Holl ddled-swydd dyn gwedi ei osod ar lawr, mewn ffordd hynod ac eglur, desnyddiol i bawb, ond yn enwedig i'r darllenydd mwyaf annyscedig : gwedi ei ddosparthu i XVII. o bennodau : y rhai, trwy ddarllen un o honynt boáb dydd yr Arglwydd, a ddarllenir i gyd trostynt deirgwaith yn y flwyddyn : angenrheidiol i boáb teuluoedd : ynghyd a Dwywolder neillduol ar amryw achosion / a gyfiaithwyd yn Gymro-aeg gan Jo. Langford ...

About this Item

Title
Holl ddled-swydd dyn gwedi ei osod ar lawr, mewn ffordd hynod ac eglur, desnyddiol i bawb, ond yn enwedig i'r darllenydd mwyaf annyscedig : gwedi ei ddosparthu i XVII. o bennodau : y rhai, trwy ddarllen un o honynt boáb dydd yr Arglwydd, a ddarllenir i gyd trostynt deirgwaith yn y flwyddyn : angenrheidiol i boáb teuluoedd : ynghyd a Dwywolder neillduol ar amryw achosion / a gyfiaithwyd yn Gymro-aeg gan Jo. Langford ...
Author
Allestree, Richard, 1619-1681.
Publication
London :: Printed for R. Royston ...,
1672.
Rights/Permissions

This keyboarded and encoded edition of the work described above is co-owned by the institutions providing financial support to the Early English Books Online Text Creation Partnership. Searching, reading, printing, or downloading EEBO-TCP texts is reserved for the authorized users of these project partner institutions. Permission must be granted for subsequent distribution, in print or electronically, of this text, in whole or in part. Please contact project staff at eebotcp-info@umich.edu for further information or permissions.

Subject terms
Christian life.
Devotional exercises.
Cite this Item
"Holl ddled-swydd dyn gwedi ei osod ar lawr, mewn ffordd hynod ac eglur, desnyddiol i bawb, ond yn enwedig i'r darllenydd mwyaf annyscedig : gwedi ei ddosparthu i XVII. o bennodau : y rhai, trwy ddarllen un o honynt boáb dydd yr Arglwydd, a ddarllenir i gyd trostynt deirgwaith yn y flwyddyn : angenrheidiol i boáb teuluoedd : ynghyd a Dwywolder neillduol ar amryw achosion / a gyfiaithwyd yn Gymro-aeg gan Jo. Langford ..." In the digital collection Early English Books Online 2. https://name.umdl.umich.edu/A23743.0001.001. University of Michigan Library Digital Collections. Accessed May 19, 2024.

Pages

Page 324

DOSPARTHIAD, XV.

Am Ddledswyd tu at ein Brodyr a'n Cyfneseifiaid, Gwr, Gwraig, Ceraint, meistred, Gweision.

§. 1. YR ail fath o Garennydd yw Brawd; y mae Brawdgarwch o ddau fáth, naill a'i anianol neu Ysprydol; fe ddichon yr anianol yn ei ystyriaeth helaethaf gynnwys tano holl ddynol ryw, ar sydd yn gyfrannog o'r unrhyw natur; ond nid felly y cymmera 'i fo ym∣ma gan ddarfod i mi yn barod osod ar lawr y Dledswyddau cyffredinol, a berthyn i bawb yn yr ystyriaeth honno. Yr wyfi'r awr∣hon yn traethu am y Brawdgarwch naturiol hwnnw sydd rhwng Plant y rûn Rhieni; a Dledswydd y rhain yw bód ganddynt ûn ga∣lon, ac un meddwl: hyn y mae natur yn ei ddangos iddynt, gan ei bôd nhw yn gyfranno∣gion mewn môdd mwy arbennig o sylwedd ei gilydd, ac am hynny fe ddyle fôd ganddynt yr addfwynder a'r caredigrwydd mwyaf y naill tu ac at y llall; fal hyn y gwelwn ni Abraham yn ymresymmu, na ddyle bód ym∣ryssn rhyngddo ef a Lot oblegid brodyr oeddynt, Gen. 13.8. Ac er nad ydys yno yn medd wl wrth frodyr ond yn unic cefnderoedd, etto y mae hyn yn cadarnhau 'r péth yn well, sef y

Page 325

dyle 'r Carennydd nés ymma fôd yn achos o fwy rhwystr i ymrysson, ac hefyd fôd i'r care∣digrwydd hwn gyrrhaeddid mewn rhyw fesur at bôb Carennydd o waed i ni.

2. Fe ddyle 'r addfwynder a'r Cariad hwn rhwng Brodyr a Chwiorydd fôd gwedi ei sylfaenu yn disigl yn ei Calonnau hwynt, o∣nid-é fe fyddant hwy yn anad nêb; eraill mewn perigl o amrafaelio; oblegid fe fydd yr ymarweddiad gwastadol sydd rhyngddynt tra 'i bònt gartref yn nhŷ ei Tâd yn debyg i roi rhyw achos o ymrysson. Heblaw hyn y mae ei gogystadledd nhw, oblegid ei gwla∣doliaeth, yn gwneuthur iddynt yn fynych due∣ddu i genfigennu ei gilydd, pan dderchefir y naill mewn môdd yn y bŷd uwch law 'r llall. Fal hyn y gwelwn ni frodyr Joseph yn ei genfigennu ef, am fôd ei Dâd yn ei garu ef yn fwyaf, a Rachel oedd yn cenfigennu ei chwaer Leah am ei bód hi yn ffrwythlon; am hynny er mwyn gochelyd y cyfryw brofedi∣gaethau, bydded gan y rhai, sydd ganddynt frodyr a Chwiorydd, wír a difrifol gariad iddynt gwedi ei sefydlu yn ei meddyliau, gan edrych arnynt megys rhan o honynt ei hunain, ac yna ni thybian nhw byth yn gymwys gwerylu a hwynt, na chenfigennu iddynt ei llywyddiant, mwy nag y cenfigenna ûn rhan o'r Corph lwyddiant y llall, ond a ymeg∣niant i gynnorthwyo ac i osod ymlaen ddaio∣ni ei gilydd.

Page 326

3. Yr ail fáth o frawd-garwch yw 'r Yspry∣dol; mae hwn yn cynnwys y rhai ôll sydd yn proffessu 'r ûn ffŷdd a nyni: Y mae 'r Egl∣wys yn ein Bedydd yn dyfod i fôd yn fam i bôb ûn a fedyddir; ac yna yn ddiammeu y rhai sydd yn Blant iddi hi, sydd hefyd yn frodyr y naill i'r llall; ac y mae 'n ddyle∣dus arnon ni i'r fáth ymma o frodyr hefyd lawer iawn o dynnerwch a chariad; fe ddyle Rhwymyn yfprydol Crefydd, yn anad yr ûn arall, ûno ein Calonnau ni fwyaf. Dymma 'r brawdoliaeth y mae St. Petr yn ein cyng∣hori ni i'w garu; 1 Pet. 2.17. Ac i hwn yr ydyn ni yn rhwymedig mewn môdd enwedi∣gol i wneuthur pób twrn da ar a allon ni; Gwnawn dda medd yr Apostol, i bób dyn ond yn enwedîg i'r rhai sy o deulu 'r ffydd; Gal. 6.10. Rhaid i'n hymysgaroedd ni fôd yn dynne∣rach tu ac attynt hwy yn ei hóll angenrhei∣diau na thu ac at néb arall; y mae Crist yn dywedyd i ni, Pwy bynnag a roddo ond phioled o ddwfr oer i un yn enw Discybl, ni chyll efe ei wobr, Mat. 10.42. O ba le ni a allwn ein siccrhau ein hunain fôd y Cariad neillduol hwn i Gristianogion, megis i Gristianogion, yn gymmeradwy iawn yn ei olwg ef.

