef, fel y byddei iddo ef ac nid i Dduw, roi henwau arnynt hwy: ef a wnaeth iddo gymmar a phriod, ac a'i bendithiodd hwy ill dau; ac a ddangosodd bob arwydd o'i gariad tu ac atto, ac a allai fod. Ond beth a ddaeth ar ol hyn? Ni wnaeth Addaf ond vn pechod, a hwnnw trwy an∣nog vn arall, ac heb fod o bwys mawr mo hono, fel y tybiai reswm dyn; dim ond bwytta o ffrwyth y pren gwaharddedig, ac etto er cynted y gwnaeth efe hwnnw, fe dorrodd cwbl o'r gyfeillach rhwng Duw ag ef, ac ef a wthiwyd allan o Baradwys, ac a ddamniwyd i ofid ac echrys tragywyddol a'i holl hi∣liogaeth i golledigaeth tragywyddol, ac ynteu hefyd, oni buasai iddo edifarhau. Ac mor dost y cyflawnir y farn honno, y mae yn ddigon amlwg wrth fod a∣neirif riallu o bobl, sef holl genedl dyn, yn cael am y pechod hwnnw eu taflu i lawr i anhydraeth boenau vffern: ond yn vnig yr ychydig hynny a brynwyd wedi hynny trwy ddyfodiad Mab Duw ei hun, yr ail berson yn y drindod, i wared o'r nef, i gymme∣ryd ryd cnawd dyn arno; a thrwy ei ddioddefaint ann∣rhaethadwy ef a'i farwolaeth yn y cnawd hwnnw.

9. Yr oedd Moysen ac Aaron, dau ryfeddod y byd, mewn awdurdod oruchel a ffafor gyda Daw; yn gymmaint ac y gallent hwy gael pethau mawrion

Page 304

ar ei law ef iddynion eraill: ac etto pan ddigiasant hwy Dduw vnwaith eu hunain wrth ddyfroedd y gynnen yn anialwch Sin, am iddynt ammeu ychy∣dig am y gwrthiau a addawsai Duw iddynt, ac felly dianrhydeddu ei fawredd of gar bron y bobl, fel y mae efe yn dywedyd; hwy a geryddwyd yn y man yn llyoun am hynny; ac er iddynt edifarhau o'i calonnau am y pechod hwnnw, ac felly cael maddeu∣ant am y bai ar euogrwydd, etto fe roed arnynt gospedigaeth drom am dano: a hynny oedd, na chaent hwy eu hunain fyned i mewn i wlâd yr adde∣wid, ond bod yn rhaid iddynt farw pan ddoent o few golwg iddi. Ac er iddynt ymbil â Duw yn daer ac yn ddifrif am gael maddeu 'r penyd hwnnw, etto ni fedrent mewn vn modd gael maddeuant ar ei law ef, ond efe ai hattebai hwy bob amser, Gan i chwi fy nianrhydeddu i ger bron y bobl, chwi a fy∣ddwch feirw o'r achos, ac ni chewch chwi fyned i mewn i wlad yr addewid. Deut. 32.50, 51.

10. Ond mawr oedd ssasor Saul gydâ Duw, pan ddewisodd efe ef i fod yn frenhin cyntaf ar ei bobl; a pheri i Samwel y Prophwyd ei anrhydeddu ef yn gymmaint, a'i enneinio ef yn dywysog ar etifeddi∣aeth Duw ei hun, fel y mae efe yn ei galw hi? pan ganmolodd ef yn gymmaint, a chymmeryd gofal mor ddichlyn trosto? Ac etto wedi hynny, am iddo dorri gorchymmyn Duw, trwy gadw peth o an∣rhaith y rhyfel yr hyn a ddylasai efe ei ddistrywio; ie, er iddo eu cadw i wneuthur aberth i Dduw, fel y oedd efe yn cymmeryd arno: er hynny fe a'i rho∣ddes Duw of heibio yn y man, ac efe a ddifreini∣wyd o'i anrhydedd, ac a roddwyd i fynu i yspryd drwg, ac a dducpwyd i aneirif o ofidiau ac aflwydd, er iddo ymdaro tros amser, ac o'r diwedd a wrtho∣dwyd gan Dduw cyn belled, ac y bu iddo ei lâdd ei hun; ei feibion ef a groes-hoeliwyd neu a grog∣wyd

Page 305

wrth bren croes gan ei elynion; a'i holl deu∣lu a' heppil a diffoddwyd yn dragywydd, 1 Sam. 15. & 16.1 Sam. 31. 2 Sam. 21.6.

11. Yr oedd Dafydd yn gyfaill etholedig i Dduw, ac yn hôff ganddo, ac yn cael yr enw parchedig yma, sef ei fod yn gyfryw vn ac oedd wrth fodd calon Duw. Ond etto er cynted ac y pechodd ef, fe ddanfonwyd y Prophwyd Nathan i ddatgan ac i gyhoeddi trwm ddigofaint Duw, a chospedigaeth arno ef, 2 Sam. 12. Ac felly y bu, er iddo ymofidio, a'i ddarostwng ei hun yn ddirfawr am y pechod a wnaethai, Psal. 51. fel y gwelir wrth ei waith ef yn ymprydio, ac yn gweddio, ac yn wylofain, ac yn gwisgo sach-liain, ac yn bwytta lludw, a'r cyffelyb. Wrth yr hyn y mae'n amlwg, fod cyfiawnder Duw tu ac at y rhai sy 'n gwneuthur yn ei erbyn, yn gymmaint ac yw ei drugaredd ef tu ac at y rhai sy'n ei ofni.

12. Y mae 'r Scrythur lân yn llawn esamplau i'r defnydd yma, megis gwrthod Cain a'i droi ymmaith yn y man ar ol llâdd ei frawd, Boddi 'r holl fyd yn dosturus yn amser Noah; y difaedd ofnadwy a dda∣eth ar Sodom a Gomorrah, a'r dinasoedd o'i hamgylch trwy dan a brwmstan; Bwrw Core, Dathan ac Abi∣ram yn fyw i vffern, a llâdd deucant a deg a deugain o'r rhai a lynasai wrthynt, a llawer mil o'r bobl heb law hynny, am fod yn wrthryfelgar yn erbyn Moy∣sen ac Aaron: Lladd Nadab ac Abihu meibion Aa∣ron, ac offeiriaid etholedig mor ddisymwth, am o∣ffrwm tân dieithr ar yr allor vnwaith: Taro Ana∣nias a Sappheira mor ofnadwy am ddarnguddio peth o werth eu da eu hun trwy dwyll, oddiwrth yr A∣postolion: a llawer eraill o'r cyfryw esamplau, y rhai y mae 'r Scrythur lân yn eu hadrodd, Gen. 4. 8.18. & 19. Num. 16. Levit. 10. Act. 5.

13. Ac er bod yn ddigon amlwg wrth yr holl e∣samplau o'r blaen (yn y rhai y gwelwch mor dost

Page 306

yw pob vn o'r cospedigaethau) mor ddirfing yw cy∣fiawnder Duw, a thrymmed yw ei law ef pan ddis∣gyuno arnom ni; etto mi a addroddaf vn ychwaneg o weithredoedd Duw, allan o'r Scrythur lân, yr hon sydd yn egluro hynny yn rhyfeddol iawn. Fe wyddys yn dda mai Benjamin oedd y cuaf gan ei dad, o holl blant Jacob, fel y mae 'n amlwg yn llyfr Ge∣nesis, Gen. 42. & 43. ac am hynny yr oedd efe yn fawr gyda Duw, ac y gosodwyd ei lwyth ef yn y rhan orau o holl wlad yr addewid, pan rannwyd hi rhwng y deuddegllwyth, ac yr oedd yn y rhan hon∣no Jerusalem, a Jericho, a'r dinasoedd goreu heb law hynny, Ios. 18. Etto er hynny i gyd, am vn pechod yn vnig, a wnaeth rhai o'r bobl gyffredin, ar wraig y lesiad; fe gospodd Duw yr holl lwyth yn y modd a'r dresn yma, fel y mae 'r Scrythur lan yn ei adrodd. Fe wnaeth i gwbl o'r vnllwyth ar ddeg eraill gyfodi yn eu herbyn hwy; a dyfod yn gyntaf i dŷ Dduw yn Silo, i ymgynghori ag ef, ac i wneuthur a archai ef yn y rhyfel honno yn erbyn eu brodyr: ac yna wedi iddynt hwy trwy archiad Duw ymladd dau faes a llwyth Benjamin, y try∣dydd dydd fe roes Duw iddynt orfodaeth cymmaint, ac y lladdasant hwy bob peth byw o fewn y llwyth hwnnw, ond chwechant o wyr yn vnig, y rhai a ddiangodd ymaith i'r anialwch; a chwbl o'r llaill a ladded, yn wr, ac yn wraig, yn ddyn bach, ac yn blentyn sugno, ynghyd a'r holl anifeiliaid a'r yscru∣bliaid; a'r holl ddinasoedd, a'r trefi, a'r tai, a los∣gwyd a thân. A hyn i gyd am vn pechod a wnaed vnwaith yn vnig, a hynny gydag vn wraig, Barn 20.

14. A phwy wrth hynny ni chyfaddef gyda Moy∣sen, fod Duw yn Dduw cyfiawn, yn Dduw mawr, ac yn Dduw ofnadwy? Pwy ni chyfaddef gyda S. Paul, Mai peth of nadwy ydyw syrthio yn nwylo 'r Duw byw, Heb. 10.31. Pwy ni ddywaid gyda

Page 307

Dafydd sanct Mi a ddychrynais rhag dy farnedigae∣thau, Psal. 119.120. Onid arbedai Dduw ddistry∣wo 'r holl lwyth, am vn pechod yn vnig; oni fa∣ddeuai ef i Core, Dathan ac Abiram tros vnwaith; ac i feibion Aaron tros vnwaith; ac i Ananias a Sappheira tros vnwaith: oni faddeuai efe i Esau, er iddo wedi hynny geisio 'r fendith trwy ddagrau, fel y dywaid yr Apostol: Oni faddeuai efe gospediga∣eth vn pechod i Foesen ac Aaron, er iddynt ei ofyn yn daer; oni faddeuai efe vn balch-feddwl i'r angy∣lion; nac i Addaf fwytta vnwaith ô ffrwyth y pren gwaharddedig, heb gospedigaeth fawr; na gillwng y ewppan digofaint heibio i'w fab ei hun, er iddo ei ddymuno deirgwaith ar ei liniau, trwy chwysu 'r gwaed; pa reswm sy gennyt ti feddwl y gad ef dy bechodau di heb gospi, a hwythau gyn amled? Oes i ti achos yn y byd i feddwl y bydd efe cystal wr∣thyt ti, ac y paid ef a'i gyfiawnder er dy fwyn di? wyt ti yn wellgwr na 'r rhai a henwais i? Oes gen∣nytti ragorfraint yn y byd oddiwrth Dduw, amgen nac oedd ganddynt hwy.

15. Ped ystyrit ti pa bethau eu maint a'i dieithred y mae cyfiawnder Duw yn eu dwyn i ben, fel y gwelwn ni beunydd yn y byd; ni byddai i ti ond ychydig achos i dybieid y cait ti cymmaint o ffafor gan Dduw, nac i wenhieithio i ti dy hun mor be∣ryglus ac yr wyt ti. Yr ydym ni yn gweled er maint trugaredd Duw, ac er dioddef a marw o Grist ein lachawdr er mwyncadw 'r holl fyd; er hynny fod cynnifer myrddiwn o'r byd yn golledig beunydd, wrth gyfiawnder Duw; a chynnifer o rai anghreda∣dwy, a chenedl-ddynion, ac Iuddewon, a Thurci∣aid, yn aros yn nhywyllwch eu hanwybodaeth eu hun: ac ym mhlith Christianogion cynnifer naill ai heb gadw eu proffess yn vnion ac yn gywir, ai yn byw yn ddrwgfucheddol yn eu proffess, fel mai gwir

Page 308

yw yr hyn a ddy wedodd Christ, mai ychydig fyddai y rhai a fydd cadwedig; er darfod talu ei farwola∣eth ef tros bawb, oni byddai iddynt hwy eu gwneu∣thur eu hunain yn annheilwng o honi, Mat. 7.14. Ac ym mlaen dyfodiad ein Iachawdr, mwy o lawer y gwelwn ni fod yr noll fyd yn myned ar ŵyr i golle∣digaeth tros lawer mil o flynyddoedd ynghyd; o∣ddieithr ychydig Iuddewon, y rhai oedd bobl Dduw. Ac etto yn eu plith hwythau hefyd, yr oedd y rhan fwyaf, (hyd y mae 'n gyffelyb) heb fod yn gadwe∣dig, fel y gellir gwybod amcan wrth yr hyn a ddy∣waid y Prophwydi o amser i amser, Esay 9.27. ac yn enwedig wrth yr hyn a ddywedodd Christ wrth y Pharisaeaid, ac eraill o lywodraethwyr y bobl hynny. Am hynny ynteu, os gallai Dduw, er mwyn cyflawni ei gyfiawnder, adael i gynnifer myrddiwn o bobl fyned i golledigaeth trwy eu pe∣chodau eu hun, fel y mae efe yn gadael beunydd et∣to; a hynny heb dorr nac argywedd yn y byd ar ei drugaredd; pa ham nas gall efe hefyd dy ddam∣nio di am dy bechodau, er maint ei drugaredd, a thitheu nid yn vnig yn eu gwneuthur hwy yn ddiofn ddiarswyd, ond hefyd yn parhau yn rhyfygus yn dy bechodau?

16. Ond yma y gall vn ddywedyd, Os felly y mae, fod Duw mor dost wrth gospi pob pechod, a'i fod yn damnio llawer mil am vn y mae yn ei ga∣dw; pa fodd y mae yn wir, Fod ei drugaredd ef go∣ruch ei holl weithredoedd, fel y dywaid yr Scrythur lân; a bod Trugaredd yn gorfoleddu yn erbyn barn, ac yn rhagori arni, Psal. 145.9. Iac. 2.13. Ob∣legid os yw rhifedi y rhai damnedig yn rhagori cym∣maint ar rifedi y rhai cadwedig, y mae 'n gyffelyb fod gweithredoedd cyfiawnder yn rhagori ar wei∣thredoedd Trugaredd. I hynny yr attebaf, na all∣wn ni ammeu dim ynghylch lleied rhifedi y rhai

Page 309

cadwedig, ac anfeidrol rifedi y rhai colledig: oble∣gid, heb law 'r holl Brophwydi eraill, y mae ein lachawdr Christ wedi gwneuthur hynny yn ddigon siccr ddiammau, Mat. 7.14. Am hynny mae 'n rhaid i ni edrych, pa fodd, er hynny i gyd y mae Trugaredd Duw yn rhagori ar ei holl weithred oedd eraill ef.

17. Ac yn gyntaf, fe ellir dywedyd bod ei dru∣garedd ef yn rhagori, oblegid bod ein holl gadwedi∣gaeth ni yn dyfod i ni o'i drugaredd ef, a'n colledi∣gaeth oddiwrthym ein hunain; oblegid dyna ddau brif achos pob vn o'r ddau; yn ol yr hyn a ddywed Duw trwy 'r Prophwyd, Dy golledigaeth di, o Is∣rael, sydd o honot dy hun, ond ynofi y mae dy gym∣morth i wneuthur daioni, Hos. 13.9. Megis fel y mae 'n rhaid i ni gydnabod mai grâs Duw a'i druga∣redd yw awdur pob meddwl da ynom ni, a phob gweithred dda a wnelom ni, ac wrth hynny bod yn rhaid i ni gyfaddef mai o hono ef y mae cwbl o'n lechydwriaeth ni: felly nid oes yr vn o'n drwg wei∣thredoedd ni, o herwydd y rhai 'r ydym ni 'n golle∣dig, yn dyfod o hono ef, ond yn vnig o honom ni ein hunain; ac felly nid ydyw efe achos yn y byd o'n colledigaeth ni. Ac yn hyn y mae ei drugaredd ef yn rhagori ar ei gyfiawnder.

18. Yn ail, y mae ei drugaredd ef yn rhagori, o herwydd ei fod ef yn ewyllysio bod pob dyn yn gad∣wedig, fel y dywaid S. Paul, 1 Tim. 2.4. ac y mae ynteu ei hun yn tystiolaethu, gan ddywedyd, Nid wyfi yn ewyllysio marwolaeth pechadur, ond yn hytrach troi o hono oddiwrth ei anwiredd, a byw. A thra∣chefn trwy 'r vn Prophwyd, y mae efe yn cwyno yn dost, nad yw dynion yn derbyn ei drugaredd ef, pan y cynnygier iddynt, Dychwelwch, dychwelwch oddiwrth eich ffyrdd drygionus: canys, pa ham y by∣ddwch feirw tŷ Israel, Ezec. 33.11. wrth yr hyn

Page 310

y mae 'n amlwg ei sod ef yn cynnyg ei drugaredd yn dra ewyllysgar ac yn rhad i bawb; ac nad yw yn arfer ei gysiawnder ond pan fo gwir anghenrhaid, a phan fo ein hymarweddiad cildynnus ni megis yn ei gymmell ef. Hyn y mae Christ yn ei ddangos yn oleuach, pan yw yn dywedyd wrth Ierusaem, O Ie∣rusalem, Ierusalem, yr hon wyt yn lladd y Prophwydi, ac yn llabyddio y rhai a ddanfonir attat, pa sawl gwaith y mynnaswn gasglu dy blant ynghyd, megis y casgl yr iar ei chywion tan ei hadenydd, ond nis myn∣nech chwi? Wele, am hynny yr ydys yn gadael eich ty i chwi yn anghyfannedd; ac yn ddiblant, Mat. 23.37. Yma y gwelwch gynnyg trugaredd Duw yn fynych i'r Iuddewon, ond am iddynt wrthod ei drugaredd ef, efe a gymmhellwyd (mewn modd) i ddatgan y farn drom yma o ddinistr anghyfannedd∣dra arnynt hwy: yr hon a gyflawnodd efe o fewn deugain mhlynedd neu ddêg a deugain wedi, trwy ddwylo Vespasian ymmerodr Rhu∣fain, a Thitus ei fab: y rhai a lw∣yr ddinistriodd ddinas Jerusalem, a holl genedl yr Iuddewon, yr rhai a welwn ni heddyw wedi eu gwasgaru trwy 'r holl fyd, mewn caethiwed enaid a chorph. Ac er bod y weithred honno o gyfiawnder Duw yn dra ofna∣dwy, etto yr oedd ei drugaredd ef yn fwy tu ac at∣tynt, fel y mae 'n amlwg wrth eiriau Christ, oni bai iddynt wrthod ei Fab ef.

