Holl ddled-swydd dyn gwedi ei osod ar lawr, mewn ffordd hynod ac eglur, desnyddiol i bawb, ond yn enwedig i'r darllenydd mwyaf annyscedig : gwedi ei ddosparthu i XVII. o bennodau : y rhai, trwy ddarllen un o honynt boáb dydd yr Arglwydd, a ddarllenir i gyd trostynt deirgwaith yn y flwyddyn : angenrheidiol i boáb teuluoedd : ynghyd a Dwywolder neillduol ar amryw achosion / a gyfiaithwyd yn Gymro-aeg gan Jo. Langford ...

About this Item

Title
Holl ddled-swydd dyn gwedi ei osod ar lawr, mewn ffordd hynod ac eglur, desnyddiol i bawb, ond yn enwedig i'r darllenydd mwyaf annyscedig : gwedi ei ddosparthu i XVII. o bennodau : y rhai, trwy ddarllen un o honynt boáb dydd yr Arglwydd, a ddarllenir i gyd trostynt deirgwaith yn y flwyddyn : angenrheidiol i boáb teuluoedd : ynghyd a Dwywolder neillduol ar amryw achosion / a gyfiaithwyd yn Gymro-aeg gan Jo. Langford ...
Author
Allestree, Richard, 1619-1681.
Publication
London :: Printed for R. Royston ...,
1672.
Rights/Permissions

This keyboarded and encoded edition of the work described above is co-owned by the institutions providing financial support to the Early English Books Online Text Creation Partnership. Searching, reading, printing, or downloading EEBO-TCP texts is reserved for the authorized users of these project partner institutions. Permission must be granted for subsequent distribution, in print or electronically, of this text, in whole or in part. Please contact project staff at eebotcp-info@umich.edu for further information or permissions.

Subject terms
Christian life.
Devotional exercises.
Cite this Item
"Holl ddled-swydd dyn gwedi ei osod ar lawr, mewn ffordd hynod ac eglur, desnyddiol i bawb, ond yn enwedig i'r darllenydd mwyaf annyscedig : gwedi ei ddosparthu i XVII. o bennodau : y rhai, trwy ddarllen un o honynt boáb dydd yr Arglwydd, a ddarllenir i gyd trostynt deirgwaith yn y flwyddyn : angenrheidiol i boáb teuluoedd : ynghyd a Dwywolder neillduol ar amryw achosion / a gyfiaithwyd yn Gymro-aeg gan Jo. Langford ..." In the digital collection Early English Books Online 2. https://name.umdl.umich.edu/A23743.0001.001. University of Michigan Library Digital Collections. Accessed May 18, 2024.

Pages

Page 266

DOSPARTHIAD, XIII.

Am Ddrwg-Absen, Cam-dystiolaeth, En∣llib, Hustyng; gwawdio am Wendid, Trallodau, Pechodau, &c. Am Gyfi∣awnder gweithredol, am Wirionedd, Celwydd, &c. Am Genfigen ac Anair. Am Ddiolchgarwch, &c.

§. 1. YPedwerydd Caingc o Gyfiawnder o Ommeddiad a berthyn i Fri ein Cy∣mydogion, yr hwn ni ddylen ni mo 'i leihau na 'i waethygu mewn môdd yn y bŷd, yn enwedig nid trwy ddrwg-Absen: o ba rai y mae dau fáth, ûn yw pan fo dŷn yn dywedyd rhyw béth am ei gymydog yr hyn a wŷr efe yn hollawl ei fod yn gelwydd y llall yw pan fo gantho ef ysgatfydd ryw debygo∣liaeth wael, neu eiddigedd o'r péth; ond hyn∣ny ar y cyfryw Sylfaen gwan, a bod y péth mor debyg i fôd y ffals ac yn wîr. Ymmhób ûn o'r rhain y mae euogrwydd mawr yn fefyll ar y Traeth-ŵr. Fôd felly yn y cyntaf o'r rhain nid oes néb yn ammeu gan fôd pawb yn cydna∣bod mae 'r brynti mwyaf yw dychymmig cel∣wydd ar ûn aral; ond y mae cyn lleied o reswm i ammeu 'r llall, oblegid pwy bynnag a draetha ryw béth megys gwirionedd, yr hyn nid yw ond ammheus, sydd yn gelwydd-ŵr, neu os efe

Page 267

ni thraetha mono ef megys siccrwydd, ond yn unic megys cyffelybrwydd i fôd yn ŵir, etto er nad yw efe yn hynny yn euog o gelwydd, y mae efe o anghyfiawnder yn yspeilio ei gymydog o'i Enw dâ; oblegid y mae y fáth dueddiad mewn dynion i goelio yn ddrŵg am eraill, ac y gwa∣sanaetha 'r cyffelybrwydd lleiaf i'r diben hwn∣nw, os tenir hynny ûnwaith allan; ac yn ddi∣ammeu anghyfiawnder tra-echryslon yw ar bôb tebygoliaeth a ffansi wae peryglu dwyn cymmaint o ddrŵg ar ûn arall; yn enwedig pan ystyrir, fôd y dychymygion hynny gan mwyaf yn tarddu allan oddiwrth ryw ragfarn, drŵg-nawsrwydd, neu falis yn y drwg-dybŵr, yn hyttrach nag ûn bai cyhoeddus yn y dŷn a enllibir.

2. Nid yw 'r môdd o danu 'r ddau fáth yma o Ddrwg-absen yn unrhyw yn wastad; y mae ef weithiau yn fwy cyhoeddus ac agored, weithi∣au yn fwy dirgel a chuddiedig: y módd cyhoe∣ddus yw yn fynych trwy gam-dystiolaeth o flaen y Barn-ŵyr yn y Dadleu-dŷ: ac nid yw hyn yn unig yn briwo dŷn yn ei enw dá, eithr mewn moddion eraill hefyd: y mae hyn∣ny yn ei roi fo i fynu i gospedigaeth y Gy∣fraith, ac yn gwneuthur iddo ef niwed mwy neu lai, yn ôl maentioli 'r bai y cyhuddir ef am dano; ond os bŷdd efe o'r fáth uchaf, fe all gyrrhaeddid ei fywyd ef, fal y gwelwn ni wneuthur o hono ef ynghyflwr Naboth, 1 Bren. 21. mor fawr ac echryslon yw 'r pechod hwn o herwydd hyn, ac oblegid yr anudonedd hefyd, chwi a ellwch ddyscu wrth y péth a draethwyd am bób ún o'r pechodau hynny.

Page 268

Yr ydwyfi 'r awrhon i'w Ystyried ef yn unig megys ac y mae efe 'n cyrrhaeddid yr enw dá; ac i hwnnw y mae efe yn archoll resynol, cael fal hyn dystiolaethu bai yn gyhoeddus yn erbyn ûn, a'r cyfryw nad ellir mo 'i ddiwygio ond pryn trwy ddim er a ellir ei wneuthur ar ôl hynny i'w ddiheuro ef; ac am hynny y mae pwy bynnag sydd yn euog o hyn yn gwneuthur anghyfiawnder tra-echryflon a'i gymydog; dymma 'r péth a waherddir yn hynod yn y Nawfed Gorchymyn ac a ordeinwyd gan Dduw i'w gospi trwy roddi arno ef yr unrhyw gospe∣digaeth, ac a amcanodd ei gau-dystiolaeth ef ei ddwyn ar y llall Deut. 19.16, 17, &c.