4. Fe ofynnir gennim ni amryw Ddled∣swyddau tu ac at y Brodyr hyn, un arbennig yw cadw cyfundeb a hwynt, a hynny yn gyn∣taf mewn Athrawiaeth; rhaid i ni barhau 'n ddibaid i gredu a phroffessu 'r holl wirionedd angenrdeidiol hynny, trwy ba rai y gellir ein nodi ni allan megys dilyn-wŷr a Discyblion i

Page 327

Grist; dymma 'r ffydd y mae St Judas yn són am dani, yr hon a rodded unwaith i'r Sainct, Jud. 3. trwy gadw pa ûn yr ydyn ni oblegid ein proffes, yn parhau 'n wastad mewn un∣deb a'r brawdoliaeth ysprydol hwn, yr hyn sydd raid i ni yn ddibaid wneuthur, er maint o demhestloedd ac o erledigaethau a fo 'n calyn, yn ôl cyngor yr Apostol, Heb. 10.23. Cadwn gyffes ein gobaith yn ddisigl. Yn ail, rhaid i ni hefyd ar bôb odfa gyfrannogi a hwynt mewn pôb swyddau sanctaidd; rhaid i ni fy∣nych-gyrchu yn ddiwyd gymmanfáu 'r seincti∣au, yr hyn yw megys arwydd hynod ein Proffes ni, ac am hynny y mae pwy byn∣nag a ymgeidw oddiwrthynt yn ewyllysgar, yn rhoi achos i ammeu ei fod ef yn barod i ymwrthod a'r llall hefyd. Ond ni a welwn fôd y Grstianogion cyntaf yn cadw yn fanwl y rhan ymma o gyfundeb, Act. 2.42. Yr oeddynt yn parhau yn Athrawiaeth yr Apostolion, a chymdeithas, ac yn torri bara, ac mewn Gwe∣ddiau: yr oeddynt yn parhau, a hynny yn ddiyscog, ni chythruddwyd monynt oddi∣wrth hynny trwy nebrhyw erledigaeth, er ei bód yn yr amseroedd hynny yn cael ei Prc∣fi a'r Penydiau tostaf; yr hyn a dichon ein dys∣cu ni, nad all yr enbydrwydd sydd yn dilyn y ddledswydd hon ein rhyddhau ni oddiwrthi hi

5. Yn ail, Rhaid i ni gyd-ddwyn a Gwen∣did ein Brodyr Cristianogawl, yn ôl cyngor St. Paul, Nyni y rhai cedyrn a ddylem ddwyn gwendid yr anghedyrn, Rhuf. 15.1. Os dy∣chwel i ûn sydd yn dal holl angenrheidiol

Page 328

wirionedd Gristianogawl, mewn rhyw béth gy∣feiliorni, ni wasanaetha i ni am hynny ym∣wrthod a'i gysundeb ef, na dirmygu ei berson ef. Hyn y mae St. Paul yn ei ddyscu i ni yn∣ghyflwr y brawd gwann hwnnw yr hwn trwy dmryfusedd oedd yn petruso yn ddiachos ynghylch bwydydd Rhuf. 14. lle y mae fo'n gorchymyn i'r Cristianogion cedyrn, hynny yw, y rhai trwy gael ei haddyscu yn well, oeddynt yn dirnad ei fôd ef yn cam-synniad, etto i'w dderbyn ef er hynny i gŷd, ac nid ei ddirmygu ef; fal o'r tu arall, y mae fo'n gorchymyn i'r gwann na farno fo'r hwn sydd yn gadarnach; rhaid yw cyd-ddwyn o'r ddeutu a'r amryfuseddau lleiaf mewn tŷb, a gochelyd gadael iddynt leihau ein Cariad brawdol ni y naill tu ac at y llall.

6. Yn drydydd, rhaid i ni ymegnío i adferu pôb brawd a gwympodd, hynny yw, ei ddwyn ef i edifeirwch, gwedi iddo gwympo i ryw be∣chod. Fal hyn y mae St. Paul yn gorchymyn i'r Galatiaid adferu 'r hwn a ddalwyd ar ryw fai, gan ystyried rhag ei temtio hwythau hefyd. Na edrychwn arno ef megys adyn, neu ún gwedi ei lwyr fwrw heibio, ac na ymorfo∣leddwn ychwaith trosto ef, oblegid ein dini∣weidrwydd ein hunain, fal y Pharisaead balch tros y Pwblican truan, Luc. 18.11. ymegníwn i edfrydu ef trwy fwyneidd-dra, gan gofio fód ein breuolder ninnau yn gyfryw nad ydyn ni yn ddiogel oddiwrth y cyfryw feiau.

7. Yn Bedwerydd, rhaid ini gyd-oddef a'n Brodyr hyn, trwy fod yn wîr deimladwy o béth bynnag a ddychwelo iddynt, naill a'i fel

Page 329

yr ystyrir hwynt mewn cyfeillach, ac felly y maent yn gwneuthur i fynu Eglwys; a honno naill ai'r gyffredinol, yr hon a wneir i fynu o'r holl ffyddloniaid yn y bŷd, neu ynteu ryw Eglwys neillduol, yr hon a wneir i fynu o'r holl ffyddloniaid yn y genhedl neillduol honno; a pha béth bynnag a ddychwelo i'rún o'r rhain, naill ai'r holl Eglwys yn gyffredinol, neu ún cyfryw ran neillduol o honi hi, yn enwedig honno o ba ún yr ydyn ni ein hunain yn aelodau, rhaid i ni fód yn wir deimladwy o honaw, llawenychu yn ei holl lwyddiant hi, a galaru ac a ymofidio am ei holl ddifrawd a'i rhwygiadau hi, a gweddío beunydd ac yn ddi∣frifol gydá Dafydd, Psal. 51.18. Bydd dda wrth Sion o herwydd dy ewyllyfgarwch, adeiliada di furiau Jerusalem; a hynny yn enwedig pan we∣lon ni hi mewn helbul ac erledigaeth. Pwy bynnag nid yw fal hyn yn deimladwy o gy∣flwr yr Eglwys nid ellir edrych arno megys aelod bywiol o honi hi; canys megys yn y Corph anianol, y mae pób aelod yn deim∣ladwy o lwyddiant y cyfan, felly yn ddiammeu y mae ymma; Ystyriaeth y Psalmydd oedd, fód gweision Duw yn hffi meini Sion, ac yn to∣sturio wrth ei gweled hi yn y llwch, Psal. 102.14. Ac yn ddiammeu y mae ei hôll weision ef etto o'r ún meddwl, ni allant edrych ar ddi∣nistr a difrawd yr Eglwys, heb y gofid a'r ga∣lar mwyaf. Yn ail rhaid ini gyd-oddef gyda'n Brodyr, wrth ei hystyried nhw, megys dynion neillduol; Rhaid ini ein cyfrif ein hunain me∣gys a pherthynas ini ymmhób rhyw neillduol Gristion, yn gymmaint ac i gyfrannu gydág ef yn ei holl achosion naill ai o lawenydd neu o