19. Yn drydydd, y mae ei drugaredd ef yn rha∣gori ar ei gyfiawnder, hyd yn oed tu ac at y rhai collegid; oblegid iddo trwy lawer of foddion yn y byd hwn geisio eu gwneuthur hwy yn gadwedig, trwy alw arnynt, a'i cynnorthwyo hwy a'i râs i wneuthur daioni, a'i cynnhyrfu hwy oddifewn ag a∣neirif o ysprydoliaethau da, a cheisio eu denu hwy oddi allan ag amryw gynghorion, ac addewidion, ac

Page 311

esamplau rhai eraill: a chyda hynny trwy glefydon, a gwrthwyneb, a cheryddon esmwyth eraill; trwy roddi iddynt amser, ac achlysur, a chyfle, achyfam∣ser, a llawer annog, i edifarhau; trwy fygwth mar∣wolaeth dragywyddol iddynt, oni edifarhaant. Yr holl bethau hyn, gan eu bod yn weithredoedd tru∣garedd a daioni Duw tu ac at yr annuwiol, y mae 'n anghenrhaid iddynt gysaddef, ynghanol eu cyn∣ddaredd a'i poenau, fod ci farnedigaethau ef yn v∣nion, a chwedi eu cyfiawnhau ynddynt eu humain, ac nas gellir mewn vnmodd eu cyffelybu hwy i faw∣redd ei drugaredd ef.

20. Wrth hyn y gwelwn fod yn wir yr hyn a ddywaid y Prophwyd, Yr Arglwydd a gar druga∣redd a gwirionedd. A thrachefn, Trugaredd a gwi∣rionedd a ymgyfarsuant; cysiawnder a heddwch a ym∣gusanasant, Psal. 85.10. Ni a welwn pa ham y mae 'r Prophwyd yn dywedyd am dano ei hun, Mi a ganaf am drugaredd a barn, o Arglwydd: nid trugaredd yn vnig, na barn yn vnig, ond trugaredd a barn ynghyd, Psal. 101.1. Hynny yw, ni ry∣fygaf eymmaint ar dy drugaredd, ac nad ofnwyf dy farn; ac nid ofnaf cymmaint ar dy farn, ac yr anobeithiwyf o'th drugaredd. Mae 'n rhaid i ni bob amfer gyssylltu ein hofn rhag barn Duw, ynghyd â'n hyder ar drugaredd Duw: ie, hyd yn oed yn y Sainct eu hunain, fel y dywaid Dafydd. Ond pa fath ofn? Yr ofn hwnnw, yr hwn y mae 'r Scrythur lan yn dangos pa fath ydyw, pan yw yn dywedyd fod ofn Duw yn gyrru ymmaith bechod; bod ofn Duw yn cassau pob drygioni; nad yw 'r hwn sy 'n ofni Duw yn esgeuluso dim; bod y sawl sy 'n ofni Duw yn troi ac yn edrych ar ei galon ei hun; bod y sawl sy 'n ófni Duw yn gwneuthur gweithredoedd da; bod y sawl sy 'n ofni Duw heb aughredu 'r hyn y mae efe yn ei ddywedyd, ond yn cadw ei ffyrdd,

Page 312

ac yn chwilio am y pethau a ryng bodd iddo; ac yn parottoi eu calonnau, ac yn sancteiddio eu henei∣diau yn ei olwg ef, Dihar. 8.13.

21. Ac dyma bortreiad gwir ofn Duw, fel y mae 'r. Scrythur lan yn ei ofod ar lawr. Dyma bortreiad yr ofn hwnnw yr ydys yn ei ganmawl ac yn ei or∣chymmyn ym mhob rhan a chyfran o air Duw. Dyma bortreiad yr ofn yr ydys yn ei alw, ffynnon y bywyd, gwreiddyn synwyr, coron a chyflawnder doe∣thineb, Gogoniant ac ymffrost Christion o ddyn, Rhodd ddedwyddol. Am yr hwn sy ar ofn yma gantho, y mae 'r Scrythur lan yn dywedyd, Gwyn ei fyd y gwr sy 'n ofni yr Arglwydd, oblegid y mae yn hoffi ei or∣chymmynion of yn ddirfawr, Psal. 1 12.1. A thra∣chefn, Yn y diwedd, da fydd i'r hwn a ofno yr Ar∣glwydd, ac efe a fendithir yn ei ddydd diwedd, Eccl. 1.13. Yn ddiwethaf, am y rhai sy ar ofn yma gan∣ddynt, y mae 'r Scrythur lan yn dywedyd, Mai Duw yw eu sail hwynt; a darfod i Dduw barottoi amlder o hyfrydwch iddynt; a darfod i Dduw bry∣nu etifeddiaeth iddynt; a bod Duw 'n drugarog wr∣thynt, fel y mae tad yn drugarog wrth ei blant; ac i ddibennu, fod Duw yn gwneuthur ewyllys y rhai a'i hofnant ef a'r cyfryw ofn, Psal. 31.19. & 103.13. & 145.19.

22. Yr ofn sanctaidd yma oedd gan Job dduwiol, pan ddywedodd efe wrth Dduw, Mi a of nais fy holl ffyrdd. Ac y mae 'n dywedyd pa ham y gwnai efe hynny, Oblegid mi a wn nad arbedi di neb a wnelo i'th erbyn, Job 9.28. Lat. Yr ofn yma oedd yn eisiau yn y rhai y mae 'r Prophwyd yn dywedyd am danynt, Y pechadur a gythruddodd Dduw, trwy ddywedyd na chymmer Duw gyfrif o'i weithredoedd of, yn amlder ei ddigofaint. Symmudwyd dy farne∣digaethau allan o'i olwg ef. A thrachefn, Pa ham y cyffroodd yr annuwiol Dduw, trwy ddywedyd, Ni

Page 313

ofyn Duw gyfrif am fy ngweithredoedd i, Psal. 10. Annuwioldeb mawr, yn ddiau, a chysfroi Duw yn fawr i'n herbyn, ydyw dwyn hanncr naturiaeth Duw oddi arno; a'i wneuthur ef yn drugarog heb fod yn gyfiawn: a byw fel pettai Dduw heb amcanu ceisio cyfrif am ein buchedd ni; ac ynteu mor dra difrif wedi dangos y gwrthwyneb, gan ddywedyd: ei fod ef yn wr dirfing tost, ac na bydd efe bodlon i gymmeryd yr eiddo ei hun drachesn, ond y mynn efe elw ac occr gyda 'r eiddo ei hun: y mynn efe gyfrif o'r holl dda a fenthygiodd ef i ni: y mynn efe ffrwyth o'i holl lafur a roes efe i ni; ac yn ddi∣weddaf, y mynn efe gyfrif o bob gair a ddyweda∣som ni. Mat. 25.27.

23. Y mae Christ yn y nawfed Psalm a thrugain, yr hon y mae efe mewn amryw fannau o'r Efengyl yn deongl mai am dano ef yr yscrifennwyd hi; ym myfg llawer o felldithion ofnadwy y mae efe yn eu rhoi i lawr yn erbyn y rhai gwrthodedig, yn dat∣gan y rhai hyn, Tywyller eu llygaid fel na welont: tywallt dy ddig of aint arnynt; cyrhaedded llidiowgrw∣ydd dy ddigofaint hwynt: dod ti anwiredd at en han∣wiredd hwynt, ac na ddelont ith gysiawnder di: di∣leer hwynt allan o lyfr y bywyd, ac na 'sgrifenner hw∣ynt gyda'r rhai cysiawn, Psal. 69.23, 24, 27. Yma y gwelwn ni, mai mwyaf melldith a ddichon Duw ei rhoi arnom ni, yn nessaf at ein tynnu ni allan o lyfr y bywyd, yw gadael i ni fod mor ddeillion a chyssylltu anwiredd at anwiredd, a bod heb ysty∣ried ei gyfiawnder ef. Ac o'r achos hwnnw hefyd y mae 'r defeinwyr yn cyfrif pechu o hyder ar drugaredd Duw, yn gyntaf o'r chwe pechod trymion yn erbyn yr yspryd glan; y rhai y mae ein Iachaw∣dr Christ yn yr Efengyl yn dangos bod mor anhawdd gan ei Dad eu madden. A'r rheswm pa ham y ma∣ent

Page 314

hwy yn cyfrif gormodd hyder ar drugaredd Duw, yn bechod yn erbyn yr Yspryd glan, yw hyn, sef am ei fod yn bwrw heibio ac yn gwrthod vn o'r mo∣ddion pennaf a adawodd yr Yspryd glan i'n tynnu ni oddi wrth bechod, nid amgen nag ofni cyfiawnder Duw ar bechaduriaid.

24. Ac am hynny, i ddibennu 'r matter yma ynghylch gormodd hyder ar drugaredd Duw, yr wyf fi yn tybieid y gallwn ni arfer yr vn fath reswm ynghylch ofni cyfiawnder Duw, ac y mae 'r Apo∣stol Sainct Paul yn ei arfer at y Rhufeiniaid, am wei∣nidogion Duw, y rhai yw 'r tywysogion bydol: A fynni di nad ofnech allu y llywodraethwr bydol, medd efe? gwna ddaioni ynteu, a thi a gai nid yn vnig fod heb ei ofni ef, ond hefyd ti a gai glod a chanmoliaeth gantho. Ond os gwnai ddrwg, ofna; canys nid ydyw efe yn dwyn y cleddyf yn ofer, Rhuf. 13. Yn yr vn modd y gallwn ninnau ddywedyd wrth y cymdeithion hynny sy 'n gwneuthur Duw mor drugarog, ac na ddylai neb ofni ei gyfiawnder ef. A fynnech chwi, frodyr, na bai raid i chwi of∣ni cyfiawnder Duw yn cospi? Byddwch fyw yn dduwiol, a chwi a fyddwch mor ddiofn a llewod, fel y dywaid y gwr doeth, oblegid y mae perffaith gariad yn bwrw allan ofn, 1 Jon. 4.18. Ond os byddwch fyw yn annuwiol, yna y mae i chwi achos i ofni: oblegid nid am ei ham y mae Duw yn ei alw ei hun yn farnwr cyfiawn.

25. Pettei 'r peth mor ddiogel ac y mae llawer, trwy druth a gweniaith, yn peri iddynt eu hunain goelio ei fod; ni ddywedasai Sainct Petr byth wrth Gristianogion wedi eu bedyddio eusys, Ymddygwch mewn ofn, tros amser eich preswylfod daiarol, 1 Pet. 1.17. na Sainct Paul chwaith wrth yr vn rhai, Gwei∣thiwch allan eich Iechydwriaeth eich hunain, drwy ofn a dychryn, Phil. 2.12. Ond yma y gofyn rhyw ddy∣nion,

Page 315

Pa fodd wrth hynny y mae 'r Apostol yn dy∣wedyd mewn lle arall, Na roddes Duw i ni yspryd ofn, ond yspryd nerth, a chariad, a phwyll, 2 Tim. 1.7. Fy atteb i'r rhai hynny ydyw hyn, Nad yw ein hyspryd ni yspryd ofn tebyg i ofn gwâs rhag ei feistr; hynny ydyw, I fyw mewn ofn yn vnig rhag ofn cospedigaeth, heb ddim cariad; ond yspryd ca∣riad yn gyssylltedig ag ofn tebyg i ofn plant rhag eu tab, trwy yr hwn ofn y maent yn ofni digio eu tad, nid yn vnig rhag iddo eu cospi, ond yn bendifaddeu o herwydd ei ddaioni tu ac attynt hwy, a'r cyminwy∣nasau a'r twrn da a wnaeth efe iddynt. Hyn y mae S. Paul yn ei ddangos yn oleu at y Rhufeiniaid, lle y mae efe yn gwneuthur rhagor rhwng ofn gwei∣sion, ac ofn plant, Ni dderbyniasoch yspryd caethi∣wed trachefn (medd efe) i beri ofn, ond yspryd mab∣wysiad, trwy 'r hwn yr ydym yn llefain Abba, Dad, Rhuf. 8.15. Y mae efe yn dywedyd yma wrth y Rhufeiniaid, Ni dderbyniasoch chwi yspryd caethi∣wed drachefn i beri ofn, am nad oedd eu hofn hwy o'r blaen, a hwy yn genhedloedd, ond ofn gweision yn vnig, nid ofn meibion; am eu bod yn anrhyde∣ddu ac yn addoli eu heulynnod, nid o herwydd cari∣ad yn y byo oedd ganddynt ar eu heulynnod, gan eu bod mor aneirif; a bod y gair iddynt o gym∣maint o annuwioldeb (fel yr oedd i Jupiter, i Mars, i Venus, a'r cyffelyb) ond yn vnig rhag ofn cael ni∣weid oddiwrthynt oni wasanaethent hwynt, ac oni addolent iddynt.

26. Y mae S. Petr ynteu, mewn vn ymadrodd, yn egluro yr holl fatter yma. Oblegid, wedi iddo ddywedyd, Nac ofnwch rhag eu hofn hwynt, (lle y mae efe yn meddwl am ofn gwasaidd yr annuwicl) y mae efe yn dywedyd yn y man, Ond sancteiddi∣wch yr Arglwydd Dduw yn eich calonnau; a chen∣nych gydwybod dda gyd ag addfwynde ac ofn, 1 Pet.

Page 316

3.14, 15. Ac felly y mae ofn gwasaidd, yr hwn sydd yn ystyried cospedigaeth yn vnig, wedi ei wa∣hardd i ni; ond y mae ofn cariadus plant wedi ei orchymmyn i ni. Ac etto y mae deubeth i'w hysty∣ried ynghylch y matter yma.

27. Y cyntaf yw, er bod yspryd ofn gwasaidd yn waharddedig i ni (yn enwedig gan ein bod ni yn awr wedi myned i wasanaethu Duw) etto fe wna 'r ofn hwnnw lês mawr i bechaduriaid, ac i'r rhai nid ydynt etto ond dechreu gwasanaethu Duw, am ei fod yn eu cynnhyrfu hwy i edifarhau, ac i edrych yn eu cylch; ac o'r achos hynny y dywaid y gwr doeth am dano, Mai dechreuad doethineb ydyw, Dih. 1.7, Ac am hynny y mae Ionas yn ceisio gyrru 'r ofn yma ar y Ninifeaid, ac Ioan fedyddiwr ar yr Iuddewon, a'r holl Brophwydi ar bechaduriaid; trwy fygwth y dialeddau a'r cospedigaethau a ddoai arnynt oni edifarhaent, Ion. 1. & 3. Mat. 3. Ond etto yn ôl hynny, pan fo dynion wedi troi at Dduw, ac yn myned rhagddynt yn ei wasanaeth ef, y maent hwy yn newid yr ofn gwasaidd yma yn gariad, hyd om ddelont o'r diwedd i'r cyfryw gyflwr ac y mae S. Ioan yn crybwyll am dano, sef bod perffaith gariad yn bwrw allan ofn, 1 Ion. 4.18. Ac ar hynny y dy∣waid S. Awstin, mai ofn yw 'r gwas yr ydys yn ei ddanfon o'r blaen i ba∣rottoi lle yn ein calonnan ni i'w feistres, yr hon yw cariad perffaith: a phan ddêl cariad perffaith i mewn vnwaith, a chael cwbl feddiant ynom ni; y mae ofn yn myned allan ac yn rhoi lle i gariad perffaith. Ond lle ni ddelo 'r ofn yma i mewn ddim, nid yw bossibl byth i gariad per∣ffaith ddyfod i drigo, ac i gartrefu yno, medd S. Awstin.

28. Yr ail peth i'w ystyried yw hyn, er nad y∣dyw ofn cospedigaeth yn y rhai perffaith, neu o'r

Page 317

hyn lleiaf nad ydyw ond llai ynddynt hwy nag mewn eraill fel y dy waid Sainct Ioan; etto, os efe a fydd, wedi ei gyssylltu a chariad ac a pharch, felly dylai fod, y mae yn fuddiol ac yn angenrheidiol iawn i bob Christion cyffredin, y rhai nid yw eu by wyd mor berffeith-gwbl, na'i cariad mor helaeth a bod mor berffeith-gwbl ar perffeithrwydd y mae Sainct Ioan yn crybwyll am dano. A hynny sydd amlwg wrth fod yn Iachawor Christ yn annog ei Aposto∣lion i fod a'r ofn yma ynddynt, ofnwch yr hwn weds darffo iddo lad ly corph, sydd ac awdurdod ganddo i fwrw i vffern yr enaid a'r corph; ie, meddaf i chwi, ofnwch hwnnw, Luc. 12.5. Yr vn peth y mae Sainct Paul yn ei ddysgu i'r Coninthiaid, y rhai oedd Gristianogion da, gan osod ar lawr yn gyntaf gyfi∣awnder Duw, ac yna eu hannog hwy i ofni, Y mas 'n rhaid i ni oll, medd efe, ymdaangos ger bron braw∣dle Christ, fel y derbynio pob vn y pethau a wnaeth∣bwyd yn y corph, yn ol yr hyn a wnaeth, pa vn byn∣nag ai da ai drwg. Ac am ein bod ni yn gwybod byo, yr ydym yn annog dynion i ofni 'r Arglwydd, a Cor. 5.10, 11. le, a pheth sydd fwy, y mae Sainct Paul yn tystiolaeth am dano ei hun; ei fod ef, er maint o ffafor ac ewyllys da a gawsai gan Dduw, yn dal ga∣fael etto ar yr ofn yma rhag cyfiawn er Duw, fel y mae 'n amlwg wrth ei eirian ef, Yr wyf yn cospi fy nghorph, ac yn ei ddwyn yn gaeth, rhag i mi mewn vn modd, wedi i mi bregethu i eraill, fod fy hun yn anghymmeradwy, 1 Cor. 9.27.

