Holl ddled-swydd dyn gwedi ei osod ar lawr, mewn ffordd hynod ac eglur, desnyddiol i bawb, ond yn enwedig i'r darllenydd mwyaf annyscedig : gwedi ei ddosparthu i XVII. o bennodau : y rhai, trwy ddarllen un o honynt boáb dydd yr Arglwydd, a ddarllenir i gyd trostynt deirgwaith yn y flwyddyn : angenrheidiol i boáb teuluoedd : ynghyd a Dwywolder neillduol ar amryw achosion / a gyfiaithwyd yn Gymro-aeg gan Jo. Langford ...

About this Item

Title
Holl ddled-swydd dyn gwedi ei osod ar lawr, mewn ffordd hynod ac eglur, desnyddiol i bawb, ond yn enwedig i'r darllenydd mwyaf annyscedig : gwedi ei ddosparthu i XVII. o bennodau : y rhai, trwy ddarllen un o honynt boáb dydd yr Arglwydd, a ddarllenir i gyd trostynt deirgwaith yn y flwyddyn : angenrheidiol i boáb teuluoedd : ynghyd a Dwywolder neillduol ar amryw achosion / a gyfiaithwyd yn Gymro-aeg gan Jo. Langford ...
Author
Allestree, Richard, 1619-1681.
Publication
London :: Printed for R. Royston ...,
1672.
Rights/Permissions

This keyboarded and encoded edition of the work described above is co-owned by the institutions providing financial support to the Early English Books Online Text Creation Partnership. Searching, reading, printing, or downloading EEBO-TCP texts is reserved for the authorized users of these project partner institutions. Permission must be granted for subsequent distribution, in print or electronically, of this text, in whole or in part. Please contact project staff at eebotcp-info@umich.edu for further information or permissions.

Subject terms
Christian life.
Devotional exercises.
Link to this Item
http://name.umdl.umich.edu/A23743.0001.001
Cite this Item
"Holl ddled-swydd dyn gwedi ei osod ar lawr, mewn ffordd hynod ac eglur, desnyddiol i bawb, ond yn enwedig i'r darllenydd mwyaf annyscedig : gwedi ei ddosparthu i XVII. o bennodau : y rhai, trwy ddarllen un o honynt boáb dydd yr Arglwydd, a ddarllenir i gyd trostynt deirgwaith yn y flwyddyn : angenrheidiol i boáb teuluoedd : ynghyd a Dwywolder neillduol ar amryw achosion / a gyfiaithwyd yn Gymro-aeg gan Jo. Langford ..." In the digital collection Early English Books Online 2. https://name.umdl.umich.edu/A23743.0001.001. University of Michigan Library Digital Collections. Accessed June 18, 2024.

Pages

Page 295

DOSPARTHIAD, XIV.

Am Ddledswydd tu ac at Lywiawd-wyr, Bugeiliaid. Am Ddledswydd Rhiéni tu ac at ei Plant, &c. Plant tu ac at ei Rhiéni, &c.

1. Y Cyntaf o'r fáth nessaf hynny o ga∣rennydd, yw Rhiéni;* 1.1 ac ymma fe fydd yn angenrheidiol Ystyried yr amryw fáth ar Rieni, yn gyfattebol i ba rai y bydd yn rhaid cymmhwyso 'r amryw Ddled∣swyddau. Y rhai hynny yw'r tri hyn, Rhieni Dinasaidd, Ysprydol, Naturiol.

2. Y Tâd Dinasaidd yw'r hwn a osododd Duw yn Ben-llywiawdr, sef,* 1.2 yr hwn trwy gy∣fiawn hawl sydd yn meddiannu'r Deyrn-gader mewn Teyrnas. Hwn yw Tâd cyffredinol pawb tan ei Lywodraeth ef. Y Ddléd arnon ni i'r Tâd ymma, yw, yn gyntaf,* 1.3 Anrhydedd a Pharch, trwy edrych arno ef, megys ún, ar ba ún yr argraphodd Duw lawer o'i allu a'i aw∣durdod ei hûn, ac am hynny rhaid talu iddo ef bób anrhydedd ac Urddas, heb feiddio tan ríth ac esgus yn y bŷd, ddywedyd yn ddrwg am Lywodraeth-wr ein pobl. Act. 23.5.

3. Yn ail, talu Teyrnged;* 1.4 Hyn a orchymynnir yn hynod gan yr Apostol. Rhuf. 13.6. Telwch

Page 296

deyrn-géd, oblegid gwasanaeth-wyr Duw ydynt, yn ymroi i'r péth ymma. Duw a'i neillduodd hwynt megys Gwenidogion er cyffredinol ddaioni yr hóll bobl, ac am hynny tra chyfiawn iddynt gael ei cynnal ganddynt hwy. Ac yn wîr pan Ystyrir gofalon ac helbul yr alwedigaeth uchel honno, a pha faint o ddrain a blethir ymmhób Coron, nid oes ond achos fechan i ni i genfi∣gennu iddynt y dyledion hyn; ac fe ellir dy∣wedyd am wirionedd, nad oes yr ún o'i Dei∣liaid poenus hwynt yn ennill ei bywyd mor galed.

* 1.54. Yn drydydd, rhaid i ni weddío trostynt; hyn hefyd a orchymynnir yn hynod gan yr Apostol i'w wneuthur tros Frenhinoedd a phawb a osodwyd mewn awdurdod; 1 Tim. 2.2. Y mae negesau'r alwedigaeth honno mor bwysfawr, y peryglon a'r enbydrwydd mor ddirfawr, a bód arnynt hwy yn anad néb arall eisieu ein gwed∣diau ni, am gyfarwyddiad, cymmorth, a ben∣dith Dduw, a'r Gweddiáu hyn trostynt hwy a ddychwel i'n monwesau ein hunain, oblegid y mae'r bendithion a dderbyniant hwy gan Dduw yn tueddu at ddaioni 'r bobl, fel y gallont hwy fyw yn llonydd, ac yn heddychol, fel y mae yn niwedd y wers rhagddywededig.

* 1.65. Yn Bedwerydd, rhaid i ni dalu iddynt Ʋfydd-dod. Hyn hefyd a orchymynnir yn gaeth gan yr Apostol, 1. Pet. 2.13. Ymddarostyngwch i bób dynol ordinhád er mwyn yr Arglwydd, séf i'r Brenin fel i'r Goruchaf, Ac i'r Llywiawd-wyr fel i'r rhai trwyddo ef a ddanfonir. Y mae'r cy∣fryw Ufydd-dod yn ddledus arnon ni i'r gallu

Page 297

goruchaf, a bod yn rhaid i ni ymddarostwng i bwy bynnag a awdurdodir gantho ef; Ac y mae St. Paul hefyd yn dra-helaeth yn hyn, Rhuf. 13.1. Ymddarostynged pób enaid i'r awdurdodau goruchel; a thrachefn gwer. 2. Pwy bynnag sydd yn ymosod yn erbyn yr awdurdod, sydd yn gwrth∣wynebu ordeinhâd Duw. Ac y mae i'w Ystyried y rhoddwyd y gorchymynion hyn ar amser, pan oedd yr awdurdodau hynny yn Baganaidd, ac yn erlid-wŷr creulon Cristianogion; i ddan∣gos i ni, na ddichon rhîth yn y bŷd o ddry∣gioni ein Llywodraeth-wŷr ein rhydd-hau ni oddiwrth y Ddledswydd hon. Rhaid i ni dalu Ufydd-dod naill ai Gweithredol neu trwy ddi∣oddef: y weithredol mewn pób gorchymynion cyfreithlon; hynny yw, pan orchymynno'r Lly∣wiawdr ryw béth nad yw wrthwyneb i ryw Orchymyn Duw, yna yr ydyni yn rhwym i wneuthur yn ól gorchymyn y Swyddwr. Ond pan orchymynno ef ryw béth yngwrthwyneb i orchymyn Duw, yna nid rhaid i ni dalu iddo ef yr Ʋfydd-dod weithredol hon (ond ymma e∣drychwn yn ddyfal ar i'r péth fód felly yn wrthwyneb, ac nid gwneuthur lliw o gydwy∣bod i orchuddio ystyfnigrwydd) yn y cyflwr hwnnw, medda'i, rhaid i ni Ʋfydd-hau i Dduw yn hyttrach nac i ddyn. Ond ymma rhaid yw dangos yr Ʋfydd-dod honno trwy ddioddef; rhaid i ni ddioddef yn ammyneddgar y péth a roddo ef arnon ni am y cyfryw neccáad, ac nid ein siccrhau ein hunain trwy godi i fynu yn ei erbyn ef. Canys pwy a ddichon estyn ei law yn erbyn enneiniog yr Arglwydd a bód yn ddieuog? médd Dafydd wrth Abishai, 1. Sam. 26.9. a hynny ar amser pan oedd Dafydd tan erledi∣gaeth