Page 330

dristwch. Fal hyn y mae'r Apostol yn cyn∣ghori, Rhuf. 12.15. Byddwch lawen gyda'r llawen, ac wylwch gyda'r wylofus: a thrachefn, 1 Cor. 12.26. tan gyffelybrwydd y Corph na∣turiol y mae fo'n gosod ar lawr y Ddled∣swydd hon, os dioddefa ún aelod, yr holl aelodau a gyd-ddioddefant, neu os anrhydeddir ún aelod, yr holl aelodau a gyd-lawenhânt. Yr holl amryw effeíthiau hyn o gariad sydd yn ddledus arnon ni i'r brodyr Ysprydol hyn. A dymma'r Ca∣riad hwnnw y mae Crist yn ei wneuthur yn arwydd hynod o'i Ddiscyblion ef, Jo. 13.35. Wrth hyn yr adnebydd pawb eich bód yn Ddi∣scyblion i mi, os bydd Cariad rhwng pawb o ho∣noch a'i gilydd; felly onid oes yn ein brŷd ni fwrw heibio bód yn Ddiscyblion i Grist, na es∣geuluswn y Cariad ymma tu ac at ein Bro∣dyr.

8. Y Trydydd Perthynasrwydd ydyw hwnnw rhwng Gwr a Gwraig: y mae hwn yn nês o llawer na'r ún o'r lleill, fal y mae'n eglur trwy'r Testyn hwnnw, Eph. 5.31. Dyn a ymedu a'i Dâd ac a'i Fam, ac a lyn wrth ei wraig, ac hwynt hwy a fyddant ill dau yn un cnawd. Y mae amryw Ddledswyddau yn ddledus ar bób ún o'r ddau hyn i'w gilydd: ac yn gyntaf am y Wraig y mae'n ddledus arni hi Ʋfydd-dod. Hyn a orchymynnir gan yr Apostol, Col. 3.18. Y Gwragedd byddwch ostyngedig i'ch gwyr priod, megys y mae yn weddaidd yn yr Arglwydd. Rhaid iddynt roddi Ufydd-dod i'w Gwŷr priod yn yr Arglwydd; hynny yw, mewn pób Gor∣chymynion cyfreithlon, oblegid onid-ë, rhaid yw ymma (megys y traethwyd o'r blaen am

Page 331

Swyddogion) ufyddhau Duw yn hyttrach na dŷn, ac ni raid i'r Wraig wneuthur ar archiad ei Gŵr ddim ar y mae Duw yn ei wahardd. Ond mewn pób péth nad yw yn gwrthwynebu Gorchymyn Duw, y mae'r gorchymyn ymma mewn grym, ac a wasanaetha i euogfarnu ystyf∣nigrwydd difiog llawer gwragedd, y rhai a wrthwynebant Orchymynion cyfreithlon ei Gwŷr, yn unic oblegid ei bód nhw yn annod∣defus o'r Ddledswydd hon o ddarostyngeid∣drwydd, yr hyn y mae Duw ei hún yn ei ofyn ganddynt. Ond fe ellir gofyn ymma, béth os gorchymyn y gŵr ryw béth, yr hwn, er nad yw yn anghyfreithlon, etto sydd yn anwed∣daidd iawn, ac yn ammhwyllog, a raid i'r Wraig ymddarostwng i'r cyfryw Orchymyn? I hyn mi a attebaf, nad anufydd-dod a fydd ynthi hi, ond Dledswydd, ddangos iddo ef yn llaryaidd ac yn dawel anghymmwysdra 'r péth, a'i annog ef trwy dêg i alw yn ól y gorchymyn hwnnw; ond os hi ni ddichon ei ennill ef i hynny trwy erfynion têg, ni wasanaetha iddi hi brofi araith arw, nag etto yn hollawl wrthod Ufyddhau, gan nad oes dim ond anghyfreith∣lonrwydd y gorchymyn a ddichon fod yn ddi∣gonol warant iddi hi am hynny.

9. Yn ail, y mae'n ddledus ar y Wraig ffy∣ddlondeb i'w Gwr, a hynny o ddau fâth; yn gyntaf, y Ffyddlondeb a berthyn i'r gwely, rhaid iddi hi ei chadw ei hún yn ddihalog ac yn ddiwair oddiwrth bób cofleidiad dieithr, ac am hynny rhaid iddi wilied cymmaint a gwr∣ando ar néb a chwennycho ei llithio hi, ond bwrw heibio a'r dygn-gâs mwyaf bób cyfryw

Page 332

ddeisyfiadau, a gochelyd byth roddi i'r cyfryw ún yr achlysur lleiaf i wneuthur yr unrhyw er∣fyniad trachefn. Yn ail, y mae'n ddyledus arni hi yr ún wédd ffyddlondeb yn trefnu'r pethau bydol hynny y mae'r gŵr yn ei rhoddi tan ei dwylo hi, rhaid iddi hi felly ei trefnu hwynt, fal y bo mwyaf er llesháad i'w Gŵr; ac nid trwy ei dwyllo a'i siommi ef arferu ei dda ef i'r cyfryw ddefnyddian nad yw ef fodlon id∣ydnt.

10. Yn Drydydd, y mae Cariad yn ddyledus arni hi iddo ef, a chydá hynny bób cynnwy∣nasgarwch a llaryeidd-dra o ymarweddiad: rhaid iddi hi ymegnío i ddwyn cymmaint o gymmorth iddo, ac o gyssur yn ei fywyd, ac yw bossibl, módd y gallo hi trwy hynny atteb y diben arbennig hwnnw o greadigaeth Gw∣raig, séf, i fód yn gynnorthwy i'w gwr, Gen. 2.13. A hyn sydd raid iddi hi ei wneuthur iddo ef ymmhób cyflwr, pa ún bynnag a'i iechyd ai clefyd, cyfoeth ai tlodi, neu pa gyflwr byn∣nag arall a ŵel Duw yn dda yn ei ragluniaeth ei osod ef yntho. Llwyr wrthwyneb i hyn yw pôb Sarrugrwydd a Surni, pôb cynnen ac anniddigrwydd, oblegid y mae hynny yn gwneu∣thur y Wraig yn faich trwm ac yn bla i'r gŵr yn lle cymmorth a diddanwch: Ac yn ddiam∣meu os yw yn fai i ddŷn ei ymddwyn ei hún tu ac at arall felly, fal y dangoswyd yn barod, mwy o lawer yw i ún wneuthur felly tu ac atto ef, i ba ún y mae'r Cariad a'r addfwyn∣der mwyaf yn ddledus.