3. Yr ail modd cyhoeddus o danu'r drŵg∣absen ymma yw ei mynegi nhw yn safn-rhwth yn gyffredinol; er nid o flaen Swydd-ŵr, megys o'r blaen, etto mewn pób cyfeillach, ac oflaen cyfryw rai ac a fo debyg i'w ddwyn ef ymmhellach, a hyn a wneir gan mwyaf ynghŷd a sarháad a dirmyg chwerw-dóst, gan mae arferol gelfyddyd Enllib-wŷr yw rhoi senn a drygair i'r néb y bónt yn ei enllibio, fal trwy doster yr achwyniad y gallont roddi dyfnach seliad ym meddyliau y gwranda wŷr; Y mae hyn yn gystal o herwydd yr Enllib, a'r drygfri, yn gam mawr, a phób ún o honynt yn gyfryw ac a gau y rhai a'i gwnánt allan o'r Mêf; felly Psal. 15. lle y Portréir y gŵr cyfiawn, a gaiff ei gyfran yno, hyn yw ûn péth arben∣nig, gwer. 3. Nad ydyw ef yn enllibio ei gymy∣dog; ac am ddrygfri a sarháad y mae 'r Apostol mewn amryw fannau yn ei cyfrif hwynt ymysg y gweithredoedd hynny o'r Cnawd y

Page 269

rhai a gau ddynion allan yn gystal o'r Eglwys ymma trwy escymmundod, fal y gellwch weled 1 Cor. 15.11. ac allan o Deyrnas Dduw ar ôl hyn, megys y mae, 1 Cor. 6.10.

4. Y môdd arall mwy dirgel a chuddiedig o danu y cyfryw ddrŵg-absen yw ffordd y Hu∣styngwr, yr hwn sydd yn amgylchu o'r naill i'r llall, ac yn bytheirio allan ei sarháad yn ddir∣gel, nid o fwriad i'w gwneuthur hwynt yn llai cyhoeddus, eithr yn hyttrach yn fwy; gan fôd y ffordd gyfrwys-ddrŵg yma o'i traethu hwynt yn ddirgel, yn fôdd i wneuthur iddynt gael ei coelio yn hawsach, a bôd mwy o sôn am danynt hefyd: oblegid yr hwn a dderbynnio 'r cyfryw chwedl megys péth cyfrinachol gan ûn, a feddwl foddhau rhyw ûn arall hefyd, trwy ei draethu fo megys péth cyfrinachol iddo ynteu hefyd, ac felly mae fo 'n myned o'r naill law i'r llall, nes iddo danu a'r diwedd trwy 'r hôll Drêf: Y fáth ymma o Enllibiwr yw 'r perycclaf o'r cwbl, oblegid ei fód efyn gwei∣thio yn y tywyll, ac yn rhwymo pawb y traetho fo wrthynt na bo iddynt gyfaddes mae efe yw 'r Awdur, felly lle y dichon dyn a argyoeddir yn gyhoeddus gael rhyw foddion i'w amddiffyn ei hûn, ac o ddadcuddio ei gyhuddŵr ymma nid yw bossibl iddo ef gael hynny, gan fôd yr Enllib, fal gwenwyn dirgel, yn gweithredu effeithiau anfeddyginiaethol, cyn i'r dŷn ei ddirnad ef. Y mae St Paul yn rhoi ar lawr y pechod hwn o hustyng, ymysg y pechodau mawr hyn∣ny y rhai sydd yn tarddu allan o feddwl ang∣hymmeradwy, Rhuf. 1.29. mae ef yn wîr yn un o'r archollion anfeddyginiaethol y cle∣ddyf

Page 170

ddyf hwn, sef y tafod; adwyth a dinistr cyfeil∣lach ddynol; a'r cyfryw ac yw yn Yspeilio nid yn unig ddynion neillduol o'i henwau dá, ond yn fynych teuluoedd cyfan, ié a chyfeillach gyffre∣dinol ddynion o'i heddwch: pa ryw dinistr a chythryfwl a wnaeth yr ûn pechod hwn yn y bŷd? Y mae Solomon yn nodi, Dibar. 16.28. fod yr hustyngwr yn neillduo'r cyfeillion anwylaf, ac fe all dŷn yn ddiammeu ddywedyd am dafodau a arferir fal hyn, ei bôd nhw gwedi ei gosod ar dán gan Ʋssern fal y dywed St. Jaco Pen. 3.6.

5. Y mae hwn yn gyfryw euogrwydd, ac y dyleni ochelyd hób rhyw râdd o hono ef, y rhai ydynt amryw; y râdd gyntaf yw clûst-ym∣wrando, a chofleidio y rhai a ddaw i enllibio, oblegid y mae'r neb sydd yn ei dderbyn, ac yn ei croesawu hwynt, yn ei hachlefu nhw yn ei hymarfer; oblegid fal y dywed ein Dihareb gy∣ffredinol ni, ni bydde ûn lleidr oni bae bod Derbyniwr, felly pe bydde néb yn ymwrando a chwedlau, ni bydde dim Hustyngwŷr. Yr ail râdd yw bód yn rhŷ barod i'w coelio hwynt, oblegid y mae hynny yn ei helpu nhw, i gael rhan oi' diben, y maent yn chwennychu i bawb yn gyffrodinol dybied yn ddrŵg o'r cyfryw ddŷn, ond y ffordd i hynny yw gwneuthur yn gyntaf i ddynion neillduol dybied felly: Os goddefi di iddynt hwy wneuthur hyn ynoti, y maent hwy cymmhelled a hynny gwedi llwyddo yn ei bwriad. Ac o'th ran dithau yr wyti'n gwneuthur anghyfiawnder mawr a'th gymydog, credu yn ddrŵg am dano ef heb achos cyfiawn, yr hyn yn ddiammeu nid yw achwyniad y cy∣fryw

Page 271

ddŷn. Y Drydydd râdd yw cyhoeddi i eraill y péth a ddywedir i ti fal hyn, yr wyti felly yn dy wneuthur dy hún yn blaid yn yr Enllib, a chwedi iti yn anghyfiawn dynnu ym∣maith dy debygoliaeth ddá dy hún oddiwrth dy gymydog, wyt yn ymegnio i'w yspeilio ef o dŷb da rhai eraill hefyd. Nid yw hyn fawr llai pechod na hwnnw o eiddo'r hustyng-wr cyntaf, ac y mae fe'n tueddu cymmaint i dde∣strywio Enw da ein Cymydog. Ac y mae'r amryw raddau hyn yn crogi mor agos y naill ar y llall, fal mae annodd iawn a fydd i'r néb a groesawo'r cyntaf ochelyd y lleill; ac yn wîr fe ellir tybied am y dŷn hwnnw a ymhyfryd a yn clywed enllibio ei gymydog, ei fód ef o'r fáth feddwl faleisus na ommedda fo gyhoeddi allan yr Enllib. Yr hwn gan hynny a fynno gadw ei ddiniweidrwydd yn hyn ymma, gwi∣lied yn y râdd leiaf groesawu na chynnwys y néb a ddycco'r cyfryw ddrŵg-absen. Ac y mae hynny mor angenrheidiol er mwyn ei heddwch ef, a'i ddiniweidrwydd; oblegid nid all y néb a dderbynnio 'r cyfryw hustyng-wŷr fŷth ddis∣gwyl llonyddwch, ond ei gyffrhoi yn ddibaid hyd yn oed yn erbyn ei geraint nessaf a cha∣rediccaf; am hynny edryched pawb ar yr hustyng-ŵr a'r enllibŵr megys gelyn cyffre∣dinol, gan ei fód ef felly yn gystal i'r rhai wrth ba rai, ac am ba rai, y bo fo yn tra∣ethu.

6. Ond heb law'r ffordd gyhoeddus ymma o enllibi, y mae ûn arall, trwy ba ún y gallwn ni ddrygu enw dá ein Cymydog, sef trwy ddir∣myg a gwradwydd, ûn effaith gyffredinol o ba

Page 272

ûn i'w ei wawdio a'i watwor ef, ac y mae hyn yn gam mawr i'w enw dá éf: oblegid y mae y rhan fwyaf o ddynion yn cymmeryd i fynu opiniwnau o ymddiried, yn hyttrach nag o farn bwyllog; ac am hynny os, gwelanhw ddŷn yn cael ei ddibrisio a'i ddirmygu, fe fyddan hwythau yn debyg iawn i wneuthur y cyffelyb. Ond heb law hyn y mae anghyfi∣awnder, presennol yn y weithred hon o ddir∣mygu eraill. Nid oes ond tri phéth yn gyffre∣dinol a wneir yn achos o'r gwradwydd hwn, (oddigaeth gydá rhai sydd yn gwneuthur Rhin∣wedd, a Duwioldeb yn beth mwyaf gwrad∣wyddus, ac nid yw'r cyfryw ddirmyg yn erbyn ein cymydog yn unig, eithr hefyd yn erbyn Duw ei hún, er mwyn pa ún y mae efe yn cael fal hyn ei ddirmygu) y tri hynny yw, yn gyntaf gwendid, yn ail trueni, yn drydydd pechodau dŷn, ac y mae pób ún o'r rhain ymmhell oddiwrth fód yn achos o'i ddiystyru ef.

