Llyfr y resolusion yr hwnsydd yn dysgv ini bawb : wneuther ein goreu a rhoi cwbl o'n Gristianogion hynny ydyw'ar ymadael a'n drwy fuchedd, a throi at ddaioni a duwioleb / wedi ei gyfiethu yn Gy mraeg gan y Dr. I.D. ...

About this Item

Title
Llyfr y resolusion yr hwnsydd yn dysgv ini bawb : wneuther ein goreu a rhoi cwbl o'n Gristianogion hynny ydyw'ar ymadael a'n drwy fuchedd, a throi at ddaioni a duwioleb / wedi ei gyfiethu yn Gy mraeg gan y Dr. I.D. ...
Author
Bunny, Edmund, 1540-1619.
Publication
yn Llundain :: gan I.R.,
1684.
Rights/Permissions

This keyboarded and encoded edition of the work described above is co-owned by the institutions providing financial support to the Early English Books Online Text Creation Partnership. Searching, reading, printing, or downloading EEBO-TCP texts is reserved for the authorized users of these project partner institutions. Permission must be granted for subsequent distribution, in print or electronically, of this text, in whole or in part. Please contact project staff at eebotcp-info@umich.edu for further information or permissions.

Subject terms
Christian life.
Cite this Item
"Llyfr y resolusion yr hwnsydd yn dysgv ini bawb : wneuther ein goreu a rhoi cwbl o'n Gristianogion hynny ydyw'ar ymadael a'n drwy fuchedd, a throi at ddaioni a duwioleb / wedi ei gyfiethu yn Gy mraeg gan y Dr. I.D. ..." In the digital collection Early English Books Online 2. https://name.umdl.umich.edu/A30113.0001.001. University of Michigan Library Digital Collections. Accessed May 20, 2024.

Pages

Page 79

PEN. VIII. Pa dyb a fydd cennym ni am y pethau hyn, wrth farw, a pha fodd y cawn ni yr amser hwnnw glywed oddiwrthynt.

Y mae 'r Yscrythur lân yn ein dysgu ni, ac yr y∣dym ni yn gweled beunydd, fod elw ac ynnill, a goruchafiaeth, a phlesser a difyrruch y byd, yn perchennogi calonnau llawer o dynion mor gwbl, a'i bod yn eu dal mewn cadwynau, a swynion ac a chyfareddion cyn gryfed, gan ddarfod i ras Duw ymwrthod a hwynt yn ôl eu cyfiawn haeddedigaeth eu hun; ac nas gall dim, dyweded dyn wrthynt y peth a fynno, a bygythied arnynt cymmaint ac a fynno, a dyged yn eu herbyn yr holl Scrythur lan, o ddechreu Genesis hyd ddiwedd Datcuddiad Ioan (lle nid oes dim nad ydyw yn erbyn pechod a phe∣chaduriaid) ni thyccia dim iddynt, gan eu bod yn y cyfryw gyflwr gofidus a bod naill ai heb gredu ai heb wneuthur cyfrif yn y byd o ddim ac a ddywetter wrthynt yngwrthwyneb i'w cynnefin fuchedd eu hu∣nain, neu i geisio peri iddynt roi eu bryd ar ymadael a hi. Ac o hyn y mae i ni aneirif o esamplau yn yr Scrythur lan; megis am Sodoma a Gomorha, a'r di∣nasoedd o'i hamgylch, y rhai ni fynnent wrando ar y rhybudd a roddai y gŵr duwiol Lot iddynt. Gen. 19. A Pharao ynteu, yr hwn nid oedd abl dim i'w gynn∣hyrfu, ac a fedrai Foesen ei wneuthur, na thrwy ar∣wyddion, na thrwy ymadroddion. Exod. 6. A Judas he∣fyd, yr hwn nis gallai ddim ac a wnai ei fistr iddo na thrwy dêg na thrwy fygwth, beri iddo newidio ei feddwl oddiwth y drwg y rhoesai ei fryd ar ei wneu∣thur, Ond yn enwedig y prophwydi a ddanfonid

Page 80

gan Dduw, o amser i amser, i geisio tynnu 'r bobl oddiwrth eu drwg fuchedd ac felly oddiwrth y plàau a'r dialeddan oedd yn dyfod ar eu gwartha; hwynt hwy sydd yn tystiolaethu yn helaeth am y peth hyn, wrth achwyn ym mhob man fod cyn ga∣letted calonnau 'r bobl ac nad oedd yr holl gyngho∣rion a'r pregethau, a'r addewidion, a'r bygythiau, yr oeddynt hwy yn eu dangos iddynt, yn cynhyrfu gronyn arnynt hwy. A bydded y prophwyd Za∣chari yn dyst tros y ewbl yn hyn o beth, yr hwn sydd yn dywedyd fel hyn am bobl Israel, ychydig of flaen eu dinistrio, Fel hyn y llefara Arglwydd y lluoedd, gan ddywedyd, Bernwch farn gyfion, gw∣newch dugaredd a thosturi bob vn iw frawd, ac na orthrymmwch y weddw, a'r ymddifad, a'r dieithr, a'r anghenog; ac na feddyliwch ddrwg yn eich ca∣lonnau bob vn iw gilydd. Ac yn y man y dyweid ym mhellach, E'r hynny hwy a wrthodasant wrando, ac a roesant ysgwydd anhydyn, ac a drymhasant eu clustiau rhag clywed; ac a wnaethant eu calonnau yn Adamant rhag clywed y Gyfraith, a'r geiriau a an∣fonodd Arglwydd y lluoedd drwy ei yspryd, yn llaw y Prophwydi gynt: am hynny y daeth digofaint mawr oddiwrth Arglwydd y lluedd, Zech. 7.9. &c.