29. Weithian, f'anwylyd, od oedd ar S. Paul ofn cyfiawnder Duw, ac ynteu yn Apostol; ac er nas gwyddai efe ddim arno ei hun, na'i fod yn euog o vn bai, fel y mae efe (am vn peth) yn ei ddangos: pa fodd y dylit ti fod, yr hwn y mae dy gydwybod yn euog o gynnifer bai ac annuwioldeb, 1 Cor. 4.4. Gwybyddwch hyn, medd S. Paul, dm bob putteinwr,

Page 318

neu aflan, neu gybudd, a'r cyffelyb, nad oes iddynt etifeddiaeth yn nheyrnas Christ a Duw. Ac yn y man ar ôl hynny, megis pe na bai hynny ddigon, y mae efe yn dywedyd yn angwhaneg, er mwyn attal ffolineb pechaduriaid sy 'n gwenhieithio iddynt eu hunain, Na thwylled neb chwi a geiriau ofer; canys oblegid y pethau hyn y mae digofaint Dnw yn dyfod ar blant anufydd-dod neu anghrediniaeth. Am hynny na fyddwch chwi gyfrannogion a hwynt, Eph. 5.5. Me∣gis pe dywedai, Pwy bynnag sy 'n gwenieithio i chwi ac yn dywedyd, Twt, y mae Duw yn druga∣rog, ac yn hawdd ganddo faddeu y pechodau hyn a'r cyffelyb; nid ydyw y rhainy ond eich twyllo chwi, medd S. Paul, oblegid y mae digofaint a dia∣ledd Duw yn disgyn ar blant anghrediniaeth, oble∣gid y pethau hyn: sef yw hynny, ar y rhai ni chre∣dant ei gyfiawnder ef n'i fygythion yn erbyn pe∣chod; ond, o hyder ar ei drugaredd ef, sydd yn par∣hau yn eu pechod, hyd oni ruthro digofaint Duw ar∣nynt yn ddisymmwth; ac yna y mae yn rhyhwyr gwellhau. Am hynny, medd efe, os ydych chwi gall, na fyddwch gyfrannogion a'i ffolineb hwy, ond gwellhewch eich bucheddau allan o law, tra caffoch amser. A digon fydd y rhybudd yma eiddo Sainct Paul, iddibennu 'r pennod yma; yn erbyn pawb ac sydd yn gwrthod neu yn oedi edifeirwch a gwell∣haad buchedd, trwy wag obaith ar gael gan Dduw faddeu iddynt, a chyd-ddwyn a hwynt.

Page 319

PEN. V. Am y pummed rhwystr, yr hwn yw oedi rhoi ein bryd ar edisarhau o amser i amser; tan obeithio y gallwn wneuthur hynny yn well, neu yn haws, ryw amser arall.

MI a dybygwn mai digon i wr rhesymol, fyddai y rhesymmau a ddangoswyd o'r blaen, i brofi bod mor anghenrheidiol i ni roi 'n bryd ar wasanae∣thu Duw, ac i dynnu ymaith y rhwystrau sy'n lluddi∣as i ni wneuthur hynny. Ond er hynny, oblegid (fel y dywaid y gwr doeth) bod yr hwn a fo a'i fryd ar dorri cymdeithas a'i gydym∣maith, yn ceisio pob achlysur i wneuthur hynny tan ryw liw ac esgus. Y mae llawer yn y byd, gan nad oes ganddynt na lliw nac esgus arall yn y byd i dorri a Duw, ac i ddal allan oddi∣wrtho, hwy a geisiant goluro 'r matter a hyn o liw, sef bod yn eu bryd hwy trwy ei ras ef, wellhau 'r cwbl mewn amser: ond y maent hwy yn oedi 'r am∣ser hwnnw o ddydd i ddydd, hyd oni bo i Dduw, yr hwn y mae pob munyd o'r amser yn ei law, ddwyn yr amser yn llwyr oddiarnynt hwy, a'i danfon hwy i'r poenau taagywyddol tros ben pob amser, am i∣ddynt gam arfer daioni 'r amser yn y byd hwn.

2. Dyma vn o'r siomedigaethau mwyaf a pheryc∣claf, ac etto y mae yn gynnefinaf ac yn gyffredinaf o'r cwbl y mae gelyn dyn yn eu harfer yn erbyn plant Addaf: ac mi a allaf ddywedyd yn hŷ, fod mwy yn myned i golledigaeth trwy'r siommedigaeth yma, nâ thwy'r holl gyfrwysdra a'r dichellion eraill heb law hynny. Fe a ŵyr yn dda faint yw grym a gallu 'r fagl yma rhagor cwbl o'r llaill, ac am hynny

Page 320

y mae efe yn ei gwthio mor daer ar bob dyn. Y mae efe yn ystyried yn well nâ nyni, fod oedi yn beth inawr iawn, yn enwedig mewn matter o gymmaint pwys ac yw ein ymchweliad a'n cadwedigaeth ni. Y mae efe yn gwybod yn dda fod y naill bechod yn tynnur llall ganddo; ac y bydd yr hwn nid yw gymmwys heddyw i edifarhau yn anghymmhwysach y foru; ac fel y mae y marfer yn myned yn naturia∣eth; a bod yn anhawdd iachau hên ddoluriau; ac fel y mae Duw mewn amser yn dwyn ymaith ei ras, ac fel y mae ei gyfiawnder ef yn barod i gospi pob pe∣chod; ac fel yr ydym ninnau trwy oedi yn cyffroi ei gyfiawnder ef, ac yn pentyrru dialedd ar ein pennau 'n hunain, fel y dywaid S. Paul, Rhuf. 2.4, 5. Y mae ef yn gydnabyddus iawn ag anwastadrwydd ac â pheryglon ein buchedd ni, ac â'r damweiniau peryglus yr ydym ni yn myned trwyddynt; ac â'r rhwystrau a ddaw beunydd fwyfwy, i luddias i ni ym∣chwelyd at Dduw. Hyn oll y mae efe yn ei wybod, ac yn ei ystyried yn dda, ac am hynny y mae yn peri i gy mmaint ac y mae, oedi eu hedifeirwch. Oble∣gid pryd nas gall yn hwy ddallu deall llawer o Gri∣stianogion, fel na bo dir iddynt weled yn amlwg mor anghenrhaid ac mor fuddiol iddynt roi eu bryd ar edifarhau, ac nad yw holl rwystrau'r byd ond co∣egbethau a hudoliaeth i attal dynion rhag gwneuthur hynny; yna nid oes gantho ymddiffyn yn y byd ond hyn yn vnig, sef perswadio dynion i oedi ychydig, ac y cant ryw amser yn ôl hyn achlysur a chyfamser gwell i wneuthur hynny, nag yr awrhon.

3. A hyn a brofodd Sainct Aw∣stin, yn ei ymchweliad at Dduw, fel y mae efe ei hun yn ysgrifennu; Oblegid; wedi iddo wybod yn siccr, nad oedd fodd iddo i gael bod yn gadwedig, ond crwy newidio ei fuchedd a'i gwellhau; etto yr oedd

Page 321

y gelyn yn ei attal ef tros amser, ac yn peri iddo oedi, ac yn dywedyd wrtho; Arhos ychydig etto; oeda ennyd etto; a hynny (fel y dywaid ef ei hun) er mwyn cael ei rwymo ef yn dynnach mewn ymar∣fer â phechod, hyd oni bu iddo trwy ollalluog nerth grâs Dduw, ac eithaf ei egni ei hun a'i oreu, dorri ymmaith oddiwrtho trwy gryfder, a gweiddi ar Dduw, Pa ham y dywedaf yn hwy, Yforu, yforu? Pa ham nas gwnâf ar y munyd awr hwn? Ac felly y gwnaeth efe, ie, yn ei ieuengtyd, ac a fu fyw we∣di hynny mewn buchedd dra dirfing Gristianogaidd dduwiol.

4. Ond os mynnwn ni weled yn eglurach faint a pheryccled y ddichell yma, ystyriwn yr achosion a allai rwystro i ni droi at Dduw yn y man, ac ni a gawn weled fod pob vn o honynt yn cynnyddu ac yn cryfhau trwy ein gwaith ni yn oedi, ac felly bod yn anhaws i ni wneuthur y peth yn ôl hyn, nag ydyw yr awrhon. Oblegid yn gyntaf, (fel y dywedais o'r blaen) y mae parhau mewn pechod yn gwneuthur dŷn yn gynnefin ag ef wrth ymarfer o hono; a phan ddarpho i ni vnwaith ymgynnefino, y mae yn an∣hawdd symmud y cynnefinder hwnnw, fel y gwe∣lwn ni beunydd am bob cynneddfau a fo wedi gredd∣fu a gwreiddio ynom ni. Ac os mynnwch chwi we∣led gwirionedd o hynny; pwy ond yn anhawdd tros ben, a all nac a feidr symmud hir ymarfer o feddw∣dod, neu dyngu, neu ryw gynneddfau drwg arall, a fo vnwaith wedi greddfu ynom ni? Yn ail, po hwyaf y parhaom ni yn ein buchedd annuwiol, mwy∣af y tynn Duw ei râs a'i help oddiwrthym ni, yr hyn yw'r modd vnig a wna ffordd buchedd dduwiol yn hawdd ac yn esmwyth gan ddynion. Yn dry∣dydd, y mae gallu a llywodraeth y cythraul yn ca∣el ymgryfhau ac ymsiccrhau ynom ni, trwy gael a∣ros ynom; ac felly y mae yn anhaws ei symmud.

Page 322

Yn bedwerydd, y mae tueddiad ein meddwl ni at dda∣ioni, yn gwanhau fwyfwy, ac yn pylu, wrth fy∣nych arfer o bechod, er nad ydyw yn diffodd yn llwyr. Yn bumed, y mae galluoedd a swyddau ein meddwl ni yn llygru yn fwy; y deall yn myned yn dywyllach, a'r ewyllys yn myned yn ŵyrach, a'r chwant yn anllywodraethusach. Yn chweched ac yn ddiweddaf, Y mae oedi edifeirwch yn cyffroi ac yn cryfhau ein gwyniau ni, a rhannau issaf a gwaelaf ein meddwl ni, yn erbyn rheol rheswm a deall, ac yn eu gwneuthur yn anhaws eu gorchfygu nag oeddynt o'r blaen.

5. Bellach, f' anwylyd, bwrw ynghyd gwbl o hyn, ac ystyria yn ddiduedd ynot dy hun, pa vn de∣byccaf i ti allu edifarhau, ai yr awr hon, ai yn ôl hyn. Yn ôl hyn, meddaf, pan fo pechod wedi gredd∣fu ynot ti trwy ymarfer ac ymgynnefino ag ef; a'r cythraul wedi cael meddiant hwy ynot ti; a chym∣morth Duw ym mhellach oddiwrthyt ti; a'th fe∣ddwl dithau wedi ei lygru yn fwy; a'th ddeall a'th farn wedi myned yn wannach; a'th chwant i ddaioni wedi diffodd; a'th wyniau wedi cryfhau; a'th gorph wedi eu halogi: a'th nerth wedi pallu; a'th holl fu∣chedd wedi gwyrdroi.

6. Ni a welwn, ac a wyddom am y llong afo yn gillwng dwr, mai haws fydd ei diyspyddu yn y de∣chreu, na chwedi hynny. Ni a welwn, am dŷ a fo wedi adfeilo ac ammharu, po hwyaf y gadawer iddo, mai mwya'r draul a'r boen yn ei gyweirio. Ni a welwn, os bydd vn yn pwyo hoel a morthwyl, po mwyaf a guro efe arni, mai anhawsaf fydd ei thyn∣nu hi allan drachefn. A pha fodd y gelli di wneuthur pechod ar bechod, a thybieid wrth barhau mewn pe∣chod y bydd haws i ti ymwrthod ac ymadael ag ef yn ôl hyn nag yr awrhon? Cyffelyb iawn fyddei hynny, i ddŷn a fyddai wedi gwneuthur baich mawr

Page 323

i'w ddwyn, ac a brofai ei godi ar ei gefn; ac am ei fod yn anesmwyth, ac yn pwyso yn drwm arno, a'i bwriai ef i lawr eilwaith, ac a roai lawer ychwaneg atto, ac a geisiai ei godi wedi hynny: ond pan y clywai yn drymmach nag o'r blaen, a ddigiai yn gynddeiriog, ac a roai y dau cymmaint atto, i gei∣sio ei wneuthur yn ysgafnach. Oblegid felly y mae plant y byd hwn yn gwneuthur, y rhai wrth weled yn syrn anhyfryd iddynt wrthwynebu vn pechod neu ddau yn y dechreuad, sydd yn oedi ymchwelyd at Dduw, ac yn chwanegu at hynny vgain neu ddeugain o bechodau, a thybieid y bydd haws iddynt edifar∣hau yn ôl hynny.

7. Y mae Sainct Awstin wrth ddeongl y gwyrthi∣au a wnaeth ein lachawdr CHRIST wrth godi Lazarus o farw i fyw, ac ynteu wedi marw er ys pedwar diwr∣nod weithian, fel y dywaid yr Efangy∣lwr: yn chwilio yr achos pa ham yr wylodd, ac y dolefodd Christ, ac yr ymofidiodd yn yr yspryd cyn gwneuthur y weithred honno, gan iddo godi eraill yn hawdd iawn: ac o hynny y mae efe yn rhoi'r wers hon i ni; sef megis yr oedd Lazarus wedi ma∣rw er ys pedwar diwrnod, a chwedi ei gladdu; felly y mae pedair grâdd mewn pechadur: y gyntaf mewn ewyllysgar ddifyrwch pechod; yr ail trwy gydsynio a phechod, y drydedd drwy wneuthur y weithred; a'r bedwaredd trwy barhau mewn pe∣chod ac ymgynnefino ag ef: a phwy bynnag, medd y tad duwiol hwnnw, a fo wedi ei gladdu vnwaith mewn ymarfer a phechod; y mae'n anhawdd i godi ef o farw i fyw, ond trwy wyrthiau mawr o ran Duw, a llawer o ddagreu o'i ran ynteu.

8. Y rheswm o hynny yw'r hyn a ddywaid y gwr doeth Hir glefyd a hen ddolur a flina'r physygwr, ond byrr glefyd newydd ni pharhaodd ond tros ychy∣dig

Page 324

o amser, y physygwr a'i tyrr ymaith yn y man. Eccl. 10.10. Lat. Esgyrn yr hen annuwiel a fydd llawn o bechodau ei ieuengctyd, medd Job, a bwy a or∣weddant gydag ef yn y pridd pan êl efe i'r bedd, Job 20. Yr ydym ni yn darllain i Foesen, yn rhan o gospedigaeth ar y bobl a bechasai yn addoli y llo aur, falurio 'r llo yn chwilfriw, a'i roi iddynt i'w yfed. Felly 'r pechodau oedd ddifyrr gennym yn ein ieuengtyd, y maent wedi ymwasgaru, trwy ym∣arfer a chynnefindra, yn ein cyrph ni a'n hesgyrn, fel nas gallom ni, pan ddel henaint ar ein huchaf, mo'i gyrru hwynt ymaith pan fynnom, ond yn anhawdd ac yn flin iawn. Ond ffolineb gan hynny, ydyw i ni oedi gwellhau ein bucheddau hyd onid elom yn hên, a phan fo mwy o rwystrau i'n hattal ni, ac yn anhaws o lawer byd i ni wneuthur hynny nag yr awrhon?

9. Os anhawdd y gweli di i ti wellhau dy fuchedd yr awrhon, a llafurio yn boenus yn dy alwedigaeth, ac ymprydio, a gweddio, a phethau eraill, y rhai y mae'r Scrythur lân yn eu dysgu i bechaduriaid, i'w helpio i droi at Dduw; pa fodd y gwnei di y pe∣thau hynny yn dy henaint, pan fo rheitiach i th gorph di gael gwneuthur yn fawr am dano, a bod yn dda wrtho, nâ'i flino a'i boeni a'r cyfryw weithredo∣edd? Os gweli di yn anhyfryd gwrthwynebu dy be∣chodau yr awrhon, a'i diwreiddio hwynt, wedi i ti barhau ynddynt ddwy flynedd, neu dair, neu bedair; pa fodd y gweli di hynny, wedi darffo i ti fwrw vgain mhlynedd attynt? Ond ynfyd iawn y cyfrifit ti, yr hwn wrth siwrneio ar y ffordd, a chanddo ei ddewis o ddigon o geffylau cryfion heinyf, ac a ada∣wai i'r rhei'ny i gyd fyned yn weilydd, ac a roi ei holl glûd a'i bynnau ar ryw vn anifail cûl, truan, ni allai ond prin ddwyn ei ddraed ei hun, chwaethach sefyll tan gynnifer o bynnau a fwrid arno: Ac yn

Page 325

siccr nid gwell rheswm y dyn a dreulio holl ddyddi∣au ei hoywder a'i ieuengctyd mewn diogi a musgre∣lli, ac a adawo gwbl o'r boen a'r llafur i ddyfod ar yr henaint llêfg dirym.

10. Ond i adael heibio ynfydrwydd y ddichell hon, dywaid i mi (Gristion da) pa anniolchgarwch ac anghyfiawnder tu ac at Dduw ydyw hyn; wedi darfod i ti dderbyn eusys cymmaint o gymmwynasau ar ei law ef; a'th fod yn disgwyl cymmaint gwobr a thâl ganddo ac ydyw teyrnas nef, yn ôl hyn, i ti, er hynny i gyd, appwyntio y rhan leiaf, ac olaf, a gwaethaf o'th holl fywyd, i'w wasanaethu ef; ie, y rhan nid wyt ti siccr o honi, ac ni wyddost di pa vn a wna ai dyfod byth, ai peidio; na pha vn a wna Duw ai ei chymeryd gennyt ti ai peidio, os daw? Y mae 'r Prophwyd yn melldigo'r neb a fo perchen anifei∣liaid iach dianaf ac a offrymmo i'r Arglwydd yr vn a fo cloff ac anafus o honynt, Malac. 1. Pa faint mwy y byddi di felldigedig, a thithau a chymmaint gennyt o ddyddiau dy ieuengtyd, a'th nerth, a'th gryfder; ac nid wyt o'th holl fywyd yn appwyntio i wasanaethu Duw, ond dy henaint gogloff yn vnig? Yn y gyfraith yr oedd yn waharddedig, trwy fy∣gwth tôst, fod gan neb ddau fesur yn ei dŷ i'w gym∣mydog; vn mawr i'r hwn a fo da ganddo, ac vn llai i rai eraill. Ac etto nid oes arnat ti gywilydd fod gennyt ddau fesur o'th fywyd, o rai tra anghyfiawn, i dwyllo yr Arglwydd dy Dduw; ac wrth y mesu∣rau hynny yr wyt ti yn rhannu arno ef ran fechan, ferr, anafus, amheus, o'th amser: ac yn rhoi i'w elyn ef y rhan fwyaf, a'r deccaf a'r siccaraf o'th amser.

11. Oh frawd anwyl, pa reswm sydd gennyt ti wneuthur fel hyn â Duw? Pa gyfraith, pa gyfiawn∣der, pa gydwybod sydd gennyt ti, wedi darffo i ti wasanaethu'r byd, a'r cnawd, a'r cythraul, tros dy

Page 326

holl ieuengctyd, a'r rhan oreu o'th ddyddiau, ddy∣fod yn y diwedd a tharo dy hên esgyrn, wedi llygru a darfod gan bechod, yn nysgl Duw? A rhoi i'w elynion ef yr hyn goreu, ac iddo ynteu'r gweddill? A rhoi'r gwin i'w elynion ef, ac iddo ynteu'r gwa∣ddod a'r ammhuredd: Onid wyt ti yn cofio y mynn efe offrwm iddo y rhan frasaf a goreu? Onid wyti yn meddwl am y gospedigaeth a roed ar y rhai a o∣ffrymmasant y rhan waethaf o'i golud i Dduw? Levit. 3. Malac. 1. Canlyn gan hynny gyngor yr Yspryd glân os wyt ti gall, yr hwn sy'n dy rybuddio di yn y geiriau hyn, Cofia dy greawdr yn nyddiau dy ieuengctyd, cyn dyfod y dyddiau blin, a nessau o'r bly∣nyddoedd yn y rhai y dywedi, nid oes gennyf ddim hy∣frydwch yddynt, Preg. 12.1.