Page 298

fawr gan Saul, ié, a phan oedd gantho ef hefyd siccrwydd o'r Deyrnas ar ei ôl ef: ac y mae Sentens St. Paul yn y cyflwr ymma yn dra-gresynol, Rhuf. 13.2. Yr hwn a wrthwynebo a dderbyn ddamnedigaeth iddo ei hún. Nid oes ymma ond cyssur gwael i néb i godi i fynu yn erbyn Swyddwr cyfreithlon, canys er iddynt lwyddo cymmhelled ymma, a'i siccrhau ei hu∣nain oddiwrtho ef trwy'r moddion hyn, etto y mae Brenin y Brenhinoedd oddiwrth ba ûn ni ddichon gallu yn y bŷd ei cysgodi nhw, ac fe fydd y damnedigaeth hon yn y diwedd yn wobr gresynol ei buddugoliaeth hwynt. Ofer i mi draethu ymma béth o'r tu arall yw Dled∣swydd y Llywiawd-ŵr tu ac at y bobl, gan nad oes y rún o'r râdd honno yn debyg i ddar∣llen y Traethawd hwn, ac y mae yn annef∣nyddiol iawn ir bobl ymoralw béth yw Dled∣swydd ei Pen-llywydd, ym mhá ûn y mae y rhan fwyaf etto yn fwy hyddysc o lawer nag yn ei Dledswydd ei hunain; digon iddynt hwy wybod béth bynnag ydyw ei ddléd ef, a pha fódd bynnag y cwplheír ef, nad ydyw ef rwym ei roddi cyfrif i néb ond i Dduw, ac ni ddi∣chon ún rhyw drosseddiad ar ei ran ef, ei gwa∣rantu hwynt i drosseddu ar ei rhan hwythau.

* 1.76. Yr ail máth o Rieni yw'r Ysprydol; hynny yw, Gwenidogion y Gair, pa ún bynnag a'i Llywodraeth-wyr yn yr Eglwys, neu eraill tanynt hwy, y rhai sydd i gwplhau'r unrhyw Ddled∣swyddau i'n Heneidiau ni, ac y mae ein Rhieni naturiol i'n Cyrph ni. Fal hyn y dywed St. Paul wrth y Corinthiaid, ddarfod iddo ef ei cen∣hedlu hwynt yn Ghrist Jesu trwy'r Efengyl, 1 Cor. 4.15.

Page 299

ac wrth y Galatiaid, Pen. 4.19. ei fód ef yn ei hail esgor-hwynt, hyd oni ffurfer Crist ynddynt: A thrachefn, 1 Cor. 3.2. Efe ai porthodd hwynt a llaeth; hynny yw, a'r cyfryw Athrawiaethau ac oedd gyfaddas i'r cyflwr mabanaidd hwnnw o Gristianogrwydd yr oeddynt hwy yntho y prŷd hynny; ond yr oedd gantho fwyd cryfach i rai o gyflawn oedran, Hebr. 5.14. Y mae y rhai hyn óll yn Ddledswydd Rhiéni, ac am hynny y néb a'i cwplháo nhw i ni, fe ellir yn dda ei cy∣frif nhw yn gyfryw.

7. Ein dyléd i'r rhain yw yn gyntaf,* 1.8 ei Caru hwynt, dwyn y cyfryw garedigrwydd iddynt, ac a weddai i'r rhai a wnánt y daioni mwyaf i ni. Hyn y mae St. Paul yn ei ofyn, 1 Thessal. 5.13. Yr wyfi'n attolwg i chwi, frodyr, adna∣bod y rhai sy yn llafurio yn eich mysc, ac yn eich llywodraethu yn yr Arglwydd, ac yn eich rhybud∣dio; a rhoddwch eich traserch arnynt er mwyn ei gwaith hwy. Y mae ei gwaith hwy yn gyfryw, ac a haeddai yn dda gariad, oblegid ei fód ef yn llesol iawn i ni.

8. Yn ail ein dléd yw ei perchi a'i hanrhy∣deddu hwynt,* 1.9 fal y gwelwn ni yn y testyn a osodais yr awrhon ar lawr; ac yn ddiammeu y mae hyn yn dra-rhesymol, os Ystyriwn ni ond natur ei gwaith hwynt, neu pwy sydd yn ei gosod hwynt ar waith. Y mae natur ei gwaith hwynt uwchlaw pób máth arall yn dra∣rhagorol; Yr ydyn ni arferol o brisio galwe∣digaethau eraill yn gyfattebol i odidowgrwydd a phrîs y pethau y bónt hwy yn ei drîn. Nid oes yn ddiammeu yr ún farsiandiaeth mor

Page 300

werthfawr ac honno o'r Enaid; a dymma ei maeleriaeth hwynt, achub Eneidiau gwerth∣fawr o golledigaeth. Ac os ystyriwn ni ymm∣hellach pwy sydd yn ei gosod hwynt ar waith, fe anghwanega hynny at y barch ddyledus iddynt. Cennadon ydynt tros Grist, 2 Cor. 5.20. ac y mae Cennadon trwy Gyfreithiau pób Teyr∣nasoedd i'w perchi yn ól braint y rhai a'i densyn hwynt. Am hynny y mae Crist yn dywedyd wrth ei ddiscyblion, pan yw efe yn ei hanfon hwynt allan i bregethu, yr hwn sydd yn eich dirmygu chwi, sydd yn fy nirmygu i, a'r hwn sydd yn fy nirmygu ei, sydd yn dirmygu yr hwn am danfonodd i, Luc. 10.16. Y mae ynteu fwy yn sefyll ar ddirmygu Gwenidogion, nag y mae dynion yn ei ystyried yn gyffredinol, y mae hynny yn ddirmygiad o Dduw a Christ hefyd. Meddylied y rheini am hyn, y rhai sydd yn gwneuthur gwawd a difyrrwch o ddrygu a gwradwyddo'r alwedigaeth hon. A rheini hefyd, y rhai a feiddiau ryfygu arferu ei Swyd∣dau hi, heb ei galw i hynny yn gyfreithlon, yr hyn sydd yn rhyfyg dirfawr; y mae hyn fel pette ddŷn mewn gwîb yn myned o hono'i hún yn negeseuwr oddiwrth ei Frenin. Y mae'r Apostol yn dywedyd wrth Offeiriadau'r Gyfraith, y rhai ydynt îs na rhai 'r Efengyl, Nad oes néb yn cymmeryd yr Anrhydedd hon iddo ei hún, ond yr hwn a alwyd gan Dduw, Heb. 5.4. Pa fódd gan hynny y meiddia ún dŷn gymmeryd yr anrhydedd fwyaf ymma iddo ei hun, heb ei alw iddi hi? Ac nid digon yw dy∣wedyd fód ganddynt alwad yr Yspryd oddi∣fewn; oblegid er pan sefydlodd Duw drefn yn yr Eglwys, er mwyn danfon dynion i'r swydd