2. Wrth hynny, dymma 'r arfer sydd ac a fu erioed gan y rhai bydol, a'r rhai annuwiol gwrtho∣dedig, sef caledu eu calonnau fel carreg Adamant, ya erbyn pob peth ac a ddy weder wrthynt am well∣hau eu buchedd, a cheisio cadw eu heneidiau. Tra font yn cael iechyd a hawddfyd, ni fynnant adnabod Duw; fel y mae efe yn achwyn mewn man arall: Etto, fel y dyweid y prophwyd, fe wna Duw i'r dynion hyn ryw ddiwrnod ei adnabod ef; A hynny yw, pan Adwaenir yr Arghwydd wrth y farn a wna. Psal. 9.16. A hynny fydd ar ddydd marwolaeth, yr hwn yw 'r drws nesaf i'r farn, fel y tystia 'r A∣postol

Page 81

Gosodwyd i ddynion farw vnwaith, ac wedi hynny bod barn. Heb. 9.

3. Hwnnw, meddaf, yw dydd Duw, yr hwn fydd ofnadwy iawn, a gofidus, a llawn o drallod i'r annuwiol, yn yr hwn y gwna Duw wybod ei fod ef yn Dduw cyfiawn, ac y tál efe i bob dyn yr hyn a wnaeth yn y corph, yn ôl yr hyn a wnaeth, pa vn byn∣nag ai da ai drwg, 2 Cor. 5.10. fel y dyweid yr Apostol: neu fel y dywaid y prophwyd, ef a wna wybod ei fod efe yn Dduw of nadwy, ac na ddichon neb sefyll o'i flaen pan ennynno ei ddigofaint; a'i fod yn gyfryw vn ac a dyrr ymmaith yspryd tywyso∣gion, ac sydd of nadwy i frenhinoedd y ddaiar, Psal. 76.7. Ar y dydd hwnnw, sef dydd marwolaeth, fel y bydd cyfnewid mawr ym mhob peth arall, o∣blegid ein llawenydd ni a droir yn alar, ein chwer∣thin yn wylo, ein difyrrwch yn ofid, ein hyder yn ofn, ein gwroliaeth yn llyrfder, ein balchder yn anobaith, a'r cyffelyb: felly yn enwedig y bydd cyfnewid mawr yn ein meddyliau ni, a'n tŷb, a'n barn, oblegid doethineb Duw, am yr hon y cry∣bwyllais yn y pennodau o'r blaen, a'r hon, fel y dyweid yr Scrythur, a gyfrifir yn ffolineb gan ddo∣ethion y byd hwn; a ymddengys yr amser hwnnw yn ei rhith a'i chyffelybrwydd ei hun, ac yn ei gwir ddull ei hun, ac y cydnebydd ei gelynion pennaf nad oes wir ddoethineb ond y hi; ac nad yw holl gnawdol ddoethineb y rhai bydol ond llwyr ffolineb, fel y mae Duw yn dywedyd am dani.

4. Hyn y mae 'r Serythur lân yn ei osod ar lawr yn amlwg, wrth ddangos yr ymadroddion, a'r ym∣ddiddanion, a'r cwynfan fydd gan y rhai bydol yn y dydd diweddaf, pan elont i ddywedyd am y rhai duwiol a ddiystyrent hwy yn y byd ymma, Nyni ffyliaid a feddyliasom fod eu buchedd hwy yn ynfy∣drwydd, a'i diwedd yn ammharchus; ond yr awr∣hon

