Llyfr y resolusion yr hwnsydd yn dysgv ini bawb : wneuther ein goreu a rhoi cwbl o'n Gristianogion hynny ydyw'ar ymadael a'n drwy fuchedd, a throi at ddaioni a duwioleb / wedi ei gyfiethu yn Gy mraeg gan y Dr. I.D. ...

About this Item

Title
Llyfr y resolusion yr hwnsydd yn dysgv ini bawb : wneuther ein goreu a rhoi cwbl o'n Gristianogion hynny ydyw'ar ymadael a'n drwy fuchedd, a throi at ddaioni a duwioleb / wedi ei gyfiethu yn Gy mraeg gan y Dr. I.D. ...
Author
Bunny, Edmund, 1540-1619.
Publication
yn Llundain :: gan I.R.,
1684.
Rights/Permissions

This keyboarded and encoded edition of the work described above is co-owned by the institutions providing financial support to the Early English Books Online Text Creation Partnership. Searching, reading, printing, or downloading EEBO-TCP texts is reserved for the authorized users of these project partner institutions. Permission must be granted for subsequent distribution, in print or electronically, of this text, in whole or in part. Please contact project staff at eebotcp-info@umich.edu for further information or permissions.

Subject terms
Christian life.
Link to this Item
http://name.umdl.umich.edu/A30113.0001.001
Cite this Item
"Llyfr y resolusion yr hwnsydd yn dysgv ini bawb : wneuther ein goreu a rhoi cwbl o'n Gristianogion hynny ydyw'ar ymadael a'n drwy fuchedd, a throi at ddaioni a duwioleb / wedi ei gyfiethu yn Gy mraeg gan y Dr. I.D. ..." In the digital collection Early English Books Online 2. https://name.umdl.umich.edu/A30113.0001.001. University of Michigan Library Digital Collections. Accessed June 13, 2024.

Pages

PEN. III. Er mwyn pa achos a diwedd y crewyd dyn ac y gosodwyd ef yn y byd hwn.

WEithian gan hynny yn Enw 'r Hollalluog Dduw, a thrwy gymmorth ei lân yspryd ef, ystyried pob Christion o ddyn ac sydd yn chwennych iechydwriaeth enaid a chorph, yn ddwys ac yn ddifrif, yn gyntaf dim, megis y gwna marsiandwr pan êl tros for i wlad ddieithr, neu me∣gis y gwna capten a ddanfono ei dywysog ar ryw negesau o bwys, pan ddêl i'r lle a appwyntiwyd iddo: hynny ydyw, meddwl am ba achos y daeth yno, paham y danfonwyd ef yno, ac i ba beth, i amcanu pa beth, i wneuthur pa beth, ac i gyflaw∣ni pa beth, a pha beth a ddisgwyl ac a ofyn yr hwn a'i danfonodd ef yno ar ei law ef pan ddêl adref. Oblegid diammau y gwna ystyried y pethau hynny iddo fod yn ofalus am edrych am y pethau y danfon∣wyd ef o'i plegid, ac nid ymofalu am bethau ni pherthyn iddo. Y cyffelyb bethau a fynnwn i Gristi∣on eu hystyried, ac ymofyn ag ef ei hun, pa ham ac er mwyn pa achos a diwedd y creodd Duw ef, ac a'i danfonodd ymma i'r byd hwn? i wneuthur pa beth? i dreulio ei oes mewn pa beth? ac fe gaiff

Page 15

weled nad i ddim arall, ond yn vnig i wasanaethu Duw yn y bywyd hwn. Tan yr ammod hwnnw y crewyd ni, ac er mwyn hynny yn vnig i'n pryn∣wyd ni, fel y prophwydodd Zacharias o'r blaen, fel y byddei i ni wedi ein gwared oddiwrth ddwylo ein gelynion, ei wasanaethu ef mewn sancteiddrwydd a chyfiawnder holl ddyddiau ein heinioes. Luc. 1.74.

2, O hyn y canlyn yn gyntaf, gan mai gwasana∣ethu Duw yn y bywyd hwn, yw'r achos a'r di∣wedd y rhoed ni yn y byd o'i blegid; wrth hynny beth bynnag a wnelom, neu a amcanom, neu y treu∣liom ein hamser arno, ar a fo na gwrthwyneb nac am∣mherthynol i'r achos a'r diwedd hwnnw, sef gwasa∣naethu Duw yn vnig, pe rhon i ni allu wrth hynny ynnill holl deyrnasoedd y byd; etto nid yw ond llw∣yr waggedd ac oferedd, a ffoledd, a gwaith ofer; a pheth a wna i ni ryw ddydd ofidio, ac edifarhau, a chywilyddio o'i blegid, o herwydd nad hynny yw'r peth y daethom ni i'r byd o'i achos, na'r peth y go∣fynnir i ni gyfrif am dano yn y dydd diweddaf, oddieithr i gael ein barnu am dano.