Page 301

hon, y mae y rhai a'i cymmerant hi arnynt heb yr awdurdod honno, yn gwrthwynebu yr ordinhâd honno, ac o nifer y lladron a'r Ys∣peil-wŷr hynny, fel y dywed ein Jachawdr, Jo. 10. Y rhai nid ydynt yn dyfod i mewn trwy'r drws. Heb law hyn y mae ymarfer resynol yr amseroedd hyn yn dangos fód llawer o'r rhai sydd yn cymmeryd arnynt fwyaf yr alwedigaeth hon o'r Yspryd oddimewn, gwedi ei galw trwy ryw Yspryd arall, ac nid gan Yspryd Duw, gan fód ei hathrawiaethau nhw gan mwyaf yn union yngwrthwyneb i air Duw, ar ba ún y bydd rhaid sylfaenu pób gwîr athrawiaethau. Rhaid yw edrych ar y cyfryw rai megys y twyll-wŷr a'r gau-brophwydi hynny am ba rai y rhybuddir cyn fynyched yn Epistolau'r Apo∣stolion. Ac y mae pwy bynnag a'i nodda, neu a'i dilyn hwynt, yn gyfrannog o'i pechod hwynt. Fe a osodir ar lawr megys pechod tra∣gresynol yn Jeroboam, wneuthur gwihilion y bobl yn offeiriadau; hynny yw, y cyfryw nad oedd iddynt hawl i'r swydd honno trwy Ordinhâd Duw, ac y mae'r néb a wrandawo ar y cyfryw Bregth-wyr, yn rhedeg i'r unrhyw bechod; ob∣legid oni bae bód rhai yn ei hachlesu ac yn ei dilyn hwynt, ni pharhae nhw yn hîr yn y cwrs hwnnw, ac am hynny y mae i'r rhai sydd yn rhoddi iddynt yr achles honno lawer i atteb am dano, ac y maent yn ddiammeu yn euog o'r pechod o ddirmygu ei gwîr fugeiliaid, pan fónt yn gosod i fynu y gau-Apostolion hyn yn ei herbyn hwynt. Pechod yw hwn y mae'r oes ymma yn rhŷ euog o hono; Duw o'i druga∣redd a'n gwnelo ni yn deimladwy o hono mewn prŷd, fal yr attalier yr annhrefn a'r an∣nuwioldeb

Page 302

a all ddyfod yn dra-chyfiawn ar ein gwartha ni o'i oblegid ef.

* 1.109. Yn drydydd, y mae 'n ddyledus arnoni iddynt hwy gynhaliaeth, ond mi a dreuthais yn barod am hyn yn y Rhan gyntaf o'r Llyfr hwn, ac ni adrodda 'i ymma ddim ynghwa∣neg. Yn Bedwerydd,* 1.11 mae Ʋfydd-dod yn dle∣dus arnoni iddynt hwy. Ʋfyddhewch (medd yr Apostl) eich Preldiaid, ac ymddarostyngwch: oblegid gwilio y maent tros eich Heneidiau chwi, Heb. 13.17. Rhaid yw talu 'r Ʋfydd-dod hwn iddynt mewn pethau Ysprydol; hyny yw, rhaid i ni yn ddiwyd ufyddhau béth bynag a draeathant hwy megys gorchymynion Duw, allan o Air Duw, gan goffhau nad hwynthwy, ond Duw sydd yn gofyn hynny, yn ôl geriau Crist, yr hwn sydd yn eich gwrando chwi, sydd yn fyngwrando i, Luc 10.16. A hynny pa fodd bynnag y treuthir hwynt, a'i trwy bregethiad cyhoedd, neu gyngor neillduol, oblegit ym∣hob ún o'r ddau, os dilynant hwy y rheol, sef Gair Duw, Cennadon Anglwydd y lluoedd ydynt hwy, Mal. 2.7. Y mae 'r Apostol yn haeru 'r Ufydd-dod hwn oddiwrth ddeuryw annogaeth, ún a gymmerwyd oddiwrth y wenidogaeth, a'r llall oddiwrthynt ei hunain; y maent yn gwilio, medd ef, tros eich eneidiau chwi, megys rhai sydd rhaid iddynt roddi cyfrif, fel y gal∣lant wneuthur hynny yn llawen ac nid yn drîst. Rhaid i'r bobl trwy ei hufydd-dod wneuthur ei Bugeiliaid yn abl i roddi cyfrif cyssurus o'i heneidiau hwynt, a drŵg iawn y telir y pwyth i'w holl ofalon a'i llafur hwynt, trwy wneu∣thur iddynt dristhau am ei drŵg-lwyddiant

Page 303

hwy. Ond yn ail, ei perthynas ei hún hesyd ydyw hynny; nhw a allant dristhau ei Gweni∣dogion pan welant ei hôll boen yn ofer, ond ni ennillan nhw ei hunain fawr wrth hyn∣ny, Difudd (medd yr Apostol) fydd hynny i chwi; chwychwi eich hunain a gyll wrth hynny o'r diwedd, yr ydych yn colli 'r holl wobrau gogoneddus hynny y rhai a addewir megys Coron yr Ufydd-dod hon; nid ydych yn ennill dim ond anghwanegiad eich pechod a'ch cospedigaeth, canys fel y dywedodd ein Iachawdr wrth y Phariseaid. Oni buasei i mi ddy∣fod ac ymddiddan a hwynt, ni buasei arnynt be∣chod, Jo. 15.22. hynny yw, mewn cyffelybi∣aeth i'r hyn oedd y pryd hynny; felly yn ddi∣ammeu y mae y rhai ni chlywsant erioed bre∣gethu 'r Efengyl iddynt yn llawer mwy di∣euog na 'r rhai a glywsant, ac a'i gwrthwyne∣basant ef. Ac am y gospedigaeth, ni allwn yn ddiammeu ddisgwyl y péth a ddywedodd Christ wrth y rhai y pregethasei ef iddynt, y bydde esmwythach i Tyrus a Sidon, y rhai oeddynt yn Ddinasoedd Paganaidd, nag iddynt hwy.

10. Yn ddiweddaf,* 1.12 Rhaid i ni weddio trost∣ynt; hyn y mae St. Paul yn ei ofyn mewn amryw fannau gan ei blant Ysprydol; fal hyn Eph. 6.18, 19. gwedi iddo ef orchymyn gweddio tros yr holl Seinctiau, y mae ef yn adroddi, a throsof finne, ar roddi i mi ymad∣rodd i agoryd fy ngenau yn hyf, i wneuthur yn eglur ddirgelwch yr Efengyl; ac felly trachefu, Col. 4.3. Ac y mae hyn yn parhau fŷth yn ddléd i'n Tadau Ysprydol, gweddio am gyfryw gymmorth Yspryd Duw iddynt ac a wná

Page 304

iddynt iawn ddibennu 'r alwedigaeth Sancta∣idd honno. Ni osoda 'i ar lawr ymma Ddlêd y Gwenidogion i'r bobl, oblegid yr unrhyw ystyriaeth ac y gadewais i heibio són am Ddled∣swydd swyddogion.

* 1.1311. Y Tryddydd máth o Rieni yw 'r Naturiol, sef Tadau ein Cyrph ni, fal y mae 'r Apostol yn ei galw hwynt, Heb. 12.9. Ac i'r rhain y mae 'n ddledus arnoni amryw Ddledswyddau; megys yn gyntaf parch ac Anrhydedd; rhaid i ni ein hymddwyn ein hunain tu ac attynt a a phob rhyw barch a gostyngeiddrwydd; a go∣chelyd, tan rîth gwendid yn y bŷd ynddynt hwy, ei dibrisio a'i diystyru hwynt; naill a'i yn ein hymddygiad oddiallan, neu cymmint ac yn ein Calonnau oddifewn. Os dychwel bód rhyw wendid ynddynt hwy, rhaid i ni er dim ei cuddio a'i celu hwynt; fal Sem a Ja∣pheth y rhai a guddiasant noethni ei Tâd, pan ddarfu i Cam felldigedic ei ddadcuddio a'i gy∣hoeddi ef, Gen. 9.23. ié, ac a'i cuddiasant yn y cyfryw fodd hefyd, nad allent hwy ei hu∣nain mo 'i weled ef. Rhaid i ni hyd y gal∣lom ymgadw ein hunain rhag edrych ar no∣ethni ein Rhieni, yr hyn a all ein temptio ni i dybied yn ammarchus o honynt. Y mae hyn yn dra-gwrthwynebus i ymddygiad llawer plant, y rhai nid ydynt yn unic y cyhoeddi ac yn gwatwor gwendid ei Rhieni, ond yn dy∣wedyd fôd ynddynt y gwendid hynny nad yw; y mae gan mwyaf y cyfryw fcalhder ac ystyfni∣grwydd mewn ieuengtid, nad allan nhw aros ymostwng i gynghorion a chyfarwyddiad ei Henuriaid, ond ei taflu nhw heibio megys effeithiau lled- wŷredd, pan fónt yn wir yn

