[Y drydded rhan o waith. The third part of the works.]

About this Item

Title
[Y drydded rhan o waith. The third part of the works.]
Author
Prichard, Rhys, 1579-1644.
Publication
[London? :: s.n.,
1672?]
Rights/Permissions

To the extent possible under law, the Text Creation Partnership has waived all copyright and related or neighboring rights to this keyboarded and encoded edition of the work described above, according to the terms of the CC0 1.0 Public Domain Dedication (http://creativecommons.org/publicdomain/zero/1.0/). This waiver does not extend to any page images or other supplementary files associated with this work, which may be protected by copyright or other license restrictions. Please go to http://www.textcreationpartnership.org/ for more information.

Subject terms
Poetry, Welsh -- Early works to 1800.
Cite this Item
"[Y drydded rhan o waith. The third part of the works.]." In the digital collection Early English Books Online 2. https://name.umdl.umich.edu/B04830.0001.001. University of Michigan Library Digital Collections. Accessed May 23, 2024.

Pages

Gweddi fyrrach i'r claf i harferu yn ei glefyd.

DUw trugarog, Tâd diddanwch, Awdwr iechyd, Pen dedwyddwch, Gwrando waedd pechadyr nychlyd, Sydd yn beggian cymmorth genyd.
Daeth fy mhechod yn dy olwg, Am hôll fuchedd oedd yn cynddrwg, A chan gymmaint oedd fy nhraha, Di ddanfonaist glefyd arna.
Haeddais Arglwydd drwmmach benyd, Dostach dwymyn, cassach glefyd, Blinach ddolur, byrrach amser, Bym talassyd wrth gyfiawnder.

Page 56

〈…〉〈…〉 gwddwg, 〈◊〉〈◊〉 fy mhechod oedd yn cynddrwg, Neu fy moddi, neu fy * mwrddro, Heb roi amser imi ymgweirio.
Nawr rwi'n gweld dy gariad attaf, Yn rhoi clefyd criaidd arnaf, Im ceryddu am f' anwiredd, Ac im cyffro wella muchedd.
Nid wllyssu Duw 'r holl gyssyr Ddrwg farwolaeth vn pechadur, Ond yn hyttrach gwelia ei fychedd I gael bywyd a thrugaredd.
Trwy'r faeth glefyd blin corphorol, Rwyt im cofio môd yn farwol: A thrwy flinder tost a thristwch, Rwyt im gwawddi edifeirwch.
Er im haeddu dy ddigofaint, A'th lidawgrwydd tost yn cymmaint, Arglwydd grassol na cherydda Fi a'th lid a'th gerydd mwya.
Mae dy saethau gwedi yng chlwyfo Mae fy escyrn gwedi briwio, Mae fy ysbryd gwedi gryddfu; Arglwydd dere im diddanu.
Tydi 'm clwyfaist am fy mhechod, Minne haeddais hyn o drallod▪ Nid oes neb fy Nuw am hynny, Ond Tydi all fyngwaredu.
Tydi sy'n lladd ac yn bywhau, Tydi sy'n clwyfo a iachau, Yn dwyn i'r Bedd, yn adgyfodi, Yn trugarhau, ac etto yn cospi.

Page 57

Tydi o Dduw sy'n danfon 〈◊〉〈◊〉 Tydi yn unig all rhoi iechyd, Nid oes neb all llaesu nolur, Ond tydi na rhoi im gyssur.
Er dy fwynder a'th drugaredd, Er dy Enw a'th Anrhydedd, Maddeu mhechod: llaesa nolur: Gwared f' enaid: rho im gyssur.
Oni phwintiaist fy marwolaeth, A diweddu fy milwriaeth, Arglwydd llaesa ar fy mlinder, A rho immi beth esmwythder.
Dymchwel Arglwydd im diddanu, O fy Nuw pa hyd y Sorri? Gwel fy mhoen, a chlyw fyng hwynfan, Tor dy lid, Jacha fi weithian.
Cweiria yng-wely yn fyng hystydd, Tro fy nhristwch yn llawenydd, Rhwyg fy sach, a sych fy Neigrau, Llaesa mhoen, Jacha noluriau.
Maddeu mhechod, Torr fy nghlefyd, Tynn fi o'r ffoes a rho im iechyd, Fel y gallwyf dy glodforu, Yn fy mywyd am holl allu.
Yn y Bedd oh Dduw pwy 'th goffa? Yn Hir Angeu pwy 'th glodfora? Sparia mywyd Arglwydd grassol, I'th glodforu gida 'r bywil:
Felly canaf itt yn hyfryd Glod a moliant am fy mywyd: A thro ynof rym a chwythiant, Mi ddatcanaf dy ogoniant.

Notes

Do you have questions about this content? Need to report a problem? Please contact us.