12. Pa sawl vn a welaist di eu torri y maith yngha∣nol eu dyddiau, tra fyddent yn amcanu newidio eu buchedd yn yr amser a ddoai? Pa sawl vn a gyrhae∣ddodd hyd henaint, ac a glywent ynddynt yna lai e∣wyllys i wellhau nag o'r blaen? Pa sawl vn a oe∣dodd hyd awr angeu, ac yno a feddylient lai am eu cyflwr, nag erioed o'r blaen? ond meirw fel anifei∣liaid mudion direswm, yn ôl yr hyn a ddywaid S. Grigor; Y mae 'r pecha∣dur (medd efe) yn cael bwrw arno hyn o flinder hefyd, sef bod iddo yn ei far∣wolaeth ei ollwng ei hun dros gôf, gan iddo ollwng Duw tros gôf yn ei fywyd? O faint o esamplau o hyn yma a welir beunydd! pa faint o'r rhai bydol a fuant fyw yn gnawdol? Pa sawl pechadur mawr, wedi treulio eu buchedd mewn annuwioldeb; sydd yn diweddu ac yn marw, megis pettynt hwy yn myned i ryw le difywyd, lle ni ofynnir nac atteb na chyfrif am ddim ac a wneler? Y maent hwy mor ofalus yn eu llythyr cymmyn tros gig a gwaed, ac am olud y byd hwn, a phettynt hwy yn cael byw

Page 327

byth, neu yn cael rhan o'r oferbethau hynny wedi yr elont ymaith. Mewn gwirionedd, os mynnwch chwi ddywedyd y peth yn y modd y mae, y maent hwy yn meirw fel pe bai'r enaid heb fod yn anfarwol, ond yn marw gŷd a'r corph: a hynny yn siccr wir y maent hwy yn ei gredu yn eu calonnau.

13. Ond bwriwch na bai'r peth felly; ac y gallai ddyn mor hawdd, ac mor gymmwys, ac mor siccr droi at Dduw yn ei henaint, ac yn ci ieuengctid, a bod y naill yn rhyngu bodd i Dduw yn gystal a'r llall; etto dywedwch i mi pa faint o amser yr y∣dych chwi yn ei golli wrth oedi fel hyn? Pa drysor mawr o dduwioldeb yr ydys yn ei ollwng heibio, ar a allesid ei gael wrth gymmeryd poen yn gwasa∣naethu Duw? Pe bai ryw gapten a'i sawdwyr yn myned i mewn i ryw dref gyfoethog, i gymmeryd ei hyspail a'i hanrhaith hi, a dywedyd o vn o'r sawd∣wyr, myfi a arhosaf yu ôl, ac a ddeuaf i mewn dra∣noeth wedi myned o'r yspail ymaith, oni thybygech chwi fod hwnnw yn llwrf ac yn ansynhwyrol iawn hefyd? Felly am Grist ein Iachawdwr a'i holl saw∣dwyr da, y maent hwy wedi cymryd anrhaith y by∣wyd hwn, a'i cyfoethogi eu hunain a'i llafur mewn amser, a chwedi cludo'r cyfoeth hwnnw gydâ hw∣ynt megys ysgrifennadau cyfnewyd i'r banc nefol, a chael yno daledigaeth o ogoniant tragywyddol. Ac ond ffoledd a chyndynrwydd mawr ynom ni, ydyw treulio'r fuchedd hon mewn pethau mor ddiles? Yr awrhon ydyw'r amser i ymdrech ac i ynnill y goron: yr awrhon yw'r amser i ni i geisio ein rhan o'r an∣rhaith: yr awrhon ydyw'r amser i redeg yr yrrfa, i gael ynnill y gamp: yr awrhon yw amser hau, i gael o honom ŷd ebyn y cynhauaf sydd yn dyfod. Os gollyngwch chwi'r amser yma heibio, nid oes i ni mwy na choron, nac anrhaith, na theyrnas, na chynhauaf i ddisgwyl amdano. Oblegid, fel y mae'r

Page 328

ysgrythur yn ein siccrhau ni, Y diog, nid ardd o her∣wydd oerder y gauaf, a â i gardtta'r cynhauaf ac ni chaiff ddim, Diha. 20.4.

14. Ond oni all ystyried yr elw dy annog di, ddarllennydd hynaws, fel y dylai wneuthur, ac yn∣tau o gymmaint pwys ac ydyw, ac nas gellir ei alw yn ôl wedi yr êl heibio, etto meddwl ynot dy hun faint y ddlêd a'r rhwymedigaeth yr wyt ti yn ei dyn∣nu arnat dy hun, am bob diwrnod ac yr wyt ti yn oedi ymchwelyd at Dduw, ac yn byw mewn pe∣chod. Yr wyt ti bob dydd yn gofod clymmau, y rhai sy raid i ti eu dattod ryw amser; yr wyt ti yn casglu ynghyd y pethau a fydd rhaid i ti eu gwasga∣ru drachefn; Yr wyt ti bob yn awr yn bwytta ac yn yfed y pethau a fydd rhaid i ti ryw amser eu chwy∣du: ie, os digwydd i ti yr hyn a fo goreu ardy les; hynny ydyw os ti a edifarhei mewn pryd, ac os Duw a dderbyn dy edifeirwch di, ac onid ê gwae dydi am dy fod di yn pentyrru digofaint a dialedd ar dy ben dy hun. Ond bwrw y gelli di yn ôl hyn gael grâs 1 edifarhau, er dy fod di yr awrhon yn ei wr∣thod; etto fe fydd i ti achos i wylo am y peth yr wyt ti yr awrhon yn chwerthin; fe fydd drwg iawn gennyt ddarfod i ti wneuthur y peth sy wŷch gennyt ti yr awrhon ei wneuthur; fe fydd rhaid i ti felldi∣go'r dydd yr ymroist i bechu, ac onid ê ni wna ddim llês i ti edifarhau. Hyn yr wyt ti yn ei wybod yr awrhon, a hyn yr wyt ti yn ei gredu yr awrhon, ac onid è nid wyt ti Gristion. Pa fodd wrth hynny yr wyt ti yr awrhon mor ynfyd, a gwneuthur yn erbyn Duw, o ewyllys dy galon, ac o'r gwaith go∣ddeu; a thitheu yn gwybod yn dda y bydd rhaid i ti ryw amser ofyn maddeuant iddo trwy ddagrau. Os wyt ti yn tybieid y maddeu efe i ti, pa anniolchga∣rwch i ti ddigio arglwydd mor ddaionus? Os, wyt ti yn tybieid na faddeu efe ddim i ti pa ynfydrwydd

Page 329

fwy na gwneuthur yn erbyn tywysog lle nid oes go∣baith maddeuant.

15. Gwna di dy gyfrif yr awrhon fel y mynnych, os ti nid edifarhei a newidio dy fuchedd, yno y bydd pob pechod yr wyt ti yn ei wneuthur, a phob dydd yr wyt ti yn byw mewn pechod, yn angwhanegu ar ddigofaint a dialedd arnat ti yn vffern, fel y mae S. Paul yn profi, Rhuf. 2.4, 5. Os bydd i ti yn ôl hyn trwy drugaredd Duw edifarhau a gwellhau dy fuchedd (oblegid nid oes mo hynny ar dy law di dy hun) yno y bydd rhaid i ti ryw amser ymgwyno, ac ymofidio, a bod yn ddrwg gennyt ddarfod i ti oedi cyhyd. Felly po hwya 'r oedech di, a pho mwyaf y chwanegech di bechu, mwya' fydd dy ofid di a'th dristwch wrth edifarhau. Fe fydd rhaid hir a dyfal feddy giniaeth i hên friw, medd S Cy∣prian. Fe fydd rhaid i'n cyrph ni a fu fyw mewn mwythau, gael eu blino medd S. Jerom, a rhaid yw gwneu∣thur iawn am ein hir chwerthin ni, â hir wylofain. Ac medd S. Ambros, i archoll fawr y bydd rhaid wrth hir feddygyniaeth.

16. Marcia hyn, fy anwyl frawd, y bydd mawr dy boen di yn gwellhau dy fuchedd, ac nad oes ffordd i ochel y boen honno. Pa ynfydrwydd i ti wrth hynny, yr awrhon helaethu dy archoll, a thithau yn gwybod y bydd mor dôst y feddyginiaeth yn ol hyn? Pa greulondeb yn dy erbyn dy hun a all fod fwy, na bod i ti wthio drain yn dy gnawd dy hun, a gorfod arnat yn ol hyn eu tynnu allan trwy fawr ofid? A fy∣ddit ti mor ynfyd ac yfed y cyfryw gwppanaid o ddi∣od wenwynllyd a barai i ti yn y man syrthio mewn crŷd poeth, ac a flinai dy ymysgaroedd di, ac a ddygai dy fywyd oddiarnat ti, neu a'th yrrai mewn perygl bywyd; a hynny er mwyn ychydig flâs da a glywit arni wrth ei hyfed? Mi a wn beth a fydd dy atteb

Page 330

di i hynny, sef dwyn ar dy blaid esampl y lleidr da, yr hwn a fu gadwedig yn yr awr ddiwethaf ar y groes, ac a ddugpwyd i Baradwys y dwthwn hwn∣nw gydâ Christ, heb ddim ychwaneg o lafur yn gwellhâu ei fuchedd. Dyfal y deil y rhai sy'n oedi edifarhau ar y sampl yma, a mawr y gwnânt o ho∣ni; ac yn siccr mawr ydyw, a mawr y dylai fod y cyssur oddiwrthi i bob dŷn ac sy flin arno yn yr awr ddiwethaf, ac am hynny fynychaf a demptir gan y gelyn i anobeithio yn nrhugaredd Duw, yr hyn nis dylai mewn modd yn y byd ei wneuthur. Oblegid y mae yr vn Duw a achubodd y mawr bechadur yn yr awr ddiwethaf, yu abl i achub pawb ac a droo atto ef o wir ddifrif eu calonnau, yn yr awr ddiwe∣thaf, ac efe a'i gwna hefyd. Ond ysywaeth y mae llawer o ddynion yn eu twyllo eu hunain eisiau iawn ddeall, neu yn hytrach eisiau iawn arfer y siampl yma.

17. Oblegid rhaid i ti ddeall, fel y dywaid S. Awstin, nad oedd hynny ond vn weithred neilltuol a wnaeth Christ, yr hon nis gall wneuthur rheol gy∣ffredin: fel y gwelwn ni fod Tywysog daiarol wei∣thiau yn pardynu drwgweithredwr wedi ei ddyfod at y pren dioddef, ond ni wasanaetha i bob drwg∣weithredwr ymddiried i hynny; oblegid nad yw hynny ond vn weithred neillduol o drugaredd y Ty∣wysog yr hon nis gwna efe, ac nid yw yn addaw ei gwneuthur i bob dyn. Heb law hyn, nid oedd y weithred honno ond gwyrthiau a wnaeth Christ i ddangos ei allu yn yr awr ddiwethaf ar y groes. A hefyd nid oedd y weithred honno ond vn a wnaed wrth ragorol gyffes y lleidr ar yr awr honno, pan oedd yr holl fyd wedi gwrthod Christ, a'r Aposto∣lion eu hunain naill ai yn ammau, ai wedi colli eu ffydd am ei dduwdod ef. Heb law hyn oll, yr o∣edd cyffes y lleidr yma ar y fath amser ac nas gallai

Page 331

ef na chael ei fedyddio, na chael amser i wellhau ei fuchedd. Ac yr ydym ni yn bwrw, nad ydys yn gofyn dim ychwaneg ar law dyn, ar ei ymchweliad cyntaf, ond bod iddo gredu a chael ei fedyddio. Ond ni bydd anghymmwys adrodd geiriau S. Awstin ei hun yn hyn o beth. Ac fel hyn y dywaid ef:

18. Y mae yn berygl dirwymedi, pan ymroddo dyn mor gwbl i annuwioldeb, a bod iddo ollwng yn anghof y bydd rhaid iddo roi cyfrif i Dduw am hyn∣ny: a'r achos sy'n peri i ni dybiaid hynny ydyw hyn, fod yn gospedigaeth fawr am bechod bod i ddyn golli'r ofn a'r coffa a ddylai fod ynddo am y farn a ddaw, &c. Ond, anwyl garedigion, rhag ofn i ddedwyddwch y lleidr a gredodd ar y groes, wneuthur neb o honoch chwi yn rhy ddiofal ac yn rhy esgeulus: rhag ofn i neb o honoch ddywedyd yn ei galon; Ni chaiff fynghydwybod euog na'm blino i na'm poeni: am fy mod i yn gweled ddarfod mewn vn moment faddeu cwbl ò'i bechodau i'r lleidr hwn∣nw; Rhaid i ni ystyried yn y lleidr hwnnw, nid yn vnig fyrred oedd ei greduniaeth a'i gyffes, ond gy∣dâ hynny hefyd ei ddwysoldeb ef, a'r achlysur o'r amser hwnnw, pan oedd y rhai perffeithaf, a'r rhai cyfiownaf yn siglo. Yn ail, dangos i mi ynot dy hun y fath ffydd ac oedd yn y lleidr hwnnw, ac yno dywed y gelli fod mor ddedwydd ac a fu yntau. Y mae'r cythraul yn rhoi 'r dioalwch hwnnw yn dy ben di er mwyn ceisio dy ddwyn di i golledigaeth. Ac amhossibl fyddai dangos cyfrif o'r cwbl ac a aeth i golledigaeth tan rith y gobaith twyllodrus hwnnw. Y mae efe yn ei dwyllo ei hun pwy bynnag nid yw yn gwneuthur ond cellwair o'i ddamnedigaeth, ac a dybia y bydd i drugaredd Duw ei helpio ef yn yr awr ddiwethaf. Peth ffieiddgas gan Dduw ydyw bod i ddyn bechu yn hydda o hyder cael edifeirwch yn ei henaint. Y lleidr dedwydd yma, dedwydd

Page 332

ydoedd nid am iddo gael y ffordd, ond am iddo gym∣meryd gafael yn y ffordd ei hun ynghrist, pan oedd yntau yn cael gafael ar ysglyfaeth y bywyd, ac mewn modd rhyfeddol a wnaeth elw o'i farwolaeth ei hun; Ni bu i'r lleidr yma, meddaf, nac oedi amser ei ia∣chawdwriaeth trwy wybod, na gosod cwbl o'i ym∣ddiried ar gael edifeirwch yn yr awr ddiwethaf, na chadw gobaith ei ymwared hyd yn amser angau, ac nid oedd ganddo wybodaeth yn y byd am grefydd nac am Grist o'r blaen. Canys pe buasai ganddo hynny ni buasai efe yn olaf o rifedi yr Apostolion, ac ynteu yn myned o'i blaen hwy i'r deyrnas.

19. Wrth y geiriau hyni S. Awstin y rhybuddir ni (fel yr ydych chwi yn gweled) nad yw gwaith Christ yn maddeu i'r lleidr, yn rheol gyffredin i ddangos y caiff pob dyn faddeuant: nid am nad yw Christ bob amser yn barod i dderbyn yr edifeiriol, fel y mae efe yn addaw, ond am nad yw pob dyn yn cael amser a grâs i edifarhau fel y dylai yn yr awr honno, fel y dangoswyd o'r blaen. Y ffordd gy∣ffredinol y mae Duw yn ei gosod o flaen pawb, yw'r hyn a ddywaid S. Paul, Eu diwedd fydd yn ol eu gweithredoedd, 2 Cor. 11.15. Edrychwch fel y bu∣ant hwy fyw, felly y byddant feirw. Ac i'r deu∣nydd yma y dywaid y prophwyd, Ʋnwaith y dywe∣dodd Duw, clywais hynny ddwywaith, mai eiddo Duw yw cadernid. Trugaredd hefyd sydd eiddot ti, ô Ar∣glwydd, canys ti a deli i bob dyn yn ôl ei weithred, Psal. 62.11, 12. Y mae'r gwr doeth yn gwneuthur hyn yn amlwg gan ddywedyd, Ffordd pechaduriaid a wastattawyd a cherrig, ond yn ei chwrr eithaf hi y mae ffos vffern, Eccl. 21.10. Yn ddiweddaf, y mae S. Paul yn cloi ar y cwbl yn ddwys ac yn gy∣ffredinol, Na thwyller chwi, ni watwerir Duw, ca∣nys beth bynnag a hauo dyn, hynny a fed efe. Oble∣gid yr hwn sydd yn hau i'w gnawd ei hun, o'r cnawd

Page 333

a fed lygredigaeth: eithr yr hwn sydd yn hau i'r ys∣pryd, o'r yspryd a fed fywyd tragywyddol. Lle y mae efe nid yn vnig yn gosod ar lawr i ni y rheol gyffredin fy raid i ni hyderu arni, ond y mae yn dy∣wedyd ym mhellach hefyd, nad ydym ni wrth goe∣lio'r gwrthwyneb ond gwatwor a dirmygu Duw, yr hwn a roes i ni yr gyfraith hon, Gal. 6.7.

20. Er hynny i gyd, fel y dywedais, nid ydyw hyn yn rhwystro i drugaredd Duw ymddangos i rai yn yr awr ddiwethaf. Etto anhappus yw'r dŷn a osodo angor a hyder ei ddedwyddwch neu ei anned∣wyddwch tragywyddol ar beth mor ansicor. Ansiccr yr wyf yn ei alw am fod yr holl wŷr dysgedig a sgri∣sennasant amdano, yn dywedyd yn amheus iawn am ymchweliad dyn yn yr awr ddiwethaf. Ac er nad ydynt yn ei wrthod yn hollawl ym mhob dyn, ond yn ei adael megis peth ansiccr ar farn ddirgel Duw, etto y maent yn tueddu at y blaid fy yn ei wadu, ac yn dangos pedwar o resymmau wrth y rhai y gellir ammeu bod ymchwelaid dyn yn yr awr ddiwethaf, yn ddigon i wneuthur dyn yn gadwedig.