Page 82

hwy a gyfrifir ym mysg meibion Duw, ac y mae eu rhan hwy ym mysg y Sainct, Nyni a gyfeili∣ornasom allan o ffordd y gwirionedd, ac ni thywyn∣nodd llewyrch cyfiawnder i ni, ac ni chododd haul cy∣fiawnder arnom: ni a ymflinasom yn ffordd anwiredd a distryw, ac arodiasom trwy ynialwch anhyffordd, ond ffordd yr Arglwydd nid adnabuom. Doeth. 5.4. Hyd ymma y mae geiriau 'r Scrythur, wrth y rhai y gallwn weled faint y cyfnewid fydd ar ein tŷb a'n barn, a'n meddwl ni yn y dydd diweddaf, a'r rha∣gor sydd rhwng y tŷb a'r meddwl fydd gennym yr amser hwnnw am bethau bydol, a'r meddwl sydd gennym yr awrhon am danynt: ac y gallwn weled pa gyfaddef a wnawn ar ein ffolineb, pa gydnabod a'n camsynied, pa ofid calon am y boen a gymme∣rasom yn ofer, ac mor ofer fydd i ni yr amser hynny edifarhau am wyro allan o'r ffordd. Och nad ysty∣riei dynion y pethau hynny yr awrhon. Ni a ym∣flinasom, meddant hwy, yn ffordd anwiredd a di∣stryw, ac a rodiasom trwy anialwch anhyffordd. Beth am eglured y mae yn dangos y cyflwr y bydd y rhai bydol truain ynddo yr amser hwnnw, y rhai sy yma beunydd yn curo eu hymmennyddiau, ac yn eu llwyr∣flino eu hunain yn canllyn oferedd a gwagedd, ac vs a llŵch y byd hwn, ac er hynny fynychaf yn fwy eu poen a'i llafur ynghylch y gwag-bethau hyn∣ny, nag ydyw poen y rhai cyfiawn yn ceisio teyrnas ••••f? A phan ddelont hyd at y dydd diweddaf, yn wr eu blinder a'i lludded ar ól eu llafur a'i poen yn y byd yma; y maent yn gweled nad oedd eu holl lafur ond colledig, na'i holl drafferth a'i trallod ond ofer. Oblegid am y tippyn golud a gawsant hwy yn y byd hwn, ac yr ymdrechasant mor dôst am dano, ni wna fo ronyn llês iddynt, ond yn hy∣trach eu poeni a'i blino yn ddirfawr. Ac fel y galler deall hyn yn well, rhaid yw ystyried fod tri pheth

Page 83

yn bennaf a flina ac a boena 'r cyfryw ddynion ar ddydd eu marwolaeth; ac yn y tri pheth hynny y cynnhwysir cwbl o'r llaill.

5. Y cyntaf yw 'r boen anesgorol y mae dynion fynychaf yn ei dioddef wrth ymadawiad yr enaid a'r corph, y rhai a fu cyd o amse yn byw ynghyd fel dau gyfaill gariadus, yn vn ei cariad a'i difyrrwch, ac am hynny yn anhawdd iawn ganthynt ymadael â'i gilydd, oni bai fod yn ddir ac yn anghenrhaid i∣ddynt ymadael. Y boen a'r gofid hwnnw a ellir ei ddeall wrth hyn; pettem ni yn gyrru bywyd allan o'r rhan leiaf o'r corph, pettai ond ein bŷs bâch (fel y gwna 'r meddygon pan fônt yn marweiddio rhyw ran glwyfus o'r corph i gael gantho dorri allan) pa boen ddirfawr sydd raid i ddyn ei dioddef cyn ei marweiddio? pa wynio cynddeiriog sydd raid iddo ei oddef? Ac os yw cymmaint ein gofid ni wrth far∣weiddio vn rhan fechan o'r corph, meddyliwch faint fydd y gofid wrth farweiddio 'r holl gorph, a hynny o'i anfodd. Oblegid ni a welwn yr angeu yn gyntaf yn cymmell y bywyd i ymadael â'r rhannau eithaf o'r corph, sef bysedd y traed a'r dwylo, wedi hyn∣ny y coesau a'r breichiau; ac felly y mae pob rhan yn marw, y naill ar ôl y llall, hyd oni yrrer y by∣wyd yn vnig i'r galon, yr hon sy 'n dal allan yn hwy∣af, o herwydd mai y rhan bennaf ydyw, ond o'r diwedd hi a gymmhellir hitheu i ymroi, er maint fo ei phoen, ac er maint fo 'r gwrthwyneb ganthi i ymroi. Ac mor fawr ac mor gryf ydyw 'r boen honno, fe ellir gweled wrth fod llinynnau 'r galon yn torri gan faint ac mor anesgorol ydyw 'r poenau marwol hynny. Ond cyn y gyrrer hi cyn belled a gorfod arni ymroi, nid oes vn dyn a ddichon ddan∣gos greuloned a thosted yw 'r ymdrech sydd rhyng∣thi ac angeu, a pha ing a chyfyngder sydd raid iddi eu dioddef pan ddél gloes angeu atti. Meddyliwch