7. Yn gyntaf am Wendid, pa ún bynnag a'i o'r Corph a'i o'r Meddwl, gwrthuni ac an∣harddwch y naill, neu wendid a ffoledd y llall, y maent yn bethau tu hwynt i'w allu ef i'w helpu, nid ei fai of ydynt, ond doeth-drefniad y Creadur mawr, yn hwn sydd yn rhoddi godi∣dawgrwydd y Corph a'r Meddwl, fal y gwêl ef yn ddá, ac am hynny nid yw gwatwor dŷn ob∣legid eifieu' rhain, ddim llai na dirmygu Duw yr hwn ni roddes iddo ef monynt.

8. Felly hefyd am Drallodau a thrueni y rhai a ddychwel i ddŷn, pa ûn bynnag, a'i eisieu new glefyd, neu béth bynnag arall, y mae y

Page 273

rhain hefyd yn dychwelyd trwy ragluniaeth Duw yr hwn sydd yn derchafu i fynu, ac yn tynnu i lawr, fal y gwêl ef yn ddá, ac ni pherthyn i ni farnu béth sydd yn ei annog ef i wneuthur felly, fal y gwná llawer y rhai pan welant ryw helbul yn dychwelyd i ddŷn a fwriadant yn ebrwydd mae rhyw euogrwydd dirfawr yn ddi∣ammeu sydd yn tynnu hyn ar ei wartha ef, er na fedrant bennodi ar y'rûn neillduol. Y farn fyrbwyll hon y mae ein Hiachawdr yn ei ar∣gyoeddi yn yr Iddewon, Luc. 13. lle ar yr ach∣lysur o drueni dirfawr y Galiléaid, y mae ef yn gofyn iddynt, gwer. 2. a ydych chwi yn tybied fod y Galiléaid hyn yn fwy pechaduriaid na'r holl Ga∣liléaid eraill am iddynt oddef y cyfryw bethau? Nac oeddynt meddaf i chwi: ac oni edifarhewch chwithau, chwi a gollir yn yr ûn môdd ôll. Pan welon ni law Dduw yn dromm ar eraill, nid ein rhan ni yw ei barnu hwynt, ond ni ein hunain, a rhagflaenu trwy edifeirwch y péth a haeddodd ein pechodau ni. Ond gwradwyddo a dirmygu rhai mewn trueni yw'r creulondeb echryslon hynny y mae'r Psalmydd yn ei ben∣nodi megys y drygioni eithaf, Psal. 69.26. Er∣lidiafant yr hwn a darawsit ti, ac am ofid y rhai a archollaist ti y crybwyllant: Mewn pób trueni rhai eraill, y mae tosturi yn Ddlêd arnon ni; mor anghyfiawn gan hynny yw y rhai yn lle talu iddynt y ddlêd honno, a'i tralloda hwynt ymmhellach a gwatwor a dirmyg?

9. Ná, pechodau dynion, er fal y mae ynd∣dynt fwy o'i hewllys hwynt, nhw a allant ym∣ddangos i haeddu dirmyg yn fwy, etto yn ddi∣ammeu y maent hwy hefyd yn ein rhwymo ni

Page 274

i'r Ddlêd-swydd rag-ddywededig o dosturi, a hynny yn y râdd uchaf, gan ei bód hwynt, uwchlaw pób péth arall, yn gwneuthur dŷn yn dra-thruenus; os Ystyriwn ni yn hyn i gŷd▪ mor dueddol ydyn ni ein hunain i'r cyfryw be∣thau, ac mae trugaredd Dduw yn unig tu ag attoni sydd i'n cadw ni rhag y cyflwr gwae∣thaf y mae ûn dŷn arall tano, fe weddai yn well i ni yn ddiammeu, edrych i fynu atto ef trwy ddiolchgarwch, nag i wared arnynt hwy trwy ddirmyg a gwradwydd. Fal hyn y gwelwch chwi pa anghyfiawnder dirfawr ydyw gwat∣wor a diystyru ein brodyr, at pa ûn pan adro∣ddir y llall, yr hwn yn naturiol a'i dilyna ef, séf, gwneuthur i eraill hefyd yn yr ûn módd ei ddirmygu ef, nid oes ammeu nad yw hynny yn anghyfiawnder dirfawr ac echryslon tu ag at ein Cymydog o herwydd ei fraiut ef a'i Enw da.

10. Yr awrhon fe ellir mesur mor fawr yw'r Camwedd o ddinistrio Enw da dŷn trwy'r ddau béth hyn; yn gyntaf gwerth y péth yr Yspeilir ef o hono; ac yn ail anhawsder gwneuthur di∣wygiad am dano. Am y cyntaf, fe wyddir yn gyffredinol mae enw da dŷn yw'r péth y mae ef yn ei gyfrif yn werthfawroccaf, iê, yn fynych yn gúach na'i fywyd, fal y gwelwn ni wrth y perigl y mae dynion weithiau yn rhedeg iddo, er mwyn cynnal ei bri ffugiol; ond yn ddiam∣meu y mae ef yn gyfryw béth ac a gyfrifwyd gan ddynion sobr yn ûn o ddedwyddwch mwyaf y bŷd hwn: Ac i rai máth ar ddynion, yn enwedig y cyfryw ac sydd yn cael ei bywi∣olaeth trwy negeseuau bydol, y mae ef mor an∣genrheidiol

Page 275

ac y gellir yn ddá ei gyfrif ef megys moddion ei bywiolaeth▪ ac yna yn ddiammeu, nid yw béth gwael Yspeilio dŷn o béth mor werthfawr iddo.

11. Yn ail y mae'r Anhawsder o wneuthur diwygiad yn anghwanegu'r Camwedd, ac y mae hynny yn gyfryw yn y cyflwr hwn o Enllib, ac y galla'i yn hyttrach ei alw ef yn ammhossibl∣rhwydd nag yn anhawsder: oblegid pan gynn∣wys dynion unwaith ddrŵg dŷb am ryw ddŷn, annodd iawn yw gweithio hynny allan o ho∣nynt; yn gymmaint a bód yr Enllibiwr yn hyn ymma, yn debyg i Gonsur-wr ieuange yr hwn a gyfyd Gythrel na wyr efe pa fodd i'w ostwng tra∣chefn. Ié, bwriwch fód dynion yn gyffredinol mor barod i feddwl yn dda ac y maent i feddwl yn ddrŵg o'i Cymydogion, etto mor ammhos∣fibl yw i ddŷn, er iddo alw yn ól yn gyhoeddus yr Enllib, wneuthur i bób dŷn ar y glowodd y naill ddyfod i glywed y llall? Ac os bŷdd ûn dŷn heb glywed hynny (fal ond odid y bydd llawer) y mae'r diwygiad yn dyfod yn fyrr o'r Camwedd.

