Llyfr y resolusion yr hwnsydd yn dysgv ini bawb : wneuther ein goreu a rhoi cwbl o'n Gristianogion hynny ydyw'ar ymadael a'n drwy fuchedd, a throi at ddaioni a duwioleb / wedi ei gyfiethu yn Gy mraeg gan y Dr. I.D. ...

About this Item

Title
Llyfr y resolusion yr hwnsydd yn dysgv ini bawb : wneuther ein goreu a rhoi cwbl o'n Gristianogion hynny ydyw'ar ymadael a'n drwy fuchedd, a throi at ddaioni a duwioleb / wedi ei gyfiethu yn Gy mraeg gan y Dr. I.D. ...
Author
Bunny, Edmund, 1540-1619.
Publication
yn Llundain :: gan I.R.,
1684.
Rights/Permissions

This keyboarded and encoded edition of the work described above is co-owned by the institutions providing financial support to the Early English Books Online Text Creation Partnership. Searching, reading, printing, or downloading EEBO-TCP texts is reserved for the authorized users of these project partner institutions. Permission must be granted for subsequent distribution, in print or electronically, of this text, in whole or in part. Please contact project staff at eebotcp-info@umich.edu for further information or permissions.

Subject terms
Christian life.
Cite this Item
"Llyfr y resolusion yr hwnsydd yn dysgv ini bawb : wneuther ein goreu a rhoi cwbl o'n Gristianogion hynny ydyw'ar ymadael a'n drwy fuchedd, a throi at ddaioni a duwioleb / wedi ei gyfiethu yn Gy mraeg gan y Dr. I.D. ..." In the digital collection Early English Books Online 2. https://name.umdl.umich.edu/A30113.0001.001. University of Michigan Library Digital Collections. Accessed May 20, 2024.

Pages

PEN. IV. Am y diwedd a'r achos y gwnaed dyn o'i ble∣gid, yn naillduol: ac am ddau beth a ofyn∣nir yn enwedig ar law dyn yn y fuchedd hon.

GWedi darfod crybwyll yn y bennod o'r blaen ain y diwedd y gwnaed dyn o'i blegid yn gyffredinol, a dangos mai i wasanaethu Duw y gw∣naed ef; cymmhesur oedd bellach (am fod y peth

Page 21

o bwys a defnydd mawr) ddangos yn neillduol ac yn hyspysach, ym mha beth y mae gwasanaeth Duw yn sefyll, fel y gallo pob Christion farnu o honaw ei hun pa vn a wna ai bod yn gwneuthur y gwasanaeth hwnnw, ai nad ydyw: ac felly gweled ydyw fo 'n gwneuthur y pethau y danfonwyd ef i'r byd o'i ple∣gid, ai nad ydyw.

2. Yn gynta peth gan hynny rhaid yw deall fod yr holl wasanaeth y mae Duw 'n ei ofyn ar law Christion o ddyn yn y fuchedd hon, yn sefyll mewn dau beth, y naill yw Gochelyd y drwg, a'r llall yw Gwneuthur y da. Ac er bod y ddeubeth hyn yn ddyledus arnom ni cyn dyfod Christ i'r byd, (fel y mae Dafydd yn dangos wrth roi gorchymmyn cy∣ffredinol, Cilia oddiwrth ddrwg, a gwna dda: a'r prophwyd Esai, Peidiwch â gwneuthur drwg, a dys∣gwch wneuthur da) Psal. 34.4. Esa. 1.16, 17. etto y mae mwy o achos a rheswm i'w gofyn hwynt ar ddwylo Christianogion, am eu bod hwy trwy angeu a dioddefaint eu hiachawdur, yn cael grâs a gallu i fod yn abl mewn rhyw fesur i wneuthur y ddeubeth hynny, y rhai nid oedd y Gyfraith yn rhoi grâs i'w gwneuthur, er ei bod yn gorchymmyn eu gwneu∣thur.

