Canwyll y Cymru, sef, gwaith Mr. Rees Prichard, gynt ficcer Llanddyfri, a brintiwydd or blaen yn bedair rhan, wedi ei cyffylltu oll ynghyd yn un llyfr. = The divine poems of Mr. Rees Prichard, sometimes vicar of Landoverey, in Carmarthen Shire. Whereunto is added the strange but true narrative of the chief things, spoken and acted, by an unclean spirit at Mascon.
Prichard, Rhys, 1579-1644., Du Moulin, Peter, 1601-1684., Boyle, Robert, 1627-1691., Hughes, Stephen, fl. 1681.

Rhybydd i'r claf i alw am weinidog, a Physygwr, ac i ochelyd Swynwyr.

PAn clafychech cais Offeiriad,
Yn ddiaros ddwad attad,
I Weddio dros dy bechod,
A'th gyfrwyddo fod yn barod.
Page  323
Christ y bwyntiodd yr offeiriaid,
Yn Bessygwyr doeth i'r enaid,
Ac a roddwys iddynt eli,
I wrthnebu pob drygioni.
Adde 'th bechod wrth y ffeiriad,
Fe ry itti gyngor difrad,
Fel y gallo roi cyfrwyddyd,
Yn ol naws a rhyw dy glefyd.
Cred beth bynna ddwetto 'r ffeiriad,
O air Duw, yn brudd am danad;
Cans llais Christ ei hun yw hynny,
Ith * rebycco, neu 'th ddiddanu.
Deisyf arno brudd weddio,
Ar i'r Arglwydd dy * recyfro,
A rhoi itti gyflawn iechyd,
Neu yn rassol dderbyn d' yspryd.*
Mae Duw 'n addo gwrando 'r * ffeirad,
Pan gweddio 'n ol ei alwad;
Christ a ddyru ei ganlyniaeth,
Oni phwyntiodd dy farwolaeth.
Deisyf arno dy gyfnerthu,
Rhag i Satan dy orchfygu,
A llonyddu dy gydwybod,
Pan i'th fliner gan dy bechod.
Godde lawnso dy gornwydon,
Godde i'r Gair frynaru'r galon,
Fel y gallo fwrw yndi
Win ac olew gyd ag Ell.
Gwell it adel i'r offeiriad
*Faneg itt'dy ddrwg ymddygiad,
Fal y gallech edifaru,
Nag oi blegid gael dy ddamnu.
Di gae gyngor rhag dy bechod,
I lonyddu dy gydwybod:
Di gae gomffordd gan y ffeirad,
Os mewn pryd ei gelwi attad.
Page  324
Nád y ffeirad heb ei alw,
Nes ei bech yn hanner marw:
Ni all ffeirad y pryd hynny,
Na nêb arall dy ddiddanu.
Oh! pa nifer o Fruttanniaid,
Sydd yn marw fel Nifeiliaid?
*Eisie ceisio nerth y ffeirad,
I gyfrwyddo eu 'madawiad.
Er bod Duw yn abal cadw
Sawl a fynno heb ei galw,
Nid yw 'n cadw mawr o enaid,
*Ond trwy Swydd a gwaith offeiraid.
Cais gan hynny gynta ag allech
Ffeirad attad pan glefychech,
I roi pwrg yn erbyn pechod,
Rhwn yw achos dy holl nychdod.
Yn ôl cyngor yr, Eglwyswr,
Cais gyfrwyddyd y Pyssygwr:
Duw a roes i hwn gelfyddyd
I'th iachau o lawer clefyd.
Duw ordeiniodd yr offeiriaid,
I * iachau doluriau 'r enaid,
A'r pyssygwyr a'r Meddygon,
I ymgleddu cyrph y cleifon.
Page  325
Llawer dyn sy'n marw 'n fudyr,
Eisie cymmorth y Pyssygwyr,
Gan fyrhau eu hoes a'u hamser,
Yn embeidus, eisie eu harfer.
Corph pob dyn yw ty ei enaid,
Rhaid * rheparo hwn a'i drefnaid;
Rhaid i bôb dyn hyd y gallo,
Gadw ei dy ar draed heb gwympo.
Arfer gymmorth physsygwriaeth,
Yn dy glefyd trwy gristnogaeth:
Duw ordeiniodd hon yn gyssur,
I blant dynion rhag pob dolur.
Y neb wrthotto physsygwriaeth,
Y roes Duw er iechyd wriaeth,
Mae 'n gwrthnebu maeth ei Anian,
Ac yn * mwrddro ei gorph ei hunan,
Y llyssewyn salwa welech,
Ar Gyfrwyddyd waela gaffech,
All roi help a iechyd itti,
Os rhy Duw ei fendith arni.
Swp o ffigys, os bendithia,*
All iachau y cornwyd mwya:
A'r Gyfrwyddyd na thâl vn-rhith,
All roi help, ond cael ei fendith:
Ond pe caet ti Balm a Nectar,
Cennin Peder, Cerrig Bezar,
Olew a Myrrh, a gwîn a gwenith,
Ni wnânt lês heb gael ei fendith.
Nac ymddiried i'r pyssygwyr,
Nac i vn * fetswn font yn wneuthyr,
Rhag dy farw megis Asa,
Eisie ymddiried i'r Gorucha.
Nid oes rhinwedd ar lysseuach,
Grym mewn Eli, na diodach,
I leihau o'n cûr, a'n poenfa,
Os yr Arglwydd nis bendithia.
Page  324〈1 page duplicate〉Page  325〈1 page duplicate〉
Page  326
Duw sy'n rhoddi * rhâd ar lysseu,
Grym mewn eli a chyfyrddonèu,
Lle bendithio Duw, hwy lwyddant,
Lle ni fynno Duw, ni thycciant.
Cais gan hynny fendith hyfryd,
Gan dy Dduw ar bob cyfrwyddyd:
Heb ei fendith ni wna 'r benna,
Ond troi 'n wenwyn yn dy gylla.
*Gwachel geisio help gan Swynwyr,
Yn dy flinder tost a'th ddolyr;
Gado Duw mae'r cyfryw ddynion,
Ac addoli 'r gau Dduw Eccron.
Na chais help i'r corph mor embaid,
Gan y Diawl sy'n lladd yr Enaid;
Nid oes vn Physsygwr allan,
Waeth nâ'r Diawl i helpu 'regwan.
Nid yw Swyn ond * hug i'th dwyllo,
Gwedi Satan ei defeisio,
I ddifethu d'enaid gwirion,
Pan y Swyner ith glefydion.
Nid yw'r Swynwr ond * Apostol
Ffalst, i'r Diawl i dwyllo'r bobol
Oddiwrth Grist, mewn poen a thrafel,
I butteinia ar ol y cythrel.
*Twyllo'r corph, a lladd yr enaid,
Digio Duw, bodloni diawlaid,
Gwrthod Christ, a'r maint sydd eiddo,
Y mae'r Swyn, a'r sawl ai cretto.
Ceisio 'r cythrel yn Byssygwr
Ydyw ceisio help gan Swynwr:
Ceisio'r Diawl i ddarllain tesni,
Yw â dewin ymgynghori.
Ceisio Gwir gan dâd y celwydd,
Yw ymofyn â drogenydd:
Ceisio help i lâdd yr enaid,
Ydyw ceisio Swyn * Hudoliaid.
Page  327
Na châr swynwr mwy nâ chythrel,
Mae 'n dy demptio yn dy drafel,
Glun wrth Grist er maint yw'th flinder,
Cais ei nerth, Di gei esmwythder.