Page 333

11. Ac na thybied y cyfryw Wragedd y di∣chon beiau na throsseddau yn y bŷd yn y gŵr gyfiawnhau ei hystyfnigrwydd hwynt; oblegid ni wnánt, os ystyrir na Chrefydd, na phwyll. Nid o ran Crefydd, canys lle y gorchymynnodd Duw yn bendant ryw Ddledswydd i'w thalu, ni ddichon annheilyngdod dŷn yn y bŷd es∣gusodi oddiwrth hynny; nac o ran Pwyll ych∣waith; oblegid po gwaethaf a fo'r gŵr, rhei∣tiaf gwbl i'r wraig ei hymddwyn ei hún yn addfwyn ac yn llaryaidd, oblegid fe ddichon hynny ei ennill ef. Dymma'r cyngor a roddes St. Petr. i wragedd yn ei amser ef, 1 Pet. 3.1. Bydded y Gwragedd ostyngedig i'w gwyr priod, fel y galler os bydde rhai yn anufydd i'r gair, trwy ymarweddiad diwair y gwragedd ei hennill hwynt heb y gair. Fe dybiid fód ymddygiad da'r gwragedd yn foddion galluog i ennill dynion o Baganeiddrwydd i Gristianogrwydd; ac yn ddi∣ammeu fe fydde rai ffrwythau da o hyn yn yr oes hon, pe bydde gyn y gwragedd gymmaint o ammynedd ac i brofi hyn: O'r lleiaf fe fydde hyn, fe gadwei béth diddigrwydd mewn teu∣luoedd, lle o'r tu arall y mae y ffrwythau drŵg o anniddigrwydd y gwragedd mor hynod, nad oes ond ychydig o gymydogaethau na ddi∣chon roddi Esampl o hyn. Pa sawl ún sydd yr hwn er mwyn gochelyd trŵst gwraig ffromm a syrthiodd i gadw Cwmpeini, a thrwy hynny i feddwdod, tlodi, a lliaws o ddrygau? Gocheled pób Gwraig gan hynny, roddi'r tem∣tasiwn hwn. Ond pa brŷd bynnag y dychwelo rhyw beth, yr hyn y dyle hi, o wîr garedi∣grwydd i'w gŵr, ei rybuddio ef o'i blegid

Page 334

gwnaed hynny a'r cyfryw fwynder a llar∣yeidddra, fal yr ymddangoso, mae cariad ac nid digofaint sydd yn gwneuthur iddi hi Siarad.

12. Y mae hefyd amryw Ddledswyddau ar ran y Gwr; megys yn gyntaf, Cariad, yr hyn y mae St. Paul yn gorchymyn i fôd yn dyner ac yn dosturiol tu ac at y Wraig, fal y mae'n eglur trwy'r cyffelybiathau y mae fo yn ei ar∣feru i'r diben hwn, Eph. 5. Un yw o'r Cariad sydd gan ddŷn i'w gorph naturiol ei hûn, Ni chasáodd néb erioed medd ef, gwer. 29. ei gnawd ei hûn, eithr ei fagu a'i faethu ef. Y llall yw o'r Cariad sydd gan Grist tu ag at ei Eglwys; yr hwn sydd yn fwy o lawer, gwers, 25.26. Pob ûn o'r rhain y mae fo'n ei osod ar lawr megys Esampl o'r Cariad a ddyle fôd gan wŷr tu ac at ei Gwragedd. Y mae hyn yn hollawl yn gwahardd pób creulonder a garwder iddynt; fe ddyle gwŷr ei harferu hwynt megys rhannau o honynt ei hunain, a'i caru nhw megys ei cyrph ei hunain ac felly gochelyd gwneuthur dim a fo trallodus na niweidiol iddynt, mwy nac y torren neu y rhwygen nhw ei cnawd ei hunain. Ystyried y gwŷr hynny sydd yn mei∣stroli ei gwragedd yn greulon, a phrin yn ei harferu nhw fal dynol ryw, ai ei caru hwynt fal ei Cyrph ei hunain yw hynny.

13. Ail Ddledswydd y Gwr yw ffyddlondeb i'r gwely. Hyn y mae Duw yn ei ofyn yn gy∣stal gan y gŵr, a'r wraig; ac er bód y bŷd gan mwyaf yn edrych ar drosseddiad y Ddled∣swydd hon a llai diflaswch a ffieidd-dra yn y gŵr, etto ger bron y Barnŵr cyfiawn ni ym∣ddengys

Page 335

y trosseddiad ddim llai ar du'r gŵr na'r wraig. Hyn sydd siccr fód hynny ymm∣hób ún o honynt yn drosseddiad o'r adduned a wnaethant hwy i'w gilydd yn ei Priodas, ac felly heb law'r Aflendid, yn anudonedd hynod; ac nid yw y rhagoriaeth sydd yn ei wneuthur ef i edrych yn llai yngolwg dynion ond oble∣gid ystyriaeth bydol, yn hyttrach nac o herwydd y pechod ei hun.

14. Trydydd Ddléd y Gwr yw darparu a chasclu cynnhaliaeth i'r wraig. Rhaid iddo ef adael iddi hi gyfrannu gydag ef yn yr holl bethau daionus hynny oddiallan, a'r rhai y ben∣dithiodd Duw ef, ac nid trwy grintachrydd at∣tal oddiwrthi hi y péth a fo cymwys iddi hi, nag ychwaith trwy afradlonrhwydd treulio felly ei dda, fal nad allo ef rhag llaw ei chyn∣nal hi. Y mae hyn yn ddiau yn ddléd ar y gŵr, yr hwn gan ei fod, fal y dywedwyd o'r blaen, i gyfrif ei wraig megys rhan o'i gorph ei hun, rhaid yw bód gantho ef yr unrhyw ofal i'w chynnal hi, ac y sydd gantho ef trosto ei hun. Ond nid ydwyfi'n meddwl wrth hyn escusodi 'r wraig oddiwrth ei rhan hithau o lafur a diwydrwydd, pan fo hynny yn angen∣rheidiol, gan mae anrhesymmol yw i'r Gŵr lafurio yn galed i gadw'r Wraig mewn se∣guryd.

15. Yn bedwerydd, rhaid i'r Gŵr addysgu'r wraig, yn y pethau a berthyn i'w hawddfyd tragywyddol hi, os bydd hi yn anhyspys o ho∣nynt. Felly y mae St. Paul yn peri i'r gwragedd ddysgu gan ei gwyr gartref, 1 Cor. 14.36. ac os

Page 336

felly, yna rhaid i'r gŵr ei haddyfgu hi. Yn wîr fe berthyn i bób penteulu wneuthur ei oreu ar fód i bawb tan ei siars ef gael ei haddysgu mewn pób péth angenrheidiol o'r fáth hyn, ac yna yn ddiammeu yn fwy enwedig ei wraig, yr hon sydd yn nês iddo ef o lawer na'r lleill i gŷd. Fe ddyle hyn wneuthur pobl yn ofalus i geisio gwybodaeth ei hunain, módd y gal∣lont gwplhau 'r Ddledswydd hon tu ac at eraill.