3. Ond nyni, y rhai a brynodd Crist, ac a gaw∣som ganddo ef nid yn vnig adnewyddu'r gorchym∣myn hwnnw am wneuthur y ddeubeth hyn, ond he∣fyd nerth a gallu trwy ei râs ef i'w gwneuthur: yr ydym Ni yn rhwymediccach trwy ddyled a rheswm, iw gwneuthur nâ'r rhai o'r blaen, oblegid hynny oedd ffrwyth bendigedig dioddefaint Christ, fel y dywaid S. Petr, Fel gwedi ein marw i bechod, y byddem byw i gyfiawnder: 1 Pet. 2.24. Neu fel y mae S. Paul yn eglurach yn ei ddangos fel hyn, Ymddangosodd grâs Duw, yr hwn sydd yn dwyn iechydwraieth i bob dyn, gan ein dysu ni i wadu annuwioldeb a chwantau

Page 22

bydol, ac i fyw 'n sobr, ac yn gyfiawn, ac yn ddu∣wiol, yn y byd sydd yr awrhon, Tit. 2.11, 12.

4. Y ddeubeth hynny a glywsochwi ydyw gwa∣sanaeth Duw, y danfonwyd ni i'r byd hwn o'i blegid, sef i wrthwynebu pechod, ac i ddilyn gweithredo∣edd da. O achos y cyntaf o'r ddau i 'n gelwir ni yn filwyr, ac y gelwir ein bywyd ni yn filwriaeth ar y ddaiar. 2 Cor. 10.4. 2 Tim. 2.3. Oblegid fel y mae milwyr bob amser yn cynllwyn i wrthwy∣nebu eu gelynion, felly y dylem ninnau i wrthwy∣nebu pechod a'i brofedigaethau. O achos yr ail i'n gelwir ni yn llafurwyr, ac yn oruchwilwyr, a'r cyffe∣lyb: oblegid fel y mae y rhai hyn yn edrych yn ddy∣fal ar ei helw a'r hynnill, a chynnyrch ei golud yn y byd hwn, felly y dylem ninnau edrych am wneuthur gweithredoedd da, er gogoniant i Duw, a bûdd i eraill ymma yn y fuchedd hon. 1 Tim. 6.18.

5. Felly dymma 'r ddau bwngc bennaf a ddylei Gristion fyfyrio arnynt, a'r ddau orchwyl bennaf y dylai weithio ynddynt beunydd, a'r ddau droed y mae iddo gerdded a hwynt yngwasanaeth Duw, a'r ddwy asgell y mae iddo ehedeg i fynu â hwynt tu ac at fuchedd Gristianogol. A phwy bynnag sy ag vn o'r rhai'n yn niffyg gantho, er bod y llall ganddo, ni all efe ymddyrchafael at wir dduwioldeb, mwy nag y gall aderyn hedeg ni bo ganddo ond vn asgell. Ni thal dim i ddyn fod heb wneuthur drwg, oni bydd iddo hefyd wneuthur daioni, ac ni thal dim iddo wneuthur daioni, oni bydd iddo fod heb wneuthur drygioni hefyd. Y diweddaf o'r ddau hyn sydd e∣glur wrth bobl Israel, y rhai yr oedd eu haberthau a'i hoffrymmau, a'i gweddiau, a'i gweithredoedd da eraill, yn fynych yn ffiaidd ger bron Duw, er ei fod ef ei hun yn eu canmol ac yn eu gorchymmyn; am fod y rhai oedd yn eu gwneuthur hwy yn byw mewn pechod ac anwiredd, fel y mae 'r prophwyd

