Page 350
DOSPARTHIAD. XVI.
Dosparthau eraill o'n Dledswydd tu ac ein Cymydog. Am Gariad i Eneidiau dy∣nion, i'w Cyrph, i'w Golud, a'i Henwau da hwynt.
1. YR Ail Dosparth o'n Dléd tu ac at ein Cymydogion yw Cariad. Hon yw'r Ddledswydd Efenylaidd fawr honno a orchymynnir i ni cyn fynyched gan Grist; y Gorchymyn Newydd, fal y mae efe ei hún yn ei alw ef, Jo. 13.34. ar fód i chwi garu ei gilydd, a hyn a adroddir drachefn ddwy∣waith yn yr unrhyw bennod, séf Jo. 15.12, 17. Ac Epistol cyntaf St. Joan a dreulir agos yn hollawl mewn annogaeth i'r ûn Ddled∣swydd hon, trwy hyn óll y gwelwn ni nad péth gwael yw hwn, ond péth a orchymynnir yn gaeth iawn ar bawb sy'n proffessu Crist. Yn wîr fe roddes ef ei hûn hyn allan megys nôd ac arwydd ei Ddiscyblion ef, Jo. 13.35. Wrth hyn yr adnebydd pawb eich bód yn Ddiscy∣blion i mi, os bydd Cariad rhwng pawb o honoch ai gilydd.
2. Fe ellir ystyried y Cariad hwn ddwy ffordd; yn gyntaf, mewn tuedd meddwl; yn ail, mewn Gweithredoedd. Cariad mewn Tuedd meddwl yw mwyneidd-dra diffuant, yr hon a'n cymmhwysa ni i ewyllysio pôb rhyw