16. Yn ddiweddaf, rhaid i wŷr a gwragedd Weddio, ac erfyn pób rhyw fendithion yn gystal Ysprydol ac Amserol, y naill tros y llall, ac ymegnío hyd yr eithaf o'i gallu i wneuthur pób daioni i'w gilydd, yn enwedig i Eneidiau 'i gilydd, trwy annog i gwplháad Dledswydd, a lluddias a thynnu yn ól oddiwrth pób pe∣chod, a thrwy fod fel gwîr iau-gymdeithion yn gymmorth i'w gilydd, i wneuthur pôb máth ar ddaioni yn gystal i'w ei teulu ei hún ac i bawb eraill o fewn ei cyrrhaeddiad hwynt. Hyn yn anad dim arall yw'r Cariad cywiraf a'r gwerth∣fawroccaf. Ié yn wîr pa fodd y gellir dywe∣dyd fòd ganddynt fáth yn y bŷd ar gariad y rhai a ddichon oddef i'w gilydd yn fodlon redeg ymlaen mewn ffordd a'i dŵg hwynt i drueni tragywyddol? A phe bydde Cariad gwŷr a gwragedd fal hyn gwedi ei sylfaenu mewn Rhinwedd a Chrefydd, fe wnai hynny ei bywyd nhw yn fáth ar Nêf ar y Ddaiar; fe rag-flaenei'r holl ymryssonau a'r amrafaelion hynny sydd mor gyffredinol yn ei mŷsg hwynt, y rhai yw dirfawr bláau teuluoedd, a'r Uffern leiaf yn yr ymdaith i'r fwyaf; ac yn wîr lle nid yw efe fal hyn gwedi ei sylfaenu, nid oes

Page 337

ond ychydig gyssur i'w ddisgwyl mewn prio∣das.

17. Fe ddyle pôb dŷn gan hynny a'r sy'n bwriadu myned i'r cyflwr hwn ystyried yn ddarbodus ymlaen llaw, a dewis ún, a pha ún y gallo ef gael y gymdeithas Ysprydol hon, hynny yw, y cyfryw ún ac sydd ýn gwîr ofni Duw. Y mae amryw gau-ddibennion Priodas yn y bŷd: rhai yn priodi o ran Cyfoeth, eraill o ran Glendid, ac yn gyffredinol rhyw gyfle∣usdra bydol yn unic yw'r cwbl a ystyrir; ond yr hwn a briodo fal y dyle, a ddylei ddy∣chymmig pa fôdd i wneuthur ei Briodas yn fuddiol i'r dibennion gwell hynny o wasanaethu Duw, a chadw ei Enaid ei hûn; o'r lleiaf fe ddyle fôd yn siccr na bo'r cyflwr hwn yn rhwystr iddynt, ac i'r pwrpas hwnnw y mae Rhinwedd y néb a ddewisir yn fwy buddiol na hôll olud y bŷd, er nad wyf fi yn dywedyd, na ddylid hefyd edrych am gymmedrolder o hwnnw.

18. Ond o flaen dim, bydded i bawb ofalu na wnelont y cyfryw Briodasau, ac nid yn unic a all ddamwain i fôd yn ddrŵg rhag llaw, ond sydd yn bechodau yn y cyfamser; o'r fath hyn yw Priodasau 'r rhai a addawyd o'r blaen i ún arall, y rhai yn ddiammeu ydynt yn per∣thyn i'r néb y gwnaethant hwy'r addewid cyntaf iddo; ac yna i ún arall ei Priodi hwynt tra'i bo hwnnw byw, nid yw ddim amgenach na chymmeryd gŵr neu wraig y cyfryw ún, yr hyn yw godineb, fal y dywed St. Paul Rhuf. 7.3. Anghyfreithlon hefyd yw Priodasau'r cy∣fryw

Page 338

rai ac sydd o fewn y graddau hynny o garennydd a waherddir gan Dduw, y rhai i oso∣dir ar lawr yn neillduol yn y 18, a'r 20. o Levit. ac y mae pwy bynnag a briodo ún o fewn y graddau hynny o garennydd, naill a'i iddo ei hun, neu'i wraig o'r blaen, yr hyn sydd cyn-ddrwg, yn gyneuthur y pechod mawr hwnnw o Drallosgach, a thra'i parhâo fo i fyw gydá 'r cyfryw wraig anghyfreithlon, y mae fo'n aros yn yr euogrwydd gresynol hwnnw. Yr astudrwydd hwn yn dewis cymmar a atta∣liai lawer o'r ffrwythau gresynol hynny a welwn ni beunydd yn dilyn y cyfryw briodasau byr∣bwyll neu anghyfreithlon; da fydde gan hynny pe edrychei pobl ar Briodas, fal y mae ein He∣glwys ni yn cynghori, megys péth nid i'w gymmeryd mewn byrbwyll, o yscafnder meddwl, neu nwyfiant, er mwyn digoni deisyfiad a chwan∣tau cnawdol; eithr yn barchedig, yn bwyllog, yn sobr, ac mewn ofn Duw; ac yn gwneuthur felly nid oes ammeu na bydd bendith yn calyn, yr hyn os amgen nid oes ond achos bychan i'w ddisgwyl. Fe ddarfu i mi bellach a'r Caren∣nydd hwnnw rhwng Gŵr a Gwraig.

19. Y nessaf yw rhwng Cyfeillion; ac y mae'r perthynasrwydd hwn, os iawn ystyrir ef yn agos iawn ac yn dra-defnyddiol; ond nid oes yr ún a gam-gymmerir fynychach yn y bŷd na hwn; y mae dynion yn arfer o alw' rheini yn gyfeillion iddynt a pha rai y byddant fynychaf a chynnefinaf yn ymarweddi, er dychwelyd i'r cynnefindra cú hwn fod dim ond cyttundeb a chydsynniad mewn pechod. Y mae'r Meddwyn yn ei dybied ef yn garedigol yr hwn a gadwo

Page 339

gymdeithas ac efo; y dyn twyllodrus, yr hwn a'i cynnorthwya ef yn ei ddichellion; y dyn balch, yr hwn a'i gwenhieithio ef: Ac felly yn gyffredinol ymmhób rhyw ddrygau, y rhai hynny a edrychir arnynt megys cyfeillion an∣wylaf y rhai a'n helpa ni ymlaen ynddynt. Ond fe ŵyr Duw fód hyn ymmhell oddiwrth wîr gyfeillach; y cyfryw gyfell a hyn yw'r Cythrel ei hún yn y rádd uchaf, yr hwn nid yw ún amser yn ddiffygiol yn y cyfryw swyd∣dau. Y gwîr gyfeillach ydyw ún yn union yn y gwrthwyneb; sef cydsynniad a chyttundeb mewn Rhinwedd, ac nid mewn pechod: mewn gair, y mae gwîr gyfaill yn caru ei gy∣faill felly, yn gymmaint ac i fod yn dra∣chwannog o'i ddaioni ef; ac yn ddiammeu pwy bynnag sydd fal hyn, ni bydd ef bŷth yn achos o'i ddwyn ef i'r drygau mwyaf. Dledswydd cyffredinol cyfell gan hynny a grynhoir mewn diwyd gynllwyniad gwîr fudd a llesháad ei gy∣faill, ymmha ûn y cynnhwysir amryw rannau neillduol.