Page 23

Esay yn ei ddangos yn helaeth, Esa. 1. Y cyntaf a ddangosir yn amlwg ddigon wrth ddammeg y mor∣wynion angall, y rhai er eu bod yn lân oddiwrth bechod, er hynny am na wiliasant, hwy a gaewyd allan. Ac ar ddydd y farn ddiweddaf y dywed Christ wrth y rhai colledig, Am na ddilladasoch fi, am na roesoch i mi fwyd, am na wnaethoch y gweithredoedd eraill o gariad perffaith, oedd ddy∣ledus arnoch yn eich galwedigaeth; am hynny, ewch oddiwrthyf rai melldigedig i'r tan tragywyddol yr hwn a barotowyd i ddiafol ac i'w angylion. Matth. 25.41. Wrth hynny y mae pob vn o'r ddau yn anghenrhaid i gristion wrtho i wasanaethu Duw: ac mor anghenrhaid ac na wna lles y naill heb y llall. Ac am y cyntaf o'r ddau, yr hwn yw gwrthwynebu pechod, fe a orchymynnir i ni ei wrthwynebu hyd angeu, ie hyd golli ein gwaed, os bydd rhaid hyn∣ny, Heb. 12.4. Eph. 6.11. ac mewn amryw leo∣edd o'r yscrythur lân y mae yspryd Duw yn ewylly∣sio ini ymbarottoi ac ymdacclu i wrthwynebu 'r cy∣thrael yn wrol, yr hwn sydd yn ein temptio ni i be∣chu, Iac. 4.7. 1 Pet. 5.9. ac ni a ddylem ei wrth∣wynebu mor gwbl ac mor berffaith ac nad ymro∣ddom o'n bodd a thrwy wybod, i wneuthur vn pe∣chod, nac ar air, nac ar weithred, nac ar feddwl calon: yn gymmaint a bod pwy bynnag a gydsynio yn ddirgel yn ei galon ar wneuthur pechod pe cai amser, a chyfle, a gallu i'w wneuthur, trwy farn yr yscrythur lân yn euog o bechod, yn gystal a phet∣tai eisus wedi gwneuthur y weithred. Mat. 5.28. A thu ac at am yr ail, yr hwn yw gwneuthur gwei∣thredoedd da, y mae Duw yn ein hannog i'w gw∣neuthur yn aml, yn ddyfal, yn llawen, ac yn ddi∣baid; canys fel hyn y dyweid yr Scrythur, Beth bynnag a ymaelo dy law ynddo i'w wneuthur, gwa a'th hell egni. Preg 9.10. A thrachefn, Rhodiwch

Page 24

yn addas i'r Arglwydd, i bob rhyngu bodd, gan ddw∣yn ffrwyth ym mhob gweithred dda, Col. 1.10. A thrachefn y dywaid S. Paul, Tra fom yn cael amser cyfaddas, gwnawn dda i bawb, Gal. 6.10. A thra∣chefn yn yr vn lle, Na ddiogwn yn gwneuthur daio∣ni, canys yn ei iawn bryd y medwn, oni ddiffygiwn. Ac mewn man arall y mae 'n ewyllysio i ni fod yn siccr, ac yn ddiymmod, ac yn helaethion yngwaith yr Arglwydd yn oestadol, a ni yn gwybod nad yw ofer ein llafur yn yr Arglwydd. 1 Cor. 15.58.

6. Wrth hyn y gellir gweled, frodyr anwyl, mor berffaith o greadur ydyw Christion da, hynny ydyw, fel y mae S. Paul yn dywedyd am dano, mai Gwaith Duw ydyw, wedi ei greu yn Ghrist Iesu i weithredoedd da, y rhai a ddarparodd Duw iddo ro∣dio ynddynt, Eph. 2.10. Wrth hyn, meddaf, y gwelir mor berffaith o fuchedd yw buchedd Christi∣on: yr hon yw gwrthwynebu pob pechod yn ddi∣baid, mewn meddwl, gair, a gweithred; a gw∣neuthur a chyflawni pob gweithred dda, ar a fo pos∣sibl iddo feddwl am dani. O Dduw, ond buchedd angylion yw 'r cyfryw fuchedd, ie mwy na buchedd angylion, oblegid nad oes i'r angylion, gan eu bod eisus mewn gogoniant, na themptasiwn pechod i'w wrthwynebu, na gweithred dda ar a allont eu gw∣neuthur (fel y dwedom felly) er mwyn chwanegu ar eu gogoniant.