Page 305

ffrwythau sobrwydd a Doethineb. I'r cyfryw rai y mae cyngor Solomon yn dra-angenrhei∣diol, Dihar. 23.22. Gwrando ar dy Dâd a'th genhedlodd, ac na ddiystyra dy fam pan henei∣ddio. Y mae amryw leoedd eraill yn y Llyfr hwnnw i'r purpas hwn, yr hyn a ddengys fód y doethaf o ddynion yn gweled yn angen∣rheidiol i blant ystyried cyngor ei Rhieni. Ond y mae arfer ein hoes ni yn gosod i fynu ddoe∣thineb yn union yngwrthwyneb i hon, ac yn tybied rhai y prŷd hynny yn synhwyrol, pan dderchefir hwynt i'r râdd honno o ddirmygu cyngor, iè ac o watwor personau ei Rhieni. Os ni wrendŷ y cyfryw rai ar gynhorion, etto coffánt fygythiad y gŵr doeth, Dihar. 30.17. Llygad yr hwn a watwaro ei Dâd, neu a diystyro lywodraeth ei fam, a dynno cig-frain y dyffryn, a'r Eryrod a'i bwytáo.

12. Yr ail Ddylèd iddynt yw Cariad;* 1.14 rhaid yw bód gennin ni garedigrwydd perffaith iddynt y cyfryw ac a wná i ni ddeifyfu yn ddifrifol bób máth a'r ddaioni iddynt, a chashau gwneu∣thur dim a'i cythrwblio neu a'i digio hwynt. Ni ymddengys hyn ond diolchgarwch cyffre∣dinol pan gofir béth a wnaeth ein Rhieni troston ni; pa fódd y buon nhw nid yn unic yn foddion o'n dwyn ni ar y cyntaf i'r bŷd, ond hefyd o'n meithrin a'n cynnal ni gwedi hynny; ac yn wir pwy bynnag a iawn ystyrio 'r gofalon a'r ofn sydd yn dwyn plentyn i fynu, ni farnan nhw gariad plentyn ond tâl rhesymol i'w Rhieni am y cwbl. Rhaid yw dangos y Cariad hwn amryw ffyrdd, yn gyntaf, mewn pób rhyw ymddygiad llargaidd, gan ein hymddwyn ein hunain, nid yn unic yn barchus,

Page 306

ac yn ostyngedic, ond yn llaryaidd hefyd ac yn addfwyn, trwy wneuthur yn llawen ac yn ewyllysgar, bêth bynnag a ddŵg lawenydd a chyssur iddynt, a gochelyd yn ofalus bób péth a'i cythruddo ac a'i thistháo hwynt.

13. Yn ail rhaid yw dangos y Cariad hwn trwy weddío trostynt; y mae Dlêd plen∣tyn i'w Rieni mor fawr, na ddichon ef byth gwplhau ef ei hún, rhaid iddo gan hynny alw i mewn gymmorth Duw, ac erfyn arno ef obr∣wyo'r holl ddaioni a wnaeth ei Rieni trosto ef, trwy amlhau ei fendithion arnynt; bêth gan hyn∣ny a ddywedwn ni am y Plant hynny, y rhai yn lle galw am fendithion o'r Nêf ar ei Rhieni, ydynt yn chwillotta Uffern am felldithion ar∣nynt, ac yn tywallt allan regfáu tra-echryslon yn ei berbyn hwynt? Y mae hyn yn bêth mor resynol, ac y tybie ún na bydde raid yr ûn ymyn∣hédd yn ei erbyn ef, oblegid na alle néb fód mor a atgás a syrthio iddo; ond fe welodd Duw ei hûn, yr hwn a edwyn ein calonnau ni oreu, hyn yn bossibl ac am hynny a osododd y y gospedigath dostaf arno ef: Rhodder i far∣wolaeth yr hwn a felldithio ei Dâd neu 'i fam▪ Ezod. 21.17. Ond och! ni a welwn beunydd nad yw hyn bossibl yn unic ond cyffredin, sef, rhegu yn gyhoeddus. Ond fe ellir ofni, fôd ûn arall etto yn fwy cyffredinol, sef ewyllysio melldithiau, er bód ofn neu gywilydd yn ei cadw hwynt rhag traethu allan. Pa sawl Plentyn naill ai o annoddefgarwch llywo∣draeth, neu o chwant i feddiannau ei Rieni, a chwennychodd ei marwolaeth hwynt? Ond pwy bynnag sydd felly, meddylied er dirgeled

Page 307

a thecced yr ymddangoso ef o flaen dynion, fôd ûn yn canfod y dymuniadau dirgelaf hyn∣ny o'r galon, ac yn ei olwg ef ei fôd ef yn passio am y trosseddwr gresynol hwn, séf mell∣dithiwr ei Rieni. Ac yna Ystyrier, y dichon Duw yn gystal gospi, a chanfod; ac am hynny gan ddarfod iddo ef ddadcan marwolaeth i fód yn wobr y pechod hwn, nid yw anthesymmol disgwyl iddo am gyflawni hynny; sef i'r rhai sy'n gwilio am farwolaeth el Rhieni, gyfarfod yn ddisymmwth a'i marwolaeth ei hún. Y mae'r pummed Gorchymyn yn addaw hîr hoedl megys gwobr am anrhydeddu Rhieni, at ba ún y mae yn dra-chysson fód angeu disymwth yn gos∣pedigaeth am y gwrthwyneb bechod; ac yn ddiam∣meu nid oes dim mwy hynod yng wrthwyneb i'r Ddledswydd honno nag ydyw Rhegu ein Rhieni.

14.* 1.15 Y Trydydd Ddledswydd ddledus arnon ni iddynt, yw Ʋfydd-dod; nid yw hyn yn unic yn gynnhwysedig yn y Pummed Gorchymyn, ond a orchymynnir yn eglur mewn lleoedd eraill o'r Scrythur, Y Plant ufyddhewch eich Rhieni yn yr Arglwydd, canys hynny sydd gy∣fiawn; a thrachefn, Col. 3.30. Y Plant ufydd∣hewch eich Rhieni ymmhób dim, canys hynny sydd ddá iawn gan yr Arglwydd. Y mae'n ddledus arnon ni Ufydd-dod iddynt ymmhób péth, ond lle y mae ei gorchymynion hwynt yn gwrth∣wynebu gorchymynion Duw, ac yna rhaid i'n Dléd i Dduw gael y rhagor; ac am hynny os bydde ryw Rieni mor ddrŵg a cheisio gan ei Blentyn ledratta, dywedyd celwydd, neu wneu∣thur rhyw béth anghyfreithlon, nid yw'r Plen∣tyn yn trosseddu yn erbyn ei Ddledswydd, er