Page 84

petai ryw frenhin galluog mewn heddychol feddi∣ant o ryw ddinas dêg, ac yn byw mewn pob math a'r hawddfyd a difyrrwch ynddi, a'i holl gymmy∣dogion o'i amgylch yn ei garu, ac yn addo ei gym∣morth pa bryd bynnag y byddai raid iddo; a dy∣fod o'i elyn marwol yn ddisymmwth ar ei vchaf, ac amgylchynu ei ddinas ef, ae ynnill y naill ymddi∣ffynfa ar òl y llall, y naill gaer ar ôl y llall, y naill dŵr ar ol y llall; a gyrru 'r brenhin yn vnig i ryw dŵr bach o fewn y ddinas, a'i amgylchu ef yno hefyd, wedi euro i lawr ei holl ymddiffynfeydd ef, a llâdd ei holl wŷr yngwydd ei lygaid: pa ofn, a pha gy∣fyngder, a pha ofid fyddei an y brenhin hwnnw? Onid edrychai efe allan yn fynych trwy dyllau ffe∣nestri yr ŵr, i edrych a ddoai ei garedigion a'i gymmodogion i'w helpio ai na ddaent? Ac o gwelai fod pawb o honynt yn ei wrthod, a'i elyn ar dorri i mewn atto, oni byddai dostur a blin ganddo ei gy∣flwr, dybygwch chwi? Ac yn y cyflwr hwnnw y mae ir enaid truan yn amser gloes angeu: pan fo'r corph yr oedd efe yn teyrnasu ynddo megs brenhin gwych pan oedd yn ei flodau, mewn pob math ar ddifyrrwch, wediiw elyn yr angau ei guro ilawr a'i ddadymchwel: y breichian a'r coesau, a'r aelo∣dau eraill, oedd megis caerau yn gadernid ac yn ym∣ddiffyn iddo tra oedd mewn iechyd, wedi eu gorch∣fygu, a'i curo i lawr, ac ynteu 'r enaid wedi ei yrru i'r galon yn vnig megis i'w ymddiffynfa eithaf, ac yno yn cael gosod arno mor greulon, ac nas gall ddal allan nemor o ennyd; a'i hoff garedigion, y rhai a ddywedai yn dêg wrtho yn ei wynfyd, ac a addawent iddo bob rhyw help a chymorth, sef ieu∣engtid, a physygwriaeth, a chynnorthwyau dynol eraill, yn ei wrthod yn llwyr; a'r gelyn ynteu yn gyfryw ac nas gellir na heddychu ag ef, na chael cyngrair gantho, a phob nos a dydd yn gosod ar y

Page 85

twr bâch hwnnw y mae ef ynddo, a hwnnw wei∣thian yn dechreu siglo, a chrynu, a mynd yn ddry∣lliau; ac ynteu bob awr yn disgwyl pa bryd y daw 'r gelyn i mewn atto yn gynddeiriog ac yn ofnadwy. Pa fath gyflwr, dybygwch chwi yw hwn ar yr e∣naid cystuddiedig? Nid yw ryfeddod yn y byd os a'r doeth yr amser hwnnw yn ynfyd, a'r dewr yn llwrf, pan ddel arno y fath ofid blin a chyfyngder ac a welwn ei bod yn dyfod ar y rhai bydol, fel nas gallont wneuthur na threfn na dosparth iawn yn y byd nac o'i golud by dol, nac o'i dlèd tu ag at Dduw yn yr awr honno; o achos y ddygn boen sydd yn gorthrechu en heneidian hwy, fel y dy∣weid S. Awstin (neu ryw vn arall tan ei enw ef) yr hwn hefyd sy'n rhoi i ni rybudd gorchestol, pettai i ni cymmaint o râs a'i ganlyn; Pan fych di yn dy glefyd diweddaf, ac ar dy wely angeu, frawd anwyl (medd efe) ôch mor anhawdd ac mor flin fydd i ti edifarhau am y pe∣chodau a wnaethost; a pham yw hynny, ond am y bydd holl feddyl-fryd dy galon di ar y man lle y bo mwya'r dolur aruat? Llawer o rwystrau a fydd yn llestair i ddyn yn yr awr honno feddwl am edifarhau, megis y dolur a'r boen a fo yn ei gorph, ofn angeu, gweled ei blant ger ei fron (a'r rhei'ny weithiau yn peri i'w tadau dybied eu bod yn golledig; o'i hachos) ei wraig yn cwynfan ac yn wylo, y byd; yn gwneu∣thur truth iddo, y cythraul yn ei demptio, a'r phy∣sygwyr yn ei wenhiethio i geisio elw oddiwrtho, a'r yffelyb. A chred, fi, o ddyn pwy bynnag wyt a ddanllennych hyn, y cai di ar fyr o amser weled y bydd yr holl bethau hyn yn wir ynot tidy hun: ac am hynny mi a ddymunaf arnat edifarhau cyn dyfod y dydd hwnnw ar dy warthaf: gosod dy dŷ mewn trefn, a gwna dy ewyllys a'th lythyr cymmyn tra fych gwr i ti dy hun, oblegid os oedi dihyd y dydd

Page 86

diweddaf, ti a gai dy arwain lle nis mynnit. Ac dy∣na eiriau S. Austin.

6. Yr ail peth a wna angeu yn ofnadwy ac yn ofidus gan y rhai bydol, yw bod yn rhaid iddo yma∣dael yn ddisymmwth; a hynny byth bythoedd, â'r holl bethau yr oedd efe yn eu hoffi fwyaf yn y byd hwn, ei gyfoeth, a'i feddiannau, a'i anrhydedd, a'i swyddau, a'i adeiladau têg, a'i holl oludoedd, a'i ddillad gwychion, a'i dlysau gwerthfawr, a'i wraig, a'i blant, a'i geraint, a'i gyfeillon, a'r cy∣ffelyb; o achos y rhai yr oedd yn ei dybied ei hun yn ddedwydd yn y byd ymma, ac ynteu yr awrhon yn cael ei gippio oddiwrthynt yn ddisymmwth, heb obaith cael na'i gweled na'i mwynhau byth ond hynny. Och mor flin ac mor ofidus fydd hynny. Ac am hynny y dywaid yr Scrythur lân, O angeu, mor chwerw yw meddwl am danat ti, i'r dyn fyddo yn byw mewn heddwch yn yr hyn sydd ganddo; i'r gwr a fyddo dihelbul, a llwydiannus ym mhob peth. Ecc. 41.1. Megis pe dywedid, nid oes chwerw∣der na gofid mwy yn y byd i'r cyfryw vn nâ me∣ddwlam farw yn vnig chwaethach mynd i ymdrech marwolaeth, a hynny allan o law, pan ddywetter wrtho, fel y mynega Christ ddarfod dywedyd wrth y gwr goludog mawr yn yr Efengyl, yr hwn oedd wedi llenwi ei ysguboriau, ac wedi dyfod i vchder ei ddedwyddyd, O ynfyd y nos hon y gofynnir dy e∣naid oddi gennit, ac yno eiddo pwy fydd yr holl be∣thau a barotoaist. Luc. 12.20.