7. Pe bucheddai Gristianogion yn ôl eu dylêd bonno, sef gwneuthur o honynt gwbl ac a allent o ddaioni, ac na chydsynient vn amser â drygioni, pa raid fyddei agos wrth vn gyfraith fyd? ond llywo∣draeth wych fyddei Gristianogaeth? Pwy ni bydd ryfedd gantho esamplau llawer o'n hên dadau duwiol ni, yn y rhai y dywedir bod cymmaint o ddisymlr∣wydd a diniweidrwydd, cymmaint o wirionedd, ac o gydwybod, ac o eluseni, ac o burdeb, ac o rin∣wedd,

Page 25

ac o grefydd a defosiwn da? A'r achos oedd am eu bob vn o honynt (fel y rhoddai Duw'r grâs iddo) roddi ei fryd yn astud ar y ddau bwngc hynny o ddyled Christion, ac ar wneuthur eu goreu ar eu cyflawni. A ninnau, am nad ydym yn edrych am y pethau hyn, ydym wedi myned mor ddrwg-fu∣cheddol, a chymmaint ein hanwiredd ac a fu 'r cen∣hedl-ddynion a'r rhai digred erioed. Ac etto yr vn Duw ydyw Duw yn wastad, ac ni dderbyn efe ond yr vn cyfrif ar ein dwylo ni, ac a dderbyniodd ar law ein hên dadau ni, am gyflawni 'r ddwy ran hyn o'n dyled tu ac atto ef. Pa beth wrth hynny a ddaw o honom ni y rhai nid ydym yn byw yn yr yn o'r ddwyran yn gyffelyb iddynt hwy? Ac os ystyriwn y pethau hyn ym mhellach bob vn ar ei ben, pwy yn y dyddiau hyn, o'r Christianogion cyffre∣din sydd yn cymmeryd poen yn y byd yn y rhan gyn∣taf, sef yn gwrthwynebu trachwantau pechod; di∣ammeu fod llawer o ddirgel wasanaethwyr Duw yn gwneuthur hynny, ond o'r rhai sy'n dwyn enw Chri∣stianogion ac sydd amlaf yn ymdrin yn y byd, pwy o honynt hwy, meddaf, sydd yn ei wneuthur? Y trachwant yma, a'r tuedd naturiol sydd ynom i be∣chu, yr hwn sy wedi ei adael ynom megis gweddilli∣on o'n clwyf naturiol yn gospediga∣eth am bechod ein cyntad Addaf, hwnnw, meddaf, sydd wedi ei adael ynom ni ar ôl ein bedyddio, ad ago∣nem, hynny ydyw i ymdrech ag ef ac i'w wrthwynebu. Ond ôch Dduw, leied o Gristianogion sydd fel y dy∣lent yn gwrthwynebu drwg-feddyliau yr trachwant hwnnw: Pwy sydd vn amser vn holi ei gydwybod o'i blegid? Pwy nid yw synychaf yn cyttuno yn ei feddwl a'i galon, â phob meddylfryd a fo dim di∣fyrrwch na digrifwch bydol yn ei ganlyn, fel y mae

Page 26

cybydd-dod, llid, dial, balchder, serch i anrhy∣dedd, ac yn bennaf o gwbl, anlladrwydd ac eraill o fryntion bechodau 'r cnawd; a hynny er eu bod yn gwybod wrth a ddywedodd ein Iachawdur Christ ei hun, fod cyttundeb a chydsyniad y meddwl a'r galon, (o ran sylwedd pechod) gymmaint a phe gw∣neid y weithred, ac yn gwneuthur yr enaid yn euog o golledigaeth dragywyddol. Mat. 5.28.