Page 308

iddo anufyddhau'r cyfryw Orchymyn, iè, rhaid iddo anufyddhau, neu fe a drossedda yn erbyn Dledswydd uwch o lawer, sef yr hon sydd yn ddledus arno i Dduw, ei Dâd Nefol. Etto pan fo fal hyn yn angenrheidiol neccau Ufydd-dod, fe ddyle ofalu am wneuthur hynny yn y cyfryw fódd gostyngedic a pharchus, fal yr ymddan∣goso mae Cydwybod yn unic, ac nid Ystyfni∣grwydd sydd yn ei annog ef i hynny. Ond mewn pob gorchymynion cyfreithlon, hynny yw, pan fo'r pêth a orchymynnir naill ai yn dda, neu heb fód yn ddŵg, sef, pan na bo dim yntho yngwrthwyneb i'n Dledswydd i Ddûw, yna' mae'r plentyn yn rhwym i ufyddhau, bydded y gorchymyn yn fawr neu yn fychan. Y mae'n rhŷ hynod ymmhób man o'r bŷd leied cyfrif a wneir o'r Ddledswydd hon, lle nid yw Rhieni gan mwyaf yn cael gan ei plant fód dim mwy tan ei llywodraeth, nag y byddont tan y wialen; pan gynnyddant hwy mewn oedran, 'maent yn ei tybied ei hunain yn rhyddion oddi∣wrth bód Ufydddod iddynt; ac os pery rhai yn ufydd, etto os chywilir yr achos fe geir gweled mewn gormod mae Synwyr bydol yn unic sydd yn ei hannog hwynt; y maent yn ofni anfodloni ei Rhieni, rhag iddynt hwy gwttogu ei llaw tu ag attynt, ac felly iddynt golli rhyw béth oddiwrthynt trwy hynny; Ond pa sawl ún sy'n ufyddhau yn unic o ran Cydwybod o'i Dledswydd? Yr oedd y pechod hwn o anufydd-dod i Rieni trwy Gyfraith Moses i'w gospi a marwolaeth, fal y darlleniwn ni, Deut. 21.18. ond pette Rhieni yr awrhon yn gwneuthur felly a'i Plant, fe wnai llawer ei hunain yn ebrwydd yn ammhlantadwy.

Page 309

15. Ond o holl rywogaethau o anufydd-dod,* 1.16 ún o'r mwyaf yw, Priodi yn erbyn cydsynniad Rhieni. Da a meddiannau Rhieni yw Plant, yn gymmint nad allant hwy, heb fáth a'r le∣drad, ei rhoddi ei hunain ymmaith heb gyd∣synniad y néb a'i pieu hwynt; ac am hynny ni a ddarllenniwn tan y Gyfraith, na oddefid i ùn fenyw gwplhau unrhyw adduned a wnaethe hi heb gydsynniad ei thâd, Num. 30.5. Yr oedd hawl y Tâd yn ei ferch cymmint, ac y galle fo ddi∣ddymmu rhwymedigaeth, ié, o adduned; ac yn wîr fe ddylen ninnau edrych arnihi yn gym∣mint ac i ymogelyd gwneuthur y cyfryw béth ac a ddiddymmo neu a leiháo'r hawl honno.

* 1.1716. Y Pedwerydd Dledswydd i Riéni yw ei cymmorth hwynt a gweini iddynt yn ei hóll angenrheidiau o ba fáth bynnag, megys gwen∣did, clefyd ei cyrph, diffyg deall, neu dlodi, ymmhób ún o'r rhain, y mae'r plentyn yn rhwym, yn ól ei allu, i'w cymmorth a'i cyn∣northwyo hwynt; am y ddau gyntaf, sef lles∣gedd y Corph, a gwendid y meddwl, ni ddi∣chon néb ammeu'r Ddledswydd, pan goffhánt môdd y darfu i bób plentyn yn ei febyd dder∣byn yr unrhyw gymwynas gan ei Rieni, pan nad oedd gan y Plentyn ddim nerth i'w gym∣morth, na synwyr i'w gyfarwyddo ei hún; r'oedd yn rhaid i ofal ei Rieni gwplhau pób ún o'r ddau hyn trosto ef, ac am hynny mewn módd o Ddiolchgarwch cyffredinol, pan ddych∣welo y rún o'r rhain i'r Rhieni, megys wei∣thiau trwy henaint, neu rhyw ddamwain arall y maent yn dychwelyd, rhaid i'r Plentyn

Page 310

gwplhau yr unrhyw swyddau yn ól iddynt hwy. Am ei cymmorth hwynt yn ei tlodi, y mae'r unrhyw rwymedigaeth arnynt ac i'r lleill, gan nad ydyw ond cyfiawn i ti gynnal dy Rieni, y rhai o'r blaen a'th gynhaliasant di: Ond heb law hyn y mae Crist ei hún yn ein dyscu ni fód hyn yn gynnhwysedig tan y gorchymyn o Anrhydeddu Rhieni; oblegid pan yw ef Mar. 7.13. yn argyoeddi'r Pharisaeaid, am ddirmygu gorchymyn Duw i lynu wrth ei traddodiadau ei hunain, y mae fo'n pennodi yn neillduol yn∣ghylch y Ddledswydd hon o gynnorthwyo Rhieni, lle y mae'n hynod fód hyn yn rhan o'r Ddledswydd honno a ofynnir yn y pummed Gor∣chymyn, fal y gellwch weled yn elelaeth yn y Testyn, ac y mae hi yn gyfryw Ddledswydd, na ddichon esgus na rhíth yn y bŷd ein rhy∣ddhau ni oddiwrthi hi. Pa fódd gan hynny yr ettyb y rhai hynny y sydd yn neccau cymmorth i'w Rhieni tlodion, y rhai ni ddichon ymadel a'i gweddill a'i gormodedd (y rhai yn wîr ydynt ei pechodau hwynt) i fodloni angen y rhai tan Dduw a roddodd iddynt ei bywyd? Ié, y mae rhai etto yn waeth, y rhai o wîr falchder nid yw wiw ganddynt gydnabod ei Rhieni yn ei tlodi: fal hyn y dychwel yn fynych pan dderchefir y Plentyn i olud neu fawredd, y maent yn tybied yn ammarch id∣dynt edrych ar ei Rhieni o isel râdd, oblegid fód hynny, fal y tybiant hwy, yn eglurhau i'r bŷd waeledd ei hâch hwynt, ac felly y mae'n waeth ar y Rhieni tlodion oblegid llwyddiant ei Plentyn. Y mae hyn yn gyfryw falchder ac annaturiolwch ynghŷd, ac a dderbyn yn ddi∣ammeu ddíal chwerwdóst gan Dduw: oblegid

Page 311

os dywed Solomon am falchder yn unic ei fód ef yn myned o flaen dinistr, Dihar. 16.18. ni a allwn yn hyfach draethu hynny am y ddau ymma ynghŷd.

17. Yn ddiweddaf, nid oes ún anghyweith∣asrwydd na bai yn y Rhieni a ddichon rydd∣dhau'r Plentyn oddiwrth y Ddledswydd hon; ond fel y dywed St. Petr. i wasanaeth-wŷr, 1 Pet. 2.18. Y bydd raid iddynt ymostwng mewn pób ofn i'w meistred, nid yn unic i'r rhai da cy∣weithas, ond i'r rhai anghyweithas befyd; felly yn ddiammeu y dyle Plant gwplhau'r Ddled∣swydd hon nid yn unic i Rieni addfwyn a Rhinweddol, ond i'r rhai gwaethaf a thostaf. Canys er bód addfwynder Rhieni yn annogaeth ddirfawr i blentyn i dalu ei Ddledswydd, etto nid hynny yw'r unic achos na'r mwyaf 'chw∣aith; hynny a osodir i lawr yngorchymyn Duw, yr hwn sydd yn peri i ni fal hyn an∣rhydeddu ein Rhieni, ac am hynny er dych∣welyd i Rieni fód mor annaturiol, a bód heb roi erioedd ar ei Plentyn unrhyw rwymedi∣gaeth o gariad (yr hyn nid ellir ond prin ei dybied) etto y mae Gorchymyn Duw yn parhau mewn grym, ac o ufudd-dod i hwnnw, rhaid i ni gwplhau'r Ddléd honno i Rieni, er na bo dim arall ar ei rhan ei hunain i'n han∣nog ni.

Ond megys ac y mae hyn yn ddledus ar y Plentyn tu ac at ei Rieni,* 1.18 felly o'r tu arall y mae pethau eraill yn ddledus ar y Rhieni tu ac at y Plentyn, a hynny o'i febyd allan.