7. Ammhossibl, meddaf, i vn tafod yn y byd ddangos mor ofidus fydd cyflwr y gwr bydol yn awr angeu, pryd na allo dim o'r golud a gasglodd efe erioed ynghyd, trwy gymmaint o boen a tra∣fferth, er maint oedd ei oglud arno a'i ymddiried ynddo; wneuthur iddo ronyn llês mwyach, ond yn hyttrach ei boeni a'i flino wrth feddwl am dano, ac

Page 87

ystyried y bydd rhaid iddo adael y cwbl i eraill, a myned ei hun i roi cyfrif pa fodd y casglodd, a pha∣fodd yr arferodd efe ei olud, ac wrth hynny ond odid cael damnedigaeth dragywyddol, ac eraill yn y cyfamser yn byw mewn llawenydd a digrifwch yn y byd hwn, ar y pethau a ddarfu iddo ef eu cas∣glu, a'r rheiny heb feddwl ond ychydig am dano ef, a gofalu llai drosto ef pan fo yn llosgi ysgatfydd yn y tan anniffoddadwy, o achos y golud a adawodd efe iddynt hwy. Dyma beth tostur gofidus, ac sydd abl i ddwyn ar lawer dyn fawr ddolur calon a chyfyngder yn yr awr ddiwethaf, pan orffo arno adael holl lawenydd y byd, ac ysgar a phob difyr∣rwch ac a'i holl olud byth bythoedd. Och mor do∣stur ac mor flin fydd yr ymadael hwnnw! Beth a ddywedi di y dwthwn hwnnw, pan ddêl darfod ar dy holl ogoniant, a'th holl gyfoeth, a'th holl rodres di? Beth fyddi di gwell yr amser hynny er dy fod yn byw yn barchedig yn y byd, mewn ffafor tywy∣sogion, a phawb yn dy glodfori, ac yn dy ofni, ac yn dy berchi, ac yn dy dderchafu; gan fod y cwbl bellach wedi darfod am danynt, a thitheu heb allael byth mwy mo'i mwynhau?

8. Ond y mae etto 'r trydydd peth a wna fwy o ofid a thrallod i'r rhai bydol wrth farw na 'r holl be∣thau eraill, a hynny ydyw ystyried beth a ddaw o honaw ef, gorph ac enaid, wedi hynny. Eccl. 10. Ac am ei gorph, digon erchyll fydd iddo feddwl y bydd iddo gael seirph, a bwystfilod, a phryfed (fel y dyweid yr Scrythur) yn etifeddiaeth, hynny y∣dyw y bydd dir y teflir ef allan i fod yn ymborth, i bryfed: y bydd rhaid i'r corph hwnnw oedd 'yn cael ei drin mor foethus o'r blaen, ag amryw ddain∣tethion o fwydydd, â chlustogau a gwelau manblu, ac a dillad mor wychion ac mor ddillynion, ac am∣ryw addurnau eraill, y rhai nid oedd iawn dyby∣gent

Page 88

hwy, i'r gwynt chwythu, nac i'r haul dywyn∣nu arnynt: y corph hwnnw yr oedd cymmaint balchder o'i degwch, a thrwy 'r hwn y gwnaed cymmaint o oferedd a phechodau, y corph hwnnw oedd gynnefin â phob math ar foethau, ac ni allai ddioddef dim gerwinder, na cherydd yn y byd, fydd raid iddo yr awrhon gael ei wrthod gan bob dŷn, a'i adel yn vnig i gael ei yssu gan bryfed. Yr hyn beth, er nas gall na fago ofn ac erchylldod yng∣halon dŷn wrth farw, etto nid yw hynny ddim wrth y meddyliau erchyll ofnadwy a fydd gantho o achos ei enaid; sef pa beth a ddaw o hwnnw, ac i ba le yr â yn ol ymadael a'r corph: ac yno wrth ystyri∣ed y bydd rhaid iddo fyned ger bron brawdle Christ, i gael ei farnu ganddo, naill ai i fwynhau gogoniant annrhaethadwy, ai i ddioddef poenau anesgorol; y daw arno ystyried ym mhellach faint yw 'r perygl o hynny, pan êl i edrych pa gyffely∣brwydd sydd rhwng cyfiawnder a bygythion Duw, a osodwyd i lawr yn yr Scrythur lâu, a'i fuchedd ynteu ei hun: yna y dechreu efe holi 'r tŷst, yr hwn yw ei gydwybod ef ei hun, ac y caiff weled ei bod yn barod i roi aneirif o achwynion yn ei erbyn ef pan ddel ger bron brawdle cyfiawnder Duw.