8. Peth rhyfedd ei ystyried ydyw, a pheth a allal beri i ddyn synnu wrth feddwl am dano, faint y go∣fal, a'r ofn, a'r diwydrwydd, a'r boen, a gymme∣rai yr hên wyr duwiol gynt yn gwrthwynebu pe∣chod; a lleied a gymmerwn ninnau yr awrhon. Iob gyfiawn, er nad oedd iddo ond llai o achos i ofni nag sydd i ni, a ddyweid am dano ei hun; Ofnais fy holl weithredoedd, (o Arglwydd) am fy mod yn gwybod nad arbedi di mo'r rhai a becho yn dy erbyn, Job 9.28. Ond y bren∣hin duwiol gan Ddafydd, yr hwn a brofasei eisus, drymmed oedd law Dduw am gyttuno yn y galon â phechod, y mae efe yn dangos ei fod yn fwy ei ofal a'i ofn, pan yw yn dywedyd, Yr ydwyf yn myfyrio 'r nôs, yr ydwyf yn ymddiddan â'm calon, fy yspryd sydd yn chwilio yn ddyfal, neu fal y mae rhai yn ei gyfieithu, mi a ysgubais, ac a lanweithiais fy yspryd o'm mewn, Psal. 77.6. Pa ddyfal chwilio a holi ar galon, a meddwl, a chydwybod, oedd hyn gan fren∣hin? Ac nid oedd hyn i gyd ond i geisio gochel a gwrthwynebu pechod. Ac felly y gwnai S. Paul, yr hwn a holai ei gydwybod mor ddichlyn, ac a wrthwynebai bod temptasiwn mor ddyfal ac mor ddiwyd, ac y gallai ddywedyd am dano ei hun, nad oedd ef yn gwybod ei fod yn euog o ddim yn ei we∣inidogaeth. 1 Cor. 4.4. er ei fod yn cyfaddef mewn man arall ei fod ef trwy ordinhâd Duw yn eael gan

Page 27

y cythrael demptasiwnau garwflin chwerwdost yn y cnawd, 2 Cor. 12.9. Etto trwy râs Christ efe a'i gwrthwynebodd ac a'i gorchfygodd i gyd oll. Ac fel y gallai gyflawni hynny yn well, y mae yn gyffe∣lyb ei fod ef yn cymmeryd help a chymorth iawn ymprydio, a thaer weddio, a dyfal wilio, a thost gospi ei gorph a'i wastadol a'i lafurus fowrboen yn ei alwedigaeth, am yr hyn y mae yn crybwyll yn ei epistolau. 2 Cor. 6. & 11. 1 Cor. 9.27. Ac felly y byddai gwyr Duwiol eraill, wrth ei esampl ynteu, yn arfer o gymmeryd y cyffelyb help a chymorth, fel y bai haws iddynt wrthwynebu temptasiwnau pe∣chod pan fyddai raid. Ac o'r cyfryw y gallwn ym∣ma adrodd llawer o esamplau allan o'r hen Dadau: y rhai a allai beri iddyn ryfeddu a dychrynu ac osni (o bai nac ofn na dychryn yn ei galon ef) wrth we∣led y ddygn boen a'r dirfawr ddyfalwch a gymmerai yr hên Gristianogion hynny gynt, i wilied ar bob di∣chell o'r eiddo 'r cythraul, er lleied fai, ac i wrth∣wynebu pob temptasiwn a drwg feddwl i bechu, er lleied fyddaint: a ninnau heb feddwl vnwaith am y cyfryw beth, na gwneuthur cyfrif yn y byd nac o ddrwg feddwl, nac o gyttundeb calon i bechu, nac o air, nac o weithred: ond ymroi yn rhwydd i bob peth ac y mae ein trachwantau ein hunain yn ein har∣wein iddo; a llyngcu pob bach ac y mae 'r cythrael yn ei osod i ni, ac yssu yn dra chwannog bob abwyd gwenwynig ac a gynnygio ein gelyn i ni er mwyn de∣strywio ein heneidiau, os ni a'i clywn yn felys ac yn beraidd. A hynny am wrthwynebu pechod.

