Canwyll y Cymru, sef, gwaith Mr. Rees Prichard, gynt ficcer Llanddyfri, a brintiwydd or blaen yn bedair rhan, wedi ei cyffylltu oll ynghyd yn un llyfr. = The divine poems of Mr. Rees Prichard, sometimes vicar of Landoverey, in Carmarthen Shire. Whereunto is added the strange but true narrative of the chief things, spoken and acted, by an unclean spirit at Mascon.
Prichard, Rhys, 1579-1644., Du Moulin, Peter, 1601-1684., Boyle, Robert, 1627-1691., Hughes, Stephen, fl. 1681.

Cyngor ir Meddwyn.

OS meddwyn wyt yn arfer chwisfo
Gwîn, a chwrw, a Thobacco;
Llêf am ras ar Dduw yn fuan,
I orchfygu meddwdod aflan.
Os cwympaist yn y wins o feddwdod,
Llêf am gymmorth oddi-vchod;
Ni all dyn na diawl nac Angel,
Godi o'r wins o'r cyfryw nifel.
Page  158
Nid â'r cythrel meddw o'th growyn,
Mwy nâ'r cythrel mûd o'r plentyn,
Nes dêl Christ a'i nefol yspryd,
I droi 'maes trwy weddi ac ympryd.
O gweddia dithe 'n wastod,
Am gael nerth yn erbyn meddwdod:
Ac ymprydia rhag gormoddion,
Ac rhag trammwy lle bo'r meddwon.
Nid gwell meddwyn er gweddio,
Heb wachelyd ac ymprydio:
Gweddi ac ympryd sydd yn groyw,
Yn gorchfygu 'r cythrael meddw.
Os gwedij 'n erbyn meddwdod,
*Ac heb waglyd Tie 'r ddiod;
Ni thâl gweddi i ti ddimme,
Eisieu gwaglyd y Tafarne.
Dannedd llew yw dannedd meddwdod;
Ni chyll ei ddant o'i grâff o honod,
Nes dêl Christ y llew diofan,
I sigo ei shol, a'th dynnu o'i safan.
Ni ddaw march o'r ffoes lle foddo,
Nes dêl chwech neu saith i lysco:
Ni ddaw dyn o'i feddwdod aflan.
Nes dêl Christ i lysco allan.
Na chymmell nêb i yfed gormod,
Yfed pawb ei rhaid o'r ddiod:
Os myn ûn feddwi megis ci,
Meddwed ê, na feddwa di.
Rho barch i'th well o'r doi iw plith,
Trwy barchu 'r fol, heb yfed rhith:
Os perchi 'r gwr trwy chwiffo 'r cwppan,
Wrth barchu 'r ffrind, di amharchu 'th hunan,
Jechyd trist, ac Jechyd afiach,
Yw yfed Jechyd a'th wna 'n glafach:
Byth ni pharchaf Jechyd un,
A waetho 'm Jechyd i fy hun.
Page  159
Rhai sy'n chwerthin am fy mhen,
Am fód yn sobr heb fawr chwen;
Minneu 'n wylo 'r deigreu hallton,*
Weld pob rhai o'r rhain yn feddwon.
Y meddw chwarddodd am fy môd,
Yn cadw 'ngheiniog yn fy 'nghôd,
Y nawr sy'n wylo 'r dwr yn frwd,
Wrth feggian ceiniog fàch o'm cwd.
Er mwyn Jesu gwachel feddwdod,
Gwaeth yw hwn nag vn rhyw bechod;
Mae 'n troi dyn ar lún y cythrel,
Ʋgain gwaeth nag un anifel.
Tynn o'r Tafarn, gwachel feddwdod,
Na chais fynd yn drech nâ 'r ddiod:
Ni chas vn o'r trecha arni,
Ond y gilie 'n ebrwydd rhagddi.
Alexander y gwngcwerodd
Yr holl fyd y ffordd y cerddodd;
Ond y ddiod yn dra sceler;
A gwngcwerodd Alexander.
Gwell yw diangc nag ymdrechu;
Gwell yw cilio nag ymdynnu:
Gwell rhoi'r gore ir hwrswn cwrw,
Nag ymostwng iddo 'n feddw.
*Treiaist feddwyn dy rym ddengwaith;
Cwympaist dan y ddiod ganwaith:
Oni chymry 'r traed oddiwrthi,
Hi ry etto gwdwm itti.
Rhai fyn maflyd cwymp a'r cwrw,
A mynd yn drech nâ'r ddiod loyw;
Ni bu 'rioed y gas y trecha,
Ond y gilie oddiwrthi 'n gynta.
O doi at dân fe lysc dy grimpe;
O doi at sarph hi frath dy sodle;
O doi at bûg, ond cwrdd, fe 'th nyrdda;
O doi at ddiod gref hi 'th feddwa.
Page  160
Cil rhag sarph rhag iddi 'th frathu;
Cil rhag plâg rhag iddo 'th nafu;
Cil rhag tân rhag iddo 'th losci;
Cil rhag Gwîn rhag iddo 'th feddwi.