12. Y mae'r Ystyriaeth ymma yn ddigon i beri i ddynion arswydo gwneuthur y Cam hwn i'w Cymydogion; ond na wneler deunydd o hyn ymma i escusodi y rhai a wnaeth y cam yn barod, rhag ymegnío i wneuthur diwygiad hyd yr eithaf o'i gallu; oblegid er mae odid iddo ef fód mor ehang a'r camwedd, er hynny gwnánt yr hyn a allont tu ac at hynny: Ac y mae hyn mor angenrheidiol tu ac at gaffaeliad maddeu∣ant o'r pechod, nad all néb ddisgwyl y naill

Page 276

ond a gwplháo'r llall. Pwy bynnag gan hynny a ymrŷ i edifarhau o'r cyfryw feiau, rhaid iddo ef trwy bób moddion pwyllog ymegnío i ed∣fryd i'w gymydog ei fri ef a'i enw da cymm∣helled ac y dygasei efe ef oddiarno o'r blaen, ac os efe ni ddichon wneuthur hynny heb ddwyn y cywilydd arno ei hún, trwy gydna∣bod yr enllib yn gyhoeddus, rhaid iddo yn hyt∣trach ymroi i hynny, na bód yn ddeffygiol o gwplhau'r rhan angenrheidiol ymma o gyfiawn∣der, sy'n ddledus arno i'r néb y troseddwyd yn ei erbyn.

13. Mi a draethais bellach am y pedair rhan o Gyfiawnder o ommeddiad tu ag at ein Cymy∣dog; lle y mae yn rhaid i ni etto Ystyried ymmhellach, nad ydyw'r Cyfiawnder hwn yn ein rhwymo ni oblegid ein Geiriau yn unig, a'n Gweithredoedd, ond oblegid ein Meddyliau he∣fyd, a'n haffeithiau; nid ydys yn unic yn ein gwahardd ni i niweidio, ond i gashau; nid di∣gon i ni ymgadw yn unig rhag dwyn yr ûn o'r rhagddywededig ddrygau arno ef, ond ni ddy∣leni cymmaint a'i hewyllyfio hwynt ymlaen llaw, nag ymhyfrydi ynddynt gwedi iddynt ddychwelyd iddo ef: ni ddyleniymddigrifo nag ymmhechod ei Enaid ef, nag yn ni∣wed ei Gorph ef; ni ddyleni genfigennu iddo ddim da y mae fo'n ei fwynhau, na chym∣mint ac ewllysio meddiannu dim o'i eiddo ef: ac nid digon i ni ffrwyno ein tafod rhag en∣llibio a rhoddi drygair, os bydd gennini y malis hwnnw yn ein Calonnau i chwennych ei ddrwg∣absen ef; neu ymhyfrydi yn clywed eraill yn gwneuthur hynny. Priodoldeb neillduol Cy∣freithiau

Page 277

Duw yw, ei bôd hwynt yn cyrrhaedd∣id y galon; pan na ddichon yr eiddo dynion gyrrhaeddid ond y Geiriau a'r gweithredoedd yn unig; ac y mae y rheswm yn eglur, ob∣legid efe yw 'r unig Ddeddf-ŵr; yr hwn a ddichon ganfod béth sydd yn y galon; am hynny pe bydde 'r diniweidrwydd mwyaf yn ein tafod a'n dwylo ni, etto os ni bydd purdeb calon, ni ryddhéir ni bŷth gar ei fron ef. Rha∣gorol gan hynny yw cyngor Solomon, Dihar. 4.23. Cadw dy galon yn draddiesceulus, ca∣nys allan o honi y daw bywyd. Cadwn hon∣no yn ddyfal, na bo 'i ún meddwl maleisus anghyfiawn fyned i mewn iddi; a hynny nid yn unig, megis ac y dichon hynny fôd yn foddion o'n bradychu ni i'r weithred o Genfigen, ond hefyd megys ac y mae hynny yntho 'i hún yn gyfryw ffieidd-dra yngolwg Duw, ac a'n anghymwysa ni i'r weledigaeth fendigedig honno o Dduw, yr hon nid oes i néb addewid o'i gweled on i'r pûr ei galon, Matth. 5.8. Gwyn eu byd y rhai glân o galon, canys hwy a welant Dduw.

14. Yr wyfi 'r awrhon yn dyfod i draethu am y rhan Bendant o Gyfiawnder, yr hon yw talu i bób dŷn yr hyn trwy fáth yn y bŷd o Gy∣fiawnder a all ef i ofyn gennini. O'r Dledi∣on hyn y mae rhai yn gyffredinol i bôb dy∣nol ryw, eraill a grynhôir tan ryw gyflwr ne∣illduol, a chynneddfau dynion, ac ydynt yn unig yn ddlédus oblegid y cynneddfau hynny.

15. Or fáth gyntaf, sef y rhai sy'n ddledus ar bôb dyn, ni a allwn gyfrif yn gyntaf, ddy∣wedyd

Page 278

y Gwirionedd, yr hyn sydd yn Ddlêd gyffredinol arnoni i bôb dynol ryw; yma∣droddiad a roddwyd i ni megys offer o gyfe∣illach a chyweithasrwydd rhwng y naill a'r llall, y moddion o ddadcuddio 'r meddwl, yr hwn oni bae hynny a fydde yn ddirgel ac yn guddiedig, yn gymmaint oni bae hwn, ni bydde ein hymarweddiad ni ond fal yr eiddo anifeiliaid: yr awrhon gan yr amcanwyd hwn er Daioni a mantes dynol ryw, y mae ef yn ddléd i'r unrhyw, fôd ei arferu ef i'r diben hwnnw; ond y mae 'r hwn a ddywedo Gel∣wydd cymmhelled oddiwrth dalu 'r Ddléd hon no, ai fôd ef yn y gwrthwyneb yn gwneuthur ei ymadrodd yn fôdd o niweidio a thwyllo 'r néb y bo fo yn ymddiddan ac ef.

16. Llawer a ellid ei drathu i ddangos yn yr amryw rywogaethau o Rwymedigaethau sydd arnoni i ddywedyd y Gwirionedd wrth bôb dŷn; ond gan fy môd i yn scrifennu i Gristianogion, nid rhaid i mi sefyll ar yr ún o honynt, namyn y Gorchymynion sydd i ni am hyn yn y Scrythur, Eph. 4.25. Y mae 'r Apostol yn gorchymyn gan fwrw ymmaith gel∣wydd, fód i bawb ddywedyd y gwîr wrth ei Gy∣mydg: a thrachfn, Col. 3.9. Na ddywedwch gelwydd wrth ei gilydd: a Dihar. 6.17. fe a roddir ar lawr yno dofod celwyddog megys ûn o'r pethau hynny sydd ffiaidd gan yr Arglwydd. Ié, cymmhelled y mae ef yn chashau Celwydd, na ddichon y diben mwyaf duwiol a chrefy∣ddol ei gymmodi ef ac efo; y dŷn a ddywedo gelwydd er mewn zêl i ogoniant Duw, etto a fernir megys pechadur, Rhuf. 3.7. béth gan

Page 279

hynny a ddychwel i'r lliaws hynny o ddynion sydd yn dywedyd celwydd ar ddibennion gwrthwyneb i hyn? Rhai o falis, i ddrygu eraill; rhai o gybydd-dod, i dwyllo 'i Cymydogion; rhai o falchder, i'w gosod ei hunain allan, a rhai o ofn, i ochelyd rhyw enbydrwydd, neu i guddio rhyw fai. Ond máth mwy rhyfe∣ddol na 'r rhain óll yw y rhai sydd yn gwneu∣thur hynny heb unrhyw demtafiwn i'w han∣nog, ond a ddywedant gelwyddau yn gy∣ffredinol fal chwedlau, ac a ymhyfrydant yn traethu pethau rhyfeddol, er nad ydynt yn ennill dim wrth hynny, ond yr Enw o fod yn gelwydd-ŵyr gwág-rodresgar.

