[Y drydded rhan o waith. The third part of the works.]

About this Item

Title
[Y drydded rhan o waith. The third part of the works.]
Author
Prichard, Rhys, 1579-1644.
Publication
[London? :: s.n.,
1672?]
Rights/Permissions

To the extent possible under law, the Text Creation Partnership has waived all copyright and related or neighboring rights to this keyboarded and encoded edition of the work described above, according to the terms of the CC0 1.0 Public Domain Dedication (http://creativecommons.org/publicdomain/zero/1.0/). This waiver does not extend to any page images or other supplementary files associated with this work, which may be protected by copyright or other license restrictions. Please go to http://www.textcreationpartnership.org/ for more information.

Subject terms
Poetry, Welsh -- Early works to 1800.
Link to this Item
http://name.umdl.umich.edu/B04830.0001.001
Cite this Item
"[Y drydded rhan o waith. The third part of the works.]." In the digital collection Early English Books Online 2. https://name.umdl.umich.edu/B04830.0001.001. University of Michigan Library Digital Collections. Accessed June 16, 2024.

Pages

Page 58

〈…〉〈…〉 cyffroi'r claf i fôd 〈…〉〈…〉 ddioddefgar.

ONi bae fôd yn anghenrhaid Dofi 'r Corph i wella 'r enaid, Ni ddanfonei Dduw glefydion, Byth ar vn o'i anwyl feibion.
Yr oedd Duw yn gweled d'enaid, Yn glâf iawn o bechod diriaid, Nid oedd lûn i gadw ei fywyd, Nes dy gospi a'r faeth glefyd.
Oni basse 'r cwppa chwerw, Fe allasse d'enaid farw, Yn ddisymmwyth heb repento † 1.1, A mynd dros fyth i boenydio
Trwy gystydd corph a chlefyd * 1.2 diriaid, Y mae Duw 'n iachau dy enaid, Ac yn d'arwain trwy ddifeirwch At dy Grist i gael ei heddwch.
Trwy glefydion mae Duw 'n tynnu Dyn i geisio cymmorth Jesu, A gwir iechyd idd i enaid, Rhag i fynd i vffern embaid.
A chlefydion bāch amserol, Mae 'n rhag-achub poen tragwyddol, Ac wrth gospi 'r corph mor ddiriaid Dofi 'r cnawd a chadw 'r enaid.
Nid clefydion ond dialau Blin a haeddodd dy bechodau, Dwg gan hynny yn ddioddefgar Y faeth glefyd criaidd hygar.

Page 59

Fe allasse dorri d'〈…〉〈…〉 Am dy fuchedd oedd 〈…〉〈…〉 A'th roi i vffern i boe〈…〉〈…〉 Heb roi amser itt repen〈…〉〈…〉
Rho gan hynny yn ddiweg〈…〉〈…〉 Ddiolch iddo am dy gosp〈…〉〈…〉 Lle gallasse dy lwyr ddifa, A'th roi † Frwylian yn Gehen〈…〉〈…〉
Fe allasse Dduw dy roddi, Dan law Gelyn cas i'th gospi, Lle mae 'n rassol iawn yr-wan, Yn dy gospi a'i law ei hunan.
Nid yw'r Arglwydd yn dy † blago, Megis gelyn i'th * andwyo, Ond yn dirion yn dy faethddryn Megis Tâd yn trin ei blentyn.
† 1.3 Er bôd d'arglwydd yn dy faeddu, Mae er hynny yn dy garu, Pôb gwialenod ag a roddo Sydd fel plaster i'th elio.
Ni ry Duw sydd mor ddaionus, Na'th dâd nefawl sydd mor * 1.4 garccus, Glefyd arnad na chaledi Na wnel itti fawr ddaioni.

Page 60

〈…〉〈…〉 dy ddolur, 〈…〉〈…〉 naws, dy nattur, 〈…〉〈…〉 ol dy gyflwr, 〈…〉〈…〉 vchlaw dy gryfdwr.
〈…〉〈…〉n beth chwerw, 〈…〉〈…〉 dyn rhag marw: 〈…〉〈…〉d yn dy flino, 〈…〉〈…〉 y achub rag dy ddamno.
〈…〉〈…〉 iliodd yn † Gehenna, 〈◊〉〈◊〉 ddwgent fwy o boenfa 〈…〉〈…〉s fil filiodd o flynydde, a caent rydd-did o'u poenydie.
Rho gan hynny yn ddiwegi Ddiolch i Dduw am dy gospi, Lle gallasse dy lwyr ddifa, A'th roi frwylian yn Gehenna.
Arwedd teg o'i râs a'i ffafar Yw cael cosp trwy glefyd hygar, Sydd yn gwneuthur dyn yn barod Cyn yr el o flaen y drindod.
Clefyd sydd fel chwip i'th gospi, Nid fel cledde llym i'th dorri, Swmbwl awchlym i'th ddihuno, Ac nid bwyall i'th ddistrywio.
Fûst i ddyrnu ffwrdd dy ffwlach, * 1.5 Ffann i nithio dy holl sothach, Ffwrn i buro dy amrhyddion, Chwip i'th gospi yw clefydion.
Nid da mêl i'r llawn digonol, Nid da Gwynfyd i'r annuwiol, Nid da Gwin i'r poeth ei † 1.6 golydd, Nid da iechyd i'r anufydd.

Page 61

Nid oes arnad gy〈…〉〈…〉 Ag a fu ar rai o'rh frod〈…〉〈…〉 Sydd yr-wan mewn esm〈…〉〈…〉 Yn y nefoedd gwedi'r bli〈…〉〈…〉
Bu ar Lazar glefyd flimach 〈◊〉〈◊〉 Bu ar Job ddolurian drwm〈…〉〈…〉 Bu ar Grist ei hun fwy flinde Maent yr-wan mewn esmwyth〈…〉〈…〉
Ac os tithe fydd ddioddefgar. Fe ry Duw itt hyn o ffafar; Fe wna naill a llaesu 'th flinder, Ai fe 'th gymmer i esmwythder.

Notes

Do you have questions about this content? Need to report a problem? Please contact us.