21. Y rheswm cyntaf ydyw, am nad yw dygn ofn a gofid angeu yr hwn (fel y dywed y Philosophydd) o'r holl bethau ofnadwy yw'r peth mwya' ofnadwy, yn gadael i ddyn ymwrando ac ymglywed ag ef ei hun yr amser hwnnw yn gystal ac yn gymmaint ac y byddai raid iddo, i ymwneuthur a Duw ynghylch matter cymmaint ac yw ein ymchweliad ni a'n ia∣chawdwriaeth. Ac os ydym ni yn gweled yn fynych nas dichon ac nas meidr gwr duwiol da osod ei fe∣ddwl mor ddwys ac mor ddifrif ar bethau nefol, yr amser y bo gwyniau'r colic neu ryw ddolur tôst a∣rall yn ei flino ef: pa fodd y gall gwr bydol yngloes angau wneuthur hynny, ac yntau heb fod erioed yn arfer o'i wneuthur, a chwedi ei lwytho ag euogrw∣ydd llawer o bechodau trymmion, a chwedi ei orch∣fygu

Page 334

gan gariad ar ei gorph ei hun, a'r pethau a ber∣thyn iddo.

22. Yr ail rheswm yw, am nad yw'r ymchwelyd y mae dyn ar yr awr ddiwethaf, ond yn anfynych o wir ewyllys y galon, ond rhag y dir angen, a rhag ofn: cyfryw ac ydoedd edifeirwch Shimei a ddar∣fuasai iddo ddigio'r Brenhin Dafydd yn dôst yn ei ad∣fyd, ac a ddaeth atto wedi hynny yn ei lwyddiant, rhag ofn cael ei gospi, ac a syrthiodd i lawr ger ei fron ef, ac a y mbiliodd am faddeuant trwy ddagrau. Etto yr oedd Dafydd yn deall yn dda pa fodd yr oedd y matter, ac am hynny er iddo ei arbed ef y dwthwn hwnnw rhag lleihau ar y llawenydd a'r gor∣foledd, efe a barodd wedi hynny wneuthur ag ef yn ôl ei haeddedigaeth, 1 Bren. 2.

23. Y trydydd rheswm yw, am nas gellir peidio a'r arfer o bechu, mor ddisymmwth, ac ynteu wedi tyfu megis yn naturiaeth. Ac am hynny y mae Duw yn dywedyd wrth y dynion drwg trwy'r prophwyd Jeremi, a newidia'r Ethiopiad ei groen: neu'r llew∣pârd ei frychni? felly y gellwch chwithau wneuthur da, y rhai a gynnefinwyd a gwneuthur drwg, Jer. 13.22.

24. Y Pedwerydd rheswm ydyw, am nas gall y gweithredoedd a wneler yr amser hwnnw, fod o gymmaint pris gydâ Duw, a phe gwneuthid hwy o'r blaen yn amser iechyd. Oblegid ai mawr ydyw os ti a faddeui i'th elynion pan ddel yr amser nas gelli di mwy wneuthur niweid iddynt? a rhoi dy dda o∣ddiwrthyt, pan na ellych di mwy wneuthur dim â hwynt? ac ymadael â'th ordderch, pan na ellych di ei chadw hi yn hwy? ac ymadael â'th bechod, pan fo dy bechod yn ymadael â thydi? Pethau da duwi∣ol yw y rhain' i gyd, a phethau a ddylai ddyn eu gwneuthur, ie yn yr awr ddiwethaf: ond ni bydd cymmaint pris arnynt a phe buasid yn eu gwneuthud

Page 335

mewn pryd ac amser, fel y dangosais o'r blaen. Y pummed rheswm a ellir ei gasglu allan o'r hyn yr y∣dym ni yn ei weled yn fynych, sef yw hynny, bod y rhai sydd yn edifarhau yn y modd hwnnw, os hwy a gânt eu hiechyd drachefn, yn myned yn waeth ar ol hynny nag oeddynt o'r blaen, a hynny sydd yn dangos nad oedd yr edifeirwch honno wir edifei∣rwch.

25. Ac dyma y rhesymmau sy'n peri ammau yr edifeirwch yma a gammerer yn y dydd diweddaf; nid o achos bod diffyg yn y byd o ran Duw, ond o ran y rhai sy'n gwneuthur hynny. Marcia yn dda, medd vn, yr hyn yr wyfi yn ei ddywedyd, ac fe allai y bydd rhaid i mi ddangos fy meddwl yn am lygach, rhag i neb fy ngham gymmeryd. Beth wrth hynny yr wyfi yn ei ddywedyd? y bydd colledig y neb nid edifarhao ond yn y diwedd? nag ê ddim. Beth ynteu? Ai y byddant hwy gadwedig, nag e ychwaith. Beth ynteu a ddywedafi? Nis gwn beth a ddywedaf; ni feiddiaf ddywedyd: nid addawaf ddywedyd: nis medraf ddywedyd. A fynni di na bo rhaid i ti fod mewn ammau fel hyn? A fynni di ochelyd y pwngc peryglus yma? Cymmer dithau edifeirwch tra fych yn iach lawen. Oblegid os ti a edifarhei yn dy iechyd, pa bryd bynnag y dêl yr awr ddiwaethaf ar dy vchaf di, yr wyt ti yn ddio∣gel ddigon. A pha ham? am ddarfod i ti edifarhau yn yr amser y gallesit bechu. Ond os yr amser hwn∣nw yr edifarhei di, pan na allech di bechu yn hwy, nid tydi sydd yn ymadael a'th bechod, ond y pechod sydd yn ymadael â thydi.

26 Ac yma y mynnwn i'r Christion gofalus y∣styried gydâ myfi vn gyffelybiaeth a ddangosaf iddo. Os ydyw y rhai sydd yn dangos rhyw fath ar edifei∣rwch ar eu dydd diwedd, yn ymadael oddi yma ar hynny yn y fath beryglus ammau, beth a dybiwn

Page 336

ni am y rhai fy heb na bod ganthynt ewyllys, na chael nac amser na grâs i edifarhau yn yr awr honno? Beth a ddywedwn ni am y rhai a dorrer ymaith o'r blaen? am y rhai a fo meirw yn ddisymmwth? am y rhai a gollo eu synhwyr a'i pwyll, fel y mae llawer? Beth a ddywedwn ni am y rhai y mae Duw yn eu gwrthod, ac yn gadeal iddynt bechu tra fo'r ffûn yn eu genau? Mi a ddangosais o'r blaen allan o Sainct Paul, fod pob pechadur gan mwyaf yn marw yn yr vn modd ac y bu fyw. Wrth hynny y mae yn rha∣gorfraint mawr i ddŷn annuwiol gael dechreu ei edi∣feirwch pan fo yn marw. Ac yno, os bydd ei edi∣feirwch ef mor amheus pan ddêl, pa ofidus gyflwr y mae rhai eraill ynddo? sef y rhan fwyaf o ddyni∣on, y rhai nid ydynt yn edifarhau ddim: ond marw fel y buant byw, a Duw yn eu gadael yn y cyfyng∣der hynny, fel y mae efe yn addo pan yw yn dywe∣dyd; Yn gymmaint ac i mi eich gwahodd, ac i chwi∣hau wrthod; i mi ystyn fy llaw a neb heb ystyried: Minnau a chwarddaf yn eich dialedd chwi: ac a wawdiaf pan ddel arnoch wasgfa, a distryw a chaledi. Chwi a elwch arnaf, ac ni warandawaf, chwi a'm cei∣stwch yn fore, ac ni'm cewch, Dihar. 1.24.

27. Pan welo'r by dol fod hoywedd ei vchelfraint ef, a'i rodres, a'i rwysg bydol wedi darfod am da∣nynt: pan fo gwrà trachwant, a serch y cnawd, a phob mwythau a phleser wedi diffoddi: pan fo tiri∣ondeghaf-ddydd y fuchedd hon ar ddibennu, a thym∣hestlog auaf-nos marwolaeth yn nessau; yna y try efe at Dduw; yna yr edifarhaa efe; yna y rhydd efe gwbl o'i frŷd a'i feddwl ar ymadael a'i ddrygi∣oni, a throi ar ddaioni. Pryd nas gallo fyw yn hwy, efe a eddy gymmeryd y boen a fynner, a gwrando ac astudio gair Duw yn y modd y mynner, a chym∣meryd y boen a fynner yn ei alwedigaeth, a gwe∣ddio cymmaint ac a fynner, a rhoi o eluseni cym∣maint

Page 337

ac a fynner, a gwneuthur y maint a fynner o weithredoedd da, a byw cyn galetted ac y mynner; ef a eddy hyn i gyd, meddaf, tan ammod cael oes etto i fyw yn y byd; tan ammod cael oedi ei ddydd diwedd; ac etto pe caniattai Duw ei ddymuniad iddo, (fel y mae efe yn gwneuthur yn fynych) ni chywirai ef vn gair o'i addewid, ond bod mor ddio∣fal ac a fu erioed o'r blaen. Pan ddêl ar y cyfryw vn lefain ac ochain, a griddfan, ac vcheneidio tost∣lym, ac heb gael ei wrando, pa gomffordd a ddis∣gwyl efe ei gael yr amser hwnnw? Oblegid i ba le y trŷ efe yn y cyfryw gyfyngder? ai at ei olud bydol, a'i allu, a'i gyfoeth? Och, och, y mae y rheiny we∣di ei adaw ef; ac y mae'r Scrythur yn dywedyd, Ni thyccia cyfoeth yn nydd digofaint, Dih. 11.4. Ai at ei ddynion y trŷ efe? Ond pa gomffordd a fedrant nac a allant hwy ei roi, ond wylo yn vnig a galaru? Ai gofyn cymmorth a wnant hwy yr amser hwnnw gan y Saint i weddio trostynt? yno y bydd rhaid i∣ddynt gofio yr hyn a ysgrifennwyd, Gorfoledded y Sainct mewn gogoniant, a chanant; a bydded ardder∣chog foliant Duw yn eu genau, a chleddyf dausiniog yn eu dwylo, i wneuthur dial ar genhedloedd, a chosp ar bobloedd; i rwymo brenhinoedd a chadwynau, a phendefigion a gefynnau heiyrn, i wneuthur arnynt farn ysgrifennedig Duw: yr ardderchawgrwydd hyn sydd iw holl Sainct ef, Psal. 149. At Dduw yn vnig wrth hynny y mae'n rhaid iddynt hwy gilio, yr hwn mewn gwirionedd yw vnig ymddiffynfa pawb: ond etto yn y peth yma, fel hyn y dywed y prophwyd, Ni wrendy efe arnynt, ond yn hytrach ei diystyru a chwer∣thin am ben eu gofidus gyflwr hwy, Dih. 1.26. Nid am ei fod yngwrthwyneb i'w addewid am dderbyn a chrosawu pechadur, Pa bryd bynnac yr edifarhao, ac y troo oddiwrth ei bechodau: ond am nad yw'r ymchweliad yma yn y dydd diwedd ond yn anaml yn

Page 338

wir edifeirwch, ac yn wir ymchweliad, oblegid yr achosion a ddangoswyd o'r blaen.

28. Ac i ddibennu'r matter yma ynghylch oedi edifeirwch, pa wr synhwyrol yn y byd, wrth ddar∣llain hyn, nid ofna oedi ymchwelyd at Dduw, pettai hynny heb ddimond tros vn diwrnod? oblegid pwy a wŷr nad hwn yw'r dydd diwethaf y geilw Duw ef i edifarhau? Y mae Daw yn dywedyd, Myfi a el∣wais, ond chwi a wrthodasoch ddyfod; mi a estynnais fy llaw, ac nid edrychech tu ac attaf; ac am hynny y gwrthodaf sinnau chwithau yn eich caledi, Dihar. 1. Nid yw efe yn dywedyd pasawl gwaith, a pha hŷd y bu yn galw ac yn estyn ei law. Y mae Duw yn dywedyd, Yr wyfi yn sefyll wrth y drws ac yn curo: ond nid yw yn dywedyd pa hyd y bu yn sefyll yno, na pha sawl gwaith y mae'n curo, Date. 3.20. He∣fyd, efe a ddywedodd am Jezabel ddrygionus, y gau brophwydes, Mi a roddais iddi amser i edifar∣hau am oi godineb, ac nid edifarhaodd hi, am hynny y daw dialedd arni, ond nid yw efe yn dywedyd pa hŷd o amser a roes efe iddi, Datc. 2.21. Yr ydym ni yn darllain esamplau aruthrol am y peth yma. Ef a alwyd ar Herod y tâd, a hynny yn vchel, pan ddanfonwyd Joan Fedyddiwr atto ef, a phan gynn∣hyfwyd ei galon ef i wrando arno yn ewyllysgar, ac i wneuthur ei gyngor ef mewn llawer o bethau, fel y dengys yr Efangylwr: ond etto am iddo oedi, ac na chymmerodd amser pan gynnygiwyd iddo, ef a fwriwyd ymaith, fel yr aeth ei weithredoedd di∣wethaf ef, yn waeth na'i rai cyntaf, Mar. 6. Ef a alwyd hefyd ar Herod y Tetrarch y mâb, pan dda∣eth arno chwant cael gweled Christ, a gweled gw∣neuthur rhyfeddodau ganddo ef: ond am nad atte∣bodd efe i'r galwad hwnnw, ni wnaeth llês yn y byd iddo gael galw arno, ond yn hytrach afles a niweid mawr. Pa ddyrnod o guro a gafodd PILAT ar

Page 339

ei galon, pe buasai iddo cymmaint ô râs ac egori 'r drws yn y man, pan barwyd iddo ddeall fod Christ yn ddieuog: fel y gellir gweled wrth ei waith ef yn golchi ei ddwylo yn dystiolaeth o hynny, a'i wraig hefyd yn danfon iddo rybodd o hynny? Nid llai curo a gafodd y brenhin Agrippa ar ddrws ei ga∣lon, pan lefodd efe wrth wrando ar S. Paul, O Paul, yr wyti o fewn ychydig i'm hynnill i fod yn Gristion. Ond am iddo oedi'r peth, fe giliodd y cyffro hwn∣nw ymaith drachefn, Acts 26.28.

29. Tradedwydd fuasai Pharao, pe buasai efe yn ymroi ar y cyffro yr oedd yn ei glywed ynddo ei hun, pan ddywedodd efe wrth Foesen, Mi a bechais: y mae'r Arglwydd yn gyfiawn, a minnau a'm pobl yn annuwiol. Ond wrth oedi, efe a aeth yn waeth nag a fuasai erioed o'r blaen. Y mae S. Luc yn adrodd fel y bu i Felix rhaglaw y Rhufeinwyr yn Judaea, ymchwedleua yn fynych â S. Paul yn ddirgel pan oedd efe yn garcharor, a chlywed ganddo ffydd Grist, a chyffroi yn fawr wrth ei glywed, yn enwe∣dig vnwaith ym mysg eraill, pan oedd Paul yn ym∣resymmu am gyfiawnder Duw, a'r farn ddiwethaf, hyd oni ddychrynodd Felix; ond etto efe a oedodd ymroi, ac a archodd i S. Paul fyned ymaith, a dyfod atto ef amser arall: ac felly wrth oedi, ni weithiodd hynny ddim ynddo, Acts 24.25. Pa faint o ddy∣nion sy beunydd yn mynd yn golledig, rhai wrth fod angau yn eu torri ymaith, rhai trwy fod Duw yn eu gadael, ac yn eu rhoi i fynu i feddwl anghymmera∣dwy; y rhai a allasai gael grâs, pe buasent heb oedi eu hymchweliad o ddydd i ddydd, ac yn ym∣roi yn y man pan glywent Dduw yn galw yn eu ca∣lonnau?

30. Y mae Duw yn haelionus iawn i guro ac i alw, ond nid yw efe yn ymrwymo i amser nac ennyd yn y byd, ond mynd a dywod pan fynno; a'r rhai ni

Page 340

chymmero 'r amser a gynnygier iddynt, y maent hwy yn ddiesgus ger bron ei gyfiawnder ef, ac nis gwyddant pa vn a wneir ai ei gynnyg iddynt drachefn ai nas gwneir: am fod hynny yn sefyll ar ewyllys a gwybodaeth Duw yn vnig, yr hwn sydd yn dangos trugaredd i'r neb y gwelo efe yn dda, ac nid yw rw∣ymedig i neb. A phan êl heibio vnwaith yr amser a bennododd efe i alw dŷn, gwae fyth y dŷn hwnnw oblegid ni chair mor amser hwnnw mwy er mil o'r holl fyd. Y mae Christ yn dangos faint o bwys yw'r matter hwnnw, pan oedd efe yn myned i Jerusalem, ynghanol ei lawenydd a'i ogoniant ni fedrai efe nad wylai tros y ddinas honno, a llefain trwy ddagrau, O Jerusalem, pe gwybasit ithau, ie yn dy ddydd hwn y pethau a berthynent i'th heddwch, ond yn awr y ma∣ent yn guddiedig oddiwrthyt, Luc. 19. Megis pe y dy wedasai, Pettit ti yn gwybod, o Jerusalem, yn gystal ac y gwn i, pa drugaredd yr ydys yn ei gyn∣nyg i ti heddyw, ni wnait ti fel yr ydwyt yn gw∣neuthur, ond ti a'i cymmerit yn y man, ond yn awr y mae dirgel farn fy nhâd yn guddiedig oddiwrthyt ti, a hynny sy'n peri i ti wneuthur cyn lleied cyfrif o hono, hyd oni ddel dialedd disymmwth arnat ti: ac felly y daeth cyn pen nemmor ar ôl hynny.

31. Wrth hyn y gellir gweled y rheswm mawr sy'n peri i'r gwr doeth roi 'r cyngor yma, Na fydd hwyrfrydig i droi at yr Arglwydd, ac nac oeda o ddydd i ddydd oblegid yn ddisymwth y daw digofaint yr Arglwydd, a thra fych di yn ddifraw y daw dialedd arnat, Eccles. 5.7. Ac fe ellir gweled hefyd beth yw'r achos mawr sy'n peri i'r Apostol gynghori yr Hebraeaid mor ddifrif, ar iddynt dderbyn grâs, Dum cognominatur hodie, tra y barhaai 'r dydd hwnnw, ac na ollyngynt heibio mor achlysur oedd yn ymgyn∣nyg iddynt, Heb. 3. A hyn a ddylai bawb ei fwrw atto ei hun, ac vfuddhau i'r meddyliau da y mae ys∣pryd

Page 341

Duw yn ei roddi ynddo. Fe ddylai bob dyn, meddaf, pan glywo feddwl da yn ei galon, ddywe∣dyd yntho ei hun, yr awr hon y mae Duw yn curo wrth fy nrws i, os myfi a egoraf iddo yn y man, ef a ddaw i mewn ac a wna ei drigias ynofi. Ond os myfi a oedaf hyd y fory, ni wn i pa vn a wna efe ai curo drachefn ai nas gwna, Dat. 3.20. Fe ddylai bob dyn feddwl yn wastad am yr hyn a ddywedodd y prophwyd am yspryd Duw, Heddyw o gwran∣dewch ar ei leferydd ef yn galw arnoch, na chaled∣wch eich calonnau ond ymrowch iddo yn y man. Psalm 95.