20. Megys yn gyntaf ffyddlondeb mewn pób rhyw ymddiried a orchymynnir iddo ef gan ei gyfaill, a hynny pa ûn bynnag ai o dda, neu o ddirgelwch; yr hwn a fradycho ymddiried ei gyfaill, yn y' rûn o'r rhain, fe fydd pôb dŷn yn ei gashau ac yn ei ffieiddio ef, gan mae ûn o'r ffalsder a'r anffyddlondeb mwyaf yw hynny, ac oddiwrth y cyfryw archollion twyllodrus y ffy pób cyfaill ymmaith, fel y dywed y Gŵr doeth, Ecclus. 22.25.

Page 340

21. Yn ail, Dléd cyfaill yw cymmorth ei gy∣faill yn ei holl angenrheidiau oddiallan; ei gynghori ef, pan fo arno eisieu cyngor; ei lonni ef, pan fo arno ef eisieu cyssur; rhoddi iddo, pan fo arno ddiffyg porth; ac ymegnío i'w wared ef allan o bób helbul, neu enbyd∣rwydd. Esampl ragorol sydd i ni o hyn yn Jonathan tu ac at Ddafydd, yr oedd ef yn ei garu ef fal ei enaid ei hun, ac ni a'i gwelwn ef nid yn unic yn llunio módd i'w amddiffyn ef pan oedd ef mewn enbydrwydd, ond yn ei beryglu ei hûn ei achub ac i waredu ei gyfaill, ac yn dwyn digofaint ei Dâd arno ei hûn, er mwyn ei dynnu ef oddiwrth Ddafydd, fal y darllennir yn helaeth, 1 Sam. 20.

22. Y Drydydd Ddledswydd cyfaill a'r fwyaf yw cymmorth a gwneuthur llesháad i Enaid ei gyfaill, ymegnío i osod hwnnw ymlaen mewn Duwioldeb a Rhinwedd, trwy bób rhyw fod∣dion ar a allo, séf trwy annog a chyffroi i bób rhinwedd, ei droi ef yn daer ac yn ddifrifol oddiwrth bób pechod, ac nid hynny yn unic yn gyffredinol, ond yn ól ei angenrheidiau neillduol ef, trwy ei argyoeddi ef yn llymm ac yn gariadus, lle y gwypo ef, neu y tybio fo mewn rheswm iddo ef wneuthur arfai. Hyn yn anad dim yw gwîr arbennig Ddledswydd cy∣faill, gan nad oes néb yn wîr yn gymwys i hynny ond y cyfryw ûn. Y mae'r cyfryw ane∣wyllysgarwch yn y rhan fwyaf o ddynion i glywed són am ei beiau, a bód yn rhaid i'r néb a gymmero'r gwaith hwn arno fód gwedi rhagfeddiannu ei calonnau hwynt yn ddirsawr,

Page 341

er mwyn ei gwneuthur hwynt yn oddefus o hynny: ié, fe gydnabyddir mor gyffredinol mae priodol waith cyfaill yw argyoeddi, yn gymmaint ac os ommedda fo hynny, y mae fo'n bradychu y trossedd-ŵr i ddiofalwch: fe wná ei fód ef heb argyoeddi, i'r llall feddwl ond odid nad yw efe yn gwneuthur dim a ha∣edda argyoeddiad, ac felly y mae fo tan dewi yn chwareu'r gwenhieithi-wr, trwy ei achlesu a'i druthio ef yn ei bechod; pan ystyrir etto ymm∣hellach faint o eifieu'i gynghori a'i argyoeddi sydd ar bób dŷn ar ryw amser, fe welir mae péth anghariadus, ie creulon iawn yw esgeu∣luso hynny; y mae gennin ni'r cyfryw dued∣diad naturiol tu ac attom ein hunain, na fedrwn ni amgyffred mor barod ein camweddau ein hunain, a'r eiddo eraill, ac am hynny tra∣angenrheidiol yw i ni, gael gan rai eraill ei dangos hwynt i ni, y rhai sydd yn ei canfod hwynt yn eglurach; a gwneuthur hyn ar y cyntaf a ddichon lestr i ún ei amlhau hwynt ymhellach; lle os cynnhwysir i ni fyned ym∣laen heb ein hargyoeddi, fe a ddigwydda'n synych yn gyfryw gynnefin arfer, na wná cery∣ddion i ni mo'r llesháad. Ac yna pa fódd y dichon y cyfryw ún atteb am hyn nag i Dduw, nag iddo ei hún, yr hwn trwy ei ddi∣stawrwydd a fradychodd ei gyfaill i'r drŵg mawr hwn? Gair Duw ei hún yw yn traethu am gyfaill, Dy gyfaill yr hwn sydd fal dy enaid dy hun, Deut. 13.6. Ac yn wîr ni a ddylen yn hyn gyfrif ein cyfeillion fal ein heneidiau ein hunain, trwy fód gennini yr unrhyw dyn∣nerwch eiddigus a gofal tros ei heneidiau hwynt, ac sydd gennini tros ein heiddo ein

Page 342

hunain. Cymwys iawn gan hynny a fydd i bób rhai a fo gwedi ei rhwymo ei hunain mewn anwyl gymdeithas wneuthur hyn yn ún pwngc arbennig yn ei cyttundeb, séf, bód iddynt rybuddio ac argyoeddi y naill y nall; ac felly fe ddigwydda hyn i fód yn gyfryw ran addune∣dus o'i cyfeillach hwynt, na cham-gymmera 'r ûn o honynt yr argyoeddiad hwn am sarru∣grwydd neu anghardigrewydd.

23. Yn Bedwerydd, rhaid yw anghwanegu Gweddi at yr amryw rannau hyn o fwyneidd∣dra; nid digon i ni gymmorth ein cyfeillion ein hunain i'n gallu, ond rhaid i ni alw he∣fyd am gymmorth yr Holl-alluog iddynt, trwy ei taer orchymyn hwynt i Dduw am ei holl fendithion, yn gystal amserol ac Ysprydol.

24. Yn ddiweddaf, rhaid i ni fôd yn Ddi∣ysgog yn ein Caredigrwydd, ac nid o wîr ysgafndra meddwl blino ar gyfaill, yn unig oblegid ei fód ef gennin ni yn hir. Y mae hyn yn anghyfiawnder mawr tu acc atto ef, yr hwn os ymddygodd ef ei hún yn dda, a ddyle gael gwneuthur mwy cyfrif o hono, po hwyaf y parháodd ef felly: Ac y mae hyn yn ynfy∣drwydd mawr ynom ein hunain, oblegid nid yw hyn ond bwrw ymmaith y tryssor mwyaf yn y bŷd hwn, canys y cyfryw yn ddiammeu yw Cyfaill profedig. Y mae 'r doethaf o ddynion yn rhybuddio am hyn, Dihar. 27.10. Nag ymado a'th gydymaitb dy hún, na chydy∣maith dy Dâd. Ié ymmhellaeh, ni ddyle pób camwedd gwael dy gyfail wneuthur i ti yma∣do a'i gymdeithas ef, rhaid yw cyd-ddwyn

Page 343

péth a gwendid dynion, ac os bydd i ti achos i faddeu iddo fo ryw béth heddyw, fe all yn∣teu ysgatfydd gael odfa i dalu hynny yn ôl i ti y foru; am hynny ni ddyle dim ond an∣ffyddlondeb, neu ryw fai tra-echryslon dorri y rhwymedigaeth hwn.