9. Bellach am yr ail pwngc, ynghylch ymarfer beunydd o weithredoed da, y me 'n amlwg ein bod ni i gyd gan mwyaf yn ddiffygiol yn y pungc hwn. Mi a ddangosais o'r blaen fl y mae 'r Scrythur lan yn gorchymmyn i ni wneuthur gweithredoedd da, yn wastadol, ac yn ddyfal ta caffom amser, a lliw

Page 28

dydd i'w gwneuthur hwy: oblegid, fel y dyweid Christ, Y mae 'r nos yn dyfod, pryd na allo neb wei∣thio, Io. 9.4. Mi a allwn ddangos hefyd fel yr oedd llawer o Sainct Duw a'n hên dadau ninnau, yn ddy∣fal iawn ac yn ofalus yn eu dyddiau am wneuthur gweithredoedd da, fel y mae 'r llafurwr yn ofalus am fwrw ei hâd yn y ddaiar tra fo'r hin yn dêg, ac fal y mae 'r marsiandwr yn gofalu am wario ei arian tra fo'r farchnad yn dda, Gal. 6. Phil. 2. Hwy a wyddent yn dda na pharhaei 'r amser yn hir oedd iddynt hwy i weithio ynddo; ac am hynny yr oe∣ddynt yn cymmeryd poen tra caent amser; ni or∣phywysent hwy vn amser ond myned rhagddynt o'r naill weithred dda i'r llall, gan wybod yn dda beth yr oeddynt yn ei wneuthur, ac mor gymmeradwy gan Dduw oedd y gwasanaeth hwnnw.

10. Pettai heb ddim arall i brofi eu rhyfeddol ofal a'i diwydrwydd hwy yn hyn o beth; etto y mae 'r coffadwriaethau a adawsant hwy ar eu hol o'i helusenau yn dystiolaeth ddi∣gon amlwg o hynny; sef yr a∣neirif o eglwysi a adeiladwyd, ac a gynnysgaeddwyd â hela∣eth fawr gyfoeth i gynnal ei gweinidogion; cynnifer o ys∣golion o ddysg; cynnifer o bynt, o briffyrdd, ac o ddaioni arall o'r cyffelyb. Y gweithredoedd elu∣sengar hynny (heb law miloedd eraill o rai neillduol a chyffredin, dirgel ac amlwg) a ddaeth allan o byr∣sau ein hên dadau duwiol ni, y rhai yn fynych a roe∣sant nid o'i helaethrwydd yn vnig, ond a arbedent hefyd allan o'i geneuau a'i boliau ei hunain beth i'w wario ar weithredoedd da, er gogoniant i Dduw, a llês i eraill: A ninnau cyn belled oddiwrth roi dim o'n hangenrheidiau, ac na allwn hepcor dim o'n

Page 29

gweddill a'n gormodedd tu ac at y cyfryw weithre∣doedd; haws gennym ni o lawer ddwyn yr hyn a roes eraill, a'i wario ar ein gweilch a'n cŵn, a'n ha∣nifeiliaid eraill, neu ar bethau a fo gwaeth; nag ar dorri newyn ac eisiau ein cydfrodyr tlodion.

11. Och Dduw, frodyr anwyl, mor ddiofal, ac mor ddiddarbod, ac mor ddifatter am ein iechydwri∣aeth a'n damnedigaeth, yr ydym ni wedi myned. Y mae S. Paul yn llefain amom am weithio allan ein hie∣chydwriaeth ein hunain drwy ofn a dychryn, Phil. 2.12. ac er hynny nid oes neb yn gwneuthur cyfrif yn y byd o hynny. Y mae S. Petr yn ein rhybuddio ni yn ddwys ac yn ddifrif, i fod yn ofalus am wneuthur ein galwedigaeth, a'n hetholedigaeth yn siccr trwy weithredoedd da: ac etto pwy agos sy'n meddwl am danynt, 2 Pet. 1.5.6, 7. &c. Y mae Christ ei hun hefyd megis yn rhoi diasbad yn y geriau hyn, Yr wyf yn dywedyd i chwi, gwnewch i chwi (yn y byd hwn) gyfeillion o'r golud anghyfiawn, fal pan fo eisieu arnoch i'ch derbyniont i'r tragywyddol bebyll: ac er hyn i gyd nid ydym ni yn cyffroi gronyn: mor fusgrell ac mor feirwon ydym i bob daioni. Luc. 16.9.