Page 312

* 1.1918. Y cyntaf yw, gofal am ei feithrin a'i gynnal ef, yr hon Ddledswydd sydd yn dechreu o'i enedigaeth ef, ac yn parhau nes i'r Plentyn fód yn abl i wneuthur hynny trosto'i hún; dledswydd yw hon y mae Natur yn ei ddyscu; gan fód gan y bwystfilod gwylltaf ofal mawr a thynnerwch yn meithrin ei rhai ieuangc, yr hyn a argyoedda ac a euogfarna pób rhyw Rieni ac a esgeulysa hynny. Nid â'i ymma i són am y Testyn hwnnw, sef, A yw Mam yn rhwym i roddi i'w Phlentyn ei faethiad cyntaf, trwy roddi bron iddo ef ei hún, oblegid amm∣hossibl yw traethu dim yn gyffredinol am hyn∣ny, gan fód amryw bethau a ddichon newid hyn, a'i wneuthur nid yn unic yn gyfreithlon, ond yn oreu peidio a hynny; y cwbl a ddy∣weda'i am hyn yw, mae lle ni bo ún rhwystr o ran clefyd, gwendid, neu'r cyffelyb yn llud∣dias, goreu yn ddiammeu yw i'r Fam ei hún gwplhau'r swydd hon, gan y bydd hynny yn llesol iawn i'r Plentyn, yr hyn a ddyle Mam dda ei Ystyried cymmhelled na escenluso hi mo hynny, er mwyn porthi ei Syrthni, neu'i balch∣der rodresgar, neu'r cyffelyb.

* 1.2019. Ond heb law'r gofal cyntaf hwn, a ber∣thyn i gyrph Plant, y mae ún arall, a ddyle ddechreu agos cyn gynhared, a berthyn i'w Heneidiau hwynt, a hynny yw ei dwyn hwynt i'r Sacrament o Fedydd, módd y gallon trwy hynny gael hawl mewn prŷd i'r holl ragor∣freintiau gwerthfawr hynny, y mae'r Sacra∣ment honno yn ei roddi iddynt. Dledswydd yw hon na ddyle Rhieni mo'i hoedi, gan mae

Page 313

tra-rhesymol yw i'r rhai a fú yn offerau o ddwyn aflendid a llygredigaeth pechod a'r y dŷn bâch, fód yn ddiwyd iawn ac y ofalus i'w olchi ef ymmaith cyn gynted ac y bo possibl: Heb law hyn nid yw bywyd y cyfryw gryn∣ddŷn ond megis a wel, yr hon sydd yn fynych yn myned ymmaith mewn munudyn; ac er na ddylen ni anobeithio o Drugaredd Dduw i'r cy∣fryw blant truain, y rhai sydd yn marw heb fedydd, yn diammeu y mae y Rhieni hynny yn euog o bechod mawr, y rhai sydd yn esgeuluso ei dwyn hwynt i'w Bedydd mewn prŷd.

20. Yn ail,* 1.21 Rhaid i Rieni edrych am ddwyn ei Plentyn i fynu; rhaid iddynt, fel y dywed Solomon, Dihar. 22.6. Hyfforddio plentyn ym when ei ffordd. Cyn gynted gan hynny ac y delo Plant i ddeall rheswn, rhaid yw ei hathra∣wiaethu hwynt, a hynny yn gyntaf yn y pe∣thau a berthyn i'w llywyddiant tragywyddol, rhaid yw ei haddyscu hwynt bób ychydig ac ychydig yn yr holl bethau hynny y mae Duw yn ei orchymyn iddynt, megys ei Dledswydd i'w gwplhau; ac hefyd pa ryw wobrau gogo∣neddus a barotóodd ef iddynt, os gwnaent hwynt, a pha gospedigaethau echryslon a thra∣gywyddol os nis gwnaent. Fe ddylid tywallt y pethau hyn i feddyliau plant cyn gynted ac y bo possibl, y rhai (fel llestri newyddon) a fydd gan mwyaf yn cadw blâs y pethau a rod∣dir ynddynt yn gyntaf; ac am hynny y mae'n sefyll yn fawr a'r bób Rhieni edrych ar iddynt gael fal hyn ei pereiddio ar y cyntaf a Rhin∣wedd dda a Chrefydd. Yn ddiammeu os es∣geulusir hyn, y mae ún gar llaw yn barod i'w

Page 314

llenwi hwynt a'r union wrthwyneb, fe fydd y Cythrael yn ddigon diwyd i dywallt i mewn iddynt bób drygioni a pechod, a hynny o'i me∣byd; a chan fód yn ein hanian ni i gŷd lawer mwy parodrwydd i ddrŵg nac i dda, rhaid bód gofal a gwliadwraeth mawr i rag-rwystro bwriad y gelyn Eneidiau hwnnw, yr hyn ni ddichon fód mewn môdd yn y bŷd ond trwy gynnysgaeddu ei meddyliau hwynt ar y cyntaf a phethau da, trwy ei dwyn hwynt i garu Rhinwedd dda, ac i gashau pôb pechod, fel pan ddelo profedigaethau, y bônt gwedi ei har∣fogi yn ei herbyn hwynt. Hyn yn ddiammeu a ddyle Rhieni uwchlaw pôb péth edrych ar ei ól, ac y mae yr esgeulusdra o hyn yn greulon∣deb echryslon; yr ydyn ni yn edrych ar y Rhieni hynny megys rhai dihir tra-annaturiol, y rhai a ladda ei plant; ond och! y mae hynny yn drugaredd ac yn dynnerwch wrth ei gyffelybu a'r esgeulusdra ymma o'i dygiad i fynu; ob∣legid yr ydys trwy hynny yn dinistrio ei He∣neidiau hwynt, ac yn ei gwneuthur hwynt yn druenus yn dragywyddol; ac fe ŵyr Duw, fôd aneirif o'r cyfryw Rieni gwaedlyd yn y bŷd, y rhai sydd fal hyn yn rhoi ei Plant i fynu i'w meddiannu gan y Cythrel, o eisieu ei gwneuthur nhw yn gydnabyddus mewn prŷd a ffyrdd Duw; ié, yn wŷr y mae yn rhŷ hynod, trwy y tauogrwydd rhyfeddol a'r anwybodaeth sydd yn gyffredinol ymysg ieuengtid, leied sydd yn gwneuthur cydwybod o gwplhau'r Ddlédswydd hon: gan fôd Plant y rhai sydd yn ei galw ei hunain yn Gristianogion yn fynych heb wybod mwy am Dduw a Christ, na'r Paganaidd a'r di-dduw. Ond pwy bynnag ydynt sydd fal

Page 315

hyn yn esceuluso'r Ddledswydd fawr hon, gwybyddant nad ydynt hwy yn unic yn dwyn trueni gresynol ar ei Plant, ond euogrwydd echryslon hefyd arnynt ei hunain. Oblegid megys y dywed Duw wrth y gwiliedyddion diofal, Ezec. 3.18. Os cyfr-gollir ùn Enaid trwy ei hesgeulusdra hwynt, y gofynnir yr Enaid hwnnw o'i dwylaw hwynt; felly yn ddiammeu y bydd i bód Rhieni, i'r rhai yr ymddiriedodd Duw y swydd hon o wilio tros ei Plant ei hunain. Yr ail Rhan o feithrin yw ei dwyn hwynt i fynu mewn rhyw alwedigaeth, trwy ei gosod hwynt ar waith mewn rhyw gelfy∣ddid onest, módd y gallont ochelyd y rhwyd fawr honno o eiddo 'r Cythrael, sef, Diogi; ac y gallont hefyd gael ei hyfforddi mewn rhyw gywreinrwydd neu gelfyddid ddefnyddiol, fal pan ddelont mewn oedran, y bónt yn fuddiol i'r llês gyffredin, ac yn abl i ennill bywiolaeth onest iddynt ei hunain.