9. Ac yna frawd anwyl, y dechreu gofid a thru∣eni dŷn. Oblegid nid oes odid o ymadrodd tôst yn yr holl Scrythur lan, na ddaw yn ei gof ef yr am∣ser hwnnw, i beri iddo ofni a dychrynu ar y munud hwnnw, megis y rhai hyn, Os ewyllysi fyned i mewn i'r bywyd cadw 'r gorchymmynion, Mat. 19.17. Yr hwn sydd yn dywedyd ei fod yn adnabod Duw, ac heb gadw ei orchymmynion ef, celwyddog ydyw, a'r gwirionedd nid yw ynddo, 1 Joan. 2.4. Llawer a ddywedant wrthyf yn y dydd hwnnw, Arglwydd, Arglwydd, oni phrophwydasom yn dy enw di? ac oni

Page 89

fwriasom allan gythreuliaid yn dy enw di; ac oni wnaethom wyrthiau lawer yn dy enwedi? Ac yna yr addef af iddynt (medd Christ) Nid anabûm chwi eri∣oed, Ewch ymaith oddiwrthyf, chwi weithredwyr an∣wiredd, Mat. 7.22. Nid gwrandawyr y Gyfraith sy gysiawn ger bron Duw, ond gwneuthurwyr y gy∣fraith a gyfiawnheir, Rhuf. 2.13. Ewch ymaith oddiwrthyf rai melldigedig i'r tân tragywyddol, yr, hwn a barottowyd i ddiafol ac iw angylion, Matth. 25.41. Oni wyddoch chwi na chaiff y rhai anghyfi∣awn etifeddu teyrnas Dduw. Na thwyller chwi, ni chaiff na godineb-wyr, nac eulyn-addol-wyr, na thor∣wyr priodas, na maswedd-wyr, na gwr-ryw-gydwyr, na lladron, na chybyddion, na meddwyr, na difenwyr, na chribddeilwyr, etifeddu teyrnas Dduw, 1 Cor. 6.9. Os byw fyddwch yn ol y cnawd, meirw fy∣ddwch, Rhuf. 8.13. Gal. 5.19. Ac amlwg yw gweithredoedd y cnawd, y rhai yw torri priodas, go∣dineb, aflendid, anlladrwydd, delw-addoliaeth, swyn gyfaredd, casineb, cynnhennau, gwynfydau, llid, ym∣rysonau, ymbleidio, heresiau, cynnsigennau, llofru∣ddiaeth, meddwdod, cyfeddach, a'r pethau cyffelyb i'r rhai hyn; am y rhai yr wyf yn rhag-ddywedyd wrthych, megis y dywedais o'r blaen, na chaiff y rhai sy'n gwneuthur y cyfryw bethau etifeddu Teyr∣nas Dduw. Rhaid i ni oll ymddangos gr bron braw∣dle Christ, fel y derbynio pob vn, y pethau a wnaeth∣bwyd yn y corph, yn ôl yr hyn a w••••eth, pa••••m byn∣nag ai da ai drwg: a phob vn a dderbyn yn ol ei weithredoedd, 2 Cor. 5.10. Dat. 20.12. Nid ar∣bedodd Duw yr angylion a bechasnt, 2 Pet. 2.4. Rhaid yw rhoi cyfrif ddydd farn am bob gair segur a ddywedo dynion. Os braidd y bydd y cy••••••wn cad∣wedig, pa le 'r ymddengys yr annuwiol a r pechadur, 1 Pet. 4.18. Y chydig yw y rhai sy 'n cel y ffordd gûl; ac yn myned i mewn i'r porth cyyng. Ychydig

Page 90

a ddetholir; Ychydig a fydd cadwedig. Ac an∣hawdd yw i'r goludog fynedi mewn i Deyrnas nefo∣edd. Mat. 7.14. Mat. 22.14. Luc. 13.23. Mat. 19.23, 24.