32. Och finnau, frawd anwyl, pa beth yr wyt ti yn ei obeithio ei ynnill wrth yr oedi peryglus yr wyt yn ei wneuthur? Y mae hynny yn chwanegu ar dy gyfrif di, fel y dangosais o'r blaen: y mae dy ddy∣led di ar wellhau yn myned yn drymmach: mae dy elyn di yn myned yn gryfach, a thithau yn myned yn wannach; mae yn myned yn anhaws i ti edifar∣hau; pa beth wrth hynny a allai fod yn dy attal di rhac ymroi allan o law! fe allai mai cael ynnill ychy∣dig amser iw dreulio mewn gorwagedd. Ond mi a ddangosais i ti o'r blaen nad ynill yr amser yw hyn∣ny, ond i golli; gan dy fod yn ei dreulio heb ffrw∣yth yn y byd o dduwioldeb, yr hyn yw gwir ynill yr amser. Os difyr gennyt ti bechu tros yr amser presennol, etto galw i'th gôf yr hyn y mae'r proph∣wyd yn ei ddywedyd, Agos yw dydd trychineb, a phrysuro y mae'r hyn a barottowyd iddynt. A phan ddêl y dydd, y mae'n rhyfedd gennyf pa obaith fydd gennyt ti bellach, Deut. 32.35. Ai meddwl crio Peccaui Mi a bechais, yr wyt ti? Da fydd hynny o gelli di wneuthur hynny: ond ti a wyddost i Pharao wneuthur felly, ac na thycciodd iddo ronyn, Exod. 9. Ai amcanu yr wyt ti wneuthur llythyr cymmon da, a bod yn hael o'th eluseni yr amser hwnnw? A da yw

Page 342

dy feddwl di yn hynny: ond etto rhaid i ti gofio he∣fyd, am y morwynion a lanwasant eu lampau ar y munyd hwnnw ddarfod i Grist eu cau hwynt allan, a'i gwrthod hwy yn gwbl. Ai amcanu wylo a chrio yr wyt ti, i geisio ynnill trugaredd dy arglwydd a'th ddagrau yn yr amser hwnnw? yn gyntaf, nid oes yn dy allu di wueuthur mo hynny wrth dy ewyllys dy hun: ac y mae'n rhaid i ti ystyried hefyd fethu gan Esau gael trugaredd, er iddo ei cheisio trwy ddagrau, Heb. 12.17. Galw i'th gôf gyflwr Antiochus yn ei gyfyngder, pa addewidion o weithredoedd da, pa addunedau o fyw yn Dduwiol a wnaeth efe wrth Dduw tan ammod cael diange, ac na thycciodd iddo ddim, 2 Mac. 9. Nid wyf yn dywedyd mo hyn i beri i'r rheiny anobeithio sydd yr awrhon yn y gofid hwn∣nw, ond i geisio cynghori eraill rhag syrthio i'r vn go∣fid; a bydd di sicer, ddarllennydd hynaws, nad heb achos y dywedodd y prophwyd, Ceisiwch yr Arglw∣ydd tra y galler ei gael: gelwch arno tra fyddo yn agos. Wele yn awr yr amser cymmeradwy, wele yn awr ddydd yr iachawdwriaeth, medd S. Paul, Es. 55.6. 2 Cor. 6.2. Yr awrhon y mae Duw i'w gael, ac yn agos ger llaw, i groesawu pawb a ym∣chwelo atto ef o wir ewyllys y galon; ac a roddo ei fryd yn gwbl ar fyw yn dduwiol o hyn allan. Os oedwn ni yr amser yma, nid oes i ni siccrwydd yn y byd y geilw efe nyni mwy, nac y croesawa ni yn ol hyn: ond y mae i ni yn hytrach lawer o fygythion i'r gwrthwyneb, fel y dywetpwyd o'r blaen. Am hyn∣ny mi a ddiweddaf ar yr vn wers yma allan o S. Aw∣stin, Mai diofal ac anraslon o ddyn ydyw 'r neb sy'n gwybod hyn oll, ac er hynny a anturia dragywyddol∣deb ei Iachawdwriaeth a'i ddamnedigaeth ar beth mor amheus ac ydyw cael edifeirwch yn yr awr ddiwe∣thaf, Tract. 3.3 Joan.

Page 343

PEN. VI. Am dri rhwystr arall sydd yn lluddias i ddyni∣on roi eu bryd ar edifarhau; a'r rhai hynny yw Diogi, a Diofalwch, a Chalon-galedwch.

HEB law y rhwystrau a grybwyllwyd am da∣nynt o'r blaen, y mae etto amryw rai i'w cael; pettai ddyn yn gallu holi cydwybod pob vn ac sydd heb glywed arno roi cwbl o'i fryd a'i feddwl ar edi∣farhau. Ond y mae'r tri a grybwyllaf amdanynt yn y bennod yma, mor hynod ac mor gydnabyddus, ac nas gallaf eu gillwng heibio heb eu hyspysu: o∣blegid bod dynion lawer gwaith heb fod yn eu hwyl, ac etto heb wybod beth yw eu clefyd; a di∣gon i'r rhai a fo'n chwennych cael iechyd gael dangos iddynt beth yw eu hafiechyd er mwyn eu cadw eu hunain rhag clefydau.

2. Yn gyntaf gan hynny, y mae diogi yn rhwystr mawr cyffredinol i luddias i ddynion roi cwbl o'i bryd ar edifarhau, ond yn enwedig i'r rhai segur mw∣ythus, y rhai a fu fyw mewn llonyddwch ac esmwyth∣dra ac am hynny sydd yn coelio am danynt eu hunain nas gallant hwy gymmeryd poen yn y byd, na dioddef caledi, pe gwneynt eu goreu ar hynny. Am y rhai hynny y mae S. Paul yn dywedyd na chaiff maswedd∣wyr meddfaeth etifeddu teyrnas Duw, 1 Cor. 6.9. Hyn i gyd, a llawer ychwaneg a gyfadde'r gwŷr hyn ei fod yn wir, ac y byddai dda iawn ganddynt eu gw∣neuthur, ond nas gallant: Ni all eu cyrph hwy ddi∣oddef mo hynny, ni allant hwy gymmeryd dim po∣en yn eu galwedigaeth, nis gallant hwy mor ympry∣dio, ni allant hwy mor gwylieid, ni allant hwy mor

Page 344

gweddio. Ni fedranthwy mo'r ymadael a'i plesser ac a'i difyrrwch, ac a'i ewmpeini llawen: hwy a fy∣ddent meirw yn y man gan drymfryd a melancholi, meddant hwy, pettent hwy yn gwneuthur hynny, ac er hynny y maent hwy yn ewyllysio yn eu calonnau fedru gwneuthur hynny, os coelir hwy: ac am nas gallant, nid oes ganddynt ddim ammau na bydd Duw bodlon i'w hewyllys da hwy. Ond gwrandawant hwy ychydig beth y mae'r Scrythur lâ yn ei ddywe∣dyd am hynny, Dihar 21.5. Deisyfiad y diog a'i lladd, medd Salomon, canys ei ddwylo a wrthodant wei∣thio: ar hyd y dydd y mae'n fawr ei awydd; ond y cyfiawn â rydd ac ni arbed. Cymmerwch y gwâs diog anfuddiol, medd Christ, a theflwch i'r tywyllwch ei∣thaf: yno y bydd wylofain a rhincian dannedd, Mat. 25. A phan oedd yn ymdaith ar y ffordd, a chanfod ffig∣ysbren a dail arno heb ffrwyth, efe a roes iddo felldith dragywyddol yn y man, Mat. 21.

3. O'r ffynnon ddiogi yma, y mae'n tarddu lawer o bethau sy'n rhwystro i'r diog roi ei fryd ar edisar∣hau. A'r cyntaf yw rhyw drymder a syrthni a go∣gysgu tu ac at bob daioni, fel y dywaid yr Scrythur, Syrthni a bair drymgwsg, Dih. 19.15. Ac am hyn∣ny y dywaid S. Paul, Deffro di yr hwn wyt yn cysgu, Eph. 5. Ac y mae Christ yn llefain yn fynych, Edry∣chwch arnoch eich hunain, a gwiliwch. Chwi a gewch weled llawer o ddynion yn y byd, y rhai os chwi a chwedleuwch a hwynt am vchen, neu am wartheg, neu am ddefaid, neu am ddarn o dir, neu'r cyffelyb, hwy a fedrant wrando arnoch a siarad a chwi yn ewyllysgar ac yn ddislin iawn; ond os chwi ewch i ymrefymmu a hwynt ynghylch eu hiachawdwriaeth, a'i treftadaeth yn nheyrnas nef, ni attebant hwy i chwi vn gair, ond gwrando megis pettent yn breu∣ddwydio. Am y dynton yma, gan hynny, y dy∣waid y gwr doeth; Pa hyd ddiogyn y gorweddi?

Page 345

Pa bryd y cyfodi o'th gwsg? Ai etto Ychydig gysgu, ychydig heppian, ychydig wasgu dwylo i gysgu? Ac felly y daw dy dlodi arnat megis cennad yn rhedeg, a'th angen fel gwr arfog, Dihar. 6.9. Dihar. 24.33.

4. Yr ail peth y mae diogi yn ei beri ynom ni y∣dyw peri i ni ofni cymmeryd poen a thrafael, a bw∣rw peryglon lle ni bo achos, fel y dywaid yr Scry∣thur, Ofn sydd yn digalonni 'r diog. Ac y mae'r prophwyd yn dywedyd am y cyfryw rai, Ofnasant gan ofn lle nid oedd ofn, Psal. 53.5. Y mae'r cyfryw ddynion yn dychymmyg llawer o feddyliau dieithr am wasanaeth Duw, ac yn bwrw fod yn berygl mawr iddynt ei ddilyn. Vn a ddywaid, pettawn i yn rhoi llawer ni allai nad awn i'yn gardottyn. Medd vn a∣rall, ped ymrown i gymmeryd poen drafaelus yn wastadol, lladdai hynny fi cyn nemmor o en∣nyd. Medd y trydydd, pettwn i yn fy narostwng fy hun fel yr ydys yn ceisio gennyf wneuthur, mi a gawn gan bawb fy sathru dan draed. Ac etto nid yw hyn i gyd ddim ond diogi, fel y tystia'r Scrythur lân yn y geiriau hyn, Medd y diog wrth eiste'n ei dy, Y mae llew allan, ac od af si allan i lafurio, fo'm lle∣ddir i ynghanol yr heolydd, Dih. 22.13.

5. Y trydydd peth y mae diogi yn ei beri ydyw llyrfder a gwan galon, a hynny sydd yn dadymchwel y diog ac yn ei ddigalonni, ar bob tippyn o wrthwy∣neb ac anhawsder y mae efe yn ei weled neu yn ty∣bied ei fod mewn duwioldeb. A hynny y mae'r gwr doeth yn ei dystiolaethu, pan yw yn dywedyd, In lapide luteo lapidatus est piger, y diog a labyddiwyd i angau â maen o dom. Hynny ydyw, efe a ymchw∣elwyd ac a orchfygwyd gan anhawsder heb ddim pw∣ys ynddo. Hefyd De stercore boum lapidatus est pi∣ger, y diog a labyddiwyd â biswail ychen, yr hwn fy∣nychaf sydd mor feddal ac nas gwna niweid ei ddyr∣nod.

Page 346

6. Y pedwerydd peth y mae diogi yn ei beri y∣dyw mewvd a musgrelli: y rhai a welwn eu bod mewn llawen o bobl a chwedleuant ac a ymgyngho∣rant am hyn ac am y llall ynghylch eu gwellhaad, ac heb wellhau vn gronyn. A hynny a ddangosir yn gymmwys iawn gan yr yspryd glân yn y geiriau hyn, Fel y drws yn troi ar ei golyn, felly y try'r diog yn ei wely, Dih. 26.14. A thrachefn, Y diog a wna ac nis gwna, Hynny ydyw, ef a ymdrŷ yn ei wely, a rhwng cyngyd gwneuthur a bod heb wneuthur ni wna efe ddim. Ac ymmhellach mewn man arall, y mae'r Scrythur yn dangos ei fusgrelli ef, fel hyn, Y dyn swrth a gudd ei law yn ei fonwes, ac nid ystyn hi at ei enau, Dih. 19.24.

7. Y pethau hyn a llawer eraill y mae diogi yn eu peri, ond y pedwar peth hyn yn enwedig y ty∣biais yn dda gyffwrdd a hwynt, am eu bod yn rhwy∣stro yn fawr i ddyn ymroi i wellhau ei fuchedd: o∣blegid pwy bynnag sydd yn byw mewn swrth ddar∣gwsg, ac ni warandawo ac ni roddo glûst i ddim ac a ddywetter wrtho ynghylch y bywyd a ddaw; a chy∣dâ hynny sydd yn bwrw bod peryglon wrth wneu∣thur hynny; ac heb law hynny a dramgwyddo wrth bob peth a fo ar ei ffordd, ac a gwympo; ac yn ddiweddaf fydd mor ddiowgswrth ac na chlywo ar∣no gymmeryd poen yn y byd; y mae'r cyfryw vn allan o bob gobaith gallu ei ynnill i roi ei fryd ar wa∣sanaethu Duw.

8. Gan hynny, i dynau ymaith y rhwystr yma rhaid i'r cyfryw ddynion osod bob amser ger bron eu llygaid boen a llafar CHRIST a'i Sainct, a'r cynghorion y maent hwy yn eu rhoi i rai eraill i gymmeryd yr vn fath boen: a'r bygwth a wneir yn yr Scrythur lân ar y rhai ni chymmeront boen: a chyflwr ein milwriaeth ni yma ar y ddaiar, yr hon sydd yn gofyn ar ein dwylo ni lafurio: a'r goron sy

Page 347

wedi ei pharottoi i ni am hynny: ar dialedd a'r go∣fid a ddaw ar y rhai musgrell diowgswrth. Ac yn ddiwethaf onis gallant hwy ddioddef poen a llafur buchedd dduwiol, a hithan yn gyffylltedig a chym∣maint o gomffordd a hyfrydwch ac nas gellir gan iawn ei galw yn boen; pafodd y byddant abl i ddi∣oddef poenau a gofidiau 'r fuchedd a ddaw, y rhai sydd ddir eu bod yn anoddef ac yn dragywyddol.

9. Y mae S. Paul yn dywedyd am dano ei hun ac eraill, wrth y Thessaloniaid, Ni fwyttasam ni ein ba∣ra yn rhâd gyda chwychwi, ond trwy weithio mewn llafur a lludded nos a dydd: i roi i chwi esampl ar hynny i'w ddilyn ef; ac y mae yn datgan ymmhe∣llach, os byddai neb ni fynnai weithio, na chai fwytta ychwaith, 2 Thes. 3.8, 10. Y mae Christ yn y ddamineg byth yn ceryddu yn dôst y rhai odd yn sefyll yn segur; gan ddywedyd, beth a wnewch chwi yn sefyll yma yn segur ar hyd y dydd, ac heb weithio dim, Mat. 20, Myfi yw'r winwydden, medd Christ, a'm Tâd yw'r llafurwr, Pob cangen ynof fi heb ddwyn ffrwyth, y mae efe yn ei thynnu ymmaith, ac yn ei bwrw yn tân, a hi a losgir, Joan. 15.1, 6. Ac mewn man arall, Torrwch i lawr y pren nid yw yn dwyn ffrwyth, pa ham y mae efe yn diffrwytho'r tir, Luc. 13.9. A thrachefn, Yr ydys yn treisio teyrnas nefo∣edd, a'r treiswyr ••••dd yn ei chippio hi trwy boen a lla∣fur, Mat. 11.12 Ac am hynny y mae'r gwr do∣eth yntau yn dywedyd, Preg. 9.10. Beth bynnag a ymaflo dy law ynddo i'w wneuthur yn y byd yma, gwna a'th holl egni; can nad oes na gwaith, na dy∣chymmyg, na gwybodaeth, na doethineb, yn y bedd, lle'r wyt ti yn myned, ar a dyccia i ti. A thrachefn y dywed yr vn gwr doeth, Y neb a weithio a llaw ddiog a ddaw i dlodi, ond llaw y diwyd a'i cyfoetho∣ga, Dih. 10.4. Ac etto ym mhellach i'r vn def∣nydd, Y diog nid ardd o herwydd oerder y gauaf,

Page 348

am hynny efe a gardotta'r cynhauaf ac ni chaiff ddim. Dih. 20.4.

10. Hyn i gyd a berthyn i ddangos, mai amser cymmeryd poen a llafur yw'r fuchedd hon, ac nid amser i segura, a'i bod wedi ei happwyntio i ni er mwyn ceisio ynnill nef: y hi ydyw'r farchnad, lle mae yn rhaid i ni brynu; a'r gâd, lle mae'n rhaid i ni ymladd ac ynnill y goron; a'r gauaf yn yr hwn y mae'n rhaid i ni hau; a'r dydd gwaith, lle mae'n rhaid i ni lafurio a chwysu, ac ynnill ein ceiniog gy∣flog. A'r neb a ollyngo'r dydd yma heibio mewn seguryd, fel y mae y rhan fwyaf yn gwneuthur, sy raid iddo ddioddef tlodi ac eisiau tragwyddol yn y fuchedd a ddaw, fel y dangoswyd yn helaeth yn y rhan gyntaf o'r llyfr hwn. Ac am hynny mae'r gwr doeth, neu yn hytrach yr yspryd glân drwy enau'r gwr doeth, yn rhoi i bob vn o honom ni rybudd a chyngor o'r difrifaf yn y geiriau hyn, Dih. 6.3. &c. Cerdda, brysia, ac ymbil a'th gymmydog. Na ddyrò gwsg i'th lygaid na hun i'th amrantau: Gwared dy hun fel yr iwrch o law'r heliwr; ac fel aderyn o law'r adarwr. Cerdda at y morgrugyn, edrych ar ei ffyrdd ef, a dysg fod yn ddoeth. Nid oes ganddo neb i'w ar∣wain, nac i'w lywodraethu, nac iw feistroli; ac er hynny y mae efe yn parottoi ei fwyd yr haf ac yn cas∣glu ei luniaeth y cynhauaf. Wrth y geiriau hyn y rhybuddir ni, pa fodd y mae i ni ymddwyn yn y fu∣chedd hon, ac mor ddyfal ac mor ofalus y dylem ni fod ym mhob math ar weithred dda, fel y dywaid yr Apostol yntau; gan fod y morgrugyn yn gwei∣thio mor ddyfal y cynhauaf, i gasglu ymborth erbyn y gauaf; felly y dylem ninnau gasglu erbyn y byd a ddaw, ac nad oes rhwystr pennach na pherygclach nâ diogi i lestair i ni wneuthur hynny. Oblegid fel y byddai ddir i'r morgrugyn farw o newyn y gauaf, pettai efe yn treulio'r hâf mewn seguryd; felly yn

Page 349

ddiammau y bydd rhaid i bawb ni weithio gan ddio∣gi yn y byd yma, ddioddef dygn eisiau ac angen a gofid yn y byd a ddaw.