17. Ymysg yr amryw rywogaethau hyn o ffalsder, y mae Gwirionedd yn béth mor estronaidd yn ein mŷsg ni a bód yn annodd iawn cael y cyfryw ddŷn ac y mae Dafydd yn ei bortreio, Psal. 15.2. Yr hwn a ddywed wîr o'i galon. Y mae dynion gwedi cynnefino ei tafo∣dau mor fynych i gelwyddau, a'i bôd nhw yn gwneuthur hynny yn arferedig ar bôb rhyw achosion, heb ystyried fód Duw neu ddŷn yn ei canfod hwynt. Ond y maent hwy yn cam-gymmeryd ymmhell ymmhòb ún; oblegid nid oes nemmawr o bechod (yr hwn a ymegniir i'w gadw 'n gyfrinachol) a ddad∣cuddir yn gynt gan ddynion: annodd iawn i'r rhai sydd wedi ei harferu ei hunain i gelwydd (er cystal ei côf hwynt) na fradychant hwy ei hunain ar ryw amser neu i gilydd; a phan wnelont hwy hynny, nid oes unrhyw fáth ar bechod a ddiystyrir ac a ddirmygir fwy na hwn; oblegid y mae pawb yn cyfrif celwydd∣ŵr

Page 280

yn ditl o fwyaf dirmyg a gwradwydd a all fôd. Ond am Dduw, ynfydrwydd yw gobei∣thio y dichon ei holl gyfrwysdra ei cuddio hwynt rhagddo ef, yr hwn nid rhaid iddo wrth y moddion damweiniol hynny o ddad∣cuddiad fal y rhaid i ddynion, ond y mae ef yn canfod y galon, ac felly yn gwybod ffalsedd ein geiriau ni tra 'i boni yn ei trae∣thu hwynt: ac yma y mae ef yn rhwym trwy ei Ditl o Dduw y Gwirionedd, nid yn unic i gashau, ond i'w cospi hwynt; ac felly ni a welwn, Dadc. 21.8. fód y rhai celwyddog yn nifer y rhai hynny, y rhai a gueir allan o'r Gaersalem newydd; ac nid hynny yn unic, ond hefyd sydd a'i cyfran yn y pwll hwnnw yr hwn sydd yn llosci o dân a Brwmstan. Oddigaeth gan hynny iti fód o feddwl y Barn-ŵr anghyfiawn hwnnw y mae Crist yn son am dano, Luc. 18.2. yr hwn nid of ne Dduw, ac ni pharche ddyn, rhaid iti lawn-fwriadu ar y rhan ymma o Gyfiawnder, sef, rhoi heibio gelwydd, yr hwn a ffieiddir gan bób ún o'r ddau.

18. Yr ail péth y sydd yn ddledus arnoni i bawb i'w Mwynder a Moesgarwch yngwrth∣wyneb i'r tauogrwydd sarrug hwnnw a ddy∣wedir ei fód yn Nabal, yr hwn oedd or cyfryw dymmer nad allai ddyn ymddiddan ac efo, 1 Sam. 25.17. Y mae yn ddiammeu gym∣mint o barch yn ddlédus i ddynol ryw, na ddi∣chon ún rhagorfraint damweiniol o iechyd neu anrhydded, sydd gan y naill uwchlaw 'r llall, ei ryddhau ef oddiwrth y Ddlêd honno, ié, tu ag at y gwaelaf o ddŷn; ac am hynny y mae'r ymddygiad anynad drwg-nawsus hon∣no

Page 281

tu ag at y néb a fo gantho ond gŵedd dŷn, yn anghyfiawnder tu ag at y Natur honno y mae ef yn gyfrannog o honi. A phan ystyrioni faint y mae 'r Natur honno gwedi ei hanrhydeddu, trwy i fâb Duw ei chymmeryd hi arno ef, y mae 'r rhwymedi∣gaeth i'w pherchi hi etto yn fwy, ac felly y mae 'r pechod o'i dirmygu hi yn fwy.

19. Hyn yw bai cyffredinol pób rhai balch ac uchel, y rhai sydd mor ddiwyd yn ei maw∣rygu ei hunain, a'i bód yn dirmygu pób péth sydd yn werthfawr mewn eraill, ac felly 'maent yn meddwl nad oes cymmint ac hy∣nawsedd cyffredinol yn ddledus arnynt hwy i eraill, tra 'i bo 'nhw yn ei gosod ei hunain i fynu, megys y gwnaeth Nebuchadnezzar ei ddelw, i'w haddoli gan bawb. Y mae hyn yn dra-gwrthwynebus i'r péth y mae 'r Apostol yn ei gynghori, Rhuf. 12.10. Byddwch yn blaenori eu gîlydd yn rhoddi parch: a thrachefn, Phil, 2.1. Na edrychwch bób ún ar yr eiddoch eich hunain, eithr edryched pób ún hefyd ar yr eiddo eraill; a chofied y cyfryw rai eiriau ein Ia∣chawdr bendigedig, Luc. 14.11. Y néb a'i derchafo ei hún a ddarostyngir, a'r néb a'i da∣rostwngo ei hún a dderchefir, yr hyn a welwn ni yn fynych ei wneuthur yn dda mewn cwym∣piadau rhyfeddol dynion beilchion. Ac nid rhyfedd, oblegid fód y pechod hwn, yn gwneu∣thur Duw a dynion yn elynion i ni; y mae Duw, megys y tystiolaetha 'r Scrythur mewn amryw fannau, yn ei ffieiddio ef, a phawb a'r sydd yn euog o honaw; ac nid oes ûn pechod yn annog dynion i'w gashau yn fwy na hwn,

Page 282

oblegid ymddygiad uchel a dirmygus y rhai sydd yn euog o hono ef; ac yna pwy a ddichon siccrhau a chynnal i fynu y rhai y mae Duw a dynion fal hyn yn ei wrthwynebu?

20. Y Trydydd péth dyledus arnon ni i bawb, yw Llaryeidd-dra; hynny ydyw y cyfryw am∣mynedd a mwyneidd-dra tu ag at bawb, ac a ffrwyna'r digosaint a'r Cynddaredd hynny, yr hyn nid yn ùnig sydd yn anesmwyth i ni ein hunain, megys y dangoswyd o'r blaen, ond sydd hefyd yn dra-niweidiol i'n Cymydogion, fal y mae'r amryw gwerylon horphwyllus a wneir ynddynt hwy yn tystiolaethu yn helaeth. Fód y Ddledswydd ymma o Laryeidd-dra yn ddledus i bawb nid oes ammeu, gan fód yr Apostol yn gorchymyn hynny yn hynod, 1 Thess. 5.14. byddwch ymarbous wrth bawb, a hynny megys heb yn waethaf i bób rhyw annogaeth i'r gwrthwyneb, fel y calyn yn y geiriau nessaf, Gwelwch na thalo néb ddrwg dros ddrwg i neb, neu ddirmyg am ddirmyg; ac fo orchymynir i Timotheus ymarfer y Llaryeidd-dra ymma, ie, tu ag at y rhai a wrthwynebant Athrawiaeth yr Efengyl, 2 Tim. 2.25. Ac fe debygid y gellid cyd-ddwyn a phéth poethni yn yr achos hwn, os gellid mewn dim.

21. Y mae'r Rhinwedd ymma o Laryeidd-dra mor angenrheidiol i gynnal heddwch y bŷd, nad yw ryfedd ddarfod i Grist, yr hwn a dda∣eth i sefydlu tangnheddyf ymŷsg dynion, ei or∣chymyn ef i bawb. Y mae yn rhŷ hynod fód yr effeithiau gwrthwynebus iddo of, sef llíd a chynddaredd, yn amlwg ymmhób man; y maent

Page 283

yn gwneuthur cythryblaeth mewn Teymafoedd, Cymydogaeth, Teuluoedd, iè, ac ymysg y ce∣raint nessaf; y maent yn gyfryw anwydau, a bód Solomon yn ein cynghori ni i ochelyd gw∣neuthur cymdeithas a'r néb a fo yn euog o ho∣nynt, Dihar. 22.24. Na fydd gydymmaith i'r dig llon ac na chyd-gerdd a gwr llidiog. Y maent yn gwneuthur dŷn yn anghymwys i fôd yn gyfaill nag yn gydymmaith; ac y maent yn wîr yn gwneuthur ún yn gâs ac yn annoddefus gan bawb, fel i'n dyscir trachefn gan Solomon, Dihar. 21.19. lle y dywed ef, Mae gwell yw aros yn yr anialwch, na chydá gwraig anynad ddigllon; ac etto nid oes gan wraig, gan mwyaf, ond ún offeryn yn unig, séf y tafod, i wneu∣thur niwed. Yn wîr nid oes nemmawr o béth anesmwythach gan ûn dŷn, ond a fo o'r un∣rhyw ddull ffromllud ei hún, nag ymgymdei∣thasu a'r cyfryw rai, er dychwelyd i'r péth nád elo ddim pellach na geiriau. Ni a allwn farnu mor ddirfawr yw'r pechod hwn, wrth y péth a ddywed ein Iachawdr am dano ef, Mat. 5. lle yr ordeinir amryw raddau o gospedigaeth i amryw raddau o hono ef; Ond och! yr ydyni beunydd yn myned tu hwynt i'r râdd uchaf a osodir i lawr yno; nid yw galw ûn yn ynfyd ond máth dymherus ar wradwyddo, wrth y lliaws hynny o ddirmygion chwerwon yr ydyn ni yn ei harferu yn ein cynddeiriogrwydd.