12. Pettei Dduw yn ein hannog ni i wneuthur gweithredoedd da er mwyn llês iddo ei hun, neu er mwyn elw yn y byd a allai ddyfod iddo ef odd wrth ein gwaith ni yn gwneuthur daioni; etto ni a ddy∣lem wrth bob rheswm wneuthur cymmaint a hynny o gymmwynas iddo, gan nad oes gennym ni ddim ar sy gennym ond a gawsom o'r blaen ar ei law haelio∣nus ef. Ond gan nad yw efe yn gofyn hynny ar ein dwylo ni am fod yn rhaid iddo ef wrthynt, ond er llês a thwrn da i ni ein hunain, ac er mwyn cael talu i ni am danynt hwy gydag elw; y mae yn fwy o lawer yr achos i ni i wrando arno. Pettei wr honest o'r byd yn erfyn arnom wneuthur rhyw beth, ac ar

Page 30

ei honestrwydd yn addaw ein bodloni ni yn helaeth am ei wneuthur, ni wnaem ni lai nâ'i goelio ef yn hawdd: ond er bod Duw yn yr Scrythur lân yn gw∣neuthur i ni aneirif o addewidion ar dalu i ni yn he∣laeth am wneuthur daioni, (sef y cawn ni fwytta gydag ef, ac yfed gydag ef, a theyrnasu gydag ef, a meddiannu nef gydag ef, Luc. 22.29. Rom. 8. Datc. 22.14.) etto nid yw hynny i gyd abl i gynn∣hyrfu gronyn arnom ni i wneuthur gweithredoedd da. Ond am fod y pethau hyn yn cynnhyrfu ein hên dadau ni i ddaioni, megis rhai yr oedd eu calonnau o fettel feddalach nag y mae yr eiddom ni; am hyn∣ny yr oeddynt hwy yn dwyn ffrwyth cyn helaethed ac y dangosais i chwi.

13. Or cwbl ac a ddywedais y gall Christion du∣wiol gasglu 'r pethau hyn, yn gyntaf mor druan ac mor ofidus yw cyflwr y byd yn y dyddiau hyn, gan fod cynnifer o'r rhifedi bychan sy'n dwyn enw Chri∣stianogion, yn debyg i fyned i golledigaeth, eisiau cyflawni'r ddau brif-bwngc yma o'i galwedigaeth. Yn ail y gall weled yr achos a bair fod mor anfeidrol y rhagor sydd rhwng gwobr y da a'r drwg yn y fu∣chedd a ddaw, yr hyn sydd ryfedd gan lawer: ond mewn gwirionedd y mae y rhagor hwnnw ar wobr or fath gyfiawnaf ac o'r fath resymmolaf, gan fod cymmaint o ragor rhwng buchedd y da a'r drwg tra sônt yn y byd hwn. Oblegid y mae 'r da nid yn vnig yn gwneuthur ei oreu ar ochel pechu, ond hefyd wrth ochel pechu yn cynnyddu bob awr beu∣nydd mewn ffafor gydâ Duw: ac y mae 'r diofal a'r drwg wrth ymroi o gyttundeb ei galon i'w dra∣chwant ei hun, nid yn vnig yn colli ffafor Duw, ond hefyd yn chwanegu pechod at bechod heb rifedi. Y mae 'r gwr da heb law ei fod yn gochel pechu, yn gwneuthur hefyd aneirif o weithredoedd dâ, o'r hyn lleiaf mewn ewyllys calon, lle ni bo gallu i'w gy∣flawni