11. Yr ail rhwystr yr wyfi yn ei alw Diofalwch ac esgeulusdra, ond yr wyf fi yn deall wrth hynny beth sy fwy nag y mae'r gair yn ei arwyddoccau. Oble∣gid tan enw Esgeulusder yr wyf yn cynnwys pob math ar ddynion diofal difraw, y rhai ni chymme∣rant at eu calon ddim ac a berthyn i Dduw ac i ddu∣wioldeb, ond rhoi eu meddwl mor gwbl ar fatterion bydol, heb fawr feddwl am lachawdwriaeth eu henei∣diau. Tan y fath yma ar esgeulusdra y cynnhwy∣sir dau fath ar bobl, y naill yw'r Epicuraeaid, cy∣fryw ac y mae S. Paul yn dangos fod rhyw Gristia∣nogion yn ei amser ef, y rhai oedd yn cymmeryd en∣nyd yn vnig i fwytta ac i yfed, ac i wneithur Duw o'i boliau, fol y mae llawer o Gristianogion heddyw, Phel. 3.19. a'r llall yw math ar ddirgel annuwdeb a gwadu Duw: hynny ydyw, ei wadu ef yn eu buchedd a'i hymarweddiad, fel y mae S. Paul yn de∣all y geiriau, Tit. 1.16. Oblegid er bod y gwyr hyn ar eu geiriau yn cydnabod Duw, ac yn ymhon∣ni o fod yn gystal Christianogion ac eraill, etto mewn gwirionedd, yn y dirgel nid ydynt yn credu i Dduw, fel y mae eu buchedd hwy a'i gweithredoedd yn dan∣gos. A hyn y mae Ecclesiasticus yn ei ddatguddio yn eglur, lle y mae efe yn dywedyd, Gwae'r galon lesg, o herwydd nid yw yn credu i Dduw, Eccl. 2.13. Hynny ydyw, er eu bod yn ymhonni o fod yn cre∣du iddo ac yn ymddiried ynddo, etto mae eu difraw a'i diofal weithredoedd hwy yn tystiolaethu nad y∣dynt yn credu iddo yn eu calonnau: am nad ydynt nac yn gofalu nac yn meddy lio am ddim ac a berthyn iddo ef.

12. Y fath yma ar bobl y mae 'r Scrythur lân yn eu marcio ac yn eu ffieiddio am aredig ag ŷch ac ag

Page 350

assen ynghyd, ac am hau eu tir â hâd cymmysg, ac am wisgo dillad o lin a gwlân ynghyd, Deut. 22. Y rhai hyn yw y rhai y mae Christ yn dywedyd am danynt yn llyfr y Datguddiad: Mi a fynnwn pe bait ti oer neu frwd. Felly am dy fod yn glaiar, ac nid yn oer nâc yn frwd mi a'th chwydaf di allan o'm ge∣nau, Datc. 3.15.16. Dymma y rhai a fedr wneu∣thur cyttundeb rhwng pob math ar grefydd, a di∣benno pob ymrafael ynghylch y flydd, trwy ddywe∣dyd, naill ai nad yw'r ymrafael sy rhyngddynt ond o bwys bychan, neu na pherthyn y pethau hynny ond i wŷr dysgedig i sôn am danynt, ac nid iddynt hwy. Dyma 'r rhai a feidr gyttuno â phob math ar gwmpeini, ac â phob amser, ac ag ewyllys pob tywysog ynghylch y pethau a berthyn i'r bywyd a ddaw. Dyma y rhai ni fynnant sôn am yr yspryd, nac am ffydd, nac am ddwywoldeb, lle y bônt hwy; ond mynnu i ddynion fwytta, ac yfed, a bod yn lla∣wen gyda hwynt; a dywedyd newyddion o'r llŷs âc o leoedd eraill; a chanu a dawnsio, a chwerthin, a chwarau; ac felly treulio eu bywyd yma mewn llai o feddwl am Dduw nac y gwnai'r cenhedloedd erioed: ac onid ydyw reswm i'r Scrythur lân ddy∣wedyd fod y rhai hyn yn eu calonnau ac yn eu gwei∣thredoedd yn bobl ddidduw? ydyw yn wir. Ac fe ellir ei brosi wrth lawer o reolau CHRIST. Ac dyma vn rheol a osododd efe ar lawr, Wrth eu ffrwy∣thau yr adnabyddwch hwynt, oblegid fel y bo'r pren oddifewn, felly y bydd y ffrwyth a ddaw allan o ho∣no Hefyd; O helaethrwydd y galon y llefara'r ge∣nau, Luc. 6, 44, 45. ac wrth hynny, gan nad ydyw eu siarad hwy ddim ond am orwagedd bydol, mae hynny yn arwydd nad oes dim amgen nâ hynny yn eu calonnau hwynt. Ac yma y canlyn wrth y drydedd reol, lle y byddo eich trysor, yno y bydd eich calon he∣fyd Mat. 6.21. Ac felly gan fod eu calonnau hwy

Page 351

ar y byd yn vnig, y byd wrth hynny ydyw eu hu∣nig drysor hwy, ac nid Duw. Ac felly y maent hwy yn gosod y byd o flaen Duw, yn y modd y gwna y rhai didduw.

13. Felly y cyrraedd y rhwystr yma yn y dyddi∣au hyn, a llawer o ddynion a rwydir ac a feglir gan∣tho; a'r achos pennaf o hynny ydyw gormodd serch ar y byd; yr hyn sydd yn eu dwyn hwy i gasau Duw, ac i fagu gelyniaeth yn ei erbyn ef, fel y dy∣waid yr Apostol, Jac. 4.4. ac am hynny nid dim rhyfedd na wnelont hwy na chredu ynddo nac ym∣hoffi ynddo. Ac o ddynion y byd dyma y rhai an∣hawsaf eu troi yn ol a pheri iddynt ddodi eu bryd ar wellhâu; am eu bod yn ddiymglywed, ac heb law hynny yn ffo rhag pob peth a allo eu hiachau hwy. Oblegid fel na bai fawr obaith o'r dyn a fai glaf iawn, ac ni chlywai ddim oddiwrth ei glefyd, ac ni choe∣liai fod arno anhwyl yn y byd, ac ni fynnai sôn am na physygwriaeth na physygwr, ac ni chymmerai gyn∣gor yn y byd a gynnygid iddo; na dioddef na fia∣rad nag ymgynghori ynghylch ei wneuthur yn iach: felly y mae'r dynion hyn mewn cyflwr perygclach na neb arall, am nad ydynt yn gwybod oddiwrth eu perygl eu hun; ond coelio eu bod ddoethach na 'i cymmydogion, a bwrw ym mhell allan o'i meddy∣liau pob peth ac a allai beri iddynt gael iechyd.

14. Nid oes vn ffordd ond vn, od oes ffordd yn y byd, a all wneuthur llês i'r dynion yma, a hynny y∣dyw peri iddynt goelio eu bod yn gleifion, a'i bod mewn perygl; a'r ffordd oreu i wneuthur hynny, yn fy nhyb i, ydyw peri iddynt ddeall belled ydynt oddiwrth fod yn Gristianogion, ac felly oddiwrth bob gobaith o lechydwriaeth ar a ellir ei gael oddi∣wrth fod yn Gristianogion. Y mae Duw yn gofyn ar ein dwylo ni, Fod i ni ei garu ef a'i wasanaethu a'n holl galon, ac a'n holl enaid, ac a'n holl nerth.

Page 352

Dyma wir eiriau Duw, a osodwyd i lawr yn y gyfraith hên a'r newydd, Mat. 22.37. A pha gyn belled, meddi di, ydyw'r gwŷr hyn oddiwrth w∣neuthur felly, a hwy heb roi hanner eu calon, na hanner eu henaid, na hanner eu nerth i wasanaethu Duw, ie na'r dim lleiaf o honynt? Y mae Duw yn gofyn ar ein dwylo ni fod i ni roi ein holl astudrwydd a'n meddyliau ar ei orchymmynion ef, a bod i ni feddwl am danynt yn wastadol, a myfyrio arnynt ddydd a nôs, yn ty ac allan, y boreu a'r hwyr, wrth fynd i gysgu ac wrth godi'r boreu. Dyna ei or∣chymmyn ef, ac nid oes maddeu dim o hono. Ac onid ydynt hwy bell oddiwrth hynny y rhai nid y∣dynt yn gwario traian eu meddyliau ar hynny, ie na'r ganfed ran ychwaith, nac ond odid vnwaith mewn blwyddyn yn crybwyll am hynny? A all y rhai hyn ddywedyd eu bod yn Gristianogion, neu eu bod yn adnabod Duw?

15. Y mae Christ, wrth fwrw pris pethau 'r by∣wyd hwn, yn adrodd y wers hon, Vnpeth sy anghen∣rheidiol yn y byd hwn, hynny ydyw gwasanaethu Duw yn ddyfal ac yn ofalus, Luc. 10.42. Y mae'r gwŷr hynny yn gweled llawer o bethau yn angen∣rheidiol heb law'r vnpeth hwn, ac nad yw'r vnpeth hwn yn anghenrheidiol ddim o hono. Pa ragor wrth hynny sy rhwng eu tŷb hwy a thŷb Apostol Christ fydd yn dywedyd na ddylai Gristion byth garu 'r byd na dim o'r pethau sydd ynddo, 1 Jo. 2.15. Ac ni char y gwŷr hyn ddim arall ond y pethau sy 'n y byd. Y mae efe yn dywedyd, Pwy bynnag sydd yn caru 'r byd, y mae efe yn elyn i Grist. Ac y mae 'r gwyr hyn yn elynion i bob dyn nid yw yn caru 'r byd. Pa fodd wrth hynny y gall y gwyr hyn ddal gyda Christ? Y mae Christ yn dywedyd y dylem ni weddio yn wastadol, Luc. 18.1. A hwythau heb wêddio vn amser. Y mae Apostol Christ yn dywe∣dyd

Page 353

dyd am gybydd-dod, ac aflendid, a godineb, a ser∣thedd, a choeg-ddigrifwch, na ddylid vnwaith cym∣maint a'i henwi ym mysg Christianogion, Eph. 5.1, 3, 4. A'r gwyr hynny ni fynnant sôn am ddim ond am y pethau hynny. Yn ddiweddaf, y mae 'r holl Scrythur lan yn rhedeg ar hyn, y dylai Gristianogi∣on fod yn wrandawus, yn wiliadwrus, yn ofalus, yn daerion, yn frydion, yn parhau yn ddibaid yngwa∣sanaeth Duw. Ond nid oes yn y gwyr hyn yr vn o'r pethau hyn, na rhan yn y byd o'r vn o honynt; ond bawb y gwrthwyneb yn vnion. Oblegid nid ydynt hwy nac yn hyglust i wrando, na yn wiliadwrus, nac yn ddiwyd. nac. yn ofalus, chwaethach bod yn daeri∣on, yn frydion, ac yn parhau yn ddibaid. Ond yn y gwrthwyneb, y maent hwy yn ddiofal, yn esgeu∣lus, yn fusgrell, yn llacc ac yn llaes; yn oerion, yn wrthnysig, yn dirmygu, ac yn diystyru, ac yn wth∣wyneb ganddynt, ac yn ffieiddio pob peth a berthyn tu ac at eu marwolaethu eu hunain, a thu ac at wie wasanaeth Duw. Pa ran wrth hynny sydd i'r gwy hyn gyda Christianogion, ond yr enw yn vnig y hwn ni thyccia ddim iddynt.

16. A hyn sy ddigon i ddangos mor fawr ac mor beryglus o rwystr ydyw 'r esgeulusdra, a'r diofal∣wch, a'r difrawch yma, i luddias i ddynion roi eu bryd ar wasanaethu Duw. Oblegid os ydyw Christ yn gofyn gan y neb a fynno roi ei fryd yn llwyr ac yn gwbl ar ei wasanaethu ef, fod i'r neb a ganfyddo vnwaith y trysor cuddiedig yn y maes (hynny ydyw teyrnas nef, a'r vnion ffordd sydd yn tywys iddi) fyned yn y man a gwerthu cwbl ac a fedd, a phrynu 'r maes hwnnw, Mat. 13.44. hynny ydyw, bod iddo wneuthur mwy cyfrif o erlyn am deyrnas nef, nac o holl ddaioni 'r bywyd hwn, ac anturio cwbl o ho∣nynt yn hytrach nag esgeuluso 'r trysor yma. O yw Christ meddaf, yn gofyn hynny ar ein dwylo 〈◊〉〈◊〉,

Page 354

pa bryd y daw 'r dynion yma i wneuthur hynny, y rhai ni fynnant roi y rhan leiaf o'i da tu ac at brynu 'r maes hwnnw, na myned vnwaith allan o ddrysau eu tai i sôn am eu brynu, na meddwl na sôn am da∣no, na thybiaid yn dda o'r neb a ddan oso iddynt y modd y mae iddynt ddyfod o hŷd iddo.

17. Am hynny y neb a'i clywo ei hun, o'r me∣ddwl hwnnw, mi a gynghorwn iddo ddarllain ym∣bell bennod yn nechreuad y llyfr hwn, yn enwedig y trydydd ar pedwerydd y rhai sy 'n dangos yr a∣chosion y danfonwyd ni i't byd hwn o'i plegid; a'r pummed hefyd, yr hwn sy 'n dangos pa gyfrif sy raid i ni ei wneuthur i Dduw o'r amser yr ydym ni yn ei dreulio yma; ac yno nid wyf yn ammau na chaiff weled yr amryfusedd a'r perygl y mae efe yn sefyll ynddo, wrth fod mor esgeulus ddiofal ac e∣drych am bethau mor weigion ddiles ac y mae, y rhai ni ddaeth efe i'r byd o'i hachos; a gadael hei∣bio, heb na gofalu na meddwl am danynt, y pe∣thau sydd o bwys, ac y dylai roi ei fryd a'i feddwl arnynt.

18. Y trydydd rhwystr a'r diwethaf y mae 'n fy mryd grybwyll am dano yn y llyfr hwn; yw 'r drwg dueddfryd sy mewn rhai, yr hwn y mae 'r Scrythur lân yn ei alw Caledwch calon, a Chyndyn∣rwydd meddwl, pan fo dyn wedi gosod cwbl o'i fryd a'i feddwl nad ymadawo byth a'r cyflwr pecha∣durus y mae 'n byw ynddo, beth bynnag a ddywe∣der neu a aller ei ddywedyd yn ei erbyn. Ac mi a adewais y rhwystr yma hyd yn olaf yn y llyfr hwn, o herwydd mai hwn yw 'r diweddaf, a'r gwaethaf o'r holl rwystrau a ddangoswyd o'r blaen, ac yn cynnwys ynddo bob math ar ddrygioni ac sydd yn yr vn o'r llaill, ac sy gyda hynny yn ymroi 'n gwbl o wir ddihewyd calon i bechu; yn gwbl wrthwyneb i'r peth yr ydym yn llafurio ar i ddynion roi eu bryd arno.

Page 355

19. Y Caledwch calon yma sydd ynddo amryw raddau mewn amryw ddynion, a hynny yn helae∣thach mewn rhai nag yn y llaill. Oblegid y mae rhai wedi cyrrhaeddyd hyd at y Caledwch eithaf a soniais am dano o'r blaen; yn gymmaint ac er eu bod hwy yn gwybod yn dda eu bod ar gam, etto er mw∣yn rhyw achos bydol, nid ymroant hwy i newidio eu buchedd. Cyfryw oedd Galedwch Pilat, oble∣gid er ei fod yn gwybod yn dda ei fod yn rhoi barn yn erbyn Christ ar gam, etto rhag colli ewyllys da yr luddewon, neu anfoddhau eu dywysog, efe a aeth rhagddo ac a roes farn yn ei erbyn ef. Hyn hefyd oedd galedwch Pharao, yr hwn er ei fod, yn gweled y gwyrthiau a wnai Foesen ac Aaron, ac yn clywed llaw Dduw yn drom ar ei deyrnas, etto am na fynnai wybod arno gael ei orchfygu gan bobl mor wael ac oeddynt hwy, ac am na fynnai i ddynion feddwl y mynnai efe ei gymmell i laryeiddio, efe a barhaodd yn wastad yn ei wrthnysigrwydd a'i ddrygioni, hyd oni ddaeth arno o'r diwedd lwyr ddygn ddinystr a dialedd. Y Caledwch calon yma hefyd oedd ymren∣hin Agrippa, ac yn Felix rhaglaw Judaea, y rhai er eu bod yn meddwl yn eu cydwybod fod S. Paul yn dywedyd y gwir wrthynt hwy, etto rhag ofn colli eu gair yn y byd, hwy a barhasant, ac a gyfrgollwyd yn eu gwagedd eu hun. Ac y mae 'r caledwch yma fynychaf ym mhawb ac sy 'n erlid rhinweddau da a dynion da, ac yn enwedig y rhai sy yn dal ar y gwi∣rionedd. Oblegid er eu bod hwy 'n gweled fod y rhai hynny yn wirion, a bod gair Duw a chyfiawn∣der ar eu tu hwynt: etto er mwyn cadw eu hystad, a'i gair, ac ewyllys da 'r byd, y maent hwy yn par∣hau yn eu drygioni heb na thrugaredd nac edifeirwch, hyd oni ddêl Duw o'r diwedd a'i torri hwy ymaith ynghanol eu drwg feddwl a'i cynddaredd.