3. Yn ail y canlyn, os gwasanaethu Duw ydyw'r vnig achos a'r neges y daethom ni i'r byd o'i blegid, a bod pob creadur daiar ol arall wedi ei roi yn y byd i'n gwasanaethu ni, fel y byddei i ninnau wasanaethu Duw: ni a ddylem ninnau na ddymunem o'r creadu∣riaid eraill, nac o gyfoeth nac o dlodi, nac o iechyd nac o glefyd, nac o barch nac o ammharch, na mwy na llai, nac a fo da ar ein lles ni tu ag at wasanaethu Duw; oblegid pwy bynnag a geisio ychwaneg o'r creaduriaid hynny nag a wasanaetho i'r perwyl hyn∣ny, y mae efe yn cilio oddiwrth yr achos a'r diwedd y daeth i'r byd o'i blegid.

4. Wrth hyn y gall Christion gofalus gael peth cydnabyddiaeth am ei gyflwr gydâ Duw, a bwrw amcan pa vn a wna ai bod ar y ffordd vnion ai na

Page 16

byddo. Oblegid os edrych ef yn vnig neu yn ben∣naf dim at y pennod y daeth efe ir byd yma er'e fwyn, hynny ydyw gwsanaethu Duw; os bydd e ofalon ef a'i feddyliau, a'i amcanion, a'i lafur, a'i ymddiddanion, yn rhedeg yn vnig ar y peth hyn; ac nabo matter ganddo am greaduriaid eraill, megis anrhydedd, cyfoeth, dysg, a'r cyffelyb; ond hyd y bônt yn anghenrhaid iddo i'r perwyl hynny; os efe a dreulia ei ddyddiau a'i fywyd (meddaf) mewn astudrwydd ar wasanaethu Duw, yna diammeu ei fod yn ddyn o'r happusaf ac o'r dedwyddaf, ac y daw efe yn y diwedd i deyrnas Dduw.

5. Ond os gwyl efe ei fod mewn cyflwr gwrthw∣yneb i hynny, ai fod heb edrych am y peth y dan∣fonwyd efe ymma o'i blegid, na bod ei galon a'i fe∣ddwl ar wasanaethu Duw, ond yn hyttrach ar orwa∣gedd y byd, megis goruchafiaeth, golud, digrifwch, dillad gwychion, tegwch pryd, adeiladau teg, neu ryw beth arall ni pherthyn ir perwyl hwnnw: os efe a dreulia ei amser (meddaf) ynghylch y coegbethau hynny, a bod ei ofalon, a'i feddyliau, a'i ymddi∣ddanion, a'i ddifyrwch, yn fwy yn y pethau hyn, nag ynghylch y neges mawr arall y danfonwyd ef yma o'i achos, yna y mae mewn helynt enbyd, yr hon a dywys yn vnion i golledigaeth, os efe ni ne∣widia ei helynt. Oblegid diammeu ydyw, am bwy bynnag nid edrycho am y gwasanaeth y danfonwyd ef i'w wneuthur, na chaiff efe byth mor tâl a'r gwobr sydd wedi ei addo am y gwasanaeth hwn∣nw.

6. Ac o herwydd bod y rhan fwyaf o'r byd, nid yn vnig o'r rhai digréd, ond hefyd o'r Christiano∣gion, allan o'i lle yn y pwngc yma, ac heb edrych am y peth y crewyd hwy er ei fwyn, ac y danfon∣wyd hwy yma oi achos: am hynny y mae Christ a'i dduwiol Sain yn crybwyll mor dost am y nifer

