Canwyll y Cymru, sef, gwaith Mr. Rees Prichard, gynt ficcer Llanddyfri, a brintiwydd or blaen yn bedair rhan, wedi ei cyffylltu oll ynghyd yn un llyfr. = The divine poems of Mr. Rees Prichard, sometimes vicar of Landoverey, in Carmarthen Shire. Whereunto is added the strange but true narrative of the chief things, spoken and acted, by an unclean spirit at Mascon.
Prichard, Rhys, 1579-1644., Du Moulin, Peter, 1601-1684., Boyle, Robert, 1627-1691., Hughes, Stephen, fl. 1681.

Gweddi wrth fynd ir gwely.

CEidwad Israel a'i Achubwr,
Castell cryf pôb gwann diswccwr,
Er mwyn d'anwyl fâb Christ Jesu,
Gwrando 'ngwaedd wrth fynd i ngwely.
Arglwydd mawr 'r wi ar fy nglinie,
Wrth fy ngwely yn cyfadde,
Nad wyf deilwng edrych arnad,
Chwaethach dwad yn nes attad.
Etto er hyn yr wi 'n hyderu,
Y caf er mwyn dy fáb Christ Jesu,*
Nid yn vnig gennyd wrano,
Ond rhoi immi 'r peth wi 'n geisio:
A bôd immi byth yn gryfdwr,
Ac yn Geidwad, ac yn Swccwr,
Rhag pob niwed y ddigwyddo,
Yn enwedig immi heno.
Arglwydd 'rwyfi 'n mynd i orwedd,
Heb wybodaeth am fy niwedd:
Os ni wyr un dyn an cysco,
P'un a wna ai codi ai peidio.
Page  256
Achos da i ddyn gan hynny,
Cyn yr elo'r nos i gysgu,
Lwyr ymgweirio fynd at Dduw,
Rhag na chotto mwy yn fyw.
O herwydd hyn 'rwyfi yn dwad,
Attad ti fy Nuw am Ceidwad,
Ar fy naulin heno i'mhwedd,
Am dy gymmorth a'th drugaredd.
Bydd di Gastell, bydd di Geidwad,
Bydd di graig a lloches ddifrad,
Im castellu yn ddibryder,
Heno rhag pob anesmwythder.
Y mae 'r Llew sy erioed heb gyscu,
*Ddydd a nos a chwant im llyngcu;
Ac ni wela'i lun i rwyffro,
Oni chedwi di fi rhagddo.
Derbyn fi gan hynny ith fynwes,
Dôd fi rhwng dy ddwy-fron gynnes;
Fel y gallwi 'n esmwyth orwedd,
Heno 'm mreichiau dy drugaredd.
*Arglwydd tanna droswi d'adain,
Cadw fi rhag bradeu 'r filain;
Fel y gallwi yn ddibryder,
Gyscu deni mewn esmwythder.
Gosod * wersyll oth Angelion,
Im castellu rhag pob ofon;
Pâr ir rhain fẏ llwyr ddiwallu,
Yn dy goel tra fyddwi 'n cyscu.
*Bydd dy hun â'th rasol lygad,
Goruwch y rhain yn fyng wiliad,
Nâd i neb-rhyw ddrwg fy nrygu,
Na thramwyo lle bwi 'n cyscu.
Rho lonyddwch ac esmwythder,
Immi heno a phôb amser:
Rho im henaid wir ddiddanwch;
Rho im Corph ei hûn a'i heddwch.
Page  257
Ac rhag immi syad im barnu,
Gar dy fron pan byddwi 'n cysgu,
Nad im fyned yn ddiwybod,
Byth im gwely yn ambarod.
Nâd im roddi cwsc im llygaid,
Nes ymbilio a thi 'n dambaid,
Am gael pardwn am y cwbwl,
Ar y wnaethoi maes o'th feddwl.
Pâr im adde fy holl gamwedd,*
Am holl wendid am hanwiredd,
Fel y gallwi gwedi hadde,
Gael maddeuant gennyd tithe.
Pâr im wylo ac alaru,
Am fy 'ngwaith mor rhwydd yn pechu,
A 'mofydio 'n dôst gan gynddrwg,
Y fu muchedd yn dy olwg.
Par im fyned mor ddifeiriol,
Heno im gwely ac mor ddeddfol,
A pha gwypwn na chawn noswaith,
Mwy i edifaru 'r eitchwaith.
Pâr im grio 'n daer am bardwn,
Er mwyn Christ a'i waedlyd * bassiwn,
Am y wnaethoi erioed o feie,
Fel na byddo un heb fadde.
Golch fi oddwrth fy meiau 'n llwyr-ddwys,
Yng waed Christ yr Oen a'm prynwys:*
Clâdd fy mhechod yn ei weli,
Nâd ef eilchwaith adgyfodi.
Nâd fôd un om ffiaidd frynti,
Yn dy lyfyr heb ei groesi,
Rhag i hwnnw fy ngwradwyddo,
Gar dy fron pan ddelwy * impyro.
Pâr im fôd âr wysc briodas,
Ddydd a nôs bôb awr o'm cwmpas,*
Ac olew im lamp, a hwnnw 'n llosci,
Yn disgwyl Christ, im galw i gyfri,
Page  258
Diogela 'nghalon egwan,
Fôd yn siccr immi gyfran,
O'r dedwyddwch y bwrcassodd,
Christ iw frodyr yn y nefoedd.
Weithian Arglwydd mi orweddaf,
Ac mewn heddwch myfi gysgaf;
Cans tydi o Dduw 'r diddanwch,
Am cyflei mewn diogelwch.