22. Ié, yr ydyni yn fynych yn myned etto yn uwch, nid yw gwradwyddiadau yn gwasa∣naethu 'n tró ni, ond rhaid i ni regu hefyd; mor gyffredin yw clywed dynion yn arferu rhegu a melldithio ar 〈◊〉〈◊〉 bób rhyw achosion gwael

Page 284

o anfodlonrhwydd? Ié, Ysgatfydd heb aehos yn y bŷd; mor hollawl yr anghofiason ni reol yr Apostol, Rhuf. 12.14. Bendithiwch ac na fell∣dithiwch; ié, a gorchymyn ein Jachawdr bendi∣gedig ei hún, Mat. 5.44. Gweddiwch tros y rhai a wnél niwed i chwi. Y mae Crist yn erchi i ni weddio tros y rhai a wnánt a ni fwyaf o gam, ac yr ydyn ni yn fynych yn rhegu y rhai ni wnaethant ddim i ni. Y mae hyn yn fáth ar ddywedyd ein Gweddiáu yn y gwrthwyneb, yr hyn yw rhan, medd rhai, o Ceremoni 'r Cyth∣rel wrth wneuthur Dewines, ac y mae i ninnau hefyd achos i edrych ar hyn megys moddion i'n dwyn ni i gydnabyddiaeth, a chyngrair a'r Yspryd melldigedig hwnnw yn y bŷd hwn, ac i aros gyda'g ef yn dragywydd ar ôl hyn. Araith Uffern yw hi, yr hon ni ddichon bŷth ein cymhwyso ni i fôd yn Ddinasyddion y Ga∣ersalem newydd, eithr sydd yn ein nodi ni allan am bresswyl-wŷr y tîr hwnnw o dywyllwch. Mi a ddibennaf hyn a chyngor yr Apostol, Eph. 4.31. Tynner ymmaith oddiwrthych bób chwer∣wedd, a llîd, a dîg, a llefain, a chabledd ynghyd a phób drygioni.

23. Gwedi i mi draethu cymmhelled am y Dledswyddau cyffredinol hynny a berthyn i bób rhyw ddŷn, mi a âf bellach ymlaen at y rhy∣wogaethau eraill hynny o Ddledswyddau a ber∣thynant i ryw rai neillduol o herwydd rhyw gynneddfau arbennig. Y Cynneddfau hynny a ddichon fód o dri mâth, séf o Odidowgrwydd, o Eisieu, neu o Garennydd.

Page 285

24. Trwy Odidowgrwydd yr wyfi'n meddwl pób máth o ddoniau rhagorol neu gynnescaed∣diad Dŷn, megys Doethineb, dysceidiaeth, a'r cyffelyb, ond yn enwedig Grâs: y mae i rhai'n sydd yn ddoniau rhagorol Duw, brîs dirfawr a pharch yn ddledus, pa le bynnag y cansyddir hwynt; a hyn sydd raid i ni yn ewyllysgar ei dalu, trwy gydnabod yn llonn ac yn fodlongar ei ddoniau hynny ym mhwy bynnag y darfu iddo ei rhoddi hwynt, a thrwy ei perchi a'i hanrhydeddu hwynt yn gyfattebol i hynny, ac nid allan o dŷb rhy dda o'n godidowgrwydd ein hunain, dirmygu a dibrisio yr eiddo eraill, megys y gwná y rhai ni chydnabyddant fód dim yn rheswm, ond y péth a draethant hwy ei hunain, na bód dim yn Dduwioldeb, ond a gyd∣synnia a'i hymarfer ei hunain.

25. Ni wasanaetha i ni ychwaith genfigennu na gwrwgnach fód ganddynt hwy'r doniau hynny, oblegid nid yw hynny yn unig yn gam∣wedd yn ei herbyn hwynt, ond yn erbyn Duw hefyd yr hwn a'i rhoddodd hwynt, megys y gosodir yn helaeth ar lawr yn nammeg y llafur∣wyr, Mat. 20. lle y mae ef yn gofyn iddynt hwy oedd yn gwrwgnach am haelioni y Meistr i eraill, Onid yw gyfreithlon i mi wneuthur a fynnwyf' am heiddo fy hún, a ydyw dy lygad ti yn ddrwg am fy mód i yn dda? Y Cenfigennu ymma am ddaioni Duw i eraill nid yw amgen na gwrwgnach yn erbyn Duw, yr hwn sydd yn trefnu pethau fal hyn, ac ni ddichon bód mwy ac unionach wrthosod yn ei erbyn ef, nag i mi gashau ac ewyllysio yn ddrŵg i ddŷn, heb ûn achos, ond am ddarfod i Dduw ei garu ef,

Page 186

a gwneuthur yn dda erddo ef. A thrachefn os edrychwn ni ar y dyn, y péth mwyaf anrhesy∣mol yn y bŷd yw ei garu ef yn llai, yn unig oblegid fód gantho ef y cynneddfau da hynny, oblegid pa rai y dylwn i ei garu ef yn fwy.

26. Ni wasanaetha i ni ychwaith oganu go∣didowgrwydd rhai eraill, na cheisio ei lleihau na'i tywyllu hwynt, trwy neccau naill ai'r rhy∣wogaethau, ai'r graddau o honynt, fal trwy'r moddion hynny i dynnu ymmaith y parch hwnnw sydd yn ddyledus iddynt. Y mae'r pe∣chod hwn o ddrŵg-absen yn gyffredinol yn tarddu allan o'r llall, sef Cenfigen; fe fydd yr hwn a genfigenna odidowgrwydd ún, yn barod i wneuthur oymmaint ac a allo i'w leihau ef yn nhebygoliaeth eraill, ac i'r pwrpas hwnnw, naill a'i ef a draetha yn ysgoewan am danynt; neu os byddant mor gyhoedd, na ŵyr efe pa fôdd i'w gorchguddio hwynt, efe a ymegnia, trwy draethu allan, ryw wîr neu ffugiol wendid yntho ef, i leihau prîs y llall, ac felly trwy daflu i mewn rhai gwybed meirwon, fal y dywed y gŵr Doeth, Preg. 10.1. efe a gais ddifwyno Sawyr yr Ennaint. Y mae hyn yn gamwedd tra-mawr, ac yn union yngwrthwyneb i'r Ddlêd sydd arnoni o gydnabod ac anrhydeddu doniau Duw yn ein brodyr.

27. Ac y mae pób ûn o'r pechodau hynny, séf cenfigen a gogan gan mwyaf mor ynfyd ac y maent yn anwireddus; y mae'r genfigen yn wastad yn dwyn poen ac artaith ar ddyn ei hún, lle pe gallei fo ond edrych yn Suriol ac yn llawen, ar y doniau da hynny o eiddo eraill;

Page 287

ni fethai fo bŷth fód ei hún yn well o'i plegid hwynt; fe fydde'r hyfrydwch o'i gweled hwynt yn beth mantes iddo ef: ond heb law y dichon y doniau hynny o eiddo'i frawd fód amryw ffyrdd yn fuddiol iddo ef, fe all ei Ddoethineb a'i ddysceidiaeth ef roddi iddo ef athrawiaeth: ei dduwioldeb a'i Rinwedd ef roddi iddo, Esampl, &c. Ond hyn óll y mae'r gŵr cenfi∣gennus yn ei golli, ac nid oes gantho ddim yn gyfnewid am hyn ond arteithio yn ddibaid, a chnoi i galon ei hûn.