10. Yr holl bethau hyn, meddaf, a mil yn ych∣waneg ynghylch tosted barn Duw, a'r cyfrif a ofyn∣nir yn y dydd hwnnw, a ddaw ynghof y rhai by∣dol wrth farw; a'n gelyn ysprydol (yr hwn yn ein bywyd a wnaeth ei oreu ar gadw 'r pethau hyn al∣lan o'n golwg ni, fel y byddai haws iddo beri i ni bechu) a esyd gwbl o hyn a llawer yn ychwaneg yr amser hwnnw ger ein bronnau ni, ac a helaetha ac a daera bob peth hyd yr eithaf, ac a ddwg ein cydwybod ni ein hunain yn dŷst trosto ar bob peth. A chan na all yr enaid truan sydd yn ymadael wadu dim o hynny, nid yw bossibl na bydd dirfawr ei ofn ef: fel yr ydym ni yn gweled beunydd fod y cyfryw ofn ar wyr da duwiol. Y mae S. Ierom yn dywe∣dyd am y gŵr duwiol Hilarion, pan oedd ei enaid, wrth ystyried y pethau hyn, yn of∣ni yn fawr fyned allan o'r corph; yn ôl hir ym∣drech, efe a gymmerodd galon yn y diwedd, ac a ddywedodd wrth ei enaid, dôs allan fy enaid, dôs allan; pa ham yr wyti yn ofni; yr wyti yn gwa∣sanaethu Christ er ys deng mhlynedd a thriugain, ac a oes arnat ti yr awrhon ofn marw? Ac od oedd cymmaint ofn ar wr mor dduwiol a hwnnw wrth ymadael, ac ynteu wedi gwasanaethu Duw mewn purdeb buchedd, a zêl berffaith tros deng mhlynedd a thriugain; pa ofn, dybygwch chwi fydd ar y rhai ni ddarfu iddynt wasanaethu Duw yn gywir ond prin vn diwrnod yn eu holl fywyd, ond yn hyttrach treulio eu holl flynyddoedd mewn pechod a gorwagedd y byd? Oni bydd angenrhaid bod ofn a chyfyngder mawr ar y gwyr hyn wrth ymadael a'r byd?

Page 91

11. Yn awr, frawd anwyl, gan fod y pethau hyn felly, hynny ydyw, gan fod ymadawiad mar∣wolaeth mor ofnadwy, ac mor beryglus, ac er hyn∣ny mor ammhossibl ei ochel; a bod cynnifer o ddy∣nion beunydd yn myned yn golledig, ac yn colli 'r maes yr amser hwnnw, yr hyn nis gellir ei wadu; a bod yr yscrythurau sanctaidd, a hen dadau duwi∣ol, yn tystiolaethu i ni hynny trwy esamplau a cho∣ffad wriaethau eraill; pa ddyn a fai a dim synhwyr yn ei ben, ni ddysgai fod yn ddoeth, wrth bery∣glon rhai eraill? A pha greadur a fai a rheswm gan∣tho, ni ochelai, ac nid edrychai yn ei gylch, ac yn∣teu wedi cael rhybudd mor amlwg ac mor oleu, faint yw ei berygl? Os wyti Gristion, ac os wyti yn credu yn ddiau, y pethau y mae ffydd Grist yn eu dysgu i ti; yr wyti yn gwybod ac yn credu yn sccr, o ba radd bynnag, o ba oedran bynnag, o ba gryfder bynnag, o ba fraint a chyflwr bynnag, yr wyti yr awrhon; y bydd rhaid i titheu dy hun sy yn darllein y pethan hyn yn iach ac yn llawen, ac yn tybied nad ydynt hwy yn perthyn fawr i ti; ryw ddiwrnod, a hynny ysgatfydd yn y man ar ol dar∣llein y pethau hyn, gael dy hun brofi 'r pethau hyn yr wyt yn eu darllain: hynny ydyw, y bydd rhaid i ti trwy alar a gofid gael dy yrru i'th wely, ac yno yn ol dy holl ymdrech a phiccellau angeu, y bydd rhaid i ti roi i fynu dy gorph yr wyti 'n ei garu cym∣maint, i fod yn abwyd i bryfed; a'th enaid i gael barn gyfiawn a a wnaeth yn y bywyd hwn.

12. Meddwl ditheu fanwylyd, yr hwn wyt he∣ddyw yn hoyw ac yn heini, fod y dengmhlynedd, neu yr vgain mhlvnedd neu y ddwy flynedd, neu ysgatfydd y ddeufis ••••dd i ti etto yn ol o'th oes we∣di dyfod i ben, a'th fod ti yr awr hon wedi yme∣styn ar dy wely, a chwedi dy orfod a'th flino gan boen a dolur, a bod dy garedigion enawdol yn dy

Page 92

gylch yn wylo ac yn vdo, dy physygwyr wedi ca∣el eu cyflog ac ymadael â thi, a'th roi ditheu i fy∣nu; a'th fod titheu yn gorwedd yno yn fud ac yn aflafar mewn poen dosturus, yn disgwyl o fynud i fynud am gael y dyrnod diwethaf gan yr angeu. Dyweid i mi, pa lês a wnai holl ddifyrrwch a go∣lud y byd i ti yn yr awr honno? Pa gyssur fyddei i ti dy fod gynt yn anrhydeddus yn y byd; dy fod gynt yn gyfoethog a chwedi pwrcasu llawer, a'th fod mewn swyddau, ac mewn ffafor tywysogion; a'th fod yn gadael dy blant a'th dylwyth yn gyfoethogi∣on, a darfod i ti gael y gorfod ar dy elynion, a bod yn fawr dy rwysg yn y byd? Pa esmwythdra, a pha gomffordd fyddei i ti dy fod gynt yn dèg dy bryd, yn wychion dy ddillad, yn wr glan o gorph, yn discleirio mewn aur? Onid mwy o flinder a gofid a wnai 'r holl bethau hyn i ti yr amser hwnnw, nag o lês? Canys yno y cait ti weled ofered y coeg be∣thau hyn: yno y dechrenai dy galon di ddywedyd o'th fewn; Och mor ddygn yw fy ynfydrwydd a'm dallineb i: wele, dyma ddiben ar fy holl ddifyr∣rwch i a'm llwyddiant; fe ddarfu bellach fy holl la∣wenydd i, am holl ddifyrrwch, a'm holl ddidda∣nwch, a'm holl ddigrifwch: pa le y mae fy ngha∣redigion i a'm cyfeillion a fyddei arfer o gyd chwer∣thin a mi? pa le y mae fy ngweision a fyddei yn gweini i mi, a'm plant a fyddei yn fy llawenychu? Pa le y mae fy holl feirch a'm cerbydau y gwnawn fawr rodres a hwynt? Pa le y mae 'r ymbennoe∣thi a'r ymostwng y byddei'r bobl i mi, a'r mawr∣barch a roid i mi? Pa le mae 'r lluoedd a fyddai yn fy nghanlyn ac yn erlyn arnaf am negeseu? Pa le y mae fy holl drythyllwch i, a'm nwyfiant a'm ysmalbawch? Pa le y mae fy holl felysgerdd a'm canu, a'm holl dai gwychion, a'm holl wleddoedd a'm daintethfwyd costfawr? Ac yn anad dim, pa