Page 17

bychan sydd mewn cyflwr iechydwriaeth, ie ym myse Christianogion, ac o herwydd hynny, y trae∣thasant amryw ymadroddion y rhai y mae cig a gwaed yn tybied eu bod yn galed, ac mai digon prin y maent yn wir, er bod yn ddir y cyflawnir hwynt, megis hyn, Haws yw i gamel fyned trwy grau'r nodwydd ddur, nac i wr goludog fyned i mewn i deyr∣nas Dduw, Luc. 13.24. Mat. 19.24. Y rheswn o'r ymadrodd hwnnw, a'i gyffelyb, yw hyn, Na's gall y gwr goludog sydd yn edrych am bentyrru go∣lud, roi ei fryd a'i fedd•••• ar y peth y daeth efe i'r byd o'i blegid, ac am hynny nas dichon byth fyned i deyrnas nef, oddieithr i Dduw wneuthur gwyrthiau, ac felly peri iddo ddiystyru ei olud, a'i arfer yn vnig at wasanaeth Duw. Ac y mae Duw weithiau yn gwneuthur y fath wyrthiau, fel y mae ini esampl anaml ei chyffelyb, yn yr Efengyl, am Zacheus, yr hwn er ei fod yn wr goludog iawn, yn y man pan ddaeth Christ i'w dy ef, ie yn enwedig i'w galon ef trwy flydd, a roes hanner ei dda i'r tlodion, ac os gwnaethai gam â neb drwy drawsder, y mae 'n addo ei dalu adref ar ei bedwerydd. Luc. 19.

7. Ond wrth hyn y gellir gweled gofidus gyflwr llawer mil o Gristianogion yn y byd, y rhai sy cyn belled oddiwrth dreulio eu holl amser a'i llafur yng∣wasanaeth Duw, ac nad ydynt hwy agos vn amser yn meddwl am dano, ac os ydynt, nid yw hynny ond diofal iawn ac yscafala. O Dduw pa sawl mil o wyr a gwragedd sydd yn y byd yn dwyn enw Christianogion, heb dreulio vn awr o'r pedeir ar hugain yngwasanaeth Duw: pasawl mil sy'n blino eu meddyliau ynghylch negeseuau bydol, a lleied sy'n cymmeryd gofal am wasanaethu Duw? Pa nifer sydd yn cael ac yn cym∣meryd ennyd ac amser i fwyta, ac i yfed, ac i gysgu, ac i wneuthur yn llawen, ac i'w trwsio eu hunain ac i'w paentio yngolwg y byd, ac etto heb gael dim

Page 18

amser i'w dreulio ar y peth mwyaf a rheitiaf, sef gwasanaethu Duw? Pa nifer fydd yn treulio 'r dydd o'r pen bwygilydd, ac wythnosau, a misoedd, a blynyddoedd, yn hebocca, ac yn hela, ac mewn di∣fyrrwch arall, heb wneuthur dim cyfrif o wasana∣ethu Duw? Beth a ddaw o'r bobl hynny? Pa beth a ddywedant hwy ddydd farn? pa escus a gânt hwy?

8. Pettai wâs i farsiandwr, wedi iddo dreulio llawer o flynyddoedd o'r tu hwnt i'r môr, pan dde∣lei adref yn rhoi cyfrif i'w feistr ddarfod iddo dreu∣lio hyn a hyn o amser yn canu, a hyn a hyn yn dawn∣sio, a hyn a hyn mewn maswedd, a'r cyffelyb; pwy ni chwarddai am ben ei gyfrif efe? Ond os gofynnei ei feistriddo ym mhellach pa faint o amser a dreuliasai ynghylch ei farsiandiaeth ynteu a'i nege∣sau; ac atteb o'r gwas na threuliasai ddim, ac na feddyliodd efe vnwaith nac am danynt hwy, nac am dano ynteu, pwy ni thybygai fod y cyfryw wâs yn haeddu pob math ar gospedigaeth a chywilydd? Ac yn siccr mwy fydd eu cywilydd a'i gwaradwydd hwy ddydd farn, y rhai a osodwyd yma ar neges cymmaint ac yw gwasanaethu Duw, a hwythau er hynny yn ei esgeuluso, ac yn rhoi cwbl o'i hastudrw∣ydd, a'i poen, a'i meddyliau ar goegbethau ofer y byd hwn: yr hyn sydd cyn belled oddiwrth yr hyn a ddylent hwy ei wneuthur, a phettei wyr a fai we∣di eu gosod i redeg gyrfa am gamp o werth anfei∣drol, yn troi oddiwrth y nôd, a rhai yn mynd tros y ffordd ar ôl gwybed, neu yscafnblu yn y gwynt; a rhai eraill yn sefyll ar y ffordd ac yn casclu tom yddaiar. A pha fodd, meddwch chwi, yr haeddai y rhai hynny dderbyn cymmaint gwobr ac a amca∣nesid i roi iddynt?