25. Y Perthynasrwyd ddeweddaf sydd rhwng Meistraid a Gweision, ac y mae ar bôb ûn o'r rhain Ddledswydd i'w gilydd: Y Cyntaf o eiddo 'r Gwâs yw Ʋfydd-dod i bób Gor∣chymynion cyfreithlon; hyn a ofynnir yn ben∣dant gan yr Apostl, Col. 3.22. Y Gweision ufydd∣bewch i'ch meistred ymmhób dim, &c. Ac ni wasanaetha i'r ufydd-dod hwn fôd yn ún gwrw∣nachus anfodlon, ond yn ewyllysgar ac yn llawen, megys yr â fo ymlaen i gynghori, gan wneuthur gwasanaeth trwy ewyllys da; ac i'w hel∣pu nhw yn hyn, ystyrian mai i'r Arglwydd y mae hynny ac nid i ddynion; Duw a orchym∣ynnodd i weision fal hyn, ufyddhau i'w me∣istred; ac am hynny yr Ufydd-dod y maent yn ei dalu sydd i Dduw, ac y mae hyn yn ddigon i beri iddynt wneuthur hynny yn surriol, er mor sarrug ac annheilwng a fo 'r Meistr, yn enwedig os ystyrir ymmhellach béth y mae 'r Apostol yn yn ei ddywedyd Eph. 6.8. y derbyn ef wobr gan Dduw am hynny.

26. Ail Ddledswyd gwas yw ffyddlondeb, a hwnnw sydd o ddau fáth; ûn yngwrthwyneb i lygad-wasanaeth, a'r llall i dwyll a hocced. Y rhan gyntaf o ffyddlondeb yw gwneuthur pób gwasanaeth cywir i'w feistr, nid yn unig pan fo ei olwg arno ef, a phan ddisgwylio ef gerydd am ei esgeulusdra, ond bób amser, iè

Page 344

pan ni bo'i feistr yn debyg i ganfod ei faî ef; ac y mae 'r gwâs hwnnw, ymmhell oddi∣wrth fód yn wenidog ffyddlon, yr hwn ni wná gydwybod o hyn; Y mae 'r Apo∣stol yn gosod y llygad-wasanaeth ymma yn gwrthwyneb i'r symlrwydd calon hwnnw, a ddisgwyhr gan weision, Eph. 6.5. yr ail fath ar ffyddlondeb yw trefnu a goruchwylio yn onest bób béth a ymddiriedir iddo gan ei feistr, pei∣dio a cham-dreulio ei dda ef (fal y dywedir i'r goruchwyliwr anghyfiawn wneuthur, Luc. 16.) pa ún bynnag a'i trwy ei afradloni nhw yn ddiofal, neu droi dim o honynt i'w ber∣chenogaeth ei hún heb gennad ei feistr, yr hyn yw 'r twyll hwnnw y mae 'r Apostol yn rhybuddio gweision o'i blegid, Tit. 2.10. Yr hyn nid yw yn wîr ddim amgenach na lle∣drad; o'r fáth hyn yw 'r holl ffyrdd hynny sydd gan y gwenidog i ennill iddo ei hun trwy golledi ei feistr, megys trwy dderbyn gwobr er gwneuthur drŵg-farchnad trosto ef, a'r cyffelyb: Ié, yn wîr y mae 'r cyfryw an∣ffyddlondeb a hyn yn waeth na lledrad cyffre∣dinol, o gymmaint ac yr ymddiriedir mwy iddo ef, ac y mae bradychu 'r ymddiri∣ed hwnnw yn anghwanegu 'r bai. Am y fàth arall o anffyddlondeb, sef treulio ei dda ef o esgeulusdra, heb ennill dim iddynt ei ei hunain, nid oes fawr ragor rhyngddo ef a'r llall, gan y dichon y meistr golli cymmaint y naill ffordd a'r llall, ac yna pa ragor iddo ef gael ei yspeilio trwy gybydd-dra neu esgeulus∣dra ei wenidog? Ac y mae hyn yn torri ym∣ddiried yn gystal a'r llall; canys y mae pôb meistr yn ymddiried ei orchwylion yn gastal i

Page 345

ofal ac i onestrwydd ei wâs: Oblegid pa lês i'r meistr fód yn siccr, nad yw ei wâs ef ei hún yn ei dwyllo ef, pan yw ef yn y cyfam∣ser trwy ddiofalwch yn rhoddi odfa i eraill i wneuthur hynny; y mae gan hynny yr hwn nid yw yn edrych yn ofalus am fûdd ei feistr, yn gwneuthur twyll trwy ymddiried, iyn gystal a'r hwn a gascla 'n anghyfiawn iddo ei hûn.

27. Trydydd Ddledswydd gŵas yw ammy∣nedd a llaryeidd-dra tan argyoeddion ei feistr, heb ail-ddywedyd, fal y cynghora'r Apostol, Tit. 2.9. hynny yw, heb roddi 'r cyfryw attebion sarrug diwybod, ac a anghwanega ddigofaint y meistr. Péth rhy gynnefin ymysg gweision, iè yn yr argyoeddion cyfiawnaf; lle y mae St. Petr, yn ei cynghori nhw i ddioddef yn ammyneddgar y ceryddon ni bónt yn ei haeddu, sef pan fónt yn gwneuthur yn dda, ac yn goddef er hynny, 1 Pet. 2.20. Ond nid goddef argyoeddion yn ammyneddgar yw 'r cwbl a ofynnir gan weision yn hyn ymma, rhaid iddynt hefyd ddiwygio 'r bai yr argyoeddir hwynt o'i blegid, ac nid tybied iddynt wneu∣thur digon, gwedi iddynt (er mor ostynge∣dig) wrando ar ei meistr.

28. Pedwerydd Ddledswydd gwâs yw Di∣wydrwydd: rhaid iddo ef yn wastad wilied ar hôll Ddledswyddau ei le, heb ymroi i ddiogi a syrthni, nag ychwaith i gadw ofer-gyfeil∣lach, na chwaryddiaeth, nag unrhyw gwrs afreolus arall, yr hyn a dichon ei dynnu ef ymmaith oddiwrth achosion ei feistr. Y mae hyn oll yn Ddledswyddau angenrheidiol ar

Page 346

wâs y rhai sydd raid iddo ei cwplhau yn ofa∣lus ac yn gydwybodus nid cymmint er mwyn gochelyd digofaint ei feistr, a Duw, yr hwn yn ddiammeu eilw ar bòb ún o honynt i gyfrif, pa fodd yr ymddygasant hwy tu ac at ei mei∣stred daiarol.