Page 93

le y mae fy holl garedigion anwylgu, a gymmerent arnynt na'm gwrhodent byth? Ond y maent hwy i gyd yr awrhon wedi myned ymaith, a'm gadael innau ymma yn vnig i roi cyfrif am y cwbl, ac ni wna yr vn o honynt hwy cymmaint a mynd gyda myfi i'r farn, na dywedyd vn gair yn fy mhlaid i.

13. Gwae finnau fyth na ragwelswn i'r dydd yma yn gynt, a ymbarottoi yn well erbyn ei ddyfod: hi aeth yn rhyhwyr weithian, ac yr wyfi yn ofni ddarfod i mi bwrcasu damnedigaeth dragywyddol am ychydig fyrr ddifyrrwch bydol, a cholli gogo∣niant annhraethadwy am orwagedd ac oferedd. Oh dedwydd a thra happus yw y rhai sy yn byw fel na bo rhaid iddynt ofni 'r dydd hwnnw. Yr awrhon y gwelaf fi y rhagor sydd rhwng diwedd y da a'r drwg, ac nid rhyfedd gennyf fod yr Scrythur yn dywedyd am y naill, Psal. 116.15. Gwerth-fawr yngolwg yr Arglwydd yw marwolaeth ei Sainct; ac am y llaill mors peccatorum pessima, Drwg iawn yw marwolaeth yr annuwiol. O na buaswn i fyw mor dduwiol ac y bu rhai fyw, ac na buaswn i yn cre∣sawu yr aml ysprydoliaethau da a ddanfonodd Duw yn fy nghalon i, i geisio gennyfi fyw'n dduwiol; neu na wnaethwn y gweithredoedd da a allaswn eu gwneuthur; mor felus ac mor gyssurfawr fuasent hwy i mi yr awr hon yn fy mawr ddygn gyfyngder diwe∣thaf yma.

14. Y meddyliau a'r ymadroddion hyn, frawd anwyl, beth bynnag wyti yr awrhon, sydd dir eu bod yn dy galon di yn awr angeu, oddieithr i ti yr awrhon ochelyd hynny trwy wellhau dy fuchedd, a hynny yn vnig a all roi cyssur i ti yn y dydd trist hwnnw. Oblegid am y rhai da y dywaid y barnwr ei hun, Luc. 21.28. Pan ddechreuo 'r pethau hyn ddyfod edrychwch i fynu, a chodwch eich pennau, ca∣nys y mae eich ymwared chwi oddi wrth drallod a

Page 94

thrafferth y byd hwn, yn nesau. Ac y mae 'r pro∣phwyd yn dywedyd am y gwr duwiol, a wnaeth weithredoedd da yn y bywyd hwn, y bydd yr am∣ser hwnnw, Gwyn ei fyd ef: ac y mae 'n dangos yr achos o hynny, Oblegid yr Arglwydd a'i gwared ef yn y dydd drwg, ac a'i nertha ef ar ei glas-wely, ac a gyweiria ei holl wely ef yn ei glefyd, Psal. 41. A hyn yn ddiammau a ddywedir yn benu if am we∣ly angau dyn a'i ymadawiad o'r byd; oblegid y gwe∣ly hwnnw, o'r holl welyau eraill, yw'r gwely tri∣staf a mwyaf ei ofid, fel y dywedais o'r blaen, pan nad ydyw ddim ond pentwrr o bob math ar dristwch a gofid ynghyd, yn enwedig i'r rhai a dynnir iddo cyn eu bod yn barod iddo, megis fynychaf y maent hwy i gyd hb fod, y rhai o ddydd i ddydd sy'n oedi gwellhau eu buchedd, ac heb gymmeryd gofal am fyw yr awrhon yn y cyfryw fodd ac y dymunent wrth ymadael a'r byd ddarfod iddynt fyw.

Notes

Do you have questions about this content? Need to report a problem? Please contact us.