9. Am hynny, anwyl Gristion, od wyti synhwy∣ol, ystyria dy gyflwr tra caffech amser, Gal. 6.3, 4.

Page 19

canlyn gyngyr yr Apostol, hola dy weithredoedd, a'th ffyrdd, ac na thwylla ddim honot dy hun. Ti a elli etto gael grâs i wellhau dy fuchedd, am fod goleu dydd y bywyd hwn etto yn parhau: fe ddaw erchyll nôs yr angeu i'th oddiwes di ar fyrr, ac yno ni bydd mwy amser i wellhau. Pa les a wna dy holl boen a'th drafferth a gymmeraist i geisio cyfoeth y byd, i ti yn yr awr honno? a pha ddiddanwch a gei di oddiwrtho, pan ddywetter wrthyt ti fel y dywedodd Christ wrth vn o'th gyffelyb di yn yr Efengyl, pan oedd wedi dyfod i vchder a brigyn ei hapusrwydd, O ynfyd, y nôs hon y dygir dy enaid o ddiarnat, ac yno eiddo pwy fydd y pethau a barottoa∣istti, ac a gesglaist ynghyd? Luc. 12.20. Cred fi, fy mrawd anwyl, oblegid ni ddywedaf i ti ddim an∣wir, Mwy o gyssur a diddanwch a gai di yr amser hwnnw oddiwrth vn awr a dreuliaist ti yngwasanae∣thu Duw, nag oddiwrth ganmhlynedd a dreuliaist yn ceisio goruchafiaeth i ti dy hun ac i'th dŷ yn y byd hwn. A phe gellit ti yr awron wybod oddiwrth y blin gyflwr y bydd dy enaid truan di ynddo 'r amser hwnnw, am esceuluso yr vnpeth hwn a ddylesit ti fwyaf feddwl am dano; ti a hepcorit beth o'th am∣ser cysgu, a pheth o'th amser bwytta, i wneuthur iawn am esgeulusdra 'r amser a aeth heibio. Y rha∣gor sy rhwng y doeth a'r ynfyd yw hyn, bod y na∣ill yn ymbarottoi yn erbyn drwg cyn ei ddyfod, a'r llall pan fo rhyhwyr.

10 Dyro dy fryd gan hynny, Gristion daionus, tra caffech amser: dyro dy fryd yn ddioed ar fynd ynghylch y gorchwyl mawr i'th anfonwyd ymma o'i blegid; hwnnw yn vnig sydd orchwyl o bwys, a gorchwyl anhepcor; ac nid yw gorchwylion eraill ond gwagbethau coegion ac oferedd, ond hyd y ma∣ent yn perthyn i'r gorchwyl hwnnw. Na choelia mo'r byd, yr hwn y mae dy lachawdur Christ yn

Page 20

ei ffieiddio am gyfeiliorni yn y pwngc ymma, ac y mae ei Apostol Ioan yn cyhoeddi ei fod yn elyn i Dduw, Io. 7.7. 1 Joh. 2. Dywed o'r diwedd wrth dy Iachawdr, Yr wyf yn cyfaddef wrthyt ti, ô Ar∣glwydd, yr wyf yn cyfaddef, ac ni's gallaf wadu, nad ymofelais i etto am y peth i'm gwnaethost o'i blegid, ac i'm prynaist o'i achos, ac i'm rhoddaist yma o'i her∣wydd: yr wyf yn gweled fy amryfusedd, ni allaf gelu fy anfad fai, ac yr wyf yn diolch i ti ddeng mil o weithiau, roi o honot i mi'r gras i weled hynny, tra gallwyf trwy nerth dy râs di ei wellhau; yr hyn trwy dy sanctaidd râs sydd yn fy mryd ei wneuthur, a ne∣widio fy muchedd allan o law; ac yr wyf yn attolwg ar dy dduwiol fawredd, megis y rhoddaist i mi hyn o oleuni a deall i weled fy mherygl, ac y-cynnhyrfaist fy nghalon i roi fy mryd ar wellhau; felly cadw a chynnal dy gymmorth bendigedig tu ag attaf, fel y gallwyf gyflawni yr hyn yr wyf yn ei amcanu, i'th an∣rhydedd di ac iechdwyriaeth fy enaid, Amen.

Do you have questions about this content? Need to report a problem? Please contact us.