O holl slafiaid y byd ymma,
Caetha slaf yw 'r slaf i fola;
Ni chais hwn tra bywyd gantho,
Ond ei fola 'n feistir iddo.
F'â 'r meddw ir * Inn yn gâll, yn gwmpli;
Fe ddaw maes heb gôf, heb gyfri:
F'â mewn fel dyn, f'â maes fel nifel;
Fe chwd fel ci, fe rôch fel cythrel.
*F' ollwng meddwyn Duw a'i ddonie,
Tai a Thir i fynd i chware:
Fe geidw ei afel ar bôb * Sini,
Fe gyll ei hun, a'i gôf, a'i gyfri.
Gynt ni feddwe ond bedlemmaid,
A'r rhai gwaetha o'r begeriaid:
'Nawr ni chaiff bedlemmaid tlodion,
Le i feddwi gan fonddigion.
Brwnt gweld Barnwr mewn anhemper,
Neu Bendefig draw 'n y gwtter;
Brwnt gweld Cawr yn*slâf i'r cwrw;
Brwnta gyd gweld ffeiriad meddw.
Cyfraith dda oedd dodi meddwon,
Fel plant bychain dan drycholion:
Os ni fedrant fwy nâ bechgin,
*Ordro eu hun, nac ordro eu lifing.
Nid oes rheswm na naturiaeth,
Gan y meddw drîn ei * arfaeth;
Eisieu vn o'r rhain i arail,
Gwaeth yw 'r meddw nâ 'r anifail.
Blîn na seder vn dyn meddw,
Na'i reoli 'hun yn hoyw,
Och! na gadel i neb arall,
Lwyr reoli 'r meddwyn angall.
Page  161
Gwae medd Duw y dyn y gotto,
Y boreu glas-ddydd i gwmpnio,
Ac arhosso gyd â'r ddiod,
Nes y nynnir ê gan feddwdod.*
Y mae uffern boeth a Satan,
Yn lledanu ar llêd eu safan,
Ac yn chwennych llyngcu 'r meddw,
Yn ei feddwdod cyn bo marw.
Gwae fo crŷf i chwiffo cwrw,*
Ac i gymmysc diod loyw;
Ni âd Duw na gwraidd na himpyn,
Heb ei difa ir fath feddwyn.
Gwae ro ddiod grêf i feddwi
Ei gymmydog, iw ddinoethi;
Mae Duw 'n digio wrtho 'n llidiog,
Am ladd enaid ei gymmydog.
Tynn ar frŷs o'r gors o feddwdod,
Rhag dy lyngcu yn amharod:
O hir aros ar draeth sugyn,
Llwyr yth lwngc tra fech yn rofyn.
Pôb pechadur y gais guddio,
Faint o feie a fo arno:
Ond y meddw fynn ddinoethi,
A datcuddio ei holl frynti.
Adda geisiodd guddio 'n * garccy,
Ei drosedde â dail ffigys:
Noe y fynne lwyr ddatguddio,
Yn ei feddwdod faint oedd gantho.*
Christ sy'n gwardd i gristion fwytta,
Gydâ 'r meddw, glwth ei fola,
Ac ymgadw rhag dwad atto,*
Fel rhag dyn a'r cowyn arno.
Fel y gyrr y mwg o'r llester,
Yr holl wenyn o'i esmwythder:
Felly gyrr y meddwdod aflan,
Râs a dawn o'r galon allan.
Page  162
Ni bu meddant frenin Babel,
Ond saith mlynedd ar lûn nifel:
Y mae 'r meddw ar lûn mochyn,
Hwy nâ hwnnw lawer bwyddyn.
*Einioes fyrr a chylla afiach,
Lletty llwm a drwg gyfeillach,
Coppa twnn, a shiacced frattog,
Y gaiff meddwyn yn lle cyflog.
Fe werth meddwyn dref ei Dâd,
Ar maint y fedd o fraint yn rhad,
A phôb nifel sy'n ei helw,
Gwerth ei grŷs i brynu 'r cwrw.
Fe medu 'r meddw â'i holl bethe,
Ai aur ai arian, a'i dryssre,
Ei dai, ei dir, ei blant, ei briod,
Ond ni' medu bŷth â'i feddwdod.
Gwir Dduw 'r meddw ydywBachws,
Tafarn hwdlyd yw ei Eglwys;
Gwraig y Tafarn yw ei ffeiriad;
Y pott ar bîb yw ei*gyfnessiad.
Bydd di sobr trech di 'n fachgen;
Nâd ir bola speilio 'r cefen:
Nâd i afrad ieungctid hala
Bol mewn henaint i gardotta.
Cyfraith Dduw a fyn labyddio,
Pob oferddyn ag a feddwo;
I ddiwreiddio 'r cyfryw frynti,
Ac i rwystro eraill feddwi.
*Fe ddaw Christ yn chwyrn heb wybod,
Ar ddyn meddw i ddial meddwdod;
Fe'i gwahana, fe'i rhy orwedd,
Mewn tân poeth i ringcian dannedd.
Duw ro grâs i bob rhyw Gristion,
Yfed deigryn lai na digon,
*Cyn y hyfo fwy nâ'i gyfraid,
I ladd ei gorph, i ddamnio ei enaid.