Page 356

20. Y mae eraill nid oes ynddynt cymmaint cale∣dwch calon a pharhau yn eu drygioni yn erbyn eu gwybodaeth, etto y mae ynddynt mewn modd arall, am eu bod wedi rhoi eu bryd yn gwbl ar ganlyn y ffordd a gychwynnasant, ac ni fynnant ddeallt y pe∣ryglon sy ynddi, ond yn hytrach ceisio siccrhau eu co∣el ar y fford honno, a llonyddu eu cydwybodau yn∣ddi: ac nid oes dim a'i digia hwy yn gymmaint a chlywed dim a fo gwrthwyneb iddi. Am y rhai hyn y dywaid Job dduwiol, hwy a ddywedasant wrth Dduw, Cilia oddiwrthym, canys nid ydym yn chwen∣nych adnabod dy ffyrdd di, Job 21.14. A'r pro∣phwyd Dafydd, yn oleuach etto, Eu gwenwyn sydd fel gwenwyn asp. Y maent fel y neidr fyddar, yr hon a gae ei chlustiau, ac ni wrendy ar lais y rhinwyr, er cyfarwydded fyddo 'r swynwr, Psal. 58.4. Wrth y swynwr yma y mae efe yn deall yr yspryd glan, yr hwn fy 'n ceisio ym mhob modd eu denu hwy o∣ddiwrth yr hudoliaethau sydd yn eu rhwydo hwynt; a'r rheiny a eilw yr gwr doeth, Fascinationes vani∣tatis, Hudoliaeth gwagedd. Ond fel y dywaid y prophwyd, Hwy a wrthodasant wrando, ac a roe∣sant ysgwydd anhydyn, ac a drymhasant eu clustiau rhag clywed: Gwnaethant eu calonnau yn Adamant rhag clywed Cyfraith yr Arglwydd, ac ymchwelyd atto ef, Zech. 7.11.

21. Yr ydys yn bwrw 'r pechod mawr yma yn enwedig ar yr Iuddewon, fel y mae S. Stephan yn tystiolaethu pan ddywedodd efe yn eu gŵydd hwy eu hunain, Acts 7.51. Chwychwi Iuddewon gwarr∣galed, yr ydych chwi bob amser yn gwrthwynebu 'r Yspryd glan, gan feddwl wrth hynny, fel y dengys Christ yn helaethach, eu bod hwy yn gwrthwynebu prophwydi a Sainct Duw, yn y rhai yr oedd yr ys∣pryd glan yn llefaru wrthynt o amser i amser am wellhau eu buchedd. Ac am nas gallent hwy gan

Page 357

oleuni yr wybodaeth yr oeddynt yn ei gael wrth w∣rando cyfraith Dduw, nac mewn gwirionedd nac mewn lliw fwrw dim yn erbyn y pethau a ddywedid, nac yn erbyn y beio a'r ceryddu a wneid arnynt, ac etto a roent eu bryd yn gwbl nad vfuddhaent, ac na newidient eu hên arfer: am hynny y cwympasant o'r diwedd i erlid y rhai a'i ceryddai, a'r achos o hynny oedd galedwch calon yn vnig: Hwy a wnae∣thant eu hwynebau yn galettach na 'r graig, ac a wr∣thodasant ddychwelyd, medd Duw trwy enau Jere∣mi, Jer. 5.3. Ac mewn man arall yn yr vn pro∣phwyd y mae efe 'n cwyno yn dôst rhag eu cyndyn∣rwydd hwy, Pa ham y ciliodd pobl Jerusalem yma yn eu hôl, ag enciliad cynnhennus cyndyn, fel na wranda∣want arnaf fi, Jer. 8.5. Sic latine; Ac etto dra∣chefn, Pa ham y byddwch feirw, chwi ty Israel? Ezec. 33.11. Pa ham yr ydych yn eich gwneu∣thur eich hunain yn golledig? Pa ham yr ydych chwi mor gyndynniog ac nas gwrandewch; ac mor an∣hydyn ac nas dysgwch; ac mor greulon wrthych eich hunain ac nas mynnwch wybod y perygl yr y∣dych ynddo, na deall y dialedd sydd vwch eich pen∣nau.

22. Ond wyt ti yn tybiaid, frawd anwyl, fod Duw yn arfer y fath ymadrodd, nid yn vnig wrth yr Iuddewon, ond hefyd wrth lawer mil o Gristia∣nogion, ac ysgatfydd wrthyt ti dy hun lawer gwaith yn y dydd, am dy fod di yn gwrthod y meddyliau da y mae efe yn eu rhoi ynot ti, a'r moddion da era∣ill y mae efe yn eu harfer, i geisio dy dynnu di i'w wasanaethu ef; a thithau ath fryd yn gwbl nad ym∣roech iddynt; ond canlyn dy ffordd dy hun, er maint a annoger arnat i'r gwrthwyneb? Och och, pa sawl Christion sydd yn dywedyd wrth Dduw bob dydd, fel y dywedai yr annuwiol, Cilia oddiwrthym, nid ydym ni yn chwennych adnabod dy ffyrdd di. Pa faint

Page 358

sy o ddynion yn ffiaidd ac yn gâs ganddynt gyngor da; yn ofni ac yn crynu rhag darllain llyfrau da; yn gochel ac yn cassau cwmpeini duwiol, rhag i hyn∣ny gyffroi dim ar eu cydwybod hwy, ac iddynt ddy∣chwelyd, a bod yn gadwedig? Pa faint sy o rai a ddywedant gydâ 'r rhai calon-galed anhappus hynny y mae 'r prophwyd yn crybwyll am danynt, Ni a wnaetham ammod ag angeu ac ag vffern y gwnaethom gyngrair. Megis pe y dywedent, Na flinwch ni, nac aflonyddwch arnom a'ch cynghorion, na threu∣liwch ddim o'ch geiriau a'ch trafael yn ofer: siare∣dwch a'r rhai sy etto heb sefydlu: cymmered y neb a fynno 'r nef: yr ydym ni a'n meddwl cennym: yr ydym ni wedi gwnenthur ammod, ac y mae 'n rhaid i ni ei gyfiawni, ag vffern ac ag angeu tragywyddol. Es. 28.15.

23. Cynddaredd ryfeddol ydyw calon-galedwch; ac nid heb achos y cyffelyba 'r prophwyd hynny i wenwyn a chynddaredd sarph, Psal. 58.4. Ac mewn lle arall y mae 'r Scrythur lan yn dangos pa fath ydyw, yn y modd hyn, Yr wyt ti yn galon ga∣led, a'th warr sy fal geuyn haiarn, a'th dalcen yn bres, Es. 48.4. Pa beth a ellir ei ddy∣wedyd ddwysuch, i ddangos galetted y fettel yma? Ac etto y mae S. Bernard yn ei ddangos yn helaethach yn y geiri∣au hyn, A pha beth wrth hynny yw ca∣lon-galed? Ac yn y man y mae 'n atteb, Calon-galed yw 'r hon ni ddryllir gan dristwch, ac ni feddalheir gan dduwioldeb, ac ni chyffroir gan weddi, ac nid ymrydd er bygwth, ac ni wellhaa ddim ond yn hyttrach gwaethygu gan gerydd. Calon-galed yw 'r hon sy an∣niolchgar i Dduw am ei ddoniau, ac anufudd i'w gyng∣horion ef: yr hon a greulonir gan ei farnedigaethau ef, ac a ymollwng pan geisio efe ei denu, ac sy ddigywi∣lydd mewn brynti, a diofn rhag perygl; ac anhynaws

Page 359

wrth drin y byd, ac anhydyn yn y pethau a berthyn i Dduw, ac yn anghosio 'r pethau a aeth heibio, ac yn esgeulus ddifraw yn y pethau sy bresennol, ac yn anfe∣ddylgar ddiddarbod am y pethau a ddaw.

24. Wrth eiriau S. Bernard y gellir gweled, fod calon galedwch agos yn glefyd diobaith anaele heb feddyginiaeth iddo, lle y digwyddo. Oblegid beth a wnewch chwi, medd y tad duwiol hwnnw, i geisio help iddo? os dangoswch iddo dosted yw pechod, ni chyffry arno ronyn gan ofid: os dangoswch iddo bob math ar reswm, y dylem ni wasanaethu Duw, ac na ddylem na'i ddigio, na'i ammherchi, er hynny ni liniara ac ni feddalhaa efe vn gronyn. Pettych yn ymbil ag ef ac yn erfyn arno trwy ddagrau, ie ar eich gliniau, ni chyffroai arno ronyn. Os bygythi∣wch ef a digofaint Duw, nid ymddyry efe ddim er hynny. Os Duw a'i fflangella ef, efe a syrth mewn cynddaredd, ac a â yn galon-galettach nag oedd o'r blaen. Os gwna Duw gymmwynasau iddo, efe a â yn anniolchgar. Os ei gynghori a wna yng∣hylch ei lachawdwriaeth, nid vfuddhaa efe. Os crybwyllwch wrtho mor ddirgel ac mor dôst yw bar∣nedigaethau Duw, efe a gwymp mewn anobaith, ac a fydd creulonach. Os ceisiwch ei ddenu a'i ynnill a thrugareddau Duw, hynny a wna iddo ymroi i ddrygioni. Os dywedwch iddo ei frynti, ni wrida efe. Os rhowch iddo rybudd o'i beryglon, nid ofna efe. Os trin matterion y byd a wna, y mae 'n falch ac yn annhirion. Os trin pethau Duw a wna, y mae efe yn waedwyllt, ac yn anwadal, ac yn drahaus. Yn ddiwethaf, y mae 'n gollwng yn anghof bob peth aeth heibio am ddynion eraill, y modd y gobrwy∣wyd hwy am eu duwioldeb, neu y cospwyd hwy am eu pechodau. Am yr amser presennol, y mae efe yn ei esgeuluso, ac heb wneuthur cyfr 'n y byd o'i arfer tu ac at ei lês. Ac am y pthau a ddaw,

Page 360

pa vn bynnag a'i dedwyddyd a'i colledigaeth, y mae efe yn gwbl ddiddarbod o honynt, ac heb wneu∣thur cyfrif o honynt, er mynyched ac er difrifed y crybwylloch wrtho am danynt. A pha fodd y gellir help i'r cyfryw vn?

25. Nid heb achos mawr yn siccr y gweddiodd y gwr doeth mor ddifrif at Dduw, Na ddod fi i fynu i feddwl digywilydd anllyfodraethus, Eccl. 23.6. Ac y mae'n rhoi rheswm am hynny mewn man arall o'r vn llyfr, Drwg fydd ar galon galed yn y di∣wedd, Eccl. 3, 26. O na ddaliai bob vn sy galon∣galed ar y rheswmyma. Ond y mae S. Bernard yn myned rhagddo, ac yn dangos mor ofnadwy yw hyn ymmhellach, pan yw yn dywedyd, Ni bu erioed etto un dyn calon-galed yn gadwedig, oddieithr i Dduw o'i drugaredd dynu oddiwr∣tho ei galon galed, a rhoi iddo galon gnawd, fel y dywaid y prophwyd, Ezek. 36.26. Wrth y geiriau hyn y mae S. Bernard yn dangos, ac yn pro∣fi allan o'r prophwyd, fod dau fath ar galon mewn dynion, y naill o gnawd, yr hon a waeda ond ei phi∣go; hynny ydyw, hi a syrth mewn cystudd a dolur, ac edifeirwch, a dagrau, er lleied a gerydder arni am bechod. A'r llall sydd galon garreg, yr hon er maint a faeddoch ac a guroch arni a gyrdd ac a mor∣thwylion, chwi a ellwch cyn hawsed ei thorri yn ddrylliau, a'i phlygu neu beri iddi waedu. Ac ar y ddau fath yma ar galon yn y byd yma, y mae 'n se∣fyll ein holl ddedwyddwch a'n hannedwyddwch ni yn y byd a ddaw. Oblegid, megis pan oedd Duw a'i fryd ar ddwyn dialedd ar Pharao, nid oedd ganddo ffordd dostach i wneuthur hynny na dywedyd; Mi a galedaf galon Pharao, Exod. 4. hynny ydyw (fel y mae S. Awstin yn deall) mi a ddygaf fy ngrâs o∣ddiarno, ac a adawaf iddo galedu ei galon ei hun:

Page 361

felly pan oedd yn chwennych dangos tru∣garedd i Israel, nid oedd ganddo fodd i'w ddangos yn eglurach na dywedyd, Mi a dynnaf y galon garreg allan o'ch cnawd chwi, ac a roddaf i chwi galon gig, Ezek. 36.26. Hynny ydyw, Mi a dynnaf ymaith eich calon galed chwi, ac a roddaf i chwi galon feddal, yr hon a gy∣ffry pan lefarer wrthi. Ac o'r holl fendithion a'r do∣niau y mae Duw yn eu rhoddi i ddynion yn y'byd hwn, y galon feddal dyner yma yw vn o'r rhai mwy∣af; hynny ydyw y cyfryw galon ac a fo hawdd gen∣thi edifarhau, a ddioddef yn hawdd ei cheryddu, a fo hawdd ei gwanu a'i phigo, a fo hawdd genthi wa∣edu, a fo hawdd ei chymmell ar wellhaad. Ac o'r gwrthwyneb, ni all fod melldith a dialedd mwy ar Gristion, na bod ganddo galon galed gyndyn, a fo yn pentyrru dialedd beunydd arni ei hun ac ar ei pherchen hefyd; fel y dywaid S. Paul; hi a gyffe∣lybir gan yr Apostol i dir ni phair glaw yn y bydi∣ddo fod yn ffrwythlon, er mynyched y syrthio arno, ac am hynny y mae yn datgan am dano ei fod yn an∣ghymmeradwy, ac yn agos is felldith, ac mai ei ddi∣wedd fydd ei logi, Heb. 6.8.

26. A chan fod y peth felly, nid rhyfedd fod yr Scrythur lan yn ein hannog ni mor ofalus i ochel ca∣lon-galedwch, am nad oes clefyd perygclach, nac mor anaele, ac a all ddigwydd i Gristion, gan mai hwnnw yw 'r drws nesaf fel y dywaid yr Apostol, i ddyn i gael ei wrthod gan Dduw. Ac am hynny y llefa S. Paul, Eph. 4.30. 1 Thess. 5.19. Na thri∣stewch lân Yspryd Duw; Na ddiffoddwch yr yspryd, trwy galedwch calon, a thrwy wrthwynebu a gwth∣ladd yr yspryd. A thrachefn, Na chaleder calon neb o honoch trwy dwyll pechod, Heb. 3.13. Y mae 'r prophwyd Dafydd ynta yn llefain, Heddyw o gw∣randewch ar leferydd Duw yn galw arnoch i edifar∣hau,

Page 362

na chaledwch eich calonnau yn ei erbyn ef, Ps. 95. Ac y mae 'r holl eiriau difrif yma eiddo 'r yspryd glán yn dwyn ar ddallt i ni mor ofalus y dylem ni fod i ochel yr haint gwenwynig yma, calon-gale∣dwch: a'r holl-alluog Dduw o'i drugaredd a roddo i ni ras i wneuthur hynny, ac a'n cynnysgaeddo ni a chalon dyner i vfuddhau yn gwbl i'w ddwyfawl faw∣redd ef; y cyfryw galon feddal, meddaf, ac a ddy∣munodd y gwr doeth ei chael pan ddywedodd efe wrth Dduw, Dyro i'th wâs galon ddeallus, vfudd i wrando, a hawdd ei dysgu, 1 Bren. 3.9. y fath ga∣lon ac y mae Duw ei hun yn dangos ei bod ym mhawb a'i carant ef, gan ddywedyd, Ar bwy yr edrychaf, ond ar y truan, a'r cystuddiedig o yspryd, ac sydd yn crynu wrth fy ngair, Es. 66.2.

27. Dyma anwyl frawd, y fath galon y mae Duw yn ei disgwyl ar dy law di: calon fechan, druan, vfudd, ostyngedig, a chalon ddrylliedig am dy be∣chodau; a chalon a gryno wrth bob gair a ddèl at∣tati oddiwrth Dduw trwy enau ei weinidogion. Pa fodd wrth hynny nad ofni wrth yr aml eiriau a'r hir draethawd a aeth o'r blaen, i geisio dy ddeffro di, a dangos i ti dy berygl, a cheisio dy wellhau di? Pa fodd nad ofni di fygythion a barnedigaethau yr Ar∣glwydd mawr yma am dy bechod di? Pa fodd y llefesi di fyned rhagot yn ei ddigio ef? Pa fodd yr oedi di yn hwy wellhau dy suchedd? diau y gallasai y rhan leiaf o'r hyn a ddywetpwyd fod yn llawn ddi∣gon i gyffroi calon dyner, ac yspryd vfudd gostyn∣gedig, i wellhau ei buchedd yn y man. Ond onis gall y cwbl beri i ti wneuthur hynny; ni fedrafi ddy∣wedyd dim amgen na bod gennyt ti galon galed iawn: Yr hon er mwyn dy Iachawdwriaeth di, yr attolygaf ar y Tad o'r nef ei meddalhau a gwerthfawr waed brŵd ei vnig fab ein Iachawdwr, yr hwn a fu fodlon i golli ei waed ar y groes er dy fwyn di.

Page 363

28. Ac dyma i chwi gwbl ac a amcenais ei adrodd yn y llyfr hwn, i ddangos i chwi yr modd y mae i chwi wneuthur eich goreu ar droi at Dduw ac yma∣dael a'ch drwg fuchedd, ac y mae hyn yn llawn ddi∣gon gydâ chymorth glân yspryd Duw, yr hwn sydd bod amser yn barod i gymmorth pawb a wnêl ei oreu ar ochel yr hyn sy ddrwg, a dilyn yr hyn sy dda. Ac onid ydyw hyn ddigon i ti, ddarllennydd hynaws, ni wn i pa obaith a all fod o'th iachawdwri∣aeth di. Oblegid y mae yn ammhossibl i ti fyned i'r nef, o byddi fyw yn annuwiol heb edifarhau. Ie y mae cyn hawsed i i allu gyrru Duw ei hun allan o'r nef, a chael myned i'r nef dy hun os ti a barhei yn dy annuwioldeb. Beth wrth hynny a wnai di? A elli di fod heb fyned i'r nef, a gochel vffern hefyd? Na elli ddim. Beth ynteu a wnai di? ai oedi 'r matter, a meddwl yn ôl hyn beth sy oreu i ti ei wneuthur? Ond bydd di siccr na chai di byth amser cystal, na han∣ner cystal a'r amser presennol. Ac od yw anhawdd i ti yr awrhon wellhau dy fuchedd, gwybydd yn ddi∣au y bydd anhaws o lawer i ti yn ôl hyn. Os gwrth∣odi di gymmeryd edifeirwch pan y cynnygier yt, mae arnaf ofn nas cai di mwy ei gynnyg i ti. Wrth hynny, frawd anwyl, nid oes dim well i ti nâ'i gym∣meryd allau o law. Gwna dithau hynny, a gwna i angylion nef lawenhau o'th achos. Na sid gwellgen∣nyti, fel y mab afradlon, Luc 15. fwytta 'r ciban gyd 'r môch yn y byd hwn, nâ chymmeryd gwahodd i'r wledd nefol gydâ Duw a'i angylion. I'r hon y dyg∣co Duw nyni 1 gyd, trwy Jesu Grist ein Harglw∣ydd. Amen.

DIWEDD.

Notes

Do you have questions about this content? Need to report a problem? Please contact us.