29. Y mae hefyd ar tu arall rai pethau yn ddyledus ar y Meistred tu at ei Gweision: me∣gys yn gyntaf, y mae 'r meistr yn rhwym i fòd yn gyfiawn tu ac attynt, yn cyflawni 'r ammodau hynny ar ba rai y llogwyd ef, y cyfryw yn gyffredinol yw rhoddi iddynt ym∣borth a chyflog, ac y mae 'r meistr hwn∣nw a attallio y rhai hyn yn Orthrym-ŵr.

30. Rhaid i'r meistr Gynghori ac argyoeddi ei wâs am ei fai, a hynny nid yn unic am feiau yn ei erbyn ei hún, lle nid oes ond ychydig feistred yn ddiffygiol, ond hefyd ac yn fwy enwedig am feiau yn erbyn Duw, o achos pa rhai y dyle dôb meistr ei gythrwblio ei hún yn fwy nag am feiau sydd yn unig yn tueddu at ei golled neu 'i anghyfleusdra ei hûn, gan yr haedda ddianrhydedd Duw, ac enby∣drwydd Enaid y gwaelaf o ddyn, ein cythry∣fwl ni yn fwy o anfeidrol, na dim arall. Ac am hynny pan fo meistred yn ebrwydd ar dân am ryw esgeulusdra bychan ei gwâs tu ac attynt ei hunain, ac etto a fedran edrych arnynt yn ddi-gynnwrf yn rhedeg i'r pechodau mwyaf yn erbyn Duw, arwydd yw hynny ei bôd nhw yn ystyried gormod ei hachosion ei hunain, a gogoniant Duw ac Eneidiau ei Gwenidogion rŷ fychan. Hyn yn rhŷ gyffredinol yw tym∣mer Meistraid y maent hwy gan mwyaf yn

Page 347

ddi-fatter pa fódd yr ymddŵg ei gweision hwy ei hunain tu ac at Dduw, ni waeth gan∣ddynt er mor afreolus ac halogedig a fo ei teu∣luoedd, ac am hynny ni rònt hwy ûn rhy∣budd, na chyngor iddynt, i'w hannog hwynt i Rinwedd; y mae 'r cyfryw Feistred yn ang∣hofio y bydd raid iddynt ryw ddydd roddi cy∣frif pa fodd y llywodraethasant ei teuluoedd. Yn ddiammeu Dledswydd pôb Llywiawdwr yw, ymegnío i anghwanegu Duwioldeb a Chre∣fydd ymŷsg pawb a fo tan ei ofal ef, a hyn∣ny yn gystal yn y Llywodrath leiaf hon o deulu ac yn y fwyaf honno o Deyrnas neu gen∣hedl. Yr oedd Dafydd mor ofalus am hyn, a'i fôd ef yn proffessu, Psal. 101.7. Na thrig o fewn ei dy ef y rún wnelo dwyll, na chadarn∣heuid yn ei olwg ef yr hwn a ddywedai gelwydd; roedd ef yn ei dybied ei hún cymmhelled yn rhwym i weled fôd ei deulu ef yn fáth ar Egl∣wys, neu Gymmanfa o wŷr duwiol dihalog: a phe bydde pôb Meistred teuluoedd o'r ún feddwl, nhw a gaen heb law'r gwobr tragy∣wyddol am hynny ar ôl hyn, weled bûdd pre∣sennol yn hynny, fe ái ei hachosion bydol hwynt, yn well ymlaen o lawer; canys, os dygid ei gweision hwynt i wneuthur cydwy∣bod o'i ffyrdd, yna ni feiddien nhw fôd nag yn esgeulus nag yn ffals.

31. Ond megys ac mae Dledswydd Mei∣straid yw Rhybuddio ac argyoeddi ei Gweni∣dogion, felly rhaid iddynt edrych hefyd am wneuthur hynny mewn modd ddyladwy, hynny yw fal y bo cyffelypaf wneuthur daioni iddynt; nid mewn gwŷn a chynddaredd, yr hyn ni

Page 348

wná i'r gwenidog ond ei ddirmygu a'i gashau ef; ond a'r cyfryw ymadroddion Sobr a phwy∣llog, ac a'i gwnelo ef yn deimladwy o'i fai, ac a'i siccrháo ef hefyd mai gwîr ddeisysiad o'i wellháad ef (ac nid ewyllys i ddangos allan ei gynddaredd ei hún) sydd yn gwneu∣thur i'r Meistr fal hyn ei argyoeddi ef.

32. Trydydd Dledswydd Meistr yw gosod Esampl dda o onestrwydd a Duwioldeb i'w weision, heb ba ún ni wná ei holl gynghorion, na'i argyoeddion ef ddim llesháad; oblegid onid-é y mae fo yn tynnu i lawr mwy a'i Esampl, nag yw bossibl iddo ef ei adeiladu a'r llall; ac ynfydrwydd yw i feistr meddw, neu halogedig ddisgwyl teulu sobr, a duwiol.

33. Yn Bedwerydd, rhaid i'r Meistr edrych na bo ar ei Wenidogion ef eisieu moddion o gael ei haddyscu yn ei Dledswyddau, ac hefyd ar fód iddynt gael amserau arbennig i addoli Duw yn gyhoeddus trwy gael Gweddiau yn y teulu: Ond mi a rois hyn ar lawr yn barod wrth draethu am Weddi, ac am hynny ni ad∣rodda'i ymma ddim anghwaneg.

34. Yn bummed, Rhaid i'r Meistr yn ei holl negeseuau ei hunan, roddi Gorcbymynion rhesy∣mol a chymmedrol, heb osod ar ei Weision fwy beichiau nag a allont ei ddwyn, yn enwedig na ofynno gymmaint o waith ganddynt, ac na bo iddynt ddim amser i'w dreulio ar ei Henei∣diau; megys o'r tu arall ni wasanaetha iddo ef oddef iddynt fyw mor segur, ac a'i gwnelo hwynt nag yn anfuddiol iddo ef, nag a'i bra∣dycho hwynt i ddrŵg yn y bŷd.

Page 349

35. Yn chweched, rhaid i'r Meistr gyssuro, a rhoi calon yn ei Wenidogion i wneuthur yn dda, trwy ymddwyn mor hael a chariadus tu ac attynt ac y bo ei ffyddlondeb a'i diwydrwydd a'i Duwioldeb hwynt yn haeddu: ac yn ddi∣weddaf yn ei hóll ymddygiad tu ac attynt, rhaid iddo ef gofio fód gantho ef ei hún, fal y dywed yr Apostol, Eph. 6.9. Feistr yn y Néf, i ba ún y bydd raid iddo ef roddi cyfrif o'i ym∣ddygiad tu ac at ei Wenidog gwaelaf ar y ddaiar. Fe ddarfu i mi bellach redeg ar fyrr trwy'r holl amryw berthynasau hynny, i ba rai y mae ún Ddledswydd neillduol yn ddyledus, ac felly fe ddarfu i mi ar gaingc gyntaf o Ddledsŵydd tu ac at ein Cymydogion, sef Cy∣fiawnder.

Notes

Do you have questions about this content? Need to report a problem? Please contact us.