Page 31

ar weithred. Ond yr annuwiol, nid ydynt hwy nac ar ewyllys nac ar weithred yn gwneuthur dim daioni, ond yn hyttrach ceisio yn lle hynny wneuthur drygioni. Y mae 'r gwr duwiol da, yn rhoi cwbl o'i fryd, a'i feddwl, a'i galon, a'i eiriau, a'i weithredoedd, ar wasanaethu Duw, a'i weision er ei fwyn ynteu. Ond yr annuwiol sydd yn rhoi cwbl o'i fryd, a'i egni, a'i allu ar wasanaethu gor∣wagedd ac oferedd y byd a'r cnawd, Fel, megis ac y mae 'r duwiol yn cynnyddu beunydd yngwasa∣naeth Duw, am yr hyn y mae Duw yn rhoi iddo ynteu gynnydd grâs yn y byd yma, a gogoniant yn y nef: felly y mae 'r annuwiol ynteu o amser i am∣ser, ar feddwl, neu air, neu weithred, neu ar bob vn, yn pentyrru pechod a damnedigaeth ar ei war∣tha ei hun; am yr hyn y mae dialedd yn ddyledus, a chynnydd poenau yn vffern. Felly y mae pob vn yn wrthwÿneb eu helynt iw gilydd, yn treulio eu hoes tros vgain neu ddêg ar hugain neu ddeugain o flynyddoedd, ac felly o'r diwedd yn marw. Ac onid yw resymol, gan fod cymmaint o ragor rhwng helynt buchedd pob vn o'r ddau, fod cymmaint rha∣gor hefyd, neu fwy, rhwng tâl a gwobr pob vn o'r ddau? Yn enwedig gan fod Duw yn Dduw mawr, ac yn arfer o dalu gwobr mawr am bethau bychain, naill ai o gogoniant tragywyddol, a'i o boenau tragywyddol. Yn drydydd ac yn ddiwe∣ddaf y gall y Christion dyfal gofalus gasglu o'r hyn a ddywetpwyd, faint yw'r achos iddo i wneuthur cyngor S. Paul, hynny yw, bod i bob dyn brofi a holi ei waith ei hun; ac felly bod yn abl i farnu am dano ei hun, ym mha gyflwr y mae yn sefyll, Gal. 6.4, ac os wrth ei holi ei hun y caiff weled nad yw ar yr iawn, yna bod iddo ddiolch i Dduw am wneu∣thur iddo cymmaint o gymmwynas a datcuddio iddo ei berygl, tra fo iddo amser a chyfle i wellhau ei fu∣chedd.

Page 32

Diammau fod llawer yn myned i golledi∣gaeth beunydd trwy gyfiawnder Duw yn eu hanfad anwybodaeth eu hun, y rhai pe buasent heb gael ond hyn o ffafor, sef cael gweled y pwll cyn iddynt fyrthio ynddo, fe allei y gallesynt ei ochel. Arfer ditheu (fy anwyl frawd) drugaredd Duw er llês i ti dy hun, ac nid i chwanegu ar dy ddamnedigaeth. Os ti a ganfyddi, wrth dy holi dy hun fel hyn, na buost ti fyw hyd yn hyn mewn buchedd wir Gristi∣anogawl, dod gwbl o'th fryd ar ddechreu bellach, ac na fwrw ymaith mo'th enaid gwerthfawr, yr hwn a brynodd Christ mor ddrûd; ac y mae efe yn ba∣rod iawn i'w gadw, ac i'w gynnysgaeddu â grâs ac â gogoniant tragywyddol, pe dydi a'i rhoit ar ei law ef, a bod yn fodlon i vniawni dy fuchedd wrth ei sancteiddiaf, a'i esmwyth, a'i felys ber orchym∣mynion ef.

Notes

Do you have questions about this content? Need to report a problem? Please contact us.