28. A thrachesn am Enllib, anhawdd iawn yw ei drefnu ef felly, fel nas dadcuddir ef; yr hwn a fydd yn wastad yn ymosod i geisio cwmylu enw da rhai eraill, a ddadcuddia yn ebrwydd ei fód ef yn gwneuthur hynny o gen∣figen, ac yna yn ddiammeu fe wná hynny i rai feddwl yn waeth o hono ef, ond nid o'r néb y bo fo yn ei genfigennu, gan fód yr Enllib hwnnw yn dwyn máth o dystiolaeth i'r godi∣dowgrwydd hynny, y rhai y mae ef yn ei dy∣bied a haedda'i genfigen ef.

29. Y péth a ddywedwyd yn awr am y parch a'r brî dyledus i'r godidowgrwydd hynny o'r meddwl, a ellir mewn grâdd îs ei cyfa∣ddasu at y Rhagorfreintiau oddiallan, o anrhy∣dedd, mawrhydi a'r cyffelyb. Y rhai hyn er nad ydynt mor odidog a'r lleill (ac yn gyfryw na ddyle néb dybied yn well o hono'i hún o'i plegid) etto o herwydd bód y graddau hyn a'r rhagoriaeth o ddynion trwy ddoeth Rag∣luniaeth Duw gwedi ei trefnu er llywodra∣ethu'r bŷd yn well, y mae'r cyfryw barch foe∣sawl

Page 288

yn ddyledus i'r rhai'y rhoddodd Duw hyn iddynt, ac a ddichon yn oreu gynnal y drefn honno er mwyn pa ún yr amcanwyd hwynt. Am hynny rhaid i bób rhai o isel râdd ei hym∣ddwyn ei hunain yn foesawl ac yn barchedig tu ag at ei blaenoriaid, ac nid trwy ei hyfdra diwybod terfyscu'r drefn honno a welodd Duw yn dda ei gosod yn y bŷd, ond fel y mae Ca∣techism ein Heglwys yn dyscu, ei hymddwyn ei hunain yn ostyngedig, gan berchi pawb o'i gwell. Ac yma y mae'r cyfarchwyl rhagddywededig yn erbyn cenfigen yn dra-chymmedrol; gan fód dynion yn gyffredinol yn fwy teimladwy o'r rhagorfreintiau ymma oddiallan, nag o'r lleill, ac am hynny nhw fyddánt parottach i genfi∣gennu a gwrwgnach yn gweled eraill yn my∣ned tu hwynt iddynt yn y pethau hyn; i hyn gan hynny y mae'r holl ragddywededig. Ysty∣riaethau yn erbyn Cenfigen yn dra-chymwys a phriodol, ac yn fwy angenrheidiol gwneuthur deunydd o honynt yn hyn, o gymmaint ac y mae'r brofedigaeth yn hyn yma yn fwy i'r rhan fwyaf o ddynion.

30. Yr ail cynneddf yw hwnnw o Eisieu; pwy bynnag sydd arno eisieu rhyw béth y gallo▪ i ei roddi iddo, y mae ei gyfryw ddiffyg yn ei gwneuthur hi yn Ddled-swydd arna'i ei gym∣morth ef, a hynny mewn pób math ar angen. Yr achos o hynny yw hyn, Duw a gynnysga∣eddodd dynion a doniau, nid er ei mwyn ei hunain yn unig, ond hefyd er búdd a llês i eraill, ac am hynny pa brŷd bynnag y bo ei hangen nhw yn gofyn; y mae'n ddyléd arnynt ei diwallu hwynt, a'r péth a roddwyd iddynt

Page 289

i'r deunydd hwnnw. Rhaid i'r annoeth a'r annysgedig gael ei addyscu a'i gyfarwyddo gantho ef yr hwn sydd gantho wybodaeth, a dena ún diben arbennig, er mwyn pa ûn y rhoddwyd yr wybodaeth hón iddo ef; y tafod dyscedic a roddwyd i fedru llefaru gair mewn pryd, Esa. 50.4. Rhaid i'r llawen a'r hyfryd gyssuro 'r athrist a'r helbulus. Y mae St. Paul yn gwneuthur hyn yn ddiben er mwyn pa ún yr oedd Duw yn ei gyssuro ef, fel y galle ddiddanu y rhai sydd mewn dim gorthrymder, 2 Cor. 1.14. Rhaid i'r néb a fo gantho odfa a doniau i hynny, argyoeddi a chyngori 'r hwn a fo mewn rhyw gwrs o bechod. Y mae 'n eglur fód hyn yn ddyléd arnoni i'n cymydogion; trwy 'r testyn hwnnw, Levit, 19.17. Na chasa dy frawd yn dy galon gan geryddu cerydda dy gymydog, ac na ddioddef bechod ynddo; lle yr ydyni tan yr ún rhwymedigaeth i'w ar∣gyoeddi a'i geryddu ef, ac ydyni i beidio a'i gashau ef. Rhaid i'r néb a enllibir ar gam gael ei amddiffyn gan yr hwn a wypo oddiwrth ei ddiniweidrwydd ef, ac onid-é, y mae éf yn ei wneuthur ei hún yn euog o'r Enllib, oblegid iddo esgeuluso gwneuthur y péth a ddichon ei dynnu ef ymmaith; ac mi a ddangosais i chwi yn barod faint o anghyfiawnder yw enllibio ein cymydog.

31. Yn ddiweddaf, rhaid i'r hwn a fo mewn amlder a helaethrwydd gynnothwyo 'r tlawd a'r anghenus; ac y mae ef yn rhwym i hyn∣ny, nid yn unig o elusen, ond o gyfiawnder hefyd. Y mae Solomon yn galw hyn yn ddyléd, Dhar. 3.27. Na attal ddaioni oddiwrth y

Page 290

rhai y mae ef yn ddyledus iddynt pan allech ei wneuthur: ac y mae fo yn hyspysu yn y wers nessaf, béth yw 'r daioni hwnnw; Na ddy∣wed wrth dy gymydog, cerdda ymmaith, a thyret amser arall, y foru mi a roddaf i'ti, a chennit béth yn awr i roddi iddo. Wrth hyn ni a welwn mai attal dyléd yw oedi rhoddi elusen i'n cy∣mydog tlawd. Ac yr oedd Duw ymys yr Idde∣won yn didoli rhyw gyfran o gynnydd pób dŷn i'r tlodion, sef y ddegfed bób trydydd flwyddyn (yr hyn yw 'r ûn faint a'r ddegfed rhan ar hugain bob blwyddyn) Deut. 14.28, 29. Ac yr oedd yn rhaid talu hyn nid megys rhódd neu elusen, ond megys dyléd; yr oedden nhw yn anghyfiawn os attalien nhw ef. Ac yn ddiammeu nid oes i ni reswm i feddwl fód Cyfiawnder Gristianogaidd cymmint îslaw 'r Iddewaidd, ac nad oes yr awrhon ddim, neu lai dogn yn dledus arnoni nag oedd arnynt hwy. Mi a synnwn pette ein hymarfer ni yn gy∣fattebol i'n rhwymedigaeth yn hyn ymma, yna yn diammeu ni a gaen weled llai o gardottei∣on yn gorwedd yn ddiymwared wrth ein dry∣sau, gan fòd iddynt well hawl i'n gormodedd ni nag sydd i ni hunain, ac yna béth ydyw ond pûr ledrad dreulio ei cyfran hwynt ar ein hoseredd, neu ein pechodau ni?