21. Fe ofynnir megys moddion angenrhei∣diol o'r Ddléd fawr hon o ddwyn Plant i fynu ddau béth; yn gyntaf, Rhoddi Cyssur, yn ail,* 1.22 Cerydd. Rhaid yw profi, yn gyntaf, ddywe∣dyd yn dêg, ac ymegnío i wneuthur Plant mewn Cariad a Dledswydd, trwy gynnyg iddynt wo∣brau i'w llithio hwynt ac edrych pan wnelont yn dda ar roi calon ynddynt i fyned ymlaen. Dull drŵg mewn rhai Rhieni yw meddwl na ddylent ymddangos o flaen ei Plant, ond a gwyneb sûr sarrug; hyn ond odid y mae St. Paul yn rhag-rybyddio Rhieni o'i blegid, pan yw efe yn peri i dadau ochelyd annog ei Plant i ddigofaint, Col. 3.21. Bód mor Sarrug ac

Page 316

anhywaith tu ac attynt, pan wnelont yn dda, a phan wnelont yn ddrŵg, yw'r módd i'w hannog hwynt i ddigofaint; ac yna fe ddywed yr Apostol i ni yn yr unrhyw adnod, béth a fydd y ffrwyth o hynny, ni bydd ganddynt mor galon i fyned ymlaen mewn ún ffordd dda, pan fo ei Rhieni heb edrych yn dêg arnynt ún amser. Yr ail módd yw Cerydd, yr hon a ddylid yn unic ei harferu pan na wná 'r llall mor daioni, pan fetho annogaethau ac ymbil, a phób moddion tég, yna angenrheidiol yw arferu rhai garwach; a rhaid yw profi hynny yn gyntaf mewn geiriau, nid wyfi'n meddwl trwy gynnen a drŵg araith, ond trwy argyoe∣ddiad pwyllog a thwys; ac os metha hynny hefyd, yna rhaid yw arferu cernodiau; ac yn y cyflwr hwn, fal y dywed Solomon; Yr hwn a arbeda ei wialen sydd yn cashau ei fâb, Dihar. 13.24. Ynfydrwydd creulon yw i ddyn trwy arbed ychydig wialennodiau yn y cyfamser, enbydu ei blentyn i'r drygau gresynol hynny, y rhai gan mwyaf a ddigwyddant i'r hwn a adewir iddo ei hún. Ond rhaid yw rhoi'r Cerydd hwn yn yn cyfryw fódd, ac a fo cyffelypaf i wneu∣thur llesháad; séf yn gyntaf mewn prŷd; ni wasanaetha gadael i blentyn redeg ymlaen mewn rhyw ddrŵg, nes iddo ef trwy hîr ymarfer, ddyfod i fód yn gyndyn ac yn Ystyf∣nig yntho ef. Bai mawr yw hyn mewn am∣ryw Rieni, nhw a adawan ei Plant yn llonydd tros amryw flynyddoedd, i wneuthur a fynnon, trwy oddef iddynt ddywedyd celwyddau, a lle∣dratta, heb gymmint a'i hargyoeddi hwynt ún amser, iè, ysgatfydd ei boddhau ei hunain yn gweled dychymygion digris-gall y Plentyn, a

Page 317

thybied na waeth pa béth a wnelont tra a bónt yn fychain: ond och! y mae'r pechod yr hóll amser hynny yn casclu gwraidd, a hynny yn fynych mor ddyfn, na ddichon mod∣dion yn y bŷd ar ól hynny, na geiriau, na gwialennodiau fŷth mo'i ddadwreiddio ef. Yn ail, rhaid i'r Cerydd fód yn gymmhedrol, heb ragori cynneddf y bai, na thynnerwch y Plen∣tyn. Yn drydydd ni wasanaetha ceryddu mewn llidiowgrwydd, onid-é, fe fydd y Cerydd nid yn unic mewn enbydrwydd o fód yn anghym∣medrol, ond yn anfuddiol hefyd i'r Plentyn, yr hwn a dybia ei fôd yn cael ei geryddu nid am ei fai, ond am fôd ei Rieni yn ddigllon, ac felly a fwrw'r bai yn hytrach ar y Rhieni nag arno ei hún; lle o'r tu arall y dylid bôd mor ofalus i wneuthur y Plentyn yn deimladwy o'r bai, ac o'r boen, heb ba ûn ni wellhá fo bŷth yn hollawl.

22. Gwedi i Blant gynnyddu mewn oedran,* 1.23 y mae Dledswyddau eraill etto ar Rieni i'w cwplhau iddynt; sef, gwilio yn ddibaid tros ei Heneidiau hwynt, ac ystyried pa fôdd y maent yn arferu 'r rheolau a'r athrawiaethau hynny a roddwyd iddynt yn ei hieuengtid ac yn gyfattebol i hynny ei rhybuddio, ei cys∣suro, neu'i hargyoeddi hwynt, fal y gwelont yr achos.

23. Felly hefyd am ei cyflwr oddiallan, rhaid iddynt ei rhoddi hwynt mewn rhyw ffordd i fyw yn y bŷd; os bendithiodd Duw y Rhieni a golud, rhaid iddynt gyfrannu a'i Plant yn ól y péth a fo ganddynt, gan gofio, mae fel y

Page 318

buont hwy yn offerau o'i dwyn hwynt i'r bŷd fod yn sefyll arnynt, yn ol ei gallu, baratoi bywiolaeth gyssurus iddynt yn y bŷd; rhiéni annaturiol iawn gan hynny yw y rheini, y rhai am y caffont ddigon i'w treulio ar ei trythy∣llwch a'i gormodedd ei hunain, ni waeth ganddynt béth a ddelo o'i Plant, ac ni feddy∣liant ún amser am baratoi iddynt hwy. Bai arall arferol iawn ymysg Rhieni yn hyn, yw oedi paratoi iddynt, nes iddynt hwy ei hunain farw; casclu ynghŷd, ysgatfydd, bentwrr mawr iddynt erbyn y prŷd hynny, ond bód yn y cy∣famser heb roddi iddynt cymmint, ac a wasa∣naetho yn gymwys iddynt i fyw yn y bŷd. Y mae amryw ddrygau yn tarddu o hyn: Yn gyntaf, y mae yn lleihau Cariad y Plentyn tu ac at ei Rieni, ié y mae hyn lawer gwaith yn cyrrhaeddid cymmhelled, ac i'w annog ef i ewyllysio ei farwolaeth ef; yr hyn er ei fód yn gyfryw bechod, na ddichon profedigaeth yn y bŷd ei esgusodi mewn plentyn, etto y mae'n fai mawr mewn Rhieni roi iddynt y temtasiwn hwnnw. Yn ail y mae hyn yn gosod y Plen∣tyn yn fynych, ar ryw ddichellion anonest, i gwplhau ei angenrheidiau; hyn yn ddiammeu sydd yn dychwelyd yn gyffredinol: fe ddarfu i galedwch Rhieni osod dynion ar foddion an∣ghyfreithlon, y rhai gwedi iddynt unwaith ymgynnefino a hwynt, fe fydd annodd iddynt ymadel a hwynt, er i'r achos cyntaf o hyn beidio; ac am hynny fe ddyle Rhieni wilied rhag enbydu ei Plant fal hyn. Heb law hyn y mae'r Rhiéni yn colli'r bodlonrhwydd hynny a allei fo'i gacl yn gweled ei Blant yn byw yn gyssurus, yr hyn ni newidie néb ond crinta∣chwr

Page 319

budr am y gwâg-bleser o fwynhau arian yn ei gîst. Ond ymma rhaid yw edrych ymm∣hellach ar fôd i Rieni ennill y golud hwnnw, a adawant i'w Plant, yn onest: onid-é fe fydd ymmhell iawn oddiwrth fôd yn gynnhysgaeth dda iddynt, gan y bydd y cyfryw felldith yn dilyn, fal nad yw'r hwn a adawo'r cyfryw gy∣foeth o'i ôl i'w blentyn, ond yn ei siommi a'i dwyllo ef, trwy wneuthur iddo ef goelio ddar∣fodd iddo adael golud iddo, pan yw ef hefyd gwedi gosod y cyfryw rŵd yn ei gymysg ac a fydd siccr o'i yssu ef allan a'i ddifetha ef. Y mae hyn yn béth mor hynod a chyffredinol, nad rhaid i mi ddywedyd dim i gadarnhau y gwirionedd o honaw; Mi a fynnwn pe bae pawb mor barod i ystyried hyn yn ei calonnau, ac y maent yn cymmeryd arnynt yn gyffredinol ddal Sulw arno: yna yn ddiammeu ni thybie Rhieni mor rhesymol arferu moddion anghy∣fiawn er mwyn casclu i'w Plant ar ei hól; ob∣legid nid dena'r ffordd i gasclu iddynt, eithr yn hyttrach i'w hyspeilio hwynt o'r péth a ddarsuasei iddynt ei gasclu iddynt o'r blaen yn gyfreithlon, gan fód y gronyn lleiaf o elw an∣ghyfreithlon o'r ún natur a Surdoes, yr hwn a sura'r hóll does, trwy ddwyn melldithion i lawr ar bód péth a fedd dŷn. Ymfodloned pób Rhieni gan hynny a'r cyfryw gyfran i'w Plant, ac a welo Duw yn dda iddynt allu ei gasclu yn onest, gan ei siccrhau ei hunain er lleied a fo hynny, fód hynny yn well na'r go∣lud mwyaf a gesclir yn anghyfiawn, fal y dy∣wed Solomon, Dihar. 16.8. Gwell yw ychydig trwy gyfiawnder, na chnwd mawr trwy gam.