32. Yn yr holl bethau rhagddywededig, rhaid yw i'r néb a fo mewn gallu edrych ar∣no'i hún, megys gorchwyliŵr Duw, yr hwn a roddodd béth yn ei dwylaw hwynt i'w ddos∣parthu i'r anghenus; ac am hynny nid yw ddim llai anghyfiawdder na thwyll esgeuluso hyn, nag a fydde i ryw oruchwyliwr gadw

Page 291

iddo ei hún yr arian hynny a ymddiriedwyd iddo er mwyn cynhaliaeth yr hòll deulu; a'r néb a wnelo hyn disgwylied yn dra-chyfiawn, farnedigaeth y gorchwyliwr anghyfiawn, Luc. 16. cael ei fwrw allan o'r oruchwyliaeth, sêf, cymmeryd ymmaith y doniau hynny oddiarno ef, y rhai a arferodd ef mor anffyddlon. Ac megys am yr holl ddonniau hynny, felly yn enwedig am olud, se welir yn gyffredinol y dygir ef oddiar y rhai fal hyn a dwyllant y tlodion o'i cyfran, ac fe fydd y cybydd crib∣ddeiliog yn syrthio yn fynych i dlodi trwy foddion rhyfeddol disymmwth; ac nid rhy∣fedd gan nad oes iddo ef fraint i fendith Dduw ar ei bentwrr, yr hwn nid yw yn cyssegru cy∣fran iddo ef yn ei aelodau tlodion. Ac am hynny ni welwn yr Iraeliaid cyn gallu o ho∣nynt osod hawl i'r Addewid ar i Dduw ei bendithio hwynt, Deut. 26.15. Edrych o drigle dy sancteiddrwydd, a bendithia dy bobl Israel, &c. fod yn rhaid iddynt yn gyntaf da∣lu degymmau 'r tlodion, gwer, 12. Y mae 'r arbed ymma yn fwy nag a weddai, fal y dywed Solomon, Dihar. 11.24. yn tueddu i dlodi; ac am hynny fel y chwennychit ti chwareu yr hwsmon da trosot dy hún, edrych am gw∣plhau 'r Cyfiawnder hwn yn ôl dy allu i bawb a fo mewn Eisieu.

33. Y Trydydd cynneddf yw Carennydd, ac o honno y mae amryw fáth, yn tarddu o'r un∣rhyw achosion a Dledswyddau cyfattebol i bôb un o honynt. Yn gyntaf y mae perthynasrwydd rhwng Dlédŵr a Choeliwr; a phwy bynnag sydd felly yn rhwym, pa ûn bynnag a'i trwy far∣chnad,

Page 292

a'i benthyg, a'i addewid, ei ddlêd ef ydyw talu yn gywir, y péth sydd arno hyd y gallo (megys o'r tu arall, os nid all, dléd y Coeliwr yw ymddwyn yn gariadus ac yn Gri∣stionogaidd tu ag atto ef, ac nid taer-gymmell arno tu hwynt i'w allu.) Ony nid rhaid i mi sefyll ar hyn, gan ddarfod i mi yn barod dra∣ethu am y Ddledswydd hon, trwy ddangos y pechod o gam-attal dyledion.

34. Y mae Dléd hefyd ar ddyn rhwymedig i'w Gymmwynas-wr, hynny yw ún a wnaeth iddo dwrn da, o ba fáth bynnag, pa ún bynnag a'i Ysprydol a'i Corphorol; a dléd y cyfryw ún yw yn gyntaf, Diolchgarwch, hynny yw, cydnabyddiaeth barod ddifrifol o'r cymmwynas a dderbynwyd: yn ail, gweddi am fendithion Duw a gwobrau arno ef; ac yn drydydd, ymegníad, fal y bo odfa a gallu yn gwasanaethu i dalu adref gymmwy∣nasgarwch, trwy wneuthur daioni iddo ef tra∣chefn. Y mae pawb, hyd yn oed y creulonaf a'r nawswylltaf o ddynion, yn cydnabod mor gyffredinol y Ddledswydd hon o ddiolchgarwch i gymmwynas-wŷr, ac y bydd raid iddo ef a neccu ei chwplhau hi fwrw heibio llawer o'i natur dynol. Y mae'r Publicanod a'r pechadu∣riaid yn gwneuthur daioni i'r néb a wnánt ddaioni iddynt hwythau.

35. Etto pa sawl ún o hono ni sydd yn dy∣fod yn fyrr o hyn? mor aml y gwelir dynion, nid yn unic yn esgeuluso talu adref gymmwy∣nesau, eithr yn ail-roddi cam a Sarháad yn lle hynny? Y mae hyn yn rhy hynod mewn am∣ryw bethau neillduol, ond nid mewn dim mwy

Page 293

nag mewn rhybudd a chyngor, yr hyn yn anad ún yw'r cymmwynas godidoccaf, a'r twrn da goreu a ddichon y naill ddŷn ei wneuthur i'r llall. Ni a ddylen gan hynny fód yn fwyaf rhwymedig i'r rhain, megys ein cymmwynas∣wŷr goreu ni. Ond och! mor anaml yw y rhai sydd ganddynt nid yn unic ddiolchgarwch, ond ammynedd am y cyfryw gymmwynas? Argyoeddwch ddŷn am ei fai, neu ddywe∣dwch iddo ei gamwedd, yn ebrwydd fe a edrych arnoch chwi megys ei elyn, yr ydych chwi (fal y dywed St. Paul am y Galatiaid, Pen. 4.16.) Yn elyn iddo am ddywedyd iddo'r gwîr; y mae'r cyfryw falchder ynghalonnau dy∣nion, na fynnan nhw glywed són am ei beiau, er na bo dyn yn bwriadu wrth hynny ond ei gwellháad hwynt. Ynfydrwydd rhyfeddol yw hyn, fel pe bydde i ddŷn cláf ruthro yngwy∣neb ei Bysygwr, wrth feddwl ei fód ef yn ei ddibrisio fo, am dybied ei fód ef yn gláf; fal y gellwn ni yn dda ddywedyd gyda'r gŵr Doeth, Dihar. 12.1. Y nèb a gasháo gerydd anifeiliaidd yw. Ni ddichon bód yn y bŷd waeth dymmer na hon, obleǵid y mae hi yn cadarnhau dŷn yn ei bechodau; y mae'n codi'r cyfryw amddiffynsau o'i cwmpas hwynt, na ddichon ún dŷn ddyfod i osod arnynt; ac os credwn ni Solomon Dihar. 29.1. Dinistr yn ddiammeu a'i gorescyn ef. Y gwr (medd ef yno) a gerydder yn fynych ac a galeda ei warr, a ddry∣llir yn ddisymmwth fell na byddo meddiginiaeth. Ond trachefn os edrychir ar y cynghor-ŵr y mae hyn yn anghyfiawnder, ié, yn greulondeb tra-echryslon i'w erbyn ef; y mae ef yn dyfod mewn tynnerwch a chariad i'th achub di rhag

Page 294

perigl; ac i'r diben hwnnw yn ei osod ei hún ar neges anesmwyth; canys felly y mae hi yr awrhon, oblegid annioddefgarwch cyffre∣dinol dynion i gynghorion; a pha ryw Siom∣medigaeth a gofid yw hyn iddo ef, dy weled ti yn lle ail-ddiwygu y bai cyntaf, yn rhedeg i ún arall, séf o ddigllonrhwydd diachos yn ei erbyn ef? Dymma'r fáth waethaf, ac etto mae arna'i ofn, y fáth gyffredinolaf o anniolch∣garwch i Gymmwynas-wŷr, ac felly mae diffyg mawr o gwplhau'r Ddléd ymma. Ond fe edrychir ar y rhain ysgatfydd megys rhai o berthynas hirbell, (etto yn ddiammeu y mae'r hóll Ddledswyddau rhagddywededig yn gwbl ddyledus iddynt) mi a af ymlaen yn y mann nessaf i draethu am y perthynasau hynny y rhai a gydnabyddir gan bawb i fod o'r nesder mwyaf.

Notes

Do you have questions about this content? Need to report a problem? Please contact us.