Page 320

* 1.2424. Y Pedwerydd péth dyledus ar Rieni i'w Blentyn yw Siampl dda; nid digon iddo ef yn unic osod ar lawr iddo Reolau o Rinwedd, a Duwioldeb; ond rhaid iddo hefyd roddi iddo ef Esampl yn ei fuchedd ei hûn ni a welwn fod grym esampl yn anfeidrol tu hwynt i rym Gorchymyn, yn enwedig pan fo 'r hwn sy'n gorchymyn yn ûn y boni yn ei berchi, neu y bo ein hymarweddiad beunyddol ni gydág ef; ac y mae pôb ûn o'r ddau gan mwyaf yn ym∣gyfarfod mewn Rhieni. Fe ddyle pób Rhieni gan hynny edrych yn ddiwyd ar ei hymddwyn ei hunain felly o flaen ei Plant, fal y bo ei esampl nhw yn foddion i'w hennill hwynt i Rinwedd; Ond och! nid oes ond ychydig O'r gofal hwn yn yr oes hon, ond y mae cy∣mmhelled oddiwrth hynny, nad oes néb yn offerau o lygru Plant yn fynychach na 'i Rhieni ei hunain. Ac yn wir pa fódd y di∣chon fód yn amgenach? tra 'i bo dynion, yn rhoddi iddynt ei hunain rydd-dyd i bób dry∣gioni, nid ellir disgwyl, na bydd i Blant, sydd yn ystyried hyn, galyn ei hôl hwynt: Y Plentyn a welo ei Dád yn feddw, a dybia yn ddiammeu, y gall yntau fód felly hefyd yn gystal a'i Dâd. Felly yr hwn a glywo ei Dâd yn tyngu, a wna 'r cyffelyb, ac felly am bób trosseddau eraill; ac os dychwel ryw Rieni a fo fal hyn yn drŵg ei hûn, fôd etto yn fwy gofalus am Enaid ei Blentyn na 'i eiddo i hûn, cym∣mhelled ac i warasun iddo ef y pethau y bo fo ei hûn yn ei wneuthur, neu i gery∣ddu ef am ei gwneuthur hwynt, fe feddwl y Plentyn yn ddiammeu fód hyn yn ang∣hyfiawnder

Page 321

mawr yn ei Dâd, ei gospi fo am y péth y mae fo ei hun yn, ei wneuthur yn hylaw, ac felly nid yw efe debyg i wellhau bŷth wrth hynny. Fe ddyle 'r Ystyriaeth hon roddi rhwym caeth iawn ar bôb Rhieni i fyw yn Gristianogawl, canys onid-é nid ydynt hwy yn unig yn Peryglu ei Heneidiau ei hunain, ond eiddo 'i Plant hefyd, ac megys yn pwrca∣su iddynt etifeddiaeth yn Uffern.

25. Y pummed Dled-swydd ar Rieni yw bendithio ei Plaut;* 1.25 a'r môdd o wneuthur hyn∣ny sydd o ddau fâth, yn gyntaf, trwy ei Gwe∣ddi; nhw a ddylen beunydd trwy weddi ddi∣frifol ei Gorchymyn hwynt i nodded Duw a'i fendith, yn gystal am ei llywyddiant ysprydol ac amserol; ac yn ail, trwy ei Duwioldeb; rhaid iddynt fód yn gyfryw rai ei hunain ac y bo i fendith ddescyn oddiwrthynt ar ei hep∣pil. Hyn a addewir yn fynych yn y scrythy∣rau i'r duwiol, y bydd ei hâd hwynt yn fendi∣gedig. Felly yn yr ail Gorchymyn, y mae Duw yn addaw dangos trugaredd i filoedd o'r rhai a'i carant ef, ac a gadwant ei Orchymynnion ef. Ac y mae 'n addas i ddal sulw arno am yr Idde∣mon, er ei bôd yn genhedlaeth war-galed, ac iddynt annog Duw yn ddirfawr i ddigofaint, etto yr oedd Duwioldeb ei henafiaid hwynt▪ Abraham, Isaac, a Jacob, yn annog Duw yn fynych i'w gwared hwynt rhag dinistr; o'r tu arall ni a welwn ddarfod i ddy∣nion da lwyddo yn waeth oblegid anwire∣ddau ei Tadau; felly pan ddestrywiasei Josi∣ah Ddelw-addoliaeth, ac yr adferasei wa∣sanaeth Duw, ac y gwnaethai ddaioni tu

Page 322

hwynt ir hôll Frenhinoedd a fuasei o'i flaen ef, etto yr oedd hên relyw o eiddo ei Daid Ma∣nasseh, yr hyn nid allei ei holl dduwioldeb ef mo 'i ddeleu, ond y mae Duw yn ymroi yn ddisigl i fwrw Juda hefyd o'i olwg, fal y dar∣llennir yn ehelaeth yn, 2 Bren. 23. Os oes gan hynny ddim ymyscaroedd gan Rieni, na dim tynnerwch tu ac ei Plant, neu wîr ddymuni∣ad ei llwyddiant hwynt, cymmerant ofal trwy ei buchedd dduwiol ei hunain i adael bendith iddynt o'i hol.

* 1.2626. Yn chweched, Rhaid i Rieni ofalu ar iddynt arferu ei hawdurdod tros ei Plant trwy bwyll a Chymmedrolder, heb ei gorthrym∣mu nhw a Gorchymynion anrhesymol, yn unic er mwyn dangos ei hawdurdod ei hunain, ond mewn pôb péth pwysfawr ystyried gwîr ddaioni ei Plant, a gochelyd ei cymmell nhw i ddim a fo gwrthwyneb i hynny. Rheol yw hon a ddyle Rhieni yn fynych ei harferu, ond yn enwedig wrth Briodi ei Plant ymmhá béth y bu llawer ar fai, y rhai oeddynt mewn pethau eraill yn Rhieni da; pan font o wîr awydd i'w rhoi nhw yn gyfoethog, yn ei cymmell hwynt i briodi yn hollawl yn erbyn ei meddwl, yr hyn sydd greulondeb mawr, ac sydd yn fynych yn dwyn arnynt liaws o ddrygau, y cyfryw ac na ddichon hôll olud y bŷd ei diwygio. Y mae dau béth a ddyle Rhieni ei ystyried yn enwedig wrth Briodi ei Plant; yn gyntaf pa fodd y gallont fyw yn Gristianogawl; ac i'r diben hwnnw nhw a ddylen ddewis iddynt ún rinweddol a duwiol; yn ail pa fodd y gallont fyw yn llawen, ac yn gyssurus yn y bŷd hwn,

Page 323

ac i'r diben hwnnw edrychan am gymmedrol∣deb, ond nid gormodedd o olud, yr hyn ni ddylen nhw yn rhŷ daer ei chwennychu; y péth a wná 'r cyflwr hwnnw yn ddewyddach o lawer, yw i'r ddwy blaid garu a hoffi ei gilydd, heb pa ûn Priodas yw'r anghyssuraf cyflwr yn y bŷd, ac am hynny ni ddyle ûn Rhiéni wthio ei Blentyn ar hynny o'i an∣fodd.

Notes

Do you have questions about this content? Need to report a problem? Please contact us.